LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • nwt Nehemeia 1:1-13:31
  • Nehemeia

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Nehemeia
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Nehemeia

NEHEMEIA

1 Geiriau Nehemeia* fab Hachaleia: Nawr ym mis Cislef, yn yr ugeinfed* flwyddyn, roeddwn i yn y gaer* yn Susan.* 2 Bryd hynny, cyrhaeddodd Hanani, un o fy mrodyr, gyda dynion eraill o Jwda, a gwnes i eu holi nhw am yr Iddewon, y gweddill a oedd wedi dianc o’u caethiwed, a hefyd am Jerwsalem. 3 Atebon nhw: “Mae’r rhai sydd nawr yn byw yn y dalaith ar ôl goroesi’r caethiwed yn dioddef helynt ofnadwy, ac maen nhw mewn cywilydd. Mae waliau Jerwsalem wedi eu chwalu, ac mae ei phyrth wedi cael eu llosgi â thân.”

4 Unwaith imi glywed y geiriau hyn, eisteddais i lawr a dechrau wylo a galaru am ddyddiau, a dyma fi’n ymprydio ac yn gweddïo o flaen Duw y nefoedd. 5 Dywedais: “O Jehofa,* Duw y nefoedd, y Duw mawr a rhyfeddol sy’n cadw ei gyfamod, ac sy’n dangos cariad ffyddlon tuag at y rhai sy’n ei garu ac sy’n cadw ei orchmynion, 6 plîs, tro dy sylw ata i, a rho glust i weddi dy was wrth imi weddïo arnat ti heddiw. Rydw i’n gweddïo ddydd a nos ynglŷn â dy weision, yr Israeliaid, gan gyffesu pechodau’r Israeliaid yn dy erbyn di. Rydyn ni wedi pechu, y fi a theulu fy nhad. 7 Rydyn ni’n sicr wedi ymddwyn yn ofnadwy ac wedi dy frifo di drwy beidio â chadw’r gorchmynion, y deddfau, a’r penderfyniadau barnwrol y gwnest ti eu rhoi i dy was Moses.

8 “Cofia, plîs, beth ddywedaist ti wrth* dy was Moses: ‘Os byddwch chi’n ymddwyn yn anffyddlon, bydda i’n eich gwasgaru chi ymysg y bobloedd. 9 Ond os byddwch chi’n troi yn ôl ata i ac yn cadw fy ngorchmynion, yna hyd yn oed os bydd y bobl wedi eu gwasgaru hyd at ben draw’r byd, bydda i’n eu casglu nhw i’r lle rydw i wedi ei ddewis ar gyfer fy enw.’ 10 Nhw ydy dy weision a dy bobl, y rhai gwnest ti eu rhyddhau drwy dy rym mawr a thrwy dy law nerthol. 11 O Jehofa, plîs, rho glust i weddi dy was, ac i weddïau dy weision sydd wrth eu boddau yn ofni dy enw, a plîs, rho lwyddiant i dy was heddiw, a gwna i’r dyn hwn ddangos trugaredd tuag ata i.”

Nawr roeddwn i’n was gweini* i’r brenin.

2 Ym mis Nisan yn yr ugeinfed* flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Artacsercses, roedd gwin wedi ei osod o’i flaen, ac fel arfer cymerais y gwin a’i roi i’r brenin. Ond doeddwn i erioed wedi bod yn ddigalon o’i flaen. 2 Felly dywedodd y brenin wrtho i: “Pam rwyt ti’n edrych mor ddigalon? Dwyt ti ddim yn sâl, felly mae’n rhaid bod rhywbeth yn dy boeni di.” Gyda hynny, des i’n ofnus iawn.

3 Yna dywedais wrth y brenin: “Hir oes i’r brenin! Sut gallwn i beidio ag edrych yn ddigalon, pan mae’r ddinas lle mae fy nghyndadau wedi eu claddu yn adfeilion, ac mae ei phyrth wedi eu llosgi â thân?” 4 Yna dywedodd y brenin wrtho i: “Beth rwyt ti’n ei geisio?” Ar unwaith gweddïais ar Dduw y nefoedd. 5 Yna dywedais wrth y brenin: “Os yw’n dda yng ngolwg y brenin, ac os ydy dy was wedi dy blesio di, anfona fi i Jwda, i’r ddinas lle mae fy nghyndadau wedi eu claddu, er mwyn imi ei hailadeiladu.” 6 Yna dyma’r brenin, gyda’r frenhines yn eistedd wrth ei ochr, yn dweud wrtho i: “Pa mor hir fydd dy daith, a phryd byddi di’n dod yn ôl?” Felly roedd yn plesio’r brenin i fy anfon i, a dywedais wrtho pryd y byddwn i’n dod yn ôl.

7 Yna dywedais wrth y brenin: “Os yw’n plesio’r brenin, rho lythyrau imi ar gyfer llywodraethwyr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon,* fel eu bod nhw’n gadael imi basio drwy eu gwlad nes imi gyrraedd Jwda, 8 yn ogystal â llythyr ar gyfer Asaff, ceidwad y Parc Brenhinol,* er mwyn iddo roi coed imi ar gyfer trawstiau pyrth Caer y Tŷ* ac ar gyfer waliau’r ddinas, ac ar gyfer y tŷ bydda i’n aros ynddo.” Felly rhoddodd y brenin y llythyrau imi, oherwydd roedd llaw garedig fy Nuw gyda fi.

9 Yn y pen draw, des i at lywodraethwyr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon, a rhoddais lythyrau’r brenin iddyn nhw. Roedd y brenin hefyd wedi anfon penaethiaid milwrol a marchogion gyda mi. 10 Pan wnaeth Sanbalat yr Horoniad a Tobeia y swyddog o Ammon glywed am hyn, doedden nhw ddim yn hapus o gwbl fod rhywun wedi dod i wneud rhywbeth da ar ran pobl Israel.

11 O’r diwedd des i i Jerwsalem ac arhosais yno am dri diwrnod. 12 Codais liw nos, fi a’r ychydig o ddynion a oedd gyda fi, a wnes i ddim rhoi gwybod i unrhyw un beth roedd fy Nuw wedi fy annog* i i’w wneud yn Jerwsalem, a’r unig anifail a oedd gen i oedd yr un roeddwn i’n teithio arno. 13 Es i allan yn ystod y nos drwy Borth y Dyffryn, gan basio y tu blaen i Ffynnon y Neidr Fawr ac ymlaen i Borth y Pentyrrau Lludw, ac edrychais ar gyflwr waliau Jerwsalem a oedd wedi eu chwalu a’i phyrth a oedd wedi eu llosgi â thân. 14 Ac es i ymlaen i Borth y Ffynnon ac i Bwll y Brenin, ond doedd ’na ddim digon o le i’r anifail roeddwn i’n teithio arno fynd ymhellach. 15 Ond gwnes i barhau ar hyd y dyffryn* yn ystod y nos gan edrych yn fanwl ar gyflwr y wal. Ar ôl hynny, gwnes i droi yn ôl a dychwelyd trwy Borth y Dyffryn.

16 Doedd y dirprwy reolwyr ddim yn gwybod ble roeddwn i wedi mynd na beth roeddwn i’n ei wneud, oherwydd doeddwn i ddim wedi dweud unrhyw beth eto wrth yr Iddewon, yr offeiriaid, y dynion pwysig, y dirprwy reolwyr, na gweddill y gweithwyr. 17 Yn y pen draw, dywedais i wrthyn nhw: “Rydych chi’n gweld pa mor ofnadwy ydy’r sefyllfa hon—mae Jerwsalem yn adfeilion ac mae ei phyrth wedi eu llosgi â thân. Gadewch inni ailadeiladu waliau Jerwsalem, fel na fydd y sefyllfa warthus hon yn parhau.” 18 Yna gwnes i sôn wrthyn nhw am sut roedd fy Nuw wedi fy nghefnogi,* a hefyd am beth roedd y brenin wedi ei ddweud wrtho i. Gyda hynny, dywedon nhw: “Gadewch inni godi a dechrau adeiladu.” Felly gwnaethon nhw gryfhau ei gilydd a pharatoi ar gyfer y gwaith.

19 Nawr pan glywodd Sanbalat yr Horoniad, Tobeia y swyddog o Ammon, a Gesem yr Arabiad am hyn, dechreuon nhw ein gwawdio ni a gwneud hwyl am ein pennau, gan ddweud: “Beth rydych chi’n ei wneud? Ydych chi’n gwrthryfela yn erbyn y brenin?” 20 Sut bynnag, atebais: “Duw y nefoedd yw’r Un a fydd yn rhoi llwyddiant inni, ac fe fyddwn ni, ei weision, yn codi ac yn mynd ati i adeiladu. Ond, does gynnoch chi ddim rhan yn Jerwsalem, nac unrhyw hawl hanesyddol na chyfreithiol yma.”

3 Dyma Eliasib yr archoffeiriad a’i frodyr yr offeiriaid yn codi i adeiladu Porth y Defaid. Gwnaethon nhw ei sancteiddio* a gosod ei ddrysau yn eu lle; gwnaethon nhw ei sancteiddio mor bell â Thŵr Mea,* mor bell â Thŵr Hananel. 2 Ac wrth eu hochr nhw, roedd dynion Jericho yn adeiladu; ac wrth eu hochr nhwthau roedd Saccur fab Imri yn adeiladu.

3 Adeiladodd meibion Hasena Borth y Pysgod; gwnaethon nhw osod ei fframwaith pren, ac yna rhoi ei ddrysau, ei folltau, a’i farrau yn eu lle. 4 Ac wrth eu hochr nhw roedd Meremoth, mab Ureia, mab Haccos yn gwneud gwaith atgyweirio, ac wrth eu hochr nhwthau roedd Mesulam, mab Berecheia, mab Mesesabel yn gwneud gwaith atgyweirio, ac wrth eu hochr nhwthau roedd Sadoc fab Baana yn gwneud gwaith atgyweirio. 5 Ac wrth eu hochr nhw roedd y Tecoiaid yn gwneud gwaith atgyweirio, ond doedd eu dynion pwysig ddim yn ddigon gostyngedig i gael rhan yng ngwaith eu meistri.

6 Gwnaeth Joiada fab Pasea a Mesulam fab Besodeia atgyweirio Porth yr Hen Ddinas; gwnaethon nhw osod ei fframwaith pren ac yna rhoi ei ddrysau, ei folltau, a’i farrau yn eu lle. 7 Wrth eu hochr nhw roedd Melateia y Gibeoniad a Jadon y Meronothiad yn gwneud gwaith atgyweirio. Roedden nhw’n ddynion o Gibeon a Mispa a oedd o dan awdurdod llywodraethwr yr ardal y Tu Hwnt i’r Afon.* 8 Wrth eu hochr nhw roedd Ussiel fab Harhaia, un o’r gofaint aur, yn gwneud gwaith atgyweirio, ac wrth ei ochr ef roedd Hananeia, un o’r cymysgwyr persawr, yn gwneud gwaith atgyweirio; a gwnaethon nhw osod llawr cerrig yn Jerwsalem mor bell â’r Wal Lydan. 9 Wrth eu hochr nhw roedd Reffaia fab Hur, tywysog hanner rhanbarth Jerwsalem, yn gwneud gwaith atgyweirio. 10 Ac wrth eu hochr nhw roedd Jedaia fab Harumaff yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen ei dŷ ei hun, ac wrth ei ochr ef roedd Hattus fab Hasabneia yn gwneud gwaith atgyweirio.

11 Atgyweiriodd Malcheia fab Harim a Hasub fab Pahath-moab ran arall o’r wal, yn ogystal â Thŵr y Ffyrnau.* 12 Ac wrth eu hochr nhw roedd Salum fab Halohes, tywysog hanner rhanbarth Jerwsalem, yn gwneud gwaith atgyweirio gyda’i ferched.

13 Cafodd Porth y Dyffryn ei atgyweirio gan Hanun a phobl Sanoa. Gwnaethon nhw ei adeiladu ac yna gosod ei ddrysau, ei folltau, a’i farrau yn eu lle, a gwnaethon nhw atgyweirio 1,000 cufydd* o’r wal, mor bell â Phorth y Pentyrrau Lludw. 14 Cafodd Porth y Pentyrrau Lludw ei atgyweirio gan Malcheia fab Rechab, tywysog rhanbarth Beth-hacerem; gwnaeth ef ei adeiladu a gosod ei ddrysau, ei folltau, a’i farrau yn eu lle.

15 Salun fab Colhose, tywysog rhanbarth Mispa, a wnaeth atgyweirio Porth y Ffynnon. Gwnaeth ef adeiladu’r porth a’i do, a gosod ei ddrysau, ei folltau, a’i farrau yn eu lle, a hefyd atgyweirio wal Pwll y Gamlas, wrth ymyl Gardd y Brenin ac mor bell â’r grisiau sy’n mynd i lawr o Ddinas Dafydd.

16 Nesaf ato ef roedd Nehemeia fab Asbuc, tywysog hanner rhanbarth Beth-sur, yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen Beddau Teulu Dafydd, ac mor bell â’r pwll a oedd wedi cael ei adeiladu ac mor bell â Thŷ’r Rhai Cryf.

17 Nesaf ato ef roedd y Lefiaid yn gwneud gwaith atgyweirio: Rehum fab Bani, ac wrth ei ochr ef roedd Hasabeia, tywysog hanner rhanbarth Ceila, yn gwneud gwaith atgyweirio ar gyfer ei ranbarth ef. 18 Nesaf ato ef roedd eu brodyr yn gwneud gwaith atgyweirio: Bafai fab Henadad, tywysog hanner rhanbarth Ceila.

19 Ac wrth ei ochr ef roedd Eser fab Jesua, tywysog Mispa, yn atgyweirio rhan arall o’r wal o flaen y llethr sy’n mynd i fyny at yr Arfdy wrth y Bwtres.

20 Nesaf ato ef gweithiodd Baruch fab Sabbai yn frwdfrydig ac atgyweiriodd ran arall o’r wal, o’r Bwtres mor bell â mynedfa tŷ Eliasib yr archoffeiriad.

21 Nesaf ato ef atgyweiriodd Meremoth, mab Ureia, mab Haccos ran arall o’r wal, o fynedfa tŷ Eliasib mor bell â phen arall tŷ Eliasib.

22 A nesaf ato ef roedd yr offeiriaid, dynion o ranbarth yr Iorddonen,* yn gwneud gwaith atgyweirio. 23 Nesaf atyn nhw roedd Benjamin a Hasub yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen eu tŷ eu hunain. Nesaf atyn nhw roedd Asareia, mab Maaseia, mab Ananeia yn gwneud gwaith atgyweirio yn agos at ei dŷ ei hun. 24 Nesaf ato ef roedd Binnui fab Henadad yn atgyweirio rhan arall o’r wal, o dŷ Asareia mor bell â’r Bwtres ac mor bell â’r gornel.

25 Nesaf ato ef roedd Palal fab Usai yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen y Bwtres a’r tŵr sy’n mynd allan o Dŷ’r Brenin,* yr un uchaf sy’n perthyn i Gwrt y Gwarchodlu. Nesaf ato ef roedd Pedaia fab Paros.

26 Ac roedd gweision y deml* a oedd yn byw yn Offel yn gwneud gwaith atgyweirio mor bell â’r tu blaen i Borth y Dŵr yn y dwyrain a’r tŵr sy’n ymestyn allan o’r wal.

27 Nesaf atyn nhw roedd y Tecoiaid yn atgyweirio rhan arall o’r wal, o’r tu blaen i’r tŵr mawr sy’n ymestyn allan o’r wal mor bell â wal Offel.

28 Roedd yr offeiriaid yn gwneud gwaith atgyweirio uwchben Porth y Ceffylau, pob un o flaen ei dŷ ei hun.

29 Nesaf atyn nhw roedd Sadoc fab Immer yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen ei dŷ ei hun, a nesaf ato ef roedd Semaia fab Sechaneia, ceidwad Porth y Dwyrain, yn gwneud gwaith atgyweirio.

30 Nesaf ato ef roedd Hananeia fab Selemeia, a Hanun chweched mab Salaff, yn atgyweirio rhan arall o’r wal.

Nesaf ato ef roedd Mesulam fab Berecheia yn gwneud gwaith atgyweirio o flaen ei neuadd ei hun.

31 Nesaf ato ef roedd Malcheia, gof aur,* yn gwneud gwaith atgyweirio mor bell â thŷ gweision y deml* a’r masnachwyr, o flaen Porth yr Archwiliad ac mor bell â’r ystafell ar y to ar y gornel.

32 A rhwng yr ystafell ar y to ar y gornel a Phorth y Defaid, roedd y gofaint aur a’r masnachwyr yn gwneud gwaith atgyweirio.

4 Nawr unwaith i Sanbalat glywed ein bod ni’n ailadeiladu’r wal, gwylltiodd yn lân a dechreuodd wawdio’r Iddewon. 2 Ac o flaen ei frodyr a byddin Samaria, dywedodd: “Beth mae’r Iddewon gwan yn ei wneud? Ydyn nhw’n gwneud hyn ar eu pennau eu hunain? Ydyn nhw am offrymu aberthau? A fyddan nhw’n gorffen o fewn diwrnod? A fyddan nhw’n ailddefnyddio’r cerrig sydd wedi eu llosgi gan eu cymryd nhw allan o’r pentyrrau llychlyd o rwbel?”

3 Nawr dywedodd Tobeia yr Ammoniad a oedd yn sefyll wrth ei ymyl: “Gallai hyd yn oed llwynog* dorri i lawr y waliau cerrig y maen nhw’n eu hadeiladu.”

4 O ein Duw, plîs gwranda, oherwydd rydyn ni’n cael ein dirmygu, a thro eu sarhad yn ôl arnyn nhw, a gad iddyn nhw gael eu cymryd yn gaeth i wlad arall fel ysbail. 5 A phaid â gorchuddio eu heuogrwydd na gadael i’w pechod gael ei ddileu o dy flaen, am eu bod nhw wedi sarhau’r adeiladwyr.

6 Felly dalion ni ati i adeiladu’r wal, i lenwi’r bylchau, ac i’w hailadeiladu i hanner ei huchder, a pharhaodd y bobl i weithio’n selog.

7 Nawr unwaith i Sanbalat, Tobeia, yr Arabiaid, yr Ammoniaid, a’r Asdodiaid glywed bod y bylchau yn waliau Jerwsalem yn cael eu llenwi a bod y gwaith yn mynd yn dda, gwylltion nhw’n lân. 8 Gwnaethon nhw gynllwynio â’i gilydd i ddod i frwydro yn erbyn Jerwsalem ac i greu helynt ynddi. 9 Ond gweddïon ni ar ein Duw a phenodon ni warchodwyr i’n hamddiffyn ni rhagddyn nhw ddydd a nos.

10 Ond roedd pobl Jwda’n dweud: “Mae’r gweithwyr wedi colli eu nerth, ac mae ’na gymaint o rwbel; fyddwn ni byth yn gorffen y wal.”

11 A pharhaodd ein gelynion i ddweud: “Cyn iddyn nhw ein gweld ni neu sylweddoli beth sy’n digwydd, byddwn ni yn eu plith ac yn eu lladd nhw ac yn dod â’r gwaith i ben.”

12 Bryd bynnag daeth yr Iddewon a oedd yn byw yn agos atyn nhw i mewn, dywedon nhw drosodd a throsodd: “Byddan nhw’n dod yn ein herbyn ni o bob cyfeiriad.”

13 Felly gosodais ddynion yn y rhannau isaf y tu ôl i’r wal yn y llefydd agored, a gwnes i eu gosod nhw yn ôl eu teuluoedd, ac roedd ganddyn nhw eu cleddyfau, eu gwaywffyn, a’u bwâu. 14 Pan welais i eu hofn, codais ar unwaith a dywedais wrth y dynion pwysig, y dirprwy reolwyr, a gweddill y bobl: “Peidiwch â’u hofni nhw. Cofiwch Jehofa, sy’n fawr ac yn rhyfeddol, a brwydrwch dros eich brodyr, eich meibion, eich merched, eich gwragedd, a’ch cartrefi.”

15 Nawr ar ôl i’n gelynion glywed ein bod ni’n gwybod am beth roedden nhw’n bwriadu ei wneud a bod y gwir Dduw wedi rhwystro eu cynllwyn, dechreuon ni weithio ar y wal eto. 16 O hynny ymlaen roedd hanner fy nynion yn gwneud y gwaith, a’r hanner arall wedi eu harfogi â gwaywffyn, tarianau, a bwâu, ac yn gwisgo arfwisgoedd. Ac roedd y tywysogion yn cefnogi* holl dŷ Jwda 17 wrth iddyn nhw adeiladu’r wal. Roedd y rhai a oedd yn cario llwythi trwm yn defnyddio un llaw i wneud y gwaith ac yn dal arf yn y llaw arall. 18 Roedd gan bob un o’r adeiladwyr gleddyf ar ei glun wrth iddo weithio, ac roedd canwr y corn yn sefyll wrth fy ymyl.

19 Yna dywedais wrth y dynion pwysig, y dirprwy reolwyr, a gweddill y bobl: “Mae’r gwaith yn fawr, ac rydyn ni wedi ein gwasgaru ar hyd y wal ac yn gweithio’n bell oddi wrth ein gilydd. 20 Casglwch aton ni pan fyddwch chi’n clywed y corn, a bydd ein Duw yn brwydro droston ni.”

21 Felly dalion ni ati i weithio tra oedd yr hanner arall yn dal y gwaywffyn, o doriad y wawr nes i’r sêr ddod allan. 22 Bryd hynny dywedais wrth y bobl: “Gadewch i’r dynion, pob un ynghyd â’i was, aros dros nos yn Jerwsalem, a byddan nhw’n ein gwarchod ni liw nos ac yn gweithio yn ystod y dydd.” 23 Felly ni wnes i, fy mrodyr, fy ngweision, na’r gwarchodwyr a oedd yn fy nilyn dynnu ein dillad i ffwrdd, ac roedd pob un ohonon ni yn cadw ei arf yn ei law dde.

5 Ond, dechreuodd y dynion a’u gwragedd gwyno’n ofnadwy yn erbyn eu brodyr Iddewig. 2 Roedd rhai yn dweud: “Mae gynnon ni lawer o feibion a merched, ac mae’n rhaid inni gael ŷd er mwyn bwyta ac aros yn fyw.” 3 Roedd eraill yn dweud: “Rydyn ni’n rhoi ein caeau, ein gwinllannoedd, a’n tai fel gwarant er mwyn cael ŷd yn ystod y newyn.” 4 Ac roedd eraill eto’n dweud: “Rydyn ni wedi benthyg arian er mwyn talu treth y brenin ac wedi gorfod rhoi ein caeau a’n gwinllannoedd fel gwarant. 5 Nawr rydyn ni yn union yr un fath â’n brodyr,* ac mae ein plant ni yn union yr un fath â’u plant nhw. Er hynny, bydd rhaid i ni werthu ein meibion a’n merched i fod yn gaethweision a chaethferched, ac mae hynny eisoes wedi digwydd i rai o’n merched. Ond does ’na ddim byd gallwn ni ei wneud i stopio hyn, oherwydd mae ein caeau a’n gwinllannoedd yn perthyn i eraill.”

6 Gwnes i wylltio’n lân pan glywais y geiriau hyn a’u holl gwynion. 7 Felly dyma fi’n ystyried y pethau hyn yn fy nghalon, ac yna’n ceryddu’r dynion pwysig a’r dirprwy reolwyr gan ddweud wrthyn nhw: “Mae pob un ohonoch chi’n mynnu llog gan eich brodyr eich hunain.”

Ar ben hynny, trefnais gynulliad mawr i ddelio â’r mater. 8 A dywedais wrthyn nhw: “Rydyn ni wedi gwneud popeth allwn ni i brynu yn ôl ein brodyr Iddewig a gafodd eu gwerthu i’r cenhedloedd. Ond a ydych chi nawr am werthu eich brodyr eich hunain, ac a fyddan nhw’n cael eu gwerthu yn ôl inni?” Ar hynny, aethon nhw’n hollol ddistaw, a doedd ganddyn nhw ddim ateb. 9 Yna dywedais: “Mae beth rydych chi’n ei wneud yn ddrwg. Oni ddylech chi gerdded yn ofn ein Duw,* fel na fydd y cenhedloedd, ein gelynion, yn gallu codi cywilydd arnon ni? 10 Ar ben hynny, rydw i, fy mrodyr, a fy ngweision yn benthyg arian ac ŷd iddyn nhw. Plîs, dewch inni stopio mynnu llog ar y benthyciadau hyn. 11 Plîs, rhowch yn ôl iddyn nhw heddiw eu caeau, eu gwinllannoedd, eu coed olewydd, a’u tai, yn ogystal â’r llog rydych chi’n ei fynnu ganddyn nhw, sef un rhan o gant* o’r arian, yr ŷd, y gwin newydd, a’r olew.”

12 Atebon nhw: “Gwnawn ni roi’r pethau hyn yn ôl iddyn nhw, heb ofyn am unrhyw beth arall ganddyn nhw. Byddwn ni’n gwneud yn union fel rwyt ti’n dweud.” Felly dyma fi’n galw am yr offeiriaid ac yn gwneud i’r dynion hynny dyngu llw i gadw’r addewid hwn. 13 Hefyd, wrth ysgwyd allan bopeth a oedd yn fy nilledyn,* dywedais: “Yn yr un modd, gad i’r gwir Dduw ysgwyd allan o’i dŷ ac o’i eiddo bob dyn sydd ddim yn cadw at yr addewid hwn, ac yn yr un modd gad iddo gael ei ysgwyd a’i adael heb unrhyw beth.” Atebodd y gynulleidfa gyfan: “Amen!”* A dyma nhw’n moli Jehofa, a gwnaeth y bobl fel roedden nhw wedi addo.

14 Hefyd, o’r diwrnod gwnaeth y brenin fy mhenodi i fod yn llywodraethwr drostyn nhw yng ngwlad Jwda, o’r ugeinfed* flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad y Brenin Artacsercses, 12 mlynedd, ni wnes i na fy mrodyr fwyta’r dogn bwyd roedd gan y llywodraethwr yr hawl iddo. 15 Ond roedd y llywodraethwyr blaenorol wedi gosod beichiau trwm ar y bobl, ac wedi bod yn cymryd 40 sicl arian* oddi arnyn nhw bob dydd ar gyfer bara a gwin. Hefyd, roedd eu gweision wedi bod yn llawdrwm ar y bobl. Ond wnes i ddim gwneud hynny, am fy mod i’n ofni Duw.

16 Ar ben hynny, cymerais ran yn y gwaith ar y wal hon, ac ni wnaethon ni gymryd dim un cae oddi ar unrhyw un; roedd fy ngweision i gyd yn gweithio yno. 17 Roedd ’na 150 o Iddewon a dirprwy reolwyr yn bwyta wrth fy mwrdd, yn ogystal â’r rhai a oedd wedi dod aton ni o blith y cenhedloedd. 18 Bob diwrnod roeddwn i’n gorchymyn i ddynion baratoi* un tarw, chwech o’r defaid gorau, ac adar; ac unwaith bob deg diwrnod roedden ni’n cael digonedd o win o bob math. Er gwaethaf hyn i gyd, doeddwn i ddim yn hawlio dogn bwyd y llywodraethwr, am fod y bobl eisoes o dan ddigon o faich oherwydd eu gwasanaeth. 19 Felly, O fy Nuw, plîs cofia fi a fy mendithio* am bopeth rydw i wedi ei wneud ar ran y bobl hyn.

6 Nawr yn syth ar ôl i Sanbalat, Tobeia, Gesem yr Arabiad, a gweddill ein gelynion glywed fy mod i wedi ailadeiladu’r wal a doedd ’na ddim bylchau ar ôl ynddi (er nad oedden ni wedi gosod y drysau yn y pyrth bryd hynny), 2 anfonodd Sanbalat a Gesem y neges hon ata i ar unwaith: “Tyrd a gad inni drefnu amser i gyfarfod â’n gilydd yn un o’r pentrefi yng Ngwastatir Dyffryn Ono.” Ond cynllwynio i fy niweidio i oedden nhw. 3 Felly anfonais negeswyr atyn nhw gan ddweud: “Rydw i’n brysur â gwaith pwysig iawn, a dydw i ddim yn gallu dod i lawr. Pam dylwn i ddod i’ch cyfarfod chi a gadael i’r gwaith stopio?” 4 Felly anfonon nhw’r un neges ata i bedair gwaith, a rhoddais yr un ateb iddyn nhw bob tro.

5 Yna anfonodd Sanbalat ei was ata i gyda’r un neges am y pumed tro, gyda llythyr agored yn ei law. 6 Roedd y llythyr yn dweud: “Mae ’na si yn mynd o gwmpas ymysg y cenhedloedd, ac mae Gesem hefyd yn dweud, dy fod ti a’r Iddewon yn cynllwynio i wrthryfela. Dyna pam rwyt ti’n adeiladu’r wal; ac yn ôl yr adroddion rwyt ti’n bwriadu dod yn frenin arnyn nhw. 7 Hefyd, rwyt ti wedi penodi proffwydi i ddweud amdanat ti drwy Jerwsalem i gyd, ‘Mae ’na frenin yn Jwda!’ Ac nawr bydd y brenin yn clywed am hyn i gyd. Felly tyrd, a gad inni drafod hyn gyda’n gilydd er mwyn datrys y mater.”

8 Ond anfonais yr ateb hwn ato: “Does dim un o’r pethau yma rwyt ti’n sôn amdanyn nhw wedi digwydd; ffrwyth dy ddychymyg ydyn nhw i gyd.” 9 Oherwydd roedden nhw i gyd yn ceisio ein dychryn ni gan ddweud: “Byddan nhw’n llaesu eu dwylo, a fydd y gwaith ddim yn cael ei orffen.” Nawr, O fy Nuw, rydw i’n gweddïo, cryfha fy nwylo.

10 Yna es i i dŷ Semaia, mab Delaia, mab Mehetabel, ar yr adeg pan nad oedd ef yn gadael ei dŷ. Dywedodd ef: “Gad inni drefnu amser i gyfarfod yn nhŷ’r gwir Dduw, y tu mewn i’r deml, a gad inni gau drysau’r deml, oherwydd maen nhw’n dod i dy ladd di. Maen nhw’n dod i dy ladd di liw nos.” 11 Ond atebais: “A ddylai dyn fel fi redeg i ffwrdd? A allai dyn fel fi fynd i mewn i’r deml a chael byw? Fydda i ddim yn mynd i mewn!” 12 Yna sylweddolais nad oedd ef wedi cael ei anfon gan Dduw, ond ei fod wedi cael ei dalu gan Tobeia a Sanbalat i broffwydo yn fy erbyn i. 13 Roedd ef wedi cael ei dalu i fy nychryn i ac i achosi imi bechu, fel bod ganddyn nhw ffordd o niweidio fy enw da er mwyn codi cywilydd arna i.

14 Cofia, O fy Nuw, bopeth mae Tobeia a Sanbalat wedi ei wneud, a hefyd Noadeia y broffwydes a gweddill y proffwydi a oedd yn ceisio fy nychryn i drwy’r adeg.

15 Felly cafodd y wal ei chwblhau ar y pumed diwrnod ar hugain* o fis Elul, o fewn 52 diwrnod.

16 Unwaith i’n holl elynion glywed am hyn ac unwaith i’r cenhedloedd i gyd ei weld, teimlon nhw gywilydd mawr, a sylweddolon nhw mai gyda help ein Duw y cafodd y gwaith ei gwblhau. 17 Yn ystod y dyddiau hynny, roedd dynion pwysig Jwda yn anfon llawer o lythyrau at Tobeia, ac roedd Tobeia yn eu hateb nhw. 18 Gwnaeth llawer o bobl yn Jwda dyngu llw i gefnogi Tobeia, am ei fod yn fab-yng-nghyfraith i Sechaneia fab Ara, ac roedd ei fab Jehohanan wedi priodi merch Mesulam fab Berecheia. 19 Ar ben hynny, roedden nhw’n dweud pethau da am Tobeia wrtho i o hyd, ac yna’n adrodd yn ôl wrtho beth roeddwn i’n ei ddweud. Yna roedd Tobeia yn anfon llythyrau i fy nychryn i.

7 Unwaith i’r wal gael ei hailadeiladu, dyma fi’n gosod y drysau yn eu lle; ac yna cafodd y porthorion, y cantorion, a’r Lefiaid eu penodi. 2 Yna, dyma fi’n penodi fy mrawd Hanani i fod yn arolygwr dros Jerwsalem, yn ogystal â Hananeia, pennaeth y Gaer, am ei fod yn ddyn gonest iawn a oedd yn ofni’r gwir Dduw yn fwy nag yr oedd llawer o bobl eraill. 3 Felly dywedais wrthyn nhw: “Ni ddylai pyrth Jerwsalem gael eu hagor tan ganol dydd,* a thra bod y porthorion yn dal ar ddyletswydd, dylen nhw gau’r drysau a’u cloi nhw â bolltau. Dylai pobl Jerwsalem gael eu haseinio i fod yn wylwyr, pob un naill ai wrth ei safle neu o flaen ei dŷ ei hun.” 4 Nawr roedd y ddinas yn fawr ac yn eang, a dim ond ychydig o bobl a oedd y tu mewn iddi, a doedd y tai ddim wedi cael eu hailadeiladu.

5 Ond dyma fy Nuw yn cymell fy nghalon i gasglu’r dynion pwysig a’r dirprwy reolwyr a’r bobl at ei gilydd er mwyn eu cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd. Yna, des i o hyd i gofrestr achau teuluol y rhai cyntaf a ddaeth i fyny, a dyma beth roedd wedi ei ysgrifennu ynddi:

6 Y rhain oedd pobl y dalaith a ddaeth i fyny o blith yr alltudion, y rhai roedd Nebuchadnesar, brenin Babilon, wedi eu halltudio, ac a ddaeth yn ôl i Jerwsalem a Jwda yn nes ymlaen, pob un i’w ddinas ei hun, 7 y rhai a ddaeth gyda Sorobabel, Jesua, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum, a Baana.

Dyma niferoedd dynion Israel: 8 meibion Paros, 2,172; 9 meibion Seffateia, 372; 10 meibion Ara, 652; 11 meibion Pahath-moab, o blith meibion Jesua a Joab, 2,818; 12 meibion Elam, 1,254; 13 meibion Sattu, 845; 14 meibion Saccai, 760; 15 meibion Binnui, 648; 16 meibion Bebai, 628; 17 meibion Asgad, 2,322; 18 meibion Adonicam, 667; 19 meibion Bigfai, 2,067; 20 meibion Adin, 655; 21 meibion Ater, sef disgynyddion Heseceia, 98; 22 meibion Hasum, 328; 23 meibion Besai, 324; 24 meibion Hariff, 112; 25 meibion Gibeon, 95; 26 dynion Bethlehem a Netoffa, 188; 27 dynion Anathoth, 128; 28 dynion Beth-asmafeth, 42; 29 dynion Ciriath-jearim, Ceffira, a Beeroth, 743; 30 dynion Rama a Geba, 621; 31 dynion Michmas, 122; 32 dynion Bethel ac Ai, 123; 33 dynion y Nebo arall, 52; 34 meibion yr Elam arall, 1,254; 35 meibion Harim, 320; 36 meibion Jericho, 345; 37 meibion Lod, Hadid, ac Ono,721; 38 meibion Senaa, 3,930.

39 Yr offeiriaid: meibion Jedaia o deulu Jesua, 973; 40 meibion Immer, 1,052; 41 meibion Passur, 1,247; 42 meibion Harim, 1,017.

43 Y Lefiaid: meibion Jesua, o deulu Cadmiel, o blith meibion Hodefa, 74. 44 Y cantorion: meibion Asaff, 148. 45 Y porthorion: meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, 138.

46 Gweision y deml:* meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, 47 meibion Ceros, meibion Sia, meibion Padon, 48 meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Salmai, 49 meibion Hanan, meibion Gidel, meibion Gahar, 50 meibion Reaia, meibion Resin, meibion Necoda, 51 meibion Gassam, meibion Ussa, meibion Pasea, 52 meibion Besai, meibion Meunim, meibion Neffisesim, 53 meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 54 meibion Baslith, meibion Mehida, meibion Harsa, 55 meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Tama, 56 meibion Neseia, meibion Hatiffa.

57 Meibion gweision Solomon: meibion Sotai, meibion Soffereth, meibion Perida, 58 meibion Jala, meibion Darcon, meibion Gidel, 59 meibion Seffateia, meibion Hattil, meibion Pochereth-hassebaim, meibion Amon. 60 Cyfanswm gweision y deml* a meibion gweision Solomon oedd 392.

61 A dyma’r rhai a aeth i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adon, ac Immer, ond doedden nhw ddim yn gallu profi o ba deulu roedden nhw’n dod, nac yn gallu profi eu bod nhw’n Israeliaid: 62 meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, 642. 63 Ac o blith yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Haccos, meibion Barsilai a briododd un o ferched Barsilai y Gileadiad gan gymryd enw ei dad-yng-nghyfraith. 64 Ar ôl chwilio, doedden nhw ddim yn gallu cael hyd i’w hachau yn y cofnodion, felly cawson nhw eu gwahardd rhag bod yn offeiriaid.* 65 Dywedodd y llywodraethwr* wrthyn nhw na ddylen nhw fwyta o’r pethau mwyaf sanctaidd nes i offeiriad ymgynghori â Duw drwy’r Urim a’r Thummim.

66 Cyfanswm y gynulleidfa gyfan oedd 42,360, 67 heb gynnwys eu caethweision a’u caethferched, 7,337 ohonyn nhw; hefyd roedd ganddyn nhw 245 o gantorion—dynion a merched.* 68 Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 69 435 o gamelod, a 6,720 o asynnod.

70 Cyfrannodd rhai o benaethiaid y grwpiau o deuluoedd tuag at y gwaith. Rhoddodd y llywodraethwr* y pethau hyn i’r drysorfa: 1,000 drachma aur,* 50 powlen, a 530 mantell ar gyfer yr offeiriaid. 71 A gwnaeth rhai o benaethiaid y grwpiau o deuluoedd gyfrannu 20,000 drachma aur a 2,200 mina* o arian at drysorfa’r prosiect. 72 A rhoddodd gweddill y bobl 20,000 drachma aur, 2,000 mina o arian, a 67 mantell ar gyfer yr offeiriaid.

73 A dyma’r offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, gweision y deml,* a gweddill pobl Israel i gyd, yn setlo yn eu dinasoedd. Erbyn y seithfed mis, roedd yr Israeliaid wedi setlo yn eu dinasoedd.

8 Yna dyma’r bobl i gyd yn casglu at ei gilydd yn unedig yn y sgwâr cyhoeddus o flaen Porth y Dŵr, a dywedon nhw wrth Esra y copïwr* i ddod â llyfr Cyfraith Moses gydag ef, y gyfraith roedd Jehofa wedi gorchymyn i Israel ei chadw. 2 Felly daeth Esra yr offeiriad â’r Gyfraith allan o flaen y gynulleidfa o ddynion, merched,* a phawb a oedd yn gallu deall beth roedden nhw’n ei glywed, ar y diwrnod cyntaf o’r seithfed mis. 3 A darllenodd yn uchel o’r llyfr gan wynebu’r sgwâr cyhoeddus o flaen Porth y Dŵr, o doriad y wawr hyd ganol dydd, i’r dynion, i’r merched,* ac i bawb a oedd yn gallu deall; a gwrandawodd y bobl yn astud ar lyfr y Gyfraith. 4 Ac roedd Esra y copïwr* yn sefyll ar lwyfan bren a oedd wedi cael ei gwneud ar gyfer yr achlysur, ac yn sefyll ar ei ochr dde roedd Matitheia, Sema, Anaia, Ureia, Hilceia, a Maaseia; ac ar ei ochr chwith roedd Pedaia, Misael, Malcheia, Hasum, Has-badana, Sechareia, a Mesulam.

5 Roedd Esra’n sefyll yn uwch na’r bobl, ac agorodd y llyfr yng ngolwg pawb. Wrth iddo ei agor, safodd y bobl i gyd. 6 Yna dyma Esra’n moli Jehofa y gwir Dduw, yr Un mawr, ac atebodd y bobl i gyd, “Amen!* Amen!” a chodon nhw eu dwylo. Wedyn, dyma nhw’n plygu’n isel ac yn ymgrymu i Jehofa â’u hwynebau ar y llawr. 7 Ac roedd Jesua, Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, a Pelaia, a oedd yn Lefiaid, yn esbonio’r Gyfraith i’r bobl tra oedd y bobl yn dal i sefyll. 8 A dalion nhw ati i ddarllen yn uchel o’r llyfr, o Gyfraith y gwir Dduw, gan ei hesbonio’n glir a gwneud ei hystyr yn amlwg; felly gwnaethon nhw helpu’r bobl i ddeall beth roedd yn cael ei ddarllen.

9 A dyma Nehemeia y llywodraethwr,* Esra yr offeiriad a’r copïwr,* a’r Lefiaid a oedd yn dysgu’r bobl yn dweud wrth bawb: “Mae’r diwrnod hwn yn sanctaidd i Jehofa eich Duw. Peidiwch â galaru nac wylo.” Oherwydd roedd y bobl i gyd yn wylo wrth iddyn nhw glywed geiriau’r Gyfraith. 10 Dywedodd wrthyn nhw: “Ewch i fwyta’r pethau mwyaf blasus ac i yfed beth sy’n felys, ac anfonwch fwyd at y rhai sydd heb unrhyw beth, oherwydd mae’r diwrnod hwn yn sanctaidd i’n Harglwydd, a pheidiwch â theimlo’n drist, oherwydd mae llawenydd Jehofa yn gaer gadarn ichi.”* 11 Ac roedd y Lefiaid yn tawelu’r bobl i gyd gan ddweud: “Peidiwch â chrio, oherwydd mae’r diwrnod hwn yn sanctaidd. Peidiwch â theimlo’n drist.” 12 Felly aeth yr holl bobl i ffwrdd i fwyta ac i yfed ac i rannu bwyd ac i lawenhau, oherwydd eu bod nhw wedi deall y geiriau roedden nhw wedi eu clywed.

13 Ac ar yr ail ddiwrnod, dyma bennau teuluoedd estynedig y bobl i gyd, yr offeiriaid, a’r Lefiaid yn casglu o gwmpas Esra y copïwr* er mwyn dysgu mwy am eiriau’r Gyfraith. 14 Yna, gwnaethon nhw ddarganfod yn y Gyfraith bod Jehofa wedi gorchymyn trwy Moses y dylai’r Israeliaid fyw mewn pebyll yn ystod yr ŵyl yn y seithfed mis 15 ac y dylen nhw hefyd gyhoeddi’r datganiad canlynol drwy eu dinasoedd i gyd a thrwy Jerwsalem: “Ewch i’r ardal fynyddig a chasglu canghennau deiliog o goed olewydd, o goed pin, o goed myrtwydd, o goed palmwydd, ac o goed eraill er mwyn gwneud pebyll, yn ôl beth sydd wedi cael ei ysgrifennu.”

16 Felly aeth y bobl allan i’w casglu nhw er mwyn gwneud pebyll, pob un ar ei do; gwnaethon nhw hefyd adeiladu pebyll yng nghyrtiau eu tai, yng nghyrtiau tŷ’r gwir Dduw, yn sgwâr cyhoeddus Porth y Dŵr, ac yn sgwâr cyhoeddus Porth Effraim. 17 Felly dyma bawb a oedd wedi dychwelyd o’r gaethglud yn gwneud pebyll ac yn byw yn y pebyll, oherwydd doedd yr Israeliaid ddim wedi dathlu’r ŵyl yn y ffordd hon ers dyddiau Josua fab Nun hyd y diwrnod hwnnw, felly roedden nhw’n llawen iawn. 18 Ac o ddydd i ddydd roedd llyfr Cyfraith y gwir Dduw yn cael ei ddarllen, o’r diwrnod cyntaf hyd y diwrnod olaf. A gwnaethon nhw gynnal yr ŵyl am saith diwrnod ac roedd ’na gynulliad sanctaidd ar yr wythfed diwrnod, yn unol â’r gofynion.

9 Ar y pedwerydd diwrnod ar hugain* o’r mis hwn, daeth yr Israeliaid at ei gilydd. Roedden nhw’n ymprydio mewn sachliain ac wedi rhoi llwch arnyn nhw eu hunain. 2 Yna dyma’r rhai a oedd o linach Israel yn eu gwahanu eu hunain oddi wrth yr estroniaid, a dyma nhw’n sefyll ac yn cyffesu eu pechodau eu hunain a phechodau eu cyndadau. 3 Ac yna, roedden nhw’n sefyll yn eu lle ac yn darllen yn uchel o lyfr Cyfraith Jehofa eu Duw am chwarter y dydd,* ac am chwarter arall ohono roedden nhw’n cyffesu ac yn ymgrymu i Jehofa eu Duw.

4 Yna, safodd Jesua, Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani, a Cenani ar lwyfan y Lefiaid, a galw ar Jehofa eu Duw mewn llais uchel. 5 A dywedodd y Lefiaid Jesua, Cadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Pethaheia: “Codwch, a molwch Jehofa eich Duw am byth.* Hefyd, O Dduw, gad iddyn nhw foli dy enw gogoneddus, sy’n haeddu bendithion a chlod sydd y tu hwnt i eiriau pobl.

6 “Ti yn unig yw Jehofa; ti a greodd y nefoedd, ie, nefoedd y nefoedd a’u holl fyddin, y ddaear a phopeth sydd arni, y moroedd a phopeth sydd ynddyn nhw. Ac rwyt ti’n eu cadw nhw i gyd yn fyw, ac mae byddin y nefoedd yn ymgrymu o dy flaen di. 7 Ti yw Jehofa y gwir Dduw a ddewisodd Abram a’i arwain allan o Ur y Caldeaid a rhoi’r enw Abraham arno. 8 Gwelaist ti fod ei galon yn ffyddlon iti, felly gwnest ti gyfamod ag ef i roi iddo ef a’i ddisgynyddion* wlad y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Peresiaid, y Jebusiaid, a’r Girgasiaid; ac rwyt ti wedi cadw dy addewidion, am dy fod ti’n gyfiawn.

9 “Felly gwelaist ti ddioddefaint ein cyndadau yn yr Aifft, a chlywaist eu cri am help wrth y Môr Coch. 10 Yna, dyma ti’n gwneud arwyddion a gwyrthiau i gosbi Pharo, ei weision i gyd, a holl bobl ei wlad, oherwydd roeddet ti’n gwybod eu bod nhw wedi gwneud iddyn nhw ddioddef.* Fe wnest ti enw i ti dy hun sy’n parhau hyd heddiw. 11 Gwnest ti wahanu’r môr o’u blaenau nhw, fel eu bod nhw’n croesi’r môr ar dir sych, a gwnest ti hyrddio eu gelynion i’r dyfnderoedd fel carreg wedi ei thaflu i’r moroedd garw. 12 Gwnest ti eu harwain nhw yn ystod y dydd gyda cholofn o gwmwl ac yn ystod y nos gyda cholofn o dân i oleuo’r ffordd y dylen nhw fynd. 13 A dest ti i lawr ar Fynydd Sinai a siarad â nhw o’r nef, a rhoi barnedigaethau cyfiawn, cyfreithiau gwir,* a deddfau a gorchmynion da iddyn nhw. 14 Gwnest ti eu dysgu nhw i gadw dy Saboth sanctaidd, a rhoi gorchmynion, deddfau, a chyfraith iddyn nhw drwy dy was Moses. 15 Rhoddaist ti fara iddyn nhw o’r nef pan oedden nhw’n llwglyd, a dest ti â dŵr allan o’r graig pan oedden nhw’n sychedig, a dywedaist wrthyn nhw am fynd i mewn a meddiannu’r wlad roeddet ti wedi addo ar lw ei rhoi iddyn nhw.

16 “Ond roedden nhw, ein cyndadau, yn ymddwyn yn hy, a daethon nhw yn ystyfnig, a doedden nhw ddim yn gwrando ar dy orchmynion. 17 Roedden nhw’n gwrthod gwrando, a doedden nhw ddim yn cofio’r pethau anhygoel a wnest ti yn eu mysg, ond daethon nhw’n ystyfnig a phenodi pennaeth i’w harwain nhw yn ôl i’r Aifft i fod yn gaethweision. Ond rwyt ti’n Dduw sy’n barod i faddau, yn dosturiol a thrugarog, yn araf i ddigio ac yn llawn cariad ffyddlon, ac ni wnest ti gefnu arnyn nhw. 18 Hyd yn oed pan wnaethon nhw lo metel iddyn nhw eu hunain fel delw gan ddweud, ‘Dyma eich Duw, O Israel, yr un a wnaeth eich arwain chi allan o’r Aifft,’ ac roedden nhw’n amharchus iawn tuag atat ti, 19 hyd yn oed wedyn, oherwydd dy drugaredd enfawr, wnest ti ddim cefnu arnyn nhw yn yr anialwch. Ni ddiflannodd y golofn o gwmwl a oedd yn eu harwain nhw ar hyd y ffordd yn ystod y dydd, na’r golofn o dân a oedd yn goleuo’r ffordd iddyn nhw yn ystod y nos. 20 Rhoddaist dy ysbryd glân iddyn nhw er mwyn rhoi doethineb iddyn nhw, ac ni wnest ti ddal yn ôl rhag eu bwydo nhw â manna, a gwnest ti roi dŵr iddyn nhw pan oedden nhw’n sychedig. 21 Am 40 mlynedd rhoddaist ti ddŵr iddyn nhw yn yr anialwch. Doedden nhw ddim yn brin o unrhyw beth. Ni wnaeth eu dillad dreulio, ac ni wnaeth eu traed chwyddo.

22 “Gwnest ti roi teyrnasoedd a phobloedd iddyn nhw a rhannu’r tir rhyngddyn nhw fesul darn, fel eu bod nhw’n meddiannu gwlad Sihon, hynny yw, gwlad brenin Hesbon, yn ogystal â gwlad Og brenin Basan. 23 A gwnest ti achosi i’w meibion fod mor niferus â sêr y nefoedd. Yna dest ti â nhw i mewn i’r wlad roeddet ti wedi addo i’w cyndadau y byddan nhw’n mynd i mewn iddi ac yn ei meddiannu. 24 Felly aeth eu meibion i mewn a meddiannu’r wlad, a gwnest ti drechu’r Canaaneaid a oedd yn byw yn y wlad, a’u rhoi nhw yn eu dwylo er mwyn i’r Israeliaid gael gwneud fel y mynnen nhw â phobl y wlad a’u brenhinoedd. 25 A gwnaethon nhw gipio dinasoedd caerog a gwlad ffrwythlon,* a meddiannu tai yn llawn pob math o bethau da, pydewau a oedd eisoes wedi eu cloddio, gwinllannoedd, coed olewydd, a digonedd o goed ffrwythau. Felly, dyma nhw’n bwyta nes eu bod nhw’n fodlon ac yn dew, ac roedden nhw’n ymhyfrydu yn dy ddaioni enfawr.

26 “Ond, dyma nhw’n troi’n anufudd ac yn gwrthryfela yn dy erbyn di ac yn troi eu cefnau ar dy Gyfraith.* Lladdon nhw dy broffwydi a oedd yn eu rhybuddio nhw i droi yn ôl atat ti, gan ddangos amarch enfawr tuag atat ti. 27 Oherwydd hynny, gwnest ti eu rhoi nhw yn nwylo eu gelynion a oedd yn parhau i wneud iddyn nhw ddioddef. Ond yn eu holl drafferthion, roedden nhw’n gweiddi arnat ti i erfyn am help, ac roeddet ti’n clywed o’r nefoedd. Ac oherwydd dy drugaredd enfawr, roeddet ti’n anfon rhai i’w hachub nhw o ddwylo eu gelynion.

28 “Ond unwaith iddyn nhw gael llonydd oddi wrth eu gelynion roedden nhw’n gwneud beth sy’n ddrwg yn dy olwg di unwaith eto, ac roeddet ti’n caniatáu iddyn nhw syrthio i ddwylo eu gelynion a oedd yn eu trin nhw’n greulon.* Yna, roedden nhw’n troi yn ôl atat ti ac yn galw arnat ti am help, ac roeddet ti’n clywed o’r nefoedd ac yn eu hachub nhw dro ar ôl tro oherwydd dy drugaredd enfawr. 29 Er dy fod ti wedi eu rhybuddio nhw i ufuddhau i dy Gyfraith unwaith eto, roedden nhw’n ymddwyn yn hy ac yn gwrthod gwrando ar dy orchmynion; ac roedden nhw’n pechu yn erbyn dy ddeddfau sy’n rhoi bywyd i’r rhai sy’n eu cadw nhw. Ond roedden nhw’n troi eu cefnau yn ystyfnig ac yn gwrthryfela, ac roedden nhw’n gwrthod gwrando. 30 Roeddet ti’n amyneddgar â nhw am lawer o flynyddoedd ac yn parhau i’w rhybuddio nhw drwy roi dy ysbryd ar dy broffwydi, ond roedden nhw’n gwrthod gwrando. Yn y pen draw, gwnest ti eu rhoi nhw yn nwylo pobl y cenhedloedd. 31 Ac yn dy drugaredd enfawr, wnest ti ddim cael gwared arnyn nhw na chefnu arnyn nhw, oherwydd dy fod ti’n Dduw tosturiol a thrugarog.

32 “Ac nawr, O ein Duw, y Duw mawr, nerthol, a rhyfeddol, sydd wedi cadw ei gyfamod ac wedi dangos cariad ffyddlon, plîs paid ag anwybyddu’r holl ddioddefaint sydd wedi cael ei brofi gynnon ni, gan ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein hoffeiriaid, ein proffwydi, ein cyndadau, a gan dy holl bobl o ddyddiau brenhinoedd Asyria hyd heddiw. 33 Rwyt ti wedi ein trin ni mewn ffordd gyfiawn er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd inni, oherwydd rwyt ti wedi bod yn ffyddlon; ond ni sydd wedi gwneud pethau drwg. 34 Ynglŷn â’n brenhinoedd, ein tywysogion, ein hoffeiriaid, a’n cyndadau, dydyn nhw ddim wedi cadw at dy Gyfraith nac wedi talu sylw i dy orchmynion nac i’r rhybuddion roeddet ti’n eu hatgoffa nhw amdanyn nhw. 35 Hyd yn oed pan oedden nhw yn eu teyrnas eu hunain ac yn mwynhau’r holl ddaioni roeddet ti’n ei ddangos tuag atyn nhw, pan oedden nhw yn y wlad eang a ffrwythlon* roeddet ti wedi ei rhoi iddyn nhw, wnaethon nhw ddim dy wasanaethu di na throi i ffwrdd oddi wrth eu harferion drwg. 36 Felly dyma ni heddiw, yn gaethweision, ie, caethweision yn y wlad y gwnest ti ei rhoi i’n cyndadau i fwyta ei chynnyrch ac i fwynhau’r pethau da sydd ynddi. 37 Mae ei chynnyrch helaeth yn mynd i’r brenhinoedd estron rwyt ti wedi eu gosod i reoli droston ni oherwydd ein pechodau. Maen nhw’n teyrnasu fel y mynnan nhw dros ein cyrff a thros ein hanifeiliaid, ac rydyn ni mewn trafferthion mawr.

38 “Felly o ystyried hyn i gyd, rydyn ni’n gwneud cytundeb ysgrifenedig, ac mae wedi cael ei gadarnhau â sêl ein tywysogion, ein Lefiaid, a’n hoffeiriaid.”

10 Y rhai a wnaeth ei gadarnhau drwy roi eu sêl arno oedd:

Nehemeia y llywodraethwr,* mab Hachaleia,

A Sedeceia, 2 Seraia, Asareia, Jeremeia, 3 Passur, Amareia, Malcheia, 4 Hattus, Sebaneia, Maluc, 5 Harim, Meremoth, Obadeia, 6 Daniel, Ginnethon, Baruch, 7 Mesulam, Abeia, Mijamin, 8 Maasia, Bilgai, Semaia; y rhain yw’r offeiriaid.

9 A hefyd y Lefiaid: Jesua fab Asaneia, Binnui o blith meibion Henadad, Cadmiel, 10 a’u brodyr Sebaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Hanan, 11 Mica, Rehob, Hasabeia, 12 Saccur, Serebeia, Sebaneia, 13 Hodeia, Bani, a Beninu.

14 Penaethiaid y bobl: Paros, Pahath-moab, Elam, Sattu, Bani, 15 Bunni, Asgad, Bebai, 16 Adoneia, Bigfai, Adin, 17 Ater, Heseceia, Assur, 18 Hodeia, Hasum, Besai, 19 Hariff, Anathoth, Nebai, 20 Magpias, Mesulam, Hesir, 21 Mesesabel, Sadoc, Jadua, 22 Pelatia, Hanan, Anaia, 23 Hosea, Hananeia, Hasub, 24 Halohes, Pileha, Sobec, 25 Rehum, Hasabna, Maaseia, 26 Aheia, Hanan, Anan, 27 Maluc, Harim, a Baana.

28 Dyma weddill y bobl—yr offeiriaid, y Lefiaid, y porthorion, y cantorion, gweision y deml,* a phawb a oedd wedi eu gwahanu eu hunain oddi wrth bobl y cenhedloedd er mwyn dilyn Cyfraith y gwir Dduw, ynghyd â’u gwragedd, eu meibion, a’u merched, yr holl rai â gwybodaeth a dealltwriaeth*— 29 yn ymuno â’u brodyr, eu dynion pwysig, ac yn tyngu llw* i ddilyn Cyfraith y gwir Dduw a gafodd ei rhoi drwy Moses gwas y gwir Dduw, ac i ddilyn holl orchmynion Jehofa ein Harglwydd yn ofalus, yn ogystal â’i farnedigaethau a’i ddeddfau. 30 Ni wnawn ni roi ein merched yn wragedd i bobl y wlad, ac ni wnawn ni gymryd eu merched nhw i fod yn wragedd i’n meibion ni.

31 Os bydd pobl y wlad yn dod â’u nwyddau a phob math o rawn i’w gwerthu ar ddydd y Saboth, fyddwn ni ddim yn prynu unrhyw beth oddi wrthyn nhw ar y Saboth nac ar unrhyw ddiwrnod sanctaidd. Hefyd, yn y seithfed flwyddyn, byddwn ni’n gadael i’r tir orffwys ac yn dileu pob dyled.

32 Hefyd, mae pob un ohonon ni wedi addo rhoi traean o sicl* bob blwyddyn ar gyfer gwasanaeth tŷ* ein Duw, 33 ar gyfer y bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw,* yr offrwm grawn rheolaidd, offrwm llosg rheolaidd y Sabothau a’r lleuadau newydd, ac ar gyfer y gwleddoedd tymhorol, ar gyfer y pethau sanctaidd, ar gyfer yr offrymau dros bechod er mwyn gwneud yn iawn am bechodau Israel, ac ar gyfer holl waith tŷ ein Duw.

34 Hefyd, gwnaethon ni daflu coelbren i benderfynu pryd byddai pob un o deuluoedd yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r bobl yn darparu coed ar gyfer tŷ ein Duw ar yr amser penodedig bob blwyddyn. Byddai’r coed hynny’n cael eu llosgi ar allor Jehofa ein Duw yn ôl beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith. 35 Bob blwyddyn, byddwn ni hefyd yn dod â’r cynnyrch cyntaf o’n tir ac o bob math o goed ffrwythau i dŷ Jehofa, 36 yn ogystal â phob cyntaf-anedig o blith ein meibion a’n hanifeiliaid—yn ôl beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith—a phob cyntaf-anedig o blith ein gwartheg a’n preiddiau. Byddwn ni’n dod â nhw i dŷ ein Duw, at yr offeiriaid sy’n gwasanaethu yn nhŷ ein Duw. 37 Hefyd, byddwn ni’n dod â’n blawd* bras cyntaf, ein cyfraniadau, ffrwyth pob math o goed, gwin newydd, ac olew, at yr offeiriaid ar gyfer storfeydd* tŷ ein Duw. Byddwn ni hefyd yn rhoi’r degwm o holl gynnyrch ein tir i’r Lefiaid, oherwydd y Lefiaid yw’r rhai sy’n casglu’r degymau yn ein dinasoedd amaethyddol i gyd.

38 Ac mae’n rhaid i’r offeiriad, mab Aaron, fod gyda’r Lefiaid pan fydd y Lefiaid yn casglu’r degwm, a dylai’r Lefiaid offrymu un rhan o ddeg o’r degwm i dŷ ein Duw, i ystafelloedd y stordy. 39 Oherwydd dylai’r Israeliaid a meibion y Lefiaid ddod â chyfraniad y grawn, y gwin newydd, a’r olew i’r storfeydd, a dyna ble mae llestri’r cysegr, yn ogystal â’r offeiriaid sy’n gwasanaethu, y porthorion, a’r cantorion. Ni fyddwn ni’n esgeuluso tŷ ein Duw.

11 Nawr roedd tywysogion y bobl yn byw yn Jerwsalem; ond gwnaeth gweddill y bobl daflu coelbren i ddod ag un allan o bob deg i fyw yn Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, tra bod y naw arall yn aros yn y dinasoedd eraill. 2 Ar ben hynny, bendithiodd y bobl yr holl ddynion a wnaeth wirfoddoli i fyw yn Jerwsalem.

3 A dyma enwau penaethiaid talaith Jwda a oedd yn byw yn Jerwsalem. (Roedd gweddill Israel, yr offeiriaid, y Lefiaid, gweision y deml,* a meibion gweision Solomon, yn byw yn ninasoedd eraill Jwda, pob un yn ei eiddo ei hun yn ei ddinas ei hun.

4 Ac roedd rhai o bobl Jwda a Benjamin hefyd yn byw yn Jerwsalem.) O blith pobl Jwda roedd Athaia fab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffateia, fab Mahalalel o deulu Peres, 5 a Maaseia fab Baruch, fab Colhose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, mab y Selaniad. 6 Cyfanswm holl feibion Peres a oedd yn byw yn Jerwsalem oedd 468 o ddynion galluog.

7 A dyma’r rhai o blith llwyth Benjamin: Salu fab Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Jesaia, 8 ac ar ei ôl ef, Gabai a Salai, cyfanswm o 928; 9 ac roedd Joel fab Sicri yn arolygu drostyn nhw, a Jwda fab Hasenua oedd ei ddirprwy yn y ddinas.

10 O blith yr offeiriaid: Jedaia fab Joiarib, Jachin, 11 Seraia fab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, un o arweinwyr tŷ’r gwir Dduw, 12 a’u brodyr a oedd yn gwasanaethu yn y deml, cyfanswm o 822; Adaia fab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Passur, fab Malcheia, 13 a’i frodyr, pennau’r teuluoedd estynedig, 242; ac Amasai fab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer, 14 a’u brodyr a oedd yn ddynion cryf a dewr, cyfanswm o 128; ac roedd Sabdiel, dyn o deulu pwysig, yn arolygu drostyn nhw.

15 Ac o blith y Lefiaid: Semaia fab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia, fab Bunni, 16 a Sabbethai a Josabad, penaethiaid y Lefiaid, a oedd yn gyfrifol am y gwaith a oedd yn cael ei wneud ar y tu allan i dŷ’r gwir Dduw; 17 a Mataneia fab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, arweinydd y cantorion, a oedd yn cymryd y blaen i foli Duw yn ystod y gweddïau, a Bacbuceia a oedd yn ail iddo, ac Abda fab Sammua, fab Galal, fab Jeduthun. 18 Cyfanswm y Lefiaid yn y ddinas sanctaidd oedd 284.

19 A’r porthorion oedd Accub, Talmon, a’u brodyr a oedd yn gwarchod y pyrth, cyfanswm o 172.

20 Roedd gweddill Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid yn byw yn holl ddinasoedd eraill Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth ei hun. 21 Roedd gweision y deml* yn byw yn Offel, ac roedd Siha a Gispa yn arolygu dros weision y deml.*

22 Arolygwr y Lefiaid yn Jerwsalem oedd Ussi fab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Mica, o deulu Asaff, y cantorion; roedd ef yn gyfrifol am waith tŷ’r gwir Dduw. 23 Oherwydd roedd y brenin wedi gorchymyn i anghenion bob dydd y cantorion gael eu llenwi. 24 A Pethaheia fab Mesesabel o deulu Sera fab Jwda a oedd yn gynghorwr i’r brenin ar gyfer pob mater a oedd yn ymwneud â’r bobl.

25 Ynglŷn â’r pentrefi a’u caeau, roedd rhai o bobl Jwda yn byw yn Ciriath-arba a’i threfi cyfagos, yn Dibon a’i threfi cyfagos, yn Jecabseel a’i phentrefi, 26 yn Jesua, ym Molada, yn Beth-pelet, 27 yn Hasar-sual, yn Beer-seba a’i threfi cyfagos, 28 yn Siclag, ym Mechona a’i threfi cyfagos, 29 yn En-rimmon, yn Sora, ac yn Jarmuth, 30 yn Sanoa, yn Adulam a’u pentrefi, yn Lachis a’i chaeau, ac yn Aseca a’i threfi cyfagos. Gwnaethon nhw setlo* o Beer-seba hyd at Ddyffryn Hinnom.

31 Ac roedd rhai o blith llwyth Benjamin yn byw yn Geba, Michmas, Aia, Bethel a’i threfi cyfagos, 32 Anathoth, Nob, Ananeia, 33 Hasor, Rama, Gittaim, 34 Hadid, Seboim, Nebalat, 35 Lod, ac Ono, dyffryn y crefftwyr. 36 A chafodd rhai grwpiau o Lefiaid o Jwda eu haseinio i diriogaeth Benjamin.

12 Dyma’r offeiriaid a’r Lefiaid a aeth i fyny gyda Sorobabel fab Sealtiel yn ogystal â Jesua: Seraia, Jeremeia, Esra, 2 Amareia, Maluc, Hattus, 3 Sechaneia, Rehum, Meremoth, 4 Ido, Ginnetho, Abeia, 5 Mijamin, Maadia, Bilga, 6 Semaia, Joiarib, Jedaia, 7 Salu, Amoc, Hilceia, a Jedaia. Y rhain oedd penaethiaid yr offeiriaid a’u brodyr yn nyddiau Jesua.

8 Y Lefiaid oedd Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda, a Mataneia a oedd yn arwain y caneuon o ddiolchgarwch ynghyd â’i frodyr. 9 Ac roedd eu brodyr Bacbuceia ac Unni yn sefyll gyferbyn â nhw fel gwarchodwyr.* 10 Daeth Jesua yn dad i Joiacim, daeth Joiacim yn dad i Eliasib, daeth Eliasib yn dad i Joiada, 11 daeth Joiada yn dad i Jonathan, a daeth Jonathan yn dad i Jadua.

12 Dyma oedd yr offeiriaid yn nyddiau Joiacim, pennau’r teuluoedd estynedig: ar gyfer Seraia, Meraia; ar gyfer Jeremeia, Hananeia; 13 ar gyfer Esra, Mesulam; ar gyfer Amareia, Jehohanan; 14 ar gyfer Melichu, Jonathan; ar gyfer Sebaneia, Joseff; 15 ar gyfer Harim, Adna; ar gyfer Meraioth, Helcai; 16 ar gyfer Ido, Sechareia; ar gyfer Ginnethon, Mesulam; 17 ar gyfer Abeia, Sicri; ar gyfer Miniamin, . . . ;* ar gyfer Moadeia, Piltai; 18 ar gyfer Bilga, Sammua; ar gyfer Semaia, Jehonathan; 19 ar gyfer Joiarib, Matenai; ar gyfer Jedaia, Ussi; 20 ar gyfer Salai, Calai; ar gyfer Amoc, Eber; 21 ar gyfer Hilceia, Hasabeia; ar gyfer Jedaia, Nethanel.

22 Yn nyddiau Eliasib, Joiada, Johanan, a Jadua, cafodd enwau pennau teuluoedd estynedig y Lefiaid a’r offeiriaid eu cofnodi, hyd at frenhiniaeth Dareius y Persiad.

23 Cafodd enwau’r Lefiaid a oedd yn bennau ar y teuluoedd estynedig eu cofnodi yn llyfr hanes y cyfnod hwnnw, hyd at ddyddiau Johanan fab Eliasib. 24 Penaethiaid y Lefiaid oedd Hasabeia, Serebeia, a Jesua fab Cadmiel, ac roedd eu brodyr, y gwarchodwyr, yn sefyll gyferbyn â nhw mewn grwpiau i foli Duw ac i roi diolch iddo, yn ôl cyfarwyddiadau Dafydd, dyn y gwir Dduw. 25 Roedd Mataneia, Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, ac Accub yn borthorion, yn gwarchod y storfeydd wrth ymyl y pyrth. 26 Roedden nhw’n gwasanaethu yn ystod dyddiau Joiacim, mab Jesua, mab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a’r copïwr.*

27 Pan ddaeth yr amser i gysegru waliau Jerwsalem, dyma nhw’n chwilio am y Lefiaid ac yn dod â nhw i Jerwsalem o’r holl lefydd roedden nhw’n byw er mwyn dathlu’r cysegriad yn llawen, gyda chaneuon o ddiolchgarwch a gyda symbalau, offerynnau llinynnol, a thelynau. 28 A daeth meibion y cantorion* at ei gilydd o’r rhanbarth,* o’r ardal o gwmpas Jerwsalem, o bentrefi’r Netoffathiaid, 29 o Beth-gilgal, ac o gaeau Geba ac Asmafeth, oherwydd roedd y cantorion wedi adeiladu pentrefi iddyn nhw eu hunain yr holl ffordd o gwmpas Jerwsalem. 30 A dyma’r offeiriaid a’r Lefiaid yn eu puro eu hunain, yn ogystal â phuro’r bobl, y pyrth, a’r wal.

31 Yna cymerais dywysogion Jwda i fyny ar ben y wal. Yn ogystal â hynny, gwnes i benodi dau gôr mawr i roi diolch, a grwpiau i’w dilyn nhw, a cherddodd un côr i’r dde ar hyd y wal tuag at Borth y Pentyrrau Lludw. 32 Roedd Hosaia a hanner tywysogion Jwda yn cerdded y tu ôl iddyn nhw, 33 yn ogystal ag Asareia, Esra, Mesulam, 34 Jwda, Benjamin, Semaia, a Jeremeia. 35 Gyda nhw roedd rhai o’r offeiriaid* a oedd â thrwmpedi: Sechareia fab Jonathan, fab Semaia, fab Mataneia, fab Michea, fab Saccur, fab Asaff, 36 a’i frodyr Semaia, Asareel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Hanani, gydag offerynnau Dafydd, dyn y gwir Dduw; ac aeth Esra y copïwr* o’u blaenau nhw. 37 Wrth Borth y Ffynnon gwnaethon nhw barhau i gerdded i fyny ar hyd y wal, gan fynd heibio Grisiau Dinas Dafydd, a gwnaethon nhw basio heibio Tŷ Dafydd ac aethon nhw ymlaen i Borth y Dŵr tua’r dwyrain.

38 Cerddodd y côr arall a oedd yn rhoi diolch i’r cyfeiriad arall, a gwnes i a hanner y bobl ddilyn y côr, ar y wal dros Dŵr y Ffyrnau* ac ymlaen i’r Wal Lydan 39 ac i fyny dros Borth Effraim ac yna i Borth yr Hen Ddinas ac ymlaen i Borth y Pysgod, Tŵr Hananel, Tŵr Mea, ac yna i Borth y Defaid; a gwnaethon nhw stopio wrth Borth y Gwarchodwyr.

40 Yn y pen draw, roedd y ddau gôr a oedd yn rhoi diolch yn sefyll o flaen tŷ’r gwir Dduw, ac roeddwn i a hanner y dirprwy reolwyr gyda mi yn gwneud yr un peth, 41 yn ogystal â’r offeiriaid Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michea, Elioenai, Sechareia, a Hananeia, gyda’r trwmpedi, 42 a Maaseia, Semaia, Eleasar, Ussi, Jehohanan, Malcheia, Elam, ac Eser. A chanodd y cantorion yn uchel o dan arweiniad Israhia.

43 Ar y diwrnod hwnnw, dyma nhw’n offrymu llawer iawn o aberthau, ac roedden nhw wrth eu boddau, oherwydd roedd y gwir Dduw wedi gwneud iddyn nhw lawenhau â llawenydd mawr. Roedd y merched* a’r plant hefyd yn gorfoleddu, fel bod sŵn llawenydd Jerwsalem i’w glywed o bell i ffwrdd.

44 Ar y diwrnod hwnnw, cafodd dynion eu penodi dros y storfeydd ar gyfer y cyfraniadau, y cynnyrch cyntaf, a’r degymau. Roedden nhw i fod i gasglu’r cynnyrch o gaeau’r dinasoedd, y cynnyrch sy’n perthyn i’r offeiriaid a’r Lefiaid yn ôl y Gyfraith a’i roi yn y storfeydd, ac roedd ’na lawenydd yn Jwda oherwydd yr offeiriaid a’r Lefiaid a oedd yn gwasanaethu. 45 A dechreuon nhw, yn ogystal â’r cantorion a’r porthorion, ofalu am y dyletswyddau yng ngwasanaeth eu Duw ac am y cyfrifoldeb o buro popeth, yn ôl cyfarwyddiadau Dafydd a’i fab Solomon. 46 Oherwydd amser maith yn ôl yn nyddiau Dafydd ac Asaff, roedd ’na arweinwyr ar gyfer y cantorion ac ar gyfer y caneuon o fawl ac o ddiolchgarwch i Dduw. 47 Ac yn nyddiau Sorobabel ac yn nyddiau Nehemeia, rhoddodd Israel i gyd gyfraniadau i’r cantorion a’r porthorion, yn ôl eu hanghenion bob dydd. Gwnaethon nhw hefyd neilltuo cyfraniadau ar gyfer y Lefiaid, a neilltuodd y Lefiaid gyfraniadau ar gyfer disgynyddion Aaron.

13 Ar y diwrnod hwnnw cafodd llyfr Moses ei ddarllen yng nghlyw’r bobl, a gwnaethon nhw ddarganfod ynddo na ddylai unrhyw Ammoniad na Moabiad byth ddod i mewn i gynulleidfa’r gwir Dduw, 2 oherwydd doedden nhw ddim wedi cwrdd â’r Israeliaid â bara a dŵr, ond yn hytrach roedden nhw wedi cyflogi Balaam yn eu herbyn nhw er mwyn eu melltithio nhw. Sut bynnag, gwnaeth ein Duw droi’r felltith yn fendith. 3 Unwaith iddyn nhw glywed y Gyfraith, dechreuon nhw wahanu pob person estron* oddi wrth Israel.

4 Nawr cyn hyn, yr offeiriad a oedd yn gyfrifol am storfeydd* tŷ* ein Duw oedd Eliasib, un o berthnasau Tobeia. 5 Roedd ef wedi gadael i Tobeia ddefnyddio storfa* fawr, lle roedden nhw’n arfer rhoi’r offrwm grawn, y thus, y llestri, a’r ddegfed ran o’r grawn, y gwin newydd, a’r olew; y pethau a oedd yn perthyn i’r Lefiaid, y cantorion, a’r porthorion, yn ogystal â’r cyfraniad ar gyfer yr offeiriaid.

6 Ar yr adeg honno doeddwn i ddim yn Jerwsalem, oherwydd es i at Artacsercses brenin Babilon yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain* o’i deyrnasiad; a pheth amser wedyn gofynnais i’r brenin am ganiatâd i adael am gyfnod. 7 Yna des i i Jerwsalem a darganfod y peth ofnadwy roedd Eliasib wedi ei wneud ar ran Tobeia, drwy adael iddo ddefnyddio storfa yng nghwrt tŷ’r gwir Dduw. 8 Doedd hyn ddim yn fy mhlesio i o gwbl, felly gwnes i daflu holl ddodrefn Tobeia allan o’r storfa. 9 Ar ôl hynny gorchmynnais iddyn nhw lanhau’r storfeydd; a rhoddais i lestri tŷ’r gwir Dduw yn ôl yno gyda’r offrwm grawn a’r thus.

10 Gwnes i hefyd ddarganfod nad oedd y Lefiaid wedi cael y cyfraniadau a oedd yn perthyn iddyn nhw, felly roedd y Lefiaid a’r cantorion a oedd yn gwneud y gwaith wedi gadael, pob un i’w gae ei hun. 11 Felly gwnes i geryddu’r dirprwy reolwyr a dweud: “Pam mae tŷ’r gwir Dduw wedi cael ei esgeuluso?” Yna casglais y Lefiaid at ei gilydd a’u haseinio nhw’n ôl i’w dyletswyddau. 12 Yna daeth Jwda gyfan â’r ddegfed ran o’r grawn, y gwin newydd, a’r olew i mewn i’r storfeydd. 13 Wedyn gwnes i benodi Selemeia yr offeiriad, Sadoc y copïwr,* a Pedaia o blith y Lefiaid i fod yn gyfrifol am y storfeydd, a Hanan, mab Saccur, mab Mataneia oedd eu helpwr, oherwydd roedd y dynion hyn yn cael eu hystyried yn ddibynadwy. Eu cyfrifoldeb nhw oedd dosbarthu’r cyfraniadau i’w brodyr.

14 Plîs cofia amdana i, O fy Nuw, ynglŷn â hyn, a phaid ag anghofio’r cariad ffyddlon rydw i wedi ei ddangos tuag at dŷ fy Nuw a’r gwasanaeth sy’n cael ei gyflawni yno.

15 Bryd hynny gwelais bobl yn Jwda yn gwasgu grawnwin* er mwyn gwneud gwin ar y Saboth, yn dod â phentyrrau o rawn i mewn ac yn eu llwytho nhw ar asynnod, ac yn dod â gwin, grawnwin, ffigys, a phob math o nwyddau eraill i mewn i Jerwsalem ar ddydd y Saboth. Felly gwnes i eu rhybuddio nhw am werthu nwyddau ar y diwrnod hwnnw.* 16 Ac roedd y Tyriaid a oedd yn byw yn y ddinas yn dod â physgod a phob math o gynnyrch arall i mewn, ac yn eu gwerthu nhw i bobl Jwda yn Jerwsalem ar y Saboth. 17 Felly ceryddais ddynion pwysig Jwda a dweud wrthyn nhw: “Beth yw’r peth ofnadwy o ddrwg hwn rydych chi’n ei wneud? Rydych chi’n halogi dydd y Saboth. 18 Onid dyma beth roedd eich cyndadau yn ei wneud, gan achosi i Dduw ddod â’r holl ddinistr hwn arnon ni a hefyd ar y ddinas hon? Nawr rydych chi’n achosi i Dduw wylltio’n fwy byth yn erbyn Israel drwy halogi’r Saboth.”

19 Felly unwaith i’r cysgodion ddechrau gorchuddio pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, gorchmynnais i’r drysau gael eu cau. Gorchmynnais hefyd iddyn nhw beidio â chael eu hagor nes bod y Saboth drosodd, a gosodais rai o fy ngweision fy hun wrth y pyrth fel na fyddai unrhyw nwyddau yn cael dod i mewn ar ddydd y Saboth. 20 Felly gwnaeth y masnachwyr a’r rhai a oedd yn gwerthu pob math o nwyddau aros dros nos unwaith neu ddwy y tu allan i Jerwsalem. 21 Wedyn gwnes i eu rhybuddio nhw a dweud wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n aros dros nos y tu blaen i’r wal? Os gwnewch chi hynny eto, gwna i eich taflu chi o ’ma.” Felly ni wnaethon nhw ddod eto ar y Saboth.

22 A dywedais wrth y Lefiaid i’w puro eu hunain yn rheolaidd ac i ddod i warchod y pyrth er mwyn cadw dydd y Saboth yn sanctaidd. Am hyn hefyd, plîs cofia fi, O fy Nuw, ac yn dy gariad ffyddlon hael, dangosa drugaredd tuag ata i.

23 Ar yr adeg honno gwelais hefyd Iddewon a oedd wedi priodi merched* o Asdod, Ammon, a Moab. 24 Roedd hanner eu meibion yn siarad iaith Asdod ac roedd yr hanner arall yn siarad iaith y bobloedd wahanol, ond doedd dim un ohonyn nhw yn gwybod sut i siarad iaith yr Iddewon. 25 Felly gwnes i eu ceryddu nhw a’u melltithio nhw a tharo rhai o’r dynion a thynnu eu gwallt allan a gwneud iddyn nhw dyngu llw yn enw Duw: “Mae’n rhaid ichi beidio â rhoi eich merched chi yn wragedd i’w meibion nhw, ac mae’n rhaid ichi beidio â derbyn unrhyw un o’u merched nhw yn wragedd i’ch meibion chi nac i chi’ch hunain. 26 Onid dyma beth achosodd i Solomon, brenin Israel, bechu? Doedd ’na ddim brenin tebyg iddo ef ymysg yr holl genhedloedd; ac roedd ei Dduw yn ei garu, felly gwnaeth Duw ei benodi’n frenin ar Israel gyfan. Ond gwnaeth hyd yn oed Solomon bechu oherwydd ei wragedd estron. 27 Mae hi’n anodd credu eich bod chi wedi gwneud rhywbeth mor ffiaidd â hyn drwy fod yn anffyddlon i’n Duw drwy briodi merched* estron.”

28 Roedd un o feibion Joiada fab Eliasib yr archoffeiriad wedi dod yn fab-yng-nghyfraith i Sanbalat yr Horoniad. Felly gwnes i ei orfodi i ffoi oddi wrtho i.

29 Cofia nhw, O fy Nuw, a’u cosbi nhw am eu bod nhw wedi halogi’r offeiriadaeth a chyfamod yr offeiriadaeth a’r Lefiaid.

30 A gwnes i eu puro nhw drwy eu rhyddhau nhw o ddylanwad drwg pobl estron, a rhoddais ddyletswyddau i’r offeiriaid ac i’r Lefiaid, pob un i’w wasanaeth ei hun, 31 a threfnais fod coed yn cael eu darparu ar gyfer yr amseroedd penodedig, yn ogystal â chynnyrch cyntaf y cynhaeaf.

Plîs cofia fi a fy mendithio i,* O fy Nuw.

Sy’n golygu “Mae Jah yn Cysuro.”

Neu “20fed.”

Neu “palas.”

Neu “Susa.”

Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.

Neu “y rhybudd y gwnest ti ei roi i.”

Neu “roeddwn i’n drulliad,” un o swyddogion y llys brenhinol a oedd yn tywallt gwin neu ddiodydd eraill i’r brenin.

Neu “20fed.”

Neu “llywodraethwyr Traws-Ewffrates.”

Neu “coedwig y brenin.”

Neu “y Deml.”

Llyth., “wedi rhoi yn fy nghalon.”

Neu “wadi.”

Llyth., “roedd llaw dda fy Nuw arna i.”

Neu “ei gysegru.”

Llyth., “Tŵr y Cant.”

Neu “llywodraethwr Traws-Ewffrates.”

Neu “Poptai.”

Tua 445 m (1,460 tr).

Neu efallai, “y rhanbarth cyfagos.”

Neu “o Balas y Brenin.”

Neu “y Nethinim.”

Neu “aelod o urdd y gofaint aur.”

Neu “y Nethinim.”

Neu “cadno.”

Llyth., “y tu ôl i.”

Neu “rydyn ni o’r un cig a gwaed â’n brodyr.”

Neu “ofni Duw ym mhob peth rydych chi’n ei wneud.”

Neu “un y cant,” hynny yw, bob mis.

Neu “ym mhlygiadau fy nilledyn.” Roedd gan yr Israeliaid blygiad yn rhan uchaf eu dillad, ac roedden nhw’n ei ddefnyddio i gario pethau.

Neu “Bydded felly!”

Neu “20fed.”

Neu “32ain flwyddyn.”

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu “Bob diwrnod roeddwn i’n talu am.”

Neu “plîs cofia fi mewn ffordd dda.”

Neu “25ain diwrnod.”

Neu “nes bod yr haul yn boeth.”

Neu “Y Nethinim.”

Neu “y Nethinim.”

Neu “felly cawson nhw eu hystyried yn aflan, a doedden nhw ddim yn cael gwasanaethu fel offeiriaid.”

Neu “y Tirsatha,” teitl Persiaidd ar gyfer llywodraethwr talaith.

Neu “menywod.”

Neu “y Tirsatha,” teitl Persiaidd ar gyfer llywodraethwr talaith.

Fel arfer yn cael ei ystyried i fod yr un fath â’r daric aur Persiaidd a oedd yn pwyso 8.4 g (0.27 oz t). Nid yr un fath â’r ddrachma sydd yn yr Ysgrythurau Groeg.

Yn yr Ysgrythurau Hebraeg roedd mina yn gyfartal â 570 g (18.35 oz t).

Neu “y Nethinim.”

Neu “yr ysgrifennydd.”

Neu “menywod.”

Neu “menywod.”

Neu “yr ysgrifennydd.”

Neu “Bydded felly!”

Neu “y Tirsatha,” teitl Persiaidd ar gyfer llywodraethwr talaith.

Neu “a’r ysgrifennydd.”

Neu “oherwydd llawenydd Jehofa yw eich nerth.”

Neu “yr ysgrifennydd.”

Neu “24ain diwrnod.”

Neu “am dair awr.”

Neu “o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.”

Llyth., “had.”

Neu “eu trin nhw mewn ffordd haerllug.”

Neu “cyfreithiau dibynadwy.”

Neu “gwlad gyfoethog.”

Llyth., “ac yn taflu dy Gyfraith y tu ôl i’w cefnau.”

Neu “yn sathru arnyn nhw.”

Neu “a chyfoethog.”

Neu “y Tirsatha,” teitl Persiaidd ar gyfer llywodraethwr talaith.

Neu “y Nethinim.”

Neu efallai, “yr holl rai a oedd yn ddigon hen i ddeall.”

Mae hyn yn cyfeirio at lw a fyddai’n dod â melltith fel cosb ar yr un a fyddai’n ei dorri.

Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).

Neu “teml.”

Neu “y bara gosod.”

Neu “fflŵr.”

Neu “neuaddau bwyta.”

Neu “y Nethinim.”

Neu “y Nethinim.”

Neu “y Nethinim.”

Neu “Gwnaethon nhw wersylla.”

Neu efallai, “yn ystod y gwasanaeth.”

Mae’n ymddangos bod y testun Hebraeg yn hepgor enw yn fan hyn.

Neu “a’r ysgrifennydd.”

Neu “y cantorion a oedd wedi cael eu hyfforddi.”

Hynny yw, rhanbarth yr Iorddonen.

Llyth., “o feibion yr offeiriaid.”

Neu “yr ysgrifennydd.”

Neu “Poptai.”

Neu “menywod.”

Neu “pob un o dras gymysg.”

Neu “neuaddau bwyta.”

Neu “teml.”

Neu “neuadd fwyta.”

Neu “32ain flwyddyn.”

Neu “yr ysgrifennydd.”

Neu “sathru grawnwin mewn cafn.”

Neu efallai, “eu rhybuddio nhw ar y diwrnod hwnnw i beidio â gwerthu nwyddau.”

Neu “menywod.”

Neu “menywod.”

Neu “Plîs cofia fi mewn ffordd dda.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu