LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 1 Corinthiaid 2
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 1 Corinthiaid

      • Paul yn pregethu yng Nghorinth (1-5)

      • Mawredd doethineb Duw (6-10)

      • Y dyn ysbrydol yn erbyn y dyn corfforol (11-16)

1 Corinthiaid 2:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.

1 Corinthiaid 2:8

Troednodiadau

  • *

    Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.

  • *

    Neu “wedi dienyddio ar y stanc yr Arglwydd gogoneddus.”

1 Corinthiaid 2:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “Ysbryd y dyn sy’n gwybod beth sydd ynddo ef ei hun.”

1 Corinthiaid 2:12

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Cariad Duw, tt. 53-56

1 Corinthiaid 2:14

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    2/2018, t. 17

1 Corinthiaid 2:15

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    2/2018, tt. 17-18

1 Corinthiaid 2:16

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    3/2022, t. 9

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    2/2018, tt. 20-21

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
1 Corinthiaid 2:1-16

Y Cyntaf at y Corinthiaid

2 Felly pan ddes i atoch chi, frodyr, wnes i ddim dod yn defnyddio geiriau mawr ac yn ddoeth i gyd gan gyhoeddi cyfrinach gysegredig Duw i chi. 2 Oherwydd penderfynais gyfeirio eich sylw at Iesu Grist yn unig, ac yntau wedi ei ddienyddio ar y stanc. 3 Ac fe ddes i atoch chi mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr; 4 a phan oeddwn i’n siarad ac yn pregethu, doeddwn i ddim yn defnyddio geiriau perswadiol y rhai doeth, ond yn hytrach roedd fy ngeiriau yn dangos grym yr ysbryd glân, 5 er mwyn i’ch ffydd fod yn seiliedig, nid ar ddoethineb dyn, ond ar rym Duw.

6 Nawr rydyn ni’n siarad am ddoethineb ymhlith y rheini sy’n aeddfed, ond nid doethineb y system hon* na doethineb rheolwyr y system hon, sy’n mynd i ddiflannu. 7 Ond rydyn ni’n siarad am ddoethineb Duw sydd wedi ei guddio mewn cyfrinach gysegredig, a ragordeiniodd Duw cyn y systemau dynol, a hynny i’n gogoniant ni. 8 Ni wnaeth neb o reolwyr y system hon* ddod i wybod am y doethineb hwn, oherwydd petasen nhw wedi dod i wybod amdano, ni fydden nhw wedi dienyddio’r Arglwydd gogoneddus.* 9 Ond yn union fel mae’n ysgrifenedig: “Y pethau na welodd llygad a’r pethau na chlywodd clust, a’r pethau na chawson nhw eu llunio yng nghalon dyn, dyna’r pethau mae Duw wedi eu paratoi ar gyfer y rhai sy’n ei garu.” 10 Ond mae Duw wedi eu datguddio nhw i ni drwy ei ysbryd, oherwydd mae’r ysbryd yn chwilio pob peth, hyd yn oed pethau dwfn Duw.

11 Does dim un dyn yn gwybod sut mae dyn arall yn meddwl. Y dyn ei hun sy’n gwybod beth sydd yn ei galon.* Felly hefyd, does neb wedi dod i wybod beth yw meddyliau Duw heblaw am ysbryd Duw. 12 Nawr rydyn ni wedi derbyn, nid ysbryd y byd, ond yr ysbryd sydd oddi wrth Dduw, er mwyn inni wybod y pethau mae Duw yn ei garedigrwydd wedi eu rhoi i ni. 13 Rydyn ni’n siarad hefyd am y pethau hyn, nid â geiriau a ddysgwyd gan ddoethineb dynol, ond â rhai a ddysgwyd gan yr ysbryd, wrth inni esbonio materion ysbrydol â geiriau ysbrydol.

14 Ond dydy dyn corfforol ddim yn derbyn y pethau sy’n ymwneud ag ysbryd Duw, oherwydd eu bod nhw’n ffolineb iddo; ac nid yw’n gallu eu deall nhw, oherwydd mae’n rhaid chwilio i mewn iddyn nhw mewn ffordd ysbrydol. 15 Fodd bynnag, mae’r dyn ysbrydol yn chwilio i mewn i bob peth, ond does yr un dyn yn chwilio i mewn iddo ef. 16 Oherwydd “pwy sydd wedi dod i ddeall meddwl Jehofa, er mwyn rhoi cyfarwyddiadau iddo?” Ond mae meddwl Crist gynnon ni.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu