Ail Cronicl
3 Yna dechreuodd Solomon adeiladu tŷ Jehofa yn Jerwsalem ar Fynydd Moreia, lle roedd Jehofa wedi ymddangos i’w dad Dafydd, yn y lle roedd Dafydd wedi ei baratoi ar lawr dyrnu Ornan y Jebusiad. 2 Dechreuodd Solomon adeiladu ar yr ail ddiwrnod o’r ail fis, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad. 3 Ac roedd y sylfeini a osododd Solomon ar gyfer adeiladu tŷ’r gwir Dduw yn 60 cufydd o hyd ac yn 20 cufydd o led, yn ôl yr hen fesuriadau.* 4 Roedd y cyntedd ar y blaen yn 20 cufydd o hyd, sy’n gyfartal â lled y tŷ,* a’i uchder oedd 20 cufydd,* a gwnaeth ef ei orchuddio ar y tu mewn ag aur pur. 5 Gorchuddiodd y tŷ mawr â phaneli o goed meryw, ac yna ei orchuddio ag aur pur, wedyn dyma’n ei addurno â lluniau o goed palmwydd a chadwyni. 6 Hefyd, gorchuddiodd y tŷ â gemau gwerthfawr prydferth, ac roedd yr aur a ddefnyddiodd yn dod o Parfaim. 7 Gorchuddiodd y tŷ, y trawstiau, ei waliau, ei ddrysau, a phob trothwy ag aur; a cherfiodd gerwbiaid ar y waliau.
8 Yna dyma’n creu ystafell y Mwyaf Sanctaidd. Roedd ei hyd yn gyfartal â lled y tŷ, 20 cufydd, ac roedd ei lled yn 20 cufydd. Gwnaeth ef ei gorchuddio â 600 talent* o aur pur. 9 Roedd yr aur ar gyfer yr hoelion yn pwyso 50 sicl;* a gorchuddiodd yr ystafelloedd ar y to ag aur.
10 Yna, yn y Mwyaf Sanctaidd, gwnaeth Solomon ddau gerflun o gerwb, a’u gorchuddio nhw ag aur. 11 Hyd adenydd y cerwbiaid oedd 20 cufydd yn gyfan gwbl; roedd un o adenydd y cerwb cyntaf yn bum cufydd o hyd, ac roedd yn cyffwrdd â wal y tŷ, ac roedd ei adain arall yn bum cufydd o hyd, ac roedd yn cyffwrdd ag un o adenydd y cerwb arall. 12 Ac roedd un o adenydd y cerwb arall yn bum cufydd o hyd, ac roedd yn cyffwrdd â wal arall y tŷ, ac roedd ei adain arall yn bum cufydd o hyd, ac yn cyffwrdd ag un o adenydd y cerwb cyntaf. 13 Roedd adenydd y cerwbiaid hyn yn ymestyn 20 cufydd, ac roedden nhw’n sefyll ar eu traed ac yn wynebu’r Sanctaidd.
14 Hefyd, gwnaeth Solomon y llen o edau glas a choch, gwlân porffor, a lliain main, a’i haddurno â brodwaith o gerwbiaid.
15 Yna fe wnaeth ddwy golofn ar y tu blaen i’r tŷ, 35 cufydd o hyd, ac roedd y capan ar ben pob colofn yn bum cufydd. 16 A gwnaeth ef gadwyni, pob un fel mwclis, a’u rhoi nhw ar ben y colofnau, a gwneud 100 o bomgranadau a’u rhoi nhw ar y cadwyni. 17 Gosododd y colofnau o flaen y deml, un ar y dde* ac un ar y chwith,* a galw’r un ar y dde yn Jachin* a’r un ar y chwith yn Boas.*