Numeri
30 Yna siaradodd Moses â phennau llwythau Israel, gan ddweud: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn: 2 Os bydd dyn yn gwneud adduned* i Jehofa, neu’n tyngu llw i beidio â gwneud rhywbeth,* mae’n rhaid iddo beidio â thorri ei air. Mae’n rhaid iddo wneud popeth mae wedi addo ar lw i’w wneud.
3 “Ac os bydd dynes* yn gwneud adduned i Jehofa, neu’n addo peidio â gwneud rhywbeth tra ei bod hi’n ifanc ac yn byw yn nhŷ ei thad, 4 ac mae ei thad yn clywed ei hadduned neu ei haddewid i beidio â gwneud rhywbeth a dydy ef ddim yn anghytuno, bydd rhaid iddi hi gadw pob adduned a phob addewid i beidio â gwneud rhywbeth. 5 Ond os bydd ei thad yn ei gwahardd hi pan fydd ef yn clywed ei bod hi wedi gwneud adduned neu wedi gwneud addewid i beidio â gwneud rhywbeth, ni fydd yn ddilys. Bydd Jehofa yn maddau iddi am fod ei thad wedi ei gwahardd hi.
6 “Ond os bydd hi’n gwneud addewid neu adduned fyrbwyll, ac yna’n priodi yn nes ymlaen, 7 ac mae ei gŵr yn clywed am y peth a dydy ef ddim yn anghytuno ar y diwrnod mae’n clywed amdano, bydd rhaid iddi gadw pob adduned neu addewid i beidio â gwneud rhywbeth. 8 Ond os bydd ei gŵr yn ei gwahardd hi ar y diwrnod mae’n clywed amdano, gall ef ganslo’r addewid neu’r adduned fyrbwyll a wnaeth hi, a bydd Jehofa yn maddau iddi.
9 “Ond os bydd gwraig weddw neu ddynes* sydd wedi cael ysgariad yn gwneud adduned, bydd rhaid iddi gadw popeth mae hi wedi ei addo.
10 “Sut bynnag, os gwnaeth dynes* adduned neu addewid i beidio â gwneud rhywbeth tra ei bod hi yn nhŷ ei gŵr, 11 a chlywodd ei gŵr am y peth ond wnaeth ef ddim anghytuno neu wrthod, bydd rhaid iddi gadw pob adduned neu addewid i beidio â gwneud rhywbeth. 12 Ond os bydd ei gŵr, ar y diwrnod mae’n clywed amdanyn nhw, yn canslo unrhyw adduned neu addewid y gwnaeth hi i beidio â gwneud rhywbeth, ni fyddan nhw’n ddilys. Gwnaeth ei gŵr eu canslo nhw, a bydd Jehofa yn maddau iddi. 13 Ynglŷn ag unrhyw adduned neu unrhyw lw i roi cyfyngiadau arni hi ei hun, dylai ei gŵr benderfynu a oes rhaid iddi gadw at hynny neu beidio. 14 Ond os nad ydy ei gŵr yn anghytuno yn y dyddiau wedyn, mae’n cadarnhau ei holl addunedau a’i holl addewidion i beidio â gwneud rhywbeth. Mae’n eu cadarnhau nhw am ei fod heb anghytuno ar y diwrnod y clywodd amdanyn nhw. 15 Ond os ydy ef yn eu canslo nhw yn hwyrach ymlaen, beth amser ar ôl y diwrnod y gwnaeth ef glywed amdanyn nhw, ef fydd yn derbyn y gosb am ei heuogrwydd.
16 “Dyma’r deddfau a roddodd Jehofa i Moses ynglŷn â gŵr a’i wraig, ac ynglŷn â thad a’i ferch ifanc sy’n byw yn ei dŷ.”