LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Cronicl 23
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Cronicl

      • Dafydd yn trefnu’r Lefiaid (1-32)

        • Aaron a’i feibion yn cael eu gosod ar wahân (13)

1 Cronicl 23:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “trefnu.”

1 Cronicl 23:29

Troednodiadau

  • *

    Neu “y bara gosod.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Cronicl 23:1-32

Cyntaf Cronicl

23 Pan oedd Dafydd wedi heneiddio ac yn agos at ddiwedd ei fywyd, penododd ei fab Solomon yn frenin ar Israel. 2 Yna casglodd holl dywysogion Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid at ei gilydd. 3 Cafodd y Lefiaid a oedd yn 30 mlwydd oed neu’n hŷn eu rhifo; roedd ’na 38,000 ohonyn nhw. 4 O blith y rhain roedd 24,000 yn gwasanaethu fel goruchwylwyr dros y gwaith ar dŷ Jehofa, ac roedd ’na 6,000 o swyddogion a barnwyr, 5 ac roedd ’na 4,000 o borthorion, a gwnaeth 4,000 foli Jehofa ar yr offerynnau roedd Dafydd wedi dweud amdanyn nhw, “Rydw i wedi gwneud y rhain er mwyn moli Duw.”

6 Yna gwnaeth Dafydd eu rhannu* nhw’n grwpiau yn ôl meibion Lefi: Gerson, Cohath, a Merari. 7 O blith y Gersoniaid roedd Ladan a Simei. 8 Meibion Ladan oedd Jehiel y pennaeth, Setham, a Joel, tri. 9 Meibion Simei oedd Selomoth, Hasiel, a Haran, tri. Y rhain oedd pennau teuluoedd estynedig Ladan. 10 A meibion Simei oedd Jahath, Sina, Jeus, a Bereia. Y pedwar hyn oedd meibion Simei. 11 Jahath oedd y pen ac roedd Sisa yn ail iddo. Ond oherwydd nad oedd gan Jeus a Bereia lawer o feibion, roedden nhw’n cael eu cyfri fel un teulu ac roedd ganddyn nhw’r un cyfrifoldebau.

12 Meibion Cohath oedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar. 13 Meibion Amram oedd Aaron a Moses. Ond cafodd Aaron ei osod ar wahân yn barhaol i sancteiddio’r Mwyaf Sanctaidd, ef a’i feibion, i gynnig aberthau o flaen Jehofa, i weini arno, ac i gyhoeddi bendithion yn ei enw am byth. 14 Ynglŷn â Moses, dyn y gwir Dduw, roedd ei feibion wedi eu henwi ymhlith llwyth y Lefiaid. 15 Meibion Moses oedd Gersom ac Elieser. 16 O blith meibion Gersom, Sebuel oedd y pen. 17 O blith disgynyddion Elieser, Rehabia oedd y pen; doedd gan Elieser ddim meibion eraill, ond roedd gan Rehabia lawer iawn o feibion. 18 O blith meibion Ishar, Selomith oedd y pen. 19 O blith meibion Hebron, Jereia oedd y pen, Amareia oedd yr ail, Jehasiel oedd y trydydd, a Jecameam oedd y pedwerydd. 20 O blith meibion Ussiel, Micha oedd y pen ac Iseia oedd yr ail.

21 Meibion Merari oedd Mahli a Musi. Meibion Mahli oedd Eleasar a Cis. 22 Bu farw Eleasar, ond doedd ganddo ddim meibion, dim ond merched. Felly gwnaeth meibion Cis, eu perthnasau, eu cymryd nhw yn wragedd. 23 Meibion Musi oedd Mahli, Eder, a Jeremoth, tri.

24 Y rhain oedd meibion Lefi a gafodd eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd estynedig, y pennau teuluoedd. Cafodd y Lefiaid a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn eu cyfri a’u rhestru yn ôl eu henwau ar gyfer gwasanaethu yn nhŷ Jehofa. 25 Oherwydd roedd Dafydd wedi dweud: “Mae Jehofa, Duw Israel, wedi rhoi gorffwys i’w bobl, a bydd ef yn byw yn Jerwsalem am byth. 26 Hefyd ni fydd rhaid i’r Lefiaid gario’r tabernacl na’i offer ar gyfer addoli.” 27 Yn ôl cyfarwyddiadau olaf Dafydd, cafodd y Lefiaid a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn eu rhifo. 28 Eu dyletswydd oedd i helpu meibion Aaron yng ngwasanaeth tŷ Jehofa, i fod yn gyfrifol am y cyrtiau, am yr ystafelloedd bwyta, am lanhau’r holl bethau sanctaidd, ac am wneud unrhyw waith angenrheidiol ar gyfer gwasanaeth tŷ’r gwir Dduw. 29 Roedden nhw’n helpu i baratoi y bara sy’n cael ei gyflwyno i Dduw,* y blawd gorau ar gyfer yr offrwm grawn, y bara croyw tenau, y cacennau gradell, y toes oedd wedi ei gymysgu ag olew, yn ogystal â helpu gyda’r holl waith o fesur maint a phwysau pethau. 30 Roedden nhw i sefyll bob bore a noswaith i ddiolch i Jehofa a’i glodfori. 31 Roedden nhw’n helpu bryd bynnag roedd yr aberthau llosg yn cael eu cynnig i Jehofa ar y Sabothau, ar y lleuadau newydd, ac yn ystod tymhorau’r gwyliau, yn unol â’r nifer angenrheidiol yn ôl y rheolau perthnasol, ac roedden nhw’n gwneud hynny’n rheolaidd o flaen Jehofa. 32 Roedden nhw hefyd yn gofalu am eu dyletswyddau ynglŷn â phabell y cyfarfod a’r lle sanctaidd, ac roedden nhw’n helpu eu brodyr, meibion Aaron, drwy wasanaethu yn nhŷ Jehofa.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu