Lefiticus
7 “‘Dyma gyfraith yr offrwm dros euogrwydd: Mae’n rhywbeth sanctaidd iawn. 2 Bydd yr offrwm dros euogrwydd yn cael ei ladd yn yr un lle ag y mae’r offrymau llosg yn cael eu lladd, a dylai’r gwaed gael ei daenellu ar bob ochr i’r allor. 3 Fe fydd yr offeiriad yn cyflwyno’r holl fraster, gan gynnwys y braster sydd ar y cynffon, y braster sy’n gorchuddio’r perfeddion, 4 a’r ddwy aren ynghyd â’u braster sy’n agos at y lwynau. Fe fydd hefyd yn tynnu’r braster sydd ar yr iau ynghyd â’r arennau. 5 Yna fe fydd yn gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa. Mae’n offrwm dros euogrwydd. 6 Bydd pob gwryw ymhlith yr offeiriaid yn ei fwyta, a dylai gael ei fwyta mewn lle sanctaidd. Mae’n rhywbeth sanctaidd iawn. 7 Mae’r gyfraith ynglŷn â’r offrwm dros bechod hefyd yn berthnasol i’r offrwm dros euogrwydd; mae’n perthyn i’r offeiriad sy’n ei aberthu ar gyfer maddeuant pechodau.
8 “‘Pan fydd yr offeiriad yn cyflwyno’r offrwm llosg ar ran rhywun arall, bydd croen yr offrwm llosg a gafodd ei gyflwyno i’r offeiriad yn eiddo iddo.
9 “‘Bydd pob offrwm grawn sy’n cael ei bobi yn y ffwrn,* neu sy’n cael ei baratoi yn y badell neu ar y gridyll, yn perthyn i’r offeiriad sy’n ei gyflwyno. Fe fydd yn eiddo iddo. 10 Ond bydd pob offrwm grawn sydd wedi ei gymysgu ag olew neu sy’n sych yn perthyn i feibion Aaron i gyd; bydd pob un ohonyn nhw’n cael rhan gyfartal.
11 “‘Nawr dyma gyfraith yr aberth heddwch y gallai rhywun ei gyflwyno i Jehofa: 12 Os bydd ef yn cyflwyno’r aberth er mwyn dangos ei ddiolchgarwch, yna, ynghyd â’i aberth diolchgarwch, dylai gyflwyno torthau siâp modrwy sydd heb furum wedi eu cymysgu ag olew, bara croyw tenau sydd ag olew arno, a hefyd torthau siâp modrwy wedi eu gwneud â’r blawd* gorau sydd wedi ei gymysgu’n dda ag olew. 13 Bydd yn cyflwyno ei offrwm ynghyd â’r torthau siâp modrwy sy’n cynnwys burum, a’i aberthau heddwch, sef yr aberth diolchgarwch. 14 O blith y rhain dylai ef gyflwyno un o bob offrwm fel offrwm sanctaidd i Jehofa; byddan nhw’n eiddo i’r offeiriad sy’n taenellu gwaed yr aberthau heddwch. 15 Mae’n rhaid i gig yr aberthau heddwch, sef yr aberth diolchgarwch, gael ei fwyta ar y diwrnod mae’r offeiriad yn ei offrymu. Ni ddylai gadw dim o’r aberth tan y bore.
16 “‘Os yw’r aberth mae’n ei gynnig yn llw neu’n offrwm gwirfoddol, bydd rhaid iddo gael ei fwyta ar yr un diwrnod ag y mae’n cael ei gyflwyno, a bydd yr hyn sydd ar ôl yn gallu cael ei fwyta y diwrnod wedyn hefyd. 17 Ond bydd beth bynnag sydd ar ôl o’r aberth ar y trydydd diwrnod yn cael ei losgi â thân. 18 Fodd bynnag, os bydd unrhyw ran o’i aberth heddwch yn cael ei fwyta ar y trydydd diwrnod, ni fydd yr un sy’n ei gyflwyno yn cael ei dderbyn â chymeradwyaeth. Ni fydd yn elwa ohono; mae’n rhywbeth ffiaidd, a bydd y person sy’n bwyta ychydig ohono yn atebol am ei bechod. 19 Ni ddylai cig sy’n cyffwrdd ag unrhyw beth aflan gael ei fwyta. Mae’n rhaid iddo gael ei losgi â thân. Mae pawb sy’n lân yn gallu bwyta’r cig glân.
20 “‘Ond dylai unrhyw un aflan sy’n bwyta cig yr aberth heddwch sydd ar gyfer Jehofa gael ei roi i farwolaeth.* 21 Os ydy rhywun yn cyffwrdd ag unrhyw beth aflan, naill ai aflendid corfforol, neu anifail aflan, neu unrhyw beth arall sy’n aflan a ffiaidd, ac mae’n bwyta ychydig o’r aberth heddwch sydd ar gyfer Jehofa, dylai’r person hwnnw gael ei ladd.’”*
22 Aeth Jehofa ymlaen i siarad â Moses, gan ddweud: 23 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Ni ddylech chi fwyta unrhyw fraster sy’n dod oddi ar darw neu hwrdd* ifanc neu afr. 24 Mae braster anifail sydd wedi marw neu fraster anifail sydd wedi cael ei ladd gan anifail arall yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall, ond peidiwch byth â’i fwyta. 25 Oherwydd dylai unrhyw un sy’n bwyta braster offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa gael ei ladd.*
26 “‘Peidiwch â bwyta unrhyw waed ble bynnag rydych chi’n byw, naill ai gwaed adar neu waed anifeiliaid. 27 Mae’n rhaid i unrhyw un* sy’n bwyta unrhyw waed gael ei roi i farwolaeth.’”*
28 Aeth Jehofa ymlaen i siarad â Moses, gan ddweud: 29 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Bydd pwy bynnag sy’n cyflwyno ei aberth heddwch i Jehofa yn dod â rhan o’i aberth o flaen Jehofa fel offrwm iddo. 30 Dylai ef ei hun ddod â’r braster ynghyd â’r frest fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, ac fe fydd yn ei chwifio yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. 31 Bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi ar y braster ar yr allor, ond bydd y frest yn perthyn i Aaron a’i feibion.
32 “‘Byddwch chi’n rhoi coes dde eich aberthau heddwch i’r offeiriad fel offrwm sanctaidd. 33 Bydd mab Aaron, yr un sy’n cyflwyno gwaed yr aberthau heddwch a’r braster, yn cymryd y goes dde fel ei ran ef. 34 Oherwydd rydw i’n cymryd brest yr offrwm chwifio a choes yr offrwm sanctaidd oddi wrth aberthau heddwch yr Israeliaid, ac rydw i’n eu rhoi nhw i Aaron yr offeiriad a’i feibion fel deddf barhaol ar gyfer yr Israeliaid.
35 “‘Dyma beth roedd rhaid ei neilltuo ar gyfer yr offeiriaid o blith offrymau Jehofa sy’n cael eu gwneud drwy dân, ar gyfer Aaron a’i feibion, ar y diwrnod y cawson nhw eu cyflwyno i wasanaethu fel offeiriaid i Jehofa. 36 Gorchmynnodd Jehofa i’r Israeliaid roi rhan o’u haberthau i’r offeiriaid ar y diwrnod y cawson nhw eu heneinio. Mae hyn yn ddeddf barhaol ar gyfer eu cenedlaethau.’”
37 Dyna’r gyfraith ynglŷn â’r offrwm llosg, yr offrwm grawn, yr offrwm dros bechod, yr offrwm dros euogrwydd, yr aberth sy’n cael ei offrymu er mwyn penodi’r offeiriaid, a’r aberth heddwch, 38 yn union fel gorchmynnodd Jehofa i Moses ar Fynydd Sinai ar y dydd y gorchmynnodd i’r Israeliaid gyflwyno eu hoffrymau i Jehofa yn anialwch Sinai.