LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Corinthiaid 12
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Corinthiaid

      • Rhoddion yr ysbryd (1-11)

      • Un corff, llawer o aelodau (12-31)

1 Corinthiaid 12:2

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, anghredinwyr.

1 Corinthiaid 12:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “rhodd i iacháu.”

1 Corinthiaid 12:13

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 110

1 Corinthiaid 12:15

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2020, tt. 23-24

1 Corinthiaid 12:16

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2020, tt. 23-24

1 Corinthiaid 12:25

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 19

1 Corinthiaid 12:26

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 19

1 Corinthiaid 12:28

Troednodiadau

  • *

    Neu “rhoddion i iacháu.”

1 Corinthiaid 12:30

Troednodiadau

  • *

    Neu “rhoddion i iacháu?”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Corinthiaid 12:1-31

Y Cyntaf at y Corinthiaid

12 Nawr ynglŷn â’r rhoddion ysbrydol, frodyr, dydw i ddim eisiau ichi fod yn anwybodus. 2 Pan oeddech chi’n bobl y cenhedloedd,* rydych chi’n gwybod y cawsoch chi’ch troi o’ch bwriad a’ch arwain ar gyfeiliorn at yr eilunod mud hynny, yn dilyn le bynnag y bydden nhw’n eich arwain. 3 Nawr rydw i am ichi wybod nad oes neb sy’n siarad trwy ysbryd Duw yn dweud: “Melltigedig yw Iesu!” a does neb yn gallu dweud: “Iesu yw’r Arglwydd!” dim ond drwy’r ysbryd glân.

4 Nawr mae ’na wahanol roddion, ond yr un ysbryd sy’n eu rhoi nhw; 5 ac mae ’na wahanol weinidogaethau, ac eto dim ond un Arglwydd sydd; 6 ac mae ’na wahanol weithgareddau, ac eto yr un Duw sy’n eu cyflawni nhw ym mhawb. 7 Ond mae’r hyn mae’r ysbryd glân yn eu galluogi nhw i’w wneud yn amlwg, ac mae Duw yn ei roi am resymau buddiol. 8 Oherwydd mae’r ysbryd yn rhoi i un y gallu i siarad yn ddoeth, a’r un ysbryd yn rhoi i un arall y gallu i siarad â gwybodaeth, 9 ac mae’r un ysbryd yn rhoi i un arall ffydd, ac mae’n rhoi i un arall y gallu i iacháu,* 10 ac mae’n rhoi i un arall eto y gallu i gyflawni gweithredoedd nerthol, i un arall y gallu i broffwydo, i un arall y gallu i ddeall geiriau ysbrydoledig, i un arall y gallu i siarad gwahanol ieithoedd, ac i un arall y gallu i gyfieithu ieithoedd. 11 Ond mae’r holl weithgareddau hyn yn cael eu cyflawni gan union yr un ysbryd, yn dosbarthu i bob un yn ei dro yn union fel y mae’n mynnu.

12 Oherwydd yn union fel y mae’r corff yn un ond bod ganddo lawer o aelodau, ac mae holl aelodau’r corff hwnnw, er eu bod yn llawer, yn un corff, felly hefyd mae’r Crist. 13 Oherwydd trwy un ysbryd y cawson ni i gyd ein bedyddio i un corff, p’run ai’n Iddewon neu’n Roegiaid, p’run ai’n gaethweision neu’n bobl rydd, a rhoddwyd i bob un ohonon ni un ysbryd i’w yfed.

14 Yn wir, mae’r corff yn cynnwys, nid un aelod, ond llawer. 15 Petai’r droed yn dweud, “Oherwydd nad ydw i’n llaw, dydw i ddim yn rhan o’r corff,” ni fyddai hynny’n golygu nad yw’n rhan o’r corff. 16 A phetai’r glust yn dweud, “Oherwydd nad ydw i’n llygad, dydw i ddim yn rhan o’r corff,” ni fyddai hynny’n golygu nad yw’n rhan o’r corff. 17 Petai’r corff cyfan yn llygad, sut byddai’r corff yn gallu clywed? Petai’r corff cyfan yn glust, sut byddai’r corff yn gallu arogli? 18 Ond nawr mae Duw wedi gosod pob un aelod yn y corff fel yr oedd yn dymuno.

19 Petasen nhw i gyd yn un aelod, lle byddai’r corff? 20 Ond nawr maen nhw’n llawer o aelodau, ond eto’n un corff. 21 Dydy’r llygad ddim yn gallu dweud wrth y llaw, “Does arna i ddim dy angen di,” a hefyd, dydy’r pen ddim yn gallu dweud wrth y traed, “Does arna i ddim eich angen chi.” 22 I’r gwrthwyneb, mae’r aelodau o’r corff sy’n ymddangos yn fwyaf gwan yn angenrheidiol, 23 a’r rhannau o’r corff sy’n llai anrhydeddus yn ein meddwl ni, rydyn ni’n eu hamgylchynu â mwy o anrhydedd, ac felly mae ein rhannau llai gweddus yn cael eu trin â mwy o urddas, 24 ond does dim angen unrhyw beth ar ein rhannau gweddus. Er hynny, fel hyn y gosododd Duw y corff wrth ei gilydd, gan roi mwy o anrhydedd i’r rhan a oedd heb ddigon o anrhydedd, 25 fel na fyddai unrhyw raniadau yn y corff, ond dylai aelodau’r corff gymryd yr un gofal dros ei gilydd. 26 Os bydd un aelod yn dioddef, mae’r holl aelodau eraill yn dioddef gydag ef; neu os bydd un aelod yn cael ei ogoneddu, mae’r holl aelodau eraill yn llawenhau gydag ef.

27 Nawr chi ydy corff Crist, ac mae pob un ohonoch chi yn aelod o’i gorff. 28 Ac mae Duw wedi penodi gwahanol rai yn y gynulleidfa i fod, yn gyntaf, yn apostolion; yn ail, yn broffwydi; yn drydydd, yn athrawon; yna rhai sy’n cyflawni gweithredoedd nerthol; rhai sydd â’r gallu i iacháu;* rhai sy’n helpu eraill; rhai sydd â’r gallu i gyfarwyddo; rhai sy’n gallu siarad gwahanol ieithoedd. 29 Ydy pawb yn apostolion? Ydy pawb yn broffwydi? Ydy pawb yn athrawon? Ydy pawb yn cyflawni gweithredoedd nerthol? 30 Oes gan bawb y gallu i iacháu?* Ydy pawb yn siarad gwahanol ieithoedd? Ydy pawb yn gyfieithwyr? 31 Ond parhewch i geisio’r rhoddion mwyaf pwysig. Ac eto fe wna i ddangos i chi ffordd sy’n llawer iawn gwell.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu