Actau’r Apostolion
1 Yn y llyfr cyntaf, O Theoffilus, ysgrifennais am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneud a’u dysgu 2 hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny, ar ôl iddo roi cyfarwyddiadau drwy’r ysbryd glân i’r apostolion roedd ef wedi eu dewis. 3 Ar ôl iddo ddioddef, fe ddangosodd iddyn nhw ei fod yn fyw drwy lawer o arwyddion sicr. Cafodd ei weld ganddyn nhw dros 40 diwrnod, ac roedd yn siarad am Deyrnas Dduw. 4 Tra oedd yn cwrdd â nhw, fe wnaeth eu gorchymyn nhw: “Peidiwch â gadael Jerwsalem, ond parhewch i ddisgwyl am yr hyn y mae’r Tad wedi ei addo, ac a glywsoch chi gen i; 5 oherwydd roedd Ioan, yn wir, yn bedyddio â dŵr, ond fe fyddwch chi’n cael eich bedyddio â’r ysbryd glân ymhen ychydig ddyddiau ar ôl hyn.”
6 Felly, ar ôl iddyn nhw ddod ynghyd, dyma nhw’n gofyn iddo: “Arglwydd, ai dyma’r adeg rwyt ti’n mynd i adfer y deyrnas i Israel?” 7 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Does dim rhaid ichi wybod yr amseroedd na’r tymhorau, oherwydd dim ond y Tad sydd â’r awdurdod i benderfynu hynny. 8 Ond byddwch chi’n cael nerth pan fydd yr ysbryd glân yn dod arnoch chi, a byddwch chi’n dystion i mi yn Jerwsalem, yn holl Jwdea a Samaria, ac i ben draw’r byd.”* 9 Ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, tra oedden nhw’n edrych, cafodd ei godi i fyny a dyma gwmwl yn ei gymryd allan o’u golwg. 10 Ac fel roedden nhw’n syllu tua’r awyr tra oedd ef yn mynd i fyny, yn fwyaf sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad gwyn yn sefyll wrth eu hymyl 11 ac yn dweud: “Chi ddynion o Galilea, pam rydych chi’n sefyll yn edrych tua’r awyr? Bydd yr Iesu hwn a gafodd ei gymryd i fyny oddi wrthoch chi i’r awyr yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch chi ef yn mynd i’r awyr.”
12 Yna fe ddychwelon nhw i Jerwsalem o’r mynydd sy’n cael ei alw Mynydd yr Olewydd, dim ond taith o ddiwrnod saboth oddi yno. 13 Pan gyrhaeddon nhw, aethon nhw i fyny i’r ystafell uchaf lle roedden nhw’n aros. Roedd Pedr yno yn ogystal â Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Tomos, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus, a Simon yr un selog, a Jwdas fab Iago. 14 Yn unfryd, roedd y rhain i gyd yn dyfalbarhau mewn gweddi, gyda rhai merched,* Mair mam Iesu, a’i frodyr.
15 Yn ystod y dyddiau hynny, cododd Pedr ar ei draed ymysg y brodyr (cyfanswm y bobl oedd tua 120) a dweud: 16 “Ddynion, frodyr, roedd yn rhaid cyflawni’r ysgrythur a gafodd ei rhagfynegi gan yr ysbryd glân drwy Dafydd am Jwdas, yr un a wnaeth arwain y rhai a arestiodd Iesu. 17 Oherwydd roedd ef wedi cael ei gyfri yn un ohonon ni ac fe gafodd ran yn y weinidogaeth hon. 18 (Gwnaeth yr union ddyn hwn brynu cae â’r tâl am ei anghyfiawnder, ac ar ôl iddo syrthio ar ei wyneb, byrstiodd ei gorff* a thywalltodd* ei berfedd i gyd allan. 19 Daeth holl drigolion Jerwsalem i wybod am hyn, ac felly galwyd y cae hwnnw yn eu hiaith nhw Aceldama, hynny yw, “Maes y Gwaed.”) 20 Oherwydd y mae’n ysgrifenedig yn llyfr y Salmau, ‘Gad i’r lle mae’n cartrefu ynddo ddod yn anialwch, heb neb yn byw ynddo’ a, ‘Gad i rywun arall gymryd ei aseiniad fel arolygwr.’ 21 Felly, o’r dynion a oedd yn gwmni i ni yn ystod yr holl amser yr oedd yr Arglwydd Iesu yn weithgar yn ein plith, 22 gan ddechrau o’i fedydd gan Ioan hyd y dydd y cafodd ef ei gymryd i fyny oddi wrthon ni, mae’n rhaid i un o’r dynion hyn ddod yn dyst gyda ni o’i atgyfodiad.”
23 Felly dyma nhw’n cynnig dau, Joseff a oedd yn cael ei alw Barsabas, a oedd hefyd yn dwyn yr enw Jwstus, a Mathias. 24 Yna dyma nhw’n gweddïo ac yn dweud: “Ti, O Jehofa,* sy’n adnabod calonnau pawb, dangosa pa un o’r ddau ddyn hyn rwyt ti wedi ei ddewis 25 i dderbyn y weinidogaeth a’r apostoliaeth y gwnaeth Jwdas gefnu arnyn nhw er mwyn mynd ei ffordd ei hun.” 26 Felly dyma nhw’n bwrw coelbren arnyn nhw, a syrthiodd y coelbren ar Mathias ac fe gafodd ei gyfri* gyda’r 11 apostol.