LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • nwt Numeri 1:1-36:13
  • Numeri

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Numeri
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Numeri

NUMERI

1 A siaradodd Jehofa* â Moses yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y diwrnod cyntaf o’r ail fis, yn yr ail flwyddyn ar ôl iddyn nhw ddod allan o wlad yr Aifft. Dywedodd: 2 “Gwnewch gyfrifiad o gynulleidfa gyfan yr Israeliaid fesul unigolyn. Cofrestrwch enwau’r gwrywod i gyd yn ôl eu teuluoedd ac yn ôl eu teuluoedd estynedig. 3 Dylet ti ac Aaron gofrestru pawb sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn ac sy’n gallu gwasanaethu ym myddin Israel yn ôl eu grwpiau milwrol.

4 “Cymerwch un dyn o bob llwyth gyda chi; bydd pob un yn bennaeth ar ei lwyth. 5 Dyma enwau’r dynion a fydd yn eich helpu chi: o lwyth Reuben, Elisur fab Sedeur; 6 o lwyth Simeon, Selumiel fab Surisadai; 7 o lwyth Jwda, Naason fab Aminadab; 8 o lwyth Issachar Nethanel fab Suar; 9 o lwyth Sabulon, Eliab fab Helon; 10 o feibion Joseff: o lwyth Effraim, Elisama fab Ammihud; o lwyth Manasse, Gamaliel fab Pedasur; 11 o lwyth Benjamin, Abidan fab Gideoni; 12 o lwyth Dan, Ahieser fab Ammisadai; 13 o lwyth Aser, Pagiel fab Ocran; 14 o lwyth Gad, Eliasaff fab Deuel; 15 o lwyth Nafftali, Ahira fab Enan. 16 Dyma’r rhai a gafodd eu dewis o blith y gynulleidfa. Nhw ydy penaethiaid llwythau eu tadau, y pennau ar grwpiau o filoedd o ddynion Israel.”

17 Felly dyma Moses ac Aaron yn anfon am y rhai hynny a oedd wedi cael eu henwi. 18 Casglon nhw’r gynulleidfa gyfan at ei gilydd ar y diwrnod cyntaf o’r ail fis, er mwyn i bob unigolyn gael ei gofrestru yn ôl ei enw, ei deulu, a’i deulu estynedig, pawb a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn, 19 yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. Felly gwnaeth ef eu cofrestru nhw yn anialwch Sinai.

20 Cafodd meibion Reuben, disgynyddion mab cyntaf-anedig Israel, eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 21 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Reuben oedd 46,500.

22 Cafodd disgynyddion Simeon eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 23 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Simeon oedd 59,300.

24 Cafodd disgynyddion Gad eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 25 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Gad oedd 45,650.

26 Cafodd disgynyddion Jwda eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 27 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Jwda oedd 74,600.

28 Cafodd disgynyddion Issachar eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 29 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Issachar oedd 54,400.

30 Cafodd disgynyddion Sabulon eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 31 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Sabulon oedd 57,400.

32 Cafodd disgynyddion Joseff trwy Effraim eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 33 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Effraim oedd 40,500.

34 Cafodd disgynyddion Manasse eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 35 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Manasse oedd 32,200.

36 Cafodd disgynyddion Benjamin eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 37 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Benjamin oedd 35,400.

38 Cafodd disgynyddion Dan eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 39 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Dan oedd 62,700.

40 Cafodd disgynyddion Aser eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 41 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Aser oedd 41,500.

42 Cafodd disgynyddion Nafftali eu rhestru yn ôl eu henwau, eu teuluoedd, a’u teuluoedd estynedig. Cafodd pob dyn a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ei gyfri, 43 a nifer y rhai a gafodd eu cofrestru o lwyth Nafftali oedd 53,400.

44 Cafodd y rhain eu cofrestru gan Moses, Aaron, a 12 pennaeth Israel, pob un yn cynrychioli ei lwyth. 45 Cafodd pob Israeliad a oedd yn 20 mlwydd oed neu’n hŷn a oedd yn gallu gwasanaethu ym myddin Israel ei gofrestru yn ôl ei lwyth, 46 a chyfanswm y rhai a gafodd eu cofrestru oedd 603,550.

47 Ond ni chafodd teuluoedd y Lefiaid eu cofrestru yn eu mysg. 48 Felly dywedodd Jehofa wrth Moses: 49 “Paid â chofrestru llwyth Lefi, na’u cyfri nhw gyda’r Israeliaid eraill. 50 Dylet ti benodi’r Lefiaid dros dabernacl y Dystiolaeth a thros ei holl offer, a thros bopeth sy’n gysylltiedig â’r tabernacl. Byddan nhw’n cario’r tabernacl a’i holl offer, a byddan nhw’n gwasanaethu ynddo, a dylen nhw wersylla o amgylch y tabernacl. 51 Bryd bynnag mae angen symud y tabernacl, dylai’r Lefiaid ei dynnu i lawr, a phryd bynnag mae angen ailgodi’r tabernacl, y Lefiaid a ddylai wneud hynny; a dylai unrhyw un arall sy’n dod yn agos ato gael ei roi i farwolaeth.

52 “Dylai pob Israeliad godi ei babell yn y gwersyll sydd wedi cael ei aseinio iddo, pob dyn yn ôl ei grŵp o dri llwyth* ac yn ôl ei grŵp milwrol. 53 Dylai’r Lefiaid wersylla o amgylch tabernacl y Dystiolaeth, fel na fydd dicter Duw yn codi yn erbyn cynulleidfa’r Israeliaid; ac mae’n rhaid i’r Lefiaid fod yn gyfrifol am ofalu am dabernacl y Dystiolaeth.”*

54 Gwnaeth pobl Israel bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. Gwnaethon nhw yn union felly.

2 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 2 “Dylai pob Israeliad wersylla lle mae ei grŵp o dri llwyth wedi cael ei aseinio, pob dyn wrth ymyl baner* ei deulu estynedig. Dylen nhw i gyd wersylla o amgylch pabell y cyfarfod, a’i hwynebu.

3 “Bydd llwyth Jwda a dau lwyth arall yn gwersylla i’r dwyrain, i gyfeiriad y wawr, yn ôl eu grwpiau milwrol. Pennaeth meibion Jwda ydy Naason fab Aminadab. 4 Mae 74,600 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 5 Bydd llwyth Issachar yn gwersylla ar un ochr i lwyth Jwda; pennaeth meibion Issachar ydy Nethanel fab Suar. 6 Mae 54,400 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 7 Ar yr ochr arall i lwyth Jwda bydd llwyth Sabulon; pennaeth meibion Sabulon ydy Eliab fab Helon. 8 Mae 57,400 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin.

9 “Cyfanswm y rhai sydd wedi eu cofrestru ym myddinoedd gwersyll Jwda ydy 186,400. Dylen nhw adael y gwersyll yn gyntaf.

10 “Bydd llwyth Reuben a dau lwyth arall yn gwersylla i’r de yn ôl eu grwpiau milwrol; pennaeth meibion Reuben ydy Elisur fab Sedeur. 11 Mae 46,500 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 12 Bydd llwyth Simeon yn gwersylla ar un ochr i lwyth Reuben; pennaeth meibion Simeon ydy Selumiel fab Surisadai. 13 Mae 59,300 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 14 Ar yr ochr arall i lwyth Reuben bydd llwyth Gad; pennaeth meibion Gad ydy Eliasaff fab Reuel. 15 Mae 45,650 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin.

16 “Cyfanswm y rhai sydd wedi eu cofrestru ym myddinoedd gwersyll Reuben ydy 151,450, a dylen nhw adael y gwersyll yn ail.

17 “Pan fydd pabell y cyfarfod yn cael ei symud, dylai gwersyll y Lefiaid fod yng nghanol y gwersylloedd eraill.

“Dylen nhw ddilyn trefn eu gwersylloedd wrth iddyn nhw deithio, gyda phob person yn ei le, yn ôl ei grŵp o dri llwyth.

18 “Bydd llwyth Effraim a dau lwyth arall yn gwersylla i’r gorllewin yn ôl eu grwpiau milwrol; pennaeth meibion Effraim ydy Elisama fab Ammihud. 19 Mae 40,500 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 20 Bydd llwyth Manasse yn gwersylla ar un ochr i lwyth Effraim; pennaeth meibion Manasse ydy Gamaliel fab Pedasur. 21 Mae 32,200 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 22 Ar yr ochr arall i lwyth Effraim bydd llwyth Benjamin; pennaeth meibion Benjamin ydy Abidan fab Gideoni. 23 Mae 35,400 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin.

24 “Cyfanswm y rhai sydd wedi eu cofrestru ym myddinoedd gwersyll Effraim ydy 108,100, a dylen nhw adael y gwersyll yn drydydd.

25 “Bydd llwyth Dan a dau lwyth arall yn gwersylla i’r gogledd yn ôl eu grwpiau milwrol; pennaeth meibion Dan ydy Ahieser fab Ammisadai. 26 Mae 62,700 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 27 Bydd llwyth Aser yn gwersylla ar un ochr i lwyth Dan; pennaeth meibion Aser ydy Pagiel fab Ocran. 28 Mae 41,500 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin. 29 Ar yr ochr arall i lwyth Dan bydd llwyth Nafftali; pennaeth meibion Nafftali ydy Ahira fab Enan. 30 Mae 53,400 o ddynion wedi eu cofrestru yn ei fyddin.

31 “Cyfanswm y rhai sydd wedi eu cofrestru ym myddinoedd gwersyll Dan ydy 157,600. Dylen nhw adael y gwersyll yn olaf, yn ôl eu grwpiau o dri llwyth.”

32 Dyma oedd yr Israeliaid a gafodd eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd estynedig; cafodd cyfanswm o 603,550 o ddynion o’r gwersylloedd eu cofrestru ar gyfer y fyddin. 33 Ond ni chafodd y Lefiaid eu cofrestru gyda’r Israeliaid eraill, yn unol â beth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. 34 Gwnaeth yr Israeliaid bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. Dyna sut roedden nhw’n gwersylla ac yn gadael y gwersyll, yn ôl eu grwpiau o dri llwyth, pob person yn ôl ei deulu a’i deulu estynedig.

3 Nawr y rhain oedd disgynyddion Aaron a Moses ar yr adeg pan siaradodd Jehofa â Moses ar Fynydd Sinai. 2 Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf-anedig, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar. 3 Dyma enwau meibion Aaron, y rhai a oedd wedi cael eu penodi i wasanaethu fel offeiriaid. 4 Ond, bu farw Nadab ac Abihu o flaen Jehofa pan wnaethon nhw offrymu tân anghyfreithlon o flaen Jehofa yn anialwch Sinai, a doedd ganddyn nhw ddim meibion. Ond parhaodd Eleasar ac Ithamar i wasanaethu fel offeiriaid ynghyd ag Aaron eu tad.

5 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 6 “Tyrd â llwyth Lefi ymlaen i sefyll o flaen Aaron yr offeiriad, a byddan nhw’n helpwyr iddo. 7 Dylen nhw gyflawni eu cyfrifoldebau tuag ato ef a thuag at y gynulleidfa gyfan o flaen pabell y cyfarfod drwy wneud eu gwaith sy’n gysylltiedig â’r tabernacl. 8 Mae’n rhaid iddyn nhw edrych ar ôl holl offer pabell y cyfarfod a gofalu am eu cyfrifoldebau tuag at yr Israeliaid drwy gyflawni’r gwasanaethau sy’n ymwneud â’r tabernacl. 9 Dylet ti roi’r Lefiaid i Aaron a’i feibion. Maen nhw wedi eu haseinio o blith yr Israeliaid i fod yn helpwyr iddo. 10 Dylet ti benodi Aaron a’i feibion, a dylen nhw ofalu am eu dyletswyddau fel offeiriaid, a dylai unrhyw un arall* sy’n dod yn agos gael ei roi i farwolaeth.”

11 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 12 “Edrycha! Rydw i’n cymryd y Lefiaid o blith yr Israeliaid yn lle pob cyntaf-anedig, a bydd y Lefiaid yn eiddo i mi. 13 Oherwydd mae pob cyntaf-anedig yn eiddo i mi. Ar y diwrnod y gwnes i daro pob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, gwnes i neilltuo pob cyntaf-anedig o blith Israel, yn ddyn neu’n anifail, i fi fy hun. Byddan nhw’n dod yn eiddo imi. Fi ydy Jehofa.”

14 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses yn anialwch Sinai, gan ddweud: 15 “Cofrestra feibion Lefi yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd. Dylet ti gofrestru pob gwryw sy’n fis oed neu’n hŷn.” 16 Felly gwnaeth Moses eu cofrestru nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo. 17 Dyma oedd enwau meibion Lefi: Gerson, Cohath, a Merari.

18 Nawr dyma oedd enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd: Libni a Simei.

19 Meibion Cohath yn ôl eu teuluoedd oedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.

20 Meibion Merari yn ôl eu teuluoedd oedd Mali a Musi.

Y rhain oedd y teuluoedd a’r grwpiau o deuluoedd a oedd yn ddisgynyddion i Lefi.

21 O Gerson daeth teulu Libni a theulu Simei. Y rhain oedd teuluoedd y Gersoniaid. 22 Cyfanswm eu holl wrywod a oedd yn fis oed neu’n hŷn a gafodd eu cofrestru oedd 7,500. 23 Roedd teuluoedd y Gersoniaid yn gwersylla y tu ôl i’r tabernacl i gyfeiriad y gorllewin. 24 Eliasaff fab Lael oedd y pennaeth ar grwpiau o deuluoedd y Gersoniaid. 25 Cyfrifoldeb meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod oedd gofalu am y tabernacl a’r babell, ei orchudd, y sgrin* ar gyfer mynedfa pabell y cyfarfod, 26 llenni’r cwrt, y sgrin* ar gyfer mynedfa’r cwrt sydd o amgylch y tabernacl a’r allor, rhaffau’r* babell, a’r holl wasanaeth sy’n gysylltiedig â’r rhain.

27 O Cohath daeth teulu Amram, teulu Ishar, teulu Hebron, a theulu Ussiel. Y rhain oedd teuluoedd y Cohathiaid. 28 Cyfanswm yr holl wrywod a oedd yn fis oed neu’n hŷn oedd 8,600. Roedden nhw’n gyfrifol am ofalu am y lle sanctaidd. 29 Roedd teuluoedd y Cohathiaid yn gwersylla ar ochr ddeheuol y tabernacl. 30 Elisaffan fab Ussiel oedd y pennaeth ar grwpiau o deuluoedd y Cohathiaid. 31 Eu cyfrifoldeb nhw oedd gofalu am yr Arch, y bwrdd, y canhwyllbren, yr allorau, yr offer a oedd yn cael eu defnyddio i wasanaethu yn y lle sanctaidd, y sgrin,* a’r holl wasanaeth sy’n gysylltiedig â’r rhain.

32 Prif bennaeth y Lefiaid oedd Eleasar fab Aaron yr offeiriad, a oedd yn arolygu’r rhai a oedd yn gofalu am y lle sanctaidd.

33 O Merari daeth teulu Mali a theulu Musi. Y rhain oedd teuluoedd Merari. 34 Cyfanswm yr holl wrywod a oedd yn fis oed neu’n hŷn a gafodd eu cofrestru oedd 6,200. 35 Suriel fab Abihail oedd y pennaeth ar grwpiau o deuluoedd Merari. Roedden nhw’n gwersylla ar ochr ogleddol y tabernacl. 36 Roedd y Merariaid yn gyfrifol am fframiau’r tabernacl, ei bolion, ei golofnau, ei sylfeini,* ei holl offer, a’r holl wasanaeth a oedd yn gysylltiedig â’r rhain, 37 yn ogystal â’r colofnau a oedd yr holl ffordd o amgylch y cwrt a’i sylfeini,* pegiau’r babell, a rhaffau’r* babell.

38 Roedd Moses ac Aaron a’i feibion yn gwersylla o flaen y tabernacl, i gyfeiriad y dwyrain o flaen pabell y cyfarfod i gyfeiriad y wawr. Nhw oedd yn gyfrifol am ofalu am y cysegr—dyna oedd eu cyfrifoldeb ar ran yr Israeliaid. Byddai unrhyw un arall* a oedd yn dod yn agos yn cael ei roi i farwolaeth.

39 Cafodd 22,000 o Lefiaid gwryw a oedd yn fis oed neu’n hŷn eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd gan Moses ac Aaron ar orchymyn Jehofa.

40 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Cofrestra bob mab cyntaf-anedig o blith yr Israeliaid sy’n fis oed neu’n hŷn. Cyfra nhw, a gwna restr o’u henwau. 41 Mae’n rhaid iti neilltuo’r Lefiaid i mi—fi ydy Jehofa—yn lle pob mab cyntaf-anedig ymhlith yr Israeliaid, a neilltua anifeiliaid y Lefiaid yn lle holl anifeiliaid cyntaf-anedig yr Israeliaid.” 42 Yna dyma Moses yn cofrestru pob cyntaf-anedig ymhlith yr Israeliaid, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo. 43 Nifer yr holl feibion cyntaf-anedig a oedd yn fis oed neu’n hŷn a oedd wedi eu cofrestru yn ôl eu henwau oedd 22,273.

44 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 45 “Neilltua’r Lefiaid i mi yn lle pob mab cyntaf-anedig ymhlith yr Israeliaid, a neilltua anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid nhw, a bydd y Lefiaid yn eiddo i mi. Fi ydy Jehofa. 46 Mae ’na 273 yn fwy o feibion cyntaf-anedig yr Israeliaid nag o Lefiaid. Er mwyn prynu’r meibion cyntaf-anedig ychwanegol hyn yn ôl, 47 mae’n rhaid iti gasglu pum sicl* ar gyfer pob unigolyn, yn ôl sicl y lle sanctaidd.* Mae sicl yn gyfartal ag 20 gera.* 48 Dylet ti roi’r arian i Aaron a’i feibion i dalu am y rhai ychwanegol.” 49 Felly casglodd Moses yr arian hwn i brynu’n ôl y rhai a oedd yn ychwanegol i nifer y Lefiaid. 50 Casglodd yr arian hwn a oedd yn dâl ar gyfer meibion cyntaf-anedig yr Israeliaid, ac roedd ’na 1,365 sicl, yn cyfateb i sicl y lle sanctaidd. 51 Yna, rhoddodd Moses yr arian i Aaron a’i feibion yn ôl gair* Jehofa, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

4 Nawr siaradodd Jehofa â Moses ac Aaron, gan ddweud: 2 “Dylech chi wneud cyfrifiad o feibion Cohath o blith meibion Lefi, yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd, 3 pawb o 30 i 50 oed yn y grŵp sydd wedi ei aseinio i weithio ym mhabell y cyfarfod.

4 “Dyma ydy gwasanaeth meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod. Mae’n rhywbeth hynod o sanctaidd: 5 Bydd Aaron a’i feibion yn dod i mewn tra bod y gwersyll yn gadael ac yn tynnu i lawr y llen sy’n hongian wrth arch y Dystiolaeth ac yn ei defnyddio i’w gorchuddio. 6 Byddan nhw’n ei gorchuddio â chrwyn morloi, yn rhoi defnydd sy’n las i gyd arni, ac yn rhoi’r polion sy’n cael eu defnyddio i’w chario yn eu llefydd.

7 “Byddan nhw hefyd yn rhoi defnydd glas dros y bwrdd ar gyfer y bara oedd wedi ei gyflwyno i Dduw,* a byddan nhw’n rhoi’r llestri, y cwpanau, y powlenni, a’r jygiau ar gyfer yr offrwm diod arno, a dylai’r bara sy’n cael ei offrymu’n gyson aros arno. 8 Byddan nhw’n rhoi defnydd ysgarlad drostyn nhw, yn eu gorchuddio â chrwyn morloi, ac yn rhoi’r polion sy’n cael eu defnyddio i gario’r bwrdd yn eu llefydd. 9 Byddan nhw wedyn yn cymryd defnydd glas ac yn ei ddefnyddio i orchuddio’r canhwyllbren ar gyfer y golau, yn ogystal â’i lampau, ei offer i ddal y wic,* ei lestri i ddal tân, a’r holl lestri sy’n dal yr olew ar gyfer y lampau. 10 Byddan nhw’n lapio’r canhwyllbren a’i offer i gyd mewn crwyn morloi ac yna’n ei roi ar bolyn er mwyn ei gario. 11 Byddan nhw’n rhoi defnydd glas dros yr allor aur, yn ei gorchuddio â chrwyn morloi, ac yn rhoi’r polion sy’n cael eu defnyddio i’w chario yn eu llefydd. 12 Yna gan ddefnyddio defnydd glas, byddan nhw’n lapio’r holl offer sy’n cael eu defnyddio yn rheolaidd i wasanaethu yn y lle sanctaidd, yn eu gorchuddio â chrwyn morloi, ac yn eu rhoi nhw ar bolyn er mwyn eu cario.

13 “Dylen nhw glirio’r lludw* o’r allor a rhoi defnydd o wlân porffor drosti. 14 Byddan nhw’n rhoi arni’r holl offer sy’n cael eu defnyddio pan maen nhw’n gwasanaethu wrth yr allor, y llestri i ddal tân, y ffyrc, y rhawiau, a’r powlenni, holl offer yr allor; a dylen nhw ei gorchuddio â chrwyn morloi a rhoi’r polion sy’n cael eu defnyddio i’w chario yn eu llefydd.

15 “Mae’n rhaid i Aaron a’i feibion orffen gorchuddio’r lle sanctaidd ac offer y lle sanctaidd pan mae’r gwersyll yn gadael. Yna bydd meibion Cohath yn dod i mewn i’w cario nhw, ond ddylen nhw ddim cyffwrdd â’r lle sanctaidd neu fe fyddan nhw’n marw. Dyma gyfrifoldebau meibion Cohath ynglŷn â phabell y cyfarfod.

16 “Mae Eleasar fab Aaron yr offeiriad yn gyfrifol am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth persawrus, yr offrwm grawn rheolaidd, a’r olew eneinio. Mae’n gyfrifol am y tabernacl i gyd a phopeth sydd ynddo, gan gynnwys y lle sanctaidd a’i offer.”

17 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses ac Aaron: 18 “Peidiwch â gadael i deuluoedd y Cohathiaid gael eu dinistrio o blith y Lefiaid. 19 Ond gwnewch hyn ar eu cyfer nhw, fel eu bod nhw’n aros yn fyw yn hytrach nag yn marw o ganlyniad i fynd yn agos at y pethau mwyaf sanctaidd. Bydd Aaron a’i feibion yn mynd i mewn ac yn rhoi aseiniad i bob un ohonyn nhw ac yn dangos iddo beth bydd ef yn ei gario. 20 Pan fydd y Cohathiaid yn dod i mewn, ddylen nhw ddim gweld y pethau sanctaidd hyd yn oed am eiliad, neu fe fyddan nhw’n marw.”

21 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 22 “Dylet ti wneud cyfrifiad o feibion Gerson yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd. 23 Cofrestra bawb o 30 i 50 oed yn y grŵp sydd wedi ei aseinio i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod. 24 Dyma’r pethau bydd teuluoedd y Gersoniaid yn gofalu amdanyn nhw ac yn eu cario: 25 Byddan nhw’n cario gorchudd mewnol* y tabernacl, yn ogystal â phabell y cyfarfod, ei orchudd a’r crwyn morloi sydd ar ei ben, y sgrin* ar gyfer mynedfa pabell y cyfarfod, 26 llenni’r cwrt, sgrin* mynedfa’r cwrt sy’n mynd o amgylch y tabernacl a’r allor, rhaffau’r* babell a’i holl offer a phopeth sy’n cael ei ddefnyddio yng ngwasanaeth y babell. Dyma ydy eu haseiniad. 27 Dylai Aaron a’i feibion arolygu gwasanaeth y Gersoniaid a’r hyn y byddan nhw’n ei gario. Byddwch chi’n aseinio’r cyfrifoldebau hyn iddyn nhw. 28 Dyma’r gwasanaeth bydd teuluoedd y Gersoniaid yn ei gyflawni ym mhabell y cyfarfod, a byddan nhw’n gwneud hynny o dan arweiniad Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

29 “Ynglŷn â meibion Merari, cofrestra nhw yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd. 30 Cofrestra bawb rhwng 30 a 50 oed yn y grŵp sydd wedi ei aseinio i wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â phabell y cyfarfod. 31 Dyma’r pethau maen nhw’n gyfrifol am eu cario tra eu bod nhw’n gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod: fframiau’r tabernacl, ei bolion, ei golofnau, ei sylfeini,* 32 colofnau’r cwrt, eu sylfeini,* eu pegiau a’u rhaffau,* yn ogystal â’r holl offer a phopeth arall sy’n cael ei ddefnyddio yn y gwasanaeth sy’n gysylltiedig â’r rhain. Byddwch chi’n aseinio i bob un yr hyn mae’n gyfrifol am ei gario. 33 Dyma sut bydd teuluoedd meibion Merari yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod, o dan arweiniad Ithamar fab Aaron yr offeiriad.”

34 Yna, dyma Moses, Aaron, a phenaethiaid y bobl yn cofrestru meibion Cohath yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd, 35 pawb o 30 i 50 oed yn y grŵp oedd wedi ei aseinio i wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â phabell y cyfarfod. 36 Cafodd cyfanswm o 2,750 eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd. 37 Cafodd y rhain eu cofrestru o deuluoedd y Cohathiaid, pawb oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod. Gwnaeth Moses ac Aaron eu cofrestru nhw yn ôl gorchymyn Jehofa a ddaeth trwy Moses.

38 Cafodd meibion Gerson eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd, 39 pawb o 30 i 50 oed yn y grŵp oedd wedi ei aseinio i wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â phabell y cyfarfod. 40 Cafodd cyfanswm o 2,630 eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd. 41 Dyma’r rhai a gafodd eu cofrestru o deuluoedd meibion Gerson, pawb a oedd yn gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod. Gwnaeth Moses ac Aaron eu cofrestru nhw yn ôl gorchymyn Jehofa.

42 Cafodd meibion Merari eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd, 43 pawb o 30 i 50 oed yn y grŵp oedd wedi ei aseinio i wneud y gwaith sy’n gysylltiedig â phabell y cyfarfod. 44 Cafodd cyfanswm o 3,200 eu cofrestru yn ôl eu teuluoedd a’u grwpiau o deuluoedd. 45 Dyma’r rhai a gafodd eu cofrestru o deuluoedd meibion Merari gan Moses ac Aaron yn ôl gorchymyn Jehofa a ddaeth trwy Moses.

46 Gwnaeth Moses, Aaron, a phenaethiaid Israel gofrestru’r Lefiaid hyn i gyd yn ôl eu teuluoedd ac yn ôl eu grwpiau o deuluoedd. 47 Roedden nhw rhwng 30 a 50 oed, ac fe gawson nhw i gyd eu haseinio i wasanaethu ac i gario pethau a oedd yn ymwneud â phabell y cyfarfod. 48 Cafodd cyfanswm o 8,580 eu cofrestru. 49 Cawson nhw eu cofrestru yn ôl gorchymyn Jehofa a ddaeth trwy Moses, pob un yn ôl ei aseiniad ac yn ôl yr hyn roedd ef i fod i’w gario; cawson nhw eu cofrestru yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

5 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Gorchmynna i’r Israeliaid anfon allan o’r gwersyll bob person sy’n dioddef o’r gwahanglwyf ac unrhyw un sydd â rhedlif ac unrhyw un sy’n aflan oherwydd ei fod wedi cyffwrdd â rhywun marw. 3 Dylech chi eu hanfon nhw allan, yn wryw neu’n fenyw. Dylech chi eu hanfon nhw allan o’r gwersyll, fel na fyddan nhw’n heintio gwersylloedd y rhai rydw i’n byw yn eu plith.” 4 Felly dyma’r Israeliaid yn gwneud hynny ac yn eu hanfon nhw allan o’r gwersyll. Gwnaeth yr Israeliaid yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrth Moses.

5 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 6 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Os bydd dyn neu ddynes* yn anffyddlon i Jehofa ac yn cyflawni unrhyw un o’r pechodau sy’n gyffredin i bobl, bydd y person hwnnw’n dod yn euog. 7 Mae’n rhaid iddo gyfaddef y pechod mae wedi ei gyflawni a thalu’r cyfan yn ôl i wneud yn iawn am ei euogrwydd gan ychwanegu un rhan o bump o’i werth, a rhoi’r cwbl i’r un mae ef wedi pechu yn ei erbyn. 8 Ond os ydy’r person hwnnw wedi marw a does ganddo ddim perthynas agos i dderbyn yr iawndal, dylai gael ei roi i Jehofa, a bydd yn perthyn i’r offeiriad, yn ogystal â hwrdd* y cymod, yr un bydd yr offeiriad yn ei aberthu i Dduw er mwyn i’r un euog gael maddeuant.

9 “‘Bydd pob cyfraniad sanctaidd mae’r Israeliaid yn ei gyflwyno i’r offeiriad yn perthyn i’r offeiriad. 10 Bydd y pethau sanctaidd mae’r offeiriad yn eu derbyn gan bob person yn perthyn i’r offeiriad.’”

11 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 12 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma beth ddylai ddigwydd os ydy gwraig yn anffyddlon i’w gŵr 13 ac yn cael cyfathrach rywiol â dyn arall, ond doedd ei gŵr ddim yn gwybod am y peth, ac mae’n aros yn gyfrinach, fel ei bod hi wedi ei gwneud ei hun yn aflan, ond does dim tyst yn ei herbyn hi, a dydy hi ddim wedi cael ei dal: 14 Os ydy’r gŵr yn dod yn genfigennus ac yn amheus o ffyddlondeb ei wraig, yna p’un a ydy hi wedi ei gwneud ei hun yn aflan neu beidio, 15 dylai’r dyn ddod â’i wraig at yr offeiriad, yn ogystal ag offrwm drosti, un rhan o ddeg o effa* o flawd* haidd. Ni ddylai ef dywallt* olew arno na rhoi thus arno, oherwydd mae’n offrwm grawn o eiddigedd, offrwm grawn sy’n dod ag euogrwydd i’r amlwg.

16 “‘Bydd yr offeiriad yn dod â hi ymlaen, ac yn gwneud iddi sefyll o flaen Jehofa. 17 Bydd yr offeiriad yn rhoi dŵr pur* mewn llestr pridd, ac yn cymryd ychydig o lwch o lawr y tabernacl a’i roi yn y dŵr. 18 A bydd yr offeiriad yn gwneud i’r ddynes* sefyll o flaen Jehofa ac yn datod gwallt y ddynes* ac yn rhoi’r offrwm grawn sy’n dwyn euogrwydd i’r cof yn ei dwylo hi, hynny yw, yr offrwm grawn o eiddigedd, a bydd y dŵr chwerw sy’n dod â melltith yn llaw yr offeiriad.

19 “‘Yna bydd yr offeiriad yn gwneud iddi dyngu llw gan ddweud wrthi: “Os na chafodd unrhyw ddyn arall gyfathrach rywiol â ti pan oeddet ti o dan awdurdod dy ŵr a dwyt ti ddim wedi crwydro a dy wneud dy hun yn aflan, yna ni fydd y dŵr chwerw hwn sy’n dod â melltith yn cael unrhyw effaith arnat ti. 20 Ond os wyt ti wedi crwydro a dy wneud dy hun yn aflan tra oeddet ti o dan awdurdod dy ŵr, ac wedi cael cyfathrach rywiol â dyn arall heblaw am dy ŵr—” 21 Yna bydd yr offeiriad yn gwneud i’r ddynes* dyngu llw sy’n cynnwys melltith, a bydd yr offeiriad yn dweud wrth y ddynes:* “Gad i Jehofa wneud i dy enw gael ei ddefnyddio gan dy bobl pan fyddan nhw’n melltithio neu’n tyngu llw, wrth i Jehofa dy rwystro di rhag cael plant* a gwneud i dy fol chwyddo. 22 Bydd y dŵr hwn sy’n dod â melltith yn treiddio’n ddwfn y tu mewn iti ac yn gwneud i dy fol chwyddo ac yn dy rwystro di rhag cael plant.”* A dylai’r ddynes* ateb: “Amen! Amen!”*

23 “‘Yna dylai’r offeiriad ysgrifennu’r melltithion hyn yn y llyfr a’u golchi nhw i ffwrdd i mewn i’r dŵr chwerw. 24 Yna bydd yn gwneud i’r ddynes* yfed y dŵr chwerw sy’n dod â melltith, a bydd y dŵr sy’n dod â melltith yn mynd i mewn iddi ac yn achosi chwerwder. 25 A dylai’r offeiriad gymryd yr offrwm grawn o eiddigedd o law’r ddynes* a chwifio’r offrwm grawn yn ôl ac ymlaen o flaen Jehofa, a bydd yr offeiriad yn dod â’r offrwm yn agos at yr allor. 26 Bydd yr offeiriad yn cymryd llond llaw o’r offrwm grawn fel offrwm sy’n cynrychioli’r offrwm cyfan ac yn gwneud i fwg godi oddi arno ar yr allor, ac wedyn bydd yn gwneud i’r ddynes* yfed y dŵr. 27 Pan fydd yn gwneud iddi yfed y dŵr, os ydy hi wedi ei gwneud ei hun yn aflan ac wedi bod yn anffyddlon i’w gŵr, yna bydd y dŵr sy’n dod â melltith yn mynd i mewn iddi ac yn achosi chwerwder, a bydd ei bol yn chwyddo, a bydd hi’n colli ei gallu i gael plant,* a bydd ei henw yn felltith ymysg ei phobl. 28 Ond, os ydy’r ddynes* yn lân a dydy hi ddim wedi ei gwneud ei hun yn aflan, yna fydd hi ddim yn cael ei chosbi fel hyn, a bydd hi’n gallu beichiogi a chael plant.

29 “‘Dyma’r gyfraith ynglŷn ag eiddigedd, pan fydd dynes* wedi crwydro a’i gwneud ei hun yn aflan tra ei bod hi o dan awdurdod ei gŵr, 30 neu os ydy dyn yn dechrau teimlo’n eiddigeddus ac yn meddwl bod ei wraig yn anffyddlon; dylai ef wneud i’w wraig sefyll o flaen Jehofa, ac mae’n rhaid i’r offeiriad ei thrin hi yn unol â’r holl gyfraith hon. 31 Ni fydd y dyn yn euog, ond bydd ei wraig yn atebol am ei heuogrwydd.’”

6 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Os ydy dyn neu ddynes* yn tyngu llw arbennig i fyw fel Nasiread* i Jehofa, 3 dylai gadw draw oddi wrth win a diodydd alcoholig eraill. Ni ddylai yfed finegr gwin na finegr unrhyw beth alcoholig. Ni ddylai yfed unrhyw ddiod sydd wedi ei gwneud o rawnwin na bwyta grawnwin ffres, na grawnwin sydd wedi eu sychu. 4 Holl ddyddiau ei adduned fel Nasiread, ni ddylai fwyta unrhyw beth sy’n dod o’r winwydden, nid y grawnwin anaeddfed na hyd yn oed y crwyn.

5 “‘Ni ddylai dorri ei wallt* am holl ddyddiau ei adduned i fod yn Nasiread. Dylai ef aros yn sanctaidd drwy adael i’w wallt dyfu tra ei fod wedi ei neilltuo i Jehofa. 6 Tra ei fod wedi ei neilltuo i Jehofa, ar hyd y cyfnod hwnnw, ni ddylai fynd yn agos at rywun* sydd wedi marw. 7 Hyd yn oed os ydy ei dad, ei fam, ei frawd, neu ei chwaer yn marw, ni ddylai ei wneud ei hun yn aflan, oherwydd mae ei wallt yn arwydd o’i adduned i fod yn Nasiread i Dduw.

8 “‘Mae’n sanctaidd i Jehofa holl ddyddiau ei adduned i fod yn Nasiread. 9 Ond petai rhywun yn syrthio’n farw wrth ei ymyl gan wneud y Nasiread yn aflan tra bod ei wallt yn dangos ei adduned i Dduw, mae’n rhaid iddo siafio ei ben ar y diwrnod y mae ef yn cael ei buro. Dylai ef siafio ar y seithfed diwrnod. 10 Ac ar yr wythfed diwrnod, dylai ef ddod â dwy durtur neu ddwy golomen ifanc at yr offeiriad wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 11 Bydd yr offeiriad yn paratoi un fel offrwm dros bechod a’r llall fel offrwm llosg er mwyn iddo gael maddeuant am ei bechod o fynd yn agos at gorff marw. Yna, bydd rhaid iddo sancteiddio ei ben* ar y diwrnod hwnnw. 12 Ond bydd rhaid iddo gychwyn ei ddyddiau fel Nasiread i Jehofa unwaith eto, a bydd rhaid iddo ddod â hwrdd* ifanc sy’n llai na blwydd oed fel offrwm dros euogrwydd. Ond, fydd ei ddyddiau blaenorol fel Nasiread ddim yn cyfri, oherwydd fe ddaeth yn aflan tra oedd yn Nasiread.

13 “‘Nawr dyma’r gyfraith ynglŷn â’r Nasiread: Pan fydd wedi cwblhau ei gyfnod o fod yn Nasiread, bydd ef yn dod at fynedfa pabell y cyfarfod. 14 Yna, bydd rhaid iddo gyflwyno ei offrwm i Jehofa: un hwrdd* ifanc di-nam sy’n llai na blwydd oed fel offrwm llosg, un oen fenyw ddi-nam sy’n llai na blwydd oed fel offrwm dros bechod, un hwrdd* di-nam fel aberth heddwch, 15 basged o dorthau croyw siâp modrwy wedi eu gwneud o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, bara croyw tenau sydd wedi ei daenu ag olew, a’r offrwm grawn a’r offrymau diod. 16 Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw o flaen Jehofa ac yn offrymu ei offrwm dros bechod a’i offrwm llosg. 17 Bydd yn offrymu’r hwrdd* fel aberth heddwch i Jehofa, ynghyd â’r fasged o dorthau croyw, a bydd yr offeiriad yn cyflwyno’r offrwm grawn a’r offrwm diod.

18 “‘Yna, bydd rhaid i’r Nasiread siafio ei ben wrth fynedfa pabell y cyfarfod, a bydd ef yn cymryd y gwallt a dyfodd yn ystod ei adduned fel Nasiread ac yn ei roi ar y tân sydd o dan yr aberth heddwch. 19 Yna dylai’r offeiriad gymryd ysgwydd yr hwrdd* sydd wedi ei ferwi, un dorth groyw siâp modrwy o’r fasged, ac un darn o fara croyw tenau, a’u rhoi nhw yn nwylo’r Nasiread ar ôl iddo siafio’i wallt a oedd yn symbol o’i adduned fel Nasiread. 20 Bydd rhaid i’r offeiriad eu chwifio nhw yn ôl ac ymlaen fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. Mae’n rhywbeth sanctaidd i’r offeiriad, ynghyd â brest yr offrwm chwifio a’r goes sydd wedi cael ei chyfrannu. Ar ôl hynny, bydd y Nasiread yn cael yfed gwin.

21 “‘Dyma’r gyfraith ynglŷn â’r Nasiread sy’n tyngu llw: Os yw’n gallu fforddio offrymu rhywbeth i Jehofa sy’n ychwanegol i’r hyn mae’n rhaid iddo ei roi, ac mae’n addo gwneud hynny, mae’n rhaid iddo weithredu yn unol â’i adduned allan o barch tuag at y gyfraith ynglŷn â Nasireaid.’”

22 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 23 “Dyweda wrth Aaron a’i feibion: ‘Dyma’r ffordd y dylech chi fendithio pobl Israel. Dywedwch wrthyn nhw:

24 “Bendith Jehofa arnat ti, a gad iddo dy amddiffyn di.

25 Gad i wyneb Jehofa ddisgleirio arnat ti, a gad iddo ddangos ffafr tuag atat ti.

26 Gad i Jehofa fod yn garedig* tuag atat ti, a rhoi heddwch iti.”’

27 A dylen nhw roi fy enw ar bobl Israel, fel fy mod i’n gallu eu bendithio nhw.”

7 Ar y diwrnod y gwnaeth Moses orffen gosod y tabernacl, gwnaeth ef ei eneinio a’i sancteiddio, yn ogystal â’i holl ddodrefn, yr allor, a’i holl offer. Pan oedd ef wedi eneinio a sancteiddio’r pethau hyn, 2 dyma benaethiaid Israel, penaethiaid llwythau Israel a oedd wedi arolygu’r cyfrifiad, yn gwneud offrwm. 3 Daethon nhw â’u hoffrwm o flaen Jehofa, offrwm o chwe wagen a gorchudd drostyn nhw a 12 o ychen, un wagen gan bob dau bennaeth, a tharw gan bob un; a dyma nhw’n eu cyflwyno nhw o flaen y tabernacl. 4 Dywedodd Jehofa wrth Moses: 5 “Derbynia’r pethau hyn ganddyn nhw, er mwyn iddyn nhw gael eu defnyddio yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod, a dylet ti eu rhoi nhw i’r Lefiaid yn ôl beth sydd ei angen ar bob un ar gyfer ei ddyletswyddau.”

6 Felly dyma Moses yn derbyn y wageni a’r ychen ac yn eu rhoi nhw i’r Lefiaid. 7 Rhoddodd ef ddwy o’r wageni a phedwar o’r ychen i feibion Gerson, yn ôl beth roedd ei angen arnyn nhw ar gyfer eu dyletswyddau, 8 a rhoddodd bedair o wageni ac wyth o’r ychen i feibion Merari, yn ôl beth roedd ei angen arnyn nhw ar gyfer eu dyletswyddau, o dan arweiniad Ithamar fab Aaron yr offeiriad. 9 Ond ni wnaeth ef roi yr un i feibion Cohath, oherwydd roedd eu dyletswyddau nhw yn ymwneud â gwasanaeth y lle sanctaidd, ac roedden nhw’n cario’r pethau sanctaidd ar eu hysgwyddau.

10 Nawr dyma’r penaethiaid yn cyflwyno eu hoffrwm ar gyfer cysegriad yr allor ar y diwrnod y cafodd yr allor ei heneinio. Pan wnaeth y penaethiaid gyflwyno eu hoffrwm o flaen yr allor, 11 dywedodd Jehofa wrth Moses: “Bob diwrnod, bydd un pennaeth yn cyflwyno ei offrwm ar gyfer cysegriad yr allor.”

12 Yr un a wnaeth gyflwyno ei offrwm ar y diwrnod cyntaf oedd Naason fab Aminadab o lwyth Jwda. 13 Ei offrwm oedd un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl* ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd,* y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 14 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 15 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 16 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 17 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Naason fab Aminadab.

18 Ar yr ail ddiwrnod dyma Nethanel fab Suar, pennaeth Issachar, yn cyflwyno ei offrwm. 19 Yr offrwm gwnaeth ef ei gyflwyno oedd un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 20 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 21 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 22 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 23 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Nethanel fab Suar.

24 Ar y trydydd diwrnod dyma bennaeth meibion Sabulon, Eliab fab Helon, 25 yn cyflwyno ei offrwm o un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 26 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 27 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 28 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 29 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Eliab fab Helon.

30 Ar y pedwerydd diwrnod dyma bennaeth meibion Reuben, Elisur fab Sedeur, 31 yn cyflwyno ei offrwm o un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 32 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 33 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 34 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 35 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Elisur fab Sedeur.

36 Ar y pumed diwrnod dyma bennaeth meibion Simeon, Selumiel fab Surisadai, 37 yn cyflwyno ei offrwm o un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 38 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 39 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 40 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 41 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Selumiel fab Surisadai.

42 Ar y chweched diwrnod dyma bennaeth meibion Gad, Eliasaff fab Deuel, 43 yn cyflwyno ei offrwm o un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 44 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 45 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 46 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 47 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Eliasaff fab Deuel.

48 Ar y seithfed diwrnod dyma bennaeth meibion Effraim, Elisama fab Ammihud, 49 yn cyflwyno ei offrwm o un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 50 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 51 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 52 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 53 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Elisama fab Ammihud.

54 Ar yr wythfed diwrnod dyma bennaeth meibion Manasse, Gamaliel fab Pedasur, 55 yn cyflwyno ei offrwm o un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 56 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 57 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 58 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 59 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Gamaliel fab Pedasur.

60 Ar y nawfed diwrnod dyma bennaeth meibion Benjamin, Abidan fab Gideoni, 61 yn cyflwyno ei offrwm o un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 62 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 63 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 64 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 65 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Abidan fab Gideoni.

66 Ar y degfed diwrnod dyma bennaeth meibion Dan, Ahieser fab Ammisadai, 67 yn cyflwyno ei offrwm o un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 68 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 69 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 70 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 71 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Ahieser fab Ammisadai.

72 Ar yr unfed diwrnod ar ddeg dyma bennaeth meibion Aser, Pagiel fab Ocran, 73 yn cyflwyno ei offrwm o un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 74 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 75 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 76 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 77 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Pagiel fab Ocran.

78 Ar y deuddegfed diwrnod dyma bennaeth meibion Nafftali, Ahira fab Enan, 79 yn cyflwyno ei offrwm o un llestr arian a oedd yn pwyso 130 sicl ac un bowlen arian a oedd yn pwyso 70 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd, y ddau yn llawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew ar gyfer offrwm grawn; 80 un cwpan aur yn pwyso 10 sicl, yn llawn arogldarth; 81 un tarw ifanc, un hwrdd,* ac un oen gwryw yn llai na blwydd oed fel offrwm llosg; 82 un bwch gafr fel offrwm dros bechod; 83 ac fel aberth heddwch, dau darw, pum hwrdd,* pum bwch gafr, a phum oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd offrwm Ahira fab Enan.

84 Dyma beth gwnaeth penaethiaid Israel ei gyflwyno fel offrwm ar gyfer cysegriad yr allor pan gafodd ei heneinio: 12 llestr arian, 12 powlen arian, 12 cwpan aur; 85 roedd pob llestr yn pwyso 130 sicl a phob powlen yn pwyso 70 sicl, roedd holl arian yr offrwm yn pwyso 2,400 sicl yn ôl sicl y lle sanctaidd; 86 roedd y 12 cwpan aur a oedd yn llawn arogldarth yn pwyso 10 sicl yr un, yn ôl sicl y lle sanctaidd, roedd holl aur y cwpanau yn pwyso 120 sicl. 87 Cyfanswm yr anifeiliaid ar gyfer yr offrwm llosg oedd 12 tarw, 12 hwrdd,* a 12 oen gwryw, pob un yn flwydd oed yn ogystal â’u hoffrymau grawn, a 12 gafr ifanc fel offrwm dros bechod; 88 a chyfanswm yr holl anifeiliaid ar gyfer yr aberth heddwch oedd 24 tarw, 60 hwrdd,* 60 bwch gafr, a 60 oen gwryw, pob un yn flwydd oed. Dyma oedd yr offrwm ar gyfer cysegriad yr allor ar ôl iddi gael ei heneinio.

89 Bryd bynnag roedd Moses yn mynd i mewn i babell y cyfarfod i siarad â Duw, roedd yn clywed y llais yn siarad ag ef. Roedd y llais yn dod o uwchben caead arch y Dystiolaeth, rhwng y ddau gerwb; a byddai Duw yn siarad ag ef.

8 Siaradodd Jehofa â Moses gan ddweud: 2 “Dyweda wrth Aaron, ‘Pan fyddi di’n goleuo’r lampau, dylai golau’r saith lamp ddisgleirio ar y lle o flaen y canhwyllbren.’” 3 Felly dyma beth wnaeth Aaron: Gosododd y lampau er mwyn goleuo’r lle o flaen y canhwyllbren, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. 4 Dyma sut cafodd y canhwyllbren ei wneud: Roedd wedi ei wneud o aur wedi ei guro â morthwyl; o’i goes i’w flodau, roedd yn waith curedig. Cafodd y canhwyllbren ei wneud yn ôl y weledigaeth roedd Jehofa wedi ei dangos i Moses.

5 Siaradodd Jehofa â Moses unwaith eto, gan ddweud: 6 “Cymera’r Lefiaid o blith yr Israeliaid, a’u puro nhw. 7 Dyma sut dylet ti eu puro nhw: Cymera ddŵr i’w glanhau nhw o’u pechod, a’i daenellu arnyn nhw, ac mae’n rhaid iddyn nhw siafio eu cyrff cyfan â rasel, golchi eu dillad, a’u puro eu hunain. 8 Yna byddan nhw’n cymryd tarw ifanc a’i offrwm grawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, a byddi di’n cymryd tarw ifanc arall fel offrwm dros bechod. 9 Ac mae’n rhaid iti gyflwyno’r Lefiaid o flaen pabell y cyfarfod, a chasglu holl gynulleidfa Israel at ei gilydd. 10 Pan fyddi di’n cyflwyno’r Lefiaid o flaen Jehofa, mae’n rhaid i’r Israeliaid osod eu dwylo ar y Lefiaid. 11 Ac mae’n rhaid i Aaron offrymu’r* Lefiaid o flaen Jehofa fel offrwm chwifio gan yr Israeliaid, a byddan nhw’n cyflawni gwasanaeth Jehofa.

12 “Yna bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar bennau’r teirw. Wedyn, dylai un ohonyn nhw gael ei offrymu fel offrwm dros bechod a’r llall fel offrwm llosg i Jehofa, er mwyn i’r Lefiaid gael maddeuant. 13 A byddi di’n gwneud i’r Lefiaid sefyll o flaen Aaron a’i feibion ac yn eu hoffrymu* nhw fel offrwm chwifio i Jehofa. 14 Mae’n rhaid iti neilltuo’r Lefiaid o blith yr Israeliaid, a bydd y Lefiaid yn eiddo i mi. 15 Ar ôl hynny, bydd y Lefiaid yn dod i mewn i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod. Dyma sut dylet ti eu puro nhw a’u hoffrymu* nhw fel offrwm chwifio. 16 Oherwydd maen nhw wedi eu neilltuo o blith yr Israeliaid ac wedi eu rhoi i mi. Bydda i’n eu cymryd nhw i fi fy hun, yn lle pob un o’r Israeliaid sy’n gyntaf-anedig. 17 Oherwydd mae pob cyntaf-anedig o blith yr Israeliaid yn eiddo i mi, yn ddyn neu’n anifail. Gwnes i eu sancteiddio nhw i fi fy hun ar y diwrnod y gwnes i daro i lawr bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft. 18 Bydda i’n cymryd y Lefiaid yn lle’r holl rai cyntaf-anedig o blith yr Israeliaid. 19 Ac o blith yr Israeliaid, bydda i’n rhoi’r Lefiaid i Aaron a’i feibion, er mwyn iddyn nhw gyflawni’r gwasanaeth ar ran yr Israeliaid ym mhabell y cyfarfod, ac er mwyn iddyn nhw helpu’r Israeliaid i gael maddeuant. Wedyn, ni fydd yr Israeliaid yn mynd yn agos at y lle sanctaidd, ac felly ni fydd unrhyw drychineb yn dod ar y bobl.”

20 Dyma beth wnaeth Moses ac Aaron a holl gynulleidfa Israel ynglŷn â’r Lefiaid. Yn unol â phopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses ynglŷn â’r Lefiaid, dyna beth wnaeth yr Israeliaid. 21 Felly dyma’r Lefiaid yn eu puro eu hunain ac yn golchi eu dillad, wedyn gwnaeth Aaron eu hoffrymu* nhw fel offrwm chwifio o flaen Jehofa. Yna cyflwynodd Aaron offrwm er mwyn eu glanhau nhw o’u pechod. 22 Wedi hynny, aeth y Lefiaid i mewn i gyflawni eu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod o flaen Aaron a’i feibion. Yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses ynglŷn â’r Lefiaid, dyna beth wnaethon nhw.

23 Yna siaradodd Jehofa â Moses, gan ddweud: 24 “Dyma’r drefn ar gyfer y Lefiaid: Pan fydd dyn yn 25 mlwydd oed neu’n hŷn, bydd ef yn ymuno â’r rhai sy’n gwasanaethu ym mhabell y cyfarfod. 25 Ond ar ôl iddo droi’n 50, bydd yn ymddeol o’r gwasanaeth ac yn stopio gwasanaethu. 26 Bydd ef yn cael gweini ar ei frodyr sy’n gofalu am y cyfrifoldebau ym mhabell y cyfarfod, ond mae’n rhaid iddo beidio â gwasanaethu yno. Dyma beth sy’n rhaid iti ei wneud ynglŷn â’r Lefiaid a’u cyfrifoldebau.”

9 Siaradodd Jehofa â Moses yn anialwch Sinai yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn ar ôl iddyn nhw ddod allan o wlad yr Aifft, gan ddweud: 2 “Dylai’r Israeliaid baratoi aberth y Pasg ar yr amser penodedig. 3 Ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis hwn yn y gwyll,* dylech chi ei baratoi ar yr amser penodedig. Dylech chi ei baratoi yn ôl ei holl ddeddfau ac yn ôl yr holl drefniadau sydd wedi eu gosod.”

4 Felly dywedodd Moses wrth yr Israeliaid i baratoi aberth y Pasg. 5 Yna, gwnaethon nhw baratoi aberth y Pasg ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis cyntaf yn y gwyll* yn anialwch Sinai. Gwnaeth yr Israeliaid bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses.

6 Nawr doedd rhai dynion ddim yn gallu paratoi aberth y Pasg ar y diwrnod hwnnw am eu bod nhw’n aflan o ganlyniad i gyffwrdd â chorff marw. Felly aethon nhw o flaen Moses ac Aaron ar y diwrnod hwnnw 7 a dweud wrtho: “Rydyn ni’n aflan o ganlyniad i gyffwrdd â chorff marw. Pam dylai hynny ein rhwystro ni rhag cyflwyno offrwm i Jehofa ar yr amser penodedig ymysg yr Israeliaid?” 8 Yna, dywedodd Moses wrthyn nhw: “Arhoswch yna, a gadewch imi glywed beth bydd Jehofa’n ei orchymyn ynglŷn â chi.”

9 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 10 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Hyd yn oed os bydd dyn yn eich plith neu un o’ch disgynyddion yn dod yn aflan o ganlyniad i gyffwrdd â chorff marw neu os bydd ef ar daith yn bell i ffwrdd, bydd yn dal yn gorfod paratoi aberth y Pasg i Jehofa. 11 Dylen nhw ei baratoi yn yr ail fis ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* yn y gwyll.* Dylen nhw ei fwyta gyda bara croyw a llysiau gwyrdd chwerw. 12 Ni ddylen nhw gadw unrhyw ran ohono tan y bore, ac ni ddylen nhw dorri unrhyw asgwrn ynddo. Dylen nhw ei baratoi yn ôl pob deddf ynglŷn â’r Pasg. 13 Ond os nad oedd dyn yn aflan nac ar daith, ac er hynny doedd ef ddim wedi paratoi aberth y Pasg, bydd rhaid i’r person hwnnw gael ei roi i farwolaeth,* oherwydd doedd ef ddim wedi cyflwyno offrwm i Jehofa ar yr amser penodedig. Bydd y dyn yn atebol am ei bechod.

14 “‘Ac os oes ’na rywun estron yn eich plith, dylai ef hefyd baratoi aberth y Pasg i Jehofa. Dylai ef wneud hynny yn ôl deddfau’r Pasg a’r drefn sydd wedi ei gosod. Bydd ’na un ddeddf ar eich cyfer chi ac ar gyfer yr estroniaid.’”

15 Nawr ar y diwrnod y cafodd y tabernacl ei osod, gwnaeth cwmwl orchuddio’r tabernacl, pabell y Dystiolaeth; ond gyda’r nos roedd yr hyn a oedd yn ymddangos fel tân yn aros dros y tabernacl tan y bore. 16 Dyma beth oedd yn parhau i ddigwydd: Roedd y cwmwl yn ei orchuddio yn ystod y dydd, ac yn ystod y nos roedd yn ymddangos fel tân. 17 Bryd bynnag roedd y cwmwl yn codi o’r babell, roedd yr Israeliaid yn gadael ar unwaith, a lle bynnag roedd y cwmwl yn aros, dyna lle roedd yr Israeliaid yn gwersylla. 18 Yn ôl gorchymyn Jehofa roedd yr Israeliaid yn gadael, ac yn ôl gorchymyn Jehofa roedd yr Israeliaid yn gwersylla. Pan oedd y cwmwl yn aros dros y tabernacl, roedd y gwersyll yn aros hefyd. 19 Pan oedd y cwmwl yn aros dros y tabernacl am lawer o ddyddiau, roedd yr Israeliaid yn ufudd i Jehofa ac yn aros yn eu lle. 20 Weithiau roedd y cwmwl yn aros dros y tabernacl am ychydig o ddyddiau. Yn ôl gorchymyn Jehofa roedden nhw’n dal i wersylla, ac yn ôl gorchymyn Jehofa roedden nhw’n gadael. 21 Weithiau roedd y cwmwl ond yn aros o’r noswaith tan y bore, ac yn y bore pan oedd y cwmwl yn codi, roedden nhw’n gadael. P’un a oedd y cwmwl yn codi yn ystod y dydd neu yn ystod y nos, roedden nhw’n gadael. 22 Os oedd y cwmwl yn aros dros y tabernacl am ddau ddiwrnod, am fis, neu’n hirach, roedd yr Israeliaid yn dal i wersylla. Ond pan oedd yn codi, roedden nhw’n gadael. 23 Yn ôl gorchymyn Jehofa roedden nhw’n gwersylla, ac yn ôl gorchymyn Jehofa roedden nhw’n gadael. Roedden nhw’n ufudd i Jehofa yn ôl gorchymyn Jehofa a ddaeth trwy Moses.

10 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Gwna ddau drwmped i ti dy hun; mae’n rhaid iti eu gwneud nhw o arian wedi ei guro â morthwyl, a’u defnyddio nhw i alw’r gynulleidfa at ei gilydd ac i symud y gwersylloedd. 3 Pan fydd y ddau drwmped yn cael eu chwythu, mae’n rhaid i’r gynulleidfa gyfan ddod atat ti wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 4 Ond os mai un yn unig sy’n cael ei chwythu, dim ond y penaethiaid, y pennau ar grwpiau o filoedd Israel, a fydd yn dod atat ti.

5 “Pan fyddwch chi’n gwneud i ganiad y trwmped amrywio, bydd rhaid i’r rhai yn y gwersylloedd i’r dwyrain adael. 6 Pan fyddwch chi’n gwneud i ganiad y trwmped amrywio am yr ail waith, dylai’r rhai yn y gwersylloedd i’r de adael. Dylen nhw seinio’r trwmpedi fel hyn bob tro mae un ohonyn nhw yn gadael.

7 “Nawr pan fyddwch chi’n galw’r gynulleidfa at ei gilydd, dylech chi chwythu’r trwmpedi, ond ni ddylech chi wneud i’r caniad amrywio. 8 Dylai meibion Aaron, yr offeiriaid, chwythu’r trwmpedi, a bydd hyn yn ddeddf barhaol i chi drwy gydol eich cenedlaethau.

9 “Os byddwch chi’n mynd i ryfel yn eich gwlad, yn erbyn gormeswr sy’n ymosod arnoch chi, dylech chi seinio bloedd ryfel ar y trwmpedi, a bydd Jehofa eich Duw yn cofio amdanoch chi ac yn eich achub chi o’ch gelynion.

10 “Hefyd, ar eich adegau llawen—eich gwyliau ac ar ddechrau pob mis—mae’n rhaid ichi seinio’r trwmpedi dros eich offrymau llosg a’ch aberthau heddwch; bydd y rhain yn gweithredu fel cais i Dduw iddo dderbyn eich offrymau. Fi ydy Jehofa eich Duw.”

11 Nawr yn yr ail flwyddyn, yn yr ail fis, ar yr ugeinfed* diwrnod o’r mis, cododd y cwmwl oddi ar dabernacl y Dystiolaeth. 12 Felly cychwynnodd yr Israeliaid ar eu taith i ffwrdd o anialwch Sinai yn ôl y drefn a oedd wedi ei sefydlu iddyn nhw adael, a stopiodd y cwmwl yn anialwch Paran. 13 Dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw adael gan ddilyn y gorchymyn a roddodd Jehofa drwy Moses.

14 Felly gwnaeth gwersyll meibion Jwda, y grŵp o dri llwyth, adael yn gyntaf yn ôl eu byddinoedd, a Naason fab Aminadab oedd dros y fyddin. 15 Nethanel fab Suar oedd dros fyddin llwyth Issachar. 16 Eliab fab Helon oedd dros fyddin llwyth Sabulon.

17 Pan oedd y tabernacl wedi cael ei dynnu i lawr, gadawodd meibion Gerson a meibion Merari, a oedd yn cario’r tabernacl.

18 Yna gadawodd gwersyll Reuben, y grŵp o dri llwyth, yn ôl eu byddinoedd, ac Elisur fab Sedeur oedd dros y fyddin. 19 Selumiel fab Surisadai oedd dros fyddin llwyth Simeon. 20 Eliasaff fab Deuel oedd dros fyddin llwyth Gad.

21 Yna dyma’r Cohathiaid, a oedd yn cario pethau’r cysegr, yn gadael. Roedd y tabernacl i fod i gael ei osod erbyn iddyn nhw gyrraedd.

22 Yna gadawodd gwersyll meibion Effraim, y grŵp o dri llwyth, yn ôl eu byddinoedd, ac Elisama fab Ammihud oedd dros y fyddin. 23 Gamaliel fab Pedasur oedd dros fyddin llwyth Manasse. 24 Abidan fab Gideoni oedd dros fyddin llwyth Benjamin.

25 Yna gadawodd gwersyll meibion Dan, y grŵp o dri llwyth, yn ôl eu byddinoedd, roedden nhw yn y cefn er mwyn amddiffyn y gwersylloedd eraill rhag ymosodiadau, ac Ahieser fab Ammisadai oedd dros y fyddin. 26 Pagiel fab Ocran oedd dros fyddin llwyth Aser. 27 Ahira fab Enan oedd dros fyddin llwyth Nafftali. 28 Dyma oedd y drefn roedd yr Israeliaid a’u byddinoedd yn ei dilyn wrth iddyn nhw adael.

29 Yna dywedodd Moses wrth Hobab, a oedd yn fab i dad-yng-nghyfraith Moses, Reuel* o Midian: “Rydyn ni’n mynd i’r lle y gwnaeth Jehofa sôn amdano pan ddywedodd, ‘Gwna i ei roi i chi.’ Tyrd gyda ni, a byddwn ni’n dy drin di’n dda, oherwydd mae Jehofa wedi addo pethau da ar gyfer Israel.” 30 Ond dywedodd wrtho: “Wna i ddim mynd. Rydw i am fynd yn ôl i fy ngwlad fy hun ac at fy mherthnasau.” 31 Ar hynny dywedodd: “Plîs paid â’n gadael ni, achos rwyt ti’n gwybod ble dylen ni wersylla yn yr anialwch, a gelli di ein harwain ni. 32 Ac os byddi di’n dod gyda ni, pa bynnag ddaioni bydd Jehofa yn ei ddangos aton ni, yn bendant gwnawn ni ei ddangos atat ti.”

33 Felly dyma nhw’n dechrau martsio* o fynydd Jehofa am dri diwrnod, ac roedd arch cyfamod Jehofa yn cael ei chario o’u blaenau nhw am y daith dri-diwrnod, nes iddyn nhw ddod o hyd i rywle i orffwys. 34 Ac roedd cwmwl Jehofa drostyn nhw yn ystod y dydd wrth iddyn nhw gychwyn o’r gwersyll.

35 Bryd bynnag byddai’r Arch yn cael ei symud, byddai Moses yn dweud: “Cod, O Jehofa, a gwasgara dy elynion, a gwna i’r rhai sy’n dy gasáu di ffoi oddi wrthot ti.” 36 A phan fyddai’r Arch yn gorffwys, byddai ef yn dweud: “Tyrd yn ôl, O Jehofa, at bobl ddi-rif Israel.”*

11 Nawr dechreuodd y bobl gwyno’n ofnadwy o flaen Jehofa. Pan glywodd Jehofa hynny, gwylltiodd yn lân, ac anfonodd Jehofa dân i losgi yn eu mysg ac i ddinistrio rhai o’r bobl ar ffiniau’r gwersyll. 2 Pan ddechreuodd y bobl erfyn ar Moses am help, gwnaeth ef weddïo ar Jehofa a dyma’r tân yn diffodd. 3 Felly cafodd y lle hwnnw yr enw Tabera,* oherwydd gwnaeth tân gan Jehofa losgi yn eu herbyn nhw.

4 Dechreuodd yr estroniaid* yn eu plith ddangos agwedd farus, a dechreuodd yr Israeliaid hefyd wylo, gan ddweud: “Pwy fydd yn rhoi cig inni i’w fwyta? 5 Mae gynnon ni atgofion mor felys o’r pysgod roedden ni’n eu bwyta heb gost yn yr Aifft, a hefyd y ciwcymberau, y melonau dŵr, y cennin, y nionod,* a’r garlleg! 6 Ond nawr rydyn ni’n gwywo. Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw beth o gwbl heblaw am y manna hwn.”

7 Yn digwydd bod, roedd y manna yn debyg i hadau coriander, ac roedd yn edrych fel gwm bdeliwm. 8 Roedd y bobl yn mynd allan i’w gasglu ac yn defnyddio morter neu felin law i’w falu. Yna, bydden nhw’n ei ferwi mewn padelli coginio neu’n ei ddefnyddio i wneud torthau crwn, ac roedd yn blasu fel cacen felys oedd wedi ei phobi ag olew. 9 Pan oedd y gwlith yn disgyn ar y gwersyll yn ystod y nos, roedd y manna hefyd yn disgyn.

10 Clywodd Moses y bobl yn wylo, teulu ar ôl teulu, pob dyn wrth fynedfa ei babell. Trodd Jehofa’n ddig iawn, a digiodd Moses hefyd. 11 Yna dywedodd Moses wrth Jehofa: “Pam rwyt ti’n gwneud i dy was ddioddef? Pam rydw i wedi colli dy ffafr, fel bod rhaid imi ysgwyddo’r baich o ofalu am yr holl bobl yma? 12 A ydw i’n fam i’r bobl hyn? A wnes i eu geni nhw, fel dy fod ti’n dweud wrtho i, ‘Caria nhw, fel y mae nyrs* yn cario babi bach,’ wrth inni fynd i’r wlad gwnest ti addo ei rhoi i’w cyndadau? 13 Ble bydda i’n cael hyd i gig i’w roi i’r holl bobl yma? Oherwydd maen nhw’n wylo o fy mlaen i o hyd, gan ddweud, ‘Rho inni gig i’w fwyta!’ 14 Alla i ddim gofalu am yr holl bobl hyn ar fy mhen fy hun; mae’n ormod imi. 15 Os mai dyma sut rwyt ti am fy nhrin i, plîs lladd fi nawr. Os ydw i wedi dy blesio di, paid â gwneud imi weld mwy o helynt.”

16 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Casgla 70 o ddynion o blith henuriaid Israel, dynion rwyt ti’n eu hadnabod fel henuriaid a swyddogion y bobl. Cymera nhw at babell y cyfarfod, a gwna iddyn nhw sefyll yno gyda ti. 17 Bydda i’n dod i lawr ac yn siarad â ti yno, ac fe wna i gymryd ychydig o’r ysbryd sydd arnat ti a’i roi arnyn nhw, a byddan nhw’n dy helpu di i gario baich y bobl fel nad oes rhaid iti ei gario ar dy ben dy hun. 18 Dylet ti ddweud wrth y bobl, ‘Sancteiddiwch eich hunain ar gyfer yfory, oherwydd byddwch chi’n bendant yn bwyta cig, gan fod Jehofa wedi eich clywed chi’n wylo ac yn dweud: “Pwy fydd yn rhoi cig inni i’w fwyta? Roedd bywyd yn well yn yr Aifft.” Yn sicr bydd Jehofa’n rhoi cig ichi, a byddwch chi’n bwyta. 19 Byddwch chi’n bwyta, nid am un diwrnod nac am 2 ddiwrnod nac am 5 diwrnod nac am 10 diwrnod nac am 20 diwrnod, 20 ond am fis cyfan, nes iddo ddod allan o’ch ffroenau ac nes ei fod yn rhywbeth ffiaidd ichi, oherwydd gwnaethoch chi wrthod Jehofa sydd yn eich plith, ac roeddech chi’n wylo o’i flaen gan ddweud, “Pam rydyn ni wedi gadael yr Aifft?”’”

21 Yna dywedodd Moses: “Mae ’na 600,000 o ddynion* gyda fi, ond eto rwyt ti wedi dweud, ‘Bydda i’n rhoi digon o gig iddyn nhw ei fwyta am fis cyfan’! 22 Petai preiddiau cyfan o ddefaid a gwartheg yn cael eu lladd, a fyddai hynny’n ddigon iddyn nhw? Neu petai holl bysgod y môr yn cael eu dal, a fyddai hynny’n ddigon iddyn nhw?”

23 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Ydy hynny’n amhosib i Jehofa?* Nawr byddi di’n gweld os bydd yr hyn rydw i’n ei ddweud yn dod yn wir neu beidio.”

24 Felly aeth Moses allan a rhannodd eiriau Jehofa â’r bobl, yna fe gasglodd 70 o ddynion o blith henuriaid y bobl a gwneud iddyn nhw sefyll o gwmpas y babell. 25 Yna daeth Jehofa i lawr mewn cwmwl a siaradodd ag ef, a chymerodd i ffwrdd ychydig o’r ysbryd a oedd arno a’i roi ar bob un o’r 70 henuriad. Unwaith iddyn nhw dderbyn yr ysbryd, dechreuon nhw ymddwyn fel proffwydi,* ond dyna’r unig dro gwnaethon nhw hynny.

26 Roedd dau o’r dynion yn dal i fod yn y gwersyll, a’u henwau oedd Eldad a Medad. Dechreuodd yr ysbryd setlo arnyn nhw, am eu bod nhw ymysg y rhai a oedd wedi cael eu cofrestru yn ôl eu henwau, ond doedden nhw ddim wedi mynd allan at y babell. Felly dechreuon nhw ymddwyn fel proffwydi yn y gwersyll. 27 Rhedodd dyn ifanc at Moses ac adrodd wrtho: “Mae Eldad a Medad yn ymddwyn fel proffwydi yn y gwersyll!” 28 Yna, dyma Josua fab Nun, a oedd wedi bod yn was i Moses ers iddo fod yn ifanc, yn ymateb gan ddweud: “Fy arglwydd Moses, stopia nhw!” 29 Ond atebodd Moses: “A wyt ti’n genfigennus ar fy rhan i? Na, byddwn i wrth fy modd petai pob un o bobl Jehofa yn proffwydo, a phetai Jehofa’n rhoi ei ysbryd arnyn nhw!” 30 Yn nes ymlaen, daeth Moses yn ôl i’r gwersyll gyda henuriaid Israel.

31 Felly achosodd Jehofa i wynt chwythu soflieir o’r môr, ac achosodd iddyn nhw ddisgyn yr holl ffordd o amgylch y gwersyll, gan ymestyn dros bellter o tua thaith diwrnod ar un ochr a thaith diwrnod ar yr ochr arall. Roedden nhw wedi pentyrru ar y llawr, ac roedd y pentyrrau tua dau gufydd* o uchder. 32 Felly trwy gydol y diwrnod hwnnw a thrwy’r nos a’r diwrnod wedyn, casglodd y bobl y soflieir. Doedd neb wedi casglu llai na deg homer,* ac roedden nhw’n eu gosod nhw o gwmpas y gwersyll iddyn nhw eu hunain. 33 Ond tra bod y cig yn dal i fod rhwng eu dannedd, cyn iddyn nhw ddechrau cnoi, gwylltiodd Jehofa’n lân â’r bobl, a dechreuodd Jehofa daro i lawr y bobl a lladd nifer enfawr ohonyn nhw.

34 Felly rhoddon nhw’r enw Cibroth-hattaafa* ar y lle hwnnw, oherwydd dyna lle gwnaethon nhw gladdu’r bobl a ddangosodd chwant hunanol. 35 Gadawodd y bobl Cibroth-hattaafa a mynd i Haseroth ac aros yno.

12 Nawr dechreuodd Miriam ac Aaron siarad yn erbyn Moses am ei fod wedi priodi dynes* o Cus. 2 Roedden nhw’n dweud: “Ai dim ond trwy Moses mae Jehofa wedi siarad? Onid ydy ef hefyd wedi siarad trwyddon ni?” Ac roedd Jehofa’n gwrando. 3 Nawr roedd Moses yn llawer iawn mwy addfwyn* nag unrhyw ddyn arall ar wyneb y ddaear.

4 Yn sydyn, dywedodd Jehofa wrth Moses, Aaron, a Miriam: “Ewch allan, y tri ohonoch chi, at babell y cyfarfod.” Felly aeth y tri ohonyn nhw allan. 5 A daeth Jehofa i lawr yn y golofn o gwmwl a sefyll wrth fynedfa’r babell a galw ar Aaron a Miriam. Camodd y ddau ohonyn nhw ymlaen. 6 Dywedodd: “Gwrandewch arna i, plîs. Petai un o broffwydi Jehofa yn eich plith, byddwn i’n ymddangos iddo mewn gweledigaeth, a byddwn i’n siarad ag ef mewn breuddwyd. 7 Ond nid felly mae hi gyda fy ngwas Moses! Rydw i’n ei drystio â fy nhŷ cyfan.* 8 Rydw i’n siarad ag ef wyneb yn wyneb, yn glir, heb ddefnyddio geiriau cymhleth,* ac rydw i, Jehofa, yn ymddangos iddo. Felly pam doeddech chi ddim yn ofni siarad yn erbyn fy ngwas, yn erbyn Moses?”

9 Felly gwylltiodd Jehofa yn lân â nhw a’u gadael nhw. 10 Symudodd y cwmwl i ffwrdd o’r babell, ac edrycha! cafodd Miriam ei tharo â’r gwahanglwyf gan wneud ei chroen mor wyn ag eira. Yna, trodd Aaron at Miriam, a gwelodd ei bod hi wedi cael ei tharo â’r gwahanglwyf. 11 Ar unwaith dywedodd Aaron wrth Moses: “Rydw i’n erfyn arnat ti, fy arglwydd! Plîs, paid â dal y pechod hwn yn ein herbyn ni! Rydyn ni wedi gwneud rhywbeth gwirion. 12 Plîs, paid â gadael iddi barhau fel plentyn sydd wedi cael ei eni’n farw, a hanner ei gnawd wedi pydru!” 13 A dechreuodd Moses erfyn ar Jehofa, gan ddweud: “O Dduw, plîs iachâ hi! Plîs!”

14 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Petai ei thad yn poeri yn ei hwyneb, oni fyddai hi’n byw mewn cywilydd am saith diwrnod? Gorchmynna iddi gael ei hynysu am saith diwrnod y tu allan i’r gwersyll, ac ar ôl hynny caiff hi ddod yn ôl.” 15 Felly cafodd Miriam ei hynysu y tu allan i’r gwersyll am saith diwrnod, ac ni wnaeth y bobl symud y gwersyll nes bod Miriam wedi dod yn ôl. 16 Yna gadawodd y bobl Haseroth a dechrau gwersylla yn anialwch Paran.

13 Nawr siaradodd Jehofa â Moses, gan ddweud: 2 “Anfona ddynion allan i ysbïo gwlad Canaan, y wlad rydw i’n ei rhoi i’r Israeliaid. Dylet ti anfon un dyn o bob llwyth, un sy’n bennaeth yn eu plith.”

3 Felly anfonodd Moses nhw allan o anialwch Paran ar orchymyn Jehofa. Roedd y dynion i gyd yn benaethiaid ymhlith yr Israeliaid. 4 Dyma oedd eu henwau: o lwyth Reuben, Sammua fab Saccur; 5 o lwyth Simeon, Saffat fab Hori; 6 o lwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne; 7 o lwyth Issachar, Igal fab Joseff; 8 o lwyth Effraim, Hosea fab Nun; 9 o lwyth Benjamin, Palti fab Raffu; 10 o lwyth Sabulon, Gadiel fab Sodi; 11 o lwyth Joseff ar gyfer llwyth Manasse, Gadi fab Susi; 12 o lwyth Dan, Ammiel fab Gemali; 13 o lwyth Aser, Sethur fab Michael; 14 o lwyth Nafftali, Nahbi fab Foffsi; 15 o lwyth Gad, Geuel fab Maci. 16 Dyma oedd enwau’r dynion gwnaeth Moses eu hanfon i ysbïo’r wlad. A rhoddodd Moses yr enw Josua* ar Hosea fab Nun.

17 Pan oedd Moses yn eu hanfon nhw i ysbïo gwlad Canaan, dywedodd wrthyn nhw: “Ewch i fyny yno i’r Negef, ac yna ewch i fyny i’r ardal fynyddig. 18 Mae’n rhaid ichi ddarganfod sut fath o wlad ydy hi, p’un a ydy’r bobl sy’n byw ynddi yn gryf neu’n wan, yn ychydig neu’n niferus, 19 p’un a ydy’r wlad yn dda neu’n ddrwg, ac a oes ’na waliau amddiffynnol o gwmpas y dinasoedd maen nhw’n byw ynddyn nhw. 20 Ac mae’n rhaid ichi ddarganfod a ydy’r wlad yn gyfoethog neu’n dlawd, ac a oes ’na goed ynddi. Mae’n rhaid ichi fod yn ddewr a chymryd peth o ffrwyth y wlad.” Nawr roedd hi’n dymor y grawnwin aeddfed cyntaf.

21 Felly aethon nhw i fyny ac ysbïo’r wlad o anialwch Sin i Rehob, yn agos at Lebo-hamath.* 22 Pan aethon nhw i fyny i’r Negef, daethon nhw i Hebron lle roedd Ahiman, Sesai, a Talmai, sef yr Anacim, yn byw. (Roedd Hebron wedi cael ei hadeiladu saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.) 23 Pan ddaethon nhw i Ddyffryn* Escol, dyma nhw’n torri cangen a oedd ag un clwstwr o rawnwin arni. Roedd mor drwm roedd rhaid i ddau ddyn gario’r grawnwin ar bolyn. Hefyd cymeron nhw rai o’r pomgranadau a’r ffigys. 24 Rhoddon nhw’r enw Dyffryn* Escol* ar y lle hwnnw oherwydd y clwstwr roedd yr Israeliaid wedi ei gymryd oddi yno.

25 Ymhen 40 diwrnod, daethon nhw yn ôl ar ôl ysbïo’r wlad. 26 Felly daethon nhw yn ôl at Moses ac Aaron a holl gynulleidfa’r Israeliaid yn anialwch Paran, yn Cades. Dywedon nhw wrth y gynulleidfa gyfan am beth roedden nhw wedi ei weld, a dangos ffrwyth y wlad iddyn nhw. 27 Dyma beth ddywedon nhw wrth Moses: “Aethon ni i mewn i’r wlad gwnest ti ein hanfon ni iddi, ac yn wir, mae llaeth a mêl yn llifo yno, a dyma ei ffrwyth. 28 Ond er hynny, mae’r bobl sy’n byw yn y wlad yn gryf, ac mae eu dinasoedd caerog yn fawr iawn. Hefyd, gwelson ni’r Anacim yno. 29 Mae’r Amaleciaid yn byw yng ngwlad y Negef, ac mae’r Hethiaid, y Jebusiaid, a’r Amoriaid yn byw yn yr ardal fynyddig, ac mae’r Canaaneaid yn byw wrth y môr ac ar hyd glannau’r Iorddonen.”

30 Yna dyma Caleb yn ceisio tawelu meddyliau’r bobl wrth iddyn nhw sefyll o flaen Moses, drwy ddweud: “Gadewch inni fynd i fyny ar unwaith, a byddwn ni’n bendant yn meddiannu’r wlad, oherwydd yn sicr gallwn ni ei choncro hi.” 31 Ond dywedodd y dynion a aeth i fyny gydag ef: “Allwn ni ddim mynd i fyny yn erbyn y bobl hyn, oherwydd maen nhw’n gryfach na ni.” 32 Ac roedden nhw’n parhau i roi adroddiad drwg i’r Israeliaid am y wlad roedden nhw wedi ei hysbïo, gan ddweud: “Mae’r wlad aethon ni drwyddi i’w hysbïo yn wlad beryglus, lle byddwch chi’n siŵr o farw, ac roedd yr holl bobl a welson ni ynddi yn bobl enfawr. 33 Ac yno gwelson ni’r Neffilim, meibion Anac, sy’n ddisgynyddion i’r Neffilim, ac o’n cymharu ni â nhw roedden ni’n edrych fel sioncod y gwair,* yn ein llygaid ni a’u llygaid nhw.”

14 Yna dyma’r holl bobl yn codi eu lleisiau ac yn parhau i grio ac i wylo drwy gydol y noson honno. 2 Dechreuodd yr Israeliaid i gyd gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, ac roedden nhw’n siarad yn eu herbyn nhw, gan ddweud: “Byddai wedi bod yn well inni farw yng ngwlad yr Aifft neu yn yr anialwch yma! 3 Pam mae Jehofa yn dod â ni i’r wlad hon er mwyn inni gael ein lladd â’r cleddyf? Bydd y gelyn yn cymryd ein gwragedd a’n plant yn gaeth. Oni fyddai’n well inni fynd yn ôl i’r Aifft?” 4 Roedden nhw hyd yn oed yn dweud wrth ei gilydd: “Dewch inni benodi rhywun i’n harwain ni a mynd yn ôl i’r Aifft!”

5 Gyda hynny, syrthiodd Moses ac Aaron â’u hwynebau i’r llawr. Gwnaethon nhw hyn gerbron holl gynulleidfa Israel a oedd wedi dod at ei gilydd. 6 A dyma Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a oedd ymhlith y rhai a aeth i ysbïo’r wlad, yn rhwygo eu dillad, 7 a dywedon nhw wrth yr Israeliaid i gyd: “Mae’r wlad yr aethon ni drwyddi i’w hysbïo yn wlad fendigedig. 8 Os ydyn ni wedi plesio Jehofa, bydd ef yn bendant yn dod â ni i mewn i’r wlad hon ac yn ei rhoi inni, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo. 9 Ond mae’n rhaid ichi beidio â gwrthryfela yn erbyn Jehofa, ac mae’n rhaid ichi beidio ag ofni pobl y wlad, oherwydd gwnawn ni eu trechu nhw. Does neb yn eu hamddiffyn nhw bellach, ac mae Jehofa gyda ni. Peidiwch â’u hofni nhw.”

10 Sut bynnag, roedd yr Israeliaid i gyd yn sôn am eu llabyddio nhw. Ond ymddangosodd gogoniant Jehofa ar babell y cyfarfod, fel bod holl bobl Israel yn ei weld.

11 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Am faint mwy bydd y bobl hyn yn fy amharchu i, ac am faint mwy y byddan nhw’n gwrthod rhoi ffydd yno i er gwaethaf yr holl arwyddion rydw i wedi eu gwneud yn eu plith? 12 Rydw i am eu taro nhw â phla a’u gyrru nhw i ffwrdd, a bydda i’n dy wneud di yn genedl sy’n fwy ac sy’n gryfach na nhw.”

13 Ond dywedodd Moses wrth Jehofa: “Dest ti â dy bobl allan o’r Aifft â dy nerth dy hun, felly os gwnei di hyn, yna bydd yr Eifftiaid yn clywed am y peth, 14 a byddan nhw’n sôn am hyn wrth y bobl sy’n byw yng ngwlad Canaan. Mae’r rhain hefyd wedi clywed dy fod ti, Jehofa, ymhlith y bobl hyn, a dy fod ti wedi ymddangos iddyn nhw wyneb yn wyneb. Ti ydy Jehofa, ac mae dy gwmwl yn sefyll drostyn nhw, ac rwyt ti’n mynd o’u blaenau nhw yn y golofn o gwmwl yn ystod y dydd, ac yn y golofn o dân yn ystod y nos. 15 Petaset ti’n lladd yr holl bobl hyn gyda’i gilydd, byddai’r cenhedloedd sydd wedi clywed am dy enwogrwydd yn dweud hyn: 16 ‘Doedd Jehofa ddim yn gallu dod â’r bobl hyn i mewn i’r wlad gwnaeth ef addo ei rhoi iddyn nhw, felly gwnaeth ef eu lladd nhw yn yr anialwch.’ 17 Plîs, nawr, Jehofa, dangosa fod dy nerth yn fawr, fel gwnest ti addo pan ddywedaist ti: 18 ‘Jehofa, sy’n araf i ddigio ac sy’n llawn cariad ffyddlon, sy’n maddau camgymeriadau a throseddau, ond ni fydd ar unrhyw gyfri yn gadael y rhai euog heb eu cosbi, gan ddod â chosb am gamgymeriadau tadau ar feibion ac ar wyrion, ar y drydedd genhedlaeth ac ar y bedwaredd genhedlaeth.’ 19 Plîs maddeua gamgymeriadau’r bobl hyn, gan fod dy gariad ffyddlon mor fawr, yn union fel rwyt ti wedi maddau i’r bobl ers iddyn nhw fod yn yr Aifft hyd heddiw.”

20 Yna dywedodd Jehofa: “Fe wna i faddau iddyn nhw fel rwyt ti wedi gofyn. 21 Ond ar y llaw arall, mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw, bydd y ddaear gyfan yn cael ei llenwi â gogoniant Jehofa. 22 Ond, ynglŷn â’r dynion sydd wedi gweld fy ngogoniant a’r arwyddion y gwnes i yn yr Aifft ac yn yr anialwch, ond sydd eto wedi parhau i fy rhoi i ar brawf y deg tro hyn a heb wrando ar fy llais, 23 fydd dim un ohonyn nhw byth yn gweld y wlad gwnes i ei haddo i’w tadau. Na, fydd dim un o’r rhai sy’n fy amharchu i yn ei gweld. 24 Ond dangosodd fy ngwas Caleb agwedd* wahanol, ac mae wedi parhau i fy nilyn i â’i holl galon, felly bydda i’n bendant yn dod ag ef i mewn i’r wlad yr aeth i mewn iddi, a bydd ei ddisgynyddion yn ei meddiannu. 25 Gan fod yr Amaleciaid a’r Canaaneaid yn byw yn y dyffryn,* dylech chi droi’n ôl yfory a chychwyn am yr anialwch ar hyd ffordd y Môr Coch.”

26 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 27 “Am faint mwy bydd y bobl ddrygionus hyn yn parhau i gwyno yn fy erbyn i? Rydw i wedi clywed cwynion yr Israeliaid yn fy erbyn i. 28 Dyweda wrthyn nhw, ‘“Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,” meddai Jehofa, “bydda i’n gwneud i chi yn union beth rydw i wedi eich clywed chi’n ei ddweud! 29 Bydd eich cyrff marw yn syrthio yn yr anialwch hwn, ie, pob un ohonoch chi sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn ac sydd wedi cael ei gofrestru, pob un ohonoch chi sydd wedi cwyno yn fy erbyn i. 30 Fydd dim un ohonoch chi yn mynd i mewn i’r wlad y gwnes i addo y byddwch chi’n byw ynddi, heblaw am Caleb fab Jeffunne a Josua fab Nun.

31 “‘“A bydda i’n dod â’ch plant i mewn, y rhai y dywedoch chi y bydden nhw’n cael eu cymryd yn gaeth, a byddan nhw’n mwynhau’r wlad rydych chi wedi ei gwrthod. 32 Ond byddwch chi’n syrthio’n farw yn yr anialwch hwn. 33 Nawr bydd eich meibion yn dod yn fugeiliaid yn yr anialwch am 40 mlynedd, a byddan nhw’n gorfod bod yn atebol am eich anffyddlondeb, nes bod yr un olaf ohonoch chi yn gorwedd yn farw yn yr anialwch. 34 Yn ôl faint o ddyddiau roeddech chi’n ysbïo’r wlad, 40 diwrnod, diwrnod am flwyddyn, diwrnod am flwyddyn, byddwch chi’n gorfod talu am eich camgymeriadau am 40 mlynedd. Wedyn byddwch chi’n gwybod beth mae’n ei olygu i fy ngwrthwynebu i.*

35 “‘“Rydw i, Jehofa, wedi siarad. Dyma beth bydda i’n ei wneud i’r holl bobl ddrygionus hyn, y rhai sydd wedi dod at ei gilydd i wrthryfela yn fy erbyn i. Yn yr anialwch yma y bydd eu diwedd nhw, a dyma ble byddan nhw’n marw. 36 Ynglŷn â’r dynion a gafodd eu hanfon gan Moses i ysbïo’r wlad, ac a wnaeth achosi i’r gynulleidfa gyfan gwyno yn ei erbyn pan ddaethon nhw yn ôl ag adroddiad drwg am y wlad, 37 ie, y dynion hynny a ddaeth yn ôl ag adroddiad drwg am y wlad, byddan nhw’n cael eu taro i lawr ac yn marw o flaen Jehofa. 38 Ond bydd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a oedd ymhlith y rhai a aeth i ysbïo’r wlad, yn bendant yn aros yn fyw.”’”

39 Pan ddywedodd Moses y geiriau hyn wrth yr Israeliaid i gyd, dechreuodd y bobl alaru yn ddwys. 40 Yna, codon nhw’n gynnar yn y bore a cheisio mynd i fyny i ben y mynydd, gan ddweud: “Dyma ni, rydyn ni’n barod i fynd i fyny i’r lle y siaradodd Jehofa amdano, oherwydd rydyn ni wedi pechu.” 41 Ond dywedodd Moses: “Pam rydych chi’n mynd y tu hwnt i orchymyn Jehofa? Fydd hyn ddim yn llwyddo. 42 Peidiwch â mynd i fyny, oherwydd dydy Jehofa ddim gyda chi, a byddwch chi’n cael eich trechu gan eich gelynion. 43 Oherwydd mae’r Amaleciaid a’r Canaaneaid yno i’ch wynebu chi, a byddwch chi’n cael eich lladd â’r cleddyf. Am eich bod chi wedi troi yn ôl rhag dilyn Jehofa, fydd Jehofa ddim gyda chi.”

44 Ond, aethon nhw yn eu blaenau yn hy tuag at ben y mynydd, ond ni wnaeth Moses nac arch cyfamod Jehofa symud i ffwrdd o ganol y gwersyll. 45 Yna daeth yr Amaleciaid a’r Canaaneaid a oedd yn byw ar y mynydd hwnnw i lawr a’u taro nhw, gan eu gwasgaru nhw mor bell â Horma.

15 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Siarada â’r Israeliaid a dweud wrthyn nhw, ‘Pan fyddwch chi wedi dod i mewn i’r wlad rydw i am ei rhoi ichi i fyw ynddi 3 ac rydych chi’n offrymu anifail o’r praidd neu o blith y gwartheg yn y tân i Jehofa—p’un a ydy hynny’n offrwm llosg, yn offrwm i gyflawni llw arbennig, yn offrwm gwirfoddol, neu’n offrwm yn ystod un o’r gwyliau tymhorol, er mwyn gwneud arogl sy’n plesio Jehofa— 4 bydd rhaid i’r un sy’n cyflwyno ei offrwm hefyd gyflwyno i Jehofa offrwm grawn o’r blawd* gorau, degfed ran o effa,* wedi ei gymysgu â chwarter hin* o olew. 5 Dylech chi hefyd offrymu chwarter hin o win fel offrwm diod pan ydych chi’n gwneud offrwm llosg neu’n aberthu oen gwryw. 6 Neu os ydych chi’n offrymu hwrdd,* dylech chi gyflwyno offrwm grawn o ddwy ran o ddeg o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag un rhan o dair o hin o olew. 7 A dylech chi gyflwyno gwin fel offrwm diod, un rhan o dair o hin, fel arogl sy’n plesio Jehofa.

8 “‘Ond os ydych chi’n offrymu tarw fel offrwm llosg neu aberth i gyflawni llw arbennig neu fel aberth heddwch i Jehofa, 9 dylech chi hefyd gyflwyno gyda’r tarw dair rhan o ddeg o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu â hanner hin o olew fel offrwm grawn. 10 Dylech chi hefyd gyflwyno hanner hin o win fel offrwm diod, fel offrwm yn y tân, fel arogl sy’n plesio Jehofa. 11 Dyna beth dylech chi ei wneud ar gyfer pob tarw neu hwrdd,* neu ar gyfer pob oen gwryw neu fwch gafr. 12 Ni waeth faint rydych chi’n ei offrymu, dyna beth dylech chi ei wneud ar gyfer pob un. 13 Dyna sut dylai pob un sydd wedi cael ei eni’n Israeliad gyflwyno offrwm yn y tân fel arogl sy’n plesio Jehofa.

14 “‘Os ydy rhywun estron sy’n byw yn eich plith neu rywun sydd wedi bod yn eich plith am lawer o genedlaethau hefyd yn gwneud offrwm yn y tân fel arogl sy’n plesio Jehofa, dylai ef wneud yn union fel chi. 15 Byddwch chi sydd yn y gynulleidfa a’r person estron yn eich plith yn dilyn yr un ddeddf. Bydd hynny’n ddeddf barhaol am eich cenedlaethau i gyd. Dylai’r person estron fod yr un fath â chi o flaen Jehofa. 16 Bydd ’na un gyfraith ac un farnedigaeth ar eich cyfer chi ac ar gyfer y person estron sy’n byw yn eich plith.’”

17 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 18 “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Pan fyddwch chi’n dod i mewn i’r wlad rydw i’n eich arwain chi iddi 19 ac rydych chi’n bwyta bara’r wlad,* dylech chi wneud cyfraniad i Jehofa. 20 Dylech chi gyfrannu torthau siâp modrwy wedi eu gwneud allan o’ch blawd* bras cyntaf. Dylech chi eu cyfrannu yn yr un ffordd â chyfraniad sy’n dod o’r llawr dyrnu. 21 Ar hyd eich cenedlaethau, dylech chi gyfrannu i Jehofa ychydig o’ch blawd* bras cyntaf.

22 “‘Nawr os byddwch chi’n gwneud camgymeriad a heb ddilyn yr holl orchmynion a roddodd Jehofa i Moses, 23 popeth a orchmynnodd Jehofa ichi drwy Moses o’r diwrnod y rhoddodd Jehofa orchymyn ac ar hyd eich cenedlaethau, 24 ac os cafodd hyn ei wneud yn anfwriadol, a heb ichi fel cynulleidfa wybod am y peth, dylai’r gynulleidfa gyfan offrymu un tarw ifanc fel offrwm llosg fel arogl sy’n plesio Jehofa, ynghyd â’i offrwm grawn a’i offrwm diod yn ôl y drefn arferol, ac un bwch gafr ifanc fel offrwm dros bechod. 25 Bydd yr offeiriad yn offrymu’r rhain er mwyn ceisio maddeuant ar gyfer holl gynulleidfa’r Israeliaid. A byddan nhw’n cael maddeuant, am fod eu camgymeriad yn anfwriadol, ac am eu bod nhw wedi cyflwyno offrwm drwy dân i Jehofa ac offrwm dros bechod o flaen Jehofa ar gyfer eu camgymeriad. 26 A bydd y gynulleidfa gyfan o Israeliaid a’r person estron sy’n byw yn eu plith yn cael maddeuant, am fod y bobl i gyd wedi gwneud camgymeriad anfwriadol.

27 “‘Os ydy rhywun yn pechu’n anfwriadol, bydd rhaid iddo gyflwyno gafr fenyw sy’n llai na blwydd oed fel offrwm dros bechod. 28 A bydd yr offeiriad yn helpu’r person a wnaeth bechu’n anfwriadol o flaen Jehofa i wneud pethau’n iawn, er mwyn cael maddeuant, a bydd Duw yn maddau iddo. 29 Ac ynglŷn â gwneud rhywbeth anfwriadol, bydd ’na un gyfraith ar gyfer rhywun sydd wedi cael ei eni’n Israeliad ac ar gyfer y person estron sy’n byw yn eu plith.

30 “‘Ond ynglŷn â’r person sy’n gwneud rhywbeth yn fwriadol, p’un a ydy ef wedi cael ei eni’n Israeliad neu’n berson estron, mae’n cablu Jehofa ac mae’n rhaid iddo gael ei roi i farwolaeth.* 31 Am ei fod wedi dirmygu gair Jehofa ac wedi torri ei orchymyn, bydd rhaid i’r person hwnnw gael ei ladd heb os nac oni bai. Bydd yn atebol am ei drosedd ei hun.’”

32 Tra oedd yr Israeliaid yn yr anialwch, daethon nhw ar draws dyn a oedd yn casglu coed ar y Saboth. 33 Dyma’r rhai a ddaeth o hyd iddo yn mynd ag ef at Moses ac Aaron a’r gynulleidfa gyfan. 34 Fe wnaethon nhw ei roi o dan warchodaeth oherwydd nad oedd y gyfraith yn manylu ar beth i’w wneud ag ef.

35 A dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dylai’r dyn gael ei roi i farwolaeth heb os nac oni bai, a dylai’r gynulleidfa gyfan ei labyddio y tu allan i’r gwersyll.” 36 Felly aeth y gynulleidfa gyfan ag ef allan o’r gwersyll a’i labyddio i farwolaeth, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

37 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 38 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw i roi ymylon addurniadol* ar waelod eu dillad drwy eu cenedlaethau i gyd, ac i roi llinyn glas uwchben yr ymylon addurniadol. 39 ‘Dylech chi gael yr ymyl addurniadol hwn fel y byddwch chi’n cofio holl orchmynion Jehofa bob tro rydych chi’n ei weld er mwyn ichi eu dilyn nhw. Ddylech chi ddim dilyn eich calonnau na’ch llygaid eich hunain, sy’n achosi ichi eich puteinio eich hunain yn ysbrydol. 40 Bydd hyn yn eich helpu chi i gofio, a byddwch chi’n ufudd i fy ngorchmynion i gyd a byddwch chi’n sanctaidd yng ngolwg eich Duw. 41 Fi yw Jehofa eich Duw, a ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft er mwyn profi mai fi yw eich Duw chi. Fi yw Jehofa eich Duw.’”

16 Yna dyma Cora fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, Dathan ac Abiram meibion Eliab, ac On fab Peleth, o blith meibion Reuben, yn ochri gyda’i gilydd. 2 Gwnaethon nhw godi yn erbyn Moses ynghyd â 250 o ddynion Israel, penaethiaid y bobl, cynrychiolwyr y gynulleidfa, dynion pwysig. 3 Felly casglon nhw at ei gilydd a dod at Moses ac Aaron a dweud wrthyn nhw: “Rydyn ni wedi cael digon ohonoch chi! Mae pawb yn y gynulleidfa gyfan yn sanctaidd, ac mae Jehofa yn eu mysg. Felly pam dylech chi eich dyrchafu eich hunain uwchben cynulleidfa Jehofa?”

4 Unwaith i Moses glywed hyn, syrthiodd â’i wyneb ar y llawr. 5 Yna dywedodd wrth Cora a’i holl gefnogwyr: “Yn y bore bydd Jehofa yn ei gwneud hi’n glir pwy sy’n perthyn iddo a phwy sy’n sanctaidd a phwy sy’n cael dod yn agos ato, a bydd pwy bynnag mae’n ei ddewis yn dod yn agos ato. 6 Cora a dy holl gefnogwyr, dyma beth dylech chi ei wneud: Cymerwch lestri i ddal tân 7 a rhowch dân ac arogldarth ynddyn nhw o flaen Jehofa yfory, a’r dyn y bydd Jehofa’n ei ddewis yw’r un sanctaidd. Rydych chi feibion Lefi wedi mynd yn rhy bell!”

8 Yna dywedodd Moses wrth Cora: “Gwrandewch plîs, chi feibion Lefi. 9 Ydy hi’n beth bach ichi fod Duw Israel wedi eich neilltuo chi o blith cynulleidfa Israel ac wedi gadael ichi fynd yn agos ato er mwyn cyflawni gwasanaeth tabernacl Jehofa ac er mwyn sefyll o flaen y gynulleidfa i’w gwasanaethu nhw? 10 Ydy hi hefyd yn beth bach ichi ei fod wedi dod â chi’n agos ato, ynghyd â’ch holl frodyr, meibion Lefi? Ydych chi hefyd yn ceisio bod yn offeiriaid? 11 Am y rheswm hwnnw, rwyt ti a dy holl gefnogwyr sydd wedi casglu at ei gilydd yn gwrthryfela yn erbyn Jehofa. Ac ynglŷn ag Aaron, beth mae ef wedi ei wneud, fel eich bod chi’n cwyno yn ei erbyn?”

12 Yn nes ymlaen, dyma Moses yn galw am Dathan ac Abiram, meibion Eliab, ond dywedon nhw: “Dydyn ni ddim am ddod! 13 Ydy hi’n beth bach iti, dy fod ti wedi dod â ni allan o wlad lle roedd llaeth a mêl yn llifo, er mwyn ein rhoi ni i farwolaeth yn yr anialwch? A wyt ti nawr eisiau rheoli droston ni yn llwyr hefyd?* 14 Fel mae hi, dwyt ti ddim wedi dod â ni i mewn i unrhyw wlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, nac wedi rhoi unrhyw gae na gwinllan inni fel etifeddiaeth. Wyt ti hefyd eisiau i’r dynion hyn dy ddilyn di yn ddall?* Dydyn ni ddim am ddod!”

15 Felly digiodd Moses yn fawr iawn, a dywedodd wrth Jehofa: “Paid ag edrych ar eu hoffrwm grawn. Dydw i ddim wedi cymryd un asyn oddi wrthyn nhw, nac wedi brifo’r un ohonyn nhw.”

16 Nawr dywedodd Moses wrth Cora: “Tyrd o flaen Jehofa yfory, ti, dy gefnogwyr, ac Aaron. 17 Dylai pob un ohonoch chi gymryd ei lestr i ddal tân a rhoi arogldarth ynddo a’i gyflwyno o flaen Jehofa, 250 o lestri i ddal tân, a dylet ti ac Aaron wneud yr un peth gyda’ch llestri i ddal tân.” 18 Felly dyma bob un ohonyn nhw yn cymryd ei lestr i ddal tân, yn rhoi tân ac arogldarth ynddyn nhw, ac yn sefyll o flaen mynedfa pabell y cyfarfod gyda Moses ac Aaron. 19 Pan oedd Cora wedi casglu ei gefnogwyr at ei gilydd er mwyn eu hwynebu nhw wrth fynedfa pabell y cyfarfod, ymddangosodd gogoniant Jehofa i’r gynulleidfa gyfan.

20 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: 21 “Gwahanwch eich hunain oddi wrth y grŵp yma, er mwyn imi eu dinistrio nhw ar unwaith.” 22 Gyda hynny, syrthion nhw â’u hwynebau i’r llawr a dweud: “O Dduw, Duw ysbryd pob person, a wyt ti am ddigio â’r gynulleidfa gyfan oherwydd pechod un dyn?”

23 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 24 “Siarada â’r gynulleidfa a dyweda wrthyn nhw, ‘Symudwch i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan, ac Abiram!’”

25 Yna cododd Moses a mynd at Dathan ac Abiram, ac aeth henuriaid Israel gydag ef. 26 Dywedodd wrth y bobl: “Symudwch i ffwrdd, plîs, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, a pheidiwch â chyffwrdd ag unrhyw beth sy’n perthyn iddyn nhw, er mwyn ichi beidio â chael eich ysgubo i ffwrdd am eu pechod nhw.” 27 Yn syth, dyma nhw’n symud i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan, ac Abiram, o bob ochr, a daeth Dathan ac Abiram allan gan sefyll wrth fynedfa eu pebyll gyda’u gwragedd, eu meibion, a’u plant bach.

28 Yna dywedodd Moses: “Drwy’r hyn sy’n mynd i ddigwydd, byddwch chi’n gwybod mai Jehofa sydd wedi fy anfon i i wneud yr holl bethau hyn, a dydyn nhw ddim wedi dod o fy nghalon fy hun.* 29 Os bydd y bobl hyn yn marw yn naturiol, fel sy’n arferol i bobl, ac os ydy eu cosb nhw yr un fath â gweddill dynolryw, yna dydy Jehofa ddim wedi fy anfon i. 30 Ond os bydd Jehofa’n gwneud rhywbeth anhygoel iddyn nhw, ac os bydd y ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a phopeth sy’n perthyn iddyn nhw, ac maen nhw’n mynd yn fyw i lawr i’r Bedd,* yna yn bendant byddwch chi’n gwybod bod y dynion hyn wedi trin Jehofa yn amharchus.”

31 Unwaith iddo orffen dweud y geiriau hyn i gyd, dyma’r ddaear oddi tanyn nhw yn hollti. 32 Agorodd y ddaear a’u llyncu nhw a’u teuluoedd a phawb a oedd wedi ochri â Cora, yn ogystal â’u holl eiddo. 33 Felly dyma nhw a phawb a oedd wedi ochri â nhw yn mynd i lawr yn fyw i’r Bedd,* a chaeodd y ddaear amdanyn nhw fel eu bod nhw’n diflannu o blith y gynulleidfa. 34 Wrth iddyn nhw sgrechian, gwnaeth yr holl Israeliaid a oedd o’u cwmpas nhw redeg i ffwrdd mewn ofn, gan ddweud: “Efallai bydd y ddaear yn ein llyncu ni hefyd!” 35 Yna anfonodd Jehofa dân a lladd y 250 o ddynion a oedd yn offrymu arogldarth.

36 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 37 “Dyweda wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad i gymryd y llestri i ddal tân allan o’r tân, oherwydd maen nhw’n sanctaidd. Dyweda wrtho ef hefyd i wasgaru’r tân rhywle yn bell i ffwrdd. 38 Mae’n rhaid i’r llestri i ddal tân a oedd yn perthyn i’r dynion a fu farw o ganlyniad i’w pechod gael eu troi i mewn i blatiau metel tenau i orchuddio’r allor, am eu bod nhw wedi eu cyflwyno nhw o flaen Jehofa, a daethon nhw’n sanctaidd. Dylen nhw fod yn arwydd i’r Israeliaid.” 39 Felly dyma Eleasar yr offeiriad yn cymryd y llestri copr i ddal tân a oedd wedi cael eu cyflwyno gan y bobl a gafodd eu llosgi, a gwnaeth ef eu curo nhw er mwyn gorchuddio’r allor, 40 fel roedd Jehofa wedi dweud wrtho drwy Moses. Roedd hyn i atgoffa’r Israeliaid na ddylai unrhyw un sydd heb yr hawl, hynny yw, sydd ddim yn un o ddisgynyddion Aaron, ddod o flaen Jehofa i losgi arogldarth, ac na ddylai unrhyw un efelychu Cora a’i gefnogwyr.

41 Ac ar yr union ddiwrnod wedyn, dechreuodd holl bobl Israel gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, gan ddweud: “Rydych chi’ch dau wedi lladd pobl Jehofa.” 42 Unwaith i’r bobl gasglu at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron, dyma nhw’n troi i edrych tuag at babell y cyfarfod, ac edrycha! dyma gwmwl yn ei gorchuddio, a dechreuodd gogoniant Jehofa ymddangos.

43 Aeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod, 44 a dywedodd Jehofa wrth Moses: 45 “Gwahanwch eich hunain oddi wrth y bobl hyn er mwyn imi eu dinistrio nhw ar unwaith.” Gyda hynny, syrthion nhw â’u hwynebau i’r llawr. 46 Yna dywedodd Moses wrth Aaron: “Cymera’r llestr i ddal tân a rho dân o’r allor ynddo, a rho arogldarth ynddo, a dos allan yn gyflym at y bobl er mwyn i’w pechodau gael eu maddau, oherwydd mae Jehofa wedi gwylltio’n lân. Mae’r pla wedi dechrau!” 47 Dyma Aaron yn ei gymryd yn syth, fel roedd Moses wedi dweud, a rhedodd i ganol y bobl, ac edrycha! roedd y pla wedi dechrau taro’r bobl. Felly rhoddodd yr arogldarth yn y llestr i ddal tân er mwyn cael maddeuant am bechodau’r bobl. 48 Parhaodd i sefyll rhwng y meirw a’r byw, ac yn y pen draw stopiodd y pla. 49 Bu farw 14,700 o bobl o achos y pla, ar wahân i’r rhai a fu farw o achos Cora. 50 Aeth Aaron yn ôl at Moses wrth fynedfa pabell y cyfarfod ar ôl i’r pla stopio.

17 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Siarada â’r Israeliaid a chymera oddi wrthyn nhw un ffon ar gyfer pob llwyth, oddi wrth bennaeth pob llwyth, 12 ffon i gyd. Ysgrifenna enw pob un ar ei ffon. 3 Dylet ti ysgrifennu enw Aaron ar ffon Lefi, oherwydd mae ’na un ffon ar gyfer pennaeth pob llwyth. 4 Rho’r ffyn ym mhabell y cyfarfod o flaen y Dystiolaeth, lle rydw i’n ymddangos i ti yn rheolaidd. 5 A bydd ffon y dyn rydw i’n ei ddewis yn blaguro, a bydda i’n stopio’r Israeliaid rhag cwyno yn fy erbyn i ac yn dy erbyn dithau hefyd.”

6 Felly siaradodd Moses â’r Israeliaid, a rhoddodd y penaethiaid eu ffyn iddo—un ffon ar gyfer pennaeth pob llwyth, 12 ffon—ac roedd ffon Aaron ymysg y ffyn eraill. 7 Yna rhoddodd Moses y ffyn o flaen Jehofa ym mhabell y Dystiolaeth.

8 Y diwrnod wedyn, pan aeth Moses i mewn i babell y Dystiolaeth, edrycha! roedd ffon Aaron ar gyfer llwyth Lefi wedi blaguro, ac roedd ’na flagur, blodau, ac almonau aeddfed arni. 9 Yna daeth Moses â’r ffyn a oedd o flaen Jehofa allan at holl bobl Israel. Gwnaethon nhw edrych arnyn nhw, a chymerodd pob dyn ei ffon ei hun.

10 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Rho ffon Aaron yn ôl o flaen y Dystiolaeth fel rhywbeth i’w gadw fel arwydd i’r gwrthryfelwyr, er mwyn eu stopio nhw rhag cwyno yn fy erbyn i, ac er mwyn iddyn nhw beidio â marw.” 11 Gwnaeth Moses yn union beth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddo ar unwaith. Fe wnaeth yn union felly.

12 Yna dywedodd yr Israeliaid wrth Moses: “Nawr byddwn ni’n marw, rydyn ni’n siŵr o farw, rydyn ni i gyd yn mynd i farw! 13 Bydd unrhyw un sydd hyd yn oed yn dod yn agos at dabernacl Jehofa yn marw! A oes rhaid inni farw fel ’na?”

18 Yna dywedodd Jehofa wrth Aaron: “Byddi di a dy feibion a dy deulu estynedig yn atebol os bydd unrhyw un o’r rheolau ynglŷn â’r cysegr yn cael ei thorri, a byddi di a dy feibion yn atebol os bydd unrhyw un o’r rheolau ar gyfer yr offeiriaid yn cael ei thorri. 2 Hefyd, galwa am dy frodyr o lwyth Lefi, llwyth dy gyndadau, er mwyn iddyn nhw allu ymuno â ti, a gweini arnat ti a dy feibion o flaen pabell y Dystiolaeth. 3 Dylen nhw gyflawni’r dyletswyddau rwyt ti’n eu rhoi iddyn nhw, a’u cyfrifoldebau ynglŷn â’r babell gyfan, ond ddylen nhw ddim dod yn agos at offer y lle sanctaidd na’r allor, fel na fyddan nhw na chi yn marw. 4 Byddan nhw’n ymuno â ti ac yn cyflawni eu cyfrifoldebau ynglŷn â phabell y cyfarfod a holl wasanaeth y babell, ac ni ddylai unrhyw un heb awdurdod* ddod yn agos atoch chi. 5 Dylech chi gyflawni eich cyfrifoldebau ynglŷn â’r lle sanctaidd a’r allor, fel na fydd unrhyw ddicter pellach yn dod yn erbyn pobl Israel. 6 Rydw i fy hun wedi cymryd eich brodyr, y Lefiaid, o blith yr Israeliaid fel anrheg ichi. Maen nhw wedi cael eu rhoi i Jehofa i ofalu am wasanaeth pabell y cyfarfod. 7 Rwyt ti a dy feibion yn gyfrifol am eich dyletswyddau offeiriadol sy’n ymwneud â’r allor a’r hyn sydd y tu mewn i’r llen, ac mae’n rhaid ichi gyflawni’r gwasanaeth hwn. Rydw i wedi rhoi gwasanaeth yr offeiriadaeth yn rhodd ichi, a dylai unrhyw un sy’n dod yn agos heb awdurdod* gael ei roi i farwolaeth.”

8 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Aaron: “Rydw i fy hun wedi dy benodi di i fod yn gyfrifol am y cyfraniadau sydd wedi cael eu rhoi imi. Rydw i wedi rhoi rhan o’r holl bethau sanctaidd sydd wedi eu cyfrannu gan yr Israeliaid i ti ac i dy feibion. Bydd hyn yn drefn barhaol. 9 Bydd y rhan hon o’r holl offrymau mwyaf sanctaidd sy’n cael eu gwneud drwy dân yn perthyn i chi, pob offrwm maen nhw’n ei wneud, gan gynnwys yr offrymau grawn, yr offrymau dros bechod, a’r offrymau dros euogrwydd sy’n cael eu rhoi imi. Bydd hyn yn rhywbeth sanctaidd iawn i ti ac i dy feibion. 10 Dylet ti ei fwyta mewn lle sanctaidd iawn. Bydd pob gwryw yn cael bwyta ohono, a bydd yn rhywbeth sanctaidd iti. 11 Bydd hyn hefyd yn perthyn i ti: yr anrhegion maen nhw’n eu cyfrannu, yn ogystal â holl offrymau chwifio yr Israeliaid. Rydw i wedi eu rhoi nhw i ti ac i dy feibion ac i dy ferched, a bydd hyn yn drefn barhaol. Bydd pawb sy’n lân yn dy dŷ yn cael bwyta ohono.

12 “Ynglŷn â’r gorau o’r holl olew, yr holl win newydd, a’r holl rawn—hynny yw, y cynnyrch cyntaf maen nhw’n ei roi i Jehofa—rydw i’n ei roi i ti. 13 Bydd ffrwyth cyntaf popeth o’u gwlad, yr hyn y byddan nhw’n ei roi i Jehofa, yn perthyn i ti. Bydd pawb sy’n lân yn dy dŷ yn cael bwyta ohono.

14 “Dylai popeth yn Israel sydd wedi ei gysegru* i Dduw ddod yn eiddo i ti.

15 “Dylai cyntaf-anedig popeth byw, y rhai y byddan nhw’n eu cyflwyno i Jehofa, yn ddyn neu’n anifail, ddod yn eiddo i ti. Ond, heb os, mae’n rhaid iti brynu yn ôl bob mab cyntaf-anedig, ac mae’n rhaid iti brynu yn ôl y cyntaf-anedig o blith yr holl anifeiliaid aflan. 16 Dylet ti ei brynu yn ôl pan fydd yn fis oed neu’n hŷn. Bydd y pris yn gyfartal â gwerth pum sicl* arian, yn ôl sicl y lle sanctaidd,* sef 20 gera.* 17 Ond ni ddylet ti brynu yn ôl y teirw cyntaf-anedig, yr ŵyn gwryw cyntaf-anedig, na’r geifr cyntaf-anedig. Maen nhw’n rhywbeth sanctaidd, a dylet ti daenellu eu gwaed ar yr allor, a gwneud i fwg godi oddi ar eu braster fel offrwm drwy dân, er mwyn gwneud arogl sy’n plesio Jehofa. 18 A bydd eu cig yn eiddo i ti. Fel brest yr offrwm chwifio, ac fel y goes dde, bydd yn perthyn i ti. 19 Ynglŷn â’r holl gyfraniadau sanctaidd y bydd yr Israeliaid yn eu rhoi i Jehofa, rydw i wedi eu rhoi nhw i ti ac i dy feibion ac i dy ferched, a bydd hyn yn drefn barhaol. Mae’n gyfamod halen* rhwng Jehofa a ti a dy ddisgynyddion.”

20 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Aaron: “Yn eu gwlad nhw, ni fydd gynnoch chi etifeddiaeth, ac ni fyddwch chi’n cael darn o dir yn eu plith. Fi yw eich rhan chi a’ch etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.

21 “Nawr rydw i wedi rhoi pob degwm yn Israel i feibion Lefi fel etifeddiaeth ac fel tâl am y gwasanaeth maen nhw’n ei wneud, gwasanaeth pabell y cyfarfod. 22 Fydd pobl Israel ddim yn cael mynd at babell y cyfarfod bellach, fel arall, byddan nhw’n euog o bechu ac yn marw. 23 Y Lefiaid eu hunain a ddylai gyflawni gwasanaeth pabell y cyfarfod, a nhw fydd yn atebol am bechodau’r bobl yn erbyn y lle sanctaidd. Bydd yn ddeddf barhaol ar hyd eich holl genedlaethau na ddylai’r Lefiaid gael etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid. 24 Rydw i wedi rhoi’r degwm a fydd yn cael ei gyfrannu i Jehofa gan bobl Israel i’r Lefiaid fel etifeddiaeth. Dyna pam rydw i wedi dweud na fyddan nhw’n cael etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.”

25 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 26 “Dylet ti ddweud wrth y Lefiaid, ‘Byddwch chi’n derbyn gan yr Israeliaid y degwm rydw i wedi ei roi ichi fel etifeddiaeth, a dylech chi roi un rhan o ddeg ohono fel cyfraniad i Jehofa. 27 A bydd yn cael ei ystyried fel eich cyfraniad chi, fel petai’n rawn o’ch llawr dyrnu eich hunain neu’n win neu’n olew rydych chi eich hunain wedi ei gynhyrchu’n helaeth. 28 Fel hyn, byddwch chithau hefyd yn rhoi cyfraniad i Jehofa o’r holl ddegymau rydych chi’n eu derbyn gan yr Israeliaid, ac o’r degymau hynny, dylech chi roi’r cyfraniad ar gyfer Jehofa i Aaron yr offeiriad. 29 Byddwch chi’n gwneud pob math o gyfraniadau i Jehofa o’r gorau oll o bob anrheg sy’n cael ei rhoi ichi fel rhywbeth sanctaidd.’

30 “Ac mae’n rhaid iti ddweud wrthyn nhw, ‘Pan fyddwch chi’n cyfrannu’r gorau o’r pethau rydych chi’n eu derbyn, yna bydd y gweddill yn perthyn i chi, y Lefiaid, fel petai’n rawn o’ch llawr dyrnu eich hunain neu’n win neu’n olew rydych chi eich hunain wedi ei gynhyrchu. 31 Cewch chi a’ch teulu ei fwyta yn unrhyw le, oherwydd dyna eich tâl am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod. 32 Fyddwch chi ddim yn euog o bechu yn hyn o beth cyn belled â’ch bod chi’n cyfrannu’r gorau ohonyn nhw, ac mae’n rhaid ichi beidio â halogi* pethau sanctaidd yr Israeliaid, neu byddwch chi’n marw.’”

19 Siaradodd Jehofa â Moses ac Aaron unwaith eto, gan ddweud: 2 “Dyma un o ddeddfau’r gyfraith a orchmynnodd Jehofa, ‘Dyweda wrth yr Israeliaid am ddod â buwch goch atat ti, un iach heb unrhyw nam arni ac sydd heb fod o dan iau. 3 Dylech chi ei rhoi i Eleasar yr offeiriad, a bydd ef yn mynd â hi y tu allan i’r gwersyll, a bydd hi’n cael ei lladd o’i flaen. 4 Yna gan ddefnyddio ei fys, bydd Eleasar yr offeiriad yn cymryd peth o’i gwaed ac yn ei daenellu saith gwaith i gyfeiriad mynedfa pabell y cyfarfod. 5 Yna bydd y fuwch yn cael ei llosgi o flaen ei lygaid. Bydd ei chroen, ei chnawd, a’i gwaed, yn ogystal â’i charthion* yn cael eu llosgi. 6 A bydd yr offeiriad yn cymryd coed cedrwydd, isop, a defnydd ysgarlad ac yn eu taflu nhw i ganol y tân sy’n llosgi’r fuwch. 7 Yna bydd yr offeiriad yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi mewn dŵr, ac wedyn bydd yn cael dod i mewn i’r gwersyll; ond bydd ef yn aflan nes i’r haul fachlud.

8 “‘Bydd yr un a losgodd y fuwch yn golchi ei ddillad mewn dŵr ac yn ymolchi mewn dŵr, a bydd ef yn aflan nes i’r haul fachlud.

9 “‘Dylai dyn glân gasglu lludw’r fuwch a’i roi y tu allan i’r gwersyll mewn lle glân, a dylai cynulleidfa’r Israeliaid ei gadw er mwyn paratoi dŵr a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer puro. Mae’n offrwm dros bechod. 10 Bydd yr un sy’n casglu lludw’r fuwch yn golchi ei ddillad, a bydd ef yn aflan nes i’r haul fachlud.

“‘Bydd hyn yn ddeddf barhaol i’r Israeliaid ac i’r estroniaid sy’n byw yn eu plith. 11 Bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â pherson marw yn aflan am saith diwrnod. 12 Dylai ef ei buro ei hun â’r dŵr ar y trydydd diwrnod, ac ar y seithfed diwrnod bydd yn lân. Ond os nad yw’n ei buro ei hun ar y trydydd diwrnod, ni fydd yn lân ar y seithfed diwrnod. 13 Mae unrhyw un sy’n cyffwrdd â chorff person marw ac sydd ddim yn ei buro ei hun wedi halogi tabernacl Jehofa, ac mae’n rhaid i’r person hwnnw gael ei roi i farwolaeth.* Gan nad ydy’r dŵr sy’n puro wedi cael ei daenellu arno, bydd yn parhau i fod yn aflan.

14 “‘Dyma’r gyfraith ynglŷn â phan fydd dyn yn marw mewn pabell: Bydd unrhyw un sy’n mynd i mewn i’r babell, ac unrhyw un a oedd eisoes yn y babell, yn aflan am saith diwrnod. 15 Bydd pob llestr sy’n agored, heb unrhyw gaead wedi ei glymu arno, yn aflan. 16 Bydd pwy bynnag sydd yn y caeau agored sy’n cyffwrdd â rhywun a gafodd ei ladd â’r cleddyf, neu sy’n cyffwrdd â chorff marw neu ag asgwrn dyn neu â bedd yn aflan am saith diwrnod. 17 Er mwyn puro’r person aflan, dylai peth o ludw’r offrwm dros bechod a gafodd ei losgi gael ei gymryd a’i roi mewn llestr cyn tywallt* dŵr ffres arno. 18 Yna bydd dyn glân yn rhoi isop yn y dŵr ac yn ei ddefnyddio i daenellu’r dŵr ar y babell ac ar yr holl lestri ac ar y bobl a oedd yno. Bydd yn gwneud yr un fath gyda’r person a wnaeth gyffwrdd â’r un a gafodd ei ladd, neu â’r asgwrn, neu â’r corff marw, neu â’r bedd. 19 Bydd y person glân yn ei daenellu ar yr un aflan ar y trydydd diwrnod ac ar y seithfed diwrnod, a bydd yr un aflan yn cael ei buro o’i bechod ar y seithfed diwrnod. Yna dylai olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr, a bydd ef yn lân unwaith i’r haul fachlud.

20 “‘Ond ynglŷn â’r dyn sy’n aflan ac sy’n gwrthod ei buro ei hun, bydd rhaid iddo gael ei roi i farwolaeth,* am ei fod wedi halogi cysegr Jehofa. Ni chafodd y dŵr sy’n puro ei daenellu arno, felly mae ef yn aflan.

21 “‘Bydd hyn yn ddeddf barhaol iddyn nhw: Dylai’r un sy’n taenellu’r dŵr sy’n puro olchi ei ddillad, a bydd yr un sy’n cyffwrdd â’r dŵr sy’n puro yn aflan nes i’r haul fachlud. 22 Bydd unrhyw beth mae’r un aflan yn ei gyffwrdd yn dod yn aflan, a bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â’r pethau hynny yn aflan nes i’r haul fachlud.’”

20 Yn y mis cyntaf, daeth y gynulleidfa gyfan o Israeliaid i anialwch Sin, a dechreuodd y bobl fyw yn Cades. Dyna lle bu farw Miriam, a lle cafodd hi ei chladdu.

2 Nawr doedd ’na ddim dŵr i’r bobl, a chasglon nhw at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron. 3 Roedd y bobl yn cweryla â Moses, gan ddweud: “O na fydden ni wedi marw pan fu farw ein brodyr o flaen Jehofa! 4 Pam rwyt ti wedi dod â chynulleidfa Jehofa i mewn i’r anialwch hwn, er mwyn i ni a’n hanifeiliaid farw yma? 5 A pham rwyt ti wedi dod â ni allan o’r Aifft i’r lle ofnadwy hwn? Dydyn ni ddim yn gallu hau hadau yma, a does ’na ddim ffigys na gwinwydd na phomgranadau yn tyfu yma, a does ’na ddim dŵr inni ei yfed.” 6 Yna aeth Moses ac Aaron i ffwrdd o’r gynulleidfa a mynd at fynedfa pabell y cyfarfod a syrthio â’u hwynebau ar y llawr, a dechreuodd gogoniant Jehofa ymddangos iddyn nhw.

7 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 8 “Cymera’r ffon a chasgla’r bobl at ei gilydd, ti ac Aaron dy frawd, a dywedwch wrth y graig o’u blaenau nhw i roi dŵr, a byddi di’n dod â dŵr allan o’r graig ar eu cyfer nhw ac yn rhoi i’r bobl a’u hanifeiliaid rywbeth i’w yfed.”

9 Felly cymerodd Moses y ffon a oedd o flaen Jehofa, yn union fel roedd ef wedi gorchymyn iddo. 10 Yna casglodd Moses ac Aaron y bobl at ei gilydd o flaen y graig, a dywedodd Moses wrthyn nhw: “Gwrandewch nawr, chi rebeliaid! A oes rhaid i ni ddod â dŵr allan o’r graig yma ichi?” 11 Gyda hynny, cododd Moses ei law a tharodd y graig ddwywaith gyda’i ffon. Dechreuodd llawer o ddŵr dywallt* allan ohoni, a dyma’r bobl a’u hanifeiliaid yn dechrau yfed.

12 Yn nes ymlaen, dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: “Oherwydd na wnaethoch chi ddangos ffydd yno i, na fy sancteiddio i o flaen pobl Israel, fyddwch chi ddim yn dod â’r gynulleidfa hon i mewn i’r wlad rydw i am ei rhoi iddyn nhw.” 13 Y rhain ydy dyfroedd Meriba,* lle gwnaeth yr Israeliaid gweryla â Jehofa, felly dyma Duw yn ei sancteiddio ei hun yn eu plith.

14 Yna anfonodd Moses negeswyr o Cades at frenin Edom, gan ddweud: “Dyma beth mae dy frawd Israel yn ei ddweud, ‘Rwyt ti’n ymwybodol iawn o’r caledi rydyn ni wedi ei brofi. 15 Aeth ein tadau i’r Aifft, ac roedden ni’n byw yn yr Aifft am lawer o flynyddoedd, ac roedd yr Eifftiaid yn ein cam-drin ni a’n tadau. 16 O’r diwedd, dyma ni’n erfyn ar Jehofa am help, a gwnaeth ef ein clywed ni, ac anfonodd angel i ddod â ni allan o’r Aifft. Nawr, rydyn ni yn Cades, dinas ar ffiniau dy diriogaeth. 17 Plîs gad inni deithio drwy dy wlad. Fyddwn ni ddim yn mynd drwy unrhyw gae na gwinllan, nac yn yfed dŵr unrhyw ffynnon. Byddwn ni’n martsio* ar Briffordd y Brenin, heb droi i’r dde nac i’r chwith nes inni adael dy diriogaeth.’”

18 Ond dywedodd brenin Edom wrtho: “Chei di ddim dod drwy ein tiriogaeth. Os gwnei di hynny, gwna i ddod allan i dy gyfarfod di â chleddyf.” 19 Dywedodd yr Israeliaid wrtho: “Byddwn ni’n cadw at y briffordd, ac os ydyn ni neu ein hanifeiliaid yn yfed dy ddŵr, byddwn ni’n talu amdano. Rydyn ni ond eisiau cerdded drwy dy wlad.” 20 Ond parhaodd brenin Edom i ddweud: “Chei di ddim dod drwodd.” Gyda hynny, dyma frenin Edom yn dod allan i’w cyfarfod nhw gyda llawer o bobl a byddin gref. 21 Felly gwrthododd brenin Edom adael i Israel fynd drwy ei diriogaeth; gyda hynny, trodd Israel oddi wrtho.

22 Gwnaeth pobl Israel i gyd adael Cades a dod i Fynydd Hor. 23 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron wrth Fynydd Hor ar ffiniau gwlad Edom: 24 “Bydd Aaron yn cael ei gasglu at ei bobl.* Fydd ef ddim yn mynd i mewn i’r wlad y bydda i’n ei rhoi i’r Israeliaid, oherwydd gwnaethoch chi’ch dau wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn ynglŷn â dyfroedd Meriba. 25 Cymera Aaron a’i fab Eleasar i fyny i Fynydd Hor. 26 Tynna ddillad Aaron a’u rhoi nhw ar Eleasar ei fab, a dyna lle bydd Aaron yn marw.”

27 Felly gwnaeth Moses yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo, a gwnaethon nhw ddringo Mynydd Hor o flaen y gynulleidfa i gyd. 28 Yna tynnodd Moses ddillad Aaron a’u rhoi nhw ar Eleasar ei fab. Ar ôl hynny bu farw Aaron yno ar ben y mynydd, a daeth Moses ac Eleasar i lawr o’r mynydd. 29 Pan welodd y gynulleidfa fod Aaron wedi marw, dyma Israel i gyd yn galaru dros Aaron am 30 diwrnod.

21 Pan wnaeth brenin Arad, y Canaanead a oedd yn byw yn y Negef, glywed bod Israel wedi dod ar hyd ffordd Atharim, ymosododd ar Israel a chymryd rhai ohonyn nhw’n gaeth. 2 Felly dyma Israel yn tyngu’r llw hwn i Jehofa: “Os gwnei di roi’r bobl hyn yn ein dwylo, yn bendant gwnawn ni ddinistrio eu dinasoedd nhw.” 3 Felly gwrandawodd Jehofa ar Israel, a rhoddodd y Canaaneaid yn eu dwylo, a gwnaethon nhw eu dinistrio nhw a’u dinasoedd yn llwyr. Felly rhoddon nhw’r enw Horma* ar y lle hwnnw.

4 Wrth iddyn nhw barhau ar eu taith o Fynydd Hor, gan fynd ar hyd ffordd y Môr Coch er mwyn osgoi mynd i mewn i wlad Edom, dechreuodd y bobl flino oherwydd y daith. 5 Ac roedd y bobl yn dal i siarad yn erbyn Duw a Moses, gan ddweud: “Pam rydych chi wedi dod â ni i fyny allan o’r Aifft i farw yn yr anialwch yma? Does ’na ddim bwyd na dŵr, ac rydyn ni’n casáu’r bara gwarthus hwn.” 6 Felly anfonodd Jehofa nadroedd* gwenwynig* ymysg y bobl, ac roedden nhw’n parhau i frathu’r bobl, fel bod llawer o Israeliaid yn marw.

7 Felly daeth y bobl at Moses a dweud: “Rydyn ni wedi pechu drwy siarad yn erbyn Jehofa ac yn dy erbyn di. Gweddïa ar Jehofa er mwyn iddo gael gwared ar y nadroedd hyn.” A gweddïodd Moses ar ran y bobl. 8 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Gwna gerflun o neidr wenwynig* a’i rhoi ar bolyn. Yna pan fydd rhywun yn cael ei frathu, bydd rhaid iddo edrych arni er mwyn aros yn fyw.” 9 Ar unwaith gwnaeth Moses neidr gopr a’i rhoi ar y polyn, a phryd bynnag byddai dyn yn edrych ar y neidr gopr ar ôl cael ei frathu gan neidr, byddai’n goroesi.

10 Ar ôl hynny dyma’r Israeliaid yn gadael ac yn gwersylla yn Oboth. 11 Yna gadawon nhw Oboth a gwersylla yn Ie-abarim, yn yr anialwch sy’n wynebu Moab, i gyfeiriad y dwyrain. 12 Gwnaethon nhw adael fan ’na a gwersylla wrth Ddyffryn* Sered. 13 Ar ôl gadael y lle hwnnw gwnaethon nhw wersylla yn ardal Dyffryn Arnon, sydd yn yr anialwch sy’n ymestyn o ffin yr Amoriaid, oherwydd Dyffryn Arnon yw ffin Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid. 14 Dyna pam mae Llyfr Rhyfeloedd Jehofa yn sôn am “Waheb yn Suffa a dyffrynnoedd* Arnon, 15 ac mae llethrau’r dyffrynnoedd* yn ymestyn i lawr tuag at safle Ar, ac yn mynd ar hyd ffin Moab.”

16 Nesaf aethon nhw yn eu blaenau i Beer. Dyma’r ffynnon y soniodd Jehofa amdani wrth Moses pan ddywedodd: “Casgla’r bobl, ac fe wna i roi dŵr iddyn nhw.”

17 Bryd hynny, canodd Israel y gân hon:

“Ffrydia,* O ffynnon!—Canwch iddi!

18 Y ffynnon a gafodd ei chloddio gan benaethiaid y bobl,

Yr un gwnaeth y tywysogion ei hagor,

 ffon pennaeth ac â’u ffyn eu hunain.”

Yna aethon nhw o’r anialwch ymlaen i Mattana, 19 o Mattana ymlaen i Nahaliel, ac o Nahaliel ymlaen i Bamoth. 20 Aethon nhw yn eu blaenau o Bamoth i’r dyffryn sydd yn nhiriogaeth Moab, i fyny yn ardal fynyddig Pisga, sy’n edrych i lawr dros Jesimon.*

21 Yna anfonodd Israel negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, yn dweud: 22 “Plîs gad inni deithio drwy dy wlad. Fyddwn ni ddim yn troi i mewn i unrhyw gae na gwinllan nac yn yfed dŵr unrhyw ffynnon. Byddwn ni’n martsio* ar Briffordd y Brenin nes inni adael dy diriogaeth.” 23 Ond ni wnaeth Sihon ganiatáu i Israel deithio drwy ei diriogaeth. Yn hytrach, casglodd Sihon ei bobl i gyd at ei gilydd a mynd allan yn erbyn Israel yn yr anialwch, a daethon nhw at Jahas a dechrau ymladd ag Israel. 24 Ond gwnaeth Israel ei drechu â’r cleddyf, a chymryd ei wlad o Ddyffryn Arnon i Ddyffryn Jabboc, yn agos i diriogaeth yr Ammoniaid, ond nid ymhellach na Jaser, oherwydd mae Jaser ar ffin tiriogaeth yr Ammoniaid.

25 Felly cymerodd Israel y dinasoedd hyn i gyd, a dechreuon nhw fyw yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon a’i threfi cyfagos i gyd. 26 Oherwydd Hesbon oedd dinas Sihon, brenin yr Amoriaid, a oedd wedi brwydro â brenin Moab a chymryd ei holl diriogaeth oddi arno mor bell â Dyffryn Arnon. 27 Dyna sut dechreuodd y dywediad sarhaus adnabyddus hwn:

“Dewch i Hesbon.

Gadewch i ddinas Sihon gael ei hadeiladu a’i sefydlu’n gadarn.

28 Oherwydd daeth tân allan o Hesbon, fflam o dref Sihon.

Mae wedi llosgi Ar ym Moab, ac arglwyddi ucheldir Dyffryn Arnon.

29 Gwae di, Moab! Byddwch chi’n cael eich dinistrio, O bobl Cemos!

Mae’n gwneud ei feibion yn ffoaduriaid, a’i ferched yn gaethion i Sihon, brenin yr Amoriaid.

30 Dewch inni saethu atyn nhw;

Bydd Hesbon yn cael ei dinistrio mor bell â Dibon;

Dewch inni ei difa mor bell â Noffa;

Bydd tân yn lledaenu mor bell â Medeba.”

31 Felly dechreuodd Israel fyw yng ngwlad yr Amoriaid. 32 Yna anfonodd Moses rai dynion i ysbïo ar Jaser. Gwnaethon nhw gipio ei threfi cyfagos a gyrru allan yr Amoriaid a oedd yno. 33 Wedyn dyma nhw’n troi ac yn mynd i fyny ar hyd Ffordd Basan. A daeth Og, brenin Basan, allan gyda’i bobl i gyd er mwyn brwydro yn eu herbyn nhw yn Edrei. 34 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Paid â’i ofni, oherwydd bydda i’n ei roi ef a’i bobl i gyd a’i wlad yn dy ddwylo, a byddi di’n gwneud iddo ef fel y gwnest ti i Sihon, brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon.” 35 Felly roedden nhw’n parhau i’w daro i lawr, ynghyd â’i feibion a’i holl bobl, nes eu bod nhw i gyd wedi marw, a gwnaethon nhw feddiannu ei wlad.

22 Yna dyma’r Israeliaid yn gadael ac yn gwersylla yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho. 2 Nawr roedd Balac fab Sippor wedi gweld popeth roedd Israel wedi ei wneud i’r Amoriaid, 3 a dechreuodd y Moabiaid ofni’r Israeliaid, am fod ’na gymaint ohonyn nhw; yn wir roedden nhw wedi codi arswyd ar y Moabiaid. 4 Felly dywedodd y Moabiaid wrth henuriaid Midian: “Nawr bydd y gynulleidfa hon yn llyncu popeth o’n cwmpas ni, yn union fel mae tarw yn llyncu holl laswellt* y cae.”

Balac fab Sippor oedd brenin Moab ar y pryd. 5 Anfonodd Balac negeswyr at Balaam fab Beor yn Pethor, sydd wrth ymyl yr Afon* yn ei famwlad. Anfonodd amdano, gan ddweud: “Edrycha! Mae pobl wedi dod allan o’r Aifft. Edrycha! Maen nhw wedi gorchuddio wyneb y ddaear,* ac maen nhw’n byw yn agos iawn at fy nhiriogaeth. 6 Nawr plîs, tyrd a melltithio’r bobl hyn imi, oherwydd maen nhw’n gryfach na fi. Wedyn efallai galla i eu trechu nhw a’u gyrru nhw allan o’r wlad, oherwydd rydw i’n gwybod yn iawn y daw bendith ar yr un rwyt ti’n ei fendithio, ac y daw melltith ar yr un rwyt ti’n ei felltithio.”

7 Felly teithiodd henuriaid Moab a henuriaid Midian gyda’r tâl ar gyfer dewino yn eu dwylo, a mynd at Balaam a chyfleu neges Balac iddo. 8 Ar hynny, dywedodd wrthyn nhw: “Arhoswch yma heno, a bydda i’n adrodd yn ôl wrthoch chi beth bynnag mae Jehofa’n ei ddweud wrtho i.” Felly arhosodd tywysogion Moab gyda Balaam.

9 Yna daeth Duw at Balaam a dweud: “Pwy ydy’r dynion hyn sydd gyda ti?” 10 Dywedodd Balaam wrth y gwir Dduw: “Mae Balac fab Sippor, brenin Moab, wedi anfon neges ata i, yn dweud: 11 ‘Edrycha! Mae’r bobl sy’n dod allan o’r Aifft yn gorchuddio wyneb y ddaear.* Nawr tyrd i’w melltithio nhw imi. Wedyn efallai bydda i’n gallu brwydro yn eu herbyn nhw a’u gyrru nhw allan.’” 12 Ond dywedodd Duw wrth Balaam: “Paid â mynd gyda nhw, a phaid â melltithio’r bobl, oherwydd rydw i wedi eu bendithio nhw.”

13 Pan gododd Balaam yn y bore, dywedodd wrth dywysogion Balac: “Ewch yn ôl i’ch gwlad, oherwydd mae Jehofa wedi gwrthod gadael imi fynd gyda chi.” 14 Felly gadawodd tywysogion Moab a mynd yn ôl at Balac, a dweud wrtho: “Mae Balaam wedi gwrthod dod gyda ni.”

15 Ond dyma Balac yn anfon tywysogion unwaith eto, yn fwy niferus ac yn fwy anrhydeddus na’r grŵp cyntaf. 16 Daethon nhw at Balaam a dweud wrtho: “Dyma beth mae Balac fab Sippor wedi ei ddweud, ‘Plîs paid â gadael i unrhyw beth dy rwystro di rhag dod ata i, 17 oherwydd bydda i’n dy anrhydeddu di’n fawr, a bydda i’n gwneud unrhyw beth rwyt ti’n ei ddweud wrtho i. Felly tyrd, plîs, a melltithia’r bobl hyn imi.’” 18 Ond atebodd Balaam: “Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei dŷ cyfan imi, yn llawn arian ac aur, allwn i ddim gwneud unrhyw beth, yn fach neu’n fawr, sy’n mynd yn groes i orchymyn Jehofa fy Nuw. 19 Ond plîs arhoswch yma heno hefyd, er mwyn imi ddysgu beth arall bydd Jehofa’n ei ddweud wrtho i.”

20 Yna daeth Duw at Balaam yn ystod y nos a dywedodd wrtho: “Os ydy’r dynion hyn wedi dod i dy nôl di, dos gyda nhw. Ond dylet ti ddweud y geiriau rydw i’n eu rhoi iti yn unig.” 21 Felly cododd Balaam yn y bore a pharatoi* ei asen, a mynd gyda thywysogion Moab.

22 Ond gwylltiodd Duw am ei fod yn mynd, a safodd angel Jehofa ar y ffordd er mwyn ei rwystro. Roedd Balaam yn teithio ar ei asen, ac roedd dau o’i weision gydag ef. 23 A phan welodd yr asen angel Jehofa yn sefyll yn y ffordd â chleddyf yn ei law, ceisiodd droi oddi ar y ffordd i mewn i gae. Ond dechreuodd Balaam guro’r asen er mwyn gwneud iddi fynd yn ôl ar y ffordd. 24 Yna safodd angel Jehofa ar lwybr cul rhwng dwy winllan, gyda waliau cerrig ar y ddwy ochr. 25 Pan welodd yr asen angel Jehofa, dechreuodd wthio ei hun yn erbyn y wal, gan wasgu troed Balaam yn erbyn y wal, a dechreuodd Balaam ei churo hi unwaith eto.

26 Yna, dyma angel Jehofa yn pasio heibio unwaith eto ac yn sefyll mewn man cul lle doedd ’na ddim modd troi i’r dde nac i’r chwith. 27 Pan welodd yr asen angel Jehofa, gorweddodd i lawr o dan Balaam, felly gwylltiodd Balaam a dechrau curo’r asen eto â’i ffon. 28 Yna dyma Jehofa’n achosi i’r asen siarad, a dywedodd hi wrth Balaam: “Beth rydw i wedi ei wneud iti i haeddu cael fy nghuro dair gwaith gen ti?” 29 Atebodd Balaam: “Am dy fod ti wedi gwneud imi edrych fel ffŵl. Petaswn i ond â chleddyf yn fy llaw, byddwn i’n dy ladd di!” 30 Yna dywedodd yr asen wrth Balaam: “Onid dy asen di ydw i? Yr un rwyt ti wedi teithio arni ar hyd dy fywyd hyd heddiw? Ydw i erioed wedi dy drin di fel hyn o’r blaen?” Atebodd: “Naddo!” 31 Yna agorodd Jehofa lygaid Balaam, fel ei fod yn gallu gweld angel Jehofa yn sefyll ar y ffordd â chleddyf yn ei law. Ar unwaith, plygodd yn isel ac ymgrymu â’i wyneb ar y llawr.

32 Yna dywedodd angel Jehofa wrtho: “Pam gwnest ti guro dy asen dair gwaith fel hyn? Edrycha! Des i fy hun allan i dy rwystro di, oherwydd mae dy daith yn erbyn fy ewyllys i. 33 Roedd yr asen wedi fy ngweld i, ac wedi ceisio troi oddi wrtho i dair gwaith. Meddylia beth fyddai wedi digwydd petai hi heb droi oddi wrtho i! Erbyn hyn, byddwn i wedi dy ladd di a gadael i’r asen fyw.” 34 Dywedodd Balaam wrth angel Jehofa: “Rydw i wedi pechu, oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod mai ti oedd yn sefyll ar y ffordd i fy nghyfarfod i. Nawr os ydy fy nhaith yn ddrwg yn dy olwg, bydda i’n mynd yn ôl.” 35 Ond dywedodd angel Jehofa wrth Balaam: “Dos gyda’r dynion, ond dylet ti ddweud y geiriau rydw i’n eu rhoi iti yn unig.” Felly aeth Balaam yn ei flaen gyda thywysogion Balac.

36 Pan glywodd Balac fod Balaam wedi cyrraedd, aeth allan i’w gyfarfod ar unwaith yn ninas Moab, sydd ar lannau afon Arnon ar ffiniau ei diriogaeth. 37 Dywedodd Balac wrth Balaam: “Oni wnes i anfon amdanat ti? Pam wnest ti ddim dod ata i? A oeddet ti’n meddwl nad oes gen i’r gallu i dy anrhydeddu di’n fawr?” 38 Atebodd Balaam: “Wel, rydw i yma nawr. Ond a fydda i’n cael dweud unrhyw beth? Rydw i ond yn gallu dweud y geiriau mae Duw’n eu rhoi yn fy ngheg.”

39 Felly aeth Balaam gyda Balac, a daethon nhw i Ciriath-husoth. 40 Aberthodd Balac wartheg a defaid a rhoi rhai ohonyn nhw i Balaam a’r tywysogion a oedd gydag ef. 41 Yn y bore, aeth Balac â Balaam i fyny i Bamoth-baal; ac o fan ’na roedd yn gallu gweld y bobl i gyd.

23 Yna dywedodd Balaam wrth Balac: “Adeilada saith allor yn fan hyn, a pharatoa saith tarw a saith hwrdd* imi.” 2 Ar unwaith, gwnaeth Balac yn union fel roedd Balaam wedi dweud, ac offrymodd Balac a Balaam darw a hwrdd* ar bob allor. 3 Yna dywedodd Balaam wrth Balac: “Arhosa yma gyda dy offrwm llosg, a gwna i fynd. Efallai bydd Jehofa yn dod i fy nghyfarfod i. Beth bynnag y bydd yn ei ddatgelu imi, gwna i roi gwybod iti.” Felly aeth i fyny bryn anial.

4 Yna, daeth Duw i’w gyfarfod a dywedodd Balaam wrtho: “Gwnes i osod y saith allor mewn rhesi, ac offrymu tarw a hwrdd* ar bob allor.” 5 Rhoddodd Jehofa ei eiriau yng ngheg Balaam, a dywedodd wrtho: “Dos yn ôl at Balac, a dyma beth dylet ti ei ddweud.” 6 Felly aeth yn ôl a gwelodd fod Balac a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ymyl ei offrwm llosg. 7 Yna dywedodd y neges farddonol hon:

“Daeth Balac brenin Moab â fi yma o Aram,

O fynyddoedd y dwyrain:

‘Tyrd i felltithio Jacob imi.

Ie, tyrd i gondemnio Israel.’

 8 Ond sut gallwn i felltithio’r rhai nad ydy Duw wedi eu melltithio?

A sut gallwn i gondemnio’r rhai nad ydy Jehofa wedi eu condemnio?

 9 O ben y creigiau rydw i’n eu gweld nhw,

Ac o ben y bryniau rydw i’n eu gweld nhw.

Pobl yn byw yno ar eu pennau eu hunain;

Maen nhw wedi eu gwahanu eu hunain oddi wrth y cenhedloedd.

10 Mae Jacob mor niferus â llwch—pwy all eu cyfri nhw?

Neu gyfri hyd yn oed chwarter pobl Israel?

Gad imi farw fel rhywun cyfiawn,

A gad i ddiwedd fy mywyd i fod fel eu diwedd nhw.”

11 Yna dywedodd Balac wrth Balaam: “Beth rwyt ti wedi ei wneud imi? Des i â ti yma i felltithio fy ngelynion, ond y cwbl rwyt ti wedi ei wneud ydy eu bendithio nhw!” 12 Atebodd: “Rydw i ond yn gallu dweud y geiriau mae Jehofa yn eu rhoi yn fy ngheg.”

13 Dywedodd Balac wrtho: “Plîs tyrd gyda mi i rywle arall lle byddi di’n gallu eu gweld nhw. Byddi di ond yn gweld rhai ohonyn nhw, nid pawb. Melltithia nhw imi o fan ’na.” 14 Felly dyma’n ei gymryd i gae Soffim, ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd darw a hwrdd* ar bob allor. 15 Felly dywedodd Balaam wrth Balac: “Arhosa yma wrth ymyl dy offrwm llosg tra fy mod i’n mynd i gyfarfod Duw draw fan ’na.” 16 A daeth Jehofa i gyfarfod Balaam a rhoddodd ei eiriau yn ei geg, yna dywedodd wrtho: “Dos yn ôl at Balac, a dyma beth dylet ti ei ddweud.” 17 Felly aeth ato a gweld ei fod yn aros wrth ymyl ei offrwm llosg, ac roedd tywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac: “Beth ddywedodd Jehofa?” 18 Yna dywedodd y neges farddonol hon:

“Cod, Balac, a thala sylw.

Gwranda arna i, O fab Sippor.

19 Nid dyn sy’n dweud celwydd ydy Duw,

Na dyn meidrol sy’n newid ei feddwl.*

Pan mae’n dweud rhywbeth, oni fydd yn gwneud hynny?

Pan mae’n addo rhywbeth, oni fydd yn ei gyflawni?

20 Edrycha! Rydw i yma i fendithio;

Nawr, mae Ef wedi bendithio, ac ni alla i ddad-wneud hynny.

21 Dydy Ef ddim yn goddef unrhyw rym hudolus yn erbyn Jacob,

Nac yn caniatáu unrhyw helynt yn erbyn Israel.

Mae Jehofa ei Dduw gyda nhw,

Maen nhw’n cyhoeddi’n uchel Ei fod yn frenin.

22 Mae Duw yn dod â nhw allan o’r Aifft.

Mae’n eu helpu nhw gyda’i nerth, sydd fel cyrn tarw gwyllt.

23 Oherwydd ni all unrhyw swyn wneud niwed i Jacob,

Nac unrhyw ddewiniaeth yn erbyn Israel.

Nawr gall pobl ddweud ynglŷn â Jacob ac Israel:

‘Edrychwch beth mae Duw wedi ei wneud!’

24 Dyma bobl a fydd yn sefyll fel llew,

Ac yn debyg i lew, bydd yn ei godi ei hun i fyny.

Ni fydd yn gorwedd i lawr nes iddo fwyta ysglyfaeth

Ac yfed gwaed yr anifeiliaid a laddodd.”

25 Yna dywedodd Balac wrth Balaam: “Os nad wyt ti’n gallu eu melltithio nhw, yna ddylet ti ddim eu bendithio nhw chwaith.” 26 Atebodd Balaam: “Oni ddywedais i, ‘Bydda i’n gwneud popeth mae Jehofa’n ei ddweud’?”

27 Dywedodd Balac wrth Balaam: “Plîs tyrd gyda mi i rywle arall. Efallai bydd hi’n dda yng ngolwg y gwir Dduw iti eu melltithio nhw i mi o fan ’na.” 28 Felly dyma Balac yn mynd â Balaam i ben Peor, sy’n edrych allan dros Jesimon.* 29 Yna dywedodd Balaam wrth Balac: “Adeilada saith allor yn fan hyn, a pharatoa saith tarw a saith hwrdd* imi.” 30 Felly gwnaeth Balac fel roedd Balaam wedi dweud, ac offrymodd darw a hwrdd* ar bob allor.

24 Pan welodd Balaam fod bendithio Israel wedi plesio Jehofa, nid aeth ef allan eto i chwilio am swynion niweidiol, ond trodd ei wyneb tuag at yr anialwch. 2 Pan gododd Balaam ei lygaid a gweld Israel wedi gwersylla yn ôl eu llwythau, daeth ysbryd Duw arno. 3 Yna dywedodd y neges farddonol hon:

“Neges Balaam fab Beor,

Neges y dyn sydd bellach â llygaid agored,

 4 Neges yr un sy’n clywed gair Duw,

Yr un a gafodd weledigaeth o’r Hollalluog,

Ac sydd wedi ymgrymu i lawr â’i lygaid wedi eu hagor:

 5 Mor brydferth yw dy bebyll, O Jacob,

Dy wersylloedd,* O Israel!

 6 Maen nhw wedi ymestyn yn bell fel y dyffrynnoedd,*

Fel gerddi wrth ymyl yr afon,

Fel aloewydd wedi eu plannu gan Jehofa,

Fel coed cedrwydd wrth ymyl y dyfroedd.

 7 Mae dŵr yn diferu o’i ddau fwced lledr,

Ac mae ei had* wedi ei hau wrth lawer o ddyfroedd.

Bydd ei frenin hefyd yn fwy nag Agag,

A bydd ei deyrnas yn cael ei dyrchafu.

 8 Mae Duw yn dod ag ef allan o’r Aifft,

Mae’n eu helpu nhw â’i nerth sydd fel cyrn tarw gwyllt.

Bydd Israel* yn llyncu’r cenhedloedd, ei wrthwynebwyr,

A bydd yn cnoi eu hesgyrn, ac yn eu dryllio â’i saethau.

 9 Mae wedi plygu i lawr, mae wedi gorwedd i lawr fel llew,

Ac fel llew, pwy sy’n meiddio tarfu arno?

Bendith ar y rhai sy’n dy fendithio,

A melltith ar y rhai sy’n dy felltithio.”

10 Yna gwylltiodd Balac yn lân â Balaam, a chlapiodd ei ddwylo yn ddirmygus. Dywedodd wrth Balaam: “Gwnes i dy alw di er mwyn melltithio fy ngelynion, ond nawr yr unig beth rwyt ti wedi ei wneud ydy eu bendithio nhw dair gwaith. 11 Nawr dos adref ar unwaith. Roeddwn i’n bwriadu dy fendithio’n fawr, ond edrycha! mae Jehofa wedi fy rhwystro i rhag gwneud hynny.”

12 Atebodd Balaam: “Oni ddywedais i wrth dy negeswyr, 13 ‘Petai Balac yn rhoi ei dŷ yn llawn arian ac aur imi, allwn i ddim gwneud unrhyw beth ar fy liwt fy hun, yn dda neu’n ddrwg, sy’n mynd yn groes i orchymyn Jehofa. Bydda i ond yn dweud beth bydd Jehofa yn ei ddweud wrtho i’? 14 Nawr rydw i’n mynd i ffwrdd at fy mhobl. Gad imi ddweud wrthot ti beth bydd y bobl hyn yn ei wneud i dy bobl di yn y dyfodol.” 15 Felly dywedodd y neges farddonol hon:

“Neges Balaam fab Beor,

Neges y dyn sydd bellach â llygaid agored,

16 Neges yr un sy’n clywed gair Duw,

A’r un sydd â gwybodaeth am y Goruchaf,

A gafodd weledigaeth o’r Hollalluog,

Wrth ymgrymu â’i lygaid wedi eu hagor:

17 Bydda i’n ei weld, ond nid nawr;

Bydda i’n edrych arno, ond nid yn fuan.

Bydd seren yn dod allan o Jacob,

A bydd gwialen* yn codi allan o Israel.

Bydd ef yn bendant yn malu talcen Moab yn ddarnau,

A phenglogau’r holl filwyr treisgar.

18 Bydd Israel yn meddiannu Edom,

A bydd Seir yn cael ei chymryd gan ei gelynion,*

Tra bod Israel yn dangos ei ddewrder.

19 Bydd un o blith Jacob yn trechu ei elynion,

Bydd ef yn dinistrio unrhyw un o’r ddinas sy’n goroesi.”

20 Pan welodd Amalec, daliodd ati i adrodd ei neges farddonol:

“Amalec oedd y cyntaf o’r cenhedloedd,

Ond yn y pen draw bydd yn cael ei ddinistrio.”

21 Pan welodd y Ceneaid, daliodd ati i adrodd ei neges farddonol:

“Mae dy gartref yn sefydlog, wedi ei osod ar y graig.

22 Ond bydd rhywun yn llosgi Cain i lawr,

Pa mor hir nes bydd Asyria yn dy gaethgludo?”

23 Daliodd ati â’i neges farddonol:

“O na! Pwy fydd yn goroesi pan fydd Duw yn gwneud hyn?

24 Bydd llongau yn dod o arfordir Cittim,

I ymosod ar Asyria,

Ac i ymosod ar Eber.

Ond bydd ef hefyd yn cael ei ddinistrio’n llwyr.”

25 Yna cododd Balaam a mynd ar ei ffordd, a dyma Balac yn gadael hefyd.

25 Pan oedd Israel yn aros yn Sittim, dechreuodd y bobl gyflawni anfoesoldeb rhywiol gyda merched Moab. 2 Dyma’r merched* yn gwahodd y bobl i fynd gyda nhw i aberthu i’w duwiau, a dechreuodd y bobl fwyta ac ymgrymu i’w duwiau. 3 Felly gwnaeth Israel ymuno â nhw i addoli Baal Peor, a gwylltiodd Jehofa ag Israel. 4 Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Cymera holl arweinwyr y bobl a hongian eu cyrff meirw o flaen Jehofa yng ngolwg pawb, fel bod dicter tanbaid Jehofa yn troi i ffwrdd oddi wrth Israel.” 5 Yna dywedodd Moses wrth farnwyr Israel: “Dylai pob un ohonoch chi ladd ei ddynion a gymerodd ran yn addoli Baal Peor.”

6 Ond yna, daeth un o’r Israeliaid â dynes* o Midian i mewn i’r gwersyll, a hynny yng ngolwg Moses a holl gynulleidfa Israel, tra eu bod nhw’n wylo wrth fynedfa pabell y cyfarfod. 7 Pan wnaeth Phineas fab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad weld hyn, cododd ar unwaith o ganol y gynulleidfa a gafael mewn gwaywffon. 8 Yna, dilynodd yr Israeliad i mewn i’r babell a thrywanu’r ddau ohonyn nhw—yr Israeliad, a’r ddynes* yn ei bol.* Gyda hynny, daeth y pla ar yr Israeliaid i ben. 9 Cyfanswm y rhai a fu farw o’r pla oedd 24,000.

10 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 11 “Mae Phineas fab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad wedi troi fy nicter i ffwrdd oddi wrth bobl Israel am nad ydy ef wedi goddef unrhyw anffyddlondeb tuag ata i yn eu plith. Dyna pam dydw i ddim wedi dinistrio’r Israeliaid, er fy mod i’n mynnu eu bod nhw’n fy addoli i yn unig. 12 Felly dyweda wrth Phineas fy mod i’n gwneud cyfamod heddwch ag ef. 13 A bydd y cyfamod hwn yn golygu y bydd ef a’i ddisgynyddion ar ei ôl yn gwasanaethu fel offeiriaid yn barhaol, am nad oedd ef wedi goddef unrhyw anffyddlondeb tuag at ei Dduw, ac mae wedi cael maddeuant i bobl Israel.”

14 Fel mae’n digwydd, enw’r Israeliad a gafodd ei ladd gyda’r ddynes* o Midian oedd Simri fab Salu, a oedd yn bennaeth ar un o deuluoedd estynedig Simeon. 15 Enw’r ddynes* o Midian a gafodd ei lladd oedd Cosbi ferch Sur; roedd ef yn bennaeth ar un o lwythau Midian.

16 Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Jehofa wrth Moses: 17 “Mae’n rhaid ichi drin y Midianiaid fel gelynion, a’u taro nhw i lawr, 18 oherwydd eu bod nhw wedi creu helynt ichi drwy eich twyllo chi i addoli Baal Peor a gwneud ichi bechu drwy beth wnaeth Cosbi, merch un o benaethiaid Midian, a gafodd ei rhoi i farwolaeth ar y diwrnod y daeth y pla yn eich erbyn am eich bod wedi addoli Baal Peor.”

26 Ar ôl y pla, dywedodd Jehofa wrth Moses ac Eleasar fab Aaron yr offeiriad: 2 “Gwnewch gyfrifiad o holl gynulleidfa’r Israeliaid, y rhai sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn, yn ôl eu grwpiau o deuluoedd, gan gyfri pawb sy’n gallu gwasanaethu ym myddin Israel.” 3 Felly siaradodd Moses ac Eleasar yr offeiriad â’r bobl yn anialwch Moab, wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho, gan ddweud: 4 “Gwnewch gyfrifiad o bawb sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn, yn union fel mae Jehofa wedi gorchymyn i Moses.”

Nawr y rhain oedd meibion Israel a adawodd wlad yr Aifft: 5 Reuben, mab cyntaf-anedig Israel; meibion Reuben oedd: o Hanoch, teulu’r Hanochiaid; o Palu, teulu’r Paluiaid; 6 o Hesron, teulu’r Hesroniaid; o Carmi, teulu’r Carmiaid. 7 Dyma oedd teuluoedd llwyth Reuben, a chafodd 43,730 o’u dynion eu cofrestru.

8 Mab Palu oedd Eliab. 9 Meibion Eliab oedd Nemuel, Dathan, ac Abiram. Dathan ac Abiram oedd cynrychiolwyr y gynulleidfa, a wnaeth ymuno â grŵp Cora i wrthryfela yn erbyn Moses ac Aaron, ac felly yn erbyn Jehofa hefyd.

10 Yna agorodd y ddaear a’u llyncu nhw. Bu farw Cora a’i gefnogwyr pan gafodd 250 o ddynion eu llosgi mewn tân. A daeth eu hesiampl yn rhybudd i eraill. 11 Ond ni chafodd meibion Cora eu lladd.

12 Meibion Simeon yn ôl eu teuluoedd oedd: o Nemuel, teulu’r Nemueliaid; o Jamin, teulu’r Jaminiaid; o Jachin, teulu’r Jachiniaid; 13 o Sera, teulu’r Serahiaid; o Saul, teulu’r Sauliaid. 14 Dyma oedd teuluoedd llwyth Simeon: 22,200.

15 Meibion Gad yn ôl eu teuluoedd oedd: o Seffon, teulu’r Seffoniaid; o Haggi, teulu’r Haggiaid; o Suni, teulu’r Suniaid; 16 o Osni, teulu’r Osniaid; o Eri, teulu’r Eriaid; 17 o Arod, teulu’r Arodiaid; o Areli, teulu’r Areliaid. 18 Dyma oedd teuluoedd meibion Gad, a chafodd 40,500 o’u dynion eu cofrestru.

19 Meibion Jwda oedd Er ac Onan. Ond, bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan. 20 A meibion Jwda yn ôl eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu’r Selaniaid; o Peres, teulu’r Peresiaid; o Sera, teulu’r Serahiaid. 21 A meibion Peres oedd: o Hesron, teulu’r Hesroniaid; o Hamul, teulu’r Hamuliaid. 22 Dyma oedd teuluoedd Jwda, a chafodd 76,500 o’u dynion eu cofrestru.

23 Meibion Issachar yn ôl eu teuluoedd oedd: o Tola, teulu’r Tolaiaid; o Pufa, teulu’r Puniaid; 24 o Jasub, teulu’r Jasubiaid; o Simron, teulu’r Simroniaid. 25 Dyma oedd teuluoedd Issachar, a chafodd 64,300 o’u dynion eu cofrestru.

26 Meibion Sabulon yn ôl eu teuluoedd oedd: o Sered, teulu’r Serediaid; o Elon, teulu’r Eloniaid; o Jahleel, teulu’r Jahleeliaid. 27 Dyma oedd teuluoedd Sabulon, a chafodd 60,500 o’u dynion eu cofrestru.

28 Meibion Joseff yn ôl eu teuluoedd oedd: Manasse ac Effraim. 29 Meibion Manasse oedd: o Machir, teulu’r Machiriaid; a daeth Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu’r Gileadiaid. 30 Dyma oedd meibion Gilead: o Ieser, teulu’r Ieseriaid; o Helec, teulu’r Heleciaid; 31 o Asriel, teulu’r Asrieliaid; o Sechem, teulu’r Sechemiaid; 32 o Semida, teulu’r Semidiaid; o Heffer, teulu’r Hefferiaid. 33 Nawr doedd gan Seloffehad fab Heffer ddim meibion, dim ond merched, ac enwau merched Seloffehad oedd Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa. 34 Dyma oedd teuluoedd Manasse, a chafodd 52,700 o’u dynion eu cofrestru.

35 Dyma oedd meibion Effraim yn ôl eu teuluoedd: o Suthela, teulu’r Sutheliaid; o Becher, teulu’r Becheriaid; o Tahan, teulu’r Tahaniaid. 36 A meibion Suthela oedd: o Eran, teulu’r Eraniaid. 37 Dyma oedd teuluoedd meibion Effraim, a chafodd 32,500 o’u dynion eu cofrestru. Y rhain oedd meibion Joseff yn ôl eu teuluoedd.

38 Meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd oedd: o Bela, teulu’r Belaiaid; o Asbel, teulu’r Asbeliaid; o Ahiram, teulu’r Ahiramiaid; 39 o Seffuffam, teulu’r Suffamiaid; o Huffam, teulu’r Huffamiaid. 40 Meibion Bela oedd Ard a Naaman; o Ard, teulu’r Ardiaid; o Naaman, teulu’r Naamaniaid. 41 Dyma oedd meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd, a chafodd 45,600 o’u dynion eu cofrestru.

42 Dyma oedd meibion Dan yn ôl eu teuluoedd: o Suham, teulu’r Suhamiaid. Y rhain oedd teuluoedd Dan yn ôl eu teuluoedd. 43 O holl deuluoedd y Suhamiaid, cafodd 64,400 eu cofrestru.

44 Meibion Aser yn ôl eu teuluoedd oedd: o Imna, teulu’r Imniaid; o Isfi, teulu’r Isfiaid; o Bereia, teulu’r Bereiaid; 45 o feibion Bereia: o Heber, teulu’r Heberiaid; o Malchiel, teulu’r Malchieliaid. 46 Enw merch Aser oedd Sera. 47 Dyma oedd teuluoedd meibion Aser, a chafodd 53,400 o’u dynion eu cofrestru.

48 Meibion Nafftali yn ôl eu teuluoedd oedd: o Jahseel, teulu’r Jahseeliaid; o Guni, teulu’r Guniaid; 49 o Jeser, teulu’r Jeseriaid; o Silem, teulu’r Silemiaid. 50 Dyma oedd teuluoedd Nafftali yn ôl eu teuluoedd, a chafodd 45,400 o’u dynion eu cofrestru.

51 Cafodd cyfanswm o 601,730 o Israeliaid eu cofrestru.

52 Ar ôl hynny, dywedodd Jehofa wrth Moses: 53 “Dylai’r wlad gael ei rhannu rhwng y rhain fel etifeddiaeth, yn ôl y rhestr o enwau.* 54 Dylet ti roi mwy o etifeddiaeth i’r grwpiau mawr, a llai i’r grwpiau bach. Dylet ti rannu’r etifeddiaeth yn ôl y nifer sydd wedi cael eu cofrestru ym mhob grŵp. 55 Ond dylet ti rannu’r tir drwy daflu coelbren. Dylen nhw dderbyn eu hetifeddiaeth yn ôl enwau llwythau eu tadau. 56 Bydd pob etifeddiaeth yn cael ei dewis drwy daflu coelbren, ac yn cael ei rhannu rhwng y grwpiau bach a mawr.”

57 Dyma’r rhai a gafodd eu cofrestru ymhlith y Lefiaid yn ôl eu teuluoedd: o Gerson, teulu’r Gersoniaid; o Cohath, teulu’r Cohathiaid; o Merari, teulu’r Merariaid. 58 Dyma oedd teuluoedd y Lefiaid: teulu’r Libniaid, teulu’r Hebroniaid, teulu’r Mahliaid, teulu’r Musiaid, a theulu’r Corahiaid.

Daeth Cohath yn dad i Amram. 59 Enw gwraig Amram oedd Jochebed, merch Lefi, a gafodd ei geni i Lefi yn yr Aifft. Ac i Amram gwnaeth Jochebed eni Aaron, Moses, a’u chwaer Miriam. 60 Yna cafodd Nadab, Abihu, Eleasar, ac Ithamar eu geni i Aaron. 61 Ond cafodd Nadab ac Abihu eu lladd am gyflwyno tân anghyfreithlon o flaen Jehofa.

62 Cafodd cyfanswm o 23,000 o bobl eu cofrestru, i gyd yn wrywod yn fis oed neu’n hŷn. Ni chawson nhw eu cofrestru ymhlith yr Israeliaid, oherwydd doedden nhw ddim am gael etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.

63 Dyma’r rhai a gafodd eu cofrestru gan Moses ac Eleasar yr offeiriad pan wnaethon nhw gofrestru’r Israeliaid yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho. 64 Ond yn eu plith, doedd ’na neb a gafodd ei gofrestru gan Moses ac Aaron yr offeiriad pan wnaethon nhw gyfrifiad o’r Israeliaid yn anialwch Sinai. 65 Oherwydd roedd Jehofa wedi dweud ynglŷn â nhw: “Byddan nhw’n bendant yn marw yn yr anialwch.” Felly doedd dim un o’r dynion hynny ar ôl heblaw am Caleb fab Jeffunne a Josua fab Nun.

27 Yna dyma ferched Seloffehad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o deuluoedd Manasse fab Joseff, yn dod at Moses. Enwau ei ferched oedd Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa. 2 Safon nhw o flaen Moses, Eleasar yr offeiriad, y penaethiaid, a’r gynulleidfa gyfan wrth fynedfa pabell y cyfarfod, gan ddweud: 3 “Bu farw ein tad yn yr anialwch, ond doedd ef ddim yn rhan o’r grŵp a ddaeth at ei gilydd yn erbyn Jehofa, sef cefnogwyr Cora, ond bu farw am ei bechod ei hun, a doedd ganddo ddim meibion. 4 Pam dylai enw ein tad ddiflannu o’i deulu, am nad oedd ganddo fab? Rho etifeddiaeth inni ymysg brodyr ein tad.” 5 Felly cyflwynodd Moses eu hachos o flaen Jehofa.

6 Yna dywedodd Jehofa hyn wrth Moses: 7 “Mae merched Seloffehad yn llygad eu lle. Dylet ti roi’r eiddo iddyn nhw fel etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad a throsglwyddo etifeddiaeth eu tad iddyn nhw. 8 A dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Os bydd dyn yn marw heb gael mab, yna dylech chi roi ei etifeddiaeth i’w ferch. 9 Ac os nad oes ganddo ferch, dylech chi roi ei etifeddiaeth i’w frodyr. 10 Ac os nad oes ganddo frodyr, dylech chi roi ei etifeddiaeth i frodyr ei dad. 11 Ac os nad oes gan ei dad frodyr, dylech chi roi ei etifeddiaeth i’w berthynas agosaf drwy waed, a bydd ef yn ei feddiannu. Bydd y penderfyniad hwn yn ddeddf i’r Israeliaid, yn union fel mae Jehofa wedi gorchymyn i Moses.’”

12 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dringa i ben y mynydd hwn yn Abarim, iti gael gweld y wlad bydda i’n ei rhoi i’r Israeliaid. 13 Unwaith iti ei gweld, byddi dithau hefyd yn cael dy gasglu at dy bobl,* yn union fel Aaron dy frawd, 14 oherwydd pan oedd y gynulleidfa yn cweryla â mi yn anialwch Sin, gwnest ti wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn drwy beidio â fy sancteiddio i wrth ymyl dyfroedd Meriba yn Cades yn anialwch Sin.”

15 Yna dywedodd Moses wrth Jehofa: 16 “O Jehofa, Duw ysbryd pob person, penoda ddyn dros y gynulleidfa 17 a fydd yn mynd allan ac yn dod i mewn o’u blaenau nhw ac a fydd yn eu harwain nhw i mewn ac allan, fel na fydd cynulleidfa Jehofa yn dod fel defaid heb fugail.” 18 Felly dywedodd Jehofa wrth Moses: “Cymera Josua fab Nun, dyn galluog,* a gosoda dy law arno. 19 Yna gwna iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen y gynulleidfa gyfan, a dylet ti ei benodi yn arweinydd o flaen eu llygaid. 20 Dylet ti drosglwyddo peth o dy awdurdod iddo ef, er mwyn i gynulleidfa gyfan yr Israeliaid wrando arno. 21 Bydd yn sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad a fydd yn defnyddio’r Urim i ofyn am arweiniad Jehofa ar ei ran. Ar ei orchymyn ef byddan nhw’n mynd allan, ac ar ei orchymyn ef byddan nhw’n dod i mewn, ef a’r holl Israeliaid gydag ef a’r gynulleidfa gyfan.”

22 Felly gwnaeth Moses yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo. Cymerodd Josua a gwneud iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad a’r gynulleidfa gyfan, 23 a gosododd ei ddwylo arno a’i benodi’n arweinydd, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

28 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Rho’r gorchymyn hwn i’r Israeliaid, ‘Mae’n rhaid ichi wneud yn siŵr eich bod chi’n cyflwyno fy offrwm imi, fy mara. Mae’n rhaid i’r offrymau hyn gael eu cyflwyno imi drwy dân ar eu hamser penodedig, a bydd yr arogl yn fy mhlesio i.’

3 “A dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma’r offrwm y byddwch chi’n ei gyflwyno i Jehofa drwy dân: dau oen gwryw sy’n flwydd oed ac sy’n ddi-nam fel offrwm llosg rheolaidd bob dydd. 4 Byddwch chi’n offrymu un oen gwryw yn y bore, a byddwch chi’n offrymu’r oen gwryw arall yn y gwyll,* 5 ynghyd â degfed ran o effa* o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu â chwarter hin* o olew olewydd pur fel offrwm grawn. 6 Mae’n offrwm llosg rheolaidd a gafodd ei sefydlu ar Fynydd Sinai fel arogl sy’n plesio Duw, offrwm sy’n cael ei wneud drwy dân i Jehofa, 7 ynghyd â’i offrwm diod, chwarter hin ar gyfer pob oen gwryw. Mae’n rhaid ichi dywallt* y ddiod alcoholig yn y lle sanctaidd fel offrwm diod i Jehofa. 8 A byddwch chi’n offrymu’r oen gwryw arall yn y gwyll,* gyda’r un offrwm grawn a’r un offrwm diod ag sy’n cael eu gwneud yn y bore. Byddwch chi’n ei gyflwyno fel offrwm drwy dân i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio.

9 “‘Sut bynnag, ar ddiwrnod y Saboth, dylech chi offrymu dau oen gwryw sy’n flwydd oed ac sy’n ddi-nam, a dwy ran o ddeg o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn, yn ogystal â’i offrwm diod. 10 Dyma’r offrwm llosg ar gyfer y Saboth, ynghyd â’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm diod.

11 “‘Ar ddechrau pob mis byddwch chi’n cyflwyno’r rhain fel offrwm llosg i Jehofa: dau darw ifanc, un hwrdd,* a saith oen gwryw sy’n ddi-nam ac sy’n flwydd oed, 12 a thair rhan o ddeg o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn ar gyfer pob tarw, a dwy ran o ddeg o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn ar gyfer yr hwrdd,* 13 a degfed ran o effa o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew fel offrwm grawn ar gyfer pob oen gwryw, fel offrwm llosg, offrwm drwy dân i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio. 14 Ac ynglŷn â’u hoffrymau diod, dylech chi offrymu hanner hin o win ar gyfer tarw, ac un rhan o dair o hin ar gyfer yr hwrdd,* a chwarter hin ar gyfer oen gwryw. Dyma’r offrwm llosg y byddwch chi’n ei offrymu bob mis yn ystod y flwyddyn. 15 Hefyd, mae’n rhaid offrymu un bwch gafr ifanc fel offrwm dros bechod i Jehofa, yn ogystal â’r offrwm llosg rheolaidd ynghyd â’i offrwm diod.

16 “‘Bydd Pasg Jehofa yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg* o’r mis. 17 Ac ar y pymthegfed* diwrnod o’r mis hwn, bydd ’na ŵyl. Bydd bara croyw yn cael ei fwyta am saith diwrnod. 18 Ar y diwrnod cyntaf bydd ’na gynhadledd sanctaidd. Mae’n rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith caled. 19 A byddwch chi’n cyflwyno’r rhain fel offrwm llosg drwy dân i Jehofa: dau darw ifanc, un hwrdd,* a saith oen gwryw sy’n flwydd oed. Dylech chi offrymu anifeiliaid sy’n ddi-nam. 20 Dylech chi eu hoffrymu nhw gyda’u hoffrymau grawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, tair rhan o ddeg o effa ar gyfer tarw a dwy ran o ddeg o effa ar gyfer yr hwrdd.* 21 Byddwch chi’n offrymu degfed ran ar gyfer pob un o’r saith oen gwryw, 22 yn ogystal ag un bwch gafr fel offrwm dros bechod er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau. 23 Byddwch chi’n offrymu’r rhain ar wahân i offrwm llosg y bore, sy’n cael ei gyflwyno fel offrwm llosg rheolaidd. 24 Byddwch chi’n offrymu’r rhain yn yr un ffordd bob dydd am saith diwrnod fel bwyd, bydd yn offrwm drwy dân i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio. Dylai gael ei offrymu ynghyd â’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm diod. 25 Dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd ar y seithfed diwrnod. Mae’n rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith caled.

26 “‘Ar ddiwrnod gŵyl y ffrwythau cyntaf, pan fyddwch chi’n cyflwyno offrwm grawn newydd i Jehofa, dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd yn ystod gwledd yr wythnosau. Mae’n rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith caled. 27 Byddwch chi’n cyflwyno dau darw ifanc, un hwrdd,* a saith oen gwryw sy’n flwydd oed fel offrwm llosg i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio. 28 Ac ynglŷn â’u hoffrwm grawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, mae’n rhaid offrymu tair rhan o ddeg o effa ar gyfer pob tarw, dwy ran o ddeg o effa ar gyfer yr hwrdd,* 29 degfed ran o effa ar gyfer pob un o’r saith oen gwryw, 30 yn ogystal ag un bwch gafr ifanc er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau. 31 Byddwch chi’n eu hoffrymu nhw yn ogystal â’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm grawn. Dylen nhw fod yn anifeiliaid di-nam, yn ogystal â’u hoffrymau diod.

29 “‘Ac ar y diwrnod cyntaf o’r seithfed mis, dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd. Mae’n rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith caled. Dylech chi seinio’r trwmped ar y diwrnod hwnnw. 2 Byddwch chi’n cyflwyno’r canlynol fel offrwm llosg i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio: un tarw ifanc, un hwrdd,* a saith oen gwryw, pob un yn flwydd oed ac yn ddi-nam, 3 a’u hoffrwm grawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, tair rhan o ddeg o effa* ar gyfer y tarw, dwy ran o ddeg o effa ar gyfer yr hwrdd,* 4 ac un rhan o ddeg o effa ar gyfer pob un o’r saith oen gwryw, 5 ac un bwch gafr ifanc fel offrwm dros bechod er mwyn ichi gael maddeuant am eich pechodau. 6 Mae hyn yn ychwanegol i’r offrwm llosg misol a’i offrwm grawn, a’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm grawn, ynghyd â’u hoffrymau diod, yn ôl y drefn reolaidd ar eu cyfer nhw, fel offrwm drwy dân i Jehofa, fel arogl sy’n ei blesio.

7 “‘Ac ar y degfed diwrnod o’r seithfed mis, dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd, a dylech chi ddangos eich bod chi’n drist oherwydd eich pechodau.* Dylech chi beidio â gwneud unrhyw waith o gwbl. 8 Ac fel offrwm llosg i Jehofa fel arogl sy’n ei blesio, byddwch chi’n cyflwyno un tarw ifanc, un hwrdd,* a saith oen gwryw sy’n ddi-nam ac sy’n flwydd oed, 9 a’u hoffrwm grawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, tair rhan o ddeg o effa ar gyfer y tarw, dwy ran o ddeg o effa ar gyfer yr hwrdd,* 10 ac un rhan o ddeg o effa ar gyfer pob un o’r saith oen gwryw, 11 yn ogystal ag un bwch gafr ifanc fel offrwm dros bechod, yn ychwanegol i’r offrwm dros bechod er mwyn cael maddeuant, a’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm grawn, ynghyd â’u hoffrymau diod.

12 “‘Ac ar y pymthegfed* diwrnod o’r seithfed mis, dylech chi gynnal cynhadledd sanctaidd. Mae’n rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith caled, a dylech chi gynnal gŵyl i Jehofa am saith diwrnod. 13 Ac fel offrwm llosg, offrwm drwy dân i Jehofa fel arogl sy’n ei blesio, byddwch chi’n cyflwyno 13 tarw ifanc, 2 hwrdd,* ac 14 oen gwryw, sy’n ddi-nam ac sy’n flwydd oed. 14 Ac fel eu hoffrwm grawn o’r blawd* gorau wedi ei gymysgu ag olew, tair rhan o ddeg o effa ar gyfer pob un o’r 13 tarw, dwy ran o ddeg o effa ar gyfer pob hwrdd,* 15 ac un rhan o ddeg o effa ar gyfer pob un o’r 14 oen gwryw, 16 yn ogystal ag un bwch gafr ifanc fel offrwm dros bechod, sy’n ychwanegol i’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm grawn a’i offrwm diod.

17 “‘Ac ar yr ail ddiwrnod, 12 tarw ifanc, 2 hwrdd,* ac 14 oen gwryw sy’n ddi-nam ac sy’n flwydd oed, 18 a’u hoffrwm grawn a’u hoffrymau diod ar gyfer y teirw, yr hyrddod,* a’r ŵyn gwryw yn ôl eu nifer, yn unol â’r drefn reolaidd, 19 yn ogystal ag un bwch gafr ifanc fel offrwm dros bechod, sy’n ychwanegol i’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm grawn, ynghyd â’u hoffrymau diod.

20 “‘Ac ar y trydydd diwrnod, 11 tarw, 2 hwrdd,* ac 14 oen gwryw sy’n ddi-nam ac sy’n flwydd oed, 21 a’u hoffrwm grawn a’u hoffrymau diod ar gyfer y teirw, yr hyrddod,* a’r ŵyn gwryw yn ôl eu nifer, yn unol â’r drefn reolaidd, 22 yn ogystal ag un bwch gafr fel offrwm dros bechod, sy’n ychwanegol i’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm grawn a’i offrwm diod.

23 “‘Ac ar y pedwerydd diwrnod, 10 tarw, 2 hwrdd,* ac 14 oen gwryw sy’n ddi-nam ac sy’n flwydd oed, 24 a’u hoffrwm grawn a’u hoffrymau diod ar gyfer y teirw, yr hyrddod,* a’r ŵyn gwryw yn ôl eu nifer, yn unol â’r drefn reolaidd, 25 yn ogystal ag un bwch gafr ifanc fel offrwm dros bechod, sy’n ychwanegol i’r offrwm llosg rheolaidd, ei offrwm grawn, a’i offrwm diod.

26 “‘Ac ar y pumed diwrnod, 9 tarw, 2 hwrdd,* ac 14 oen gwryw sy’n ddi-nam ac sy’n flwydd oed, 27 a’u hoffrwm grawn a’u hoffrymau diod ar gyfer y teirw, yr hyrddod,* a’r ŵyn gwryw yn ôl eu nifer, yn unol â’r drefn reolaidd, 28 yn ogystal ag un bwch gafr fel offrwm dros bechod, sy’n ychwanegol i’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm grawn a’i offrwm diod.

29 “‘Ac ar y chweched diwrnod, 8 tarw, 2 hwrdd,* ac 14 oen gwryw sy’n ddi-nam ac sy’n flwydd oed, 30 a’u hoffrwm grawn a’u hoffrymau diod ar gyfer y teirw, yr hyrddod,* a’r ŵyn gwryw yn ôl eu nifer, yn unol â’r drefn reolaidd, 31 yn ogystal ag un bwch gafr fel offrwm dros bechod, sy’n ychwanegol i’r offrwm llosg rheolaidd, ei offrwm grawn, a’i offrymau diod.

32 “‘Ac ar y seithfed diwrnod, 7 tarw, 2 hwrdd,* ac 14 oen gwryw sy’n ddi-nam ac sy’n flwydd oed, 33 a’u hoffrwm grawn a’u hoffrymau diod ar gyfer y teirw, yr hyrddod,* a’r ŵyn gwryw yn ôl eu nifer, yn unol â’r drefn reolaidd ar eu cyfer, 34 yn ogystal ag un bwch gafr fel offrwm dros bechod, sy’n ychwanegol i’r offrwm llosg rheolaidd, ei offrwm grawn, a’i offrwm diod.

35 “‘Ar yr wythfed diwrnod, dylech chi gynnal cynulliad sanctaidd. Mae’n rhaid ichi beidio â gwneud unrhyw waith caled. 36 Ac fel offrwm llosg, offrwm drwy dân i Jehofa fel arogl sy’n ei blesio, byddwch chi’n cyflwyno un tarw, un hwrdd,* a saith oen gwryw sy’n flwydd oed ac yn ddi-nam, 37 a’u hoffrwm grawn a’u hoffrymau diod ar gyfer y tarw, yr hwrdd,* a’r ŵyn gwryw yn ôl eu nifer, yn unol â’r drefn reolaidd, 38 yn ogystal ag un bwch gafr fel offrwm dros bechod, sy’n ychwanegol i’r offrwm llosg rheolaidd a’i offrwm grawn a’i offrwm diod.

39 “‘Byddwch chi’n cyflwyno’r rhain i Jehofa yn ystod eich gwyliau tymhorol, yn ychwanegol i’ch offrymau adduned a’ch offrymau gwirfoddol, sef eich offrymau llosg, eich offrymau grawn, eich offrymau diod, a’ch aberthau heddwch.’” 40 Dywedodd Moses wrth yr Israeliaid bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddo.

30 Yna siaradodd Moses â phennau llwythau Israel, gan ddweud: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn: 2 Os bydd dyn yn gwneud adduned* i Jehofa, neu’n tyngu llw i beidio â gwneud rhywbeth,* mae’n rhaid iddo beidio â thorri ei air. Mae’n rhaid iddo wneud popeth mae wedi addo ar lw i’w wneud.

3 “Ac os bydd dynes* yn gwneud adduned i Jehofa, neu’n addo peidio â gwneud rhywbeth tra ei bod hi’n ifanc ac yn byw yn nhŷ ei thad, 4 ac mae ei thad yn clywed ei hadduned neu ei haddewid i beidio â gwneud rhywbeth a dydy ef ddim yn anghytuno, bydd rhaid iddi hi gadw pob adduned a phob addewid i beidio â gwneud rhywbeth. 5 Ond os bydd ei thad yn ei gwahardd hi pan fydd ef yn clywed ei bod hi wedi gwneud adduned neu wedi gwneud addewid i beidio â gwneud rhywbeth, ni fydd yn ddilys. Bydd Jehofa yn maddau iddi am fod ei thad wedi ei gwahardd hi.

6 “Ond os bydd hi’n gwneud addewid neu adduned fyrbwyll, ac yna’n priodi yn nes ymlaen, 7 ac mae ei gŵr yn clywed am y peth a dydy ef ddim yn anghytuno ar y diwrnod mae’n clywed amdano, bydd rhaid iddi gadw pob adduned neu addewid i beidio â gwneud rhywbeth. 8 Ond os bydd ei gŵr yn ei gwahardd hi ar y diwrnod mae’n clywed amdano, gall ef ganslo’r addewid neu’r adduned fyrbwyll a wnaeth hi, a bydd Jehofa yn maddau iddi.

9 “Ond os bydd gwraig weddw neu ddynes* sydd wedi cael ysgariad yn gwneud adduned, bydd rhaid iddi gadw popeth mae hi wedi ei addo.

10 “Sut bynnag, os gwnaeth dynes* adduned neu addewid i beidio â gwneud rhywbeth tra ei bod hi yn nhŷ ei gŵr, 11 a chlywodd ei gŵr am y peth ond wnaeth ef ddim anghytuno neu wrthod, bydd rhaid iddi gadw pob adduned neu addewid i beidio â gwneud rhywbeth. 12 Ond os bydd ei gŵr, ar y diwrnod mae’n clywed amdanyn nhw, yn canslo unrhyw adduned neu addewid y gwnaeth hi i beidio â gwneud rhywbeth, ni fyddan nhw’n ddilys. Gwnaeth ei gŵr eu canslo nhw, a bydd Jehofa yn maddau iddi. 13 Ynglŷn ag unrhyw adduned neu unrhyw lw i roi cyfyngiadau arni hi ei hun, dylai ei gŵr benderfynu a oes rhaid iddi gadw at hynny neu beidio. 14 Ond os nad ydy ei gŵr yn anghytuno yn y dyddiau wedyn, mae’n cadarnhau ei holl addunedau a’i holl addewidion i beidio â gwneud rhywbeth. Mae’n eu cadarnhau nhw am ei fod heb anghytuno ar y diwrnod y clywodd amdanyn nhw. 15 Ond os ydy ef yn eu canslo nhw yn hwyrach ymlaen, beth amser ar ôl y diwrnod y gwnaeth ef glywed amdanyn nhw, ef fydd yn derbyn y gosb am ei heuogrwydd.

16 “Dyma’r deddfau a roddodd Jehofa i Moses ynglŷn â gŵr a’i wraig, ac ynglŷn â thad a’i ferch ifanc sy’n byw yn ei dŷ.”

31 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 2 “Dylet ti ddial ar y Midianiaid am beth wnaethon nhw i’r Israeliaid. Wedyn byddi di’n cael dy gasglu at dy bobl.”*

3 Felly siaradodd Moses â’r bobl, gan ddweud: “Arfogwch ddynion o’ch plith i ryfela yn erbyn Midian ac i ddial arnyn nhw ar ran Jehofa. 4 Dylech chi anfon 1,000 o ddynion o bob un o lwythau Israel i’r fyddin.” 5 Felly o blith teuluoedd Israel,* cafodd 1,000 eu haseinio o bob llwyth, 12,000 wedi eu harfogi ar gyfer brwydro.

6 Yna dyma Moses yn eu hanfon nhw allan i frwydro, 1,000 o bob llwyth, ac aeth Phineas fab Eleasar yr offeiriad gyda’r fyddin, ac roedd ef yn cario’r llestri sanctaidd a’r trwmpedi rhyfel. 7 Dyma nhw’n rhyfela yn erbyn Midian, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses, gan ladd pob gwryw. 8 Ymhlith y rhai y gwnaethon nhw eu lladd oedd brenhinoedd Midian, sef Efi, Recem, Sur, Hur, a Reba, pum brenin Midian. Lladdon nhw hefyd Balaam fab Beor â’r cleddyf. 9 Ond dyma’r Israeliaid yn caethgludo merched* a phlant Midian, gan ysbeilio eu holl wartheg, eu holl breiddiau, a’u holl eiddo. 10 A llosgon nhw â thân yr holl ddinasoedd roedd y Midianiaid wedi setlo ynddyn nhw a’u holl wersylloedd. 11 Gwnaethon nhw ysbeilio popeth a oedd yn perthyn iddyn nhw, y bobl a’r anifeiliaid. 12 Yna daethon nhw â’r caethion a’r ysbail i gyd at Moses ac Eleasar yr offeiriad ac at gynulleidfa’r Israeliaid, at y gwersyll yn anialwch Moab wrth ymyl yr Iorddonen gyferbyn â Jericho.

13 Yna aeth Moses ac Eleasar yr offeiriad a holl benaethiaid y gynulleidfa allan i’w cyfarfod nhw y tu allan i’r gwersyll. 14 Ond digiodd Moses â’r dynion a oedd wedi eu penodi dros y fyddin, y penaethiaid ar filoedd ac ar gannoedd, a oedd yn dod yn ôl o’r frwydr. 15 Dywedodd Moses wrthyn nhw: “Ydych chi wedi cadw’r holl ferched* yn fyw? 16 Edrychwch! Nhw a wrandawodd ar Balaam a pherswadio’r Israeliaid i fod yn anffyddlon i Jehofa ac i addoli Baal Peor, fel bod y pla wedi dod ar bobl Jehofa. 17 Nawr dylech chi ladd pob bachgen, a dylech chi hefyd ladd pob dynes* sydd wedi cael cyfathrach rywiol â dyn. 18 Ond cewch chi gadw’n fyw yr holl ferched ifanc sydd heb gael cyfathrach rywiol â dyn. 19 A dylech chi wersylla y tu allan i’r gwersyll am saith diwrnod. Dylai pob un ohonoch chi sydd wedi lladd rhywun a phob un ohonoch chi sydd wedi cyffwrdd â chorff marw ei buro ei hun ar y trydydd diwrnod ac ar y seithfed diwrnod, y chi a’ch caethion. 20 A dylech chi buro pob dilledyn, popeth wedi ei wneud o groen, popeth wedi ei wneud o flew gafr, a phopeth wedi ei wneud o bren.”

21 Yna dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y milwyr a oedd wedi mynd i’r frwydr: “Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd Jehofa i Moses, 22 ‘Dim ond yr aur, yr arian, y copr, yr haearn, y tun, a’r plwm, 23 popeth sy’n gallu gwrthsefyll tân, y dylech chi ei buro yn y tân, a bydd yn lân. Ond, dylech chi hefyd ei lanhau yn y dŵr sy’n puro. Ynglŷn â phopeth sydd ddim yn gallu gwrthsefyll tân, dylech chi ei lanhau â’r dŵr. 24 A dylech chi olchi eich dillad ar y seithfed diwrnod ac ymolchi, ac yna gallwch chi ddod i mewn i’r gwersyll.’”

25 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 26 “Gwna restr o’r ysbail, gan gyfri’r caethion, yr anifeiliaid, a’r bobl; gwna hyn gydag Eleasar yr offeiriad a phenaethiaid teuluoedd estynedig y bobl. 27 Rhanna’r ysbail yn ddwy a’i dosbarthu rhwng y milwyr a gymerodd ran yn y frwydr a gweddill y bobl. 28 Fel treth i Jehofa, oddi wrth y milwyr a aeth allan i frwydro dylet ti gymryd un enaid* allan o bob 500 o’r bobl, o’r gwartheg, o’r asynnod, ac o’r praidd. 29 Dylech chi gymryd y dreth oddi wrth yr hanner sydd wedi cael ei roi i’r milwyr, a’i rhoi i Eleasar yr offeiriad fel cyfraniad i Jehofa. 30 O’r hanner sydd wedi cael ei roi i’r Israeliaid, dylet ti gymryd un allan o bob 50 o’r bobl, o’r gwartheg, o’r asynnod, o’r praidd, ac o bob math o anifeiliaid domestig, a’u rhoi nhw i’r Lefiaid, sy’n gofalu am y cyfrifoldebau sy’n ymwneud â thabernacl Jehofa.”

31 Felly gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. 32 Cyfanswm yr ysbail a oedd ar ôl o beth gymerodd y milwyr oedd 675,000 o’r praidd, 33 72,000 o wartheg, 34 a 61,000 o asynnod. 35 Cyfanswm y merched* a oedd heb gael cyfathrach rywiol â dyn oedd 32,000. 36 Cyfanswm yr hanner a gafodd y milwyr fel eu rhan oedd 337,500 o’r praidd. 37 Cyfanswm treth Jehofa o’r praidd oedd 675. 38 Ac roedd ’na 36,000 o wartheg, ac roedd 72 ohonyn nhw yn dreth i Jehofa. 39 Ac roedd ’na 30,500 o asynnod, ac roedd 61 ohonyn nhw yn dreth i Jehofa. 40 Ac roedd ’na 16,000 o bobl, ac roedd 32 ohonyn nhw yn dreth i Jehofa. 41 Yna rhoddodd Moses i Eleasar yr offeiriad y dreth sy’n gyfraniad i Jehofa, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

42 O’r hanner a oedd yn perthyn i’r Israeliaid, yr hanner roedd Moses wedi ei wahanu oddi wrth hanner y milwyr, 43 cyfanswm yr hanner yna o’r praidd oedd 337,500, 44 o’r gwartheg, 36,000, 45 o’r asynnod, 30,500, 46 ac o’r bobl, 16,000. 47 Yna cymerodd Moses o’r hanner sy’n perthyn i’r Israeliaid un allan o bob 50, o’r bobl a’r anifeiliaid, a’u rhoi nhw i’r Lefiaid a oedd yn gofalu am y cyfrifoldebau sy’n ymwneud â thabernacl Jehofa, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.

48 Yna dyma’r dynion a oedd wedi cael eu penodi dros grwpiau’r fyddin, y penaethiaid ar filoedd a’r penaethiaid ar gannoedd, yn dod at Moses, 49 a dywedon nhw wrth Moses: “Mae dy weision wedi cyfri’r milwyr sydd o dan ein hawdurdod, a does neb ohonyn nhw ar goll. 50 Felly gad i bob un ohonon ni gyflwyno beth mae ef wedi dod ar ei draws fel offrwm i Jehofa, pethau wedi eu gwneud o aur, cadwyni,* breichledau, modrwyau,* clustdlysau, a mathau eraill o emwaith, er mwyn inni gael maddeuant am ein pechodau o flaen Jehofa.”

51 Felly derbyniodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur oddi wrthyn nhw, yr holl emwaith. 52 Cyfanswm yr aur gwnaethon nhw ei gyfrannu i Jehofa oedd 16,750 sicl,* oddi wrth y penaethiaid ar filoedd a’r penaethiaid ar gannoedd. 53 Cymerodd pob un o ddynion y fyddin ysbail iddo’i hun. 54 Derbyniodd Moses ac Eleasar yr aur oddi wrth y penaethiaid ar filoedd a’r penaethiaid ar gannoedd, a daethon nhw â’r aur i mewn i babell y cyfarfod er mwyn atgoffa’r bobl o bopeth roedd Jehofa wedi ei wneud drostyn nhw.*

32 Nawr roedd gan feibion Reuben a meibion Gad lawer iawn o anifeiliaid, a gwelson nhw fod y tir yn ardal Jaser a Gilead yn dda ar gyfer anifeiliaid. 2 Felly aeth meibion Gad a meibion Reuben at Moses, Eleasar yr offeiriad, a phenaethiaid y bobl a dweud: 3 “Mae Ataroth, Dibon, Jaser, Nimra, Hesbon, Eleale, Sebam, Nebo, a Beon, 4 y diriogaeth gwnaeth Jehofa ei choncro o flaen pobl Israel, yn dir da ar gyfer anifeiliaid, ac mae gynnon ni, dy weision, lawer o anifeiliaid.” 5 Aethon nhw ymlaen i ddweud: “Os ydyn ni wedi dy blesio di, gad i ni, dy weision, feddiannu’r tir hwn. Paid â gwneud inni groesi’r Iorddonen.”

6 Yna dywedodd Moses wrth feibion Gad a meibion Reuben: “Ydy hi’n iawn i’ch brodyr fynd i ryfel, tra byddwch chi’n byw yn fan hyn? 7 Pam dylech chi ddigalonni pobl Israel, fel nad ydyn nhw eisiau croesi drosodd i’r wlad y bydd Jehofa yn bendant yn ei rhoi iddyn nhw? 8 Dyna beth wnaeth eich tadau, pan wnes i eu hanfon nhw o Cades-barnea i weld y wlad. 9 Pan aethon nhw i fyny i Ddyffryn* Escol a gweld y wlad, gwnaethon nhw ddigalonni pobl Israel fel nad oedden nhw eisiau mynd i mewn i’r wlad roedd Jehofa am ei rhoi iddyn nhw. 10 Gwylltiodd Jehofa ar y diwrnod hwnnw, a thyngu’r llw hwn: 11 ‘Ni fydd y dynion a ddaeth i fyny allan o’r Aifft sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn yn gweld y wlad y gwnes i ei haddo i Abraham, Isaac, a Jacob, am nad ydyn nhw wedi fy nilyn i â’u holl galon— 12 heblaw am Caleb fab Jeffunne y Cenesiad a Josua fab Nun, am eu bod nhw wedi dilyn Jehofa â’u holl galon.’ 13 Felly gwylltiodd Jehofa yn lân ag Israel, a gwnaeth iddyn nhw grwydro o gwmpas yn yr anialwch am 40 mlynedd, nes bod yr holl genhedlaeth a oedd yn gwneud pethau drwg yng ngolwg Jehofa wedi darfod. 14 Nawr rydych chi bechaduriaid yn gwneud yn union yr un fath â’ch tadau ac yn gwneud i Jehofa wylltio yn fwy byth yn erbyn Israel. 15 Os byddwch chi’n troi’n ôl rhag ei ddilyn, bydd ef yn bendant yn eu gadael nhw yn yr anialwch unwaith eto, a byddwch chi’n dod â dinistr ar yr holl bobl hyn.”

16 Yn nes ymlaen aethon nhw ato a dweud: “Gadewch inni adeiladu corlannau cerrig ar gyfer ein hanifeiliaid a dinasoedd ar gyfer ein plant yn fan hyn. 17 Ond byddwn ni’n parhau i fod yn barod i frwydro a byddwn ni’n mynd o flaen yr Israeliaid nes inni ddod â nhw i’w lle, tra bod ein plant yn aros yn y dinasoedd caerog, wedi eu diogelu rhag pobl y wlad. 18 Fyddwn ni ddim yn mynd yn ôl i’n tai nes bod pob un o’r Israeliaid wedi derbyn ei dir fel etifeddiaeth. 19 Fyddwn ni ddim yn derbyn etifeddiaeth gyda nhw ar yr ochr arall o’r Iorddonen a thu hwnt, oherwydd rydyn ni wedi derbyn ein hetifeddiaeth ar yr ochr ddwyreiniol o’r Iorddonen.”

20 Atebodd Moses: “Os gwnewch chi eich arfogi eich hunain o flaen Jehofa ar gyfer y rhyfel, 21 ac os bydd pob un ohonoch chi yn ei arfogi ei hun ac yn croesi’r Iorddonen o flaen Jehofa wrth iddo yrru ei elynion i ffwrdd 22 nes bod y wlad wedi ei choncro o flaen Jehofa, ar ôl hynny cewch chi fynd yn ôl a byddwch chi’n ddieuog yng ngolwg Jehofa ac Israel. Yna byddwch chi’n etifeddu’r wlad hon o flaen Jehofa. 23 Ond os na wnewch chi hyn, yna byddwch chi wedi pechu yn erbyn Jehofa. Yn yr achos hwnnw, byddwch chi’n bendant yn gorfod wynebu canlyniadau eich pechod. 24 Felly cewch chi adeiladu dinasoedd ar gyfer eich plant a chorlannau ar gyfer eich preiddiau, ond bydd rhaid ichi wneud beth rydych chi wedi ei addo.”

25 Dywedodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses: “Bydd dy weision yn gwneud yn union fel mae ein harglwydd yn gorchymyn. 26 Bydd ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid, a’n holl anifeiliaid domestig yn aros yno yn ninasoedd Gilead, 27 ond bydd dy weision yn croesi drosodd, pob dyn wedi ei arfogi i ryfela o flaen Jehofa, yn union fel mae ein harglwydd yn dweud.”

28 Felly rhoddodd Moses orchymyn ynglŷn â nhw i Eleasar yr offeiriad, i Josua fab Nun, ac i benaethiaid teuluoedd estynedig llwythau Israel. 29 Dywedodd Moses wrthyn nhw: “Os bydd meibion Gad a meibion Reuben yn croesi’r Iorddonen gyda chi, pob dyn wedi ei arfogi ar gyfer y rhyfel o flaen Jehofa, ac mae’r wlad yn cael ei choncro o’ch blaenau chi, yna byddwch chi’n rhoi gwlad Gilead iddyn nhw fel etifeddiaeth. 30 Ond os nad ydyn nhw’n eu harfogi eu hunain ac yn croesi drosodd gyda chi, yna byddan nhw’n setlo yn eich plith chi yng ngwlad Canaan.”

31 Atebodd meibion Gad a meibion Reuben: “Byddwn ni’n gwneud fel mae Jehofa wedi dweud wrth dy weision. 32 Byddwn ni’n ein harfogi ein hunain ac yn croesi drosodd i wlad Canaan o flaen Jehofa, ond bydd ein hetifeddiaeth ar yr ochr yma o’r Iorddonen.” 33 Felly dyma Moses yn rhoi iddyn nhw—i feibion Gad, i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff—deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid a theyrnas Og brenin Basan, y wlad i gyd, a’r holl ddinasoedd yn y wlad o gwmpas.

34 Ac adeiladodd* meibion Gad Dibon, Ataroth, Aroer, 35 Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha, 36 Beth-nimra, a Beth-haran, dinasoedd caerog, ac adeiladon nhw gorlannau cerrig ar gyfer y preiddiau. 37 Ac adeiladodd meibion Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim, 38 Nebo, a Baal-meon—gan newid eu henwau—a Sibma; a dechreuon nhw ailenwi’r dinasoedd roedden nhw wedi eu hailadeiladu.

39 Dyma feibion Machir fab Manasse yn martsio* yn erbyn Gilead ac yn ei chipio ac yn gyrru allan yr Amoriaid a oedd yn byw yno. 40 Felly gwnaeth Moses roi Gilead i Machir fab Manasse, a dechreuodd ef fyw yno. 41 A dyma Jair fab Manasse yn martsio yn eu herbyn nhw ac yn cipio eu gwersylloedd, a dechreuodd eu galw nhw’n Hafoth-jair.* 42 A dyma Noba yn martsio yn erbyn Cenath ac yn ei chipio hi a’i threfi cyfagos, a rhoddodd ei enw ei hun, Noba, arni.

33 Dyma’r camau ar daith yr Israeliaid pan aethon nhw allan o wlad yr Aifft yn ôl eu grwpiau milwrol o dan arweiniad Moses ac Aaron. 2 Ar orchymyn Jehofa, cofnododd Moses bob man roedden nhw’n ei adael yn ystod pob cam o’u taith, a dyma oedd y camau: 3 Gadawon nhw Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed* diwrnod o’r mis. Ar y diwrnod yn syth ar ôl y Pasg, aeth yr Israeliaid allan yn hyderus yng ngolwg yr Eifftiaid i gyd. 4 Yn y cyfamser, roedd yr Eifftiaid yn claddu pob cyntaf-anedig a gafodd ei ladd gan Jehofa, oherwydd gwnaeth Jehofa farnu eu duwiau a’u cosbi nhw.

5 Felly dyma’r Israeliaid yn gadael Rameses ac yn gwersylla yn Succoth. 6 Yna gadawon nhw Succoth a gwersylla yn Etham, sydd ar ffin yr anialwch. 7 Nesaf gadawon nhw Etham a throi yn ôl tuag at Pihahiroth, sy’n wynebu Baal-seffon, a gwnaethon nhw wersylla o flaen Migdol. 8 Ar ôl hynny gadawon nhw Pihahiroth a chroeson nhw drwy ganol y môr i’r anialwch, a dyma nhw’n martsio* am dri diwrnod yn anialwch Etham ac yn gwersylla ym Mara.

9 Yna gadawon nhw Mara a daethon nhw i Elim. Nawr yn Elim roedd ’na 12 ffynnon ddŵr a 70 o goed palmwydd, felly gwnaethon nhw wersylla yno. 10 Nesaf gadawon nhw Elim a gwersylla wrth y Môr Coch. 11 Ar ôl hynny gadawon nhw’r Môr Coch a gwersylla yn anialwch Sin. 12 Yna gadawon nhw anialwch Sin a gwersylla yn Doffca. 13 Yn nes ymlaen gadawon nhw Doffca a gwersylla yn Alus. 14 Nesaf gadawon nhw Alus a gwersylla yn Reffidim, lle doedd ’na ddim dŵr i’r bobl i’w yfed. 15 Ar ôl hynny gadawon nhw Reffidim a gwersylla yn anialwch Sinai.

16 Gadawon nhw anialwch Sinai a gwersylla yn Cibroth-hattaafa. 17 Yna gadawon nhw Cibroth-hattaafa a gwersylla yn Haseroth. 18 Ar ôl hynny gadawon nhw Haseroth a gwersylla yn Rithma. 19 Nesaf gadawon nhw Rithma a gwersylla yn Rimmon-peres. 20 Yna gadawon nhw Rimmon-peres a gwersylla yn Libna. 21 Gadawon nhw Libna a gwersylla yn Rissa. 22 Nesaf gadawon nhw Rissa a gwersylla yn Cehelatha. 23 Yna gadawon nhw Cehelatha a gwersylla wrth Fynydd Seffer.

24 Ar ôl hynny gadawon nhw Fynydd Seffer a gwersylla yn Harada. 25 Yna gadawon nhw Harada a gwersylla ym Maceloth. 26 Nesaf gadawon nhw Maceloth a gwersylla yn Tahath. 27 Ar ôl hynny gadawon nhw Tahath a gwersylla yn Tera. 28 Yna gadawon nhw Tera a gwersylla ym Mithca. 29 Wedyn gadawon nhw Mithca a gwersylla yn Hasmona. 30 Nesaf gadawon nhw Hasmona a gwersylla ym Moseroth. 31 Yna gadawon nhw Moseroth a gwersylla yn Bene-jaacan. 32 A gadawon nhw Bene-jaacan a gwersylla yn Hor-haggidgad. 33 Nesaf gadawon nhw Hor-haggidgad a gwersylla yn Jotbatha. 34 Wedyn gadawon nhw Jotbatha a gwersylla yn Abrona. 35 Yna gadawon nhw Abrona a gwersylla yn Esion-geber. 36 Ar ôl hynny gadawon nhw Esion-geber a gwersylla yn anialwch Sin, hynny yw, Cades.

37 Yn nes ymlaen gadawon nhw Cades a gwersyllon nhw wrth Fynydd Hor, ar ffin gwlad Edom. 38 Yna, yn ôl gorchymyn Jehofa, aeth Aaron yr offeiriad i fyny Mynydd Hor a bu farw yno yn y ddeugeinfed* flwyddyn ar ôl i’r Israeliaid adael gwlad yr Aifft, ar y diwrnod cyntaf o’r pumed mis. 39 Roedd Aaron yn 123 mlwydd oed pan fu farw ar Fynydd Hor.

40 Nawr dyma frenin Arad, y Canaanead a oedd yn byw yn y Negef yng ngwlad Canaan, yn clywed bod yr Israeliaid yn dod.

41 Ymhen amser gadawon nhw Fynydd Hor a gwersylla yn Salmona. 42 Ar ôl hynny gadawon nhw Salmona a gwersylla yn Punon. 43 Nesaf gadawon nhw Punon a gwersylla yn Oboth. 44 Yna gadawon nhw Oboth a gwersylla yn Ie-abarim, ar ffin Moab. 45 Wedyn gadawon nhw Ie-im a gwersylla yn Dibon-gad. 46 Ar ôl hynny gadawon nhw Dibon-gad a gwersylla yn Almon-diblathaim. 47 Yna gadawon nhw Almon-diblathaim a gwersylla ym mynyddoedd Abarim o flaen Nebo. 48 O’r diwedd dyma nhw’n gadael mynyddoedd Abarim ac yn gwersylla yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho. 49 Dalion nhw ati i wersylla ar hyd yr Iorddonen, o Beth-jesimoth hyd at Abel-sittim, yn anialwch Moab.

50 Siaradodd Jehofa â Moses yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho, gan ddweud: 51 “Siarada â’r Israeliaid a dweud wrthyn nhw, ‘Rydych chi’n croesi’r Iorddonen ac yn mynd i mewn i wlad Canaan. 52 Dylech chi yrru i ffwrdd holl bobl y wlad a dinistrio eu cerrig cerfiedig a’u delwau metel i gyd, ac fe ddylech chi ddinistrio eu holl uchelfannau sanctaidd. 53 A byddwch chi’n meddiannu’r wlad ac yn byw ynddi, oherwydd yn bendant bydda i’n rhoi’r wlad yn eiddo ichi. 54 Dylech chi daflu coelbren i rannu’r wlad ymysg eich teuluoedd. Dylech chi roi etifeddiaeth fwy i’r grwpiau mawr, ac etifeddiaeth lai i’r grwpiau bach. Bydd y coelbren yn dangos lle bydd etifeddiaeth pob un. Byddwch chi’n derbyn eich eiddo fel etifeddiaeth yn ôl llwythau eich tadau.

55 “‘Ond, os nad ydych chi’n gyrru pobl y wlad allan, bydd y rhai sydd ar ôl fel pigau yn eich llygaid ac fel drain yn eich ochrau, a byddan nhw’n achosi helynt ichi yn y wlad lle byddwch chi’n byw. 56 A bydda i’n gwneud i chi beth roeddwn i’n bwriadu ei wneud iddyn nhw.’”

34 Ac aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 2 “Rho’r cyfarwyddiadau hyn i’r Israeliaid: ‘Pan fyddwch chi’n mynd i mewn i wlad Canaan, dyma’r wlad y bydd yn cael ei rhoi ichi fel etifeddiaeth, gwlad Canaan yn ôl ei ffiniau.

3 “‘Bydd eich ffin ddeheuol yn ymestyn o anialwch Sin ar hyd Edom, a bydd eich ffin ddeheuol ar y dwyrain yn mynd o ben pellaf y Môr Marw.* 4 Bydd eich ffin yn newid cyfeiriad i fynd i’r de o’r ffordd sy’n mynd i fyny at Acrabbim ac yn parhau hyd at Sin, ac yn gorffen i’r de o Cades-barnea. Yna bydd yn ymestyn hyd at Hasar-adar ac yn parhau hyd at Asmon. 5 Bydd y ffin yn newid cyfeiriad wrth Asmon i fynd tuag at Wadi’r Aifft, a bydd yn gorffen wrth ymyl y Môr.*

6 “‘Eich ffin yn y gorllewin fydd y Môr Mawr* a’r arfordir. Hon fydd eich ffin orllewinol.

7 “‘Nawr dyma fydd eich ffin ogleddol: O’r Môr Mawr byddwch chi’n marcio eich ffin hyd at Fynydd Hor. 8 O Fynydd Hor byddwch chi’n marcio’r ffin hyd at Lebo-hamath,* a bydd y ffin yn gorffen wrth Sedad. 9 Bydd y ffin yn ymestyn hyd at Siffron, ac yn gorffen yn Hasar-enan. Dyma fydd eich ffin ogleddol.

10 “‘Nesaf, dylech chi farcio eich ffin ddwyreiniol o Hasar-enan hyd at Seffam. 11 Bydd y ffin yn ymestyn o Seffam i Ribla, i’r dwyrain o Ain, a bydd y ffin yn mynd i lawr ac yn croesi’r llethrau i’r dwyrain o Fôr Cinnereth.* 12 Bydd y ffin yn ymestyn hyd at yr Iorddonen, ac yn gorffen wrth y Môr Marw. Dyma fydd eich gwlad a’r ffiniau o’i chwmpas.’”

13 Felly rhoddodd Moses gyfarwyddiadau i’r Israeliaid, gan ddweud: “Dyma’r wlad byddwch chi’n ei rhannu fel etifeddiaeth drwy daflu coelbren, yn union fel mae Jehofa wedi gorchymyn i’r naw llwyth a hanner ei chael. 14 Oherwydd mae llwyth Reuben, llwyth Gad, a hanner llwyth Manasse wedi cymryd eu hetifeddiaeth yn barod. 15 Mae’r ddau lwyth a hanner eisoes wedi cymryd eu hetifeddiaeth i’r dwyrain o’r Iorddonen gyferbyn â Jericho, i gyfeiriad y wawr.”

16 Aeth Jehofa ymlaen i ddweud wrth Moses: 17 “Dyma enwau’r dynion a fydd yn rhannu’r wlad y byddwch chi’n ei meddiannu: Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nun. 18 Byddwch chi’n cymryd un pennaeth allan o bob llwyth er mwyn rhannu’r wlad fel eich etifeddiaeth. 19 Dyma enwau’r penaethiaid: o blith llwyth Jwda, Caleb fab Jeffunne; 20 o blith llwyth meibion Simeon, Semuel fab Ammihud; 21 o blith llwyth Benjamin, Elidad fab Cislon; 22 o blith llwyth meibion Dan, Bucci fab Jogli; 23 o blith meibion Joseff o lwyth Manasse, Haniel fab Effod; 24 o blith llwyth meibion Effraim, Cemuel fab Sifftan; 25 o blith llwyth meibion Sabulon, Elisaffan fab Parnach; 26 o blith llwyth meibion Issachar, Paltiel fab Assan; 27 o blith llwyth meibion Aser, Ahihud fab Selomi; 28 o blith llwyth meibion Nafftali, Pedahel fab Ammihud.” 29 Dyma’r rhai a gafodd orchymyn gan Jehofa i ddosbarthu’r wlad i’r Israeliaid yng ngwlad Canaan.

35 Aeth Jehofa ymlaen i siarad â Moses yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho, gan ddweud: 2 “Gorchmynna i’r Israeliaid fod rhaid iddyn nhw roi i’r Lefiaid ddinasoedd i fyw ynddyn nhw allan o’r etifeddiaeth y byddan nhw’n ei chael, a dylen nhw roi i’r Lefiaid y tiroedd pori o gwmpas y dinasoedd. 3 Bydd y Lefiaid yn byw yn y dinasoedd, a bydd y tiroedd pori ar gyfer eu hanifeiliaid domestig, eu heiddo, a’u holl anifeiliaid eraill. 4 Bydd tiroedd pori’r dinasoedd y byddwch chi’n eu rhoi i’r Lefiaid yn ymestyn 1,000 cufydd* o’r wal, yr holl ffordd o gwmpas y ddinas. 5 Y tu allan i’r ddinas, dylech chi fesur 2,000 cufydd ar yr ochr ddwyreiniol, 2,000 cufydd ar yr ochr ddeheuol, 2,000 cufydd ar yr ochr orllewinol, a 2,000 cufydd ar yr ochr ogleddol, gyda’r ddinas yn y canol. Y rhain fydd tiroedd pori’r dinasoedd.

6 “Ymhlith y dinasoedd y byddwch chi’n eu rhoi i’r Lefiaid, bydd ’na chwe dinas loches. Byddwch chi’n rhoi’r rhain er mwyn i’r lladdwr ffoi iddyn nhw, yn ogystal â 42 o ddinasoedd eraill. 7 Mae’n rhaid ichi roi 48 o ddinasoedd i’r Lefiaid yn gyfan gwbl, yn ogystal â’u tiroedd pori. 8 Bydd y dinasoedd y byddwch chi’n eu rhoi iddyn nhw yn dod o eiddo’r Israeliaid. Oddi wrth y grŵp mawr byddwch chi’n cymryd llawer o ddinasoedd, ac oddi wrth y grŵp bach byddwch chi’n cymryd ychydig. Bydd pob grŵp yn rhoi rhai o’i ddinasoedd i’r Lefiaid yn ôl yr etifeddiaeth mae’n ei derbyn.”

9 Parhaodd Jehofa i siarad â Moses, gan ddweud: 10 “Siarada â’r Israeliaid a dyweda wrthyn nhw, ‘Rydych chi’n croesi’r Iorddonen ac yn mynd i mewn i wlad Canaan. 11 Dylech chi ddewis dinasoedd sydd mewn lleoliadau cyfleus i fod yn ddinasoedd lloches, fel bod yr un sy’n lladd rhywun yn anfwriadol yn gallu ffoi yno. 12 Bydd y dinasoedd hyn yn lloches ichi rhag yr un sy’n dial gwaed, fel na fydd y lladdwr yn marw nes iddo sefyll ei brawf o flaen y gynulleidfa. 13 Dyma fydd pwrpas y chwe dinas loches y byddwch chi’n eu darparu. 14 Byddwch chi’n darparu tair dinas ar yr ochr yma o’r Iorddonen, a thair dinas yng ngwlad Canaan i fod yn ddinasoedd lloches. 15 Bydd y chwe dinas hyn yn lloches ar gyfer yr Israeliaid ac ar gyfer yr estroniaid a’r mewnfudwyr yn eu plith, er mwyn i unrhyw un sy’n lladd rhywun yn anfwriadol ffoi yno.

16 “‘Ond os gwnaeth dyn daro rhywun â rhywbeth wedi ei wneud o haearn ac mae’n marw, mae’n llofrudd. Heb os, dylai’r llofrudd gael ei roi i farwolaeth. 17 Ac os gwnaeth ef ei daro â charreg a all achosi marwolaeth ac mae’n marw, mae’n llofrudd. Heb os, dylai’r llofrudd gael ei roi i farwolaeth. 18 Ac os gwnaeth ef ei daro â rhywbeth wedi ei wneud o bren a all achosi marwolaeth ac mae’n marw, mae’n llofrudd. Heb os, dylai’r llofrudd gael ei roi i farwolaeth.

19 “‘Bydd yr un sy’n dial gwaed yn rhoi’r llofrudd i farwolaeth. Pan fydd ef yn dod o hyd iddo, bydd yn rhoi’r llofrudd i farwolaeth. 20 Os cafodd person ei ladd am fod rhywun wedi ei wthio mewn casineb neu wedi taflu rhywbeth ato â bwriad maleisus,* 21 neu wedi ei daro â’i law mewn casineb ac mae’n marw, heb os bydd yr un a wnaeth ei daro yn cael ei roi i farwolaeth. Mae ef yn llofrudd. Bydd yr un sy’n dial gwaed yn rhoi’r llofrudd i farwolaeth pan mae’n dod o hyd iddo.

22 “‘Ond os gwnaeth ef ei wthio neu daflu rhywbeth ato yn ddamweiniol ac nid mewn casineb a heb unrhyw fwriad maleisus,* 23 neu os na wnaeth ef ei weld ac achosodd i garreg gwympo arno a doedd ef ddim yn elyn iddo nac yn ceisio ei niweidio, a bu farw’r person, 24 yna dylai’r barnwyr farnu rhwng yr un a wnaeth ei daro a’r un sy’n dial gwaed, yn unol â’r barnedigaethau hyn. 25 Wedyn dylai’r barnwyr achub y lladdwr rhag yr un sy’n dial gwaed, a mynd ag ef yn ôl i’r ddinas loches y gwnaeth ef ffoi iddi, a bydd rhaid iddo fyw ynddi tan farwolaeth yr archoffeiriad a gafodd ei eneinio â’r olew sanctaidd.

26 “‘Ond os bydd y lladdwr yn mynd y tu allan i ffiniau’r ddinas loches y mae wedi ffoi iddi 27 ac mae’r un sy’n dial gwaed yn dod o hyd iddo y tu allan i ffiniau ei ddinas loches ac yn lladd y lladdwr, dydy ef ddim yn waed-euog. 28 Oherwydd mae’n rhaid iddo fyw yn ei ddinas loches nes bod yr archoffeiriad yn marw, ond ar ôl i’r archoffeiriad farw, caiff y lladdwr fynd yn ôl i’w dir ei hun. 29 Bydd y pethau hyn yn ddeddf i chi ar gyfer barnu drwy eich holl genedlaethau ble bynnag rydych chi’n byw.

30 “‘Dylai pwy bynnag sy’n lladd rhywun arall gael ei roi i farwolaeth fel llofrudd ar sail geiriau tystion, ond ni fydd neb yn cael ei roi i farwolaeth ar sail geiriau un tyst yn unig. 31 Mae’n rhaid ichi beidio â derbyn unrhyw daliad ar gyfer bywyd llofrudd sy’n haeddu marw, oherwydd dylai ef gael ei roi i farwolaeth heb os. 32 Ac mae’n rhaid ichi beidio â derbyn taliad ar gyfer rhywun sydd wedi ffoi i’w ddinas loches, gan ganiatáu iddo fynd yn ôl i fyw ar ei dir ei hun cyn i’r archoffeiriad farw.

33 “‘Mae’n rhaid ichi beidio â llygru’r wlad rydych chi’n byw ynddi, oherwydd mae gwaed yn llygru’r wlad, a’r unig ffordd i wneud yn iawn am y gwaed sydd wedi cael ei dywallt* ar y wlad yw drwy dywallt* gwaed y llofrudd. 34 Mae’n rhaid ichi beidio â halogi’r wlad rydych chi’n byw ynddi, y wlad rydw i’n byw ynddi, oherwydd rydw i, Jehofa, yn byw ymysg pobl Israel.’”

36 Dyma bennau teuluoedd disgynyddion Gilead fab Machir, mab Manasse, o deuluoedd meibion Joseff yn dod at Moses a’r penaethiaid, pennau teuluoedd yr Israeliaid, er mwyn siarad â nhw. 2 Dywedon nhw: “Rhoddodd Jehofa orchymyn i’n harglwydd i ddosbarthu’r wlad fel etifeddiaeth i’r Israeliaid drwy daflu coelbren; a chafodd ein harglwydd orchymyn gan Jehofa i roi etifeddiaeth ein brawd Seloffehad i’w ferched. 3 Petasen nhw’n priodi dynion o un o lwythau eraill Israel, byddai etifeddiaeth y merched* yn cael ei thynnu oddi ar etifeddiaeth ein tadau, a byddai’n cael ei hychwanegu at etifeddiaeth y llwyth y bydden nhw’n dod yn rhan ohono, wedyn bydden ni’n colli allan ar ran o’r etifeddiaeth a gafodd ei rhoi inni drwy daflu coelbren. 4 Nawr pan ddaw Jiwbilî yr Israeliaid, byddai etifeddiaeth y merched* hefyd yn cael ei hychwanegu at etifeddiaeth y llwyth y bydden nhw wedi dod yn rhan ohono, fel byddai eu hetifeddiaeth yn cael ei thynnu o etifeddiaeth llwyth ein tadau.”

5 Yna ar orchymyn Jehofa, dywedodd Moses wrth yr Israeliaid: “Mae’r hyn mae llwyth meibion Joseff yn ei ddweud yn gywir. 6 Dyma beth mae Jehofa wedi ei orchymyn ynglŷn â merched Seloffehad: ‘Gallan nhw briodi pwy bynnag maen nhw eisiau. Ond, dylen nhw briodi rhywun o un o deuluoedd llwyth eu tad. 7 Ni ddylai etifeddiaeth unrhyw un o’r Israeliaid gael ei throsglwyddo o un llwyth i’r llall, oherwydd dylai’r Israeliaid ddal eu gafael ar etifeddiaeth llwyth eu cyndadau. 8 A dylai pob merch sydd ag etifeddiaeth ymysg llwythau Israel briodi un o ddisgynyddion llwyth ei thad, fel bydd yr Israeliaid yn dal eu gafael ar etifeddiaeth eu cyndadau. 9 Ni ddylai etifeddiaeth gael ei throsglwyddo o un llwyth i’r llall, oherwydd dylai pob un o lwythau Israel ddal ei afael ar ei etifeddiaeth ei hun.’”

10 Gwnaeth merched Seloffehad yn union beth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. 11 Felly dyma Mala, Tirsa, Hogla, Milca, a Noa, merched Seloffehad, yn priodi meibion brodyr eu tad. 12 Daethon nhw’n wragedd i ddynion o deuluoedd Manasse fab Joseff, fel bod eu hetifeddiaeth yn aros yn llwyth teulu eu tad.

13 Dyma’r gorchmynion a’r barnedigaethau a roddodd Jehofa i’r Israeliaid trwy Moses yn anialwch Moab wrth yr Iorddonen gyferbyn â Jericho.

Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.

Neu “yn ôl ei faner.”

Neu “am warchod tabernacl y Dystiolaeth; am wasanaethu yn nhabernacl y Dystiolaeth.”

Neu “arwydd.”

Hynny yw, rhywun sydd ddim o deulu Aaron.

Neu “llen.”

Neu “llen.”

Neu “cortynnau’r; cordiau’r.”

Neu “llen.”

Neu “ei bedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “a’i bedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “a chortynnau’r; cordiau’r.”

Hynny yw, rhywun nad oedd yn Lefiad.

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu “yn ôl y sicl sanctaidd.”

Roedd gera yn gyfartal â 0.57 g (0.01835 oz t).

Llyth., “ceg.”

Neu “y bara gosod.”

Neu “ei efeiliau.”

Neu “lludw brasterog,” hynny yw, lludw wedi ei wlychu â braster yr aberthau.

Neu “gorchudd lliain.”

Neu “llen.”

Neu “llen.”

Neu “cortynnau’r; cordiau’r.”

Neu “ei bedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “eu pedestalau a thwll ym mhob un.”

Neu “cortynnau; cordiau.”

Neu “neu fenyw.”

Neu “maharen.”

Roedd un rhan o ddeg o effa yn gyfartal â 2.2 L.

Neu “fflŵr.”

Neu “arllwys.”

Llyth., “dŵr cysegredig.”

Neu “i’r fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “i’r fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Llyth., “wneud i dy glun syrthio i ffwrdd.”

Llyth., “gwneud i dy glun syrthio i ffwrdd.”

Neu “dylai’r fenyw.”

Neu “Bydded felly! Bydded felly!”

Neu “i’r fenyw.”

Neu “o law’r fenyw.”

Neu “i’r fenyw.”

Llyth., “a bydd ei chlun yn syrthio i ffwrdd.”

Neu “ydy’r fenyw.”

Neu “menyw.”

Neu “neu fenyw.”

Hebraeg, nazir, sy’n golygu “Un Sydd Wedi Ei Ddewis; Un Sydd Wedi Ei Gysegru; Un Sydd Wedi Ei Neilltuo.”

Neu “Ni ddylai rasel gyffwrdd â’i ben.”

Neu “enaid.” Gweler Geirfa.

Mae’n debyg bod hyn yn golygu gadael i’w wallt aildyfu.

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “y maharen.”

Llyth., “Gad i Jehofa godi ei wyneb.”

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu “yn ôl y sicl sanctaidd.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Llyth., “chwifio’r,” hynny yw, achosi iddyn nhw symud yn ôl ac ymlaen.

Llyth., “chwifio,” hynny yw, achosi iddyn nhw symud yn ôl ac ymlaen.

Llyth., “chwifio,” hynny yw, achosi iddyn nhw symud yn ôl ac ymlaen.

Llyth., “chwifio,” hynny yw, achosi iddyn nhw symud yn ôl ac ymlaen.

Neu “14eg diwrnod.”

Llyth., “rhwng y ddwy noswaith,” sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Neu “14eg diwrnod.”

Llyth., “rhwng y ddwy noswaith,” sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Neu “14eg diwrnod.”

Llyth., “rhwng y ddwy noswaith,” sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth bobl.”

Neu “20fed.”

Hynny yw, Jethro.

Neu “gorymdeithio.”

Neu “at fyrddiynau o filoedd Israel.”

Sy’n golygu “Llosgi,” hynny yw, tân enfawr; fflamio.

Yn ôl pob golwg, y rhai yn eu plith nad oedden nhw’n Israeliaid.

Neu “winwns.”

Neu “nyrs gwryw.”

Neu “o ddynion sy’n gallu mynd i ryfel.”

Llyth., “Ydy llaw Jehofa yn rhy fyr?”

Neu “dechreuon nhw broffwydo.”

Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).

Roedd homer yn gyfartal â 220L.

Sy’n golygu “Beddau’r Rhai a Ddangosodd Chwant Hunanol.”

Neu “menyw.”

Neu “gostyngedig.”

Llyth., “Yn fy nhŷ, mae’n profi ei hun yn ffyddlon.”

Neu “posau.”

Neu “Jehosua,” sy’n golygu “Jehofa Yw Achubiaeth.”

Neu “at fynedfa Hamath.”

Neu “Wadi.”

Neu “Wadi.”

Sy’n golygu “Clwstwr o Rawnwin.”

Neu “ceiliogod y rhedyn.”

Neu “ysbryd.”

Neu “gwastatir isel.”

Neu “i fy nghael i fel gelyn.”

Neu “fflŵr.”

Roedd degfed ran o effa yn gyfartal â 2.2 L.

Roedd hin yn gyfartal â 3.67 L.

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “fflŵr.”

Neu “neu faharen.”

Neu “bwyd y wlad.”

Neu “fflŵr.”

Neu “fflŵr.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei bobl.”

Neu “rhidens,” sef rhes o daselau bychain a oedd yn hongian ar waelod dilledyn.

Neu “ei lordio hi droston ni?”

Llyth., “a fyddi di hefyd yn tynnu llygaid y dynion hynny allan?”

Neu “o fy liwt fy hun.”

Neu “Sheol,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.

Neu “Sheol,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.

Llyth., “dieithryn,” hynny yw, rhywun sydd ddim o deulu Aaron.

Llyth., “dieithryn,” hynny yw, rhywun sydd ddim o deulu Aaron.

Hynny yw, popeth sydd wedi ei wneud yn sanctaidd i Dduw drwy gael ei roi iddo’n llwyr, heb bosibilrwydd o’i gymryd yn ôl.

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu “yn ôl y sicl sanctaidd.”

Roedd gera yn gyfartal â 0.57 g (0.01835 oz t).

Hynny yw, cyfamod parhaol sydd ddim yn gallu cael ei newid.

Neu “ag amharchu.”

Neu “a’i baw; tom; tail.”

Neu “ei dorri i ffwrdd oddi wrth Israel.”

Neu “arllwys.”

Neu “ei dorri i ffwrdd o blith y gynulleidfa.”

Neu “arllwys.”

Sy’n golygu “Cweryla.”

Neu “gorymdeithio.”

Mae hwn yn ymadrodd barddonol ar gyfer marwolaeth.

Sy’n golygu “Rhywle Wedi Ei Neilltuo i Gael Ei Ddinistrio.”

Neu “seirff.”

Neu “tanllyd.”

Neu “neidr danllyd.”

Neu “Wadi.”

Neu “wadïau.”

Neu “wadïau.”

Neu “Tardda.”

Neu efallai, “yr anialwch.”

Neu “gorymdeithio.”

Neu “holl borfa.”

Afon Ewffrates, mae’n debyg.

Neu “y wlad.”

Neu “y wlad.”

Neu “rhoi cyfrwy ar.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “sy’n difaru.”

Neu efallai, “yr anialwch.”

Neu “maharen.”

Neu “maharen.”

Llyth., “Dy dabernaclau.”

Neu “wadïau.”

Neu “ei ddisgynyddion.”

Neu “ef.”

Neu “teyrnwialen.”

Hynny yw, gelynion Seir.

Neu “menywod.”

Neu “menyw.”

Neu “a’r fenyw.”

Neu “yn ei horganau cenhedlu.”

Neu “gyda’r fenyw.”

Neu “enw’r fenyw.”

Neu “yn ôl nifer yr enwau sydd wedi eu rhestru.”

Mae hwn yn ymadrodd barddonol ar gyfer marwolaeth.

Neu “dyn sydd ag ysbryd da ar gyfer arwain.”

Llyth., “rhwng y ddwy noswaith,” sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Roedd degfed ran o effa yn gyfartal â 2.2 L.

Neu “fflŵr.”

Roedd hin yn gyfartal â 3.67 L.

Neu “arllwys.”

Llyth., “rhwng y ddwy noswaith,” sy’n gallu golygu, rhwng machlud haul a dechrau tywyllwch.

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “fflŵr.”

Neu “y maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “y maharen.”

Neu “14eg diwrnod.”

Neu “15fed.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “y maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “y maharen.”

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Roedd tair rhan o ddeg o effa yn gyfartal â 6.6 L.

Neu “y maharen.”

Gallai’r tristwch hwn gael ei ddangos drwy ymprydio a thrwy gyfyngiadau tebyg.

Neu “maharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “y maharen.”

Neu “15fed.”

Neu “2 faharen.”

Neu “fflŵr.”

Neu “maharen.”

Neu “2 faharen.”

Neu “y meheryn.”

Neu “2 faharen.”

Neu “y meheryn.”

Neu “2 faharen.”

Neu “y meheryn.”

Neu “2 faharen.”

Neu “y meheryn.”

Neu “2 faharen.”

Neu “y meheryn.”

Neu “2 faharen.”

Neu “y meheryn.”

Neu “maharen.”

Neu “y maharen.”

Gweler Geirfa.

Neu “i ymatal rhag rhywbeth.”

Neu “menyw.”

Neu “neu fenyw.”

Neu “menyw.”

Mae hwn yn ymadrodd barddonol ar gyfer marwolaeth.

Llyth., “miloedd Israel.”

Neu “menywod.”

Neu “holl fenywod.”

Neu “menyw.”

Gweler Geirfa.

Neu “menywod.”

Hynny yw, cadwyni addurniadol sy’n cael eu gwisgo rhwng y ddwy ffêr.

Hynny yw, modrwyau gyda sêl rheolwr neu berson pwysig arnyn nhw.

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu efallai, “er mwyn atgoffa Jehofa o bobl Israel.”

Neu “Wadi.”

Neu “ailadeiladodd.”

Neu “gorymdeithio.”

Sy’n golygu “Pentrefi Pebyll Jair.”

Neu “15fed.”

Neu “gorymdeithio.”

Neu “40fed.”

Neu “y Môr Heli.”

Hynny yw, y Môr Mawr, Môr y Canoldir.

Hynny yw, Môr y Canoldir.

Neu “at fynedfa Hamath.”

Hynny yw, Llyn Genesaret, neu Môr Galilea.

Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod.).

Llyth., “tra ei fod yn cuddio yn barod amdano.”

Llyth., “heb guddio yn barod amdano.”

Neu “arllwys.”

Neu “arllwys.”

Neu “menywod.”

Neu “menywod.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu