LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Cronicl 21
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Cronicl

      • Jehoram, brenin Jwda (1-11)

      • Neges ysgrifenedig Elias (12-15)

      • Diwedd teyrnasiad Jehoram (16-20)

2 Cronicl 21:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Jehosaffat i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

2 Cronicl 21:17

Troednodiadau

  • *

    Neu “ym mhalas y brenin.”

  • *

    Hefyd yn cael ei alw’n Ahaseia.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Cronicl 21:1-20

Ail Cronicl

21 Yna bu farw Jehosaffat* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le. 2 Ei frodyr, meibion Jehosaffat, oedd Asareia, Jehiel, Sechareia, Asareia, Michael, a Seffatia; roedd y rhain i gyd yn feibion i Jehosaffat brenin Israel. 3 Ac roedd eu tad wedi rhoi iddyn nhw lawer o anrhegion o arian ac aur, ynghyd â phethau gwerthfawr, a dinasoedd caerog yn Jwda; ond rhoddodd y deyrnas i Jehoram, oherwydd ef oedd y cyntaf-anedig.

4 Unwaith i Jehoram gymryd rheolaeth o deyrnas ei dad, cryfhaodd ei awdurdod drwy ladd ei frodyr i gyd â’r cleddyf, yn ogystal â rhai o dywysogion Israel. 5 Roedd Jehoram yn 32 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem. 6 Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel, yn union fel roedd teulu Ahab wedi gwneud, oherwydd roedd merch Ahab wedi dod yn wraig iddo; a pharhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. 7 Ond doedd Jehofa ddim eisiau dod â dinistr ar dŷ Dafydd oherwydd y cyfamod roedd ef wedi ei wneud â Dafydd, gan ei fod wedi addo rhoi lamp iddo ef a’i feibion am byth.

8 Yn nyddiau Jehoram, gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a dewis brenin arnyn nhw eu hunain. 9 Felly croesodd Jehoram drosodd gyda’i benaethiaid a’i gerbydau i gyd, a chododd yn ystod y nos a threchu’r Edomiaid a phenaethiaid y cerbydau a oedd yn ei amgylchynu. 10 Ond mae Edom wedi parhau i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw. Gwnaeth Libna hefyd wrthryfela yn erbyn Jehoram bryd hynny, am ei fod wedi cefnu ar Jehofa, Duw ei gyndadau. 11 Roedd ef hefyd wedi adeiladu uchelfannau ar fynyddoedd Jwda er mwyn achosi i bobl Jerwsalem eu puteinio eu hunain yn ysbrydol, a gwnaeth ef arwain Jwda ar gyfeiliorn.

12 Yn y pen draw daeth neges ysgrifenedig at Jehoram oddi wrth Elias y proffwyd, yn dweud: “Dyma beth mae Jehofa, Duw Dafydd dy gyndad, yn ei ddweud, ‘Dwyt ti ddim wedi dilyn esiampl dy dad Jehosaffat, nac esiampl Asa brenin Jwda. 13 Ond rwyt ti wedi efelychu esiampl brenhinoedd Israel ac wedi achosi i Jwda a phobl Jerwsalem eu puteinio eu hunain yn ysbrydol, fel puteindra tŷ Ahab, a gwnest ti hyd yn oed ladd dy frodyr dy hun, teulu dy dad, a oedd yn well na ti. 14 Felly bydd Jehofa yn cosbi dy bobl, dy blant, a dy wragedd yn llym, ac yn dinistrio popeth sydd gen ti. 15 Byddi di’n mynd yn sâl yn aml, ac yn dioddef ddydd ar ôl dydd o glefyd yn dy berfeddion, nes i dy berfeddion ddod allan oherwydd y clefyd.’”

16 Yna dyma Jehofa yn achosi i’r Philistiaid a’r Arabiaid a oedd yn byw yn agos at yr Ethiopiaid godi yn erbyn Jehoram. 17 Felly gwnaethon nhw ymosod ar Jwda, gan wthio eu ffordd i mewn, a chymryd i ffwrdd bopeth a oedd yn nhŷ’r brenin* yn ogystal â’i feibion a’i wragedd. Ei fab ieuengaf, Jehoahas,* oedd yr unig fab y gwnaethon nhw ei adael ar ôl. 18 Ac ar ôl hyn i gyd, gwnaeth Jehofa ei daro â chlefyd yn ei berfeddion nad oedd yn bosib ei iacháu. 19 Beth amser wedyn, ar ôl dwy flynedd lawn, daeth ei berfeddion allan oherwydd ei glefyd, a bu farw tra oedd yn dioddef yn ofnadwy oherwydd ei glefyd; ac ni wnaeth ei bobl gynnau tân i’w anrhydeddu, fel y gwnaethon nhw ar gyfer ei gyndadau. 20 Roedd yn 32 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem. Doedd neb yn ei golli ar ôl iddo farw. Felly gwnaethon nhw ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond nid ym meddau’r brenhinoedd.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu