LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • nwt Lefiticus 1:1-27:34
  • Lefiticus

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Lefiticus
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Lefiticus

LEFITICUS

1 Galwodd Jehofa* ar Moses a siarad ag ef o babell y cyfarfod, gan ddweud: 2 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Os bydd unrhyw un ohonoch chi’n cyflwyno offrwm i Jehofa o blith eich anifeiliaid domestig, dylech chi gyflwyno anifail o blith y gwartheg, y defaid, neu’r geifr.

3 “‘Os bydd rhywun yn cyflwyno tarw fel offrwm llosg, mae’n rhaid i’r tarw fod yn ddi-nam. Dylai ei gyflwyno o’i wirfodd o flaen Jehofa wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 4 Mae’n rhaid iddo osod ei law ar yr offrwm llosg, ar ben yr anifail, ac fe fydd ei offrwm yn cael ei dderbyn er mwyn iddo gael maddeuant am ei bechodau.

5 “‘Yna mae’n rhaid i’r tarw ifanc gael ei ladd o flaen Jehofa, a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn cyflwyno’r gwaed ac yn ei daenellu ar bob ochr i’r allor sydd wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 6 Dylai’r offrwm llosg gael ei flingo* a’i dorri’n ddarnau. 7 Mae’n rhaid i feibion Aaron, yr offeiriaid, roi tân ar yr allor a threfnu coed ar y tân. 8 Bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn trefnu darnau’r offrwm gan roi’r pen, a’r braster sydd o amgylch yr arennau, dros y coed sy’n llosgi ar yr allor. 9 Bydd y perfeddion a’r coesau yn cael eu golchi â dŵr, a bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor fel offrwm llosg, offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, a bydd yr arogl yn ei blesio.

10 “‘Os bydd yn cyflwyno offrwm llosg o blith y praidd, yr hyrddod* ifanc neu’r geifr, dylai fod yn wryw di-nam. 11 Mae’n rhaid i’r anifail gael ei ladd ar ochr ogleddol yr allor o flaen Jehofa, a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn taenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 12 Bydd yr offeiriad yn ei dorri’n ddarnau, ac yn eu trefnu nhw dros y coed sy’n llosgi ar yr allor, ynghyd â phen yr offrwm a’r braster sydd o amgylch yr arennau. 13 Fe fydd yn golchi’r perfeddion a’r coesau â dŵr ac yn cyflwyno’r cwbl, gan wneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor. Mae’n offrwm llosg, offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, a bydd yr arogl yn ei blesio.

14 “‘Fodd bynnag, os bydd rhywun yn offrymu adar fel offrwm llosg i Jehofa, bydd rhaid iddo gyflwyno turtur neu golomen ifanc. 15 Bydd yr offeiriad yn cyflwyno’r aderyn ar yr allor ac yn torri ei ben* ac yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, ond dylai ei waed gael ei wasgu allan ar ochr yr allor. 16 Dylai dorri ei grombil* allan a thynnu ei blu a’u taflu nhw wrth ymyl yr allor, i’r dwyrain, i’r lle ar gyfer y lludw.* 17 Bydd yn ei hollti’n agos i’w adenydd heb ei wahanu’n ddwy ran. Yna bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, dros y coed sydd ar y tân. Mae’n offrwm llosg, offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, a bydd yr arogl yn ei blesio.

2 “‘Nawr os bydd rhywun yn cyflwyno offrwm grawn i Jehofa, dylai ei offrwm gael ei wneud allan o flawd* mân, ac mae’n rhaid iddo dywallt* olew arno, a rhoi thus arno. 2 Yna mae’n rhaid iddo fynd â’r offrwm at feibion Aaron, yr offeiriaid, a bydd yr offeiriad yn cymryd llond llaw o’r blawd* mân a’r olew a’r holl thus, ac yn gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor, fel offrwm sy’n cynrychioli’r offrwm cyfan, offrwm sydd wedi ei wneud drwy dân fel arogl sy’n plesio Jehofa. 3 Mae beth bynnag sydd ar ôl o’r offrwm grawn yn perthyn i Aaron a’i feibion. Mae’n rhywbeth sanctaidd iawn gan ei fod yn rhan o’r offrymau sydd wedi cael eu gwneud drwy dân i Jehofa.

4 “‘Os byddwch chi’n cyflwyno offrwm grawn sydd wedi cael ei bobi yn y ffwrn,* dylai gael ei wneud â blawd* mân, dylai fod yn dorthau siâp modrwy heb furum sydd wedi eu cymysgu ag olew, neu’n fara croyw tenau sydd ag olew arno.

5 “‘Os byddwch chi’n cyflwyno offrwm grawn o’r gridyll, dylai gael ei wneud â blawd* mân heb furum sydd wedi cael ei gymysgu ag olew. 6 Dylai gael ei dorri’n ddarnau, a dylech chi dywallt* olew arno. Mae’n offrwm grawn.

7 “‘Os byddwch chi’n cyflwyno offrwm grawn sydd wedi cael ei baratoi mewn padell, dylai gael ei wneud â blawd* mân ac olew. 8 Dylech chi ddod â’ch offrymau grawn o flaen Jehofa, a’u cyflwyno nhw i’r offeiriad, a bydd yntau yn mynd â nhw at yr allor. 9 A bydd yr offeiriad yn cymryd ychydig o’r offrwm grawn fel offrwm sy’n cynrychioli’r offrwm cyfan ac yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, fel offrwm sydd wedi ei wneud drwy dân, arogl sy’n plesio Jehofa. 10 Mae beth bynnag sydd ar ôl o’r offrwm grawn yn perthyn i Aaron a’i feibion. Mae’n rhywbeth sanctaidd iawn gan ei fod yn rhan o’r offrymau sydd wedi cael eu gwneud drwy dân i Jehofa.

11 “‘Ni ddylai unrhyw offrwm grawn rydych chi’n ei gyflwyno i Jehofa gynnwys burum, ac ni ddylech chi wneud i fwg godi oddi ar unrhyw surdoes na mêl fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa.

12 “‘Cewch chi eu cyflwyno nhw i Jehofa fel offrwm y ffrwyth cyntaf, ond ni ddylech chi fynd â nhw at yr allor fel arogl sy’n plesio Duw.

13 “‘Bydd rhaid i bob offrwm grawn rydych chi’n ei wneud gael ei flasu â halen; peidiwch ag anghofio rhoi halen cyfamod eich Duw ar eich offrymau grawn. Byddwch yn cyflwyno halen ynghyd â phob un o’ch offrymau.

14 “‘Os byddwch chi’n cyflwyno offrwm grawn y ffrwyth cyntaf i Jehofa, dylech chi gyflwyno grawn newydd wedi ei rostio* â thân, grawn newydd wedi ei falu’n fras, fel offrwm grawn eich ffrwyth cyntaf. 15 Dylech chi roi olew a thus arno. Mae’n offrwm grawn. 16 Bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arno fel offrwm sy’n cynrychioli’r offrwm cyfan, hynny yw, fe fydd yn offrymu ychydig o’r grawn sydd wedi ei falu’n fras a’r olew ynghyd â’r holl thus fel offrwm sydd wedi cael ei wneud drwy dân i Jehofa.

3 “‘Os bydd rhywun yn offrymu aberth heddwch ac yn cyflwyno tarw neu fuwch o flaen Jehofa, dylai’r anifail fod yn ddi-nam. 2 Dylai osod ei law ar ben ei offrwm, a bydd yr anifail yn cael ei ladd wrth fynedfa pabell y cyfarfod; a bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn taenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 3 Fe fydd yn cyflwyno rhan o’r aberth heddwch fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa: y braster sy’n gorchuddio’r perfeddion, yr holl fraster sydd o amgylch y perfeddion, 4 a’r ddwy aren ynghyd â’u braster sy’n agos at y lwynau. Fe fydd hefyd yn tynnu i ffwrdd y braster sydd ar yr iau ynghyd â’r arennau. 5 Bydd meibion Aaron yn gwneud i fwg godi oddi ar y pethau hyn ar yr allor, ar ben yr offrwm llosg sy’n llosgi dros y tân; mae hyn yn offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, arogl sy’n ei blesio.

6 “‘Os bydd yn offrymu anifail o’r praidd fel aberth heddwch i Jehofa, bydd rhaid iddo gyflwyno anifail gwryw neu fenyw di-nam. 7 Os bydd yn cyflwyno hwrdd* ifanc fel offrwm, yna fe fydd yn ei gyflwyno o flaen Jehofa. 8 Bydd rhaid iddo osod ei law ar ben ei offrwm, a bydd yr anifail yn cael ei ladd o flaen pabell y cyfarfod. Bydd meibion Aaron yn taenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 9 Bydd ef yn cyflwyno braster yr aberth heddwch fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa. Bydd yn tynnu holl fraster y cynffon gan ei dorri wrth yr asgwrn cefn, a bydd hefyd yn tynnu’r braster sy’n gorchuddio’r perfeddion, yr holl fraster sydd o amgylch y perfeddion, 10 a’r ddwy aren ynghyd â’u braster sy’n agos at y lwynau. Yn ogystal â hynny, fe fydd yn tynnu’r braster sydd ar yr iau, ynghyd â’r arennau. 11 A bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi ar yr aberthau ar yr allor fel bwyd,* offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa.

12 “‘Os bydd yn offrymu gafr, yna bydd yn ei chyflwyno o flaen Jehofa. 13 Bydd rhaid iddo osod ei law ar ei phen, a bydd yr afr yn cael ei lladd o flaen pabell y cyfarfod. Yna bydd meibion Aaron yn taenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 14 Dyma’r rhannau bydd ef yn eu cyflwyno fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa: y braster sy’n gorchuddio’r perfeddion, yr holl fraster sydd o amgylch y perfeddion, 15 a’r ddwy aren ynghyd â’u braster sy’n agos at y lwynau. Bydd ef hefyd yn tynnu’r braster sydd ar yr iau, ynghyd â’r arennau. 16 Bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi ar yr aberthau ar yr allor fel bwyd,* fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân, arogl sy’n plesio Duw. Mae’r holl fraster yn perthyn i Jehofa.

17 “‘Mae hyn yn ddeddf barhaol ar gyfer eich cenedlaethau, ble bynnag byddwch chi’n byw: Peidiwch â bwyta unrhyw fraster nac unrhyw waed o gwbl.’”

4 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Os ydy unrhyw un yn pechu’n anfwriadol drwy wneud rhywbeth mae Jehofa wedi ei wahardd, dyma beth ddylai ddigwydd:

3 “‘Os bydd yr offeiriad sydd wedi cael ei eneinio yn pechu ac yn dod ag euogrwydd ar y bobl, yna bydd rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc di-nam i Jehofa fel offrwm dros bechod. 4 Bydd rhaid iddo fynd â’r tarw at fynedfa pabell y cyfarfod o flaen Jehofa a rhoi ei law ar ben y tarw, a dylai ladd y tarw o flaen Jehofa. 5 Yna bydd yr offeiriad sydd wedi cael ei eneinio yn cymryd ychydig o waed y tarw i mewn i babell y cyfarfod; 6 a bydd yr offeiriad yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu ychydig o’r gwaed saith gwaith gerbron Jehofa, o flaen llen y lle sanctaidd. 7 Hefyd bydd yr offeiriad yn rhoi ychydig o’r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth persawrus, sydd o flaen Jehofa ym mhabell y cyfarfod; ac fe fydd yn tywallt* gweddill gwaed y tarw wrth droed allor yr offrymau llosg, sydd wrth fynedfa pabell y cyfarfod.

8 “‘Yna fe fydd yn tynnu holl fraster tarw yr offrwm dros bechod, gan gynnwys y braster sy’n gorchuddio’r perfeddion a’r braster o amgylch y perfeddion, 9 a’r ddwy aren ynghyd â’u braster sy’n agos at y lwynau. Ac fe fydd yn tynnu’r braster sydd ar yr iau ynghyd â’r arennau, 10 fel mae’n gwneud â tharw yr aberth heddwch. A bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar allor yr offrymau llosg.

11 “‘Ond ynglŷn â chroen y tarw a’i holl gig, gan gynnwys ei ben, ei goesau, ei berfeddion, a’i garthion*— 12 gweddill y tarw—fe fydd yn ei gymryd y tu allan i’r gwersyll i le glân lle mae’r lludw* yn cael ei daflu, ac fe fydd yn ei losgi ar goed tân. Dylai gael ei losgi lle mae’r lludw yn cael ei daflu.

13 “‘Nawr os bydd holl gynulleidfa Israel yn euog o bechu’n anfwriadol, a hynny heb i’r gynulleidfa wybod eu bod nhw wedi pechu yn erbyn Jehofa, 14 yna pan fydd y bobl yn dod i wybod am y pechod, bydd rhaid i’r gynulleidfa gyflwyno tarw ifanc fel offrwm dros bechod, a’i gymryd o flaen pabell y cyfarfod. 15 Bydd rhaid i henuriaid y gynulleidfa roi eu dwylo ar ben y tarw o flaen Jehofa, a bydd y tarw yn cael ei ladd o flaen Jehofa.

16 “‘Yna bydd yr offeiriad sydd wedi cael ei eneinio yn mynd ag ychydig o waed y tarw i mewn i babell y cyfarfod. 17 Dylai’r offeiriad roi ei fys yn y gwaed a thaenellu ychydig ohono saith gwaith gerbron Jehofa, o flaen y llen. 18 Yna fe fydd yn rhoi ychydig o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd o flaen Jehofa, sydd ym mhabell y cyfarfod; a bydd yn tywallt* gweddill y gwaed wrth droed allor yr offrymau llosg, sydd wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 19 Yna fe fydd yn tynnu holl fraster y tarw ac yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor. 20 Dylai drin y tarw yn union fel gwnaeth ef drin y tarw arall, yr un a gafodd ei ddefnyddio fel offrwm dros bechod. Dyna sut bydd ef yn ei drin, a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r bobl gael maddeuant am eu pechodau. 21 Fe fydd yn gofyn i eraill gymryd y tarw ifanc y tu allan i’r gwersyll, ac fe fydd yn ei losgi yn union fel y gwnaeth â’r tarw cyntaf. Mae’n offrwm dros bechod ar gyfer y gynulleidfa.

22 “‘Pan fydd pennaeth yn pechu’n anfwriadol, ac yn euog o wneud rhywbeth roedd Jehofa ei Dduw wedi gorchymyn iddo beidio â’i wneud, 23 neu os bydd ef yn dod i wybod ei fod wedi pechu drwy fynd yn groes i orchymyn, yna bydd rhaid iddo ddod â bwch gafr ifanc di-nam fel offrwm. 24 Bydd rhaid iddo roi ei law ar ben y bwch gafr ifanc a’i ladd yn yr un lle ag y mae’r offrwm llosg yn cael ei ladd o flaen Jehofa. Mae’n offrwm dros bechod. 25 Bydd yr offeiriad yn cymryd ychydig o waed yr offrwm dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor yr offrymau llosg, ac fe fydd yn tywallt* gweddill y gwaed wrth droed allor yr offrymau llosg. 26 Fe fydd yn gwneud i fwg godi oddi ar yr holl fraster ar yr allor, yn union fel mae’n gwneud â braster yr aberth heddwch; a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r pennaeth gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo.

27 “‘Os bydd un o bobl y wlad yn pechu’n anfwriadol ac yn euog am ei fod wedi dorri un o orchmynion Jehofa, 28 neu os bydd ef yn dod i wybod ei fod wedi pechu, yna bydd rhaid iddo fynd â gafr ifanc ddi-nam fel offrwm dros ei bechod. 29 Bydd rhaid iddo roi ei law ar ben yr offrwm dros bechod a’i ladd yn yr un lle â’r offrwm llosg. 30 Bydd yr offeiriad yn cymryd ychydig o waed yr afr ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor yr offrymau llosg, a bydd yn tywallt* gweddill y gwaed wrth droed yr allor. 31 Fe fydd yn tynnu holl fraster yr afr, yn union fel mae’n gwneud â’r aberth heddwch, a bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arni ar yr allor fel arogl sy’n plesio Jehofa; a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo.

32 “‘Ond os bydd y person hwnnw yn aberthu oen fel offrwm dros bechod, yna dylai gyflwyno oen fenyw ddi-nam. 33 Bydd rhaid iddo roi ei law ar ben yr offrwm dros bechod a’i ladd yn yr un lle y cafodd yr offrwm llosg ei ladd. 34 Bydd yr offeiriad yn cymryd ychydig o waed yr offrwm dros bechod ar ei fys ac yn ei roi ar gyrn allor yr offrymau llosg, ac fe fydd yn tywallt* gweddill y gwaed wrth droed yr allor. 35 Fe fydd yn tynnu holl fraster yr oen, yn union fel mae’n gwneud â hwrdd* ifanc yr aberth heddwch, a bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi arni ar yr allor, ar ben offrymau Jehofa sydd wedi cael eu gwneud drwy dân; a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo.

5 “‘Os bydd rhywun yn dyst i ddrwgweithred, neu’n dysgu amdani, ac yn clywed cyhoeddiad i roi tystiolaeth* ond yn dweud dim, fe fydd yn atebol am ei bechod.

2 “‘Neu os bydd rhywun yn cyffwrdd ag unrhyw beth aflan, naill ai corff marw anifail gwyllt aflan, anifail domestig aflan, neu greadur aflan sy’n heidio, bydd ef yn aflan ac yn euog hyd yn oed os nad yw’n sylweddoli. 3 Neu os bydd rhywun yn cyffwrdd ag aflendid corfforol heb fod yn ymwybodol ohono—unrhyw beth a all ei wneud yn aflan—ac mae’n dod i wybod am y peth, yna fe fydd yn euog.

4 “‘Neu os bydd rhywun yn fyrbwyll ac yn addo ar lw ei fod yn mynd i wneud rhywbeth—naill ai rhywbeth da neu ddrwg—ond yna mae’n sylweddoli ei fod wedi tyngu llw yn fyrbwyll, fe fydd yn euog.*

5 “‘Os bydd ef yn euog o wneud unrhyw un o’r pethau hyn, yna bydd rhaid iddo gyffesu ei bechod. 6 Bydd rhaid iddo hefyd gyflwyno offrwm dros euogrwydd o flaen Jehofa ar gyfer ei bechod, hynny yw, benyw o’r praidd, naill ai oen fenyw neu afr ifanc, fel offrwm dros bechod. Yna bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod.

7 “‘Ond, os nad ydy’r person hwnnw yn gallu fforddio dafad, bydd rhaid iddo fynd â dwy durtur at Jehofa, neu ddwy golomen ifanc, fel offrwm dros euogrwydd ar gyfer ei bechod, un fel offrwm dros bechod a’r llall fel offrwm llosg. 8 Dylai fynd â nhw at yr offeiriad, ac fe fydd yntau yn cyflwyno’r un ar gyfer yr offrwm dros bechod yn gyntaf, gan dorri ei phen wrth ei gwddf heb dorri’r pen i ffwrdd yn gyfan gwbl. 9 Yna fe fydd yn taenellu ychydig o waed yr offrwm dros bechod ar ochr yr allor, ond bydd gweddill y gwaed yn cael ei wasgu allan wrth droed yr allor. Mae’n offrwm dros bechod. 10 Bydd ef yn trin yr aderyn arall fel offrwm llosg yn ôl y drefn arferol; a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo.

11 “‘Nawr os nad ydy’r person hwnnw yn gallu fforddio dwy durtur na dwy golomen ifanc, bydd rhaid iddo gyflwyno degfed ran o effa* o’r blawd* gorau fel offrwm dros bechod. Ni ddylai ychwanegu olew ato na rhoi thus arno, gan ei fod yn offrwm dros bechod. 12 Dylai fynd â’r offrwm at yr offeiriad, a bydd yr offeiriad yn cymryd llond llaw ohono fel offrwm sy’n cynrychioli’r offrwm cyfan ac yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, ar ben offrymau Jehofa sydd wedi cael eu gwneud drwy dân. Mae’n offrwm dros bechod. 13 Bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo. Bydd gweddill yr offrwm yn perthyn i’r offeiriad, yn union fel yr offrwm grawn.’”

14 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 15 “Os bydd rhywun yn anffyddlon i Dduw ac yn pechu’n anfwriadol drwy gamddefnyddio pethau sanctaidd Jehofa, dylai gyflwyno hwrdd* di-nam o’r praidd fel offrwm dros euogrwydd i Jehofa; bydd ei werth mewn siclau* arian yn cael ei osod yn ôl sicl y lle sanctaidd.* 16 A bydd ef yn talu iawndal am ei fod wedi pechu yn erbyn y lle sanctaidd, gan ychwanegu pumed o’i werth ato. Fe fydd yn ei roi i’r offeiriad, a bydd yr offeiriad yn aberthu hwrdd* yr offrwm dros euogrwydd er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo.

17 “Os bydd rhywun* yn pechu drwy wneud unrhyw beth mae Jehofa wedi gorchymyn iddo beidio â’i wneud, hyd yn oed os nad yw’n ymwybodol ohono, fe fydd yn dal yn euog a bydd yn atebol am ei bechod. 18 Dylai fynd â hwrdd* di-nam o’r praidd at yr offeiriad yn ôl y gwerth cywir, fel offrwm dros euogrwydd. Yna bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn iddo gael maddeuant am y camgymeriad anfwriadol a wnaeth heb wybod, a bydd Duw yn maddau iddo. 19 Mae’n offrwm dros euogrwydd. Mae ef yn bendant yn euog o bechu yn erbyn Jehofa.”

6 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Os bydd rhywun yn anffyddlon i Jehofa ac yn pechu drwy dwyllo ei gymydog mewn cysylltiad â rhywbeth sydd wedi cael ei roi yn ei ofal, neu drwy ddwyn oddi wrth ei gymydog a gwadu’r peth, 3 neu os bydd yn dod o hyd i rywbeth sydd wedi mynd ar goll ac yn dweud celwydd amdano, ac os bydd yn gelwyddog wrth dyngu llw ynglŷn ag unrhyw bechod o’r fath, dyma beth dylai ei wneud: 4 Os ydy ef wedi pechu ac yn euog, bydd rhaid iddo roi’r hyn y gwnaeth ef ei ddwyn yn ôl, yr hyn y mynnodd ei gael drwy drais, yr hyn a gymerodd drwy dwyll, yr hyn a gafodd ei roi yn ei ofal, neu’r hyn y daeth o hyd iddo, 5 neu unrhyw beth y gwnaeth ef dyngu llw ffals amdano, bydd rhaid iddo dalu iawndal llawn amdano, ac ychwanegu pumed o’i werth ato. Fe fydd yn ei roi i’r perchennog ar y diwrnod y bydd yn cael ei brofi’n euog. 6 A bydd yn cyflwyno offrwm dros euogrwydd o flaen Jehofa, sef hwrdd* di-nam o’r praidd, yn ôl y gwerth sydd wedi cael ei asesu. Bydd yn ei roi i’r offeiriad. 7 Bydd yr offeiriad yn aberthu o flaen Jehofa er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechod, a bydd Duw yn maddau iddo am unrhyw beth a wnaeth i’w wneud yn euog.”

8 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 9 “Rho orchymyn i Aaron a’i feibion, a dyweda, ‘Dyma gyfraith yr offrwm llosg: Bydd yr offrwm llosg yn aros dros y tân sydd ar yr allor drwy’r nos tan y bore, a bydd y tân yn parhau i losgi ar yr allor. 10 Bydd yr offeiriad yn gwisgo ei wisg swyddogol liain, a bydd yn gwisgo’r dillad isaf lliain. A bydd yn tynnu lludw* yr offrwm llosg oddi ar yr allor ac yn ei roi wrth ymyl yr allor. 11 Yna fe fydd yn dadwisgo ac yn gwisgo dillad gwahanol ac yn cymryd y lludw i le glân y tu allan i’r gwersyll. 12 Bydd y tân yn parhau i losgi ar yr allor. Ni ddylai gael ei ddiffodd. Mae’n rhaid i’r offeiriad losgi coed yn y tân bob bore a threfnu’r offrwm llosg drosto, a bydd yn gwneud i fwg godi oddi ar fraster yr aberthau heddwch. 13 Bydd tân yn llosgi drwy’r adeg ar yr allor. Ni ddylai gael ei ddiffodd.

14 “‘Nawr dyma gyfraith yr offrwm grawn: Mae’n rhaid i feibion Aaron ei gyflwyno gerbron Jehofa, o flaen yr allor. 15 Bydd un ohonyn nhw’n cymryd llond llaw o flawd* gorau yr offrwm grawn ac ychydig o’r olew a’r holl thus sydd ar yr offrwm grawn, ac yn gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor fel offrwm sy’n cynrychioli’r offrwm cyfan, a bydd yr arogl yn plesio Jehofa. 16 Bydd Aaron a’i feibion yn bwyta’r gweddill ohono. Byddan nhw’n ei ddefnyddio i wneud bara croyw ac yn ei fwyta mewn lle sanctaidd. Fe fyddan nhw’n ei fwyta yng nghwrt pabell y cyfarfod. 17 Ni ddylai gael ei bobi gydag unrhyw furum ynddo. Rydw i wedi rhoi hyn iddyn nhw fel eu rhan nhw o fy offrymau sydd wedi cael eu gwneud drwy dân. Mae’n rhywbeth sanctaidd iawn, fel yr offrwm dros bechod a’r offrwm dros euogrwydd. 18 Bydd pob un o feibion Aaron yn ei fwyta. Dylen nhw gael rhan o’r offrymau sydd wedi cael eu gwneud drwy dân i Jehofa; dyna fydd eu darpariaeth barhaol drwy gydol eu cenedlaethau. Bydd popeth sy’n cyffwrdd â nhw* yn sanctaidd.’”

19 Siaradodd Jehofa â Moses unwaith eto: 20 “Dyma’r offrwm bydd Aaron a’i feibion yn ei gyflwyno i Jehofa ar y diwrnod bydd Aaron yn cael ei eneinio: degfed ran o effa* o’r blawd* gorau fel offrwm grawn rheolaidd, hanner ohono yn y bore a hanner ohono yn y gwyll.* 21 Bydd yn cael ei wneud ag olew ar y gridyll. Dylet ti ddefnyddio olew i wlychu’r offrwm grawn sydd wedi ei bobi a’i gyflwyno mewn darnau, fel arogl sy’n plesio Jehofa. 22 Bydd yr offeiriad, yr un sy’n cael ei eneinio ar ôl Aaron o blith ei feibion, yn cyflwyno’r offrwm. Mae hyn yn ddeddf barhaol: Bydd mwg yn codi oddi arno fel offrwm cyfan i Jehofa. 23 Dylai pob offrwm grawn mae offeiriad yn ei wneud drosto’i hun fod yn offrwm cyfan. Ni ddylai gael ei fwyta.”

24 Siaradodd Jehofa â Moses eto a dweud: 25 “Dyweda wrth Aaron a’i feibion, ‘Dyma gyfraith yr offrwm dros bechod: Bydd yr offrwm dros bechod yn cael ei ladd o flaen Jehofa yn yr un lle ag y mae’r offrwm llosg yn cael ei ladd. Mae’n rhywbeth sanctaidd iawn. 26 Bydd yr offeiriad sy’n cyflwyno’r offrwm dros bechod yn ei fwyta. Fe fydd yn ei fwyta mewn lle sanctaidd, yng nghwrt pabell y cyfarfod.

27 “‘Bydd popeth sy’n cyffwrdd â’r offrwm yn sanctaidd, ac os bydd unrhyw un yn cael ychydig o waed yr offrwm ar ei ddillad, dylai’r dillad hynny gael eu golchi mewn lle sanctaidd. 28 Dylai’r llestr pridd y cafodd y cig ei ferwi ynddo gael ei falu’n deilchion. Ond os cafodd ei ferwi mewn llestr copr, yna dylai’r llestr hwnnw gael ei sgwrio a’i olchi â dŵr.

29 “‘Bydd pob gwryw ymhlith yr offeiriaid yn bwyta’r offrwm. Mae’n rhywbeth sanctaidd iawn. 30 Fodd bynnag, ni ddylai offrwm dros bechod gael ei fwyta os ydy ychydig o’r gwaed wedi cael ei gymryd i mewn i babell y cyfarfod er mwyn cael maddeuant yn y lle sanctaidd. Dylai’r offrwm gael ei losgi â thân.

7 “‘Dyma gyfraith yr offrwm dros euogrwydd: Mae’n rhywbeth sanctaidd iawn. 2 Bydd yr offrwm dros euogrwydd yn cael ei ladd yn yr un lle ag y mae’r offrymau llosg yn cael eu lladd, a dylai’r gwaed gael ei daenellu ar bob ochr i’r allor. 3 Fe fydd yr offeiriad yn cyflwyno’r holl fraster, gan gynnwys y braster sydd ar y cynffon, y braster sy’n gorchuddio’r perfeddion, 4 a’r ddwy aren ynghyd â’u braster sy’n agos at y lwynau. Fe fydd hefyd yn tynnu’r braster sydd ar yr iau ynghyd â’r arennau. 5 Yna fe fydd yn gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa. Mae’n offrwm dros euogrwydd. 6 Bydd pob gwryw ymhlith yr offeiriaid yn ei fwyta, a dylai gael ei fwyta mewn lle sanctaidd. Mae’n rhywbeth sanctaidd iawn. 7 Mae’r gyfraith ynglŷn â’r offrwm dros bechod hefyd yn berthnasol i’r offrwm dros euogrwydd; mae’n perthyn i’r offeiriad sy’n ei aberthu ar gyfer maddeuant pechodau.

8 “‘Pan fydd yr offeiriad yn cyflwyno’r offrwm llosg ar ran rhywun arall, bydd croen yr offrwm llosg a gafodd ei gyflwyno i’r offeiriad yn eiddo iddo.

9 “‘Bydd pob offrwm grawn sy’n cael ei bobi yn y ffwrn,* neu sy’n cael ei baratoi yn y badell neu ar y gridyll, yn perthyn i’r offeiriad sy’n ei gyflwyno. Fe fydd yn eiddo iddo. 10 Ond bydd pob offrwm grawn sydd wedi ei gymysgu ag olew neu sy’n sych yn perthyn i feibion Aaron i gyd; bydd pob un ohonyn nhw’n cael rhan gyfartal.

11 “‘Nawr dyma gyfraith yr aberth heddwch y gallai rhywun ei gyflwyno i Jehofa: 12 Os bydd ef yn cyflwyno’r aberth er mwyn dangos ei ddiolchgarwch, yna, ynghyd â’i aberth diolchgarwch, dylai gyflwyno torthau siâp modrwy sydd heb furum wedi eu cymysgu ag olew, bara croyw tenau sydd ag olew arno, a hefyd torthau siâp modrwy wedi eu gwneud â’r blawd* gorau sydd wedi ei gymysgu’n dda ag olew. 13 Bydd yn cyflwyno ei offrwm ynghyd â’r torthau siâp modrwy sy’n cynnwys burum, a’i aberthau heddwch, sef yr aberth diolchgarwch. 14 O blith y rhain dylai ef gyflwyno un o bob offrwm fel offrwm sanctaidd i Jehofa; byddan nhw’n eiddo i’r offeiriad sy’n taenellu gwaed yr aberthau heddwch. 15 Mae’n rhaid i gig yr aberthau heddwch, sef yr aberth diolchgarwch, gael ei fwyta ar y diwrnod mae’r offeiriad yn ei offrymu. Ni ddylai gadw dim o’r aberth tan y bore.

16 “‘Os yw’r aberth mae’n ei gynnig yn llw neu’n offrwm gwirfoddol, bydd rhaid iddo gael ei fwyta ar yr un diwrnod ag y mae’n cael ei gyflwyno, a bydd yr hyn sydd ar ôl yn gallu cael ei fwyta y diwrnod wedyn hefyd. 17 Ond bydd beth bynnag sydd ar ôl o’r aberth ar y trydydd diwrnod yn cael ei losgi â thân. 18 Fodd bynnag, os bydd unrhyw ran o’i aberth heddwch yn cael ei fwyta ar y trydydd diwrnod, ni fydd yr un sy’n ei gyflwyno yn cael ei dderbyn â chymeradwyaeth. Ni fydd yn elwa ohono; mae’n rhywbeth ffiaidd, a bydd y person sy’n bwyta ychydig ohono yn atebol am ei bechod. 19 Ni ddylai cig sy’n cyffwrdd ag unrhyw beth aflan gael ei fwyta. Mae’n rhaid iddo gael ei losgi â thân. Mae pawb sy’n lân yn gallu bwyta’r cig glân.

20 “‘Ond dylai unrhyw un aflan sy’n bwyta cig yr aberth heddwch sydd ar gyfer Jehofa gael ei roi i farwolaeth.* 21 Os ydy rhywun yn cyffwrdd ag unrhyw beth aflan, naill ai aflendid corfforol, neu anifail aflan, neu unrhyw beth arall sy’n aflan a ffiaidd, ac mae’n bwyta ychydig o’r aberth heddwch sydd ar gyfer Jehofa, dylai’r person hwnnw gael ei ladd.’”*

22 Aeth Jehofa ymlaen i siarad â Moses, gan ddweud: 23 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Ni ddylech chi fwyta unrhyw fraster sy’n dod oddi ar darw neu hwrdd* ifanc neu afr. 24 Mae braster anifail sydd wedi marw neu fraster anifail sydd wedi cael ei ladd gan anifail arall yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall, ond peidiwch byth â’i fwyta. 25 Oherwydd dylai unrhyw un sy’n bwyta braster offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa gael ei ladd.*

26 “‘Peidiwch â bwyta unrhyw waed ble bynnag rydych chi’n byw, naill ai gwaed adar neu waed anifeiliaid. 27 Mae’n rhaid i unrhyw un* sy’n bwyta unrhyw waed gael ei roi i farwolaeth.’”*

28 Aeth Jehofa ymlaen i siarad â Moses, gan ddweud: 29 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Bydd pwy bynnag sy’n cyflwyno ei aberth heddwch i Jehofa yn dod â rhan o’i aberth o flaen Jehofa fel offrwm iddo. 30 Dylai ef ei hun ddod â’r braster ynghyd â’r frest fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, ac fe fydd yn ei chwifio yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. 31 Bydd yr offeiriad yn gwneud i fwg godi oddi ar y braster ar yr allor, ond bydd y frest yn perthyn i Aaron a’i feibion.

32 “‘Byddwch chi’n rhoi coes dde eich aberthau heddwch i’r offeiriad fel offrwm sanctaidd. 33 Bydd mab Aaron, yr un sy’n cyflwyno gwaed yr aberthau heddwch a’r braster, yn cymryd y goes dde fel ei ran ef. 34 Oherwydd rydw i’n cymryd brest yr offrwm chwifio a choes yr offrwm sanctaidd oddi wrth aberthau heddwch yr Israeliaid, ac rydw i’n eu rhoi nhw i Aaron yr offeiriad a’i feibion fel deddf barhaol ar gyfer yr Israeliaid.

35 “‘Dyma beth roedd rhaid ei neilltuo ar gyfer yr offeiriaid o blith offrymau Jehofa sy’n cael eu gwneud drwy dân, ar gyfer Aaron a’i feibion, ar y diwrnod y cawson nhw eu cyflwyno i wasanaethu fel offeiriaid i Jehofa. 36 Gorchmynnodd Jehofa i’r Israeliaid roi rhan o’u haberthau i’r offeiriaid ar y diwrnod y cawson nhw eu heneinio. Mae hyn yn ddeddf barhaol ar gyfer eu cenedlaethau.’”

37 Dyna’r gyfraith ynglŷn â’r offrwm llosg, yr offrwm grawn, yr offrwm dros bechod, yr offrwm dros euogrwydd, yr aberth sy’n cael ei offrymu er mwyn penodi’r offeiriaid, a’r aberth heddwch, 38 yn union fel gorchmynnodd Jehofa i Moses ar Fynydd Sinai ar y dydd y gorchmynnodd i’r Israeliaid gyflwyno eu hoffrymau i Jehofa yn anialwch Sinai.

8 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Cymera Aaron ynghyd â’i feibion, y dillad, yr olew eneinio, tarw yr offrwm dros bechod, y ddau hwrdd,* a’r fasged o fara heb furum, 3 a chasgla’r holl gynulleidfa at ei gilydd wrth fynedfa pabell y cyfarfod.”

4 Yna gwnaeth Moses yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo, a daeth y gynulleidfa at ei gilydd wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 5 Nawr dywedodd Moses wrth y gynulleidfa: “Dyma beth mae Jehofa wedi gorchymyn inni ei wneud.” 6 Felly daeth Moses ag Aaron a’i feibion yn agos a’u golchi nhw â dŵr. 7 Ar ôl hynny fe roddodd y fantell ar Aaron, ei lapio â’r sash, ei wisgo â’r gôt heb lewys, a rhoi’r effod amdano a’i glymu â belt* yr effod sydd wedi cael ei weu, gan ei rwymo’n dynn amdano. 8 Nesaf fe roddodd amdano’r darn o wisg sydd wedi ei brodio sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad,* a rhoi’r Urim a’r Thummim ynddi. 9 Yna fe roddodd y tyrban ar ei ben, a rhoi’r plât sgleiniog o aur ar flaen y tyrban, yr arwydd sanctaidd o gysegriad i Dduw,* yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

10 Yna cymerodd Moses yr olew eneinio ac eneinio’r tabernacl a’r holl bethau a oedd ynddo, a’u sancteiddio nhw. 11 Ar ôl hynny dyma’n taenellu ychydig o’r olew saith gwaith ar yr allor ac eneinio’r allor, yr holl offer, a’r basn a’i stand er mwyn eu sancteiddio nhw. 12 Yn olaf dyma’n tywallt* ychydig o’r olew eneinio ar ben Aaron a’i eneinio er mwyn ei sancteiddio.

13 Yna daeth Moses â meibion Aaron yn agos a rhoi’r mentyll amdanyn nhw a’u lapio nhw â sashiau a rhoi* penwisgoedd arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo.

14 Yna cymerodd darw yr offrwm dros bechod, a gosododd Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben tarw yr offrwm dros bechod. 15 Gwnaeth Moses ei ladd a chymryd ychydig o’r gwaed ar ei fys a’i roi ar holl gyrn yr allor gan buro’r allor o bechod, ond fe wnaeth dywallt* gweddill y gwaed wrth droed yr allor er mwyn ei sancteiddio, fel bod aberthau ar gyfer maddeuant pechodau yn gallu cael eu cyflwyno arni. 16 Ar ôl hynny fe gymerodd yr holl fraster a oedd ar y perfeddion, y braster a oedd ar yr iau, a’r ddwy aren ynghyd â’u braster, a dyma Moses yn gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor. 17 Yna cafodd gweddill y tarw, ei groen, ei gig, a’i garthion,* eu llosgi â thân y tu allan i’r gwersyll, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

18 Nawr fe ddaeth â hwrdd* yr offrwm llosg yn agos, a gosododd Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.* 19 Yna gwnaeth Moses ei ladd a thaenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 20 Torrodd Moses yr hwrdd* yn ddarnau, a gwneud i fwg godi oddi ar y pen, y darnau, a’r braster o amgylch yr arennau. 21 Golchodd y perfeddion a’r coesau â dŵr, a gwneud i fwg godi oddi ar yr hwrdd* cyfan ar yr allor. Roedd yn offrwm llosg, arogl sy’n plesio Duw. Roedd yn offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, yn union fel gorchmynnodd Jehofa i Moses.

22 Yna cymerodd yr ail hwrdd,* hwrdd* y penodi, a gosododd Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.* 23 Gwnaeth Moses ei ladd a chymryd ychydig o’i waed a’i roi ar waelod clust dde Aaron ac ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed dde. 24 Nesaf dywedodd Moses wrth feibion Aaron i gamu ymlaen a rhoddodd ychydig o’r gwaed ar bob un, ar waelod ei glust dde ac ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed dde; ond taenellodd Moses weddill y gwaed ar bob ochr i’r allor.

25 Yna fe gymerodd y braster, y braster sydd ar y cynffon, yr holl fraster sydd ar y perfeddion, y braster sydd ar yr iau, y ddwy aren ynghyd â’u braster, a’r goes dde. 26 Fe gymerodd dorth siâp modrwy a oedd heb furum allan o fasged y bara croyw a oedd o flaen Jehofa, yn ogystal â thorth siâp modrwy wedi ei gymysgu ag olew, ac un darn o fara tenau. Yna dyma’n eu gosod nhw ar y darnau o fraster ac ar y goes dde. 27 Ar ôl hynny fe roddodd y cyfan yn nwylo Aaron ac yn nwylo ei feibion a dechreuon nhw eu chwifio yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. 28 Yna dyma Moses yn eu cymryd nhw o’u dwylo ac yn gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor, ar ben yr offrwm llosg. Roedden nhw’n cael eu hoffrymu fel aberth er mwyn penodi’r offeiriaid, offrwm a gafodd ei wneud drwy dân i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio.

29 Yna cymerodd Moses y frest a’i chwifio yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. Rhan Moses oedd brest hwrdd* y penodi, yn union fel gorchmynnodd Jehofa i Moses.

30 A chymerodd Moses ychydig o’r olew eneinio ac ychydig o’r gwaed a oedd ar yr allor a’u taenellu ar Aaron a’i ddillad ac ar ei feibion a’u dillad nhw. Felly fe wnaeth sancteiddio Aaron a’i ddillad a’i feibion a’u dillad nhw.

31 Yna dywedodd Moses wrth Aaron a’i feibion: “Mae’n rhaid ichi ferwi’r cig wrth fynedfa pabell y cyfarfod, a’i fwyta yno gyda bara o’r fasged sy’n cael ei defnyddio wrth i’r offeiriaid gael eu penodi, yn union fel ces i fy ngorchymyn, ‘Bydd Aaron a’i feibion yn ei fwyta.’ 32 Byddwch chi’n llosgi’r cig a’r bara sydd ar ôl â thân. 33 Ni ddylech chi adael mynedfa pabell y cyfarfod am saith diwrnod, nes eich bod chi wedi cael eich penodi’n offeiriaid, oherwydd bydd yn cymryd saith diwrnod i’ch penodi chi’n offeiriaid. 34 Gorchmynnodd Jehofa inni wneud yr hyn rydyn ni wedi ei wneud heddiw er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau. 35 Bydd rhaid ichi aros wrth fynedfa pabell y cyfarfod ddydd a nos am saith diwrnod a bydd rhaid ichi aros yn ufudd i orchmynion Jehofa, fel na fyddwch chi’n marw; oherwydd dyna beth ces i fy ngorchymyn i’w ddweud wrthoch chi.”

36 A dyma Aaron a’i feibion yn gwneud yr holl bethau roedd Jehofa wedi eu gorchymyn drwy Moses.

9 Ar yr wythfed diwrnod, dyma Moses yn galw am Aaron a’i feibion a henuriaid Israel. 2 Dywedodd wrth Aaron: “Cymera lo ifanc i ti dy hun fel offrwm dros bechod a hwrdd* fel offrwm llosg, rhai di-nam, a chyflwyna nhw o flaen Jehofa. 3 Ond dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Cymerwch fwch gafr fel offrwm dros bechod yn ogystal â llo a hwrdd* ifanc fel offrwm llosg, pob un yn flwydd oed ac yn ddi-nam. 4 Cymerwch hefyd darw a hwrdd* fel aberthau heddwch, er mwyn eu haberthu o flaen Jehofa, ac offrwm grawn wedi ei gymysgu ag olew, oherwydd bydd Jehofa yn ymddangos ichi heddiw.’”

5 Felly daethon nhw â’r pethau hyn o flaen pabell y cyfarfod yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn. Daeth y gynulleidfa gyfan ymlaen a sefyll o flaen Jehofa. 6 A dywedodd Moses: “Dyma beth mae Jehofa wedi gorchymyn i chi ei wneud, er mwyn ichi weld gogoniant Jehofa.” 7 Yna dywedodd Moses wrth Aaron: “Tyrd at yr allor a chyflwyna dy offrwm dros bechod a dy offrwm llosg, ac abertha er mwyn i ti a dy dŷ gael maddeuant am eich pechodau; a chyflwyna offrwm y bobl, ac abertha er mwyn iddyn nhw gael maddeuant am eu pechodau, yn union fel mae Jehofa wedi gorchymyn.”

8 Ar unwaith aeth Aaron at yr allor a lladd llo yr offrwm dros bechod a oedd ar ei gyfer ef. 9 Yna aeth meibion Aaron ymlaen i gyflwyno’r gwaed iddo, a rhoddodd ei fys yn y gwaed a’i roi ar gyrn yr allor, ac yna tywallt* gweddill y gwaed wrth droed yr allor. 10 Yna, ar yr allor, gwnaeth i fwg godi oddi ar y braster a’r arennau, ac oddi ar fraster iau yr offrwm dros bechod, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. 11 Yna llosgodd y cig a’r croen â thân y tu allan i’r gwersyll.

12 Yna lladdodd yr offrwm llosg, a rhoddodd meibion Aaron y gwaed iddo, ac aeth ymlaen i’w daenellu ar bob ochr i’r allor. 13 Yna rhoddon nhw ddarnau yr offrwm llosg iddo ynghyd â’r pen, a gwnaeth i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor. 14 Yna, aeth ymlaen i olchi’r perfeddion a’r coesau a gwneud i fwg godi oddi arnyn nhw ar yr allor ynghyd â gweddill yr offrwm llosg.

15 Yna cyflwynodd offrwm y bobl, gan gymryd bwch gafr yr offrwm dros bechod a oedd ar gyfer y bobl a’i ladd. Fe wnaeth ei gyflwyno fel offrwm dros bechod yn debyg i’r un cyntaf. 16 Yna cyflwynodd yr offrwm llosg a’i drin yn ôl y drefn arferol.

17 Nesaf cyflwynodd yr offrwm grawn gan lenwi ei law ag ychydig ohono a gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, yn ogystal ag offrwm llosg y bore.

18 Ar ôl hynny, aeth ymlaen i ladd y tarw a hwrdd* yr aberth heddwch a oedd ar gyfer y bobl. Yna rhoddodd meibion Aaron y gwaed iddo, ac aeth Aaron ymlaen i daenellu’r gwaed ar bob ochr i’r allor. 19 Ynglŷn â’r darnau o fraster oddi ar y tarw, y braster sydd ar gynffon yr hwrdd,* y braster sy’n gorchuddio’r organau mewnol, yr arennau, a’r braster sydd ar yr iau, 20 rhoddodd meibion Aaron y darnau hynny o fraster ar y ddwy frest, a dyma Aaron yn gwneud i fwg godi oddi ar y darnau hynny o fraster ar yr allor. 21 Yna aeth Aaron ymlaen i chwifio’r ddwy frest a’r goes dde yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa, yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn.

22 Yna cododd Aaron ei ddwylo i gyfeiriad y bobl a’u bendithio nhw, a daeth i lawr o’r allor ar ôl cyflwyno’r offrwm dros bechod a’r offrwm llosg a’r aberthau heddwch. 23 Yn olaf aeth Moses ac Aaron i mewn i babell y cyfarfod a dod allan a bendithio’r bobl.

Yna ymddangosodd gogoniant Jehofa o flaen yr holl bobl, 24 ac anfonodd Jehofa dân a llosgi’r offrwm llosg a’r darnau o fraster ar yr allor. Pan welodd y bobl hyn, dechreuon nhw weiddi ac ymgrymu â’u hwynebau at y llawr.

10 Yn nes ymlaen dyma feibion Aaron, Nadab ac Abihu, yn rhoi tân yn eu llestri dal tân ac arogldarth ar ben hynny. Yna dechreuon nhw offrymu tân anghyfreithlon o flaen Jehofa, rhywbeth nad oedd Duw wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud. 2 Gyda hynny daeth tân oddi wrth Jehofa a’u llosgi nhw, fel eu bod nhw’n marw o flaen Jehofa. 3 Yna dyma Moses yn dweud wrth Aaron: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei ddweud, ‘Bydda i’n cael fy ngwneud yn sanctaidd ymhlith y rhai sy’n agos ata i, a bydda i’n cael fy ngogoneddu o flaen yr holl bobl.’” Ac arhosodd Aaron yn ddistaw.

4 Felly galwodd Moses ar Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel, ewythr Aaron, a dweud wrthyn nhw: “Dewch yma, ac ewch â’ch brodyr i ffwrdd o’r lle sanctaidd i rywle y tu allan i’r gwersyll.” 5 Felly gwnaethon nhw gamu ymlaen a chario’r dynion i ffwrdd yn eu mentyll i rywle y tu allan i’r gwersyll, yn union fel roedd Moses wedi dweud wrthyn nhw.

6 Yna dywedodd Moses wrth Aaron a’i feibion eraill, Eleasar ac Ithamar: “Peidiwch â gadael i’ch gwallt fynd yn flêr na rhwygo eich dillad, fel na fyddwch chi’n marw ac fel na fydd Duw yn gwylltio yn erbyn yr holl gynulleidfa. Bydd eich brodyr, holl gynulleidfa Israel, yn wylo dros y rhai y gwnaeth Jehofa eu lladd â thân. 7 Ni ddylech chi adael mynedfa pabell y cyfarfod fel na fyddwch chi’n marw, gan fod olew eneinio Jehofa arnoch chi.” Felly gwnaethon nhw ddilyn geiriau Moses.

8 Yna dywedodd Jehofa wrth Aaron: 9 “Pan fyddi di a dy feibion yn dod i mewn i babell y cyfarfod, ni ddylech chi yfed gwin nac unrhyw ddiod alcoholig, fel na fyddwch chi’n marw. Mae’n ddeddf barhaol ar gyfer eich cenedlaethau. 10 Gwnewch hyn er mwyn gwahaniaethu rhwng rhywbeth sanctaidd a rhywbeth ffiaidd a rhwng rhywbeth aflan a rhywbeth glân, 11 ac er mwyn dysgu’r Israeliaid am yr holl reolau mae Jehofa wedi eu rhoi iddyn nhw drwy Moses.”

12 Yna siaradodd Moses ag Aaron, ac Eleasar ac Ithamar, ei feibion a oedd ar ôl: “Allan o’r offrymau a gafodd eu gwneud drwy dân i Jehofa, cymerwch beth sydd ar ôl o’r offrwm grawn a’i bobi i wneud torthau heb furum. Dylech chi fwyta’r torthau hyn wrth ymyl yr allor, gan eu bod nhw’n sanctaidd iawn. 13 Am fod dy gyfran di a chyfran dy feibion wedi dod o offrymau Jehofa sydd wedi cael eu gwneud drwy dân, mae’n rhaid ichi eu bwyta mewn lle sanctaidd, oherwydd dyna oedd y gorchymyn a ges i. 14 Byddwch chi hefyd yn bwyta brest yr offrwm chwifio a choes yr offrwm sanctaidd mewn lle glân, ti a dy feibion a dy ferched, oherwydd dyna yw dy gyfran di a chyfran dy feibion o aberthau heddwch yr Israeliaid. 15 Byddan nhw’n dod â choes yr offrwm sanctaidd a brest yr offrwm chwifio, ynghyd â’r offrymau o fraster sydd wedi cael eu gwneud drwy dân, er mwyn chwifio’r offrwm chwifio yn ôl ac ymlaen o flaen Jehofa; a bydd yn gyfran reolaidd ar dy gyfer di a dy feibion, yn union fel mae Jehofa wedi gorchymyn.”

16 A chwiliodd Moses yn drylwyr am fwch gafr yr offrwm dros bechod, a gwelodd ei fod wedi cael ei losgi. Felly gwylltiodd yn lân ag Eleasar ac Ithamar, meibion Aaron a oedd ar ôl, a dywedodd: 17 “Pam na wnaethoch chi fwyta’r offrwm dros bechod yn y lle sanctaidd, gan ei fod yn rhywbeth sanctaidd iawn, rhywbeth mae ef wedi ei roi i chi er mwyn ichi allu cario pechod y gynulleidfa ac aberthu o flaen Jehofa er mwyn iddyn nhw gael maddeuant am eu pechodau? 18 Edrychwch! Dydy ei waed ddim wedi dod i mewn i’r lle sanctaidd. Yn sicr dylech chi fod wedi ei fwyta yn y lle sanctaidd, yn union fel y ces i fy ngorchymyn.” 19 Dyma Aaron yn ateb Moses drwy ddweud: “Edrycha! Heddiw gwnaethon nhw gyflwyno eu hoffrwm dros bechod a’u hoffrwm llosg o flaen Jehofa, ond er hynny, digwyddodd y pethau hyn imi. Petaswn i wedi bwyta’r offrwm dros bechod heddiw, a fyddai hynny wedi plesio Jehofa?” 20 Pan glywodd Moses hynny, roedd yn fodlon.

11 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 2 “Dywedwch wrth yr Israeliaid, ‘Dyma greaduriaid byw y ddaear* y cewch chi eu bwyta: 3 Cewch chi fwyta pob anifail sy’n cnoi cil, ac sydd â charnau fforchog sydd hefyd wedi eu hollti.

4 “‘Ond ni ddylech chi fwyta’r anifeiliaid hyn sy’n cnoi cil neu sydd â charnau wedi eu hollti: y camel, sy’n cnoi cil ond does ganddo ddim carnau wedi eu hollti. Dylai fod yn aflan ichi. 5 Hefyd mochyn daear y creigiau, oherwydd mae’n cnoi cil ond does ganddo ddim carnau wedi eu hollti. Dylai fod yn aflan ichi. 6 Hefyd yr ysgyfarnog, oherwydd mae’n cnoi cil ond does ganddi ddim carnau wedi eu hollti. Dylai fod yn aflan ichi. 7 Hefyd y mochyn, oherwydd mae ganddo garnau wedi eu hollti, sydd hefyd yn fforchog, ond nid yw’n cnoi cil. Dylai fod yn aflan ichi. 8 Peidiwch â bwyta unrhyw ran o’u cig na chyffwrdd â’u cyrff marw. Dylen nhw fod yn aflan ichi.

9 “‘Dyma beth cewch chi ei fwyta o’r hyn sy’n byw yn y dŵr: Unrhyw beth yn y dŵr sydd ag esgyll a chen, naill ai yn y moroedd neu yn yr afonydd, cewch chi fwyta’r rhain. 10 Dylai holl greaduriaid y moroedd a’r afonydd sydd heb esgyll na chen, gan gynnwys creaduriaid sy’n heidio, fod yn ffiaidd ichi. 11 Yn wir, dylen nhw fod yn ffiaidd ichi, ac ni ddylech chi fwyta unrhyw ran o’u cig, ac mae’n rhaid ichi gasáu eu cyrff marw. 12 Dylai popeth sydd yn y dŵr sydd heb esgyll na chen fod yn ffiaidd ichi.

13 “‘Dyma’r creaduriaid sy’n hedfan y dylech chi eu casáu; ni ddylech chi eu bwyta, oherwydd maen nhw’n ffiaidd: yr eryr, gwalch y pysgod, y fwltur du, 14 y barcud coch a phob math o farcutiaid du, 15 pob math o gigfrain, 16 yr estrys, y dylluan, yr wylan, a phob math o hebogiaid, 17 y dylluan fach, y fulfran,* y dylluan gorniog, 18 yr alarch, y pelican, y fwltur, 19 y storc, pob math o grehyrod, y gopog, a’r ystlum. 20 Dylai pob creadur* sydd ag adenydd, sydd hefyd yn heidio, ac sy’n cerdded ar bedair coes fod yn ffiaidd ichi.

21 “‘O’r creaduriaid sydd ag adenydd, sydd hefyd yn heidio, ac sy’n cerdded ar bedair coes, cewch chi fwyta ond y rhai sydd â choesau cymalog uwchben eu traed ar gyfer neidio. 22 Cewch chi fwyta’r rhain: pob math o locustiaid mudol, locustiaid eraill sy’n bosib eu bwyta, criciaid, a sioncod y gwair.* 23 Dylai pob math arall o greaduriaid sydd ag adenydd, sydd hefyd yn heidio, ac sydd â phedair coes fod yn ffiaidd ichi. 24 Drwy fwyta’r rhain byddech chi’n eich gwneud eich hunain yn aflan. Bydd pawb sy’n cyffwrdd â’u cyrff marw yn aflan tan fachlud yr haul. 25 Dylai rhywun sy’n cario unrhyw un o’u cyrff marw olchi ei ddillad; bydd ef yn aflan tan fachlud yr haul.

26 “‘Dylai unrhyw anifail sydd â charnau wedi eu hollti, ond sydd ddim yn fforchog, ac sydd ddim yn cnoi cil fod yn aflan ichi. Bydd pawb sy’n cyffwrdd â nhw yn aflan. 27 Ymhlith y creaduriaid byw sy’n cerdded ar bedair coes, dylai pob un sydd â phawennau fod yn aflan ichi. Bydd pawb sy’n cyffwrdd â’u cyrff marw yn aflan tan fachlud yr haul. 28 Dylai’r un sy’n cario eu cyrff marw olchi ei ddillad, a bydd ef yn aflan tan fachlud yr haul. Dylen nhw fod yn aflan ichi.

29 “‘O holl greaduriaid y ddaear sy’n heidio, dylai’r rhain fod yn aflan ichi: y llygoden sy’n tyrchu, y llygoden, madfallod o unrhyw fath, 30 y geco, y fadfall fawr, y fadfall ddŵr, madfall y tywod, a’r camelion. 31 Dylai’r creaduriaid hyn sy’n heidio fod yn aflan ichi. Bydd pawb sy’n cyffwrdd â’u cyrff marw yn aflan tan fachlud yr haul.

32 “‘Nawr bydd unrhyw beth maen nhw’n syrthio arno ar ôl iddyn nhw farw yn aflan, p’un a ydy hynny’n offeryn pren, yn ddilledyn, yn groen anifail, neu’n ddarn o sachliain. Dylai unrhyw offeryn sy’n cael ei ddefnyddio gael ei drochi mewn dŵr, a bydd yn aflan tan fachlud yr haul; yna fe fydd yn lân. 33 Os ydyn nhw’n syrthio i mewn i lestr pridd, mae’n rhaid ichi ei falu’n ddarnau, a bydd unrhyw beth a oedd ynddo yn aflan. 34 Bydd unrhyw fwyd sy’n cyffwrdd â dŵr o’r llestr hwnnw yn aflan, a bydd unrhyw ddiod o’r llestr hwnnw yn aflan. 35 Bydd unrhyw beth mae eu cyrff aflan yn syrthio arno yn aflan. P’un a ydy hynny’n ffwrn* neu’n stof fach, dylai gael ei thorri’n ddarnau. Maen nhw’n aflan, a dylen nhw aros yn aflan ichi. 36 Dim ond ffynnon a phydew ar gyfer storio dŵr fydd yn parhau i fod yn lân, ond bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â’u cyrff marw yn aflan. 37 Os bydd eu cyrff marw yn syrthio ar hedyn planhigyn sydd i’w gael ei hau, mae’n lân. 38 Ond os bydd hedyn yn cael ei ddyfrio ac yna mae rhan o’u cyrff marw yn syrthio arno, dylai’r hedyn fod yn aflan ichi.

39 “‘Nawr os bydd anifail rydych chi’n ei ddefnyddio ar gyfer bwyd yn marw, bydd pwy bynnag sy’n cyffwrdd â’i gorff marw yn aflan tan fachlud yr haul. 40 Dylai pwy bynnag sy’n bwyta unrhyw ran o’r corff marw olchi ei ddillad, a bydd yn aflan tan fachlud yr haul. Os bydd rhywun yn cario’r corff marw i ffwrdd yna bydd rhaid iddo olchi ei ddillad, a bydd yn aflan tan fachlud yr haul. 41 Mae’r holl greaduriaid ar y ddaear sy’n heidio i gyd yn ffiaidd. Ni ddylech chi eu bwyta. 42 Ni ddylech chi fwyta unrhyw greadur sy’n cropian ar ei fol, sy’n cerdded ar bedair coes, neu unrhyw greadur sy’n heidio sydd â nifer mawr o goesau, gan eu bod nhw’n ffiaidd. 43 Peidiwch â’ch gwneud eich hunain* yn ffiaidd drwy fwyta unrhyw greadur sy’n heidio, a pheidiwch â’ch llygru eich hunain na’ch gwneud eich hunain yn aflan drwy ei fwyta. 44 Oherwydd fi yw Jehofa eich Duw, ac mae’n rhaid ichi eich sancteiddio eich hunain a bod yn sanctaidd, gan fy mod i’n sanctaidd. Felly ni ddylech chi eich gwneud eich hunain* yn aflan drwy fwyta unrhyw greadur sy’n heidio ac sy’n symud ar y ddaear. 45 Oherwydd fi yw Jehofa, yr un sy’n eich arwain chi allan o wlad yr Aifft er mwyn profi fy mod i’n Dduw ichi, ac mae’n rhaid ichi fod yn sanctaidd, gan fy mod i’n sanctaidd.

46 “‘Dyna’r gyfraith ynglŷn â’r anifeiliaid, y creaduriaid sy’n hedfan, pob creadur byw sy’n symud drwy’r dŵr, a phob creadur ar y ddaear sy’n heidio, 47 er mwyn gwahaniaethu rhwng yr aflan a’r glân, a rhwng y creaduriaid byw y cewch chi eu bwyta a’r rhai na chewch chi eu bwyta.’”

12 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Os bydd dynes* yn beichiogi ac yn geni mab, bydd y ddynes* yn aflan am saith diwrnod, yn union fel yn nyddiau ei misglwyf. 3 Ar yr wythfed diwrnod, dylai’r baban gael ei enwaedu. 4 Bydd y ddynes* yn parhau i’w phuro ei hun am y 33 diwrnod nesaf oherwydd y gwaed mae hi wedi ei golli. Ni ddylai hi gyffwrdd ag unrhyw beth sanctaidd, ac ni ddylai hi ddod i mewn i’r lle sanctaidd nes iddi orffen ei phuro ei hun.

5 “‘Os bydd dynes* yn geni merch, yna bydd hi’n aflan am 14 diwrnod, yn union fel yn nyddiau ei misglwyf. Bydd hi’n parhau i’w phuro ei hun am y 66 diwrnod nesaf oherwydd y gwaed mae hi wedi ei golli. 6 Pan fydd dyddiau ei phuredigaeth ar gyfer ei mab neu ei merch wedi dod i ben, bydd rhaid iddi gymryd hwrdd* ifanc yn ei flwyddyn gyntaf fel offrwm llosg, a cholomen ifanc a thurtur fel offrwm dros bechod, a mynd â nhw at yr offeiriad, wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 7 Bydd ef yn eu cyflwyno nhw o flaen Jehofa ac yn aberthu er mwyn iddi gael maddeuant am ei phechodau, a bydd hi’n lân o’r gwaed mae hi wedi ei golli. Dyma’r gyfraith ar gyfer merched* sy’n geni meibion neu ferched. 8 Ond os na fydd hi’n gallu fforddio dafad, yna bydd rhaid iddi gymryd dwy durtur neu ddwy golomen ifanc, un ar gyfer offrwm llosg ac un ar gyfer offrwm dros bechod, a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn iddi gael maddeuant am ei phechodau, a bydd hi’n lân.’”

13 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses ac Aaron, gan ddweud: 2 “Os bydd dyn yn datblygu chwydd, crachen, neu smotyn ar ei groen a allai droi’n wahanglwyf,* yna bydd rhaid iddo fynd at Aaron yr offeiriad, neu at un o’i feibion, yr offeiriaid. 3 Bydd yr offeiriad yn asesu’r haint ar ei groen. Os bydd y blew yn yr haint wedi troi’n wyn, ac os bydd yr haint yn ymddangos yn ddyfnach na’r croen, yna mae’r gwahanglwyf arno. Bydd yr offeiriad yn ei asesu ac yn ei gyhoeddi’n aflan. 4 Ond os bydd y smotyn ar ei groen yn wyn, ac os nad yw’n ymddangos yn ddyfnach na’r croen a’r blew heb droi’n wyn, yna bydd yr offeiriad yn ynysu’r person heintus am saith diwrnod. 5 Bydd yr offeiriad yn ei asesu ar y seithfed diwrnod, ac os yw’n edrych fel bod yr haint wedi stopio, ac os nad yw’r haint wedi lledaenu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei ynysu am saith diwrnod arall.

6 “Dylai’r offeiriad ei asesu unwaith eto ar y seithfed diwrnod, ac os ydy’r haint wedi dechrau diflannu, ac os nad yw’r haint wedi lledaenu ar y croen, bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n lân; dim ond crachen oedd ar y croen. Bydd y dyn hwnnw’n golchi ei ddillad ac fe fydd yn lân. 7 Ond os ydy’r grachen* yn bendant wedi lledaenu ar y croen ers i’r dyn fynd o flaen yr offeiriad er mwyn dechrau ei buredigaeth, yna bydd rhaid iddo fynd o flaen yr offeiriad unwaith eto. 8 Bydd yr offeiriad yn ei asesu, ac os ydy’r grachen wedi lledaenu ar y croen, yna bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan. Mae’r gwahanglwyf arno.

9 “Os bydd y gwahanglwyf yn datblygu ar rywun, yna bydd rhaid iddo fynd at yr offeiriad, 10 a bydd yr offeiriad yn ei asesu. Os oes ’na chwydd gwyn ar y croen, ac os ydy’r blew wedi troi’n wyn, ac os oes ’na ddolur agored yn y chwydd, 11 yna mae gwahanglwyf cronig ar ei groen, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan. Ni ddylai ei ynysu er mwyn ei asesu ymhellach, gan ei fod yn aflan. 12 Nawr os ydy’r gwahanglwyf yn datblygu dros ei gorff i gyd, ac mae’r offeiriad yn gweld bod y gwahanglwyf yn ei orchuddio o’i gorun i’w sawdl, 13 a bod y gwahanglwyf wedi gorchuddio’i groen i gyd, yna ar ôl ei asesu fe fydd yn cyhoeddi’r person heintus yn lân. Os bydd ei groen i gyd wedi troi’n wyn, yna mae’n lân. 14 Ond bryd bynnag bydd dolur agored yn ymddangos ar ei groen, bydd ef yn aflan. 15 Pan fydd yr offeiriad yn gweld y dolur agored, fe fydd yn ei gyhoeddi’n aflan. Mae’r dolur agored yn aflan. Mae’r gwahanglwyf arno. 16 Ond os bydd y dolur agored yn troi’n wyn unwaith eto, yna fe fydd yn mynd at yr offeiriad. 17 Bydd yr offeiriad yn ei asesu, ac os bydd yr haint wedi troi’n wyn, yna bydd yr offeiriad yn cyhoeddi’r person heintus yn lân. Mae ef yn lân.

18 “Os bydd rhywun yn datblygu cornwyd ar ei groen ac mae’n gwella, 19 ond yna mae chwydd gwyn neu smotyn gwyngoch yn datblygu yn yr un lle â’r cornwyd hwnnw, bydd rhaid iddo fynd at yr offeiriad. 20 Bydd yr offeiriad yn asesu’r smotyn, ac os yw’n ymddangos ei fod yn ddyfnach na’r croen a’r blew wedi troi’n wyn, yna bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan. Mae’r gwahanglwyf wedi datblygu yn y cornwyd. 21 Ond os bydd yr offeiriad yn ei asesu ac yn gweld nad oes blew gwyn yn y smotyn, ac nad yw’n ddyfnach na’r croen, ac os bydd yn gweld ei fod yn dechrau diflannu, yna bydd yr offeiriad yn ei ynysu am saith diwrnod. 22 Ac os yw’n amlwg wedi lledaenu ar y croen, yna bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan. Mae’r gwahanglwyf arno. 23 Ond os bydd y smotyn yn aros yn yr un lle heb ledaenu, dim ond llid y cornwyd sydd yna, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n lân.

24 “Neu os bydd rhywun yn llosgi ei groen ac yna mae’r anaf yn troi’n smotyn gwyn neu’n smotyn gwyngoch, 25 bydd yr offeiriad yn ei asesu. Os ydy’r blew yn y smotyn wedi troi’n wyn ac mae’n ymddangos bod y smotyn yn ddyfnach na’r croen, y gwahanglwyf sydd wedi datblygu yn yr anaf, a bydd yr offeiriad yn cyhoeddi’r person hwnnw’n aflan. Mae’r gwahanglwyf arno. 26 Ond os ydy’r offeiriad yn ei asesu ac yn gweld nad oes blew gwyn yn y smotyn, ac nad yw’n ddyfnach na’r croen, ac os yw’n gweld ei fod yn dechrau diflannu, yna bydd yr offeiriad yn ei ynysu am saith diwrnod. 27 Bydd yr offeiriad yn ei asesu ar y seithfed diwrnod, ac os yw’n amlwg wedi lledaenu ar y croen, yna bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan. Mae’r gwahanglwyf arno. 28 Ond os ydy’r smotyn yn aros yn yr un lle, ac yn dechrau diflannu, ac os nad yw’n lledaenu dros y croen, dim ond chwydd yr anaf sydd yna, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n lân, oherwydd dim ond llid yr anaf sydd yno.

29 “Os bydd dyn neu ddynes* yn datblygu haint ar y pen neu ar yr ên, 30 yna bydd yr offeiriad yn asesu’r haint. Os yw’n ymddangos ei fod yn ddyfnach na’r croen ac mae’r blew yn felyn ac yn denau, yna bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n aflan; mae’n haint croen y pen neu’r farf. Mae’n wahanglwyf croen y pen neu’r ên. 31 Ond os ydy’r offeiriad yn gweld nad ydy’r haint yn ymddangos yn ddyfnach na’r croen a does dim blew du yno, dylai’r offeiriad ynysu’r person heintus am saith diwrnod. 32 Bydd yr offeiriad yn asesu’r haint ar y seithfed diwrnod, ac os nad ydy’r haint wedi lledaenu nac yn ymddangos yn ddyfnach na’r croen, ac os nad oes blew melyn wedi ymddangos yno, 33 dylai’r person siafio ei ben a’i ên, ond ni ddylai siafio’r rhan sydd wedi ei heintio. Yna bydd yr offeiriad yn ynysu’r person heintus am saith diwrnod.

34 “Bydd yr offeiriad yn asesu’r haint unwaith eto ar y seithfed diwrnod, ac os nad ydy’r haint ar groen y pen a’r farf wedi lledaenu, ac os nad yw’n ymddangos yn ddyfnach na’r croen, yna bydd yr offeiriad yn cyhoeddi’r person hwnnw’n lân, a dylai olchi ei ddillad ac yna fe fydd yn lân. 35 Ond os ydy’r haint yn amlwg wedi lledaenu ar y croen ar ôl ei buredigaeth, 36 bydd yr offeiriad yn ei asesu, ac os ydy’r haint wedi lledaenu ar y croen, ni fydd angen i’r offeiriad edrych am flew melyn; mae’r person hwnnw’n aflan. 37 Ond os ar ôl asesiad mae’n ymddangos nad ydy’r haint wedi lledaenu, ac mae blew du yn tyfu yno, mae’r haint wedi gwella. Mae ef yn lân, a bydd yr offeiriad yn ei gyhoeddi’n lân.

38 “Os ydy smotiau’n datblygu ar groen dyn neu ddynes,* ac mae’r smotiau’n wyn, 39 bydd yr offeiriad yn eu hasesu. Os bydd y smotiau’n wyn golau, dim ond brech ddiniwed sydd wedi torri allan ar y croen. Mae’r person hwnnw’n lân.

40 “Os bydd dyn yn colli gwallt ei ben ac yn mynd yn foel, mae ef yn lân. 41 Os bydd yn colli ei wallt ar flaen ei ben fel bod y rhan honno o’i ben yn foel, mae ef yn lân. 42 Ond os bydd dolur gwyngoch yn datblygu ar ran foel ei ben neu ar ei dalcen, mae’r gwahanglwyf wedi datblygu yno. 43 Bydd yr offeiriad yn ei asesu, ac os yw’n gweld bod ’na chwydd gwyngoch sy’n edrych fel y gwahanglwyf ar dop ei ben neu ar ei dalcen, 44 mae’r gwahanglwyf arno. Mae ef yn aflan, a dylai’r offeiriad ei gyhoeddi’n aflan oherwydd yr afiechyd sydd ar ei ben. 45 Ynglŷn â’r gwahanglaf sydd â’r afiechyd, dylai ei ddillad gael eu rhwygo, ac mae’n rhaid iddo adael i’w wallt fynd yn flêr, a dylai orchuddio ei fwstash a gweiddi, ‘Aflan, aflan!’ 46 Bydd yn aflan yr holl amser mae’r afiechyd arno. Gan ei fod yn aflan, bydd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb. Fe fydd yn byw y tu allan i’r gwersyll.

47 “Os bydd y gwahanglwyf yn heintio dilledyn, naill ai dilledyn gwlân neu liain, 48 yng ngwead brethyn gwlân neu liain, neu os yw’r haint ar groen neu unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, 49 ac os yw staen melynwyrdd neu gochlyd yr afiechyd yn heintio’r dilledyn, y croen, gwead y brethyn, neu unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, mae wedi ei heintio â’r gwahanglwyf, a dylai gael ei ddangos i’r offeiriad. 50 Bydd yr offeiriad yn asesu’r haint, a bydd rhaid iddo gadw unrhyw beth sydd wedi ei heintio ar wahân am saith diwrnod. 51 Bydd ef yn asesu’r haint ar y seithfed diwrnod ac os bydd yn gweld ei fod wedi lledaenu yn y dilledyn, yng ngwead y brethyn, neu ar groen (ni waeth sut mae’r croen yn cael ei ddefnyddio), mae’r gwahanglwyf yn un heintus, ac mae’n aflan. 52 Dylai losgi unrhyw beth mae’r afiechyd wedi datblygu ynddo, naill ai dilledyn, brethyn gwlân neu liain, neu unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, gan ei fod yn wahanglwyf heintus. Dylai gael ei losgi yn y tân.

53 “Ond os bydd yr offeiriad yn ei asesu ac yn gweld bod yr haint heb ledaenu yn y dilledyn nac yng ngwead y brethyn nac ar unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, 54 yna bydd yr offeiriad yn gorchymyn bod unrhyw beth sydd wedi ei heintio yn cael ei olchi, ac yna fe fydd yn ei gadw ar wahân am saith diwrnod arall. 55 Yna bydd yr offeiriad yn asesu’r peth sydd wedi cael ei heintio ar ôl iddo gael ei olchi’n drylwyr. Os nad ydy’r haint i’w weld wedi newid, hyd yn oed os nad ydy’r haint wedi lledaenu, mae’n aflan. Dylet ti ei losgi yn y tân am ei fod wedi pydru ar y tu mewn neu ar y tu allan.

56 “Ond os ydy’r offeiriad wedi ei asesu ac mae’r rhan sydd wedi ei heintio wedi colli ei lliw ar ôl cael ei golchi’n drylwyr, yna fe fydd yn ei rhwygo allan o’r dilledyn, o’r croen, neu o wead y brethyn. 57 Er hynny, os yw’n dal i ymddangos mewn rhan arall o’r dilledyn neu yng ngwead y brethyn neu ar unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, mae’n lledaenu, a dylet ti losgi unrhyw beth sydd wedi cael ei heintio yn y tân. 58 Ond pan fydd yr haint yn diflannu o’r dilledyn neu o wead y brethyn neu o unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen ar ôl iddo gael ei olchi, yna dylai gael ei olchi unwaith eto, ac fe fydd yn lân.

59 “Dyna’r gyfraith ynglŷn â’r gwahanglwyf os bydd yn ymddangos mewn dilledyn o wlân neu o liain, neu mewn gwead brethyn, neu mewn unrhyw beth sydd wedi ei wneud allan o groen, er mwyn ei gyhoeddi’n lân neu’n aflan.”

14 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Dyma fydd y gyfraith ynglŷn â gwahanglaf ar y diwrnod bydd ef yn dechrau ei buredigaeth, pan fydd yn mynd at yr offeiriad. 3 Bydd yr offeiriad yn mynd y tu allan i’r gwersyll ac yn ei asesu. Os bydd y gwahanglaf wedi gwella o’r gwahanglwyf, 4 bydd yr offeiriad yn gorchymyn iddo ddod â dau aderyn glân sy’n fyw, coed cedrwydd, defnydd ysgarlad, ac isop er mwyn iddo gael ei buro. 5 Bydd yr offeiriad yn gorchymyn bod un o’r adar yn cael ei ladd mewn llestr pridd sydd a dŵr ffres ynddo. 6 Ond, dylai gymryd yr aderyn byw ynghyd â’r coed cedrwydd, y defnydd ysgarlad, a’r isop, a’u rhoi nhw i gyd yng ngwaed yr aderyn a gafodd ei ladd. 7 Yna fe fydd yn taenellu’r gwaed saith gwaith ar yr un sy’n ei buro ei hun o’r gwahanglwyf ac yn ei gyhoeddi’n lân, a bydd yn gadael i’r aderyn byw fynd yn rhydd y tu allan i’r gwersyll.

8 “Bydd rhaid i’r un sy’n ei buro ei hun olchi ei ddillad, siafio’i wallt i gyd i ffwrdd, ac ymolchi mewn dŵr, yna fe fydd yn lân. Ar ôl hynny, bydd yn gallu dod i mewn i’r gwersyll, ond fe fydd yn byw y tu allan i’w babell am saith diwrnod. 9 Ar y seithfed diwrnod, dylai siafio’i wallt i gyd i ffwrdd, y gwallt ar ei ben ac ar ei ên, a hefyd gwallt ei aeliau. Ar ôl iddo siafio’i wallt i gyd i ffwrdd, bydd yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi mewn dŵr, yna fe fydd yn lân.

10 “Ar yr wythfed diwrnod, fe fydd yn cymryd dau hwrdd* ifanc di-nam, un oen fenyw ddi-nam yn ei blwyddyn gyntaf, tair degfed ran o effa* o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn, ac un mesur log* o olew, 11 a bydd yr offeiriad sy’n ei gyhoeddi’n lân yn cyflwyno’r dyn sy’n ei buro ei hun, ynghyd â’r offrymau, o flaen Jehofa wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 12 Bydd yr offeiriad yn cymryd un hwrdd* ifanc ac yn ei gyflwyno fel offrwm dros euogrwydd ynghyd â’r mesur log o olew, a bydd yn eu chwifio nhw yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. 13 Yna fe fydd yn lladd yr hwrdd* ifanc yn y fan lle mae’r offrwm dros bechod a’r offrwm llosg fel arfer yn cael eu lladd, mewn lle sanctaidd, oherwydd, fel yr offrwm dros bechod, mae’r offrwm dros euogrwydd yn perthyn i’r offeiriad. Mae’n rhywbeth sanctaidd iawn.

14 “Yna bydd yr offeiriad yn cymryd ychydig o waed yr offrwm dros euogrwydd, a bydd yr offeiriad yn ei roi ar waelod clust dde yr un sy’n ei buro ei hun ac ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed dde. 15 A bydd yr offeiriad yn cymryd ychydig o’r mesur log o olew ac yn ei dywallt* i mewn i’w law chwith ei hun. 16 Yna bydd yr offeiriad yn rhoi bys ei law dde yn yr olew sydd yn ei law chwith, ac yn taenellu ychydig o’r olew â’i fys saith gwaith o flaen Jehofa. 17 Yna bydd yr offeiriad yn rhoi ychydig o’r olew sydd ar ôl yn ei law ar waelod clust dde yr un sy’n ei buro ei hun ac ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed dde, ar ben gwaed yr offrwm dros euogrwydd. 18 Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben yr un sy’n ei buro ei hun, a bydd yr offeiriad yn aberthu o flaen Jehofa er mwyn i’r un sy’n ei buro ei hun gael maddeuant am ei bechodau.

19 “Bydd yr offeiriad yn aberthu’r offrwm dros bechod ac yn aberthu er mwyn i’r un sy’n ei buro ei hun o’i amhurdeb gael maddeuant am ei bechodau, ac ar ôl hynny fe fydd yn lladd yr offrwm llosg. 20 A bydd yr offeiriad yn offrymu’r offrwm llosg a’r offrwm grawn ar yr allor, a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r person hwnnw gael maddeuant am ei bechodau, ac fe fydd yn lân.

21 “Fodd bynnag, os ydy ef yn dlawd ac os nad yw’n gallu fforddio’r pethau hyn, fe fydd yn cymryd un hwrdd* ifanc fel offrwm dros euogrwydd ac yn ei chwifio yn ôl ac ymlaen, er mwyn iddo gael maddeuant am ei bechodau ei hun, ynghyd â degfed ran o effa* o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn, mesur log o olew, 22 a dwy durtur neu ddwy golomen ifanc, yn ôl beth mae’n gallu ei fforddio. Bydd un ar gyfer offrwm dros bechod a bydd y llall ar gyfer offrwm llosg. 23 Ar yr wythfed diwrnod, fe fydd yn dod â nhw at yr offeiriad wrth fynedfa pabell y cyfarfod, o flaen Jehofa, er mwyn dechrau ei buredigaeth.

24 “Bydd yr offeiriad yn cymryd hwrdd* ifanc yr offrwm dros euogrwydd a’r mesur log o olew, a bydd yr offeiriad yn eu chwifio nhw yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. 25 Yna fe fydd yn lladd hwrdd* ifanc yr offrwm dros euogrwydd, a bydd yr offeiriad yn cymryd ychydig o waed yr offrwm dros euogrwydd ac yn ei roi ar waelod clust dde yr un sy’n ei buro ei hun, ac ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed dde. 26 Bydd yr offeiriad yn tywallt* ychydig o’r olew i mewn i’w law chwith ei hun, 27 ac yna, â bys ei law dde, bydd yn taenellu ychydig o’r olew sydd yn ei law chwith saith gwaith o flaen Jehofa. 28 A bydd yr offeiriad yn rhoi ychydig o’r olew sydd yn ei law ar waelod clust dde yr un sy’n ei buro ei hun ac ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed dde, yn yr un llefydd gwnaeth ef roi gwaed yr offrwm dros euogrwydd. 29 Yna bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben yr un sy’n ei buro ei hun, ac fe fydd yn aberthu o flaen Jehofa er mwyn iddo gael maddeuant am ei bechodau.

30 “Fe fydd yn offrymu dwy durtur neu ddwy golomen ifanc yn ôl yr hyn sydd ganddo. 31 Bydd rhaid iddo gynnig un o’r adar mae’n gallu ei fforddio fel offrwm dros bechod a’r llall fel offrwm llosg, ynghyd â’r offrwm grawn; a bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn i’r un sy’n ei buro ei hun o flaen Jehofa gael maddeuant am ei bechodau.

32 “Dyna’r gyfraith ar gyfer yr un a oedd â’r gwahanglwyf ond sydd ddim yn gallu fforddio’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn dechrau ei buredigaeth.”

33 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 34 “Pan fyddwch chi’n dod i mewn i wlad Canaan, y wlad rydw i’n ei rhoi i chi fel eiddo, ac rydw i’n heintio tŷ yn eich gwlad â’r gwahanglwyf, 35 dylai’r un mae’r tŷ yn perthyn iddo fynd a dweud wrth yr offeiriad, ‘Mae rhyw fath o haint wedi ymddangos yn fy nhŷ.’ 36 Bydd yr offeiriad yn gorchymyn bod y tŷ yn cael ei glirio cyn iddo ddod i asesu’r haint, er mwyn iddo beidio â chyhoeddi bod popeth yn y tŷ yn aflan; ac ar ôl hynny bydd yr offeiriad yn mynd i mewn i asesu’r tŷ. 37 Fe fydd yn asesu’r rhan sydd wedi ei heintio, ac os bydd waliau’r tŷ wedi eu heintio â tholciau melynwyrdd neu gochlyd, ac mae’n ymddangos eu bod nhw’n ddyfnach na wyneb y wal, 38 yna bydd yr offeiriad yn mynd allan o’r tŷ, i’r fynedfa, ac yn ynysu’r tŷ am saith diwrnod.

39 “Yna bydd yr offeiriad yn dod yn ôl ar y seithfed diwrnod ac yn asesu’r sefyllfa. Os bydd yr haint wedi lledaenu yn waliau’r tŷ, 40 yna bydd yr offeiriad yn gorchymyn bod y cerrig sydd wedi eu heintio yn cael eu rhwygo allan a’u taflu i rywle aflan y tu allan i’r ddinas. 41 Bydd ef yn gorchymyn bod y tu mewn i’r tŷ yn cael ei grafu’n drylwyr, a dylai’r plastr a’r morter sy’n cael eu tynnu i ffwrdd gael eu taflu i rywle aflan y tu allan i’r ddinas. 42 Yna byddan nhw’n rhoi cerrig newydd yn lle’r rhai hen, a dylai’r offeiriad sicrhau bod morter newydd yn cael ei ddefnyddio a bod y tŷ yn cael ei blastro.

43 “Ond os bydd yr haint yn dod yn ôl ac yn datblygu yn y tŷ ar ôl i’r cerrig gael eu rhwygo allan, ac ar ôl i’r tŷ gael ei grafu a’i ail-blastro, 44 yna bydd yr offeiriad yn mynd i mewn ac yn ei asesu. Os bydd yr haint wedi lledaenu yn y tŷ, mae’r gwahanglwyf yn un heintus. Mae’r tŷ yn aflan. 45 Felly fe fydd yn gorchymyn bod y tŷ yn cael ei dynnu i lawr—y cerrig, y pren, a holl blastr a morter y tŷ—a bydd yn cael ei gario i rywle aflan y tu allan i’r ddinas. 46 Ond bydd pwy bynnag sy’n mynd i mewn i’r tŷ tra bod y tŷ wedi ei ynysu yn aflan tan fachlud yr haul; 47 a dylai pwy bynnag sy’n gorwedd i lawr yn y tŷ neu’n bwyta yn y tŷ, olchi ei ddillad.

48 “Fodd bynnag, os bydd yr offeiriad yn dod i mewn ac yn gweld nad yw’r haint wedi lledaenu yn y tŷ ar ôl i’r tŷ gael ei ail-blastro, yna bydd yr offeiriad yn cyhoeddi bod y tŷ yn lân, oherwydd mae’r haint wedi diflannu. 49 Er mwyn puro’r tŷ o’i aflendid, bydd yr offeiriad yn cymryd dau aderyn, coed cedrwydd, defnydd ysgarlad, ac isop. 50 Fe fydd yn lladd un o’r adar mewn llestr pridd sydd a dŵr ffres ynddo. 51 Yna fe fydd yn cymryd y coed cedrwydd, yr isop, y defnydd ysgarlad, a’r aderyn byw, ac yn eu rhoi nhw yng ngwaed yr aderyn a gafodd ei ladd ac yn y dŵr ffres, ac mae’n rhaid iddo daenellu’r gwaed a’r dŵr i gyfeiriad y tŷ saith gwaith. 52 A bydd yn puro’r tŷ o’r aflendid gan ddefnyddio gwaed yr aderyn, y dŵr ffres, yr aderyn byw, y coed cedrwydd, yr isop, a’r defnydd ysgarlad. 53 Yna fe fydd yn gadael i’r aderyn byw fynd yn rhydd mewn cae agored y tu allan i’r ddinas, a bydd yn cael gwared ar yr aflendid sydd yn y tŷ, a bydd y tŷ yn lân.

54 “Dyna’r gyfraith ynglŷn ag unrhyw achos o’r gwahanglwyf, haint y farf neu groen y pen, 55 gwahanglwyf y dillad neu’r tŷ, 56 ac ynglŷn â chwyddau, crach, a smotiau, 57 er mwyn penderfynu p’un a ydy rhywbeth yn aflan neu’n lân. Dyna’r gyfraith ynglŷn â’r gwahanglwyf.”

15 Aeth Jehofa ymlaen i siarad â Moses ac Aaron, gan ddweud: 2 “Siaradwch â’r Israeliaid a dywedwch wrthyn nhw, ‘Os oes gan ddyn redlif o’i organau cenhedlu, mae’n ei wneud yn aflan. 3 Bydd ef yn aflan p’un a ydy’r rhedlif yn parhau i lifo o’i organau cenhedlu neu’n atal ei organau cenhedlu rhag gweithio, mae’n dal i fod yn aflan.

4 “‘Bydd unrhyw wely mae’r un sydd â rhedlif yn gorwedd arno yn aflan, ac fe fydd unrhyw le mae’n eistedd hefyd yn aflan. 5 Bydd rhaid i unrhyw un sy’n cyffwrdd â gwely’r person hwnnw olchi ei ddillad, a dylai ymolchi mewn dŵr, ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul. 6 Dylai unrhyw un sy’n eistedd ar rywbeth mae’r un sydd â rhedlif wedi eistedd arno olchi ei ddillad, ymolchi mewn dŵr, ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul. 7 Dylai unrhyw un sy’n cyffwrdd â chroen yr un sydd â rhedlif olchi ei ddillad, ymolchi mewn dŵr, ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul. 8 Os bydd yr un sydd â rhedlif yn poeri ar rywun glân, bydd rhaid i’r person glân olchi ei ddillad, ymolchi mewn dŵr, ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul. 9 Bydd unrhyw gyfrwy mae’r un sydd â rhedlif yn eistedd arno yn aflan. 10 Bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd ag unrhyw beth sydd wedi bod odano yn aflan tan fachlud yr haul, a bydd rhaid i unrhyw un sy’n cario’r pethau hyn olchi ei ddillad, ymolchi mewn dŵr, ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul. 11 Os bydd yr un sydd â rhedlif yn cyffwrdd â rhywun arall heb iddo olchi ei ddwylo mewn dŵr, bydd rhaid i’r person hwnnw olchi ei ddillad, ymolchi mewn dŵr, ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul. 12 Bydd rhaid malu unrhyw lestr pridd mae’r un sydd â rhedlif yn ei gyffwrdd, a dylai llestr pren gael ei olchi mewn dŵr.

13 “‘Pan fydd y rhedlif wedi stopio ac mae’r person yn cael ei ystyried yn lân, bydd rhaid iddo wedyn gyfri saith diwrnod ar gyfer ei buredigaeth, a bydd rhaid iddo olchi ei ddillad, ac ymolchi mewn dŵr glân, ac fe fydd yn lân. 14 Ar yr wythfed diwrnod, dylai gymryd dwy durtur neu ddwy golomen ifanc a mynd o flaen Jehofa wrth fynedfa pabell y cyfarfod a’u rhoi nhw i’r offeiriad. 15 A bydd yr offeiriad yn eu hoffrymu nhw, un fel offrwm dros bechod a’r llall fel offrwm llosg, a bydd yr offeiriad yn gwneud y dyn yn lân o flaen Jehofa ynglŷn â’i redlif.

16 “‘Nawr os bydd dyn yn gollwng ei had,* dylai ymolchi ei gorff i gyd mewn dŵr ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul. 17 Bydd rhaid iddo olchi unrhyw ddilledyn neu unrhyw groen sydd a’r had arno mewn dŵr, a bydd yn aflan tan fachlud yr haul.

18 “‘Pan fydd dyn yn gorwedd gyda dynes* ac yn gollwng ei had, dylen nhw ymolchi mewn dŵr, a byddan nhw’n aflan tan fachlud yr haul.

19 “‘Os bydd dynes* yn cael rhedlif o waed o’i chorff, bydd hi’n aflan am saith diwrnod yn ystod dyddiau ei misglwyf. Bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â hi yn aflan tan fachlud yr haul. 20 Bydd unrhyw beth mae hi’n gorwedd i lawr arno yn ystod dyddiau ei misglwyf yn aflan, a bydd unrhyw beth mae hi’n eistedd arno hefyd yn aflan. 21 Dylai unrhyw un sy’n cyffwrdd â’i gwely olchi ei ddillad, ymolchi mewn dŵr, ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul. 22 Dylai unrhyw un sy’n cyffwrdd ag unrhyw beth mae hi wedi eistedd arno, olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr, ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul. 23 Os ydy hi wedi eistedd ar unrhyw wely, neu unrhyw beth arall, bydd yr un sy’n ei gyffwrdd yn aflan tan fachlud yr haul. 24 Os bydd dyn yn gorwedd i lawr gyda hi, ac yn cael ei wneud yn aflan oherwydd gwaed ei misglwyf, fe fydd yn aflan am saith diwrnod, a bydd unrhyw wely bydd ef yn gorwedd arno yn aflan.

25 “‘Pan fydd dynes* yn cael rhedlif o waed am lawer o ddyddiau pan nad yw’n amser ei misglwyf arferol, neu os bydd hi’n gwaedu’n hirach na’i misglwyf arferol, fe fydd hi’n aflan holl ddyddiau ei rhedlif, fel yn nyddiau ei misglwyf. 26 Bydd unrhyw wely mae hi’n gorwedd arno, neu unrhyw beth mae hi’n eistedd arno yn ystod dyddiau ei rhedlif, yn aflan fel yn nyddiau ei misglwyf. 27 Bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â nhw yn aflan, a bydd rhaid iddo olchi ei ddillad, ymolchi mewn dŵr, ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul.

28 “‘Fodd bynnag, unwaith i’w rhedlif stopio, bydd hi’n cyfri saith diwrnod, ac ar ôl hynny bydd hi’n lân. 29 Ar yr wythfed diwrnod, dylai hi fynd â dwy durtur neu ddwy golomen ifanc at yr offeiriad wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 30 Bydd yr offeiriad yn cyflwyno un fel offrwm dros bechod a’r llall fel offrwm llosg, a bydd yr offeiriad yn ei gwneud hi’n lân o flaen Jehofa ynglŷn â’i rhedlif aflan.

31 “‘Mae’n rhaid i’r Israeliaid gadw draw oddi wrth unrhyw beth a all eu gwneud nhw’n aflan, er mwyn iddyn nhw beidio â marw oherwydd eu haflendid drwy halogi fy nhabernacl sydd yn eu plith.

32 “‘Dyna’r gyfraith ynglŷn ag unrhyw ddyn sydd â rhedlif, unrhyw ddyn sy’n aflan oherwydd iddo ollwng ei had, 33 unrhyw ddynes* yn nyddiau ei misglwyf, unrhyw wryw neu fenyw sydd â rhedlif, ac unrhyw ddyn sy’n gorwedd i lawr gyda dynes* aflan.’”

16 Siaradodd Jehofa â Moses ar ôl marwolaeth dau fab Aaron a wnaeth farw am eu bod nhw wedi mynd o flaen Jehofa.* 2 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyweda wrth Aaron dy frawd nad yw’n cael dod i mewn i’r lle sanctaidd y tu ôl i’r llen a sefyll o flaen caead yr Arch ar unrhyw adeg mae ef eisiau rhag ofn iddo farw, oherwydd bydda i’n ymddangos dros y caead mewn cwmwl.

3 “Pan fydd Aaron yn mynd i mewn i’r lle sanctaidd, dyma beth dylai gymryd gydag ef: un tarw ifanc fel offrwm dros bechod ac un hwrdd* fel offrwm llosg. 4 Dylai wisgo’r fantell sanctaidd liain, a dylai’r dillad isaf lliain orchuddio ei gorff,* a dylai ei lapio ei hun â’r sash lliain, a lapio ei ben â’r tyrban lliain. Maen nhw’n ddillad sanctaidd. Bydd ef yn ymolchi mewn dŵr ac yn eu gwisgo nhw.

5 “Dylai cynulleidfa’r Israeliaid roi iddo ddau fwch gafr ifanc fel offrwm dros bechod ac un hwrdd* fel offrwm llosg.

6 “Yna dylai Aaron gyflwyno tarw yr offrwm dros bechod, sydd ar ei gyfer ef, ac aberthu er mwyn iddo ef ei hun, a’r rhai sydd yn ei dŷ, gael maddeuant am eu pechodau.

7 “Yna fe fydd yn cymryd y ddau fwch gafr ac yn gwneud iddyn nhw sefyll o flaen Jehofa wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 8 Bydd Aaron yn taflu coelbren er mwyn penodi un bwch gafr ar gyfer Jehofa, a’r llall ar gyfer Asasel.* 9 Bydd Aaron yn cyflwyno’r bwch gafr a gafodd ei benodi ar gyfer Jehofa ac yn ei gynnig fel offrwm dros bechod. 10 Ond dylai’r bwch gafr sydd wedi cael ei benodi ar gyfer Asasel gael ei osod yn fyw o flaen Jehofa er mwyn iddo gael ei anfon i ffwrdd i’r anialwch ar gyfer Asasel, ac er mwyn i’r bobl gael maddeuant am eu pechodau.

11 “Bydd Aaron yn cyflwyno tarw yr offrwm dros bechod, sydd ar ei gyfer ef ei hun, ac yn aberthu er mwyn iddo ef ei hun, a’r rhai sydd yn ei dŷ, gael maddeuant am eu pechodau; ar ôl hynny fe fydd yn lladd tarw yr offrwm dros bechod, sydd ar ei gyfer ef ei hun.

12 “Yna fe fydd yn cymryd y llestr i ddal tân, sy’n llawn marwor poeth o’r allor sydd o flaen Jehofa, a dau lond llaw o arogldarth persawrus sydd wedi ei falu’n fân, ac yn mynd â nhw y tu ôl i’r llen. 13 Hefyd, fe fydd yn rhoi’r arogldarth ar y tân o flaen Jehofa, a bydd cwmwl yr arogldarth yn gorchuddio caead yr Arch sydd ar y Dystiolaeth, er mwyn iddo beidio â marw.

14 “Fe fydd yn cymryd ychydig o waed y tarw ac yn ei daenellu â’i fys o flaen y caead ar yr ochr ddwyreiniol, ac fe fydd yn taenellu ychydig o’r gwaed â’i fys saith gwaith o flaen y caead.

15 “Yna fe fydd yn lladd bwch gafr yr offrwm dros bechod, sydd ar gyfer y bobl, ac yn dod â’i waed y tu ôl i’r llen. Bydd yn gwneud yr un peth â gwaed y bwch gafr ag y gwnaeth â gwaed y tarw; dylai daenellu’r gwaed tuag at y caead, ac o flaen y caead.

16 “Drwy daenellu’r gwaed bydd ef yn gwneud y lle sanctaidd yn dderbyniol er ei fod ymhlith aflendid yr Israeliaid a’u troseddau a’u pechodau, a dylai wneud yr un fath ar gyfer pabell y cyfarfod sydd ymhlith yr Israeliaid a’u gweithredoedd aflan.

17 “Ni ddylai dyn arall fod ym mhabell y cyfarfod o’r amser mae Aaron yn mynd i mewn i aberthu ar gyfer maddeuant pechodau yn y lle sanctaidd tan yr amser mae’n mynd allan. Fe fydd yn aberthu er mwyn iddo ef ei hun, a’r rhai sydd yn ei dŷ, a holl gynulleidfa Israel gael maddeuant am eu pechodau.

18 “Yna fe fydd yn dod allan at yr allor, sydd o flaen Jehofa, ac yn ei gwneud yn sanctaidd, ac fe fydd yn cymryd ychydig o waed y tarw ac ychydig o waed y bwch gafr ac yn ei roi ar holl gyrn yr allor. 19 Fe fydd hefyd yn taenellu ychydig o’r gwaed arni â’i fys saith gwaith ac yn ei phuro a’i sancteiddio rhag gweithredoedd aflan yr Israeliaid.

20 “Unwaith iddo orffen sancteiddio’r lle sanctaidd, pabell y cyfarfod, a’r allor, fe fydd hefyd yn cyflwyno’r bwch gafr byw. 21 Bydd Aaron yn rhoi ei ddwylo ar ben y bwch gafr byw ac yn cyffesu holl gamgymeriadau’r Israeliaid drosto yn ogystal â’u holl droseddau a’u holl bechodau, a bydd yn eu rhoi nhw ar ben y bwch gafr. Yna bydd dyn sydd wedi cael ei benodi* yn ei anfon i ffwrdd i’r anialwch. 22 Bydd rhaid iddo anfon y bwch gafr i ffwrdd a bydd y bwch gafr yn cario holl bechodau’r Israeliaid i mewn i’r anialwch.

23 “Yna bydd Aaron yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, ac yn tynnu’r dillad lliain oddi amdano, y rhai gwnaeth ef eu gwisgo pan aeth i mewn i’r lle sanctaidd, a bydd yn eu gadael nhw yno. 24 Bydd rhaid iddo ymolchi mewn dŵr mewn lle sanctaidd a rhoi ei ddillad ymlaen; yna fe fydd yn dod allan ac yn cyflwyno ei offrwm llosg ac offrwm llosg y bobl ac yn aberthu er mwyn iddo ef ei hun a’r bobl gael maddeuant am eu pechodau. 25 Fe fydd yn gwneud i fwg godi oddi ar fraster yr offrwm dros bechod ar yr allor.

26 “Dylai’r dyn a wnaeth anfon i ffwrdd y bwch gafr ar gyfer Asasel olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr, ac ar ôl hynny fe fydd yn cael dod i mewn i’r gwersyll.

27 “Ar ôl i waed y bwch gafr gael ei gymryd i mewn i’r lle sanctaidd er mwyn aberthu ar gyfer maddeuant pechodau, bydd tarw yr offrwm dros bechod a bwch gafr yr offrwm dros bechod yn cael eu cymryd y tu allan i’r gwersyll, a bydd eu croen, eu cig, a’u carthion* yn cael eu llosgi yn y tân. 28 Bydd yr un sy’n eu llosgi nhw yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi mewn dŵr, ac ar ôl hynny bydd yn cael dod i mewn i’r gwersyll.

29 “Bydd hyn yn ddeddf barhaol ar eich cyfer chi: Ar y degfed diwrnod o’r seithfed mis, dylech chi ddangos eich bod chi’n drist oherwydd eich pechodau,* ac ni ddylai Israeliad nac estronwr sy’n byw yn eich plith wneud unrhyw fath o waith. 30 Ar y diwrnod hwn, bydd yr offeiriad yn aberthu er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau, ac er mwyn eich cyhoeddi’n lân. Byddwch chi’n lân o’ch holl bechodau o flaen Jehofa. 31 Mae’n saboth o orffwys llwyr i chi, a dylech chi ddangos eich bod chi’n drist oherwydd eich pechodau. Mae’n ddeddf barhaol.

32 “Bydd yr offeiriad sydd wedi cael ei eneinio a’i benodi i wasanaethu fel offeiriad yn lle ei dad yn aberthu ar gyfer maddeuant pechodau ac yn gwisgo’r dillad lliain, y dillad sanctaidd. 33 Fe fydd yn puro’r cysegr sanctaidd, pabell y cyfarfod, a’r allor, ac fe fydd yn aberthu er mwyn i’r offeiriaid a holl bobl y gynulleidfa gael maddeuant am eu pechodau. 34 Bydd hyn yn ddeddf barhaol ichi, i aberthu er mwyn i’r Israeliaid gael maddeuant am eu holl bechodau unwaith bob blwyddyn.”

Felly dyma Aaron yn gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

17 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Siarada ag Aaron a’i feibion a’r holl Israeliaid, a dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn:

3 “‘“Os bydd unrhyw ddyn o dŷ Israel yn lladd tarw, hwrdd* ifanc, neu afr naill ai yn y gwersyll neu’r tu allan i’r gwersyll 4 yn hytrach na dod â’r anifail at fynedfa pabell y cyfarfod i’w gyflwyno fel offrwm i Jehofa o flaen tabernacl Jehofa, yna bydd y dyn hwnnw’n cael ei ystyried yn waed-euog. Mae wedi tywallt* gwaed mewn ffordd anghywir, ac mae’n rhaid i’r dyn hwnnw gael ei roi i farwolaeth.* 5 Mae hyn er mwyn i’r Israeliaid beidio â lladd eu hanifeiliaid yn y caeau agored bellach, ond yn hytrach dylen nhw ddod â nhw at Jehofa, at fynedfa pabell y cyfarfod, at yr offeiriad. Dylen nhw gyflwyno’r rhain fel aberthau heddwch i Jehofa. 6 A bydd yr offeiriad yn taenellu’r gwaed ar allor Jehofa wrth fynedfa pabell y cyfarfod ac yn gwneud i fwg godi oddi ar y braster fel arogl sy’n plesio Jehofa. 7 Felly ni ddylen nhw offrymu aberthau i’r delwau sy’n edrych fel geifr bellach, y rhai maen nhw’n cyflawni puteindra ysbrydol â nhw drwy eu haddoli nhw.* Bydd hyn yn ddeddf barhaol ichi drwy eich holl genedlaethau.”’

8 “Dylet ti ddweud wrthyn nhw, ‘Os bydd unrhyw ddyn yn nhŷ Israel, neu unrhyw estronwr sy’n byw yn eich plith, yn cynnig offrwm llosg neu aberth, 9 ond dydy ef ddim yn dod â’r offrwm at fynedfa pabell y cyfarfod er mwyn ei offrymu i Jehofa, yna dylai gael ei ladd.*

10 “‘Os bydd unrhyw ddyn yn nhŷ Israel neu unrhyw estronwr sy’n byw yn eich plith yn bwyta unrhyw fath o waed, bydda i yn bendant yn gwrthod yr un* sy’n bwyta’r gwaed, a bydda i’n ei roi i farwolaeth.* 11 Oherwydd mae bywyd pob creadur byw yn ei waed, ac rydw i wedi rhoi’r gwaed ar yr allor fel eich bod chi’n gallu aberthu er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau, oherwydd y gwaed sy’n ei gwneud hi’n bosib i Dduw faddau ichi, oherwydd mae’r bywyd* yn y gwaed. 12 Dyna pam rydw i wedi dweud wrth yr Israeliaid: “Ni ddylai’r un ohonoch chi* fwyta gwaed, ac ni ddylai unrhyw estronwr sy’n byw yn eich plith fwyta gwaed.”

13 “‘Os bydd un o’r Israeliaid neu estronwr sy’n byw yn eich plith yn hela ac yn dal anifail gwyllt neu aderyn sy’n iawn i’w fwyta, bydd rhaid iddo dywallt* gwaed yr anifail a gorchuddio’r gwaed â phridd. 14 Oherwydd bywyd pob creadur byw ydy ei waed, gan fod y bywyd ynddo. Dyna pam gwnes i ddweud wrth yr Israeliaid: “Ni ddylech chi fwyta gwaed unrhyw greadur byw oherwydd bywyd pob creadur byw ydy ei waed. Bydd unrhyw un sy’n ei fwyta yn cael ei roi i farwolaeth.”* 15 Os bydd unrhyw un, naill ai Israeliad neu estronwr, yn dod ar draws anifail sydd wedi marw neu sydd wedi cael ei rwygo gan anifail gwyllt ac yn ei fwyta, yna bydd rhaid iddo olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr, ac fe fydd yn aflan tan fachlud yr haul; yna fe fydd yn lân. 16 Ond os nad yw’n golchi ei ddillad nac yn ymolchi, fe fydd yn atebol am ei bechod.’”

18 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Fi yw Jehofa eich Duw. 3 Peidiwch ag ymddwyn fel pobl gwlad yr Aifft lle roeddech chi’n byw, a pheidiwch â gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud yng ngwlad Canaan lle rydw i’n eich arwain chi. Peidiwch â dilyn eu harferion. 4 Dylech chi ddilyn fy nghyfreithiau, a dylech chi gadw fy neddfau. Fi yw Jehofa eich Duw. 5 Dylech chi gadw fy neddfau a fy nghyfreithiau; bydd unrhyw un sy’n gwneud y pethau hyn yn byw trwyddyn nhw. Fi yw Jehofa.

6 “‘Peidiwch â chysgu gydag* un o’ch perthnasau agos. Fi yw Jehofa. 7 Paid â chysgu gyda dy dad, a phaid â chysgu gyda dy fam. Hi yw dy fam, ac ni ddylet ti gysgu gyda hi.

8 “‘Paid â chysgu gyda gwraig dy dad. Byddai hynny’n dwyn gwarth ar dy dad.

9 “‘Paid â chysgu gyda dy chwaer, naill ai merch dy dad neu ferch dy fam, p’un a gafodd hi ei geni yn yr un teulu neu ddim.

10 “‘Paid â chysgu gyda merch dy fab neu ferch dy ferch, oherwydd byddai hynny’n dwyn gwarth arnat ti.

11 “‘Paid â chysgu gyda merch gwraig dy dad, merch dy dad, oherwydd mae hi’n chwaer iti.

12 “‘Paid â chysgu gyda chwaer dy dad. Mae hi’n perthyn i dy dad drwy waed.

13 “‘Paid â chysgu gyda chwaer dy fam, gan ei bod hi’n perthyn i dy fam drwy waed.

14 “‘Paid â dwyn gwarth ar frawd dy dad drwy gysgu gyda’i wraig. Mae hi’n fodryb iti.

15 “‘Paid â chysgu gyda dy ferch-yng-nghyfraith. Hi yw gwraig dy fab, ac ni ddylet ti gysgu gyda hi.

16 “‘Paid â chysgu gyda gwraig dy frawd, oherwydd byddai hynny’n dwyn gwarth ar dy frawd.

17 “‘Paid â chysgu gyda dynes* a’i merch. Paid â chysgu gyda merch ei mab na merch ei merch. Maen nhw’n berthnasau agos iddi; mae’n weithred ffiaidd.*

18 “‘Paid â phriodi chwaer dy wraig a chysgu gyda hi tra mae dy wraig yn dal yn fyw, oherwydd byddan nhw’n elynion.

19 “‘Paid â chysgu gyda dynes* yn nyddiau ei misglwyf.

20 “‘Paid â chysgu gyda gwraig dy gyd-ddyn* oherwydd byddai hynny’n dy wneud di’n aflan.

21 “‘Paid ag offrymu* dy blant i Molech. Paid â chablu enw dy Dduw yn y ffordd honno. Fi yw Jehofa.

22 “‘Ni ddylai dyn gysgu gyda dyn arall. Mae’n weithred ffiaidd.

23 “‘Ni ddylai dyn gael rhyw gydag anifail oherwydd byddai hynny’n ei wneud yn aflan; ac ni ddylai dynes* geisio cael rhyw gydag anifail. Mae’n mynd yn hollol groes i’r hyn sy’n naturiol.

24 “‘Peidiwch â’ch gwneud eich hunain yn aflan drwy wneud unrhyw un o’r pethau hyn, oherwydd dyna sut mae’r cenhedloedd rydw i’n eu gyrru allan o’ch blaenau chi wedi eu llygru eu hunain. 25 O ganlyniad, mae’r wlad yn aflan, a bydda i’n ei chosbi oherwydd ei phechodau, a bydd y wlad yn chwydu’r bobl allan. 26 Ar eich rhan chi, fe ddylech chi gadw fy neddfau a fy nghyfreithiau ac ni ddylech chi wneud unrhyw un o’r pethau ffiaidd hyn, p’un a ydych chi’n Israeliad neu’n estronwr sy’n byw ymhlith pobl Israel. 27 Roedd y dynion a oedd yn byw yn y wlad cyn i chi fod yno yn gwneud yr holl bethau ffiaidd hyn, ac nawr mae’r wlad yn aflan. 28 Yna, os na fyddwch chi’n halogi’r wlad, ni fydd yn eich chwydu chi allan fel y gwnaeth i’r cenhedloedd a ddaeth o’ch blaenau chi. 29 Os bydd unrhyw un yn gwneud hyd yn oed un o’r pethau ffiaidd hyn, bydd rhaid iddo gael ei roi i farwolaeth.* 30 Mae’n rhaid ichi ufuddhau i fy ngorchmynion drwy beidio ag efelychu unrhyw un o’r arferion ffiaidd a oedd yn mynd ymlaen yn y wlad cyn i chi fod yno, er mwyn ichi beidio â’ch gwneud eich hunain yn aflan o’u herwydd nhw. Fi yw Jehofa eich Duw.’”

19 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Siarada â holl gynulleidfa Israel a dyweda wrthyn nhw, ‘Dylech chi fod yn sanctaidd oherwydd rydw i, Jehofa eich Duw, yn sanctaidd.

3 “‘Dylai pob un ohonoch chi barchu ei fam a’i dad, a dylech chi gadw fy sabothau. Fi yw Jehofa eich Duw. 4 Peidiwch â throi at dduwiau diwerth na gwneud duwiau i chi’ch hunain allan o fetel wedi ei doddi. Fi yw Jehofa eich Duw.

5 “‘Nawr, os ydych chi’n offrymu aberth heddwch i Jehofa, dylech chi ei aberthu yn y ffordd iawn er mwyn ichi gael cymeradwyaeth Duw. 6 Dylai gael ei fwyta ar ddiwrnod eich aberth ac ar y diwrnod wedyn, ond dylai beth bynnag sydd ar ôl ar y trydydd diwrnod gael ei losgi yn y tân. 7 Ond os bydd unrhyw ran ohono yn cael ei bwyta ar y trydydd diwrnod, mae hynny’n rhywbeth ffiaidd, ac ni fydd yn cael ei dderbyn. 8 Bydd yr un sy’n ei bwyta yn atebol am ei bechod am ei fod wedi amharchu rhywbeth sanctaidd sy’n perthyn i Jehofa, a dylai’r person hwnnw gael ei roi i farwolaeth.*

9 “‘Pan fyddwch chi’n medi cynhaeaf eich tir, ni ddylech chi fedi ymyl eich cae yn gyfan gwbl, ac ni ddylech chi gasglu beth sydd wedi ei adael ar ôl o’ch cynhaeaf. 10 Hefyd, ni ddylech chi gasglu beth sydd wedi ei adael ar ôl yn eich gwinllan, na chasglu’r grawnwin sydd wedi syrthio yn eich gwinllan. Dylech chi eu gadael nhw ar gyfer y rhai tlawd a’r estroniaid. Fi yw Jehofa eich Duw.

11 “‘Peidiwch â dwyn, peidiwch â dweud celwyddau, a pheidiwch â thwyllo eich gilydd. 12 Peidiwch â thyngu llw ffals yn fy enw i ac felly amharchu enw eich Duw. Fi yw Jehofa. 13 Peidiwch â thwyllo a pheidiwch â lladrata. Peidiwch â dal cyflog gweithiwr yn ôl a’i gadw dros nos tan y bore.

14 “‘Peidiwch â melltithio dyn byddar na baglu dyn dall; mae’n rhaid ichi ofni eich Duw. Fi yw Jehofa.

15 “‘Mae’n rhaid ichi farnu’n deg. Peidiwch â dangos ffafriaeth i’r tlawd na rhoi blaenoriaeth i’r cyfoethog. Mae’n rhaid ichi farnu’n gyfiawn.

16 “‘Peidiwch â mynd o gwmpas yn lledaenu celwyddau er mwyn difetha enw da eraill ymysg eich pobl. Peidiwch â gwneud unrhyw beth a fydd yn peryglu bywyd rhywun arall.* Fi yw Jehofa.

17 “‘Peidiwch â chasáu un o’ch brodyr yn eich calonnau. Yn hytrach, dylech chi ei geryddu, fel na fyddwch chi’n rhannu yn ei bechod.

18 “‘Peidiwch â dial na dal dig yn erbyn meibion eich pobl. Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun. Fi yw Jehofa.

19 “‘Mae’n rhaid ichi gadw fy neddfau: Peidiwch â chroesfridio dau wahanol fath o anifeiliaid domestig. Peidiwch â hau dau wahanol fath o hadau yn yr un cae, a pheidiwch â gwisgo dillad sydd wedi eu gwneud o ddau wahanol fath o edau.

20 “‘Nawr, os bydd dyn yn gorwedd i lawr gyda dynes* ac yn cael rhyw gyda hi, ac mae hi’n forwyn sydd wedi cael ei haddo’n wraig i ddyn arall, ond heb gael ei phrynu na’i rhyddhau eto, dylen nhw gael eu cosbi ond ni ddylen nhw gael eu lladd oherwydd doedd hi ddim yn rhydd eto. 21 Dylai ef gyflwyno hwrdd* fel offrwm dros euogrwydd o flaen Jehofa wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 22 Bydd yr offeiriad yn offrymu’r hwrdd* hwnnw o flaen Jehofa er mwyn i’r dyn gael maddeuant am ei bechod, a bydd yn cael maddeuant am y pechod mae ef wedi ei gyflawni.

23 “‘Pan fyddwch chi’n dod i mewn i’r wlad ac yn plannu coeden ar gyfer bwyd, dylech chi ystyried ei ffrwyth yn amhur, ac fel rhywbeth sydd wedi ei wahardd. Fe fydd wedi ei wahardd am dair blynedd. Ni ddylech chi ei fwyta. 24 Ond yn y bedwaredd flwyddyn, bydd ei ffrwyth i gyd yn sanctaidd; byddwch chi’n ei offrymu i Jehofa yn llawen. 25 Yna, yn y bumed flwyddyn, cewch chi fwyta ei ffrwyth. Bydd y ffrwyth hwnnw yn ychwanegu at eich cynhaeaf. Fi yw Jehofa eich Duw.

26 “‘Peidiwch â bwyta unrhyw beth sy’n cynnwys gwaed.

“‘Peidiwch â chwilio am arwyddion* na dewino.

27 “‘Peidiwch â siafio’r* gwallt sydd ar ochr eich pennau na difetha ymylon eich barfau.

28 “‘Peidiwch â thorri eich croen ar gyfer rhywun* sydd wedi marw, a pheidiwch â marcio eich hunain â thatŵ. Fi yw Jehofa.

29 “‘Peidiwch ag amharchu eich merched drwy eu gwneud nhw’n buteiniaid, fel na fydd y wlad yn ei phuteinio ei hun a chael ei llenwi â moesau llac.

30 “‘Mae’n rhaid ichi gadw fy sabothau, a dangos parch tuag at* fy nghysegr. Fi yw Jehofa.

31 “‘Peidiwch â throi at y cyfryngwyr ysbrydion,* a pheidiwch ag ymgynghori â’r rhai sy’n dweud ffortiwn, fel na fyddan nhw’n eich gwneud chi’n aflan. Fi yw Jehofa eich Duw.

32 “‘Mae’n rhaid ichi godi o flaen y rhai sydd â gwallt gwyn er mwyn dangos parch, ac mae’n rhaid ichi anrhydeddu’r rhai hŷn, ac mae’n rhaid ichi ofni eich Duw. Fi yw Jehofa.

33 “‘Os oes ’na estronwr yn byw yn eich gwlad, peidiwch â’i gam-drin. 34 Dylech chi drin yr estronwr sy’n byw yn eich plith fel un o’ch pobl eich hunain; ac mae’n rhaid ichi ei garu fel rydych chi’n eich caru eich hunain, oherwydd roeddech chithau’n estroniaid yng ngwlad yr Aifft. Fi yw Jehofa eich Duw.

35 “‘Mae’n rhaid ichi ddefnyddio safonau teg wrth fesur hyd, pwysau, a chyfaint. 36 Dylech chi ddefnyddio cloriannau cywir, pwysau cywir, mesur sych cywir,* a mesur hylifol cywir.* Fi yw Jehofa eich Duw a ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft. 37 Felly mae’n rhaid ichi gadw fy holl ddeddfau a fy holl farnedigaethau, ac mae’n rhaid ichi eu dilyn nhw. Fi yw Jehofa.’”

20 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Dylet ti ddweud wrth yr Israeliaid, ‘Os bydd unrhyw ddyn yn Israel neu unrhyw estronwr sy’n byw yn Israel yn rhoi ei blant i Molech, dylai’r dyn hwnnw gael ei ladd heb os. Dylai pobl y wlad ei labyddio i farwolaeth. 3 Bydda i’n gwrthod y dyn hwnnw a bydda i’n ei ladd* am ei fod wedi rhoi rhai o’i blant i Molech ac wedi llygru fy lle sanctaidd ac wedi amharchu fy enw sanctaidd. 4 Os bydd pobl y wlad yn anwybyddu’r ffaith fod y dyn wedi rhoi ei blant i Molech a dydyn nhw ddim yn ei ladd, 5 yna, yn sicr, bydda i’n gwrthod y dyn hwnnw a’i deulu. Bydda i’n lladd y dyn hwnnw* yn ogystal â phawb sy’n ymuno ag ef ac yn eu puteinio eu hunain i Molech.

6 “‘Ynglŷn â’r person sy’n troi at y cyfryngwyr ysbrydion* a’r rhai sy’n dweud ffortiwn ac yn eu puteinio eu hunain yn ysbrydol, bydda i, yn sicr, yn gwrthwynebu’r person hwnnw ac yn ei ladd.*

7 “‘Mae’n rhaid ichi eich sancteiddio eich hunain a bod yn sanctaidd, oherwydd fi yw Jehofa eich Duw. 8 Ac mae’n rhaid ichi gadw fy neddfau a’u dilyn nhw. Fi yw Jehofa, yr un sy’n eich gwneud chi’n sanctaidd.

9 “‘Os bydd unrhyw ddyn yn melltithio ei dad neu ei fam, dylai’r dyn hwnnw gael ei ladd heb os. Gan ei fod wedi melltithio ei dad neu ei fam, mae’n gyfrifol am ei farwolaeth ei hun.*

10 “‘Nawr, ynglŷn â’r dyn sy’n godinebu gyda gwraig dyn arall: Dylai’r dyn sy’n godinebu gyda gwraig dyn arall gael ei ladd heb os. Dylai’r ddau ohonyn nhw* gael eu lladd. 11 Bydd dyn sy’n gorwedd gyda gwraig ei dad yn dwyn gwarth ar ei dad. Dylai’r ddau ohonyn nhw gael eu lladd heb os. Maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaeth eu hunain.* 12 Os bydd dyn yn gorwedd gyda’i ferch-yng-nghyfraith, dylai’r ddau ohonyn nhw gael eu lladd heb os. Maen nhw wedi mynd yn groes i beth sy’n naturiol. Maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaeth eu hunain.*

13 “‘Os bydd dyn yn gorwedd gyda dyn arall fel mae rhywun yn gorwedd gyda dynes,* mae’r ddau ohonyn nhw wedi gwneud rhywbeth ffiaidd. Dylai’r ddau ohonyn nhw gael eu lladd heb os. Maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaeth eu hunain.*

14 “‘Os bydd dyn yn cymryd dynes* a’i mam, mae hynny’n weithred anweddus.* Dylai’r tri ohonyn nhw gael eu llosgi yn y tân, fel na fydd ymddygiad anweddus yn parhau yn eich plith.

15 “‘Os bydd dyn yn cael rhyw gydag anifail, dylai’r dyn gael ei ladd heb os, a dylech chi ladd yr anifail hefyd. 16 Os bydd dynes* yn ceisio cael rhyw gydag anifail, dylech chi ladd y ddynes* a’r anifail. Dylen nhw gael eu lladd heb os. Maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaeth eu hunain.*

17 “‘Os bydd dyn yn cael rhyw gyda’i chwaer, merch ei dad neu ferch ei fam, ac mae ef yn gweld ei noethni hi ac mae hi’n gweld ei noethni ef, mae hynny’n warthus. Dylen nhw gael eu lladd* o flaen y bobl. Mae ef wedi dwyn gwarth ar ei chwaer. Fe fydd yn atebol am ei bechod.

18 “‘Os bydd dyn yn gorwedd gyda dynes* yn nyddiau ei misglwyf ac yn cael rhyw gyda hi, mae’r ddau ohonyn nhw wedi dangos diffyg parch tuag at ei gwaed. Dylai’r ddau ohonyn nhw gael eu lladd.*

19 “‘Paid â chael rhyw gyda chwaer dy fam na chwaer dy dad, oherwydd byddai hynny’n dwyn gwarth ar berthynas agos. Bydd unrhyw un sy’n gwneud y fath beth yn atebol am ei bechod. 20 Bydd dyn sy’n gorwedd gyda gwraig ei ewythr yn dwyn gwarth ar ei ewythr. Byddan nhw’n atebol am eu pechod. Dylen nhw farw heb gael plant. 21 Os bydd dyn yn cymryd gwraig ei frawd, mae hynny’n rhywbeth ffiaidd. Mae wedi dwyn gwarth ar ei frawd. Dylen nhw farw heb gael plant.

22 “‘Mae’n rhaid ichi gadw fy holl ddeddfau a fy holl farnedigaethau a’u dilyn nhw, fel na fydd y wlad lle rydw i’n mynd â chi i fyw ynddi yn eich chwydu chi allan. 23 Peidiwch â dilyn deddfau’r cenhedloedd rydw i’n eu gyrru allan o’ch blaenau chi, oherwydd maen nhw wedi gwneud yr holl bethau hyn, ac rydw i’n eu casáu nhw. 24 Dyna pam dywedais wrthoch chi: “Byddwch chi’n meddiannu eu gwlad a bydda i’n ei rhoi ichi fel etifeddiaeth, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo. Fi yw Jehofa eich Duw sydd wedi eich gosod chi ar wahân i’r bobloedd.” 25 Mae’n rhaid ichi wahaniaethu rhwng yr anifeiliaid glân a’r rhai aflan, a rhwng yr adar aflan a’r rhai glân, a pheidiwch â’ch llygru eich hunain ag unrhyw anifeiliaid, adar, ymlusgiaid, na phryfed rydw i wedi eu gosod ar wahân i chi fel rhywbeth aflan. 26 Mae’n rhaid ichi fod yn sanctaidd i mi oherwydd rydw i, Jehofa, yn sanctaidd, ac rydw i’n eich gosod chi ar wahân i’r bobloedd fel eiddo i mi.

27 “‘Dylai unrhyw ddyn neu ddynes* sy’n gyfryngwr ysbrydion* neu sy’n dweud ffortiwn gael ei ladd heb os. Dylai’r bobl ei labyddio i farwolaeth. Maen nhw’n gyfrifol am eu marwolaeth eu hunain.’”*

21 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: “Dyweda wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, ‘Ni ddylai unrhyw un ei wneud ei hun yn aflan er mwyn rhywun sydd wedi marw o blith ei bobl. 2 Ond mae ganddo’r hawl i wneud hynny er mwyn perthynas agos, er mwyn ei fam, ei dad, ei fab, ei ferch, ei frawd, 3 ac mae ganddo’r hawl i’w wneud ei hun yn aflan er mwyn ei chwaer os ydy hi’n wyryf sy’n agos ato ac sydd heb briodi eto. 4 Ni ddylai ei wneud ei hun yn aflan a’i rwystro ei hun rhag bod yn sanctaidd er mwyn dynes* sydd wedi priodi dyn o blith ei bobl. 5 Ni ddylai siafio ei ben na siafio ymylon ei farf na thorri ei groen. 6 Dylai fod yn sanctaidd yng ngolwg ei Dduw, ac ni ddylai ddwyn gwarth ar enw ei Dduw, am ei fod yn cyflwyno offrymau Jehofa sydd wedi cael eu gwneud drwy dân, bara* ei Dduw, ac mae’n rhaid iddo fod yn sanctaidd. 7 Ni ddylai briodi putain, dynes* sydd wedi colli ei gwyryfdod, na dynes* sydd wedi cael ysgariad, gan fod yr offeiriad yn sanctaidd yng ngolwg ei Dduw. 8 Mae’n rhaid ichi ei sancteiddio am ei fod yn cyflwyno bara eich Duw. Dylai ef fod yn sanctaidd i chi, gan fy mod i, Jehofa, yr un sy’n eich sancteiddio chi, yn sanctaidd.

9 “‘Nawr, os bydd merch offeiriad yn ei llygru ei hun drwy fod yn butain, bydd hi’n dwyn gwarth ar ei thad. Mae’n rhaid iddi gael ei llosgi â thân.

10 “‘Ynglŷn â’r archoffeiriad o blith ei frodyr, yr un mae’r olew eneinio yn cael ei dywallt* arno, ac sydd wedi cael ei benodi i wisgo dillad yr offeiriad, ni ddylai’r dyn hwnnw adael i’w wallt fynd yn flêr na rhwygo ei ddillad. 11 Ni ddylai fynd yn agos at unrhyw un sydd wedi marw;* ni ddylai ei wneud ei hun yn aflan, hyd yn oed er mwyn ei dad neu ei fam. 12 Ni ddylai adael y cysegr ac ni ddylai lygru cysegr ei Dduw gan fod yr arwydd o gysegriad i Dduw, olew eneinio ei Dduw, arno. Fi yw Jehofa.

13 “‘Mae’n rhaid iddo briodi dynes* sy’n wyryf. 14 Ni ddylai briodi gwraig weddw, dynes* sydd wedi cael ysgariad, un sydd wedi colli ei gwyryfdod, neu butain; ond fe ddylai briodi gwyryf o blith ei bobl. 15 Os nad yw’n gwneud hynny, bydd ei blant* yn cael eu hystyried yn ansanctaidd ymhlith ei bobl, oherwydd fi yw Jehofa, yr un sy’n ei wneud yn sanctaidd.’”

16 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 17 “Dyweda wrth Aaron, ‘Ni fydd yr un o dy ddisgynyddion* drwy eu holl genedlaethau sydd â nam corfforol yn cael cyflwyno bara i Dduw. 18 Os oes gan unrhyw ddyn nam corfforol, nid yw’n cael mynd at yr allor: dyn sy’n ddall neu’n gloff neu sydd â wyneb wedi ei anffurfio, neu sydd ag un goes neu fraich yn hirach na’r llall, 19 dyn sydd wedi torri ei droed neu ei law, 20 dyn sy’n gefngrwm neu sy’n dioddef o gorachedd,* neu ddyn sydd â nam ar ei lygad neu ecsema neu afiechyd ar y croen* neu sydd wedi niweidio ei geilliau. 21 Ni fydd yr un o ddisgynyddion* Aaron yr offeiriad sydd â nam corfforol yn cael cyflwyno offrymau Jehofa sydd wedi cael eu gwneud drwy dân. Am fod ganddo nam corfforol, nid yw’n cael cyflwyno bara i Dduw. 22 Mae’n cael bwyta bara ei Dduw, hynny yw, y pethau mwyaf sanctaidd a’r pethau sanctaidd. 23 Fodd bynnag, nid yw’n cael mynd yn agos at y llen, ac nid yw’n cael mynd at yr allor, am fod ganddo nam corfforol; ac ni ddylai lygru fy nghysegr, oherwydd fi yw Jehofa, yr un sy’n eu gwneud nhw’n* sanctaidd.’”

24 Felly siaradodd Moses ag Aaron a’i feibion a’r holl Israeliaid.

22 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Dyweda wrth Aaron a’i feibion y dylen nhw fod yn ofalus sut maen nhw’n gofalu am y pethau mae’r Israeliaid yn eu hoffrymu fel rhywbeth sanctaidd i mi, ac ni ddylen nhw amharchu fy enw sanctaidd. Fi yw Jehofa. 3 Dyweda wrthyn nhw, ‘Os bydd unrhyw un o’ch disgynyddion, tra ei fod yn aflan, yn dod yn agos at y pethau mae’r Israeliaid yn eu hoffrymu fel rhywbeth sanctaidd i Jehofa, dylai gael ei ladd.* Bydd hyn yn berthnasol i’r holl genedlaethau ar eich olau. Fi yw Jehofa. 4 Ni fydd yr un o ddisgynyddion Aaron sydd â’r gwahanglwyf neu sydd â rhedlif yn cael bwyta o’r pethau sanctaidd nes ei fod yn lân, naill ai dyn sy’n cyffwrdd â rhywun a ddaeth yn aflan oherwydd rhywun sydd wedi marw, neu ddyn sy’n gollwng ei had,* 5 neu ddyn sy’n cyffwrdd ag anifail aflan sy’n heidio, neu unrhyw un sy’n cyffwrdd â dyn sydd am ryw reswm yn aflan ac sy’n gallu ei wneud yn aflan. 6 Bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â’r pethau hyn yn aflan tan fachlud yr haul ac ni fydd yn cael bwyta unrhyw un o’r pethau sanctaidd, ond fe ddylai ymolchi mewn dŵr. 7 Unwaith i’r haul fachlud fe fydd yn lân, ac ar ôl hynny fe fydd yn cael bwyta rhai o’r pethau sanctaidd oherwydd dyna yw ei fwyd. 8 Hefyd, ni ddylai ei wneud ei hun yn aflan drwy fwyta unrhyw anifail sydd wedi marw, nac unrhyw beth sydd wedi ei ladd gan anifeiliaid gwyllt. Fi yw Jehofa.

9 “‘Dylen nhw ufuddhau i fy ngorchmynion; ni ddylen nhw amharchu pethau sanctaidd, fel na fyddan nhw’n pechu ac yn gorfod marw. Fi yw Jehofa, yr un sy’n eu gwneud nhw’n sanctaidd.

10 “‘Ni all unrhyw un fwyta rhywbeth sanctaidd os nad oes ganddo’r hawl.* Ni fydd yr un estronwr sy’n ymweld ag offeiriad na gweithiwr sy’n derbyn cyflog yn cael bwyta unrhyw beth sanctaidd. 11 Ond os bydd offeiriad yn prynu rhywun â’i arian ei hun, gall y person hwnnw fwyta rhan o’i fwyd. Gall caethweision sydd wedi cael eu geni yn ei dŷ hefyd fwyta rhan o’i fwyd. 12 Os bydd merch offeiriad yn priodi rhywun sydd ddim yn offeiriad, ni fydd hi’n cael bwyta’r pethau sanctaidd mae’r bobl wedi eu cyfrannu. 13 Ond os bydd merch offeiriad yn colli ei gŵr, neu’n cael ysgariad, a hithau heb gael plant, ac yna mae’n mynd yn ôl i dŷ ei thad lle roedd hi’n byw pan oedd hi’n ifanc, fe fydd hi’n cael rhannu bwyd ei thad; ond ni all unrhyw un ei fwyta os nad oes ganddo’r hawl.*

14 “‘Nawr os bydd dyn yn bwyta rhywbeth sanctaidd yn ddamweiniol, fe ddylai ychwanegu pumed ran o’i werth ato a rhoi’r offrwm sanctaidd i’r offeiriad. 15 Felly ni ddylen nhw amharchu’r pethau sanctaidd mae’r Israeliaid wedi eu cyfrannu i Jehofa 16 a dod â chosb arnyn nhw eu hunain oherwydd eu heuogrwydd dros fwyta eu pethau sanctaidd; oherwydd fi yw Jehofa, yr un sy’n eu gwneud nhw’n sanctaidd.’”

17 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 18 “Siarada ag Aaron a’i feibion, ac â’r holl Israeliaid, a dyweda wrthyn nhw, ‘Pan fydd dyn o Israel neu estronwr sy’n byw yn Israel yn cyflwyno offrwm llosg i Jehofa er mwyn cyflawni ei addunedau neu er mwyn gwneud offrwm gwirfoddol, 19 fe ddylai gyflwyno gwryw di-nam o blith y praidd, yr hyrddod* ifanc, neu’r geifr er mwyn ennill ei gymeradwyaeth. 20 Ni ddylech chi gyflwyno unrhyw beth a nam arno, neu fel arall ni fyddwch chi’n ennill cymeradwyaeth Duw.

21 “‘Os bydd dyn yn cyflwyno aberth heddwch i Jehofa er mwyn talu adduned neu fel offrwm gwirfoddol, fe ddylai fod yn anifail di-nam o blith y gwartheg neu’r praidd er mwyn iddo ennill cymeradwyaeth. Ni ddylai unrhyw nam fod arno o gwbl. 22 Ni ddylech chi offrymu unrhyw anifail sy’n ddall, sydd wedi torri ei goes, sydd wedi torri ei groen, sydd â dafaden, sydd â chrach, neu sydd â haint ar y croen;* ni ddylech chi gyflwyno unrhyw un o’r rhain i Jehofa na gwneud y fath offrymau i Jehofa ar yr allor. 23 Cewch chi gyflwyno tarw neu ddafad sydd ag un goes yn rhy hir neu’n rhy fyr fel offrwm gwirfoddol, ond ni fydd yn cael ei dderbyn â chymeradwyaeth fel offrwm adduned. 24 Ni ddylech chi gyflwyno i Jehofa anifail sydd â cheilliau sydd wedi eu niweidio, eu gwasgu, eu tynnu i ffwrdd, neu eu torri i ffwrdd, ac ni ddylech chi offrymu’r fath anifeiliaid yn eich gwlad. 25 Ni ddylech chi gyflwyno unrhyw un o’r rhain o law estronwr fel bara i’ch Duw, am fod ganddyn nhw amherffeithion. Ni fydd Duw yn eu derbyn nhw.’”

26 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 27 “Pan fydd llo neu oen neu fyn gafr yn cael ei eni, fe fydd yn aros gyda’i fam am saith diwrnod, ond o’r wythfed diwrnod ymlaen fe fydd yn cael ei dderbyn â chymeradwyaeth fel offrwm, offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa. 28 Ni ddylai buwch neu ddafad gael ei lladd ar yr un diwrnod â’i rhai bach.

29 “Os byddwch chi’n cyflwyno aberth o ddiolchgarwch i Jehofa, dylech chi ei aberthu yn y ffordd iawn er mwyn ennill cymeradwyaeth. 30 Dylai gael ei fwyta ar y diwrnod hwnnw. Ni ddylech chi adael unrhyw ran ohono tan y bore. Fi yw Jehofa.

31 “Dylech chi gadw fy ngorchmynion a’u dilyn nhw. Fi yw Jehofa. 32 Peidiwch â dwyn gwarth ar fy enw sanctaidd, dylwn i gael fy sancteiddio ymhlith yr Israeliaid. Fi yw Jehofa, yr un sy’n eich gwneud chi’n sanctaidd, 33 yr un a ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft i brofi fy mod i’n Dduw ichi. Fi yw Jehofa.”

23 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Mae gwyliau tymhorol Jehofa, y rhai y dylech chi eu cyhoeddi, yn gynadleddau sanctaidd. Dyma fy ngwyliau tymhorol:

3 “‘Cewch chi wneud chwe diwrnod o waith, ond mae’r seithfed diwrnod yn saboth, diwrnod o orffwys llwyr, cynhadledd sanctaidd. Ni chewch chi wneud unrhyw fath o waith. Mae’n saboth i Jehofa ble bynnag rydych chi.

4 “‘Dyma wyliau tymhorol Jehofa, cynadleddau sanctaidd y dylech chi eu cyhoeddi ar eu hadegau penodol: 5 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis, yn y gwyll,* dyna pryd mae Pasg Jehofa yn dechrau.

6 “‘Mae Gŵyl y Bara Croyw i Jehofa yn dechrau ar bymthegfed* diwrnod y mis. Dylech chi fwyta bara croyw am saith diwrnod. 7 Ar y diwrnod cyntaf, dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd. Ni ddylech chi wneud unrhyw waith caled. 8 Ond bydd rhaid ichi gyflwyno offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa bob dydd am y saith diwrnod hynny. Fe fydd ’na gynhadledd sanctaidd ar y seithfed diwrnod. Ni ddylech chi wneud unrhyw waith caled.’”

9 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 10 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Unwaith ichi ddod i mewn i’r wlad rydw i’n ei rhoi ichi, ac unwaith ichi fedi’r cynhaeaf, bydd rhaid ichi ddod ag ysgub o flaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad. 11 Ac fe fydd yn chwifio’r ysgub yn ôl ac ymlaen o flaen Jehofa er mwyn ennill cymeradwyaeth ichi. Dylai’r offeiriad ei chwifio ar y diwrnod ar ôl y Saboth. 12 Ar y diwrnod mae’r offeiriad yn chwifio’r ysgub ichi, dylech chi gyflwyno hwrdd* ifanc di-nam sy’n flwydd oed neu’n llai, fel offrwm llosg i Jehofa. 13 Ynghyd â’r hwrdd,* dylech chi gyflwyno dwy ddegfed ran o effa* o flawd* mân wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn, fel offrwm wedi ei wneud drwy dân i Jehofa, arogl sy’n ei blesio. Hefyd, dylech chi ddod â chwarter hin* o win fel offrwm diod. 14 Peidiwch â bwyta unrhyw fara, unrhyw rawn wedi ei rostio,* nac unrhyw rawn newydd tan y diwrnod hwnnw, tan y diwrnod byddwch chi’n cyflwyno offrwm eich Duw. Mae hyn yn ddeddf barhaol i chi a’ch disgynyddion ble bynnag rydych chi.

15 “‘Dylech chi gyfri saith saboth o’r diwrnod ar ôl y Saboth, o’r diwrnod rydych chi’n dod ag ysgub yr offrwm chwifio. Dylen nhw fod yn wythnosau llawn. 16 Dylech chi gyfri 50 diwrnod tan y diwrnod ar ôl y seithfed Saboth, ac yna dylech chi gyflwyno offrwm o rawn newydd i Jehofa. 17 Dylech chi ddod â dwy dorth o’ch cartrefi fel offrwm chwifio. Dylen nhw gael eu gwneud o ddwy ddegfed ran o effa* o flawd* mân. Dylen nhw gael eu pobi â burum, fel ffrwyth cyntaf y cynhaeaf i Jehofa. 18 Ynghyd â’r torthau, dylech chi gyflwyno saith oen gwryw di-nam, pob un yn flwydd oed, ac un tarw ifanc a dau hwrdd.* Byddan nhw’n offrwm llosg i Jehofa ynghyd â’r offrwm grawn a’r offrymau diod cyfatebol, byddan nhw’n offrwm wedi ei wneud drwy dân, arogl sy’n plesio Jehofa. 19 Ac mae’n rhaid ichi gyflwyno gafr ifanc fel offrwm dros bechod, a dau oen gwryw blwydd oed fel aberth heddwch. 20 Bydd yr offeiriad yn eu chwifio nhw yn ôl ac ymlaen, ynghyd â’r torthau o ffrwyth cyntaf y cynhaeaf fel offrwm chwifio o flaen Jehofa, ynghyd â’r ddau oen gwryw. Dylen nhw fod yn rhywbeth sanctaidd i Jehofa ar gyfer yr offeiriad. 21 Ar y diwrnod hwn, byddwch chi’n cyhoeddi cynhadledd sanctaidd i chi’ch hunain. Peidiwch â gwneud unrhyw waith caled. Mae hyn yn ddeddf barhaol ble bynnag rydych chi’n byw, ar eich cyfer chi a’ch disgynyddion.

22 “‘Pan fyddwch chi’n medi cynhaeaf eich tir, peidiwch â medi ymylon y cae yn gyfan gwbl, a pheidiwch â chasglu beth sydd wedi ei adael ar ôl o’r cynhaeaf. Dylech chi ei adael ar gyfer y rhai tlawd a’r estroniaid sy’n byw yn eich plith. Fi yw Jehofa eich Duw.’”

23 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 24 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis, dylech chi orffwys rhag eich holl waith, bydd y diwrnod hwn yn cael ei gyhoeddi drwy ganu trwmped, er mwyn ichi gofio ei fod yn gynhadledd sanctaidd. 25 Ni ddylech chi wneud unrhyw waith caled; dylech chi gyflwyno offrwm wedi ei wneud drwy dân i Jehofa.’”

26 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 27 “Degfed diwrnod y seithfed mis yw Dydd y Cymod. Dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd a dangos eich bod chi’n drist oherwydd eich pechodau,* a dylech chi gyflwyno offrwm sydd wedi ei wneud drwy dân i Jehofa. 28 Peidiwch â gwneud unrhyw fath o waith ar y diwrnod hwnnw, oherwydd mae’n ddiwrnod sydd wedi ei benodi i’r offeiriad offrymu aberth o flaen Jehofa eich Duw er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau. 29 Bydd unrhyw un sydd ddim yn dangos ei fod yn drist oherwydd ei bechodau* ar y diwrnod hwnnw yn cael ei ladd.* 30 A bydda i’n dinistrio pawb o blith y bobl sy’n gwneud unrhyw fath o waith ar y diwrnod hwnnw. 31 Peidiwch â gwneud unrhyw fath o waith. Mae hyn yn ddeddf barhaol i chi a’ch disgynyddion ble bynnag rydych chi’n byw. 32 Mae’n saboth ichi, diwrnod o orffwys llwyr, a byddwch chi’n dangos eich bod chi’n drist oherwydd eich pechodau ar ôl i’r haul fachlud ar nawfed diwrnod y mis. Dylech chi gadw’r Saboth o un machlud i’r nesaf.”

33 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 34 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Ar bymthegfed* diwrnod y seithfed mis bydd Gŵyl y Pebyll i Jehofa yn dechrau a bydd yn para am saith diwrnod. 35 Fe fydd ’na gynhadledd sanctaidd ar y diwrnod cyntaf, ac ni ddylech chi wneud unrhyw waith caled. 36 Bob dydd am saith diwrnod, dylech chi gyflwyno offrwm sydd wedi ei wneud drwy dân i Jehofa. Ar yr wythfed diwrnod, dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd a dylech chi gyflwyno offrwm sydd wedi ei wneud drwy dân i Jehofa. Mae hi’n gynulliad sanctaidd. Ni ddylech chi wneud unrhyw waith caled.

37 “‘Dyna wyliau tymhorol Jehofa y dylech chi eu cyhoeddi yn gynadleddau sanctaidd ar gyfer cyflwyno offrwm sydd wedi ei wneud drwy dân i Jehofa: yr offrwm llosg, yr offrwm grawn ynghyd â’r aberth, a’r offrymau diod, yn ôl yr hyn sydd wedi ei drefnu ar gyfer pob dydd. 38 Mae’r rhain yn ychwanegol i’r hyn sy’n cael ei offrymu ar sabothau Jehofa, eich rhoddion, eich offrymau adduned, a’ch offrymau gwirfoddol, y pethau dylech chi eu rhoi i Jehofa. 39 Ond, ar bymthegfed* diwrnod y seithfed mis, ar ôl ichi gasglu cynnyrch y tir, dylech chi ddathlu gŵyl Jehofa am saith diwrnod. Ar y diwrnod cyntaf dylech chi orffwys yn llwyr, ac ar yr wythfed diwrnod dylech chi orffwys yn llwyr. 40 Ar y diwrnod cyntaf, byddwch chi’n cymryd ffrwyth y coed hardd, canghennau coed palmwydd, coed deiliog, a choed* sy’n tyfu yn y dyffryn,* a byddwch chi’n llawenhau o flaen Jehofa eich Duw am saith diwrnod. 41 Mae’n rhaid ichi ddathlu gŵyl Jehofa am saith diwrnod bob blwyddyn. Dylech chi ei dathlu yn y seithfed mis fel deddf barhaol yn ystod eich holl genedlaethau. 42 Dylech chi fyw yn y pebyll am saith diwrnod. Dylai’r holl Israeliaid fyw yn y pebyll, 43 er mwyn i’r cenedlaethau nesaf wybod fy mod i wedi gwneud i’r Israeliaid fyw mewn pebyll pan oeddwn i’n eu harwain nhw allan o wlad yr Aifft. Fi yw Jehofa eich Duw.’”

44 Felly dyma Moses yn sôn wrth yr Israeliaid am wyliau tymhorol Jehofa.

24 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Gorchmynna i’r Israeliaid ddod ag olew olewydd pur atat ti ar gyfer y goleuadau, fel bydd y lampau’n parhau i losgi drwy’r adeg. 3 Y tu allan i len y Dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, dylai Aaron sicrhau bod y lampau’n parhau i losgi o flaen Jehofa o fachlud yr haul tan y bore. Mae hyn yn ddeddf barhaol ar gyfer eich holl genedlaethau. 4 Fe ddylai osod y lampau mewn trefn ar y canhwyllbren o aur pur, fel eu bod nhw o flaen Jehofa drwy’r adeg.

5 “Byddi di’n cymryd y blawd* gorau ac yn ei ddefnyddio i bobi 12 torth siâp modrwy. Dylai dwy ddegfed ran o effa* o flawd* fynd i mewn i bob torth. 6 Byddi di’n eu gosod nhw ar y bwrdd o aur pur o flaen Jehofa mewn dau bentwr, chwech ym mhob pentwr. 7 Dylet ti roi thus pur ar bob pentwr, a bydd yn cael ei offrymu i gynrychioli’r bara, fel offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa. 8 Ar bob Saboth, dylai’r bara gael ei drefnu o flaen Jehofa. Mae hyn yn gyfamod parhaol â’r Israeliaid. 9 Bydd y bara yn perthyn i Aaron a’i feibion, a byddan nhw’n ei fwyta mewn lle sanctaidd, am ei fod yn rhywbeth sanctaidd iawn iddo ymhlith offrymau Jehofa sydd wedi cael eu gwneud drwy dân, fel deddf barhaol.”

10 Nawr roedd ’na ddyn ymhlith yr Israeliaid, roedd ei fam o Israel a’i dad yn Eifftiwr, a dyma’n dechrau ymladd gyda dyn o Israel yn y gwersyll. 11 Dechreuodd mab y ddynes* o Israel amharchu’r Enw* a’i felltithio. Felly dyma nhw’n dod ag ef at Moses. (Enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri o lwyth Dan.) 12 Fe wnaethon nhw ei roi o dan warchodaeth nes i benderfyniad Jehofa gael ei wneud yn glir iddyn nhw.

13 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 14 “Dos â’r un sydd wedi melltithio enw Duw y tu allan i’r gwersyll, ac mae’n rhaid i bob un a wnaeth ei glywed roi ei ddwylo ar ei ben, ac yna mae’n rhaid i’r gynulleidfa gyfan ei labyddio. 15 A dylet ti ddweud wrth yr Israeliaid, ‘Os bydd unrhyw ddyn yn melltithio ei Dduw, fe fydd yn atebol am ei bechod. 16 Felly dylai’r un sydd wedi amharchu enw Jehofa gael ei roi i farwolaeth heb os. Dylai’r gynulleidfa gyfan ei labyddio heb os. Dylai estronwr sy’n byw yn eich plith gael ei roi i farwolaeth yr un fath ag Israeliad, oherwydd iddo amharchu’r Enw.

17 “‘Os bydd unrhyw ddyn yn cymryd bywyd rhywun arall, dylai gael ei ladd heb os. 18 Os bydd unrhyw un yn taro anifail domestig ac yn ei ladd, dylai dalu amdano, bywyd am fywyd.* 19 Os bydd dyn yn anafu rhywun arall, yna dylai’r un peth gael ei wneud iddo ef. 20 Asgwrn am asgwrn,* llygad am lygad, dant am ddant, dylai ddioddef yr un niwed a wnaeth ef i’r person arall. 21 Dylai’r dyn sy’n taro anifail ac yn ei ladd dalu amdano, ond dylai’r un sy’n taro dyn ac yn ei ladd gael ei roi i farwolaeth.

22 “‘Bydd yr un farnedigaeth yn berthnasol i chi ac i’r estroniaid sy’n byw yn eich plith, oherwydd fi yw Jehofa eich Duw.’”

23 Yna siaradodd Moses â’r Israeliaid, a daethon nhw â’r un a oedd wedi melltithio enw Duw y tu allan i’r gwersyll, a’i labyddio. Felly gwnaeth yr Israeliaid yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

25 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses ar Fynydd Sinai, gan ddweud: 2 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Pan fyddwch chi’n dod i mewn i’r wlad y bydda i’n ei rhoi ichi, bydd rhaid ichi adael i’r wlad orffwys fel saboth i Jehofa. 3 Am chwe mlynedd dylech chi hau hadau yn eich caeau, ac am chwe mlynedd dylech chi docio eich gwinllannoedd, a byddwch yn casglu cynnyrch y wlad. 4 Ond yn y seithfed flwyddyn, ni ddylech chi weithio’r tir oherwydd mae’n saboth i Jehofa, saboth o orffwys llwyr. Ni ddylech chi hau hadau yn eich caeau na thocio eich gwinllannoedd. 5 Ni ddylech chi fedi’r hyn sy’n tyfu o’r hadau sydd ar ôl yn dilyn y cynhaeaf, na chasglu grawnwin oddi ar unrhyw winwydden heb ei thocio. Dylech chi adael i’r wlad orffwys yn llwyr am flwyddyn. 6 Ond, cewch chi fwyta’r bwyd sy’n tyfu yn y wlad yn ystod ei saboth; chi, eich caethweision a’ch caethferched, eich gweithwyr sy’n derbyn cyflog, a’r estroniaid sy’n byw yn eich plith, 7 yn ogystal â’r anifeiliaid domestig a’r anifeiliaid gwyllt sy’n byw yn y wlad. Cewch chi fwyta popeth sy’n tyfu yn y wlad.

8 “‘Byddwch yn cyfri saith blwyddyn saboth, saith mlynedd saith gwaith. Felly, dylech chi gyfri 49 mlynedd yn gyfan gwbl. 9 Byddwch chi wedyn yn canu’r corn yn uchel yn y seithfed mis, ar ddegfed diwrnod y mis; dylai sŵn y corn gael ei glywed drwy’r wlad gyfan ar Ddydd y Cymod. 10 Dylech chi sancteiddio’r hanner canfed* flwyddyn a chyhoeddi rhyddid yn y wlad i bawb sy’n byw yno. Fe fydd yn Jiwbilî ichi, a dylai pob un ohonoch chi fynd yn ôl i’w dir a dylech chi i gyd fynd yn ôl at eich teuluoedd. 11 Bydd yr hanner canfed* flwyddyn yn Jiwbilî ichi. Fyddwch chi ddim yn hau hadau nac yn medi’r hyn a dyfodd o’r hadau oedd wedi eu gadael ar y llawr, nac yn casglu grawnwin eich gwinwydden oedd heb ei thocio. 12 Mae hi’n Jiwbilî, a dylai fod yn sanctaidd ichi. Cewch chi fwyta ond beth sydd wedi tyfu ar ei ben ei hun yn y wlad.

13 “‘Ym mlwyddyn y Jiwbilî, dylech chi i gyd fynd yn ôl i’ch tiroedd. 14 Os byddwch chi’n gwerthu unrhyw beth i rywun arall, neu’n prynu rhywbeth oddi wrtho, peidiwch â chymryd mantais ohono. 15 Wrth brynu tir dylech chi ystyried faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers y Jiwbilî, ac wrth werthu tir dylech chi ystyried faint o flynyddoedd o gynaeafu sydd ar ôl. 16 Os oes ’na lawer o flynyddoedd ar ôl, gallwch chi ei werthu am bris uwch, ond os mai dim ond ychydig o flynyddoedd sydd ar ôl, dylech chi ei werthu am bris llai, oherwydd byddwch chi’n ei werthu ar sail faint o gnydau bydd y tir yn eu cynhyrchu cyn y flwyddyn Jiwbilî nesaf. 17 Ni ddylech chi gymryd mantais o rywun arall, ac mae’n rhaid ichi ofni eich Duw, oherwydd fi yw Jehofa eich Duw. 18 Drwy ddilyn fy neddfau, a thrwy gadw fy marnedigaethau, byddwch yn byw yn y wlad mewn heddwch. 19 Bydd y tir yn ffrwythlon, a byddwch chi’n bwyta ac yn cael digonedd, ac yn byw yno mewn heddwch.

20 “‘Ond os byddwch chi’n dweud: “Beth gwnawn ni ei fwyta yn y seithfed flwyddyn os nad ydyn ni’n cael hau hadau na chasglu ein cnydau?” 21 fe fydda i’n rhoi fy mendith arnoch chi yn y chweched flwyddyn, a bydd y wlad yn cynhyrchu digon o fwyd ar gyfer tair blynedd. 22 Hyd yn oed pan fyddwch chi’n hau hadau yn yr wythfed flwyddyn, fe fyddwch chi’n dal i fwyta cnydau’r chweched flwyddyn tan y nawfed flwyddyn. Byddwch yn parhau i fwyta o’r cnydau hynny nes i’r cynhaeaf nesaf gael ei gwblhau.

23 “‘Ni ddylai’r tir gael ei werthu i rywun i’w gadw am byth, oherwydd fi biau’r wlad. Rydych chi’n estroniaid ac yn fewnfudwyr yn fy ngolwg i. 24 Drwy’r holl wlad rydw i wedi ei rhoi i chi, bydd gan yr un sy’n gwerthu ei dir yr hawl i’w brynu yn ôl.

25 “‘Os bydd eich brawd yn mynd yn dlawd ac yn gorfod gwerthu rhywfaint o’i dir, dylai un o’i berthnasau agos brynu’n ôl y tir a gafodd ei werthu. 26 Os nad oes gan rywun berthynas agos sy’n gallu prynu’r tir yn ôl iddo, ond mae’n ennill digon o arian er mwyn prynu’r tir yn ôl, 27 dylai gyfrifo gwerth y cnydau ers iddo ei werthu, tynnu’r gwerth hwnnw i ffwrdd o’r pris gwreiddiol, ac yna talu’r gwahaniaeth i’r dyn a brynodd y tir oddi wrtho. Yna bydd yn cael mynd yn ôl i’w dir.

28 “‘Ond os nad yw’n ennill digon o arian i’w brynu yn ôl, bydd y tir yn aros gyda’r un a wnaeth ei brynu tan flwyddyn y Jiwbilî. Bydd yn cael ei ryddhau i’r perchennog gwreiddiol yn y Jiwbilî a bydd yn cael mynd yn ôl i’w dir.

29 “‘Nawr os bydd dyn yn gwerthu tŷ mewn dinas sydd â waliau o’i chwmpas, bydd ganddo’r hawl i’w brynu yn ôl o fewn blwyddyn ar ôl iddo ei werthu. Bydd ganddo’r hawl i wneud hynny o fewn blwyddyn gyfan. 30 Ond os nad yw’r tŷ yn cael ei brynu yn ôl erbyn diwedd blwyddyn gyfan, bydd y tŷ o fewn waliau’r ddinas yn perthyn i’r un a wnaeth ei brynu ac i’w holl ddisgynyddion. Ni fydd yn cael ei ryddhau yn y Jiwbilî. 31 Ond, os ydy’r tŷ mewn tref heb waliau, fe fydd yn bosib ei brynu yn ôl ar unrhyw adeg, yn union fel sy’n digwydd i gaeau cefn gwlad, a bydd yn cael ei ryddhau yn y Jiwbilî.

32 “‘Ynglŷn â thai’r Lefiaid o fewn eu dinasoedd, bydd gan y Lefiaid hawl barhaol i’w prynu yn ôl. 33 Os nad ydy Lefiad yn prynu ei dŷ yn y ddinas yn ôl, bydd y tŷ yn cael ei ryddhau yn y Jiwbilî, oherwydd mae’r tai yn ninasoedd y Lefiaid yn perthyn iddyn nhw yn Israel. 34 Ar ben hynny, ni ddylai’r tir pori o gwmpas eu dinasoedd gael ei werthu oherwydd dyna yw eu heiddo parhaol.

35 “‘Os bydd eich brawd sy’n byw’n agos ichi yn mynd yn dlawd ac yn methu ei gynnal ei hun, mae’n rhaid ichi ei helpu, yn union fel y byddech chi’n helpu estronwr sy’n byw yn eich plith neu fewnfudwr, fel y byddai’n gallu parhau i fyw yn eich plith. 36 Peidiwch â chodi llog arno na gwneud elw ohono. Mae’n rhaid ichi ofni eich Duw, a bydd eich brawd yn gallu parhau i fyw yn eich plith. 37 Ni ddylech chi fenthyg arian iddo ar log na dosbarthu bwyd er mwyn gwneud elw. 38 Fi yw Jehofa eich Duw a ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft er mwyn rhoi gwlad Canaan ichi, er mwyn profi fy mod i’n Dduw ichi.

39 “‘Os bydd un o’ch brodyr sy’n byw yn agos ichi yn mynd yn dlawd ac yn gorfod ei werthu ei hun ichi, ni ddylech chi ei orfodi i weithio fel caethwas. 40 Dylai gael ei drin fel gweithiwr sy’n derbyn cyflog, fel mewnfudwr. Dylai weithio ichi tan flwyddyn y Jiwbilî. 41 Wedyn fe fydd yn gadael, ef a’i blant, ac yn mynd yn ôl i’w deulu. Dylai ddychwelyd at eiddo ei gyndadau. 42 Fe wnes i arwain yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft, nhw ydy fy nghaethweision i. Felly ni ddylen nhw eu gwerthu eu hunain fel caethweision. 43 Ni ddylech chi drin eich brodyr yn greulon, ac mae’n rhaid ichi ofni eich Duw. 44 Cewch chi brynu caethweision a chaethferched o’r cenhedloedd o’ch cwmpas chi, cewch chi brynu caethwas neu gaethferch ganddyn nhw. 45 Cewch chi hefyd brynu caethweision o blith y mewnfudwyr sy’n byw yn eich plith, ac o blith eu plant sydd wedi cael eu geni yn eich gwlad, a byddan nhw’n eiddo ichi. 46 Cewch chi eu rhoi nhw fel etifeddiaeth i’ch plant, fel eiddo parhaol. Cewch chi eu defnyddio nhw fel gweithwyr, ond ynglŷn â’ch brodyr, meibion Israel, ni ddylech chi eu trin nhw’n greulon.

47 “‘Ond os bydd mewnfudwr neu estronwr sy’n byw yn eich plith yn mynd yn gyfoethog, ac mae un o’ch brodyr wedi mynd yn dlawd yn eich cymuned, ac wedi gorfod ei werthu ei hun i fewnfudwr neu estronwr sy’n byw yn eich plith, neu i aelod o deulu estronwr sy’n byw yn eich plith, 48 bydd ganddo’r hawl i’w gael ei brynu yn ôl. Bydd un o’i frodyr yn gallu ei brynu yn ôl, 49 neu gall ei ewythr neu fab ei ewythr ei brynu yn ôl, neu gall unrhyw berthynas agos, aelod o’i deulu, ei brynu yn ôl.

“‘Neu, os bydd ef ei hun yn mynd yn gyfoethog, gall ei brynu ei hun yn ôl. 50 Er mwyn iddo wneud hyn, bydd rhaid iddo ef a’r un a wnaeth ei brynu weithio allan faint bydd rhaid iddo ei dalu, ar sail faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers iddo ei werthu ei hun tan y flwyddyn Jiwbilî, a’r pris a gafodd ei dalu amdano. Byddan nhw’n mesur gwerth ei waith yn ystod y cyfnod hwnnw ar sail cyflog gweithiwr. 51 Os oes ’na lawer o flynyddoedd ar ôl, dylai dalu’r pris cyfatebol er mwyn ei brynu ei hun yn ôl. 52 Ond os mai dim ond ychydig o flynyddoedd sydd ar ôl tan y flwyddyn Jiwbilî, dylai gyfrifo faint bydd rhaid iddo ei dalu ac yna talu’r pris cyfatebol er mwyn ei brynu ei hun yn ôl. 53 Dylai gael ei drin fel gweithiwr sy’n derbyn cyflog am yr holl amser mae’n gweithio i’w feistr; ac ni ddylai gael ei drin yn greulon. 54 Ond, os nad yw’n gallu ei brynu ei hun yn ôl ar y telerau hyn, dylai gael ei ryddhau ym mlwyddyn y Jiwbilî, ef a’i blant gydag ef.

55 “‘Fy nghaethweision i ydy’r Israeliaid. Nhw ydy fy nghaethweision, y rhai y gwnes i eu harwain nhw allan o’r Aifft. Fi yw Jehofa eich Duw.

26 “‘Peidiwch â gwneud duwiau diwerth i chi’ch hunain, a pheidiwch â chodi eilun wedi ei gerfio neu golofn gysegredig i chi’ch hunain, a pheidiwch â rhoi cerflun yn eich gwlad er mwyn plygu i lawr o’i flaen, oherwydd fi yw Jehofa eich Duw. 2 Dylech chi gadw fy sabothau a dangos parch tuag at* fy nghysegr. Fi yw Jehofa.

3 “‘Os byddwch chi’n parhau i ddilyn fy neddfau ac yn cadw fy ngorchmynion ac yn ufuddhau iddyn nhw, 4 bydda i’n rhoi cawodydd o law ar yr adeg iawn, a bydd y tir yn ffrwythlon, a bydd ffrwyth yn tyfu ar goed y wlad. 5 Bydd tymor y dyrnu yn parhau tan gynhaeaf y grawnwin, a bydd cynhaeaf y grawnwin yn parhau tan dymor yr hau; a byddwch yn bwyta eich bara ac yn cael digonedd, a byddwch chi’n byw mewn heddwch yn eich gwlad. 6 Bydda i’n rhoi heddwch yn y wlad, a phan fyddwch chi’n gorwedd i lawr, ni fydd neb yn codi ofn arnoch chi; a bydda i’n cael gwared ar anifeiliaid ffyrnig a gwyllt o’r wlad, ac ni fydd neb yn ymosod ar eich gwlad. 7 Byddwch chi’n sicr yn mynd ar ôl eich gelynion, a byddwch chi’n eu trechu nhw â’r cleddyf. 8 Bydd pump ohonoch chi yn mynd ar ôl 100, a bydd 100 ohonoch chi yn mynd ar ôl 10,000, a byddwch chi’n trechu eich gelynion â’r cleddyf.

9 “‘Bydda i’n eich bendithio chi ac yn eich gwneud chi’n ffrwythlon a bydd gynnoch chi lawer o ddisgynyddion, a bydda i’n cadw fy nghyfamod â chi. 10 Tra eich bod chi’n dal i fwyta hen gynnyrch y flwyddyn gynt, bydd rhaid ichi gael gwared ar yr hen er mwyn gwneud lle i’r newydd. 11 Bydda i’n rhoi fy nhabernacl yn eich plith, a fydda i ddim yn eich gwrthod chi. 12 Bydda i’n cerdded yn eich plith a bydda i’n Dduw i chi, a byddwch chithau yn bobl i mi. 13 Fi yw Jehofa eich Duw, yr un a wnaeth eich rhyddhau chi o gaethiwed yn yr Aifft a’ch dod â chi allan o’r wlad, a thorri’r iau oddi ar eich gyddfau a gwneud ichi gerdded â’ch pennau’n uchel.

14 “‘Ond, os na fyddwch chi’n gwrando arna i, nac yn cadw’r holl orchmynion hyn, 15 ac os byddwch chi’n gwrthod fy neddfau, ac yn casáu fy marnedigaethau fel na fyddwch chi’n cadw fy holl orchmynion, ac os byddwch chi’n torri fy nghyfamod, 16 bydda i’n gwneud hyn ichi: bydda i’n eich cosbi chi drwy ddod â helbul arnoch chi, twbercwlosis* a thwymyn, gan wneud ichi golli eich golwg a’ch holl nerth. Byddwch chi’n hau eich hadau yn ofer, oherwydd bydd eich gelynion yn bwyta’r cnwd. 17 Bydda i’n eich gwrthod chi, a byddwch chi’n cael eich trechu gan eich gelynion; a bydd y rhai sy’n eich casáu chi yn sathru arnoch chi, a byddwch chi’n ffoi pan nad oes neb yn dod ar eich olau.

18 “‘Os nad ydy hyd yn oed hynny’n gwneud ichi wrando arna i, bydd rhaid imi eich cosbi chi saith gwaith yn fwy am eich pechodau. 19 Bydda i’n torri eich balchder ystyfnig ac yn gwneud y nefoedd fel haearn a’r ddaear fel copr. 20 Byddwch chi’n defnyddio eich holl nerth yn ofer, oherwydd ni fydd eich tir yn ffrwythlon, ac ni fydd ffrwyth yn tyfu ar goed y wlad.

21 “‘Ond os byddwch chi’n parhau i fy ngwrthwynebu ac yn gwrthod gwrando arna i, yna bydd rhaid imi eich taro chi saith gwaith yn fwy yn ôl eich pechodau. 22 Bydda i’n anfon anifeiliaid gwyllt yn eich plith a byddan nhw’n lladd eich plant a’ch anifeiliaid domestig, a dim ond ychydig ohonoch chi fydd ar ôl, a bydd eich ffyrdd yn wag.

23 “‘Os na fyddwch chi’n derbyn fy nisgyblaeth er gwaethaf hyn i gyd ac yn mynnu fy ngwrthwynebu i, 24 yna bydda innau hefyd yn eich gwrthwynebu chi, a bydda i fy hun yn eich taro chi saith gwaith am eich pechodau. 25 Bydda i’n dial arnoch chi ac yn gwneud i’ch gelynion ymosod arnoch chi â’r cleddyf am eich bod chi wedi torri’r cyfamod. Os byddwch chi’n ffoi i’ch dinasoedd, bydda i’n eich taro chi ag afiechyd, a bydda i’n eich rhoi chi yn nwylo eich gelynion. 26 Pan fydda i’n difetha eich cyflenwad bara,* bydd deg dynes* yn gallu pobi bara mewn un ffwrn* yn unig a byddan nhw’n dosbarthu’r bara wrth bwysau; a byddwch chi’n bwyta, ond fyddwch chi ddim yn cael digon.

27 “‘Os na fyddwch chi’n gwrando arna i er gwaethaf hyn i gyd, ac os byddwch chi’n mynnu fy ngwrthwynebu i, 28 bydda i’n eich gwrthwynebu chi yn fwy byth, a bydd rhaid imi eich cosbi chi saith gwaith am eich pechodau. 29 Felly bydd rhaid ichi fwyta cnawd eich meibion, a byddwch chi’n bwyta cnawd eich merched. 30 Bydda i’n dinistrio eich uchelfannau cysegredig ac yn torri i lawr eich allorau arogldarth ac yn pentyrru eich cyrff marw ar ben eich eilunod ffiaidd* difywyd, a bydda i’n cefnu arnoch chi am eich bod chi mor ffiaidd imi. 31 Bydda i’n dinistrio eich dinasoedd a’ch cysegrau, ac ni fydd arogl eich aberthau yn fy mhlesio. 32 Bydda i’n difetha’r tir, a bydd eich gelynion sy’n byw yno yn synnu o’i weld. 33 A bydda i’n eich gwasgaru chi ymhlith y cenhedloedd, a bydda i’n achosi i’ch gelynion ddod i ymladd yn eich erbyn chi â’r cleddyf, a bydd eich tir wedi ei ddifetha a bydd eich dinasoedd wedi eu dinistrio.

34 “‘Tra byddwch chi yng ngwlad eich gelynion, bydd eich tir wedi ei ddifetha, ac fe fydd yn gorffwys fel y dylech chi fod wedi gadael iddo orffwys bob seithfed flwyddyn. 35 Tra bod y tir yn ddiffaith fe fydd yn gorffwys, oherwydd, tra oeddech chi yno, ni wnaethoch chi gadw cyfraith y Saboth ac ni wnaethoch chi adael iddo orffwys.

36 “‘Ynglŷn â’r rhai sy’n goroesi, bydda i’n llenwi eu calonnau ag ofn yng ngwlad eu gelynion; a bydd sŵn deilen yn chwythu yn y gwynt yn achosi iddyn nhw ffoi, a byddan nhw’n ffoi fel rhywun yn rhedeg oddi wrth gleddyf ac yn cwympo heb i unrhyw un fynd ar eu holau. 37 Byddan nhw’n baglu dros ei gilydd fel y rhai sy’n ffoi oddi wrth gleddyf, er nad oes neb yn mynd ar eu holau. Ni fyddwch chi’n gallu dal eich tir yn erbyn eich gelynion. 38 Byddwch chi’n marw ymhlith y cenhedloedd, byddwch chi’n marw yng ngwlad eich gelynion. 39 Bydd y rhai ohonoch chi sydd ar ôl yng ngwlad eich gelynion yn pydru yno oherwydd eich pechod. Yn sicr, byddan nhw’n pydru oherwydd pechodau eu tadau. 40 A byddan nhw’n cyffesu eu bod nhw a’u tadau wedi fy ngwrthwynebu i ac wedi bod yn anffyddlon ac wedi pechu yn fy erbyn i, 41 gan fy ngorfodi i’w gwrthwynebu nhwthau a’u dod â nhw i mewn i wlad eu gelynion.

“‘Efallai wedyn byddan nhw’n darostwng eu calonnau ystyfnig, ac yn talu am eu pechodau. 42 A bydda i’n cofio fy nghyfamod â Jacob, a fy nghyfamod ag Isaac, a bydda i’n cofio fy nghyfamod ag Abraham, a bydda i’n cofio’r wlad. 43 Pan nad oedden nhw yno, roedd y tir yn talu ei sabothau ac yn aros yn ddiffaith hebddyn nhw, ac roedden nhw’n talu am eu pechodau, am eu bod nhw wedi gwrthod fy marnedigaethau ac wedi casáu fy neddfau. 44 Ond er gwaethaf hyn i gyd, tra eu bod nhw yng ngwlad eu gelynion, wna i ddim eu gwrthod nhw yn gyfan gwbl nac eu casáu nhw gymaint nes imi eu dinistrio nhw’n llwyr, oherwydd byddai hynny’n mynd yn erbyn y cyfamod wnes i â nhw, oherwydd fi yw Jehofa eu Duw. 45 Er eu lles nhw, bydda i’n cofio’r cyfamod wnes i â’u cyndadau, y rhai gwnes i eu harwain allan o wlad yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, er mwyn profi fy mod i’n Dduw iddyn nhw. Fi yw Jehofa.’”

46 Dyna’r deddfau, y barnedigaethau, a’r cyfreithiau gwnaeth Jehofa eu sefydlu rhyngddo ef ei hun a’r Israeliaid ar Fynydd Sinai drwy Moses.

27 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 2 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Os bydd dyn yn tyngu llw arbennig i gyflwyno gwerth person i Jehofa, 3 bydd gwerth dyn sydd rhwng 20 a 60 mlwydd oed yn 50 sicl* arian yn ôl sicl y lle sanctaidd.* 4 Ond bydd gwerth dynes* o’r un oedran yn 30 sicl. 5 Os ydy’r person rhwng 5 ac 20 mlwydd oed, bydd gwerth bachgen yn 20 sicl a gwerth merch yn 10 sicl. 6 Os ydy’r person rhwng un mis a phum mlwydd oed, bydd gwerth bachgen yn bum sicl arian a gwerth merch yn dri sicl arian.

7 “‘Os ydy’r person yn 60 mlwydd oed neu’n hŷn, bydd gwerth dyn yn 15 sicl a gwerth dynes* yn 10 sicl. 8 Ond os ydy’r dyn a wnaeth dyngu’r llw yn rhy dlawd i dalu’r pris arferol, dylai’r person fynd i sefyll o flaen yr offeiriad, a bydd yr offeiriad yn gosod gwerth arno. Bydd yr offeiriad yn penderfynu ei werth yn ôl yr hyn mae’r un sy’n tyngu’r llw yn gallu ei fforddio.

9 “‘Os bydd y llw yn ymwneud ag anifail sy’n addas ar gyfer cael ei offrymu i Jehofa, bydd yr anifail hwnnw yn sanctaidd i Jehofa. 10 Ni ddylai’r dyn ei gyfnewid na rhoi anifail da yn lle un gwael, neu un gwael yn lle un da. Ond os bydd yn cyfnewid un anifail am un arall, bydd y ddau anifail yn sanctaidd. 11 Os bydd y llw yn ymwneud ag anifail aflan sydd ddim yn addas ar gyfer cael ei offrymu i Jehofa, bydd y dyn yn gosod yr anifail o flaen yr offeiriad. 12 Yna bydd yr offeiriad yn gosod gwerth arno gan ystyried a yw’n dda neu’n wael. Beth bynnag bydd yr offeiriad yn ei benderfynu, dyna fydd ei werth. 13 Ond os bydd ef eisiau ei brynu yn ôl, bydd rhaid iddo ychwanegu pumed at ei werth.

14 “‘Nawr os bydd dyn yn sancteiddio ei dŷ, ac yn ei offrymu fel rhywbeth sanctaidd i Jehofa, bydd yr offeiriad yn gosod gwerth arno gan ystyried a yw’n dda neu’n wael. Beth bynnag bydd yr offeiriad yn ei benderfynu, dyna fydd ei werth. 15 Ond os bydd yr un sy’n sancteiddio ei dŷ eisiau ei brynu yn ôl, bydd rhaid iddo ychwanegu pumed at ei werth, a bydd y tŷ yn eiddo iddo.

16 “‘Os bydd dyn yn sancteiddio rhan o’i dir i Jehofa, bydd y gwerth yn cyfateb i’r hadau sydd eu hangen ar gyfer ei hau: bydd mesur homer* o hadau haidd yn 50 sicl arian. 17 Os bydd ef yn sancteiddio ei dir yn ystod blwyddyn Jiwbilî, bydd ei werth yn sefyll. 18 Os bydd ef yn sancteiddio ei dir ar ôl y Jiwbilî, bydd yr offeiriad yn cyfrifo’r pris yn ôl faint o flynyddoedd sydd ar ôl tan y flwyddyn Jiwbilî nesaf, ac yn tynnu hynny i ffwrdd o’i werth. 19 Ond os bydd y dyn a wnaeth ei sancteiddio eisiau ei brynu yn ôl, bydd rhaid iddo ychwanegu pumed at ei werth, a bydd yn eiddo iddo. 20 Nawr os nad yw’n prynu’r tir yn ôl, ac mae’r tir yn cael ei werthu i rywun arall, ni fydd yn cael ei brynu yn ôl. 21 Pan fydd y tir yn cael ei ryddhau yn y Jiwbilî, fe fydd yn rhywbeth sanctaidd i Jehofa, tir sydd wedi cael ei osod ar wahân iddo. Fe fydd yn eiddo i’r offeiriaid.

22 “‘Os bydd dyn yn prynu cae sydd ddim yn rhan o’i etifeddiaeth ac yn ei sancteiddio i Jehofa, 23 bydd yr offeiriad yn cyfrifo ei werth yn ôl faint o flynyddoedd sydd ar ôl tan y flwyddyn Jiwbilî nesaf, a bydd rhaid iddo dalu’r pris hwnnw ar yr un diwrnod. Mae’n rhywbeth sanctaidd i Jehofa. 24 Ym mlwyddyn y Jiwbilî, bydd y cae yn mynd yn ôl i’w berchennog gwreiddiol.

25 “‘Dylai pob gwerth gael ei benderfynu yn ôl sicl y lle sanctaidd.* Dylai’r sicl fod yn gyfartal ag 20 gera.*

26 “‘Ond, ni ddylai neb sancteiddio anifeiliaid cyntaf-anedig, oherwydd mae’r anifeiliaid cyntaf-anedig yn perthyn i Jehofa yn barod. P’un a yw’n darw neu’n ddafad, mae’n perthyn i Jehofa yn barod. 27 Os yw’n anifail aflan, ac mae’r perchennog gwreiddiol yn ei brynu yn ôl, fe ddylai ychwanegu pumed at ei werth. Ond os nad yw’n ei brynu yn ôl, bydd yr anifail yn cael ei werthu yn ôl ei werth.

28 “‘Ni fydd yn bosib gwerthu na phrynu yn ôl unrhyw beth sydd wedi cael ei osod ar wahân i Jehofa am byth, p’un a yw’n berson neu’n anifail neu’n dir. Mae pob peth sydd wedi cael ei osod ar wahân yn rhywbeth sanctaidd iawn i Jehofa. 29 Ar ben hynny, ni fydd hi’n bosib prynu yn ôl unrhyw un sydd wedi cael ei gondemnio i farwolaeth. Dylai gael ei roi i farwolaeth heb os.

30 “‘Mae pob degfed ran* o’r tir yn perthyn i Jehofa, p’un a yw’n gynnyrch y tir neu’n ffrwyth y coed, mae’n rhywbeth sanctaidd i Jehofa. 31 Os bydd dyn eisiau prynu rhywfaint o’i ddegfed ran yn ôl, fe ddylai ychwanegu pumed o’i gwerth ati. 32 Ynglŷn â’r ddegfed ran o’r gwartheg, y defaid, a’r geifr, popeth sy’n pasio o dan ffon y bugail, dylai’r degfed anifail fod yn rhywbeth sanctaidd i Jehofa. 33 Ni ddylai asesu a yw’n dda neu’n wael, na’i gyfnewid am anifail arall. Ond os bydd yn ceisio ei gyfnewid, bydd y ddau anifail yn sanctaidd. Ni fydd yn bosib eu prynu nhw’n ôl.’”

34 Dyna’r gorchmynion a roddodd Jehofa i Moses ar gyfer yr Israeliaid ar Fynydd Sinai.

Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.

Neu “ei ddigroeni.”

Neu “y meheryn.”

Nid o reidrwydd yn golygu torri’r pen i ffwrdd yn gyfan gwbl.

Y poced bwyd sydd yn ei wddf.

Neu “lludw brasterog,” hynny yw, lludw wedi ei wlychu â braster yr aberthau.

Neu “fflŵr.”

Neu “arllwys.”

Neu “fflŵr.”

Neu “popty.”

Neu “fflŵr.”

Neu “fflŵr.”

Neu “arllwys.”

Neu “fflŵr.”

Neu “ei grasu.”

Neu “maharen.”

Llyth., “bara,” hynny yw, fel rhan Duw o’r aberth heddwch.

Llyth., “bara,” hynny yw, fel rhan Duw o’r aberth heddwch.

Neu “arllwys.”

Neu “a’i dom; tail; baw.”

Neu “lludw brasterog,” hynny yw, lludw wedi ei wlychu â braster yr aberthau.

Neu “arllwys.”

Neu “arllwys.”

Neu “arllwys.”

Neu “arllwys.”

Neu “maharen.”

Llyth., “llais yn melltithio (llw).” Efallai cyhoeddiad ynglŷn â drwgweithred a oedd yn cynnwys melltith yn erbyn y drwgweithredwr neu yn erbyn y tyst petai’r tyst ddim yn rhoi tystiolaeth.

Mae hyn yn awgrymu nad ydy ef yn cyflawni ei adduned.

Roedd degfed ran o effa yn gyfartal â 2.2 L.

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu “yn ôl y sicl sanctaidd.”

Neu “maharen.”

Neu “enaid.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “lludw brasterog,” hynny yw, lludw wedi ei wlychu â braster yr aberthau.

Neu “fflŵr.”

Neu “sy’n cyffwrdd â’r offrymau.”

Roedd degfed ran o effa yn gyfartal â 2.2 L.

Neu “fflŵr.”

Llyth., “rhwng y ddwy noswaith,” sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Neu “popty.”

Neu “fflŵr.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “neu faharen.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “unrhyw enaid.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “y ddau faharen.”

Neu “band gwasg.”

Neu “fe roddodd amdano’r ddwyfronneg.”

Neu “y diadem sanctaidd.”

Neu “arllwys.”

Neu “lapio.”

Neu “arllwys.”

Neu “a’i dom; tail; baw.”

Neu “maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “yr ail faharen.”

Neu “maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “arllwys.”

Neu “maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “anifeiliaid y tir.”

Neu “bilidowcar.”

Neu “pob pry.”

Neu “a cheiliogod y rhedyn.”

Neu “hynny’n bopty.”

Neu “eich eneidiau.”

Neu “eich eneidiau.”

Neu “menyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “menyw.”

Neu “maharen.”

Neu “menywod.”

Mae’r gair Hebraeg sy’n golygu “y gwahanglwyf” yn eang o ran ystyr ac mae’n gallu cynnwys gwahanol fathau o glefydau croen heintus. Gallai hefyd gynnwys gwahanol heintiau sy’n ymddangos ar ddillad ac mewn tai.

Neu “haint.”

Neu “neu fenyw.”

Neu “neu fenyw.”

Neu “dau faharen.”

Roedd tair degfed ran o effa yn gyfartal â 6.6 L.

Neu “fflŵr.”

Roedd log yn gyfartal â 0.31 L.

Neu “maharen.”

Neu “y maharen.”

Neu “arllwys.”

Neu “maharen.”

Roedd degfed ran o effa yn gyfartal â 2.2 L.

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “arllwys.”

Hynny yw, semen.

Neu “menyw.”

Neu “menyw.”

Neu “menyw.”

Neu “unrhyw fenyw.”

Neu “menyw.”

Hynny yw, mewn ffordd nad oedd yn ei blesio.

Neu “maharen.”

Neu “ei gnawd noeth.”

Neu “maharen.”

Efallai yn golygu “Gafr Sy’n Diflannu.”

Neu “dyn sy’n sefyll yn barod i fynd.”

Neu “tom; tail; baw.”

Gallai’r tristwch hwn gael ei ddangos drwy ymprydio a thrwy gyfyngiadau tebyg.

Neu “maharen.”

Neu “arllwys.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Llyth., “drwy gyflawni anfoesoldeb rhywiol gyda nhw.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “enaid.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “yr enaid.”

Neu “Ni ddylai’r un enaid.”

Neu “arllwys.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “Peidiwch â chael cyfathrach rywiol ag”

Neu “menyw.”

Neu “mae’n weithred warthus; anweddus.”

Neu “menyw.”

Neu “dy gymydog.”

Neu “aberthu.”

Neu “menyw.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu efallai, “Peidiwch â chamu yn ôl pan mae bywyd rhywun arall mewn peryg.”

Neu “menyw.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “Peidiwch â defnyddio ysbrydegaeth i ragweld y dyfodol.”

Neu “Peidiwch â thrimio; torri.”

Neu “enaid.” Yma, mae’r gair Hebraeg nephesh yn cyfeirio at rywun sydd wedi marw.

Llyth., “ac ofni.”

Hynny yw, pobl sy’n honni eu bod nhw’n gallu siarad â’r meirw.

Llyth., “effa gywir.”

Llyth., “hin gywir.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “torri’r dyn hwnnw i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Hynny yw, pobl sy’n honni eu bod nhw’n gallu siarad â’r meirw.

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Llyth., “mae ei waed ei hun arno.”

Llyth., “y godinebwr a’r odinebwraig.”

Llyth., “Mae eu gwaed eu hunain arnyn nhw.”

Llyth., “Mae eu gwaed eu hunain arnyn nhw.”

Neu “menyw.”

Llyth., “Mae eu gwaed eu hunain arnyn nhw.”

Neu “menyw.”

Neu “weithred gywilyddus.”

Neu “menyw.”

Neu “y fenyw.”

Llyth., “Mae eu gwaed eu hunain arnyn nhw.”

Neu “eu torri i ffwrdd.”

Neu “menyw.”

Neu “eu torri i ffwrdd oddi wrth eu pobl.”

Neu “neu fenyw.”

Hynny yw, rhywun sy’n honni ei fod yn gallu siarad â’r meirw.

Llyth., “Mae eu gwaed eu hunain arnyn nhw.”

Neu “menyw.”

Neu “bwyd,” yn cyfeirio at aberthau.

Neu “menyw.”

Neu “menyw.”

Neu “arllwys.”

Neu “unrhyw enaid sydd wedi marw.” Yma, mae’r gair Hebraeg nephesh yn gysylltiedig â gair Hebraeg sy’n golygu “wedi marw.”

Neu “menyw.”

Neu “menyw.”

Llyth., “had.”

Llyth., “had.”

Neu efallai, “sy’n esgyrnog; tenau.”

Neu “neu y darwden.”

Llyth., “had.”

Efallai yn cyfeirio at yr offeiriaid.

Neu “ei dorri i ffwrdd o fy mlaen i.”

Hynny yw, semen.

Hynny yw, os nad yw’n dod o deulu Aaron.

Hynny yw, os nad yw’n dod o deulu Aaron.

Neu “y meheryn.”

Neu “â’r darwden.”

Neu “14eg.”

Llyth., “rhwng y ddwy noswaith,” sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Neu “15fed.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Roedd dwy ddegfed ran o effa yn gyfartal â 4.4 L.

Neu “fflŵr.”

Roedd hin yn gyfartal â 3.67 L.

Neu “ei grasu.”

Roedd dwy ddegfed ran o effa yn gyfartal â 4.4 L.

Neu “fflŵr.”

Neu “dau faharen.”

Gallai’r tristwch hwn gael ei ddangos drwy ymprydio a thrwy gyfyngiadau tebyg.

Neu efallai, “sydd ddim yn ymprydio.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “15fed.”

Neu “15fed.”

Neu “a choed poplys.”

Neu “wadi.”

Neu “fflŵr.”

Roedd dwy ddegfed ran o effa yn gyfartal â 4.4 L.

Neu “fflŵr.”

Neu “y fenyw.”

Hynny yw, enw Jehofa, fel mae ad. 15 ac 16 yn dangos.

Neu “enaid am enaid.”

Neu “Asgwrn sydd wedi torri am asgwrn sydd wedi torri.”

Neu “50fed.”

Neu “50fed.”

Llyth., “ac ofni.”

Neu “y diciáu.”

Neu “bwyd.”

Neu “menyw.”

Neu “popty.”

Efallai fod y term Hebraeg yn gysylltiedig â gair am “garthion” ac mae’n cael ei ddefnyddio fel math o sarhad.

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu “yn ôl y sicl sanctaidd.”

Neu “menyw.”

Neu “menyw.”

Roedd mesur homer yn gyfartal â 220 L.

Neu “yn ôl y sicl sanctaidd.”

Roedd gera yn gyfartal â 0.57 g (0.01835 oz t).

Neu “pob degwm.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu