Actau’r Apostolion
28 Ar ôl inni gyrraedd y lan yn saff, dysgon ni mai enw’r ynys oedd Malta. 2 A dangosodd y trigolion lleol* garedigrwydd mawr tuag aton ni. Gwnaethon nhw gynnau tân a’n derbyn ni i gyd yn garedig oherwydd y glaw oedd yn disgyn ac oherwydd yr oerni. 3 Ond pan oedd Paul yn casglu swp o frigau a’i osod ar y tân, daeth neidr wenwynig allan oherwydd y gwres a brathu ei law a glynu wrtho. 4 Pan welodd y trigolion lleol y neidr wenwynig yn hongian o’i law, dechreuon nhw ddweud wrth ei gilydd: “Mae’n rhaid bod y dyn hwn yn llofrudd, ac er ei fod wedi dod allan o’r môr yn saff, dydy Cyfiawnder* ddim wedi caniatáu iddo barhau i fyw.” 5 Fodd bynnag, gwnaeth ef ysgwyd y neidr i ffwrdd i mewn i’r tân heb iddo gael ei niweidio ganddi. 6 Ond roedden nhw’n disgwyl iddo chwyddo neu syrthio’n farw yn sydyn. Ar ôl iddyn nhw ddisgwyl am amser hir a gweld nad oedd unrhyw beth drwg wedi digwydd iddo, newidion nhw eu meddwl a dechrau dweud ei fod yn dduw.
7 Nawr yng nghyffiniau’r lle hwnnw roedd ’na diroedd a oedd yn perthyn i brif ddyn yr ynys, a’i enw oedd Poplius, a gwnaeth ef ein croesawu ni a gadael inni aros yno am dri diwrnod. 8 Digwydd bod, roedd tad Poplius yn gorwedd yn ei wely yn sâl, yn dioddef o dwymyn a dysentri, ac aeth Paul i mewn ato a gweddïo, rhoi ei ddwylo arno, a’i iacháu. 9 Ar ôl i hyn ddigwydd, dechreuodd gweddill y bobl ar yr ynys a oedd yn sâl hefyd ddod ato i gael eu hiacháu. 10 Hefyd dangoson nhw eu gwerthfawrogiad drwy roi llawer o anrhegion inni, a phan oedden ni ar fin hwylio oddi yno, dyma nhw’n llwytho’r llong â beth bynnag roedden ni’n ei angen.
11 Dri mis yn ddiweddarach gwnaethon ni hwylio mewn llong a cherflun o Feibion Zeus arni. Llong o Alecsandria oedd hon, ac roedd hi wedi treulio’r gaeaf yn yr ynys. 12 Gwnaethon ni angori ym mhorthladd Syracwsa, ac arhoson ni yno am dri diwrnod; 13 oddi yno aethon ni ymlaen a chyrraedd Rhegium. Diwrnod yn ddiweddarach cododd gwynt o’r de ac aethon ni i mewn i Puteoli ar yr ail ddiwrnod. 14 Yma daethon ni o hyd i frodyr a chawson ni ein hannog i aros gyda nhw am saith diwrnod, ac felly aethon ni tuag at Rufain. 15 Pan glywodd y brodyr yno y newyddion amdanon ni, daethon nhw mor bell â Marchnad Apius a’r Tair Tafarn i gwrdd â ni. Wrth iddo eu gweld nhw, rhoddodd Paul ddiolch i Dduw a chododd ei galon. 16 Pan aethon ni i mewn i Rufain o’r diwedd, cafodd Paul ganiatâd i aros ar ei ben ei hun gyda milwr yn ei warchod.
17 Fodd bynnag, dridiau’n ddiweddarach galwodd ynghyd brif ddynion yr Iddewon. Pan oedden nhw wedi dod at ei gilydd, dywedodd wrthyn nhw: “Ddynion, frodyr, er nad oeddwn i wedi gwneud dim byd yn erbyn fy mhobl nac yn erbyn arferion ein cyndadau, ces i fy nhrosglwyddo yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo’r Rhufeiniaid. 18 Ac ar ôl iddyn nhw fy holi, roedden nhw eisiau fy ngollwng yn rhydd, oherwydd doedd ’na ddim sail dros fy rhoi i farwolaeth. 19 Ond pan wnaeth yr Iddewon wrthwynebu hynny, roedd yn rhaid imi apelio at Gesar, ond nid oherwydd bod gen i unrhyw gyhuddiad yn erbyn fy nghenedl. 20 Felly am y rheswm hwn gwnes i ofyn i’ch gweld chi ac i siarad â chi, oherwydd dros obaith Israel mae gen i’r gadwyn hon o fy nghwmpas i.” 21 Dywedon nhw wrtho: “Dydyn ni ddim wedi derbyn llythyrau amdanat ti o Jwdea, a dydy’r un o’r brodyr a ddaeth oddi yno wedi adrodd na dweud unrhyw beth drwg amdanat ti. 22 Ond rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n briodol i glywed gen ti beth rwyt ti’n ei feddwl, oherwydd ynglŷn â’r sect hon, mae pobl ym mhobman yn siarad yn ei herbyn.”
23 Nawr gwnaethon nhw drefnu diwrnod i gwrdd ag ef, a daeth mwy ohonyn nhw ato yn ei lety. Ac o fore tan nos, roedd ef yn esbonio’r mater iddyn nhw drwy dystiolaethu’n drylwyr am Deyrnas Dduw, a cheisio eu perswadio nhw i gredu yn Iesu ar sail Cyfraith Moses a’r Proffwydi. 24 Dechreuodd rhai gredu yn y pethau a ddywedodd ef; doedd eraill ddim yn credu. 25 Felly oherwydd eu bod nhw’n anghytuno â’i gilydd, dechreuon nhw adael, a gwnaeth Paul y sylw hwn:
“Yn addas iawn, gwnaeth yr ysbryd glân siarad â’ch cyndadau drwy’r proffwyd Eseia, 26 gan ddweud, ‘Dos at y bobl hyn a dweud: “Byddwch yn wir yn clywed ond nid ar unrhyw gyfri yn deall, a byddwch yn wir yn edrych ond nid ar unrhyw gyfri yn gweld. 27 Oherwydd mae calon y bobl hyn wedi troi’n galed, ac maen nhw wedi clywed â’u clustiau ond heb ateb, ac maen nhw wedi cau eu llygaid, fel na allan nhw byth weld â’u llygaid a chlywed â’u clustiau a deall â’u calonnau a throi’n ôl a chael eu hiacháu gen i.”’ 28 Felly dylech chi i gyd wybod bod yr achubiaeth hon oddi wrth Dduw wedi cael ei hanfon allan at y cenhedloedd; byddan nhw’n sicr o wrando arni.” 29 ——
30 Felly arhosodd ef yno am ddwy flynedd gyfan mewn tŷ roedd ef yn ei rentu, a byddai’n croesawu’n garedig bawb a ddaeth ato, 31 yn pregethu iddyn nhw am Deyrnas Dduw ac yn eu dysgu nhw am yr Arglwydd Iesu Grist yn hollol agored,* heb rwystr.