Numeri
14 Yna dyma’r holl bobl yn codi eu lleisiau ac yn parhau i grio ac i wylo drwy gydol y noson honno. 2 Dechreuodd yr Israeliaid i gyd gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, ac roedden nhw’n siarad yn eu herbyn nhw, gan ddweud: “Byddai wedi bod yn well inni farw yng ngwlad yr Aifft neu yn yr anialwch yma! 3 Pam mae Jehofa yn dod â ni i’r wlad hon er mwyn inni gael ein lladd â’r cleddyf? Bydd y gelyn yn cymryd ein gwragedd a’n plant yn gaeth. Oni fyddai’n well inni fynd yn ôl i’r Aifft?” 4 Roedden nhw hyd yn oed yn dweud wrth ei gilydd: “Dewch inni benodi rhywun i’n harwain ni a mynd yn ôl i’r Aifft!”
5 Gyda hynny, syrthiodd Moses ac Aaron â’u hwynebau i’r llawr. Gwnaethon nhw hyn gerbron holl gynulleidfa Israel a oedd wedi dod at ei gilydd. 6 A dyma Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a oedd ymhlith y rhai a aeth i ysbïo’r wlad, yn rhwygo eu dillad, 7 a dywedon nhw wrth yr Israeliaid i gyd: “Mae’r wlad yr aethon ni drwyddi i’w hysbïo yn wlad fendigedig. 8 Os ydyn ni wedi plesio Jehofa, bydd ef yn bendant yn dod â ni i mewn i’r wlad hon ac yn ei rhoi inni, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo. 9 Ond mae’n rhaid ichi beidio â gwrthryfela yn erbyn Jehofa, ac mae’n rhaid ichi beidio ag ofni pobl y wlad, oherwydd gwnawn ni eu trechu nhw. Does neb yn eu hamddiffyn nhw bellach, ac mae Jehofa gyda ni. Peidiwch â’u hofni nhw.”
10 Sut bynnag, roedd yr Israeliaid i gyd yn sôn am eu llabyddio nhw. Ond ymddangosodd gogoniant Jehofa ar babell y cyfarfod, fel bod holl bobl Israel yn ei weld.
11 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Am faint mwy bydd y bobl hyn yn fy amharchu i, ac am faint mwy y byddan nhw’n gwrthod rhoi ffydd yno i er gwaethaf yr holl arwyddion rydw i wedi eu gwneud yn eu plith? 12 Rydw i am eu taro nhw â phla a’u gyrru nhw i ffwrdd, a bydda i’n dy wneud di yn genedl sy’n fwy ac sy’n gryfach na nhw.”
13 Ond dywedodd Moses wrth Jehofa: “Dest ti â dy bobl allan o’r Aifft â dy nerth dy hun, felly os gwnei di hyn, yna bydd yr Eifftiaid yn clywed am y peth, 14 a byddan nhw’n sôn am hyn wrth y bobl sy’n byw yng ngwlad Canaan. Mae’r rhain hefyd wedi clywed dy fod ti, Jehofa, ymhlith y bobl hyn, a dy fod ti wedi ymddangos iddyn nhw wyneb yn wyneb. Ti ydy Jehofa, ac mae dy gwmwl yn sefyll drostyn nhw, ac rwyt ti’n mynd o’u blaenau nhw yn y golofn o gwmwl yn ystod y dydd, ac yn y golofn o dân yn ystod y nos. 15 Petaset ti’n lladd yr holl bobl hyn gyda’i gilydd, byddai’r cenhedloedd sydd wedi clywed am dy enwogrwydd yn dweud hyn: 16 ‘Doedd Jehofa ddim yn gallu dod â’r bobl hyn i mewn i’r wlad gwnaeth ef addo ei rhoi iddyn nhw, felly gwnaeth ef eu lladd nhw yn yr anialwch.’ 17 Plîs, nawr, Jehofa, dangosa fod dy nerth yn fawr, fel gwnest ti addo pan ddywedaist ti: 18 ‘Jehofa, sy’n araf i ddigio ac sy’n llawn cariad ffyddlon, sy’n maddau camgymeriadau a throseddau, ond ni fydd ar unrhyw gyfri yn gadael y rhai euog heb eu cosbi, gan ddod â chosb am gamgymeriadau tadau ar feibion ac ar wyrion, ar y drydedd genhedlaeth ac ar y bedwaredd genhedlaeth.’ 19 Plîs maddeua gamgymeriadau’r bobl hyn, gan fod dy gariad ffyddlon mor fawr, yn union fel rwyt ti wedi maddau i’r bobl ers iddyn nhw fod yn yr Aifft hyd heddiw.”
20 Yna dywedodd Jehofa: “Fe wna i faddau iddyn nhw fel rwyt ti wedi gofyn. 21 Ond ar y llaw arall, mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw, bydd y ddaear gyfan yn cael ei llenwi â gogoniant Jehofa. 22 Ond, ynglŷn â’r dynion sydd wedi gweld fy ngogoniant a’r arwyddion y gwnes i yn yr Aifft ac yn yr anialwch, ond sydd eto wedi parhau i fy rhoi i ar brawf y deg tro hyn a heb wrando ar fy llais, 23 fydd dim un ohonyn nhw byth yn gweld y wlad gwnes i ei haddo i’w tadau. Na, fydd dim un o’r rhai sy’n fy amharchu i yn ei gweld. 24 Ond dangosodd fy ngwas Caleb agwedd* wahanol, ac mae wedi parhau i fy nilyn i â’i holl galon, felly bydda i’n bendant yn dod ag ef i mewn i’r wlad yr aeth i mewn iddi, a bydd ei ddisgynyddion yn ei meddiannu. 25 Gan fod yr Amaleciaid a’r Canaaneaid yn byw yn y dyffryn,* dylech chi droi’n ôl yfory a chychwyn am yr anialwch ar hyd ffordd y Môr Coch.”
26 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 27 “Am faint mwy bydd y bobl ddrygionus hyn yn parhau i gwyno yn fy erbyn i? Rydw i wedi clywed cwynion yr Israeliaid yn fy erbyn i. 28 Dyweda wrthyn nhw, ‘“Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,” meddai Jehofa, “bydda i’n gwneud i chi yn union beth rydw i wedi eich clywed chi’n ei ddweud! 29 Bydd eich cyrff marw yn syrthio yn yr anialwch hwn, ie, pob un ohonoch chi sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn ac sydd wedi cael ei gofrestru, pob un ohonoch chi sydd wedi cwyno yn fy erbyn i. 30 Fydd dim un ohonoch chi yn mynd i mewn i’r wlad y gwnes i addo y byddwch chi’n byw ynddi, heblaw am Caleb fab Jeffunne a Josua fab Nun.
31 “‘“A bydda i’n dod â’ch plant i mewn, y rhai y dywedoch chi y bydden nhw’n cael eu cymryd yn gaeth, a byddan nhw’n mwynhau’r wlad rydych chi wedi ei gwrthod. 32 Ond byddwch chi’n syrthio’n farw yn yr anialwch hwn. 33 Nawr bydd eich meibion yn dod yn fugeiliaid yn yr anialwch am 40 mlynedd, a byddan nhw’n gorfod bod yn atebol am eich anffyddlondeb, nes bod yr un olaf ohonoch chi yn gorwedd yn farw yn yr anialwch. 34 Yn ôl faint o ddyddiau roeddech chi’n ysbïo’r wlad, 40 diwrnod, diwrnod am flwyddyn, diwrnod am flwyddyn, byddwch chi’n gorfod talu am eich camgymeriadau am 40 mlynedd. Wedyn byddwch chi’n gwybod beth mae’n ei olygu i fy ngwrthwynebu i.*
35 “‘“Rydw i, Jehofa, wedi siarad. Dyma beth bydda i’n ei wneud i’r holl bobl ddrygionus hyn, y rhai sydd wedi dod at ei gilydd i wrthryfela yn fy erbyn i. Yn yr anialwch yma y bydd eu diwedd nhw, a dyma ble byddan nhw’n marw. 36 Ynglŷn â’r dynion a gafodd eu hanfon gan Moses i ysbïo’r wlad, ac a wnaeth achosi i’r gynulleidfa gyfan gwyno yn ei erbyn pan ddaethon nhw yn ôl ag adroddiad drwg am y wlad, 37 ie, y dynion hynny a ddaeth yn ôl ag adroddiad drwg am y wlad, byddan nhw’n cael eu taro i lawr ac yn marw o flaen Jehofa. 38 Ond bydd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a oedd ymhlith y rhai a aeth i ysbïo’r wlad, yn bendant yn aros yn fyw.”’”
39 Pan ddywedodd Moses y geiriau hyn wrth yr Israeliaid i gyd, dechreuodd y bobl alaru yn ddwys. 40 Yna, codon nhw’n gynnar yn y bore a cheisio mynd i fyny i ben y mynydd, gan ddweud: “Dyma ni, rydyn ni’n barod i fynd i fyny i’r lle y siaradodd Jehofa amdano, oherwydd rydyn ni wedi pechu.” 41 Ond dywedodd Moses: “Pam rydych chi’n mynd y tu hwnt i orchymyn Jehofa? Fydd hyn ddim yn llwyddo. 42 Peidiwch â mynd i fyny, oherwydd dydy Jehofa ddim gyda chi, a byddwch chi’n cael eich trechu gan eich gelynion. 43 Oherwydd mae’r Amaleciaid a’r Canaaneaid yno i’ch wynebu chi, a byddwch chi’n cael eich lladd â’r cleddyf. Am eich bod chi wedi troi yn ôl rhag dilyn Jehofa, fydd Jehofa ddim gyda chi.”
44 Ond, aethon nhw yn eu blaenau yn hy tuag at ben y mynydd, ond ni wnaeth Moses nac arch cyfamod Jehofa symud i ffwrdd o ganol y gwersyll. 45 Yna daeth yr Amaleciaid a’r Canaaneaid a oedd yn byw ar y mynydd hwnnw i lawr a’u taro nhw, gan eu gwasgaru nhw mor bell â Horma.