Actau’r Apostolion
16 Felly cyrhaeddodd Derbe a hefyd Lystra. Ac roedd disgybl yno o’r enw Timotheus, mab i ddynes* Iddewig a oedd yn credu ond roedd ei dad yn Roegwr, 2 ac roedd y brodyr yn Lystra ac Iconium yn dweud pethau da amdano. 3 Roedd Paul yn dymuno i Timotheus fynd gydag ef ar ei daith, a chymerodd ef a’i enwaedu o achos yr Iddewon yn y llefydd hynny, oherwydd roedden nhw i gyd yn gwybod mai Groegwr oedd ei dad. 4 Wrth iddyn nhw deithio trwy’r dinasoedd, bydden nhw’n rhoi gwybod iddyn nhw am y gorchmynion i’w cadw, y rhai a ddyfarnwyd gan yr apostolion a’r henuriaid a oedd yn Jerwsalem. 5 Felly, roedd y cynulleidfaoedd yn parhau i ddod yn gadarn yn y ffydd ac i gynyddu mewn rhif o ddydd i ddydd.
6 Ar ben hynny, teithion nhw drwy Phrygia a gwlad Galatia, oherwydd eu bod nhw wedi cael eu gwahardd gan yr ysbryd glân rhag pregethu’r gair yn nhalaith Asia. 7 Ymhellach, pan ddaethon nhw i lawr i Mysia, roedden nhw’n ceisio mynd i mewn i Bithynia, ond ni chaniataodd ysbryd Iesu iddyn nhw fynd. 8 Felly aethon nhw heibio i* Mysia a dod i lawr i Troas. 9 Ac yn ystod y nos, ymddangosodd gweledigaeth i Paul—roedd dyn o Facedonia yn sefyll yno ac yn ymbil arno gan ddweud: “Tyrd drosodd i mewn i Facedonia a helpa ni.” 10 Cyn gynted ag yr oedd wedi gweld y weledigaeth, fe wnaethon ni geisio mynd i mewn i Facedonia, gan ddod i’r casgliad fod Duw wedi ein galw ni i gyhoeddi’r newyddion da iddyn nhw.
11 Felly dyma ni’n hwylio o Troas a mynd ar ein hunion i Samothrace, a thrannoeth i Neapolis; 12 ac oddi yno aethon ni i Philipi, trefedigaeth, sy’n brif ddinas rhanbarth Macedonia. Arhoson ni yn y ddinas hon am rai dyddiau. 13 Ar y dydd Saboth aethon ni y tu allan i giât y ddinas i lan afon, gan feddwl fod ’na le ar gyfer gweddïo, ac eisteddon ni a dechrau siarad â’r merched* a oedd wedi ymgynnull. 14 Ac roedd dynes* o’r enw Lydia o’r ddinas Thyatira yn gwrando, un a oedd yn gwerthu deunydd porffor ac yn addoli Duw, ac agorodd Jehofa ei chalon yn llydan agored i ddal ei sylw ar y pethau roedd Paul yn eu dweud. 15 Nawr pan gafodd hi ac eraill yn ei thŷ eu bedyddio, dyma hi’n ein cymell ni: “Os ydych chi’n fy ystyried yn ffyddlon i Jehofa, dewch ac arhoswch yn fy nhŷ.” Ac roedd hi’n mynnu ein bod ni’n mynd gyda hi.
16 Ryw dro pan oedden ni ar ein ffordd i’r lle ar gyfer gweddïo, daeth caethferch ac ysbryd ynddi, cythraul dewiniaeth, i gwrdd â ni. Roedd hi’n darparu elw mawr i’w meistri trwy ddweud ffortiwn. 17 Roedd y ferch hon yn dal i ddilyn Paul a ninnau gan weiddi â’r geiriau hyn: “Mae’r dynion hyn yn gaethweision i’r Duw Goruchaf ac maen nhw’n cyhoeddi ffordd achubiaeth i chi.” 18 Roedd hi’n dal i wneud hyn am ddyddiau lawer. Yn y diwedd, blinodd Paul ar hyn a dyma’n troi ac yn dweud wrth yr ysbryd: “Rydw i’n gorchymyn, yn enw Iesu Grist, i ti ddod allan ohoni.” Ac fe ddaeth allan yr awr honno.
19 Wel, pan welodd ei meistri fod eu gobaith am elw wedi diflannu, gafaelon nhw yn Paul a Silas a’u llusgo nhw i mewn i’r farchnad o flaen y rheolwyr. 20 Ar ôl mynd â nhw at yr ynadon sifil, dywedon nhw: “Mae’r dynion hyn yn codi twrw mawr yn ein dinas ni. Iddewon ydyn nhw, 21 ac maen nhw’n cyhoeddi defodau sydd ddim yn gyfreithlon i ni eu mabwysiadu na’u harfer, gan mai Rhufeinwyr ydyn ni.” 22 Cododd y dyrfa ynghyd yn eu herbyn, a dyma’r ynadon sifil, ar ôl rhwygo eu dillad oddi amdanyn nhw, yn gorchymyn iddyn nhw gael eu curo â ffyn. 23 Ac ar ôl iddyn nhw eu taro â llawer o ergydion, dyma nhw’n eu taflu i’r carchar ac yn gorchymyn i geidwad y carchar eu cadw’n ddiogel. 24 Oherwydd ei fod wedi cael y fath orchymyn, taflodd nhw i’r carchar mewnol a rhwymo eu traed yn y cyffion.
25 Ond tua hanner nos, roedd Paul a Silas yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw, ac roedd y carcharorion yn gwrando arnyn nhw. 26 Yn fwyaf sydyn roedd ’na ddaeargryn mawr, nes i sylfeini’r carchar siglo. Cafodd y drysau i gyd eu hagor ar unwaith, a daeth rhwymau pawb yn rhydd. 27 Pan ddeffrôdd ceidwad y carchar a gweld bod drysau’r carchar yn agored, tynnodd ei gleddyf ac roedd ar fin ei ladd ei hun, gan dybio bod y carcharorion wedi dianc. 28 Ond gwaeddodd Paul yn uchel: “Paid â gwneud dim niwed i ti dy hun, rydyn ni i gyd yma!” 29 Felly galwodd am oleuadau a rhuthro i mewn, ac yntau’n crynu drwyddo, syrthiodd o flaen Paul a Silas. 30 Daeth ef â nhw allan a dywedodd: “Beth sy’n rhaid imi ei wneud i gael fy achub?” 31 Dywedon nhw: “Creda yn yr Arglwydd Iesu, a byddi di’n cael dy achub, tithau a phawb sydd yn dy dŷ.” 32 Yna gwnaethon nhw siarad am air Jehofa ag ef ynghyd â phawb a oedd yn ei dŷ. 33 A dyma’n eu cymryd nhw yng nghanol y nos ac yn golchi eu briwiau. Wedyn cafodd ef a phawb oedd yn ei dŷ eu bedyddio heb oedi. 34 Daeth â nhw i mewn i’w dŷ a gosod pryd o fwyd ar y bwrdd iddyn nhw, ac roedd yn llawenhau’n fawr iawn gyda phawb yn ei dŷ, nawr ei fod wedi credu yn Nuw.
35 Pan ddaeth hi’n ddydd, gwnaeth yr ynadon sifil anfon y cwnstabliaid i ddweud: “Rhyddha’r dynion hynny.” 36 Gwnaeth ceidwad y carchar adrodd eu geiriau wrth Paul: “Mae’r ynadon sifil wedi anfon dynion i ryddhau chi’ch dau. Felly dewch allan nawr ac ewch mewn heddwch.” 37 Ond dywedodd Paul wrthyn nhw: “Gwnaethon nhw ein chwipio ni’n gyhoeddus, heb ein condemnio,* er ein bod ni’n Rhufeiniaid, a’n taflu ni i’r carchar. Ydyn nhw nawr yn ein taflu ni allan yn ddirgel? Nac ydyn, yn wir! Gadewch iddyn nhw ddod eu hunain a’n tywys ni allan.” 38 Gwnaeth y cwnstabliaid adrodd y geiriau hyn wrth yr ynadon sifil. Dechreuon nhw ofni pan glywson nhw mai Rhufeiniaid oedd y dynion. 39 Felly dyma nhw’n dod ac yn ymbil arnyn nhw, ac ar ôl eu tywys nhw allan, gwnaethon nhw ofyn iddyn nhw adael y ddinas. 40 Ond fe ddaethon nhw allan o’r carchar a mynd i dŷ Lydia; a phan welson nhw’r brodyr, gwnaethon nhw eu hannog a mynd i ffwrdd.