Actau’r Apostolion
17 Dyma nhw’n teithio nawr drwy Amffipolis ac Apolonia a dod i Thesalonica, lle roedd gan yr Iddewon synagog. 2 Felly yn ôl arfer Paul fe aeth i mewn atyn nhw, ac am dri saboth roedd yn rhesymu â nhw o’r Ysgrythurau, 3 gan esbonio a phrofi drwy ddefnyddio cyfeiriadau fod yn rhaid i’r Crist ddioddef a chodi o’r meirw, gan ddweud: “Hwn ydy’r Crist, Iesu, yr un rydw i’n ei gyhoeddi i chi.” 4 O ganlyniad, daeth rhai ohonyn nhw’n gredinwyr ac ymuno â Paul a Silas, a hefyd nifer mawr o’r Groegiaid a oedd yn addoli Duw, ynghyd â chryn dipyn o’r prif ferched.*
5 Ond daeth yr Iddewon yn genfigennus a dyma nhw’n hel rhai dynion drwg at ei gilydd a oedd yn loetran yn y farchnad a ffurfio tyrfa a dechrau codi stŵr yn y ddinas. Ymosodon nhw ar dŷ Jason a cheisio dod â Paul a Silas allan at y dyrfa. 6 Ar ôl methu dod o hyd iddyn nhw, llusgon nhw Jason a rhai o’r brodyr at reolwyr y ddinas, gan weiddi: “Mae’r dynion hyn sydd wedi achosi trwbl ym mhobman yma hefyd, 7 ac mae Jason wedi eu croesawu i’w dŷ. Mae’r dynion hyn i gyd yn gweithredu yn erbyn gorchmynion Cesar, gan ddweud bod ’na frenin arall, Iesu.” 8 Pan glywson nhw’r pethau hyn, roedd y dyrfa a rheolwyr y ddinas wedi dychryn; 9 ac ar ôl cymryd mechnïaeth* oddi wrth Jason a’r lleill, fe wnaethon nhw eu gadael yn rhydd.
10 Yn syth ar ôl iddi nosi anfonodd y brodyr Paul a Silas i Berea. Pan gyrhaeddon nhw, aethon nhw i mewn i synagog yr Iddewon. 11 Roedd y rhain yn fwy mawrfrydig na’r rhai yn Thesalonica, oherwydd eu bod nhw wedi derbyn y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio’r Ysgrythurau yn ofalus bob dydd i weld a oedd y pethau hyn yn wir. 12 Felly, daeth llawer ohonyn nhw’n gredinwyr, fel y gwnaeth cryn dipyn o’r merched* Groegaidd parchus, yn ogystal â rhai o’r dynion. 13 Ond pan glywodd yr Iddewon o Thesalonica fod gair Duw hefyd yn cael ei gyhoeddi gan Paul yn Berea, daethon nhw yno i greu helynt ymhlith y tyrfaoedd a’u cynhyrfu. 14 Yna, ar unwaith, anfonodd y brodyr Paul i’r arfordir, ond arhosodd Silas a Timotheus yno. 15 Fodd bynnag, gwnaeth y rhai a oedd yn teithio gyda Paul ddod ag ef cyn belled ag Athen, a dyma nhw’n gadael ar ôl derbyn cyfarwyddyd yn dweud y dylai Silas a Timotheus ddod at Paul cyn gynted â phosib.
16 Tra oedd Paul yn aros amdanyn nhw yn Athen, roedd ei ysbryd ynddo wedi cynhyrfu wrth weld bod y ddinas yn llawn eilunod. 17 Felly dechreuodd resymu yn y synagog â’r Iddewon ac â’r bobl eraill a oedd yn addoli Duw, a phob dydd yn y farchnad â’r rhai a oedd yn digwydd bod yno. 18 Ond dechreuodd rhai o’r athronwyr Epicwraidd a Stoicaidd ddadlau ag ef, ac roedd rhai yn dweud: “Beth byddai’r clebryn hwn yn hoffi ei ddweud?” Ac meddai eraill: “Mae’n ymddangos ei fod yn cyhoeddi duwiau dieithr.” Dywedon nhw hyn oherwydd ei fod wedi bod yn cyhoeddi’r newyddion da am Iesu a’r atgyfodiad. 19 Felly cymeron nhw afael ynddo a’i arwain i’r Areopagus, gan ddweud: “Gawn ni wybod beth ydy’r ddysgeidiaeth newydd hon rwyt ti’n siarad amdani? 20 Oherwydd rwyt ti’n cyflwyno rhai pethau sy’n od iawn i’n clustiau ni, ac rydyn ni eisiau gwybod beth ydy ystyr y pethau hyn.” 21 Yn wir, byddai’r holl Atheniaid a’r estroniaid a oedd yn aros yno* yn treulio eu hamser rhydd yn gwneud dim byd arall ond adrodd neu wrando ar rywbeth newydd. 22 Safodd Paul nawr yng nghanol yr Areopagus a dweud:
“Ddynion Athen, rydw i’n gweld eich bod chi ym mhob peth yn ymddangos yn fwy tueddol o ofni’r duwiau* nag y mae eraill. 23 Er enghraifft, wrth gerdded o gwmpas ac edrych yn ofalus ar eich pethau cysegredig,* dyma fi hyd yn oed yn dod ar draws allor a’r geiriau hyn wedi eu hysgrifennu arni: ‘I Dduw Anhysbys.’ Felly, yr hyn rydych chi’n ei addoli heb ei adnabod, dyma’r Duw rydw i’n ei gyhoeddi i chi. 24 Y Duw a greodd y byd a’r holl bethau sydd ynddo, dydy ef, Arglwydd y nef a’r ddaear, ddim yn byw mewn temlau o waith llaw; 25 ac nid yw chwaith yn cael ei wasanaethu gan ddwylo dynol oherwydd does dim angen unrhyw beth arno, gan ei fod yn rhoi bywyd ac anadl a phob peth i bawb. 26 Ac allan o un dyn, fe wnaeth ef bob cenedl o ddynion i fyw ar holl wyneb y ddaear, a gosododd ef yr amseroedd penodedig a’r ffiniau ar gyfer lle byddai dynion yn byw, 27 fel y bydden nhw’n ceisio Duw, yn estyn allan i chwilio amdano ac yn dod o hyd iddo go iawn, ond mewn gwirionedd, dydy ef ddim yn bell oddi wrth unrhyw un ohonon ni. 28 Oherwydd drwyddo ef mae gynnon ni fywyd ac rydyn ni’n symud ac yn bodoli, fel mae rhai o’ch beirdd eich hunain wedi dweud, ‘Rydyn ninnau hefyd yn blant iddo.’
29 “Felly, gan mai plant Duw ydyn ni, ni ddylen ni feddwl bod yr Un Dwyfol yn debyg i aur neu arian neu garreg, yn debyg i rywbeth wedi ei gerflunio a’i ddylunio gan fodau dynol. 30 Yn wir, mae Duw wedi edrych heibio amseroedd y fath anwybodaeth; ond nawr mae’n cyhoeddi i bawb ym mhobman y dylen nhw edifarhau. 31 Oherwydd mae wedi gosod diwrnod pan fydd yn barnu’r byd mewn cyfiawnder drwy ddyn y mae ef wedi ei benodi, ac mae wedi rhoi sicrwydd i bob dyn drwy atgyfodi’r un hwnnw o’r meirw.”
32 Nawr pan glywson nhw am atgyfodiad y meirw, dechreuodd rhai wawdio, tra oedd eraill yn dweud: “Fe wnawn ni wrando arnat ti rywdro eto am hyn.” 33 Felly fe aeth Paul a’u gadael nhw, 34 ond gwnaeth rhai dynion ymuno ag ef a dod yn gredinwyr. Yn eu plith roedd Dionysius, a oedd yn farnwr yn llys yr Areopagus, a dynes* o’r enw Damaris, ac eraill hefyd.