LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Timotheus 4
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Timotheus

      • ’Cyflawni dy weinidogaeth yn llwyr’ (1-5)

        • Pregethu’r gair yn selog (2)

      • “Rydw i wedi brwydro yn y frwydr dda” (6-8)

      • Sylwadau personol (9-18)

      • Cyfarchion olaf (19-22)

2 Timotheus 4:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “sy’n ticlo eu clustiau.”

2 Timotheus 4:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “gwna waith efengylwr.”

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    4/2019, tt. 2-7

2 Timotheus 4:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “arllwys.”

2 Timotheus 4:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “yr oes bresennol.” Gweler Geirfa.

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Tystiolaethu’n Drylwyr, t. 12

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2018, t. 12

2 Timotheus 4:11

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Tystiolaethu’n Drylwyr, t. 118

2 Timotheus 4:13

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, y sgroliau lledr.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Timotheus 4:1-22

Yr Ail at Timotheus

4 Rydw i’n dy orchymyn di o flaen Duw a Christ Iesu, sy’n mynd i farnu’r byw a’r meirw pan fydd ef yn ymddangos fel Brenin y Deyrnas: 2 Pregetha’r gair; gwna hynny’n selog mewn amseroedd da ac amseroedd anodd; cerydda, rhybuddia’n gryf, anoga, gyda phob amynedd a dysgu medrus. 3 Oherwydd bydd ’na gyfnod o amser pan fyddan nhw’n gwrthod y ddysgeidiaeth fuddiol, ond yn ôl eu chwantau eu hunain, byddan nhw’n ceisio athrawon sy’n dweud wrthyn nhw beth maen nhw eisiau ei glywed.* 4 Byddan nhw’n stopio gwrando ar y gwir ac yn rhoi sylw i storïau ffug. 5 Ond tithau, cadwa dy ben ym mhob peth, dyfalbarha yn wyneb caledi, dal ati i bregethu’r newyddion da,* cyflawna dy weinidogaeth yn llwyr.

6 Oherwydd rydw i eisoes yn cael fy nhywallt* fel offrwm diod, ac mae’r amser imi gael fy rhyddhau yn agos. 7 Rydw i wedi brwydro yn y frwydr dda, rydw i wedi rhedeg y ras hyd y diwedd, rydw i wedi cadw’r ffydd. 8 O’r amser hwn ymlaen, mae coron cyfiawnder wedi cael ei neilltuo ar fy nghyfer i, a bydd yr Arglwydd, y barnwr cyfiawn, yn ei rhoi imi fel gwobr ar y diwrnod hwnnw, ac nid i fi yn unig, ond hefyd i bawb sydd wedi dyheu am iddo ymddangos.

9 Gwna dy orau i ddod ata i yn fuan. 10 Oherwydd mae Demas wedi fy ngadael i gan ei fod yn caru’r system bresennol,* ac mae wedi mynd i Thesalonica, a Crescens i Galatia, a Titus i Dalmatia. 11 Dim ond Luc sydd gyda mi. Tyrd â Marc gyda ti, oherwydd mae ef yn help mawr imi yn y weinidogaeth. 12 Ond rydw i wedi anfon Tychicus i ffwrdd i Effesus. 13 Pan fyddi di’n dod, tyrd â’r clogyn y gwnes i ei adael yn Troas gyda Carpus, a’r sgroliau, yn enwedig y memrynau.*

14 Gwnaeth Alecsander y gof copr achosi niwed mawr imi. Bydd Jehofa’n talu yn ôl iddo yn unol â’i weithredoedd. 15 Dylet tithau hefyd gadw llygad arno, oherwydd fe wnaeth wrthwynebu ein neges i’r eithaf.

16 Pan oeddwn i’n gwneud fy amddiffyniad cyntaf o flaen yr awdurdodau, ni safodd neb gyda mi, ond gwnaethon nhw i gyd fy ngadael i—rydw i’n gobeithio y bydd Duw yn maddau iddyn nhw. 17 Ond safodd yr Arglwydd yn agos ata i a rhoi nerth imi, er mwyn i’r gwaith pregethu gael ei gyflawni’n llwyr trwyddo i ac i’r holl genhedloedd glywed y neges; a ches i fy achub rhag ceg y llew. 18 Bydd yr Arglwydd yn fy achub i o bob gweithred drwg ac yn fy nghadw i ar gyfer ei Deyrnas nefol. Mae’r gogoniant yn perthyn iddo ef am byth bythoedd. Amen.

19 Cofia fi at Prisca ac Acwila a phawb sydd yn nhŷ Onesifforus.

20 Arhosodd Erastus yng Nghorinth, ond gwnes i adael Troffimus yn Miletus oherwydd ei fod yn sâl. 21 Gwna dy orau i gyrraedd cyn y gaeaf.

Mae Eubwlus yn anfon ei gyfarchion, ynghyd â Pwdens a Linus a Claudia a’r holl frodyr.

22 Rydw i’n gweddïo i’r Arglwydd fod gyda’r ysbryd rwyt ti’n ei ddangos. Rydw i’n dymuno i’w garedigrwydd rhyfeddol fod gyda chi.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu