LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Cronicl 22
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Cronicl

      • Dafydd yn paratoi ar gyfer y deml (1-5)

      • Cyfarwyddiadau Dafydd i Solomon (6-16)

      • Tywysogion yn cael eu gorchymyn i helpu Solomon (17-19)

1 Cronicl 22:5

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    1/2017, t. 29

1 Cronicl 22:8

Troednodiadau

  • *

    Neu “arllwys.”

  • *

    Neu “arllwys.”

1 Cronicl 22:9

Troednodiadau

  • *

    O air Hebraeg sy’n golygu “Heddwch.”

1 Cronicl 22:14

Troednodiadau

  • *

    Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).

1 Cronicl 22:19

Troednodiadau

  • *

    Gweler Geirfa.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Cronicl 22:1-19

Cyntaf Cronicl

22 Yna dywedodd Dafydd: “Dyma dŷ Jehofa y gwir Dduw, ac mae hon yn allor lle bydd Israel yn cynnig offrymau llosg.”

2 Yna gorchmynnodd Dafydd i’r estroniaid a oedd yng ngwlad Israel gael eu casglu at ei gilydd, a’u haseinio nhw i fod yn naddwyr cerrig, i dorri a siapio cerrig ar gyfer adeiladu tŷ’r gwir Dduw. 3 Hefyd dyma Dafydd yn paratoi llawer iawn o haearn er mwyn gwneud clampiau a hoelion ar gyfer drysau’r giatiau, a chymaint o gopr nad oedd modd ei bwyso, 4 yn ogystal â choed cedrwydd di-rif, oherwydd roedd y Sidoniaid a’r Tyriaid wedi dod â nifer enfawr o goed cedrwydd at Dafydd. 5 A dywedodd Dafydd: “Mae fy mab Solomon yn ifanc ac yn ddi-brofiad, ac mae’n rhaid i’r tŷ a fydd yn cael ei adeiladu i Jehofa fod yn ogoneddus tu hwnt, fel y bydd pawb drwy’r gwledydd i gyd yn gwybod am ei enwogrwydd a’i harddwch. Dyna pam y bydda i’n paratoi pethau ar gyfer fy mab.” Felly cyn iddo farw, paratôdd Dafydd ddeunyddiau mewn niferoedd enfawr.

6 Ar ben hynny, galwodd ei fab Solomon a gorchymyn iddo adeiladu tŷ ar gyfer Jehofa, Duw Israel. 7 Dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon: “Dymuniad fy nghalon oedd adeiladu tŷ ar gyfer enw Jehofa fy Nuw. 8 Ond daeth gair Jehofa ata i yn dweud, ‘Rwyt ti wedi tywallt* llawer iawn o waed, ac wedi brwydro mewn rhyfeloedd mawr. Fyddi di ddim yn adeiladu tŷ ar gyfer fy enw, am dy fod ti wedi tywallt* llawer iawn o waed ar y ddaear o fy mlaen i. 9 Edrycha! Byddi di’n cael mab a fydd yn byw mewn heddwch, a bydda i’n rhoi gorffwys iddo rhag ei holl elynion o’i gwmpas, oherwydd Solomon* fydd ei enw a bydda i’n rhoi heddwch a llonydd i Israel yn ei ddyddiau ef. 10 Ef yw’r un a fydd yn adeiladu tŷ ar gyfer fy enw i. Bydd ef yn fab i mi, a bydda i’n dad iddo ef. Bydda i’n sefydlu gorsedd ei frenhiniaeth yn gadarn dros Israel am byth.’

11 “Nawr, fy mab, rydw i’n gweddïo y bydd Jehofa gyda ti, ac y byddi di’n llwyddo ac yn adeiladu tŷ Jehofa dy Dduw, yn union fel mae ef wedi dweud amdanat ti. 12 Yn fwy na dim, gad i Jehofa roi doethineb a dealltwriaeth i ti pan fydd yn rhoi awdurdod i ti dros Israel, er mwyn iti gadw cyfraith Jehofa dy Dduw. 13 Yna byddi di’n llwyddo os byddi di’n cadw at y deddfau a’r barnedigaethau a roddodd Jehofa i Israel drwy Moses. Bydda’n ddewr ac yn gryf. Paid ag ofni na dychryn. 14 Rydw i wedi mynd i drafferth fawr er mwyn paratoi 100,000 talent* o aur ar gyfer tŷ Jehofa, yn ogystal â 1,000,000 talent o arian a chymaint o gopr a haearn nad oes modd eu pwyso, ac rydw i wedi paratoi coed a cherrig, ond byddi di’n ychwanegu atyn nhw. 15 Mae gen ti nifer enfawr o weithwyr—naddwyr cerrig, seiri maen, seiri coed, a phob math o weithwyr medrus. 16 Mae’n amhosib mesur yr aur, yr arian, y copr, a’r haearn. Cod a dechreua ar y gwaith, a gad i Jehofa fod gyda ti.”

17 Yna gorchmynnodd Dafydd i holl dywysogion Israel helpu ei fab Solomon: 18 “Onid ydy Jehofa eich Duw gyda chi? Ac onid ydy ef wedi rhoi gorffwys ichi ar bob ochr? Oherwydd mae ef wedi rhoi pobl y wlad yn fy nwylo i, ac mae’r wlad bellach o dan reolaeth Jehofa a’i bobl. 19 Nawr penderfynwch â’ch holl galon ac â’ch holl enaid* i geisio Jehofa eich Duw, a dechreuwch adeiladu cysegr Jehofa y gwir Dduw, er mwyn dod ag arch cyfamod Jehofa a llestri sanctaidd y gwir Dduw i mewn i’r tŷ a fydd yn cael ei adeiladu ar gyfer enw Jehofa.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu