Ail Cronicl
36 Cymerodd pobl y wlad fab Joseia, Jehoahas, a’i wneud yn frenin yn Jerwsalem yn lle ei dad. 2 Roedd Jehoahas yn 23 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem. 3 Ond, gwnaeth brenin yr Aifft ei ddiorseddu yn Jerwsalem, a mynnodd ddirwy gan y wlad o 100 talent* o arian a thalent o aur. 4 Ar ben hynny, dyma frenin yr Aifft yn gwneud Eliacim, brawd Jehoahas, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a newidiodd ei enw i Jehoiacim; ond dyma Necho yn cymryd Jehoahas ac yn mynd ag ef i’r Aifft.
5 Roedd Jehoiacim yn 25 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 11 mlynedd yn Jerwsalem. Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa ei Dduw. 6 Daeth Nebuchadnesar, brenin Babilon, yn ei erbyn er mwyn ei rwymo â gefynnau copr a mynd ag ef i Fabilon. 7 Cymerodd Nebuchadnesar rai o lestri tŷ Jehofa i Fabilon a’u rhoi nhw yn ei balas. 8 Ynglŷn â gweddill hanes Jehoiacim, y pethau ffiaidd a wnaeth, a phopeth drwg a oedd wedi cael ei ddarganfod amdano, mae hyn i gyd wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Brenhinoedd Israel a Jwda; a daeth ei fab Jehoiacin yn frenin yn ei le.
9 Roedd Jehoiacin yn 18 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis a deg diwrnod yn Jerwsalem a pharhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. 10 Ar gychwyn y flwyddyn,* anfonodd y Brenin Nebuchadnesar ddynion i ddod ag ef yn ogystal â phethau gwerthfawr tŷ Jehofa i Fabilon. Hefyd, penododd ef Sedeceia, sef brawd tad Jehoiacin, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
11 Roedd Sedeceia yn 21 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 11 mlynedd yn Jerwsalem. 12 Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa ei Dduw. Ni ddangosodd ostyngeiddrwydd o flaen y proffwyd Jeremeia, a oedd yn siarad ar orchymyn Jehofa. 13 Gwrthryfelodd hefyd yn erbyn y Brenin Nebuchadnesar, a oedd wedi ei orfodi i dyngu llw o flaen Duw, ac arhosodd Sedeceia yn ystyfnig a chaledodd ei galon, ac roedd yn gwrthod troi at Jehofa, Duw Israel. 14 Roedd holl benaethiaid yr offeiriaid yn ogystal â’r bobl yn hynod o anffyddlon, yn gwneud holl bethau ffiaidd y cenhedloedd, a gwnaethon nhw lygru* tŷ Jehofa, y tŷ roedd Duw wedi ei sancteiddio yn Jerwsalem.
15 Parhaodd Jehofa, Duw eu cyndadau, i’w rhybuddio nhw drwy ei negeswyr drosodd a throsodd, am ei fod yn teimlo tosturi dros ei bobl a’i deml. 16 Ond daliodd y bobl ati i wawdio negeswyr y gwir Dduw, ac roedden nhw’n dirmygu ei eiriau ac yn gwneud hwyl am ben ei broffwydi, nes i ddicter Jehofa ddod yn eu herbyn nhw, nes eu bod nhw heb obaith o gael eu hiacháu.
17 Felly daeth Duw â brenin y Caldeaid yn eu herbyn nhw, a gwnaeth ef ladd eu dynion ifanc â’r cleddyf yn y deml. Doedd ef ddim yn teimlo unrhyw dosturi dros y dyn ifanc, y wyryf, y rhai hen, na’r rhai ifanc. Rhoddodd Duw bopeth yn ei law. 18 Cymerodd bopeth i Fabilon, holl offer tŷ’r gwir Dduw, pethau bach a mawr, yn ogystal â thrysorau tŷ Jehofa a thrysorau’r brenin a’i dywysogion. 19 Llosgodd dŷ’r gwir Dduw a thorrodd i lawr waliau Jerwsalem. Llosgodd hefyd yr holl dyrau caerog â thân, a dinistriodd bopeth gwerthfawr. 20 Cymerodd ef bawb a oedd heb gael eu lladd â’r cleddyf yn gaeth i Fabilon, a daethon nhw’n weision iddo ef a’i feibion nes i deyrnas Persia ddechrau rheoli, 21 er mwyn cyflawni geiriau Jehofa a ddaeth trwy Jeremeia. Arhosodd y wlad yn ddiffaith nes ei bod wedi talu yn ôl am yr holl sabothau a gafodd eu methu. A thra oedd y wlad yn ddiffaith, cafodd orffwys nes bod y 70 mlynedd wedi eu cwblhau.
22 Ym mlwyddyn gyntaf Cyrus, brenin Persia, er mwyn i eiriau Jehofa a ddaeth drwy’r proffwyd Jeremeia gael eu cyflawni, gwnaeth Jehofa ysgogi Cyrus, brenin Persia, i ysgrifennu datganiad a’i gyhoeddi drwy ei deyrnas gyfan, gan ddweud: 23 “Dyma beth mae Cyrus, brenin Persia, yn ei ddweud, ‘Mae Jehofa, Duw y nefoedd, wedi rhoi holl deyrnasoedd y ddaear imi, ac mae wedi fy mhenodi i adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, sydd yn Jwda. Chi sy’n perthyn i’w bobl, gadewch i Jehofa eich Duw fod gyda chi, ac mae ’na groeso ichi fynd.’”