LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 39
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Joseff yn nhŷ Potiffar (1-6)

      • Joseff yn gwrthod gwraig Potiffar (7-20)

      • Joseff yn y carchar (21-23)

Genesis 39:9

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2022, tt. 26-27

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 41

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    11/2018, t. 30

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    9/2017, t. 5

    Y Tŵr Gwylio,

    1/12/2003,

Genesis 39:12

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 41

Genesis 39:23

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2023, t. 16

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 39:1-23

Genesis

39 Nawr cafodd Joseff ei gymryd i lawr i’r Aifft, a gwnaeth Eifftiwr o’r enw Potiffar, un o swyddogion llys y Pharo a phennaeth y gwarchodlu, ei brynu oddi wrth yr Ismaeliaid a oedd wedi mynd ag ef i lawr yno. 2 Ond roedd Jehofa gyda Joseff. Oherwydd hynny, daeth yn llwyddiannus a chafodd gyfrifoldebau yn nhŷ ei feistr yr Eifftiwr. 3 A gwelodd ei feistr fod Jehofa gydag ef a bod Jehofa yn gwneud i bopeth roedd yn ei wneud lwyddo.

4 Parhaodd Joseff i’w blesio a daeth ef yn was personol iddo. Felly gwnaeth Potiffar ef yn gyfrifol am ei dŷ, ac am bopeth oedd yn perthyn iddo. 5 Ar ôl iddo wneud hynny, parhaodd Jehofa i fendithio tŷ’r Eifftiwr oherwydd Joseff, a daeth bendith Jehofa ar bopeth oedd ganddo yn y tŷ ac yn y caeau. 6 Yn y pen draw, rhoddodd bopeth oedd ganddo yng ngofal Joseff, a doedd ef ddim yn gorfod meddwl am unrhyw beth heblaw am y bwyd roedd yn ei fwyta. Ar ben hynny, daeth Joseff yn ddyn cryf a golygus.

7 Nawr, ar ôl y pethau hyn, dechreuodd gwraig ei feistr lygadu Joseff a dweud: “Gorwedd gyda mi.” 8 Ond gwrthododd a dweud wrth wraig ei feistr: “Gwranda, gyda mi yn y tŷ dydy fy meistr ddim yn gorfod poeni am unrhyw beth, ac mae ef wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i. 9 Does ’na neb yn y tŷ hwn sydd â mwy o awdurdod na fi, a dydy fy meistr heb ddal unrhyw beth yn ôl oddi wrtho i heblaw amdanat ti, oherwydd ti yw ei wraig. Felly sut galla i wneud rhywbeth mor ofnadwy o ddrwg, a phechu yn erbyn Duw ei hun?”

10 Felly roedd hi’n ceisio perswadio Joseff ddydd ar ôl dydd, ond ni wnaeth ef erioed gytuno i orwedd gyda hi, nac i aros gyda hi. 11 Ond ar un o’r dyddiau pan aeth i mewn i’r tŷ i wneud ei waith, doedd ’na’r un o weision y tŷ yno. 12 Yna dyma hi’n gafael ynddo wrth ei ddillad a dweud: “Gorwedd gyda mi!” Ond gadawodd ei wisg yn ei llaw a rhedeg allan. 13 Unwaith iddi weld ei fod wedi gadael ei wisg yn ei llaw a rhedeg allan, 14 dechreuodd hi alw ar ddynion ei thŷ a dweud wrthyn nhw: “Edrychwch! Daeth ef â’r Hebread yma i wneud hwyl am ein pennau ni. Daeth ef ata i i gysgu gyda mi, ond dechreuais i weiddi nerth fy mhen. 15 Yna, cyn gynted ag y clywodd fi’n sgrechian, gadawodd ei wisg wrth fy ymyl a rhedeg allan.” 16 Ar ôl hynny, dyma hi’n cadw ei wisg wrth ei hymyl nes i’w feistr ddod i’w dŷ.

17 Yna dywedodd hi yr un peth wrtho ef, gan ddweud: “Daeth y gwas, yr Hebread, ata i i wneud hwyl am fy mhen, yr un a ddest ti aton ni. 18 Ond unwaith imi godi fy llais a dechrau sgrechian, gadawodd ei wisg wrth fy ymyl a rhedeg allan.” 19 Unwaith i’w feistr glywed geiriau ei wraig, sef: “Dyma’r pethau a wnaeth dy was imi,” gwylltiodd yn lân. 20 Felly gwnaeth meistr Joseff ei gymryd a’i roi yn y carchar lle roedd carcharorion y brenin yn cael eu dal, ac arhosodd Joseff yno yn y carchar.

21 Ond roedd Jehofa gyda Joseff o hyd a pharhaodd i ddangos cariad ffyddlon tuag ato ac achosodd i brif swyddog y carchar ddangos ffafr iddo. 22 Felly dyma brif swyddog y carchar yn gwneud Joseff yn gyfrifol am yr holl garcharorion yn y carchar, ac ef oedd yr un oedd yn sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yno. 23 Doedd dim rhaid i brif swyddog y carchar boeni am unrhyw beth oedd yng ngofal Joseff, oherwydd roedd Jehofa gyda Joseff ac roedd Jehofa yn sicrhau bod popeth roedd yn ei wneud yn llwyddo.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu