Datguddiad i Ioan
1 Datguddiad* gan Iesu Grist, a roddodd Duw iddo, i ddangos i’w gaethweision y pethau sy’n rhaid digwydd yn fuan. Ac anfonodd ef ei angel a chyflwyno’r datguddiad mewn arwyddion trwyddo ef i’w gaethwas Ioan, 2 a dystiolaethodd am air Duw ac am neges Iesu Grist, yn wir, am bob peth a welodd. 3 Hapus ydy’r un sy’n darllen yn uchel a’r rhai sy’n clywed geiriau’r broffwydoliaeth hon ac sy’n cadw at y pethau sydd wedi cael eu hysgrifennu ynddi, oherwydd mae’r amser penodedig yn agos.
4 Ioan at y saith cynulleidfa sydd yn nhalaith Asia:
Rydw i’n dymuno ichi gael caredigrwydd rhyfeddol a heddwch oddi wrth “yr Un sy’n bodoli nawr ac a oedd yn bodoli gynt ac sy’n mynd i ddod,” ac oddi wrth y saith ysbryd sydd o flaen ei orsedd, 5 ac oddi wrth Iesu Grist, “y Tyst Ffyddlon,” “y cyntaf-anedig o’r meirw,” a “Rheolwr brenhinoedd y ddaear.”
I’r hwn sy’n ein caru ni ac sydd wedi ein rhyddhau ni oddi wrth ein pechodau drwy gyfrwng ei waed ei hun— 6 ac fe’n gwnaeth ni yn deyrnas, yn offeiriaid i’w Dduw a’i Dad—yn wir, iddo ef mae’r gogoniant a’r grym yn perthyn am byth. Amen.
7 Edrychwch! Mae’n dod gyda’r cymylau, a bydd pob llygad yn ei weld, a’r rhai a wnaeth ei drywanu; a bydd holl lwythau’r ddaear yn eu curo eu hunain mewn galar o’i achos ef. Ie, Amen.
8 “Fi ydy’r Alffa a’r Omega,”* meddai Jehofa* Dduw, “yr Un sy’n bodoli nawr ac a oedd yn bodoli gynt ac sy’n mynd i ddod, yr Hollalluog.”
9 Roeddwn i, Ioan, eich brawd a rhywun sydd hefyd yn dyfalbarhau ac yn profi erledigaeth ac yn cael rhan yn y deyrnas gyda chi fel dilynwr i Iesu, ar ynys Patmos oherwydd fy mod i wedi bod yn siarad am Dduw ac yn tystiolaethu am Iesu. 10 Drwy ysbrydoliaeth fe ges i fy hun yn nydd yr Arglwydd, ac fe glywais y tu ôl imi lais cryf a oedd yn swnio fel trwmped, 11 gan ddweud: “Ysgrifenna’r hyn a weli di mewn sgrôl a’i hanfon at y saith cynulleidfa: yn Effesus, yn Smyrna, yn Pergamus, yn Thyatira, yn Sardis, yn Philadelffia, ac yn Laodicea.”
12 Fe wnes i droi i weld pwy oedd yn siarad â mi, ac ar ôl imi droi, fe welais saith canhwyllbren aur, 13 ac ymysg y canwyllbrennau fe welais rywun fel mab dyn, a’i wisg yn cyrraedd hyd at ei draed a sash aur wedi ei rwymo am ei frest. 14 Ar ben hynny, roedd ei ben a’i wallt yn wyn fel gwlân, fel eira, ac roedd ei lygaid fel fflam dân, 15 ac roedd ei draed fel copr pur yn gloywi mewn ffwrnais, ac roedd ei lais fel sŵn llawer o ddyfroedd. 16 Ac yn ei law dde roedd ganddo saith seren, ac roedd ’na gleddyf llym, hir, daufiniog yn dod allan o’i geg, ac roedd ei wyneb* fel yr haul yn tywynnu’n llachar. 17 Pan wnes i ei weld, syrthiais wrth ei draed fel petaswn i wedi marw.
A gosododd ei law dde arna i a dweud: “Paid ag ofni. Fi ydy’r Cyntaf a’r Olaf, 18 a’r un byw. Fe wnes i farw, ond edrycha! rydw i’n byw am byth bythoedd, ac mae gen i allweddi* marwolaeth ac allweddi’r Bedd.* 19 Felly ysgrifenna’r pethau a welaist ti, a’r pethau sy’n digwydd nawr, a’r pethau sy’n mynd i ddigwydd wedyn. 20 Ynglŷn â chyfrinach gysegredig y saith seren a welaist ti yn fy llaw dde a’r saith canhwyllbren aur: Mae’r saith seren yn golygu angylion y saith cynulleidfa, ac mae’r saith canhwyllbren yn golygu’r saith cynulleidfa.