Yn Ôl Mathew
9 Aeth Iesu i mewn i’r cwch, a chroesi’r môr a mynd i mewn i’w ddinas ei hun. 2 Ac edrycha! roedden nhw’n dod â dyn wedi ei barlysu ato a oedd yn gorwedd ar stretsier. O weld eu ffydd, dywedodd Iesu wrth y dyn wedi ei barlysu: “Bydda’n ddewr, fy mhlentyn! Mae dy bechodau wedi cael eu maddau.” 3 Nawr, dywedodd rhai o’r ysgrifenyddion wrthyn nhw eu hunain: “Mae’r dyn hwn yn cablu.” 4 Roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, a dywedodd: “Pam rydych chi’n meddwl am bethau drwg yn eich calonnau? 5 Er enghraifft, beth sy’n haws, dweud, ‘Mae dy bechodau wedi cael eu maddau,’ neu ddweud, ‘Cod a cherdda’? 6 Ond er mwyn i chi wybod bod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau—” yna dywedodd wrth y dyn wedi ei barlysu: “Cod, cymera dy stretsier, a dos adref.” 7 A dyma’n codi ac yn mynd adref. 8 Pan welodd y tyrfaoedd hyn, cododd ofn arnyn nhw, a dyma nhw’n gogoneddu Duw, a oedd wedi rhoi awdurdod o’r fath i ddynion.
9 Nesaf, wrth fynd yn ei flaen oddi yno, gwelodd Iesu ddyn o’r enw Mathew yn eistedd yn y swyddfa dreth, a dywedodd wrtho: “Dilyna fi.” Ar hynny, cododd a dilynodd ef. 10 Yn ddiweddarach, tra oedd yn cael pryd o fwyd yn y tŷ, edrycha! daeth llawer o gasglwyr trethi a phechaduriaid a dechrau bwyta gyda Iesu a’i ddisgyblion. 11 Ond pan welodd y Phariseaid hyn, dywedon nhw wrth ei ddisgyblion: “Pam mae eich athro chi’n bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” 12 Pan wnaeth Iesu eu clywed nhw, dywedodd: “Does dim angen meddyg ar bobl iach, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl. 13 Ewch, felly, a dysgwch beth yw ystyr hyn: ‘Trugaredd rydw i eisiau, nid aberth.’ Oherwydd rydw i wedi dod i alw, nid pobl gyfiawn, ond pechaduriaid.”
14 Yna daeth disgyblion Ioan ato a gofyn: “Pam rydyn ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn rheolaidd ond dydy dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?” 15 Ar hynny, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Does gan ffrindiau’r priodfab ddim rheswm i alaru tra bydd y priodfab gyda nhw, nac oes? Ond bydd dyddiau’n dod pan fydd y priodfab yn cael ei gymryd oddi wrthyn nhw, ac yna y byddan nhw’n ymprydio. 16 Does neb yn gwnïo darn o frethyn newydd ar hen gôt, oherwydd y bydd y darn newydd yn tynnu oddi wrth y gôt a’r rhwyg yn gwaethygu. 17 A dydy pobl ddim yn rhoi gwin newydd mewn hen grwyn. Os ydyn nhw, mae’r crwyn yn rhwygo ac mae’r gwin yn gollwng a’r crwyn yn cael eu difetha. Ond mae pobl yn rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd, ac mae’r ddau yn cael eu cadw.”
18 Tra oedd yn dweud y pethau hyn wrthyn nhw, edrycha! dyma reolwr a oedd wedi dod ato yn ymgrymu* o’i flaen, gan ddweud: “Erbyn hyn mae’n rhaid bod fy merch wedi marw, ond tyrd a rho dy law arni, a bydd hi’n dod yn fyw.”
19 Yna cododd Iesu a’i ddilyn, ynghyd â’i ddisgyblion. 20 Ac edrycha! dyma ddynes* a oedd wedi bod yn dioddef o waedlif am 12 mlynedd yn dod ato o’r tu ôl ac yn cyffwrdd ag ymyl ei gôt, 21 oherwydd roedd hi’n dweud o hyd wrthi hi ei hun: “Os ydw i ond yn cyffwrdd â’i gôt, bydda i’n gwella.” 22 Dyma Iesu’n troi a sylwi arni hi, a dweud: “Bydda’n ddewr, fy merch! Mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” Ac o’r awr honno cafodd y ddynes* ei hiacháu.
23 Nawr, pan ddaeth i mewn i dŷ’r rheolwr a gweld y bobl a oedd yn canu’r ffliwt a’r dyrfa mewn cynnwrf, 24 dywedodd Iesu: “Ewch i ffwrdd, oherwydd dydy’r ferch fach ddim wedi marw, cysgu mae hi.” Ar hynny dechreuon nhw chwerthin yn ddirmygus am ei ben. 25 Ac yn syth ar ôl anfon y dyrfa allan, aeth i mewn a gafael yn ei llaw, a dyma’r ferch fach yn codi. 26 Wrth gwrs, aeth yr hanes am hyn ar led drwy’r ardal honno i gyd.
27 Fel roedd Iesu yn mynd yn ei flaen oddi yno, gwnaeth dau ddyn dall ei ddilyn, gan weiddi: “Bydda’n drugarog wrthon ni, Fab Dafydd.” 28 Ar ôl iddo fynd i mewn i’r tŷ, daeth y dynion dall ato, a gofynnodd Iesu iddyn nhw: “Oes gynnoch chi ffydd fy mod i’n gallu gwneud hyn?” Dyma nhw’n ei ateb: “Oes, Arglwydd.” 29 Yna gwnaeth ef gyffwrdd â’u llygaid, a dweud: “Gad i hyn ddigwydd ichi yn ôl eich ffydd.” 30 Ac roedden nhw’n gallu gweld. Ar ben hynny, gwnaeth Iesu eu rhybuddio’n llym, gan ddweud: “Gwnewch yn siŵr nad oes neb yn dod i wybod am hyn.” 31 Ond ar ôl mynd allan, cyhoeddon nhw’r hanes amdano drwy’r ardal honno i gyd.
32 Fel roedden nhw’n gadael, edrycha! daeth pobl â dyn ato a oedd yn fud ac wedi ei feddiannu gan gythraul; 33 ac ar ôl i’r cythraul gael ei fwrw allan, dechreuodd y dyn mud siarad. Wel, roedd y tyrfaoedd wedi synnu gan ddweud: “Does dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn Israel erioed o’r blaen.” 34 Ond roedd y Phariseaid yn dweud: “Trwy rym rheolwr y cythreuliaid y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.”
35 Ac aeth Iesu ar daith o amgylch yr holl ddinasoedd a’r pentrefi, yn dysgu yn eu synagogau ac yn pregethu newyddion da’r Deyrnas ac yn iacháu pob math o afiechydon a phob math o salwch. 36 Wrth iddo weld y tyrfaoedd, roedd yn teimlo piti drostyn nhw, oherwydd eu bod nhw wedi cael eu cam-drin* a’u taflu ar hyd y lle fel defaid heb fugail. 37 Yna dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Yn wir, mae’r cynhaeaf yn fawr, ond y gweithwyr yn brin. 38 Felly, erfyniwch ar Feistr y cynhaeaf i anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.”