LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Datguddiad 6
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Datguddiad

      • Yr Oen yn agor y chwe sêl gyntaf (1-17)

        • Concwerwr ar y ceffyl gwyn (1, 2)

        • Marchogwr y ceffyl fflamgoch i gymryd heddwch i ffwrdd (3, 4)

        • Marchogwr y ceffyl du i ddod â newyn (5, 6)

        • Marchogwr y ceffyl llwyd yn cael yr enw Marwolaeth (7, 8)

        • Rhai a gafodd eu lladd o dan yr allor (9-11)

        • Daeargryn mawr (12-17)

Datguddiad 6:2

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Gweithlyfr Bywyd a Gweinidogaeth,

    11/2019, t. 6

Datguddiad 6:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “Chwart.”

  • *

    Ceiniog arian Rufeinig a oedd yn gyfartal â chyflog diwrnod.

  • *

    Neu “a phaid â niweidio’r olew olewydd a’r gwin.”

Datguddiad 6:8

Troednodiadau

  • *

    Neu “gwelw.”

  • *

    Neu “Hades,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Atebion i Gwestiynau am y Beibl, erthygl 176

Datguddiad 6:9

Troednodiadau

  • *

    Yn ôl pob tebyg yn cyfeirio at eu gwaed, sy’n cynrychioli bywyd, a gafodd ei dywallt ar yr allor. Gweler Geirfa.

Datguddiad 6:12

Troednodiadau

  • *

    Blew geifr yn fwy na thebyg.

Datguddiad 6:14

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    4/2017, t. 11

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Datguddiad 6:1-17

Datguddiad i Ioan

6 Ac fe welais pan agorodd yr Oen un o’r saith sêl, ac fe glywais un o’r pedwar creadur byw yn dweud â llais fel taran: “Tyrd!” 2 Ac edrychwch! fe welais geffyl gwyn, ac roedd gan yr un a oedd yn eistedd arno fwa; ac fe gafodd coron ei rhoi iddo, ac fe aeth allan yn concro ac i gwblhau ei goncwest.

3 Pan agorodd ef yr ail sêl, fe glywais yr ail greadur byw yn dweud: “Tyrd!” 4 Daeth un arall allan, ceffyl fflamgoch, ac fe gafodd yr un a oedd yn eistedd arno yr awdurdod i gymryd heddwch oddi ar y ddaear er mwyn iddyn nhw ladd ei gilydd, ac fe gafodd cleddyf mawr ei roi iddo.

5 Pan agorodd ef y drydedd sêl, fe glywais y trydydd creadur byw yn dweud: “Tyrd!” Ac edrychwch! fe welais geffyl du, ac roedd gan yr un a oedd yn eistedd arno glorian yn ei law. 6 Fe glywais rywbeth yn debyg i lais yng nghanol y pedwar creadur byw yn dweud: “Litr* o wenith am ddenariws* a thri litr o haidd am ddenariws; a phaid â gadael i’r olew olewydd a’r gwin redeg allan.”*

7 Pan agorodd ef y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn dweud: “Tyrd!” 8 Ac edrychwch! fe welais geffyl llwyd,* ac enw’r un a oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth. Ac roedd y Bedd* yn ei ddilyn yn agos. Ac fe gafodd awdurdod ei roi iddyn nhw dros y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf hir ac â phrinder bwyd ac â phla marwol a thrwy fwystfilod gwyllt y ddaear.

9 Pan agorodd ef y bumed sêl, fe welais o dan yr allor eneidiau’r* rhai a gafodd eu lladd oherwydd gair Duw ac oherwydd y dystiolaeth roedden nhw wedi ei rhoi. 10 Gwaeddon nhw â llais uchel, gan ddweud: “Faint o amser fydd yn mynd heibio, Sofran Arglwydd, sanctaidd a gwir, cyn iti farnu a dial ein gwaed ar y rhai sy’n byw ar y ddaear?” 11 Ac fe roddodd yr Arglwydd fantell wen i bob un ohonyn nhw, a dweud wrthyn nhw am orffwys am ychydig eto, nes bod nifer eu cyd-gaethweision a’u brodyr yn cael ei gwblhau, y rhai a oedd yn mynd i gael eu lladd fel y cawson nhwthau eu lladd.

12 Ac fe welais pan agorodd ef y chweched sêl, ac fe wnaeth daeargryn mawr ddigwydd; ac fe drodd yr haul yn ddu fel sachliain wedi ei wneud o flew,* ac fe drodd y lleuad gyfan yn goch fel gwaed, 13 ac fe syrthiodd sêr y nef i’r ddaear fel coeden ffigys yn cael ei hysgwyd gan wynt mawr yn bwrw ei ffigys anaeddfed. 14 Ac fe aeth y nef i ffwrdd fel sgrôl yn cael ei rholio, ac fe gafodd pob mynydd a phob ynys eu symud allan o’u lle. 15 Yna, dyma frenhinoedd y ddaear, yr uwch swyddogion, cadlywyddion y fyddin, y cyfoethog, y cryfion, pob caethwas, a phob person rhydd yn mynd i guddio yn yr ogofâu ac ymhlith creigiau’r mynyddoedd. 16 Ac maen nhw’n dweud o hyd wrth y mynyddoedd ac wrth y creigiau: “Syrthiwch arnon ni a chuddiwch ni rhag wyneb yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd a rhag dicter yr Oen, 17 oherwydd bod dydd mawr eu dicter wedi dod, a phwy sy’n gallu sefyll?”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu