LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Genesis 20
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Genesis

      • Achub Sara rhag Abimelech (1-18)

Genesis 20:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

Genesis 20:4

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, nid oedd wedi cael cyfathrach rywiol â hi.

  • *

    Neu “yn gyfiawn.”

Genesis 20:18

Troednodiadau

  • *

    Neu “holl fenywod.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Genesis 20:1-18

Genesis

20 Nawr symudodd Abraham ei wersyll oddi yno i ardal y Negef a dechrau byw rhwng Cades a Sur. Tra oedd yn byw yn Gerar, 2 dyma Abraham yn dweud eto ynglŷn â’i wraig Sara: “Fy chwaer i ydy hi.” Felly, anfonodd brenin Abimelech o Gerar am Sara a’i chymryd hi. 3 Ar ôl hynny, daeth Duw at Abimelech mewn breuddwyd yn ystod y nos a dweud wrtho: “Edrycha! Rwyt ti cystal â dyn marw oherwydd y ddynes* rwyt ti wedi ei chymryd, gan ei bod hi’n briod ac yn perthyn i ddyn arall.” 4 Fodd bynnag, doedd Abimelech ddim wedi mynd yn agos ati hi.* Felly dywedodd: “Jehofa, wyt ti’n mynd i ladd cenedl sy’n wir yn ddiniwed?* 5 Onid oedd ef wedi dweud wrtho i, ‘Fy chwaer i ydy hi,’ ac onid oedd hi wedi dweud hefyd, ‘Fy mrawd i ydy ef’? Fe wnes i hyn â chalon onest a dwylo diniwed.” 6 Yna dywedodd y gwir Dduw wrtho yn y freuddwyd: “Rydw i’n gwybod dy fod ti wedi gwneud hyn â chalon onest, felly fe wnes i dy ddal di’n ôl rhag pechu yn fy erbyn i. Dyna pam wnes i ddim gadael iti ei chyffwrdd hi. 7 Nawr, rho wraig y dyn yn ôl, oherwydd ei fod yn broffwyd, a bydd ef yn gweddïo drostot ti ac fe fyddi di’n parhau i fyw. Ond os nad wyt ti’n ei rhoi hi’n ôl, mae’n rhaid iti wybod y byddi di’n siŵr o farw, ti a phawb yn dy dŷ.”

8 Cododd Abimelech yn gynnar yn y bore a galw ei holl weision a dweud wrthyn nhw am yr holl bethau hyn, a daeth ofn mawr arnyn nhw. 9 Yna galwodd Abimelech am Abraham a dweud wrtho: “Beth rwyt ti wedi ei wneud inni? Pa bechod rydw i wedi ei gyflawni yn dy erbyn di sydd wedi achosi iti ddod â phechod mor fawr arna i a fy nheyrnas? Dydy’r hyn rwyt ti wedi ei wneud imi ddim yn iawn.” 10 Ac aeth Abimelech yn ei flaen i ddweud wrth Abraham: “Beth oedd yn mynd trwy dy feddwl di pan wnest ti’r peth hwn?” 11 Atebodd Abraham: “Oherwydd fy mod i wedi dweud wrtho i fy hun, ‘Heb os, does neb yn ofni Duw yn y lle hwn, ac fe fyddan nhw’n fy lladd i o achos fy ngwraig.’ 12 A beth bynnag, mae’n wir ei bod hi’n chwaer imi, merch fy nhad ond nid merch fy mam, ac fe ddaeth hi’n wraig imi. 13 Felly pan achosodd Duw imi grwydro o dŷ fy nhad, dywedais wrthi: ‘Dyma sut y dylet ti ddangos cariad ffyddlon tuag ata i: Le bynnag yr awn ni, dyweda hyn amdana i, “Fy mrawd i ydy hwn.”’”

14 Yna cymerodd Abimelech ddefaid a gwartheg a gweision a morynion a’u rhoi nhw i Abraham, ac fe roddodd ei wraig Sara yn ôl iddo. 15 Dywedodd Abimelech hefyd: “Edrycha ar fy nhir. Fe gei di fyw le bynnag rwyt ti’n dymuno.” 16 A dywedodd wrth Sara: “Edrycha, rydw i’n rhoi 1,000 o ddarnau arian i dy frawd. Mae’n arwydd i bawb sydd gyda ti ac i bawb arall dy fod ti’n ddieuog, a dy fod ti heb wneud unrhyw beth o’i le.” 17 A dechreuodd Abraham erfyn ar y gwir Dduw mewn gweddi, ac fe wnaeth Duw iacháu Abimelech a’i wraig a’i gaethferched, a dechreuon nhw gael plant; 18 oherwydd bod Jehofa wedi achosi i holl ferched* tŷ Abimelech fod yn ddiffrwyth o achos Sara, gwraig Abraham.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu