LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 22
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Gorchymyn i Abraham offrymu Isaac (1-19)

        • Bendith oherwydd disgynnydd Abraham (15-18)

      • Teulu Rebeca (20-24)

Genesis 22:5

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    2/2016, t. 7

Genesis 22:6

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2017, t. 32

Genesis 22:14

Troednodiadau

  • *

    Sy’n golygu “Bydd Jehofa’n Darparu; Bydd Jehofa’n Trefnu.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 125

Genesis 22:17

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

  • *

    Llyth., “had.”

  • *

    Neu “dy byrth.”

Genesis 22:18

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “had.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2018, t. 4

Genesis 22:24

Troednodiadau

  • *

    Neu “gwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 22:1-24

Genesis

22 Nawr ar ôl hyn, fe roddodd y gwir Dduw Abraham ar brawf, a dweud wrtho: “Abraham!” ac atebodd yntau: “Dyma fi!” 2 Yna fe ddywedodd: “Cymera, plîs, dy fab, dy unig fab rwyt ti’n ei garu gymaint, Isaac, a dos i wlad Moreia ac offryma ef yno yn offrwm llosg ar un o’r mynyddoedd y bydda i’n ei ddangos iti.”

3 Felly cododd Abraham yn gynnar yn y bore a pharatoi ei asyn a chymryd dau o’i weision gydag ef a’i fab Isaac. Holltodd y coed ar gyfer yr offrwm llosg, ac yna fe gododd a theithio i’r lle roedd y gwir Dduw wedi sôn wrtho amdano. 4 Ar y trydydd dydd, edrychodd Abraham a gweld y lle yn y pellter. 5 Yna dywedodd Abraham wrth ei weision: “Arhoswch chi yma gyda’r asyn, ond bydd y bachgen a minnau yn mynd i fan ’na i addoli a dod yn ôl atoch chi.”

6 Felly cymerodd Abraham y coed ar gyfer yr offrwm llosg a’u rhoi ar ei fab Isaac. Yna cymerodd y tân a’r gyllell yn ei ddwylo, a cherddodd y ddau ohonyn nhw ymlaen gyda’i gilydd. 7 Yna dywedodd Isaac wrth ei dad Abraham: “Fy nhad!” Atebodd yntau: “Ie, fy mab!” Felly aeth ymlaen: “Dyma’r tân a’r coed, ond lle mae’r oen gwryw ar gyfer yr offrwm llosg?” 8 Atebodd Abraham: “Bydd Duw ei hun yn darparu’r oen ar gyfer yr offrwm llosg, fy mab.” A cherddodd y ddau ohonyn nhw ymlaen gyda’i gilydd.

9 O’r diwedd cyrhaeddon nhw’r lle roedd y gwir Dduw wedi sôn wrtho amdano, ac adeiladodd Abraham allor yno a gosod y coed arni. Clymodd ef ddwylo a thraed ei fab Isaac a’i roi ar yr allor ar ben y coed. 10 Yna estynnodd Abraham ei law a chymryd y gyllell er mwyn lladd ei fab. 11 Ond dyma angel Jehofa yn galw arno o’r nefoedd a dweud: “Abraham, Abraham!” ac atebodd yntau: “Dyma fi!” 12 Yna dywedodd: “Paid â niweidio’r bachgen, a phaid â gwneud unrhyw beth o gwbl iddo, oherwydd rydw i’n gwybod nawr dy fod ti’n ofni Duw am nad wyt ti wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.” 13 Ar hynny, edrychodd Abraham i fyny, ac yna o’i flaen roedd ’na hwrdd a’i gyrn yn sownd mewn llwyn trwchus. Felly aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a’i offrymu’n offrwm llosg yn lle ei fab. 14 A galwodd Abraham y lle hwnnw’n Jehofa-jire.* Dyna pam mae pobl yn dal i ddweud heddiw: “Ar fynydd Jehofa fe fydd yn cael ei ddarparu.”

15 A dyma angel Jehofa’n galw ar Abraham am yr ail dro o’r nefoedd, 16 gan ddweud: “‘Rydw i’n gwneud llw yn fy enw fy hun,’ meddai Jehofa, ‘oherwydd dy fod ti wedi gwneud hyn a dwyt ti ddim wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, 17 rydw i’n sicr yn mynd i dy fendithio di ac amlhau dy ddisgynyddion* fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr, a bydd dy ddisgynnydd* di yn meddiannu dinasoedd* ei elynion. 18 A thrwy gyfrwng dy ddisgynnydd* di bydd holl genhedloedd y ddaear yn cael eu bendithio oherwydd dy fod ti wedi gwrando ar fy llais.’”

19 Ar ôl hynny aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw’n codi ac yn mynd yn ôl gyda’i gilydd i Beer-seba; a pharhaodd Abraham i fyw yn Beer-seba.

20 Ar ôl hynny, cafodd hyn ei ddweud wrth Abraham: “Mae Milca hefyd wedi geni meibion i Nachor dy frawd: 21 Us ei gyntaf-anedig, Bus ei frawd, Cemuel tad Aram, 22 Cesed, Haso, Pildas, Jidlaff, a Bethuel.” 23 Daeth Bethuel yn dad i Rebeca. Gwnaeth Milca eni’r wyth hyn i Nachor, brawd Abraham. 24 Fe wnaeth gwraig arall* iddo, sef Reuma, hefyd eni meibion: Teba, Gaham, Tahas, a Maacha.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu