LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Samuel 6
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Samuel

      • Y Philistiaid yn dychwelyd yr Arch i Israel (1-21)

1 Samuel 6:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “hemoroidau; peils.”

1 Samuel 6:13

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn y gwastatir isel.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Samuel 6:1-21

Cyntaf Samuel

6 Roedd Arch Jehofa yn nhiriogaeth y Philistiaid am saith mis. 2 Galwodd y Philistiaid ar yr offeiriaid a’r dewiniaid a gofyn: “Beth dylen ni ei wneud ag Arch Jehofa? Rhowch wybod inni sut dylen ni ei hanfon yn ôl i Israel.” 3 Atebon nhw: “Os ydych chi am anfon arch cyfamod Jehofa, Duw Israel, i ffwrdd, peidiwch â’i hanfon yn ôl heb offrwm. Yn sicr dylech chi ei hanfon yn ôl ato gydag offrwm dros euogrwydd. Dim ond wedyn byddwch chi’n cael eich iacháu, a byddwch chi’n cael gwybod pam nad ydy ei law wedi troi i ffwrdd oddi wrthoch chi.” 4 Felly gofynnon nhw: “Pa offrwm dros euogrwydd dylen ni ei anfon ato?” Atebon nhw: “Anfonwch bum delw aur o’ch chwyddau,* a phum llygoden aur, yn ôl nifer arglwyddi’r Philistiaid, oherwydd mae’r un pla wedi taro pob un ohonoch chi a’ch arglwyddi. 5 Dylech chi wneud delwau o’ch chwyddau, a delwau o’r llygod sy’n difetha’r wlad, a dylech chi anrhydeddu Duw Israel. Efallai bydd yn ysgafnhau’r gosb sydd arnoch chi a’ch duw a’ch gwlad. 6 Pam dylech chi galedu eich calonnau fel gwnaeth yr Aifft a Pharo galedu eu calonnau? Pan wnaeth Ef eu cosbi nhw roedd rhaid iddyn nhw anfon Israel i ffwrdd, a gwnaethon nhw adael. 7 Nawr paratowch wagen newydd a dwy fuwch sydd â lloeau ac sydd heb fod o dan iau erioed. Yna cysylltwch y ddwy fuwch â’r wagen ond cymerwch eu lloeau yn ôl i’r beudy, i ffwrdd oddi wrthyn nhw. 8 Cymerwch Arch Jehofa a’i rhoi hi ar y wagen, a rhowch y delwau aur rydych chi’n eu hanfon ato fel offrwm dros euogrwydd mewn bocs wrth ei hymyl. Yna anfonwch hi ar ei ffordd 9 a gwyliwch: Os yw’n mynd i fyny ar y ffordd sy’n mynd i Beth-semes, i’w thiriogaeth ei hun, yna bydd hi’n amlwg mai Duw Israel sydd wedi gwneud y drwg mawr hwn inni. Ond fel arall, byddwn ni’n gwybod nad ei law ef wnaeth ein taro ni; cyd-ddigwyddiad oedd y cwbl.”

10 Dyna yn union a wnaeth y dynion. Cymeron nhw ddwy fuwch oedd â lloeau a’u cysylltu nhw â’r wagen, a rhoi eu lloeau yn ôl yn y beudy. 11 Yna dyma nhw’n rhoi Arch Jehofa ar y wagen, yn ogystal â’r bocs oedd yn cynnwys y llygod aur a’r delwau o’u chwyddau. 12 Ac aeth y ddwy fuwch yn syth yn eu blaenau ar hyd y ffordd i Beth-semes. Gwnaethon nhw gadw at y brif ffordd gan frefu wrth iddyn nhw fynd, heb droi naill ai i’r dde nac i’r chwith. Roedd arglwyddi’r Philistiaid yn cerdded y tu ôl iddyn nhw ar hyd yr amser, mor bell â ffin Beth-semes. 13 Roedd pobl Beth-semes yn medi’r cynhaeaf gwenith yng ngwastatir y dyffryn.* Pan edrychon nhw i fyny a gweld yr Arch, roedden nhw wrth eu boddau o’i gweld. 14 Daeth y wagen i mewn i gae Josua, dyn o Beth-semes, a stopio yno wrth ymyl carreg fawr. Felly dyma nhw’n torri pren y wagen, ac yn cynnig y ddwy fuwch fel offrwm llosg i Jehofa.

15 Cymerodd y Lefiaid Arch Jehofa i lawr, a’r bocs oedd gyda hi, yr un a oedd yn cynnwys y delwau aur, a’u rhoi nhw ar y garreg fawr. Y diwrnod hwnnw, gwnaeth dynion Beth-semes gyflwyno offrymau llosg ac aberthau i Jehofa.

16 Pan welodd pum arglwydd y Philistiaid hyn, aethon nhw yn ôl i Ecron ar y diwrnod hwnnw. 17 Nawr anfonodd y Philistiaid bum delw aur o’u chwyddau fel offrwm dros euogrwydd i Jehofa—un dros Asdod, un dros Gasa, un dros Ascalon, un dros Gath, ac un dros Ecron. 18 Ac roedd nifer y llygod aur yn cyfateb i’r nifer o ddinasoedd y Philistiaid oedd yn perthyn i’r pum arglwydd—y dinasoedd caerog a’r pentrefi agored.

Ac mae’r garreg fawr gwnaethon nhw roi Arch Jehofa arni yn dyst hyd heddiw yng nghae Josua, y dyn o Beth-semes. 19 Ond tarodd Duw ddynion Beth-semes i lawr am eu bod nhw wedi edrych ar Arch Jehofa. Tarodd 50,070 o bobl i lawr, a dechreuodd y bobl alaru am fod Jehofa wedi lladd cymaint ohonyn nhw. 20 Felly gofynnodd dynion Beth-semes: “Pwy fydd yn gallu sefyll o flaen Jehofa, y Duw sanctaidd hwn, ac at bwy fydd Duw yn mynd ar ôl ein gadael ni?” 21 Felly anfonon nhw neges at bobl Ciriath-jearim gan ddweud: “Mae’r Philistiaid wedi dod ag Arch Jehofa yn ôl. Dewch i lawr ac ewch â hi i fyny gyda chi.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu