Ail Cronicl
16 Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain* o deyrnasiad Asa, daeth Baasa brenin Israel i fyny yn erbyn Jwda, a dechreuodd ailadeiladu* Rama er mwyn rhwystro unrhyw un rhag gadael a rhag dod i mewn i diriogaeth Asa brenin Jwda. 2 Gyda hynny, cymerodd Asa arian ac aur allan o drysordai tŷ Jehofa a thŷ’r brenin,* a’u hanfon nhw at Ben-hadad brenin Syria, a oedd yn byw yn Namascus, gan ddweud: 3 “Mae ’na gytundeb rhyngot ti a fi a rhwng fy nhad i a dy dad di. Rydw i’n anfon arian ac aur atat ti. Tyrd, torra dy gytundeb â Baasa brenin Israel, fel y bydd ef yn cilio yn ôl oddi wrtho i.”
4 Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa ac anfonodd benaethiaid ei fyddinoedd i fyny yn erbyn dinasoedd Israel, a dyma nhw’n taro i lawr Ijon, Dan, Abel-main, a holl storfeydd dinasoedd Nafftali. 5 Pan glywodd Baasa am hyn, stopiodd adeiladu* Rama ar unwaith, gan gefnu ar ei waith. 6 Yna dyma’r Brenin Asa yn cymryd Jwda gyfan, a chymeron nhw’r cerrig a’r coed o Rama, y rhai roedd Baasa wedi bod yn adeiladu â nhw, a defnyddiodd Asa nhw i ailadeiladu* Geba a Mispa.
7 Bryd hynny, daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda a dweud wrtho: “Am dy fod ti wedi dibynnu ar frenin Syria yn hytrach na dibynnu ar Jehofa dy Dduw, mae byddin brenin Syria wedi dianc o dy law. 8 Onid oedd yr Ethiopiaid a’r Libiaid yn fyddin enfawr gyda llawer o gerbydau a marchogion? Ond oherwydd dy fod ti wedi dibynnu ar Jehofa, gwnaeth ef eu rhoi nhw yn dy law. 9 Yn sicr, mae llygaid Jehofa yn crwydro yn ôl ac ymlaen dros y ddaear gyfan i ddangos ei nerth* ar ran y rhai sy’n ffyddlon iddo â’u holl galonnau.* Rwyt ti wedi ymddwyn yn ffôl yn y mater hwn, felly fe fydd ’na ryfeloedd yn dy erbyn di o hyn ymlaen.”
10 Ond digiodd Asa â’r gweledydd a’i roi yn y carchar, am ei fod yn gandryll dros beth roedd ef wedi ei ddweud. A dechreuodd Asa gam-drin eraill ymhlith y bobl ar yr un pryd. 11 Nawr mae hanes Asa, o’r dechrau i’r diwedd, wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Brenhinoedd Jwda ac Israel.
12 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain* o’i deyrnasiad, dechreuodd Asa ddioddef o afiechyd yn ei draed nes ei fod yn sâl iawn. A hyd yn oed yn ei salwch, trodd, nid at Jehofa, ond at y meddygon. 13 Yna bu farw Asa;* bu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain* o’i deyrnasiad. 14 Felly dyma nhw’n ei gladdu yn y bedd crand roedd ef wedi ei baratoi iddo’i hun yn Ninas Dafydd, a gwnaethon nhw ei roi i orwedd ar stretsier angladd* a oedd wedi cael ei lenwi ag olew balm a gwahanol fathau o gynhwysion wedi eu cymysgu i wneud olew arbennig. Ar ben hynny, gwnaethon nhw dân* anferth ar ei gyfer yn ystod ei angladd.