Y Cyntaf at Timotheus
2 Yn gyntaf oll, felly, rydw i’n annog pawb i erfyn, i weddïo, i ymbil, ac i ddiolch, ac i wneud y pethau hynny dros bob math o ddynion, 2 dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, er mwyn inni fedru byw bywyd llonydd a thawel gan ddangos defosiwn duwiol a difrifoldeb ym mhob peth. 3 Peth da a derbyniol ydy hyn yng ngolwg ein Hachubwr, Duw, 4 sy’n dymuno gweld pobl o bob math yn cael eu hachub ac yn cael gwybodaeth gywir am y gwir. 5 Oherwydd un Duw sydd ’na, ac un canolwr rhwng Duw a dynion, sef dyn, Crist Iesu, 6 a wnaeth ei roi ei hun a thalu’r pris* angenrheidiol er mwyn rhyddhau pawb* o bechod—bydd pobl yn siarad am hyn yn yr amser priodol. 7 Er mwyn tystiolaethu i’r ffaith hon y ces i fy mhenodi yn bregethwr ac yn apostol—rydw i’n dweud y gwir, dydw i ddim yn dweud celwydd—yn athro i’r cenhedloedd ynglŷn â ffydd a gwirionedd.
8 Felly rydw i’n dymuno bod dynion ffyddlon ym mhob lle yn parhau i weddïo, heb ddicter na dadleuon. 9 Yn yr un modd, rydw i’n dymuno bod merched* yn eu gwneud eu hunain yn hardd drwy wisgo’n weddus,* a thrwy fod yn wylaidd a synhwyrol,* nid â phlethiadau gwallt a thlysau aur a pherlau a gwisgoedd drud, 10 ond â gweithredoedd da, fel sy’n briodol i ferched* sy’n proffesu defosiwn i Dduw.
11 Dylai dynes* aros yn ddistaw* pan fydd hi’n cael ei dysgu, gan ymostwng yn llwyr. 12 Dydw i ddim yn caniatáu i ddynes* ddysgu eraill na chael awdurdod dros ddyn, ond mae’n rhaid iddi aros yn ddistaw.* 13 Oherwydd cafodd Adda ei ffurfio’n gyntaf, ac wedyn Efa. 14 Hefyd, ni chafodd Adda ei dwyllo, ond fe gafodd y ddynes* ei thwyllo’n llwyr ac fe dorrodd hi orchymyn Duw. 15 Fodd bynnag, bydd geni plant yn ei chadw hi’n saff, cyn belled â’i bod hi’n* parhau i fyw mewn ffydd a chariad a sancteiddrwydd ynghyd ag ymddwyn yn synhwyrol.*