GENESIS
1 Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.
2 Nawr roedd y ddaear yn ddi-siâp ac yn wag, ac roedd ’na dywyllwch ar wyneb y dŵr dwfn,* ac roedd ysbryd* Duw yn symud o gwmpas uwchben wyneb y dyfroedd.
3 A dywedodd Duw: “Bydd ’na oleuni.”* Yna roedd ’na oleuni. 4 Ar ôl hynny gwelodd Duw fod y goleuni yn dda, a dechreuodd Duw wahanu’r goleuni oddi wrth y tywyllwch. 5 Dyma Duw’n galw’r goleuni yn Ddydd, ond yn galw’r tywyllwch yn Nos. Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y dydd* cyntaf.
6 Yna dywedodd Duw: “Bydd atmosffer* rhwng y dyfroedd, a bydd y dyfroedd yn cael eu gwahanu oddi wrth y dyfroedd.” 7 Yna aeth Duw ymlaen i greu’r atmosffer ac i wahanu’r dyfroedd o dan yr atmosffer oddi wrth y dyfroedd uwchben yr atmosffer. A dyna ddigwyddodd. 8 Dyma Duw’n galw’r atmosffer yn Nef.* Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, yr ail ddydd.
9 Yna dywedodd Duw: “Bydd y dyfroedd o dan y nefoedd yn cael eu casglu i mewn i un lle, a bydd tir sych yn ymddangos.” A dyna ddigwyddodd. 10 Galwodd Duw y tir sych yn Ddaear, ond galwodd y dyfroedd, a oedd wedi casglu at ei gilydd, yn Foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. 11 Yna dywedodd Duw: “Bydd y ddaear yn achosi i laswellt* dyfu ynghyd â phlanhigion sy’n cynhyrchu hadau, a choed ffrwythau yn ôl eu mathau, sy’n dwyn ffrwyth â hadau ar y ddaear.” A dyna ddigwyddodd. 12 A dechreuodd y ddaear gynhyrchu glaswellt,* planhigion sy’n cynhyrchu hadau, a choed ffrwythau â hadau, yn ôl eu mathau. Yna gwelodd Duw fod hyn yn dda. 13 Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y trydydd dydd.
14 Yna dywedodd Duw: “Bydd goleuadau yn yr awyr* i wahanu’r dydd oddi wrth y nos, a byddan nhw’n arwyddion ar gyfer y tymhorau ac ar gyfer dyddiau a blynyddoedd. 15 Byddan nhw’n oleuadau yn yr awyr i ddisgleirio ar y ddaear.” A dyna ddigwyddodd. 16 Ac aeth Duw ymlaen i wneud y ddau olau mawr, y golau mwyaf i reoli’r dydd a’r golau lleiaf i reoli’r nos, a hefyd creodd y sêr. 17 Felly dyma Duw’n eu rhoi nhw yn yr awyr i ddisgleirio ar y ddaear 18 ac i reoli yn ystod y dydd ac yn ystod y nos ac i wahanu’r goleuni oddi wrth y tywyllwch. Yna gwelodd Duw fod hyn yn dda. 19 Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y pedwerydd dydd.
20 Yna dywedodd Duw: “Bydd y dyfroedd yn llawn o greaduriaid* byw, a bydd y creaduriaid sy’n hedfan yn hedfan uwchben y ddaear ar draws yr awyr.” 21 A dyma Duw’n creu, yn ôl eu mathau, greaduriaid mawr y môr, a’r holl greaduriaid byw sy’n symud ac sy’n nofio gyda’i gilydd gan lenwi’r dyfroedd, a phob creadur ag adenydd sy’n hedfan. A gwelodd Duw fod hyn yn dda. 22 Gyda hynny dyma Duw’n eu bendithio nhw, gan ddweud: “Byddwch yn ffrwythlon ac amlhewch a llanwch ddyfroedd y môr, a bydd y creaduriaid sy’n hedfan yn amlhau yn y ddaear.” 23 Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y pumed dydd.
24 Yna dywedodd Duw: “Bydd ’na greaduriaid byw* ar y ddaear yn ôl eu mathau, anifeiliaid domestig ac anifeiliaid sy’n ymlusgo* ac anifeiliaid gwyllt y ddaear yn ôl eu mathau.” A dyna ddigwyddodd. 25 Ac aeth Duw ymlaen i greu anifeiliaid gwyllt y ddaear yn ôl eu mathau a’r anifeiliaid domestig yn ôl eu mathau a’r holl anifeiliaid sy’n ymlusgo ar y ddaear yn ôl eu mathau. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
26 Yna dywedodd Duw: “Gad inni wneud dyn ar ein delw ni, i fod yn debyg inni, ac i reoli dros yr holl ddaear, a physgod y môr, a’r anifeiliaid sy’n hedfan yn y nefoedd, a’r anifeiliaid domestig, a phob anifail sy’n ymlusgo ac sy’n symud ar y ddaear.” 27 Ac aeth Duw ymlaen i greu’r dyn ar ei ddelw, ar ddelw Duw y creodd ef y dyn; yn wryw a benyw y creodd ef nhw. 28 Ar ben hynny, dyma Duw’n eu bendithio nhw, ac yn dweud wrthyn nhw: “Byddwch yn ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a gofalwch amdani, a rheolwch dros bysgod y môr, a’r creaduriaid sy’n hedfan yn y nefoedd, a phob creadur byw sy’n symud ar y ddaear.”
29 Yna dywedodd Duw: “Dyma fi wedi rhoi ichi bob planhigyn sy’n cynhyrchu had ar wyneb yr holl ddaear a phob coeden ffrwyth sy’n cynhyrchu hadau. Byddan nhw’n fwyd ichi. 30 Ac i bob anifail gwyllt ar y ddaear ac i bob creadur sy’n hedfan yn y nefoedd ac i bopeth sy’n symud ar y ddaear ac sydd â bywyd ynddo,* rydw i wedi rhoi’r holl blanhigion gwyrdd yn fwyd.” A dyna ddigwyddodd.
31 Ar ôl hynny gwelodd Duw bopeth roedd wedi ei wneud, ac edrycha! roedd yn dda iawn. Ac roedd ’na noswaith ac roedd ’na fore, y chweched dydd.
2 Felly cafodd y nefoedd a’r ddaear a phopeth ynddyn nhw* eu gorffen. 2 Ac erbyn y seithfed dydd, gorffennodd Duw’r gwaith roedd wedi bod yn ei wneud, a dechreuodd orffwys ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, y gwaith roedd wedi bod yn ei wneud. 3 Ac fe aeth Duw yn ei flaen i fendithio’r seithfed dydd a chyhoeddi ei fod yn gysegredig, am mai ar y diwrnod hwnnw mae Duw wedi bod yn gorffwys oddi wrth yr holl waith mae wedi ei greu, popeth roedd wedi bwriadu ei wneud.
4 Dyma hanes y nefoedd a’r ddaear yn yr amser y cawson nhw eu creu, yn y dydd y gwnaeth Jehofa* Dduw ddaear a nefoedd.
5 Doedd dim planhigion y maes ar y ddaear eto a doedd llysiau’r maes ddim wedi dechrau blaguro, oherwydd doedd Jehofa Dduw ddim wedi gwneud iddi lawio ar y ddaear a doedd dim dyn i drin y tir. 6 Ond byddai niwl yn codi o’r ddaear, ac yn dyfrio holl wyneb y tir.
7 Ac aeth Jehofa Dduw yn ei flaen i ffurfio’r dyn allan o lwch y tir ac i chwythu i mewn i’w ffroenau anadl bywyd, a daeth y dyn yn berson byw.* 8 Ar ben hynny, plannodd Jehofa Dduw ardd yn Eden, tua’r dwyrain, a rhoi’r dyn roedd wedi ei ffurfio yno. 9 Felly gwnaeth Jehofa Dduw i bob coeden dyfu o’r tir, coed hardd a choed a oedd yn dda ar gyfer bwyd, a hefyd coeden y bywyd yng nghanol yr ardd a choeden y wybodaeth am dda a drwg.
10 Nawr roedd ’na afon yn llifo allan o Eden i ddyfrio’r ardd, ac oddi yno roedd hi’n rhannu’n bedair afon.* 11 Enw’r gyntaf ydy Pison; hon yw’r un sy’n amgylchynu holl wlad Hafila, lle mae ’na aur. 12 Mae aur y wlad honno yn dda. Mae gwm Bdeliwm a’r gem onics yno hefyd. 13 Enw’r ail afon ydy Gihon; hon yw’r un sy’n amgylchynu holl wlad Cus.* 14 Enw’r drydedd afon ydy Hidecel;* hon yw’r un sy’n mynd i’r ochr ddwyreiniol o Asyria. A’r bedwaredd afon ydy Ewffrates.
15 Cymerodd Jehofa Dduw y dyn a’i setlo yng ngardd Eden i’w thrin ac i ofalu amdani. 16 Hefyd, rhoddodd Jehofa Dduw y gorchymyn hwn i’r dyn: “Cei di fwyta a digoni ar bob coeden yn yr ardd. 17 Ond chei di ddim bwyta o goeden y wybodaeth am dda a drwg, oherwydd byddi di’n sicr o farw yn y dydd y byddi di’n bwyta ohoni.”
18 Yna dywedodd Jehofa Dduw: “Dydy hi ddim yn beth da i’r dyn barhau i fod ar ei ben ei hun. Rydw i’n mynd i wneud helpwr iddo, fel partner priodol iddo.”* 19 Nawr roedd Jehofa Dduw wedi bod yn ffurfio o’r ddaear holl anifeiliaid gwyllt y maes a’r holl greaduriaid sy’n hedfan yn y nefoedd, a dechreuodd ddod â nhw at y dyn i weld beth fyddai’n galw pob un ohonyn nhw; a beth bynnag y byddai’r dyn yn galw pob creadur byw,* dyna oedd ei enw. 20 Felly rhoddodd y dyn enwau ar yr holl anifeiliaid domestig a’r holl greaduriaid sy’n hedfan yn y nefoedd a phob anifail gwyllt y maes, ond doedd gan y dyn ddim helpwr fel partner priodol iddo.* 21 Felly achosodd Jehofa Dduw i’r dyn gysgu’n drwm, a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o’i asennau ac yna cau’r cnawd dros ei lle. 22 A gwnaeth Jehofa Dduw ffurfio dynes* allan o’r asen roedd wedi ei chymryd o’r dyn, a daeth â hi at y dyn.
23 Yna dywedodd y dyn:
“Hon o’r diwedd ydy asgwrn o fy esgyrn
A chnawd o fy nghnawd.
Dynes* fydd hon yn cael ei galw,
Oherwydd o ddyn y cafodd hi ei chymryd.”
24 Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn glynu wrth* ei wraig, a byddan nhw’n dod yn un cnawd. 25 Ac roedd y ddau ohonyn nhw’n parhau i fod yn noeth, y dyn a’i wraig; ond eto doedd ganddyn nhw ddim cywilydd.
3 Nawr y neidr* oedd y mwyaf pwyllog* o holl anifeiliaid gwyllt y maes roedd Jehofa Dduw wedi eu gwneud. Felly fe ddywedodd y neidr wrth y ddynes:* “Ydy Duw’n wir wedi dweud na chewch chi fwyta o bob coeden yn yr ardd?” 2 Ar hynny dywedodd y ddynes* wrth y neidr: “Rydyn ni’n cael bwyta ffrwyth o goed yr ardd. 3 Ond mae Duw wedi dweud am ffrwyth y goeden sydd yng nghanol yr ardd: ‘Peidiwch â bwyta’r ffrwyth, na, peidiwch â’i gyffwrdd; neu fe fyddwch chi’n marw.’” 4 Ar hynny dywedodd y neidr wrth y ddynes:* “Fyddwch chi’n bendant ddim yn marw. 5 Oherwydd mae Duw’n gwybod y bydd eich llygaid yn cael eu hagor ac y byddwch chi fel Duw, yn gwybod da a drwg, yn y dydd y byddwch chi’n bwyta ohoni.”
6 O ganlyniad, gwelodd y ddynes* fod y goeden yn dda ar gyfer bwyd a’i bod hi’n rhywbeth dymunol i’r llygaid, yn wir, roedd y goeden yn hardd i edrych arni. Felly dechreuodd hi gymryd o’i ffrwyth a’i fwyta. Ar ôl hynny, fe roddodd hefyd ychydig o’r ffrwyth i’w gŵr pan oedd ef gyda hi, a dechreuodd yntau fwyta o’r ffrwyth. 7 Yna cafodd llygaid y ddau ohonyn nhw eu hagor, a sylweddolon nhw eu bod nhw’n noeth. Felly dyma nhw’n gwnïo dail coeden ffigys at ei gilydd er mwyn cuddio eu noethni.*
8 Wedyn fe glywson nhw lais Jehofa Dduw tra oedd yn cerdded yn yr ardd tua’r adeg yn y dydd pan oedd yr awel oer yn chwythu,* a gwnaeth y dyn a’i wraig guddio o olwg Jehofa Dduw ymysg coed yr ardd. 9 Ac roedd Jehofa Dduw’n parhau i alw ar y dyn gan ofyn iddo: “Ble rwyt ti?” 10 O’r diwedd fe ddywedodd: “Fe wnes i glywed dy lais yn yr ardd, ond roeddwn i’n ofnus oherwydd fy mod i’n noeth, felly fe wnes i guddio.” 11 Ar hynny dywedodd Duw: “Pwy ddywedodd wrthot ti dy fod ti’n noeth? Wyt ti wedi bwyta o’r goeden y gwnes i orchymyn iti beidio â bwyta ohoni hi?” 12 Dywedodd y dyn: “Y ddynes* y gwnest ti ei rhoi i fod gyda mi, hi roddodd ffrwyth o’r goeden imi, felly dyma fi’n ei fwyta.” 13 Yna dywedodd Jehofa Dduw wrth y ddynes:* “Beth ydy hyn rwyt ti wedi ei wneud?” Atebodd y ddynes:* “Fe wnaeth y neidr fy nhwyllo i, felly fe wnes i fwyta.”
14 Yna dywedodd Jehofa Dduw wrth y neidr: “Oherwydd dy fod ti wedi gwneud hyn, allan o holl anifeiliaid domestig ac allan o holl anifeiliaid gwyllt y maes, rydw i’n dy felltithio di. Ar dy fol y byddi di’n mynd, a byddi di’n bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd. 15 A bydda i’n achosi i ti a’r ddynes* fod yn elynion ac i dy ddisgynyddion* di a’i disgynnydd* hi fod yn elynion. Bydd y disgynnydd hwnnw yn sathru* dy ben, a byddi di’n ei daro* ef yn y sawdl.”
16 Dywedodd wrth y ddynes:* “Bydda i’n gwneud i dy boenau geni fod yn llawer gwaeth; mewn poen y byddi di’n rhoi genedigaeth i blant, a byddi di’n dyheu am dy ŵr, a bydd ef yn arglwyddiaethu arnat ti.”
17 A dywedodd wrth Adda:* “Oherwydd dy fod ti wedi gwrando ar lais dy wraig a bwyta o’r goeden y gwnes i roi’r gorchymyn hwn iti amdani, ‘Paid â bwyta ohoni,’ rydw i’n mynd i felltithio’r tir o dy achos di. Mewn poen y byddi di’n bwyta ei gynnyrch holl ddyddiau dy fywyd. 18 Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir, a byddi di’n gorfod bwyta planhigion y maes. 19 Trwy chwys dy wyneb y byddi di’n bwyta bara* hyd nes iti fynd yn ôl i’r pridd, oherwydd allan ohono y cest ti dy gymryd. Oherwydd llwch wyt ti ac i’r llwch y byddi di’n mynd yn ôl.”
20 Ar ôl hyn dyma Adda yn enwi ei wraig yn Efa,* oherwydd y byddai hi’n dod yn fam i bob un byw. 21 A dyma Jehofa Dduw yn gwneud dillad hir o grwyn anifeiliaid i Adda a’i wraig eu gwisgo. 22 Yna dywedodd Jehofa Dduw: “Edrycha, mae’r dyn wedi dod fel un ohonon ni yn gwybod da a drwg. Nawr er mwyn iddo beidio ag estyn ei law allan a chymryd hefyd ffrwyth o goeden y bywyd a bwyta a byw am byth,—” 23 Ar hynny dyma Jehofa Dduw yn eu gyrru allan o ardd Eden i drin y tir y cafodd y dyn ei gymryd ohono. 24 Felly gyrrodd ef y dyn allan, ac i’r dwyrain o ardd Eden, gosododd y cerwbiaid a’r cleddyf fflamllyd a oedd yn troi’n barhaol i warchod y ffordd at goeden y bywyd.
4 Nawr cafodd Adda gyfathrach rywiol gyda’i wraig Efa, a daeth hi’n feichiog. Pan roddodd hi enedigaeth i Cain, dywedodd hi: “Rydw i wedi geni plentyn gwryw gyda help Jehofa.” 2 Yn hwyrach ymlaen dyma hi’n rhoi genedigaeth eto, i’w frawd Abel.
Bugail defaid oedd Abel, ond roedd Cain yn trin y tir. 3 Ar ôl i amser fynd heibio, daeth Cain â rhai o ffrwythau’r tir fel offrwm i Jehofa. 4 Ond daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf ei braidd, gan gynnwys eu braster. Er bod Abel a’i offrwm yn plesio Jehofa, 5 doedd Cain a’i offrwm ddim yn ei blesio o gwbl. Felly dyma Cain yn gwylltio’n lân ac yn digalonni. 6 Yna dywedodd Jehofa wrth Cain: “Pam rwyt ti mor ddig a digalon? 7 Os gwnei di droi at ddaioni, oni fyddi di’n fy mhlesio i? Ond os na wnei di droi at ddaioni, mae pechod yn llechu wrth y drws, ac mae’n dymuno dy reoli di; ond a fyddi di’n feistr arno?”
8 Ar ôl hynny dywedodd Cain wrth ei frawd Abel: “Gad inni fynd i’r cae.” Felly tra oedden nhw yn y cae, dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a’i ladd. 9 Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Jehofa wrth Cain: “Ble mae dy frawd Abel?” Dywedodd yntau: “Dydw i ddim yn gwybod. Ai fi sydd i fod i warchod fy mrawd?” 10 Ar hynny dyma Duw yn dweud: “Beth rwyt ti wedi ei wneud? Gwranda! Mae gwaed dy frawd yn gweiddi arna i o’r pridd. 11 Ac nawr rydw i’n dy felltithio di drwy dy alltudio o’r tir sydd wedi agor ei geg i dderbyn gwaed dy frawd o dy law di. 12 Pan fyddi di’n trin y tir, ni fydd yn rhoi ei gynnyrch yn ôl iti. Byddi di’n crwydro ac yn byw fel ffoadur yn y ddaear.” 13 Ar hynny dywedodd Cain wrth Jehofa: “Mae’r gosb am fy mhechod yn ormod imi ei chario. 14 Heddiw rwyt ti’n fy ngyrru i o’r wlad,* a fydda i ddim yn gallu dod yn agos atat ti; a bydda i’n crwydro ac yn byw fel ffoadur ar y ddaear, a bydd unrhyw un sy’n dod o hyd imi yn sicr o fy lladd i.” 15 Felly dywedodd Jehofa wrtho: “Am y rheswm hwnnw, bydd unrhyw un sy’n lladd Cain yn cael ei gosbi saith gwaith.”
Felly dyma Jehofa’n gosod* arwydd ar gyfer Cain fel na fyddai’n cael ei daro gan unrhyw un a fyddai’n dod o hyd iddo. 16 Yna aeth Cain i ffwrdd oddi wrth Jehofa a dechrau byw yng ngwlad yr Alltudiaeth,* i’r dwyrain o Eden.
17 Ar ôl hynny cafodd Cain gyfathrach rywiol gyda’i wraig, a daeth hi’n feichiog a rhoi genedigaeth i Enoch. Yna aeth ati i adeiladu dinas ac enwi’r ddinas ar ôl ei fab Enoch. 18 Yn hwyrach ymlaen daeth Enoch yn dad i Irad. A daeth Irad yn dad i Mehwiael, a daeth Mehwiael yn dad i Methwsael, a daeth Methwsael yn dad i Lamech.
19 Cymerodd Lamech ddwy wraig iddo’i hun. Enw’r gyntaf oedd Ada, ac enw’r ail oedd Sila. 20 Rhoddodd Ada enedigaeth i Jabal. Ef oedd sylfaenydd y rhai sy’n byw mewn pebyll ac sy’n cadw anifeiliaid. 21 Enw ei frawd oedd Jubal. Ef oedd sylfaenydd yr holl rai sy’n canu’r delyn a’r ffliwt.* 22 Hefyd, rhoddodd Sila enedigaeth i Tubal-cain, a oedd yn ffurfio pob math o offer o gopr a haearn. A chwaer Tubal-cain oedd Naama. 23 Yna cyfansoddodd Lamech y geiriau hyn ar gyfer ei wragedd Ada a Sila:
“Gwrandewch ar fy llais, chi wragedd Lamech;
Rhowch sylw i fy ngeiriau:
Dyn rydw i wedi ei ladd am fy anafu i,
Ie, dyn ifanc am fy nharo i.
24 Os bydd dial 7 gwaith am Cain,
Yna 77 gwaith am Lamech.”
25 Unwaith eto cafodd Adda gyfathrach rywiol gyda’i wraig, a rhoddodd hi enedigaeth i fab. Dyma hi’n ei alw’n Seth* oherwydd, fel dywedodd hi, “Mae Duw wedi penodi disgynnydd* arall imi yn lle Abel, oherwydd bod Cain wedi ei ladd.” 26 Hefyd cafodd Seth fab, a’i alw’n Enos. Yr adeg honno dechreuodd pobl alw ar enw Jehofa.
5 Dyma’r llyfr o hanes Adda. Yn y dydd y gwnaeth Duw greu Adda, gwnaeth Duw ef yn debyg iddo. 2 Yn wryw a benyw y creodd ef nhw. Ar y dydd y cawson nhw eu creu, dyma’n eu bendithio nhw a’u henwi nhw yn Ddynolryw.*
3 Gwnaeth Adda fyw am 130 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i fab ar ei ddelw ei hun, a oedd yr un ffunud ag ef, a dyma’n ei alw’n Seth. 4 Ar ôl dod yn dad i Seth, gwnaeth Adda fyw am 800 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 5 Felly roedd holl ddyddiau bywyd Adda yn 930 o flynyddoedd, ac yna bu farw.
6 Gwnaeth Seth fyw am 105 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Enos. 7 Ar ôl dod yn dad i Enos, gwnaeth Seth fyw am 807 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 8 Felly roedd holl ddyddiau Seth yn 912 o flynyddoedd, ac yna bu farw.
9 Gwnaeth Enos fyw am 90 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Cenan. 10 Ar ôl dod yn dad i Cenan, gwnaeth Enos fyw am 815 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 11 Felly roedd holl ddyddiau Enos yn 905 o flynyddoedd, ac yna bu farw.
12 Gwnaeth Cenan fyw am 70 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Mahalalel. 13 Ar ôl dod yn dad i Mahalalel, gwnaeth Cenan fyw am 840 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 14 Felly roedd holl ddyddiau Cenan yn 910 o flynyddoedd, ac yna bu farw.
15 Gwnaeth Mahalalel fyw am 65 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Jared. 16 Ar ôl dod yn dad i Jared, gwnaeth Mahalalel fyw am 830 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 17 Felly roedd holl ddyddiau Mahalalel yn 895 o flynyddoedd, ac yna bu farw.
18 Gwnaeth Jared fyw am 162 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Enoch. 19 Ar ôl dod yn dad i Enoch, gwnaeth Jared fyw am 800 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 20 Felly roedd holl ddyddiau Jared yn 962 o flynyddoedd, ac yna bu farw.
21 Gwnaeth Enoch fyw am 65 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Methwsela. 22 Ar ôl dod yn dad i Methwsela, gwnaeth Enoch barhau i gerdded gyda’r gwir Dduw* am 300 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 23 Felly roedd holl ddyddiau Enoch yn 365 o flynyddoedd. 24 Gwnaeth Enoch ddal ati i gerdded gyda’r gwir Dduw. Yna ni wnaeth neb ei weld mwyach, oherwydd bod Duw wedi ei gymryd.
25 Gwnaeth Methwsela fyw am 187 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Lamech. 26 Ar ôl dod yn dad i Lamech, gwnaeth Methwsela fyw am 782 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 27 Felly roedd holl ddyddiau Methwsela yn 969 o flynyddoedd, ac yna bu farw.
28 Gwnaeth Lamech fyw am 182 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i fab. 29 Galwodd ef yn Noa,* gan ddweud: “Bydd hwn yn dod â chysur* inni o’n llafur a’n gwaith caled oherwydd y tir mae Jehofa wedi ei felltithio.” 30 Ar ôl dod yn dad i Noa, gwnaeth Lamech fyw am 595 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched. 31 Felly roedd holl ddyddiau Lamech yn 777 o flynyddoedd, ac yna bu farw.
32 Ar ôl i Noa gyrraedd 500 mlwydd oed, daeth yn dad i Sem, Ham, a Jaffeth.
6 Nawr pan oedd nifer y dynion ar y ddaear yn dechrau cynyddu a merched yn cael eu geni iddyn nhw, 2 dechreuodd meibion y gwir Dduw* sylwi bod y merched* yn hardd. Felly dechreuon nhw gymryd yn wragedd unrhyw ferched* roedden nhw eisiau. 3 Yna dywedodd Jehofa: “Fydd fy ysbryd ddim yn goddef dyn am byth, oherwydd dim ond cnawd ydy ef.* Felly, bydd ef ond yn byw am 120 o flynyddoedd.”
4 Roedd y Neffilim* ar y ddaear yn y dyddiau hynny ac ar ôl hynny. Yn ystod yr adeg honno roedd meibion y gwir Dduw yn parhau i gael cyfathrach rywiol â’r merched,* a dyma nhw’n geni meibion iddyn nhw. Nhw oedd dynion cryf yr hen ddyddiau, y dynion enwog.
5 O ganlyniad, gwelodd Jehofa fod y ddaear yn llawn o ddrygioni dynion a bod pob tueddiad eu meddyliau a’u calonnau yn ddrwg drwy’r amser. 6 Roedd Jehofa’n difaru* ei fod wedi creu dynion ar y ddaear, ac roedd ei galon yn brifo.* 7 Felly dywedodd Jehofa: “Rydw i’n mynd i ddinistrio’r dynion rydw i wedi eu creu oddi ar wyneb y ddaear, dynion ynghyd ag anifeiliaid domestig, anifeiliaid sy’n ymlusgo, a chreaduriaid sy’n hedfan yn y nefoedd, oherwydd rydw i’n difaru fy mod i wedi eu creu nhw.” 8 Ond roedd Jehofa’n edrych yn ffafriol ar Noa.
9 Dyma hanes Noa.
Dyn cyfiawn oedd Noa. Profodd ei hun yn ddi-fai* ymhlith ei gyfoedion.* Roedd Noa’n cerdded gyda’r gwir Dduw. 10 Mewn amser daeth Noa’n dad i dri mab, Sem, Ham, a Jaffeth. 11 Ond roedd y ddaear wedi cael ei difetha yng ngolwg y gwir Dduw, ac roedd y ddaear yn llawn trais. 12 Yn wir, edrychodd Duw ar y ddaear, ac roedd wedi cael ei difetha; roedd yr holl bobl yn byw bywyd llwgr ar y ddaear.
13 Ar ôl hynny dywedodd Duw wrth Noa: “Rydw i wedi penderfynu cael gwared ar yr holl bobl, oherwydd mae’r ddaear yn llawn trais o’u hachos nhw, felly rydw i am eu dinistrio nhw a phopeth arall ar y ddaear. 14 Gwna i ti dy hun arch* o bren resinaidd. Byddi di’n gwneud ystafelloedd yn yr arch a defnyddio tar* i’w gorchuddio ar y tu mewn a’r tu allan. 15 Dyma sut dylet ti ei hadeiladu: Dylai’r arch fod yn 300 cufydd* o hyd, 50 cufydd o led, a 30 cufydd o uchder. 16 Gwna ffenest ar gyfer goleuni* i’r arch, un cufydd o’r top. Dylet ti roi drws yr arch yn ei hochr a’i gwneud hi’n dri llawr, yr isaf, y canol, a’r uchaf.
17 “Rydw i’n mynd i ddod â dyfroedd y dilyw ar y ddaear i ddinistrio pob peth sy’n anadlu* o dan y nefoedd. Bydd pob creadur byw ar y ddaear yn marw. 18 Ac rydw i’n sefydlu fy nghyfamod gyda ti, ac mae’n rhaid iti fynd i mewn i’r arch, ti, dy feibion, dy wraig, a gwragedd dy feibion gyda ti. 19 A dylet ti ddod â dau o bob math o anifail, sef gwryw a benyw, i mewn i’r arch er mwyn eu cadw nhw’n fyw gyda ti; 20 o’r creaduriaid sy’n hedfan yn ôl eu mathau, o’r anifeiliaid domestig yn ôl eu mathau, ac o’r holl anifeiliaid sy’n ymlusgo ar y ddaear yn ôl eu mathau, bydd dau o bob math yn mynd i mewn yno er mwyn iti eu cadw nhw’n fyw. 21 Mae’n rhaid iti fynd i gasglu pob math o fwyd, a’i gymryd i ti ac i’r anifeiliaid ei fwyta.”
22 Ac fe wnaeth Noa bopeth roedd Duw wedi ei orchymyn iddo. Fe wnaeth yn union felly.
7 Ar ôl hynny dywedodd Jehofa wrth Noa: “Dos i mewn i’r arch, ti a dy holl deulu, oherwydd fy mod i wedi gweld mai ti ydy’r un mwyaf cyfiawn ymhlith y genhedlaeth hon. 2 Mae’n rhaid iti gymryd gyda ti bob math o anifail glân bob yn saith,* y gwryw a’i gymar; a dim ond dau o bob anifail sydd ddim yn lân, y gwryw a’i gymar; 3 hefyd o bob creadur sy’n hedfan yn yr awyr bob yn saith,* yn wryw ac yn fenyw, er mwyn i’r creaduriaid hyn barhau i fyw ar wyneb yr holl ddaear. 4 Oherwydd mewn dim ond saith diwrnod, rydw i am wneud iddi lawio ar y ddaear am 40 diwrnod a 40 nos, a bydda i’n dileu oddi ar wyneb y ddaear bopeth byw rydw i wedi ei wneud.” 5 Yna fe wnaeth Noa bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddo.
6 Roedd Noa’n 600 mlwydd oed pan ddaeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear. 7 Felly aeth Noa, ynghyd â’i feibion, ei wraig, a gwragedd ei feibion, i mewn i’r arch cyn i ddyfroedd y dilyw ddod. 8 O bob anifail glân ac o bob anifail sydd ddim yn lân ac o bob creadur sy’n hedfan ac o bopeth sy’n symud ar y ddaear, 9 aethon nhw i mewn i’r arch at Noa bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, yn union fel roedd Duw wedi gorchymyn i Noa. 10 A saith diwrnod yn ddiweddarach daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear.
11 Yn y 600fed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail fis, ar yr ail ar bymtheg* o’r mis, ar y diwrnod hwnnw dyma holl ffynhonnau’r dyfnder dŵr enfawr yn byrstio a llifddorau’r nefoedd yn agor. 12 A gwnaeth hi fwrw glaw ar y ddaear am 40 diwrnod a 40 nos. 13 Ar yr union ddiwrnod hwnnw, aeth Noa i mewn i’r arch ynghyd â’i feibion, Sem, Ham, a Jaffeth, a hefyd ei wraig a thair gwraig ei feibion. 14 Aethon nhw i mewn gyda phob anifail gwyllt yn ôl ei fath, a phob anifail domestig yn ôl ei fath, a phob anifail sy’n ymlusgo ar y ddaear yn ôl ei fath, a phob creadur sy’n hedfan yn ôl ei fath, pob aderyn, pob creadur ag adenydd. 15 Roedden nhw’n parhau i fynd at Noa y tu mewn i’r arch, bob yn ddau, o bob creadur sy’n anadlu.* 16 Felly aethon nhw i mewn, yn wryw ac yn fenyw o bob creadur, yn union fel roedd Duw wedi gorchymyn iddo. Ar ôl hynny fe gaeodd Jehofa’r drws.
17 Gwnaeth y llifogydd barhau* am 40 diwrnod ar y ddaear, a gwnaeth y dyfroedd barhau i godi, nes i’r arch ddechrau nofio yn uchel uwchben y ddaear. 18 Roedd y dyfroedd yn cryfhau ac yn cryfhau ac yn dal i gynyddu’n fawr ar y ddaear, ond roedd yr arch yn nofio ar wyneb y dyfroedd. 19 Gwnaeth y dyfroedd gryfhau gymaint ar y ddaear nes i’r holl fynyddoedd uchel o dan yr holl nefoedd gael eu gorchuddio. 20 Cododd y dyfroedd 15 cufydd* uwchben y mynyddoedd.
21 Felly gwnaeth pob creadur byw* a oedd yn symud ar y ddaear farw—y creaduriaid sy’n hedfan, yr anifeiliaid domestig, yr anifeiliaid gwyllt, y creaduriaid sy’n heidio, a holl ddynolryw. 22 Gwnaeth popeth ar dir sych a oedd ag anadl bywyd* yn eu ffroenau farw. 23 Felly fe wnaeth Duw ddileu pob peth byw oddi ar wyneb y ddaear, yn cynnwys dyn, anifeiliaid, anifeiliaid sy’n ymlusgo, a’r creaduriaid sy’n hedfan yn yr awyr. Fe gawson nhw i gyd eu dileu o’r ddaear; dim ond Noa a’r rhai a oedd gydag ef yn yr arch a wnaeth oroesi. 24 A gwnaeth y dyfroedd barhau i orchuddio’r ddaear am 150 o ddyddiau.
8 Ond rhoddodd Duw sylw i Noa ac i’r holl anifeiliaid gwyllt a’r anifeiliaid domestig a oedd gydag ef yn yr arch, ac achosodd Duw i wynt chwythu dros y ddaear, a gwnaeth y dyfroedd ddechrau gostwng. 2 A dyma’r dyfroedd yn stopio llifo a’r nefoedd yn cael eu cau, felly stopiodd y glaw syrthio o’r nefoedd. 3 Yna dyma’r dyfroedd ar y ddaear yn dechrau mynd yn is fesul tipyn. Ar ôl 150 o ddyddiau, roedd y dyfroedd wedi gostwng. 4 Yn y seithfed mis, ar yr ail ddiwrnod ar bymtheg o’r mis, glaniodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. 5 Ac roedd y dyfroedd yn mynd yn is yn raddol hyd at y degfed mis. Yn y degfed mis, ar y cyntaf o’r mis, dyma bennau’r mynyddoedd yn ymddangos.
6 Felly ar ôl 40 diwrnod, agorodd Noa’r ffenest roedd ef wedi ei gwneud yn yr arch 7 ac anfon cigfran allan; roedd yn parhau i hedfan o gwmpas y tu allan a dod yn ôl, nes i’r dyfroedd sychu oddi ar y ddaear.
8 Yn nes ymlaen anfonodd golomen allan i weld a oedd y dyfroedd ar wyneb y ddaear wedi gostwng. 9 Wnaeth y golomen ddim dod o hyd i rywle i lanio, felly daeth yn ôl ato i mewn i’r arch oherwydd bod y dyfroedd yn dal i orchuddio wyneb yr holl ddaear. Felly estynnodd Noa ei law a dod â’r golomen i mewn i’r arch. 10 Arhosodd am saith diwrnod arall, ac unwaith eto anfonodd y golomen allan o’r arch. 11 Pan ddaeth y golomen ato ar ôl iddi ddechrau nosi, gwelodd fod ’na ddeilen olewydd a oedd newydd ei thynnu yn ei phig! Felly roedd Noa’n gwybod bod y dyfroedd ar y ddaear wedi gostwng. 12 Disgwyliodd am saith diwrnod arall. Yna anfonodd y golomen allan, ond ddaeth hi ddim yn ôl ato o hynny ymlaen.
13 Nawr yn y flwyddyn 601 o fywyd Noa, yn y mis cyntaf, ar ddiwrnod cyntaf y mis, roedd y dyfroedd wedi gostwng ar y ddaear; a dyma Noa’n agor rhan o do’r arch* a gweld bod wyneb y ddaear yn sychu. 14 Yn yr ail fis, ar y seithfed diwrnod ar hugain o’r mis, roedd y ddaear wedi sychu.
15 Nawr dywedodd Duw wrth Noa: 16 “Dos allan o’r arch, ti, dy wraig, dy feibion, a gwragedd dy feibion. 17 Dos â’r holl greaduriaid byw allan gyda ti, y creaduriaid sy’n hedfan, yr anifeiliaid, a’r anifeiliaid sy’n ymlusgo ar y ddaear, er mwyn iddyn nhw ledaenu ar y ddaear a bod yn ffrwythlon a lluosogi ar y ddaear.”
18 Felly aeth Noa allan, gyda’i feibion, ei wraig, a gwragedd ei feibion. 19 Aeth pob creadur byw, pob anifail sy’n ymlusgo a phob creadur sy’n hedfan, popeth sy’n symud ar y ddaear, allan o’r arch fesul teulu. 20 Yna dyma Noa’n adeiladu allor i Jehofa, yn cymryd rhai o’r holl anifeiliaid glân a’r holl greaduriaid glân sy’n hedfan, ac yn cynnig offrymau llosg ar yr allor. 21 Ac roedd yr arogl yn plesio Jehofa. Felly dywedodd Jehofa yn ei galon: “Fydda i byth eto yn melltithio’r ddaear o achos dyn, oherwydd mae tueddiad calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid ymlaen; a fydda i byth eto yn taro popeth byw fel y gwnes i. 22 O hyn ymlaen, bydd y ddaear yn wastad yn cael tymor ar gyfer hau hadau a thymor ar gyfer medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, a dydd a nos.”
9 Aeth Duw ymlaen i fendithio Noa a’i feibion ac i ddweud wrthyn nhw: “Byddwch yn ffrwythlon a chael plant a llanwch y ddaear. 2 A byddwch chi’n dychryn ac yn codi ofn ar bob creadur byw ar y ddaear, ar bob creadur sy’n hedfan yn y nefoedd, ar bopeth sy’n symud ar y tir, ac ar holl bysgod y môr. Rydw i’n eu rhoi nhw yn eich dwylo* nawr. 3 Rydw i’n rhoi pob anifail byw sy’n symud yn fwyd ichi. Yn union fel y gwnes i roi’r planhigion gwyrdd ichi, rydw i’n eu rhoi nhw i gyd ichi. 4 Ond peidiwch â bwyta cig sy’n dal i gynnwys ei fywyd, hynny yw, ei waed. 5 Hefyd, os ydy person neu anifail yn lladd dyn* bydda i’n mynnu tâl. Dylai anifail sy’n lladd dyn gael ei ladd; a dylai dyn sy’n lladd dyn arall dalu gyda’i fywyd. 6 Bydd unrhyw un sy’n lladd dyn hefyd yn cael ei ladd gan ddyn, oherwydd cafodd dyn ei greu yn debyg i Dduw. 7 Ond chithau, byddwch yn ffrwythlon a chael plant, a chynyddwch a llenwi’r ddaear.”
8 Yna dywedodd Duw wrth Noa a’i feibion a oedd gydag ef: 9 “Rydw i nawr yn sefydlu fy nghyfamod gyda chi a’ch disgynyddion ar eich ôl chi, 10 a gyda phob creadur byw sydd gyda chi, yr adar, yr anifeiliaid, a holl greaduriaid byw y ddaear sydd gyda chi, pob un a ddaeth allan o’r arch—pob creadur byw ar y ddaear. 11 Ydw, rydw i’n sefydlu fy nghyfamod gyda chi: Ni fydd popeth byw yn cael ei ddinistrio gan ddyfroedd dilyw byth eto, ac ni fydd dilyw yn difetha’r ddaear byth eto.”
12 Ac ychwanegodd Duw: “Dyma’r arwydd o’r cyfamod rydw i’n ei wneud rhyngo i a chi a phob creadur byw sydd gyda chi, ar gyfer pob cenhedlaeth sydd i ddod. 13 Rydw i’n rhoi fy enfys yn y cymylau, a bydd yn arwydd o’r cyfamod rhyngo i a’r ddaear. 14 Unrhyw adeg y bydda i’n dod â chymylau dros y ddaear, yna bydd yr enfys yn sicr o ymddangos yn y cymylau. 15 Ac yn sicr bydda i’n cofio’r cyfamod a wnes i rhyngo i a chi a phob creadur byw o bob math; ac ni fydd y dyfroedd byth eto’n dod yn ddilyw i ddinistrio popeth byw. 16 A bydd yr enfys yn codi yn y cymylau, a bydda i’n sicr o’i weld a chofio’r cyfamod tragwyddol rhyngo i a phob creadur byw o bob math ar y ddaear.”
17 Dyma Duw’n ailadrodd wrth Noa: “Dyma’r arwydd o’r cyfamod rydw i’n sefydlu rhyngo i a phopeth byw sydd ar y ddaear.”
18 Meibion Noa a ddaeth allan o’r arch oedd Sem, Ham, a Jaffeth. Yn hwyrach ymlaen daeth Ham yn dad i Canaan. 19 Y tri hyn oedd meibion Noa, a daeth holl boblogaeth y ddaear ohonyn nhw a byw mewn gwahanol rannau’r o’r ddaear.
20 Nawr dechreuodd Noa ffermio, a phlannodd winllan. 21 Pan yfodd beth o’r gwin, dyma’n meddwi, ac yn tynnu ei ddillad pan oedd y tu mewn i’w babell. 22 Gwelodd Ham, tad Canaan, ei dad yno yn noeth, a dywedodd wrth ei ddau frawd a oedd y tu allan. 23 Felly cymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn a’i roi ar ysgwyddau’r ddau ohonyn nhw a cherdded i mewn i’r babell gyda’u cefnau at eu tad. Felly dyma nhw’n gorchuddio noethni eu tad tra oedd eu hwynebau wedi troi oddi wrtho, a wnaethon nhw ddim gweld eu tad yn noeth.
24 Pan ddeffrôdd Noa ar ôl meddwi a dysgu beth roedd ei fab ieuengaf wedi ei wneud iddo, 25 dywedodd:
“Melltith ar Canaan.
Ef fydd caethwas isaf ei frodyr.”
26 Ac ychwanegodd:
“Clod i Jehofa, Duw Sem,
A bydd Canaan yn gaethwas i Sem.
27 Bydd Duw’n rhoi digonedd o dir i Jaffeth,
Ac yn gadael iddo fyw ym mhebyll Sem.
Bydd Canaan yn gaethwas i Jaffeth hefyd.”
28 Arhosodd Noa’n fyw am 350 o flynyddoedd ar ôl y Dilyw. 29 Felly cyfanswm dyddiau Noa oedd 950 o flynyddoedd, ac yna bu farw.
10 Dyma hanes meibion Noa, sef Sem, Ham, a Jaffeth.
Cawson nhw feibion ar ôl y Dilyw. 2 Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras.
3 Meibion Gomer oedd Ascenas, Riffath, a Togarma.
4 Meibion Jafan oedd Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim.
5 Ohonyn nhw y daeth trigolion yr ynysoedd, a wnaeth setlo yn eu gwledydd yn ôl eu hieithoedd a’u teuluoedd a’u cenhedloedd.
6 Meibion Ham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan.
7 Meibion Cus oedd Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca.
Meibion Raama oedd Seba a Dedan.
8 Daeth Cus yn dad i Nimrod. Ef oedd y rhyfelwr pwerus cyntaf ar y ddaear. 9 Daeth ef yn heliwr cryf yn erbyn Jehofa. Dyna pam mae ’na ddywediad: “Yn union fel Nimrod, heliwr cryf yn erbyn Jehofa.” 10 Dinasoedd cyntaf ei deyrnas oedd Babel, Erech, Accad a Calne, yng ngwlad Sinar. 11 O’r wlad honno fe aeth i mewn i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-Ir, Cala, 12 a Resen, rhwng Ninefe a Cala: Hon yw’r ddinas fawr.
13 Daeth Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim, 14 Pathrusim, Casluhim (cyndad y Philistiaid), a Cafftorim.
15 Daeth Canaan yn dad i Sidon, ei gyntaf-anedig, a Heth, 16 ynghyd â’r Jebusiaid, yr Amoriaid, y Girgasiaid, 17 yr Hefiaid, yr Arciaid, y Siniaid, 18 yr Arfadiaid, y Semariaid, a’r Hamathiaid. Ar ôl hynny, cafodd teuluoedd Canaan eu gwasgaru. 19 Felly roedd tiriogaeth y Canaaneaid yn ymestyn o Sidon mor bell â Gerar, sy’n agos at Gasa, mor bell â Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, sy’n agos at Lesa. 20 Rhain oedd meibion Ham yn ôl eu teuluoedd a’u hieithoedd, eu gwledydd a’u cenhedloedd.
21 Hefyd cafodd Sem, brawd iau* Jaffeth, blant. Roedd Eber a’i holl feibion yn ddisgynyddion i Sem. 22 Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffacsad, Lud, ac Aram.
23 Meibion Aram oedd Us, Hul, Gether, a Mas.
24 Daeth Arffacsad yn dad i Sela, a daeth Sela yn dad i Eber.
25 Cafodd Eber ddau fab. Enw un ohonyn nhw oedd Peleg, oherwydd yn ystod ei fywyd ef cafodd poblogaeth y ddaear ei gwahanu. Enw ei frawd oedd Joctan.
26 Daeth Joctan yn dad i Almodad, Seleff, Hasarmafeth, Jera, 27 Hadoram, Usal, Dicla, 28 Obal, Abimael, Seba, 29 Offir, Hafila, a Jobab; y rhain i gyd oedd meibion Joctan.
30 Roedd y diriogaeth lle roedden nhw’n byw yn ymestyn o Mesa mor bell â Seffar, ardal fynyddig y Dwyrain.
31 Y rhain oedd meibion Sem yn ôl eu teuluoedd a’u hieithoedd, eu gwledydd a’u cenhedloedd.
32 Y rhain oedd teuluoedd meibion Noa yn ôl llinach eu teuluoedd ac yn ôl eu cenhedloedd. O’r rhain y lledaenodd y cenhedloedd drwy’r ddaear ar ôl y Dilyw.
11 Bryd hynny roedd gan yr holl bobl ar y ddaear un iaith ac un eirfa gyffredin. 2 Wrth iddyn nhw deithio tua’r dwyrain, gwnaethon nhw ddarganfod llawr gwastad dyffryn yng ngwlad Sinar, a dechreuon nhw fyw yno. 3 Yna dywedon nhw wrth ei gilydd: “Dewch! Gadewch inni wneud brics a’u sychu nhw mewn ffwrn.” Felly defnyddion nhw frics yn hytrach na cherrig, a bitwmen fel morter. 4 Yna dywedon nhw: “Dewch! Gadewch inni adeiladu dinas i ni’n hunain ac adeiladu tŵr sydd â’i ben yn y nefoedd, er mwyn inni fod yn enwog, ac er mwyn inni beidio â chael ein gwasgaru dros wyneb yr holl ddaear.”
5 Yna aeth Jehofa i lawr i weld y ddinas a’r tŵr roedd y bobl wedi eu hadeiladu. 6 Yna dywedodd Jehofa: “Edrychwch! Maen nhw’n un bobl sydd ag un iaith, a dyma beth maen nhw wedi dechrau ei wneud. Ni fydd hi’n amhosib iddyn nhw wneud beth bynnag maen nhw’n bwriadu ei wneud. 7 Dewch! Gadewch inni fynd i lawr yno a chymysgu eu hiaith fel na fyddan nhw’n gallu deall iaith ei gilydd.” 8 Felly gwnaeth Jehofa eu gwasgaru nhw o fan ’na dros wyneb yr holl ddaear ac, yn raddol, fe wnaethon nhw roi’r gorau i adeiladu’r ddinas. 9 Dyna pam y cafodd y ddinas ei henwi’n Babel,* oherwydd yno y gwnaeth Jehofa gymysgu iaith yr holl ddaear, ac fe wnaeth Jehofa eu gwasgaru nhw o fan ’na dros wyneb yr holl ddaear.
10 Dyma hanes Sem.
Roedd Sem yn 100 mlwydd oed pan ddaeth yn dad i Arffacsad ddwy flynedd ar ôl y Dilyw. 11 Ar ôl dod yn dad i Arffacsad, gwnaeth Sem barhau i fyw am 500 mlynedd. A daeth yn dad i feibion a merched.
12 Gwnaeth Arffacsad fyw am 35 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Sela. 13 Ar ôl dod yn dad i Sela, gwnaeth Arffacsad barhau i fyw am 403 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched.
14 Gwnaeth Sela fyw am 30 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Eber. 15 Ar ôl dod yn dad i Eber, gwnaeth Sela barhau i fyw am 403 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched.
16 Gwnaeth Eber fyw am 34 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Peleg. 17 Ar ôl dod yn dad i Peleg, gwnaeth Eber barhau i fyw am 430 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched.
18 Gwnaeth Peleg fyw am 30 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Reu. 19 Ar ôl dod yn dad i Reu, gwnaeth Peleg barhau i fyw am 209 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched.
20 Gwnaeth Reu fyw am 32 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Serug. 21 Ar ôl dod yn dad i Serug, gwnaeth Reu barhau i fyw am 207 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched.
22 Gwnaeth Serug fyw am 30 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Nachor. 23 Ar ôl dod yn dad i Nachor, gwnaeth Serug barhau i fyw am 200 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched.
24 Gwnaeth Nachor fyw am 29 o flynyddoedd ac yna daeth yn dad i Tera. 25 Ar ôl dod yn dad i Tera, gwnaeth Nachor barhau i fyw am 119 o flynyddoedd. A daeth yn dad i feibion a merched.
26 Gwnaeth Tera fyw am 70 o flynyddoedd. Ar ôl hynny daeth yn dad i Abram, Nachor, a Haran.
27 Dyma hanes Tera.
Daeth Tera yn dad i Abram, Nachor, a Haran; a daeth Haran yn dad i Lot. 28 Tra oedd ei dad Tera yn dal yn fyw, bu farw Haran yng ngwlad ei enedigaeth, yn Ur y Caldeaid. 29 Cymerodd Abram a Nachor wragedd iddyn nhw eu hunain. Enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca. 30 Nawr doedd Sarai ddim yn gallu cael plant; doedd ganddi hi ddim plant.
31 Yna gwnaeth Tera gymryd Abram ei fab a Lot ei ŵyr, mab Haran, a Sarai ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Abram ei fab, ac fe aethon nhw gydag ef allan o Ur y Caldeaid i fynd i wlad Canaan. Gydag amser daethon nhw i Haran a dechrau byw yno. 32 205 o flynyddoedd oedd dyddiau Tera. Yna bu farw Tera yn Haran.
12 A dywedodd Jehofa wrth Abram: “Dos allan o dy wlad ac i ffwrdd oddi wrth dy berthnasau ac o dŷ dy dad i’r wlad bydda i’n ei dangos iti. 2 Bydda i’n dy wneud di’n genedl fawr, a bydda i’n dy fendithio di, a bydda i’n gwneud dy enw’n fawr, a byddi di’n dod yn fendith. 3 Bydda i’n bendithio’r rhai sy’n dy fendithio di, a bydda i’n melltithio’r un sy’n dweud ei fod eisiau i bethau drwg ddigwydd iti, a bydd holl deuluoedd y ddaear yn bendant yn cael eu bendithio drwyddot ti.”
4 Felly fe aeth Abram yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrtho, ac fe aeth Lot gydag ef. Roedd Abram yn 75 mlwydd oed pan adawodd Haran. 5 Cymerodd Abram ei wraig Sarai a Lot, mab ei frawd, a’r holl eiddo roedden nhw wedi ei gasglu a’r bobl* roedden nhw wedi eu cymryd i mewn i’w teulu yn Haran, ac fe wnaethon nhw ei chychwyn hi am wlad Canaan. Pan gyrhaeddon nhw wlad Canaan, 6 teithiodd Abram drwy’r wlad hyd at safle Sechem, wrth ymyl coed mawr More. Bryd hynny roedd y Canaaneaid yn byw yn y wlad. 7 Yna ymddangosodd Jehofa i Abram a dweud: “Rydw i’n mynd i roi’r wlad hon i dy ddisgynyddion* di.” Felly adeiladodd allor yno i Jehofa, a oedd wedi ymddangos iddo. 8 Yn ddiweddarach fe symudodd oddi yno i’r ardal fynyddig tua’r dwyrain o Bethel a chodi ei babell gyda Bethel tua’r gorllewin ac Ai tua’r dwyrain. Yno adeiladodd allor i Jehofa a dechreuodd alw ar enw Jehofa. 9 Ar ôl hynny, symudodd Abram ei wersyll a theithio tua’r Negef, gan symud o un lle i’r llall.
10 Nawr roedd ’na newyn yn y wlad, ac aeth Abram i lawr tua’r Aifft i fyw yno am ychydig,* oherwydd bod y newyn yn y wlad yn ddifrifol. 11 Pan oedd ar fin mynd i mewn i’r Aifft, dywedodd wrth ei wraig Sarai: “Plîs gwranda! Rwyt ti’n ddynes* hardd iawn. 12 Felly pan fydd yr Eifftiaid yn dy weld di, fe fyddan nhw’n siŵr o ddweud, ‘Hon ydy ei wraig.’ Yna fe fyddan nhw’n fy lladd i ond yn dy gadw di’n fyw. 13 Plîs dyweda mai fy chwaer wyt ti, er mwyn i bethau fynd yn dda imi o dy achos di, ac fe fydd fy mywyd yn cael ei arbed.”
14 Cyn gynted ag yr aeth Abram i mewn i’r Aifft, sylwodd yr Eifftiaid fod y ddynes* yn hardd iawn. 15 Ac fe welodd tywysogion Pharo hi hefyd, a dechreuon nhw ei chanmol hi wrth Pharo, felly cafodd y ddynes* ei chymryd i dŷ Pharo. 16 Gwnaeth ef drin Abram yn dda o’i hachos hi, ac fe gafodd Abram ddefaid, gwartheg, asynnod ac asennod, gweision a morynion, a chamelod. 17 Yna gwnaeth Jehofa daro Pharo a phawb yn ei dŷ â phlâu ofnadwy o achos Sarai, gwraig Abram. 18 Felly galwodd Pharo ar Abram a dweud: “Beth rwyt ti wedi ei wneud imi? Pam na wnest ti ddweud wrtho i mai dy wraig di oedd hi? 19 Pam gwnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi,’ fel fy mod i am ei chymryd hi yn wraig i mi? Dyma dy wraig. Cymera hi a dos!” 20 Felly rhoddodd Pharo orchmynion i’w ddynion ynglŷn ag ef, a dyma nhw’n ei anfon i ffwrdd gyda’i wraig a phopeth oedd ganddo.
13 Yna aeth Abram i fyny o’r Aifft i’r Negef, ef a’i wraig a phopeth oedd ganddo, a Lot hefyd. 2 Roedd Abram yn gyfoethog iawn o ran anifeiliaid, arian, ac aur. 3 Roedd yn gwersylla mewn un lle ar ôl y llall wrth iddo deithio o’r Negef i Fethel, hyd nes iddo gyrraedd y lle roedd ei babell wedi bod rhwng Bethel ac Ai, 4 i’r fan lle roedd wedi adeiladu allor yn gynharach. Yno galwodd Abram ar enw Jehofa.
5 Nawr roedd gan Lot, a oedd yn teithio gydag Abram, hefyd ddefaid, gwartheg, a phebyll. 6 Felly doedd y tir ddim yn caniatáu iddyn nhw i gyd aros yn yr un lle; roedd eu heiddo wedi dod mor niferus fel nad oedden nhw’n gallu byw gyda’i gilydd bellach. 7 O ganlyniad, cododd dadl rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot. (Bryd hynny roedd y Canaaneaid a’r Peresiaid yn byw yn y wlad.) 8 Felly dywedodd Abram wrth Lot: “Plîs, ni ddylai dadl byth godi rhyngot ti a minnau a rhwng dy fugeiliaid di a fy mugeiliaid innau, oherwydd brodyr ydyn ni. 9 Onid ydy’r holl wlad ar gael iti? Plîs, beth am inni wahanu? Os wyt ti’n mynd i’r chwith, yna fe wna i fynd i’r dde; ond os wyt ti’n mynd i’r dde, yna fe wna i fynd i’r chwith.” 10 Felly cododd Lot ei olwg a gweld fod gan holl ardal yr Iorddonen ddigon o ddŵr (cyn i Jehofa ddinistrio Sodom a Gomorra), fel gardd Jehofa, fel gwlad yr Aifft, hyd at Soar. 11 Yna dewisodd Lot iddo’i hun holl ardal yr Iorddonen, a symudodd Lot ei wersyll tua’r dwyrain. Felly dyma nhw’n gwahanu oddi wrth ei gilydd. 12 Roedd Abram yn byw yng ngwlad Canaan, ond roedd Lot yn byw ymysg dinasoedd yr ardal. Yn y diwedd gosododd ei babell wrth ymyl Sodom. 13 Nawr roedd dynion Sodom yn ddrwg, yn pechu’n fawr yn erbyn Jehofa.
14 Dywedodd Jehofa wrth Abram, ar ôl i Lot wahanu oddi wrtho: “Cod dy olwg, plîs, o’r fan lle rwyt ti, tua’r gogledd a’r de, y dwyrain a’r gorllewin, 15 oherwydd yr holl wlad a weli di, fe wna i ei rhoi iti ac i dy ddisgynyddion* yn eiddo parhaol. 16 A bydda i’n gwneud dy ddisgynyddion* di fel llwch y ddaear, felly petai unrhyw un yn gallu cyfri llwch y ddaear, yna byddai dy ddisgynyddion* di yn gallu cael eu cyfri. 17 Cod, teithia ar hyd a lled y wlad, oherwydd i ti rydw i am ei rhoi.” 18 Felly roedd Abram yn parhau i fyw mewn pebyll. Yn nes ymlaen fe ddaeth i fyw ymhlith coed mawr Mamre, sydd yn Hebron, ac yno fe adeiladodd allor i Jehofa.
14 Nawr yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Tidal brenin Goim, 2 dyma nhw’n rhyfela yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsa brenin Gomorra, Sinab brenin Adma, Semeber brenin Seboim, a brenin Bela, hynny yw, Soar. 3 Gwnaeth y rhain i gyd ymuno yn nyffryn Sidim, hynny yw, y Môr Marw.*
4 Roedden nhw wedi gwasanaethu Cedorlaomer am ddeuddeng mlynedd, ond gwnaethon nhw wrthryfela yn y drydedd flwyddyn ar ddeg.* 5 Felly yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg, daeth Cedorlaomer a’r brenhinoedd a oedd gydag ef a gorchfygu y Reffaim yn Asteroth-carnaim, y Susiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-ciriathaim, 6 a’r Horiaid ym mynydd Seir i lawr i El-paran, sydd wrth ymyl yr anialwch. 7 Yna dyma nhw’n troi yn ôl ac yn dod i En-mispat, hynny yw, Cades, a gorchfygu holl diriogaeth yr Amaleciaid a hefyd yr Amoriaid a oedd yn byw yn Hasason-tamar.
8 Ar hynny, cychwynnodd brenin Sodom i’r frwydr, a hefyd brenin Gomorra, brenin Adma, brenin Seboim, a brenin Bela, hynny yw, Soar, a gwnaethon nhw eu trefnu eu hunain yn barod i ryfela yn eu herbyn nhw yn Nyffryn Sidim, 9 yn erbyn Cedorlaomer brenin Elam, Tidal brenin Goim, Amraffel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar—pedwar brenin yn erbyn pump. 10 Nawr roedd Dyffryn Sidim yn llawn o byllau bitwmen, a dyma frenhinoedd Sodom a Gomorra yn ceisio dianc ac yn syrthio i mewn iddyn nhw, a gwnaeth y rhai a oedd ar ôl ffoi i’r ardal fynyddig. 11 Yna cymerodd y gorchfygwyr holl eiddo Sodom a Gomorra a’u holl fwyd a mynd i ffwrdd. 12 Hefyd cymeron nhw Lot, mab brawd Abram a oedd yn byw yn Sodom, ynghyd â’i eiddo, a pharhau ar eu ffordd.
13 Ar ôl hynny daeth dyn a oedd wedi ffoi a sôn wrth Abram yr Hebread am yr hyn oedd wedi digwydd. Yr adeg honno roedd yn byw* ymhlith coed mawr Mamre yr Amoriad, brawd Escol ac Aner. Roedd y dynion hyn wedi ochri ag Abram. 14 Felly clywodd Abram fod ei berthynas* wedi cael ei gymryd yn gaeth. Ar hynny dyma’n paratoi ei ddynion a oedd wedi cael eu hyfforddi, 318 o weision wedi eu geni yn ei dŷ, ac fe aeth ar eu holau hyd at Dan. 15 Yn ystod y nos, gwnaeth ef wahanu ei fyddin, a dyma ef a’i weision yn ymosod ac yn eu gorchfygu nhw. Ac fe aeth ar eu holau nhw hyd at Hoba, sydd i’r gogledd o Ddamascus. 16 Daeth â’r holl eiddo yn ôl, a hefyd Lot ei berthynas, ei eiddo yntau, y merched,* a’r bobl eraill.
17 Ar ôl i Abram ddod yn ôl o drechu Cedorlaomer a’r brenhinoedd a oedd gydag ef, aeth brenin Sodom allan i gwrdd ag Abram yn Nyffryn Safe, hynny yw, Dyffryn y Brenin. 18 A gwnaeth Melchisedec brenin Salem ddod â bara a gwin allan; roedd ef yn offeiriad y Duw Goruchaf.
19 Yna dyma’n ei fendithio a dweud:
“Bendigedig fydd Abram gan y Duw Goruchaf,
Yr un a wnaeth y nef a’r ddaear;
20 A chlod i’r Duw Goruchaf,
Sydd wedi rhoi dy ormeswyr yn dy ddwylo di!”
A dyma Abram yn rhoi iddo un rhan o ddeg o’r cwbl.
21 Ar ôl hynny dywedodd brenin Sodom wrth Abram: “Rho’r bobl imi, ond cymera’r eiddo i ti dy hun.” 22 Ond dywedodd Abram wrth frenin Sodom: “Rydw i’n codi fy llaw mewn llw i Jehofa y Duw Goruchaf, yr un a wnaeth y nef a’r ddaear, 23 na fydda i’n cymryd unrhyw beth sy’n perthyn iti, nid edau na charrai* sandal, fel na fyddi di’n dweud, ‘Fi a wnaeth Abram yn gyfoethog.’ 24 Fydda i ddim yn cymryd dim byd heblaw am beth mae’r dynion ifanc eisoes wedi ei fwyta. Ynglŷn â rhan y dynion a aeth gyda mi, Aner, Escol, a Mamre—gad iddyn nhw gymryd eu rhan nhw.”
15 Ar ôl hyn daeth gair Jehofa at Abram mewn gweledigaeth, gan ddweud: “Paid ag ofni, Abram. Rydw i’n darian iti. Bydd dy wobr yn fawr iawn.” 2 Atebodd Abram: “Sofran Arglwydd Jehofa, beth byddi di’n ei roi imi, gan weld fy mod i’n parhau i fod heb blant a’r un sy’n mynd i etifeddu fy nhŷ ydy dyn o Ddamascus, Eleasar?” 3 Ychwanegodd Abram: “Dwyt ti ddim wedi rhoi disgynyddion* imi, ac aelod* o fy nhŷ fydd fy etifedd.” 4 Ond edrycha! ateb Jehofa iddo oedd, “Ni fydd y dyn hwn yn etifedd iti, ond dy fab* dy hun fydd yn dod ar dy ôl di fel etifedd.”
5 Daeth ag ef y tu allan a dweud: “Edrycha, plîs, i fyny i’r nefoedd a chyfri’r sêr, os wyt ti’n gallu gwneud hynny.” Yna dywedodd wrtho: “Fel hyn y bydd dy ddisgynyddion* di.” 6 Ac fe roddodd ffydd yn Jehofa, ac fe wnaeth Duw ei ystyried yn ddyn cyfiawn. 7 Yna fe ychwanegodd: “Fi ydy Jehofa, a ddaeth â ti allan o Ur y Caldeaid i roi’r wlad hon yn eiddo iti.” 8 Ond dywedodd ef: “Sofran Arglwydd Jehofa, sut bydda i’n gwybod y byddi di’n ei rhoi imi?” 9 Atebodd yntau: “Cymera imi heffer dair blwydd oed, gafr dair blwydd oed, hwrdd* tair blwydd oed, turtur, a cholomen ifanc.” 10 Felly cymerodd y rhain i gyd a’u hollti nhw’n ddau a rhoi pob darn gyferbyn â’r llall, ond ni wnaeth hollti’r adar. 11 Yna dechreuodd adar ysglyfaethus ddisgyn ar y cyrff, ond roedd Abram yn eu hel nhw i ffwrdd.
12 Pan oedd yr haul ar fin machlud, syrthiodd Abram i gwsg trwm a dyma dywyllwch mawr a dychrynllyd yn dod arno. 13 Yna dywedodd Ef wrth Abram: “Rydw i eisiau iti wybod yn bendant y bydd dy ddisgynyddion* di yn bobl estron mewn gwlad sydd ddim yn perthyn iddyn nhw a bydd y bobl yno yn eu caethiwo nhw ac yn eu cam-drin nhw am 400 mlynedd. 14 Ond bydda i’n barnu’r genedl byddan nhw’n ei gwasanaethu, ac ar ôl hynny byddan nhw’n mynd allan gyda llawer o eiddo. 15 Ond, byddi di dy hun yn mynd at dy gyndadau mewn heddwch; byddi di’n cael dy gladdu ar ôl iti gael bywyd hir. 16 Ond byddan nhw’n dod yn ôl yma yn y bedwaredd genhedlaeth, oherwydd dydy’r amser ddim wedi dod eto i’r Amoriaid gael eu cosbi am eu pechod.”
17 Ar ôl i’r haul fachlud ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn a oedd yn mygu, a gwnaeth ffagl fflamllyd basio rhwng darnau’r anifeiliaid. 18 Ar y diwrnod hwnnw gwnaeth Jehofa gyfamod ag Abram, gan ddweud: “Bydda i’n rhoi i dy ddisgynyddion* y wlad hon, o afon yr Aifft hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates: 19 gwlad y Ceneaid, y Cenesiaid, y Cadmoniaid, 20 yr Hethiaid, y Peresiaid, y Reffaimiaid, 21 yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Girgasiaid, a’r Jebusiaid.”
16 Nawr doedd gwraig Abram, Sarai, ddim wedi geni unrhyw blant iddo, ond roedd ganddi forwyn o’r Aifft a’i henw hi oedd Hagar. 2 Felly dywedodd Sarai wrth Abram: “Plîs gwranda arna i! Mae Jehofa wedi fy rhwystro i rhag cael plant. Plîs, cysga gyda fy morwyn. Efallai galla i gael plant drwyddi hi.” Felly gwrandawodd Abram ar beth ddywedodd Sarai. 3 Ar ôl i Abram fyw am ddeng mlynedd yng ngwlad Canaan, cymerodd gwraig Abram, Sarai, ei morwyn Hagar yr Eifftes a’i rhoi hi i’w gŵr Abram fel gwraig iddo. 4 Felly dyma ef yn cysgu gyda Hagar, a daeth hi’n feichiog. Ar ôl iddi sylweddoli ei bod hi’n feichiog, dechreuodd hi edrych i lawr ar ei meistres.
5 Ar hynny dywedodd Sarai wrth Abram: “Ti sydd ar fai am imi gael fy ngham-drin fel hyn. Fi oedd yr un a roddodd fy morwyn yn dy freichiau di, ond ar ôl iddi sylweddoli ei bod hi’n feichiog, dechreuodd hi edrych i lawr arna i. Bydd Jehofa’n barnu rhyngot ti a mi.” 6 Felly dywedodd Abram wrth Sarai: “Edrycha! Mae dy forwyn o dan dy awdurdod di. Gwna iddi hi beth bynnag rwyt ti’n meddwl sydd orau.” Yna dyma Sarai yn ei bychanu hi, a rhedodd Hagar i ffwrdd oddi wrthi.
7 Yn nes ymlaen gwnaeth angel Jehofa ddod o hyd iddi wrth ymyl ffynnon ddŵr yn yr anialwch, y ffynnon ar y ffordd i Sur. 8 A dywedodd ef: “Hagar, forwyn Sarai, o le rwyt ti wedi dod ac i le rwyt ti’n mynd?” Atebodd hithau: “Rydw i’n rhedeg i ffwrdd o fy meistres Sarai.” 9 Yna dywedodd angel Jehofa wrthi: “Dos yn ôl at dy feistres ac ymostwng o dan ei llaw hi.” 10 Yna dywedodd angel Jehofa: “Bydda i’n rhoi llawer iawn o ddisgynyddion* iti, fel bod ’na ormod ohonyn nhw i’w cyfri.” 11 Ychwanegodd angel Jehofa: “Dyma ti yn feichiog, a byddi di’n rhoi genedigaeth i fab, ac mae’n rhaid iti ei alw’n Ismael,* oherwydd mae Jehofa wedi clywed dy fod ti’n dioddef. 12 Fe fydd yn asyn* gwyllt o ddyn. Bydd ei law ef yn erbyn pawb, a bydd llaw pawb yn ei erbyn yntau, ac fe fydd yn byw ar wahân i’w holl frodyr.”*
13 Yna galwodd hi ar enw Jehofa, a oedd yn siarad â hi: “Rwyt ti’n Dduw sy’n gweld,” oherwydd dywedodd hi: “Ydw i wir wedi gweld yr un sy’n fy ngweld i?” 14 Dyna pam cafodd y ffynnon yr enw Beer-lahai-roi.* (Mae hi rhwng Cades a Bered.) 15 Felly rhoddodd Hagar enedigaeth i fab i Abram, a dyma Abram yn enwi ei fab, yr un a gafodd Hagar, yn Ismael. 16 Roedd Abram yn 86 mlwydd oed pan roddodd Hagar enedigaeth i Ismael.
17 Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, ymddangosodd Jehofa i Abram a dweud wrtho: “Fi ydy Duw Hollalluog. Cerdda o fy mlaen i a phrofa dy hun yn ddi-fai.* 2 Bydda i’n sefydlu fy nghyfamod rhyngot ti a mi, a bydda i’n rhoi llawer iawn o ddisgynyddion iti.”
3 Ar hynny syrthiodd Abram ar ei wyneb, a dyma Duw’n parhau i siarad ag ef, gan ddweud: 4 “Edrycha! rydw i wedi gwneud fy nghyfamod â ti, a byddi di’n bendant yn dod yn dad i lawer o genhedloedd. 5 Nid Abram* fydd dy enw mwyach; byddi di’n cael dy enwi’n Abraham,* oherwydd rydw i’n mynd i dy wneud di’n dad i lawer o genhedloedd. 6 Bydda i’n dy wneud di’n ffrwythlon iawn fel y bydd llawer o genhedloedd yn dod ohonot ti, a bydd brenhinoedd yn dod ohonot ti.
7 “Ac fe wna i gadw fy nghyfamod rhyngot ti a mi a rhwng dy ddisgynyddion* di ar dy ôl drwy eu cenedlaethau i gyd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn Dduw i ti ac i dy had di ar dy ôl. 8 A bydda i’n rhoi i ti ac i dy ddisgynyddion* ar dy ôl y wlad rwyt ti’n byw ynddi fel estronwr—holl wlad Canaan—yn eiddo tragwyddol, a bydda i’n Dduw iddyn nhw.”
9 Ar ben hynny dywedodd Duw wrth Abraham: “Rwyt ti i gadw fy nghyfamod, ti a dy ddisgynyddion* ar dy ôl drwy eu cenedlaethau i gyd. 10 Dyma fy nghyfamod rhyngoch chi a mi, y byddi di a dy ddisgynyddion* ar dy ôl yn ei gadw: Mae’n rhaid i bob gwryw yn eich plith gael ei enwaedu. 11 Mae’n rhaid ichi enwaedu cnawd eich blaengrwyn, a bydd hyn yn arwydd o’r cyfamod rhyngo i a chi. 12 Drwy eich cenedlaethau i gyd, mae’n rhaid i bob gwryw yn eich plith gael ei enwaedu yn wyth diwrnod oed, unrhyw un sy’n cael ei eni yn y tŷ ac unrhyw un sydd ddim yn un o dy ddisgynyddion* di, ond a gafodd ei brynu ag arian oddi wrth estronwr. 13 Mae’n rhaid enwaedu pob dyn sy’n cael ei eni yn dy dŷ a phob dyn a gafodd ei brynu â dy arian, ac mae’n rhaid i fy nghyfamod yn eich cnawd fod yn gyfamod tragwyddol. 14 Os dydy dyn heb ei enwaedu ddim yn enwaedu cnawd ei flaengroen, mae’n rhaid i’r person* hwnnw gael ei roi i farwolaeth.* Mae wedi torri fy nghyfamod.”
15 Yna dywedodd Duw wrth Abraham: “Ynglŷn â dy wraig Sarai,* ni ddylet ti ei galw hi’n Sarai, oherwydd Sara* fydd ei henw hi o hyn ymlaen. 16 Fe wna i ei bendithio hi a rhoi mab iti drwyddi hi hefyd; fe wna i ei bendithio hi ac fe fydd hi’n dod yn genhedloedd; bydd brenhinoedd pobloedd yn dod ohoni hi.” 17 Ar hynny syrthiodd Abraham ar ei wyneb a dechreuodd chwerthin a dweud yn ei galon: “A fydd plentyn yn gallu cael ei eni i ddyn 100 mlwydd oed, ac a fydd Sara, dynes* 90 mlwydd oed, yn gallu rhoi genedigaeth?”
18 Felly dywedodd Abraham wrth y gwir Dduw: “Byddai’n dda petai Ismael yn gallu cael ei fendithio gen ti!” 19 Atebodd Duw: “Fe fydd dy wraig Sara yn bendant yn geni mab iti, ac mae’n rhaid iti ei alw’n Isaac.* Fe wna i sefydlu fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i’w ddisgynyddion* ar ei ôl. 20 Ond ynglŷn ag Ismael, rydw i wedi dy glywed di. Edrycha! Fe wna i ei fendithio ef a’i wneud yn ffrwythlon a bydd ganddo lawer iawn o ddisgynyddion. Bydd ef yn dad i 12 pennaeth, a bydda i’n ei wneud yn genedl fawr. 21 Fodd bynnag, fe wna i sefydlu fy nghyfamod ag Isaac, y mab bydd Sara’n ei eni iti ar yr amser penodedig hwn flwyddyn nesaf.”
22 Pan orffennodd Duw siarad ag ef, aeth i fyny oddi wrth Abraham. 23 Yna cymerodd Abraham ei fab Ismael a’r holl ddynion a gafodd eu geni yn ei dŷ a phawb roedd ef wedi eu prynu ag arian, pob gwryw yn nhŷ Abraham, a dyma’n enwaedu cnawd eu blaengrwyn ar yr union ddiwrnod hwnnw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho. 24 Roedd Abraham yn 99 mlwydd oed pan gafodd cnawd ei flaengroen ei enwaedu. 25 Ac roedd Ismael ei fab yn 13 mlwydd oed pan gafodd cnawd ei flaengroen ei enwaedu. 26 Ar yr union ddiwrnod hwnnw, cafodd Abraham ei enwaedu a hefyd ei fab Ismael. 27 Dyma holl ddynion ei dŷ, unrhyw un a gafodd ei eni yn ei dŷ ac unrhyw un a gafodd ei brynu ag arian oddi wrth estronwr, hefyd yn cael eu henwaedu gydag ef.
18 Ar ôl hynny, ymddangosodd Jehofa iddo ymhlith coed mawr Mamre tra oedd yn eistedd wrth ddrws y babell yn ystod adeg boethaf y dydd. 2 Edrychodd i fyny a gwelodd dri dyn yn sefyll dipyn o ffordd oddi wrtho. Ar ôl iddo eu gweld nhw, fe wnaeth redeg o ddrws y babell i’w cyfarfod nhw, a dyma’n ymgrymu i’r llawr. 3 Yna dywedodd: “Jehofa, os ydw i wedi dy blesio di, plîs paid â phasio heibio dy was. 4 Plîs, gadewch i ychydig o ddŵr gael ei gario yma a golchwch eich traed; yna gorffwyswch o dan y goeden. 5 Gan eich bod chi wedi dod yma at eich gwas, gadewch imi ddod â darn o fara er mwyn ichi gael eich nerth yn ôl.* Yna cewch chi fynd ar eich ffordd.” Ar hynny dywedon nhw: “Iawn. Cei di wneud fel rwyt ti wedi dweud.”
6 Felly brysiodd Abraham i’r babell at Sara a dywedodd: “Brysia! Dos i nôl tri mesur* o flawd mân, tylina’r toes, a gwna dorthau o fara.” 7 Nesaf rhedodd Abraham at y gwartheg a dewis llo tyner a da. Rhoddodd ef i’r gwas, a wnaeth frysio i’w baratoi. 8 Yna cymerodd ef fenyn a llaeth a’r llo roedd ef wedi ei baratoi, a gosododd y bwyd o’u blaenau nhw. Yna dyma’n sefyll wrth eu hymyl nhw o dan y goeden wrth iddyn nhw fwyta.
9 Dywedon nhw wrtho: “Ble mae dy wraig Sara?” Atebodd ef: “Yma yn y babell.” 10 Felly aeth un ohonon nhw ymlaen i ddweud: “Bydda i’n sicr o ddod yn ôl atat ti yr adeg hon flwyddyn nesaf, ac edrycha! bydd gan dy wraig Sara fab.” Nawr roedd Sara’n gwrando wrth ddrws y babell, a oedd y tu ôl i’r dyn. 11 Roedd Abraham a Sara yn hen, mewn oed mawr. Roedd Sara yn rhy hen i gael plant. 12 Felly dyma Sara’n dechrau chwerthin iddi hi ei hun, gan ddweud: “Ar ôl imi a fy arglwydd fynd yn hen, a fydda i wir yn cael y pleser hwn?” 13 Yna dywedodd Jehofa wrth Abraham: “Pam gwnaeth Sara chwerthin a dweud, ‘Ydw i wir am eni plentyn er fy mod i’n hen?’ 14 Ydy unrhyw beth yn amhosib i Jehofa? Bydda i’n dod yn ôl atat ti flwyddyn nesaf ar yr amser penodedig hwn, a bydd gan Sara fab.” 15 Ond dyma Sara’n gwadu’r peth gan ddweud, “Wnes i ddim chwerthin!” oherwydd roedd hi mewn ofn. Ar hyn dywedodd ef: “Do! Fe wnest ti chwerthin.”
16 Pan gododd y dynion i adael ac edrychon nhw i lawr tua Sodom, roedd Abraham yn cerdded gyda nhw i’w tywys nhw. 17 Dywedodd Jehofa: “Ydw i’n cuddio’r hyn rydw i am ei wneud oddi wrth Abraham? 18 Mae Abraham yn sicr o ddod yn genedl fawr a chryf, a bydd holl genhedloedd y ddaear yn cael eu bendithio drwyddo ef. 19 Oherwydd rydw i wedi dod i’w adnabod ef er mwyn iddo allu gorchymyn i’w feibion a’i deulu ar ei ôl i gadw ffordd Jehofa drwy wneud yr hyn sy’n iawn ac yn deg, er mwyn i Jehofa allu gwneud yr hyn mae wedi ei addo ynglŷn ag Abraham.”
20 Yna dywedodd Jehofa: “Mae’r gŵyn yn erbyn Sodom a Gomorra yn wir yn fawr, ac mae eu pechod yn ddifrifol* iawn. 21 Fe wna i fynd i lawr i weld a ydyn nhw’n ymddwyn yn ôl y gŵyn sydd wedi fy nghyrraedd i. Ac os ddim, galla i ddod i wybod am y peth.”
22 Yna aeth y dynion oddi yno tuag at Sodom, ond arhosodd Jehofa gydag Abraham. 23 Yna daeth Abraham yn nes a dywedodd: “A fyddi di’n wir yn cael gwared ar y cyfiawn ynghyd â’r drygionus? 24 Petai ’na 50 o ddynion cyfiawn yn y ddinas, a fyddi di’n cael gwared arnyn nhw, heb faddau i’r lle er mwyn y 50 cyfiawn sydd yno? 25 Mae’n amhosib meddwl byddet ti’n ymddwyn fel ’na drwy ladd y dyn cyfiawn gyda’r un drwg fel bod y canlyniad i’r dyn cyfiawn a’r un drwg yr un fath! Mae’n amhosib meddwl hynny amdanat ti. Oni fydd Barnwr yr holl ddaear yn gwneud beth sy’n iawn?” 26 Yna dywedodd Jehofa: “Os bydda i’n dod o hyd i 50 dyn cyfiawn yn Sodom, bydda i’n maddau i’r holl le er eu mwyn nhw.” 27 Ond dyma Abraham yn ateb unwaith eto: “Plîs, rydw i wedi mentro siarad â Jehofa, a dim ond llwch a lludw ydw i. 28 Petai ’na bump yn llai na’r 50 cyfiawn, a fyddi di’n dinistrio’r holl ddinas oherwydd y pump?” Atebodd yntau: “Fydda i ddim yn dinistrio’r ddinas os oes ’na 45 yno.”
29 Ond siaradodd ef unwaith eto a dywedodd: “Beth petai 40 i’w cael yno?” Atebodd yntau: “Fydda i ddim yn dinistrio’r ddinas er mwyn y 40.” 30 Ond aeth ymlaen: “Jehofa, plîs, paid â gwylltio gyda mi, ond gad imi barhau i siarad: Beth petai dim ond 30 i’w cael yno?” Atebodd: “Fydda i ddim yn ei dinistrio os ydw i’n cael hyd i 30 yno.” 31 Ond aeth ymlaen: “Plîs, rydw i wedi mentro siarad â Jehofa: Beth petai dim ond 20 i’w cael yno?” Atebodd: “Fydda i ddim yn dinistrio’r ddinas er mwyn y 20.” 32 Yn y diwedd dywedodd ef: “Jehofa, plîs, paid â gwylltio gyda mi, ond gad imi siarad un tro arall: Beth petai dim ond deg i’w cael yno?” Atebodd: “Fydda i ddim yn dinistrio’r ddinas er mwyn y deg.” 33 Pan oedd Jehofa wedi gorffen siarad ag Abraham, aeth i ffwrdd ac aeth Abraham yn ôl i’w babell.
19 Cyrhaeddodd y ddau angel Sodom gyda’r hwyr, ac roedd Lot yn eistedd ym mhorth Sodom. Pan wnaeth Lot eu gweld nhw, fe gododd i’w cyfarfod nhw a phlygu i lawr gyda’i wyneb tua’r ddaear. 2 Ac fe ddywedodd: “Plîs, fy arglwyddi, dewch, plîs, i dŷ eich gwas ac arhoswch dros nos a gadewch i rywun olchi eich traed. Yna codwch yn gynnar ac ewch ar eich taith.” Atebon nhw: “Na, rydyn ni’n mynd i aros dros nos yn y sgwâr cyhoeddus.” 3 Ond gan ei fod yn erfyn yn daer arnyn nhw fe aethon nhw gydag ef i mewn i’w dŷ. Yna fe wnaeth wledd iddyn nhw, a phobi bara croyw, a dyma nhw’n bwyta.
4 Ond cyn iddyn nhw orwedd i lawr i gysgu, gwnaeth dynion y ddinas—dynion Sodom, hen ac ifanc, pawb ohonyn nhw—amgylchynu’r tŷ yn un dyrfa swnllyd. 5 Ac roedden nhw’n dal i alw ar Lot gan ddweud wrtho: “Ble mae’r dynion a ddaeth i mewn i dy dŷ heno? Tyrd â nhw allan er mwyn inni fedru cael rhyw gyda nhw.”
6 Yna aeth Lot allan atyn nhw i’r drws, a chau’r drws y tu ôl iddo. 7 Fe ddywedodd: “Plîs, fy mrodyr, peidiwch â gwneud rhywbeth mor ddrwg. 8 Plîs, edrychwch, mae gen i ddwy ferch sydd erioed wedi cael cyfathrach rywiol â dyn. Plîs, gadewch imi ddod â nhw allan atoch chi er mwyn ichi fedru gwneud iddyn nhw fel rydych chi’n dymuno. Ond peidiwch â gwneud dim i’r dynion hyn, oherwydd eu bod nhw wedi dod o dan gysgod fy nho.” 9 Ond medden nhw: “Dos allan o’r ffordd!” Ac fe ychwanegon nhw: “Mae’r dieithryn unig hwn wedi dod yma i fyw, ac eto mae’n meiddio ein beirniadu ni! Nawr rydyn ni’n mynd i wneud yn waeth i ti nag iddyn nhw.” A dyma nhw’n gwthio* yn erbyn Lot a symud yn eu blaenau i dorri’r drws i lawr. 10 Felly gwnaeth y dynion a oedd y tu mewn i’r tŷ estyn eu dwylo a thynnu Lot i mewn i’r tŷ gyda nhw, a chau’r drws. 11 Ond fe wnaethon nhw daro’r dynion a oedd wrth ddrws y tŷ yn ddall, yr hen a’r ifanc, nes iddyn nhw flino’n lân yn ceisio chwilio am y drws.
12 Yna dywedodd y dynion wrth Lot: “Oes gen ti unrhyw un arall yma? Dos â dy feibion-yng-nghyfraith, dy feibion, dy ferched, ac unrhyw deulu arall yn y ddinas allan o’r lle hwn! 13 Oherwydd rydyn ni’n mynd i ddinistrio’r lle hwn, gan fod y gŵyn yn eu herbyn nhw yn wir yn fawr iawn gerbron Jehofa, fel bod Jehofa wedi ein hanfon ni i ddinistrio’r ddinas.” 14 Felly aeth Lot allan a dechrau siarad â’i feibion-yng-nghyfraith a oedd am briodi ei ferched, ac roedd yn dal i ddweud: “Codwch! Ewch allan o’r lle hwn, oherwydd bod Jehofa yn mynd i ddinistrio’r ddinas!” Ond roedd ei feibion-yng-nghyfraith yn meddwl ei fod yn tynnu coes.
15 Ar doriad gwawr, gwnaeth yr angylion geisio gwneud i Lot frysio, gan ddweud: “Cod! Dos â dy wraig a dy ddwy ferch sydd gyda ti yn y tŷ, rhag ofn ichi gael eich ysgubo i ffwrdd pan fydd y ddinas yn cael ei dinistrio o ganlyniad i’w phechod!” 16 Pan oedd yn dal i oedi, dangosodd Jehofa drugaredd tuag ato, felly cydiodd y dynion yn ei law ac yn llaw ei wraig ac yn nwylo ei ferched, a mynd â nhw a’u gosod y tu allan i’r ddinas. 17 Unwaith iddyn nhw fynd â nhw y tu allan i’r ddinas, dywedodd un ohonyn nhw: “Dianc am dy fywyd! Paid ag edrych y tu ôl iti a phaid â sefyll yn stond yn unrhyw le yn y rhanbarth! Dianc i’r mynyddoedd fel na fyddi di’n cael dy ysgubo i ffwrdd!”
18 Yna dywedodd Lot wrthyn nhw: “Nid i fan ’na, plîs, Jehofa! 19 Plîs, mae dy was wedi ennill ffafr yn dy olwg ac rwyt ti’n garedig iawn tuag ata i drwy fy nghadw i’n fyw, ond dydw i ddim yn gallu dianc i’r mynyddoedd oherwydd fy mod i’n ofni y bydd trychineb yn dod arna i a bydda i’n marw. 20 Plîs, mae’r dref hon yn agos ac fe fedra i ddianc yno; mae ond yn lle bach. Ga i, plîs, ddianc yno? Mae ond yn lle bach. Yna fe alla i oroesi.” 21 Felly dywedodd yntau wrtho: “O’r gorau, fe wna i ganiatáu’r hyn rwyt ti’n gofyn amdano drwy beidio â dinistrio’r dref rwyt ti’n siarad amdani. 22 Brysia! Dianc yno, oherwydd dydw i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth nes dy fod ti wedi cyrraedd yno!” Dyna pam y rhoddodd yr enw Soar* ar y dref.
23 Roedd yr haul wedi codi dros y tir pan wnaeth Lot gyrraedd Soar. 24 Yna achosodd Jehofa iddi fwrw sylffwr a thân ar Sodom a Gomorra—fe ddaeth o Jehofa, o’r nefoedd. 25 Felly dinistriodd y dinasoedd hyn, y rhanbarth cyfan, gan gynnwys holl drigolion y dinasoedd a phlanhigion y tir. 26 Ond gwnaeth gwraig Lot, a oedd y tu ôl iddo, ddechrau edrych yn ôl, ac fe ddaeth hi’n golofn o halen.
27 Nawr cododd Abraham yn gynnar yn y bore a mynd i’r fan lle roedd wedi sefyll o flaen Jehofa. 28 Pan edrychodd i lawr ar Sodom a Gomorra a holl dir y rhanbarth, fe welodd olygfa ddychrynllyd. Roedd mwg trwchus yn codi o’r tir fel mwg trwchus o ffwrnais! 29 Felly pan ddinistriodd Duw holl ddinasoedd y rhanbarth, gwnaeth Duw gadw Abraham mewn cof drwy anfon Lot allan o’r dinasoedd y gwnaeth ef eu dinistrio, y dinasoedd lle roedd Lot wedi bod yn byw.
30 Yn ddiweddarach aeth Lot i fyny o Soar gyda’i ddwy ferch a dechrau byw yn yr ardal fynyddig, oherwydd ei fod yn ofni byw yn Soar. Felly dechreuodd fyw mewn ogof gyda’i ddwy ferch. 31 A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf: “Mae ein tad yn hen, a does ’na ddim un dyn yn y wlad i roi plant inni fel mae pobl eraill yn gwneud. 32 Tyrd, gad inni roi gwin i’n tad i’w yfed, a chysgu gydag ef er mwyn inni gael plant drwyddo.”*
33 Felly, y noson honno dyma nhw’n dechrau rhoi gwin i’w tad nes iddo feddwi; yna aeth yr hynaf i mewn ato a chysgu gyda’i thad, ond doedd ef ddim yn gwybod pryd gwnaeth hi orwedd i lawr a phryd gwnaeth hi godi. 34 Y diwrnod wedyn, dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf: “Gwnes i gysgu gyda fy nhad neithiwr. Gad inni roi gwin iddo i’w yfed heno hefyd. Yna dos di i mewn a chysgu gydag ef, a gad inni gael plant drwyddo.” 35 Felly, y noson honno hefyd gwnaethon nhw roi llawer o win i’w tad i’w yfed; yna aeth yr ieuengaf i mewn i gysgu gydag ef, ond doedd ef ddim yn gwybod pryd gwnaeth hi orwedd i lawr a phryd gwnaeth hi godi. 36 Felly daeth dwy ferch Lot yn feichiog drwy eu tad. 37 Cafodd yr hynaf fab a’i alw’n Moab. Ef yw tad y Moabiaid heddiw. 38 Cafodd yr ieuengaf fab hefyd, a’i alw’n Ben-ammi. Ef yw tad yr Ammoniaid heddiw.
20 Nawr symudodd Abraham ei wersyll oddi yno i ardal y Negef a dechrau byw rhwng Cades a Sur. Tra oedd yn byw yn Gerar, 2 dyma Abraham yn dweud eto ynglŷn â’i wraig Sara: “Fy chwaer i ydy hi.” Felly, anfonodd brenin Abimelech o Gerar am Sara a’i chymryd hi. 3 Ar ôl hynny, daeth Duw at Abimelech mewn breuddwyd yn ystod y nos a dweud wrtho: “Edrycha! Rwyt ti cystal â dyn marw oherwydd y ddynes* rwyt ti wedi ei chymryd, gan ei bod hi’n briod ac yn perthyn i ddyn arall.” 4 Fodd bynnag, doedd Abimelech ddim wedi mynd yn agos ati hi.* Felly dywedodd: “Jehofa, wyt ti’n mynd i ladd cenedl sy’n wir yn ddiniwed?* 5 Onid oedd ef wedi dweud wrtho i, ‘Fy chwaer i ydy hi,’ ac onid oedd hi wedi dweud hefyd, ‘Fy mrawd i ydy ef’? Fe wnes i hyn â chalon onest a dwylo diniwed.” 6 Yna dywedodd y gwir Dduw wrtho yn y freuddwyd: “Rydw i’n gwybod dy fod ti wedi gwneud hyn â chalon onest, felly fe wnes i dy ddal di’n ôl rhag pechu yn fy erbyn i. Dyna pam wnes i ddim gadael iti ei chyffwrdd hi. 7 Nawr, rho wraig y dyn yn ôl, oherwydd ei fod yn broffwyd, a bydd ef yn gweddïo drostot ti ac fe fyddi di’n parhau i fyw. Ond os nad wyt ti’n ei rhoi hi’n ôl, mae’n rhaid iti wybod y byddi di’n siŵr o farw, ti a phawb yn dy dŷ.”
8 Cododd Abimelech yn gynnar yn y bore a galw ei holl weision a dweud wrthyn nhw am yr holl bethau hyn, a daeth ofn mawr arnyn nhw. 9 Yna galwodd Abimelech am Abraham a dweud wrtho: “Beth rwyt ti wedi ei wneud inni? Pa bechod rydw i wedi ei gyflawni yn dy erbyn di sydd wedi achosi iti ddod â phechod mor fawr arna i a fy nheyrnas? Dydy’r hyn rwyt ti wedi ei wneud imi ddim yn iawn.” 10 Ac aeth Abimelech yn ei flaen i ddweud wrth Abraham: “Beth oedd yn mynd trwy dy feddwl di pan wnest ti’r peth hwn?” 11 Atebodd Abraham: “Oherwydd fy mod i wedi dweud wrtho i fy hun, ‘Heb os, does neb yn ofni Duw yn y lle hwn, ac fe fyddan nhw’n fy lladd i o achos fy ngwraig.’ 12 A beth bynnag, mae’n wir ei bod hi’n chwaer imi, merch fy nhad ond nid merch fy mam, ac fe ddaeth hi’n wraig imi. 13 Felly pan achosodd Duw imi grwydro o dŷ fy nhad, dywedais wrthi: ‘Dyma sut y dylet ti ddangos cariad ffyddlon tuag ata i: Le bynnag yr awn ni, dyweda hyn amdana i, “Fy mrawd i ydy hwn.”’”
14 Yna cymerodd Abimelech ddefaid a gwartheg a gweision a morynion a’u rhoi nhw i Abraham, ac fe roddodd ei wraig Sara yn ôl iddo. 15 Dywedodd Abimelech hefyd: “Edrycha ar fy nhir. Fe gei di fyw le bynnag rwyt ti’n dymuno.” 16 A dywedodd wrth Sara: “Edrycha, rydw i’n rhoi 1,000 o ddarnau arian i dy frawd. Mae’n arwydd i bawb sydd gyda ti ac i bawb arall dy fod ti’n ddieuog, a dy fod ti heb wneud unrhyw beth o’i le.” 17 A dechreuodd Abraham erfyn ar y gwir Dduw mewn gweddi, ac fe wnaeth Duw iacháu Abimelech a’i wraig a’i gaethferched, a dechreuon nhw gael plant; 18 oherwydd bod Jehofa wedi achosi i holl ferched* tŷ Abimelech fod yn ddiffrwyth o achos Sara, gwraig Abraham.
21 Gwnaeth Jehofa droi ei sylw at Sara fel roedd ef wedi dweud, a chyflawnodd Jehofa ei addewid i Sara. 2 Felly daeth Sara yn feichiog ac yna geni mab i Abraham yn ei henaint ar yr amser penodedig roedd Duw wedi ei addo iddo. 3 Dyma Abraham yn enwi’r mab roedd Sara newydd ei eni iddo yn Isaac. 4 A gwnaeth Abraham enwaedu ei fab Isaac pan oedd yn wyth diwrnod oed, yn union fel roedd Duw wedi gorchymyn iddo. 5 Roedd Abraham yn 100 mlwydd oed pan gafodd ei fab Isaac ei eni iddo. 6 Yna dywedodd Sara: “Mae Duw wedi gwneud imi chwerthin yn llawen; bydd pawb sy’n clywed am hyn yn chwerthin gyda mi.”* 7 Ac ychwanegodd hi: “Pwy fyddai wedi dweud wrth Abraham, ‘Bydd Sara yn bendant yn magu plant’? Ond eto, rydw i wedi rhoi genedigaeth i fab iddo yn ei henaint.”
8 Nawr gwnaeth y plentyn dyfu a doedd ef ddim yn cael ei fwydo ar y fron bellach,* a dyma Abraham yn paratoi gwledd fawr ar y diwrnod y gwnaeth Isaac stopio cael ei fwydo ar y fron. 9 Ond dechreuodd Sara sylwi bod mab Hagar yr Eifftes, yr un y gwnaeth hi ei eni i Abraham, yn gwneud hwyl am ben Isaac. 10 Felly dywedodd hi wrth Abraham: “Gyrra allan y gaethferch hon a’i mab, oherwydd fydd mab y gaethferch hon ddim yn etifedd gyda fy mab i, gydag Isaac!” 11 Ond doedd yr hyn a ddywedodd hi am ei fab ddim yn plesio Abraham o gwbl. 12 Yna dywedodd Duw wrth Abraham: “Paid â theimlo’n ddrwg am yr hyn mae Sara’n ei ddweud wrthot ti am dy fachgen ac am dy gaethferch. Gwranda arni hi, oherwydd bydd yr hyn a fydd yn cael ei alw’n had iti yn dod drwy Isaac. 13 Ynglŷn â mab y gaethferch, bydda i’n gwneud cenedl allan ohono ef hefyd, oherwydd ei fod yn ddisgynnydd* iti.”
14 Felly cododd Abraham yn gynnar yn y bore a chymerodd fara a photel groen o ddŵr a’u rhoi i Hagar. Gosododd nhw ar ei hysgwydd ac yna ei hanfon hi i ffwrdd gyda’r bachgen. Felly dyma hi’n gadael ac yn crwydro o gwmpas yn anialwch Beer-seba. 15 Yn y diwedd, roedd y dŵr yn y botel groen wedi darfod, a gwthiodd hi’r bachgen o dan un o’r perthi. 16 Yna aeth hi ymlaen ac eisteddodd ar ei phen ei hun, tua ergyd bwa i ffwrdd, oherwydd dywedodd hi: “Dydw i ddim eisiau gwylio’r bachgen yn marw.” Felly eisteddodd hi yn bell i ffwrdd a dechreuodd hi grio’n uchel ac wylo.
17 Ar hynny clywodd Duw lais y bachgen, a dyma angel Duw’n galw ar Hagar o’r nefoedd ac yn dweud wrthi: “Beth sy’n bod, Hagar? Paid ag ofni, oherwydd mae Duw wedi clywed llais y bachgen. 18 Cod, a choda’r bachgen a gafael ynddo â dy law, oherwydd bydda i’n ei wneud yn genedl fawr.” 19 Yna agorodd Duw ei llygaid hi a gwelodd hi ffynnon ddŵr, ac aeth hi a llenwi’r botel groen â dŵr a rhoi diod i’r bachgen. 20 Ac roedd Duw gyda’r bachgen wrth iddo dyfu i fyny. Roedd yn byw yn yr anialwch ac fe ddaeth yn saethwr bwa. 21 Dechreuodd fyw yn anialwch Paran, a gwnaeth ei fam gymryd gwraig iddo o wlad yr Aifft.
22 Yr adeg honno dyma Abimelech a Phichol, pennaeth ei fyddin, yn dweud wrth Abraham: “Mae Duw gyda ti ym mhopeth rwyt ti’n ei wneud. 23 Felly dos ar dy lw, yma o flaen Duw, na fyddi di’n fy nhwyllo i na fy mhlant na fy nisgynyddion, ac y byddi di’n delio â mi a’r tir lle rwyt ti wedi bod yn byw gyda’r un cariad ffyddlon rydw i wedi ei ddangos tuag atat ti.” 24 Felly dywedodd Abraham: “Rydw i’n mynd ar fy llw.”
25 Ond, fe wnaeth Abraham gwyno wrth Abimelech am y ffynnon ddŵr roedd gweision Abimelech wedi ei chymryd yn dreisgar. 26 Atebodd Abimelech: “Dydw i ddim yn gwybod pwy wnaeth hyn; wnest ti ddim sôn wrtho i am hyn, a chlywais i ddim byd am y peth tan heddiw.” 27 Ar hynny cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg a’u rhoi nhw i Abimelech, a gwnaeth y ddau ohonyn nhw gyfamod. 28 Pan wnaeth Abraham osod saith o ŵyn benyw ar wahân i’r praidd, 29 dywedodd Abimelech wrth Abraham: “Pam rwyt ti wedi gosod y saith oen fenyw yma ar eu pennau eu hunain?” 30 Yna dywedodd yntau: “Rwyt ti i dderbyn y saith oen fenyw o fy llaw yn dystiolaeth fy mod i wedi cloddio’r ffynnon hon.” 31 Dyna pam gwnaeth ef alw’r lle hwnnw’n Beer-seba,* oherwydd yno gwnaeth y ddau ohonyn nhw dyngu llw. 32 Felly gwnaethon nhw gyfamod yn Beer-seba, ac ar ôl hynny cododd Abimelech a Phichol, pennaeth ei fyddin, ac aethon nhw yn ôl i wlad y Philistiaid. 33 Ar ôl hynny plannodd ef goeden tamarisg yn Beer-seba, ac yno roedd ef yn galw ar enw Jehofa, y Duw tragwyddol. 34 Ac arhosodd Abraham yng ngwlad y Philistiaid am amser hir.
22 Nawr ar ôl hyn, fe roddodd y gwir Dduw Abraham ar brawf, a dweud wrtho: “Abraham!” ac atebodd yntau: “Dyma fi!” 2 Yna fe ddywedodd: “Cymera, plîs, dy fab, dy unig fab rwyt ti’n ei garu gymaint, Isaac, a dos i wlad Moreia ac offryma ef yno yn offrwm llosg ar un o’r mynyddoedd y bydda i’n ei ddangos iti.”
3 Felly cododd Abraham yn gynnar yn y bore a pharatoi ei asyn a chymryd dau o’i weision gydag ef a’i fab Isaac. Holltodd y coed ar gyfer yr offrwm llosg, ac yna fe gododd a theithio i’r lle roedd y gwir Dduw wedi sôn wrtho amdano. 4 Ar y trydydd dydd, edrychodd Abraham a gweld y lle yn y pellter. 5 Yna dywedodd Abraham wrth ei weision: “Arhoswch chi yma gyda’r asyn, ond bydd y bachgen a minnau yn mynd i fan ’na i addoli a dod yn ôl atoch chi.”
6 Felly cymerodd Abraham y coed ar gyfer yr offrwm llosg a’u rhoi ar ei fab Isaac. Yna cymerodd y tân a’r gyllell yn ei ddwylo, a cherddodd y ddau ohonyn nhw ymlaen gyda’i gilydd. 7 Yna dywedodd Isaac wrth ei dad Abraham: “Fy nhad!” Atebodd yntau: “Ie, fy mab!” Felly aeth ymlaen: “Dyma’r tân a’r coed, ond lle mae’r oen gwryw ar gyfer yr offrwm llosg?” 8 Atebodd Abraham: “Bydd Duw ei hun yn darparu’r oen ar gyfer yr offrwm llosg, fy mab.” A cherddodd y ddau ohonyn nhw ymlaen gyda’i gilydd.
9 O’r diwedd cyrhaeddon nhw’r lle roedd y gwir Dduw wedi sôn wrtho amdano, ac adeiladodd Abraham allor yno a gosod y coed arni. Clymodd ef ddwylo a thraed ei fab Isaac a’i roi ar yr allor ar ben y coed. 10 Yna estynnodd Abraham ei law a chymryd y gyllell er mwyn lladd ei fab. 11 Ond dyma angel Jehofa yn galw arno o’r nefoedd a dweud: “Abraham, Abraham!” ac atebodd yntau: “Dyma fi!” 12 Yna dywedodd: “Paid â niweidio’r bachgen, a phaid â gwneud unrhyw beth o gwbl iddo, oherwydd rydw i’n gwybod nawr dy fod ti’n ofni Duw am nad wyt ti wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.” 13 Ar hynny, edrychodd Abraham i fyny, ac yna o’i flaen roedd ’na hwrdd a’i gyrn yn sownd mewn llwyn trwchus. Felly aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a’i offrymu’n offrwm llosg yn lle ei fab. 14 A galwodd Abraham y lle hwnnw’n Jehofa-jire.* Dyna pam mae pobl yn dal i ddweud heddiw: “Ar fynydd Jehofa fe fydd yn cael ei ddarparu.”
15 A dyma angel Jehofa’n galw ar Abraham am yr ail dro o’r nefoedd, 16 gan ddweud: “‘Rydw i’n gwneud llw yn fy enw fy hun,’ meddai Jehofa, ‘oherwydd dy fod ti wedi gwneud hyn a dwyt ti ddim wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, 17 rydw i’n sicr yn mynd i dy fendithio di ac amlhau dy ddisgynyddion* fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr, a bydd dy ddisgynnydd* di yn meddiannu dinasoedd* ei elynion. 18 A thrwy gyfrwng dy ddisgynnydd* di bydd holl genhedloedd y ddaear yn cael eu bendithio oherwydd dy fod ti wedi gwrando ar fy llais.’”
19 Ar ôl hynny aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw’n codi ac yn mynd yn ôl gyda’i gilydd i Beer-seba; a pharhaodd Abraham i fyw yn Beer-seba.
20 Ar ôl hynny, cafodd hyn ei ddweud wrth Abraham: “Mae Milca hefyd wedi geni meibion i Nachor dy frawd: 21 Us ei gyntaf-anedig, Bus ei frawd, Cemuel tad Aram, 22 Cesed, Haso, Pildas, Jidlaff, a Bethuel.” 23 Daeth Bethuel yn dad i Rebeca. Gwnaeth Milca eni’r wyth hyn i Nachor, brawd Abraham. 24 Fe wnaeth gwraig arall* iddo, sef Reuma, hefyd eni meibion: Teba, Gaham, Tahas, a Maacha.
23 A gwnaeth Sara fyw am 127 o flynyddoedd; dyna flynyddoedd bywyd Sara. 2 Felly bu farw Sara yn Ciriath-arba, hynny yw, Hebron, yng ngwlad Canaan, a dechreuodd Abraham alaru am Sara a wylo drosti. 3 Yna gadawodd Abraham gorff ei wraig ac fe ddywedodd wrth feibion Heth: 4 “Estronwr a mewnfudwr ydw i yn eich plith. Rhowch imi ddarn o dir i fod yn fedd yn eich plith er mwyn imi fedru claddu fy marw.” 5 Ar hynny gwnaeth meibion Heth ateb Abraham: 6 “Gwranda arnon ni, fy arglwydd. Rwyt ti’n bennaeth i Dduw* yn ein plith ni. Fe gei di gladdu dy farw yn un o’r beddau gorau sydd gynnon ni. Ni fydd un ohonon ni’n gwrthod rhoi ei fedd iti i dy ddal di’n ôl rhag claddu dy farw.”
7 Felly cododd Abraham ac ymgrymu i bobl y wlad, i feibion Heth, 8 a dweud wrthyn nhw: “Os ydych chi’n cytuno imi gladdu fy marw, yna gwrandewch arna i ac ewch ati i berswadio Effron fab Sohar 9 i werthu imi ogof Machpela, sy’n perthyn iddo, ac sydd ar ymyl ei gae. Gadewch iddo ei gwerthu imi yn eich presenoldeb am y pris llawn o arian er mwyn imi gael rhywle i gladdu fy marw.”
10 Nawr roedd Effron yn eistedd ymysg meibion Heth. Felly gwnaeth Effron yr Hethiad ateb Abraham yng nghlyw meibion Heth, ac o flaen pawb oedd wedi dod i mewn drwy borth ei ddinas, gan ddweud: 11 “Na, fy arglwydd! Gwranda arna i. Rydw i’n rhoi iti’r cae a’r ogof sydd ynddo. Ym mhresenoldeb meibion fy mhobl, rydw i’n eu rhoi iti. Cladda dy farw.” 12 Gyda hynny, dyma Abraham yn ymgrymu o flaen pobl y wlad 13 a siarad ag Effron yng nghlyw’r bobl, gan ddweud: “Gwranda arna i, plîs! Fe wna i roi iti’r pris llawn o arian am y cae. Cymera hyn gen i, er mwyn imi fedru claddu fy marw yno.”
14 Yna gwnaeth Effron ateb Abraham: 15 “Fy arglwydd, gwranda arna i. Mae’r darn o dir hwn yn werth 400 sicl* o arian, ond beth ydy hynny rhyngot ti a minnau? Felly cladda dy farw.” 16 Gwrandawodd Abraham ar Effron, a dyma Abraham yn pwyso’r swm o arian i Effron, y swm roedd wedi sôn amdano yng nghlyw meibion Heth, 400 sicl* o arian yn ôl pwysau’r masnachwyr. 17 Felly cafodd cae Effron yn Machpela, a oedd o flaen Mamre—y cae a’r ogof ynddo a’r holl goed o fewn terfyn y cae—ei gadarnhau fel 18 eiddo roedd Abraham wedi ei brynu ym mhresenoldeb meibion Heth, o flaen pawb oedd wedi dod i mewn drwy borth ei ddinas. 19 Ar ôl hynny fe wnaeth Abraham gladdu ei wraig Sara yn yr ogof yng nghae Machpela o flaen Mamre, hynny yw, Hebron, yng ngwlad Canaan. 20 Felly cafodd y cae a’r ogof ynddo eu trosglwyddo gan feibion Heth i Abraham fel lle i gladdu ei farw.
24 Roedd Abraham wedi mynd yn hen erbyn hyn, ac roedd Jehofa wedi bendithio Abraham ym mhob peth. 2 Dywedodd Abraham wrth ei was, yr hynaf yn ei dŷ, a oedd yn gofalu am bopeth roedd ganddo: “Plîs, rho dy law o dan fy nghlun, 3 ac fe wna i achosi iti wneud llw i Jehofa, Duw’r nefoedd a Duw’r ddaear, na fyddi di’n cymryd gwraig i fy mab o ferched y Canaaneaid, y rhai rydw i’n byw yn eu plith. 4 Mae’n rhaid iti fynd yn hytrach i fy ngwlad i ac at fy mherthnasau a chymryd gwraig i fy mab, Isaac.”
5 Fodd bynnag, dywedodd y gwas wrtho: “Beth petai’r ddynes* yn gwrthod dod gyda mi i’r wlad hon? Ydw i wedyn yn gorfod mynd â dy fab yn ôl i’r wlad y dest ti ohoni hi?” 6 Ar hynny dywedodd Abraham wrtho: “Gwna’n siŵr nad wyt ti’n mynd â fy mab yno. 7 Jehofa, Duw’r nefoedd, a wnaeth fy nghymryd i o dŷ fy nhad ac o wlad fy mherthnasau a’r un a wnaeth siarad â mi a thyngu llw wrtho i: ‘Rydw i am roi’r wlad hon i dy ddisgynyddion,’* ef yw’r un a fydd yn anfon ei angel o dy flaen di, a byddi di’n bendant yn cymryd gwraig i fy mab o’r fan honno. 8 Ond os ydy’r ddynes* yn anfodlon dod gyda ti, fe fyddi di’n rhydd oddi wrth y llw hwn. Ond mae’n rhaid iti beidio â mynd â fy mab yno.” 9 Gyda hynny rhoddodd y gwas ei law o dan glun Abraham ei feistr a gwneud llw iddo ynglŷn â’r mater hwn.
10 Felly cymerodd y gwas ddeg o gamelod ei feistr a mynd i ffwrdd, gan gymryd gydag ef bob math o bethau da roedd ei feistr wedi eu rhoi. Yna fe aeth ar ei daith i Mesopotamia, i ddinas Nachor. 11 Fe wnaeth i’r camelod orwedd wrth ymyl ffynnon ddŵr y tu allan i’r ddinas. Roedd hi gyda’r hwyr, yr amser pan fyddai’r merched* yn mynd allan i godi dŵr. 12 Yna dywedodd: “Jehofa, Duw fy meistr Abraham, plîs rho lwyddiant imi’r diwrnod hwn, a dangosa dy gariad ffyddlon tuag at fy meistr Abraham. 13 Dyma fi’n sefyll wrth ffynnon ddŵr, ac mae merched dynion y ddinas yn dod allan i godi dŵr. 14 Y ddynes* ifanc y bydda i’n dweud wrthi, ‘Plîs, gad imi gael diod o dy jar ddŵr,’ ac sy’n ateb, ‘Cymera ddiod, ac fe wna i roi dŵr i dy gamelod hefyd,’ gad i hon fod yr un rwyt ti’n ei dewis ar gyfer dy was Isaac; a thrwy hyn rho wybod imi dy fod ti wedi dangos dy gariad ffyddlon tuag at fy meistr.”
15 Hyd yn oed cyn iddo orffen siarad, gwnaeth Rebeca, a oedd yn ferch i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham, ddod allan â’i jar ddŵr ar ei hysgwydd. 16 Nawr roedd y ddynes* ifanc yn hardd iawn, yn wyryf; doedd yr un dyn wedi cael rhyw gyda hi. Aeth hi i lawr i’r ffynnon, llenwi ei jar ddŵr, ac yna dod yn ôl i fyny. 17 Ar unwaith rhedodd y gwas i’w chyfarfod hi a dweud: “Plîs, rho ychydig o ddŵr imi o dy jar.” 18 Dywedodd hithau: “Yfa, fy arglwydd.” A dyma hi’n gyflym yn tynnu’r jar i lawr oddi ar ei hysgwydd a’i dal tra oedd hi’n rhoi diod iddo. 19 Ar ôl iddi orffen rhoi diod iddo, fe ddywedodd hi: “Fe wna i hefyd godi dŵr ar gyfer dy gamelod nes y byddan nhw wedi gorffen yfed.” 20 Felly brysiodd hi i wagio ei jar i mewn i’r cafn dŵr a rhedeg dro ar ôl tro i’r ffynnon i godi dŵr, ac roedd hi’n parhau i godi dŵr ar gyfer ei holl gamelod. 21 Yr holl amser roedd y dyn yn syllu mewn syndod arni hi heb ddweud yr un gair, yn ceisio dyfalu a oedd Jehofa wedi gwneud ei daith yn llwyddiannus neu beidio.
22 Pan oedd y camelod wedi gorffen yfed, rhoddodd y dyn iddi fodrwy drwyn aur yn pwyso hanner sicl* a dwy freichled aur yn pwyso deg sicl,* 23 ac fe ddywedodd: “Plîs, dweud wrtho i, merch pwy wyt ti? Oes ’na le yn nhŷ dy dad inni gael aros dros nos?” 24 Atebodd hithau: “Merch Bethuel ydw i. Fy nhad ydy mab Milca a Nachor.” 25 Ac fe ychwanegodd hi: “Mae gynnon ni wellt a bwyd ar gyfer y camelod a lle ichi aros dros nos.” 26 Yna dyma’r dyn yn ymgrymu ac yn syrthio ar ei hyd o flaen Jehofa 27 ac yn dweud: “Rydw i’n dymuno i Jehofa gael ei foli, Duw fy meistr Abraham, oherwydd ei fod wedi parhau i ddangos ei gariad ffyddlon a’i ffyddlondeb tuag at fy meistr. Mae Jehofa wedi fy arwain i i dŷ brodyr fy meistr.”
28 A rhedodd y ddynes* ifanc i ddweud wrth ei mam ac eraill am y pethau hyn. 29 Nawr roedd gan Rebeca frawd a’i enw oedd Laban. Felly rhedodd Laban at y dyn a oedd y tu allan wrth y ffynnon. 30 Pan welodd y fodrwy drwyn a’r breichledau ar ddwylo ei chwaer a chlywed geiriau ei chwaer Rebeca, a oedd yn dweud, “Dyma’r ffordd gwnaeth y dyn siarad â mi,” fe ddaeth i gwrdd â’r dyn, a oedd yn dal i sefyll yno gyda’r camelod wrth y ffynnon. 31 Ar unwaith fe ddywedodd: “Tyrd, rwyt ti wedi cael dy fendithio gan Jehofa. Pam rwyt ti’n dal i sefyll y tu allan? Rydw i wedi paratoi’r tŷ a lle i’r camelod.” 32 Gyda hynny daeth y dyn i mewn i’r tŷ, ac fe wnaeth ef* dynnu’r harneisiau oddi ar y camelod a rhoi gwellt a bwyd i’r camelod a dŵr i olchi ei draed a thraed y dynion a oedd gydag ef. 33 Fodd bynnag, pan gafodd bwyd ei osod o’i flaen, dywedodd: “Dydw i ddim yn mynd i fwyta nes imi ddweud wrthot ti’r hyn sydd gen i i’w ddweud.” Felly dywedodd Laban: “Siarada!”
34 Yna dywedodd: “Gwas Abraham ydw i. 35 Ac mae Jehofa wedi bendithio fy meistr yn fawr iawn, ac mae wedi ei wneud yn gyfoethog iawn drwy roi iddo ddefaid a gwartheg, arian ac aur, gweision a morynion, a chamelod ac asynnod. 36 Ymhellach, gwnaeth Sara, gwraig fy meistr, eni mab i fy meistr ar ôl iddi fynd yn hen, a bydd yn rhoi popeth sydd ganddo iddo. 37 Felly dyma fy meistr yn gwneud imi fynd ar fy llw, gan ddweud: ‘Paid â chymryd gwraig i fy mab o ferched y Canaaneaid, y bobl rydw i’n byw yn eu gwlad nhw. 38 Na, mae’n rhaid iti fynd i dŷ fy nhad ac at fy nheulu, ac mae’n rhaid iti gymryd gwraig i fy mab.’ 39 Ond dywedais wrth fy meistr: ‘Beth petai’r ddynes* yn anfodlon dod gyda mi?’ 40 Fe ddywedodd wrtho i: ‘Bydd Jehofa, yr un rydw i’n cerdded o’i flaen, yn anfon ei angel gyda ti a bydd yn sicr o wneud dy daith yn llwyddiannus, ac mae’n rhaid iti gymryd gwraig i fy mab o fy nheulu ac o dŷ fy nhad. 41 Fe fyddi di’n cael dy ryddhau oddi wrth dy lw imi os gwnei di fynd at fy nheulu a nhwthau ddim yn ei rhoi hi iti. Bydd hyn yn dy ryddhau di oddi wrth dy lw.’
42 “Pan gyrhaeddais i’r ffynnon heddiw, dywedais i: ‘Jehofa, Duw fy meistr Abraham, os gwnei di fy nhaith yn llwyddiannus, 43 dyma fi’n sefyll wrth ymyl ffynnon. Pan fydd dynes* ifanc yn dod i godi dŵr, bydda i’n dweud, “Plîs, rho ychydig o ddŵr imi i’w yfed o dy jar,” 44 a bydd hi’n dweud wrtho i, “Cymera ddiod, a bydda i hefyd yn codi dŵr ar gyfer dy gamelod.” Gad i’r ddynes* honno fod yr un mae Jehofa wedi ei dewis ar gyfer mab fy meistr.’
45 “Cyn imi orffen siarad yn fy nghalon, dyma Rebeca yn dod gyda’i jar ar ei hysgwydd, ac yn gwneud ei ffordd i lawr at y ffynnon ac yn dechrau codi dŵr. Yna dywedais wrthi: ‘Rho ddiod imi, os gweli di’n dda.’ 46 Felly brysiodd hi i dynnu’r jar oddi ar ei hysgwydd a dweud: ‘Cymera ddiod, ac fe wna i hefyd roi dŵr i dy gamelod.’ Yna cymerais ddiod, ac fe wnaeth hi roi dŵr i’r camelod hefyd. 47 Ar ôl hynny gofynnais iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ ac atebodd hithau, ‘Merch Bethuel, fab Nachor a Milca.’ Felly gosodais y fodrwy yn ei thrwyn a’r breichledau am ei dwylo. 48 Ac fe wnes i ymgrymu a gorwedd ar fy hyd o flaen Jehofa a moli Jehofa, Duw fy meistr Abraham, yr un a oedd wedi fy arwain i ar hyd y llwybr cywir i gymryd merch brawd fy meistr ar gyfer ei fab. 49 Ac nawr dywedwch wrtho i a ydych chi am ddangos cariad ffyddlon a ffyddlondeb tuag at fy meistr; ond os nad ydych chi, dywedwch wrtho i, fel galla i fynd ar fy ffordd i rywle arall i chwilio.”
50 Yna atebodd Laban a Bethuel: “Mae hyn yn dod oddi wrth Jehofa. Does gynnon ni ddim hawl i benderfynu ar y mater hwn. 51 Dyma Rebeca o dy flaen di. Cymera hi a dos, a gad iddi ddod yn wraig i fab dy feistr, yn union fel mae Jehofa wedi dweud.” 52 Pan glywodd gwas Abraham eu geiriau nhw, dyma’n ymgrymu i’r llawr ar unwaith o flaen Jehofa. 53 A dechreuodd y gwas estyn tlysau arian ac aur a dillad a’u rhoi nhw i Rebeca, ac fe roddodd bethau gwerthfawr i’w brawd ac i’w mam. 54 Ar ôl hynny gwnaeth ef a’r dynion gydag ef fwyta ac yfed, ac arhoson nhw yno dros nos.
Pan gododd yn y bore, fe ddywedodd: “Gadewch imi fynd at fy meistr.” 55 Dyma ei brawd a’i mam yn dweud: “Gad i’r ddynes* ifanc aros gyda ni am ddeg diwrnod o leiaf. Yna bydd hi’n gallu mynd.” 56 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Peidiwch â fy nal i yma, gan fod Jehofa wedi gwneud fy nhaith yn llwyddiannus. Anfonwch fi i ffwrdd, er mwyn imi fynd at fy meistr.” 57 Felly dywedon nhw: “Beth am inni alw’r ddynes* ifanc a gofyn iddi hi?” 58 Galwon nhw ar Rebeca a dweud wrthi: “Wyt ti’n barod i fynd gyda’r dyn hwn?” Atebodd hithau: “Rydw i’n fodlon mynd.”
59 Felly anfonon nhw i ffwrdd eu chwaer Rebeca a’r forwyn a oedd wedi ei magu hi, a gwas Abraham a’i ddynion. 60 Ac fe wnaethon nhw fendithio Rebeca a dweud wrthi: “Ein chwaer, rydyn ni’n dymuno iti ddod yn fam i filoedd o fyrddiynau,* ac i dy ddisgynyddion* di orchfygu dinasoedd* y rhai sy’n eu casáu nhw.” 61 Yna cododd Rebeca a’i morynion, mynd ar gefn y camelod, a dilyn y dyn. Felly cymerodd y gwas Rebeca a mynd ar ei daith.
62 Nawr roedd Isaac wedi dod o gyfeiriad Beer-lahai-roi, oherwydd ei fod yn byw yn ardal y Negef. 63 Ac roedd Isaac allan yn cerdded yn y cae wrth iddi nosi er mwyn myfyrio. Pan edrychodd, fe welodd gamelod yn dod! 64 Pan edrychodd Rebeca, fe welodd Isaac, a daeth hi i lawr o’r camel yn gyflym. 65 Yna gofynnodd hi i’r gwas: “Pwy ydy’r dyn hwnnw sy’n cerdded yn y cae i’n cyfarfod?” Ac atebodd y gwas: “Fy meistr ydy hwnnw.” Felly cymerodd ei fêl i’w gorchuddio ei hun. 66 A soniodd y gwas wrth Isaac am bopeth roedd wedi ei wneud. 67 Ar ôl hynny daeth Isaac â hi i mewn i babell Sara ei fam. Felly cymerodd Rebeca yn wraig iddo; ac fe syrthiodd mewn cariad â hi, ac fe gafodd Isaac gysur ar ôl colli ei fam.
25 Nawr cymerodd Abraham wraig unwaith eto, a’i henw hi oedd Cetura. 2 Ymhen amser gwnaeth hi eni iddo Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac, a Sua.
3 Daeth Jocsan yn dad i Seba a Dedan.
Meibion Dedan oedd Assurim, Letusim, a Lewmmim.
4 Meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida, ac Eldaa.
Roedd y rhain i gyd yn feibion i Cetura.
5 Yn ddiweddarach rhoddodd Abraham bopeth oedd ganddo i Isaac, 6 ond rhoddodd Abraham anrhegion i feibion ei wragedd eraill.* Yna, tra oedd yn dal yn fyw, fe anfonodd nhw tua’r dwyrain, i ffwrdd oddi wrth Isaac ei fab, i wlad y Dwyrain. 7 Blynyddoedd bywyd Abraham oedd 175 o flynyddoedd. 8 Yna cymerodd Abraham ei anadl olaf a bu farw ar ôl mwynhau bywyd hir, yn hen ac yn fodlon, ac fe wnaethon nhw ei gladdu yn union fel gwnaethon nhw gladdu gweddill ei bobl. 9 Gwnaeth ei feibion Isaac ac Ismael ei gladdu yn ogof Machpela, yng nghae Effron fab Sohar yr Hethiad, sydd o flaen Mamre, 10 y cae roedd Abraham wedi ei brynu gan feibion Heth. Yno cafodd Abraham ei gladdu gyda’i wraig Sara. 11 Ar ôl marwolaeth Abraham, roedd Duw yn parhau i fendithio ei fab Isaac, ac roedd Isaac yn byw wrth ymyl Beer-lahai-roi.
12 Dyma hanes Ismael, mab Abraham a gafodd ei eni iddo o Hagar yr Eifftes, morwyn Sara.
13 Nawr dyma enwau meibion Ismael, wedi eu rhestri yn ôl eu henwau a’u teuluoedd: Nebaioth, cyntaf-anedig Ismael, yna Cedar, Adbeel, Mibsam, 14 Misma, Duma, Massa, 15 Hadad, Tema, Jetur, Naffis, a Cedema. 16 Dyma feibion Ismael, a dyma eu henwau yn ôl eu pentrefi a’u gwersylloedd, 12 pennaeth yn ôl eu teuluoedd. 17 Gwnaeth Ismael fyw am 137 o flynyddoedd. Yna cymerodd ei anadl olaf a marw, a gwnaethon nhw ei gladdu yn union fel gwnaethon nhw gladdu ei bobl. 18 A dechreuon nhw fyw yn yr ardal o Hafila wrth ymyl Sur, sy’n agos at yr Aifft, hyd at Asyria. Fe setlodd wrth ymyl ei holl frodyr.
19 A dyma hanes Isaac fab Abraham.
Daeth Abraham yn dad i Isaac. 20 Roedd Isaac yn 40 mlwydd oed pan briododd Rebeca, merch Bethuel yr Aramead o Padan-aram, chwaer Laban yr Aramead. 21 Ac roedd Isaac yn dal i erfyn ar Jehofa ynglŷn â’i wraig, oherwydd doedd hi ddim yn gallu cael plant; felly atebodd Jehofa ei weddi, ac fe ddaeth ei wraig Rebeca yn feichiog. 22 A dechreuodd y meibion yn ei chroth frwydro â’i gilydd, nes iddi ddweud: “Os ydw i’n gorfod dioddef fel hyn, dydy bywyd ddim yn werth ei fyw.” Felly aeth hi ati i ofyn i Jehofa. 23 A dywedodd Jehofa wrthi: “Mae ’na ddwy genedl yn dy groth, a bydd dau lwyth yn cael eu geni ohonot ti; a bydd un genedl yn gryfach na’r genedl arall, a bydd yr hynaf yn gwasanaethu’r ieuengaf.”
24 Pan ddaeth yr amser iddi roi genedigaeth, edrycha! roedd gefeilliaid yn ei chroth. 25 Yna, daeth y cyntaf allan yn goch drosto ac roedd fel dilledyn o flew, felly dyma nhw’n ei alw’n Esau.* 26 Ar ôl hynny daeth ei frawd allan ac roedd ei law yn gafael yn sawdl Esau, felly gwnaeth ef ei alw’n Jacob.* Roedd Isaac yn 60 mlwydd oed pan roddodd Rebeca enedigaeth iddyn nhw.
27 Wrth i’r bechgyn dyfu, daeth Esau’n heliwr medrus, yn ddyn a oedd yn hoffi bod allan yn yr awyr agored, ond roedd Jacob yn ddyn di-fai, yn byw mewn pebyll. 28 Ac roedd Isaac yn caru Esau oherwydd ei fod yn mwynhau bwyta cig yr anifeiliaid roedd Esau’n eu hela, ond roedd Rebeca’n caru Jacob. 29 Un tro roedd Jacob yn berwi cawl pan ddaeth Esau yn ôl o’r cae wedi blino’n lân. 30 Felly dywedodd Esau wrth Jacob: “Brysia, plîs, rho ychydig o’r cawl coch yna imi, oherwydd rydw i wedi ymlâdd!”* Dyna pam ei enw oedd Edom.* 31 Atebodd Jacob: “Yn gyntaf gwertha imi dy hawliau fel cyntaf-anedig!” 32 Aeth Esau ymlaen i ddweud: “Dyma fi ar fin marw! Dydy fy hawliau fel cyntaf-anedig yn werth dim imi.” 33 Ac ychwanegodd Jacob: “Yn gyntaf dos ar dy lw!” Felly fe aeth ar ei lw a gwerthu ei hawliau fel cyntaf-anedig i Jacob. 34 Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau, ac fe wnaeth fwyta ac yfed, a chodi a mynd i ffwrdd. Fel hyn y gwnaeth Esau ddiystyru ei hawliau fel y cyntaf-anedig.
26 Nawr roedd ’na newyn yn y wlad, yn ogystal â’r newyn cyntaf a ddigwyddodd yn nyddiau Abraham, felly fe aeth Isaac at Abimelech brenin y Philistiaid yn Gerar. 2 Yna ymddangosodd Jehofa iddo a dweud: “Paid â mynd i lawr i’r Aifft. Arhosa yn y wlad rydw i’n ei dangos iti. 3 Mae’n rhaid iti fyw yn y wlad hon fel estronwr, a bydda i’n parhau i fod gyda ti ac i dy fendithio di oherwydd bydda i’n rhoi’r holl wledydd hyn i ti ac i dy ddisgynyddion* di, a bydda i’n gwireddu’r llw a wnes i i dy dad Abraham: 4 ‘Bydda i’n sicr yn lluosogi dy ddisgynyddion* fel sêr y nefoedd; a bydda i’n rhoi i dy ddisgynyddion* di’r holl wledydd hyn; a thrwy gyfrwng dy ddisgynnydd* di, bydd holl genhedloedd y ddaear yn cael eu bendithio,’* 5 oherwydd y ffaith fod Abraham wedi gwrando ar fy llais ac wedi parhau i gadw fy ngofynion, fy ngorchmynion, fy neddfau, a fy nghyfreithiau.” 6 Felly arhosodd Isaac yn Gerar.
7 Pan oedd dynion y lle yn dal i ofyn am ei wraig, byddai’n dweud: “Fy chwaer i ydy hi.” Roedd arno ofn dweud, “Fy ngwraig i ydy hi,” oherwydd ei fod wedi dweud, “Efallai bydd dynion y lle yn fy lladd i o achos Rebeca,” gan ei bod hi’n hardd iawn. 8 Ar ôl i ychydig o amser fynd heibio, roedd Abimelech brenin y Philistiaid yn edrych trwy’r ffenest, ac fe welodd Isaac yn anwesu* ei wraig Rebeca. 9 Ar unwaith galwodd Abimelech ar Isaac a dweud wrtho: “Dy wraig di ydy hon! Pam gwnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Ar hynny dywedodd Isaac wrtho: “Fe wnes i ddweud hynny oherwydd fy mod i’n ofni y byddwn i’n marw o’i hachos hi.” 10 Ond aeth Abimelech yn ei flaen i ddweud: “Beth rwyt ti wedi ei wneud inni? Byddai wedi bod yn hawdd i un o’r bobl orwedd i lawr gyda dy wraig, a byddet ti wedi ein gwneud ni i gyd yn euog!” 11 Yna rhoddodd Abimelech orchymyn i’w bobl i gyd, gan ddweud: “Bydd pwy bynnag sy’n cyffwrdd â’r dyn hwn a’i wraig yn sicr o gael ei roi i farwolaeth!”
12 A dechreuodd Isaac hau had yn y wlad honno, ac yn y flwyddyn honno fe wnaeth fedi canwaith cymaint yn fwy na’r hyn roedd wedi ei hau, oherwydd bod Jehofa’n ei fendithio. 13 Daeth y dyn yn gyfoethog, ac roedd yn parhau i ffynnu nes iddo ddod yn gyfoethog iawn. 14 Roedd ganddo nifer mawr o ddefaid a gwartheg a llawer iawn o weision, a dechreuodd y Philistiaid fod yn genfigennus ohono.
15 Felly dyma’r Philistiaid yn cymryd pridd ac yn llenwi’r holl ffynhonnau roedd gweision ei dad wedi eu cloddio yn nyddiau Abraham. 16 Yna dywedodd Abimelech wrth Isaac: “Symuda o’n hardal ni, oherwydd rwyt ti wedi dod yn llawer cryfach na ni.” 17 Felly symudodd Isaac oddi yno a gwersylla yn nyffryn* Gerar a dechrau byw yno. 18 A dyma Isaac yn ailgloddio’r ffynhonnau oedd wedi cael eu cloddio yn nyddiau ei dad Abraham, y rhai roedd y Philistiaid wedi eu llenwi ar ôl i Abraham farw, ac yn rhoi’r un enwau iddyn nhw roedd ei dad wedi eu rhoi iddyn nhw.
19 Tra oedd gweision Isaac yn cloddio yn y dyffryn,* daethon nhw ar draws ffynnon o ddŵr ffres. 20 A dechreuodd bugeiliaid Gerar gweryla gyda bugeiliaid Isaac, gan ddweud: “Ni sydd biau’r dŵr!” Felly rhoddodd yr enw Esec* i’r ffynnon, am eu bod nhw wedi cweryla ag ef. 21 A dyma nhw’n dechrau cloddio ffynnon arall, a dechrau cweryla dros honno hefyd. Felly rhoddodd yr enw Sitna* arni. 22 Yn hwyrach ymlaen symudodd o’r lle hwnnw a chloddio ffynnon arall, ond wnaethon nhw ddim dadlau drosti. Felly rhoddodd yr enw Rehoboth* arni a dweud: “Nawr mae Jehofa wedi rhoi digonedd o le inni ac wedi ein gwneud ni’n ffrwythlon yn y wlad.”
23 Yna aeth i fyny oddi yno i Beer-seba. 24 Y noson honno dyma Jehofa’n ymddangos iddo a dweud: “Fi ydy Duw dy dad Abraham. Paid ag ofni, oherwydd rydw i gyda ti, a bydda i’n dy fendithio di ac yn rhoi llawer o ddisgynyddion* iti o achos Abraham fy ngwas.” 25 Felly adeiladodd allor yno a galw ar enw Jehofa. A chododd Isaac ei babell yno, a chloddiodd ei weision ffynnon yno.
26 Yn hwyrach ymlaen daeth Abimelech ato o Gerar gydag Ahussath ei gynghorwr personol a Phichol, pennaeth ei fyddin. 27 Gyda hynny dywedodd Isaac wrthyn nhw: “Pam rydych chi wedi dod ata i, a chithau wedi fy nghasáu i ac wedi fy anfon i ffwrdd o’ch ardal?” 28 Dyma nhw’n ateb: “Rydyn ni wedi gweld yn glir bod Jehofa wedi bod gyda ti. Felly dywedon ni ymysg ein gilydd, ‘Dewch inni fynd ar lw a gwneud cyfamod rhyngot ti a ni, 29 fel na fyddi di’n gwneud unrhyw beth drwg inni yn union fel dydyn ni ddim wedi dy niweidio di, o ystyried ein bod ni ond wedi gwneud pethau da iti drwy dy anfon i ffwrdd mewn heddwch. Nawr ti yw’r un mae Jehofa’n ei fendithio.’” 30 Yna dyma’n paratoi gwledd iddyn nhw, a gwnaethon nhw fwyta ac yfed. 31 Dyma nhw’n codi’n gynnar yn y bore ac yn tyngu llw i’w gilydd. Ar ôl hynny gwnaeth Isaac eu hanfon nhw i ffwrdd, ac aethon nhw oddi wrtho mewn heddwch.
32 Y diwrnod hwnnw daeth gweision Isaac ato a sôn am y ffynnon roedden nhw wedi ei chloddio, gan ddweud: “Rydyn ni wedi dod o hyd i ddŵr!” 33 Felly rhoddodd yr enw Seba arni. Dyna pam mai enw’r ddinas yw Beer-seba hyd heddiw.
34 Pan oedd Esau’n 40 mlwydd oed, cymerodd Judith ferch Beeri yr Hethiad fel gwraig, a hefyd Basemath ferch Elon yr Hethiad. 35 Roedden nhw’n gwneud bywyd yn chwerw* iawn i Isaac a Rebeca.
27 Nawr pan oedd Isaac yn hen a’i lygaid yn rhy wan i weld, dyma’n galw Esau, ei fab hynaf, ato a dweud wrtho: “Fy mab!” Atebodd yntau: “Dyma fi!” 2 Ac aeth ymlaen i ddweud: “Rydw i wedi heneiddio, a dydw i ddim yn gwybod am faint hirach bydda i’n byw. 3 Nawr, plîs cymera dy arfau, dy fwa a dy saethau, a dos allan i hela anifeiliaid gwyllt imi. 4 Yna gwna’r bwyd blasus rydw i’n hoff ohono a dod ag ef ata i. Yna fe wna i ei fwyta er mwyn imi allu dy fendithio di cyn imi* farw.”
5 Ond, roedd Rebeca’n gwrando tra oedd Isaac yn siarad ag Esau ei fab. Ac aeth Esau allan i hela anifeiliaid ac i ddod â nhw i mewn. 6 A dywedodd Rebeca wrth Jacob ei mab: “Rydw i newydd glywed dy dad yn siarad â dy frawd Esau, ac yn dweud, 7 ‘Tyrd â chig imi a gwna bryd o fwyd blasus imi. Yna gad imi fwyta er mwyn imi allu dy fendithio di o flaen Jehofa cyn imi farw.’ 8 Ac nawr, fy mab, gwranda’n astud a gwna beth rydw i’n ei ddweud wrthot ti. 9 Dos, plîs, at y praidd a nôl dau o’r geifr ifanc gorau oddi yno er mwyn imi allu paratoi pryd o fwyd blasus i dy dad, yn union fel mae’n hoffi. 10 Yna cymera’r bwyd i dy dad i’w fwyta, er mwyn iddo dy fendithio di cyn iddo farw.”
11 Dywedodd Jacob wrth ei fam Rebeca: “Ond mae Esau fy mrawd yn ddyn blewog, ac mae fy nghroen i’n esmwyth. 12 Beth os ydy fy nhad yn cyffwrdd â mi? Yna fe fydd yn meddwl fy mod i’n gwneud hwyl am ei ben, a bydda i’n cael melltith yn hytrach na bendith.” 13 Ar hynny dywedodd ei fam wrtho: “Bydd y felltith a fyddai wedi mynd arnat ti yn dod arna i, fy mab. Gwna beth rydw i’n ei ddweud, a dos i nôl y geifr imi.” 14 Felly fe aeth i’w nôl nhw a dod â nhw at ei fam, a dyma ei fam yn gwneud pryd o fwyd blasus, yn union fel roedd ei dad yn hoffi. 15 Ar ôl hynny cymerodd Rebeca ddillad gorau ei mab hynaf Esau, dillad oedd ganddi yn y tŷ, a’u rhoi nhw ar ei mab ieuengaf, Jacob. 16 Hefyd rhoddodd hi grwyn y geifr ifanc ar ei ddwylo ac ar y rhan o’i war oedd heb flew. 17 Yna dyma hi’n cymryd y pryd o fwyd blasus a’r bara roedd hi wedi eu gwneud a’u rhoi nhw i’w mab Jacob.
18 Felly fe aeth i mewn at ei dad a dweud: “Fy nhad!” ac atebodd yntau: “Dyma fi! Pwy wyt ti, fy mab?” 19 Dywedodd Jacob wrth ei dad: “Esau ydw i, dy gyntaf-anedig. Rydw i wedi gwneud yn union fel dywedaist ti wrtho i. Eistedda i fyny, plîs, a bwyta ychydig o’r cig, er mwyn i ti* allu fy mendithio i.” 20 Ar hynny dywedodd Isaac wrth ei fab: “Sut cest ti hyd iddo mor gyflym, fy mab?” Atebodd yntau: “Oherwydd gwnaeth Jehofa dy Dduw ddod ag ef ata i.” 21 Yna dywedodd Isaac wrth Jacob: “Tyrd yn nes, plîs, er mwyn imi gyffwrdd â ti, fy mab, imi wybod ai fy mab Esau wyt ti mewn gwirionedd neu ddim.” 22 Felly daeth Jacob yn nes at ei dad Isaac, a dyma’n cyffwrdd ag ef. Yna dywedodd: “Llais Jacob ydy’r llais, ond dwylo Esau ydy’r dwylo.” 23 Doedd Isaac ddim yn ei adnabod oherwydd roedd ei ddwylo’n flewog fel dwylo ei frawd Esau. Felly dyma’n ei fendithio.
24 Ar ôl hynny gofynnodd: “Ai fy mab Esau wyt ti mewn gwirionedd?” a dyma’n ateb: “Ie.” 25 Yna dywedodd ef: “Tyrd â pheth o’r cig imi i’w fwyta, fy mab, yna fe wna i* dy fendithio di.” Ar hynny fe ddaeth â’r cig iddo a gwnaeth ef fwyta, ac fe ddaeth â gwin iddo ac fe wnaeth yfed. 26 Yna dywedodd Isaac ei dad wrtho: “Tyrd yn nes, plîs, a rho gusan imi, fy mab.” 27 Felly daeth yn nes a’i gusanu, ac roedd yn gallu arogli ei ddillad. Yna fe wnaeth ei fendithio a dweud:
“Edrycha, mae arogl fy mab fel arogl y tir mae Jehofa wedi ei fendithio. 28 Rydw i’n dymuno i’r gwir Dduw roi gwlith y nefoedd iti a phridd ffrwythlon y ddaear a digonedd o wenith a gwin newydd. 29 Bydd pobl yn dy wasanaethu di, a bydd cenhedloedd yn ymgrymu’n isel iti. Byddi di’n feistr ar dy frodyr, a bydd meibion dy fam yn ymgrymu’n isel iti. Melltith ar bawb sy’n dy felltithio di, a bendith ar bawb sy’n dy fendithio di.”
30 Nawr roedd Isaac newydd orffen bendithio Jacob, a Jacob prin wedi gadael presenoldeb ei dad Isaac, pan ddaeth ei frawd Esau yn ôl o’i hela. 31 Gwnaeth yntau hefyd baratoi pryd o fwyd blasus a dod ag ef at ei dad, a dywedodd wrth ei dad: “Cod, fy nhad, a bwyta ychydig o fy nghig, er mwyn i ti* fy mendithio i.” 32 Ar hynny dywedodd ei dad Isaac wrtho: “Pwy wyt ti?” ac atebodd: “Dy fab ydw i, dy gyntaf-anedig, Esau.” 33 A dechreuodd Isaac grynu’n ofnadwy, gan ddweud: “Felly, pwy aeth i hela a dod â’r cig ata i? Rydw i eisoes wedi ei fwyta cyn iti gyrraedd, a gwnes i ei fendithio ef—ac fe fydd yn sicr yn cael ei fendithio!”
34 Pan glywodd eiriau ei dad, dechreuodd Esau weiddi yn uchel ac yn chwerw iawn a dywedodd wrth ei dad: “Bendithia fi, ie finnau hefyd fy nhad!” 35 Ond dywedodd: “Daeth dy frawd a fy nhwyllo i er mwyn iddo ef gael y fendith roeddet ti i fod i’w chael.” 36 Ar hynny dywedodd: “Dim syndod mai Jacob* ydy ei enw, mae wedi fy nisodli i ddwywaith. Mae eisoes wedi cymryd fy hawliau fel y cyntaf-anedig, ac nawr mae wedi cymryd fy mendith!” Yna ychwanegodd: “Wyt ti wedi cadw bendith ar fy nghyfer i?” 37 Ond dyma Isaac yn ateb Esau: “Rydw i wedi ei benodi’n feistr arnat ti, ac rydw i wedi rhoi ei holl frodyr yn weision iddo, ac rydw i wedi rhoi gwenith iddo a gwin newydd. Beth sydd ar ôl imi ei roi i ti, fy mab?”
38 Dywedodd Esau wrth ei dad: “Oes ’na hyd yn oed un fendith sydd gen ti, fy nhad? Bendithia fi, ie finnau hefyd fy nhad!” Ar hynny dechreuodd Esau feichio crio. 39 Felly dyma ei dad Isaac yn ateb:
“Edrycha, i ffwrdd o bridd ffrwythlon y ddaear byddi di’n byw, ac i ffwrdd o wlith y nefoedd uchod. 40 A bydd dy gleddyf gen ti drwy’r amser i dy amddiffyn dy hun, a byddi di’n gwasanaethu dy frawd. Ond pan fyddi di wedi cael digon o’i wasanaethu, byddi di’n sicr yn dy ryddhau dy hun.”*
41 Fodd bynnag, roedd Esau’n dal dig yn erbyn Jacob oherwydd y fendith a roddodd ei dad iddo, ac roedd Esau’n parhau i ddweud yn ei galon: “Bydd fy nhad yn marw cyn bo hir.* Ar ôl hynny rydw i am ladd Jacob fy mrawd.” 42 Pan gafodd geiriau ei mab hynaf Esau eu hadrodd wrth Rebeca, dyma hi ar unwaith yn anfon am ei mab ieuengaf Jacob ac yn dweud wrtho: “Edrycha! mae dy frawd Esau’n bwriadu dial arnat ti drwy dy ladd di.* 43 Nawr, fy mab, gwna beth rydw i’n ei ddweud. Cod a rheda i ffwrdd at fy mrawd Laban sydd yn Haran. 44 Dos i fyw gydag ef am gyfnod nes i ddicter dy frawd dawelu, 45 nes i lid dy frawd tuag atat ti ddiflannu ac mae’n anghofio am beth wnest ti iddo. Yna fe wna i anfon amdanat ti oddi yno. Pam dylwn i golli’r ddau ohonoch chi mewn un diwrnod?”
46 Ar ôl hynny roedd Rebeca’n parhau i ddweud wrth Isaac: “Mae fy mywyd i’n ddiflas oherwydd merched Heth. Petai Jacob yn priodi un o ferched Heth, fel y merched lleol yma, byddai’n well gen i farw.”
28 Felly galwodd Isaac ar Jacob a’i fendithio a gorchymyn iddo: “Paid â phriodi un o ferched Canaan. 2 Dos i ffwrdd i Padan-aram i dŷ Bethuel, tad dy fam, ac o fan ’na cymera wraig i ti dy hun o blith merched Laban, brawd dy fam. 3 Bydd y Duw Hollalluog yn dy fendithio di ac yn dy wneud di’n ffrwythlon ac yn rhoi nifer mawr o ddisgynyddion iti, a byddi di’n sicr yn dod yn dyrfa o bobloedd. 4 A bydd ef yn rhoi iti fendith Abraham, i ti ac i dy ddisgynyddion,* fel y gelli di gymryd drosodd y wlad lle rwyt ti wedi bod yn byw fel estronwr, y wlad a roddodd Duw i Abraham.”
5 Felly gwnaeth Isaac anfon Jacob i ffwrdd, ac fe aeth i Padan-aram, at Laban fab Bethuel yr Aramead, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.
6 Fe welodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a’i anfon i ffwrdd i Padan-aram er mwyn cymryd gwraig o’r ardal honno a’i fod, ar ôl iddo ei fendithio, wedi gorchymyn iddo, “Paid â phriodi un o ferched Canaan,” 7 a gwelodd Esau fod Jacob wedi ufuddhau i’w dad a’i fam a mynd i Padan-aram. 8 Yna sylweddolodd Esau nad oedd merched Canaan yn plesio ei dad Isaac, 9 felly aeth Esau at Ismael a phriodi Mahalath yn ogystal â’r gwragedd eraill oedd ganddo. Roedd Mahalath yn chwaer i Nebaioth ac yn ferch i Ismael, mab Abraham.
10 Gadawodd Jacob Beer-seba a theithio tuag at Haran. 11 Ymhen amser daeth i ryw fan a pharatoi i aros dros nos yno oherwydd bod yr haul wedi machlud. Felly cymerodd un o gerrig y lle hwnnw a’i gosod hi er mwyn iddo fedru gorffwys ei ben arni a gorwedd i lawr yno. 12 Yna fe gafodd freuddwyd, ac edrycha! roedd grisiau* yn codi o’r ddaear i’r nefoedd; ac roedd angylion Duw yn mynd i fyny ac i lawr y grisiau. 13 Ac edrycha! roedd Jehofa uwchben y grisiau, ac fe ddywedodd:
“Fi ydy Jehofa, Duw Abraham dy dad a Duw Isaac. Rydw i’n mynd i roi’r tir rwyt ti’n gorwedd arno i ti, ac i dy ddisgynyddion.* 14 A bydd dy ddisgynyddion* di yn dod mor niferus â llwch y ddaear, a byddi di’n ymestyn dy diriogaeth di i’r gorllewin ac i’r dwyrain ac i’r gogledd ac i’r de, a thrwyddot ti a thrwy dy ddisgynyddion* di bydd holl deuluoedd y ddaear yn bendant yn cael eu bendithio. 15 Rydw i gyda ti, ac fe wna i dy amddiffyn di le bynnag y byddi di’n mynd, ac fe wna i ddod â ti yn ôl i’r wlad hon. Wna i ddim dy adael di hyd nes fy mod i wedi gwneud yr hyn y gwnes i ei addo iti.”
16 Yna deffrôdd Jacob o’i gwsg a dweud: “Yn wir mae Jehofa yn y lle hwn, a doeddwn i ddim yn gwybod.” 17 A daeth ofn arno ac ychwanegodd: “Am le syfrdanol! Mae’n rhaid mai tŷ Dduw ydy hwn, a dyma giât y nefoedd.” 18 Felly cododd Jacob yn gynnar yn y bore a chymryd y garreg roedd ef wedi gorffwys ei ben arni a’i gosod fel colofn a thywallt* olew ar ei phen. 19 Felly rhoddodd yr enw Bethel* ar y lle hwnnw, ond cyn hynny enw’r ddinas oedd Lus.
20 Yna gwnaeth Jacob adduned, gan ddweud: “Os bydd Duw’n parhau i fod gyda mi ac yn fy amddiffyn i ar fy siwrnai ac yn rhoi bara imi i’w fwyta a dillad i’w gwisgo 21 ac rydw i’n dod yn ôl mewn heddwch i dŷ fy nhad, yna’n sicr bydd Jehofa wedi ei brofi ei hun yn Dduw imi. 22 A bydd y garreg hon, yr un rydw i wedi ei gosod fel colofn, yn dŷ i Dduw, a heb os fe wna i roi iti un rhan o ddeg o bopeth rwyt ti wedi ei roi imi.”
29 Ar ôl hynny parhaodd Jacob ar ei daith a mynd ymlaen i wlad pobl y Dwyrain. 2 Nawr fe welodd ffynnon yn y cae a thri phraidd o ddefaid yn gorwedd wrth ei hymyl, oherwydd fel arfer roedden nhw’n defnyddio’r ffynnon honno i roi dŵr i’r preiddiau. Roedd ’na garreg fawr dros geg y ffynnon. 3 Pan oedd yr holl breiddiau wedi cael eu casglu yno, gwnaethon nhw rolio’r garreg i ffwrdd oddi wrth geg y ffynnon, a rhoi dŵr i’r preiddiau. Ar ôl hynny dyma nhw’n rhoi’r garreg yn ôl yn ei lle dros geg y ffynnon.
4 Felly dywedodd Jacob wrthyn nhw: “Fy mrodyr, o le rydych chi’n dod?” Dyma nhw’n ateb: “Rydyn ni’n dod o Haran.” 5 Dywedodd wrthyn nhw: “Ydych chi’n adnabod Laban, ŵyr Nachor?” ac atebon nhw: “Ydyn, rydyn ni’n ei adnabod ef.” 6 Gyda hynny dywedodd wrthyn nhw: “Ydy ef yn iawn?” Atebon nhw: “Ydy, mae’n iawn. A dyma ei ferch Rachel yn dod gyda’r defaid!” 7 Yna dywedodd: “Mae hi’n dal yn ganol dydd. Nid dyna’r amser i gasglu’r preiddiau. Rhowch ddŵr i’r defaid, ac yna ewch i’w bwydo nhw.” 8 I hynny dywedon nhw: “Dydyn ni ddim yn cael gwneud hynny nes bod yr holl breiddiau wedi cael eu casglu ac maen nhw’n rholio’r garreg i ffwrdd oddi wrth geg y ffynnon. Yna rydyn ni’n rhoi dŵr i’r defaid.”
9 Tra oedd yn dal i siarad â nhw, daeth Rachel gyda defaid ei thad, oherwydd roedd hi’n eu bugeilio nhw. 10 Pan wnaeth Jacob weld Rachel, merch Laban, brawd ei fam, a defaid Laban, aeth Jacob ar unwaith i rolio’r garreg i ffwrdd oddi wrth geg y ffynnon a rhoi dŵr i ddefaid Laban, brawd ei fam. 11 Yna dyma Jacob yn cyfarch Rachel â chusan ac yn codi ei lais ac yn beichio crio. 12 A dechreuodd Jacob ddweud wrth Rachel ei fod yn perthyn i’w thad ac mai ef oedd mab Rebeca. A dyma hi’n rhedeg i ffwrdd a dweud wrth ei thad.
13 Cyn gynted ag y clywodd Laban am Jacob, mab ei chwaer, rhedodd allan i’w gyfarfod. Gwnaeth Laban ei gofleidio a’i gusanu a dod ag ef i mewn i’w dŷ. A dechreuodd Jacob sôn wrth Laban am yr holl bethau hyn. 14 Dywedodd Laban wrtho: “Rwyt ti’n sicr yn perthyn yn agos iawn imi.”* Felly arhosodd gydag ef am fis cyfan.
15 Yna dywedodd Laban wrth Jacob: “A ddylet ti fy ngwasanaethu am ddim, dim ond am dy fod ti’n perthyn imi? Dyweda wrtho i, beth rwyt ti eisiau fel cyflog?” 16 Nawr roedd gan Laban ddwy ferch. Enw’r hynaf oedd Lea, ac enw’r ieuengaf oedd Rachel. 17 Ond doedd llygaid Lea ddim yn disgleirio. Ar y llaw arall, roedd Rachel yn ddynes* ddeniadol a phrydferth iawn. 18 Roedd Jacob wedi syrthio mewn cariad â Rachel, felly dywedodd: “Rydw i’n fodlon dy wasanaethu di am saith mlynedd am dy ferch ieuengaf, Rachel.” 19 I hyn dywedodd Laban: “Mae’n well imi ei rhoi hi i ti nag i ddyn arall. Arhosa yma gyda mi.” 20 A gwasanaethodd Jacob am saith mlynedd am Rachel, ond yn ei olwg ef roedden nhw ond fel ychydig o ddyddiau am ei fod yn ei charu hi gymaint.
21 Yna dywedodd Jacob wrth Laban: “Rho fy ngwraig imi oherwydd rydw i wedi cadw fy addewid,* a gad imi gysgu gyda hi.” 22 Gyda hynny casglodd Laban holl ddynion y lle a pharatoi gwledd. 23 Ond gyda’r nos, dyma’n penderfynu mynd â’i ferch Lea er mwyn iddo gysgu gyda hi. 24 Hefyd dyma Laban yn rhoi ei forwyn Silpa i ddod yn forwyn i’w ferch Lea. 25 Yn y bore gwelodd Jacob mai Lea oedd yno! Felly dywedodd wrth Laban: “Beth rwyt ti wedi ei wneud imi? Fe wnes i dy wasanaethu di am Rachel. Pam rwyt ti wedi fy nhwyllo i?” 26 Atebodd Laban: “Mae’n groes i’r arfer yn fan hyn i roi’r ferch ieuengaf cyn yr hynaf. 27 Gorffenna’r wythnos o ddathlu’r briodas. Ar ôl hynny byddi di hefyd yn cael y ddynes* arall hon os gwnei di fy ngwasanaethu am saith mlynedd arall.” 28 Dyna’n union a wnaeth Jacob a dathlu gweddill yr wythnos. Ar ôl hynny rhoddodd Laban ei ferch Rachel iddo fel gwraig. 29 Yn ogystal â hynny, rhoddodd Laban ei forwyn Bilha i fod yn forwyn i’w ferch Rachel.
30 Yna cysgodd Jacob gyda Rachel hefyd, ac roedd yn caru Rachel yn fwy na Lea, a gwnaeth ef wasanaethu Laban am saith mlynedd arall. 31 Pan welodd Jehofa nad oedd Lea’n cael ei charu,* rhoddodd y gallu iddi hi i ddod yn feichiog, ond roedd Rachel yn ddiffrwyth. 32 Felly daeth Lea’n feichiog a chael mab, a’i alw’n Reuben,* oherwydd dywedodd hi: “Mae hyn oherwydd bod Jehofa wedi fy ngweld i’n dioddef. Nawr bydd fy ngŵr yn dechrau fy ngharu i.” 33 A daeth hi’n feichiog eto a chael mab a dywedodd: “Mae hyn am fod Jehofa wedi gwrando. Doeddwn i ddim yn cael fy ngharu, felly rhoddodd hwn imi hefyd.” Yna rhoddodd hi’r enw Simeon* arno. 34 A daeth hi’n feichiog unwaith eto a chael mab ac yna dywedodd: “Nawr y tro hwn bydd fy ngŵr yn closio ata i, am fy mod i wedi rhoi tri mab iddo.” Felly, cafodd yr enw Lefi.* 35 A daeth hi’n feichiog unwaith eto a chael mab ac yna dywedodd: “Y tro hwn bydda i’n moli Jehofa.” Felly rhoddodd yr enw Jwda* arno. Ar ôl hynny dyma hi’n stopio cael plant.
30 Pan welodd Rachel nad oedd hi wedi rhoi unrhyw blant i Jacob, daeth hi’n genfigennus o’i chwaer a dechrau dweud wrth Jacob: “Rho blant imi neu bydda i’n marw.” 2 Ar hynny, gwylltiodd Jacob at Rachel, a dywedodd: “Ydw i wedi cymryd lle Duw, sydd wedi dy rwystro di rhag cael plant?” 3 Felly dywedodd hi: “Dyma fy nghaethferch Bilha. Cysga gyda hi er mwyn iddi hi allu cael plant drosto i a bydda i, drwyddi hi, yn gallu cael plant.” 4 Ar hynny, dyma hi’n rhoi ei morwyn Bilha iddo yn wraig, a chysgodd Jacob gyda hi. 5 Daeth Bilha yn feichiog, ac ymhen amser dyma hi’n geni mab i Jacob. 6 Yna dywedodd Rachel: “Mae Duw wedi gweithredu fel barnwr imi a hefyd wedi gwrando ar fy llais, ac felly wedi rhoi mab imi.” Dyna pam rhoddodd hi’r enw Dan* arno. 7 Daeth Bilha, morwyn Rachel, yn feichiog unwaith eto ac ymhen amser dyma hi’n geni ail fab i Jacob. 8 Yna dywedodd Rachel: “Rydw i wedi ymdrechu’n galed i gystadlu â fy chwaer. Ac rydw i wedi ennill!” Felly dyma hi’n ei alw’n Nafftali.*
9 Pan welodd Lea ei bod hi wedi stopio cael plant, cymerodd hi ei morwyn Silpa a’i rhoi i Jacob yn wraig. 10 A dyma Silpa, morwyn Lea, yn geni mab i Jacob. 11 Yna dywedodd Lea: “Rydw i mor ffodus!” Felly dyma hi’n ei alw’n Gad.* 12 Ar ôl hynny, dyma Silpa, morwyn Lea, yn geni ail fab i Jacob. 13 Yna dywedodd Lea: “Rydw i mor hapus, oherwydd bydd y merched yn sicr yn fy ngalw i’n hapus.” Felly rhoddodd hi’r enw Aser* arno.
14 Nawr roedd Reuben yn cerdded yn ystod adeg cynhaeaf y gwenith, a daeth ar draws mandragorau* yn y cae. Felly daeth â nhw at ei fam Lea. Yna dywedodd Rachel wrth Lea: “Plîs, rho imi rai o fandragorau dy fab.” 15 Ar hynny, dywedodd Lea wrthi: “Ai peth bach oedd cymryd fy ngŵr? Nawr rwyt ti eisiau cymryd mandragorau fy mab hefyd?” Felly dywedodd Rachel: “Iawn. Bydd ef yn cysgu gyda ti heno os gwnei di roi mandragorau dy fab imi.”
16 Pan oedd Jacob yn dod o’r cae gyda’r nos, aeth Lea allan i’w gyfarfod a dywedodd hi: “Gyda mi rwyt ti am gysgu heno, oherwydd rydw i wedi rhoi mandragorau fy mab i dalu amdanat ti.” Felly cysgodd ef gyda hi y noson honno. 17 A dyma Duw yn clywed Lea ac yn ei hateb, a daeth hi’n feichiog a geni pumed mab i Jacob ymhen amser. 18 Yna dywedodd Lea: “Mae Duw wedi talu cyflog imi oherwydd fe wnes i roi fy morwyn i fy ngŵr.” Felly rhoddodd hi’r enw Issachar arno.* 19 A daeth Lea yn feichiog unwaith eto ac ymhen amser dyma hi’n geni chweched mab i Jacob. 20 Yna dywedodd Lea: “Mae Duw wedi rhoi braint fawr yn wobr imi, ie i mi. O’r diwedd, bydd fy ngŵr yn fy ngoddef i, oherwydd rydw i wedi geni chwech mab iddo.” Felly rhoddodd hi’r enw Sabulon* arno. 21 Ar ôl hynny, cafodd hi ferch a’i galw hi’n Dina.
22 Yn y pen draw, cofiodd Duw am Rachel, a’i chlywed hi a’i hateb hi drwy ei galluogi hi i feichiogi. 23 A daeth hi’n feichiog a chael mab. Yna dywedodd hi: “Mae Duw wedi cymryd fy sarhad i ffwrdd!” 24 Felly dyma hi’n ei enwi’n Joseff,* gan ddweud: “Mae Jehofa yn rhoi mab arall imi.”
25 Ar ôl i Rachel eni Joseff, dyma Jacob ar unwaith yn dweud wrth Laban: “Anfona fi i ffwrdd er mwyn imi fynd yn ôl i fy nghartref a fy ngwlad. 26 Rydw i wedi gwasanaethu gyda ti ar gyfer fy ngwragedd a fy mhlant, felly rho nhw i mi er mwyn imi fynd, oherwydd rwyt ti’n gwybod yn iawn pa mor galed rydw i wedi dy wasanaethu di.” 27 Yna dywedodd Laban wrtho: “Os ydw i wedi dy blesio di,—rydw i wedi gweld arwyddion* bod Jehofa yn fy mendithio i o dy achos di.” 28 Ac ychwanegodd: “Dyweda beth rwyt ti eisiau fel cyflog, ac fe wna i ei roi iti.” 29 Felly dywedodd Jacob wrtho: “Rwyt ti’n gwybod yn iawn pa mor galed rydw i wedi dy wasanaethu di a fy mod i wedi gofalu am dy braidd; 30 ychydig oedd gen ti cyn imi ddod, ond mae dy braidd wedi cynyddu a thyfu, ac mae Jehofa wedi dy fendithio di ers imi gyrraedd. Felly pryd bydda i’n gwneud rhywbeth ar gyfer fy nheulu fy hun?”
31 Yna dywedodd ef: “Beth dylwn i ei roi iti?” A dywedodd Jacob: “Paid â rhoi dim byd o gwbl imi! Os gwnei di un peth imi, fe fydda i’n parhau i fugeilio dy braidd a’i warchod. 32 Fe wna i basio drwy dy holl braidd heddiw. Dylet ti neilltuo pob dafad frith, a phob un sydd â smotiau o liw a phob dafad frown tywyll ymhlith yr hyrddod* ifanc ac unrhyw un sydd â smotiau o liw neu sy’n frith ymhlith y geifr benyw. O hyn ymlaen, y rhain fydd fy nghyflog. 33 A bydd fy nghyfiawnder* yn siarad drosto i ar ddiwrnod yn y dyfodol pan fyddi di’n dod i edrych dros fy nghyflog; pob un sydd ddim yn frith ac sydd ddim â smotiau lliw ymhlith y geifr benyw a phob un sydd ddim yn frown tywyll ymhlith yr hyrddod ifanc, fe elli di ystyried fy mod i wedi eu dwyn os ydy hwnnw gyda mi.”
34 Atebodd Laban: “Mae hynny’n iawn! Gad iddi ddigwydd fel rwyt ti’n dweud.” 35 Yna, ar y diwrnod hwnnw, dyma’n neilltuo’r geifr gwryw oedd â streipiau neu smotiau o liw, a’r holl eifr benyw oedd yn frith neu oedd â smotiau o liw, pob un oedd ag unrhyw wyn arno, a phob un oedd yn frown tywyll ymhlith yr hyrddod ifanc, ac yn eu rhoi nhw yng ngofal ei feibion. 36 Ar ôl hynny, teithiodd i le a oedd yn siwrnai o dri diwrnod i ffwrdd o Jacob, ac roedd Jacob yn bugeilio gweddill preiddiau Laban.
37 Yna, cymerodd Jacob frigau ffres o goed storacs, almon, a phlanwydden, a chreu smotiau gwyn arnyn nhw drwy dynnu ychydig o’r rhisgl fel bod y pren gwyn o dan yn dangos. 38 Yna, gosododd y brigau hynny o flaen y praidd, yn y ffosydd, yn y cafnau dŵr, lle byddai’r preiddiau yn dod i yfed, fel y bydden nhw’n paru o’u blaenau nhw pan fyddan nhw’n dod i yfed.
39 Felly byddai’r preiddiau yn paru o flaen y brigau, a byddai’r preiddiau yn geni rhai bach a oedd â streipiau, rhai brith, a rhai oedd â smotiau o liw. 40 Yna neilltuodd Jacob yr hyrddod ifanc a throi’r preiddiau i wynebu’r rhai streipiog a’r holl rai brown tywyll ymhlith preiddiau Laban. Yna neilltuodd ei breiddiau ei hun heb eu cymysgu nhw â phreiddiau Laban. 41 A phryd bynnag byddai’r anifeiliaid cryfaf yn barod i genhedlu, byddai Jacob yn gosod y brigau yn y ffosydd yng ngolwg y preiddiau, fel y bydden nhw’n paru wrth ymyl y brigau. 42 Ond pan oedd yr anifeiliaid yn wan ni fyddai Jacob yn gosod y brigau yno. Felly roedd y rhai gwan yn wastad yn perthyn i Laban, ond roedd y rhai cryf yn perthyn i Jacob.
43 A daeth y dyn yn gyfoethog iawn, ac roedd ganddo breiddiau mawr a gweision a morynion a chamelod ac asynnod.
31 Ymhen amser clywodd Jacob beth roedd meibion Laban yn ei ddweud: “Mae Jacob wedi cymryd popeth oedd yn perthyn i’n tad, ac mae wedi ennill ei holl gyfoeth o eiddo ein tad.” 2 Pan fyddai Jacob yn edrych yn wyneb Laban, gwelodd nad oedd ei agwedd tuag ato yr un fath ag o’r blaen. 3 Yn y pen draw dywedodd Jehofa wrth Jacob: “Dos yn ôl i wlad dy dadau a dy berthnasau, a bydda i’n parhau gyda ti.” 4 Yna anfonodd Jacob neges at Rachel a Lea er mwyn iddyn nhw ddod allan i’r cae at ei braidd, 5 a dywedodd wrthyn nhw:
“Rydw i wedi gweld bod agwedd eich tad wedi newid tuag ata i, ond mae Duw fy nhad wedi bod gyda mi. 6 Rydych chi’n sicr yn gwybod fy mod i wedi gwasanaethu eich tad â fy holl nerth. 7 Ac mae eich tad wedi ceisio fy nhwyllo i ac wedi newid fy nghyflog ddeg gwaith; ond dydy Duw ddim wedi gadael iddo fy niweidio i. 8 Ar yr un llaw pan oedd eich tad yn dweud, ‘Y rhai â smotiau fydd dy gyflog,’ yna roedd y praidd cyfan yn cynhyrchu rhai â smotiau; ond ar y llaw arall pan oedd yn dweud, ‘Y rhai streipiog fydd dy gyflog,’ yna roedd y praidd cyfan yn cynhyrchu rhai streipiog. 9 Felly roedd Duw yn parhau i gymryd anifeiliaid eich tad oddi wrtho a’u rhoi nhw i mi. 10 Un tro pan oedd y praidd yn barod i genhedlu, gwnes i godi fy llygaid a gweld mewn breuddwyd fod y geifr gwryw a oedd yn beichiogi’r praidd yn streipiog, yn frith, ac a smotiau arnyn nhw. 11 Yna dyma angel y gwir Dduw yn dweud wrtho i yn y freuddwyd, ‘Jacob!’ ac atebais, ‘Dyma fi.’ 12 Ac aeth ymlaen i ddweud, ‘Cod dy lygaid, plîs, a gweld bod yr holl eifr gwryw sy’n beichiogi’r praidd yn streipiog, yn frith, ac a smotiau arnyn nhw, oherwydd rydw i wedi gweld popeth mae Laban yn ei wneud iti. 13 Fi ydy gwir Dduw Bethel, lle gwnest ti eneinio colofn a lle gwnest ti adduned imi. Nawr cod, dos allan o’r wlad hon, a dos yn ôl i’r wlad lle cest ti dy eni.’”
14 Ar hynny, dyma Rachel a Lea yn ateb: “Oes ’na unrhyw beth ar ôl i ni ei etifeddu o dŷ ein tad? 15 Onid ydy ef yn ein hystyried ni’n estronwyr, gan ei fod wedi ein gwerthu ni ac wedi bod yn gwario’r arian a gafodd ei dalu amdanon ni? 16 Mae’r holl gyfoeth mae Duw wedi ei gymryd oddi wrth ein tad yn perthyn i ni ac i’n plant. Felly, gwna bopeth mae Duw wedi ei ddweud wrthot ti.”
17 Yna cododd Jacob a rhoddodd ei blant a’i wragedd ar gefn y camelod, 18 a dechreuodd yrru ei braidd cyfan a’r holl eiddo roedd ef wedi ei gasglu, yr anifeiliaid roedd wedi eu casglu yn Padan-aram, i fynd at Isaac ei dad yng ngwlad Canaan.
19 Nawr roedd Laban wedi mynd i gneifio ei ddefaid, a dyma Rachel yn dwyn y delwau teraffim* a oedd yn perthyn i’w thad. 20 Ar ben hynny, roedd Jacob wedi twyllo Laban yr Aramead drwy beidio â dweud wrtho ei fod yn rhedeg i ffwrdd. 21 A dyma’n rhedeg i ffwrdd a chroesi’r Afon,* ef a phopeth oedd ganddo. Yna aeth tuag at ardal fynyddig Gilead. 22 Ar y trydydd diwrnod, clywodd Laban fod Jacob wedi rhedeg i ffwrdd. 23 Felly cymerodd ei frodyr* gydag ef a mynd ar eu holau ar daith saith diwrnod a dal i fyny â nhw yn ardal fynyddig Gilead. 24 Yna daeth Duw at Laban yr Aramead mewn breuddwyd yn ystod y nos a dywedodd wrtho: “Bydda’n ofalus beth rwyt ti’n ei ddweud wrth Jacob, yn dda neu’n ddrwg.”
25 Felly aeth Laban at Jacob, am fod Jacob wedi codi ei babell ar y mynydd ac roedd Laban wedi gwersylla gyda’i frodyr yn ardal fynyddig Gilead. 26 Yna dywedodd Laban wrth Jacob: “Beth rwyt ti wedi ei wneud? Pam rwyt ti wedi penderfynu fy nhwyllo i a chipio fy merched fel caethion mewn rhyfel? 27 Pam gwnest ti redeg i ffwrdd yn ddistaw bach a fy nhwyllo i a pheidio â dweud wrtho i? Petaset ti wedi dweud wrtho i, byddwn i wedi gallu dy anfon i ffwrdd â llawenydd ac â chaneuon, â thambwrîn ac â thelyn. 28 Ond wnest ti ddim rhoi cyfle imi gusanu fy wyrion a fy merched. Rwyt ti wedi gwneud peth gwirion. 29 Byddwn i’n gallu gwneud niwed i chi, ond gwnaeth Duw dy dad siarad â mi neithiwr, gan ddweud, ‘Bydda’n ofalus beth rwyt ti’n ei ddweud wrth Jacob, yn dda neu’n ddrwg.’ 30 Nawr rwyt ti wedi mynd oherwydd rwyt ti wedi bod yn hiraethu am fynd yn ôl i dŷ dy dad, ond pam rwyt ti wedi dwyn fy nuwiau?”
31 Dyma Jacob yn ateb Laban: “Gwnes i hyn am fod arna i ofn, oherwydd dywedais wrtho i fy hun, ‘Efallai bydd ef yn cymryd ei ferched oddi arna i trwy drais.’ 32 Os wyt ti’n darganfod bod gan unrhyw un yma dy dduwiau, fydd ef ddim yn cael byw. O flaen ein brodyr, chwilia drwy’r hyn sydd gen i, a chymera beth sy’n perthyn i ti.” Ond doedd Jacob ddim yn gwybod bod Rachel wedi eu dwyn nhw. 33 Felly aeth Laban i mewn i babell Jacob ac i mewn i babell Lea ac i mewn i babell y ddwy gaethferch, ond ni ddaeth o hyd iddyn nhw. Yna daeth allan o babell Lea ac aeth i mewn i babell Rachel. 34 Yn y cyfamser, roedd Rachel wedi cymryd yr eilunod teraffim a’u rhoi nhw yng nghyfrwy’r* camel, ac roedd hi’n eistedd arnyn nhw. Felly chwiliodd Laban drwy’r holl babell, ond ni ddaeth o hyd iddyn nhw. 35 Yna dywedodd hi wrth ei thad: “Paid â gwylltio, fy arglwydd, oherwydd dydw i ddim yn gallu codi o dy flaen di, oherwydd mae’r misglwyf arna i.”* Felly parhaodd i chwilio’n ofalus, ond ni ddaeth o hyd i’r delwau teraffim.
36 Ar hynny dyma Jacob yn gwylltio ac yn dechrau beirniadu Laban. Yna dywedodd Jacob wrth Laban: “Beth rydw i wedi ei wneud o’i le, ac am ba bechod rwyt ti’n fy nilyn i mor frwd? 37 Nawr dy fod ti wedi chwilio drwy fy holl eiddo, beth rwyt ti wedi dod o hyd iddo sy’n perthyn i dy dŷ di? Rho’r peth yma o flaen fy mrodyr i a dy frodyr di, a gad iddyn nhw benderfynu rhwng y ddau ohonon ni. 38 Yn ystod yr 20 mlynedd rydw i wedi bod gyda ti, dydy dy ddefaid na dy eifr erioed wedi erthylu,* a dydw i erioed wedi bwyta hyrddod* dy braidd. 39 Ni wnes i ddod ag unrhyw anifail oedd wedi ei ladd gan fwystfilod gwyllt iti. Byddwn i’n talu amdano fy hun. Pan oedd anifail yn cael ei ddwyn yn ystod y dydd neu yn y nos, byddet ti’n mynnu iawndal gen i. 40 Yn ystod y dydd roeddwn i’n dioddef oherwydd y gwres, ac oherwydd yr oerni yn ystod y nos, a byddwn i’n colli cwsg yn aml. 41 Rydw i wedi byw gyda ti am 20 mlynedd. Rydw i wedi dy wasanaethu di am 14 o flynyddoedd ar gyfer dy ddwy ferch a 6 mlynedd ar gyfer dy braidd, ac rwyt ti wedi parhau i newid fy nghyflog ddeg gwaith. 42 Petai Duw fy nhad, Duw Abraham a’r Un mae Isaac yn ei ofni, ddim wedi bod ar fy ochr, byddet ti nawr wedi fy anfon i i ffwrdd heb ddim byd. Mae Duw wedi gweld fy nhreialon a fy ngwaith caled, a dyna pam gwnaeth ef dy geryddu di neithiwr.”
43 Yna gwnaeth Laban ateb Jacob: “Fy merched i yw’r merched a fy mhlant i yw’r plant a fy mhraidd i yw’r praidd, ac mae popeth rwyt ti’n ei weld yn perthyn i fi ac i fy merched. Sut galla i wneud niwed iddyn nhw neu i’w plant? 44 Nawr tyrd, gad inni wneud cyfamod rhyngot ti a minnau, a bydd hwnnw’n dystiolaeth rhyngon ni.” 45 Felly cymerodd Jacob garreg a’i gosod fel colofn. 46 Yna dywedodd Jacob wrth ei frodyr: “Casglwch gerrig!” A chymeron nhw gerrig a gwneud pentwr. Ar ôl hynny gwnaethon nhw fwyta yno ar y pentwr o gerrig. 47 A dechreuodd Laban ei alw’n Jegar-sahadwtha,* ond gwnaeth Jacob ei alw’n Galeed.*
48 Yna dywedodd Laban: “Mae’r pentwr hwn o gerrig yn dystiolaeth rhyngot ti a minnau heddiw.” Dyna pam gwnaeth ef ei alw’n Galeed, 49 a’r Tŵr Gwylio, oherwydd dywedodd ef: “Bydd Jehofa yn ein gwylio ni pan fyddwn ni allan o olwg ein gilydd. 50 Os wyt ti’n cam-drin fy merched ac yn dechrau cymryd gwragedd heblaw fy merched i, cofia hyn: Hyd yn oed os nad ydy dyn yn ei weld, bydd Duw, sy’n dyst rhyngon ni, yn gweld.” 51 Aeth Laban ymlaen i ddweud wrth Jacob: “Dyma’r pentwr hwn o gerrig, a dyma’r golofn rydw i wedi ei gosod rhyngot ti a mi. 52 Mae’r pentwr hwn o gerrig, a’r golofn yn dystiolaeth sy’n dangos na fydda i’n dod heibio’r pentwr hwn o gerrig i wneud niwed i ti, ac ni fyddi di’n dod heibio’r pentwr hwn o gerrig a’r golofn hon i wneud niwed i mi. 53 Bydd Duw Abraham a Duw Nachor, Duw eu tad, yn barnu rhyngon ni.” A dyma Jacob yn tyngu llw yn enw’r Un mae ei dad Isaac yn ei ofni.
54 Ar ôl hynny offrymodd Jacob aberth ar y mynydd a gwahodd ei frodyr i fwyta bara. Felly gwnaethon nhw fwyta ac aros ar y mynydd dros nos. 55 Ond, cododd Laban yn gynnar yn y bore a chusanu ei wyrion a’i ferched a’u bendithio nhw. Yna gadawodd Laban a mynd yn ôl adref.
32 Yna aeth Jacob ar ei daith, a dyma angylion Duw yn cyfarfod ag ef. 2 Cyn gynted ag y gwelodd ef yr angylion, dywedodd Jacob: “Dyma wersyll Duw!” Felly enwodd y lle hwnnw yn Mahanaim.*
3 Yna anfonodd Jacob negeswyr o’i flaen at ei frawd Esau yng ngwlad Seir, tiriogaeth* Edom, 4 a gorchymyn iddyn nhw: “Dyma beth y byddwch chi’n ei ddweud wrth fy arglwydd, Esau, ‘Dyma beth mae dy was Jacob yn ei ddweud: “Rydw i wedi bod yn byw* gyda Laban am amser maith hyd heddiw. 5 Ac mae gen i deirw, asynnod, defaid, gweision a morynion, ac rydw i’n anfon y neges hon at fy arglwydd er mwyn imi gael ffafr yn dy olwg.”’”
6 Ymhen amser, daeth y negeswyr yn ôl at Jacob gan ddweud: “Fe wnaethon ni gwrdd â dy frawd Esau, ac mae ef nawr ar ei ffordd i dy gyfarfod di, ac mae ganddo 400 o ddynion gydag ef.” 7 A daeth Jacob yn ofnus iawn ac yn llawn pryder. Felly rhannodd y bobl a oedd gydag ef, yn ogystal â’r preiddiau, y gwartheg, a’r camelod, yn ddau wersyll. 8 Fe ddywedodd: “Os ydy Esau yn ymosod ar un gwersyll, yna mae’r gwersyll arall yn gallu dianc.”
9 Ar ôl hynny dywedodd Jacob: “O Dduw fy nhad Abraham a Duw fy nhad Isaac, O Jehofa, ti yw’r un sy’n dweud wrtho i, ‘Dos yn ôl i dy wlad ac at dy berthnasau, ac fe wna i ddaioni iti,’ 10 dydw i ddim yn deilwng o dy gariad ffyddlon nac o dy holl ffyddlondeb rwyt ti wedi ei ddangos tuag at dy was, oherwydd fe wnes i groesi’r Iorddonen hon gyda fy ffon yn unig, ac nawr rydw i wedi dod yn ddau wersyll. 11 Achuba fi plîs, o law fy mrawd Esau, oherwydd fy mod i yn ei ofni, a rhag ofn iddo ddod ac ymosod arna i, a hefyd ar y mamau a’u plant. 12 Ac rwyt ti wedi dweud: ‘Yn bendant, fe wna i ddaioni i ti, a bydd dy ddisgynyddion* di fel tywod y môr, sy’n rhy niferus i’w cyfri.’”
13 Ac arhosodd dros nos yno. Yna, cymerodd rai o’r pethau oedd ganddo yn anrheg i’w frawd Esau: 14 200 o eifr benyw, 20 o eifr gwryw, 200 o ddefaid, 20 o hyrddod, 15 30 o gamelod oedd yn magu eu rhai bach, 40 o wartheg, 10 o deirw, 20 o asennod, a 10 asen wedi llawn dyfu.
16 Rhoddodd yr anifeiliaid yng ngofal ei weision, un grŵp ar ôl y llall, a dywedodd wrth ei weision: “Ewch chi o fy mlaen i, a gwnewch yn siŵr fod ’na fwlch rhwng pob grŵp a’r nesaf.” 17 Gorchmynnodd hefyd i’r un cyntaf: “Os bydd Esau fy mrawd yn dod i dy gyfarfod di, ac yn gofyn, ‘I bwy rwyt ti’n perthyn, ac i le rwyt ti’n mynd, a phwy biau’r anifeiliaid hyn o dy flaen di?’ 18 yna dylet ti ddweud, ‘I dy was Jacob. Maen nhw wedi cael eu hanfon yn anrheg i fy arglwydd, Esau, ac edrycha! mae Jacob ei hun y tu ôl inni.’” 19 A rhoddodd hefyd yr un gorchymyn i’r ail, y trydydd, a phob un a oedd yn dilyn yr anifeiliaid: “Fel hyn y dylech chi siarad ag Esau pan fyddwch chi’n ei gyfarfod. 20 Ac fe ddylech chi ddweud hefyd, ‘Mae dy was Jacob y tu ôl inni.’” Oherwydd dywedodd wrtho’i hun: ‘Os medra i ei feddalu drwy anfon anrheg o fy mlaen i, wedyn, pan fydda i’n ei weld, efallai y bydd yn fy nerbyn i’n garedig.’ 21 Felly anfonodd yr anrheg o’i flaen, ond fe dreuliodd yntau’r noson honno yn y gwersyll.
22 Yn nes ymlaen yn ystod y noson honno, fe gododd a chymryd ei ddwy wraig, a’i ddwy forwyn, a’i 11 mab ifanc a chroesi rhyd Jabboc. 23 Felly dyma’n eu cymryd nhw ac yn eu hanfon nhw dros yr afon,* a phopeth arall oedd ganddo hefyd.
24 Yn y diwedd, roedd Jacob ar ei ben ei hun. Yna, dechreuodd dyn ymladd ag ef nes iddi wawrio. 25 Pan welodd y dyn nad oedd yn gallu ei drechu, cyffyrddodd â soced ei glun; ac fe gafodd soced clun Jacob ei ddatgymalu wrth iddo ymladd ag ef. 26 Ar ôl hynny, dywedodd y dyn: “Gad imi fynd, oherwydd mae hi’n gwawrio.” Atebodd Jacob: “Dydw i ddim am adael iti fynd nes iti fy mendithio i.” 27 Felly dywedodd wrtho: “Beth ydy dy enw?” ac atebodd yntau: “Jacob.” 28 Yna dywedodd: “Nid Jacob ydy dy enw mwyach, ond Israel,* oherwydd dy fod ti wedi ymdrechu yn erbyn Duw ac yn erbyn dynion, ac wedi ennill yn y diwedd.” 29 A gofynnodd Jacob iddo: “Dyweda wrtho i plîs beth ydy dy enw.” Fodd bynnag, dywedodd: “Pam rwyt ti’n gofyn fy enw?” Gyda hynny, dyma’n bendithio Jacob yno. 30 Felly enwodd Jacob y lle yn Peniel,* a dweud, “Rydw i wedi gweld Duw wyneb yn wyneb, ond eto fe gafodd fy mywyd ei arbed.”
31 Ac fe gododd yr haul arno wrth iddo fynd heibio i Penuel,* ond roedd yn cerdded yn gloff o achos ei glun. 32 Dyna pam dydy meibion Israel ddim yn bwyta gewyn y glun hyd heddiw, sydd ar soced cymal y glun, oherwydd ei fod wedi cyffwrdd â soced cymal clun Jacob, lle mae gewyn y glun.
33 Nawr gwelodd Jacob fod Esau yn dod, ac roedd 400 o ddynion gydag ef. Felly rhannodd y plant rhwng Lea, Rachel, a’r ddwy forwyn. 2 Rhoddodd y morynion a’u plant yn y blaen, Lea a’i phlant y tu ôl iddyn nhw, a Rachel a Joseff yn olaf. 3 Yna, aeth Jacob ei hun o’u blaenau nhw, ac ymgrymu ar y llawr saith gwaith wrth iddo nesáu at ei frawd.
4 Ond rhedodd Esau i’w gyfarfod, a’i gofleidio a’i gusanu, a dyma’r ddau yn dechrau crio. 5 Pan edrychodd Esau a gweld y merched* a’r plant, dywedodd: “Pwy ydy’r rhain sydd gyda ti?” Atebodd Jacob: “Y plant mae Duw wedi bod yn ddigon caredig i’w rhoi i dy was.” 6 Gyda hynny, daeth y morynion a’u plant ymlaen ac ymgrymu. 7 Daeth Lea a’i phlant ymlaen hefyd, ac ymgrymu. Yna, daeth Joseff a Rachel ymlaen ac ymgrymu.
8 Dywedodd Esau: “Pam gwnest ti anfon yr holl bobl a’r anifeiliaid yma i fy nghyfarfod i?” Atebodd: “Er mwyn dy blesio di, fy arglwydd.” 9 Yna dywedodd Esau: “Mae gen i lawer iawn o bethau, fy mrawd. Cadwa di beth sy’n perthyn i ti.” 10 Ond dywedodd Jacob: “Na, plîs, os ydw i wedi dy blesio di, mae’n rhaid iti dderbyn fy anrheg o fy llaw, oherwydd des i â hi er mwyn imi gael gweld dy wyneb. Ac mae gweld dy wyneb di fel gweld wyneb Duw, am dy fod ti wedi bod mor hapus i fy ngweld i. 11 Plîs cymera’r anrheg* rydw i wedi ei rhoi iti, oherwydd mae Duw wedi fy mendithio i ac mae gen i bopeth rydw i ei angen.” A pharhaodd i erfyn arno nes iddo ei chymryd.
12 Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Esau: “Dewch inni fynd, a gad i mi fynd o dy flaen di.” 13 Ond dywedodd Jacob wrtho: “Fy arglwydd, rwyt ti’n gwybod bod y plant yn ifanc, a fy mod i’n gofalu am ddefaid a gwartheg sy’n magu rhai bach. Os byddan nhw’n cael eu gyrru yn rhy galed am un diwrnod, bydd y praidd cyfan yn marw. 14 Felly plîs, dos di o flaen dy was, fy arglwydd, ac mi wna i barhau ar y daith yn araf deg, yn ôl gallu fy anifeiliaid a’r plant, nes imi gyfarfod fy arglwydd yn Seir.” 15 Yna dywedodd Esau: “Plîs, gad imi adael rhai o fy mhobl gyda ti.” I hynny, dywedodd: “Does dim angen gwneud hynny. Mae dy blesio di, fy arglwydd, yn ddigon imi.” 16 Felly ar y diwrnod hwnnw, cychwynnodd Esau ar y daith yn ôl i Seir.
17 A theithiodd Jacob i Succoth, ac adeiladodd dŷ iddo’i hun a chytiau i’w braidd. Dyna pam gwnaeth ef alw’r lle yn Succoth.*
18 Ar ôl teithio o Padan-aram, cyrhaeddodd Jacob ddinas Sichem yng ngwlad Canaan yn ddiogel, a gwersylla yn agos at y ddinas. 19 Yna, prynodd ran o’r cae lle roedd ef wedi bod yn gwersylla oddi wrth feibion Hamor, tad Sichem, am 100 darn o arian. 20 Cododd allor yno a’i henwi Duw, Duw Israel.
34 Nawr roedd Dina, merch Jacob drwy Lea, yn arfer mynd allan i dreulio amser gyda* merched* ifanc y wlad. 2 Pan wnaeth Sechem, mab Hamor yr Hefiad, ac un o benaethiaid y wlad, ei gweld hi, cymerodd hi a gorwedd i lawr gyda hi a’i threisio hi. 3 A doedd ef ddim yn gallu stopio meddwl am Dina, merch Jacob, a syrthiodd mewn cariad gyda’r ddynes* ifanc a cheisiodd ennill ei chalon hi gyda’i eiriau.* 4 Yn y pen draw dywedodd Sechem wrth ei dad Hamor: “Trefna i’r ddynes* ifanc hon ddod yn wraig imi.”
5 Pan glywodd Jacob fod Sechem wedi treisio ei ferch Dina, roedd ei feibion gyda’i braidd yn y cae. Felly arhosodd Jacob yn ddistaw nes iddyn nhw ddod yn ôl. 6 Yn nes ymlaen, aeth Hamor, tad Sechem, allan i siarad â Jacob. 7 Ond roedd meibion Jacob wedi clywed am y peth a daethon nhw yn ôl o’r cae ar unwaith. Roedden nhw wedi cynhyrfu ac wedi digio am ei fod wedi dod â gwarth ar Israel drwy orwedd i lawr gyda merch Jacob, rhywbeth na ddylai ddigwydd.
8 Siaradodd Hamor â nhw gan ddweud: “Mae fy mab Sechem mewn cariad â’ch merch.* Plîs rhowch hi yn wraig iddo, 9 a gwnewch gytundeb â ni i roi eich merched i ddynion y ddinas hon, ac i chi gymryd merched y ddinas hon i’ch meibion chi. 10 Cewch chi fyw gyda ni, a bydd y wlad gyfan ar gael ichi. Arhoswch gyda ni a byw yma, cewch chi fasnachu a setlo yma.” 11 Yna dywedodd Sechem wrth dad a brodyr Dina: “Plîs byddwch yn garedig wrtho i, ac fe wna i roi ichi beth bynnag rydych chi’n gofyn imi amdano. 12 Cewch chi fynnu pris uchel iawn ac anrheg ddrud oddi wrtho i ar gyfer y briodferch. Rydw i’n fodlon rhoi ichi beth bynnag rydych chi eisiau. Dim ond ichi roi’r ddynes* ifanc yn wraig imi.”
13 Ond penderfynodd meibion Jacob dwyllo Sechem a Hamor ei dad oherwydd bod Sechem wedi treisio Dina eu chwaer. 14 Dywedon nhw wrthyn nhw: “Allwn ni ddim gwneud y fath beth, a rhoi ein chwaer i ddyn sydd heb gael ei enwaedu, oherwydd byddai hynny’n dod â gwarth arnon ni. 15 Allwn ni ond cytuno ar yr amod eich bod chi, fel ni, yn enwaedu pob gwryw yn eich plith. 16 Yna byddwn ni’n rhoi ein merched i chi ac yn cymryd eich merched chi i ni’n hunain, a byddwn ni’n byw gyda chi ac yn dod yn un bobl. 17 Ond os nad ydych chi’n gwrando arnon ni ac yn gwrthod cael eich enwaedu, yna byddwn ni’n cymryd ein merch ac yn mynd.”
18 Roedd eu geiriau yn plesio Hamor a’i fab Sechem. 19 Aeth y dyn ifanc ati’n syth i wneud fel roedden nhw wedi gofyn, oherwydd roedd wrth ei fodd â merch Jacob, ac ef oedd yr un mwyaf anrhydeddus yn nheulu ei dad.
20 Felly aeth Hamor a’i fab Sechem at giât y ddinas a siarad â dynion y ddinas gan ddweud: 21 “Mae’r dynion hyn eisiau heddwch rhyngon ni. Gadewch iddyn nhw fyw yn y wlad a masnachu ynddi, oherwydd mae ’na ddigon o le yn y wlad iddyn nhwthau hefyd. Gallwn ni gymryd eu merched yn wragedd, a rhoi ein merched ni iddyn nhw. 22 Fydd y dynion ond yn cytuno i fyw gyda ni ac i fod yn un bobl ar yr amod hwn: mae’n rhaid i bob gwryw yn ein plith gael ei enwaedu, yn union fel maen nhw wedi cael eu henwaedu. 23 Yna, bydd eu heiddo, eu cyfoeth, a’u holl anifeiliaid yn perthyn i ni. Felly gadewch inni gytuno iddyn nhw gael byw gyda ni.” 24 Gwrandawodd yr holl ddynion oedd yn byw yn y ddinas ar Hamor a’i fab Sechem, ac fe gafodd pob gwryw ei enwaedu.
25 Ond ar y trydydd dydd, pan oedden nhw’n dal mewn poen, aeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dina, i mewn i’r ddinas yn annisgwyl gyda’u cleddyfau a lladd pob gwryw. 26 Gwnaethon nhw ladd Hamor a’i fab Sechem â’r cleddyf, ac yna cymryd Dina o dŷ Sechem a gadael. 27 Aeth meibion eraill Jacob i’r ddinas lle roedd y dynion wedi cael eu lladd ac ysbeilio’r ddinas am fod eu chwaer wedi cael ei threisio. 28 Cymeron nhw eu defaid,* eu gwartheg,* eu hasynnod, a beth bynnag oedd yn y ddinas ac yn y tir pori. 29 Gwnaethon nhw hefyd gymryd eu holl eiddo, cipio eu plant bach nhw i gyd a’u gwragedd, ac ysbeilio popeth yn y tai.
30 Gyda hynny, dywedodd Jacob wrth Simeon a Lefi: “Rydych chi wedi dod â helynt* mawr arna i ac wedi gwneud i bobl y wlad fy nghasáu i, y Canaaneaid a’r Peresiaid. Does ’na ddim llawer ohonon ni, a byddan nhw’n sicr o ddod at ei gilydd i ymosod arna i, a bydda i’n cael fy ninistrio, fi a fy nheulu.” 31 Ond dywedon nhw: “Ddylai neb drin ein chwaer fel putain!”
35 Ar ôl hynny, dywedodd Duw wrth Jacob: “Cod, dos i fyny i Fethel i fyw, a gwna allor yno i’r gwir Dduw, a ymddangosodd o dy flaen di pan oeddet ti’n rhedeg i ffwrdd oddi wrth Esau dy frawd.”
2 Yna dywedodd Jacob wrth ei deulu a phawb oedd gydag ef: “Dylech chi gael gwared ar y duwiau estron sydd yn eich plith a glanhau eich hunain a newid eich dillad, 3 a dewch inni godi a mynd i fyny i Fethel. Yno, bydda i’n gwneud allor i’r gwir Dduw a wnaeth fy ateb i yn y dydd pan oeddwn i’n dioddef, y Duw sydd wedi bod gyda mi ble bynnag rydw i wedi mynd.” 4 Felly rhoddon nhw’r holl dduwiau estron oedd ganddyn nhw i Jacob yn ogystal â’r clustlysau oedd yn eu clustiau, a gwnaeth Jacob eu claddu* nhw o dan goeden fawr oedd yn agos i Sechem.
5 Pan aethon nhw ymlaen ar eu taith, cafodd y dinasoedd o’u cwmpas eu taro gan ofn Duw, felly aethon nhw ddim ar ôl meibion Jacob. 6 Yn y pen draw, daeth Jacob i Lus, hynny yw, Bethel, yng ngwlad Canaan, ef a’r holl bobl gydag ef. 7 Adeiladodd allor yno a galw’r lle yn El-bethel,* oherwydd yn y fan honno roedd y gwir Dduw wedi ymddangos iddo pan oedd wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei frawd. 8 Yn hwyrach ymlaen bu farw Debora, y forwyn wnaeth fagu Rebeca, a chafodd hi ei chladdu o dan dderwen wrth ymyl Bethel. Felly rhoddodd Jacob yr enw Alon-bacuth* ar y goeden.
9 Ymddangosodd Duw i Jacob unwaith eto tra oedd yn dod o Padan-aram, a’i fendithio. 10 Dywedodd Duw wrtho: “Dy enw di yw Jacob, ond fyddi di ddim yn cael dy alw’n Jacob bellach, ond Israel fydd dy enw.” A dechreuodd ei alw’n Israel. 11 Aeth Duw ymlaen i ddweud wrtho: “Fi ydy Duw Hollalluog. Bydda i’n achosi iti gael llawer o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd a thyrfaoedd o bobl yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion yn frenhinoedd. 12 Ynglŷn â’r wlad rydw i wedi ei rhoi i Abraham ac i Isaac, bydda i’n ei rhoi i ti ac i dy ddisgynyddion* ar dy ôl di.” 13 Yna, dyma Duw yn mynd i fyny oddi wrtho o’r lle roedd ef wedi siarad ag ef.
14 Felly gosododd Jacob golofn yn y fan lle roedd wedi siarad ag ef, colofn o garreg, a thywallt* offrwm diod arni, a thywallt olew arni. 15 A pharhaodd Jacob i alw’r fan lle roedd Duw wedi siarad ag ef yn Bethel.
16 Yna, dyma nhw’n gadael Bethel. A thra oedden nhw’n dal yn eithaf pell o Effrath, dechreuodd Rachel gael ei phlentyn, ac roedd ei phoenau geni yn ddifrifol iawn. 17 Ond tra oedd hi’n cael trafferthion yn geni’r plentyn, dywedodd y fydwraig wrthi: “Paid ag ofni, oherwydd byddi di’n cael y plentyn hwn hefyd.” 18 Fel roedd hi’n tynnu ei hanadl olaf* (oherwydd roedd hi’n marw), rhoddodd hi’r enw Ben-oni* arno, ond dyma ei dad yn ei alw’n Benjamin.* 19 Felly bu farw Rachel a chafodd hi ei chladdu ar y ffordd i Effrath, hynny yw, Bethlehem. 20 Cododd Jacob golofn dros ei bedd; colofn bedd Rachel ydy hi hyd heddiw.
21 Ar ôl hynny, teithiodd Israel yn ei flaen a chodi ei babell y tu hwnt i dŵr Eder. 22 Un tro, pan oedd Israel yn byw yn y wlad honno, cysgodd Reuben gyda Bilha, un o wragedd eraill* ei dad, a chlywodd Israel am y peth.
Felly roedd gan Jacob 12 mab. 23 Meibion Lea oedd Reuben, sef cyntaf-anedig Jacob, yna Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon. 24 Meibion Rachel oedd Joseff a Benjamin. 25 A meibion Bilha, morwyn Rachel, oedd Dan a Nafftali. 26 A meibion Silpa, morwyn Lea, oedd Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob a gafodd eu geni iddo yn Padan-aram.
27 Yn y pen draw, daeth Jacob at ei dad Isaac ym Mamre, yn Ciriath-arba, hynny yw, Hebron, lle roedd Abraham a hefyd Isaac wedi byw fel estronwyr. 28 Gwnaeth Isaac fyw nes oedd yn 180 mlwydd oed. 29 Yna tynnodd Isaac ei anadl olaf a bu farw a chafodd ei gasglu at ei bobl* ar ôl bywyd hir a bodlon; a chafodd ei gladdu gan ei feibion Esau a Jacob.
36 Dyma hanes Esau, hynny yw, Edom.
2 Cymerodd Esau ei wragedd o ferched Canaan: Ada, merch Elon yr Hethiad; ac Oholibama, merch Ana, wyres Sibeon yr Hefiad; 3 a Basemath, merch Ismael a chwaer Nebaioth.
4 A gwnaeth Ada eni Eliffas i Esau, a gwnaeth Basemath eni Reuel,
5 a daeth Oholibama yn fam i Jeus, Jalam, a Cora.
Dyma feibion Esau a gafodd eu geni iddo yng ngwlad Canaan. 6 Ar ôl hynny cymerodd Esau ei wragedd, ei feibion, ei ferched, pawb yn ei dŷ, ei braidd a’i holl anifeiliaid eraill, a’r holl gyfoeth roedd wedi ei gasglu yng ngwlad Canaan a mynd i wlad arall oedd yn bell i ffwrdd o’i frawd Jacob. 7 Roedd ganddyn nhw gymaint o eiddo fel nad oedden nhw’n gallu byw gyda’i gilydd. Roedd y wlad roedden nhw’n byw* ynddi yn rhy fach iddyn nhw oherwydd eu holl anifeiliaid. 8 Felly aeth Esau i fyw yn ardal fynyddig Seir. Enw arall ar Esau ydy Edom.
9 A dyma hanes Esau tad pobl Edom yn ardal fynyddig Seir.
10 Dyma enwau meibion Esau: Eliffas fab Ada, gwraig Esau; Reuel fab Basemath, gwraig Esau.
11 Meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, Gatam, a Cenas. 12 Daeth Timna yn wraig arall* i Eliffas fab Esau. Ymhen amser, gwnaeth hi eni Amalec i Eliffas. Dyma feibion Ada, gwraig Esau.
13 Dyma feibion Reuel: Nahath, Sera, Samma, a Missa. Dyma oedd meibion Basemath, gwraig Esau.
14 Dyma oedd meibion Oholibama, merch Ana, wyres Sibeon, gwraig Esau, y rhai gwnaeth hi eu geni i Esau: Jeus, Jalam, a Cora.
15 Dyma benaethiaid llwythau disgynyddion Esau: Meibion Eliffas, cyntaf-anedig Esau: Y Pennaeth Teman, y Pennaeth Omar, y Pennaeth Seffo, y Pennaeth Cenas, 16 y Pennaeth Cora, y Pennaeth Gatam, a’r Pennaeth Amalec. Dyma feibion Eliffas a oedd yn benaethiaid yng ngwlad Edom. Dyma feibion Ada, gwraig Esau.
17 Dyma feibion Reuel, fab Esau: Y Pennaeth Nahath, y Pennaeth Sera, y Pennaeth Samma, a’r Pennaeth Missa. Dyma benaethiaid Reuel yng ngwlad Edom. Dyma feibion Esau drwy Basemath.
18 Yn olaf, dyma feibion Oholibama, gwraig Esau: Y Pennaeth Jeus, y Pennaeth Jalam, a’r Pennaeth Cora. Dyma benaethiaid Oholibama, merch Ana, gwraig Esau.
19 Dyma feibion Esau, hynny yw, Edom, a dyma eu penaethiaid.
20 Dyma feibion Seir yr Horiad, brodorion y wlad: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana, 21 Dison, Eser, a Disan. Dyma benaethiaid yr Horiaid, meibion Seir, yng ngwlad Edom.
22 Hori a Hemam oedd meibion Lotan, a Timna oedd chwaer Lotan.
23 Dyma feibion Sobal: Alfan, Manahath, Ebal, Seffo, ac Onam.
24 Dyma feibion Sibeon: Aia ac Ana. Dyma’r Ana a ddaeth o hyd i’r ffynhonnau o ddŵr cynnes yn yr anialwch tra oedd yn gofalu am asynnod ei dad Sibeon.
25 Dyma blant Ana: Dison ac Oholibama ferch Ana.
26 Dyma feibion Dison: Hemdan, Esban, Ithran, a Ceran.
27 Dyma feibion Eser: Bilhan, Saafan, ac Acan.
28 Dyma feibion Disan: Us ac Aran.
29 Dyma benaethiaid yr Horiaid: Y Pennaeth Lotan, y Pennaeth Sobal, y Pennaeth Sibeon, y Pennaeth Ana, 30 y Pennaeth Dison, y Pennaeth Eser, a’r Pennaeth Disan. Dyma benaethiaid yr Horiaid yn ôl eu penaethiaid yng ngwlad Seir.
31 Nawr dyma’r brenhinoedd a oedd yn rheoli yng ngwlad Edom cyn i unrhyw frenin reoli dros yr Israeliaid. 32 Roedd Bela fab Beor yn rheoli yn Edom, ac enw ei ddinas oedd Dinhaba. 33 Pan fu farw Bela, dechreuodd Jobab fab Sera o Bosra reoli yn ei le. 34 Pan fu farw Jobab, dechreuodd Husam o wlad y Temaniaid reoli yn ei le. 35 Pan fu farw Husam, dechreuodd Hadad fab Bedad, yr un wnaeth drechu’r Midianiaid yn nhiriogaeth Moab, reoli yn ei le, ac enw ei ddinas oedd Afith. 36 Pan fu farw Hadad, dechreuodd Samla o Masreca reoli yn ei le. 37 Pan fu farw Samla, dechreuodd Saul o Rehoboth ger yr Afon reoli yn ei le. 38 Pan fu farw Saul, dechreuodd Baal-hanan fab Achbor reoli yn ei le. 39 Pan fu farw Baal-hanan fab Achbor, dechreuodd Hadar reoli yn ei le. Enw ei ddinas oedd Pau, ac enw ei wraig oedd Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.
40 Felly dyma enwau penaethiaid Esau yn ôl eu teuluoedd a’u hardaloedd: Y Pennaeth Timna, y Pennaeth Alfa, y Pennaeth Jetheth, 41 y Pennaeth Oholibama, y Pennaeth Ela, y Pennaeth Pinon, 42 y Pennaeth Cenas, y Pennaeth Teman, y Pennaeth Mibsar, 43 y Pennaeth Magdiel, a’r Pennaeth Iram. Dyma benaethiaid Edom yn ôl eu pentrefi yn y wlad roedden nhw wedi ei meddiannu. Dyma Esau tad yr Edomiaid.
37 Roedd Jacob yn dal i fyw yng ngwlad Canaan, lle roedd ei dad wedi byw fel estronwr.
2 Dyma hanes Jacob.
Pan oedd Joseff yn 17 mlwydd oed, roedd y dyn ifanc yn gofalu am y praidd gyda meibion Bilha a meibion Silpa, gwragedd ei dad. A soniodd Joseff wrth ei dad am y pethau drwg roedd ei frodyr yn eu gwneud. 3 Nawr roedd Israel yn caru Joseff yn fwy na’i holl feibion eraill oherwydd iddo gael ei eni pan oedd yn hen ddyn, ac fe wnaeth gôt* arbennig iddo. 4 Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr dechreuon nhw ei gasáu, a doedden nhw ddim yn gallu siarad yn garedig ag ef.
5 Yn nes ymlaen, cafodd Joseff freuddwyd a soniodd amdani wrth ei frodyr, ac roedden nhw felly yn ei gasáu yn fwy byth. 6 Dywedodd wrthyn nhw: “Plîs, gwrandewch ar y freuddwyd hon ges i. 7 Dyna lle roedden ni yn rhwymo ysgubau ynghanol y cae a dyma fy ysgub i yn codi ac yn sefyll yn syth, a dyma eich ysgubau chi yn ei hamgylchynu ac yn ymgrymu i fy ysgub i.” 8 Dywedodd ei frodyr wrtho: “Wyt ti’n wir yn mynd i wneud dy hun yn frenin arnon ni, ac arglwyddiaethu arnon ni?” Felly roedd ganddyn nhw reswm arall i’w gasáu, o achos ei freuddwydion a’r hyn a ddywedodd.
9 Ar ôl hynny, fe gafodd freuddwyd arall, a soniodd amdani wrth ei frodyr: “Rydw i wedi cael breuddwyd arall. Y tro hwn, roedd yr haul a’r lleuad ac 11 o sêr yn ymgrymu imi.” 10 Yna, fe aeth ati i sôn am y freuddwyd wrth ei dad ynghyd â’i frodyr, a cheryddodd ei dad ef a dweud wrtho: “Beth ydy ystyr dy freuddwyd di? Ydw i a dy fam a dy frodyr yn wir yn mynd i ymgrymu o dy flaen di?” 11 Ac roedd ei frodyr yn genfigennus iawn ohono, ond cadwodd ei dad y peth yn ei gof.
12 Nawr, aeth ei frodyr â phraidd eu tad i bori wrth ymyl Sechem. 13 Yn nes ymlaen, dywedodd Israel wrth Joseff: “Mae dy frodyr yn gofalu am y praidd wrth ymyl Sechem. Dos atyn nhw.” Atebodd Joseff: “Iawn, rydw i’n barod.” 14 Felly dywedodd wrtho: “Dos plîs i weld a ydy dy frodyr yn iawn. Dos i weld sut mae’r praidd, a thyrd yn ôl i ddweud wrtho i.” Gyda hynny, gwnaeth ef ei anfon i ffwrdd o Ddyffryn* Hebron, ac aeth ymlaen tuag at Sechem. 15 Yn hwyrach ymlaen, daeth dyn o hyd iddo yn cerdded trwy gae. Gofynnodd y dyn wrtho: “Beth rwyt ti’n edrych amdano?” 16 Ac atebodd ef: “Rydw i’n edrych am fy mrodyr. Wyt ti’n gwybod ble maen nhw’n gofalu am y preiddiau?” 17 Aeth y dyn ymlaen i ddweud: “Maen nhw wedi gadael fan hyn oherwydd fy mod i wedi eu clywed nhw’n dweud, ‘Gadewch inni fynd i Dothan.’” Felly aeth Joseff i Dothan a dod o hyd i’w frodyr yno.
18 Nawr, fe welson nhw ef yn dod o bell, a chyn iddo eu cyrraedd nhw, dechreuon nhw gynllwynio yn ei erbyn i’w ladd. 19 Felly dywedon nhw wrth ei gilydd: “Edrychwch! Mae’r breuddwydiwr mawr yn dod. 20 Gadewch inni ei ladd a’i daflu i mewn i ryw bydew dŵr, a gwnawn ni ddweud bod anifail ffyrnig wedi ei fwyta. Gawn ni weld beth ddaw o’i freuddwydion wedyn.” 21 Pan glywodd Reuben hyn, ceisiodd ei achub rhagddyn nhw. Felly dywedodd: “Does dim angen inni ei ladd.” 22 Dywedodd Reuben wrthyn nhw: “Peidiwch â thywallt* gwaed. Taflwch ef i mewn i’r pydew dŵr hwn yn yr anialwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo.” Ei fwriad oedd ei achub rhagddyn nhw er mwyn mynd ag ef yn ôl at ei dad.
23 Felly unwaith i Joseff ddod at ei frodyr, gwnaethon nhw dynnu côt Joseff oddi arno, y gôt arbennig roedd yn ei gwisgo, 24 a gwnaethon nhw ei gymryd a’i daflu i mewn i’r pydew dŵr. Ar y pryd, roedd y pydew yn wag; doedd ’na ddim dŵr ynddo.
25 Yna eisteddon nhw i lawr i fwyta. Pan edrychon nhw i fyny, roedd ’na grŵp o Ismaeliaid a oedd yn fasnachwyr yn dod o Gilead. Roedd eu camelod yn cario gwm labdanum,* balm, a rhisgl resinaidd, ac roedden nhw ar eu ffordd i lawr i’r Aifft. 26 Gyda hynny, dywedodd Jwda wrth ei frodyr: “Sut byddwn ni’n elwa o ladd ein brawd a chuddio’r peth?* 27 Dewch inni ei werthu i’r Ismaeliaid a pheidio â gwneud niwed iddo. Wedi’r cwbl, ef yw ein brawd, ein cnawd.” Felly gwnaethon nhw wrando ar eu brawd. 28 A phan oedd y masnachwyr o Midian yn mynd heibio, gwnaeth brodyr Joseff ei godi allan o’r pydew dŵr a’i werthu i’r Ismaeliaid am 20 darn o arian. Aeth yr Ismaeliaid â Joseff i’r Aifft.
29 Yn nes ymlaen, pan aeth Reuben yn ôl i’r pydew dŵr a gweld nad oedd Joseff ynddo, rhwygodd ei ddillad. 30 Pan aeth yn ôl at ei frodyr, dywedodd: “Mae ein brawd bach wedi mynd! Beth ydw i’n mynd i’w wneud?”
31 Felly cymeron nhw gôt Joseff, a lladd bwch gafr a throchi’r gôt yn y gwaed. 32 Ar ôl hynny, anfonon nhw’r gôt arbennig at eu tad gan ddweud: “Rydyn ni wedi dod o hyd i hon. Plîs edrycha i weld ai côt dy fab ydy hon neu ddim.” 33 Yna edrychodd arni a dywedodd: “Côt fy mab ydy hon! Mae’n rhaid bod anifail ffyrnig wedi ei fwyta! Mae’n rhaid bod Joseff wedi cael ei rwygo’n ddarnau!” 34 Gyda hynny, rhwygodd Jacob ei ddillad a gwisgo sachliain am ei ganol a galaru am ei fab am lawer o ddyddiau. 35 Ac roedd ei feibion a’i ferched i gyd yn ceisio ei gysuro, ond roedd yn gwrthod o hyd gan ddweud: “Bydda i’n mynd i lawr i’r bedd* yn galaru am fy mab!” Ac roedd ei dad yn parhau i wylo drosto.
36 Nawr, gwnaeth y Midianiaid ei werthu yn yr Aifft i Potiffar, un o swyddogion llys Pharo, a phennaeth y gwarchodlu.
38 Tua’r adeg honno, gadawodd Jwda ei frodyr a chodi ei babell yn agos at ddyn o’r enw Hira a oedd yn dod o Adulam. 2 Yno, gwelodd Jwda ferch un o’r Canaaneaid o’r enw Sua. Felly cymerodd hi a chysgu gyda hi, 3 a daeth hi’n feichiog. Yn nes ymlaen, cafodd hi fab, a rhoddodd ef yr enw Er arno. 4 A daeth hi’n feichiog eto a chafodd hi fab a’i alw’n Onan. 5 Cafodd hi fab unwaith eto a’i alw’n Sela. Roedden nhw* yn Achsib* pan roddodd hi enedigaeth iddo.
6 Ymhen amser, cymerodd Jwda wraig ar gyfer Er, ei gyntaf-anedig, a’i henw hi oedd Tamar. 7 Ond doedd Er, cyntaf-anedig Jwda, ddim yn plesio Jehofa; felly dyma Jehofa yn ei roi i farwolaeth. 8 Oherwydd hynny, dywedodd Jwda wrth Onan: “Prioda wraig dy frawd a gwna dy ddyletswydd fel brawd-yng-nghyfraith. Cysga gyda hi a magu plant ar gyfer dy frawd.” 9 Ond roedd Onan yn gwybod na fyddai’r plant yn cael eu hystyried yn blant iddo ef, felly pan fyddai’n cysgu gyda gwraig ei frawd, byddai’n gwastraffu ei had* ar y llawr er mwyn peidio â rhoi plant i’w frawd. 10 Roedd hynny’n ddrwg yng ngolwg Jehofa, felly dyma’n ei roi ef hefyd i farwolaeth. 11 Dywedodd Jwda wrth Tamar, ei ferch-yng-nghyfraith: “Dylet ti fyw fel gweddw yn nhŷ dy dad nes i fy mab Sela dyfu i fyny,” oherwydd dywedodd wrtho ef ei hun: ‘Efallai bydd yntau hefyd yn marw fel ei frodyr.’ Felly aeth Tamar i aros yn nhŷ ei thad ei hun.
12 Aeth amser heibio, a bu farw gwraig Jwda, merch Sua. Pan oedd Jwda wedi gorffen ei gyfnod o alaru, aeth at gneifwyr ei ddefaid yn Timnath gyda’i ffrind Hira o Adulam. 13 Dywedodd rhywun wrth Tamar: “Mae dy dad-yng-nghyfraith yn mynd i fyny i Timnath i gneifio ei ddefaid.” 14 Ar hynny, dyma hi’n tynnu ei gwisg a oedd yn dangos ei bod hi’n wraig weddw ac yn cuddio ei hwyneb â fêl ac yn ei gorchuddio ei hun â siôl ac yn eistedd wrth fynedfa Enaim, sydd ar y ffordd i Timnath, oherwydd roedd hi wedi gweld bod Sela wedi tyfu i fyny ond eto doedd hi ddim wedi cael ei rhoi yn wraig iddo.
15 Pan wnaeth Jwda ei gweld hi, meddyliodd ar unwaith mai putain oedd hi, oherwydd ei bod hi wedi gorchuddio ei hwyneb. 16 Felly aeth draw ati hi ar ochr y ffordd a dywedodd: “Plîs, gad imi gysgu gyda ti,” oherwydd nad oedd yn gwybod mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi. Ond dywedodd hi: “Beth gwnei di ei roi imi er mwyn cysgu gyda mi?” 17 Atebodd yntau: “Fe wna i anfon gafr ifanc o fy mhraidd.” Ond dywedodd hithau: “A wnei di roi gwarant imi nes iti ei anfon?” 18 Dywedodd ef: “Pa warant dylwn i ei roi iti?” Atebodd hi: “Dy sêl-fodrwy a’r llinyn ar ei chyfer hi a dy ffon sydd yn dy law.” Yna, dyma’n eu rhoi nhw iddi hi ac yn cysgu gyda hi, a daeth hi’n feichiog ohono ef. 19 Ar ôl hynny, cododd hi ac aeth i ffwrdd a thynnu ei siôl a rhoi ei gwisg weddw amdani.
20 Ac anfonodd Jwda ei ffrind o Adulam gyda’r gafr ifanc i gael y gwarant yn ôl oddi wrth y ddynes,* ond ni ddaeth o hyd iddi. 21 Dyma’n holi dynion y lle gan ddweud: “Ble mae putain y deml a oedd yn arfer bod yn Enaim wrth ochr y ffordd?” Ond dywedon nhw: “Does dim putain y deml erioed wedi bod yn y lle hwn.” 22 Yn y diwedd, aeth yn ôl at Jwda a dywedodd: “Wnes i ddim dod o hyd iddi, a beth bynnag, dywedodd dynion y lle, ‘Does dim putain y deml erioed wedi bod yn y lle hwn.’” 23 Felly dywedodd Jwda: “Fe gaiff hi eu cadw nhw, fel na fyddwn ni’n dod â gwarth arnon ni’n hunain. Beth bynnag, rydw i wedi anfon y gafr ifanc hwn, ond wnest ti ddim dod o hyd iddi.”
24 Fodd bynnag, ar ôl tua thri mis, dywedodd rhywun wrth Jwda: “Mae Tamar dy ferch-yng-nghyfraith wedi ymddwyn fel putain, ac o ganlyniad mae hi’n feichiog.” Ar hynny, dywedodd Jwda: “Dewch â hi allan a llosgwch hi!” 25 Tra oedden nhw’n dod â hi allan, anfonodd hi neges at ei thad-yng-nghyfraith: “Rydw i’n feichiog o’r dyn sydd biau’r rhain.” Yna ychwanegodd hi: “Plîs edrycha arnyn nhw i weld pwy sydd biau nhw, y sêl-fodrwy, y llinyn, a’r ffon.” 26 Yna edrychodd Jwda arnyn nhw a dywedodd: “Mae hi’n fwy cyfiawn na fi, oherwydd wnes i ddim ei rhoi hi i Sela fy mab.” Ac ni wnaeth ef gysgu gyda hi eto ar ôl hynny.
27 Pan ddaeth yr amser iddi hi roi genedigaeth, roedd ’na efeilliaid yn ei chroth. 28 Tra oedd hi’n rhoi genedigaeth, gwnaeth un ohonyn nhw estyn ei law, a dyma’r fydwraig yn cymryd edau ysgarlad ar unwaith a’i rhwymo am ei law gan ddweud: “Daeth hwn allan yn gyntaf.” 29 Ond unwaith iddo dynnu ei law yn ôl, daeth ei frawd allan, a dyma hi’n gweiddi: “Edrycha ar sut rwyt ti wedi torri allan o’r groth!” Felly cafodd ef ei alw’n Peres.* 30 Wedyn daeth ei frawd allan, yr un â’r llinyn ysgarlad am ei law, ac fe gafodd ef ei alw’n Sera.
39 Nawr cafodd Joseff ei gymryd i lawr i’r Aifft, a gwnaeth Eifftiwr o’r enw Potiffar, un o swyddogion llys y Pharo a phennaeth y gwarchodlu, ei brynu oddi wrth yr Ismaeliaid a oedd wedi mynd ag ef i lawr yno. 2 Ond roedd Jehofa gyda Joseff. Oherwydd hynny, daeth yn llwyddiannus a chafodd gyfrifoldebau yn nhŷ ei feistr yr Eifftiwr. 3 A gwelodd ei feistr fod Jehofa gydag ef a bod Jehofa yn gwneud i bopeth roedd yn ei wneud lwyddo.
4 Parhaodd Joseff i’w blesio a daeth ef yn was personol iddo. Felly gwnaeth Potiffar ef yn gyfrifol am ei dŷ, ac am bopeth oedd yn perthyn iddo. 5 Ar ôl iddo wneud hynny, parhaodd Jehofa i fendithio tŷ’r Eifftiwr oherwydd Joseff, a daeth bendith Jehofa ar bopeth oedd ganddo yn y tŷ ac yn y caeau. 6 Yn y pen draw, rhoddodd bopeth oedd ganddo yng ngofal Joseff, a doedd ef ddim yn gorfod meddwl am unrhyw beth heblaw am y bwyd roedd yn ei fwyta. Ar ben hynny, daeth Joseff yn ddyn cryf a golygus.
7 Nawr, ar ôl y pethau hyn, dechreuodd gwraig ei feistr lygadu Joseff a dweud: “Gorwedd gyda mi.” 8 Ond gwrthododd a dweud wrth wraig ei feistr: “Gwranda, gyda mi yn y tŷ dydy fy meistr ddim yn gorfod poeni am unrhyw beth, ac mae ef wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i. 9 Does ’na neb yn y tŷ hwn sydd â mwy o awdurdod na fi, a dydy fy meistr heb ddal unrhyw beth yn ôl oddi wrtho i heblaw amdanat ti, oherwydd ti yw ei wraig. Felly sut galla i wneud rhywbeth mor ofnadwy o ddrwg, a phechu yn erbyn Duw ei hun?”
10 Felly roedd hi’n ceisio perswadio Joseff ddydd ar ôl dydd, ond ni wnaeth ef erioed gytuno i orwedd gyda hi, nac i aros gyda hi. 11 Ond ar un o’r dyddiau pan aeth i mewn i’r tŷ i wneud ei waith, doedd ’na’r un o weision y tŷ yno. 12 Yna dyma hi’n gafael ynddo wrth ei ddillad a dweud: “Gorwedd gyda mi!” Ond gadawodd ei wisg yn ei llaw a rhedeg allan. 13 Unwaith iddi weld ei fod wedi gadael ei wisg yn ei llaw a rhedeg allan, 14 dechreuodd hi alw ar ddynion ei thŷ a dweud wrthyn nhw: “Edrychwch! Daeth ef â’r Hebread yma i wneud hwyl am ein pennau ni. Daeth ef ata i i gysgu gyda mi, ond dechreuais i weiddi nerth fy mhen. 15 Yna, cyn gynted ag y clywodd fi’n sgrechian, gadawodd ei wisg wrth fy ymyl a rhedeg allan.” 16 Ar ôl hynny, dyma hi’n cadw ei wisg wrth ei hymyl nes i’w feistr ddod i’w dŷ.
17 Yna dywedodd hi yr un peth wrtho ef, gan ddweud: “Daeth y gwas, yr Hebread, ata i i wneud hwyl am fy mhen, yr un a ddest ti aton ni. 18 Ond unwaith imi godi fy llais a dechrau sgrechian, gadawodd ei wisg wrth fy ymyl a rhedeg allan.” 19 Unwaith i’w feistr glywed geiriau ei wraig, sef: “Dyma’r pethau a wnaeth dy was imi,” gwylltiodd yn lân. 20 Felly gwnaeth meistr Joseff ei gymryd a’i roi yn y carchar lle roedd carcharorion y brenin yn cael eu dal, ac arhosodd Joseff yno yn y carchar.
21 Ond roedd Jehofa gyda Joseff o hyd a pharhaodd i ddangos cariad ffyddlon tuag ato ac achosodd i brif swyddog y carchar ddangos ffafr iddo. 22 Felly dyma brif swyddog y carchar yn gwneud Joseff yn gyfrifol am yr holl garcharorion yn y carchar, ac ef oedd yr un oedd yn sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yno. 23 Doedd dim rhaid i brif swyddog y carchar boeni am unrhyw beth oedd yng ngofal Joseff, oherwydd roedd Jehofa gyda Joseff ac roedd Jehofa yn sicrhau bod popeth roedd yn ei wneud yn llwyddo.
40 Ar ôl y pethau hyn, dyma brif was gweini* brenin yr Aifft, a’r prif bobydd, yn pechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft. 2 Felly gwylltiodd Pharo yn erbyn ei ddau swyddog, y prif was gweini a’r prif bobydd, 3 a’u carcharu nhw yn nhŷ pennaeth y gwarchodlu, lle roedd Joseff yn garcharor. 4 Yna gwnaeth pennaeth y gwarchodlu benodi Joseff i fod gyda nhw ac i ofalu amdanyn nhw, ac arhoson nhw yn y carchar am beth amser.
5 Cafodd gwas gweini a phobydd brenin yr Aifft, a oedd yn y carchar, freuddwydion ar yr un noson, ac roedd gan bob breuddwyd ei hystyr ei hun. 6 Y bore wedyn, pan ddaeth Joseff i mewn a’u gweld nhw, roedden nhw’n edrych yn ddigalon. 7 Felly gofynnodd i swyddogion y Pharo oedd wedi eu carcharu gydag ef: “Pam mae eich wynebau mor drist heddiw?” 8 Gyda hynny, dywedon nhw wrtho: “Rydyn ni’n dau wedi cael breuddwyd, ond does ’na neb i esbonio’r ystyr inni.” Dywedodd Joseff wrthyn nhw: “Dim ond Duw sy’n gallu esbonio ystyr breuddwydion. Plîs, dywedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.”
9 Felly adroddodd y prif was gweini ei freuddwyd wrth Joseff, gan ddweud wrtho: “Yn fy mreuddwyd, roedd ’na winwydden o fy mlaen i. 10 Ac ar y winwydden, roedd ’na dri brigyn, ac fel roedd y winwydden yn blaguro, dechreuodd flodeuo, a dyma ei sypiau o rawnwin yn aeddfedu. 11 Ac roedd cwpan Pharo yn fy llaw, a chymerais y grawnwin a gwasgu eu sudd i mewn i gwpan Pharo. Ar ôl hynny, rhoddais y cwpan yn llaw Pharo.” 12 Yna dywedodd Joseff wrtho: “Dyma’r ystyr: Tri diwrnod ydy’r tri brigyn. 13 Mewn tri diwrnod, bydd Pharo yn dod â ti allan, yn rhoi dy swydd yn ôl iti, a byddi di’n rhoi cwpan Pharo yn ei law fel roeddet ti’n gwneud o’r blaen pan oeddet ti’n was gweini iddo. 14 Er hynny, mae’n rhaid iti fy nghofio i pan fydd pethau’n mynd yn dda iti. Plîs dangosa gariad ffyddlon ata i, a sôn amdana i wrth Pharo, er mwyn imi fedru dod allan o’r lle yma. 15 A dweud y gwir, ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dydw i ddim wedi gwneud unrhyw beth yma i haeddu cael fy rhoi yn y carchar.”*
16 Pan sylweddolodd y prif bobydd fod ystyr y freuddwyd yn un ffafriol, dywedodd wrth Joseff: “Ces innau hefyd freuddwyd, ac roedd ’na dair basged o fara gwyn ar fy mhen, 17 ac yn y fasged uchaf, roedd ’na bob math o fwyd wedi ei bobi ar gyfer Pharo, ac roedd ’na adar yn eu bwyta nhw allan o’r fasged oedd ar fy mhen i.” 18 Yna atebodd Joseff, “Dyma’r ystyr: Tri diwrnod ydy’r tair basged. 19 Mewn tri diwrnod, bydd Pharo yn torri dy ben i ffwrdd ac yn dy hongian ar stanc, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd oddi ar dy gorff.”
20 Nawr y trydydd dydd oedd pen-blwydd Pharo, a threfnodd wledd ar gyfer ei holl weision, a dyma’n dod â’r prif was gweini a’r prif bobydd allan o flaen ei weision. 21 A rhoddodd swydd y prif was gweini yn ôl iddo, a pharhaodd hwnnw i weini diodydd i Pharo. 22 Ond dyma’n hongian* y prif bobydd, yn union fel roedd Joseff wedi ei egluro iddyn nhw. 23 Ond, ni wnaeth y prif was gweini gofio am Joseff; yn hytrach, anghofiodd yn llwyr amdano.
41 Ar ôl dwy flynedd gyfan, breuddwydiodd Pharo ei fod yn sefyll wrth Afon Nîl. 2 Ac yno, yn dod allan o’r afon, roedd saith o wartheg tew, oedd yn edrych yn dda, ac roedden nhw’n pori wrth lan Afon Nîl. 3 Daeth saith o wartheg eraill i fyny o’r afon ar eu holau. Roedden nhw’n hyll ac yn denau, a safon nhw wrth ymyl y gwartheg tew wrth lan yr afon. 4 Yna dechreuodd y gwartheg hyll a thenau fwyta’r gwartheg oedd yn edrych yn dda ac yn dew. A gyda hynny deffrôdd Pharo.
5 Yna aeth yn ôl i gysgu ac fe gafodd ail freuddwyd. Roedd ’na saith tywysen o wenith yn tyfu ar un coesyn a oedd yn llawn ac yn dda. 6 A thyfodd saith tywysen o wenith ar eu holau a oedd yn denau ac wedi eu crino gan wynt y dwyrain. 7 A dechreuodd y tywysennau tenau o wenith lyncu’r saith tywysen o wenith a oedd yn llawn ac yn dda. Gyda hynny deffrôdd Pharo a sylweddoli mai breuddwyd oedd hyn.
8 Ond yn y bore, roedd wedi cynhyrfu. Felly anfonodd am holl ddewiniaid yr Aifft a’i holl ddynion doeth. Gwnaeth Pharo adrodd ei freuddwydion wrthyn nhw, ond doedd yr un ohonyn nhw’n gallu esbonio eu hystyr i Pharo.
9 Ar hynny dywedodd prif was gweini* Pharo wrtho: “Rydw i’n cyffesu fy mhechodau heddiw. 10 Roedd Pharo wedi digio wrth ei weision. Felly fe wnaeth fy anfon i garchardy pennaeth y gwarchodlu, a’r prif bobydd gyda mi. 11 Ar ôl hynny cawson ni’n dau freuddwyd ar yr un noson. Ac roedd gan y ddwy freuddwyd eu hystyron eu hunain. 12 Ac yno gyda ni roedd ’na Hebread ifanc, un o weision pennaeth y gwarchodlu. Pan wnaethon ni sôn wrtho amdanyn nhw, esboniodd ystyr y ddwy freuddwyd inni. 13 A digwyddodd pethau yn union fel roedd ef wedi esbonio inni. Ces i fy swydd yn ôl, ond cafodd y dyn arall ei hongian.”
14 Felly anfonodd Pharo am Joseff, a daethon nhw ag ef allan o’r carchar* ar frys. Dyma’n siafio ac yn newid ei ddillad ac yn mynd i mewn at Pharo. 15 Yna dywedodd Pharo wrth Joseff: “Fe ges i freuddwyd, ond does ’na neb i’w hesbonio. Nawr rydw i wedi clywed dy fod ti’n gallu esbonio ystyron breuddwydion.” 16 Ar hynny atebodd Joseff: “Duw ydy’r un a fydd yn rhoi newyddion da i Pharo, nid fi!”
17 Aeth Pharo ymlaen i ddweud wrth Joseff: “Yn fy mreuddwyd roeddwn i’n sefyll ar lan Afon Nîl. 18 Ac yno, yn dod allan o’r afon, roedd saith o wartheg tew a oedd yn edrych yn dda, a dechreuon nhw bori wrth lan yr afon. 19 Ac roedd ’na saith o wartheg eraill yn dod allan ar eu holau nhw, rhai gwan a oedd yn denau ac yn edrych yn wael. Dydw i erioed wedi gweld gwartheg a oedd yn edrych mor wael yn holl wlad yr Aifft. 20 A dechreuodd y gwartheg gwan a thenau fwyta’r saith o wartheg tew. 21 Ond ar ôl iddyn nhw eu bwyta, fyddai neb wedi gwybod eu bod nhw wedi gwneud hynny, oherwydd eu bod nhw’r un mor denau a hyll ag yr oedden nhw ar y cychwyn. Ac yna fe wnes i ddeffro.
22 “Ar ôl hynny gwelais yn fy mreuddwyd saith tywysen o wenith yn tyfu ar un coesyn a oedd yn llawn ac yn dda. 23 Yn tyfu ar eu holau nhw roedd saith tywysen o wenith a oedd yn denau ac wedi gwywo, ac wedi cael eu crino gan wynt y dwyrain. 24 Yna dechreuodd y tywysennau tenau o wenith lyncu’r saith tywysen dda o wenith. Felly gwnes i sôn am hyn wrth y dewiniaid, ond doedd neb yn gallu esbonio’r freuddwyd imi.”
25 Yna dywedodd Joseff wrth Pharo: “Mae gan freuddwydion Pharo yr un ystyr. Mae’r gwir Dduw wedi dweud wrth Pharo beth bydd Ef yn ei wneud. 26 Mae’r saith o wartheg da yn saith mlynedd. Felly hefyd, mae’r saith tywysen dda o wenith yn saith mlynedd. Mae gan y ddwy freuddwyd yr un ystyr. 27 Mae’r saith o wartheg tenau a gwan, y rhai a ddaeth i fyny ar eu holau nhw, yn saith mlynedd. A bydd y saith tywysen wag o wenith, a gafodd eu crino gan wynt y dwyrain, yn saith mlynedd o newyn. 28 Felly, fel dywedais i wrth Pharo: Mae’r gwir Dduw yn datgelu i Pharo beth bydd Ef yn ei wneud.
29 “Bydd ’na ddigonedd o fwyd yn holl wlad yr Aifft am saith mlynedd. 30 Ond yn sicr bydd ’na saith mlynedd o newyn ar ôl hynny, a bydd pobl yn anghofio’n llwyr am yr adeg pan oedd ’na ddigonedd o fwyd yng ngwlad yr Aifft, a bydd y newyn yn difetha’r wlad. 31 Ac ni fydd neb yn cofio’r adeg pan oedd ’na ddigonedd o fwyd yn y wlad, oherwydd bydd y newyn a fydd yn dod wedyn mor ddifrifol. 32 Mae Pharo wedi breuddwydio am hyn ddwywaith oherwydd bod y gwir Dduw wedi penderfynu y bydd yn bendant yn gwneud hyn i gyd, a bydd y gwir Dduw yn gwneud hyn yn fuan.
33 “Felly gad i Pharo nawr chwilio am ddyn call a doeth a rhoi awdurdod iddo dros wlad yr Aifft. 34 Gad i Pharo weithredu a phenodi arolygwyr yn y wlad, a dylai ef gasglu un rhan o bump o gynnyrch yr Aifft yn ystod y saith mlynedd pan fydd ’na ddigonedd o fwyd. 35 A gad iddyn nhw gasglu’r holl fwyd yn ystod y blynyddoedd da hyn sydd i ddod, a gad iddyn nhw storio grawn o dan awdurdod Pharo yn stordai’r dinasoedd. 36 Dylai’r bwyd gael ei ddefnyddio yn ystod y saith mlynedd o newyn a fydd yn digwydd yng ngwlad yr Aifft, fel na fydd y bobl na’r anifeiliaid yn marw yn y newyn.”
37 Roedd y syniad hwn yn swnio’n dda i Pharo ac i’w holl weision. 38 Felly dywedodd Pharo wrth ei weision: “Oes ’na unrhyw ddyn arall sy’n debyg i Joseff sydd ag ysbryd Duw ynddo?” 39 Yna dywedodd Pharo wrth Joseff: “Gan fod Duw wedi datgelu hyn i gyd i ti, does ’na neb sydd mor ddoeth a chall â ti. 40 Byddi di’n gofalu am fy nhŷ, a bydd fy holl bobl yn hollol ufudd iti. Dim ond fi fydd yn bwysicach na ti am fy mod i’n frenin.” 41 Ac ychwanegodd Pharo: “Edrycha, rydw i’n dy wneud di’n gyfrifol am holl wlad yr Aifft.” 42 Yna tynnodd Pharo ei fodrwy* oddi ar ei law ei hun a’i rhoi ar law Joseff, a rhoddodd ef ddillad o liain main amdano a chadwyn o aur am ei wddf. 43 Ar ben hynny, rhoddodd ef ail gerbyd y brenin iddo er mwyn iddo deithio ynddo, a bydden nhw’n gweiddi, “Avrékh!”* o’i flaen. Felly gosododd ef dros holl wlad yr Aifft.
44 Aeth Pharo ymlaen i ddweud wrth Joseff: “Pharo ydw i, ond ni fydd unrhyw ddyn yn cael gwneud unrhyw beth* yn holl wlad yr Aifft heb dy ganiatâd di.” 45 Ar ôl hynny rhoddodd Pharo yr enw Saffnath-panea ar Joseff, a rhoddodd ef Asnath ferch Potiffera, offeiriad On,* iddo yn wraig. A dechreuodd Joseff arolygu popeth oedd yn cael ei wneud yng ngwlad yr Aifft.* 46 Roedd Joseff yn 30 mlwydd oed pan safodd o flaen Pharo* brenin yr Aifft.
Yna aeth Joseff allan oddi wrth Pharo a theithio trwy gydol gwlad yr Aifft. 47 Ac yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd, cynhyrchodd y tir lawer o gnydau. 48 A pharhaodd i gasglu holl fwyd gwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a byddai’n storio’r bwyd yn y dinasoedd. Ym mhob dinas byddai’n storio’r bwyd o’r caeau o’i chwmpas. 49 Parhaodd Joseff i bentyrru llawer o rawn, fel tywod y môr. Yn y pen draw gwnaethon nhw roi’r gorau i’w bwyso oherwydd roedd yn amhosib cadw cofnod ohono.
50 Cyn i flynyddoedd y newyn ddechrau, cafodd Joseff ddau fab, drwy Asnath ferch Potiffera, offeiriad On.* 51 Rhoddodd Joseff yr enw Manasse* ar y cyntaf-anedig, oherwydd dywedodd ef, “Mae Duw wedi gwneud imi anghofio fy holl drafferthion a holl deulu fy nhad.” 52 A rhoddodd yr enw Effraim* ar yr ail fab, oherwydd dywedodd ef, “Mae Duw wedi fy ngwneud i’n ffrwythlon yn y wlad lle rydw i wedi dioddef.”
53 Yna daeth y saith mlynedd o ddigonedd yng ngwlad yr Aifft i ben, 54 a dechreuodd y saith mlynedd o newyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. Lledaenodd y newyn ym mhob gwlad, ond roedd ’na fara* yn holl wlad yr Aifft. 55 Yn y pen draw, roedd holl wlad yr Aifft yn dioddef oherwydd y newyn, a dechreuodd y bobl alw ar Pharo am fara. Yna dywedodd Pharo wrth yr Eifftwyr i gyd: “Ewch at Joseff, a gwnewch beth bynnag mae’n ei ddweud wrthoch chi.” 56 Parhaodd y newyn drwy’r ddaear gyfan. Yna dechreuodd Joseff agor y stordai o rawn a’i werthu i’r Eifftwyr, oherwydd roedd y newyn yn drwm yng ngwlad yr Aifft. 57 Ar ben hynny, daeth pobl y ddaear gyfan i’r Aifft i brynu oddi wrth Joseff, oherwydd roedd y newyn yn drwm drwy’r byd i gyd.
42 Pan glywodd Jacob fod grawn yn yr Aifft, dywedodd wrth ei feibion: “Pam rydych chi’n edrych ar eich gilydd heb wneud dim byd?” 2 Ychwanegodd: “Rydw i wedi clywed bod grawn yn yr Aifft. Ewch i lawr yno a phrynu ychydig inni, er mwyn inni allu aros yn fyw yn hytrach na marw.” 3 Felly aeth deg o frodyr Joseff i lawr i brynu grawn o’r Aifft. 4 Ond wnaeth Jacob ddim anfon Benjamin, brawd Joseff, gyda’i frodyr eraill, oherwydd dywedodd: “Efallai bydd yn marw mewn damwain.”
5 Felly daeth meibion Israel, ynghyd ag eraill, i brynu grawn, oherwydd bod y newyn wedi lledaenu i wlad Canaan. 6 Joseff oedd yr un ag awdurdod dros y wlad, ac ef oedd yn gwerthu’r grawn i holl bobl y ddaear. Felly daeth brodyr Joseff ac ymgrymu’n isel iddo ar y llawr. 7 Pan welodd Joseff ei frodyr, roedd yn eu hadnabod nhw’n syth, ond cuddiodd pwy oedd ef rhagddyn nhw. Felly siaradodd yn gas â nhw gan ddweud: “O le rydych chi wedi dod?” ac atebon nhw: “O wlad Canaan i brynu bwyd.”
8 Felly roedd Joseff yn adnabod ei frodyr, ond doedden nhwthau ddim yn ei adnabod ef. 9 Ar unwaith cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanyn nhw, a dywedodd wrthyn nhw: “Ysbïwyr ydych chi! Rydych chi wedi dod i weld mannau* gwan y wlad!” 10 Yna dywedon nhw wrtho: “Na, fy arglwydd, mae dy weision wedi dod i brynu bwyd. 11 Rydyn ni i gyd yn feibion i un dyn. Rydyn ni’n ddynion onest. Nid ysbïwyr ydy dy weision.” 12 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Na! Rydych chi wedi dod i weld mannau gwan y wlad!” 13 Ar hynny dywedon nhw: “12 brawd ydy dy weision. Rydyn ni’n feibion i un dyn yng ngwlad Canaan, ac mae’r ieuengaf gyda’n tad, ond dydy’r llall ddim yma bellach.”
14 Fodd bynnag, dywedodd Joseff wrthyn nhw: “Ysbïwyr ydych chi! Yn union fel dywedais i. 15 Dyma sut bydda i’n profi a ydych chi’n dweud y gwir: Mor sicr â bod Pharo yn fyw, fyddwch chi ddim yn gadael y lle yma nes bod eich brawd ieuengaf yn dod yma. 16 Anfonwch un ohonoch chi i nôl eich brawd tra bod y lleill yn aros mewn caethiwed. Fel hyn, bydd eich geiriau’n cael eu profi i weld a ydych chi’n dweud y gwir. Ac os ddim, yna, mor sicr â bod Pharo yn fyw, ysbïwyr ydych chi.” 17 Ar hynny dyma’n eu caethiwo nhw gyda’i gilydd am dri diwrnod.
18 Dywedodd Joseff wrthyn nhw ar y trydydd dydd: “Rydw i’n ofni Duw, felly gwnewch beth rydw i’n ei ddweud er mwyn aros yn fyw. 19 Os ydych chi’n ddynion onest, gadewch i un o’ch brodyr aros yma mewn caethiwed, ond bydd y gweddill ohonoch chi’n cael mynd a chymryd grawn oherwydd y newyn yn eich teuluoedd. 20 Yna dewch â’ch brawd ieuengaf ata i, er mwyn profi bod eich geiriau’n ddibynadwy ac er mwyn ichi beidio â marw.” A dyna a wnaethon nhw.
21 A dywedon nhw wrth ei gilydd: “Mae’n rhaid ein bod ni’n cael ein cosbi o achos ein brawd, oherwydd gwnaethon ni weld ei ddioddefaint* pan oedd yn ymbil arnon ni i ddangos trugaredd, ond wnaethon ni ddim gwrando. Dyna pam mae’r trafferthion hyn wedi dod arnon ni.” 22 Yna dyma Reuben yn eu hateb nhw: “Gwnes i ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch â niweidio’r plentyn,’ ond roeddech chi’n gwrthod gwrando. Nawr rydyn ni’n atebol am ei fywyd.”* 23 Ond doedden nhw ddim yn gwybod bod Joseff yn eu deall nhw, oherwydd roedd ’na gyfieithydd rhyngddyn nhw. 24 Felly dyma’n troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw a dechrau crio. Pan ddaeth yn ôl a siarad â nhw eto, cymerodd ef Simeon oddi wrthyn nhw a’i rwymo o flaen eu llygaid. 25 Yna gorchmynnodd Joseff i’w weision lenwi eu bagiau â grawn ac i roi arian pob un yn ôl yn ei sach ei hun ac i roi bwyd iddyn nhw ar gyfer y daith. Cafodd hyn ei wneud ar eu cyfer nhw.
26 Felly gwnaethon nhw lwytho eu grawn ar eu hasynnod a gadael. 27 Pan agorodd un ohonyn nhw ei sach i roi bwyd i’w asyn lle roedden nhw’n aros, gwelodd fod ei arian yno yng ngheg ei fag. 28 Ar hynny dywedodd wrth ei frodyr: “Mae fy arian wedi cael ei roi yn ôl imi, ac nawr mae yma yn fy mag!” Yna dyma eu calonnau’n suddo, a gwnaethon nhw droi at ei gilydd yn crynu gan ddweud: “Beth mae Duw wedi ei wneud inni?”
29 Pan ddaethon nhw at Jacob eu tad yng ngwlad Canaan, gwnaethon nhw sôn wrtho am yr holl bethau a oedd wedi digwydd iddyn nhw, gan ddweud: 30 “Gwnaeth y dyn sy’n arglwydd ar y wlad siarad yn gas â ni a’n cyhuddo ni o ysbïo ar y wlad. 31 Ond dywedon ni wrtho, ‘Rydyn ni’n ddynion onest. Nid ysbïwyr ydyn ni. 32 12 brawd ydyn ni, yn feibion i’n tad. Dydy un ddim o gwmpas bellach, ac mae’r ieuengaf gyda’n tad yng ngwlad Canaan.’ 33 Ond dywedodd y dyn sy’n arglwydd ar y wlad wrthon ni, ‘Dyma sut bydda i’n gwybod a ydych chi’n ddynion onest: Gadewch un o’ch brodyr gyda mi. Yna cymerwch rywbeth oherwydd y newyn yn eich teuluoedd ac ewch. 34 A dewch â’ch brawd ieuengaf ata i, er mwyn imi wybod mai dynion onest ydych chi ac nid ysbïwyr. Yna bydda i’n rhoi eich brawd yn ôl ichi, ac fe gewch chi barhau i brynu bwyd yn y wlad.”
35 Tra oedden nhw’n gwagio eu sachau, roedd bag arian pob un ohonyn nhw yn ei sach. Pan welson nhw a’u tad y bagiau o arian, daeth ofn arnyn nhw. 36 Dyma Jacob eu tad yn dweud wrthyn nhw: “Rydych chi’n cymryd fy mhlant oddi wrtho i! Mae Joseff wedi mynd, ac mae Simeon wedi mynd, ac rydych chi am gymryd Benjamin! I fi mae’r holl bethau hyn wedi digwydd!” 37 Ond dywedodd Reuben wrth ei dad: “Cei di roi fy nau fab fy hun i farwolaeth os dydw i ddim yn dod ag ef yn ôl atat ti. Rho ef yn fy ngofal i, ac fe fydda i’n dod ag ef yn ôl atat ti.” 38 Ond, dywedodd ef: “Fydd fy mab ddim yn mynd i lawr gyda chi, oherwydd mae ei frawd wedi marw ac ef yn unig sydd ar ôl. Petai ef yn marw mewn damwain ar eich taith, yna byddwch chi’n sicr yn fy anfon i lawr i’r Bedd* yn fy henaint ac yn llawn galar.”
43 Nawr roedd y newyn yn drwm yn y wlad. 2 Felly pan oedden nhw wedi gorffen bwyta’r grawn roedden nhw wedi dod gyda nhw o’r Aifft, dywedodd eu tad wrthyn nhw: “Ewch yn ôl a phrynu ychydig o fwyd inni.” 3 Yna dywedodd Jwda wrtho: “Rhoddodd y dyn rybudd clir inni, ‘Chewch chi ddim gweld fy wyneb eto oni bai bod eich brawd gyda chi.’ 4 Os gwnei di anfon ein brawd gyda ni, byddwn ni’n mynd i lawr i brynu bwyd iti. 5 Ond os na wnei di ei anfon, fyddwn ni ddim yn mynd i lawr, oherwydd dywedodd y dyn wrthon ni, ‘Chewch chi ddim gweld fy wyneb eto oni bai bod eich brawd gyda chi.’” 6 A gofynnodd Israel: “Sut gallwch chi fy mrifo i fel hyn? Pam gwnaethoch chi ddweud wrth y dyn fod gynnoch chi frawd arall?” 7 Atebon nhw: “Gwnaeth y dyn ofyn i ni’n benodol amdanon ni a’n teulu, gan ddweud, ‘Ydy eich tad yn dal yn fyw? Oes gynnoch chi frawd arall?’ A dywedon ni’r gwir wrtho. Sut yn y byd roedden ni i wybod y byddai’n dweud, ‘Dewch â’ch brawd i lawr’?”
8 Yna dywedodd Jwda wrth Israel ei dad: “Anfona’r bachgen gyda mi, a gad inni fynd ar ein ffordd er mwyn inni fyw a pheidio â marw—ni, a ti, a’n plant. 9 Mae bywyd y bachgen yn fy nwylo i. Cei di fy nal i’n gyfrifol amdano. Os nad ydw i’n dod ag ef yn ôl atat ti bydda i’n euog o bechu yn dy erbyn di am weddill fy mywyd. 10 Ond petasen ni heb oedi, bydden ni wedi gallu mynd yno ac yn ôl ddwywaith erbyn hyn.”
11 Felly dywedodd Israel eu tad wrthyn nhw: “Os oes rhaid, gwnewch hyn: Cymerwch gynnyrch gorau’r wlad i lawr yn eich bagiau at y dyn fel anrheg iddo: ychydig o falm, ychydig o fêl, labdanum,* rhisgl resinaidd, cnau pistasio, ac almonau. 12 Ewch â dwywaith cymaint o arian gyda chi; a hefyd ewch â’r arian a gafodd ei roi yn ôl yng ngheg eich bagiau yn ôl gyda chi. Efallai mai camgymeriad oedd hynny. 13 Cymerwch eich brawd ac ewch yn ôl at y dyn. 14 Gad i Dduw Hollalluog wneud i’r dyn ddangos trugaredd atoch chi er mwyn iddo ryddhau eich brawd arall a Benjamin ichi. Ond os oes rhaid imi golli fy mhlant, yna bydd rhaid imi dderbyn hynny!”
15 Felly cymerodd y dynion yr anrheg honno, a chymeron nhw ddwywaith cymaint o arian yn eu dwylo yn ogystal â Benjamin. Yna, codon nhw a mynd ar eu ffordd i lawr i’r Aifft a sefyll o flaen Joseff unwaith eto. 16 Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda nhw, dywedodd ar unwaith wrth y dyn oedd yn gofalu am ei dŷ: “Dos â’r dynion i’r tŷ a lladd anifeiliaid a pharatoi pryd o fwyd, oherwydd bydd y dynion yn bwyta gyda mi am hanner dydd.” 17 Ar unwaith, gwnaeth y dyn yn union fel roedd Joseff wedi dweud wrtho, ac aeth â nhw i dŷ Joseff. 18 Ond dechreuodd y dynion ofni pan gawson nhw eu cymryd i dŷ Joseff, a dechreuon nhw ddweud: “Maen nhw’n dod â ni yma oherwydd yr arian a gafodd ei roi yn ôl yn ein bagiau y tro diwethaf. Nawr byddan nhw’n ymosod arnon ni ac yn ein gwneud ni’n gaethweision ac yn cymryd ein hasynnod!”
19 Felly, aethon nhw at y dyn oedd yn gofalu am dŷ Joseff a siarad ag ef wrth fynedfa’r tŷ. 20 Dywedon nhw: “Esgusoda ni, fy arglwydd! Daethon ni i lawr y tro cyntaf i brynu bwyd. 21 Ond pan gyrhaeddon ni ein llety a dechrau agor ein bagiau, wel, dyna lle roedd arian pob un yng ngheg ei fag, pob ceiniog ohono. Felly roedden ni eisiau ei roi yn ôl â’n dwylo ein hunain. 22 Ac rydyn ni wedi dod â mwy o arian i brynu bwyd. Dydyn ni ddim yn gwybod pwy roddodd yr arian yn ein bagiau.” 23 Yna dywedodd: “Mae popeth yn iawn. Peidiwch ag ofni. Eich Duw chi a Duw eich tad wnaeth roi trysor yn eich bagiau. Rydw i’n gwybod eich bod chi wedi talu.” Ar ôl hynny, daeth ef â Simeon allan atyn nhw.
24 Yna daeth y dyn â nhw i mewn i dŷ Joseff a rhoi dŵr iddyn nhw i olchi eu traed, a rhoddodd fwyd i’w hasynnod. 25 A dyma nhw’n paratoi’r anrheg erbyn ganol dydd pan fyddai Joseff yn dod, am eu bod nhw wedi clywed y bydden nhw’n cael pryd o fwyd yno. 26 Pan aeth Joseff i mewn i’r tŷ, daethon nhw â’u hanrheg ato ac ymgrymu ar y llawr o’i flaen. 27 Ar ôl hyn, gofynnodd Joseff iddyn nhw: “Sut ydych chi? Roeddech chi’n sôn bod eich tad mewn oed, sut mae’n cadw? Ydy ef yn dal yn fyw?” 28 Atebon nhw: “Mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach.” Yna, dyma nhw’n ymgrymu’n isel o’i flaen.
29 Pan edrychodd a gweld Benjamin ei frawd, mab ei fam, dywedodd: “Ai hwn yw eich brawd, yr un ieuengaf roeddech chi’n sôn amdano?” Ychwanegodd: “Bendith Duw arnat ti fy mab.” 30 Daeth cymaint o deimlad drosto oherwydd ei frawd, rhuthrodd allan a chwilio am rywle i grio. Felly aeth i mewn i ystafell breifat a beichio crio yno. 31 Ar ôl hynny, golchodd ei wyneb a mynd allan, a gyda’i deimladau bellach o dan reolaeth, dywedodd: “Dewch â’r bwyd allan.” 32 Dyma nhw’n gweini ar Joseff ar ei ben ei hun a’i frodyr ar wahân, ac roedd yr Eifftiaid gydag ef yn bwyta er eu pennau eu hunain, oherwydd doedd yr Eifftiaid ddim yn gallu bwyta gyda’r Hebreaid am fod hynny’n beth ffiaidd i’r Eifftiaid.
33 Eisteddodd ei frodyr o’i flaen yn ôl eu hoedran, o’r cyntaf-anedig yn ôl ei hawl fel y cyntaf-anedig, i’r ieuengaf yn ôl ei ieuenctid, ac roedden nhw’n dal i edrych ar ei gilydd mewn syndod. 34 Dro ar ôl tro anfonodd fwyd o’i fwrdd ef i’w bwrdd nhw, ond rhoddodd bum gwaith mwy i Benjamin nag i’r lleill. Felly, gwnaethon nhw barhau i fwyta ac yfed gydag ef nes eu bod nhw’n llawn.
44 Yn nes ymlaen, gorchmynnodd Joseff i’r dyn a oedd yn gofalu am ei dŷ: “Llenwa fagiau y dynion â chymaint o fwyd ag y gallan nhw ei gario, a rho arian pob un yng ngheg ei fag. 2 Ond rhaid iti roi fy nghwpan i, y cwpan arian, yng ngheg bag yr ieuengaf, gyda’r arian ar gyfer ei rawn.” Felly gwnaeth ef yn union fel roedd Joseff wedi gorchymyn.
3 Yn y bore, ar ôl iddi wawrio, cafodd y dynion eu hanfon i ffwrdd gyda’u hasynnod. 4 Doedden nhw ddim wedi mynd yn bell o’r ddinas pan ddywedodd Joseff wrth y dyn a oedd yn gofalu am ei dŷ: “Cod! Dos ar ôl y dynion! Pan fyddi di’n dal i fyny â nhw, dyweda wrthyn nhw, ‘Pam rydych chi wedi talu drwg yn ôl i fy meistr, ar ôl iddo fod mor dda tuag atoch chi? 5 Dyma’r cwpan mae fy meistr yn yfed ohono, ac yn ei ddefnyddio i ragweld y dyfodol yn fedrus. Rydych chi wedi gwneud rhywbeth drwg iawn.’”
6 Felly dyma ef yn dal i fyny â nhw ac yn dweud y geiriau hyn wrthyn nhw. 7 Ond dywedon nhw wrtho: “Sut gall fy arglwydd ddweud y fath beth? Fyddai dy weision byth yn gwneud unrhyw beth fel ’na. 8 Fel rwyt ti’n gwybod, daethon ni â’r arian gwnaethon ni ei ffeindio yn ein bagiau yn ôl iti o wlad Canaan. Felly pam bydden ni’n dwyn arian neu aur o dŷ dy feistr? 9 Os wyt ti’n ffeindio bod gan un o dy weision y cwpan, gad iddo farw, a bydd y gweddill ohonon ni hefyd yn dod yn gaethweision i fy meistr.” 10 Felly dywedodd ef: “Gad iddi ddigwydd fel rwyt ti’n dweud: Bydd yr un sy’n cael ei ddal gyda’r cwpan yn ei fag yn dod yn gaethwas imi, ond bydd y gweddill ohonoch chi yn ddieuog.” 11 Gyda hynny, brysiodd pob un ohonyn nhw i roi ei fag ar y llawr a’i agor. 12 Chwiliodd yn ofalus drwy fag pob un, gan ddechrau gyda’r hynaf, a gorffen gyda’r ieuengaf. O’r diwedd, daeth o hyd i’r cwpan ym mag Benjamin.
13 Yna, dyma nhw’n rhwygo eu dillad, a gwnaeth pob un ohonyn nhw godi ei fag yn ôl ar ei asyn a mynd yn ôl i’r ddinas. 14 Pan aeth Jwda a’i frodyr i mewn i dŷ Joseff, roedd ef yn dal i fod yno, a gwnaethon nhw syrthio i’r llawr o’i flaen. 15 Dywedodd Joseff wrthyn nhw: “Beth rydych chi wedi ei wneud? Oeddech chi ddim yn gwybod bod dyn fel fi yn gallu rhagweld y dyfodol yn fedrus?” 16 Gyda hynny, atebodd Jwda: “Beth gallwn ni ei ddweud wrth fy meistr? A sut gallwn ni brofi ein bod ni’n gyfiawn? Mae’r gwir Dduw wedi datgelu’r drwg wnaeth dy weision. Nawr rydyn ni’n gaethweision i fy meistr, ni a’r un gafodd ei ddal gyda’r cwpan yn ei law!” 17 Ond dywedodd ef: “Na, fyddwn i byth yn gwneud hynny! Y dyn a gafodd ei ddal gyda’r cwpan yn ei law, ef yw’r un fydd yn gaethwas imi. Mae’r gweddill ohonoch chi’n rhydd i fynd i fyny at eich tad.”
18 Nawr aeth Jwda ato a dweud: “Rydw i’n erfyn arnat ti, fy meistr, gad imi siarad â ti, a phaid â gwylltio wrth dy gaethwas, oherwydd rwyt ti fel Pharo ei hun. 19 Gofynnodd fy meistr i’w gaethweision, ‘Oes gynnoch chi dad neu frawd?’ 20 Felly dywedon ni wrthot ti, ‘Mae gynnon ni dad mewn oed, a phlentyn ei henaint, yr ieuengaf. Ond mae ei frawd wedi marw, felly ef ydy’r unig un o feibion ei fam sydd ar ôl, ac mae ei dad yn ei garu.’ 21 Ar ôl hynny, dywedaist ti wrthon ni, ‘Dewch ag ef i lawr ata i, er mwyn imi ei weld.’ 22 Ond dywedon ni wrthot ti, ‘Dydy’r bachgen ddim yn gallu gadael ei dad. Petasai’n gwneud hynny, yn sicr, byddai ei dad yn marw.’ 23 Yna dywedaist ti wrthon ni, ‘Chewch chi ddim gweld fy wyneb eto oni bai bod eich brawd ieuengaf yn dod i lawr gyda chi.’
24 “Felly aethon ni yn ôl at fy nhad a dweud wrtho beth ddywedaist ti. 25 Yn nes ymlaen, dywedodd ein tad, ‘Ewch yn ôl a phrynu ychydig o fwyd inni.’ 26 Ond dywedon ni, ‘Dydyn ni ddim yn gallu mynd i lawr. Awn ni i lawr dim ond os ydy ein brawd ieuengaf gyda ni, oherwydd dydyn ni ddim yn gallu gweld wyneb y dyn oni bai bod ein brawd ieuengaf gyda ni.’ 27 Yna dywedodd fy nhad wrthon ni, ‘Rydych chi’n gwybod yn iawn fod fy ngwraig ond wedi geni dau fab imi. 28 Ond gwnaeth un ohonyn nhw fy ngadael i, a dywedais i: “Mae’n rhaid ei fod wedi cael ei rwygo’n ddarnau!” ac rydw i heb ei weld ers hynny. 29 Petasech chi’n cymryd hwn oddi wrtho i hefyd, ac yntau’n cael damwain ac yn marw, yna byddwch chi’n sicr yn fy anfon i i lawr i’r Bedd* yn fy henaint ac yn llawn poen.’
30 “Mae ein tad yn caru’r mab hwnnw yn fawr iawn, a dydy ef ddim yn gallu byw hebddo. 31 Felly os nad ydw i’n mynd â’r bachgen yn ôl at fy nhad, bydd ein tad yn siŵr o farw oherwydd ei alar, a byddwn ni’n gyfrifol am anfon ein tad i lawr i’r Bedd* yn ei henaint. 32 Dywedais i wrth fy nhad y byddwn i’n gyfrifol am y bachgen, drwy ddweud, ‘Os nad ydw i’n dod ag ef yn ôl atat ti, yna bydda i’n euog o bechu yn erbyn fy nhad am byth.’ 33 Felly nawr, plîs, gad i mi aros fel dy gaethwas yn lle fy mrawd, er mwyn i’r bachgen fynd yn ôl gyda’i frodyr. 34 Sut galla i fynd yn ôl at fy nhad heb ddod â’r bachgen gyda mi? Alla i ddim dioddef gweld fy nhad yn mynd drwy hynny!”
45 Ar ôl clywed hyn, doedd Joseff ddim yn gallu rheoli ei deimladau o flaen ei weision ddim mwy. Felly gwaeddodd: “Pawb allan!” Wnaeth neb arall aros gyda Joseff tra oedd yn dweud wrth ei frodyr pwy oedd ef.
2 Yna dechreuodd grio mor uchel nes bod yr Eifftiaid yn ei glywed a gwnaeth tŷ Pharo ei glywed hefyd. 3 O’r diwedd dywedodd Joseff wrth ei frodyr: “Joseff ydw i. Ydy fy nhad yn dal yn fyw?” Ond doedd ei frodyr ddim yn gallu ei ateb o gwbl, oherwydd roedden nhw wedi synnu gymaint. 4 Felly dywedodd Joseff wrth ei frodyr: “Dewch yn nes ata i plîs.” Gyda hynny aethon nhw yn nes ato.
Yna dywedodd: “Joseff ydw i, eich brawd, yr un gwnaethoch chi ei werthu i’r Eifftiaid. 5 Ond nawr peidiwch â phoeni na dadlau na rhoi’r bai ar eich gilydd am eich bod chi wedi fy ngwerthu i yma; oherwydd mae Duw wedi fy anfon i o’ch blaenau chi er mwyn achub bywydau. 6 Dyma ail flwyddyn y newyn yn y wlad, ond mae ’na bum mlynedd eto pan fydd ’na ddim aredig na chynaeafu. 7 Ond gwnaeth Duw fy anfon i o’ch blaenau chi er mwyn gwneud yn siŵr y bydd gynnoch chi ddisgynyddion* ar y ddaear* ac er mwyn eich cadw chi’n fyw drwy eich achub chi mewn ffordd ryfeddol. 8 Felly nid chi a wnaeth fy anfon i yma, ond y gwir Dduw, er mwyn fy mhenodi i yn brif gynghorydd i Pharo ac yn arglwydd dros ei dŷ cyfan ac yn rheolwr dros holl wlad yr Aifft.
9 “Ewch yn ôl at fy nhad ar unwaith, ac mae’n rhaid ichi ddweud wrtho, ‘Dyma beth mae dy fab Joseff wedi ei ddweud: “Mae Duw wedi fy mhenodi i’n arglwydd dros yr Aifft gyfan. Tyrd i lawr ata i. Paid ag oedi. 10 Mae’n rhaid iti fyw yng ngwlad Gosen, lle byddi di’n agos ata i—ti, dy feibion, dy wyrion, dy ddefaid,* dy wartheg,* a phopeth sydd gen ti. 11 Bydda i’n gwneud yn siŵr bod gynnoch chi fwyd yno, oherwydd mae ’na bum mlynedd o newyn eto i ddod. Neu fel arall byddi di a dy deulu yn llwgu a byddi di’n colli dy holl eiddo.”’ 12 Gallwch chi a fy mrawd Benjamin weld nawr gyda’ch llygaid eich hunain mai fi ydy’r un sy’n siarad â chi. 13 Felly mae’n rhaid ichi ddweud wrth fy nhad am ba mor bwerus rydw i wedi dod yn yr Aifft ac am bopeth rydych chi wedi ei weld. Nawr brysiwch a dewch â fy nhad i lawr yma.”
14 Yna gwnaeth ef gofleidio ei frawd Benjamin a dyma’r ddau yn dechrau crio ym mreichiau ei gilydd. 15 A gwnaeth ef gusanu ei frodyr i gyd, yn eu cofleidio nhw ac yn crio, ac ar ôl hynny siaradodd ei frodyr ag ef.
16 Roedd tŷ Pharo wedi cael gwybod bod brodyr Joseff wedi cyrraedd, ac roedd Pharo a’i weision yn falch o glywed hynny. 17 Felly dywedodd Pharo wrth Joseff: “Dyweda wrth dy frodyr, ‘Gwnewch hyn: Llwythwch eich anifeiliaid gwaith ac ewch i wlad Canaan, 18 a dewch â’ch tad a’ch teuluoedd yma ata i. Bydda i’n rhoi pethau da ichi o wlad yr Aifft, a byddwch chi’n bwyta o ran fwyaf ffrwythlon* y wlad.’ 19 Ac mae’n rhaid iti ddweud wrthyn nhw: ‘Gwnewch hyn: Cymerwch wageni o wlad yr Aifft i’ch plant a’ch gwragedd, ac mae’n rhaid ichi ddod â’ch tad i lawr yma ar un ohonyn nhw. 20 Peidiwch â phoeni am eich eiddo, oherwydd cewch chi bethau gorau gwlad yr Aifft.’”
21 A dyna a wnaeth meibion Israel, rhoddodd Joseff wageni iddyn nhw yn ôl gorchmynion Pharo, yn ogystal â bwyd ar gyfer y daith. 22 Rhoddodd wisg newydd i bob un ohonyn nhw, ond i Benjamin rhoddodd 300 darn o arian a phum gwisg newydd. 23 Ac anfonodd hyn at ei dad: deg asyn yn cario pethau da o’r Aifft a deg asen yn cario grawn a bara a bwyd arall i’w dad ar gyfer y daith. 24 Felly anfonodd ei frodyr ar eu ffordd, ac wrth iddyn nhw adael, dywedodd wrthyn nhw: “Peidiwch â dadlau â’ch gilydd ar hyd y ffordd.”
25 Yna gadawon nhw yr Aifft a dod i mewn i wlad Canaan at eu tad Jacob. 26 Yna dywedon nhw wrtho: “Mae Joseff yn dal yn fyw, ac mae’n rheoli dros holl wlad yr Aifft!” Ond doedd gan Jacob ddim geiriau* oherwydd doedd ef ddim yn eu credu nhw. 27 Pan aethon nhw ymlaen i ddweud wrtho am bopeth roedd Joseff wedi ei ddweud wrthyn nhw, a phan welodd y wageni roedd Joseff wedi eu hanfon i’w gario, cododd calon* eu tad Jacob. 28 Dywedodd Israel: “Nawr rydw i’n eich credu chi! Mae fy mab Joseff yn dal yn fyw! Mae’n rhaid imi fynd a’i weld cyn imi farw!”
46 Felly cymerodd Israel bopeth oedd ganddo* a gadael. Pan gyrhaeddodd Beerseba, aberthodd anifeiliaid i Dduw ei dad Isaac. 2 Yna siaradodd Duw ag Israel mewn gweledigaeth yn ystod y nos, a dweud: “Jacob, Jacob!” ac atebodd: “Dyma fi!” 3 Dywedodd: “Fi ydy’r gwir Dduw, Duw dy dad. Paid ag ofni mynd i lawr i’r Aifft, oherwydd bydda i’n dy wneud di’n genedl fawr yno. 4 Bydda i fy hun yn mynd i lawr i’r Aifft gyda ti, a bydda i fy hun yn dod â ti’n ôl o’r fan yna, a bydd Joseff yn cau dy lygaid pan fyddi di’n marw.”*
5 Ar ôl hynny, gadawodd Jacob Beerseba, a dyma feibion Israel yn rhoi Jacob eu tad, a’u plant a’u gwragedd, yn y wageni roedd Pharo wedi eu hanfon i’w gludo ef. 6 Aethon nhw â’r preiddiau a’r eiddo roedden nhw wedi eu casglu yng Ngwlad Canaan gyda nhw. Ac felly daethon nhw i mewn i’r Aifft, Jacob a’i holl deulu gydag ef. 7 Daeth â’i feibion a’i wyrion, ei ferched a’i wyresau gydag ef i mewn i’r Aifft—ei deulu cyfan.
8 Nawr dyma enwau meibion Israel, hynny yw meibion Jacob, a ddaeth i mewn i’r Aifft: Cyntaf-anedig Jacob oedd Reuben.
9 Meibion Reuben oedd Hanoch, Palu, Hesron, a Carmi.
10 Meibion Simeon oedd Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar, a Saul mab dynes* o Ganaan.
11 Meibion Lefi oedd Gerson, Cohath, a Merari.
12 Meibion Jwda oedd Er, Onan, Sela, Peres, a Sera. Ond bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan.
Daeth Peres yn dad i Hesron a Hamul.
13 Meibion Issachar oedd Tola, Pufa, Iob, a Simron.
14 Meibion Sabulon oedd Sered, Elon, a Jahleel.
15 Dyma feibion Lea, y rhai gwnaeth hi eu geni i Jacob yn Padan-aram, yn ogystal â’i ferch Dina. Roedd gan Jacob 33 o feibion a merched* drwy Lea.
16 Meibion Gad oedd Siffion, Haggi, Suni, Esbon, Eri, Arodi, ac Areli.
17 Meibion Aser oedd Imna, Isfa, Isfi, a Bereia, a Sera oedd eu chwaer.
Meibion Bereia oedd Heber a Malchiel.
18 Dyma feibion Silpa, y forwyn a roddodd Laban i’w ferch Lea. Roedd gan Jacob a Silpa 16 o blant a wyrion* i gyd.
19 Meibion Rachel gwraig Jacob oedd Joseff a Benjamin.
20 Cafodd Manasse ac Effraim eu geni i Joseff yng ngwlad yr Aifft drwy Asnath, merch Potiffera, offeiriad On.*
21 Meibion Benjamin oedd Bela, Becher, Asbel, Gera, Naaman, Ehi, Ros, Muppim, Huppim, ac Ard.
22 Dyma feibion Rachel gwnaeth hi eu geni i Jacob: 14 o blant a wyrion* i gyd.
23 Mab Dan oedd Husim.
24 Meibion Nafftali oedd Jahseel, Guni, Jeser, a Silem.
25 Dyma feibion Bilha, y forwyn a roddodd Laban i’w ferch Rachel. Roedd gan Jacob a Bilha saith o blant a wyrion* i gyd.
26 66 oedd nifer* disgynyddion Jacob a aeth gydag ef i’r Aifft, heb gyfri gwragedd meibion Jacob. 27 Cafodd dau fab eu geni i Joseff yn yr Aifft. Daeth Jacob i mewn i’r Aifft gyda’i deulu cyfan. Roedd ’na 70 ohonyn nhw i gyd.
28 Anfonodd Jacob Jwda o’i flaen i ddweud wrth Joseff ei fod ar ei ffordd i Gosen. Pan gyrhaeddon nhw wlad Gosen, 29 cafodd cerbyd Joseff ei baratoi ac aeth ef i fyny i gyfarfod Israel ei dad yn Gosen. Pan ddaeth Joseff at Israel, dyma’n ei gofleidio ar unwaith, a wylo am beth amser. 30 Yna dywedodd Israel wrth Joseff: “Nawr rydw i’n barod i farw; rydw i wedi gweld dy wyneb ac yn gwybod dy fod ti’n dal yn fyw.”
31 Yna dywedodd Joseff wrth ei frodyr a phawb yn nhŷ ei dad: “Gadewch imi fynd i fyny i ddweud wrth Pharo: ‘Mae fy mrodyr a theulu fy nhad oedd yng ngwlad Canaan wedi dod yma ata i. 32 Bugeiliaid ydy’r dynion, ac maen nhw’n cadw defaid a gwartheg, ac maen nhw wedi dod â’u hanifeiliaid a phopeth sydd ganddyn nhw gyda nhw.’ 33 Pan fydd Pharo yn eich galw chi ac yn gofyn, ‘Beth ydy eich gwaith chi?’ 34 mae’n rhaid ichi ddweud, ‘Fy arglwydd, rydyn ni wedi cadw defaid a gwartheg ers oedden ni’n ifanc, fel roedd ein cyndadau’n gwneud,’ er mwyn i Pharo adael ichi fyw yng ngwlad Gosen, oherwydd mae pob bugail yn ffiaidd i’r Eifftiaid.”
47 Felly aeth Joseff at Pharo a dweud: “Mae fy nhad a fy mrodyr, eu preiddiau, a’u holl eiddo, wedi dod o wlad Canaan i wlad Gosen.” 2 Aeth â phump o’i frodyr a’u cyflwyno nhw i Pharo.
3 Dywedodd Pharo wrth frodyr Joseff: “Beth yw eich gwaith chi?” Atebon nhw: “Fy arglwydd, bugeiliaid ydyn ni, fel ein cyndadau.” 4 Yna dywedon nhw wrth Pharo: “Rydyn ni wedi dod i fyw fel estroniaid yn y wlad, oherwydd does ’na ddim tir pori i breiddiau dy weision, gan fod y newyn yn drwm yng ngwlad Canaan. Felly plîs, fy arglwydd, gad inni fyw yng ngwlad Gosen.” 5 Gyda hynny, dywedodd Pharo wrth Joseff: “Mae dy dad a dy frodyr wedi dod yma atat ti. 6 Mae holl wlad yr Aifft ar gael iti. Rho ran orau’r wlad iddyn nhw er mwyn iddyn nhw gael byw ynddi. Gad iddyn nhw fyw yng ngwlad Gosen, ac os wyt ti’n adnabod unrhyw ddynion medrus yn eu plith, rho fy anifeiliaid yn eu gofal nhw.”
7 Yna daeth Joseff â’i dad Jacob i mewn a’i gyflwyno i Pharo, a dyma Jacob yn bendithio Pharo. 8 Gofynnodd Pharo i Jacob: “Faint ydy dy oed di?” 9 Atebodd Jacob: “Rydw i wedi bod yn crwydro’r ddaear* am 130 o flynyddoedd. Mae wedi bod yn fywyd anodd, ac yn fyr o’i gymharu â’r blynyddoedd roedd fy nghyndadau yn crwydro’r ddaear.”* 10 Ar ôl hynny, gwnaeth Jacob fendithio Pharo, a mynd allan oddi wrtho.
11 Felly trefnodd Joseff i’w dad a’i frodyr fyw yn yr Aifft, ac yn union fel roedd Pharo wedi gorchymyn, rhoddodd ran o’r tir gorau iddyn nhw, rhan o wlad Rameses. 12 A pharhaodd Joseff i wneud yn siŵr fod gan ei dad, ei frodyr, a’u teuluoedd fwyd yn ôl faint o blant roedd ganddyn nhw.
13 Nawr doedd ’na ddim bwyd yn y wlad i gyd, oherwydd roedd y newyn yn ofnadwy o drwm. Ac roedd pobl yr Aifft a phobl Canaan yn dioddef oherwydd y newyn. 14 Ac roedd Joseff yn gwerthu grawn i bobl yr Aifft a phobl Canaan, ac ar ôl casglu’r holl arian gan y bobl ar gyfer y bwyd, daeth â’r arian i mewn i dŷ Pharo. 15 Ymhen amser, roedd arian gwlad yr Aifft a gwlad Canaan wedi cael ei wario, a dechreuodd yr Eifftiaid i gyd ddod at Joseff gan ddweud: “Rho fwyd inni! Pam dylen ni farw o flaen dy lygaid oherwydd bod ein harian wedi rhedeg allan?” 16 Yna dywedodd Joseff: “Os ydy eich arian wedi rhedeg allan, rhowch eich anifeiliaid imi, a bydda i’n rhoi bwyd i chi.” 17 Felly dechreuon nhw ddod â’u hanifeiliaid i Joseff, a rhoddodd Joseff fwyd iddyn nhw am eu ceffylau, eu defaid, eu geifr, eu gwartheg, a’u hasynnod, a pharhaodd i wneud hynny drwy gydol y flwyddyn honno.
18 Pan ddaeth y flwyddyn honno i ben, dechreuon nhw ddod ato gan ddweud: “Allwn ni ddim cuddio hyn oddi wrthot ti, fy arglwydd. Rydyn ni eisoes wedi rhoi ein harian a’n hanifeiliaid i gyd iti. Does gynnon ni ddim byd ar ôl i’w roi iti, fy arglwydd, heblaw am ein cyrff a’n tir. 19 Pam dylen ni farw o flaen dy lygaid, a pham dylai ein tir gael ei ddifetha? Gad inni werthu ein hunain a’n tir am fwyd, a byddwn ni’n dod yn gaethweision i Pharo, a bydd ein tir yn perthyn iddo. Rho hadau inni, er mwyn inni gael byw a pheidio â marw, ac er mwyn i’n tir beidio â chael ei ddifetha.” 20 Yna prynodd Joseff holl dir yr Eifftiaid ar gyfer Pharo, oherwydd roedd pob Eifftiwr wedi gwerthu ei gae am fod y newyn yn ofnadwy o drwm. Felly, Pharo oedd piau’r tir i gyd.
21 Symudodd ef y bobl i mewn i ddinasoedd, o un pen gwlad yr Aifft i’r pen arall. 22 Ond wnaeth ef ddim prynu tir yr offeiriaid, oherwydd roedden nhw’n cael bwyd oddi wrth Pharo. Dyna pam wnaethon nhw ddim gwerthu eu tir. 23 Yna dywedodd Joseff wrth y bobl: “Edrychwch, heddiw rydw i wedi eich prynu chi a’ch tir i Pharo. Dyma hadau i chi allu hau yn y caeau. 24 Pan ddaw’r cynhaeaf, mae’n rhaid ichi rannu’r cynhaeaf yn bum rhan. Rhowch un rhan i Pharo, a chewch chi gadw’r pedair rhan sydd ar ôl fel hadau i’ch caeau ac yn fwyd i chi, i’r rhai sydd yn eich tai, ac i’ch plant gael bwyta.” 25 Felly dywedon nhw: “Rwyt ti wedi achub ein bywydau. Os yw’n dy blesio di, fy arglwydd, gwnawn ni ddod yn gaethweision i Pharo.” 26 Yna gosododd Joseff ddeddf fod un rhan o bump o’r cynhaeaf yn perthyn i Pharo, ac mae hynny’n sefyll hyd heddiw yng ngwlad yr Aifft. Dim ond tir yr offeiriaid doedd ddim yn perthyn i Pharo.
27 Parhaodd Israel i fyw yng ngwlad yr Aifft, yng ngwlad Gosen, a gwnaethon nhw setlo yno a chasglu llawer o eiddo. A chawson nhw blant a daethon nhw’n niferus iawn yno. 28 A gwnaeth Jacob barhau i fyw yng ngwlad yr Aifft am 17 mlynedd. Felly roedd holl ddyddiau Jacob yn 147 mlynedd.
29 Pan sylweddolodd Israel nad oedd am fyw yn llawer hirach, galwodd ei fab Joseff a dweud: “Nawr, os oes gen ti feddwl da ohono i, plîs rho dy law o dan fy nghlun, a dangosa gariad* tuag ata i, a bydda’n ffyddlon imi. Plîs paid â fy nghladdu i yn yr Aifft. 30 Pan fydda i’n marw, mae’n rhaid iti fy nghario i allan o’r Aifft, a fy nghladdu ym medd fy nghyndadau.” Yna dywedodd Joseff: “Fe wna i yn union fel rwyt ti’n dweud.” 31 Yna dywedodd: “Wnei di addo imi ar dy lw?” Felly, addawodd iddo ar ei lw. A gyda hynny, ymgrymodd Israel wrth ben ei wely.
48 Ar ôl y pethau hyn, clywodd Joseff: “Edrycha, mae dy dad yn mynd yn wan.” Gyda hynny cymerodd ei ddau fab Manasse ac Effraim gydag ef. 2 Pan gafodd Jacob wybod bod ei fab Joseff wedi dod i’w weld, gwnaeth Israel ymdrech fawr i eistedd i fyny ar ei wely. 3 A dywedodd Jacob wrth Joseff:
“Gwnaeth Duw Hollalluog ymddangos imi yn Lus yng ngwlad Canaan a fy mendithio i. 4 A dywedodd wrtho i, ‘Rydw i’n dy wneud di’n ffrwythlon, a bydda i’n dy wneud di’n dad i lawer, ac yn dad i lawer o genhedloedd, a bydda i’n rhoi’r wlad hon i dy ddisgynyddion* er mwyn iddyn nhw ei meddiannu yn barhaol.’ 5 Nawr mae dy ddau fab a gafodd eu geni iti yng ngwlad yr Aifft, cyn imi ddod atat ti yn yr Aifft, yn feibion imi. Bydd Effraim a Manasse yn feibion imi yn union fel mae Reuben a Simeon. 6 Ond bydd y plant sy’n cael eu geni iti ar eu holau nhw yn perthyn i ti. Byddan nhw’n cael eu hetifeddiaeth yn enw eu brodyr. 7 A phan oeddwn i yn dod o Padan, bu farw Rachel wrth fy ymyl yng ngwlad Canaan, tra oedd ’na dipyn i fynd eto cyn cyrraedd Effrath. Felly gwnes i ei chladdu hi yno ar y ffordd i Effrath, hynny yw, Bethlehem.”
8 Yna gwelodd Israel feibion Joseff, a gofynnodd: “Pwy yw’r rhain?” 9 Felly dywedodd Joseff wrth ei dad: “Dyma fy meibion mae Duw wedi eu rhoi imi yn y lle hwn.” Gyda hynny dywedodd: “Tyrd â nhw ata i, plîs, er mwyn imi eu bendithio nhw.” 10 Nawr roedd Israel yn colli ei olwg oherwydd ei oed, a doedd ef ddim yn gallu gweld. Felly daeth Joseff â nhw yn agos ato, a gwnaeth ef eu cusanu nhw a’u cofleidio nhw. 11 Dywedodd Israel wrth Joseff: “Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n gweld dy wyneb eto, ond mae Duw wedi gadael imi weld dy ddisgynyddion* hefyd.” 12 Yna gwnaeth Joseff eu tynnu nhw yn ôl oddi wrth Israel,* ac ymgrymu gyda’i wyneb ar y llawr.
13 Cymerodd Joseff Effraim yn ei law dde, a Manasse yn ei law chwith. Yna daeth â’i ddau fab yn agos at Israel, a rhoddodd Effraim wrth ochr chwith Israel, a Manasse wrth ei ochr dde. 14 Ond, estynnodd Israel ei law dde a’i rhoi ar ben Effraim, er mai ef oedd yr ieuengaf, a rhoddodd ei law chwith ar ben Manasse. Gwnaeth hyn yn fwriadol oherwydd Manasse oedd y cyntaf-anedig. 15 Yna bendithiodd ef Joseff a dweud:
“O Dduw, y gwir Dduw y gwnaeth fy nhaid* Abraham a fy nhad Isaac gerdded o’i flaen,
Y gwir Dduw sydd wedi bod yn fy mugeilio i drwy gydol fy mywyd hyd heddiw,
16 Yr Un sydd wedi bod yn defnyddio ei angel i fy achub rhag fy holl drafferthion, plîs bendithia’r bechgyn.
Gad i bobl wybod fy mod i, fy nhaid* Abraham, a fy nhad Isaac, yn gyndadau iddyn nhw,
A gad iddyn nhw ddod yn bobl niferus ar y ddaear.”
17 Pan welodd Joseff fod ei dad yn cadw ei law dde ar ben Effraim, doedd ef ddim yn hapus am hynny, felly ceisiodd afael yn llaw ei dad a’i symud o ben Effraim i ben Manasse. 18 Dywedodd Joseff wrth ei dad: “Na dad, nid fel ’na, oherwydd dyma’r cyntaf-anedig. Rho dy law dde ar ei ben ef.” 19 Ond parhaodd ei dad i wrthod a dweud: “Rydw i’n gwybod hynny fy mab, rydw i’n gwybod. Bydd ef hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd ieuengaf yn dod yn fwy nag ef, a bydd ei ddisgynyddion* yn ddigon niferus i ffurfio cenhedloedd cyfan.” 20 Felly aeth ymlaen i’w bendithio nhw y diwrnod hwnnw, gan ddweud:
“Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw di pan fyddan nhw’n bendithio ei gilydd, ac yn dweud,
‘Gad i Dduw dy fendithio di fel gwnaeth ef fendithio Effraim a Manasse.’”
Felly parhaodd i roi Effraim o flaen Manasse.
21 Yna dywedodd Israel wrth Joseff: “Edrycha, rydw i ar fin marw, ond yn bendant bydd Duw yn aros gyda ti ac yn mynd â ti yn ôl i wlad dy gyndadau. 22 Rydw i am roi mwy o dir i ti nag i dy frodyr, un darn o dir yn ychwanegol, y darn gwnes i ei gymryd oddi wrth yr Amoriaid gyda fy nghleddyf a fy mwa.”
49 A galwodd Jacob ei feibion a dweud: “Dewch at eich gilydd er mwyn imi gael dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd ichi yn y dyfodol. 2 Dewch ynghyd a gwrandewch chi feibion Jacob, ie, gwrandewch ar Israel eich tad.
3 “Reuben, ti yw fy nghyntaf-anedig, fy ngrym, ie fy mhlentyn cyntaf un,* yn rhagori mewn urddas a nerth. 4 Am dy fod ti mor afreolus â dyfroedd gwyllt, fyddi di ddim yn well na dy frodyr, oherwydd fe wnest ti gysgu gyda gwraig dy dad.* Bryd hynny, gwnest ti amharchu fy mhriodas. Ie, dyna wnest ti!
5 “Mae Simeon a Lefi yn frodyr. Maen nhw’n ddynion treisgar sy’n defnyddio eu harfau i ladd. 6 O fy enaid,* paid â chadw eu cwmni nhw. Dydw i ddim eisiau i fy enw da* gael ei gysylltu â nhw, oherwydd eu bod nhw wedi lladd dynion yn eu dicter, a gwneud teirw yn gloff* am hwyl. 7 Melltith ar eu dicter am ei fod yn greulon, ac ar eu gwylltineb am ei fod yn llym. Gad imi eu gwasgaru nhw drwy wlad Jacob, a gad imi eu chwalu ar led drwy wlad Israel.
8 “A tithau Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di. Bydd dy law ar yddfau dy elynion. Bydd meibion dy dad yn ymgrymu o dy flaen di. 9 Mae Jwda yn llew ifanc. Fy mab, byddi di’n sicr yn bwyta ysglyfaeth ac yn codi i fyny. Mae ef wedi gorwedd i lawr ac wedi gorffwys fel llew, ac fel llew, pwy fyddai’n meiddio ei wylltio? 10 Fydd y wialen* ddim yn gadael Jwda, a bydd ffon y pennaeth yn aros rhwng ei draed nes bydd Seilo* yn dod, a bydd ufudd-dod y bobl yn perthyn iddo ef. 11 Gan glymu ei asyn i winwydden, a’i ebol i winwydden dda iawn, bydd yn golchi ei ddillad mewn gwin, a’i wisg mewn gwaed grawnwin. 12 Bydd ei lygaid yn goch tywyll oherwydd gwin, a bydd ei ddannedd yn wyn oherwydd llaeth.
13 “Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr, wrth y lan lle mae’r llongau yn angori, a bydd ei ffin bellaf yn mynd i gyfeiriad Sidon.
14 “Mae Issachar yn asyn cryf sy’n gorwedd i lawr i orffwys o dan faich y ddau fag ar ei gefn. 15 A bydd yn gweld ei fod yn lle da i orffwys am fod y wlad yn hardd. Bydd yn plygu ei ysgwydd i gario’r baich a bydd yn cael ei orfodi i weithio’n galed fel caethwas.
16 “Bydd Dan yn barnu ei bobl fel un o lwythau Israel. 17 Gad i Dan fod yn sarff ar ochr y ffordd, yn neidr beryglus ar ochr y llwybr, sy’n brathu sodlau’r ceffyl fel bod ei farchog yn syrthio’n ôl. 18 Bydda i’n disgwyl nes byddi di, O Jehofa, yn fy achub i.
19 “Ynglŷn â Gad, bydd grŵp o ladron yn ymosod arno, ond bydd ef yn ymosod arnyn nhw yn dynn ar eu sodlau.
20 “Bydd gan Aser ddigonedd o fara,* a bydd ef yn darparu bwyd sy’n ddigon da i frenhinoedd.
21 “Mae Nafftali yn ewig fain. Mae’n dweud geiriau tlws.
22 “Mae Joseff yn gangen sy’n tyfu ar goeden ffrwythlon, coeden ffrwythlon wrth ymyl ffynnon, a’i changhennau yn estyn dros y wal. 23 Ond daliodd y bwasaethwyr ati i ymosod arno, a saethu tuag ato, a dal dig yn ei erbyn. 24 Ond er hynny, arhosodd ei fwa yn ei le, ac arhosodd ei ddwylo yn gryf ac yn chwim. Roedd hyn oherwydd yr un nerthol sy’n helpu Jacob, y bugail, craig Israel. 25 Mae’n* dod oddi wrth Dduw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di, ac mae ef gyda’r Hollalluog, yr un fydd yn dy fendithio di â bendithion y nefoedd uchod, â bendithion dyfnderoedd y môr, ac â bendithion y bronnau a’r groth. 26 Bydd bendithion dy dad yn fwy rhagorol na bendithion y mynyddoedd tragwyddol, a phrydferthwch y bryniau sy’n para am byth. Byddan nhw’n aros ar ben Joseff, ar gorun yr un a gafodd ei ddewis o blith ei frodyr.
27 “Bydd Benjamin yn parhau i rwygo ei elynion fel blaidd. Yn y bore bydd yn bwyta ei ysglyfaeth, a gyda’r nos bydd yn rhannu’r ysbail.”
28 Daeth 12 llwyth Israel allan o’r rhain, a dyma ddywedodd eu tad wrthyn nhw wrth iddo eu bendithio. Rhoddodd fendith briodol i bob un ohonyn nhw.
29 Ar ôl hynny, rhoddodd y gorchmynion hyn iddyn nhw: “Rydw i’n cael fy nghasglu at fy mhobl.* Claddwch fi gyda fy nghyndadau yn yr ogof sydd yng nghae Effron yr Hethiad, 30 yr ogof yng nghae Machpela o flaen Mamre yng ngwlad Canaan, y cae a brynodd Abraham oddi wrth Effron yr Hethiad fel rhywle i gladdu ei feirw. 31 Dyna lle gwnaethon nhw gladdu Abraham a’i wraig Sara. Dyna lle gwnaethon nhw gladdu Isaac a’i wraig Rebeca, a dyna lle gwnes i gladdu Lea. 32 Cafodd y cae a’r ogof sydd ynddo eu prynu oddi wrth feibion Heth.”
33 Felly, gorffennodd Jacob roi’r cyfarwyddiadau hyn i’w feibion. Yna gorweddodd i lawr ar y gwely, cymerodd ei anadl olaf, a chafodd ei gasglu at ei bobl.*
50 Yna taflodd Joseff ei hun ar ei dad a chrio drosto a’i gusanu. 2 Wedyn, gorchmynnodd Joseff i’w weision, y meddygon, embalmio ei dad. Felly aeth y meddygon ati i embalmio Israel, 3 a chymeron nhw y 40 diwrnod cyfan, oherwydd dyna faint o amser sydd ei angen ar gyfer embalmio, a pharhaodd yr Eifftiaid i ollwng dagrau drosto am 70 diwrnod.
4 Ar ôl i’r cyfnod o alaru drosto fynd heibio, siaradodd Joseff â swyddogion* Pharo, gan ddweud: “Os gwelwch chi’n dda, rhowch y neges hon i Pharo: 5 ‘Dywedodd fy nhad wrtho i: “Edrycha! Rydw i ar fin marw. Addo imi ar dy lw y byddi di’n fy nghladdu i yn y bedd y gwnes i ei baratoi i mi fy hun yn ngwlad Canaan.” Felly plîs, gad imi fynd i fyny a chladdu fy nhad, yna, fe ddo i yn ôl.’” 6 Atebodd Pharo: “Dos i gladdu dy dad fel gwnest ti addo iddo.”
7 Felly aeth Joseff i fyny i gladdu ei dad, ac aeth holl weision Pharo gydag ef, henuriaid ei lys a holl henuriaid gwlad yr Aifft 8 a holl dŷ Joseff a’i frodyr a thŷ ei dad. Dim ond eu plant bach a’u preiddiau oedd ar ôl yng ngwlad Gosen. 9 Aeth cerbydau a marchogion i fyny gydag ef hefyd. Roedd ’na lawer iawn o bobl. 10 Yna daethon nhw at lawr dyrnu Atad, sydd yn ardal yr Iorddonen, a dyna lle gwnaethon nhw alaru gyda thristwch ofnadwy o chwerw, a galarodd am ei dad am saith diwrnod. 11 Gwnaeth pobl y wlad, y Canaaneaid, eu gweld nhw’n galaru ar lawr dyrnu Atad, a dywedon nhw: “Mae hyn yn alar mawr i’r Eifftiaid!” Dyna pam cafodd ei enwi’n Abel-misraim,* sydd yn ardal yr Iorddonen.
12 Felly gwnaeth meibion Jacob yn union fel roedd wedi gorchymyn iddyn nhw. 13 Cariodd ei feibion ef i mewn i wlad Canaan, a’i gladdu yn yr ogof yng nghae Machpela, y cae o flaen Mamre y gwnaeth Abraham ei brynu oddi wrth Effron yr Hethiad fel rhywle i gladdu ei feirw. 14 Ar ôl iddo gladdu ei dad, aeth Joseff yn ôl i’r Aifft gyda’i frodyr a phawb a oedd wedi mynd gydag ef i gladdu ei dad.
15 Ar ôl marwolaeth eu tad, dechreuodd brodyr Joseff ddweud wrth ei gilydd: “Efallai fod Joseff yn dal dig yn ein herbyn, a bydd yn talu’r pwyth yn ôl am yr holl bethau drwg wnaethon ni iddo.” 16 Felly anfonon nhw neges at Joseff yn dweud: “Rhoddodd dy dad y gorchymyn hwn inni cyn iddo farw: 17 ‘Dyma beth dylech chi ei ddweud wrth Joseff: “Fy mab, mae dy frodyr wedi dy drin di’n wael, ond rydw i’n erfyn arnat ti i faddau iddyn nhw am beth wnaethon nhw.”’ Felly plîs, Joseff, maddeua inni am ein troseddau, oherwydd rydyn ninnau hefyd yn gwasanaethu Duw dy dad.” Pan glywodd Joseff hyn, dechreuodd wylo. 18 Yna daeth ei frodyr ato ac ymgrymu o’i flaen a dweud: “Dyma ni, yn gaethweision i ti!” 19 Dywedodd Joseff wrthyn nhw: “Peidiwch ag ofni. Ai fi ydy Duw? 20 Er eich bod chi wedi bwriadu fy mrifo i, gwnaeth Duw fwriadu i bethau droi allan yn dda, ac i gadw llawer o bobl yn fyw, fel mae’n gwneud heddiw. 21 Felly peidiwch ag ofni, fe wna i barhau i wneud yn siŵr bod gynnoch chi a’ch plant bach fwyd.” Felly gwnaeth ef eu cysuro nhw a’u calonogi nhw gyda’i eiriau.
22 A pharhaodd Joseff i fyw yn yr Aifft, ef a phawb yn nhŷ ei dad, a gwnaeth Joseff fyw am 110 o flynyddoedd. 23 Gwelodd Joseff drydedd genhedlaeth meibion Effraim, a hefyd meibion Machir, mab Manasse. Cawson nhw eu geni ar liniau Joseff.* 24 Ymhen hir a hwyr, dywedodd Joseff wrth ei frodyr: “Rydw i’n marw, ond yn sicr, bydd Duw yn troi ei sylw atoch chi, a bydd ef yn bendant yn dod â chi i fyny allan o’r wlad hon i’r wlad gwnaeth ef ei haddo ar lw i Abraham, Isaac, a Jacob.” 25 Felly dywedodd Joseff wrth feibion Israel: “Bydd Duw yn sicr o droi ei sylw atoch chi. Addo i mi ar lw y byddwch chi’n cymryd fy esgyrn i o fan hyn bryd hynny.” 26 Bu farw Joseff yn 110 mlwydd oed, a chafodd ei embalmio, a’i roi mewn arch yn yr Aifft.
Neu “tonnog.”
Neu “grym gweithredol.”
Neu “bydded goleuni.”
Yn y Beibl, gall ‘dydd’ gyfeirio at gyfnodau gwahanol o amser, nid 24 awr yn unig.
Neu “ffurfafen.”
Neu “Awyr.”
Neu “i borfa.”
Neu “porfa.”
Neu “ffurfafen y nefoedd.”
Neu “eneidiau.”
Neu “eneidiau.”
Neu “anifeiliaid sy’n symud,” yn cynnwys mae’n debyg ymlusgiaid ac anifeiliaid sy’n wahanol i’r mathau eraill.
Neu “sy’n enaid byw.”
Llyth., “a’u holl luoedd.”
Y tro cyntaf i enw personol unigryw Duw ymddangos. Mae’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
Neu “enaid.” Hebraeg, nephesh, sy’n llythrennol yn golygu “creadur sy’n anadlu.” Gweler Geirfa.
Llyth., “daeth yn bedwar pen.”
Neu “Ethiopia.” Fodd bynnag, mae lleoliad y lle hwn yn ansicr.
Neu “Tigris.”
Neu “fel cymar sy’n ei wneud yn gyflawn.”
Neu “enaid.”
Neu “fel cymar sy’n ei wneud yn gyflawn.”
Neu “menyw.”
Neu “Menyw.”
Neu “aros gyda.”
Neu “sarff.”
Neu “craff; cyfrwys.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “a gwneud gwregys i guddio’r cluniau.”
Hynny yw, gyda hwyr y dydd.
Neu “Y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “a’r fenyw.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Neu “ysigo; briwio; taro.”
Neu “briwio; sathru.”
Neu “y fenyw.”
Sy’n golygu “Dyn; Dynolryw; Dynoliaeth.”
Neu “bwyd.”
Sy’n golygu “Un Byw.”
Llyth., “oddi ar wyneb y ddaear.”
Neu “sefydlu.”
Neu “i wlad Nod.”
Neu “pib.”
Sy’n golygu “Penodedig; Gosod.”
Llyth., “had.”
Neu “Adda.”
Llyth., “y Duw”.
Sy’n golygu yn fwy na thebyg “Gorffwys; Cysur.”
Neu “gollyngdod; rhyddhad.”
Idiom Hebraeg sy’n cyfeirio at feibion angylaidd Duw.
Llyth., “merched dynion.”
Neu “unrhyw fenywod.”
Neu “oherwydd ei fod yn ymddwyn yn ôl y cnawd.”
Efallai’n golygu “Y Cwympwyr,” hynny yw, y rhai sy’n achosi i eraill gwympo.
Llyth., “merched dynion.”
Neu “drist iawn.”
Neu “ac aeth yn ddigalon.”
Neu “yn ddi-nam.”
Llyth., “ei genedlaethau.”
Llyth., “gist”; llong fawr.
Neu “pyg.”
Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).
Hebraeg, tsohar. Barn arall yw bod tsohar yn cyfeirio at do yn hytrach nag agoriad ar gyfer goleuni.
Neu “sydd ag anadl bywyd ynddyn nhw; sydd ag ysbryd bywyd ynddyn nhw.”
Neu efallai, “saith pâr o bob anifail glân.”
Neu efallai, “saith pâr o greaduriaid sy’n hedfan yn yr awyr.”
Neu “17eg.”
Neu “ag anadl bywyd ynddo; ag ysbryd bywyd ynddo.”
Neu “ddal i ddod.”
Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).
Llyth., “pob cnawd.”
Neu “anadl ysbryd bywyd.”
Llyth., “yn tynnu gorchudd yr arch.”
Neu “o dan eich awdurdod.”
Neu “yn tywallt eich gwaed, sef eich bywyd.”
Neu efallai, “brawd hŷn.”
Sy’n golygu “Dryswch.”
Neu “eneidiau.”
Llyth., “had.”
Neu “i fyw yno fel estronwr.”
Neu “yn fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Neu “y Môr Heli.”
Neu “13eg flwyddyn.”
Neu “byw mewn pebyll.”
Llyth., “ei frawd.”
Neu “menywod.”
Neu “lasyn.”
Llyth., “had.”
Llyth., “a mab.”
Llyth., “yr un sy’n dod allan ohonot ti.”
Llyth., “had.”
Neu “maharen.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Sy’n golygu “Mae Duw’n Clywed.”
Neu “onagr,” math o asyn gwyllt, er bod rhai’n meddwl ei fod yn cyfeirio at sebra. Yn fwy na thebyg yn cyfeirio at agwedd annibynnol.
Neu efallai, “ac fe fydd yn byw mewn gelyniaeth â’i holl frodyr.”
Sy’n golygu “Ffynnon yr Un Byw Sy’n Fy Ngweld I.”
Neu “yn ddi-nam.”
Sy’n golygu “Tad Sy’n Uchel (yn Ddyrchafedig).”
Sy’n golygu “Tad i Dyrfa; Tad i Lawer.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Neu “enaid.”
Neu “ei dorri ymaith oddi wrth ei bobl.”
Sy’n golygu efallai “Cynhennus; Cwerylgar.”
Sy’n golygu “Tywysoges.”
Neu “menyw.”
Sy’n golygu “Chwerthin.”
Llyth., “had.”
Llyth., “er mwyn cryfhau eich calon.”
Llyth., “mesur sea.” Roedd sea yn gyfartal â 7.33 L.
Neu “yn drwm.”
Neu “pwyso’n drwm.”
Sy’n golygu “Bychander; Bach.”
Neu “er mwyn diogelu llinach ein tad.”
Neu “y fenyw.”
Hynny yw, nid oedd wedi cael cyfathrach rywiol â hi.
Neu “yn gyfiawn.”
Neu “holl fenywod.”
Neu efallai, “yn chwerthin am fy mhen.”
Neu “a chafodd ei ddiddyfnu.”
Llyth., “had.”
Efallai’n golygu “Ffynnon y Llw” neu “Ffynnon y Saith.”
Sy’n golygu “Bydd Jehofa’n Darparu; Bydd Jehofa’n Trefnu.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Neu “dy byrth.”
Llyth., “had.”
Neu “gwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu efallai, “yn bennaeth mawr.”
Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
Neu “y fenyw.”
Llyth., “had.”
Neu “y fenyw.”
Neu “menywod.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
Neu “y fenyw.”
Efallai’n cyfeirio at Laban.
Neu “y fenyw.”
Neu “menyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “dod yn filoedd o ddegau o filoedd.”
Llyth., “had.”
Neu “porth.”
Neu “ei wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.
Sy’n golygu “Blewog.”
Sy’n golygu “Un Sy’n Gafael yn y Sawdl; Disodlwr.”
Neu “llwgu.”
Sy’n golygu “Coch.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Neu “yn derbyn bendith iddyn nhw eu hunain.”
Neu “cofleidio.”
Neu “wadi.”
Neu “wadi.”
Sy’n golygu “Dadl.”
Sy’n golygu “Cyhuddiad.”
Sy’n golygu “Llefydd Llydan.”
Llyth., “had.”
Neu “yn drist.”
Neu “i fy enaid.”
Neu “dy enaid.”
Neu “bydd fy enaid yn.”
Neu “dy enaid.”
Sy’n golygu “Un Sy’n Dal yn y Sawdl; Disodlwr.”
Neu “yn torri ei iau oddi ar dy wddf.”
Neu “Mae’r dyddiau i alaru dros fy nhad yn agosáu.”
Neu “yn ei gysuro ei hun drwy feddwl am dy ladd di.”
Llyth., “had.”
Neu “ystol; ysgol.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Neu “ac arllwys.”
Sy’n golygu “Tŷ Dduw.”
Neu “Ti yw fy asgwrn a fy nghnawd.”
Neu “yn fenyw.”
Llyth., “mae fy nyddiau wedi dod i ben.”
Neu “y fenyw.”
Llyth., “bod Lea’n cael ei chasáu.”
Sy’n golygu “Edrycha, Mab!”
Sy’n golygu “Clywed.”
Sy’n golygu “Glynu; Cysylltu; Closio.”
Sy’n golygu “Un Sy’n Cael Ei Foli.”
Sy’n golygu “Barnwr.”
Sy’n golygu “Fy Ymdrechion.”
Sy’n golygu “Ffodus.”
Sy’n golygu “Hapus; Hapusrwydd.”
Roedd merched yn bwyta ffrwyth y planhigyn hwn oherwydd eu bod nhw’n meddwl y byddai’n eu helpu nhw i feichiogi.
Sy’n golygu “Cyflog Ydy Ef.”
Sy’n golygu “Goddefgarwch.”
Ffurf fer o Josiffia, sy’n golygu “Bydd Jah yn Ychwanegu (Cynyddu).”
Neu “tystiolaeth.” Mae’n bosib bod hyn yn cyfeirio at ysbrydegaeth.
Neu “meheryn.”
Neu “gonestrwydd.”
Neu “duwiau’r teulu; eilunod.”
Hynny yw, Afon Ewffrates.
Neu “ei berthnasau.”
Cyfrwy neu sedd ar gyfer merched, oedd â lle i gadw pethau.
Llyth., “mae arfer merched arna i.”
Neu “wedi camesgor.”
Neu “meheryn.”
Ymadrodd Aramaeg sy’n golygu “Pentwr o Gerrig Sy’n Dystiolaeth o Rywbeth.”
Ymadrodd Hebraeg sy’n golygu “Pentwr o Gerrig Sy’n Dystiolaeth o Rywbeth.”
Sy’n golygu “Dau Wersyll.”
Llyth., “cae.”
Neu “byw fel estronwr.”
Llyth., “had.”
Neu “sychnant, wadi.”
Sy’n golygu “Yr Un Sy’n Ymdrechu yn Erbyn Duw” neu “Duw Sy’n Ymdrechu.”
Sy’n golygu “Wyneb Duw.”
Neu “Peniel.”
Neu “menywod.”
Llyth., “fy mendith.”
Sy’n golygu “Pebyll; Cytiau.”
Neu “i weld.”
Neu “menywod.”
Neu “fenyw.”
Llyth., “siaradodd â chalon y ddynes ifanc.”
Neu “fenyw.”
Neu “mae enaid fy mab Sichem yn glynnu wrth eich merch.”
Neu “fenyw.”
Neu “defaid a geifr.”
Neu “gwartheg a theirw.”
Neu “ag alltudiaeth.”
Neu “cuddio.”
Sy’n golygu “Duw Bethel.”
Sy’n golygu “Derwen yr Wylo.”
Llyth., “had.”
Neu “arllwys.”
Neu “ei henaid yn mynd allan.”
Sy’n golygu “Mab fy Ngalar.”
Sy’n golygu “Mab y Llaw Dde.”
Neu “o wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.
Ymadrodd barddonol am farwolaeth yw hwn.
Neu “byw fel estronwyr.”
Neu “yn wraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Neu “gwisg laes hardd.”
Neu “gwastatir isel.”
Neu “ag arllwys.”
Hynny yw, math o gwm tywyll sy’n dod o blanhigyn.
Llyth., “a chuddio ei waed.”
Neu “Sheol,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.
Llyth., “ef.” Hynny yw, Jwda.
Neu “Chesib.”
Hynny yw, semen.
Neu “y fenyw.”
Sy’n golygu “Rhwyg,” yn cyfeirio mae’n debyg at rwyg perineol.
Neu “trulliad,” un o swyddogion y llys brenhinol a oedd yn tywallt gwin neu ddiodydd eraill i’r brenin.
Llyth., “y pydew; y twll.”
Hynny yw, ar ôl torri ei ben i ffwrdd.
Neu “trulliad,” un o swyddogion y llys brenhinol a oedd yn tywallt gwin neu ddiodydd eraill i’r brenin.
Llyth., “pydew.”
Hynny yw, modrwy gyda sêl rheolwr neu berson pwysig arni.
Mae’n ymddangos bod hyn yn orchymyn i ddangos anrhydedd ac urddas tuag at rywun.
Llyth., “codi ei law neu ei droed.”
Hynny yw, Heliopolis.
Neu “deithio trwy wlad yr Aifft.”
Neu “pan ddechreuodd weithio i’r Pharo.”
Hynny yw, Heliopolis.
Sy’n golygu “Un Sy’n Gwneud i Rywun Anghofio.”
Sy’n golygu “Ddwywaith yn Ffrwythlon.”
Neu “roedd ’na fwyd.”
Neu “cyflwr.”
Neu “dioddefaint ei enaid.”
Llyth., “ei waed.”
Neu “Sheol,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.
Hynny yw, math o blanhigyn tywyll.
Neu “Sheol,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.
Neu “Sheol,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.
Llyth., “gweddill.”
Neu “yn y wlad.”
Neu “dy ddefaid a geifr.”
Neu “dy wartheg a theirw.”
Neu “byw ar fraster.”
Llyth., “aeth ei galon yn ddideimlad.”
Llyth., “ysbryd.”
Neu “bawb oedd yn perthyn iddo.”
Llyth., “yn rhoi ei law ar dy lygaid.”
Neu “menyw.”
Neu “o ddisgynyddion.”
Neu “o ddisgynyddion.”
Hynny yw, Heliopolis.
Neu “o ddisgynyddion.”
Neu “o ddisgynyddion.”
Neu “nifer yr holl eneidiau.”
Neu “byw fel estronwr.”
Neu “byw fel estroniaid.”
Neu “dangosa gariad ffyddlon.”
Llyth., “had.”
Llyth., “had.”
Llyth., “oddi wrth ei liniau.”
Neu “fy nhad-cu.”
Neu “fy nhad-cu.”
Llyth., “had.”
Neu “cychwyn fy ngallu i genhedlu.”
Neu “fe wnest ti fynd i fyny i wely dy dad.”
Gweler Geirfa.
Llyth., “anrhydedd.”
Hynny yw, torri llinynau gar.
Neu “y deyrnwialen.”
Sy’n golygu “Yr Un Sydd â’r Hawl Iddo.”
Neu “o fwyd.”
Hynny yw, Joseff.
Mae hyn yn ymadrodd barddonol ar gyfer marwolaeth.
Mae hyn yn ymadrodd barddonol ar gyfer marwolaeth.
Neu “tŷ.”
Sy’n golygu “galar yr Eifftiaid.”
Hynny yw, cael eu trin fel meibion a chael ffafr arbennig.