At y Philipiaid
1 Paul a Timotheus, caethweision Crist Iesu, at yr holl rai sanctaidd mewn undod â Christ Iesu sydd yn Philipi, ynghyd â’r arolygwyr a gweision y gynulleidfa:
2 Rydyn ni’n dymuno ichi gael caredigrwydd rhyfeddol a heddwch oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
3 Rydw i’n diolch i fy Nuw bob amser pan fydda i’n cofio amdanoch chi 4 ym mhob un o fy erfyniadau drostoch chi i gyd. Rydw i’n erfyn drostoch chi gyda llawenydd, 5 oherwydd y cyfraniad rydych chi wedi ei wneud i’r* newyddion da o’r dydd cyntaf hyd y foment hon. 6 Rydw i’n hyderus yn hyn o beth, y bydd yr un a ddechreuodd waith da ynoch chi yn ei gwblhau erbyn dydd Crist Iesu. 7 Mae hi ond yn iawn imi feddwl hyn amdanoch chi i gyd, am fy mod i’n eich caru chi’n fawr iawn, ac am eich bod chi’n elwa gyda mi ar garedigrwydd rhyfeddol Duw tra fy mod i yn y carchar yn fy rhwymau ac wrth amddiffyn a sefydlu’r newyddion da yn gyfreithiol.
8 Oherwydd mae Duw’n gwybod cymaint rydw i’n hiraethu am eich gweld chi â’r un hoffter mawr ag sydd gan Grist Iesu. 9 A dyma beth rydw i’n parhau i weddïo amdano, bod eich cariad yn gorlifo yn fwy ac yn fwy gyda gwybodaeth gywir a dealltwriaeth lawn; 10 eich bod chi’n gallu gwneud yn siŵr o beth yw’r pethau mwyaf pwysig, er mwyn i chi fod yn bur heb faglu eraill hyd at ddydd Crist; 11 a’ch bod chi’n gallu cael eich llenwi â ffrwyth cyfiawnder, sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.
12 Nawr rydw i eisiau ichi wybod, frodyr, fod fy sefyllfa wedi cyfrannu at ledaenu’r newyddion da, 13 fel y mae fy rhwymau er mwyn Crist wedi dod yn hysbys ymhlith y Gwarchodlu Praetoraidd a’r lleill i gyd. 14 Nawr mae’r rhan fwyaf o’r brodyr yn yr Arglwydd wedi magu hyder oherwydd fy rhwymau, ac maen nhw’n fwy dewr byth i gyhoeddi gair Duw yn ddi-ofn.
15 Yn wir, mae rhai yn pregethu am y Crist o genfigen a chystadleuaeth, ond eraill o ewyllys da. 16 Mae’r rhain yn cyhoeddi’r Crist o gariad, oherwydd eu bod nhw’n gwybod fy mod i wedi cael fy mhenodi i amddiffyn y newyddion da; 17 ond mae’r lleill yn gwneud hynny o uchelgais hunanol, nid o gymhelliad pur, gan eu bod nhw’n bwriadu achosi trwbl imi yn y carchar. 18 Beth yw’r canlyniad? Ym mhob ffordd, p’run ai mewn anwiredd neu mewn gwirionedd, mae Crist yn cael ei gyhoeddi, ac rydw i’n llawenhau yn hyn. Yn wir, fe wna i barhau i lawenhau hefyd, 19 oherwydd fy mod i’n gwybod bydd hyn yn arwain at fy achubiaeth, trwy eich erfyniad a chefnogaeth ysbryd Iesu Grist. 20 Rydw i’n disgwyl yn daer ac yn gobeithio na fydda i’n cywilyddio mewn unrhyw beth, ond y bydda i’n siarad heb ofn ac y bydd y Crist yn cael ei ogoneddu yn fy nghorff, nawr fel erioed, naill ai drwy fywyd neu drwy farwolaeth.
21 Oherwydd yn fy achos i, os ydw i’n byw, rydw i’n byw i Grist, ac os ydw i’n marw, mae hynny o fantais imi. 22 Nawr os ydw i am barhau i fyw yn y cnawd, galla i gynhyrchu mwy o ffrwyth yn fy ngwaith; ond eto, fydda i ddim yn gwneud yn hysbys beth fydda i’n ei ddewis. 23 Rydw i’n cael fy rhwygo rhwng y ddau beth hyn, oherwydd fy mod i’n dymuno cael fy rhyddhau a chael bod gyda Christ sydd, heb os, yn llawer iawn gwell. 24 Fodd bynnag, mae’n fwy angenrheidiol i mi aros yn y cnawd er eich mwyn chi. 25 Felly, gan fy mod i’n sicr o hyn, rydw i’n gwybod y bydda i’n aros ac yn parhau i fod gyda chi i gyd er mwyn ichi wneud cynnydd a llawenhau yn y ffydd, 26 fel y gall eich llawenydd orlifo yng Nghrist Iesu o fy achos i pan fydda i gyda chi unwaith eto.
27 Rydw i ond eisiau ichi ymddwyn* mewn ffordd sy’n deilwng o’r newyddion da am y Crist, fel fy mod i, os bydda i’n dod i’ch gweld chi neu os bydda i’n absennol, yn gallu clywed amdanoch chi a dysgu eich bod chi’n sefyll yn gadarn yn un ysbryd, ag un enaid,* gan ymdrechu ochr yn ochr dros ffydd y newyddion da, 28 heb eich dychryn mewn unrhyw ffordd gan eich gwrthwynebwyr. Mae’r union beth hwn yn profi iddyn nhw y byddan nhw’n cael eu dinistrio, ond yn profi i chi y byddwch chi’n cael eich achub; ac mae hyn yn dod oddi wrth Dduw. 29 Oherwydd rhoddwyd i chi’r fraint er mwyn Crist, nid yn unig i roi eich ffydd ynddo ond hefyd i ddioddef drosto. 30 Oherwydd rydych chi’n wynebu’r un frwydr y gwelsoch chi fi yn ei hwynebu, ac rydych chi nawr yn clywed fy mod i’n ei hwynebu o hyd.