LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • nwt Exodus 1:1-40:38
  • Exodus

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Exodus
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Exodus

EXODUS

1 Nawr, dyma enwau meibion Israel a ddaeth i mewn i’r Aifft gyda Jacob, pob dyn a ddaeth gyda’i deulu: 2 Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda; 3 Issachar, Sabulon, a Benjamin; 4 Dan a Nafftali; Gad ac Aser. 5 Ac roedd ’na 70 o bobl yn nheulu Jacob, ond roedd Joseff yn yr Aifft yn barod. 6 Bu farw Joseff yn y pen draw, a hefyd ei holl frodyr a’r genhedlaeth honno i gyd. 7 A daeth yr Israeliaid yn ffrwythlon a dechrau cynyddu’n fawr, a pharhaodd eu niferoedd i dyfu ac i gryfhau, a hynny’n gyflym iawn, nes iddyn nhw lenwi’r wlad.

8 Mewn amser dechreuodd brenin newydd reoli dros yr Aifft, un nad oedd yn adnabod Joseff. 9 Felly dywedodd brenin yr Aifft wrth ei bobl: “Edrychwch! Mae pobl Israel yn fwy niferus ac yn gryfach na ni. 10 Gadewch inni fod yn graff wrth ddelio â nhw. Neu fel arall, byddan nhw’n parhau i gynyddu, ac os bydd rhyfel yn cychwyn, fe fyddan nhw’n ymuno â’n gelynion ac yn brwydro yn ein herbyn ac yn gadael y wlad.”

11 Felly penododd yr Eifftiaid feistri* drostyn nhw i’w gorfodi nhw i weithio’n galed, a gwnaethon nhw adeiladu’r dinasoedd Pithom a Rameses, lle roedd Pharo’n storio nwyddau. 12 Ond y mwyaf y bydden nhw’n cam-drin yr Israeliaid, y mwyaf y bydden nhw’n cynyddu ac yn parhau i ledaenu, felly roedden nhw’n teimlo’n sâl ag ofn oherwydd yr Israeliaid. 13 O ganlyniad, gwnaeth yr Eifftiaid orfodi’r Israeliaid i fod yn gaethweision a’u trin nhw’n greulon. 14 A dyma nhw’n parhau i wneud eu bywydau’n chwerw, gan eu gorchymyn nhw i wneud morter clai a brics, a hefyd i weithio’n galed yn y caeau. Yn wir, gwnaethon nhw eu gorfodi nhw i lafurio o dan amgylchiadau anodd ac o dan pob math o gaethwasiaeth.

15 Yn hwyrach ymlaen siaradodd brenin yr Aifft â’r bydwragedd Hebreig o’r enw Siffra a Pua, 16 a dywedodd ef wrthyn nhw: “Pan fyddwch chi’n helpu’r merched* Hebreig i roi genedigaeth mae’n rhaid ichi dalu sylw wrth iddyn nhw roi genedigaeth.* Os yw’n fab, mae’n rhaid ichi ei ladd; ond os yw’n ferch, mae’n rhaid iddi fyw.” 17 Fodd bynnag, roedd y bydwragedd yn ofni’r gwir Dduw, ac ni wnaethon nhw’r hyn a ddywedodd brenin yr Aifft wrthyn nhw. Yn hytrach, bydden nhw’n cadw’r babanod gwryw yn fyw. 18 Mewn amser galwodd brenin yr Aifft ar y bydwragedd a dweud wrthyn nhw: “Pam rydych chi wedi cadw’r babanod gwryw yn fyw?” 19 Dywedodd y bydwragedd wrth Pharo: “Dydy’r merched* Hebreig ddim yr un fath â merched* yr Aifft. Maen nhw’n fywiog ac yn rhoi genedigaeth cyn i’r fydwraig fynd i mewn atyn nhw.”

20 Felly gwnaeth Duw gefnogi’r bydwragedd, a pharhaodd y bobl i gynyddu ac i gryfhau yn fawr iawn. 21 Ac oherwydd bod y bydwragedd wedi ofni’r gwir Dduw, fe roddodd deuluoedd iddyn nhw yn hwyrach ymlaen. 22 Yn y diwedd, gorchmynnodd Pharo i’w holl bobl: “Mae’n rhaid ichi daflu pob mab Hebreig sydd newydd gael ei eni i mewn i Afon Nîl, ond mae’n rhaid ichi gadw pob merch yn fyw.”

2 Tua’r adeg honno, gwnaeth un o ddisgynyddion Lefi briodi un o ferched Lefi. 2 A dyma’r ddynes* yn beichiogi ac yn geni mab. Pan welodd hi pa mor hardd oedd ef, dyma hi’n ei guddio am dri mis. 3 Pan nad oedd yn bosib ei guddio bellach, cymerodd hi fasged* bapyrws a’i gorchuddio â bitwmen a thar a rhoddodd hi’r plentyn ynddi a’i gosod ymhlith y corsennau ar lan Afon Nîl. 4 Ond roedd chwaer y plentyn yn sefyll yn y pellter i weld beth fyddai’n digwydd iddo.

5 Pan ddaeth merch Pharo i lawr i ymolchi yn y Nîl, roedd ei morynion yn cerdded wrth ochr y Nîl. A dyma hi’n gweld y fasged yng nghanol y corsennau ac ar unwaith anfonodd hi ei chaethferch i’w nôl. 6 Ar ôl iddi ei hagor, gwelodd hi’r plentyn, ac roedd y bachgen yn crio. Roedd hi’n teimlo tosturi drosto, ond dywedodd hi: “Un o blant yr Hebreaid ydy hwn.” 7 Yna dywedodd chwaer y plentyn wrth ferch Pharo: “A ddylwn i fynd a galw am un o’r merched* Hebreig i fagu’r plentyn drostot ti?” 8 Dywedodd merch Pharo wrthi: “Dos!” Ar unwaith, aeth y ferch a galw am fam y plentyn. 9 Yna dywedodd merch Pharo wrthi: “Cymera’r plentyn hwn gyda ti a’i fagu drosto i, ac fe wna i dy dalu di.” Felly dyma’r ddynes* yn cymryd y plentyn ac yn ei fagu. 10 Pan oedd y plentyn yn hŷn, aeth hi ag ef at ferch Pharo, ac fe ddaeth yn fab iddi. Dyma hi’n ei alw’n Moses,* a dywedodd: “Mae hyn oherwydd fy mod i wedi ei dynnu allan o’r dŵr.”

11 Nawr, yn y dyddiau hynny, ar ôl i Moses dyfu i fyny,** fe aeth allan at ei frodyr i weld y beichiau roedden nhw’n eu cario, a gwelodd un o’r Eifftiaid yn curo un o’r Hebreaid, un o’i frodyr. 12 Felly edrychodd o gwmpas, a heb weld neb, dyma’n lladd yr Eifftiwr a’i guddio yn y tywod.

13 Ond fe aeth allan y diwrnod wedyn, ac roedd ’na ddau Hebread yn ymladd â’i gilydd. Felly dywedodd wrth yr un a oedd ar fai: “Pam rwyt ti’n taro dy gymydog?” 14 Ar hynny dywedodd: “Pwy wnaeth dy benodi di yn dywysog ac yn farnwr droston ni? Wyt ti’n bwriadu fy lladd i yn union fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr?” Roedd Moses nawr yn ofnus a dywedodd: “Yn wir, mae pobl wedi dod i wybod am beth ddigwyddodd!”

15 Yna clywodd Pharo am y peth, a dyma’n ceisio lladd Moses; ond rhedodd Moses i ffwrdd oddi wrth Pharo ac fe aeth i fyw yng ngwlad Midian, ac eisteddodd i lawr wrth ymyl ffynnon. 16 Nawr roedd gan offeiriad Midian saith merch, a daeth y rhain i godi dŵr a llenwi’r cafnau er mwyn rhoi dŵr i braidd eu tad. 17 Ond fel arfer, daeth y bugeiliaid a’u gyrru nhw i ffwrdd. Ar hynny cododd Moses a helpu’r* merched* a rhoddodd ddŵr i’w praidd. 18 Pan aethon nhw adref at eu tad Reuel,* dywedodd ef: “Pam rydych chi wedi dod adref mor fuan heddiw?” 19 Atebon nhw: “Gwnaeth un o’r Eifftiaid ein hachub ni rhag y bugeiliaid, ac fe wnaeth ef hyd yn oed godi dŵr inni a rhoi dŵr i’r praidd.” 20 Dywedodd ef wrth ei ferched: “Ond ble mae ef? Pam gwnaethoch chi ei adael ar ôl? Galwch ef, er mwyn iddo fwyta gyda ni.” 21 Ar ôl hynny cytunodd Moses i aros gyda’r dyn, a rhoddodd ef ei ferch Sippora yn wraig i Moses. 22 Yn nes ymlaen, cafodd hi fab, a dyma Moses yn ei alw’n Gersom,* oherwydd dywedodd, “Rydw i’n estronwr mewn gwlad estron.”

23 Ar ôl amser hir, bu farw brenin yr Aifft, ond roedd yr Israeliaid yn dal i riddfan ac i weiddi oherwydd y caethiwed, ac roedden nhw’n dal i alw ar y gwir Dduw am help. 24 Mewn amser, clywodd Duw eu griddfan, a chofiodd Duw ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob. 25 Felly edrychodd Duw ar yr Israeliaid; a chymerodd Duw sylw ohonyn nhw.

3 Dechreuodd Moses fugeilio praidd ei dad-yng-nghyfraith Jethro, offeiriad Midian. Tra oedd yn arwain y praidd i ochr orllewinol yr anialwch, fe ddaeth yn y pen draw i fynydd y gwir Dduw, sef Horeb. 2 Yna ymddangosodd angel Jehofa* iddo mewn fflam dân yng nghanol perth ddrain. Tra oedd yn dal i edrych, fe welodd fod y berth ddrain ar dân, ond eto doedd y berth ddrain ddim yn llosgi. 3 Felly dywedodd Moses: “Fe wna i fynd draw i weld yr olygfa ryfeddol hon, i weld pam nad ydy’r berth ddrain yn llosgi.” 4 Pan welodd Jehofa ei fod wedi mynd draw i edrych, dyma Duw’n galw arno allan o’r berth ddrain ac yn dweud: “Moses! Moses!” ac atebodd yntau: “Dyma fi.” 5 Yna dywedodd wrtho: “Paid â dod yn nes. Tynna dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd dy fod ti’n sefyll ar dir sanctaidd.”

6 Aeth ymlaen i ddweud: “Fi ydy Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.” Yna cuddiodd Moses ei wyneb, oherwydd ei fod yn ofni edrych ar y gwir Dduw. 7 Ychwanegodd Jehofa: “Rydw i’n sicr wedi gweld dioddefaint fy mhobl sydd yn yr Aifft, ac rydw i wedi eu clywed nhw’n crio oherwydd y rhai sy’n eu gorfodi nhw i weithio; rydw i’n gwybod yn iawn am y poenau maen nhw’n eu dioddef. 8 Fe wna i fynd i lawr i’w hachub nhw o law’r Eifftiaid ac i ddod â nhw allan o’r wlad honno, i wlad sy’n dda ac sydd â digon o le, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, tiriogaeth y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid. 9 Nawr edrycha! Mae crio pobl Israel wedi fy nghyrraedd i, ac rydw i hefyd wedi gweld sut mae’r Eifftiaid yn eu cam-drin nhw’n llym. 10 Nawr tyrd, fe wna i dy anfon di at Pharo, a byddi di’n arwain fy mhobl i, yr Israeliaid, allan o’r Aifft.”

11 Ond, dywedodd Moses wrth y gwir Dduw: “Pwy ydw i i fynd at Pharo ac i ddod â’r Israeliaid allan o’r Aifft?” 12 Ar hynny atebodd: “Fe fydda i gyda ti. Dyma fy addewid, a dyma sut byddi di’n gwybod mai fi sydd wedi dy anfon di: Byddi di’n mynd allan o’r Aifft gyda’r bobl hyn, a byddwch chi’n fy addoli i,* y gwir Dduw, ar y mynydd hwn.”

13 Ond dywedodd Moses wrth y gwir Dduw: “Beth os ydw i’n mynd at yr Israeliaid ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich cyndadau wedi fy anfon i atoch chi,’ ac maen nhw’n dweud wrtho i, ‘Beth ydy ei enw?’ Beth dylwn i ei ddweud wrthyn nhw?” 14 Felly dywedodd Duw wrth Moses: “Byddaf yr Hyn y Dewisaf* Ei Fod.”* Ac fe ychwanegodd: “Dyma beth dylet ti ei ddweud wrth yr Israeliaid, ‘Mae Byddaf wedi fy anfon i atoch chi.’” 15 Yna dywedodd Duw wrth Moses unwaith eto:

“Dyma beth dylet ti ei ddweud wrth yr Israeliaid, ‘Mae Jehofa, Duw eich cyndadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, wedi fy anfon i atoch chi.’ Dyma fy enw i am byth, a dyma sut bydda i’n cael fy nghofio o un genhedlaeth i’r nesaf. 16 Nawr dos, a chasgla henuriaid Israel a dyweda wrthyn nhw, ‘Mae Jehofa, Duw eich cyndadau, Duw Abraham, Isaac, a Jacob, wedi ymddangos i mi, a dywedodd ef: “Rydw i’n sicr wedi cymryd sylw ohonoch chi ac o’r hyn sy’n cael ei wneud ichi yn yr Aifft. 17 Felly rydw i’n dweud, fe wna i eich rhyddhau chi o’r gamdriniaeth y gwnaethoch chi ei hwynebu dan law’r Eifftiaid a’ch arwain chi i wlad y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid, i wlad lle mae llaeth a mêl yn llifo.”’

18 “Byddan nhw’n sicr yn gwrando ar dy lais, a byddi di a henuriaid Israel yn mynd at frenin yr Aifft, a dylech chi ddynion ddweud wrtho: ‘Mae Jehofa, Duw’r Hebreaid, wedi cyfathrebu â ni. Felly, plîs, gad inni wneud taith dri-diwrnod i mewn i’r anialwch er mwyn inni aberthu i Jehofa ein Duw.’ 19 Ond rydw i’n gwybod yn iawn na fydd brenin yr Aifft yn rhoi caniatâd ichi fynd oni bai fod llaw nerthol yn ei orfodi. 20 Felly bydd rhaid imi estyn fy llaw a tharo’r Aifft drwy wneud llawer o weithredoedd nerthol ynddi, ac ar ôl hynny fe fydd yn eich anfon chi allan. 21 A bydda i’n gwneud i’r Eifftiaid edrych yn ffafriol arnoch chi, a phan fyddwch chi’n mynd, byddwch chi’n mynd â llawer o bethau gyda chi. 22 Bydd rhaid i bob dynes* ofyn i’w chymydog a’r ddynes* sy’n aros yn ei thŷ am bethau wedi eu gwneud o arian ac o aur ynghyd â dillad, a byddwch chi’n eu rhoi nhw am eich meibion ac am eich merched; a byddwch chi’n cymryd cyfoeth* yr Eifftiaid.”

4 Fodd bynnag, atebodd Moses: “Ond beth os nad ydyn nhw’n fy nghredu i nac yn gwrando ar fy llais, oherwydd byddan nhw’n dweud, ‘Ni wnaeth Jehofa ymddangos iti.’” 2 Yna dywedodd Jehofa wrtho: “Beth sydd yn dy law?” Atebodd: “Ffon.” 3 Dywedodd ef: “Tafla hi ar y llawr.” Felly dyma’n ei thaflu ar y llawr, ac fe drodd yn neidr;* a rhedodd Moses i ffwrdd oddi wrthi. 4 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Estynna dy law a gafael yn ei chynffon.” Felly estynnodd ei law a gafael ynddi, ac fe drodd yn ffon yn ei law. 5 Yna dywedodd Duw: “Gwna hyn er mwyn iddyn nhw gredu bod Jehofa, Duw eu cyndadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, wedi ymddangos iti.”

6 Dywedodd Jehofa wrtho unwaith eto: “Plîs, rho dy law yn dy gôt.” Felly fe roddodd ei law yn ei gôt. Pan dynnodd ei law allan, roedd wedi cael ei tharo â’r gwahanglwyf ac yn wyn fel eira! 7 Yna dywedodd: “Rho dy law yn ôl yn dy gôt.” Felly rhoddodd ei law yn ôl yn ei gôt. Pan dynnodd ei law allan o’r gôt, roedd yn iach fel gweddill ei groen! 8 Dywedodd: “Os nad ydyn nhw’n dy gredu di nac yn talu sylw i’r arwydd cyntaf, yna byddan nhw’n sicr o dalu sylw i’r arwydd nesaf. 9 Ond eto, os nad ydyn nhw’n credu’r ddau arwydd hyn ac yn gwrthod gwrando ar dy lais, cymera ychydig o ddŵr o Afon Nîl a’i dywallt* ar y tir sych, a bydd y dŵr byddi di’n ei gymryd o’r afon yn troi’n waed ar y tir sych.”

10 Nawr dywedodd Moses wrth Jehofa: “Esgusoda fi, Jehofa, ond dydw i erioed wedi siarad yn rhugl, nid yn y gorffennol nac ers iti siarad â dy was. Rydw i’n siarad yn araf a dydw i ddim yn gwybod sut i fy mynegi fy hun yn dda.” 11 Dywedodd Jehofa wrtho: “Pwy a roddodd y gallu i ddyn siarad, neu pwy sy’n ei wneud yn fud, yn fyddar, yn rhywun sy’n gweld yn dda, neu’n ddall? Onid fi, Jehofa? 12 Felly dos nawr, ac fe fydda i gyda ti wrth iti siarad, a bydda i’n dy ddysgu di beth dylet ti ei ddweud.” 13 Ond dywedodd Moses: “Esgusoda fi, Jehofa, plîs anfona rywun arall, pwy bynnag rwyt ti eisiau.” 14 Yna gwnaeth Jehofa wylltio’n lân â Moses, ond dywedodd: “Beth am dy frawd Aaron, y Lefiad? Rydw i’n gwybod ei fod yn gallu siarad yn dda iawn. Ac mae ef nawr ar ei ffordd yma i dy gyfarfod di. Pan fydd yn dy weld di, bydd ei galon yn llawenhau. 15 Felly mae’n rhaid iti siarad ag ef a sôn wrtho am beth i’w ddweud, ac fe fydda i gyda’r ddau ohonoch chi wrth ichi siarad, a bydda i’n eich dysgu chi beth i’w wneud. 16 Bydd ef yn siarad â’r bobl drostot ti, a bydd ef yn siarad ar dy ran di, a byddi di’n sôn wrtho am beth mae Duw’n ei ddweud.* 17 A byddi di’n cymryd y ffon yma yn dy law ac yn gwneud y gwyrthiau hynny â hi.”

18 Felly aeth Moses yn ôl at ei dad-yng-nghyfraith, Jethro, a dweud wrtho: “Plîs, rydw i eisiau mynd yn ôl at fy mrodyr sydd yn yr Aifft i weld a ydyn nhw’n dal yn fyw.” Dywedodd Jethro wrth Moses: “Dos mewn heddwch.” 19 Ar ôl hynny dywedodd Jehofa wrth Moses ym Midian: “Dos yn ôl i’r Aifft, oherwydd mae’r holl ddynion a oedd yn ceisio dy ladd di wedi marw.”

20 Yna cymerodd Moses ei wraig a’i feibion a’u rhoi nhw ar gefn asyn, a dyma’n cychwyn ar ei daith yn ôl i wlad yr Aifft. Ar ben hynny, cymerodd Moses ffon y gwir Dduw yn ei law. 21 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Ar ôl iti fynd yn ôl i’r Aifft, gwna’n siŵr dy fod ti’n gwneud yr holl wyrthiau rydw i wedi rhoi’r gallu iti eu gwneud o flaen Pharo. Ond bydda i’n gadael i’w galon droi’n ystyfnig, ac ni fydd yn gadael i’r bobl fynd. 22 Mae’n rhaid iti ddweud wrth Pharo, ‘Dyma beth mae Jehofa’n ei ddweud: “Israel yw fy mab, fy nghyntaf-anedig. 23 Rydw i’n dweud wrthot ti, anfona fy mab i ffwrdd er mwyn iddo allu fy ngwasanaethu i. Ond os wyt ti’n gwrthod ei anfon i ffwrdd, rydw i’n mynd i ladd dy fab dithau, dy gyntaf-anedig di.”’”

24 Nawr ar y ffordd, pan oedden nhw wedi stopio i orffwys, gwnaeth Jehofa ei gyfarfod a cheisio ei ladd. 25 Yn y diwedd, cymerodd Sippora ddarn o fflint* ac enwaedu ei mab ac achosi i’w flaengroen gyffwrdd â’i draed a dweud: “Mae hyn oherwydd dy fod ti’n briodfab imi drwy waed.” 26 Felly dyma Ef yn gadael iddo fynd. Dywedodd hi, “priodfab drwy waed,” oherwydd yr enwaediad.

27 Yna dywedodd Jehofa wrth Aaron: “Dos i mewn i’r anialwch i gyfarfod Moses.” Felly fe aeth i’w gyfarfod wrth fynydd y gwir Dduw a’i gyfarch â chusan. 28 A dyma Moses yn sôn wrth Aaron am holl eiriau Jehofa ac am yr holl arwyddion roedd Ef wedi gorchymyn iddo eu gwneud. 29 Ar ôl hynny fe aeth Moses ac Aaron i gasglu henuriaid Israel i gyd. 30 Dyma Aaron yn sôn wrthyn nhw am yr holl eiriau roedd Jehofa wedi eu dweud wrth Moses, a dyma’n gwneud y gwyrthiau o flaen llygaid y bobl. 31 Ar hynny, gwnaeth y bobl gredu. Pan glywson nhw fod Jehofa wedi rhoi ei sylw i’r Israeliaid a’i fod wedi gweld eu dioddefaint, gwnaethon nhw blygu i lawr ac ymgrymu.

5 Ar ôl hynny, aeth Moses ac Aaron i mewn a dweud wrth Pharo: “Dyma beth mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud, ‘Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw ddathlu gŵyl i mi yn yr anialwch.’” 2 Ond dywedodd Pharo: “Pwy yw Jehofa? Pam dylwn i ufuddhau i’w lais ac anfon Israel i ffwrdd? Dydw i ddim yn adnabod Jehofa o gwbl, ac ar ben hynny, fydda i ddim yn anfon Israel i ffwrdd.” 3 Ond dywedon nhw: “Mae Duw’r Hebreaid wedi cyfathrebu â ni. Plîs, rydyn ni eisiau mynd ar daith dri-diwrnod i mewn i’r anialwch ac aberthu i Jehofa ein Duw; os nad ydyn ni, bydd ef yn ein taro ni ag afiechyd neu â’r cleddyf.” 4 Atebodd brenin yr Aifft: “Moses ac Aaron, pam rydych chi’n cymryd y bobl i ffwrdd oddi wrth eu gwaith? Ewch yn ôl i lafurio!” 5 Ac aeth Pharo ymlaen i ddweud: “Edrychwch ar faint o bobl sy’n gweithio yn y wlad hon. Ond rydych chi eisiau eu stopio nhw rhag gweithio.”

6 Y diwrnod hwnnw, gorchmynnodd Pharo i’r tasgfeistri a’u fformyn: 7 “O hyn ymlaen, peidiwch â rhoi gwellt i’r bobl i wneud brics. Gadewch iddyn nhw fynd a chasglu gwellt iddyn nhw eu hunain. 8 Ond bydd rhaid iddyn nhw wneud yr un nifer o frics bob dydd. Peidiwch â lleihau’r nifer iddyn nhw, oherwydd maen nhw’n ymlacio.* Dyna pam maen nhw’n gweiddi, ‘Rydyn ni eisiau mynd, rydyn ni eisiau aberthu i’n Duw!’ 9 Gwnewch iddyn nhw weithio’n galetach, a’u cadw nhw’n brysur fel na fyddan nhw’n talu sylw i gelwyddau.”

10 Felly aeth y tasgfeistri a’u fformyn allan a dweud wrth y bobl: “Dyma beth mae Pharo wedi ei ddweud, ‘Dydw i ddim yn rhoi gwellt ichi bellach. 11 Ewch i nôl gwellt i chi’ch hunain le bynnag rydych chi’n cael hyd iddo, ond ni fydd eich gwaith yn cael ei leihau o gwbl.’” 12 Yna aeth y bobl allan i bob cyfeiriad yn yr Aifft i gasglu bonion* yn lle gwellt. 13 A dyma’r tasgfeistri yn mynnu o hyd: “Mae’n rhaid i bob un ohonoch chi orffen eich gwaith bob dydd, yn union fel gwnaethoch chi pan oedd gwellt yn cael ei ddarparu.” 14 Hefyd dyma fformyn yr Israeliaid, y rhai roedd tasgfeistri Pharo wedi eu penodi dros y bobl, yn cael eu curo. Gofynnodd y tasgfeistri iddyn nhw: “Pam na wnaethoch chi’r un nifer o frics ag o’r blaen? Digwyddodd hyn ddoe a heddiw.”

15 Felly aeth fformyn yr Israeliaid i mewn a chwyno wrth Pharo: “Pam rwyt ti’n trin dy weision fel hyn? 16 Does dim gwellt yn cael ei roi i dy weision, ond eto maen nhw’n dweud wrthon ni, ‘Gwnewch frics!’ Mae dy weision yn cael eu curo, ond dy bobl di sydd ar fai.” 17 Ond dywedodd ef: “Rydych chi’n ymlacio,* rydych chi’n ymlacio!* Dyna pam rydych chi’n dweud, ‘Rydyn ni eisiau mynd, rydyn ni eisiau aberthu i Jehofa.’ 18 Felly ewch yn ôl i weithio! Ni fydd gwellt yn cael ei roi ichi, ond bydd rhaid ichi wneud yr un nifer o frics.”

19 Yna gwelodd fformyn yr Israeliaid eu bod nhw yn wir mewn trwbwl oherwydd y gorchymyn: “Ddylech chi ddim lleihau’r nifer o frics rydych chi’n eu gwneud mewn diwrnod.” 20 Dyma’r fformyn yn gadael Pharo, a dyna lle roedd Moses ac Aaron yn disgwyl amdanyn nhw. 21 Ar unwaith, dywedodd y fformyn wrthyn nhw: “Gadewch i Jehofa edrych arnoch chi a’ch barnu chi, gan eich bod chi wedi gwneud i Pharo a’i weision ein casáu ni* ac rydych chi wedi rhoi cleddyf yn eu llaw i’n lladd ni.” 22 Yna trodd Moses at Jehofa a dweud: “Jehofa, pam rwyt ti wedi gadael i’r bobl hyn ddioddef? Pam rwyt ti wedi fy anfon i? 23 Ers imi fynd i mewn o flaen Pharo i siarad yn dy enw di, mae wedi trin y bobl hyn yn waeth, ac yn bendant dwyt ti ddim wedi achub dy bobl.”

6 Felly dywedodd Jehofa wrth Moses: “Nawr byddi di’n gweld beth bydda i’n ei wneud i Pharo. Bydd llaw gref yn ei orfodi i’w hanfon nhw i ffwrdd, a bydd llaw gref yn ei orfodi i’w gyrru nhw allan o’i wlad.”

2 Yna dywedodd Duw wrth Moses: “Jehofa ydw i. 3 Ac roeddwn i’n arfer ymddangos i Abraham, Isaac, a Jacob fel y Duw Hollalluog, ond wnes i ddim datgelu’n llwyr fy enw, Jehofa, iddyn nhw. 4 Gwnes i hefyd sefydlu cyfamod â nhw i roi gwlad Canaan iddyn nhw, y wlad lle roedden nhw’n byw fel estroniaid. 5 Nawr rydw i fy hun wedi clywed grwgnach pobl Israel, y rhai mae’r Eifftiaid yn eu caethiwo, ac rydw i’n cofio fy nghyfamod.

6 “Felly dyweda wrth yr Israeliaid: ‘Jehofa ydw i, a bydda i’n eich rhyddhau o gaethiwed yn yr Aifft, a bydda i’n eich achub chi â fy mraich nerthol ac â barnedigaethau mawr. 7 A bydda i’n eich casglu chi yn bobl i mi, a bydda i’n Dduw i chi, a byddwch chi’n sicr yn gwybod mai Jehofa eich Duw ydw i, yr un sy’n eich rhyddhau chi o gaethiwed yn yr Aifft. 8 A bydda i’n dod â chi i mewn i’r wlad y gwnes i ei haddo ar lw i Abraham, Isaac, a Jacob; a bydda i’n ei rhoi yn eiddo i chi. Jehofa ydw i.’”

9 Yn hwyrach ymlaen, rhoddodd Moses y neges honno i’r Israeliaid, ond doedden nhw ddim yn gwrando ar Moses oherwydd eu bod nhw’n ddigalon ac oherwydd y caethiwed ofnadwy.

10 Yna siaradodd Jehofa â Moses, gan ddweud: 11 “Dos i mewn a dyweda wrth Pharo, brenin yr Aifft, y dylai anfon yr Israeliaid allan o’i wlad.” 12 Ond, dyma Moses yn ateb Jehofa: “Edrycha! Dydy’r Israeliaid ddim wedi gwrando arna i; sut bydd Pharo’n gwrando arna i, gan ei bod hi’n anodd imi siarad?” 13 Ond gwnaeth Jehofa sôn unwaith eto wrth Moses ac Aaron am ba orchmynion i’w rhoi i’r Israeliaid ac i Pharo, brenin yr Aifft, er mwyn dod â’r Israeliaid allan o wlad yr Aifft.

14 Dyma bennau teuluoedd yr Israeliaid: Meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, oedd Hanoch, Palu, Hesron, a Carmi. Dyna deuluoedd Reuben.

15 Meibion Simeon oedd Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar, a Saul, mab i ddynes* o Ganaan. Dyna deuluoedd Simeon.

16 Dyma enwau meibion Lefi, yn ôl llinach eu teulu: Gerson, Cohath, a Merari. Hyd bywyd Lefi oedd 137 o flynyddoedd.

17 Meibion Gerson oedd Libni a Simei, yn ôl eu teuluoedd.

18 Meibion Cohath oedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel. Hyd bywyd Cohath oedd 133 o flynyddoedd.

19 Meibion Merari oedd Mali a Musi.

Dyna deuluoedd y Lefiaid, yn ôl llinach eu teulu.

20 Nawr dyma Amram yn cymryd Jochebed, chwaer ei dad, yn wraig iddo. Gwnaeth hi eni Aaron a Moses iddo. Hyd bywyd Amram oedd 137 o flynyddoedd.

21 Meibion Ishar oedd Cora, Neffeg, a Sicri.

22 Meibion Ussiel oedd Misael, Elsaffan, a Sithri.

23 Nawr dyma Aaron yn cymryd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Naason, yn wraig iddo. Gwnaeth hi eni Nadab, Abihu, Eleasar, ac Ithamar iddo.

24 Meibion Cora oedd Assir, Elcana, ac Abiasaff. Dyna deuluoedd y Corahiaid.

25 Gwnaeth Eleasar, mab Aaron, gymryd un o ferched Putiel yn wraig iddo. Gwnaeth hi eni Phineas iddo.

Dyna bennau teuluoedd y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.

26 Dyma ydy’r Aaron a’r Moses y dywedodd Jehofa wrthyn nhw: “Dewch â phobl Israel allan o wlad yr Aifft, fesul grŵp.” 27 Nhw a wnaeth siarad â Pharo, brenin yr Aifft, i ddod â phobl Israel allan o’r Aifft. Moses ac Aaron oedden nhw.

28 Ar y diwrnod hwnnw, pan siaradodd Jehofa â Moses yng ngwlad yr Aifft, 29 dywedodd Jehofa wrth Moses: “Jehofa ydw i. Dyweda wrth Pharo, brenin yr Aifft, bopeth rydw i’n ei ddweud wrthot ti.” 30 Yna dywedodd Moses o flaen Jehofa: “Edrycha! Mae’n anodd imi siarad, felly sut bydd Pharo’n gwrando arna i?”

7 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Edrycha, rydw i wedi dy wneud di fel Duw i Pharo, a bydd Aaron, dy frawd dy hun, yn broffwyd iti. 2 Mae’n rhaid iti ailadrodd popeth bydda i’n ei orchymyn iti, a bydd Aaron dy frawd yn siarad â Pharo, a bydd ef yn anfon yr Israeliaid i ffwrdd o’i wlad. 3 Ar fy rhan i, bydda i’n gadael i galon Pharo droi’n ystyfnig, a bydda i’n gwneud llawer o arwyddion a gwyrthiau yng ngwlad yr Aifft. 4 Ond ni fydd Pharo yn gwrando arnoch chi, a bydda i’n gosod fy llaw ar yr Aifft ac yn dod â fy nhyrfaoedd, fy mhobl, yr Israeliaid, allan o wlad yr Aifft â barnedigaethau mawr. 5 A bydd yr Eifftiaid yn bendant yn gwybod mai fi yw Jehofa pan fydda i’n estyn fy llaw yn erbyn yr Aifft ac yn dod â’r Israeliaid allan o’u plith nhw.” 6 Dyma Moses ac Aaron yn gwneud beth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddyn nhw; fe wnaethon nhw yn union felly. 7 Roedd Moses yn 80 mlwydd oed ac Aaron yn 83 mlwydd oed pan siaradon nhw â Pharo.

8 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 9 “Os ydy Pharo yn dweud wrthoch chi, ‘Gwnewch wyrth,’ yna dyweda di wrth Aaron, ‘Cymera dy ffon a’i thaflu ar y llawr o flaen Pharo.’ Fe fydd yn troi’n neidr fawr.” 10 Felly aeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo a gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn. Taflodd Aaron ei ffon ar y llawr o flaen Pharo a’i weision, a dyma’n troi’n neidr fawr. 11 Fodd bynnag, galwodd Pharo ar y dynion doeth a’r swynwyr, a dyma ddewiniaid yr Aifft hefyd yn gwneud yr un peth â’u hudoliaeth nhw. 12 Taflodd pob un ei ffon ar y llawr, a dyma nhw’n troi’n nadroedd mawr; ond gwnaeth ffon Aaron lyncu eu rhai nhw. 13 Er gwaethaf hynny, trodd calon Pharo yn ystyfnig, ac ni wnaeth ef wrando arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud.

14 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Mae calon Pharo wedi caledu. Mae wedi gwrthod anfon y bobl i ffwrdd. 15 Dos at Pharo yn y bore. Edrycha! Mae’n mynd allan at y dŵr! A dylet ti sefyll wrth ymyl Afon Nîl i’w gyfarfod; a chymera yn dy law y ffon a wnaeth droi’n neidr. 16 Ac mae’n rhaid iti ddweud wrtho, ‘Mae Jehofa, Duw’r Hebreaid, wedi fy anfon i atat ti, ac mae’n dweud: “Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu fy ngwasanaethu i yn yr anialwch,” ond dwyt ti ddim wedi ufuddhau hyd yn hyn. 17 Dyma beth mae Jehofa’n ei ddweud: “Dyma sut byddi di’n gwybod mai fi yw Jehofa. Rydw i am daro’r dŵr sydd yn Afon Nîl â’r ffon sydd yn fy llaw, ac fe fydd yn troi’n waed. 18 A bydd y pysgod sydd yn yr afon yn marw, a bydd yr afon yn drewi, a bydd hi’n amhosib i’r Eifftiaid yfed dŵr o’r afon.”’”

19 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyweda wrth Aaron, ‘Cymera dy ffon ac estynna dy law dros ddyfroedd yr Aifft, dros bob afon, dros bob camlas,* dros bob cors, a thros bob cronfa ddŵr, er mwyn iddyn nhw droi’n waed.’ Bydd ’na waed drwy holl wlad yr Aifft, hyd yn oed yn y llestri pren a’r llestri carreg.” 20 Ar unwaith, dyma Moses ac Aaron yn gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn. Fe gododd y ffon a tharo’r dŵr a oedd yn Afon Nîl o flaen llygaid Pharo a’i weision, a dyma holl ddŵr yr afon yn troi’n waed. 21 A gwnaeth y pysgod a oedd yn yr afon farw, a dechreuodd yr afon ddrewi, a doedd yr Eifftiaid ddim yn gallu yfed dŵr o’r afon, ac roedd ’na waed trwy wlad yr Aifft i gyd.

22 Er hynny, gwnaeth dewiniaid yr Aifft yr un peth â’u hudoliaeth ddirgel, felly arhosodd calon Pharo yn ystyfnig, ac ni wnaeth ef wrando arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud. 23 Yna aeth Pharo yn ôl i’w dŷ, a thalodd ddim sylw i hyn chwaith. 24 Felly roedd yr Eifftiaid i gyd yn cloddio o amgylch yr afon i gael dŵr i’w yfed, oherwydd doedden nhw ddim yn gallu yfed dŵr Afon Nîl. 25 Ac aeth saith diwrnod llawn heibio ar ôl i Jehofa daro Afon Nîl.

8 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos i mewn at Pharo a dyweda wrtho, ‘Dyma beth mae Jehofa’n ei ddweud: “Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu fy ngwasanaethu i. 2 Os gwnei di barhau i wrthod eu hanfon nhw i ffwrdd, fe wna i achosi i bla o lyffantod* daro dy holl diriogaeth. 3 A bydd Afon Nîl yn llawn llyffantod,* a byddan nhw’n codi ac yn dod i mewn i dy dŷ, i mewn i dy lofft, ar dy wely, i mewn i dai dy weision ac ar dy bobl, i mewn i bob ffwrn, ac i mewn i bob powlen ar gyfer tylino. 4 Bydd y llyffantod* arnat ti, ar dy bobl, ac ar dy holl weision.”’”

5 Yn nes ymlaen dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyweda wrth Aaron, ‘Estynna dy law a dy ffon dros bob afon, dros bob camlas Afon Nîl, a thros bob cors, a gwneud i lyffantod* godi dros wlad yr Aifft.’” 6 Felly dyma Aaron yn estyn ei law dros ddyfroedd yr Aifft, a dechreuodd y llyffantod* godi a llenwi gwlad yr Aifft. 7 Ond, gwnaeth y dewiniaid yr un peth drwy eu hudoliaeth ddirgel, a gwnaethon nhwthau hefyd achosi i lyffantod* godi dros wlad yr Aifft. 8 Yna dyma Pharo yn galw am Moses ac Aaron ac yn dweud: “Erfyniwch ar Jehofa am iddo gael gwared ar y llyffantod* oddi wrtho i a fy mhobl, oherwydd rydw i eisiau anfon y bobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu aberthu i Jehofa.” 9 Yna dywedodd Moses wrth Pharo: “Cei di’r anrhydedd o ddweud wrtho i pa bryd y dylwn i erfyn ar Dduw am iddo gael gwared ar y llyffantod* oddi wrthot ti, dy weision, dy bobl, a’r tai. Dim ond yn Afon Nîl y byddan nhw’n aros.” 10 Atebodd yntau: “Yfory.” Felly dywedodd Moses: “Fe fydd yn digwydd yn ôl dy air er mwyn iti wybod does ’na neb arall fel Jehofa ein Duw. 11 Bydd y llyffantod* yn dy adael di, dy bobl, dy weision, a’r tai. Dim ond yn Afon Nîl y byddan nhw’n aros.”

12 Felly aeth Moses ac Aaron allan oddi wrth Pharo, a dyma Moses yn ymbil ar Jehofa ynglŷn â’r llyffantod* roedd Ef wedi eu hanfon. 13 Yna gwnaeth Jehofa fel roedd Moses wedi gofyn, a dechreuodd y llyffantod* farw yn y tai, yn y cyrtiau, ac yn y caeau. 14 Roedd y bobl yn eu pentyrru nhw ym mhobman, ac roedd y wlad yn dechrau drewi. 15 Pan welodd Pharo fod y pla wedi gorffen, dyma’n caledu ei galon ac yn gwrthod gwrando arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud.

16 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyweda wrth Aaron, ‘Estynna dy ffon a tharo llwch y ddaear, ac mae’n rhaid iddo droi’n wybed drwy wlad yr Aifft i gyd.’” 17 A gwnaethon nhw hyn. Estynnodd Aaron ei law a’i ffon a tharo llwch y ddaear, ac roedd ’na wybed ym mhobman, ar y bobl ac ar yr anifeiliaid. Trodd holl lwch y ddaear yn wybed drwy holl wlad yr Aifft. 18 Ceisiodd y dewiniaid wneud yr un peth a galw gwybed drwy eu hudoliaeth ddirgel, ond roedden nhw’n methu. Roedd y gwybed ym mhobman. 19 Felly dywedodd y dewiniaid wrth Pharo: “Bys Duw sy’n gwneud hyn!” Ond arhosodd calon Pharo yn ystyfnig, ac ni wnaeth wrando arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud.

20 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Coda’n gynnar yn y bore a saf o flaen Pharo. Edrycha! Mae’n mynd allan at y dŵr! Ac mae’n rhaid iti ddweud wrtho, ‘Dyma beth mae Jehofa wedi ei ddweud: “Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu fy ngwasanaethu i. 21 Ond os nad wyt ti’n anfon fy mhobl i ffwrdd, bydda i’n anfon pryfed sy’n brathu a byddan nhw arnat ti, dy weision, a dy bobl, a byddan nhw yn dy dai; a bydd tai’r Aifft yn llawn pryfed sy’n brathu, a byddan nhw hyd yn oed yn gorchuddio’r tir lle maen nhw’n* sefyll. 22 Ar y diwrnod hwnnw, bydda i’n sicr yn neilltuo ardal Gosen, lle mae fy mhobl i yn byw. Ni fydd unrhyw bryfed yno, ac oherwydd hyn, byddi di’n gwybod fy mod i, Jehofa, yma yn y wlad. 23 A bydda i’n gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a dy bobl di. Yfory bydd yr arwydd hwn yn digwydd.”’”

24 A dyna a wnaeth Jehofa, a daeth heidiau enfawr o bryfed sy’n brathu i mewn i dŷ Pharo a thai ei weision a holl wlad yr Aifft. Cafodd y wlad ei difetha gan y pryfed. 25 O’r diwedd, dyma Pharo yn galw am Moses ac Aaron ac yn dweud: “Ewch, aberthwch i’ch Duw yn y wlad.” 26 Ond dywedodd Moses: “Dydy hi ddim yn briodol i wneud hynny, oherwydd mae’r pethau bydden ni’n eu haberthu i Jehofa ein Duw yn ffiaidd i’r Eifftiaid. Petasen ni’n offrymu aberth sy’n ffiaidd i’r Eifftiaid o flaen eu llygaid nhw, oni fydden nhw’n ein llabyddio ni? 27 Awn ni ar daith dri-diwrnod i mewn i’r anialwch, ac yno gwnawn ni aberthu i Jehofa ein Duw, yn union fel mae ef wedi dweud wrthon ni.”

28 Nawr dywedodd Pharo: “Fe wna i eich anfon chi i ffwrdd i aberthu i Jehofa eich Duw yn yr anialwch. Ond, peidiwch â mynd mor bell i ffwrdd. Erfyniwch drosto i.” 29 Yna dywedodd Moses: “Nawr rydw i’n mynd i ffwrdd oddi wrthot ti, ac fe wna i erfyn ar Jehofa, a bydd y pryfed sy’n brathu yn gadael Pharo, ei weision, a’i bobl yfory. Ond mae’n rhaid i Pharo stopio chwarae gemau gyda ni drwy wrthod anfon y bobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw aberthu i Jehofa.” 30 Yna aeth Moses allan oddi wrth Pharo ac erfyn ar Jehofa. 31 Felly fe wnaeth Jehofa beth roedd Moses wedi ei ddweud, a dyma’r pryfed sy’n brathu yn gadael Pharo, ei weision, a’i bobl. Doedd dim un ar ôl. 32 Ond, fe wnaeth Pharo galedu ei galon unwaith eto ac ni wnaeth ef anfon y bobl i ffwrdd.

9 Felly dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos i mewn at Pharo a dyweda wrtho, ‘Dyma beth mae Jehofa, Duw’r Hebreaid, wedi ei ddweud: “Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu fy ngwasanaethu i. 2 Ond os wyt ti’n gwrthod eu hanfon nhw i ffwrdd ac yn parhau i ddal gafael ynddyn nhw, 3 edrycha! bydd llaw Jehofa’n dod yn erbyn dy anifeiliaid yn y caeau. Yn erbyn y ceffylau, yr asynnod, y camelod, y gwartheg, a’r defaid, fe fydd ’na bla ofnadwy. 4 A bydd Jehofa’n bendant yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Aifft, ac ni fydd unrhyw beth sy’n perthyn i’r Israeliaid yn marw.”’” 5 Ar ben hynny, penododd Jehofa amser, gan ddweud: “Yfory bydd Jehofa’n gwneud hyn yn y wlad.”

6 A dyma Jehofa’n gwneud hyn y diwrnod wedyn, a dechreuodd pob math o anifeiliaid yr Aifft farw, ond ni wnaeth yr un o anifeiliaid Israel farw. 7 Pan ofynnodd Pharo beth oedd wedi digwydd, edrycha! doedd yr un o anifeiliaid Israel wedi marw. Er hynny, parhaodd calon Pharo i fod yn ystyfnig, ac ni wnaeth anfon y bobl i ffwrdd.

8 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: “Llanwch eich dwylo â lludw o ffwrnais, ac mae’n rhaid i Moses ei daflu i’r awyr o flaen Pharo. 9 Ac fe fydd yn troi’n llwch mân dros holl wlad yr Aifft, ac fe fydd yn troi’n gornwydydd difrifol iawn ar ddynion ac anifeiliaid drwy wlad yr Aifft i gyd.”

10 Felly cymeron nhw ludw o ffwrnais a sefyll o flaen Pharo, a gwnaeth Moses ei daflu i’r awyr, a dyma’n troi’n gornwydydd difrifol iawn ar ddynion ac anifeiliaid. 11 Doedd y dewiniaid ddim yn gallu sefyll o flaen Moses oherwydd y cornwydydd, gan eu bod nhw dros y dewiniaid a’r Eifftiaid i gyd. 12 Ond dyma Jehofa’n gadael i galon Pharo droi’n ystyfnig, ac ni wnaeth wrando arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrth Moses.

13 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Coda’n gynnar yn y bore a saf o flaen Pharo, a dyweda wrtho, ‘Dyma beth mae Jehofa, Duw’r Hebreaid, wedi ei ddweud: “Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu fy ngwasanaethu i. 14 Oherwydd nawr rydw i am anfon fy holl blâu yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy weision a dy bobl, er mwyn iti wybod does ’na neb tebyg imi ar yr holl ddaear. 15 Oherwydd erbyn hyn byddwn i wedi gallu estyn fy llaw i dy daro di a dy bobl â phla ofnadwy, a byddet ti wedi cael dy ddinistrio oddi ar y ddaear. 16 Rydw i wedi dy gadw di’n fyw am y rheswm hwn: er mwyn dangos fy ngrym iti ac i gyhoeddi fy enw drwy’r holl ddaear. 17 A wyt ti’n dal i ymddwyn yn falch yn erbyn fy mhobl drwy beidio â’u hanfon nhw i ffwrdd? 18 Bydda i’n achosi iddi fwrw cenllysg* mawr iawn tua’r adeg hon yfory, mewn ffordd sydd erioed wedi digwydd o’r blaen yn yr Aifft. 19 Felly, rho orchymyn i ddod â dy holl anifeiliaid a phopeth sy’n perthyn iti yn y caeau i mewn. Bydd pob dyn ac anifail sydd yn y caeau ac sydd ddim yn dod i mewn i’r tŷ yn marw pan fydd y cenllysg* yn bwrw arnyn nhw.”’”

20 Dyma bawb o blith gweision Pharo a oedd yn ofni geiriau Jehofa yn brysio i ddod â’i weision ei hun a’i anifeiliaid i mewn i’w tai, 21 ond gwnaeth pwy bynnag nad oedd yn talu sylw i eiriau Jehofa adael ei weision a’i anifeiliaid yn y caeau.

22 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Estynna dy law tuag at y nefoedd, er mwyn iddi fwrw cenllysg* ar holl wlad yr Aifft, ar ddynion ac anifeiliaid ac ar holl blanhigion y caeau yng ngwlad yr Aifft.” 23 Felly estynnodd Moses ei ffon tuag at y nefoedd, ac anfonodd Jehofa daranau a chenllysg,* a syrthiodd tân* i lawr i’r ddaear, ac roedd Jehofa’n parhau i achosi iddi fwrw cenllysg* ar wlad yr Aifft. 24 Roedd ’na genllysg,* ac roedd ’na dân yn fflachio yng nghanol y cenllysg.* Roedd yn drwm iawn; doedd y fath beth erioed wedi digwydd ers i’r Aifft gael ei sefydlu fel cenedl. 25 Dyma’r cenllysg* yn taro popeth yn holl gaeau’r Aifft, gan gynnwys dynion ac anifeiliaid, a dyma’n taro’r holl blanhigion ac yn dinistrio holl goed y caeau. 26 Yr unig le heb genllysg* oedd Gosen, lle roedd yr Israeliaid.

27 Felly anfonodd Pharo am Moses ac Aaron a dweud wrthyn nhw: “Rydw i wedi pechu y tro hwn. Mae Jehofa’n gyfiawn, a fi a fy mhobl sydd ar fai. 28 Erfyniwch ar Jehofa er mwyn i daranau a chenllysg* Duw ddod i ben. Yna bydda i’n fodlon eich anfon chi i ffwrdd, a fyddwch chi ddim yn aros yma bellach.” 29 Felly dywedodd Moses wrtho: “Unwaith imi adael y ddinas, fe wna i weddïo ar Jehofa. Bydd y taranau’n stopio a bydd diwedd ar y cenllysg,* er mwyn iti wybod mai Jehofa biau’r ddaear. 30 Ond rydw i eisoes yn gwybod, hyd yn oed wedyn, fyddi di a dy weision ddim yn ofni Jehofa Dduw.”

31 Nawr roedd y llin* a’r haidd wedi cael eu taro i lawr, oherwydd roedd yr haidd wedi aeddfedu yn y dywysen ac roedd y llin wedi blodeuo. 32 Ond doedd y gwenith na’r sbelt* ddim wedi cael eu taro i lawr, am eu bod nhw’n blaguro’n hwyrach ymlaen. 33 Nawr aeth Moses allan o’r ddinas oddi wrth Pharo a gweddïo ar Jehofa, a dyma’r taranau a’r cenllysg* yn stopio, a stopiodd y glaw fwrw i lawr ar y ddaear. 34 Pan welodd Pharo fod y glaw, y cenllysg,* a’r taranau wedi stopio, dyma’n pechu unwaith eto ac yn caledu ei galon, ef a’i weision hefyd. 35 Ac arhosodd calon Pharo’n ystyfnig, ac ni wnaeth anfon yr Israeliaid i ffwrdd, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud drwy Moses.

10 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos i mewn at Pharo, oherwydd rydw i wedi caniatáu i’w galon a chalonnau ei weision fod yn ystyfnig fel bod Pharo yn gallu gweld drosto’i hun y gwyrthiau rydw i’n eu gwneud, 2 ac fel y byddi di’n gallu dweud wrth dy feibion a dy wyrion pa mor llym oeddwn i wrth ddelio â’r Aifft a pha wyrthiau y gwnes i yn eu mysg, a byddwch chi yn sicr yn gwybod mai fi yw Jehofa.”

3 Felly aeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo a dweud wrtho: “Dyma beth mae Jehofa, Duw’r Hebreaid, wedi ei ddweud, ‘Pa mor hir byddi di’n gwrthod ymostwng imi? Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw gael fy ngwasanaethu i. 4 Oherwydd os byddi di’n parhau i wrthod anfon fy mhobl i ffwrdd, yna bydda i’n dod â locustiaid i mewn i dy wlad yfory. 5 A byddan nhw’n gorchuddio wyneb y ddaear, ac ni fydd yn bosib i weld y llawr. Byddan nhw’n bwyta popeth a gafodd ei adael ichi yn dilyn y cenllysg,* a byddan nhw’n bwyta’r holl goed sydd yn y caeau. 6 Byddan nhw’n llenwi eich tai, tai eich gweision i gyd, a holl dai’r Aifft i raddau nad ydy eich tadau na’ch teidiau* erioed wedi eu gweld o’r blaen.’” Gyda hynny, trodd Moses ac Aaron a mynd allan oddi wrth Pharo.

7 Yna dywedodd gweision Pharo wrtho: “Am faint mwy bydd y dyn hwn yn parhau i’n peryglu ni? Anfona’r dynion i ffwrdd er mwyn iddyn nhw wasanaethu Jehofa eu Duw. Onid wyt ti wedi sylweddoli eto fod yr Aifft wedi cael ei difetha?” 8 Felly cafodd Moses ac Aaron eu cymryd yn ôl at Pharo, a dywedodd wrthyn nhw: “Ewch, gwasanaethwch Jehofa eich Duw. Ond pwy yn union fydd yn mynd?” 9 Yna atebodd Moses: “Byddwn ni’n mynd gyda’n pobl ifanc, ein pobl hŷn, ein meibion, ein merched, ein defaid, a’n gwartheg, oherwydd byddwn ni’n cynnal gŵyl i Jehofa.” 10 Dywedodd Pharo wrthyn nhw: “A ydych chi’n wir yn meddwl y byddwn i’n eich anfon chi a’ch plant i ffwrdd? Petai hynny’n digwydd, yna mae’n wir, mae Jehofa gyda chi! Mae’n amlwg eich bod chi’n bwriadu gwneud rhywbeth drwg. 11 Na! Dim ond eich dynion fydd yn cael mynd i wasanaethu Jehofa, oherwydd dyna beth wnaethoch chi ofyn amdano.” Gyda hynny cawson nhw eu gyrru allan oddi wrth Pharo.

12 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Estynna dy law allan dros wlad yr Aifft fel bydd y locustiaid yn dod i fyny dros y wlad ac yn bwyta’r holl blanhigion, popeth sydd ar ôl yn dilyn y cenllysg.”* 13 Ar unwaith dyma Moses yn estyn ei ffon dros wlad yr Aifft, ac achosodd Jehofa i wynt o’r dwyrain chwythu ar y tir drwy’r dydd hwnnw a thrwy’r nos. Erbyn y bore, roedd gwynt y dwyrain wedi dod â locustiaid. 14 A daeth y locustiaid i fyny dros yr Aifft i gyd a setlo ar holl diriogaeth yr Aifft. Roedd yn bla difrifol; fuodd ’na erioed bla tebyg o locustiaid, a fydd ’na ddim un tebyg byth eto. 15 Gwnaethon nhw orchuddio’r tir i gyd, ac roedd y ddaear yn dywyll o’u hachos nhw, a gwnaethon nhw ddifetha holl blanhigion y tir a holl ffrwyth y coed a oedd ar ôl yn dilyn y cenllysg;* doedd dim byd gwyrdd ar ôl ar y coed nac ar blanhigion y caeau drwy holl wlad yr Aifft.

16 Felly dyma Pharo yn galw Moses ac Aaron ar unwaith ac yn dweud: “Rydw i wedi pechu yn erbyn Jehofa eich Duw ac yn eich erbyn chi. 17 Nawr, plîs, maddeuwch imi am fy mhechod y tro hwn yn unig, ac erfyniwch ar Jehofa eich Duw iddo gymryd y pla marwol hwn i ffwrdd.” 18 Felly aethon nhw allan oddi wrth Pharo ac erfyniodd Moses ar Jehofa. 19 Yna achosodd Jehofa i’r gwynt newid, a dechreuodd gwynt cryf iawn o’r gorllewin chwythu, a chario’r locustiaid i ffwrdd a’u gyrru nhw i mewn i’r Môr Coch. Doedd dim un locust ar ôl yn holl diriogaeth yr Aifft. 20 Ond, gwnaeth Jehofa ganiatáu i galon Pharo droi’n ystyfnig, ac ni wnaeth ef anfon yr Israeliaid i ffwrdd.

21 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Estynna dy law tua’r nef fel bod ’na dywyllwch dros wlad yr Aifft, tywyllwch mor drwchus fel ei bod hi’n bosib ei deimlo.” 22 Ar unwaith estynnodd Moses ei law tuag at y nef, ac roedd ’na dywyllwch llwyr drwy wlad yr Aifft am dri diwrnod. 23 Doedd yr Eifftiaid ddim yn gallu gweld ei gilydd, ac ni wnaeth yr un ohonyn nhw godi o le roedden nhw am dri diwrnod; ond roedd gan yr Israeliaid i gyd olau yn eu tai. 24 Yna dyma Pharo yn galw Moses ato, a dywedodd wrtho: “Ewch, gwasanaethwch Jehofa. Dim ond eich defaid a’ch gwartheg fydd yn aros ar ôl. Bydd hyd yn oed eich plant yn cael mynd gyda chi.” 25 Ond dywedodd Moses: “Byddi di dy hun hefyd yn rhoi aberthau ac offrymau llosg inni, a byddwn ni’n eu cynnig nhw i Jehofa ein Duw. 26 Bydd ein hanifeiliaid ni hefyd yn mynd gyda ni. Ni fydd yr un anifail yn cael aros, oherwydd byddwn ni’n defnyddio rhai ohonyn nhw i addoli Jehofa ein Duw, a dydyn ni ddim yn gwybod beth byddwn ni’n ei offrymu i Jehofa nes inni gyrraedd yno.” 27 Felly caniataodd Jehofa i galon Pharo droi’n ystyfnig, ac ni wnaeth ef gytuno i’w hanfon nhw i ffwrdd. 28 Dywedodd Pharo wrtho: “Dos allan o fy ngolwg i! Gwna’n siŵr nad wyt ti’n trio gweld fy wyneb i eto, oherwydd ar y diwrnod byddi di’n gweld fy wyneb, byddi di’n marw.” 29 Atebodd Moses: “Yn union fel rwyt ti wedi dweud, wna i ddim trio gweld dy wyneb di eto.”

11 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Rydw i am daro Pharo a’r Aifft ag un pla arall. Ar ôl hynny fe fydd yn eich anfon chi i ffwrdd, ie, yn sicr, fe fydd yn eich gyrru chi i ffwrdd. 2 Nawr dyweda wrth y bobl y dylai’r holl ddynion a merched* ofyn i’w cymdogion am bethau wedi eu gwneud o arian ac aur.” 3 Ac achosodd Jehofa i’r Eifftiaid edrych yn ffafriol ar y bobl. Ar ben hynny, roedd Moses ei hun wedi ennill enw da yng ngwlad yr Aifft ymhlith gweision Pharo ac ymhlith y bobl.

4 Yna dywedodd Moses: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei ddweud, ‘Am tua hanner nos rydw i am fynd allan ymhlith yr Eifftiaid, 5 a bydd pob cyntaf-anedig yn yr Aifft yn marw, o gyntaf-anedig Pharo sy’n eistedd ar ei orsedd i gyntaf-anedig y gaethferch sy’n gweithio wrth y felin law, a chyntaf-anedig yr holl anifeiliaid. 6 Trwy wlad yr Aifft i gyd, fe fydd ’na grio uchel sydd erioed wedi digwydd o’r blaen ac na fydd yn digwydd byth eto. 7 Ond ni fydd hyd yn oed ci yn cyfarth ar yr Israeliaid, nid ar y dynion nac ar eu hanifeiliaid, er mwyn ichi wybod bod Jehofa’n gallu gwahaniaethu rhwng yr Eifftiaid a’r Israeliaid.’ 8 A bydd dy holl weision yn sicr o ddod i lawr ata i ac yn ymgrymu imi, gan ddweud, ‘Dos, ti a’r holl bobl sy’n dy ddilyn di.’ Ac ar ôl hynny, fe fydda i’n mynd allan.” Ar hynny, fe aeth allan oddi wrth Pharo, wedi gwylltio’n lân.

9 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Fydd Pharo ddim yn gwrando arnoch chi, er mwyn imi wneud mwy o wyrthiau yng ngwlad yr Aifft.” 10 Fe wnaeth Moses ac Aaron yr holl wyrthiau hyn o flaen Pharo, ond gadawodd Jehofa i galon Pharo droi’n ystyfnig, fel na fyddai’n anfon yr Israeliaid i ffwrdd o’i wlad.

12 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron yng ngwlad yr Aifft: 2 “Dyma fis cyntaf y flwyddyn. 3 Siaradwch â holl gynulleidfa Israel, gan ddweud, ‘Ar ddegfed diwrnod y mis hwn, dylai pob un ohonoch chi gymryd dafad ar gyfer tŷ eich tad, dafad i bob tŷ. 4 Ond os ydy eich teulu yn rhy fach i fwyta’r ddafad gyfan, dylech chi ei rhannu â’ch cymydog agosaf a’i bwyta gyda’ch gilydd. Wrth weithio hyn allan, ystyriwch faint o bobl sydd ’na a faint o’r ddafad y bydd pob un yn ei fwyta. 5 Dylai’r anifail fod yn iach, yn wryw blwydd oed. Cewch chi ddewis o’r hyrddod* ifanc neu o’r geifr. 6 Mae’n rhaid ichi ofalu am yr anifail hyd at y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis hwn, ac mae’n rhaid ichi ei ladd yn y gwyll.* Mae’n rhaid i holl gynulleidfa Israel wneud hyn. 7 Mae’n rhaid ichi gymryd ychydig o’r gwaed a’i daenellu ar ddau bostyn drws pob tŷ ac ar dop ffrâm drws pob tŷ lle byddwch chi’n ei bwyta.

8 “‘Mae’n rhaid ichi fwyta’r cig y noson honno. Dylech chi ei rostio dros y tân a’i fwyta gyda bara croyw a llysiau gwyrdd chwerw. 9 Peidiwch â bwyta unrhyw ran ohono sydd heb ei choginio na’i berwi, ond dylech chi ei rostio dros y tân, y pen ynghyd â’r coesau a’r rhannau mewnol. 10 Ni ddylech chi gadw unrhyw ran ohono tan y bore, ond os oes ’na ran ar ôl yn y bore dylech chi ei llosgi â thân. 11 A dyma sut y dylech chi ei fwyta, gyda’ch belt wedi ei glymu amdanoch chi, eich sandalau am eich traed, a’ch ffon yn eich llaw; a dylech chi ei fwyta ar frys. Pasg Jehofa ydy hyn. 12 Oherwydd bydda i’n pasio trwy wlad yr Aifft ar y noson honno ac yn taro pob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, dynion ac anifeiliaid; a bydda i’n gweithredu barn ar bob un o dduwiau’r Aifft. Jehofa ydw i. 13 Bydd y gwaed yn arwydd ar eich tai; bydda i’n gweld y gwaed ac yn pasio heibio chi, ac ni fydd y pla yn dod arnoch chi pan fydda i’n taro gwlad yr Aifft.

14 “‘Dylech chi goffáu’r diwrnod hwn, a byddwch chi a’ch holl ddisgynyddion yn dathlu’r ŵyl hon i Jehofa bob blwyddyn. Dylai’r dathliad hwn fod yn ddeddf barhaol. 15 Dylech chi fwyta bara croyw am saith diwrnod. Ie, ar y diwrnod cyntaf dylech chi gael gwared ar y surdoes o’ch tai, oherwydd bydd unrhyw un sy’n bwyta rhywbeth sydd a burum ynddo yn ystod y saith diwrnod hynny yn cael ei roi i farwolaeth.* 16 Ar y diwrnod cyntaf byddwch chi’n cynnal cynhadledd sanctaidd, ac ar y seithfed diwrnod, fe fydd ’na gynhadledd sanctaidd arall. Ni ddylai unrhyw waith gael ei wneud ar y dyddiau hynny, heblaw am baratoi’r bwyd sydd ei angen ar bob un ohonoch chi.

17 “‘Mae’n rhaid ichi gadw Gŵyl y Bara Croyw, oherwydd ar yr union ddiwrnod hwn, bydda i’n dod â chi i gyd allan o wlad yr Aifft. Ac mae’n rhaid i chi a’ch holl ddisgynyddion gadw’r diwrnod hwn yn ddeddf barhaol. 18 Yn ystod y mis cyntaf, dylech chi fwyta bara croyw o noswaith y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis, tan noswaith yr unfed diwrnod ar hugain* o’r mis. 19 Ni ddylai unrhyw surdoes fod yn eich tai am saith diwrnod, oherwydd os bydd rhywun yn bwyta rhywbeth sydd a burum ynddo, p’un a yw’n rhywun estron neu’n rhywun a gafodd ei eni’n Israeliad, dylai’r person hwnnw gael ei roi i farwolaeth.* 20 Peidiwch â bwyta unrhyw beth sydd a burum ynddo. Ym mhob un o’ch tai, dylech chi fwyta bara croyw.’”

21 Ar unwaith dyma Moses yn galw holl henuriaid Israel ac yn dweud wrthyn nhw: “Ewch a dewiswch anifail ifanc* ar gyfer pob un o’ch teuluoedd, a lladdwch aberth y Pasg. 22 Yna mae’n rhaid ichi roi llond llaw o isop yn y gwaed sydd yn y bowlen, a’i daenellu ar dop ffrâm y drws a dau bostyn y drws; ac ni ddylai’r un ohonoch chi adael ei dŷ tan y bore. 23 Yna pan fydd Jehofa’n mynd trwy’r Aifft ac yn taro’r Eifftiaid â’r pla ac yn gweld y gwaed ar dop ffrâm y drws ac ar ddau bostyn y drws, bydd Jehofa yn sicr yn pasio heibio’r fynedfa, ac ni fydd yn caniatáu i’r pla marwol fynd i mewn i’ch tai.

24 “Mae’n rhaid ichi ddathlu’r digwyddiad hwn. Mae’n ddeddf barhaol i chi ac i’ch meibion. 25 A phan fyddwch chi’n dod i mewn i’r wlad mae Jehofa wedi addo ei rhoi ichi, mae’n rhaid ichi ddathlu’r digwyddiad hwn. 26 A phan fydd eich meibion yn gofyn ichi, ‘Beth mae’r dathliad hwn yn ei olygu ichi?’ 27 Mae’n rhaid ichi ddweud, ‘Aberth y Pasg ydy hwn i Jehofa, a wnaeth basio heibio tai’r Israeliaid yn yr Aifft pan wnaeth ef daro’r Eifftiaid â phla, ond fe wnaeth arbed ein tai ni.’”

Yna dyma’r bobl yn plygu i lawr ac yn ymgrymu. 28 Felly aeth yr Israeliaid a gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses ac Aaron. Gwnaethon nhw yn union felly.

29 Yna am hanner nos, tarodd Jehofa bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf-anedig Pharo, a oedd yn eistedd ar ei orsedd, i gyntaf-anedig y carcharor yn ei gell, a phob cyntaf-anedig yr anifeiliaid. 30 Cododd Pharo y noson honno ynghyd â’i holl weision a phob un o’r Eifftiaid eraill ac roedd crio mawr ymhlith yr Eifftiaid, oherwydd doedd ’na ddim un tŷ lle nad oedd rhywun wedi marw. 31 Ar unwaith dyma’n galw Moses ac Aaron ynghanol y nos a dweud: “Codwch, ewch allan o blith fy mhobl, chi a’r Israeliaid eraill. Ewch a gwasanaethwch Jehofa, yn union fel rydych chi wedi dweud. 32 Cymerwch hefyd eich preiddiau a’ch gwartheg, ac ewch, yn union fel rydych chi wedi dweud. Ond mae’n rhaid ichi fy mendithio i hefyd.”

33 A dechreuodd yr Eifftiaid erfyn ar y bobl i adael y wlad yn gyflym “oherwydd,” medden nhw, “rydyn ni i gyd cystal â bod yn farw!” 34 Felly cariodd y bobl eu toes heb furum, gyda’u powlenni tylino wedi eu lapio yn eu dillad ar eu hysgwyddau. 35 Gwnaeth yr Israeliaid beth roedd Moses wedi ei ddweud wrthyn nhw a gofynnon nhw i’r Eifftiaid am bethau a oedd wedi eu gwneud o arian ac aur ynghyd â dillad. 36 Achosodd Jehofa i’r Eifftiaid edrych yn ffafriol ar y bobl, fel eu bod nhw’n rhoi iddyn nhw beth roedden nhw wedi ei ofyn amdano, a gwnaethon nhw ysbeilio’r Eifftiaid.

37 Yna dyma’r Israeliaid yn gadael Rameses am Succoth, tua 600,000 o ddynion yn cerdded, yn ogystal â phlant. 38 Hefyd aeth tyrfa o bob math o bobl* gyda nhw, ynghyd â phreiddiau a gwartheg, nifer mawr o anifeiliaid. 39 Dechreuon nhw ddefnyddio’r toes roedden nhw wedi dod gyda nhw o’r Aifft i bobi torthau crwn o fara croyw. Doedd ’na ddim burum yn y bara, oherwydd roedden nhw wedi cael eu gyrru allan o’r Aifft mor sydyn fel nad oedden nhw wedi paratoi bwyd iddyn nhw eu hunain.

40 Erbyn iddyn nhw adael yr Aifft, roedd yr Israeliaid wedi bod yn byw fel estroniaid am 430 o flynyddoedd. 41 Ar ddiwedd y 430 o flynyddoedd, ar yr union ddiwrnod hwn, aeth holl dyrfaoedd Jehofa allan o wlad yr Aifft. 42 Byddan nhw’n dathlu’r ffaith fod Jehofa wedi dod â nhw allan o wlad yr Aifft ar y noson hon bob blwyddyn. Dylai’r noson hon gael ei chadw i Jehofa gan holl bobl Israel a’u disgynyddion.

43 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron, “Dyma ddeddf y Pasg: Ni ddylai unrhyw estronwr fwyta ohono. 44 Ond os oes gan rywun gaethwas sydd wedi cael ei brynu ag arian, dylai ef gael ei enwaedu. Dim ond wedyn bydd y caethwas yn cael bwyta ohono. 45 Dydy mewnfudwyr a gweithwyr sy’n derbyn cyflog ddim yn cael bwyta ohono. 46 Dylai’r oen gael ei fwyta mewn un tŷ. Ddylech chi ddim cymryd unrhyw ran o’r cig allan o’r tŷ, na thorri unrhyw un o’i esgyrn. 47 Mae’n rhaid i holl gynulleidfa Israel ddathlu’r Pasg. 48 Os oes ’na rywun estron yn byw gyda chi ac mae ef eisiau dathlu’r Pasg i Jehofa, mae’n rhaid i bob gwryw yn ei deulu gael ei enwaedu. Yna bydd yn cael dathlu’r Pasg, a bydd fel un o bobl y wlad. Ond ni fydd unrhyw ddyn sydd heb gael ei enwaedu yn cael bwyta ohono. 49 Fe fydd ’na un ddeddf ar gyfer yr Israeliaid a’r estroniaid sy’n byw yn eich plith.”

50 Felly dyma’r holl Israeliaid yn gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses ac Aaron. Gwnaethon nhw yn union felly. 51 Ar y diwrnod hwnnw, daeth Jehofa â’r Israeliaid, ynghyd â’u tyrfaoedd, allan o wlad yr Aifft.

13 Siaradodd Jehofa eto â Moses, gan ddweud: 2 “Sancteiddia* bob gwryw cyntaf-anedig ymhlith yr Israeliaid i mi. Mae’r gwryw cyntaf sy’n cael ei eni, p’un a yw’n ddyn neu’n anifail, yn perthyn i mi.”

3 Yna dywedodd Moses wrth y bobl: “Cofiwch y diwrnod hwn pan ddaethoch chi allan o’r Aifft, o wlad eich caethiwed, oherwydd defnyddiodd Jehofa ei law nerthol i ddod â chi allan o fan hyn. Felly ni ddylai unrhyw beth sydd a burum ynddo gael ei fwyta. 4 Rydych chi’n mynd allan ar y diwrnod hwn, ym mis Abib. 5 Pan fydd Jehofa wedi dod â chi i mewn i wlad y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid, gwlad y gwnaeth ef addo i’ch cyndadau y byddai’n ei rhoi ichi, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, yna bydd rhaid ichi ddathlu’r digwyddiad hwn yn y mis hwn. 6 Dylech chi fwyta bara croyw am saith diwrnod, ac ar y seithfed diwrnod, fe fydd ’na ŵyl i Jehofa. 7 Dylech chi fwyta bara croyw am y saith diwrnod; ac ni ddylai unrhyw beth sydd a burum ynddo fod gyda chi, ac ni ddylai surdoes fod yn unman o fewn eich holl diriogaeth. 8 Ac mae’n rhaid ichi ddweud wrth eich meibion ar y diwrnod hwnnw, ‘Mae hyn oherwydd beth wnaeth Jehofa drosto i pan ddes i allan o’r Aifft.’ 9 A bydd yr ŵyl hon fel arwydd ysgrifenedig ar eich llaw ac ar eich talcen. Bydd yn eich atgoffa i siarad am gyfraith Jehofa, ac yn eich atgoffa mai Jehofa a wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft â llaw nerthol. 10 Mae’n rhaid ichi gadw’r ddeddf hon ar ei hamser penodedig o flwyddyn i flwyddyn.

11 “Pan fydd Jehofa’n dod â chi i mewn i wlad y Canaaneaid, y wlad bydd ef yn ei rhoi i chi a’ch cyndadau yn ôl ei addewid, 12 bydd rhaid ichi gysegru pob gwryw cyntaf-anedig i Jehofa, yn ogystal â phob gwryw cyntaf-anedig o blith eich anifeiliaid. Mae’r gwrywod yn perthyn i Jehofa. 13 Mae’n rhaid ichi brynu asyn cyntaf-anedig yn ôl gan ddefnyddio dafad, ac os na fyddwch chi’n ei brynu’n ôl, yna bydd rhaid ichi dorri ei wddf. Ac mae’n rhaid ichi brynu yn ôl pob gwryw cyntaf-anedig ymhlith eich meibion.

14 “Os bydd eich meibion yn gofyn ichi yn hwyrach ymlaen, ‘Beth ydy ystyr hyn?’ yna dylech chi ddweud wrthyn nhw, ‘Daeth Jehofa â ni allan o’r Aifft â llaw nerthol. Daeth â ni allan o wlad ein caethiwed. 15 Pan oedd Pharo’n ystyfnig ac yn gwrthod ein hanfon ni i ffwrdd, lladdodd Jehofa bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf-anedig pob dyn i gyntaf-anedig pob anifail. Dyna pam rydw i’n aberthu pob gwryw cyntaf-anedig i Jehofa, ac yn prynu yn ôl bob cyntaf-anedig o blith fy meibion.’ 16 Mae’n rhaid i hyn fod fel arwydd ysgrifenedig ar eich llaw ac ar eich talcen, oherwydd daeth Jehofa â ni allan o’r Aifft â llaw nerthol.”

17 Nawr pan oedd Pharo wedi anfon y bobl i ffwrdd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw ar hyd y ffordd sy’n mynd drwy wlad y Philistiaid, er bod hynny’n fyrrach. Oherwydd dywedodd Duw: “Efallai bydd y bobl yn newid eu meddyliau pan fyddan nhw’n wynebu rhyfel a byddan nhw’n mynd yn ôl i’r Aifft.” 18 Felly achosodd Duw i’r bobl fynd y ffordd hiraf sy’n mynd drwy anialwch y Môr Coch. Ond fe aeth yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft wedi eu trefnu fel byddin. 19 Hefyd cymerodd Moses esgyrn Joseff gydag ef, gan fod Joseff wedi dweud wrth feibion Israel: “Bydd Duw yn sicr o droi ei sylw atoch chi. Mae’n rhaid ichi addo i mi ar lw y byddwch chi’n cymryd fy esgyrn i o fan hyn bryd hynny.” 20 Gadawon nhw Succoth a gwersylla yn Etham, ar ymyl yr anialwch.

21 Nawr roedd Jehofa’n mynd o’u blaenau nhw yn ystod y dydd mewn colofn o gwmwl er mwyn eu harwain nhw ar hyd y ffordd, ac mewn colofn o dân yn ystod y nos er mwyn rhoi goleuni iddyn nhw, fel eu bod nhw’n gallu teithio yn ystod y dydd a’r nos. 22 Doedd y golofn o gwmwl ddim yn symud oddi wrth y bobl yn ystod y dydd, na’r golofn o dân yn ystod y nos.

14 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Dyweda wrth yr Israeliaid y dylen nhw droi’n ôl a gwersylla o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a’r môr, o fewn golwg o Baal-seffon. Mae’n rhaid ichi wersylla ar lan y môr yn wynebu Baal-seffon. 3 Yna bydd Pharo’n dweud am yr Israeliaid, ‘Maen nhw ar goll. Does ’na ddim ffordd allan o’r anialwch.’ 4 Bydda i’n gadael i galon Pharo droi’n ystyfnig, a bydd yn mynd ar eu holau nhw, a bydda i’n fy ngogoneddu fy hun drwy ddefnyddio Pharo a’i holl fyddin; a bydd yr Eifftiaid yn bendant yn gwybod mai fi yw Jehofa.” Felly dyna beth wnaethon nhw.

5 Yn hwyrach ymlaen, clywodd brenin yr Aifft fod pobl Israel wedi rhedeg i ffwrdd. Ar unwaith, dyma Pharo a’i weision yn difaru eu bod nhw wedi rhyddhau’r bobl, a dywedon nhw: “Pam rydyn ni wedi gadael i’n caethweision fynd yn rhydd?” 6 Felly paratôdd Pharo ei gerbydau rhyfel, a chymryd ei bobl gydag ef. 7 Cymerodd 600 o’r cerbydau gorau a’r holl gerbydau eraill yn yr Aifft, ac roedd ’na ryfelwyr ar bob un ohonyn nhw. 8 Felly gadawodd Jehofa i galon Pharo, brenin yr Aifft, droi’n ystyfnig, ac aeth Pharo ar ôl yr Israeliaid, tra oedd yr Israeliaid yn mynd allan yn hyderus. 9 Roedd yr Eifftiaid yn mynd ar eu holau nhw, ac roedd holl geffylau a cherbydau Pharo a’i farchogion a’i fyddin yn dal i fyny â nhw tra oedden nhw’n gwersylla ar lan y môr yn agos i Pihahiroth, yn wynebu Baal-seffon.

10 Pan ddaeth Pharo’n agosach, cododd yr Israeliaid eu llygaid a gweld bod yr Eifftiaid yn dod ar eu holau. Roedd yr Israeliaid yn ofni am eu bywydau a dechreuon nhw weiddi ar Jehofa. 11 Dywedon nhw wrth Moses: “A wyt ti wedi dod â ni yma i farw yn yr anialwch oherwydd does ’na ddim beddau yn yr Aifft? Beth rwyt ti wedi ei wneud inni drwy ein harwain ni allan o’r Aifft? 12 Dyma’n union beth ddywedon ni wrthot ti yn yr Aifft: ‘Gad lonydd inni, er mwyn inni wasanaethu’r Eifftiaid.’ Byddai’n well inni wasanaethu’r Eifftiaid na marw yn yr anialwch.” 13 Yna dywedodd Moses wrth y bobl: “Peidiwch ag ofni. Safwch yn gadarn a gwelwch sut bydd Jehofa’n eich achub chi heddiw. Fyddwch chi ddim yn gweld yr Eifftiaid hyn byth eto. 14 Bydd Jehofa ei hun yn ymladd drostoch chi, a byddwch chi’n cadw’n dawel.”

15 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Pam rwyt ti’n dal i weiddi arna i? Dyweda wrth yr Israeliaid y dylen nhw barhau ar eu taith. 16 Mae’n rhaid iti godi dy ffon ac estyn dy law dros y môr a’i hollti, er mwyn i’r Israeliaid fynd drwy ganol y môr ar dir sych. 17 Ond bydda i’n gadael i galonnau’r Eifftiaid droi’n ystyfnig, fel y byddan nhw’n mynd i mewn ar eu holau nhw; felly bydda i’n fy ngogoneddu fy hun drwy ddefnyddio Pharo a’i holl fyddin, ei gerbydau rhyfel, a’i farchogion. 18 A bydd yr Eifftiaid yn bendant yn gwybod mai fi yw Jehofa pan fydda i’n fy ngogoneddu fy hun drwy ddefnyddio Pharo, ei gerbydau rhyfel, a’i farchogion.”

19 Yna dyma angel y gwir Dduw, a oedd yn mynd o flaen gwersyll Israel, yn symud y tu ôl iddyn nhw, a dyma’r golofn o gwmwl a oedd ar y blaen yn symud i’r cefn ac yn sefyll y tu ôl iddyn nhw. 20 Felly daeth y cwmwl rhwng gwersyll yr Eifftiaid a gwersyll Israel. Ar un ochr, roedd y cwmwl yn dywyll. Ar yr ochr arall, roedd yn goleuo’r nos. Felly ni ddaeth gwersyll yr Eifftiaid yn agos at wersyll yr Israeliaid drwy’r nos.

21 Nawr estynnodd Moses ei law dros y môr, a dyma Jehofa’n gyrru’r môr yn ôl â gwynt cryf o’r dwyrain drwy’r nos, gan droi gwely’r môr yn dir sych, a holltodd y dŵr. 22 Felly aeth yr Israeliaid drwy ganol y môr ar dir sych, tra oedd y dŵr yn ffurfio wal ar yr ochr dde ac ar yr ochr chwith. 23 Aeth yr Eifftiaid ar eu holau nhw, a dechreuodd holl geffylau Pharo, ei gerbydau rhyfel, a’i farchogion fynd ar eu holau nhw i ganol y môr. 24 Yn ystod gwylfa’r bore,* edrychodd Jehofa ar wersyll yr Eifftiaid o’r tu mewn i’r golofn o dân a chwmwl, a dyma’n achosi i wersyll yr Eifftiaid banicio. 25 Roedd yn cymryd olwynion oddi ar eu cerbydau fel eu bod nhw’n anodd i’w gyrru, ac roedd yr Eifftiaid yn dweud: “Gadewch inni ffoi oddi wrth Israel, oherwydd mae Jehofa’n ymladd yn erbyn yr Eifftiaid drostyn nhw.”

26 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Estynna dy law dros y môr er mwyn i’r dŵr lifo’n ôl dros yr Eifftiaid, eu cerbydau rhyfel, a’u marchogion.” 27 Ar unwaith estynnodd Moses ei law dros y môr, ac wrth iddi wawrio, aeth y môr yn ôl i’w le. Tra oedd yr Eifftiaid yn ffoi oddi wrtho, dyma Jehofa’n achosi i’r Eifftiaid gael eu taflu i mewn i ganol y môr. 28 Gwnaeth y dŵr orchuddio’r cerbydau rhyfel a’r marchogion a holl fyddin Pharo a oedd wedi mynd i mewn i’r dŵr ar eu holau nhw. Ni wnaeth yr un ohonyn nhw oroesi.

29 Ond cerddodd yr Israeliaid ar dir sych ar wely’r môr, a dyma’r dŵr yn ffurfio wal ar yr ochr dde ac ar yr ochr chwith. 30 Felly ar y diwrnod hwnnw gwnaeth Jehofa achub Israel o law’r Eifftiaid, a gwnaeth Israel weld yr Eifftiaid yn gorwedd yn farw ar y traeth. 31 Hefyd gwelodd Israel fod Jehofa wedi dinistrio’r Eifftiaid â’i nerth mawr, a dechreuodd y bobl ofni Jehofa a rhoi ffydd yn Jehofa a’i was Moses.

15 Yr adeg honno gwnaeth Moses a’r Israeliaid ganu’r gân hon i Jehofa:

“Gad imi ganu i Jehofa, oherwydd mae wedi cael ei anrhydeddu’n fawr.

Mae wedi hyrddio’r ceffyl a’i farchog i mewn i’r môr.

 2 Jah* yw fy nerth a fy ngrym, gan ei fod wedi fy achub i.

Hwn yw fy Nuw, a bydda i’n ei foli; hwn yw Duw fy nhad, a bydda i’n ei anrhydeddu.

 3 Mae Jehofa’n rhyfelwr pwerus. Jehofa ydy ei enw.

 4 Mae Ef wedi hyrddio cerbydau Pharo a’i fyddin i mewn i’r môr,

Ac mae ei ryfelwyr gorau wedi boddi yn y Môr Coch.

 5 Fe wnaeth tonnau’r môr eu gorchuddio nhw; fe wnaethon nhw suddo i ddyfnderoedd y môr fel cerrig.

 6 Mae dy law dde, O Jehofa, yn hynod o rymus;

Mae dy law dde, O Jehofa, yn gallu torri gelyn yn ddarnau.

 7 Rwyt ti mor rhyfeddol, rwyt ti’n gwneud i’r rhai sy’n codi yn dy erbyn di syrthio;

Mae dy ddicter yn danllyd, ac mae’n eu llosgi nhw fel gwellt.

 8 Drwy anadl dy ffroenau safodd y dŵr fel waliau;

Fe wnaethon nhw aros yn llonydd, yn dal yn ôl y llifogydd;

Ynghanol y môr gwnaeth y tonnau galedu.

 9 Dywedodd y gelyn: ‘Bydda i’n mynd ar eu holau nhw! Bydda i’n dal i fyny â nhw!

Bydda i’n rhannu’r eiddo nes imi gael digon!

Bydda i’n tynnu fy nghleddyf! Bydd fy llaw yn eu dinistrio nhw!’

10 Gwnest ti chwythu â dy anadl, gwnaeth y môr eu gorchuddio nhw;

Gwnaethon nhw suddo fel plwm mewn môr grymus.

11 Pa dduw arall sydd fel ti, O Jehofa?

Pwy sydd fel ti, yr Un mwyaf sanctaidd?

Rwyt ti’n haeddu cael dy ofni a dy foli â chaneuon, yr Un sy’n gwneud pethau rhyfeddol.

12 Gwnest ti estyn dy law dde, a gwnaeth y ddaear eu llyncu nhw.

13 Mae dy gariad ffyddlon wedi arwain y bobl rwyt ti wedi eu hachub;

Bydd dy gryfder yn eu harwain nhw i dy le sanctaidd.

14 Bydd rhaid i bobl glywed am y pethau hyn; byddan nhw’n crynu mewn ofn;

Bydd poenau enfawr yn gafael ar bobl Philistia.

15 Bryd hynny bydd gan benaethiaid* Edom ofn mawr,

A bydd rheolwyr mawr Moab yn crynu.

Bydd holl bobl Canaan yn ddigalon.

16 Bydd ofn mawr yn dod arnyn nhw.

Oherwydd dy fraich gref byddan nhw mor llonydd â cherrig

Hyd nes i dy bobl basio heibio, O Jehofa,

Hyd nes i’r bobl y gwnest ti eu dewis basio heibio.

17 Byddi di’n eu harwain nhw ac yn eu plannu nhw ar y mynydd sy’n perthyn i ti,

Y cartref rwyt ti wedi ei baratoi ar dy gyfer di dy hun, O Jehofa,

Lle cysegredig, O Jehofa, rwyt ti wedi ei wneud â dy ddwylo.

18 Bydd Jehofa’n rheoli fel brenin am byth bythoedd.

19 Pan aeth ceffylau Pharo a’i gerbydau rhyfel a’i farchogion i mewn i’r môr,

Yna dyma Jehofa’n gwneud i donnau enfawr ddod drostyn nhw,

Ond cerddodd pobl Israel ar dir sych drwy ganol y môr.”

20 Yna gwnaeth Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, gymryd tambwrîn yn ei llaw, a gwnaeth yr holl ferched* ei dilyn hi gan chwarae eu tambwrinau a dawnsio. 21 Atebodd Miriam y dynion drwy ganu:

“Canwch i Jehofa, gan ei fod wedi cael ei anrhydeddu’n fawr.

Mae wedi hyrddio’r ceffyl a’i farchog i mewn i’r môr.”

22 Yn hwyrach ymlaen gwnaeth Moses arwain Israel i ffwrdd oddi wrth y Môr Coch, ac aethon nhw i anialwch Sur a martsio* am dri diwrnod yn yr anialwch, ond ni wnaethon nhw ddod o hyd i ddŵr. 23 Cyrhaeddon nhw Mara,* ond doedden nhw ddim yn gallu yfed dŵr Mara gan ei fod yn chwerw. Dyna pam gwnaethon nhw ei enwi’n Mara. 24 Felly dechreuodd y bobl gwyno yn erbyn Moses, drwy ddweud: “Beth rydyn ni am ei yfed?” 25 Galwodd Moses allan ar Jehofa, a gwnaeth Jehofa ei arwain at goeden. Pan daflodd y goeden i mewn i’r dŵr, dyma’r dŵr yn troi’n felys.

Yno fe roddodd Ef orchymyn iddyn nhw a dangos iddyn nhw beth roedd rhaid iddyn nhw ei wneud, ac yno gwnaeth Ef eu rhoi nhw ar brawf. 26 Dywedodd: “Os byddwch chi’n gwrando’n astud ar lais Jehofa eich Duw ac yn gwneud yr hyn sy’n iawn yn ei lygaid ac yn talu sylw i’w orchmynion ac yn cadw at ei holl reolau, ni fydda i’n eich cosbi ag afiechydon fel gwnes i gosbi’r Eifftiaid, gan fy mod i, Jehofa, yn eich iacháu chi.”

27 Ar ôl hynny, dyma nhw’n cyrraedd Elim, lle roedd ’na 12 ffynnon ddŵr a 70 coeden balmwydd. Felly gwnaethon nhw wersylla yno wrth ymyl y dŵr.

16 Ar ôl iddyn nhw adael Elim, daeth pob un o’r Israeliaid i anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai, ar bymthegfed* diwrnod yr ail fis ar ôl iddyn nhw adael gwlad yr Aifft.

2 Yna dechreuodd yr Israeliaid i gyd gwyno yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch. 3 Roedd yr Israeliaid yn dweud wrthyn nhw dro ar ôl tro: “Byddai’n well petai Jehofa wedi ein rhoi ni i farwolaeth yng ngwlad yr Aifft tra oedden ni’n bwyta cig ac yn bwyta bara nes ein bod ni’n llawn. Nawr rwyt ti wedi dod â ni allan i’r anialwch i roi’r gynulleidfa gyfan i farwolaeth drwy newyn.”

4 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Bydda i’n anfon bara i lawr o’r nefoedd fel glaw, a bydd rhaid i bob un fynd allan i gasglu’r hyn sydd ei angen arno bob dydd, er mwyn imi roi’r bobl ar brawf i weld a fyddan nhw’n dilyn fy nghyfraith neu beidio. 5 Ond ar y chweched diwrnod, pan fyddan nhw’n paratoi’r hyn maen nhw wedi ei gasglu, bydd rhaid iddyn nhw gasglu dwywaith cymaint ag y byddan nhw’n ei gasglu ar y diwrnodau eraill.”

6 Felly dywedodd Moses ac Aaron wrth yr holl Israeliaid: “Heno byddwch chi’n bendant yn gwybod mai Jehofa sydd wedi dod â chi allan o wlad yr Aifft. 7 Yn y bore byddwch chi’n gweld gogoniant Jehofa, oherwydd mae wedi clywed eich cwynion yn erbyn Jehofa. Pam rydych chi’n cwyno yn ein herbyn ni? Dydyn ni ddim yn bwysig.” 8 Aeth Moses yn ei flaen: “Pan fydd Jehofa’n rhoi cig ichi i’w fwyta gyda’r nos a bara yn y bore i’ch llenwi chi, byddwch chi’n gweld bod Jehofa wedi clywed eich bod chi’n cwyno yn ei erbyn. Ond pwy ydyn ni? Dydy eich cwynion ddim yn ein herbyn ni, ond yn erbyn Jehofa.”

9 Yna dywedodd Moses wrth Aaron: “Dyweda wrth yr Israeliaid i gyd, ‘Dewch at eich gilydd o flaen Jehofa, oherwydd mae wedi clywed eich cwynion.’” 10 Yn syth ar ôl i Aaron siarad â holl bobl Israel, fe wnaethon nhw droi a wynebu’r anialwch, ac edrycha! dyma ogoniant Jehofa yn ymddangos yn y cwmwl.

11 Gwnaeth Jehofa barhau i siarad â Moses, gan ddweud: 12 “Rydw i wedi clywed cwynion yr Israeliaid. Dyweda wrthyn nhw, ‘Yn y gwyll* byddwch chi’n bwyta cig, ac yn y bore byddwch chi’n cael digonedd o fara, a byddwch chi’n bendant yn gwybod mai fi yw Jehofa eich Duw.’”

13 Felly’r noson honno, daeth soflieir* a gorchuddio’r gwersyll, ac yn y bore roedd ’na haenen o wlith o gwmpas y gwersyll. 14 Pan gododd yr haenen o wlith, roedd ’na rywbeth tebyg i hadau bach ar wyneb yr anialwch, fel haenen denau o eira.* 15 O weld hyn, dechreuodd yr Israeliaid ddweud wrth ei gilydd, “Beth ydy hwn?” oherwydd nad oedden nhw wedi ei weld o’r blaen. Dywedodd Moses wrthyn nhw: “Dyma’r bara mae Jehofa wedi ei roi ichi fel bwyd. 16 Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn, ‘Dylai pob un ei gasglu yn ôl faint mae’n gallu bwyta. Mae’n rhaid ichi gymryd omer* ar gyfer pawb sydd yn eich pabell.’” 17 Dechreuodd yr Israeliaid wneud hyn; dyma nhw’n ei gasglu, rhai yn casglu llawer a rhai yn casglu dim ond ychydig. 18 Pan fydden nhw’n ei fesur yn ôl yr omer, nid oedd gormod gan y person a gasglodd lawer ac nid oedd prinder gan y person a gasglodd ychydig. Roedden nhw’n ei gasglu yn ôl beth roedden nhw’n gallu ei fwyta.

19 Yna dywedodd Moses wrthyn nhw: “Ddylai neb gadw dim ohono tan y bore.” 20 Ond ni wnaethon nhw wrando ar Moses. Pan wnaeth rhai dynion ei gadw tan y bore, dyma gynrhon yn tyfu ynddo ac roedd yn drewi, a gwylltiodd Moses. 21 Bydden nhw’n ei gasglu bob bore, pob un yn ôl beth roedd yn gallu ei fwyta. Yna roedd yn toddi yng ngwres yr haul.

22 Ar y chweched diwrnod, gwnaethon nhw gasglu dwywaith cymaint o fara, dau omer ar gyfer pob person. Felly daeth holl benaethiaid y gynulleidfa ac adrodd hyn wrth Moses. 23 Ar hynny dywedodd wrthyn nhw: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei ddweud. Yfory fe fydd ’na ddiwrnod o orffwys llwyr, saboth sanctaidd i Jehofa. Mae’n rhaid ichi bobi’r hyn a fydd ei angen arnoch chi, a berwi’r hyn a fydd ei angen arnoch chi; yna cadwch beth bynnag sydd ar ôl tan y bore.” 24 Felly gwnaethon nhw ei gadw tan y bore, yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn, ac nid oedd yn drewi nac yn llawn cynrhon. 25 Yna dywedodd Moses: “Mae’n rhaid ichi ei fwyta heddiw, oherwydd ei fod yn ddiwrnod saboth i Jehofa. Fyddwch chi ddim yn dod o hyd iddo ar y llawr heddiw. 26 Byddwch chi’n ei gasglu am chwe diwrnod, ond ar y seithfed diwrnod, y Saboth, fydd ’na ddim byd.” 27 Fodd bynnag, gwnaeth rhai o’r bobl fynd allan i gasglu ar y seithfed diwrnod, ond doedd ’na ddim byd yno.

28 Felly dywedodd Jehofa wrth Moses: “Am faint byddwch chi’n gwrthod cadw at fy ngorchmynion a fy neddfau? 29 Cymerwch sylw o’r ffaith fod Jehofa wedi rhoi’r Saboth ichi. Dyna pam, ar y chweched diwrnod, mae’n rhoi digon o fara ichi ar gyfer dau ddiwrnod. Mae’n rhaid i bawb aros lle maen nhw; ni ddylai neb fynd allan ar y seithfed diwrnod.” 30 Felly roedd y bobl yn cadw’r Saboth* ar y seithfed diwrnod.

31 Dyma bobl Israel yn galw’r bara yn “manna.”* Roedd yn wyn fel hadau coriander, ac roedd yn blasu fel cacennau tenau a mêl ynddyn nhw. 32 Yna dywedodd Moses: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn, ‘Cadwch omer o’r manna i un ochr fel rhywbeth i’w gadw drwy eich cenedlaethau, fel byddan nhw’n gweld y bara y gwnes i ei roi ichi i’w fwyta yn yr anialwch pan oeddwn i’n eich cymryd chi allan o wlad yr Aifft.’” 33 Felly dywedodd Moses wrth Aaron: “Cymera jar a rho omer o’r manna ynddi a’i gosod o flaen Jehofa fel rhywbeth i’w gadw drwy eich cenedlaethau.” 34 Gosododd Aaron y jar o flaen y Dystiolaeth er mwyn ei chadw’n saff, yn union fel gorchmynnodd Jehofa i Moses. 35 Roedd yr Israeliaid yn bwyta’r manna am 40 mlynedd, nes iddyn nhw gyrraedd gwlad lle roedd pobl eraill yn byw. Roedden nhw’n bwyta’r manna nes iddyn nhw gyrraedd ffin gwlad Canaan. 36 Nawr mae omer yn ddegfed ran o effa.*

17 Gadawodd yr holl Israeliaid anialwch Sin drwy fynd o un lle i’r llall yn ôl gorchymyn Jehofa, a gwnaethon nhw wersylla yn Reffidim. Ond doedd dim dŵr i’r bobl ei yfed.

2 Felly dechreuodd y bobl gweryla â Moses gan ddweud: “Rho ddŵr inni ei yfed.” Ond dywedodd Moses wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n cweryla â mi? Pam rydych chi’n parhau i roi Jehofa ar brawf?” 3 Ond roedd syched mawr ar y bobl, a pharhaon nhw i gwyno yn erbyn Moses a dweud: “Pam rwyt ti wedi ein cymryd ni allan o’r Aifft i’n lladd ni a’n meibion a’n hanifeiliaid â syched?” 4 O’r diwedd galwodd Moses ar Jehofa: “Beth dylwn i ei wneud â’r bobl ’ma? Ymhen ychydig o amser byddan nhw’n fy llabyddio i!”

5 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos di o flaen y bobl, a chymera rai o henuriaid Israel gyda ti, yn ogystal â’r ffon gwnest ti ei defnyddio i guro Afon Nîl. Cymera hi yn dy law a cherdda ymlaen. 6 Edrycha! Bydda i’n sefyll o dy flaen di ar y graig yn Horeb. Bydd rhaid iti daro’r graig ac yna bydd dŵr yn dod allan ohoni, a bydd y bobl yn ei yfed.” A dyna wnaeth Moses o flaen henuriaid Israel. 7 Felly rhoddodd yr enwau Massa* a Meriba* ar y lle hwnnw oherwydd bod yr Israeliaid wedi ffraeo â Moses yno ac am eu bod nhw wedi rhoi Jehofa ar brawf drwy ddweud: “A ydy Jehofa yn ein plith ni neu ddim?”

8 Dyma’r Amaleciaid yn dod ac yn ymladd yn erbyn Israel yn Reffidim. 9 Dywedodd Moses wrth Josua: “Dewisa ddynion ar ein cyfer ni a dos allan i ymladd yn erbyn yr Amaleciaid. Yfory bydda i’n sefyll ar ben y bryn gyda ffon y gwir Dduw yn fy llaw.” 10 Yna gwnaeth Josua yn union fel roedd Moses wedi dweud wrtho, a brwydrodd yn erbyn yr Amaleciaid. Ac aeth Moses, Aaron, a Hur i ben y bryn.

11 Cyn belled ag yr oedd Moses yn dal ei ddwylo i fyny, roedd yr Israeliaid yn llwyddo, ond y foment roedd Moses yn rhoi ei ddwylo i lawr, roedd yr Amaleciaid yn llwyddo. 12 Pan aeth dwylo Moses yn drwm, cymeron nhw garreg a’i rhoi odano, ac eisteddodd Moses arni. Yna dyma Aaron a Hur yn sefyll un ar bob ochr ac yn codi dwylo Moses, er mwyn i’w ddwylo aros yn llonydd hyd nes i’r haul fachlud. 13 Felly llwyddodd Josua i orchfygu Amalec a’i bobl â’r cleddyf.

14 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Ysgrifenna hyn yn y llyfr er mwyn iddo gael ei gofio a’i ailadrodd i Josua, ‘Bydda i’n dinistrio’r Amaleciaid yn llwyr ac ni fydd neb yn eu cofio.’” 15 Felly adeiladodd Moses allor a’i henwi’n Jehofa-nissi,* 16 gan ddweud: “Oherwydd bod ei law yn erbyn gorsedd Jah, bydd Jehofa yn rhyfela yn erbyn Amalec o un genhedlaeth i’r llall.”

18 Nawr dyma Jethro, offeiriad Midian, tad-yng-nghyfraith Moses, yn clywed am bopeth roedd Duw wedi ei wneud dros Moses a thros ei bobl Israel, ac am sut roedd Jehofa wedi cymryd Israel allan o’r Aifft. 2 Roedd Jethro wedi edrych ar ôl Sippora, gwraig Moses, ar ôl iddi gael ei hanfon yn ôl ato, 3 ynghyd â’i dau fab hi. Enw un o’i meibion oedd Gersom,* gan fod Moses wedi dweud, “Rydw i’n estronwr mewn gwlad estron,” 4 ac enw’r llall oedd Elieser,* gan ei fod wedi dweud, “Duw fy nhad yw fy helpwr, yr un a wnaeth fy achub rhag cleddyf Pharo.”

5 Felly aeth Jethro, ynghyd â meibion Moses a’i wraig, i mewn i’r anialwch, i le roedd Moses yn gwersylla wrth fynydd y gwir Dduw. 6 Yna anfonodd neges at Moses: “Rydw i, dy dad-yng-nghyfraith Jethro, yn dod atat ti gyda dy wraig a’i meibion hi.” 7 Ar unwaith aeth Moses allan i gyfarfod ei dad-yng-nghyfraith, a dyma’n plygu i lawr ac yn ei gusanu. Ar ôl cyfarch ei gilydd, aethon nhw i mewn i’r babell.

8 Adroddodd Moses yr hanes wrth ei dad-yng-nghyfraith am yr holl bethau roedd Jehofa wedi eu gwneud i Pharo a’r Aifft ar ran Israel, am yr holl dreialon roedden nhw wedi eu hwynebu ar hyd y ffordd, ac am sut roedd Jehofa wedi eu hachub nhw. 9 Gwnaeth Jethro lawenhau dros yr holl bethau da roedd Jehofa wedi eu gwneud ar ran Israel drwy eu hachub nhw o’r Aifft. 10 Yna dywedodd Jethro: “Clod i Jehofa, a wnaeth eich achub chi rhag yr Aifft a rhag Pharo, ac a wnaeth achub y bobl o law’r Eifftiaid. 11 Nawr rydw i’n gwybod bod Jehofa yn fwy grymus na’r holl dduwiau eraill, oherwydd fe wnaeth amddiffyn ei bobl rhag eu gelynion balch.” 12 Yna daeth Jethro ag offrwm llosg ac aberthau i Dduw, a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta pryd o fwyd gyda thad-yng-nghyfraith Moses o flaen y gwir Dduw.

13 Y diwrnod wedyn, eisteddodd Moses i lawr yn ôl ei arfer i farnu’r bobl, ac roedd y bobl yn sefyll o flaen Moses o’r bore tan y nos. 14 Pan welodd tad-yng-nghyfraith Moses bopeth roedd yn ei wneud ar ran y bobl, dywedodd: “Beth rwyt ti’n ei wneud ar ran y bobl? Pam rwyt ti’n eistedd yma ar dy ben dy hun gyda’r holl bobl yn sefyll o dy flaen di o’r bore tan y nos?” 15 Dywedodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith: “Oherwydd mae’r bobl yn parhau i ddod ata i er mwyn gofyn am arweiniad gan Dduw. 16 Pan mae problem yn codi rhwng dau berson, maen nhw’n dod ata i ac mae’n rhaid imi farnu rhwng un person a’r llall, ac rydw i’n dweud wrthyn nhw am benderfyniadau’r gwir Dduw a’i ddeddfau.”

17 Dywedodd tad-yng-nghyfraith Moses wrtho: “Dydy beth rwyt ti’n ei wneud ddim yn beth da. 18 Byddi di yn bendant yn blino’n lân, ti a’r bobl hyn sydd gyda ti, oherwydd bod hyn yn ormod o faich iti a dwyt ti ddim yn gallu ei gario ar dy ben dy hun. 19 Nawr gwranda arna i. Fe wna i roi cyngor iti, a bydd Duw gyda ti. Rwyt ti’n cynrychioli’r bobl o flaen y gwir Dduw, ac mae’n rhaid iti ddod â’u problemau o flaen y gwir Dduw. 20 Dylet ti eu rhybuddio nhw am y rheolau a’r deddfau a dweud wrthyn nhw am sut dylen nhw fyw ac am y gwaith dylen nhw ei wneud. 21 Ond dylet ti ddewis dynion galluog sy’n ofni Duw o blith y bobl, dynion dibynadwy sy’n casáu elw anonest, a’u penodi nhw fel penaethiaid ar filoedd, penaethiaid ar gannoedd, penaethiaid ar bumdegau, a phenaethiaid ar ddegau. 22 Dylen nhw farnu’r bobl pan fydd problemau’n codi, gan wneud penderfyniad dros bob achos syml, ond dylen nhw ddod â phob achos anodd o dy flaen di. Gwna bethau’n haws i ti dy hun drwy adael iddyn nhw rannu’r baich. 23 Os byddi di’n gwneud hyn, ac os mai ewyllys Duw ydy hyn, byddi di’n gallu delio â’r straen, a bydd pawb yn mynd adref yn fodlon.”

24 Gwrandawodd Moses ar ei dad-yng-nghyfraith yn syth a gwnaeth popeth fel roedd ef wedi dweud. 25 Dewisodd Moses ddynion galluog o blith holl bobl Israel a’u penodi nhw’n benaethiaid ar y bobl, yn benaethiaid ar filoedd, yn benaethiaid ar gannoedd, yn benaethiaid ar bumdegau, ac yn benaethiaid ar ddegau. 26 Felly, gwnaethon nhw farnu’r bobl pan gododd problemau. Roedden nhw’n mynd ag achosion anodd o flaen Moses, ond roedden nhw’n barnu pob achos syml drostyn nhw eu hunain. 27 Ar ôl hynny, ffarweliodd Moses â’i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro yn ôl i’w wlad ei hun.

19 Yn y trydydd mis ar ôl i’r Israeliaid adael gwlad yr Aifft, daethon nhw i anialwch Sinai. 2 Gwnaethon nhw adael Reffidim a dod i anialwch Sinai a gwersylla yn yr anialwch. Gwersyllodd Israel yno o flaen y mynydd.

3 Yna aeth Moses i fyny at y gwir Dduw, a galwodd Jehofa arno o’r mynydd, gan ddweud: “Dyma beth mae’n rhaid iti ei ddweud wrth ddisgynyddion Jacob, sef pobl Israel, 4 ‘Rydych chi wedi gweld drostoch chi’ch hunain beth wnes i i’r Eifftiaid, er mwyn eich cario chi ar adenydd eryrod a’ch dod â chi yma. 5 Nawr os byddwch chi’n gwrando’n ofalus ar fy llais ac yn cadw fy nghyfamod, bydda i’n bendant yn eich dewis chi fel eiddo arbennig* allan o’r holl bobloedd, oherwydd mae’r ddaear gyfan yn perthyn imi. 6 Byddwch chi’n deyrnas o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd sy’n perthyn i mi.’ Dyna beth dylet ti ei ddweud wrth yr Israeliaid.”

7 Felly aeth Moses a galw henuriaid y bobl a chyhoeddi iddyn nhw bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddo. 8 Ar ôl hynny atebodd y bobl i gyd yn llwyr gytûn: “Rydyn ni’n fodlon gwneud pob peth mae Jehofa wedi ei ddweud.” Ar unwaith dyma Moses yn dweud wrth Jehofa beth oedd ymateb y bobl. 9 A dywedodd Jehofa wrth Moses: “Edrycha! Rydw i’n dod atat ti mewn cwmwl tywyll, er mwyn i’r bobl fy nghlywed wrth imi siarad â ti ac er mwyn iddyn nhw wastad rhoi ffydd ynot tithau hefyd.” Yna dyma Moses yn adrodd geiriau’r bobl wrth Jehofa.

10 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos at y bobl a’u sancteiddio nhw heddiw ac yfory, ac mae’n rhaid iddyn nhw olchi eu dillad. 11 Ac mae’n rhaid iddyn nhw fod yn barod ar gyfer y trydydd dydd, oherwydd ar y trydydd dydd fe fydd Jehofa’n ymddangos ar Fynydd Sinai o flaen llygaid y bobl i gyd. 12 Mae’n rhaid iti osod ffin ar gyfer y bobl o amgylch y mynydd a dweud wrthyn nhw, ‘Peidiwch â mynd i fyny at y mynydd na chyffwrdd â’i ffin. Bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â’r mynydd yn sicr o gael ei roi i farwolaeth. 13 Ni ddylai neb ei gyffwrdd, neu fel arall fe fyddai naill ai’n cael ei labyddio neu ei saethu.* P’un a yw’n anifail neu’n ddyn, bydd rhaid iddo farw.’ Ond pan fydd corn hwrdd* yn canu, fe allan nhw ddod i fyny at y mynydd.”

14 Yna aeth Moses i lawr o’r mynydd at y bobl, a dechreuodd sancteiddio’r bobl, ac fe wnaethon nhw olchi eu dillad. 15 Dywedodd wrth y bobl: “Byddwch yn barod ar gyfer y trydydd dydd. Peidiwch â chael cyfathrach rywiol.”

16 Ar fore’r trydydd dydd, roedd ’na fellt a tharanau, ac roedd ’na gwmwl trwchus ar y mynydd a sŵn corn yn seinio’n uchel, a dyma’r holl bobl yn y gwersyll yn dechrau crynu mewn ofn. 17 Nawr daeth Moses â’r bobl allan o’r gwersyll i gasglu at ei gilydd o flaen y gwir Dduw, a chymeron nhw eu lle wrth waelod y mynydd. 18 Roedd ’na fwg dros Fynydd Sinai i gyd am fod Jehofa wedi dod i lawr arno mewn tân, ac roedd y mwg yn codi fel mwg ffwrnais, ac roedd y mynydd cyfan yn ysgwyd yn ffyrnig. 19 Wrth i sŵn y corn fynd yn uwch ac yn uwch, siaradodd Moses, ac atebodd llais y gwir Dduw.

20 Felly daeth Jehofa i lawr ar ben Mynydd Sinai. Yna galwodd Jehofa ar Moses i ddod i gopa’r mynydd, ac aeth Moses i fyny. 21 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos i lawr a rhybuddia’r bobl i beidio â chroesi’r ffin er mwyn edrych ar Jehofa, neu bydd llawer ohonyn nhw’n marw. 22 A gad i’r offeiriaid, sy’n dod yn agos at Jehofa yn rheolaidd, eu sancteiddio eu hunain, fel na fydd Jehofa’n eu taro nhw.” 23 Yna dywedodd Moses wrth Jehofa: “Dydy’r bobl ddim yn gallu dod i fyny i Fynydd Sinai oherwydd gwnest ti ein rhybuddio ni’n barod, gan ddweud, ‘Mae’n rhaid ichi osod ffin o amgylch y mynydd, a’i wneud yn sanctaidd.’” 24 Fodd bynnag, dywedodd Jehofa wrtho: “Dos i lawr, ac yna tyrd yn ôl i fyny, ti ac Aaron gyda ti, ond paid â gadael i’r offeiriaid a’r bobl groesi’r ffin i ddod i fyny at Jehofa, fel na fydda i’n eu taro nhw.” 25 Felly aeth Moses i lawr at y bobl a dweud wrthyn nhw beth roedd Duw wedi ei ddweud.

20 Yna, dywedodd Duw y geiriau hyn:

2 “Fi yw Jehofa eich Duw, a ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, allan o wlad eich caethiwed. 3 Ni ddylech chi addoli unrhyw dduwiau eraill heblaw amdana i.

4 “Ni ddylech chi gerfio eilun i chi’ch hunain na gwneud llun sy’n debyg i unrhyw beth yn y nefoedd neu ar y ddaear neu yn y dyfroedd o dan y ddaear. 5 Ni ddylech chi blygu i lawr iddyn nhw na chael eich temtio i’w gwasanaethu nhw, gan fy mod i, Jehofa eich Duw, yn Dduw sy’n mynnu eich bod chi’n fy addoli i yn unig, sy’n cosbi meibion oherwydd camgymeriadau eu tadau, gan gynnwys y drydedd genhedlaeth a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai sy’n fy nghasáu i, 6 ond sy’n dangos cariad ffyddlon at filoedd o genedlaethau o’r rhai sy’n fy ngharu i ac sy’n cadw fy ngorchmynion.

7 “Ni ddylech chi ddefnyddio enw Jehofa eich Duw mewn ffordd ddiwerth, oherwydd bydd Jehofa’n cosbi’r rhai sy’n defnyddio ei Enw mewn ffordd ddiwerth.

8 “Cofiwch ddydd y Saboth er mwyn ei gadw’n sanctaidd. 9 Dylech chi lafurio a gwneud eich holl waith mewn chwe diwrnod, 10 ond mae’r seithfed dydd yn Saboth i Jehofa eich Duw. Ni ddylech chi wneud unrhyw waith, nid chi na’ch meibion na’ch merched na’ch caethweision na’ch caethferched na’ch anifeiliaid domestig na’r bobl estron sy’n byw yn eich dinasoedd. 11 Oherwydd mewn chwe diwrnod creodd Jehofa’r nefoedd a’r ddaear, y môr, a phopeth sydd ynddyn nhw, a dyma’n gorffwys ar y seithfed dydd. Dyna pam gwnaeth Jehofa fendithio dydd y Saboth a’i wneud yn sanctaidd.

12 “Anrhydeddwch eich tad a’ch mam, er mwyn ichi allu byw am amser hir yn y wlad y mae Jehofa eich Duw wedi ei rhoi ichi.

13 “Peidiwch â llofruddio.

14 “Peidiwch â godinebu.

15 “Peidiwch â dwyn.

16 “Peidiwch â rhoi camdystiolaeth yn erbyn eich cyd-ddyn.

17 “Peidiwch â dyheu am dŷ eich cyd-ddyn. Peidiwch â dyheu am wraig eich cyd-ddyn na’i gaethwas na’i gaethferch na’i darw na’i asyn nac unrhyw beth arall sy’n perthyn i’ch cyd-ddyn.”

18 Nawr roedd y bobl i gyd yn gweld y mellt a’r taranau, yn clywed sŵn y corn, ac yn gweld mwg dros y mynydd i gyd; ac roedd hyn yn gwneud iddyn nhw grynu mewn ofn a sefyll yn bell i ffwrdd. 19 Felly dywedon nhw wrth Moses: “Siarada di â ni, a gwnawn ni wrando, ond paid â gadael i Dduw siarad â ni, oherwydd mae gynnon ni ofn marw.” 20 Felly dywedodd Moses wrth y bobl: “Peidiwch â phoeni, oherwydd mae’r gwir Dduw wedi dod i’ch rhoi chi ar brawf, er mwyn ichi barhau i’w ofni fel na fyddwch chi’n pechu.” 21 Felly parhaodd y bobl i sefyll yn bell i ffwrdd, ond aeth Moses yn agos at y cwmwl tywyll lle roedd y gwir Dduw.

22 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyma beth dylet ti ei ddweud wrth yr Israeliaid, ‘Rydych chi wedi gweld drostoch chi’ch hunain fy mod i wedi siarad â chi o’r nefoedd. 23 Peidiwch â gwneud duwiau allan o arian neu aur oherwydd ni ddylech chi gael unrhyw dduwiau eraill heblaw amdana i. 24 Gwnewch allor allan o bridd imi, er mwyn ichi aberthu eich offrymau llosg, eich aberthau heddwch, eich gwartheg, a’ch defaid. Bydda i’n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi ym mhob lle rydw i’n achosi i fy enw gael ei gofio. 25 Os byddwch chi’n gwneud allor imi allan o gerrig, peidiwch â’i hadeiladu gan ddefnyddio cerrig sydd wedi eu naddu. Oherwydd os byddwch chi’n ei naddu â chŷn byddwch chi’n ei halogi. 26 Peidiwch â mynd i fyny grisiau er mwyn cyrraedd fy allor, rhag ichi ddangos eich rhannau preifat.’*

21 “Dyma’r penderfyniadau barnwrol mae’n rhaid iti eu cyfleu iddyn nhw:

2 “Os ydych chi’n prynu caethwas sy’n Hebread, bydd ef yn gwasanaethu fel caethwas am chwe mlynedd, ond yn y seithfed flwyddyn, bydd ef yn cael ei ryddhau heb iddo dalu unrhyw beth. 3 Os daeth ef i mewn ar ei ben ei hun, fe fydd yn gadael ar ei ben ei hun. Os oes ganddo wraig, yna bydd rhaid i’w wraig adael gydag ef. 4 Os ydy ei feistr yn rhoi gwraig iddo ac mae hi’n geni meibion neu ferched iddo, bydd y wraig a’i phlant yn dod yn eiddo i’r meistr, a bydd y caethwas yn gadael ar ei ben ei hun. 5 Ond os bydd y caethwas yn mynnu ac yn dweud, ‘Rydw i’n caru fy meistr, fy ngwraig, a fy meibion, dydw i ddim eisiau mynd yn rhydd,’ 6 bydd rhaid i’w feistr ddod ag ef o flaen y gwir Dduw. Yna fe fydd yn gwneud iddo sefyll yn erbyn drws ei dŷ neu ffrâm y drws, a bydd ei feistr yn gwneud twll drwy ei glust gyda mynawyd,* a bydd ef yn gaethwas iddo am weddill ei fywyd.

7 “Os ydy dyn yn gwerthu ei ferch fel caethferch, ni fydd hi’n cael ei rhyddhau yn yr un ffordd ag y mae caethwas yn cael ei ryddhau. 8 Os nad ydy hi’n plesio ei meistr ac os nad ydy ef eisiau iddi hi fod yn wraig arall* iddo bellach, ond mae’n ei gwerthu hi i rywun arall, ni fydd ganddo’r hawl i’w gwerthu hi i bobl estron, gan ei fod wedi ei bradychu hi. 9 Os ydy ef yn ei dewis hi yn wraig i’w fab, bydd rhaid iddo ei thrin hi fel merch. 10 Os bydd yn cymryd gwraig arall iddo’i hun, ni ddylai bwyd y wraig gyntaf, na’i dillad, na’r hyn sy’n ddyledus iddi mewn priodas* gael eu lleihau. 11 Os na fydd ef yn rhoi’r tri pheth hyn iddi, yna bydd hi’n rhydd i fynd heb dalu dim arian.

12 “Bydd rhaid i unrhyw un sy’n taro dyn a’i ladd gael ei roi i farwolaeth. 13 Ond os digwyddodd hynny’n anfwriadol ac os gadawodd y gwir Dduw i hynny ddigwydd, bydda i’n gwneud yn siŵr fod ganddo rywle i ffoi iddo. 14 Os ydy dyn yn gwylltio’n lân gyda’i gyd-ddyn ac yn ei ladd yn fwriadol, bydd rhaid i’r dyn farw hyd yn oed os ydych chi’n gorfod ei gymryd i ffwrdd oddi wrth fy allor. 15 Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n taro ei dad neu ei fam gael ei roi i farwolaeth.

16 “Os ydy unrhyw un yn herwgipio rhywun arall ac yn ei werthu neu’n cael ei ddal yn cadw’r person hwnnw’n gaeth, bydd rhaid iddo gael ei roi i farwolaeth.

17 “Bydd rhaid i unrhyw un sy’n melltithio ei dad neu ei fam gael ei roi i farwolaeth.

18 “Dyma beth ddylai ddigwydd os ydy dynion yn ffraeo ac mae un yn taro’r llall â charreg neu ddwrn* ac nid yw’n marw ond mae’n cael ei anafu ac yn gorfod aros yn ei wely: 19 Os ydy ef yn gallu codi a cherdded o gwmpas y tu allan gyda ffon i’w helpu, yna bydd yr un a wnaeth ei daro yn rhydd o gosb. Tra bod y dyn sydd wedi ei anafu yn methu gweithio, bydd yr un a wnaeth ei daro yn ei gefnogi nes iddo wella’n llwyr.

20 “Os ydy dyn yn taro ei gaethwas neu ei gaethferch gyda ffon ac mae ef neu hi yn marw tra ei fod yn cael ei guro, bydd rhaid i’r dyn hwnnw gael ei gosbi. 21 Fodd bynnag, os ydy ef neu hi yn goroesi am un neu ddau ddiwrnod, ni fydd y perchennog yn cael ei gosbi, gan ei fod wedi prynu’r caethwas gyda’i arian ei hun.

22 “Os ydy dynion yn ymladd â’i gilydd ac yn brifo dynes* feichiog ac mae hi’n rhoi genedigaeth yn rhy fuan oherwydd hynny, yna os bydd hi a’r babi yn aros yn fyw, bydd rhaid i’r troseddwr dalu beth bynnag mae gŵr y ddynes* yn ei ofyn amdano, er dydy’r un ohonyn nhw wedi marw;* a bydd rhaid iddo ei dalu drwy’r barnwyr. 23 Ond os bydd un ohonyn nhw’n cael ei ladd, yna bydd rhaid ichi dalu bywyd am fywyd, 24 llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed, 25 llosg am losg, anaf am anaf, clais am glais.

26 “Os ydy dyn yn taro llygad ei gaethwas neu ei gaethferch, ac mae ef neu hi’n mynd yn ddall, bydd rhaid iddo adael i’r caethwas fynd yn rhydd fel iawndal am ei lygad. 27 Ac os bydd yn taro dannedd ei gaethwas neu ei gaethferch ac mae dant yn disgyn allan, bydd rhaid iddo adael i’r caethwas fynd yn rhydd fel iawndal am ei ddant.

28 “Os ydy tarw yn cornio dyn neu ddynes* ac mae’r unigolyn yn cael ei ladd, bydd rhaid i’r tarw gael ei labyddio i farwolaeth ac ni ddylai neb fwyta’r cig; ond ni fydd perchennog y tarw yn cael ei gosbi. 29 Ond os ydy tarw yn mynd i’r arfer o gornio a dydy ei berchennog ddim yn ei gadw o dan reolaeth er iddo gael ei rybuddio, yna os bydd y tarw yn lladd dyn neu ddynes,* bydd rhaid i’r tarw gael ei labyddio a bydd rhaid i’w berchennog gael ei roi i farwolaeth hefyd. 30 Os bydd pris yn cael ei osod fel iawndal er mwyn i berchennog y tarw beidio â chael ei roi i farwolaeth, yna bydd rhaid iddo dalu’r pris hwnnw. 31 Mae’r un gyfraith yn berthnasol i berchennog y tarw os ydy’r tarw yn cornio plentyn. 32 Os ydy’r tarw yn cornio caethwas neu gaethferch, bydd rhaid i berchennog y tarw roi 30 sicl* i feistr y caethwas neu’r gaethferch, a bydd y tarw yn cael ei labyddio i farwolaeth.

33 “Os ydy dyn yn gadael pydew ar agor neu’n cloddio pydew heb ei gau ac mae tarw neu asyn yn syrthio i mewn iddo, 34 bydd rhaid i’r dyn dalu am yr anifail sydd wedi marw. Dylai roi’r arian i berchennog yr anifail, a bydd yr anifail marw yn perthyn iddo ef. 35 Os ydy tarw un dyn yn anafu tarw dyn arall ac mae’r tarw hwnnw’n marw, bydd rhaid iddyn nhw werthu’r tarw sy’n fyw a rhannu’r arian rhyngddyn nhw; bydd rhaid iddyn nhw hefyd rannu’r anifail sydd wedi marw rhyngddyn nhw. 36 Neu os oedd y bobl yn ymwybodol bod y tarw wedi mynd i’r arfer o gornio ond ni wnaeth y perchennog ei gadw o dan reolaeth, bydd rhaid iddo dalu tarw am darw, a bydd y tarw sydd wedi marw yn eiddo iddo.

22 “Os ydy dyn yn dwyn tarw neu ddafad ac yn ei ladd neu’n ei werthu, bydd rhaid iddo dalu iawndal o bum tarw am un tarw a phedair dafad am un ddafad.

2 (“Os ydy lleidr yn cael ei ddal yn torri i mewn yn ystod y nos ac mae’n cael ei daro ac yn marw, ni fydd yr un a wnaeth ei ladd yn waed-euog. 3 Ond os ydy hyn yn digwydd ar ôl y wawr, fe fydd yn waed-euog.)

“Bydd rhaid iddo dalu iawndal. Os nad oes dim byd ganddo, bydd rhaid iddo gael ei werthu er mwyn talu am y pethau gwnaeth ef eu dwyn. 4 Os ydy’r hyn y gwnaeth ef ei ddwyn yn cael ei ddarganfod yn fyw, p’un a yw’n darw neu’n asyn neu’n ddafad, bydd rhaid iddo dalu iawndal sy’n gyfartal â dwywaith ei werth.

5 “Os ydy unrhyw un yn rhoi ei anifeiliaid allan i bori mewn cae neu mewn gwinllan ac yn gadael iddyn nhw bori mewn cae rhywun arall, bydd rhaid iddo dalu iawndal allan o gynnyrch gorau ei gae neu ei winllan ei hun.

6 “Os ydy tân yn cychwyn ac yn lledaenu i berthi drain ac mae naill ai ysgubau, ŷd sydd heb ei gasglu, neu gaeau yn cael eu llosgi, bydd rhaid i’r un a wnaeth gynnau’r tân dalu iawndal am yr hyn a gafodd ei losgi.

7 “Os ydy dyn yn rhoi arian neu rywbeth gwerthfawr i’w gyd-ddyn i’w gadw dros dro ac mae’n cael ei ddwyn o dŷ ei gyd-ddyn, yna os ydy’r lleidr yn cael ei ddal, bydd rhaid iddo dalu iawndal sy’n gyfartal â dwywaith ei werth. 8 Os nad ydy’r lleidr yn cael ei ddal, bydd rhaid i berchennog y tŷ sefyll o flaen y gwir Dduw er mwyn i Dduw ddweud os mai ef a wnaeth ddwyn yr eiddo. 9 Bryd bynnag mae rhywun yn cael ei gyhuddo o feddiannu rhywbeth sydd ddim yn perthyn iddo, naill ai tarw, asyn, dafad, dilledyn, neu unrhyw beth sydd wedi mynd ar goll ac mae rhywun yn dadlau, ‘Fi biau hwn!’ bydd rhaid cyflwyno achos y ddau o flaen y gwir Dduw. Bydd rhaid i’r un mae Duw’n ei gyhuddo’n euog dalu iawndal i’w gyd-ddyn sy’n gyfartal â dwywaith gwerth yr hyn y gwnaeth ef ei feddiannu.

10 “Os ydy dyn yn rhoi i’w gyd-ddyn asyn neu darw neu ddafad neu unrhyw anifail domestig i’w gadw dros dro ac mae’n marw neu’n cael ei anafu’n ddifrifol neu’n cael ei arwain i ffwrdd tra bod neb yn gwylio, 11 dylen nhw dyngu llw o flaen Jehofa, i ddweud ni wnaeth ef ddwyn eiddo ei gyd-ddyn; a bydd rhaid i’r perchennog dderbyn hynny. Does dim rhaid i’r dyn arall dalu iawndal. 12 Ond os ydy’r anifail wedi cael ei ddwyn, bydd rhaid iddo dalu iawndal i’r perchennog. 13 Os cafodd yr anifail ei rwygo gan anifail gwyllt, mae’n rhaid i’r dyn ddod â’r anifail marw fel tystiolaeth. Ni ddylai dalu iawndal am rywbeth sydd wedi cael ei rwygo gan anifail gwyllt.

14 “Ond os ydy unrhyw un yn gofyn am fenthyg anifail gan ei gyd-ddyn ac mae’r anifail hwnnw yn cael ei anafu’n ddifrifol neu’n marw pan nad yw’r perchennog gyda’r anifail, bydd rhaid i’r dyn a wnaeth ei fenthyg dalu iawndal amdano. 15 Os ydy’r perchennog gyda’r anifail, does dim angen i’r dyn dalu iawndal. Os cafodd yr anifail ei logi, yr arian a gafodd ei dalu i’w logi yw’r iawndal.

16 “Nawr os ydy dyn yn denu gwyryf sydd heb ddyweddïo ac mae’n gorwedd i lawr gyda hi, mae’n rhaid iddo dalu’r pris ar gyfer priodferch er mwyn iddi ddod yn wraig iddo. 17 Os ydy’r tad yn gwrthod yn llwyr rhoi ei ferch iddo, bydd rhaid iddo dalu’r swm sy’n cyfateb i’r pris ar gyfer priodferch beth bynnag.

18 “Peidiwch â gadael i swynwraig fyw.

19 “Yn bendant bydd rhaid i unrhyw un sy’n gorwedd gydag anifail gael ei ladd.

20 “Bydd rhaid i unrhyw un sy’n aberthu i dduwiau eraill heblaw am Jehofa’n unig gael ei ddinistrio.

21 “Peidiwch â cham-drin rhywun estron na’i ormesu, gan eich bod chithau wedi bod yn bobl estron yng ngwlad yr Aifft.

22 “Peidiwch â cham-drin gweddwon na phlant sydd heb dadau.* 23 Os byddwch chi’n eu cam-drin, ac maen nhw’n galw arna i, bydda i’n sicr o’u clywed; 24 a bydda i’n gwylltio’n lân, a bydda i’n eich lladd chi â’r cleddyf, a bydd eich gwragedd yn troi’n weddwon, a bydd eich plant heb dadau.

25 “Os ydych chi’n benthyg arian i unrhyw un o fy mhobl sy’n dlawd, rhywun sy’n byw yn eich plith chi, ni ddylech chi fod fel benthycwyr arian. Ni ddylech chi godi llog arno.

26 “Os ydych chi’n cymryd dilledyn eich cyd-ddyn fel gwarant am fenthyg arian, mae’n rhaid ichi ei roi yn ôl iddo cyn i’r haul fachlud. 27 Oherwydd dyna’r unig ddilledyn sydd ganddo i orchuddio ei gorff; fel arall beth bydd ef yn ei wisgo pan fydd yn gorwedd i lawr i gysgu? Pan fydd ef yn gweiddi arna i, bydda i’n sicr o’i glywed, gan fy mod i’n dosturiol.

28 “Peidiwch â melltithio* Duw na’r penaethiaid* ymhlith eich pobl.

29 “Peidiwch â dal yn ôl rhag gwneud offrymau pan fydd gynnoch chi lawer o gynnyrch a phan fydd eich cafnau’n* gorlifo. Mae’n rhaid ichi roi eich meibion cyntaf-anedig imi. 30 Dyma beth dylech chi ei wneud â’ch teirw a’ch defaid: Am saith diwrnod byddan nhw’n aros gyda’u mamau. Ar yr wythfed diwrnod, byddwch chi’n eu rhoi imi.

31 “Mae’n rhaid ichi brofi eich bod chi’n bobl sanctaidd imi, ac ni ddylech chi fwyta cnawd unrhyw beth o’r caeau sydd wedi cael ei rwygo gan anifail gwyllt. Dylech chi ei daflu i’r cŵn.

23 “Peidiwch â lledaenu straeon sydd ddim yn wir. Peidiwch â chydweithio â pherson drwg na bod yn dyst maleisus. 2 Peidiwch â dilyn y dorf er mwyn gwneud drwg, na rhoi tystiolaeth sy’n mynd yn erbyn cyfiawnder er mwyn ochri â’r dorf.* 3 Wrth ddelio ag achos, peidiwch â barnu o blaid rhywun tlawd dim ond oherwydd ei fod yn dlawd.

4 “Os ydych chi’n dod ar draws tarw neu asyn eich gelyn yn crwydro, mae’n rhaid ichi ei roi yn ôl iddo. 5 Os ydych chi’n gweld bod asyn rhywun rydych chi’n ei gasáu wedi disgyn o dan ei faich, ni ddylech chi ei anwybyddu a’i adael. Mae’n rhaid ichi ei helpu i ryddhau’r anifail.

6 “Mewn achos llys, peidiwch â gwyrdroi barn wrth ystyried achos rhywun tlawd.

7 “Peidiwch â chael dim i’w wneud â chyhuddiad ffals, a pheidiwch â lladd yr un dieuog na’r un cyfiawn, oherwydd ni fydda i’n cyhoeddi’r un drwg yn gyfiawn.*

8 “Peidiwch â derbyn breib, oherwydd gall breib dwyllo’r un sy’n barnu’n ddoeth, a gall hyd yn oed achosi i’r un cyfiawn newid ei benderfyniadau.

9 “Peidiwch â cham-drin rhywun estron sy’n byw yn eich plith. Rydych chi’n gwybod sut mae’n teimlo i fod yn estroniaid,* oherwydd roeddech chi’n estroniaid yng ngwlad yr Aifft.

10 “Mae’n rhaid ichi hau eich tir â hadau a chasglu cynnyrch am chwe mlynedd. 11 Ond yn ystod y seithfed flwyddyn bydd rhaid i’r tir gael gorffwys a pheidio â chael ei drin, a bydd y rhai tlawd yn eich plith chi yn bwyta ohono, a bydd anifeiliaid gwyllt y cae yn bwyta’r hyn byddan nhw’n ei adael ar ôl. A dyna beth dylech chi ei wneud gyda’ch gwinllannoedd a’ch coed olewydd hefyd.

12 “Dylech chi weithio am chwe diwrnod; ond ar y seithfed diwrnod, ni ddylech chi weithio, er mwyn i’ch teirw a’ch asynnod gael gorffwys ac i fab eich caethferch a’r estronwr eu hadfywio eu hunain.

13 “Mae’n rhaid ichi dalu sylw i bopeth rydw i wedi ei ddweud wrthoch chi, ac ni ddylech chi sôn am dduwiau eraill; ni ddylech chi hyd yn oed ddweud eu henwau.

14 “Dylech chi ddathlu tair gŵyl i mi bob blwyddyn. 15 Byddwch chi’n dathlu Gŵyl y Bara Croyw. Byddwch chi’n bwyta bara croyw am saith diwrnod, yn union fel rydw i wedi gorchymyn ichi, ar yr amser apwyntiedig ym mis Abib, oherwydd dyna pryd y daethoch chi allan o’r Aifft. Ni ddylai neb ddod o fy mlaen i yn waglaw. 16 Hefyd, mae’n rhaid ichi ddathlu Gŵyl y Cynhaeaf* pan fyddwch chi’n casglu ffrwyth cyntaf eich llafur, a Gŵyl Casglu’r Cynhaeaf* ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwch chi’n casglu ffrwyth eich llafur o’r caeau. 17 Dair gwaith y flwyddyn bydd rhaid i’ch holl ddynion fynd o flaen y gwir Arglwydd, Jehofa.

18 “Pan ydych chi’n offrymu aberth imi, ni ddylech chi offrymu gwaed ynghyd â bara sydd a burum ynddo. Ac ni ddylai’r offrymau o fraster sy’n cael eu cyflwyno imi yn ystod fy ngwyliau gael eu gadael dros nos tan y bore.

19 “Dylech chi ddod â’r gorau o ffrwyth cyntaf eich tir i dŷ Jehofa eich Duw.

“Peidiwch â berwi gafr ifanc yn llaeth ei mam.

20 “Rydw i am anfon angel o’ch blaenau chi i’ch gwarchod chi ar y ffordd ac i’ch arwain chi i’r lle rydw i wedi ei baratoi ar eich cyfer chi. 21 Talwch sylw iddo, ac ufuddhewch i’w lais. Peidiwch â gwrthryfela yn ei erbyn, oherwydd ni fydd yn maddau ichi am eich troseddau, gan ei fod yn dod yn fy enw i. 22 Fodd bynnag, os ydych chi’n gwrando ar ei lais yn ofalus, ac yn gwneud popeth rydw i’n ei ddweud wrthoch chi, bydda i’n elyn i’ch gelynion a bydda i’n gwrthwynebu’r rhai sy’n eich gwrthwynebu chi. 23 Oherwydd bydd fy angel yn mynd o’ch blaenau ac yn eich arwain chi at yr Amoriaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Canaaneaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid, a bydda i’n eu dinistrio. 24 Peidiwch â phlygu i lawr i’w duwiau nhw na chael eich perswadio i’w gwasanaethu, a pheidiwch ag efelychu eu harferion. Yn hytrach, mae’n rhaid ichi eu chwalu nhw a malu eu colofnau sanctaidd. 25 Mae’n rhaid ichi wasanaethu Jehofa eich Duw, a bydd ef yn bendithio eich bara a’ch dŵr. Bydda i’n cael gwared ar salwch o’ch plith. 26 Ni fydd yr un o ferched* eich gwlad yn colli babi cyn iddo gael ei eni nac yn methu cael plant, a byddwch chi’n cael byw am yn hir.

27 “Hyd yn oed cyn ichi gyrraedd byddan nhw’n fy ofni’n barod, a bydda i’n drysu’r holl bobl byddwch chi’n eu cyfarfod, a bydda i’n achosi i’ch holl elynion ffoi wrth ichi eu gorchfygu.* 28 Cyn ichi gyrraedd bydda i’n gwneud i’ch gelynion ddigalonni,* a bydda i’n gyrru’r Hefiaid, y Canaaneaid, a’r Hethiaid i ffwrdd oddi wrthoch chi. 29 Ni fydda i’n eu gyrru nhw allan o fewn blwyddyn, er mwyn i’r wlad beidio â throi’n anialwch ac i’r anifeiliaid gwyllt beidio â lluosogi yn eich erbyn chi. 30 Fesul tipyn bydda i’n eu gyrru nhw allan o’ch blaenau chi nes ichi gael llawer o blant a meddiannu’r wlad.

31 “Bydd eich ffin yn ymestyn o’r Môr Coch i fôr y Philistiaid ac o’r anialwch i’r Afon,* oherwydd bydda i’n rhoi pobl y wlad yn eich dwylo, a byddwch chi’n eu gyrru nhw allan. 32 Peidiwch â gwneud cyfamod â nhw na’u duwiau. 33 Peidiwch â gadael iddyn nhw fyw yn eich gwlad, fel na fyddan nhw’n achosi ichi bechu yn fy erbyn i. Os byddwch chi’n gwasanaethu eu duwiau nhw, byddai hynny’n sicr yn fagl ichi.”

24 Yna dywedodd wrth Moses: “Dos i fyny at Jehofa, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a 70 o henuriaid Israel, ac ymgrymwch o bellter. 2 Dylai Moses fynd at Jehofa ar ei ben ei hun; ni ddylai’r lleill fynd ato, ac ni ddylai’r bobl fynd i fyny gydag ef.”

3 Yna aeth Moses ac adrodd wrth y bobl holl eiriau Jehofa a’r holl benderfyniadau barnwrol, a dyma’r bobl i gyd yn ateb ag un llais: “Rydyn ni’n fodlon gwneud popeth mae Jehofa wedi ei ddweud.” 4 Felly ysgrifennodd Moses holl eiriau Jehofa. Yna cododd yn gynnar yn y bore ac adeiladu allor wrth waelod y mynydd a hefyd 12 colofn a oedd yn cyfateb i 12 llwyth Israel. 5 Ar ôl hynny anfonodd Moses ddynion ifanc o Israel, a gwnaethon nhw gyflwyno offrymau llosg ac aberthu teirw fel aberthau heddwch i Jehofa. 6 Yna cymerodd Moses hanner gwaed yr aberthau a’i roi mewn powlenni, a dyma’n taenellu’r hanner arall ar yr allor. 7 Yna cymerodd lyfr y cyfamod a’i ddarllen yn uchel i’r bobl. A dywedon nhw: “Rydyn ni’n fodlon gwneud popeth mae Jehofa wedi ei ddweud, ac fe fyddwn ni’n ufudd.” 8 Felly cymerodd Moses y gwaed a’i daenellu ar y bobl a dweud: “Dyma waed y cyfamod mae Jehofa wedi ei wneud â chi yn unol â’r holl eiriau hyn.”

9 Aeth Moses ac Aaron, Nadab ac Abihu, a 70 o henuriaid Israel i fyny, 10 a dyma nhw’n gweld Duw Israel. O dan ei draed roedd ’na rywbeth tebyg i balmant o saffir, ac roedd yn bur fel y nefoedd eu hunain. 11 Ni wnaeth Duw niweidio dynion adnabyddus Israel, ac fe welson nhw weledigaeth o’r gwir Dduw tra oedden nhw’n bwyta ac yn yfed.

12 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Tyrd i fyny ata i ar y mynydd ac arhosa yno. Bydda i’n rhoi’r llechau carreg iti a bydda i’n ysgrifennu’r gyfraith a’r gorchmynion arnyn nhw er mwyn hyfforddi’r bobl.” 13 Felly cododd Moses gyda’i was Josua, ac aeth Moses i fyny mynydd y gwir Dduw. 14 Ond dywedodd wrth yr henuriaid: “Arhoswch yma nes inni ddod yn ôl atoch chi. Mae gynnoch chi Aaron a Hur gyda chi. Gall unrhyw un sydd ag achos cyfreithiol fynd atyn nhw.” 15 Yna aeth Moses i fyny’r mynydd tra oedd y cwmwl yn gorchuddio’r mynydd.

16 Arhosodd gogoniant Jehofa ar Fynydd Sinai, a gwnaeth y cwmwl orchuddio’r mynydd am chwe diwrnod. Ar y seithfed diwrnod dyma’n galw ar Moses o ganol y cwmwl. 17 I’r Israeliaid a oedd yn gwylio, roedd gogoniant Jehofa yn edrych fel tân yn rhuo ar gopa’r mynydd. 18 Yna aeth Moses i mewn i’r cwmwl ac aeth i fyny’r mynydd. Ac arhosodd Moses ar y mynydd am 40 diwrnod a 40 nos.

25 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Dyweda wrth bobl Israel am neilltuo cyfraniad imi; dylet ti dderbyn fy nghyfraniad gan bob person sydd eisiau rhoi o wirfodd ei galon. 3 Dyma beth dylet ti ei dderbyn ganddyn nhw fel cyfraniad: aur, arian, copr, 4 edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, lliain main, blew geifr, 5 crwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch, crwyn morloi, coed acasia, 6 olew ar gyfer y lampau, balm ar gyfer yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus, 7 a gemau onics a gemau eraill i’w gosod yn yr effod ac ar y darn o wisg wedi ei brodio sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad. 8 Dylen nhw wneud lle cysegredig ar fy nghyfer i, a bydda i’n byw yn eu plith nhw. 9 Mae’n rhaid ichi wneud y tabernacl a phopeth sydd ynddo gan ddilyn yr union batrwm* rydw i’n ei ddangos ichi.

10 “Mae’n rhaid iddyn nhw wneud arch* allan o goed acasia, dau gufydd* a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder. 11 Yna byddi di’n ei gorchuddio ag aur pur. Mae’n rhaid iti ei gorchuddio ar y tu mewn ac ar y tu allan, a byddi di’n gwneud ymyl o aur o’i hamgylch. 12 A byddi di’n creu pedair modrwy allan o aur ar ei chyfer ac yn eu hychwanegu nhw uwchben ei phedwar troed, gyda dwy fodrwy ar un ochr a dwy fodrwy ar yr ochr arall. 13 A byddi di’n ffurfio polion allan o goed acasia ac yn eu gorchuddio ag aur. 14 Byddi di’n rhoi’r polion trwy’r modrwyau sydd ar ochrau’r Arch er mwyn ei chario. 15 Bydd y polion yn aros ym modrwyau’r Arch; ni ddylen nhw gael eu tynnu o ’na. 16 Byddi di’n rhoi’r Dystiolaeth bydda i’n ei rhoi iti yn yr Arch.

17 “Byddi di’n gwneud caead o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd a chufydd a hanner o led. 18 Dylet ti wneud dau gerwb allan o aur wedi ei guro â morthwyl, un ar bob pen y caead. 19 Un cerwb ar un ochr, a’r cerwb arall ar yr ochr arall. 20 Bydd y cerwbiaid yn estyn eu dwy adain i fyny gan gysgodi’r caead gyda’u hadenydd, a byddan nhw’n wynebu ei gilydd. Bydd wynebau’r cerwbiaid yn edrych tuag at y caead. 21 Byddi di’n rhoi’r caead ar yr Arch, a byddi di’n rhoi’r Dystiolaeth bydda i’n ei rhoi iti yn yr Arch. 22 Bydda i’n ymddangos iti ac yn siarad â ti o uwchben y caead. O ganol y ddau gerwb sydd ar arch y Dystiolaeth, bydda i’n dangos iti’r holl orchmynion y byddi di’n eu pasio ymlaen i’r Israeliaid.

23 “Byddi di hefyd yn gwneud bwrdd allan o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder. 24 Byddi di’n ei orchuddio ag aur pur ac yn gwneud ymyl aur o’i amgylch. 25 Byddi di’n gwneud rhimyn o’i amgylch sy’n lled llaw* ac yna ymyl aur i fynd o amgylch hwnnw. 26 Byddi di’n gwneud pedair modrwy aur ar ei gyfer ac yn rhoi’r modrwyau ar y pedair cornel, lle mae’r pedwar coes wedi cael eu gosod. 27 Dylai’r modrwyau gael eu gosod yn agos at y rhimyn, oherwydd bydd y polion ar gyfer cario’r bwrdd yn mynd trwyddyn nhw. 28 Byddi di’n gwneud y polion allan o goed acasia ac yn eu gorchuddio ag aur ac yn eu defnyddio i gario’r bwrdd.

29 “Byddi di hefyd yn gwneud llestri ar ei gyfer, yn ogystal â chwpanau, jygiau, a phowlenni er mwyn iddyn nhw allu tywallt* offrymau diod. Dylet ti eu gwneud nhw allan o aur pur. 30 A byddi di’n rhoi’r bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw* ar y bwrdd o fy mlaen i drwy’r adeg.

31 “Byddi di’n gwneud canhwyllbren allan o aur pur wedi ei guro â morthwyl. Bydd ei waelod, ei goes, ei ganghennau, ei ddail bychain,* ei flagur, a’i flodau i gyd yn un darn. 32 A bydd chwe changen yn dod allan o ochrau’r canhwyllbren, tair cangen o un ochr a thair cangen o’r ochr arall. 33 Fe fydd ’na dair deilen fechan wedi eu siapio fel blodau almon ar un grŵp o ganghennau, gyda blagur a blodau yn mynd bob yn ail, a thair deilen fechan wedi eu siapio fel blodau almon ar y grŵp arall o ganghennau, gyda blagur a blodau yn mynd bob yn ail. Dyma sut bydd y chwe changen yn edrych ar goes y canhwyllbren. 34 Ar goes y canhwyllbren fe fydd ’na bedair deilen fechan wedi eu siapio fel blodau almon, gyda blagur a blodau yn mynd bob yn ail. 35 Fe fydd ’na flaguryn o dan y ddwy gangen gyntaf sy’n dod allan o’r coes, ac fe fydd ’na flaguryn o dan y ddwy gangen nesaf, a blaguryn o dan y ddwy gangen nesaf. Dyna sut bydd y chwe changen yn edrych ar y coes. 36 Bydd y blagur a’r canghennau a’r canhwyllbren i gyd yn un darn o aur pur wedi ei guro â morthwyl. 37 Byddi di’n gwneud saith lamp ar ei gyfer, a phan fydd y lampau yn cael eu goleuo, byddan nhw’n disgleirio ar yr hyn sydd o flaen y canhwyllbren. 38 Mae’n rhaid i’r offer ar gyfer dal y wiciau* a’r llestri i ddal tân gael eu gwneud o aur pur. 39 Dylai’r canhwyllbren ynghyd â’r offer hyn gael eu gwneud allan o dalent* o aur pur. 40 Gwna’n siŵr dy fod ti’n eu gwneud nhw yn ôl y patrwm* y gwnes i ei ddangos iti ar y mynydd.

26 “Dylet ti wneud y tabernacl gan ddefnyddio deg darn o ddefnydd wedi ei wneud o liain main, edau las, gwlân porffor, a defnydd ysgarlad. Dylet ti hefyd frodio lluniau o gerwbiaid arnyn nhw. 2 Bydd pob darn o ddefnydd yn 28 cufydd* o hyd a 4 cufydd o led. Mae’n rhaid i’r darnau o ddefnydd i gyd fod yr un maint. 3 Cysyllta bum darn o ddefnydd at ei gilydd i greu un darn mawr o ddefnydd, a gwna’r un peth i’r pum darn arall o ddefnydd fel bod ’na ddau ddarn mawr. 4 Ar bob darn mawr o ddefnydd, ar yr ochr lle mae’r darn o ddefnydd yn gorffen, mae’n rhaid iti wnïo dolenni o edau las fel bod y ddau ddarn yn gallu cael eu cysylltu. 5 Byddi di’n creu 50 dolen ar ymyl un darn mawr o ddefnydd a 50 dolen ar ymyl y darn mawr arall o ddefnydd, fel eu bod nhw gyferbyn â’i gilydd lle maen nhw’n cysylltu. 6 Dylet ti greu 50 bachyn aur a chysylltu’r darnau mawr o ddefnydd at ei gilydd â’r bachau hynny, a bydd y tabernacl yn un uned.

7 “Byddi di hefyd yn creu darnau o ddefnydd allan o flew geifr i roi dros y tabernacl. Byddi di’n creu 11 darn o ddefnydd. 8 Bydd pob darn o ddefnydd yn 30 cufydd o hyd a 4 cufydd o led. Mae’n rhaid i’r 11 darn o ddefnydd fod yr un maint. 9 Dylet ti gysylltu pum darn o ddefnydd at ei gilydd i greu un darn mawr a gwneud yr un fath â’r chwe darn arall o ddefnydd, ac mae’n rhaid iti blygu chweched rhan y darn mawr hwnnw yn ôl arno’i hun ar flaen y babell. 10 A dylet ti roi 50 dolen ar hyd ymyl un darn mawr o ddefnydd, lle mae’r darn o ddefnydd yn gorffen, a 50 dolen ar hyd ymyl y darn mawr arall o ddefnydd lle maen nhw’n cysylltu. 11 Dylet ti wneud 50 bachyn copr a’u bachu nhw ar y dolenni er mwyn cysylltu’r babell at ei gilydd a’i gwneud yn un uned. 12 Bydd gweddill y defnydd yn hongian dros gefn y tabernacl, hynny yw, hanner y darn mawr o ddefnydd. 13 Bydd y defnydd sy’n hongian dros ochrau’r tabernacl yn gufydd yn hirach na’r defnydd sydd oddi tano, er mwyn ei orchuddio.

14 “Byddi di hefyd yn gwneud gorchudd ar gyfer y babell allan o grwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch, a gorchudd o grwyn morloi dros hynny.

15 “Ar gyfer ochrau’r tabernacl byddi di’n gwneud fframiau o goed acasia ac yn eu gosod nhw i sefyll yn syth i fyny. 16 Dylai pob ffrâm y tabernacl fod yn ddeg cufydd o uchder a chufydd a hanner o led. 17 Bydd gan bob ffrâm ddau denon* sydd wedi eu cysylltu â’i gilydd. Dyna sut dylet ti wneud holl fframiau’r tabernacl. 18 Dylet ti greu 20 ffrâm ar gyfer ochr ddeheuol y tabernacl, yn wynebu’r de.

19 “Byddi di’n creu 40 sylfaen arian* i’w rhoi o dan yr 20 ffrâm: dwy sylfaen* o dan bob ffrâm ar gyfer ei dau denon. 20 Ar gyfer ochr arall y tabernacl, yr ochr ogleddol, gwna 20 ffrâm 21 a gwna 40 sylfaen arian,* dwy sylfaen* o dan bob ffrâm. 22 Ar gyfer cefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, byddi di’n gwneud chwe ffrâm. 23 Byddi di’n gwneud dwy ffrâm a fydd yn ffurfio corneli cefn y tabernacl. 24 Dylai’r fframiau hyn gael eu gwneud allan o ddau ddarn o bren sy’n mynd o’r gwaelod i’r top. Dylen nhw gael eu cysylltu wrth ymyl y fodrwy gyntaf. Bydd y ddwy ffrâm yr un fath, a byddan nhw’n ffurfio’r ddwy gornel. 25 A bydd ’na wyth ffrâm ac 16 sylfaen arian,* dwy sylfaen* o dan bob ffrâm.

26 “Byddi di’n ffurfio polion o goed acasia, pump ar gyfer y fframiau ar un ochr y tabernacl, 27 pum polyn ar gyfer y fframiau ar ochr arall y tabernacl, a phum polyn ar gyfer y fframiau ar ochr orllewinol y tabernacl, sef y cefn. 28 Dylai’r polyn sy’n rhedeg ar draws canol y ffrâm estyn o un pen i’r llall.

29 “Byddi di’n gorchuddio’r fframiau ag aur, a byddi di’n creu modrwyau aur er mwyn dal y polion, a byddi di’n gorchuddio’r polion ag aur. 30 Mae’n rhaid iti roi’r tabernacl at ei gilydd yn ôl y cynllun a gafodd ei ddangos iti ar y mynydd.

31 “Dylet ti wneud llen o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. Bydd lluniau o gerwbiaid yn cael eu brodio ar y llen. 32 Byddi di’n hongian y llen ar bedair colofn o acasia wedi eu gorchuddio ag aur. Bydd bachau’r colofnau* yn cael eu gwneud allan o aur. Bydd y colofnau’n cael eu gosod ar bedair sylfaen arian.* 33 Byddi di’n hongian y llen o dan y bachau ac yn rhoi arch y Dystiolaeth y tu ôl i’r llen. Bydd y llen yn gwahanu’r Sanctaidd oddi wrth y Mwyaf Sanctaidd. 34 Mae’n rhaid iti roi’r caead dros arch y Dystiolaeth yn y Mwyaf Sanctaidd.

35 “Byddi di’n rhoi’r bwrdd o flaen y llen, gyda’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl; a byddi di’n rhoi’r bwrdd ar yr ochr ogleddol. 36 Byddi di’n gwneud sgrin* ar gyfer mynedfa’r babell allan o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main wedi eu gweu gyda’i gilydd. 37 Byddi di’n gwneud pum colofn o acasia ar gyfer y sgrin* ac yn eu gorchuddio nhw ag aur. Bydd y bachau’n cael eu gwneud o aur, a byddi di’n castio pum sylfaen gopr* ar eu cyfer nhw.

27 “Byddi di’n gwneud allor allan o goed acasia; fe fydd yn bum cufydd* o hyd a phum cufydd o led. Dylai’r allor fod yn sgwâr ac yn dri chufydd o uchder. 2 Byddi di’n gwneud cyrn ar y pedair cornel; bydd y cyrn yn rhan o’r allor, a byddi di’n gorchuddio’r allor â chopr. 3 Byddi di’n gwneud bwcedi er mwyn clirio’r lludw,* ynghyd â rhawiau, powlenni, ffyrc, a llestri i ddal tân, a byddi di’n creu’r holl offer hyn allan o gopr. 4 Byddi di’n creu gratin ar gyfer yr allor, rhwydwaith o gopr, ac ar y rhwydwaith hwnnw byddi di’n creu pedair modrwy gopr ar y pedair cornel. 5 Byddi di’n ei osod o dan rimyn yr allor, a bydd y rhwydwaith yn mynd hanner ffordd i lawr y tu mewn i’r allor. 6 Byddi di’n ffurfio polion allan o goed acasia ar gyfer yr allor ac yn eu gorchuddio nhw â chopr. 7 Bydd y polion yn mynd trwy’r modrwyau fel bod y polion ar ddwy ochr yr allor pan fydd yn cael ei chario. 8 Byddi di’n creu’r allor i edrych fel cist wag, gan ddefnyddio planciau. Dylai’r allor gael ei chreu yn union fel y dangosodd Ef iti ar y mynydd.

9 “Byddi di’n creu cwrt y tabernacl. Ar gyfer yr ochr ddeheuol, sy’n wynebu’r de, bydd gan y cwrt lenni wedi eu gwneud o liain main, yn hongian 100 cufydd o hyd ar un ochr. 10 Bydd ganddo 20 colofn ac 20 sylfaen gopr.* Bydd bachau a chysylltwyr* y colofnau yn cael eu gwneud allan o arian. 11 Bydd y llenni a fydd yn hongian ar yr ochr ogleddol hefyd yn 100 cufydd o hyd, ynghyd â’u 20 colofn a’u 20 sylfaen gopr,* gyda bachau a chysylltwyr* arian ar gyfer y colofnau. 12 Bydd y llenni a fydd yn hongian ar yr ochr orllewinol yn mesur 50 cufydd ar draws lled y cwrt, gyda deg colofn a deg sylfaen.* 13 Bydd lled y cwrt ar yr ochr ddwyreiniol i gyfeiriad y wawr yn 50 cufydd. 14 Fe fydd ’na 15 cufydd o lenni yn hongian ar un ochr, gyda thair colofn a thair sylfaen.* 15 Ac ar yr ochr arall, fe fydd ’na 15 cufydd o lenni yn hongian, gyda thair colofn a thair sylfaen.*

16 “Dylai mynedfa’r cwrt gael sgrin* 20 cufydd o hyd wedi ei gwneud o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main wedi eu gweu gyda’i gilydd, gyda phedair colofn a phedair sylfaen.* 17 Bydd gan bob colofn o amgylch y cwrt fachau a chysylltwyr arian, ond bydd eu sylfeini* yn cael eu gwneud allan o gopr. 18 Dylai’r cwrt fod yn 100 cufydd o hyd, 50 cufydd o led, a dylai’r llenni o amgylch y cwrt fod yn 5 cufydd o uchder, wedi eu gwneud o liain main, gyda sylfeini copr.* 19 Bydd rhaid i’r holl offer a’r eitemau sy’n cael eu defnyddio i wasanaethu yn y tabernacl, gan gynnwys pegiau’r pebyll a holl begiau’r cwrt, gael eu gwneud allan o gopr.

20 “Gorchmynna i’r Israeliaid ddod ag olew olewydd pur atat ti ar gyfer y goleuadau, fel bydd y lampau’n parhau i losgi drwy’r adeg. 21 Y tu mewn i babell y cyfarfod, y tu allan i’r llen sydd wrth ymyl y Dystiolaeth, bydd Aaron a’i feibion yn trefnu i gadw’r lampau’n llosgi o flaen Jehofa o fachlud yr haul tan y bore. Mae hyn yn ddeddf barhaol dylai’r Israeliaid ei chadw drwy eu holl genedlaethau.

28 “Dylet ti anfon am dy frawd Aaron, ynghyd â’i feibion, a’u gwahanu nhw oddi wrth yr Israeliaid, er mwyn iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid imi—Aaron, ynghyd â Nadab, Abihu, Eleasar, ac Ithamar, meibion Aaron. 2 Dylet ti wneud gwisg sanctaidd ar gyfer Aaron dy frawd, er mwyn rhoi gogoniant a harddwch iddo. 3 Dylet ti siarad â’r holl rai sy’n fedrus, y rhai rydw i wedi eu gwneud yn ddoeth, a byddan nhw’n gwneud gwisg i Aaron er mwyn ei sancteiddio, er mwyn iddo allu gwasanaethu fel offeiriad imi.

4 “Dyma’r dillad y byddan nhw’n eu gwneud: darn o wisg wedi ei brodio i fynd dros frest yr archoffeiriad, effod, côt heb lewys, mantell a phatrwm sgwarog iddi, tyrban, a sash; byddan nhw’n gwneud y dillad sanctaidd hyn ar gyfer dy frawd Aaron a’i feibion, er mwyn iddo wasanaethu fel offeiriad imi. 5 Bydd y gweithwyr medrus yn defnyddio’r aur, yr edau las, y gwlân porffor, y defnydd ysgarlad, a’r lliain main.

6 “Dylen nhw wneud yr effod allan o aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main, a dylai’r effod gael ei frodio. 7 Dylai’r effod fod fel ffedog gyda’r ddau ddarn o ddefnydd yn cysylltu â’i gilydd ar yr ysgwyddau. 8 Dylai belt* yr effod, sydd wedi cael ei weu ac sy’n clymu’r effod yn dynn yn ei le, gael ei wneud o’r un defnydd: aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main.

9 “Dylet ti gymryd dwy em onics a cherfio enwau meibion Israel arnyn nhw, 10 chwe enw ar un em a’r chwe enw arall ar yr em arall, yn ôl eu hoedran. 11 Bydd cerfiwr gemau yn cerfio enwau meibion Israel ar y ddwy em yn yr un ffordd ag y byddai’n cerfio sêl. Yna dylet ti osod y gemau mewn aur er mwyn eu dal nhw yn eu lle. 12 Dylet ti roi’r ddwy em ar ysgwyddau’r effod fel gemau coffa ar gyfer meibion Israel, ac mae’n rhaid i Aaron gario eu henwau o flaen Jehofa ar ysgwyddau’r effod er mwyn eu coffáu. 13 Dylet ti osod y gemau mewn aur, 14 a gwneud dwy gadwyn o aur pur wedi eu plethu fel cortyn, a chysylltu’r cadwyni hynny â’r aur o amgylch y gemau.

15 “Dylai brodiwr wneud y darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad ar gyfer barnu. Dylai gael ei wneud fel yr effod, allan o aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. 16 Dylai’r darn o wisg fod yn sgwâr ar ôl iddo gael ei ddyblu, yn rhychwant* o hyd ac yn rhychwant o led. 17 Dylet ti osod gemau ynddo, pedair rhes ohonyn nhw. Bydd y rhes gyntaf yn cynnwys rhuddem, topas, ac emrallt. 18 Bydd yr ail res yn cynnwys glasfaen, saffir, ac iasbis. 19 Bydd y drydedd res yn cynnwys yr em leshem,* agat, ac amethyst. 20 Bydd y bedwaredd res yn cynnwys beryl, onics, a jâd. Dylen nhw gael eu gosod mewn aur. 21 Bydd y gemau yn cyfateb i enwau 12 mab Israel. Dylai pob un gael ei gerfio fel sêl, pob enw yn cynrychioli un o’r 12 llwyth.

22 “Dylet ti wneud cadwyni wedi eu plethu fel rhaffau ar y darn o wisg wedi ei brodio sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad, fel rhaffau* wedi eu gwneud allan o aur pur. 23 Dylet ti wneud dwy fodrwy aur ar gyfer y darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad a gosod y ddwy fodrwy ar y corneli uchaf. 24 Dylet ti roi’r ddau gortyn aur drwy’r modrwyau hynny ar y corneli uchaf. 25 Byddi di’n rhoi pen arall y ddau gortyn drwy’r gosodiadau aur o amgylch y gemau onics sydd ar ysgwyddau’r effod, ar y tu blaen. 26 Dylet ti wneud dwy fodrwy o aur a’u gosod nhw ar gorneli’r darn o wisg, ar yr ochr fewnol sy’n wynebu’r effod. 27 Dylet ti wneud dwy fodrwy arall o aur a’u rhoi nhw ar flaen yr effod, o dan y ddwy ysgwydd, yn agos at le maen nhw’n cysylltu, uwchben belt* yr effod sydd wedi cael ei weu. 28 Dylai’r darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad gael ei ddal yn ei le â chortyn glas, gan glymu modrwyau’r darn o wisg i fodrwyau’r effod. Bydd hyn yn cadw’r darn o wisg yn ei le ar yr effod, uwchben y belt* sydd wedi ei weu.

29 “Pan fydd Aaron yn mynd i mewn i’r Sanctaidd, bydd rhaid iddo gario enwau meibion Israel dros ei galon ar y darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad ar gyfer barnu, er mwyn coffáu’r Israeliaid drwy’r adeg o flaen Jehofa. 30 Byddi di’n rhoi’r Urim a’r Thummim i mewn i’r darn o wisg hwnnw, a bydd rhaid iddyn nhw fod dros galon Aaron pan fydd yn mynd o flaen Jehofa, a bydd rhaid i Aaron eu cario dros ei galon o flaen Jehofa drwy’r adeg er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r Israeliaid.

31 “Dylet ti wneud côt heb lewys allan o edau las yn unig i fynd o dan yr effod. 32 Fe fydd ’na dwll yn ei chanol ar gyfer y pen. Bydd rhaid i’r twll gael ymyl wedi ei weu gan wehydd, yn debyg i’r twll sydd ar gôt rhyfelwr, er mwyn iddo beidio â chael ei rhwygo. 33 O amgylch ei hem, dylet ti wneud pomgranadau allan o edau las, gwlân porffor, a defnydd ysgarlad, a rhoi clychau o aur rhyngddyn nhw. 34 Mae’n rhaid i gloch aur a phomgranad fynd bob yn ail o amgylch hem y gôt heb lewys. 35 Dylai Aaron ei gwisgo er mwyn iddo allu gwasanaethu fel offeiriad,* ac mae’n rhaid i sŵn y clychau gael eu clywed wrth iddo fynd i mewn i’r cysegr o flaen Jehofa ac wrth iddo fynd allan, er mwyn iddo beidio â marw.

36 “Dylet ti wneud plât sgleiniog allan o aur pur a cherfio arno yn yr un ffordd ag y byddai rhywun yn cerfio sêl: ‘Mae sancteiddrwydd yn perthyn i Jehofa.’ 37 Mae’n rhaid iti ei glymu i’r tyrban â chortyn glas; dylai aros ar flaen y tyrban. 38 Bydd yn mynd ar dalcen Aaron, a bydd Aaron yn gyfrifol pan fydd rhywun yn pechu yn erbyn y pethau sanctaidd, y pethau mae’r Israeliaid wedi eu hoffrymu fel anrhegion sanctaidd. Mae’n rhaid i’r plât aros ar ei dalcen drwy’r adeg, er mwyn iddyn nhw allu ennill cymeradwyaeth o flaen Jehofa.

39 “Dylet ti weu mantell a phatrwm sgwarog iddi allan o liain main, a gwneud tyrban allan o liain main. Dylet ti hefyd weu sash.

40 “Byddi di hefyd yn gwneud mentyll, sashiau, a phenwisgoedd ar gyfer meibion Aaron, er mwyn rhoi gogoniant a harddwch iddyn nhw. 41 Byddi di’n rhoi’r rhain am dy frawd Aaron a’i feibion gydag ef, a dylet ti eu heneinio nhw a’u penodi fel offeiriaid a’u sancteiddio nhw, a byddan nhw’n gwasanaethu fel offeiriaid i mi. 42 Mae’n rhaid iti hefyd wneud dillad isaf allan o liain, sy’n mynd o’r canol at y pen-glin er mwyn cuddio eu cyrff noeth. 43 Bydd rhaid i Aaron a’i feibion eu gwisgo pan fyddan nhw’n mynd i mewn i babell y cyfarfod neu pan fyddan nhw’n mynd at yr allor i wasanaethu fel offeiriaid yn y lle sanctaidd, fel na fyddan nhw’n euog ac yn marw. Mae hyn yn ddeddf barhaol ar gyfer ef a’i ddisgynyddion* a fydd yn dod ar ei ôl.

29 “Dyma beth mae’n rhaid iti ei wneud i’w sancteiddio nhw er mwyn iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid imi: Cymera darw ifanc, dau hwrdd* di-nam, 2 bara croyw, torthau siâp modrwy heb furum sydd wedi eu cymysgu ag olew, a bara croyw tenau sydd ag olew arno. Dylet ti eu gwneud nhw â’r blawd* gwenith gorau 3 a’u rhoi nhw mewn basged a’u cyflwyno nhw yn y fasged. Dylet ti hefyd offrymu’r tarw a’r ddau hwrdd.*

4 “Byddi di’n cyflwyno Aaron a’i feibion wrth fynedfa pabell y cyfarfod ac yn eu golchi nhw â dŵr. 5 Yna dylet ti gymryd y dillad a rhoi’r fantell am Aaron yn ogystal â’r gôt heb lewys sy’n mynd o dan yr effod, yr effod, a’r darn o wisg wedi ei brodio, a dylet ti glymu belt* yr effod sydd wedi ei weu yn dynn am ei ganol. 6 Byddi di’n rhoi’r tyrban ar ei ben ac yn rhoi’r arwydd sanctaidd o gysegriad i Dduw* ar y tyrban; 7 a byddi di’n cymryd yr olew eneinio ac yn ei dywallt* ar ei ben ac yn ei eneinio.

8 “Yna tyrd â’i feibion yn agos ata i a’u gwisgo nhw â’r mentyll 9 a lapio’r sashiau o’u cwmpas nhw, Aaron ynghyd â’i feibion, a rho’r penwisgoedd arnyn nhw; a bydd y dynion hyn a’u disgynyddion yn offeiriaid a bydd hyn yn ddeddf barhaol. Dyma sut dylet ti benodi Aaron a’i feibion i wasanaethu fel offeiriaid.

10 “Nawr dylet ti gyflwyno’r tarw o flaen pabell y cyfarfod, a bydd Aaron a’i feibion yn gosod eu dwylo ar ben y tarw. 11 Dylet ti ladd y tarw o flaen Jehofa, wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 12 Cymera ychydig o waed y tarw ar dy fys a’i roi ar gyrn yr allor, a thywallt* gweddill y gwaed wrth droed yr allor. 13 Yna cymera’r holl fraster sy’n gorchuddio’r perfeddion, y braster sydd ar yr iau, a’r ddwy aren ynghyd â’u braster, a llosga nhw fel bod mwg yn codi oddi arnyn nhw ar yr allor. 14 Ond llosga gig y tarw â thân y tu allan i’r gwersyll, ynghyd â’i groen a’i garthion.* Mae’n offrwm dros bechod.

15 “Yna cymera un o’r hyrddod,* a bydd Aaron a’i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr hwrdd.* 16 Dylet ti ladd yr hwrdd* a chymryd ei waed a’i daenellu ar bob ochr i’r allor. 17 Torra’r hwrdd* yn ddarnau, a golcha ei berfeddion a’i goesau, a threfna’r darnau hyn, gan gynnwys y pen, ar yr allor. 18 Mae’n rhaid iti losgi’r hwrdd* cyfan, gan wneud i fwg godi oddi arno ar yr allor. Mae’n offrwm llosg i Jehofa, yn arogl sy’n ei blesio. Mae’n offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa.

19 “Nesaf mae’n rhaid iti gymryd yr hwrdd* arall, a bydd Aaron a’i feibion yn gosod eu dwylo ar ben yr hwrdd.* 20 Dylet ti ladd yr hwrdd* a chymryd ychydig o’i waed a’i roi ar waelod clust dde Aaron ac ar waelod clust dde bob un o’i feibion ac ar fawd llaw dde pob un ac ar fawd troed dde pob un, a thaenella’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 21 Yna cymera ychydig o’r gwaed sydd ar yr allor ac ychydig o’r olew eneinio a’u taenellu ar Aaron ac ar ei ddillad a hefyd ar ei feibion ac ar ddillad ei feibion, er mwyn iddo ef a’i ddillad a hefyd ei feibion a’u dillad nhw fod yn sanctaidd.

22 “Yna tynna’r braster oddi ar yr hwrdd,* hynny yw, y braster sydd ar y cynffon, y braster sy’n gorchuddio’r perfeddion, y braster sydd ar yr iau, y ddwy aren ynghyd â’u braster, a’r goes dde, oherwydd mae’n hwrdd* sy’n cael ei offrymu er mwyn penodi’r offeiriaid, hwrdd* y penodi. 23 Cymera hefyd dorth gron o fara, torth siâp modrwy sydd wedi ei chymysgu ag olew, a bara tenau allan o’r fasged o fara croyw sydd o flaen Jehofa. 24 Mae’n rhaid iti roi’r cwbl yn nwylo Aaron ac yn nwylo ei feibion, ac mae’n rhaid i’r pethau hyn gael eu chwifio yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. 25 Yna byddi di’n eu cymryd nhw allan o’u dwylo ac yn eu llosgi nhw ar yr allor, ar ben yr offrwm llosg, fel arogl sy’n plesio Jehofa. Mae’n offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa.

26 “Yna cymera frest hwrdd* y penodi, sy’n cael ei offrymu ar ran Aaron, a’i chwifio yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa, a dyna fydd dy ran di. 27 Dylet ti sancteiddio coes a brest hwrdd* y penodi, sy’n cael ei offrymu ar ran Aaron a’i feibion, y rhannau a gafodd eu chwifio o flaen Duw. 28 Bydd y rhannau hynny yn mynd i Aaron a’i feibion fel deddf barhaol, a dylai’r Israeliaid gadw at y ddeddf honno oherwydd mae’n offrwm sanctaidd y mae’n rhaid i’r Israeliaid ei gyflwyno. Dyna yw offrwm sanctaidd yr Israeliaid i Jehofa sy’n dod o’u haberthau heddwch.

29 “Bydd y dillad sanctaidd sy’n perthyn i Aaron yn cael eu defnyddio gan ei feibion ar ei ôl pan fyddan nhw’n cael eu heneinio a’u penodi’n offeiriaid. 30 Bydd yr offeiriad sy’n cymryd ei le o blith ei feibion, ac sy’n dod i mewn i babell y cyfarfod i wasanaethu yn y lle sanctaidd, yn eu gwisgo nhw am saith diwrnod.

31 “Byddi di’n cymryd hwrdd* y penodi ac yn berwi ei gig mewn lle sanctaidd. 32 Bydd Aaron a’i feibion yn bwyta cig yr hwrdd* a’r bara sydd yn y fasged wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 33 Dylen nhw fwyta’r pethau a gafodd eu haberthu ar gyfer maddeuant pechodau ac ar gyfer eu penodi nhw’n offeiriaid a’u sancteiddio nhw. Ond ni all unrhyw un eu bwyta os nad oes ganddo’r hawl,* gan eu bod nhw’n rhywbeth sanctaidd. 34 Ar ôl ichi offrymu aberth y penodi, os oes ’na unrhyw gig neu fara dros ben y bore wedyn, yna mae’n rhaid iti losgi beth sydd ar ôl â thân. Ni ddylai gael ei fwyta, gan ei fod yn rhywbeth sanctaidd.

35 “Dylet ti wneud hyn i Aaron a’i feibion, yn ôl popeth rydw i wedi ei orchymyn iti. Bydd yn cymryd saith diwrnod iti eu penodi nhw’n offeiriaid. 36 Byddi di’n offrymu tarw yr offrwm dros bechod bob dydd ar gyfer maddeuant pechodau, a dylet ti buro’r allor rhag pechod drwy offrymu’r aberth hwn ar gyfer maddeuant pechodau, ac mae’n rhaid iti ei heneinio er mwyn ei sancteiddio. 37 Bydd yn cymryd saith diwrnod iti buro’r allor, ac mae’n rhaid iti ei sancteiddio er mwyn iddi fod yn allor sanctaidd iawn. Dylai unrhyw un sy’n cyffwrdd â’r allor fod yn sanctaidd.

38 “Dyma beth byddi di’n ei offrymu ar yr allor: dau hwrdd* blwydd oed, bob diwrnod, yn barhaol. 39 Offryma un hwrdd* ifanc yn y bore a’r hwrdd* arall yn y gwyll.* 40 Gyda’r hwrdd* ifanc cyntaf offryma ddegfed ran o fesur effa* o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu â chwarter hin* o olew olewydd, a chwarter hin o win fel offrwm diod. 41 Offryma’r ail hwrdd* ifanc yn y gwyll,* ynghyd â’r un offrymau grawn ac offrymau diod ag y cafodd eu haberthu yn y bore. Bydd hyn yn offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, a bydd yr arogl yn ei blesio. 42 Dylai’r offrwm llosg hwn gael ei gyflwyno’n rheolaidd wrth fynedfa pabell y cyfarfod o flaen Jehofa, dyna lle bydda i’n fy nghyflwyno fy hun iti er mwyn siarad â ti yno. O hyn ymlaen byddwch chi a’ch disgynyddion yn gwneud hyn drwy eich holl genedlaethau.

43 “Bydda i’n fy nghyflwyno fy hun yno i’r Israeliaid, a bydd y lle hwnnw’n cael ei sancteiddio gan fy ngogoniant. 44 Bydda i’n sancteiddio pabell y cyfarfod a’r allor, a bydda i’n sancteiddio Aaron a’i feibion er mwyn iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid imi. 45 Bydda i’n byw ymysg pobl Israel, a bydda i’n Dduw iddyn nhw. 46 A byddan nhw’n bendant yn gwybod mai fi yw Jehofa eu Duw, yr un a wnaeth eu harwain nhw allan o wlad yr Aifft er mwyn imi fyw yn eu plith nhw. Fi yw Jehofa eu Duw.

30 “Dylet ti wneud allor ar gyfer llosgi arogldarth; dylet ti ei gwneud allan o goed acasia. 2 Dylai’r allor fod yn sgwâr, yn gufydd* o hyd, yn gufydd o led, ac yn ddau gufydd o uchder. Bydd ei chyrn yn rhan ohoni. 3 Dylet ti ei gorchuddio ag aur pur: y top, yr ochrau, a’r cyrn; a dylet ti roi ymyl aur o’i hamgylch. 4 O dan ymyl yr allor byddi di’n rhoi dwy fodrwy o aur, dwy ar un ochr, a dwy ar yr ochr arall, a bydd y polion yn mynd trwy’r rhain er mwyn ei chario. 5 Gwna’r polion allan o goed acasia a’u gorchuddio ag aur. 6 Dylet ti roi’r allor o flaen y llen sydd wrth ymyl arch y Dystiolaeth, o flaen y caead sydd dros y Dystiolaeth, lle bydda i’n fy nghyflwyno fy hun iti.

7 “Bydd Aaron yn llosgi arogldarth persawrus arni, gan wneud i fwg godi oddi arno ar yr allor wrth baratoi’r lampau bob bore. 8 Hefyd, pan fydd Aaron yn goleuo’r lampau yn y gwyll,* bydd yn llosgi’r arogldarth. Byddwch chi’n offrymu arogldarth yn rheolaidd o flaen Jehofa drwy eich holl genedlaethau. 9 Ni ddylech chi offrymu arogldarth anghyfreithlon arni nac offrwm llosg nac offrwm grawn, ac ni ddylech chi dywallt* offrwm diod arni. 10 Bydd rhaid i Aaron roi ychydig o waed anifail yr offrwm dros bechod ar gyrn yr allor er mwyn puro’r allor. Bydd yn gwneud hynny unwaith y flwyddyn drwy eich holl genedlaethau. Mae’n sanctaidd iawn i Jehofa.”

11 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 12 “Bryd bynnag byddi di’n gwneud cyfrifiad ac yn cyfri meibion Israel, bydd rhaid i bob un dalu’r pris i Jehofa am ei fywyd ar adeg y cyfrifiad. O wneud hyn, ni fydd pla yn dod arnyn nhw pan fyddan nhw’n cael eu cofrestru. 13 Dyma beth bydd y rhai sydd wedi eu cofrestru yn ei roi: hanner sicl* yn ôl sicl y lle sanctaidd.* Mae ugain gera* yn gyfartal â sicl. Hanner sicl ydy’r cyfraniad i Jehofa. 14 Bydd pawb sydd wedi eu cofrestru sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn yn rhoi cyfraniad i Jehofa. 15 Ni ddylai’r cyfoethog roi mwy ac ni ddylai’r tlawd roi llai na hanner sicl* fel cyfraniad i Jehofa er mwyn talu’r pris am eu bywydau. 16 Dylet ti gymryd yr arian ar gyfer talu’r pris am eu bywydau oddi ar yr Israeliaid i gefnogi’r gwasanaeth sy’n cael ei wneud ym mhabell y cyfarfod, er mwyn i Jehofa gofio’r Israeliaid, ac i dalu’r pris am eich bywydau.”

17 Parhaodd Jehofa i ddweud wrth Moses: 18 “Gwna fasn copr ar gyfer ymolchi, yn ogystal â stand iddo; ac yna rho’r basn rhwng pabell y cyfarfod a’r allor a rho ddŵr ynddo. 19 Bydd Aaron a’i feibion yn golchi eu dwylo a’u traed yno. 20 Pan fyddan nhw’n mynd i mewn i babell y cyfarfod neu pan fyddan nhw’n mynd at yr allor er mwyn gwasanaethu ac i wneud offrymau o dân a mwg i Jehofa, byddan nhw’n ymolchi â dŵr fel na fyddan nhw’n marw. 21 Bydd rhaid iddyn nhw olchi eu dwylo a’u traed er mwyn iddyn nhw beidio â marw, a bydd yn rheol barhaol ar eu cyfer nhw, ar ei gyfer ef a’i ddisgynyddion, drwy eu holl genedlaethau.”

22 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 23 “Nesaf, cymera’r perlysiau gorau: 500 uned o fyrr solet, a hanner hynny o sinamon melys, 250 uned. Hefyd, 250 uned o galamus melys, 24 a 500 uned o gasia, wedi eu mesur yn ôl sicl y lle sanctaidd, ynghyd â hin* o olew olewydd. 25 Yna gwna olew eneinio sanctaidd allan o’r rhain; dylai gael ei gymysgu fel petai rhywun sy’n arbenigo yn y grefft wedi ei gymysgu. Bydd yn olew sanctaidd ar gyfer eneinio.

26 “Dylet ti eneinio pabell y cyfarfod ac arch y Dystiolaeth â’r olew, 27 yn ogystal â’r bwrdd a’i holl offer, y canhwyllbren a’i offer, allor yr arogldarth, 28 allor yr offrymau llosg a’i holl offer, a’r basn a’i stand. 29 Mae’n rhaid iti eu sancteiddio er mwyn iddyn nhw fod yn sanctaidd iawn. Dylai unrhyw un sydd yn eu cyffwrdd fod yn sanctaidd. 30 A byddi di’n eneinio Aaron a’i feibion ac yn eu sancteiddio nhw i wasanaethu fel offeiriaid imi.

31 “Byddi di’n siarad â’r Israeliaid, gan ddweud, ‘Bydd hyn yn olew eneinio sanctaidd imi drwy eich holl genedlaethau. 32 Ni ddylai gael ei roi ar gorff unrhyw ddyn, ac ni ddylech chi wneud unrhyw olew tebyg iddo. Mae’n rhywbeth sanctaidd. Dylai wastad fod yn rhywbeth sanctaidd ichi. 33 Bydd pwy bynnag sy’n gwneud olew persawrus tebyg iddo ac yn rhoi ychydig ohono ar rywun sydd ddim yn offeiriad* yn cael ei ladd.’”*

34 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Cymera rannau cyfartal o’r perlysiau hyn: diferion o stacte, onycha, galbanum persawrus, a thus pur. 35 Defnyddia’r rhain i wneud arogldarth. Dylai’r sbeisys gael eu cymysgu fel petai rhywun sy’n arbenigo yn y grefft wedi eu cymysgu, a dylai’r cymysgedd gael ei halltu, a dylai fod yn bur ac yn sanctaidd. 36 Dylet ti guro ychydig ohono yn bowdr mân a rhoi ychydig o’r powdr o flaen y Dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle bydda i’n fy nghyflwyno fy hun iti. Dylai fod yn sanctaidd iawn ichi. 37 Ni ddylech chi wneud arogldarth i chi’ch hunain sy’n debyg i’r arogldarth hwn gan ei fod yn rhywbeth sanctaidd i Jehofa. 38 Bydd pwy bynnag sy’n gwneud rhywbeth tebyg iddo er mwyn mwynhau’r arogl yn cael ei ladd.”*

31 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Edrycha, rydw i wedi dewis Besalel, mab Uri, mab Hur o lwyth Jwda. 3 Bydda i’n ei lenwi ag ysbryd Duw, gan roi iddo ddoethineb, dealltwriaeth, a gwybodaeth am bob math o grefftwaith, 4 ar gyfer gwneud dyluniadau artistig, ar gyfer gweithio ag aur, arian, a chopr, 5 ar gyfer torri gemau a’u gosod, ac ar gyfer gwneud pob math o bethau allan o bren. 6 Ar ben hynny, rydw i wedi penodi Oholiab fab Ahisamach o lwyth Dan i’w helpu, ac rydw i am roi doethineb yng nghalonnau pob gweithiwr medrus, er mwyn iddyn nhw wneud popeth rydw i wedi ei orchymyn iti: 7 pabell y cyfarfod, arch y Dystiolaeth a’r caead sydd arni, holl offer y babell, 8 y bwrdd a’i offer, y canhwyllbren o aur pur a’i holl offer, allor yr arogldarth, 9 allor yr offrymau llosg a’i holl offer, y basn a’i stand, 10 y dillad hardd sydd wedi cael eu gweu, y dillad sanctaidd ar gyfer Aaron yr offeiriad, dillad ei feibion er mwyn iddyn nhw wasanaethu fel offeiriaid, 11 yr olew eneinio, a’r arogldarth persawrus ar gyfer y cysegr. Byddan nhw’n gwneud popeth rydw i wedi ei orchymyn iti.”

12 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 13 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Yn bennaf, dylech chi gadw fy sabothau, gan eu bod nhw’n arwydd rhyngo i a chi drwy eich holl genedlaethau er mwyn ichi wybod fy mod i, Jehofa, yn eich sancteiddio chi. 14 Mae’n rhaid ichi gadw’r Saboth, gan ei fod yn rhywbeth sanctaidd ichi. Mae’n rhaid i bwy bynnag sy’n ei dorri gael ei roi i farwolaeth. Os ydy unrhyw un yn gweithio ar y Saboth, yna mae’n rhaid i’r person hwnnw gael ei ladd.* 15 Cewch chi weithio am chwe diwrnod, ond mae’r seithfed dydd yn saboth ar gyfer gorffwys llwyr. Mae’n rhywbeth sanctaidd i Jehofa. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gweithio ar y Saboth gael ei roi i farwolaeth. 16 Mae’n rhaid i’r Israeliaid gadw’r Saboth; dylen nhw gadw’r Saboth drwy eu holl genedlaethau. Mae hyn yn gyfamod parhaol. 17 Mae hyn yn arwydd parhaol rhyngo i a phobl Israel, oherwydd creodd Jehofa y nefoedd a’r ddaear mewn chwe diwrnod ac ar y seithfed dydd gwnaeth orffwys a’i adfywio ei hun.’”

18 Nawr unwaith iddo orffen siarad ag ef ar Fynydd Sinai, rhoddodd ddwy lech y Dystiolaeth i Moses, llechau carreg roedd Duw wedi ysgrifennu arnyn nhw â’i fys.

32 Yn y cyfamser, gwelodd y bobl fod Moses yn cymryd amser hir i ddod i lawr o’r mynydd. Felly casglodd y bobl o gwmpas Aaron a dweud wrtho: “Cod, gwna dduw ar ein cyfer ni er mwyn ein harwain ni, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd i’r Moses hwn, y dyn a wnaeth ein harwain ni allan o wlad yr Aifft.” 2 Yna dyma Aaron yn dweud wrthyn nhw: “Cymerwch glustlysau aur eich gwragedd, eich meibion, a’ch merched a dewch â nhw ata i.” 3 Felly dechreuodd yr holl bobl dynnu eu clustlysau aur a’u rhoi nhw i Aaron. 4 Yna cymerodd yr aur oddi arnyn nhw a defnyddio offeryn cerfio i ffurfio delw siâp llo allan ohono. Dechreuon nhw ddweud: “Dyma eich Duw, O Israel, yr un a wnaeth eich arwain chi allan o wlad yr Aifft.”

5 Pan welodd Aaron hyn, adeiladodd allor o flaen y ddelw. Yna gwaeddodd Aaron: “Fe fydd ’na ŵyl ar gyfer Jehofa yfory.” 6 Felly gwnaethon nhw godi’n gynnar y bore wedyn a dechrau cyflwyno offrymau llosg ac aberthau heddwch. Ar ôl hynny eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed. Yna fe godon nhw i gael amser da.

7 Nawr dyma Jehofa yn dweud wrth Moses: “Dos i lawr, oherwydd mae dy bobl, y rhai gwnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft, wedi gwneud rhywbeth ffiaidd. 8 Yn gyflym iawn maen nhw wedi cefnu ar y ffordd rydw i wedi gorchymyn iddyn nhw fyw. Maen nhw wedi gwneud delw siâp llo iddyn nhw eu hunain, ac maen nhw’n parhau i ymgrymu o’i blaen ac i aberthu iddi, gan ddweud, ‘Dyma eich Duw, O Israel, yr un a wnaeth eich arwain chi allan o wlad yr Aifft.’” 9 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: “Rydw i wedi gweld bod y bobl hyn yn bengaled. 10 Felly gad lonydd imi, a bydda i’n eu lladd nhw yn fy nicter, ac allan ohonot ti y bydda i’n gwneud cenedl fawr yn eu lle.”

11 Yna erfyniodd Moses ar Jehofa ei Dduw a dweud: “Pam, O Jehofa, y dylet ti droi dy ddicter yn erbyn dy bobl ar ôl dod â nhw allan o wlad yr Aifft â nerth mawr a llaw gadarn? 12 Pam dylai’r Eifftiaid ddweud, ‘Roedd ganddo fwriadau drwg pan aeth â nhw allan. Roedd Ef eisiau eu lladd nhw yn y mynyddoedd a chael gwared arnyn nhw oddi ar wyneb y ddaear’? Tro i ffwrdd o dy ddicter ac ailfeddylia dy benderfyniad i gosbi dy bobl. 13 Cofia dy weision Abraham, Isaac, ac Israel, y rhai y gwnest ti dyngu llw iddyn nhw yn dy enw dy hun gan ddweud: ‘Bydda i’n sicr yn lluosogi eich disgynyddion* fel sêr y nefoedd, a bydda i’n rhoi’r wlad hon i’ch disgynyddion* er mwyn iddyn nhw ei meddiannu fel eiddo parhaol.’”

14 Felly dechreuodd Jehofa ailfeddwl y gosb roedd yn bwriadu dod ar ei bobl.

15 Yna trodd Moses a mynd i lawr o’r mynydd gyda dwy lech y Dystiolaeth yn ei law. Roedd y llechau wedi cael eu cerfio ar y ddwy ochr; roedd ’na ysgrifen ar y blaen ac ar y cefn. 16 Crefftwaith Duw oedd y llechau, ac ysgrifen Duw oedd wedi ei cherfio arnyn nhw. 17 Pan glywodd Josua sŵn y bobl a’u gweiddi, dywedodd wrth Moses: “Mae ’na dwrw rhyfel yn y gwersyll.” 18 Ond dywedodd Moses:

“Nid twrw canu dros fuddugoliaeth* ydy hyn,

Ac nid yw’n dwrw crio dros orchfygiad;

Rydw i’n clywed math arall o ganu.”

19 Unwaith i Moses ddechrau agosáu at y gwersyll a gweld y llo a’r dawnsio, gwylltiodd yn llwyr, a thaflodd y llechau o’i ddwylo a’u malu nhw wrth droed y mynydd. 20 Cymerodd y llo roedden nhw wedi ei wneud a’i losgi â thân a’i falu’n bowdr; ac yna gwasgarodd y powdr ar y dŵr a gorfodi’r Israeliaid i’w yfed. 21 A dywedodd Moses wrth Aaron: “Rwyt ti wedi achosi i’r bobl bechu’n fawr. Sut gwnaethon nhw dy berswadio di i wneud hyn?” 22 Atebodd Aaron: “Paid â gwylltio, fy arglwydd. Rwyt ti’n gwybod yn iawn bod y bobl hyn yn dueddol o wneud pethau drwg. 23 Felly dywedon nhw, ‘Gwna dduw ar ein cyfer ni er mwyn ein harwain, oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd i’r Moses hwn, y dyn a wnaeth ein harwain ni allan o wlad yr Aifft.’ 24 Felly dywedais wrthyn nhw, ‘Mae’n rhaid i bwy bynnag sy’n gwisgo aur ei dynnu i ffwrdd a’i roi imi.’ Yna gwnes i daflu’r aur i’r tân a daeth y llo hwn allan ohono.”

25 Gwelodd Moses fod y bobl allan o reolaeth, am fod Aaron wedi gadael iddyn nhw fynd allan o reolaeth. Felly roedden nhw wedi dwyn gwarth arnyn nhw eu hunain o flaen eu gwrthwynebwyr. 26 Yna safodd Moses wrth giât y gwersyll a dweud: “Pwy sydd ar ochr Jehofa? Dewch ata i!” A chasglodd y Lefiaid i gyd o’i gwmpas. 27 Nawr dywedodd wrthyn nhw: “Dyma beth mae Jehofa, Duw Israel, wedi ei ddweud, ‘Mae’n rhaid i bob un ohonoch chi wisgo eich cleddyf a phasio trwy’r gwersyll cyfan o giât i giât, gan ladd ei frawd, ei gymydog, a’i ffrind agos.’” 28 Dyma’r Lefiaid yn gwneud yr hyn a ddywedodd Moses. Felly cafodd tua 3,000 o ddynion eu lladd ar y diwrnod hwnnw. 29 Yna dywedodd Moses: “Sancteiddiwch eich hunain ar gyfer gwasanaeth Jehofa, gan fod pob un ohonoch chi wedi mynd yn erbyn eich meibion eich hunain a’ch brodyr eich hunain; bydd ef yn eich bendithio chi heddiw.”

30 Y diwrnod wedyn, dywedodd Moses wrth y bobl: “Gwnaethoch chi bechu’n ddifrifol, ac nawr bydda i’n mynd i fyny at Jehofa i weld beth galla i ei wneud er mwyn iddo faddau eich pechodau.” 31 Felly aeth Moses yn ôl at Jehofa a dweud: “Mae’r bobl wedi pechu’n ddifrifol! Maen nhw wedi gwneud duw aur iddyn nhw eu hunain! 32 Ond nawr, os wyt ti’n fodlon, maddeua iddyn nhw am eu pechodau, ac os nad wyt ti, plîs dileu fy enw o dy lyfr, o’r llyfr rwyt ti wedi ei ysgrifennu.” 33 Ond, dywedodd Jehofa wrth Moses: “Pwy bynnag sydd wedi pechu yn fy erbyn i, bydda i’n dileu ei enw o fy llyfr. 34 Dos nawr, ac arwain y bobl i’r lle rydw i wedi sôn wrthot ti amdano. Edrycha! Bydd fy angel yn mynd o dy flaen di, ac ar y diwrnod bydda i’n eu barnu nhw, bydda i’n eu cosbi am eu pechodau.” 35 Yna daeth Jehofa â phla ar y bobl am eu bod nhw wedi gwneud llo, yr un roedd Aaron wedi ei wneud.

33 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: “Dos di oddi yma gyda’r bobl y gwnest ti eu harwain allan o wlad yr Aifft. Teithia i’r wlad y gwnes i ei haddo i Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddweud, ‘I dy ddisgynyddion* bydda i’n ei rhoi.’ 2 Bydda i’n anfon angel o’ch blaenau chi ac yn gyrru allan y Canaaneaid, yr Amoriaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid. 3 Ewch i wlad lle mae llaeth a mêl yn llifo. Ond ni fydda i yn eich plith chi rhag ofn imi eich lladd chi ar y ffordd, gan eich bod chi’n bobl bengaled.”

4 Pan glywodd y bobl y geiriau llym hyn, dechreuon nhw alaru, ac ni wnaethon nhw wisgo eu gemwaith.* 5 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Rydych chi’n bobl bengaled. Byddwn i’n gallu dod yn eich plith chi a’ch lladd mewn dim o amser. Felly nawr peidiwch â rhoi eich gemwaith* ymlaen tra fy mod i’n ystyried beth i’w wneud â chi.’” 6 Felly o Fynydd Horeb ymlaen, ni wnaeth yr Israeliaid wisgo* eu gemwaith.*

7 Nawr cymerodd Moses ei babell a’i gosod y tu allan i’r gwersyll, cryn dipyn o bellter oddi wrth y gwersyll, ac fe wnaeth ei galw’n babell y cyfarfod. Byddai pawb a oedd yn gofyn am arweiniad Jehofa yn mynd allan at babell y cyfarfod, a oedd y tu allan i’r gwersyll. 8 Unwaith i Moses fynd allan at y babell, byddai’r holl bobl yn codi ac yn sefyll wrth fynedfa eu pebyll nhw eu hunain, a bydden nhw’n syllu ar Moses nes iddo gerdded i mewn i’r babell. 9 Unwaith i Moses fynd i mewn i’r babell, byddai’r golofn o gwmwl yn dod i lawr ac yn sefyll wrth fynedfa’r babell tra oedd Duw yn siarad â Moses. 10 Pan welodd yr holl bobl y golofn o gwmwl yn sefyll wrth fynedfa’r babell, cododd pob un ohonyn nhw ac ymgrymu wrth fynedfa ei babell ei hun. 11 Siaradodd Jehofa â Moses wyneb yn wyneb, yn union fel y byddai dyn yn siarad â dyn arall. Pan fyddai’n mynd yn ôl i’r gwersyll, ni fyddai Josua fab Nun, ei weinidog a’i was, yn gadael y babell.

12 Nawr dyma Moses yn dweud wrth Jehofa: “Edrycha, rwyt ti’n dweud wrtho i, ‘Arwain y bobl hyn i fyny,’ ond dwyt ti ddim wedi gadael imi wybod pwy byddi di’n ei anfon gyda mi. Fodd bynnag, rwyt ti wedi dweud, ‘Rydw i wedi dy ddewis di,* ac rwyt ti wedi ennill fy ffafr.’ 13 Plîs, os ydw i wedi dy blesio, gad imi wybod dy ffyrdd, er mwyn imi allu dy adnabod di a pharhau i ennill dy ffafr. Cofia hefyd, mai’r genedl hon yw dy bobl.” 14 Felly dywedodd: “Bydda i fy hun yn mynd gyda ti, a bydda i’n rhoi gorffwys iti.” 15 Yna dywedodd Moses wrtho: “Os nad wyt ti am ddod gyda ni, paid â’n harwain ni o’r lle ’ma. 16 Sut bydda i’n gwybod fy mod i wedi ennill ffafr yn dy olwg, fi a dy bobl? Onid y ffaith dy fod ti gyda ni sy’n ein gwahaniaethu ni oddi wrth holl bobloedd eraill y ddaear?”

17 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: “Bydda i’n gwneud yr hyn rwyt ti wedi gofyn amdano, oherwydd rwyt ti wedi ennill ffafr yn fy ngolwg, ac rydw i’n dy adnabod di wrth dy enw.” 18 Yna dywedodd Moses: “Plîs dangosa dy ogoniant imi.” 19 Ond dywedodd ef: “Bydda i’n gwneud i fy holl ddaioni basio o flaen dy wyneb, a bydda i’n cyhoeddi o dy flaen di enw Jehofa, a bydda i’n dangos ffafr tuag at bwy bynnag rydw i’n ei ddymuno, a bydda i’n dangos trugaredd tuag at bwy bynnag rydw i’n ei ddewis.” 20 Ond ychwanegodd: “Chei di ddim gweld fy wyneb, oherwydd ni all unrhyw ddyn fy ngweld i a byw.”

21 Ychwanegodd Jehofa: “Dyma le sy’n agos ata i. Saf di ar y graig. 22 Pan fydd fy ngogoniant yn pasio heibio, bydda i’n dy roi di i mewn i ogof yn y graig, a bydda i’n dy amddiffyn di â fy llaw nes imi basio heibio. 23 Ar ôl hynny bydda i’n cymryd fy llaw i ffwrdd, a byddi di’n gweld fy nghefn. Ond chei di ddim gweld fy wyneb.”

34 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Mae’n rhaid iti gerfio iti dy hun ddwy lech garreg sydd fel y rhai cyntaf, a bydda i’n ysgrifennu ar y llechau yr un geiriau a wnaeth ymddangos ar y llechau cyntaf, y rhai gwnest ti eu malu’n deilchion. 2 Bydda’n barod am y bore, oherwydd byddi di’n mynd i fyny Mynydd Sinai ac yn sefyll o fy mlaen i yno ar ben y mynydd. 3 Ond ni all neb ddod i fyny gyda ti, ac ni ddylai neb arall fod ar y mynydd o gwbl. Ni ddylai hyd yn oed y defaid na’r gwartheg bori o flaen y mynydd hwnnw.”

4 Felly dyma Moses yn cerfio dwy lech garreg fel y rhai cyntaf ac yn codi’n gynnar yn y bore a mynd i ben Mynydd Sinai, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo, a chymerodd y ddwy lech garreg yn ei ddwylo. 5 Yna daeth Jehofa i lawr yn y cwmwl a sefyll wrth ymyl Moses ar y mynydd a chyhoeddi enw Jehofa. 6 Roedd Jehofa yn pasio o’i flaen ac yn cyhoeddi: “Jehofa, Jehofa, Duw trugarog a thosturiol, sy’n araf i ddigio ac sy’n llawn cariad ffyddlon ac sy’n wastad yn dweud y gwir,* 7 sy’n dangos cariad ffyddlon tuag at filoedd, gan faddau camgymeriadau a throseddau a phechodau, ond ni fydd ar unrhyw gyfri yn gadael y rhai euog heb eu cosbi, gan ddod â chosb am gamgymeriadau tadau ar feibion ac ar wyrion, ar y drydedd genhedlaeth ac ar y bedwaredd genhedlaeth.”

8 Brysiodd Moses i blygu i lawr yn isel ar y llawr ac ymgrymu. 9 Yna dywedodd: “Nawr, os ydw i wedi dy blesio, O Jehofa, yna plîs, Jehofa, bydd gyda ni, er ein bod ni’n bobl bengaled, a maddeua inni am ein camgymeriadau a’n pechodau, a’n derbyn ni fel dy bobl.” 10 Atebodd yntau: “Dyma fi’n gwneud cyfamod: O flaen dy holl bobl, bydda i’n gwneud pethau rhyfeddol sydd erioed wedi cael eu gwneud o’r blaen drwy’r holl ddaear nac ymhlith y cenhedloedd, a bydd yr holl bobl rwyt ti’n byw yn eu plith nhw yn gweld gwaith Jehofa, oherwydd rydw i am wneud rhywbeth syfrdanol ar eich cyfer chi.

11 “Talwch sylw i beth rydw i’n ei orchymyn ichi heddiw. Rydw i am yrru allan o’ch blaenau chi yr Amoriaid, y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid. 12 Gwyliwch nad ydych chi’n gwneud cyfamod â’r rhai sy’n byw yn y wlad rydych chi’n mynd iddi, neu fel arall byddwch chi’n baglu. 13 Ond dylech chi ddinistrio eu hallorau, malu eu colofnau cysegredig, a thorri i lawr eu polion cysegredig. 14 Ni ddylech chi blygu i lawr i unrhyw dduw arall, oherwydd mae Jehofa yn adnabyddus am fynnu eich bod chi’n ei addoli ef yn unig.* Yn wir, mae ef yn Dduw sy’n mynnu eich bod chi’n ei addoli ef yn unig. 15 Gwyliwch nad ydych chi’n gwneud cyfamod â’r bobl sy’n byw yn y wlad, oherwydd pan fyddan nhw’n eu puteinio eu hunain drwy addoli eu duwiau ac yn aberthu i’w duwiau, bydd rhywun yn eich gwahodd chi a byddwch chi’n bwyta o’u haberthau. 16 Yna byddwch chi’n sicr yn cymryd rhai o’u merched nhw ar gyfer eich meibion, a bydd eu merched yn eu puteinio eu hunain drwy addoli eu duwiau ac yn achosi i’ch meibion eu puteinio eu hunain drwy addoli eu duwiau.

17 “Peidiwch â gwneud duwiau allan o fetel wedi ei doddi.

18 “Dylech chi ddathlu Gŵyl y Bara Croyw. Byddwch chi’n bwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr adeg apwyntiedig ym mis Abib, yn union fel rydw i wedi gorchymyn ichi, oherwydd ar yr adeg honno daethoch chi allan o’r Aifft.

19 “Mae pob gwryw cyntaf-anedig yn perthyn i mi, gan gynnwys cyntaf-anedig eich holl anifeiliaid, naill ai’r tarw cyntaf neu’r hwrdd* cyntaf. 20 Dylech chi brynu asyn cyntaf-anedig yn ôl gan ddefnyddio dafad. Ond os nad ydych chi’n ei brynu’n ôl, yna mae’n rhaid ichi dorri ei wddf. Dylech chi brynu pob mab cyntaf-anedig yn ôl. Ni ddylai unrhyw un ddod o fy mlaen i yn waglaw.

21 “Dylech chi weithio am chwe diwrnod, ond ar y seithfed diwrnod byddwch chi’n gorffwys. Hyd yn oed os ydy hi’n amser i aredig neu i gasglu’r cnydau, byddwch chi’n gorffwys.

22 “A byddwch chi’n dathlu Gŵyl yr Wythnosau gyda ffrwyth cyntaf y cynhaeaf gwenith, a Gŵyl Casglu’r Cynhaeaf* ar ddiwedd y flwyddyn.

23 “Dair gwaith y flwyddyn, bydd rhaid i’ch holl ddynion ddod o flaen y gwir Arglwydd, Jehofa, Duw Israel. 24 Oherwydd bydda i’n gyrru’r cenhedloedd i ffwrdd o’ch blaenau chi, a bydda i’n ehangu eich tiriogaeth, ac ni fydd neb yn dymuno cael eich tir tra eich bod chi’n mynd i fyny i ymddangos o flaen Jehofa eich Duw dair gwaith y flwyddyn.

25 “Pan fyddwch chi’n offrymu aberth imi, ni ddylech chi offrymu ei waed ynghyd â bara sydd a burum ynddo. Ni ddylai aberth gŵyl y Pasg gael ei gadw dros nos tan y bore.

26 “Dylech chi ddod â’r gorau o ffrwyth cyntaf eich pridd i dŷ Jehofa eich Duw.

“Ni ddylech chi ferwi gafr ifanc yn llaeth ei mam.”

27 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: “Dylet ti ysgrifennu’r geiriau hyn, oherwydd rydw i’n gwneud cyfamod â ti ac ag Israel yn unol â’r geiriau hyn.” 28 Ac arhosodd yno gyda Jehofa am 40 diwrnod a 40 nos. Ni wnaeth fwyta bara nac yfed dŵr. Ac ysgrifennodd Ef eiriau’r cyfamod ar y llechau, hynny yw, y Deg Gorchymyn.*

29 Yna daeth Moses i lawr o Fynydd Sinai, ac roedd dwy lech y Dystiolaeth yn ei ddwylo. Pan ddaeth i lawr o’r mynydd, doedd Moses ddim yn gwybod bod croen ei wyneb yn disgleirio am ei fod wedi bod yn siarad â Duw. 30 Pan wnaeth Aaron a’r holl Israeliaid weld Moses, sylwon nhw fod croen ei wyneb yn disgleirio ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato.

31 Ond galwodd Moses arnyn nhw, felly dyma Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa yn mynd ato, a siaradodd Moses â nhw. 32 Ar ôl hynny aeth yr holl Israeliaid yn agos ato, a dyma’n rhoi iddyn nhw’r holl orchmynion roedd Jehofa wedi eu rhoi iddo ar Fynydd Sinai. 33 O hynny ymlaen, pan fyddai Moses yn gorffen siarad â nhw, byddai’n gorchuddio ei wyneb. 34 Ond pan fyddai Moses yn mynd i mewn o flaen Jehofa i siarad ag ef, byddai’n cymryd y gorchudd i ffwrdd nes iddo fynd allan eto. Yna fe aeth allan a datgelu i’r Israeliaid y gorchmynion roedd wedi eu derbyn. 35 A gwelodd yr Israeliaid fod croen wyneb Moses yn disgleirio; yna rhoddodd Moses y gorchudd yn ôl dros ei wyneb nes iddo fynd i mewn i siarad â Duw.

35 Yn nes ymlaen, casglodd Moses yr Israeliaid i gyd at ei gilydd a dweud wrthyn nhw: “Dyma’r pethau mae Jehofa wedi gorchymyn i chi eu gwneud: 2 Cewch chi weithio am chwe diwrnod, ond bydd y seithfed diwrnod yn rhywbeth sanctaidd ichi, saboth o orffwys llwyr i Jehofa. Bydd pwy bynnag sy’n gwneud gwaith ar y diwrnod hwnnw yn cael ei roi i farwolaeth. 3 Ni ddylech chi gynnau tân yn unrhyw un o’ch cartrefi ar y Saboth.”

4 Yna dywedodd Moses wrth yr Israeliaid i gyd: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn, 5 ‘Mae’n rhaid ichi gasglu cyfraniad ar gyfer Jehofa o’ch plith. Gadewch i bawb sydd â chalon hael gyfrannu i Jehofa: aur, arian, copr, 6 edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, lliain main, blew geifr, 7 crwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch, crwyn morloi, coed acasia, 8 olew ar gyfer y lampau, balm ar gyfer yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus, 9 gemau onics, a gemau eraill i’w gosod ar yr effod ac ar y darn o wisg wedi ei brodio sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad.

10 “‘Gadewch i bob gweithiwr medrus yn eich plith ddod a gwneud popeth mae Jehofa wedi ei orchymyn, 11 hynny yw, gwneud y tabernacl a’i babell a’i orchudd, ei fachau a’i fframiau, ei bolion, ei golofnau, a’i sylfeini;* 12 yr Arch a’i pholion, y caead, a’r llen ar gyfer y sgrin; 13 y bwrdd a’i bolion a’i holl offer a’r bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw;* 14 y canhwyllbren ar gyfer golau, a’i offer a’i lampau, a’r olew ar gyfer goleuo; 15 allor yr arogldarth a’i pholion; yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus; y sgrin* ar gyfer mynedfa’r tabernacl; 16 allor yr offrymau llosg a’i gratin copr, ei pholion a’i holl offer; y basn a’i stand; 17 y llenni sy’n hongian o amgylch y cwrt, eu colofnau a’u sylfeini;* sgrin* mynedfa’r cwrt; 18 pegiau pabell y tabernacl a phegiau pabell y cwrt a’u rhaffau;* 19 y dillad hardd sydd wedi cael eu gweu ac sydd ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr, y dillad sanctaidd ar gyfer Aaron yr offeiriad, a dillad ei feibion ar gyfer gwasanaethu fel offeiriaid.’”

20 Felly aeth yr holl Israeliaid yn ôl i’w pebyll ar ôl bod o flaen Moses. 21 Yna roedd pawb a oedd eisiau rhoi o wirfodd calon yn dod â chyfraniad i Jehofa er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer pabell y cyfarfod, ar gyfer ei holl wasanaeth, ac ar gyfer y dillad sanctaidd. 22 Roedd y dynion a’r merched,* pob un â chalon hael, yn dal i ddod â broetshys, clustlysau, modrwyau, a gemwaith eraill, ynghyd â phob math o dlysau aur. Gwnaethon nhw i gyd gyflwyno eu hoffrymau* o aur i Jehofa. 23 Os oedd ganddyn nhw edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, lliain main, blew geifr, crwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch, neu grwyn morloi, roedden nhw’n eu cyfrannu. 24 Os oedd ganddyn nhw arian neu gopr, roedden nhw’n cyfrannu hynny i Jehofa, ac os oedd ganddyn nhw goed acasia i’w defnyddio ar gyfer unrhyw ran o’r gwaith, roedden nhw’n cyfrannu hynny.

25 Dyma’r holl ferched* a oedd yn gallu troelli edau yn cyfrannu’r hyn roedden nhw wedi ei droelli: edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. 26 A gwnaeth yr holl ferched* medrus a oedd eisiau cyfrannu o’u calonnau droelli’r blew geifr.

27 A gwnaeth y penaethiaid gyfrannu gemau onics a gemau eraill i’w gosod yn yr effod ac ar y darn o wisg wedi ei brodio sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad, 28 yn ogystal â balm ac olew ar gyfer goleuo ac ar gyfer yr olew eneinio ac ar gyfer yr arogldarth persawrus. 29 Gwnaeth yr holl ddynion a merched* a oedd â chalonnau hael gyfrannu rhywbeth i Jehofa. Rhoddon nhw’r pethau hyn fel offrwm gwirfoddol er mwyn cefnogi’r gwaith roedd Jehofa wedi ei orchymyn drwy Moses.

30 Yna dywedodd Moses wrth yr Israeliaid: “Edrychwch, mae Jehofa wedi dewis Besalel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Jwda. 31 Mae Duw wedi ei lenwi â’i ysbryd, gan roi iddo ddoethineb, dealltwriaeth, a gwybodaeth am bob math o grefftwaith, 32 ar gyfer gwneud dyluniadau artistig, ar gyfer gweithio ag aur, arian, a chopr, 33 ar gyfer torri gemau a’u gosod, ac ar gyfer gwneud pob math o bethau artistig allan o bren. 34 Ac mae wedi rhoi’r gallu yn ei galon i ddysgu eraill, ef ac Oholiab fab Ahisamach, o lwyth Dan. 35 Mae wedi eu llenwi â’r gallu i fod yn fedrus wrth wneud holl waith crefftwr, brodiwr, a gwehydd sy’n gwneud pob math o ddefnydd gan ddefnyddio edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. Bydd y dynion hyn yn gwneud pob math o waith ac yn paratoi pob math o ddyluniadau.

36 “Bydd Besalel yn gweithio gydag Oholiab a phob gweithiwr medrus mae Jehofa wedi rhoi doethineb a dealltwriaeth iddo er mwyn iddo wybod sut i wneud holl waith y gwasanaeth sanctaidd yn union fel mae Jehofa wedi gorchymyn.”

2 Yna galwodd Moses ar Besalel ac Oholiab ac ar bob gweithiwr medrus roedd Jehofa wedi rhoi doethineb yn ei galon, pob un a oedd eisiau gwneud y gwaith o wirfodd calon. 3 Yna dyma Moses yn rhoi iddyn nhw bopeth roedd yr Israeliaid wedi ei gyfrannu ar gyfer gwaith y gwasanaeth sanctaidd. Ond roedd y bobl yn dal i ddod ag offrymau gwirfoddol ato bob bore.

4 Yna ar ôl iddyn nhw ddechrau’r gwaith sanctaidd, roedd yr holl weithwyr medrus yn dod, un ar ôl y llall, 5 ac roedden nhw’n dweud wrth Moses: “Mae’r bobl yn dod â llawer iawn mwy nag sydd ei angen ar gyfer y gwaith mae Jehofa wedi ei orchymyn.” 6 Felly gorchmynnodd Moses i gyhoeddiad gael ei wneud drwy’r gwersyll cyfan, gan ddweud: “Ddynion a merched,* peidiwch â dod ag unrhyw beth arall ar gyfer y cyfraniad sanctaidd.” Felly dyma’r bobl yn dal yn ôl rhag dod ag unrhyw beth arall. 7 Roedd ganddyn nhw ddigon o bethau i wneud yr holl waith, a mwy dros ben.

8 Felly dyma’r gweithwyr medrus i gyd yn gwneud y tabernacl allan o ddeg darn o ddefnydd wedi eu gwneud o liain main, edau las, gwlân porffor, a defnydd ysgarlad; gwnaeth ef* eu gwneud nhw a brodio lluniau o gerwbiaid arnyn nhw. 9 Roedd pob darn o ddefnydd yn 28 cufydd* o hyd a 4 cufydd o led. Roedd y darnau o ddefnydd i gyd yr un maint. 10 Yna, fe wnaeth gysylltu pump o’r darnau o ddefnydd at ei gilydd i wneud un darn mawr, a gwnaeth yr un peth gyda’r pump arall. 11 Ar bob darn mawr o ddefnydd, ar yr ochr lle mae’r darn o ddefnydd yn gorffen, creodd ddolenni o edau las fel y byddai’n bosib cysylltu’r ddau ddarn mawr. 12 Rhoddodd 50 dolen ar un darn mawr o ddefnydd a 50 dolen ar ymyl y darn mawr arall o ddefnydd, fel y byddai’r dolenni gyferbyn â’i gilydd lle byddan nhw’n cael eu cysylltu. 13 Yn olaf, fe greodd 50 bachyn aur a chysylltu’r darnau mawr o ddefnydd at ei gilydd â’r bachau hynny, fel bod y tabernacl yn un uned.

14 Yna fe greodd ddarnau o ddefnydd allan o flew geifr i’w rhoi dros y tabernacl. Fe wnaeth 11 darn o ddefnydd. 15 Roedd pob darn o ddefnydd yn 30 cufydd o hyd a 4 cufydd o led. Roedd yr 11 darn o ddefnydd yr un maint. 16 Yna fe wnaeth gysylltu pum darn o ddefnydd at ei gilydd i wneud un darn mawr, a gwnaeth yr un fath â’r chwe darn arall o ddefnydd. 17 Nesaf, fe wnaeth 50 dolen ar hyd ymyl un darn mawr o ddefnydd, ac fe wnaeth yr un fath ar hyd ymyl y darn mawr arall o ddefnydd fel y byddai’n bosib cysylltu’r ddau ddarn mawr. 18 Ac fe wnaeth 50 bachyn copr er mwyn rhoi’r babell at ei gilydd a’i gwneud yn un uned.

19 Fe wnaeth orchudd ar gyfer y babell allan o grwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch a gorchudd o grwyn morloi i fynd dros hwnnw.

20 Yna fe wnaeth fframiau’r tabernacl allan o goed acasia a oedd yn sefyll yn syth i fyny. 21 Roedd pob ffrâm yn ddeg cufydd o uchder a chufydd a hanner o led. 22 Roedd gan bob ffrâm ddau denon* a oedd wedi eu cysylltu â’i gilydd. Dyna sut gwnaeth ef greu holl fframiau’r tabernacl. 23 Felly fe wnaeth fframiau ar gyfer ochr ddeheuol y tabernacl, 20 ffrâm, yn wynebu’r de. 24 Yna fe wnaeth 40 sylfaen arian* i fynd o dan yr 20 ffrâm, dwy sylfaen* o dan bob ffrâm ar gyfer ei dau denon. 25 Ar gyfer ochr arall y tabernacl, yr ochr ogleddol, fe wnaeth 20 ffrâm 26 a 40 sylfaen arian ar eu cyfer, dwy sylfaen* o dan bob ffrâm.

27 Ar gyfer cefn y tabernacl sy’n wynebu’r gorllewin, fe wnaeth chwe ffrâm. 28 Fe wnaeth ddwy ffrâm a oedd yn ffurfio corneli cefn y tabernacl. 29 Roedd y fframiau hyn wedi cael eu gwneud allan o ddau ddarn o bren a oedd yn mynd o’r gwaelod i’r top. Roedden nhw wedi eu cysylltu wrth ymyl y fodrwy gyntaf. Dyma beth wnaeth ef gyda’r ddwy ffrâm hyn. 30 Felly roedd ’na wyth ffrâm ynghyd â’u 16 sylfaen arian, dwy sylfaen* o dan bob ffrâm.

31 Yna ffurfiodd bolion allan o goed acasia, pump ar gyfer y fframiau ar un ochr y tabernacl, 32 pump ar gyfer y fframiau ar ochr arall y tabernacl, a phump ar gyfer y fframiau ar ochr orllewinol y tabernacl, sef y cefn. 33 Fe wnaeth bolyn canolog i redeg ar draws canol y fframiau o un pen i’r llall. 34 Gorchuddiodd y fframiau ag aur, a rhoi modrwyau aur arnyn nhw er mwyn dal y polion, a gorchuddiodd y polion ag aur.

35 Yna fe wnaeth len o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main, a brodiodd luniau o gerwbiaid arni. 36 Yna fe wnaeth bedair colofn acasia ar ei chyfer a’u gorchuddio nhw ag aur, ynghyd â bachau aur, ac fe wnaeth doddi’r arian er mwyn creu pedair sylfaen* ar gyfer y colofnau. 37 Nesaf fe wnaeth sgrin* ar gyfer mynedfa’r babell allan o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main wedi eu gweu gyda’i gilydd, 38 ynghyd â’i phum colofn a’u bachau. Gorchuddiodd eu topiau a’u cysylltwyr* ag aur, ond roedd eu pum sylfaen* wedi eu gwneud o gopr.

37 Yna dyma Besalel yn gwneud yr Arch allan o goed acasia. Roedd yn ddau gufydd* a hanner o hyd ac yn gufydd a hanner o led ac yn gufydd a hanner o uchder. 2 Yna aeth ati i’w gorchuddio ag aur pur ar y tu mewn ac ar y tu allan a rhoddodd ymyl o aur o’i hamgylch. 3 Ar ôl hynny, creodd bedair fodrwy aur ar ei chyfer, uwchben ei phedwar troed, gyda dwy fodrwy ar un ochr a dwy fodrwy ar yr ochr arall. 4 Nesaf, ffurfiodd bolion allan o goed acasia a’u gorchuddio ag aur. 5 Yna rhoddodd y polion drwy’r modrwyau ar ochrau’r Arch er mwyn ei chario.

6 Creodd y caead allan o aur pur. Roedd yn ddau gufydd a hanner o hyd ac yn gufydd a hanner o led. 7 Yna, creodd ddau gerwb allan o aur wedi ei guro â morthwyl, un ar bob pen y caead. 8 Roedd un cerwb ar un pen, a’r cerwb arall ar y pen arall. Fe wnaeth y ddau gerwb, un ar bob pen y caead. 9 Roedden nhw’n estyn eu dwy adain i fyny gan gysgodi’r caead gyda’u hadenydd, ac yn wynebu ei gilydd. Roedd eu hwynebau yn edrych tuag at y caead.

10 Yna creodd y bwrdd allan o goed acasia. Roedd yn ddau gufydd o hyd, yn gufydd o led, ac yn gufydd a hanner o uchder. 11 Dyma’n ei orchuddio ag aur pur a rhoi ymyl aur o’i amgylch. 12 Nesaf fe wnaeth rimyn a oedd yn mesur lled llaw* i fynd o’i amgylch yn ogystal ag ymyl aur i fynd o amgylch y rhimyn hwnnw. 13 Ar ben hynny, creodd bedair modrwy allan o aur ar ei gyfer a gosod y modrwyau ar y pedair cornel lle roedd y pedwar coes wedi cael eu gosod. 14 Roedd y modrwyau yn agos at y rhimyn, er mwyn dal y polion a oedd yn cael eu defnyddio i gario’r bwrdd. 15 Yna ffurfiodd y polion ar gyfer cario’r bwrdd allan o goed acasia a’u gorchuddio ag aur. 16 Ar ôl hynny, defnyddiodd aur pur i greu’r offer a oedd yn mynd ar ben y bwrdd—y llestri, y cwpanau, y powlenni, a’r jygiau ar gyfer tywallt* offrymau diod.

17 Yna creodd y canhwyllbren allan o aur pur wedi ei guro â morthwyl. Roedd ei waelod, ei goes, ei ddail bychain, ei flagur, a’i flodau i gyd yn un darn. 18 Roedd chwe changen yn dod allan o’i goes, tair cangen ar un ochr y canhwyllbren a thair cangen ar yr ochr arall. 19 Roedd tair deilen fechan wedi eu siapio fel blodau almon ar un grŵp o ganghennau, gyda blagur a blodau yn mynd bob yn ail, a thair deilen fechan wedi eu siapio fel blodau almon ar y grŵp arall o ganghennau, gyda blagur a blodau yn mynd bob yn ail. Dyna sut roedd y chwe changen yn edrych ar y coes. 20 Ac ar goes y canhwyllbren roedd ’na bedair deilen fechan wedi eu siapio fel blodau almon, gyda blagur a blodau yn mynd bob yn ail. 21 Roedd ’na flaguryn o dan y ddwy gangen gyntaf a oedd yn dod allan o’r coes ac roedd ’na flaguryn o dan y ddwy gangen nesaf a blaguryn o dan y ddwy gangen nesaf. Dyna sut roedd y chwe changen yn edrych ar y coes. 22 Roedd y blagur a’r canghennau a’r canhwyllbren i gyd yn un darn o aur pur wedi ei guro â morthwyl. 23 Yna fe wnaeth saith lamp ar ei gyfer, a’r offer i ddal y wiciau,* a’r llestri i ddal tân, pob un allan o aur pur. 24 Defnyddiodd dalent* o aur pur i greu’r canhwyllbren ynghyd â’i holl offer.

25 Yna aeth ymlaen i greu allor yr arogldarth allan o goed acasia. Roedd yn sgwâr, yn gufydd o hyd, yn gufydd o led, ac yn ddau gufydd o uchder. Roedd ei chyrn yn rhan ohoni. 26 Gorchuddiodd yr allor ag aur pur, y top, yr ochrau, a’r cyrn, a rhoddodd ymyl o aur o’i hamgylch. 27 Creodd ddwy fodrwy aur i fynd o dan ei hymyl, dwy ar un ochr a dwy ar yr ochr arall. Byddai’r rhain yn dal y polion a fyddai’n cael eu defnyddio i gario’r allor. 28 Ar ôl hynny, creodd y polion allan o goed acasia a’u gorchuddio ag aur. 29 Hefyd, fe wnaeth yr olew eneinio sanctaidd a’r arogldarth persawrus pur, gan eu cymysgu fel petai rhywun sy’n arbenigo yn y grefft wedi eu cymysgu.

38 Fe greodd yr allor ar gyfer offrymau llosg allan o goed acasia. Roedd yn sgwâr, yn bum cufydd* o hyd, yn bum cufydd o led, ac yn dri chufydd o uchder. 2 Wedyn rhoddodd gyrn ar y pedair cornel. Roedd y cyrn yn rhan ohoni. Nesaf gorchuddiodd yr allor â chopr. 3 Ar ôl hynny, fe wnaeth holl offer yr allor, y bwcedi, y rhawiau, y powlenni, y ffyrc, a’r llestri i ddal tân. Fe greodd yr holl offer allan o gopr. 4 Hefyd fe wnaeth ffurfio gratin ar gyfer yr allor, rhwydwaith o gopr, a’i osod o dan ei rhimyn, tuag at ei chanol. 5 Fe wnaeth bedair modrwy a rhoi un ar bob cornel wrth ymyl y gratin copr, er mwyn dal y polion. 6 Ar ôl hynny ffurfiodd y polion allan o goed acasia a’u gorchuddio â chopr. 7 Rhoddodd y polion drwy’r modrwyau ar ochrau’r allor er mwyn ei chario. Gwnaeth yr allor i edrych fel cist wag gan ddefnyddio planciau.

8 Wedyn fe wnaeth greu’r basn a’i stand allan o gopr gan ddefnyddio drychau’r* merched* a oedd yn gwasanaethu wrth fynedfa pabell y cyfarfod.

9 Yna fe greodd y cwrt. Ar gyfer ochr ddeheuol y cwrt, sy’n wynebu’r de, fe greodd y llenni allan o liain main, a oedd yn 100 cufydd o hyd. 10 Roedd ’na 20 colofn ac 20 sylfaen gopr,* ac roedd bachau’r colofnau a’u cysylltwyr* wedi cael eu gwneud allan o arian. 11 Hefyd ar gyfer yr ochr ogleddol, roedd ’na 100 cufydd o lenni yn hongian. Roedd yr 20 colofn a’r 20 sylfaen* wedi cael eu gwneud allan o gopr. Roedd bachau’r colofnau a’u cysylltwyr* wedi cael eu gwneud allan o arian. 12 Ond ar gyfer yr ochr orllewinol, roedd y llenni a oedd yn hongian yn 50 cufydd. Roedd ’na ddeg colofn a deg sylfaen,* ac roedd bachau’r colofnau a’u cysylltwyr* wedi cael eu gwneud allan o arian. 13 Roedd lled yr ochr ddwyreiniol, i gyfeiriad y wawr, yn 50 cufydd. 14 Ar un ochr mynedfa’r cwrt roedd ’na 15 cufydd o lenni yn hongian, gyda thair colofn a thair sylfaen.* 15 Ac ar ochr arall mynedfa’r cwrt roedd ’na 15 cufydd o lenni yn hongian, gyda thair colofn a thair sylfaen.* 16 Roedd yr holl lenni a oedd yn hongian o amgylch y cwrt wedi eu gwneud allan o liain main. 17 Roedd y sylfeini* ar gyfer y colofnau wedi cael eu gwneud allan o gopr, roedd bachau’r colofnau a’u cysylltwyr* wedi cael eu gwneud allan o arian, roedd y topiau wedi cael eu gorchuddio ag arian, ac roedd ’na fachau arian ar gyfer holl golofnau’r cwrt.

18 Roedd sgrin* mynedfa’r cwrt wedi cael ei gweu o edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. Roedd yn 20 cufydd o hyd ac yn 5 cufydd o uchder, yr un uchder â’r llenni a oedd yn hongian o amgylch y cwrt. 19 Roedd ei phedair colofn a’i phedair sylfaen* wedi cael eu gwneud allan o gopr. Roedd eu bachau a’u cysylltwyr* wedi cael eu gwneud allan o arian, a’u topiau wedi cael eu gorchuddio ag arian. 20 Roedd yr holl begiau ar gyfer y tabernacl ac ar gyfer llenni’r cwrt wedi cael eu gwneud allan o gopr.

21 Dyna restr o’r nwyddau a gafodd eu defnyddio i adeiladu’r tabernacl, tabernacl y Dystiolaeth. Cafodd y rhain eu rhestru yn ôl gorchymyn Moses, cyfrifoldeb y Lefiaid oedd hyn, o dan arweiniad Ithamar fab Aaron yr offeiriad. 22 Dyma Besalel, mab Uri, mab Hur o lwyth Jwda yn gwneud popeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. 23 Roedd Oholiab fab Ahisamach o lwyth Dan gydag ef, crefftwr a brodiwr a gwehydd yr edau las, y gwlân porffor, y defnydd ysgarlad, a’r lliain main.

24 Roedd yr holl aur a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer holl waith y lle sanctaidd yn gyfartal â swm yr aur ar gyfer yr offrwm chwifio, 29 talent* a 730 sicl* yn ôl sicl y lle sanctaidd.* 25 Ac roedd arian y rhai yn y gynulleidfa a oedd wedi eu cofrestru yn cyfateb i 100 talent a 1,775 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd.* 26 Roedd ’na 603,550 o ddynion a oedd wedi eu cofrestru ac a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn, a daeth pob un ohonyn nhw â hanner sicl yr un, yn ôl sicl y lle sanctaidd.*

27 Roedd y sylfeini* ar gyfer y lle sanctaidd a’r sylfeini* ar gyfer y llen yn gyfartal â 100 talent; 100 sylfaen* yn gyfartal â 100 talent, un dalent ar gyfer pob sylfaen.* 28 Defnyddiodd 1,775 sicl i wneud bachau ar gyfer y colofnau ac i orchuddio eu topiau a’u cysylltu â’i gilydd.

29 Roedd y copr ar gyfer yr offrwm* yn 70 talent a 2,400 sicl. 30 Gyda’r copr hynny fe wnaeth sylfeini* ar gyfer mynedfa pabell y cyfarfod, yr allor gopr a’i gratin copr, holl offer yr allor, 31 y sylfeini* o amgylch y cwrt, sylfeini mynedfa’r cwrt,* holl begiau pabell y tabernacl, a holl begiau’r babell o amgylch y cwrt.

39 Allan o’r edau las, y gwlân porffor, a’r defnydd ysgarlad, gwnaethon nhw weu dillad hardd ar gyfer gwasanaethu yn y lle sanctaidd. Gwnaethon nhw’r dillad sanctaidd ar gyfer Aaron, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

2 Fe wnaeth yr effod allan o aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. 3 Gwnaethon nhw guro platiau o aur i’w gwneud nhw’n denau, eu torri’n stribedi main, a’u gwnïo i mewn gyda’r edau las, y gwlân porffor, y defnydd ysgarlad, a’r lliain main, a chafodd yr effod ei frodio. 4 Gwnaethon nhw greu ysgwyddau’r effod ac fe gafodd y darnau o ddefnydd eu cysylltu â’i gilydd ar yr ysgwyddau. 5 Ac fe gafodd belt* yr effod, a oedd wedi cael ei weu a’i wnïo i’r effod er mwyn ei glymu’n dynn yn ei le, ei wneud allan o’r un defnydd, o aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

6 Yna gwnaethon nhw osod y gemau onics mewn aur, a cherfio enwau meibion Israel arnyn nhw, yn yr un ffordd ag y byddai rhywun yn cerfio sêl. 7 Rhoddodd y gemau ar ysgwyddau’r effod fel gemau coffa ar gyfer meibion Israel, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. 8 Yna cafodd y darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad ei frodio, fel yr effod, allan o aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. 9 Ar ôl iddo gael ei ddyblu, roedd y darn o wisg yn sgwâr, yn rhychwant* o hyd a rhychwant o led. 10 Gwnaethon nhw osod gemau ynddo, mewn pedair rhes. Roedd y rhes gyntaf yn cynnwys rhuddem, topas, ac emrallt. 11 Roedd yr ail res yn cynnwys glasfaen, saffir, ac iasbis. 12 Roedd y drydedd res yn cynnwys yr em leshem,* agat, ac amethyst. 13 Ac roedd y bedwaredd res yn cynnwys beryl, onics, a jâd. Cawson nhw eu gosod mewn aur. 14 Roedd y gemau yn cyfateb i enwau 12 mab Israel, a chafodd yr enwau eu cerfio fel sêl, pob enw yn cynrychioli un o’r 12 llwyth.

15 Yna gwnaethon nhw greu cadwyni wedi eu plethu fel rhaffau i fynd ar y darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad, fel rhaffau* wedi eu gwneud allan o aur pur. 16 A gwnaethon nhw greu dau osodiad allan o aur a dwy fodrwy aur a gosod y ddwy fodrwy ar ddwy gornel y darn o wisg. 17 Nesaf rhoddon nhw’r ddau gortyn aur drwy’r modrwyau hynny ar gorneli’r darn o wisg. 18 Yna rhoddon nhw ben arall y ddau gortyn drwy’r gosodiadau ar ysgwyddau’r effod, ar y tu blaen. 19 Nesaf gwnaethon nhw ddwy fodrwy aur a’u gosod nhw ar gorneli’r darn o wisg, ar yr ochr fewnol sy’n wynebu’r effod. 20 Yna gwnaethon nhw ddwy fodrwy arall o aur a’u rhoi nhw ar flaen yr effod, o dan y ddwy ysgwydd, yn agos at le maen nhw’n cysylltu, uwchben belt* yr effod sydd wedi cael ei weu. 21 Yn olaf, gwnaethon nhw glymu’r darn o wisg â chortyn glas, gan glymu modrwyau’r darn o wisg i fodrwyau’r effod, er mwyn ei gadw yn ei le ar yr effod, uwchben y belt* sydd wedi ei weu, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

22 Yna fe wnaeth greu’r gôt heb lewys sy’n mynd o dan yr effod, a gafodd ei gweu gan wehydd, allan o edau las yn unig. 23 Roedd ’na dwll yng nghanol y gôt ar gyfer y pen, fel y twll sydd yng nghôt rhyfelwr. Roedd gan y twll ymyl o’i amgylch, er mwyn iddo beidio â chael ei rwygo. 24 Yna o amgylch hem y gôt heb lewys, dyma nhw’n gwneud pomgranadau allan o edau las, gwlân porffor, a defnydd ysgarlad, wedi eu plethu â’i gilydd. 25 A gwnaethon nhw glychau o aur pur a’u rhoi nhw rhwng y pomgranadau o amgylch hem y gôt heb lewys; 26 rhoddon nhw gloch a phomgranad bob yn ail o amgylch hem y gôt heb lewys a oedd yn cael ei defnyddio er mwyn gwasanaethu, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

27 A gwnaethon nhw weu mentyll o liain main ar gyfer Aaron a’i feibion, 28 a’r tyrban o liain main, y penwisgoedd addurnol o liain main, y dillad isaf o liain main, 29 a’r sash o liain main, edau las, gwlân porffor, a defnydd ysgarlad wedi eu gweu gyda’i gilydd, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

30 Yn olaf, dyma nhw’n gwneud y plât sgleiniog allan o aur pur, yr arwydd sanctaidd o gysegriad i Dduw,* a cherfio arno yn yr un ffordd ag y byddai rhywun yn cerfio sêl: “Mae sancteiddrwydd yn perthyn i Jehofa.” 31 Gwnaethon nhw glymu cortyn arno a oedd wedi ei wneud o edau las er mwyn ei roi ar y tyrban, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

32 Felly cafodd holl waith y tabernacl, pabell y cyfarfod, ei gwblhau, a dyma’r Israeliaid yn gwneud popeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. Fe wnaethon nhw yn union felly.

33 Yna daethon nhw â’r tabernacl at Moses, y babell a’i holl offer: ei fachau, ei fframiau, ei bolion a’i golofnau a’i sylfeini;* 34 ei orchudd o grwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch, ei orchudd o grwyn morloi, a’r llen ar gyfer y sgrin; 35 arch y Dystiolaeth a’i pholion a’r caead; 36 y bwrdd, ei holl offer a’r bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw;* 37 y canhwyllbren o aur pur, ei lampau, y rhes o lampau, a’i holl offer a’r olew ar gyfer goleuo; 38 yr allor aur, yr olew eneinio, yr arogldarth persawrus, y sgrin* ar gyfer mynedfa’r babell; 39 yr allor gopr a’i gratin copr, ei pholion a’i holl offer, y basn a’i stand; 40 y llenni sy’n hongian o amgylch y cwrt, ei golofnau a’i sylfeini,* y sgrin* ar gyfer mynedfa’r cwrt, rhaffau’r* babell a phegiau’r babell a’r holl offer ar gyfer gwasanaeth y tabernacl, ar gyfer pabell y cyfarfod; 41 y dillad hardd sydd wedi cael eu gweu ac sydd ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr, y dillad sanctaidd ar gyfer Aaron yr offeiriad, a dillad ei feibion ar gyfer gwasanaethu fel offeiriaid.

42 Dyna sut gwnaeth yr Israeliaid yr holl waith, yn ôl popeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. 43 Pan edrychodd Moses ar eu holl waith, fe welodd eu bod nhw wedi gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn; a gwnaeth Moses eu bendithio nhw.

40 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Ar ddiwrnod cyntaf y mis cyntaf, dylet ti godi’r tabernacl, pabell y cyfarfod. 3 Dylet ti roi arch y Dystiolaeth ynddo, a chuddio’r Arch gyda’r llen. 4 Dylet ti ddod â’r bwrdd i mewn a threfnu ei holl offer arno, a dod â’r canhwyllbren i mewn a goleuo ei lampau. 5 Yna rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y Dystiolaeth a rho sgrin* mynedfa’r tabernacl yn ei lle.

6 “Dylet ti roi allor yr offrymau llosg o flaen mynedfa’r tabernacl, pabell y cyfarfod, 7 a rhoi’r basn rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a rhoi dŵr yn y basn. 8 Yna gosoda’r cwrt o amgylch y tabernacl a rho’r sgrin* i fyny ar gyfer mynedfa’r cwrt. 9 Nesaf dylet ti gymryd yr olew eneinio ac eneinio’r tabernacl a phopeth sydd ynddo, a sancteiddio’r tabernacl a’i holl offer, er mwyn iddo fod yn rhywbeth sanctaidd. 10 Dylet ti eneinio allor yr offrymau llosg a’i holl offer a sancteiddio’r allor, er mwyn iddi fod yn allor sanctaidd iawn. 11 A dylet ti eneinio’r basn a’i stand, a’i sancteiddio.

12 “Yna tyrd ag Aaron a’i feibion yn agos at fynedfa pabell y cyfarfod, a golcha nhw â dŵr. 13 A dylet ti roi’r dillad sanctaidd am Aaron a’i eneinio a’i sancteiddio, a bydd yn gwasanaethu fel offeiriad imi. 14 Ar ôl hynny, tyrd â’i feibion yn agos a rho’r mentyll amdanyn nhw. 15 Dylet ti eu heneinio nhw yn union fel gwnest ti eneinio eu tad, er mwyn iddyn nhw allu gwasanaethu fel offeiriaid imi. Bydd yr offeiriadaeth yn parhau gyda nhw o genhedlaeth i genhedlaeth am eu bod nhw wedi cael eu heneinio.”

16 Fe wnaeth Moses bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddo. Fe wnaeth yn union felly.

17 Ym mis cyntaf yr ail flwyddyn, ar ddiwrnod cyntaf y mis, cafodd y tabernacl ei godi. 18 Pan gododd Moses y tabernacl, gosododd ei sylfeini,* cododd ei fframiau, rhoddodd ei bolion i mewn, a chododd ei golofnau. 19 Lledaenodd y babell dros y tabernacl a rhoi gorchudd y babell dros honno, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

20 Ar ôl hynny, cymerodd y Dystiolaeth a’i rhoi i mewn i’r Arch a rhoi’r polion ar yr Arch a rhoi’r caead ar yr Arch. 21 Fe ddaeth â’r Arch i mewn i’r tabernacl a rhoi llen y sgrin yn ei lle a chuddio arch y Dystiolaeth, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

22 Nesaf rhoddodd y bwrdd ym mhabell y cyfarfod ar ochr ogleddol y tabernacl y tu allan i’r llen, 23 a gosododd y rhes o fara ar y bwrdd o flaen Jehofa, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

24 Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod o flaen y bwrdd, ar ochr ddeheuol y tabernacl. 25 Goleuodd y lampau o flaen Jehofa, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

26 Nesaf rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y llen, 27 er mwyn gwneud i fwg godi oddi ar yr arogldarth persawrus ar yr allor, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

28 Yna rhoddodd y sgrin* ar gyfer mynedfa’r tabernacl yn ei lle.

29 Rhoddodd allor yr offrymau llosg wrth fynedfa’r tabernacl, pabell y cyfarfod, er mwyn iddo gyflwyno’r offrymau llosg a’r offrymau grawn arni, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

30 Yna rhoddodd y basn rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a rhoi dŵr ynddo ar gyfer ymolchi. 31 Byddai Moses ac Aaron a’i feibion yn defnyddio’r dŵr hwnnw er mwyn golchi eu dwylo a’u traed. 32 Bryd bynnag y bydden nhw’n mynd i mewn i babell y cyfarfod neu’n mynd at yr allor, fe fydden nhw’n ymolchi, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

33 Yn olaf gosododd y cwrt o amgylch y tabernacl a’r allor a rhoi sgrin* mynedfa’r cwrt i fyny.

Felly gorffennodd Moses y gwaith. 34 A dechreuodd y cwmwl orchuddio pabell y cyfarfod, ac fe wnaeth gogoniant Jehofa lenwi’r tabernacl. 35 Doedd Moses ddim yn gallu mynd i mewn i babell y cyfarfod oherwydd roedd y cwmwl yn aros drosto, ac roedd gogoniant Jehofa yn llenwi’r tabernacl.

36 A phan fyddai’r cwmwl yn codi oddi ar y tabernacl, byddai’r Israeliaid yn symud eu gwersyll i rywle arall. A dyna ddigwyddodd yr holl amser roedden nhw’n teithio drwy’r anialwch. 37 Ond, os nad oedd y cwmwl yn codi, nid oedden nhw’n symud eu gwersyll. Bydden nhw’n disgwyl tan y diwrnod roedd y cwmwl yn codi. 38 Roedd cwmwl Jehofa dros y tabernacl yn ystod y dydd, ac roedd tân drosto yn ystod y nos, ac roedd holl bobl Israel yn ei weld drwy’r adeg tra oedden nhw’n teithio yn yr anialwch.

Neu “penododd yr Eifftiaid dasgfeistri.”

Neu “menywod.”

Neu “pan fyddan nhw ar y stôl ar gyfer rhoi genedigaeth.”

Neu “menywod.”

Neu “menywod.”

Neu “dyma’r fenyw.”

Neu “arch; cist.”

Neu “menywod.”

Neu “dyma’r fenyw.”

Sy’n golygu “Wedi Ei Dynnu Allan,” hynny yw, wedi ei achub allan o’r dŵr.

Neu “ar ôl i Moses dyfu lan.”

Neu “wrth i Moses dyfu’n gryf.”

Neu “ac amddiffyn y.”

Neu “menywod.”

Hynny yw, Jethro.

Sy’n golygu “Estronwr Sy’n Byw Yno.”

Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.

Neu “fy ngwasanaethu i.”

Neu “yr Hyn Rydw i Eisiau.”

Neu “Byddaf yn Profi Bod yr Hyn y Byddaf yn Profi Ei Fod.”

Neu “menyw.”

Neu “a’r fenyw.”

Neu “byddwch chi’n ysbeilio.”

Neu “sarff.”

Neu “arllwys.”

Neu “byddi di’n cynrychioli Duw iddo.”

Neu “cymerodd Sippora gyllell fflint.”

Neu “maen nhw’n ddiog.”

Neu “sofl.”

Neu “Rydych chi’n ddiog.”

Neu “rydych chi’n ddiog!”

Neu “wedi gwneud inni ddrewi’n ofnadwy ym marn Pharo a’i weision.”

Neu “i fenyw.”

Hynny yw, pob camlas Afon Nîl.

Neu “o frogaod.”

Neu “brogaod.”

Neu “brogaod.”

Neu “i frogaod.”

Neu “brogaod.”

Neu “i frogaod.”

Neu “brogaod.”

Neu “brogaod.”

Neu “brogaod.”

Neu “brogaod.”

Neu “brogaod.”

Hynny yw, yr Eifftiaid.

Neu “cesair.”

Neu “cesair.”

Neu “cesair.”

Neu “a chesair.”

Efallai’n disgrifio mellt pwerus.

Neu “cesair.”

Neu “Roedd ’na gesair.”

Neu “cesair.”

Neu “cesair.”

Neu “heb gesair.”

Neu “a chesair.”

Neu “cesair.”

Planhigyn a dyfwyd ers y dyddiau a fu. Roedd y ffibr yn cael ei ddefnyddio i wneud lliain.

Math o wenith a oedd yn cael ei dyfu yn yr hen Aifft.

Neu “cesair.”

Neu “cesair.”

Neu “cesair.”

Neu “tad-cuod.”

Neu “cesair.”

Neu “cesair.”

Neu “menywod.”

Neu “meheryn.”

Neu “14eg diwrnod.”

Llyth., ”‏rhwng y ddwy noswaith,”‏ sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “14eg diwrnod.”

Neu “21ain diwrnod.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Hynny yw, dafad neu afr ifanc.

Hynny yw, pobl nad oedd yn Israeliaid, gan gynnwys Eifftiaid.

Neu “Neilltua.”

Hynny yw, rhwng tua 2:00 yb. a 6:00 yb.

Mae “Jah” yn dalfyriad o’r enw Jehofa.

Hynny yw, penaethiaid llwythau.

Neu “yr holl fenywod.”

Neu “gorymdeithio.”

Sy’n golygu “Chwerw.”

Neu “15fed.”

Llyth., ”‏rhwng y ddwy noswaith,”‏ sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Hynny yw, adar bach tua 18 cm (7 mod.) o hyd sy’n bosib eu bwyta.

Neu “fel barrug; rhew.”

Tua 2.2 L.

Neu “yn gorffwys.”

Yn ôl pob tebyg, o’r ymadrodd Hebraeg “Beth ydy hwn?”

Roedd effa yn gyfartal â 22 L.

Sy’n golygu “Profi; Prawf.”

Sy’n golygu “Ffraeo; Cweryla.”

Sy’n golygu “Jehofa Yw Fy Maner.”

Sy’n golygu “Estronwr Sy’n Byw Yno.”

Sy’n golygu “Fy Nuw Yw Fy Helpwr.”

Neu “gwerthfawr.”

Efallai gyda saeth.

Neu “maharen.”

Llyth., “eich noethni.”

Offeryn sy’n cael ei ddefnyddio i wneud tyllau bach.

Neu “yn wraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.

Yn cyfeirio at gyfathrach rywiol.

Neu efallai, “offeryn.”

Neu “menyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “wedi cael ei anafu’n ddifrifol.”

Neu “neu fenyw.”

Neu “neu fenyw.”

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu “na phlant amddifad.”

Neu “Ni ddylech chi gablu.”

Neu “rheolwyr.”

Hynny yw, cafnau gwasgu olew a chafnau gwasgu gwin.

Neu “tystiolaeth sy’n boblogaidd.”

Neu “ni fydda i’n esgusodi’r un drwg.”

Neu “gwybod am fywyd estronwr.”

Hefyd yn cael ei hadnabod fel Gŵyl yr Wythnosau, neu Pentecost.

Hefyd yn cael ei hadnabod fel Gŵyl y Pebyll (Tabernaclau).

Neu “o fenywod.”

Neu “bydda i’n gwneud i’ch holl elynion droi eu cefnau arnoch chi.”

Neu efallai, “ofni; panicio.”

Hynny yw, Afon Ewffrates.

Neu “meheryn.”

Neu “yr union ddyluniad.”

Neu “cist.”

Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).

Tua 7.4 cm (2.9 mod.).

Neu “arllwys.”

Neu “bara gosod.”

Mae hyn yn cyfeirio at y dail ar waelod y blodyn.

Neu “i’r gefeiliau.”

Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).

Neu “dyluniad.”

Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).

Neu “meheryn.”

Neu “ddau dyno.” Hynny yw, darn o bren sydd wedi ei ffurfio ar y pen er mwyn ei gysylltu â rhywbeth arall.

Neu “pedestal arian a thwll ym mhob un.”

Neu “dau bedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “pedestal arian a thwll ym mhob un.”

Neu “dau bedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “pedestal arian a thwll ym mhob un.”

Neu “dau bedestal a thwll ym mhob un.”

Mae’n debyg roedd y llen yn hongian o’r bachau hyn.

Neu “ar bedwar pedestal arian a thwll ym mhob un.”

Neu “llen.”

Neu “llen.”

Neu “pedestal copr a thwll ym mhob un.”

Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).

Neu “lludw brasterog,” hynny yw, lludw wedi ei wlychu â braster yr aberthau.

Neu “pedestal copr a thwll ym mhob un.”

Neu “modrwyau; cylchoedd; bandiau” ar gyfer cysylltu.

Neu “pedestal copr a thwll ym mhob un.”

Neu “modrwyau; cylchoedd; bandiau” ar gyfer cysylltu.

Neu “deg pedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “a thri phedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “a thri phedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “llen.”

Neu “a phedwar pedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “eu pedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “gyda phedestalau copr a thwll ym mhob un.”

Neu “band gwasg.”

Hynny yw, lled llaw, tua 22.2 cm (8.75 mod.).

Gem werthfawr heb ei hadnabod, efallai’n cyfeirio at ambr, hiasinth, twrmelin, neu opal.

Neu “cortynnau; cordiau.”

Neu “band gwasg.”

Neu “band gwasg.”

Neu “gweinidog.”

Llyth., “had.”

Neu “dau faharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “a’r ddau faharen.”

Neu “band gwasg.”

Neu “yn rhoi’r diadem sanctaidd.”

Neu “arllwys.”

Neu “ac arllwys.”

Neu “a’i dom; tail; baw.”

Neu “meheryn.”

Neu “y maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “mae’n faharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “y maharen.”

Hynny yw, rhywun sydd ddim o deulu Aaron.

Neu “dau faharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Llyth., ”‏rhwng y ddwy noswaith,”‏ sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Neu “maharen.”

Roedd effa yn gyfartal â 22 L.

Neu “fflŵr.”

Roedd hin yn gyfartal â 3.67 L.

Neu “ail faharen.”

Llyth., ”‏rhwng y ddwy noswaith,”‏ sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Tua 44.5 cm (17.5 mod.).

Llyth., ”‏rhwng y ddwy noswaith,”‏ sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Neu “arllwys.”

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu “yn ôl y sicl sanctaidd.”

Roedd gera yn gyfartal â 0.57 g (0.01835 oz t).

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Roedd hin yn gyfartal â 3.67 L.

Hynny yw, rhywun sydd ddim o deulu Aaron.

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Llyth., “had.”

Llyth., “had.”

Neu “dros weithred rymus.”

Llyth., “had.”

Neu “tlysau; harddwisgoedd.”

Neu “tlysau; harddwisgoedd.”

Llyth., “gwnaeth yr Israeliaid dynnu i ffwrdd.”

Neu “tlysau; harddwisgoedd.”

Neu “Rydw i’n dy adnabod wrth dy enw.”

Neu “wastad yn ffyddlon.”

Neu “am beidio â goddef duwiau eraill.”

Neu “maharen.”

Hefyd yn cael ei hadnabod fel Gŵyl y Pebyll (Tabernaclau).

Llyth., “y Deg Gair.” Hefyd yn cael eu hadnabod fel y Dengair Deddf.

Neu “meheryn.”

Neu “a’i bedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “bara gosod.”

Neu “llen.”

Neu “a’u pedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “llen.”

Neu “cortynnau; cordiau.”

Neu “menywod.”

Neu “eu hoffrymau chwifio.”

Neu “meheryn.”

Neu “Dyma’r holl fenywod.”

Neu “yr holl fenywod.”

Neu “menywod.”

Neu “menywod.”

Yn cyfeirio at Besalel mae’n debyg.

Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).

Neu “meheryn.”

Neu “ddau dyno.” Hynny yw, darn o bren sydd wedi ei ffurfio ar y pen er mwyn ei gysylltu â rhywbeth arall.

Neu “pedestal arian a thwll ym mhob un.”

Neu “dau bedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “40 pedestal arian ar eu cyfer a thwll ym mhob un, dau bedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “16 pedestal arian a thwll ym mhob un, dau bedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “pedwar pedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “llen.”

Neu “modrwyau; cylchoedd; bandiau” ar gyfer cysylltu.

Neu “pum pedestal a thwll ym mhob un.”

Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).

Tua 7.4 cm (2.9 mod.).

Neu “arllwys.”

Neu “a’r gefeiliau.”

Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).

Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).

Hynny yw, drychau metel a oedd yn sgleiniog iawn.

Neu “menywod.”

Neu “pedestal copr a thwll ym mhob un.”

Neu “modrwyau; cylchoedd; bandiau” ar gyfer cysylltu.

Neu “20 pedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “modrwyau; cylchoedd; bandiau” ar gyfer cysylltu.

Neu “deg pedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “modrwyau; cylchoedd; bandiau” ar gyfer cysylltu.

Neu “a thri phedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “a thri phedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “pedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “modrwyau; cylchoedd; bandiau” ar gyfer cysylltu.

Neu “llen.”

Neu “phedwar pedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “modrwyau; cylchoedd; bandiau” ar gyfer cysylltu.

Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu “yn ôl y sicl sanctaidd.”

Neu “yn ôl y sicl sanctaidd.”

Neu “yn ôl y sicl sanctaidd.”

Neu “pedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “a’r pedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “100 pedestal a thwll ym mhob un.”

Neu “pedestal a thwll ynddo.”

Neu “offrwm chwifio.”

Neu “fe wnaeth bedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “pedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “pedestalau mynedfa’r cwrt a thwll ym mhob un.”

Neu “band gwasg.”

Tua 22.2 cm (8.75 mod.).

Gem werthfawr heb ei hadnabod, efallai’n cyfeirio at ambr, hiasinth, twrmelin, neu opal.

Neu “cortynnau; cordiau.”

Neu “band gwasg.”

Neu “band gwasg.”

Neu “y diadem sanctaidd.”

Neu “a’i bedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “meheryn.”

Neu “bara gosod.”

Neu “llen.”

Neu “a’i bedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “llen.”

Neu “cortynnau’r; cordiau’r.”

Neu “rho len.”

Neu “llen.”

Neu “ei bedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “llen.”

Neu “llen.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu