LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Brenhinoedd 11
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Brenhinoedd

      • Gwragedd Solomon yn troi ei galon (1-13)

      • Gwrthwynebwyr yn erbyn Solomon (14-25)

      • Deg llwyth yn cael eu haddo i Jeroboam (26-40)

      • Solomon yn marw; Rehoboam yn cael ei wneud yn frenin (41-43)

1 Brenhinoedd 11:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “o fenywod.”

  • *

    Neu “menywod.”

1 Brenhinoedd 11:2

Troednodiadau

  • *

    Neu “Rhaid ichi beidio â’u priodi nhw.”

1 Brenhinoedd 11:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “o wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.

  • *

    Neu “ac roedd ei wragedd yn dylanwadu’n gryf arno.”

1 Brenhinoedd 11:4

Troednodiadau

  • *

    Neu “gwnaeth ei wragedd droi ei galon i ffwrdd.”

  • *

    Neu “doedd ei galon ddim yn gyflawn.”

1 Brenhinoedd 11:19

Troednodiadau

  • *

    Brenhines doedd ddim yn rheoli.

1 Brenhinoedd 11:21

Troednodiadau

  • *

    Neu “wedi gorwedd i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

1 Brenhinoedd 11:27

Troednodiadau

  • *

    Neu “Milo.” Term Hebraeg sy’n golygu “llenwi.”

1 Brenhinoedd 11:43

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Solomon i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
  • 34
  • 35
  • 36
  • 37
  • 38
  • 39
  • 40
  • 41
  • 42
  • 43
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Brenhinoedd 11:1-43

Cyntaf Brenhinoedd

11 Roedd y Brenin Solomon yn caru llawer o ferched* estron yn ogystal â merch Pharo: merched* o blith y Moabiaid, yr Ammoniaid, y Sidoniaid, a’r Hethiaid. 2 Roedden nhw’n dod o blith y cenhedloedd roedd Jehofa wedi sôn amdanyn nhw wrth yr Israeliaid drwy ddweud: “Mae’n rhaid ichi beidio â chymysgu â nhw,* a ddylen nhwthau ddim cymysgu â chi, oherwydd byddan nhw’n sicr yn troi eich calonnau i ddilyn eu duwiau nhw.” Ond roedd Solomon yn dal i lynu wrthyn nhw ac yn eu caru nhw. 3 Ac roedd ganddo 700 o wragedd a oedd yn dywysogesau a 300 o wragedd eraill,* a gwnaeth ei wragedd droi ei galon oddi wrth Dduw fesul tipyn.* 4 Wrth i Solomon heneiddio, gwnaeth ei wragedd ddenu ei galon* i ddilyn duwiau eraill, a doedd ei galon ddim yn hollol ffyddlon* i Jehofa ei Dduw fel roedd calon ei dad, Dafydd. 5 A dilynodd Solomon Astoreth, duwies y Sidoniaid, a Milcom duw ffiaidd yr Ammoniaid. 6 Gwnaeth Solomon beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, ac ni wnaeth ef ddilyn Jehofa yn llwyr fel roedd ei dad, Dafydd, wedi gwneud.

7 Dyna pryd adeiladodd Solomon uchelfan i Cemos, duw ffiaidd Moab, ac un arall i Moloch, duw ffiaidd yr Ammoniaid, ar y mynydd o flaen Jerwsalem. 8 Dyna beth wnaeth ef ar gyfer ei holl wragedd estron a oedd yn gwneud i fwg godi wrth iddyn nhw aberthu i’w duwiau.

9 Gwylltiodd Jehofa yn lân â Solomon, oherwydd roedd ei galon wedi troi oddi wrth Jehofa, Duw Israel, a oedd wedi ymddangos iddo ddwywaith 10 a’i rybuddio am yr union beth hwn, iddo beidio â mynd ar ôl duwiau eraill. Ond doedd ef ddim yn ufudd i orchmynion Jehofa. 11 Yna dywedodd Jehofa wrth Solomon: “Am dy fod ti wedi gwneud hyn, ac am dy fod ti heb gadw fy nghyfamod na’r deddfau rydw i wedi eu gorchymyn iti, bydda i’n sicr yn rhwygo’r deyrnas i ffwrdd oddi wrthot ti, a bydda i’n ei rhoi i un o dy weision. 12 Ond er mwyn dy dad Dafydd, fydda i ddim yn gwneud hyn yn ystod dy fywyd di, bydda i’n ei rhwygo allan o law dy fab, 13 ond fydda i ddim yn rhwygo’r deyrnas gyfan i ffwrdd, bydda i’n rhoi un llwyth i dy fab er mwyn fy ngwas Dafydd ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas rydw i wedi ei dewis.”

14 Yna, cododd Jehofa wrthwynebwr yn erbyn Solomon, Hadad yr Edomiad, o deulu brenhinol Edom. 15 Pan wnaeth Dafydd drechu Edom, aeth Joab, pennaeth y fyddin, i fyny i gladdu’r meirw, a cheisiodd Dafydd daro pob gwryw yn Edom i lawr. 16 (Arhosodd Joab ac Israel gyfan yno am chwe mis nes iddo gael gwared ar bob gwryw o Edom.) 17 Ond gwnaeth Hadad ffoi gyda rhai o weision ei dad a oedd yn Edomiaid, ac aethon nhw i’r Aifft; roedd Hadad yn fachgen ifanc ar y pryd. 18 Felly gadawon nhw Midian a dod i Paran. Cymeron nhw ddynion o Paran gyda nhw a dod i’r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft a wnaeth roi tŷ a thir iddo, a gorchymyn i fwyd gael ei roi iddo yn rheolaidd. 19 Roedd Hadad yn plesio Pharo gymaint nes iddo roi chwaer ei wraig, Tahpenes y frenhines,* iddo er mwyn iddo ei phriodi. 20 Ymhen amser, dyma chwaer Tahpenes yn geni mab iddo, Genubath, a gwnaeth Tahpenes ei fagu yn nhŷ Pharo, ac arhosodd Genubath yn nhŷ Pharo ymhlith meibion Pharo.

21 Clywodd Hadad yn yr Aifft fod Dafydd wedi marw* a bod Joab, pennaeth y fyddin, hefyd wedi marw. Felly dywedodd Hadad wrth Pharo: “Anfona fi i ffwrdd er mwyn imi fynd i fy ngwlad fy hun.” 22 Ond dywedodd Pharo wrtho: “Pam rwyt ti eisiau mynd yn ôl i dy wlad dy hun? Beth rwyt ti’n brin ohono fan hyn?” I hynny dywedodd wrtho: “Dim byd, ond plîs anfona fi i ffwrdd.”

23 Hefyd, cododd Duw wrthwynebwr arall yn erbyn Solomon, Reson fab Eliada a oedd wedi ffoi oddi wrth ei arglwydd Hadadeser brenin Soba. 24 Pan drechodd Dafydd ddynion Soba, casglodd Reson ddynion at ei gilydd a daeth yn bennaeth ar grŵp o ladron. Felly aethon nhw i Ddamascus a setlo yno a dechrau teyrnasu yn Namascus. 25 Ac roedd yn gwrthwynebu Israel holl ddyddiau Solomon, gan ychwanegu at y niwed roedd Hadad wedi ei wneud, ac roedd yn casáu Israel tra oedd yn teyrnasu dros Syria.

26 Dechreuodd Jeroboam hefyd wrthryfela yn erbyn y brenin. Roedd Jeroboam yn fab i Nebat ac roedd yn ddyn o Sereda yn Effraim. Roedd yn un o weision Solomon, ac roedd ei fam yn wraig weddw o’r enw Serua. 27 Dyma pam gwnaeth ef wrthryfela yn erbyn y brenin: Roedd Solomon wedi adeiladu’r Bryn* ac wedi cau’r bwlch yn wal Dinas Dafydd ei dad. 28 Nawr roedd Jeroboam yn ddyn medrus. Pan welodd Solomon fod y dyn ifanc yn gweithio’n galed, dyma’n ei benodi’n arolygwr dros y rhai o dŷ Joseff a oedd yn cael eu gorfodi i weithio. 29 Tua’r adeg honno, aeth Jeroboam allan o Jerwsalem, a daeth y proffwyd Aheia o Seilo ar ei draws ar y ffordd. Roedd Aheia yn gwisgo dilledyn newydd ac roedd y ddau ohonyn nhw yno ar eu pennau eu hunain. 30 Gafaelodd Aheia yn y dilledyn newydd roedd yn ei wisgo a’i rwygo yn 12 darn. 31 Yna dywedodd wrth Jeroboam:

“Cymera ddeg darn i ti dy hun, oherwydd dyma beth mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rydw i’n rhwygo’r deyrnas allan o law Solomon, a bydda i’n rhoi deg llwyth i ti. 32 Ond bydda i’n cadw un llwyth er mwyn fy ngwas Dafydd ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas rydw i wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel. 33 Bydda i’n gwneud hyn am eu bod nhw wedi fy ngadael i, ac am eu bod nhw’n ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, i Cemos duw Moab, ac i Milcom duw yr Ammoniaid, a dydyn nhw ddim wedi cerdded yn fy ffyrdd drwy wneud beth sy’n iawn yn fy ngolwg i a drwy gadw fy neddfau a fy marnedigaethau fel gwnaeth Dafydd, tad Solomon. 34 Ond fydda i ddim yn cymryd y deyrnas gyfan allan o law Solomon, a bydda i’n ei gadw yn bennaeth am holl ddyddiau ei fywyd er mwyn fy ngwas Dafydd y gwnes i ei ddewis, oherwydd roedd yn ufudd i fy ngorchmynion a fy neddfau. 35 Ond bydda i’n cymryd y frenhiniaeth o law ei fab ac yn ei rhoi i ti, hynny yw, deg llwyth. 36 Bydda i’n rhoi un llwyth i’w fab, fel bydd gan fy ngwas Dafydd lamp o fy mlaen i am byth yn Jerwsalem, y ddinas rydw i wedi ei dewis i fi fy hun i sefydlu fy enw yno. 37 Bydda i’n dy ddewis di a byddi di’n teyrnasu dros bopeth rwyt ti eisiau, a byddi di’n dod yn frenin ar Israel. 38 Ac os byddi di’n ufuddhau i bopeth rydw i’n ei orchymyn iti ac os byddi di’n cerdded yn fy ffyrdd ac yn gwneud beth sy’n iawn yn fy ngolwg drwy ufuddhau i fy ngorchmynion a fy neddfau, yn union fel gwnaeth fy ngwas Dafydd, bydda i gyda ti hefyd. A bydda i’n adeiladu tŷ iti a fydd yn para am amser hir, yn union fel y gwnes i adeiladu i Dafydd, a bydda i’n rhoi Israel iti. 39 A bydda i’n bychanu disgynyddion Dafydd oherwydd hyn i gyd, ond nid am byth.’”

40 Felly ceisiodd Solomon ladd Jeroboam, ond gwnaeth Jeroboam ffoi i’r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft, ac arhosodd yn yr Aifft nes i Solomon farw.

41 Ynglŷn â gweddill hanes Solomon, popeth a wnaeth a’i ddoethineb, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes Solomon? 42 Teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel gyfan am 40 mlynedd. 43 Yna bu farw Solomon* a chafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad; a daeth ei fab Rehoboam yn frenin yn ei le.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu