LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • nwt Mathew 1:1-28:20
  • Mathew

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Mathew
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Mathew

YN ÔL MATHEW

1 Llyfr hanes* Iesu Grist,* mab Dafydd, mab Abraham:

 2 Daeth Abraham yn dad i Isaac;

daeth Isaac yn dad i Jacob;

daeth Jacob yn dad i Jwda a’i frodyr;

 3 daeth Jwda yn dad i Peres a Sera, a Tamar oedd eu mam;

daeth Peres yn dad i Hesron;

daeth Hesron yn dad i Ram;

 4 daeth Ram yn dad i Aminadab;

daeth Aminadab yn dad i Naason;

daeth Naason yn dad i Salmon;

 5 daeth Salmon yn dad i Boas, a Rahab oedd ei fam;

daeth Boas yn dad i Obed, a Ruth oedd ei fam;

daeth Obed yn dad i Jesse;

 6 daeth Jesse yn dad i Dafydd y brenin.

Daeth Dafydd yn dad i Solomon, a gwraig Ureia oedd ei fam;

 7 daeth Solomon yn dad i Rehoboam;

daeth Rehoboam yn dad i Abeia;

daeth Abeia yn dad i Asa;

 8 daeth Asa yn dad i Jehosaffat;

daeth Jehosaffat yn dad i Jehoram;

daeth Jehoram yn dad i Usseia;

 9 daeth Usseia yn dad i Jotham;

daeth Jotham yn dad i Ahas;

daeth Ahas yn dad i Heseceia;

10 daeth Heseceia yn dad i Manasse;

daeth Manasse yn dad i Amon;

daeth Amon yn dad i Joseia;

11 daeth Joseia yn dad i Jechoneia ac i’w frodyr yng nghyfnod y gaethglud i Fabilon.

12 Ar ôl y gaethglud i Fabilon, daeth Jechoneia yn dad i Sealtiel;

daeth Sealtiel yn dad i Sorobabel;

13 daeth Sorobabel yn dad i Abiwd;

daeth Abiwd yn dad i Eliacim;

daeth Eliacim yn dad i Asor;

14 daeth Asor yn dad i Sadoc;

daeth Sadoc yn dad i Achim;

daeth Achim yn dad i Eliwd;

15 daeth Eliwd yn dad i Eleasar;

daeth Eleasar yn dad i Mathan;

daeth Mathan yn dad i Jacob;

16 daeth Jacob yn dad i Joseff gŵr Mair, a hi roddodd enedigaeth i Iesu, a elwir Crist.

17 Felly, o Abraham hyd Dafydd roedd ’na 14 o genedlaethau; o Dafydd hyd y gaethglud i Fabilon roedd ’na 14 o genedlaethau; o’r gaethglud i Fabilon hyd y Crist roedd ’na 14 o genedlaethau.

18 Ond fel hyn y digwyddodd genedigaeth Iesu Grist. Yn ystod yr amser pan oedd ei fam Mair wedi ei haddo yn wraig i Joseff, fe sylweddolwyd ei bod hi’n feichiog o ganlyniad i’r ysbryd glân* cyn iddyn nhw briodi. 19 Fodd bynnag, oherwydd bod ei gŵr Joseff yn ddyn cyfiawn ac yntau heb eisiau codi cywilydd arni hi’n gyhoeddus, dyma’n bwriadu ei hysgaru yn gyfrinachol. 20 Ond, ar ôl iddo orffen meddwl am y pethau hyn, edrycha! gwnaeth angel Jehofa* ymddangos iddo mewn breuddwyd, a dweud: “Joseff fab Dafydd, paid ag ofni mynd â dy wraig Mair adref, oherwydd y mae’r un sydd ynddi wedi cael ei genhedlu drwy gyfrwng yr ysbryd glân. 21 Bydd hi’n rhoi genedigaeth i fab, a dylet ti ei alw’n Iesu,* oherwydd y bydd ef yn achub ei bobl rhag eu pechodau.” 22 Digwyddodd hyn i gyd er mwyn cyflawni’r hyn a ddywedodd Jehofa drwy ei broffwyd, gan ddweud: 23 “Edrycha! Bydd y wyryf yn beichiogi ac yn rhoi genedigaeth i fab, a byddan nhw’n ei alw yn Imaniwel,” sy’n golygu, o’i gyfieithu, “Gyda Ni y Mae Duw.”

24 Yna deffrôdd Joseff o’i gwsg a gwneud fel yr oedd angel Jehofa wedi dweud wrtho, a dyma’n mynd â’i wraig adref. 25 Ond ni chafodd gyfathrach rywiol â hi hyd nes iddi roi genedigaeth i fab, a rhoddodd ef yr enw Iesu arno.

2 Ar ôl i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn ystod dyddiau Herod* y brenin, edrycha! daeth astrolegwyr* o’r Dwyrain i Jerwsalem, 2 yn dweud: “Ble mae’r un sydd wedi cael ei eni’n frenin yr Iddewon? Oherwydd ein bod ni wedi gweld ei seren pan oedden ni yn y Dwyrain, ac rydyn ni wedi dod i ymgrymu* o’i flaen.” 3 Ar ôl clywed hyn, roedd y Brenin Herod wedi cynhyrfu, a Jerwsalem i gyd gydag ef. 4 Ac ar ôl iddo alw at ei gilydd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, gofynnodd iddyn nhw ble roedd y Crist* i gael ei eni. 5 Dywedon nhw wrtho: “Ym Methlehem Jwdea, oherwydd dyma sut mae wedi cael ei ysgrifennu drwy’r proffwyd: 6 ‘A tithau, O Fethlehem yng ngwlad Jwda, nid ti yw’r ddinas leiaf pwysig ymhlith llywodraethwyr Jwda, oherwydd allan ohonot ti y bydd un sy’n llywodraethu yn dod, un a fydd yn bugeilio fy mhobl Israel.’”

7 Yna, yn ddistaw bach, dyma Herod yn galw’r astrolegwyr ato a’u holi’n fanwl pa bryd roedd y seren wedi ymddangos. 8 Pan oedd yn eu hanfon nhw i Fethlehem, dywedodd: “Ewch i chwilio’n ofalus am y plentyn bach, a phan ydych chi wedi dod o hyd iddo, rhowch wybod imi er mwyn i mi fynd hefyd ac ymgrymu o’i flaen.” 9 Ar ôl iddyn nhw wrando ar y brenin, aethon nhw ar eu ffordd, ac edrycha! dyma’r seren a welson nhw tra oedden nhw yn y Dwyrain yn mynd o’u blaenau nes iddi stopio uwchben lle roedd y plentyn bach. 10 A phan welson nhw’r seren, roedden nhw’n llawen dros ben. 11 A phan aethon nhw i mewn i’r tŷ, fe welson nhw’r plentyn bach gyda Mair ei fam, a dyma nhw’n syrthio i lawr ac ymgrymu* o’i flaen. Dyma nhw hefyd yn agor eu trysorau a chyflwyno anrhegion iddo—aur a thus a myrr. 12 Fodd bynnag, oherwydd iddyn nhw gael eu rhybuddio gan Dduw mewn breuddwyd i beidio â mynd yn ôl at Herod, aethon nhw yn ôl i’w gwlad ar hyd ffordd arall.

13 Ar ôl iddyn nhw ymadael, edrycha! gwnaeth angel Jehofa ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, gan ddweud: “Cod, cymera’r plentyn bach a’i fam a dylet ti ffoi i’r Aifft, ac aros yno hyd nes imi ddweud wrthot ti am adael, oherwydd mae Herod ar fin mynd i chwilio am y plentyn bach er mwyn ei ladd.” 14 Felly cododd Joseff liw nos a chymryd y plentyn bach a’i fam ac aethon nhw i mewn i’r Aifft. 15 Arhosodd yno hyd nes i Herod farw. Fe gyflawnodd hyn beth ddywedodd Jehofa drwy ei broffwyd, gan ddweud: “Gwnes i alw fy mab allan o’r Aifft.”

16 Yna, pan welodd Herod fod yr astrolegwyr wedi ei dwyllo, aeth yn gandryll ac anfon pobl allan a’u gorchymyn i ladd yr holl fechgyn ym Methlehem ac yn ei holl ranbarthau, a oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, yn ôl yr amser roedd ef wedi holi’r astrolegwyr yn fanwl amdano. 17 Yna y cyflawnwyd yr hyn a gafodd ei ddweud drwy Jeremeia y proffwyd, a ddywedodd: 18 “Ac fe gafodd llais ei glywed yn Rama, yn wylo ac yn llawn galar. Roedd Rachel yn wylo am ei phlant, ac roedd hi’n gwrthod cael ei chysuro, oherwydd eu bod nhw wedi marw.”

19 Pan fu farw Herod, edrycha! gwnaeth angel Jehofa ymddangos mewn breuddwyd i Joseff yn yr Aifft 20 a dweud: “Cod, cymera’r plentyn bach a’i fam a dos i wlad Israel, oherwydd bod y rhai a oedd yn ceisio lladd y plentyn bach wedi marw.” 21 Felly cododd a chymryd y plentyn bach a’i fam a mynd i wlad Israel. 22 Ond ar ôl clywed bod Archelaus yn teyrnasu dros Jwdea yn lle ei dad Herod, roedd arno ofn mynd yno. Ar ben hynny, oherwydd iddo gael ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, symudodd i ardal Galilea. 23 Ac ymsefydlodd mewn dinas o’r enw Nasareth, er mwyn cyflawni’r hyn a gafodd ei ddweud drwy’r proffwydi: “Bydd yn cael ei alw’n Nasaread.”*

3 Yn y dyddiau hynny daeth Ioan Fedyddiwr i bregethu yn anialwch Jwdea, 2 gan ddweud: “Edifarhewch, oherwydd mae Teyrnas y nefoedd wedi dod yn agos.” 3 Yn wir, dyma’r un y gwnaeth y proffwyd Eseia sôn amdano drwy ddefnyddio’r geiriau hyn: “Llais un yn galw yn yr anialwch: ‘Paratowch ffordd Jehofa! Gwnewch ei lwybrau’n syth.’” 4 Roedd dillad Ioan o flew camel a belt lledr am ei ganol. Ei fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. 5 Yna roedd pobl Jerwsalem a Jwdea i gyd, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen, yn mynd allan ato, 6 ac roedden nhw’n cael eu bedyddio* ganddo yn Afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau’n agored.

7 Pan welodd ef lawer o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dod i’r bedydd, dywedodd wrthyn nhw: “Gwiberod* ydych chi, pwy sydd wedi eich rhybuddio chi i ffoi rhag y dicter sydd i ddod? 8 Felly, cynhyrchwch ffrwyth sy’n dangos edifeirwch. 9 Peidiwch â meiddio dweud wrthoch chi’ch hunain, ‘Mae gynnon ni Abraham yn dad i ni.’ Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi fod Duw yn gallu codi plant i Abraham o’r cerrig hyn. 10 Mae’r fwyell eisoes wrth wraidd y coed. Bydd pob coeden, felly, sydd ddim yn cynhyrchu ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a’i thaflu i’r tân. 11 O’m rhan fy hun, rydw i’n eich bedyddio chi â dŵr oherwydd eich edifeirwch, ond mae’r un sy’n dod ar fy ôl i yn gryfach na mi, a dydw i ddim yn deilwng o dynnu ei sandalau. Bydd yr un hwnnw’n eich bedyddio chi â’r ysbryd glân ac â thân. 12 Mae rhaw nithio yn ei law, a bydd yn glanhau’n llwyr ei lawr dyrnu a bydd yn casglu ei wenith i’r ysgubor, ond bydd ef yn llosgi’r us â thân na ellir ei ddiffodd.”

13 Yna daeth Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, er mwyn cael ei fedyddio ganddo. 14 Ond ceisiodd Ioan ei rwystro, gan ddweud: “Y fi ydy’r un sydd angen cael ei fedyddio gen ti, ac wyt ti yn dod ata i?” 15 Atebodd Iesu: “Gad iddi fod y tro hwn, oherwydd mae’n briodol gwneud pethau fel yma er mwyn inni gyflawni popeth sy’n gyfiawn.” Felly dyma’n rhoi’r gorau i geisio ei rwystro. 16 Ac ar ôl cael ei fedyddio, daeth Iesu yn syth i fyny o’r dŵr; ac edrycha! agorwyd y nefoedd, ac fe welodd ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno. 17 Edrycha! Hefyd, dyma lais o’r nefoedd yn dweud: “Hwn yw fy Mab annwyl, sy’n fy mhlesio i’n fawr iawn.”*

4 Yna cafodd Iesu ei arwain gan yr ysbryd* i fyny i’r anialwch i gael ei demtio gan y Diafol. 2 Ar ôl iddo beidio â bwyta* am 40 dydd a 40 nos, roedd wedi llwgu. 3 A daeth y Temtiwr ato a dweud wrtho: “Os wyt ti’n fab i Dduw, dyweda wrth y cerrig hyn am droi’n fara.” 4 Ond atebodd: “Mae’n ysgrifenedig: ‘Mae’n rhaid i ddyn fyw, nid ar fara yn unig, ond ar bob gair sy’n dod o geg Jehofa.’”

5 Yna aeth y Diafol ag ef i’r ddinas sanctaidd, a’i osod ar ben wal uchaf* y deml 6 a dywedodd wrtho: “Os wyt ti’n fab i Dduw, tafla dy hun i lawr, oherwydd mae’n ysgrifenedig: ‘Bydd yn rhoi gorchymyn i’w angylion amdanat ti,’ a, ‘Byddan nhw’n dy gario di yn eu dwylo, fel na fyddi di’n taro dy droed yn erbyn carreg.’” 7 Dywedodd Iesu wrtho: “Unwaith eto, mae’n ysgrifenedig: ‘Paid â gosod Jehofa dy Dduw ar brawf.’”

8 Unwaith eto, aeth y Diafol ag ef i fynydd eithriadol o uchel a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant. 9 A dywedodd wrtho: “Fe wna i roi’r holl bethau hyn i ti os gwnei di syrthio i lawr a fy addoli i un waith.” 10 Yna dywedodd Iesu wrtho: “Dos o ’ma, Satan! Oherwydd mae’n ysgrifenedig: ‘Jehofa dy Dduw y dylet ti ei addoli, ac ef yn unig y dylet ti ei wasanaethu.’” 11 Yna dyma’r Diafol yn ei adael, ac edrycha! daeth angylion a dechrau gofalu amdano.

12 Nawr ar ôl iddo glywed bod Ioan wedi cael ei arestio, aeth i ffwrdd i Galilea. 13 Ar ben hynny, ar ôl gadael Nasareth, aeth i fyw yng Nghapernaum sydd ar lan y môr yn ardaloedd Sebulon a Nafftali, 14 er mwyn cyflawni’r hyn a gafodd ei ddweud drwy Eseia’r proffwyd, a ddywedodd: 15 “O, bobl tiroedd Sebulon a Nafftali, sydd ar hyd ffordd y môr, ar yr ochr arall i’r Iorddonen, Galilea’r cenhedloedd! 16 Fe welodd y bobl sy’n eistedd mewn tywyllwch oleuni mawr, a disgleiriodd goleuni ar y rhai sy’n eistedd mewn tir o dan gysgod marwolaeth.” 17 O hynny ymlaen, dechreuodd Iesu bregethu, gan ddweud: “Edifarhewch, oherwydd y mae Teyrnas y nefoedd wedi dod yn agos.”

18 Wrth gerdded ar lan Môr Galilea, fe welodd ddau frawd, Simon, sy’n cael ei alw’n Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr, oherwydd pysgotwyr oedden nhw. 19 Ac fe ddywedodd wrthyn nhw: “Dewch ar fy ôl i, a bydda i’n eich gwneud chi’n bysgotwyr dynion.” 20 A dyma nhw’n gadael eu rhwydi ar unwaith a’i ddilyn ef. 21 Wrth iddo fynd yn ei flaen oddi yno, fe welodd ddau arall a oedd yn frodyr, Iago fab Sebedeus a’i frawd Ioan. Roedden nhw yn y cwch gyda Sebedeus eu tad, yn trwsio eu rhwydi, a dyma Iesu’n eu galw nhw. 22 A dyma nhw’n gadael eu cwch a’u tad ar unwaith a’i ddilyn ef.

23 Yna, fe aeth Iesu drwy hyd a lled Galilea, yn dysgu yn eu synagogau ac yn pregethu’r newyddion da am y Deyrnas ac yn iacháu pob math o afiechydon a phob math o salwch ymhlith y bobl. 24 Aeth yr hanes amdano ar led drwy Syria gyfan, a dyma nhw’n dod â’r holl rai ato a oedd yn dioddef o wahanol afiechydon a phoenau ofnadwy, y rhai a oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid a’r rhai a oedd yn epileptig a’r rhai a oedd wedi eu parlysu, a dyma’n eu hiacháu nhw. 25 O ganlyniad, gwnaeth tyrfaoedd mawr ei ddilyn o Galilea a Decapolis* a Jerwsalem a Jwdea ac o’r ochr arall i’r Iorddonen.

5 Pan welodd ef y tyrfaoedd, aeth i fyny’r mynydd; ac ar ôl iddo eistedd i lawr, daeth ei ddisgyblion ato. 2 Yna agorodd ei geg a dechrau eu dysgu nhw, gan ddweud:

3 “Hapus ydy’r rhai sy’n ymwybodol fod ganddyn nhw angen ysbrydol,* oherwydd bod Teyrnas y nefoedd yn perthyn iddyn nhw.

4 “Hapus ydy’r rhai sy’n galaru, oherwydd y byddan nhw’n cael eu cysuro.

5 “Hapus ydy’r rhai addfwyn, oherwydd y byddan nhw’n etifeddu’r ddaear.

6 “Hapus ydy’r rhai sy’n newynu ac yn sychedu am gyfiawnder, oherwydd y byddan nhw’n cael eu bodloni.*

7 “Hapus ydy’r rhai trugarog, oherwydd y bydd trugaredd yn cael ei ddangos tuag atyn nhw.

8 “Hapus ydy’r rhai pur eu calon, oherwydd y byddan nhw’n gweld Duw.

9 “Hapus ydy’r rhai sy’n gwneud heddwch,* oherwydd y byddan nhw’n cael eu galw’n feibion i Dduw.

10 “Hapus ydy’r rhai sydd wedi cael eu herlid o achos cyfiawnder, oherwydd bod Teyrnas y nefoedd yn perthyn iddyn nhw.

11 “Hapus ydych chi pan fydd pobl yn eich sarhau chi ac yn eich erlid chi ac yn dweud pob math o gelwyddau drwg amdanoch chi er fy mwyn i. 12 Byddwch yn llawn llawenydd ac yn hapus iawn, oherwydd mawr ydy eich gwobr yn y nefoedd; yn yr un modd hefyd y gwnaethon nhw erlid y proffwydi a oedd o’ch blaen chi.

13 “Chi ydy halen y ddaear, ond os ydy’r halen yn colli ei flas, sut bydd yn cael ei flas hallt yn ôl? Nid yw’n dda i ddim mwyach ond ei daflu allan a’i sathru gan ddynion.

14 “Chi ydy goleuni’r byd. Ni all dinas gael ei chuddio pan fydd hi wedi ei lleoli ar fynydd. 15 Mae pobl yn goleuo lamp ac yn ei gosod hi, nid o dan fasged,* ond ar ei stand, ac mae’n disgleirio ar bawb yn y tŷ. 16 Yn yr un modd, gadewch i’ch goleuni ddisgleirio gerbron dynion, fel y gallan nhw weld eich gweithredoedd da a rhoi gogoniant i’ch Tad sydd yn y nefoedd.

17 “Peidiwch â meddwl fy mod i wedi dod i ddinistrio’r Gyfraith na’r Proffwydi. Fe ddes i, nid i ddinistrio, ond i gyflawni. 18 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi y byddai’n rhaid i nefoedd a daear ddiflannu cyn i un llythyren neu un rhan fechan o lythyren ddiflannu o’r Gyfraith hyd nes i bopeth ddigwydd. 19 Felly, bydd pwy bynnag sy’n torri un o’r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu eraill i wneud hynny yn cael ei alw’r lleiaf o ran Teyrnas y nefoedd. Ond bydd pwy bynnag sy’n eu gwneud ac yn eu dysgu yn cael ei alw’n fawr o ran Teyrnas y nefoedd. 20 Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi, os na fydd eich cyfiawnder yn mynd y tu hwnt i gyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, ni fyddwch chi ar unrhyw gyfri yn mynd i mewn i Deyrnas y nefoedd.

21 “Clywsoch chi fod hyn wedi cael ei ddweud wrth y rhai yn yr amseroedd a fu: ‘Paid â llofruddio, ond bydd pwy bynnag sy’n llofruddio yn atebol i’r llys barn.’ 22 Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd pwy bynnag sy’n parhau i fod yn ddig wrth ei frawd yn atebol i’r llys barn; a bydd pwy bynnag sy’n dirmygu ei frawd â geiriau sarhaus yn atebol i’r Goruchaf Lys; ond bydd pwy bynnag sy’n dweud, ‘Y ffŵl da i ddim!’ yn cael ei gondemnio i’r Gehenna* tanllyd.

23 “Felly, os wyt ti’n dod â dy offrwm i’r allor ac yn cofio yno fod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn, 24 gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos i ffwrdd. Yn gyntaf, gwna heddwch â dy frawd, ac yna tyrd yn dy ôl a chyflwyno dy offrwm.

25 “Bydda’n gyflym i setlo pethau â dy wrthwynebwr cyfreithiol, tra byddi di ar y ffordd yno gydag ef, rhag ofn i dy wrthwynebwr rywsut neu’i gilydd dy roi di yn nwylo’r barnwr, ac i’r barnwr dy roi di i was y llys, a tithau’n cael dy daflu i’r carchar. 26 Y ffaith amdani yw, chei di byth ddod allan nes y byddi di wedi talu dy geiniog olaf.*

27 “Clywsoch chi fod hyn wedi cael ei ddweud: ‘Paid â godinebu.’ 28 Ond rydw i’n dweud wrthoch chi fod unrhyw un sy’n parhau i edrych ar ddynes* mewn ffordd sy’n gwneud iddo fod eisiau cael rhyw gyda hi eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon. 29 Nawr, os ydy dy lygad de yn gwneud iti faglu, tynna dy lygad allan a’i daflu oddi wrthot ti. Oherwydd gwell fyddai iti golli un o dy lygaid nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i Gehenna.* 30 Hefyd, os ydy dy law dde yn gwneud iti faglu, torra hi i ffwrdd a’i thaflu oddi wrthot ti. Oherwydd gwell fyddai iti golli un o dy ddwylo nag i dy gorff cyfan fynd i Gehenna.*

31 “Ar ben hynny, fe gafodd hyn ei ddweud: ‘Pwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig, mae’n rhaid iddo roi tystysgrif ysgariad iddi.’ 32 Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi fod pob un sy’n ysgaru ei wraig, ar wahân i achos o anfoesoldeb rhywiol,* yn ei gwneud hi’n agored i’r peryg o odinebu, ac mae pwy bynnag sy’n priodi dynes* sydd wedi cael ysgariad yn godinebu.

33 “Unwaith eto y clywsoch chi fod hyn wedi cael ei ddweud wrth y rhai yn yr amseroedd a fu: ‘Paid â gwneud llw ac yna ei dorri, ond mae’n rhaid iti gadw dy addunedau i Jehofa.’ 34 Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi: Peidiwch â gwneud llw o gwbl, nac yn enw’r nef, oherwydd mae’n cynrychioli gorsedd Duw; 35 nac yn enw’r ddaear, oherwydd ei bod hi’n droedfainc i’w draed; nac yn enw Jerwsalem, oherwydd ei bod hi’n ddinas i’r Brenin mawr. 36 Paid â gwneud llw yn enw dy ben, oherwydd ni elli di droi un blewyn yn wyn nac yn ddu. 37 Ond gadewch i’ch ‘Ie’ olygu ie, a’ch ‘Nage’ olygu nage, oherwydd y mae’r hyn sy’n mynd y tu hwnt i’r rhain yn dod o’r un drwg.

38 “Clywsoch chi fod hyn wedi cael ei ddweud: ‘Llygad am lygad a dant am ddant.’ 39 Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi: Paid â gwrthsefyll yr un sy’n ddrwg, ond pwy bynnag sy’n dy daro di ar dy foch dde, tro’r llall ato hefyd. 40 Ac os ydy rhywun eisiau mynd â ti i’r llys a chymryd dy grys, gad iddo gael dy gôt hefyd; 41 ac os ydy rhywun mewn awdurdod yn dy orfodi di i fynd gydag ef am un filltir, dos gydag ef am ddwy filltir. 42 Rho i’r un sy’n gofyn am rywbeth gen ti, a phaid â throi i ffwrdd oddi wrth rywun sydd eisiau cael benthyg* gen ti.

43 “Clywsoch chi fod hyn wedi cael ei ddweud: ‘Mae’n rhaid iti garu dy gymydog a chasáu dy elyn.’ 44 Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi: Parhewch i garu eich gelynion ac i weddïo dros y rhai sy’n eich erlid, 45 fel y gallwch ddangos eich bod chi’n feibion i’ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd ei fod yn gwneud i’r haul godi ar y drwg a’r da ac yn gwneud iddi fwrw glaw ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46 Oherwydd os ydych chi’n caru’r rhai sy’n eich caru chi, pa wobr sydd gynnoch chi? Onid ydy’r casglwyr trethi hefyd yn gwneud yr un peth? 47 Ac os ydych chi’n cyfarch eich brodyr yn unig, pa beth arbennig rydych chi’n ei wneud? Onid ydy pobl y cenhedloedd hefyd yn gwneud yr un peth? 48 Felly mae’n rhaid i chi fod yn berffaith,* fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.

6 “Byddwch yn ofalus i beidio â gwneud yr hyn sy’n gyfiawn o flaen dynion er mwyn iddyn nhw sylwi arnoch chi; neu chewch chi ddim gwobr gan eich Tad sydd yn y nefoedd. 2 Felly pan fyddi di’n rhoi i’r tlawd,* paid â chwythu trwmped o dy flaen, fel y mae’r rhagrithwyr yn gwneud yn y synagogau ac yn y strydoedd, er mwyn iddyn nhw gael eu gogoneddu gan ddynion. Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae ganddyn nhw eu gwobr yn llawn. 3 Ond pan fyddi dithau’n rhoi i’r tlawd, paid â gadael i dy law chwith wybod beth mae dy law dde yn ei wneud, 4 er mwyn i dy roddion i’r tlawd fod yn gyfrinachol. Yna bydd dy Dad sy’n edrych arnat ti o’r dirgel yn dy fendithio di.

5 “Hefyd, pan fyddwch chi’n gweddïo, peidiwch ag ymddwyn fel y rhagrithwyr, oherwydd maen nhw’n hoffi gweddïo yn sefyll yn y synagogau ac ar gorneli’r prif strydoedd er mwyn cael eu gweld gan ddynion. Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae ganddyn nhw eu gwobr yn llawn. 6 Ond pan fyddi dithau’n gweddïo, dos i mewn i dy ystafell breifat ac, ar ôl cau’r drws, gweddïa ar dy Dad sydd mewn lle dirgel. Yna bydd dy Dad sy’n edrych arnat ti o’r dirgel yn dy fendithio di. 7 Wrth weddïo, peidiwch â dweud yr un pethau drosodd a throsodd fel y mae pobl y cenhedloedd yn gwneud, oherwydd maen nhw’n meddwl y bydd Duw yn gwrando arnyn nhw am eu bod nhw’n defnyddio llawer o eiriau. 8 Felly peidiwch â bod yn debyg iddyn nhw, oherwydd mae eich Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi cyn ichi hyd yn oed ofyn iddo.

9 “Mae’n rhaid i chi weddïo, felly, fel hyn:

“‘Ein Tad yn y nefoedd, gad i dy enw gael ei sancteiddio.* 10 Gad i dy Deyrnas ddod. Gad i dy ewyllys ddigwydd ar y ddaear, fel y mae yn y nef. 11 Rho inni heddiw ein bara ar gyfer y diwrnod hwn; 12 a maddau inni ein dyledion, fel rydyn ninnau hefyd wedi maddau i’n dyledwyr. 13 A phaid â gadael inni ildio i demtasiwn, ond achuba ni rhag yr un drwg.’

14 “Oherwydd, os ydych chi’n maddau i ddynion eu pechodau, bydd eich Tad nefol yn maddau i chithau hefyd; 15 ond os nad ydych chi’n maddau i ddynion eu pechodau, fydd eich Tad ddim yn maddau i chithau eich pechodau chwaith.

16 “Pan fyddwch chi’n ymprydio, peidiwch â gwneud i’ch wynebau edrych yn drist fel y rhagrithwyr, oherwydd maen nhw’n hagru eu hwynebau* er mwyn i ddynion weld eu bod nhw’n ymprydio. Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae ganddyn nhw eu gwobr yn llawn. 17 Ond pan fyddi dithau’n ymprydio, rho olew ar dy ben a golcha dy wyneb, 18 er mwyn iti beidio â chael dy weld yn ymprydio gan ddynion, ond gan dy Dad yn unig sydd mewn lle dirgel. Yna bydd dy Dad sy’n edrych arnat ti o’r dirgel yn dy fendithio di.

19 “Stopiwch gasglu trysorau ar y ddaear i chi’ch hunain, lle mae gwyfyn a rhwd yn difetha a lle mae lladron yn torri i mewn ac yn dwyn. 20 Yn hytrach, casglwch drysorau yn y nef i chi’ch hunain, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difetha, a lle nad yw lladron yn torri i mewn nac yn dwyn. 21 Oherwydd le bynnag mae dy drysor di, yno y bydd dy galon di hefyd.

22 “Lamp y corff yw’r llygad. Felly, os yw dy lygad wedi ei ffocysu ar un peth yn unig,* bydd dy gorff cyfan yn ddisglair.* 23 Ond os yw dy lygad yn genfigennus,* bydd dy gorff cyfan yn dywyll. Os yw’r goleuni sydd ynot ti mewn gwirionedd yn dywyllwch, mor fawr yw’r tywyllwch hwnnw!

24 “Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd y bydd naill ai’n casáu un ac yn caru’r llall, neu’n ffyddlon i un ac yn dirmygu’r llall. Ni allwch chi wasanaethu Duw a Chyfoeth.

25 “Oherwydd hyn rydw i’n dweud wrthoch chi: Stopiwch fod yn bryderus am eich bywydau o ran beth rydych chi’n mynd i’w fwyta neu beth rydych chi’n mynd i’w yfed, neu am eich cyrff a beth rydych chi’n mynd i’w wisgo. Onid yw bywyd yn golygu mwy na bwyd a’r corff yn golygu mwy na dillad? 26 Edrychwch yn ofalus ar adar y nefoedd; dydyn nhw ddim yn hau hadau nac yn medi nac yn casglu i ysguboriau, ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Onid ydych chithau yn werth mwy na nhw? 27 Pa un ohonoch chi sy’n gallu ychwanegu un munud* at ei fywyd drwy fod yn bryderus? 28 Hefyd, pam rydych chi’n pryderu am ddillad? Dysgwch wers oddi wrth lili’r maes, y ffordd maen nhw’n tyfu; dydyn nhw ddim yn llafurio, nac yn gwnïo dillad; 29 ac eto rydw i’n dweud wrthoch chi nad oedd hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant yn edrych mor hardd ag un o’r rhain. 30 Nawr, os mai dyma sut mae Duw yn dilladu planhigion y maes sydd yma heddiw, ac yfory yn cael eu taflu i’r ffwrn, oni fyddai’n llawer gwell ganddo eich dilladu chi, chi o ychydig ffydd? 31 Felly peidiwch byth â bod yn bryderus a dweud, ‘Beth rydyn ni’n mynd i’w fwyta?’ neu, ‘Beth rydyn ni’n mynd i’w yfed?’ neu, ‘Beth rydyn ni’n mynd i’w wisgo?’ 32 Oherwydd yr holl bethau hyn yw’r pethau mae’r cenhedloedd yn eu ceisio’n frwd. Mae eich Tad nefol yn gwybod bod angen yr holl bethau hyn arnoch chi.

33 “Daliwch ati, felly, i geisio yn gyntaf y Deyrnas a chyfiawnder Duw, a bydd yr holl bethau eraill hyn yn cael eu rhoi ichi. 34 Felly peidiwch byth â bod yn bryderus am yfory, oherwydd y bydd gan yfory ei bryderon ei hun. Mae gan bob diwrnod ddigon o’i drafferthion ei hun.

7 “Stopiwch farnu er mwyn ichi beidio â chael eich barnu; 2 oherwydd fel rydych chi’n barnu y cewch chithau eich barnu, a’r mesur rydych chi’n ei ddefnyddio i roi i eraill, y byddan nhw’n ei ddefnyddio i roi i chi. 3 Pam felly rwyt ti’n edrych ar y gwelltyn sydd yn llygad dy frawd ond dwyt ti ddim yn sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 4 Neu sut gelli di ddweud wrth dy frawd, ‘Gad imi dynnu’r gwelltyn o dy lygad di,’ pan edrycha! mae ’na drawst yn dy lygad dy hun? 5 Ragrithiwr! Yn gyntaf, tynna’r trawst o dy lygad dy hun, ac yna y byddi di’n gweld yn glir sut i dynnu’r gwelltyn o lygad dy frawd.

6 “Peidiwch â rhoi’r hyn sy’n sanctaidd i gŵn na thaflu eich perlau o flaen moch, fel na allan nhw byth eu sathru o dan eu traed a throi arnoch chi a’ch llarpio.

7 “Daliwch ati i ofyn, a bydd yn cael ei roi ichi; daliwch ati i geisio, a byddwch yn darganfod; daliwch ati i gnocio, a bydd y drws yn cael ei agor ichi; 8 oherwydd y mae pawb sy’n gofyn yn derbyn, a phawb sy’n ceisio yn darganfod, ac i bawb sy’n cnocio, bydd y drws yn cael ei agor. 9 Yn wir, pa un ohonoch chi, os bydd ei fab yn gofyn am fara, fydd yn rhoi carreg iddo? 10 Neu os bydd yn gofyn am bysgodyn, a fydd yn rhoi neidr* iddo? 11 Felly, os ydych chithau, er eich bod chi’n ddrwg, yn gwybod sut i roi anrhegion da i’ch plant, gymaint yn fwy y bydd eich Tad sydd yn y nefoedd yn rhoi pethau da i’r rhai sy’n gofyn iddo!

12 “Popeth, felly, rydych chi eisiau i ddynion ei wneud i chi, mae’n rhaid i chithau hefyd ei wneud iddyn nhw. Yn wir, dyma beth mae’r Gyfraith a’r Proffwydi yn ei ddysgu.

13 “Ewch i mewn drwy’r porth cul, oherwydd llydan yw’r porth ac eang yw’r ffordd sy’n arwain i ddinistr, a llawer sy’n mynd i mewn trwyddo; 14 ond cul yw’r porth a chyfyng yw’r ffordd sy’n arwain i fywyd, ac ychydig sy’n dod o hyd iddi.

15 “Byddwch yn wyliadwrus o’r gau broffwydi sy’n dod atoch chi yng ngwisg defaid, ond sydd ar y tu mewn yn fleiddiaid rheibus. 16 Wrth eu ffrwythau y byddwch chi yn eu hadnabod nhw. Dydy pobl byth yn casglu grawnwin oddi ar ddrain na ffigys oddi ar ysgall, nac ydyn? 17 Yn yr un modd, mae pob coeden dda yn cynhyrchu ffrwyth da, ond mae pob coeden ddrwg yn cynhyrchu ffrwyth drwg. 18 Dydy coeden dda ddim yn gallu cynhyrchu ffrwyth drwg, a dydy coeden ddrwg ddim yn gallu cynhyrchu ffrwyth da. 19 Mae pob coeden sydd ddim yn cynhyrchu ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a’i thaflu i’r tân. 20 Felly yn wir, wrth eu ffrwythau y byddwch chi’n adnabod y dynion hynny.

21 “Ni fydd pawb sy’n dweud wrtho i, ‘Arglwydd, Arglwydd,’ yn mynd i mewn i Deyrnas y nefoedd, ond fe fydd yr un sy’n gwneud ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd. 22 Pan ddaw’r diwrnod hwnnw, bydd llawer yn dweud wrtho i: ‘Arglwydd, Arglwydd, onid oedden ni’n proffwydo yn dy enw di, ac yn bwrw cythreuliaid allan yn dy enw di, ac yn cyflawni llawer o wyrthiau yn dy enw di?’ 23 Ac yna bydda i’n dweud wrthyn nhw yn blwmp ac yn blaen: ‘Doeddwn i byth yn eich adnabod chi! Ewch o ’ma, chi ddrwgweithredwyr!’

24 “Felly, bydd pawb sy’n clywed fy ngeiriau i ac yn eu gwneud nhw yn debyg i ddyn call sy’n adeiladu ei dŷ ar y graig. 25 A thywalltodd y glaw a daeth y llifogydd a chwythodd y gwyntoedd a gyrru yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni wnaeth syrthio, oherwydd ei fod wedi ei sylfaenu ar y graig. 26 Ar ben hynny, bydd pawb sy’n clywed fy ngeiriau i ac sydd ddim yn eu gwneud yn debyg i ddyn ffôl a adeiladodd ei dŷ ar y tywod. 27 A thywalltodd y glaw a daeth y llifogydd a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, a dyma’n syrthio, ac roedd ei chwalfa yn fawr.”

28 Ar ôl i Iesu orffen dweud y pethau hyn, roedd y tyrfaoedd wedi rhyfeddu at ei ffordd o ddysgu, 29 oherwydd ei fod yn eu dysgu fel rhywun ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion nhw.

8 Ar ôl iddo ddod i lawr o’r mynydd, gwnaeth tyrfaoedd mawr ei ddilyn ef. 2 Ac edrycha! daeth dyn gwahanglwyfus ato ac ymgrymu* o’i flaen, a dweud: “Arglwydd, os wyt ti eisiau, gelli di fy ngwneud i’n lân.” 3 Felly, gan estyn ei law, dyma’n cyffwrdd â’r dyn, a dweud: “Rydw i eisiau! Bydda’n lân.” Ar unwaith cafodd ei wahanglwyf ei lanhau. 4 Yna dywedodd Iesu wrtho: “Gwna’n siŵr nad wyt ti’n dweud wrth neb, ond dos, dangosa dy hun i’r offeiriad, a chyflwyno’r offrwm a benodwyd gan Moses, yn dystiolaeth iddyn nhw.”

5 Pan aeth i mewn i Gapernaum, dyma swyddog o’r fyddin yn dod ato, yn ymbil arno 6 ac yn dweud: “Syr, mae fy ngwas yn gorwedd yn y tŷ wedi ei barlysu, ac mae’n dioddef yn ofnadwy.” 7 Dywedodd ef wrtho: “Pan fydda i’n cyrraedd yno, fe wna i ei iacháu.” 8 Atebodd y swyddog o’r fyddin: “Syr, dydw i ddim yn deilwng i ti ddod o dan fy nho i, ond dyweda’r gair yn unig ac fe fydd fy ngwas yn cael ei iacháu. 9 Oherwydd rydw innau hefyd yn ddyn o dan awdurdod, sydd â milwyr odana i, ac rydw i’n dweud wrth hwn, ‘Dos!’ ac mae’n mynd, ac wrth un arall, ‘Tyrd!’ ac mae’n dod, ac wrth fy nghaethwas, ‘Gwna hyn!’ ac mae’n ei wneud.” 10 Pan glywodd Iesu hynny, roedd wedi synnu a dywedodd wrth y rhai a oedd yn ei ddilyn: “Rydw i’n dweud y gwir wrthoch chi, dydw i ddim wedi dod o hyd i neb yn Israel sydd â ffydd mor fawr. 11 Ond rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd llawer o’r dwyrain ac o’r gorllewin yn dod ac yn cymryd eu lle wrth y bwrdd gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn Nheyrnas y nefoedd; 12 ond bydd meibion y Deyrnas yn cael eu taflu i’r tywyllwch y tu allan. Yno y byddan nhw’n wylo ac yn crensian eu dannedd.” 13 Yna dywedodd Iesu wrth y swyddog o’r fyddin: “Dos. Yn union fel rwyt ti wedi dangos ffydd, bydd yr hyn rwyt ti’n gobeithio amdano yn cael ei wneud.” Ac fe gafodd y gwas ei iacháu yn yr awr honno.

14 A phan ddaeth Iesu i dŷ Pedr, fe welodd ei fam yng nghyfraith yn gorwedd i lawr ac yn sâl oherwydd twymyn. 15 Felly dyma’n cyffwrdd â’i llaw, a diflannodd y dwymyn, a dyma hi’n codi ac yn dechrau gweini arno. 16 Ond ar ôl iddi ddechrau nosi, daeth pobl â llawer o’r rhai a oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid ato; a gwnaeth fwrw allan yr ysbrydion ag un gair, ac iacháu pawb a oedd yn dioddef, 17 er mwyn cyflawni’r hyn a ddywedwyd drwy Eseia’r proffwyd: “Cymerodd ef ei hun ein salwch a chario ein hafiechydon.”

18 Pan welodd Iesu dyrfa o’i gwmpas, rhoddodd y gorchymyn i groesi i’r lan arall. 19 A daeth ysgrifennydd ato a dweud wrtho: “Athro, fe wna i dy ddilyn di le bynnag yr ei di.” 20 Ond dywedodd Iesu wrtho: “Mae gan lwynogod* ffeuau ac mae gan adar y nef nythod, ond does gan Mab y dyn unman i roi ei ben i lawr.” 21 Ac yna dywedodd un arall o’i ddisgyblion wrtho: “Arglwydd, gad imi fynd a chladdu fy nhad yn gyntaf.” 22 Dywedodd Iesu wrtho: “Dal ati i fy nilyn i, a gad i’r meirw gladdu eu meirw.”

23 A phan aeth ef i mewn i gwch, dilynodd ei ddisgyblion ef. 24 Nawr edrycha! cododd storm fawr ar y môr, nes bod y cwch yn cael ei orchuddio gan y tonnau; ond roedd ef yn cysgu. 25 A daethon nhw ato a’i ddeffro, a dweud: “Arglwydd, achuba ni, rydyn ni ar fin marw!” 26 Ond dywedodd wrthyn nhw: “Pam rydych chi mor ofnus, chi o ychydig ffydd?” Yna cododd a cheryddu’r gwyntoedd a’r môr, ac roedd ’na dawelwch mawr. 27 Felly roedd y dynion wedi synnu a dywedon nhw: “Pa fath o berson yw hwn? Mae hyd yn oed y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo.”

28 Pan ddaeth ef i’r lan arall, i mewn i ardal y Gadareniaid, daeth dau ddyn a oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid allan o blith y beddrodau* i’w gyfarfod. Roedden nhw’n eithriadol o ffyrnig, felly doedd neb yn ddigon dewr i basio heibio ar y ffordd honno. 29 Ac edrycha! dyma nhw’n sgrechian, ac yn dweud: “Beth rwyt ti eisiau gynnon ni, Fab Duw? Wyt ti wedi dod yma i’n poenydio ni cyn yr amser penodedig?” 30 Yn bell i ffwrdd oddi wrthyn nhw, roedd cenfaint fawr o foch yn pori. 31 Felly dyma’r cythreuliaid yn dechrau ymbil arno, a dweud: “Os wyt ti’n ein bwrw ni allan, anfona ni i mewn i’r genfaint o foch.” 32 A dywedodd wrthyn nhw: “Ewch!” Ac fe ddaethon nhw allan a mynd i mewn i’r moch, ac edrycha! dyma’r genfaint gyfan yn rhuthro dros y dibyn i mewn i’r môr a marw yn y dyfroedd. 33 Ond gwnaeth y bugeiliaid ffoi, ac ar ôl iddyn nhw fynd i mewn i’r ddinas, dyma nhw’n sôn am y cwbl, gan gynnwys yr hanes am y dynion a oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid. 34 Ac edrycha! daeth yr holl ddinas allan i gyfarfod â Iesu, a phan welson nhw ef, gwnaethon nhw erfyn arno i adael eu hardal.

9 Aeth Iesu i mewn i’r cwch, a chroesi’r môr a mynd i mewn i’w ddinas ei hun. 2 Ac edrycha! roedden nhw’n dod â dyn wedi ei barlysu ato a oedd yn gorwedd ar stretsier. O weld eu ffydd, dywedodd Iesu wrth y dyn wedi ei barlysu: “Bydda’n ddewr, fy mhlentyn! Mae dy bechodau wedi cael eu maddau.” 3 Nawr, dywedodd rhai o’r ysgrifenyddion wrthyn nhw eu hunain: “Mae’r dyn hwn yn cablu.” 4 Roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, a dywedodd: “Pam rydych chi’n meddwl am bethau drwg yn eich calonnau? 5 Er enghraifft, beth sy’n haws, dweud, ‘Mae dy bechodau wedi cael eu maddau,’ neu ddweud, ‘Cod a cherdda’? 6 Ond er mwyn i chi wybod bod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau—” yna dywedodd wrth y dyn wedi ei barlysu: “Cod, cymera dy stretsier, a dos adref.” 7 A dyma’n codi ac yn mynd adref. 8 Pan welodd y tyrfaoedd hyn, cododd ofn arnyn nhw, a dyma nhw’n gogoneddu Duw, a oedd wedi rhoi awdurdod o’r fath i ddynion.

9 Nesaf, wrth fynd yn ei flaen oddi yno, gwelodd Iesu ddyn o’r enw Mathew yn eistedd yn y swyddfa dreth, a dywedodd wrtho: “Dilyna fi.” Ar hynny, cododd a dilynodd ef. 10 Yn ddiweddarach, tra oedd yn cael pryd o fwyd yn y tŷ, edrycha! daeth llawer o gasglwyr trethi a phechaduriaid a dechrau bwyta gyda Iesu a’i ddisgyblion. 11 Ond pan welodd y Phariseaid hyn, dywedon nhw wrth ei ddisgyblion: “Pam mae eich athro chi’n bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” 12 Pan wnaeth Iesu eu clywed nhw, dywedodd: “Does dim angen meddyg ar bobl iach, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl. 13 Ewch, felly, a dysgwch beth yw ystyr hyn: ‘Trugaredd rydw i eisiau, nid aberth.’ Oherwydd rydw i wedi dod i alw, nid pobl gyfiawn, ond pechaduriaid.”

14 Yna daeth disgyblion Ioan ato a gofyn: “Pam rydyn ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn rheolaidd ond dydy dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?” 15 Ar hynny, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Does gan ffrindiau’r priodfab ddim rheswm i alaru tra bydd y priodfab gyda nhw, nac oes? Ond bydd dyddiau’n dod pan fydd y priodfab yn cael ei gymryd oddi wrthyn nhw, ac yna y byddan nhw’n ymprydio. 16 Does neb yn gwnïo darn o frethyn newydd ar hen gôt, oherwydd y bydd y darn newydd yn tynnu oddi wrth y gôt a’r rhwyg yn gwaethygu. 17 A dydy pobl ddim yn rhoi gwin newydd mewn hen grwyn. Os ydyn nhw, mae’r crwyn yn rhwygo ac mae’r gwin yn gollwng a’r crwyn yn cael eu difetha. Ond mae pobl yn rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd, ac mae’r ddau yn cael eu cadw.”

18 Tra oedd yn dweud y pethau hyn wrthyn nhw, edrycha! dyma reolwr a oedd wedi dod ato yn ymgrymu* o’i flaen, gan ddweud: “Erbyn hyn mae’n rhaid bod fy merch wedi marw, ond tyrd a rho dy law arni, a bydd hi’n dod yn fyw.”

19 Yna cododd Iesu a’i ddilyn, ynghyd â’i ddisgyblion. 20 Ac edrycha! dyma ddynes* a oedd wedi bod yn dioddef o waedlif am 12 mlynedd yn dod ato o’r tu ôl ac yn cyffwrdd ag ymyl ei gôt, 21 oherwydd roedd hi’n dweud o hyd wrthi hi ei hun: “Os ydw i ond yn cyffwrdd â’i gôt, bydda i’n gwella.” 22 Dyma Iesu’n troi a sylwi arni hi, a dweud: “Bydda’n ddewr, fy merch! Mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” Ac o’r awr honno cafodd y ddynes* ei hiacháu.

23 Nawr, pan ddaeth i mewn i dŷ’r rheolwr a gweld y bobl a oedd yn canu’r ffliwt a’r dyrfa mewn cynnwrf, 24 dywedodd Iesu: “Ewch i ffwrdd, oherwydd dydy’r ferch fach ddim wedi marw, cysgu mae hi.” Ar hynny dechreuon nhw chwerthin yn ddirmygus am ei ben. 25 Ac yn syth ar ôl anfon y dyrfa allan, aeth i mewn a gafael yn ei llaw, a dyma’r ferch fach yn codi. 26 Wrth gwrs, aeth yr hanes am hyn ar led drwy’r ardal honno i gyd.

27 Fel roedd Iesu yn mynd yn ei flaen oddi yno, gwnaeth dau ddyn dall ei ddilyn, gan weiddi: “Bydda’n drugarog wrthon ni, Fab Dafydd.” 28 Ar ôl iddo fynd i mewn i’r tŷ, daeth y dynion dall ato, a gofynnodd Iesu iddyn nhw: “Oes gynnoch chi ffydd fy mod i’n gallu gwneud hyn?” Dyma nhw’n ei ateb: “Oes, Arglwydd.” 29 Yna gwnaeth ef gyffwrdd â’u llygaid, a dweud: “Gad i hyn ddigwydd ichi yn ôl eich ffydd.” 30 Ac roedden nhw’n gallu gweld. Ar ben hynny, gwnaeth Iesu eu rhybuddio’n llym, gan ddweud: “Gwnewch yn siŵr nad oes neb yn dod i wybod am hyn.” 31 Ond ar ôl mynd allan, cyhoeddon nhw’r hanes amdano drwy’r ardal honno i gyd.

32 Fel roedden nhw’n gadael, edrycha! daeth pobl â dyn ato a oedd yn fud ac wedi ei feddiannu gan gythraul; 33 ac ar ôl i’r cythraul gael ei fwrw allan, dechreuodd y dyn mud siarad. Wel, roedd y tyrfaoedd wedi synnu gan ddweud: “Does dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn Israel erioed o’r blaen.” 34 Ond roedd y Phariseaid yn dweud: “Trwy rym rheolwr y cythreuliaid y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.”

35 Ac aeth Iesu ar daith o amgylch yr holl ddinasoedd a’r pentrefi, yn dysgu yn eu synagogau ac yn pregethu newyddion da’r Deyrnas ac yn iacháu pob math o afiechydon a phob math o salwch. 36 Wrth iddo weld y tyrfaoedd, roedd yn teimlo piti drostyn nhw, oherwydd eu bod nhw wedi cael eu cam-drin* a’u taflu ar hyd y lle fel defaid heb fugail. 37 Yna dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Yn wir, mae’r cynhaeaf yn fawr, ond y gweithwyr yn brin. 38 Felly, erfyniwch ar Feistr y cynhaeaf i anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.”

10 Felly galwodd ato ei 12 disgybl a rhoi awdurdod iddyn nhw dros ysbrydion aflan, er mwyn bwrw’r rhain allan ac er mwyn iacháu pob math o afiechydon a phob math o salwch.

2 Enwau’r 12 apostol yw’r rhain: Yn gyntaf, Simon, yr un sy’n cael ei alw’n Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd; 3 Philip a Bartholomeus; Tomos a Mathew y casglwr trethi; Iago fab Alffeus; a Thadeus; 4 Simon y Cananead;* a Jwdas Iscariot, a fradychodd Iesu yn nes ymlaen.

5 Y 12 hyn y gwnaeth Iesu eu hanfon allan, gan roi iddyn nhw’r cyfarwyddiadau canlynol: “Peidiwch â mynd at bobl y cenhedloedd, a pheidiwch â mynd i mewn i unrhyw un o ddinasoedd y Samariaid; 6 ond, yn hytrach, ewch yn unig at ddefaid coll tŷ Israel. 7 Wrth ichi fynd, pregethwch, gan ddweud: ‘Mae Teyrnas y nefoedd wedi dod yn agos.’ 8 Ewch i iacháu’r rhai sy’n sâl, codwch y meirw, gwnewch y rhai gwahanglwyfus yn lân, bwriwch allan gythreuliaid. Gwnaethoch chi dderbyn heb dâl, rhowch heb dâl. 9 Peidiwch â chymryd aur nac arian na phres yn eich beltiau, 10 na bag bwyd ar gyfer y daith, na dau ddilledyn,* na sandalau, na ffon, oherwydd bod y gweithiwr yn haeddu ei fwyd.

11 “I ba bynnag ddinas neu bentref yr ewch chi, chwiliwch am bwy yno sy’n deilwng, ac arhoswch yno hyd nes ichi adael. 12 Pan fyddwch chi’n mynd i mewn i’r tŷ, cyfarchwch y rhai sydd yno. 13 Os yw’r tŷ yn deilwng, gadewch i’ch heddwch ddod arno; ond os nad yw’n deilwng, gadewch i’ch heddwch ddychwelyd atoch chi. 14 Ble bynnag nad oes neb yn eich derbyn chi nac yn gwrando ar eich geiriau, wrth ichi fynd allan o’r tŷ hwnnw neu’r ddinas honno, mae’n rhaid ichi ysgwyd y llwch oddi ar eich traed. 15 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd hi’n haws i dir Sodom a Gomorra ar Ddydd y Farn nag i’r ddinas honno.

16 “Edrychwch! Rydw i’n eich anfon chi allan fel defaid ymhlith bleiddiaid; felly dangoswch eich hunain yn gall fel nadroedd* ac yn ddiniwed fel colomennod. 17 Gwyliwch rhag dynion, oherwydd byddan nhw yn eich rhoi chi yn nwylo’r llysoedd lleol a byddan nhw yn eich chwipio yn eu synagogau. 18 A byddwch yn cael eich llusgo gerbron llywodraethwyr a brenhinoedd er fy mwyn i, fel tystiolaeth iddyn nhw ac i’r cenhedloedd. 19 Fodd bynnag, pan fyddan nhw’n eich arestio, peidiwch â phryderu am sut i siarad nac am beth i’w ddweud, oherwydd y bydd yr hyn y byddwch yn ei ddweud yn cael ei roi i chi yn yr awr honno; 20 oherwydd nid chi yn unig sy’n siarad, ond ysbryd eich Tad sy’n siarad drwyddoch chi. 21 Ymhellach, bydd brawd yn anfon brawd i gael ei ladd, a thad yn anfon ei blentyn, a bydd plant yn gwrthryfela yn erbyn rhieni ac yn achosi iddyn nhw gael eu rhoi i farwolaeth. 22 A byddwch chi’n cael eich casáu gan bawb o achos fy enw i, ond bydd yr un sydd wedi dyfalbarhau* hyd y diwedd yn cael ei achub. 23 Pan fyddan nhw’n eich erlid chi mewn un ddinas, ffowch i un arall, oherwydd yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, ni fyddwch chi ar unrhyw gyfri yn gorffen teithio drwy ddinasoedd Israel nes bydd Mab y dyn yn cyrraedd.

24 “Dydy myfyriwr ddim yn uwch na’i athro, na chaethwas yn uwch na’i feistr. 25 Digon yw i’r myfyriwr fod fel ei athro, a’r caethwas fel ei feistr. Os yw pobl wedi galw meistr y tŷ yn Beelsebwl,* oni fyddan nhw’n sicr o alw’r rhai sydd yn ei dŷ yr un fath? 26 Felly peidiwch â’u hofni nhw, oherwydd does dim byd sydd wedi ei guddio na fydd yn cael ei ddatguddio, na dim byd sy’n gyfrinach na fydd yn cael ei ddatgelu. 27 Yr hyn rydw i’n ei ddweud wrthoch chi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni, a’r hyn rydw i’n ei sibrwd wrthoch chi, pregethwch o bennau’r tai. 28 A pheidiwch ag ofni’r rhai sy’n lladd y corff ond sydd ddim yn gallu lladd yr enaid;* yn hytrach, ofnwch yr un sy’n gallu dinistrio enaid a chorff yn Gehenna.* 29 Mae dau aderyn y to yn gwerthu am geiniog,* onid ydyn nhw? Ond eto ni fydd yr un ohonyn nhw’n syrthio i’r ddaear heb i’ch Tad wybod amdano. 30 Ond mae hyd yn oed pob un blewyn o wallt eich pennau wedi ei rifo. 31 Felly peidiwch ag ofni; rydych chithau’n werth mwy na llawer o adar y to.

32 “Pwy bynnag, felly, sy’n fy nghydnabod i gerbron dynion, bydda innau hefyd yn ei gydnabod yntau gerbron fy Nhad sydd yn y nefoedd. 33 Ond pwy bynnag sy’n fy ngwadu i gerbron dynion, bydda innau hefyd yn ei wadu yntau gerbron fy Nhad sydd yn y nefoedd. 34 Peidiwch â meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i’r ddaear; nid i ddod â heddwch y des i, ond cleddyf. 35 Oherwydd fe wnes i ddod er mwyn achosi rhaniadau, rhwng dyn a’i dad, a rhwng merch a’i mam, a rhwng merch yng nghyfraith a’i mam yng nghyfraith. 36 Yn wir, gelynion dyn fydd ei deulu ei hun. 37 Dydy’r sawl sy’n caru tad neu fam yn fwy na fi ddim yn haeddu bod yn ddisgybl imi; a dydy’r sawl sy’n caru mab neu ferch yn fwy na fi ddim yn haeddu bod yn ddisgybl imi. 38 A dydy’r sawl sydd ddim yn cymryd ei stanc dienyddio* ac yn dilyn ar fy ôl i ddim yn haeddu bod yn ddisgybl imi. 39 Bydd pwy bynnag sy’n ceisio achub ei fywyd* yn ei golli, a bydd pwy bynnag sy’n colli ei fywyd* er fy mwyn i yn ei achub.

40 “Mae pwy bynnag sy’n eich derbyn chi yn fy nerbyn innau hefyd, ac mae pwy bynnag sy’n fy nerbyn i yn derbyn hefyd yr Un a wnaeth fy anfon i. 41 Bydd pwy bynnag sy’n derbyn proffwyd oherwydd ei fod yn broffwyd yn cael gwobr proffwyd, a bydd pwy bynnag sy’n derbyn dyn cyfiawn oherwydd ei fod yn ddyn cyfiawn yn cael gwobr dyn cyfiawn. 42 A phwy bynnag sy’n rhoi dim ond cwpanaid o ddŵr oer i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn oherwydd ei fod yn ddisgybl, rydw i’n dweud yn wir wrthoch chi, ni fydd ar unrhyw gyfri yn colli ei wobr.”

11 Pan oedd Iesu wedi gorffen rhoi cyfarwyddiadau i’w 12 disgybl, symudodd oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu dinasoedd.

2 Ond ar ôl i Ioan glywed yn y carchar am weithredoedd y Crist, anfonodd ei ddisgyblion 3 er mwyn gofyn iddo: “Ai ti yw’r Un sy’n dod, neu a ddylen ni ddisgwyl un arall?” 4 Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Ewch a dywedwch wrth Ioan am yr hyn rydych chi’n ei glywed ac yn ei weld: 5 Mae’r dall nawr yn gweld ac mae’r cloff yn cerdded, mae’r rhai gwahanglwyfus yn cael eu glanhau ac mae’r byddar yn clywed, mae’r meirw yn cael eu hatgyfodi a’r tlawd yn cael clywed y newyddion da. 6 Hapus yw’r un sydd ddim yn baglu o fy achos i.”

7 Wrth i’r rhai hyn fynd ar eu ffordd, dechreuodd Iesu siarad â’r tyrfaoedd am Ioan: “Beth gwnaethoch chi fynd allan i’r anialwch i’w weld? Corsen yn cael ei hysgwyd gan y gwynt? 8 Beth, felly, y gwnaethoch chi fynd allan i’w weld? Dyn wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth?* Yn wir, mae’r rhai sy’n gwisgo dillad esmwyth yn nhai brenhinoedd. 9 Felly, pam gwnaethoch chi fynd allan? Er mwyn gweld proffwyd? Ie, medda i wrthoch chi, a llawer mwy na phroffwyd. 10 Dyma’r un mae’n ysgrifenedig amdano: ‘Edrycha! Rydw i’n anfon fy negesydd o dy flaen di,* a fydd yn paratoi dy ffordd o dy flaen di!’ 11 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, ymhlith y rhai sydd wedi cael eu geni o ferched,* ni chododd neb sy’n fwy na Ioan Fedyddiwr, ond mae’r un lleiaf yn Nheyrnas y nefoedd yn fwy nag ef. 12 O ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd nawr, Teyrnas y nefoedd yw’r nod y mae dynion yn anelu ato, ac mae’r rhai sy’n anelu’n ddyfal ato yn ei gyrraedd. 13 Oherwydd mae’r holl Broffwydi a’r Gyfraith wedi proffwydo hyd Ioan; 14 ac os ydych chi’n fodlon derbyn y peth, ef yw ‘Elias sydd i ddod.’ 15 Gadewch i’r un sydd â chlustiau wrando.

16 “Â phwy y bydda i’n cymharu’r genhedlaeth hon? Mae hi’n debyg i blant bach sy’n eistedd yn y farchnad ac yn siarad â’u ffrindiau, 17 gan ddweud: ‘Gwnaethon ni ganu’r ffliwt ichi, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; gwnaethon ni lefain, ond wnaethoch chi ddim galaru.’* 18 Yn yr un modd, doedd Ioan ddim yn bwyta nac yn yfed, ond mae pobl yn dweud, ‘Mae cythraul ynddo.’ 19 Roedd Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ond mae pobl yn dweud, ‘Edrychwch! Dyn barus sy’n yfed gormod o win, ffrind i gasglwyr trethi a phechaduriaid.’ Fodd bynnag, mae doethineb yn cael ei brofi’n gyfiawn* gan ei weithredoedd.”*

20 Yna dechreuodd ef geryddu’r dinasoedd lle digwyddodd y rhan fwyaf o’i weithredoedd nerthol,* oherwydd na wnaethon nhw edifarhau: 21 “Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! oherwydd petai’r gweithredoedd nerthol a ddigwyddodd ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, bydden nhw wedi hen edifarhau mewn sachliain a lludw. 22 Ond rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd hi’n haws i Tyrus a Sidon ar Ddydd y Farn nag i chi. 23 A tithau, Capernaum, a fyddi di efallai’n cael dy ddyrchafu i’r nef? I lawr i’r Bedd* y byddi di’n dod; oherwydd petai’r gweithredoedd nerthol a ddigwyddodd ynot ti wedi digwydd yn Sodom, byddai wedi aros hyd heddiw. 24 Ond rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd hi’n haws i dir Sodom ar Ddydd y Farn nag i ti.”

25 Bryd hynny, dywedodd Iesu: “Rydw i’n dy foli di’n gyhoeddus, Dad, Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, oherwydd dy fod ti wedi cuddio’r pethau hyn rhag y rhai doeth a deallus ac wedi eu datguddio i blant bach. 26 Ie, O Dad, oherwydd dyma’r ffordd y gwnest ti ei chymeradwyo. 27 Mae pob peth wedi cael ei roi i mi gan fy Nhad, a does neb yn adnabod y Mab yn iawn heblaw’r Tad; a does neb chwaith yn adnabod y Tad yn iawn heblaw’r Mab ac unrhyw un mae’r Mab yn fodlon datguddio’r Tad iddo. 28 Dewch ata i, bob un ohonoch chi sy’n flinedig ac o dan lwyth trwm, a bydda i’n eich adfywio chi. 29 Cymerwch fy iau ar eich ysgwyddau a dysgwch gen i, oherwydd rydw i’n addfwyn ac yn ostyngedig o galon, a byddwch chi’n cael eich adfywio. 30 Oherwydd mae fy iau i yn hawdd ei chario, ac mae fy llwyth i yn ysgafn.”

12 Yr amser hwnnw aeth Iesu drwy’r caeau gwenith ar y Saboth. Roedd ei ddisgyblion wedi llwgu a dechreuon nhw dynnu tywysennau gwenith a’u bwyta. 2 Wrth weld hyn, dywedodd y Phariseaid wrtho: “Edrycha! Mae dy ddisgyblion yn gwneud rhywbeth sy’n anghyfreithlon ar y Saboth.” 3 Dywedodd wrthyn nhw: “Onid ydych chi wedi darllen am beth wnaeth Dafydd pan oedd ef a’r dynion gydag ef wedi llwgu? 4 Am sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw ac am sut y gwnaethon nhw fwyta’r bara a oedd wedi ei gyflwyno i Dduw,* rhywbeth nad oedd yn gyfreithlon iddo ef nac i’r rhai a oedd gydag ef ei fwyta, ond i’r offeiriaid yn unig? 5 Neu onid ydych chi wedi darllen yn y Gyfraith am yr offeiriaid yn y deml yn torri’r Saboth* ac yn parhau’n ddieuog? 6 Ond rydw i’n dweud wrthoch chi fod yr un sydd yma yn fwy pwysig na’r deml. 7 Fodd bynnag, petasech chi wedi deall beth mae hyn yn ei olygu, ‘Trugaredd rydw i eisiau, nid aberth,’ fyddech chi ddim wedi condemnio’r rhai dieuog. 8 Oherwydd Mab y dyn ydy Arglwydd y Saboth.”

9 Ar ôl gadael y lle hwnnw, aeth i mewn i’w synagog nhw, 10 ac edrycha! roedd ’na ddyn a’i law wedi gwywo!* Felly gofynnon nhw iddo, “Ydy hi’n gyfreithlon i iacháu pobl ar y Saboth?” fel y gallen nhw ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn. 11 Dywedodd wrthyn nhw: “Petai un ddafad gynnoch chi a’r ddafad honno yn syrthio i dwll ar y Saboth, a fyddai unrhyw un ohonoch chi yn gwrthod gafael ynddi a’i chodi allan? 12 Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad! Felly mae hi’n gyfreithlon i wneud rhywbeth da ar y Saboth.” 13 Yna dywedodd wrth y dyn: “Estynna dy law.” A dyma’n ei hestyn hi, a chafodd ei gwneud yn iach fel y llaw arall. 14 Ond aeth y Phariseaid allan a chynllwynio yn ei erbyn er mwyn ei ladd. 15 Pan ddaeth Iesu i wybod am hyn, dyma’n mynd oddi yno. Gwnaeth llawer o bobl eraill ei ddilyn hefyd, ac fe iachaodd nhw i gyd, 16 ond gorchmynnodd yn llym iddyn nhw beidio â dweud pwy oedd ef, 17 er mwyn cyflawni’r hyn a ddywedwyd drwy Eseia’r proffwyd, a ddywedodd:

18 “Edrycha! Fy ngwas, yr un rydw i wedi ei ddewis, fy mab annwyl, ac mae’n fy mhlesio i yn fawr iawn!* Bydda i’n rhoi fy ysbryd arno, a bydd yn dangos i’r cenhedloedd beth yw gwir gyfiawnder. 19 Ni fydd yn cweryla nac yn gweiddi, ac ni fydd neb yn clywed ei lais yn y prif strydoedd. 20 Ni fydd yn torri corsen sydd wedi ei phlygu, ac ni fydd yn diffodd cannwyll sy’n mudlosgi, nes iddo ddod â chyfiawnder. 21 Yn wir, yn ei enw ef y bydd cenhedloedd yn gobeithio.”

22 Yna dyma nhw’n dod â dyn dall a mud ato a oedd wedi ei feddiannu gan gythraul, ac iachaodd Iesu ef, nes bod y dyn mud yn gallu siarad a gweld. 23 Wel, roedd yr holl dyrfaoedd wedi synnu a dechreuon nhw ddweud: “Ydy hi’n bosib mai hwn ydy Mab Dafydd?” 24 Pan glywodd y Phariseaid hyn, dywedon nhw: “Dydy hwn ddim yn bwrw cythreuliaid allan dim ond drwy gyfrwng Beelsebwl,* rheolwr y cythreuliaid.” 25 Roedd Iesu yn gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, a dywedodd wrthyn nhw: “Mae pob teyrnas sydd wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun yn dod i ddinistr, a phob dinas neu dŷ sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni fydd yn sefyll. 26 Yn yr un modd, os ydy Satan yn bwrw allan Satan, mae wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; sut felly y bydd ei deyrnas yn sefyll? 27 Ar ben hynny, os ydw i’n bwrw’r cythreuliaid allan drwy gyfrwng Beelsebwl, drwy gyfrwng pwy mae eich meibion chi yn eu bwrw nhw allan? Dyma pam y byddan nhw’n farnwyr arnoch chi. 28 Ond os mai drwy gyfrwng ysbryd Duw rydw i’n bwrw’r cythreuliaid allan, mae Teyrnas Dduw yn wir wedi mynd heibio ichi.* 29 Neu sut gall unrhyw un fynd i mewn i dŷ dyn cryf a dwyn ei eiddo oni bai ei fod yn gyntaf yn rhwymo’r dyn cryf hwnnw? Dim ond wedyn y gallai gymryd popeth o’i dŷ. 30 Mae pwy bynnag sydd ddim ar fy ochr i yn fy erbyn i, ac mae pwy bynnag sydd ddim yn casglu gyda mi yn gwasgaru.

31 “Am y rheswm hwn rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd dynion yn cael maddeuant am bob math o bechod a chabledd, ond ni fyddan nhw’n cael maddeuant am gablu yn erbyn yr ysbryd. 32 Er enghraifft, bydd pwy bynnag sy’n dweud gair yn erbyn Mab y dyn yn cael maddeuant; ond ni fydd pwy bynnag sy’n siarad yn erbyn yr ysbryd glân yn cael maddeuant, nid yn y system hon* nac yn yr un sydd i ddod.

33 “Naill ai rydych chi’n tyfu coeden dda sydd â ffrwyth da neu rydych chi’n tyfu coeden ddrwg sydd â ffrwyth drwg, oherwydd wrth ei ffrwyth y mae’r goeden yn cael ei hadnabod. 34 Gwiberod* ydych chi, sut gallwch chi ddweud pethau da a chithau’n ddrwg? Oherwydd o lawnder y galon y mae’r geg yn siarad. 35 Mae’r dyn da o’i drysor da yn anfon pethau da allan, ond mae’r dyn drwg o’i drysor drwg yn anfon pethau drwg allan. 36 Rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd dynion yn rhoi cyfri ar Ddydd y Farn am bob gair di-werth maen nhw’n ei ddweud; 37 oherwydd wrth dy eiriau y byddi di’n cael dy ddyfarnu’n gyfiawn, ac wrth dy eiriau y byddi di’n cael dy gondemnio.”

38 Yna fel ateb iddo, dywedodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid: “Athro, rydyn ni eisiau gweld arwydd gen ti.” 39 Atebodd yntau drwy ddweud wrthyn nhw: “Mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus* yn parhau i geisio arwydd, ond ni fydd unrhyw arwydd yn cael ei roi iddi heblaw am arwydd y proffwyd Jona. 40 Oherwydd fel yr oedd Jona ym mol y pysgodyn anferth am dri diwrnod a thair nos, felly y bydd Mab y dyn yn nyfnder y ddaear* am dri diwrnod a thair nos. 41 Bydd dynion Ninefe yn cael eu hatgyfodi yn ystod y farn gyda’r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio, oherwydd eu bod nhw wedi edifarhau ar ôl clywed pregethu Jona. Ond edrychwch! mae rhywbeth mwy na Jona yma. 42 Bydd brenhines y de yn cael ei hatgyfodi yn ystod y farn gyda’r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio, oherwydd ei bod hi wedi dod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon. Ond edrychwch! mae rhywbeth mwy na Solomon yma.

43 “Pan fydd ysbryd aflan yn dod allan o ddyn, mae’n mynd trwy lefydd sydd heb ddŵr yn chwilio am le i orffwys ac nid yw’n dod o hyd i unrhyw le. 44 Yna mae’n dweud, ‘Bydda i’n mynd yn ôl i fy nhŷ o le symudais i,’ ac ar ôl cyrraedd, mae’n gweld bod y tŷ yn wag ond wedi ei ysgubo’n lân a’i addurno. 45 Yna mae’n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall sy’n fwy drwg nag ef, ac ar ôl mynd i mewn, maen nhw’n ymgartrefu yno; ac mae cyflwr y dyn hwnnw yn waeth ar y diwedd nag yr oedd ar y cychwyn. Dyna sut y bydd hi hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.”

46 Tra oedd yn dal i siarad â’r tyrfaoedd, roedd ei fam a’i frodyr yn sefyll y tu allan, yn ceisio siarad ag ef. 47 Felly dywedodd rhywun wrtho: “Edrycha! Mae dy fam a dy frodyr yn sefyll y tu allan, yn ceisio siarad â ti.” 48 Atebodd Iesu drwy ddweud wrth yr un a siaradodd ag ef: “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?” 49 Gan estyn ei law at ei ddisgyblion, dywedodd: “Edrycha! Dyma fy mam a fy mrodyr! 50 Pwy bynnag sy’n gwneud ewyllys fy Nhad sydd yn y nef, hwn yw fy mrawd a fy chwaer a fy mam.”

13 Ar y dydd hwnnw aeth Iesu allan o’r tŷ ac roedd yn eistedd wrth lan y môr. 2 A daeth tyrfaoedd mor fawr ato nes iddo fynd i mewn i gwch ac eistedd ynddo, ac roedd yr holl dyrfa yn sefyll ar y traeth. 3 Yna dywedodd lawer o bethau wrthyn nhw drwy ddefnyddio damhegion, gan ddweud: “Edrychwch! Aeth ffermwr allan i hau. 4 Tra oedd yn hau, syrthiodd rhai o’r hadau wrth ochr y ffordd, a daeth yr adar a’u bwyta nhw. 5 Syrthiodd eraill ar dir creigiog lle nad oedd llawer o bridd, a dyma nhw’n tyfu’n gyflym oherwydd nad oedd y pridd yn ddwfn. 6 Ond pan wnaeth yr haul godi, cawson nhw eu llosgi, a dyma nhw’n gwywo oherwydd nad oedd ganddyn nhw wreiddiau. 7 Syrthiodd eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a’u tagu nhw. 8 Syrthiodd eraill hefyd ar y pridd da, a dyma nhw’n dwyn ffrwyth, yr un yma ganwaith cymaint, yr un yna chwe deg, y llall dri deg. 9 Gadewch i’r un sydd â chlustiau wrando.”

10 Felly daeth y disgyblion ato a dweud wrtho: “Pam rwyt ti’n siarad â nhw drwy ddefnyddio damhegion?” 11 Atebodd yntau drwy ddweud: “Rydych chi’n cael gwybod cyfrinachau cysegredig Teyrnas y nefoedd, ond dydyn nhwthau ddim. 12 Oherwydd pwy bynnag sydd ganddo, bydd mwy yn cael ei roi iddo, a bydd ganddo fwy na digon; ond pwy bynnag nad oes ganddo, bydd hyd yn oed yr hyn sydd ganddo yn cael ei gymryd oddi arno. 13 Dyna pam rydw i’n siarad â nhw drwy ddefnyddio damhegion; oherwydd maen nhw’n edrych ond dydyn nhw ddim yn gweld, ac maen nhw’n clywed ond dydyn nhw ddim yn gwrando, na chwaith yn deall. 14 Ac mae proffwydoliaeth Eseia yn cael ei chyflawni yn eu hachos nhw. Mae’n dweud: ‘Byddwch yn wir yn clywed ond nid ar unrhyw gyfri yn deall, a byddwch yn wir yn edrych ond nid ar unrhyw gyfri yn gweld. 15 Oherwydd mae calon y bobl hyn wedi troi’n galed, ac maen nhw wedi clywed â’u clustiau ond heb ateb, ac maen nhw wedi cau eu llygaid, fel na allan nhw byth weld â’u llygaid a chlywed â’u clustiau a deall â’u calonnau a throi’n ôl a chael eu hiacháu gen i.’

16 “Fodd bynnag, hapus yw eich llygaid chi oherwydd eu bod nhw’n gweld a’ch clustiau oherwydd eu bod nhw’n clywed. 17 Oherwydd yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, roedd llawer o broffwydi a dynion cyfiawn yn dymuno gweld y pethau rydych chi’n eu gweld ond wnaethon nhw ddim gweld y pethau hynny, a chlywed y pethau rydych chi’n eu clywed ond wnaethon nhw ddim clywed y pethau hynny.

18 “Nawr gwrandewch ar ddameg y ffermwr a wnaeth hau. 19 Pan fydd unrhyw un yn clywed gair y Deyrnas ond nid yw’n deall, mae’r un drwg yn dod ac yn cipio’r hyn sydd wedi cael ei hau yn ei galon; dyma’r had a gafodd ei hau wrth ochr y ffordd. 20 A’r un a gafodd ei hau ar dir creigiog, dyma’r un sy’n clywed y gair ac ar unwaith yn ei dderbyn yn llawen. 21 Ond eto, does ganddo ddim gwreiddyn ynddo’i hun ond mae’n parhau am gyfnod, ac ar ôl i orthrymder neu erledigaeth godi o achos y gair, mae ar unwaith yn baglu. 22 A’r un a gafodd ei hau ymysg y drain, dyma’r un sy’n clywed y gair, ond mae pryderon y system hon* a grym twyllodrus cyfoeth yn tagu’r gair, ac mae’n mynd yn ddiffrwyth. 23 A’r un a gafodd ei hau ar y pridd da, dyma’r un sy’n clywed y gair ac yn ei ddeall, sy’n wir yn dwyn ffrwyth ac yn cynhyrchu, yr un yma ganwaith cymaint, yr un yna chwe deg, y llall dri deg.”

24 Cyflwynodd ddameg arall iddyn nhw, gan ddweud: “Mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i ddyn a wnaeth hau had da yn ei gae. 25 Tra oedd dynion yn cysgu, daeth ei elyn a hau chwyn ymysg y gwenith a gadael. 26 Pan wnaeth y gwenith egino a dwyn ffrwyth, yna gwnaeth y chwyn hefyd ymddangos. 27 Felly daeth caethweision meistr y tŷ a dweud wrtho, ‘Feistr, onid oeddet ti wedi hau had da yn dy gae? Sut, felly, mae ’na chwyn ynddo?’ 28 Dywedodd wrthyn nhw, ‘Gelyn, dyn, wnaeth hyn.’ Dywedodd y caethweision wrtho, ‘Wyt ti eisiau i ni, felly, fynd allan a’u casglu nhw?’ 29 Dywedodd yntau, ‘Nac oes, rhag ofn ichi, wrth gasglu’r chwyn, ddadwreiddio’r gwenith gyda nhw. 30 Gadewch i’r ddau dyfu gyda’i gilydd tan y cynhaeaf, ac yn nhymor y cynhaeaf, bydda i’n dweud wrth y rhai a fydd yn medi:* Yn gyntaf casglwch y chwyn a’u clymu yn fwndeli i’w llosgi nhw; yna casglwch y gwenith i mewn i fy ysgubor.’”

31 Cyflwynodd ddameg arall iddyn nhw, gan ddweud: “Mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i hedyn mwstard y gwnaeth dyn ei gymryd a’i blannu yn ei gae. 32 Yn wir, dyma’r lleiaf o’r holl hadau, ond ar ôl iddo dyfu, hwn yw’r mwyaf o blanhigion yr ardd ac mae’n tyfu’n goeden, fel bod adar y nef yn dod ac yn lletya yn ei changhennau.”

33 Dywedodd ddameg arall wrthyn nhw: “Mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i lefain y gwnaeth dynes* ei gymryd a’i gymysgu â thri mesur mawr o flawd nes i’r toes cyfan godi.”

34 Dywedodd Iesu’r holl bethau hyn wrth y tyrfaoedd drwy ddefnyddio damhegion. Yn wir, ni fyddai’n siarad â nhw heb ddefnyddio damhegion, 35 er mwyn cyflawni’r hyn a ddywedwyd drwy’r proffwyd a ddywedodd: “Bydda i’n agor fy ngheg ac yn siarad mewn damhegion; bydda i’n datgan pethau sydd wedi bod yn guddiedig ers y dechrau.”*

36 Yna ar ôl iddo anfon y tyrfaoedd i ffwrdd, aeth i mewn i’r tŷ. Daeth ei ddisgyblion ato a dweud: “Eglura inni’r ddameg am y chwyn yn y cae.” 37 Atebodd yntau drwy ddweud: “Yr un a wnaeth hau’r had da yw Mab y dyn; 38 y cae yw’r byd. A’r had da, y rhain yw meibion y Deyrnas, ond y chwyn yw meibion yr un drwg, 39 a’r gelyn a wnaeth eu hau nhw yw’r Diafol. Y cynhaeaf yw cyfnod olaf y system hon,* a’r rhai sy’n medi yw’r angylion. 40 Felly, yn union fel y mae’r chwyn yn cael eu casglu a’u llosgi yn y tân, felly y bydd hi yng nghyfnod olaf y system hon.* 41 Bydd Mab y dyn yn anfon ei angylion, a byddan nhw’n casglu allan o’i Deyrnas bob peth sy’n achosi i rywun faglu a phobl sy’n gwneud pethau drwg, 42 a byddan nhw’n eu taflu i mewn i’r ffwrnais danllyd. Yno y byddan nhw’n wylo ac yn crensian eu dannedd. 43 Yr amser hwnnw bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio mor llachar â’r haul yn Nheyrnas eu Tad. Gadewch i’r un sydd â chlustiau wrando.

44 “Mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i drysor, wedi ei guddio mewn cae, a gafodd ei ddarganfod a’i guddio gan ddyn; ac oherwydd ei lawenydd, mae’n mynd ac yn gwerthu popeth sydd ganddo ac yn prynu’r cae hwnnw.

45 “Hefyd mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i fasnachwr teithiol sy’n chwilio am berlau gwerthfawr. 46 Ar ôl dod o hyd i un perl o werth mawr, aeth i ffwrdd a gwerthu heb oedi bopeth a oedd ganddo a’i brynu.

47 “Hefyd mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i rwyd fawr hir* sy’n cael ei gollwng i’r môr ac sy’n casglu pysgod o bob math. 48 Pan oedd yn llawn, dyma nhw’n ei llusgo hi i’r lan, ac eistedd i lawr, a chasglu’r rhai da i fasgedi, ond gwnaethon nhw daflu’r rhai drwg i ffwrdd. 49 Dyna sut y bydd hi yng nghyfnod olaf y system hon.* Bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu’r rhai drwg o blith y rhai cyfiawn 50 ac yn eu taflu i mewn i’r ffwrnais danllyd. Yno y byddan nhw’n wylo ac yn crensian eu dannedd.

51 “Wnaethoch chi ddeall yr holl bethau hyn?” Dywedon nhw wrtho: “Do.” 52 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Os felly y mae hi, mae pob athro sy’n cael ei ddysgu am Deyrnas y nefoedd yn debyg i ddyn, meistr y tŷ, sy’n dod â phethau newydd a hen allan o’i drysorfa.”

53 Pan oedd Iesu wedi gorffen y damhegion hyn, aeth oddi yno. 54 Ar ôl dod i’r ardal lle cafodd ei fagu, dechreuodd eu dysgu nhw yn eu synagog, nes iddyn nhw ryfeddu a dweud: “O le cafodd y dyn hwn y doethineb hwn a’r gweithredoedd nerthol hyn? 55 Onid mab y saer coed yw hwn? Onid Mair yw enw ei fam, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas yw enwau ei frodyr? 56 A’i chwiorydd, onid ydyn nhw i gyd yn byw yma gyda ni? O le, felly, y cafodd hyn i gyd?” 57 Felly dechreuon nhw faglu oherwydd ef. Ond dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei anrhydeddu ym mhob man heblaw ei fro ei hun a’i gartref ei hun.” 58 Ac ni wnaeth ef lawer o weithredoedd nerthol yno oherwydd eu diffyg ffydd.

14 Yr amser hwnnw clywodd Herod, rheolwr y rhanbarth,* yr hanes am Iesu 2 a dywedodd wrth ei weision: “Hwn yw Ioan Fedyddiwr. Cafodd ei godi o’r meirw, a dyna pam mae’r gweithredoedd nerthol hyn yn gweithredu ynddo.” 3 Roedd Herod* wedi arestio Ioan ac wedi ei rwymo a’i roi yn y carchar oherwydd Herodias, gwraig Philip ei frawd, 4 gan fod Ioan wedi bod yn dweud wrtho: “Dydy hi ddim yn gyfreithlon i ti ei chael hi.” 5 Fodd bynnag, er ei fod eisiau ei ladd, roedd arno ofn y dyrfa, oherwydd eu bod nhw’n ei ystyried yn broffwyd. 6 Ond pan oedd pen-blwydd Herod yn cael ei ddathlu, gwnaeth merch Herodias ddawnsio ar gyfer yr achlysur a phlesio Herod gymaint 7 nes iddo addo ar ei lw roi iddi beth bynnag y byddai hi’n gofyn amdano. 8 Yna dyma hithau, o dan berswâd ei mam, yn dweud: “Rho i mi yma ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl.” 9 Er ei fod yn drist iawn, gwnaeth y brenin, oherwydd ei lwon a’r rhai a oedd yn bwyta gydag ef, orchymyn i ben Ioan gael ei roi iddi. 10 Felly dyma’n anfon milwr i dorri pen Ioan yn y carchar. 11 Daeth ef â’i ben ar ddysgl a’i roi i’r ferch, a daeth hi ag ef i’w mam. 12 Yn nes ymlaen daeth ei ddisgyblion a chymryd ei gorff a’i gladdu; yna daethon nhw i adrodd yr hanes wrth Iesu. 13 Pan glywodd Iesu beth a ddywedon nhw, aeth oddi yno mewn cwch i le unig er mwyn bod ar ei ben ei hun. Ond gwnaeth y tyrfaoedd, ar ôl dod i glywed am hyn, ei ddilyn drwy gerdded o’r dinasoedd.

14 Pan ddaeth i’r lan, fe welodd dyrfa fawr, ac roedd yn teimlo piti drostyn nhw, a dyma’n iacháu eu rhai sâl. 15 Ond pan oedd hi’n dechrau nosi, daeth ei ddisgyblion ato a dweud: “Lle unig ydy hwn ac mae hi eisoes yn hwyr; anfona’r tyrfaoedd i ffwrdd, er mwyn iddyn nhw fynd i’r pentrefi a phrynu bwyd iddyn nhw eu hunain.” 16 Fodd bynnag, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd; rhowch chithau rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” 17 Dywedon nhw wrtho: “Dim ond pum torth a dau bysgodyn sydd gynnon ni yma.” 18 Dywedodd yntau: “Dewch â nhw yma i mi.” 19 A gorchmynnodd y tyrfaoedd i eistedd ar y glaswellt.* Yna cymerodd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac wrth edrych i fyny i’r nef, dywedodd fendith, ac ar ôl torri’r torthau, rhoddodd nhw i’r disgyblion, a rhoddodd y disgyblion nhw i’r tyrfaoedd. 20 Felly gwnaethon nhw i gyd fwyta a chael digon, a chodon nhw’r tameidiau oedd dros ben, 12 llond basged. 21 Roedd tua 5,000 o ddynion yn bwyta, yn ogystal â merched* a phlant bach. 22 Yna, heb oedi, dywedodd wrth ei ddisgyblion am fynd i mewn i’r cwch a mynd o’i flaen i’r lan gyferbyn, tra oedd yntau yn anfon y tyrfaoedd i ffwrdd.

23 Ar ôl anfon y tyrfaoedd i ffwrdd, aeth i fyny’r mynydd ar ei ben ei hun i weddïo. Ar ôl iddi nosi, roedd yno ar ei ben ei hun. 24 Erbyn hyn roedd y cwch yn bell iawn o’r tir,* yn brwydro yn erbyn y tonnau oherwydd bod y gwynt yn eu herbyn nhw. 25 Ond rhwng tri a chwech y bore* daeth atyn nhw, yn cerdded ar y môr. 26 Pan welson nhw ef yn cerdded ar y môr, roedd y disgyblion wedi dychryn, gan ddweud: “Ysbryd sydd yna!” A gwaeddon nhw mewn ofn. 27 Ond ar unwaith siaradodd Iesu â nhw, gan ddweud: “Byddwch yn ddewr! Fi sydd yma; peidiwch ag ofni.” 28 Atebodd Pedr ef: “Arglwydd, os mai ti sydd yna, gorchymyn imi ddod atat ti dros y dŵr.” 29 Dywedodd yntau: “Tyrd!” Felly daeth Pedr allan o’r cwch a cherdded dros y dŵr a mynd tuag at Iesu. 30 Ond pan edrychodd ar y storm wynt, daeth yn ofnus. A phan ddechreuodd suddo, gwaeddodd: “Arglwydd, achuba fi!” 31 Gan estyn ei law ar unwaith, gafaelodd Iesu ynddo a dweud wrtho: “Ti o ychydig ffydd, pam gwnest ti ddechrau amau?” 32 Ar ôl iddyn nhw fynd i mewn i’r cwch, gwnaeth y storm wynt dawelu. 33 Yna gwnaeth y rhai a oedd yn y cwch ymgrymu* o’i flaen, gan ddweud: “Ti yn wir yw Mab Duw.” 34 A dyma nhw’n croesi’r môr a dod i lanio yn Genesaret.

35 Pan wnaeth dynion y lle hwnnw ei adnabod, rhoddon nhw wybod i bawb yn yr holl ardal honno o gwmpas, a daeth pobl â phawb oedd yn sâl ato. 36 A gwnaethon nhw erfyn arno am iddyn nhw ond cael cyffwrdd ag ymyl ei gôt, ac fe gafodd pawb a gyffyrddodd â’r gôt eu hiacháu yn llwyr.

15 Yna daeth Phariseaid ac ysgrifenyddion o Jerwsalem at Iesu, gan ddweud: 2 “Pam mae dy ddisgyblion yn mynd y tu hwnt i draddodiad ein cyndadau? Er enghraifft, dydyn nhw ddim yn golchi* eu dwylo pan fyddan nhw’n bwyta pryd o fwyd.”

3 Atebodd yntau drwy ddweud wrthyn nhw: “Pam rydych chithau yn camu y tu hwnt i orchymyn Duw oherwydd eich traddodiad? 4 Er enghraifft, dywedodd Duw, ‘Anrhydedda dy dad a dy fam,’ a, ‘Gad i’r sawl sy’n sarhau ei dad neu ei fam gael ei roi i farwolaeth.’ 5 Ond rydych chi’n dweud, ‘Pwy bynnag sy’n dweud wrth ei dad neu ei fam: “Mae beth bynnag sydd gen i, a allai fod o fudd iti, yn rhodd sydd wedi ei chysegru i Dduw,” 6 nid oes rhaid iddo anrhydeddu ei dad o gwbl.’ Felly rydych chi wedi gwneud gair Duw yn ddiwerth oherwydd eich traddodiad. 7 Chi ragrithwyr, gwnaeth Eseia broffwydo’n iawn amdanoch chi pan ddywedodd: 8 ‘Mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i. 9 Yn ofer y maen nhw’n parhau i fy addoli i, oherwydd eu bod nhw’n dysgu gorchmynion dynion fel athrawiaethau.’” 10 Ar hynny galwodd y dyrfa ato a dywedodd wrthyn nhw: “Gwrandewch a deallwch: 11 Nid beth sy’n mynd i mewn i geg dyn sy’n ei lygru, ond beth sy’n dod allan o’i geg sy’n ei lygru.”

12 Yna daeth y disgyblion ato a dweud wrtho: “Wyt ti’n gwybod bod y Phariseaid wedi eu baglu wrth glywed beth ddywedaist ti?” 13 Atebodd yntau drwy ddweud: “Bydd pob planhigyn na wnaeth fy Nhad nefol ei blannu yn cael ei ddadwreiddio. 14 Gadewch iddyn nhw fod. Arweinwyr dall ydyn nhw. Felly, os bydd dyn dall yn arwain dyn dall, bydd y ddau yn syrthio i mewn i ffos.” 15 Atebodd Pedr: “Gwna’r ddameg yn eglur inni.” 16 Ar hynny dywedodd: “Ydych chi’n dal heb ddealltwriaeth? 17 Onid ydych chi’n ymwybodol fod beth bynnag sy’n mynd i mewn i’r geg yn pasio drwy’r stumog ac yn dod allan? 18 Ond, mae beth bynnag sy’n dod allan o’r geg yn dod o’r galon, a’r pethau hynny sy’n llygru dyn. 19 Er enghraifft, allan o’r galon y daw rhesymu drwg: llofruddio, godinebu, anfoesoldeb rhywiol,* lladrata, camdystiolaethu, cablu. 20 Y pethau hyn sy’n llygru dyn; dydy bwyta pryd o fwyd heb olchi* dwylo ddim yn llygru dyn.”

21 Ar ôl mynd oddi yno, aeth Iesu nawr i ardal Tyrus a Sidon. 22 Ac edrycha! daeth dynes* o Phoenicia a oedd yn byw yn yr ardal honno a gweiddi: “Bydda’n drugarog wrtho i, Arglwydd, Fab Dafydd. Mae fy merch wedi ei meddiannu’n greulon gan gythraul.” 23 Ond ni ddywedodd yr un gair wrthi. Felly daeth ei ddisgyblion ato a dechrau pwyso arno: “Anfona hi i ffwrdd, am ei bod hi’n dal i weiddi ar ein holau.” 24 Atebodd yntau: “Ni ches i fy anfon at neb arall ond at ddefaid coll tŷ Israel.” 25 Ond dyma’r ddynes* yn dod ac yn ymgrymu* o’i flaen, gan ddweud: “Arglwydd, helpa fi!” 26 Wrth ateb dywedodd: “Dydy hi ddim yn iawn i gymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn bach.” 27 Dywedodd hithau: “Mae hynny’n wir, Arglwydd, ond mewn gwirionedd mae’r cŵn bach yn bwyta’r briwsion sy’n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.” 28 Yna atebodd Iesu hi: “O ddynes,* mawr yw dy ffydd; gad i’r hyn rwyt ti’n ei ddymuno ddigwydd iti.” Ac fe gafodd ei merch ei hiacháu o’r awr honno ymlaen.

29 Ar ôl mynd oddi yno, daeth Iesu gerllaw Môr Galilea, ac ar ôl mynd i fyny’r mynydd, roedd yn eistedd yno. 30 Yna daeth tyrfaoedd mawr ato, gyda phobl a oedd yn gloff, yn anafus, yn ddall, yn fud, a llawer eraill, a’u gosod nhw wrth ei draed, ac fe iachaodd nhw. 31 Felly roedd y dyrfa wedi synnu wrth iddyn nhw weld y rhai mud yn siarad a’r rhai anafus yn cael eu hiacháu a’r rhai cloff yn cerdded a’r rhai dall yn gweld, a dyma nhw’n gogoneddu Duw Israel.

32 Ond galwodd Iesu ei ddisgyblion ato a dweud: “Rydw i’n teimlo piti dros y dyrfa, oherwydd maen nhw eisoes wedi bod gyda mi am dri diwrnod ac maen nhw heb fwyta dim byd. Dydw i ddim eisiau eu hanfon nhw i ffwrdd wedi llwgu, oherwydd efallai bydden nhw’n mynd yn wan ac yn cwympo ar y ffordd.” 33 Fodd bynnag, dywedodd y disgyblion wrtho: “Ble gawn ni ddigon o fara i fodloni tyrfa mor fawr yn y lle unig hwn?” 34 Ar hynny dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Sawl torth sydd gynnoch chi?” Dywedon nhw: “Saith, ac ychydig o bysgod bach.” 35 Felly ar ôl dweud wrth y dyrfa am eistedd ar y llawr, 36 cymerodd y saith torth a’r pysgod, ac ar ôl diolch i Dduw, dyma’n eu torri a’u rhoi i’r disgyblion, a gwnaeth y disgyblion eu rhoi nhw i’r tyrfaoedd. 37 A gwnaeth pawb fwyta a chael digon, a chodon nhw saith basged fawr yn llawn tameidiau a oedd dros ben. 38 Roedd 4,000 o ddynion yn bwyta, yn ogystal â merched* a phlant bach. 39 Wedyn, ar ôl anfon y tyrfaoedd i ffwrdd, aeth i mewn i’r cwch a daeth i ardal Magadan.

16 Dyma’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dod ato, ac i roi prawf arno, gwnaethon nhw ofyn iddo ddangos iddyn nhw arwydd o’r nef. 2 Atebodd yntau: “Pan fydd hi’n dechrau nosi, rydych chi’n dweud, ‘Bydd y tywydd yn braf, oherwydd bod yr awyr yn fflamgoch,’ 3 ac yn y bore, ‘Bydd y tywydd yn aeafol ac yn lawog heddiw, oherwydd bod yr awyr yn fflamgoch ond yn gymylog.’ Rydych chi’n gwybod sut i esbonio golwg yr awyr, ond dydych chi ddim yn gallu esbonio arwyddion yr amseroedd. 4 Mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus* yn parhau i geisio arwydd, ond ni fydd unrhyw arwydd yn cael ei roi iddi heblaw am arwydd Jona.” Ar hynny aeth i ffwrdd, a’u gadael nhw.

5 Gwnaeth y disgyblion groesi i’r ochr arall ac anghofio dod â bara. 6 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Cadwch eich llygaid yn agored a gwyliwch rhag lefain y Phariseaid a’r Sadwceaid.” 7 Felly dechreuon nhw resymu â’i gilydd, gan ddweud: “Dydyn ni ddim wedi dod ag unrhyw dorthau o fara.” 8 Roedd Iesu’n gwybod hyn, a dywedodd: “Pam rydych chi’n trafod ymhlith eich gilydd y ffaith nad oes gynnoch chi dorthau, chi o ychydig ffydd? 9 Onid ydych chi wedi gweld y pwynt eto, neu onid ydych chi’n cofio’r pum torth yn achos y 5,000 a’r nifer o fasgedi gwnaethoch chi eu codi? 10 Neu’r saith torth yn achos y 4,000 a’r nifer o fasgedi mawr gwnaethoch chi eu codi? 11 Sut rydych chi’n methu deall nad oeddwn i’n siarad â chi am fara? Ond gwyliwch rhag lefain y Phariseaid a’r Sadwceaid.” 12 Yna dyma nhw’n deall ei fod yn dweud wrthyn nhw am wylio, nid rhag lefain bara, ond rhag dysgeidiaeth y Phariseaid a’r Sadwceaid.

13 Ar ôl iddo ddod i mewn i ardal Cesarea Philipi, gofynnodd Iesu i’w ddisgyblion: “Pwy mae dynion yn dweud yw Mab y dyn?” 14 Dywedon nhw: “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr, eraill Elias, a rhai eraill Jeremeia neu un o’r proffwydi.” 15 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Ond chithau, pwy ydych chi’n dweud ydw i?” 16 Atebodd Simon Pedr: “Ti ydy’r Crist, Mab y Duw byw.” 17 Atebodd Iesu drwy ddweud wrtho: “Hapus wyt ti, Simon fab Jona, oherwydd nid dynion* a wnaeth ddatgelu hyn iti, ond fy Nhad yn y nefoedd. 18 Hefyd, rydw i’n dweud wrthot ti: Pedr wyt ti, ac ar y graig hon y bydda i’n adeiladu fy nghynulleidfa, ac ni fydd giatiau’r Bedd* yn ei gorchfygu. 19 Bydda i’n rhoi iti allweddi* Teyrnas y nefoedd, a bydd beth bynnag y byddi di’n ei rwymo ar y ddaear eisoes wedi ei rwymo yn y nefoedd, a bydd beth bynnag y byddi di’n ei ryddhau ar y ddaear eisoes wedi ei ryddhau yn y nefoedd.” 20 Yna gorchmynnodd yn llym i’r disgyblion beidio â dweud mai ef oedd y Crist.

21 O’r amser hwnnw ymlaen, dechreuodd Iesu esbonio i’w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fynd i Jerwsalem a dioddef llawer o bethau dan law’r henuriaid a’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion a chael ei ladd, ac ar y trydydd dydd gael ei atgyfodi. 22 Ar hynny dyma Pedr yn mynd ag ef i un ochr a dechrau ei geryddu, gan ddweud: “Bydda’n garedig wrthot ti dy hun, Arglwydd; ni fydd hyn yn digwydd iti o gwbl.” 23 Ond yn troi ei gefn arno, dywedodd ef wrth Pedr: “Dos y tu ôl imi, Satan! Rwyt ti’n garreg rwystr imi, oherwydd dy fod ti’n meddwl, nid meddyliau Duw, ond meddyliau dynion.”

24 Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Os oes unrhyw un eisiau dod ar fy ôl i, gadewch iddo ei wadu ei hun a chodi ei stanc dienyddio* a dal ati i fy nilyn i. 25 Oherwydd bydd pwy bynnag sydd eisiau achub ei fywyd yn ei golli, ond bydd pwy bynnag sy’n colli ei fywyd er fy mwyn i yn ei achub. 26 Mewn gwirionedd, os ydy dyn yn ennill yr holl fyd ond yn colli ei fywyd, sut mae hynny’n fuddiol iddo? Neu beth fydd dyn yn ei roi er mwyn achub ei fywyd?* 27 Oherwydd bydd Mab y dyn yn dod yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion, ac yna y bydd yn barnu pob un yn ôl ei ymddygiad. 28 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi fod ’na rai ohonoch chi sy’n sefyll yma na fydd yn profi blas marwolaeth o gwbl hyd nes iddyn nhw yn gyntaf weld Mab y dyn yn dod yn ei Deyrnas.”

17 Chwe diwrnod yn ddiweddarach dyma Iesu’n cymryd Pedr ac Iago a’i frawd Ioan a mynd â nhw i fyny mynydd uchel ar eu pennau eu hunain. 2 Ac fe gafodd gwedd Iesu ei thrawsnewid* o’u blaenau nhw; disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, ac aeth ei ddillad yn llachar* fel y goleuni. 3 Ac edrycha! dyma Moses ac Elias yn ymddangos iddyn nhw yn sgwrsio ag ef. 4 Yna dywedodd Pedr wrth Iesu: “Arglwydd, peth da yw inni fod yma. Os wyt ti’n dymuno, fe wna i godi yma dair pabell, un i ti, un i Moses, ac un i Elias.” 5 Tra oedd ef yn dal i siarad, edrycha! dyma gwmwl disglair yn eu gorchuddio nhw, ac edrycha! dyma lais o’r cwmwl yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl, ac mae’n fy mhlesio i’n fawr iawn.* Gwrandewch arno.” 6 Ar ôl clywed hyn, syrthiodd y disgyblion ar eu hwynebau a daeth ofn mawr arnyn nhw. 7 Yna daeth Iesu yn nes, ac yn cyffwrdd â nhw, dywedodd: “Codwch. Peidiwch ag ofni.” 8 Pan edrychon nhw i fyny, welson nhw neb ond Iesu ei hun. 9 Wrth iddyn nhw ddod i lawr o’r mynydd, gwnaeth Iesu orchymyn iddyn nhw: “Peidiwch â dweud wrth neb am y weledigaeth nes bydd Mab y dyn yn cael ei godi o’r meirw.”

10 Fodd bynnag, gofynnodd y disgyblion y cwestiwn iddo: “Pam, felly, mae’r ysgrifenyddion yn dweud bod rhaid i Elias ddod yn gyntaf?” 11 Atebodd yntau drwy ddweud: “Mae Elias yn wir yn dod a bydd yn adfer pob peth. 12 Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi fod Elias eisoes wedi dod, ac ni wnaethon nhw ei adnabod ond gwneud iddo beth bynnag roedden nhw eisiau ei wneud. Yn yr un modd hefyd, mae Mab y dyn yn mynd i ddioddef dan eu dwylo nhw.” 13 Yna sylweddolodd y disgyblion yr oedd wedi bod yn sôn am Ioan Fedyddiwr.

14 Pan ddaethon nhw at y dyrfa, daeth dyn ato, penlinio o’i flaen, a dweud: 15 “Arglwydd, bydda’n drugarog wrth fy mab, oherwydd ei fod yn epileptig ac yn sâl. Mae’n syrthio’n aml i’r tân ac yn aml i’r dŵr. 16 Des i ag ef at dy ddisgyblion, ond doedden nhw ddim yn gallu ei iacháu.” 17 Atebodd Iesu drwy ddweud: “O genhedlaeth ddi-ffydd a llwgr, am faint y mae’n rhaid imi barhau gyda chi? Am faint mae’n rhaid imi eich goddef chi? Dewch ag ef ata i.” 18 Yna gwnaeth Iesu geryddu’r cythraul, a daeth ef allan ohono, ac fe gafodd y bachgen ei iacháu o’r awr honno. 19 Yna daeth y disgyblion at Iesu o’r neilltu a dweud: “Pam nad oedden ni’n gallu ei fwrw allan?” 20 Dywedodd wrthyn nhw: “O achos eich ychydig ffydd. Oherwydd yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, os oes gynnoch chi ffydd gymaint â hedyn mwstard, byddwch yn dweud wrth y mynydd hwn, ‘Symuda o fan yma i fan acw,’ a bydd yn symud, ac ni fydd dim byd yn amhosib ichi.” 21 ——

22 Pan oedden nhw wedi dod at ei gilydd yng Ngalilea dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Mae Mab y dyn yn mynd i gael ei fradychu a’i roi yn nwylo dynion, 23 a byddan nhw’n ei ladd, ac ar y trydydd dydd bydd ef yn cael ei godi.” Ac roedden nhw’n ofnadwy o drist.

24 Ar ôl iddyn nhw gyrraedd Capernaum, daeth y dynion a oedd yn casglu treth y ddau ddrachma* at Pedr a dweud: “Onid ydy eich athro yn talu treth y ddau ddrachma?” 25 Dywedodd yntau: “Ydy.” Fodd bynnag, pan aeth i mewn i’r tŷ, siaradodd Iesu yn gyntaf ag ef a dweud: “Beth rwyt ti’n ei feddwl, Simon? Gan bwy y mae brenhinoedd y ddaear yn derbyn tollau neu drethi? Gan eu meibion neu gan yr estroniaid?” 26 Pan ddywedodd: “Gan yr estroniaid,” dywedodd Iesu wrtho: “Felly, mae’r meibion yn wir yn rhydd o’r dreth. 27 Ond rhag inni achosi iddyn nhw faglu, dos i’r môr, tafla fachyn pysgota, a chymera’r pysgodyn cyntaf sy’n dod i fyny, a phan fyddi di’n agor ei geg, fe weli di ddarn o arian.* Cymera hwnnw a rho ef iddyn nhw drosto i a tithau.”

18 Yn yr awr honno daeth y disgyblion yn agos at Iesu a dweud: “Pwy yn wir sydd yn fwyaf yn Nheyrnas y nefoedd?” 2 Felly dyma’n galw plentyn bach ato, a’i osod yn eu canol nhw 3 a dywedodd: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, os nad ydych chi’n newid* a bod fel plant bach, ni fyddwch chi ar unrhyw gyfri yn mynd i mewn i Deyrnas y nefoedd. 4 Felly, pwy bynnag sy’n ostyngedig ac yn edrych arno’i hun fel y plentyn bach hwn ydy’r un sy’n fwyaf yn Nheyrnas y nefoedd; 5 ac mae pwy bynnag sy’n derbyn un plentyn bach o’r fath ar sail fy enw i yn fy nerbyn innau hefyd. 6 Ond pwy bynnag sy’n baglu un o’r rhai bychain hyn sydd â ffydd yno i, byddai’n well iddo ef gael ei grogi am ei wddf gan faen melin sy’n cael ei droi gan asyn ac iddo gael ei daflu i ganol y môr.

7 “Gwae’r byd oherwydd y cerrig rhwystr! Wrth gwrs, bydd cerrig rhwystr yn siŵr o ddod, ond gwae’r dyn sy’n gyfrifol amdanyn nhw! 8 Felly, os ydy dy law neu dy droed yn gwneud iti faglu, torra hi i ffwrdd a’i thaflu oddi wrthot ti. Mae’n well iti dderbyn bywyd wedi dy anafu neu’n gloff na chael dy daflu i’r tân tragwyddol â dwy law neu ddwy droed. 9 Hefyd, os ydy dy lygad yn gwneud iti faglu, tynna dy lygad allan a’i daflu oddi wrthot ti. Mae’n well iti dderbyn bywyd ag un llygad na chael dy daflu i’r Gehenna* tanllyd â dau lygad. 10 Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n dirmygu un o’r rhai bychain hyn, oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi fod eu hangylion yn y nef bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nef. 11 ——

12 “Beth rydych chi’n ei feddwl? Os oes gan fugail 100 o ddefaid a bod un ohonyn nhw wedi crwydro, oni fydd yn gadael y 99 ar y mynyddoedd ac yn mynd i chwilio am yr un sydd wedi crwydro? 13 Ac os yw’n dod o hyd iddi, yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae’n llawenhau mwy drosti hi na thros y 99 sydd heb grwydro. 14 Yn yr un modd, dydy fy Nhad* sydd yn y nef ddim yn dymuno i hyd yn oed un o’r rhai bychain hyn farw.

15 “Ar ben hynny, os yw dy frawd yn pechu, dos a datgelu ei fai* rhyngot ti ac ef yn unig. Os yw’n gwrando arnat ti, rwyt ti wedi ennill dy frawd. 16 Ond os nad yw’n gwrando, cymera un neu ddau arall gyda ti, er mwyn i bob mater gael ei wneud yn glir ar sail tystiolaeth* dau neu dri o dystion. 17 Os nad yw’n gwrando arnyn nhwthau, siarada â’r gynulleidfa. Os nad yw’n gwrando hyd yn oed ar y gynulleidfa, dylet ti ei drin fel dyn o’r cenhedloedd ac fel casglwr trethi.

18 “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd pa bynnag bethau y byddwch chi’n eu rhwymo ar y ddaear eisoes wedi eu rhwymo yn y nef, a bydd pa bynnag bethau y byddwch chi’n eu rhyddhau ar y ddaear eisoes wedi eu rhyddhau yn y nef. 19 Eto yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, os ydy dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i weddïo am unrhyw beth sy’n bwysig, fe fydd hynny’n cael ei gyflawni gan fy Nhad yn y nef. 20 Oherwydd lle mae dau neu dri yn dod at ei gilydd yn fy enw i, rydw i yno yn eu plith.”

21 Yna daeth Pedr a dweud wrtho: “Arglwydd, sawl gwaith y mae fy mrawd i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Hyd at saith gwaith?” 22 Dywedodd Iesu wrtho: “Rydw i’n dweud wrthot ti, nid hyd at saith gwaith, ond hyd at 77 gwaith.

23 “Dyna pam mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i frenin a oedd eisiau i’w gaethweision dalu eu dyledion. 24 Pan ddechreuodd ef gasglu eu dyledion, daeth ei weision â dyn i mewn a oedd yn ei ddyled o 10,000 o dalentau.* 25 Ond oherwydd nad oedd modd iddo dalu, gwnaeth ei feistr orchymyn iddo ef a’i wraig a’i blant a’i holl eiddo gael eu gwerthu ac i’r ddyled gael ei thalu. 26 Felly syrthiodd y caethwas i lawr ac ymgrymu* o’i flaen, gan ddweud, ‘Bydda’n amyneddgar wrtho i, a bydda i’n talu’r cwbl yn ôl i ti.’ 27 Oherwydd ei fod yn teimlo trueni drosto, gwnaeth meistr y caethwas hwnnw adael iddo fynd a maddau’r ddyled iddo. 28 Ond dyma’r caethwas hwnnw yn mynd allan a dod o hyd i un o’i gyd-gaethweision, a oedd yn ei ddyled o 100 denariws, ac yn gafael ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud, ‘Tala’r holl ddyled imi.’ 29 Felly syrthiodd ei gyd-gaethwas i lawr a dechrau ymbil arno, gan ddweud, ‘Bydda’n amyneddgar wrtho i, a bydda i’n dy dalu yn ôl.’ 30 Fodd bynnag, nid oedd yn fodlon gwneud hynny, ond aeth a threfnu iddo gael ei daflu i’r carchar nes iddo allu talu ei ddyled yn ôl. 31 Pan welodd ei gyd-gaethweision beth oedd wedi digwydd, roedden nhw’n ofidus iawn, ac aethon nhw at eu meistr ac adrodd pob peth oedd wedi digwydd. 32 Yna gwnaeth ei feistr ei alw ef ato a dweud wrtho: ‘Y caethwas drwg, fe wnes i faddau’r holl ddyled honno iti pan wnest ti erfyn arna i. 33 Oni ddylet tithau hefyd fod wedi bod yn drugarog wrth dy gyd-gaethwas fel yr oeddwn i’n drugarog wrthot ti?’ 34 Ar hynny dyma ei feistr, yn ei ddicter, yn ei drosglwyddo i warchodwyr y carchar nes iddo dalu ei holl ddyled. 35 Bydd fy Nhad nefol hefyd yn delio â chi yn yr un ffordd os nad yw pob un ohonoch chi yn maddau i’ch brawd o’ch calon.”

19 Pan oedd Iesu wedi gorffen siarad am y pethau hyn, aeth o Galilea a daeth i ffiniau* Jwdea yr ochr draw i’r Iorddonen. 2 Hefyd, dilynodd tyrfaoedd mawr ef, a gwnaeth eu hiacháu nhw yno.

3 A daeth Phariseaid ato gyda’r bwriad o roi prawf arno, a gofynnon nhw: “Ydy hi’n gyfreithlon i ddyn ysgaru ei wraig am bob math o achosion?” 4 Atebodd yntau drwy ddweud: “Onid ydych chi wedi darllen bod yr un a wnaeth eu creu nhw o’r dechreuad wedi eu gwneud nhw’n wryw a benyw 5 a dywedodd: ‘Am y rheswm hwn, bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd’? 6 Fel dydyn nhw ddim yn ddau bellach, ond yn un cnawd. Felly, yr hyn y mae Duw wedi ei uno,* ni ddylai’r un dyn ei wahanu.” 7 Dywedon nhw wrtho: “Pam, felly, gwnaeth Moses orchymyn rhoi tystysgrif ysgariad a’i hysgaru hi?” 8 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Oherwydd eich bod chi’n galon-galed, rhoddodd Moses ganiatâd ichi i ysgaru eich gwragedd, ond nid felly yr oedd hi o’r dechreuad. 9 Rydw i’n dweud wrthoch chi fod pwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig, heblaw ar sail anfoesoldeb rhywiol,* ac sy’n priodi un arall yn godinebu.”

10 Dywedodd y disgyblion wrtho: “Os mai dyna’r sefyllfa rhwng dyn a’i wraig, gwell fyddai peidio â phriodi.” 11 Dywedodd yntau wrthyn nhw: “Nid pob dyn sy’n derbyn yr ymadrodd hwn, dim ond y rhai sydd â’r rhodd. 12 Oherwydd mae ’na eunuchiaid sydd wedi cael eu geni fel ’na, ac mae ’na eunuchiaid sydd wedi cael eu gwneud yn eunuchiaid gan ddynion, ac mae ’na eunuchiaid sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn Teyrnas y nefoedd. A’r sawl sy’n gallu aros heb briodi, gad iddo wneud hynny.”

13 Yna gwnaeth pobl ddod â phlant bach ato er mwyn iddo roi ei ddwylo arnyn nhw a gweddïo drostyn nhw, ond gwnaeth y disgyblion eu ceryddu nhw. 14 Fodd bynnag, dywedodd Iesu: “Gadewch i’r plant bach fod, a pheidiwch â cheisio eu stopio nhw rhag dod ata i, oherwydd bod Teyrnas y nefoedd yn perthyn i rai o’r fath.” 15 A rhoddodd ei ddwylo arnyn nhw ac aeth oddi yno.

16 Nawr edrycha! daeth rhywun ato a dweud: “Athro, pa bethau da sy’n rhaid imi eu gwneud er mwyn cael bywyd tragwyddol?” 17 Dywedodd yntau wrtho: “Pam rwyt ti’n gofyn imi am beth sy’n dda? Dim ond Un sy’n dda. Os wyt ti eisiau cael bywyd, cadwa’r gorchmynion yn barhaol.” 18 Dywedodd yntau wrtho: “Pa rai?” Dywedodd Iesu: “Paid â llofruddio, paid â godinebu, paid â dwyn, paid â rhoi camdystiolaeth, 19 anrhydedda dy dad a dy fam, ac mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.” 20 Dywedodd y dyn ifanc wrtho: “Rydw i wedi cadw’r rhain i gyd; beth arall sy’n rhaid imi ei wneud?” 21 Dywedodd Iesu wrtho: “Os wyt ti eisiau bod yn berffaith,* dos a gwertha dy eiddo a rho i’r tlawd, ac fe fydd gen ti drysor yn y nef; yna tyrd, dilyna fi.” 22 Pan wnaeth y dyn ifanc glywed hyn, aeth i ffwrdd yn hynod o drist, oherwydd bod ganddo lawer o eiddo. 23 Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd hi’n anodd i ddyn cyfoethog fynd i mewn i Deyrnas y nefoedd. 24 Eto rydw i’n dweud wrthoch chi, mae’n haws i gamel fynd trwy dwll nodwydd nag i ddyn cyfoethog fynd i mewn i Deyrnas Dduw.”

25 Pan glywodd y disgyblion hynny, roedden nhw wedi rhyfeddu’n fawr iawn, gan ddweud: “Pwy yn wir sy’n gallu cael ei achub?” 26 Wrth edrych ym myw eu llygaid, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Gyda dynion mae hyn yn amhosib, ond gyda Duw mae pob peth yn bosib.”

27 Yna atebodd Pedr drwy ddweud: “Edrycha! Rydyn ni wedi gadael pob peth a dy ddilyn di; beth, felly, fydd ’na i ni?” 28 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, yn yr ail-greu, pan fydd Mab y dyn yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus, fe fyddwch chi sydd wedi fy nilyn i yn eistedd ar 12 gorsedd, yn barnu 12 llwyth Israel. 29 A bydd pob un sydd wedi gadael tai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i yn derbyn ganwaith cymaint ac yn etifeddu bywyd tragwyddol.

30 “Ond bydd llawer sydd yn gyntaf yn olaf, a bydd yr olaf yn gyntaf.

20 “Oherwydd mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i feistr tŷ a aeth allan yn gynnar yn y bore i gyflogi gweithwyr ar gyfer ei winllan. 2 Ar ôl iddo gytuno â’r gweithwyr am ddenariws y dydd, anfonodd nhw i’w winllan. 3 Wrth fynd allan eto tua’r drydedd awr,* fe welodd ef eraill yn sefyll heb waith yn y farchnad; 4 ac i’r rheini fe ddywedodd, ‘Ewch chithau hefyd i’r winllan, ac fe dala i ichi beth bynnag sy’n deg.’ 5 Felly i ffwrdd â nhw. Aeth allan eto tua’r chweched awr* a’r nawfed awr* a gwneud union yr un peth. 6 Yn olaf, tua’r unfed awr ar ddeg,* aeth allan a dod o hyd i eraill yn sefyllian, a dywedodd wrthyn nhw, ‘Pam rydych chi wedi bod yn sefyll yma drwy’r dydd heb waith?’ 7 Atebon nhwthau, ‘Oherwydd does neb wedi ein cyflogi ni.’ Dywedodd wrthyn nhw, ‘Ewch chithau hefyd i’r winllan.’

8 “Ar ôl iddi nosi, dywedodd meistr y winllan wrth ei oruchwyliwr, ‘Galwa’r gweithwyr a thala eu cyflogau, gan ddechrau gyda’r rhai olaf a gorffen gyda’r rhai cyntaf.’ 9 Pan ddaeth y dynion a oedd wedi bod yn gweithio ers yr unfed awr ar ddeg, gwnaeth pob un dderbyn denariws. 10 Felly pan ddaeth y rhai cyntaf, roedden nhw’n tybio y bydden nhw’n cael mwy, ond cawson nhwthau hefyd gyflog o ddenariws. 11 Ar ôl cael eu cyflog, dechreuon nhw gwyno yn erbyn meistr y tŷ 12 a dweud, ‘Dim ond un awr y gweithiodd y dynion olaf hyn; ond eto fe wnest ti eu gwneud nhw’n gyfartal â ni sydd wedi gweithio’n galed drwy’r dydd yn y gwres tanbaid!’ 13 Ond atebodd drwy ddweud wrth un ohonyn nhw, ‘Gyfaill, dydw i ddim yn gwneud cam â ti. Oni wnest ti gytuno â mi am ddenariws? 14 Cymera dy gyflog a dos. Rydw i eisiau rhoi i’r un olaf hwn yr un cyflog ag i tithau. 15 Onid oes gen i’r hawl i wneud beth rydw i eisiau gyda fy mhethau fy hun? Neu ydy dy lygad yn genfigennus* oherwydd fy mod i’n dda?’* 16 Fel hyn, bydd y rhai olaf yn gyntaf, a’r rhai cyntaf yn olaf.”

17 Wrth fynd i fyny i Jerwsalem, cymerodd Iesu’r 12 disgybl ar wahân a dweud wrthyn nhw ar y ffordd: 18 “Edrychwch! Rydyn ni’n mynd i fyny i Jerwsalem a bydd Mab y dyn yn cael ei roi yn nwylo’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion. Byddan nhw’n ei gondemnio i farwolaeth 19 a’i drosglwyddo i ddynion y cenhedloedd i’w wawdio a’i chwipio a’i ddienyddio ar stanc; ac ar y trydydd dydd bydd yn cael ei godi.”

20 Yna daeth mam meibion Sebedeus ato gyda’i meibion, yn ymgrymu* ac yn gofyn ffafr ganddo. 21 Dywedodd wrthi: “Beth rwyt ti eisiau?” Atebodd hithau: “Rho’r gair y bydd fy nau fab hyn yn gallu eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith, yn dy Deyrnas.” 22 Atebodd Iesu: “Dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi’n gofyn amdano. A allwch chi yfed o’r cwpan rydw i’n mynd i yfed ohono?” Dywedon nhw wrtho: “Gallwn.” 23 Dywedodd wrthyn nhw: “Byddwch yn wir yn yfed o fy nghwpan, ond nid fi sy’n penderfynu pwy sy’n eistedd ar fy llaw dde ac ar fy llaw chwith, ond mae’r llefydd hynny’n perthyn i’r rhai sydd wedi cael eu dewis gan fy Nhad.”

24 Pan glywodd y deg arall am hyn, roedden nhw’n ddig iawn wrth y ddau frawd. 25 Ond galwodd Iesu nhw ato a dweud: “Rydych chi’n gwybod bod rheolwyr y cenhedloedd yn ei lordio hi drostyn nhw a bod y dynion blaengar yn dangos eu hawdurdod drostyn nhw. 26 Nid fel hyn y dylai hi fod yn eich plith chi; ond mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau bod yn fawr yn eich plith fod yn was ichi, 27 ac mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau bod yn gyntaf yn eich plith fod yn gaethwas ichi. 28 Yn union fel y daeth Mab y dyn, nid i gael ei wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roi ei fywyd er mwyn talu’r pris* i achub llawer o bobl.”

29 Tra oedden nhw’n mynd allan o Jericho, gwnaeth tyrfa fawr ei ddilyn ef. 30 Ac edrycha! gwnaeth dau ddyn dall a oedd yn eistedd wrth ochr y ffordd glywed bod Iesu yn pasio heibio a dyma nhw’n gweiddi: “Arglwydd, bydda’n drugarog wrthon ni, Fab Dafydd!” 31 Ond gwnaeth y dyrfa eu ceryddu nhw, a dweud wrthyn nhw am gadw’n ddistaw; ond gwaeddon nhw’n fwy byth, gan ddweud: “Arglwydd, bydda’n drugarog wrthon ni, Fab Dafydd!” 32 Felly stopiodd Iesu, a’u galw, a dweud: “Beth rydych chi eisiau imi ei wneud ichi?” 33 Dywedon nhw wrtho: “Arglwydd, gad i’n llygaid gael eu hagor.” 34 Oherwydd ei fod yn teimlo trueni, cyffyrddodd Iesu â’u llygaid, ac fe gawson nhw eu golwg yn ôl yn syth, a dyma nhw’n ei ddilyn ef.

21 Pan ddaethon nhw’n agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage ar Fynydd yr Olewydd, yna anfonodd Iesu ddau ddisgybl, 2 gan ddweud wrthyn nhw: “Ewch i’r pentref sydd o fewn golwg, a byddwch ar unwaith yn dod o hyd i asen wedi ei rhwymo ac ebol gyda hi. Gollyngwch nhw a dewch â nhw ata i. 3 Os bydd rhywun yn dweud unrhyw beth wrthoch chi, dywedwch, ‘Yr Arglwydd sydd eu hangen nhw.’ Ar hynny bydd ef yn eu hanfon nhw ar unwaith.”

4 Yn wir, fe ddigwyddodd hyn er mwyn cyflawni’r hyn a ddywedwyd drwy’r proffwyd, a ddywedodd: 5 “Dywedwch wrth ferch Seion: ‘Edrycha! Mae dy frenin yn dod atat ti, yn addfwyn ac yn eistedd ar asyn, ie, ebol asen.’”*

6 Felly aeth y disgyblion a gwneud yn union fel y gorchmynnodd Iesu iddyn nhw. 7 Daethon nhw â’r asen a’i hebol, a rhoddon nhw eu cotiau arnyn nhw, ac eisteddodd ef arnyn nhw.* 8 Gwnaeth y rhan fwyaf o’r dyrfa daenu eu cotiau ar y ffordd, tra oedd eraill yn torri canghennau o’r coed ac yn eu taenu ar y ffordd. 9 Yn ogystal, roedd y tyrfaoedd a oedd yn mynd o’i flaen a’r rhai a oedd yn ei ddilyn yn dal i weiddi: “Plîs, achuba* Fab Dafydd! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw Jehofa! Plîs achuba ef, ti sydd yn y nefoedd!”

10 A phan aeth ef i mewn i Jerwsalem, roedd y ddinas gyfan yn gynnwrf i gyd, gan ddweud: “Pwy ydy hwn?” 11 Roedd y tyrfaoedd yn dweud o hyd ac o hyd: “Hwn yw’r proffwyd Iesu, o Nasareth yng Ngalilea!”

12 Aeth Iesu i mewn i’r deml a thaflu pawb allan a oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, a throi drosodd fyrddau’r rhai a oedd yn cyfnewid arian a meinciau’r rhai a oedd yn gwerthu colomennod. 13 A dywedodd wrthyn nhw: “Mae’n ysgrifenedig, ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw’n dŷ gweddi,’ ond rydych chi’n ei wneud yn ogof lladron.” 14 Hefyd, daeth pobl ddall a chloff ato yn y deml, a gwnaeth ef eu hiacháu nhw.

15 Pan welodd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion y pethau rhyfeddol a wnaeth ef, a’r bechgyn a oedd yn gweiddi yn y deml, “Plîs, achuba Fab Dafydd!” aethon nhw’n ddig 16 a dweud wrtho: “Wyt ti’n clywed beth mae’r rhain yn ei ddweud?” Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Ydw. Onid ydych chi erioed wedi darllen hyn, ‘O gegau plant a babanod, rwyt ti wedi ennyn clod’?” 17 Yna gadawodd Iesu nhw, mynd allan o’r ddinas i Fethania a threulio’r nos yno.

18 Wrth iddo ddod yn ôl i’r ddinas yn gynnar yn y bore, roedd wedi llwgu. 19 Fe welodd goeden ffigys ar ochr y ffordd a mynd draw ati, ond ni wnaeth ddod o hyd i ddim byd arni heblaw dail, a dywedodd wrthi: “Ni fydd ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto.” A dyma’r goeden ffigys yn gwywo ar unwaith. 20 Pan welodd y disgyblion hyn, roedden nhw wedi synnu a dywedon nhw: “Sut gwnaeth y goeden ffigys wywo ar unwaith?” 21 Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, os bydd gynnoch chi ffydd heb amau, nid yn unig y byddwch chi’n gwneud yr hyn a wnes i i’r goeden ffigys, ond hyd yn oed os byddwch chi’n dweud wrth y mynydd hwn, ‘Cod a thafla dy hun i’r môr,’ fe fydd hynny’n digwydd. 22 A’r holl bethau rydych chi’n gofyn amdanyn nhw mewn gweddi, os oes gynnoch chi ffydd, fe fyddwch chi’n eu derbyn.”

23 Ar ôl iddo fynd i mewn i’r deml, daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato tra oedd ef yn dysgu, a dweud: “Drwy ba awdurdod rwyt ti’n gwneud y pethau hyn? A phwy roddodd yr awdurdod hwn i ti?” 24 Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Fe wna innau hefyd ofyn un peth i chi. Os gwnewch chi ateb, yna fe wna i hefyd ddweud wrthoch chi drwy ba awdurdod rydw i’n gwneud y pethau hyn: 25 O ble roedd awdurdod Ioan i fedyddio yn dod? O’r nef neu o ddynion?”* Ond dechreuon nhw resymu ymhlith ei gilydd, gan ddweud: “Os ydyn ni’n dweud, ‘O’r nef,’ bydd ef yn dweud wrthon ni, ‘Pam, felly, wnaethoch chi ddim ei gredu?’ 26 Ond os gwnawn ni ddweud, ‘O ddynion,’ mae gynnon ni’r dyrfa i’w hofni, oherwydd eu bod nhw i gyd yn meddwl bod Ioan yn broffwyd.” 27 Felly atebon nhw Iesu: “Dydyn ni ddim yn gwybod.” Felly, dywedodd yntau wrthyn nhw: “Dydw innau chwaith ddim yn mynd i ddweud wrthoch chi drwy ba awdurdod rydw i’n gwneud y pethau hyn.

28 “Beth rwyt ti’n ei feddwl? Roedd gan ddyn ddau o feibion. Gan fynd at y cyntaf, dywedodd, ‘Fy mab, dos i weithio heddiw yn y winllan.’ 29 Atebodd yntau, ‘Na, dydw i ddim yn mynd,’ ond yn nes ymlaen, dyma’n difaru a mynd. 30 Gan fynd at yr ail, dywedodd yr un peth. Atebodd hwnnw, ‘Fe wna i fynd, Syr,’ ond ni wnaeth fynd. 31 Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys ei dad?” Dywedon nhw: “Y cyntaf.” Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi fod y casglwyr trethi a’r puteiniaid yn mynd o’ch blaenau chi i mewn i Deyrnas Dduw. 32 Oherwydd fe ddaeth Ioan atoch chi yn dangos ffordd cyfiawnder, ond ni wnaethoch chi ei gredu. Fodd bynnag, gwnaeth y casglwyr trethi a’r puteiniaid ei gredu, a hyd yn oed pan welsoch chi hyn, wnaethoch chi ddim difaru na’i gredu.

33 “Gwrandewch ar ddameg arall: Roedd ’na ddyn, tirfeddiannwr, a oedd wedi plannu gwinllan, codi ffens o’i hamgylch, cloddio cafn ynddi i wasgu grawnwin,* ac adeiladu tŵr; yna gwnaeth ei gosod hi allan ar rent i ffermwyr a theithio dramor. 34 Pan ddaeth tymor y ffrwythau, anfonodd ei gaethweision at y ffermwyr i nôl ei ffrwythau. 35 Fodd bynnag, gafaelodd y ffermwyr yn ei gaethweision, curo un ohonyn nhw, lladd un arall, a llabyddio un arall. 36 Unwaith eto fe anfonodd gaethweision eraill, mwy ohonyn nhw na’r grŵp cyntaf, ond gwnaethon nhw’r un peth i’r rhai hyn. 37 Yn y diwedd fe anfonodd ei fab atyn nhw, gan ddweud, ‘Byddan nhw’n parchu fy mab.’ 38 Pan welson nhw’r mab, dywedodd y ffermwyr wrth ei gilydd, ‘Hwn ydy’r etifedd. Dewch, gadewch inni ei ladd a chael ei etifeddiaeth!’ 39 Felly gwnaethon nhw afael ynddo a’i daflu allan o’r winllan a’i ladd. 40 Felly, pan fydd perchennog y winllan yn dod, beth fydd yn ei wneud i’r ffermwyr hynny?” 41 Dywedon nhw wrtho: “Oherwydd eu bod nhw’n ddrwg, bydd yn dod â dinistr ofnadwy arnyn nhw ac yn gosod y winllan i ffermwyr eraill a fydd yn rhoi’r ffrwythau iddo yn eu tymhorau.”

42 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Onid ydych chi erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau, ‘Y garreg a gafodd ei gwrthod gan yr adeiladwyr, hon sydd wedi dod yn brif garreg gornel.* Mae hon wedi dod o Jehofa, ac mae hi’n rhyfeddol yn ein golwg ni’? 43 Dyma pam rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd Teyrnas Dduw yn cael ei chymryd oddi wrthoch chi a’i rhoi i genedl sy’n dwyn ei ffrwythau. 44 Hefyd, bydd y person sy’n syrthio ar y garreg hon yn cael ei falu’n deilchion. A phwy bynnag mae’r garreg yn syrthio arno, bydd yn ei fathru ef.”

45 Pan glywodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion, roedden nhw’n gwybod ei fod yn siarad amdanyn nhw. 46 Er eu bod nhw eisiau ei arestio,* roedden nhw’n ofni’r tyrfaoedd, oherwydd bod y rhain yn ei ystyried yn broffwyd.

22 Unwaith eto siaradodd Iesu â nhw mewn damhegion, gan ddweud: 2 “Mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i frenin a wnaeth baratoi gwledd briodas ar gyfer ei fab. 3 Ac anfonodd ei weision i alw’r rhai a oedd wedi cael eu gwahodd i’r wledd briodas, ond doedden nhw ddim yn fodlon dod. 4 Unwaith eto anfonodd ef weision eraill, gan ddweud, ‘Dywedwch wrth y rhai sydd wedi cael eu gwahodd: “Edrychwch! Rydw i wedi paratoi fy nghinio, mae fy nheirw a fy anifeiliaid gorau wedi cael eu lladd, ac mae popeth yn barod. Dewch i’r wledd briodas.”’ 5 Ond anwybyddon nhw hyn a mynd i ffwrdd, un i’w gae ei hun, un arall i’w fusnes; 6 ond gwnaeth y lleill afael yn ei weision, a’u trin nhw’n ddigywilydd a’u lladd.

7 “Gwylltiodd y brenin ac anfon ei fyddinoedd a lladd y llofruddion hynny a llosgi eu dinas. 8 Yna dywedodd wrth ei weision, ‘Mae’r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai a oedd wedi eu gwahodd ddim yn haeddu cael dod. 9 Felly, ewch i’r ffyrdd sy’n arwain allan o’r ddinas, a gwahoddwch unrhyw un rydych chi’n dod ar ei draws i’r wledd briodas.’ 10 Felly, aeth y gweision hynny allan i’r ffyrdd a chasglu pawb oedd yno, y drwg a’r da; ac roedd neuadd y briodas wedi ei llenwi â’r rhai a oedd yn bwyta.

11 “Pan ddaeth y brenin i weld y gwesteion, gwelodd ddyn heb wisg briodas amdano. 12 Felly dywedodd wrtho, ‘Gyfaill, sut dest ti i mewn yma heb wisg briodas?’ Doedd ganddo ddim ateb. 13 Yna dywedodd y brenin wrth ei weision, ‘Rhwymwch ei ddwylo a’i draed a thaflwch ef i’r tywyllwch y tu allan. Yno y bydd yn wylo ac yn crensian ei ddannedd.’

14 “Oherwydd mae llawer yn cael eu gwahodd, ond ychydig yn cael eu dewis.”

15 Yna aeth y Phariseaid a chynllwynio gyda’i gilydd er mwyn ei dwyllo i ddweud rhywbeth anghywir. 16 Felly dyma nhw’n anfon eu disgyblion ato, ynghyd â chefnogwyr Herod, gan ddweud: “Athro, rydyn ni’n gwybod dy fod ti’n dweud y gwir ac yn dysgu ffordd Duw yn unol â’r hyn sy’n wir, a dwyt ti ddim yn ceisio cymeradwyaeth dynion, oherwydd dwyt ti ddim yn edrych ar bryd a gwedd pobl. 17 Dyweda wrthon ni, felly, beth rwyt ti’n ei feddwl? Ydy hi’n gyfreithlon* i dalu trethi i Gesar neu ddim?” 18 Ond roedd Iesu’n gwybod am eu cynllun drwg, a dywedodd: “Pam rydych chi’n rhoi prawf arna i, ragrithwyr? 19 Dangoswch geiniog y dreth imi.” Daethon nhw â denariws ato. 20 Dywedodd wrthyn nhw: “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” 21 Dywedon nhw: “Cesar.” Yna dywedodd yntau wrthyn nhw: “Felly, talwch bethau Cesar yn ôl i Gesar, ond pethau Duw i Dduw.” 22 Pan glywson nhw hynny, roedden nhw wedi synnu, a gwnaethon nhw ei adael a mynd i ffwrdd.

23 Ar y diwrnod hwnnw daeth y Sadwceaid, sy’n dweud nad oes atgyfodiad, a gofyn iddo: 24 “Athro, dywedodd Moses: ‘Os bu farw unrhyw ddyn heb gael plant, bydd rhaid i’w frawd briodi ei wraig a magu plant ar gyfer ei frawd.’ 25 Roedd ’na saith brawd yn ein plith. Gwnaeth yr un cyntaf briodi a marw, ac oherwydd nad oedd ganddo blant, gadawodd ei wraig i’w frawd. 26 Digwyddodd yr un peth gyda’r ail a’r trydydd, hyd at y seithfed. 27 Yn olaf, bu farw’r ddynes.* 28 Felly yn yr atgyfodiad, gwraig pa un o’r saith fydd hi? Oherwydd roedd hi’n wraig i bob un ohonyn nhw.”

29 Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Rydych chi’n anghywir, oherwydd dydych chi ddim yn adnabod yr Ysgrythurau nac yn deall grym Duw; 30 oherwydd yn yr atgyfodiad nid yw dynion na merched* yn priodi, ond maen nhw fel angylion yn y nef. 31 Ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, onid ydych chi wedi darllen yr hyn a ddywedodd Duw wrthoch chi: 32 ‘Fi ydy Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob’? Nid Duw’r meirw ydy ef, ond y rhai byw.” 33 Pan glywodd y tyrfaoedd hynny, roedden nhw wedi rhyfeddu at ei ddysgu.

34 Ar ôl i’r Phariseaid glywed ei fod wedi distewi’r Sadwceaid, daethon nhw at ei gilydd mewn un grŵp. 35 A dyma un ohonyn nhw, arbenigwr yn y Gyfraith, yn rhoi prawf arno drwy ofyn: 36 “Athro, beth yw’r gorchymyn pwysicaf yn y Gyfraith?” 37 Dywedodd wrtho: “‘Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid* ac â dy holl feddwl.’ 38 Hwn yw’r gorchymyn pwysicaf a’r cyntaf. 39 Yr ail, sy’n debyg iddo, ydy: ‘Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.’ 40 Ar y ddau orchymyn hyn mae’r holl Gyfraith yn dibynnu, a’r Proffwydi.”

41 Tra oedd y Phariseaid gyda’i gilydd, gofynnodd Iesu iddyn nhw: 42 “Beth rydych chi’n ei feddwl am y Crist? Mab pwy ydy ef?” Dywedon nhw wrtho: “Mab Dafydd.” 43 Gofynnodd iddyn nhw: “Felly, pam mae Dafydd, wedi ei ysbrydoli gan Dduw, yn ei alw’n Arglwydd, gan ddweud, 44 ‘Dywedodd Jehofa wrth fy Arglwydd: “Eistedda ar fy llaw dde nes imi roi dy elynion o dan dy draed”’? 45 Os, felly, mae Dafydd yn ei alw’n Arglwydd, sut mae Crist yn fab iddo?” 46 A doedd neb yn gallu ateb yr un gair iddo, ac o’r diwrnod hwnnw ymlaen, doedd neb yn meiddio ei gwestiynu ymhellach.

23 Yna siaradodd Iesu â’r tyrfaoedd ac â’i ddisgyblion, gan ddweud: 2 “Mae’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid wedi hawlio cadair Moses iddyn nhw eu hunain. 3 Felly, gwnewch a chadwch at bopeth maen nhw’n ei ddweud wrthoch chi, ond peidiwch â gwneud fel maen nhw’n gwneud, oherwydd dweud maen nhw ond heb weithredu ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud. 4 Maen nhw’n rhwymo beichiau trwm ac yn eu gosod nhw ar ysgwyddau dynion, ond dydyn nhw eu hunain ddim yn fodlon codi bys i’w symud. 5 Popeth maen nhw’n ei wneud, maen nhw’n ei wneud er mwyn cael eu gweld gan ddynion, oherwydd maen nhw’n ehangu’r blychau sy’n dal yr Ysgrythurau, y blychau maen nhw’n eu gwisgo i’w hamddiffyn eu hunain,* ac maen nhw’n gwneud ymylon eu dillad yn hirach. 6 Maen nhw’n hoffi cael y lle mwyaf pwysig wrth gael swper a’r seddi blaen* yn y synagogau 7 a’r cyfarchion yn y marchnadoedd a chael eu galw’n Rabbi* gan ddynion. 8 Ond chithau, peidiwch â chael eich galw’n Rabbi, oherwydd un Athro sydd gynnoch chi, a brodyr ydych chi i gyd. 9 Ar ben hynny, peidiwch â galw unrhyw un ar y ddaear yn dad, oherwydd un Tad sydd gynnoch chi, yr Un nefol. 10 Peidiwch chwaith â chael eich galw’n arweinwyr, oherwydd un Arweinydd sydd gynnoch chi, y Crist. 11 Ond mae’n rhaid i’r un mwyaf yn eich plith fod yn was ichi. 12 Bydd pwy bynnag sy’n ei ddyrchafu ei hun yn cael ei fychanu, a bydd pwy bynnag sy’n ostyngedig yn cael ei ddyrchafu.

13 “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n cau drysau Teyrnas y nefoedd i ddynion; oherwydd dydych chi’ch hunain ddim yn mynd i mewn, a dydych chi ddim yn caniatáu i’r rhai sydd ar eu ffordd i mewn fynd i mewn. 14 ——

15 “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n teithio dros y môr a’r tir sych i wneud un proselyt,* a phan fydd yn dod yn un, rydych chi’n ei wneud yn rhywun sy’n haeddu mynd i Gehenna* ddwywaith cymaint ag yr ydych chi’ch hunain.

16 “Gwae chi, arweinwyr dall, sy’n dweud, ‘Os oes unrhyw un yn gwneud llw yn enw’r deml, nid yw’n golygu dim; ond os ydy rhywun yn gwneud llw yn enw aur y deml, mae ef o dan orfodaeth.’ 17 Ffyliaid a phobl ddall! Pa un, mewn gwirionedd, sy’n fwy pwysig, yr aur neu’r deml a wnaeth sancteiddio’r aur? 18 Ar ben hynny, ‘Os oes unrhyw un yn gwneud llw yn enw’r allor, nid yw’n golygu dim; ond os ydy rhywun yn gwneud llw yn enw’r offrwm sydd arni, mae ef o dan orfodaeth.’ 19 Bobl ddall! Pa un, mewn gwirionedd, sy’n fwy pwysig, yr offrwm neu’r allor sy’n sancteiddio’r offrwm? 20 Felly, mae pwy bynnag sy’n gwneud llw yn enw’r allor yn gwneud llw yn enw’r allor ei hun ac yn enw pob peth sydd arni; 21 ac mae pwy bynnag sy’n gwneud llw yn enw’r deml yn gwneud llw yn enw’r deml ei hun ac yn enw’r Un sydd biau’r deml; 22 ac mae pwy bynnag sy’n gwneud llw yn enw’r nef yn gwneud llw yn enw gorsedd Duw ac yn enw’r Un sy’n eistedd arni.

23 “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n rhoi un rhan o ddeg* o’r mintys a llysiau’r gwewyr* a’r cwmin, ond rydych chi wedi anwybyddu pethau pwysicach y Gyfraith, sef, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb. Roedd yn angenrheidiol ichi wneud y pethau hyn, ond nid i anwybyddu’r pethau eraill. 24 Arweinwyr dall, sy’n tynnu’r gwybedyn allan o’ch diod ond yn llyncu’r camel!

25 “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n glanhau y tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ond ar y tu mewn maen nhw’n llawn trachwant a hunanfoddhad. 26 Pharisead dall, glanha yn gyntaf y tu mewn i’r cwpan a’r ddysgl, er mwyn i’r tu allan iddi fod yn lân hefyd.

27 “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n debyg i feddau sydd wedi eu gwyngalchu, sydd yn wir yn edrych yn hardd ar y tu allan ond ar y tu mewn maen nhw’n llawn esgyrn dynion sydd wedi marw a phob math o aflendid. 28 Yn yr un modd, ar y tu allan rydych chi’n ymddangos yn gyfiawn i ddynion, ond ar y tu mewn rydych chi’n llawn rhagrith a drygioni.

29 “Gwae chi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! oherwydd rydych chi’n adeiladu beddau’r proffwydi ac yn addurno beddrodau’r* rhai cyfiawn, 30 ac rydych chi’n dweud, ‘Petasen ni wedi byw yn nyddiau ein cyndadau, fydden ni ddim wedi eu helpu i dywallt* gwaed y proffwydi.’ 31 Felly, rydych chi’n tystiolaethu yn eich erbyn eich hunain eich bod chi’n feibion i’r rhai a lofruddiodd y proffwydi. 32 Os felly, gorffennwch y gweithredoedd a ddechreuodd eich cyndadau.*

33 “Nadroedd, gwiberod* ydych chi, sut byddwch chi’n ffoi rhag cael eich barnu a’ch taflu i Gehenna?* 34 Am y rheswm hwn, rydw i’n anfon atoch chi broffwydi a dynion doeth ac athrawon. Byddwch chi’n lladd rhai ohonyn nhw a’u dienyddio ar stanciau, a byddwch chi’n chwipio rhai ohonyn nhw yn eich synagogau ac yn eu herlid o ddinas i ddinas, 35 fel bod yr holl waed cyfiawn a gafodd ei dywallt* ar y ddaear yn dod arnoch chi, o waed y dyn cyfiawn Abel hyd at waed Sechareia fab Beracheia, a gafodd ei lofruddio gynnoch chi rhwng y cysegr a’r allor. 36 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd yr holl bethau hyn yn dod ar y genhedlaeth hon.

37 “Jerwsalem, Jerwsalem, yr un sy’n lladd y proffwydi ac yn llabyddio’r rhai a anfonwyd ati hi—mor aml roeddwn i eisiau casglu dy blant at ei gilydd fel mae iâr yn casglu ei chywion o dan ei hadenydd! Ond doeddech chi bobl ddim eisiau hynny. 38 Edrychwch! Mae eich tŷ yn cael ei adael yn adfail. 39 Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi, fyddwch chi ddim yn fy ngweld i, ar unrhyw gyfri, o hyn ymlaen nes ichi ddweud, ‘Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw Jehofa!’”

24 Tra oedd Iesu yn mynd allan o’r deml, daeth ei ddisgyblion ato i ddangos iddo adeiladau’r deml. 2 Atebodd yntau drwy ddweud wrthyn nhw: “Onid ydych chi’n gweld yr holl bethau hyn? Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, ni fydd carreg yn cael ei gadael yma ar garreg ar unrhyw gyfri heb gael ei bwrw i lawr.”

3 Tra oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato o’r neilltu, gan ddweud: “Dyweda wrthon ni, pryd bydd y pethau hyn yn digwydd, a beth fydd yr arwydd o dy bresenoldeb* ac o gyfnod olaf y system hon?”*

4 Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Gwyliwch nad oes neb yn eich camarwain, 5 oherwydd bydd llawer yn dod ar sail fy enw i, yn dweud, ‘Fi ydy’r Crist,’ ac yn camarwain llawer. 6 Rydych chi’n mynd i glywed am ryfeloedd a chlywed sôn am ryfeloedd. Peidiwch â dychryn, oherwydd mae’n rhaid i’r pethau hyn ddigwydd, ond dydy’r diwedd ddim eto.

7 “Oherwydd bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd ’na brinder bwyd a daeargrynfeydd yn un lle ar ôl y llall. 8 Dechrau cyfnod o boen* ydy’r holl bethau hyn.

9 “Yna bydd pobl yn eich erlid ac yn eich lladd chi, a bydd yr holl genhedloedd yn eich casáu chi o achos fy enw i. 10 Hefyd, bydd llawer yn cael eu baglu ac yn bradychu ei gilydd ac yn casáu ei gilydd. 11 Bydd llawer o gau broffwydi yn codi ac yn camarwain llawer; 12 ac oherwydd bod drygioni* yn cynyddu, bydd cariad y rhan fwyaf o bobl yn oeri. 13 Ond bydd yr un sydd wedi dyfalbarhau* hyd y diwedd yn cael ei achub. 14 A bydd y newyddion da hyn am y Deyrnas yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd yn dystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna bydd y diwedd yn dod.

15 “Felly, pan welwch chi’r peth ffiaidd sy’n achosi dinistr, yr hwn y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll mewn lle sanctaidd (gad i’r darllenwr ddefnyddio ei ddeall), 16 yna mae’n rhaid i’r rhai yn Jwdea ddechrau ffoi i’r mynyddoedd. 17 Mae’n rhaid i’r dyn ar ben y tŷ beidio â dod i lawr i fynd â’r eiddo allan o’i dŷ, 18 ac mae’n rhaid i’r dyn sydd yn y cae beidio â dod yn ôl i gymryd ei gôt. 19 Gwae’r merched* beichiog a’r rhai sy’n magu plant yn y dyddiau hynny! 20 Daliwch ati i weddïo na fyddwch chi’n gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar ddydd y Saboth; 21 oherwydd yr adeg honno bydd ’na drychineb mawr o’r fath sydd ddim wedi digwydd o ddechrau’r byd hyd nawr ac na fydd yn digwydd byth eto. 22 Yn wir, oni bai fod y dyddiau hynny yn cael eu torri’n fyr, ni fyddai neb yn cael ei achub; ond o achos y rhai sydd wedi eu dewis bydd y dyddiau hynny yn cael eu torri’n fyr.

23 “Yna os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Edrychwch! Dyma’r Crist,’ neu, ‘Dacw ef!’ peidiwch â chredu’r peth. 24 Oherwydd y bydd gau Gristiau a gau broffwydi yn codi a byddan nhw’n rhoi arwyddion mawr ac yn cyflawni pethau rhyfeddol er mwyn camarwain, os posib, hyd yn oed y rhai sydd wedi eu dewis. 25 Edrychwch! Rydw i wedi eich rhybuddio chi o flaen llaw. 26 Felly, os bydd pobl yn dweud wrthoch chi, ‘Edrychwch! Y mae yn yr anialwch,’ peidiwch â mynd allan; ‘Edrychwch! Y mae y tu mewn i’r tŷ,’* peidiwch â chredu’r peth. 27 Oherwydd fel y mae’r mellt yn dod o’r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd presenoldeb* Mab y dyn. 28 Le bynnag y bydd y corff marw, yno y bydd yr eryrod yn heidio at ei gilydd.

29 “Yn syth ar ôl trychineb y dyddiau hynny, bydd yr haul yn cael ei dywyllu, ac ni fydd y lleuad yn rhoi ei goleuni, a bydd y sêr yn syrthio o’r nef, a bydd grymoedd y nefoedd yn cael eu hysgwyd. 30 Yna bydd arwydd Mab y dyn yn ymddangos yn y nef, a bydd holl lwythau’r ddaear yn eu curo eu hunain mewn galar, a byddan nhw’n gweld Mab y dyn yn dod ar gymylau’r nef gyda grym a gogoniant mawr. 31 A bydd yn anfon ei angylion allan gyda sain trwmped mawr, a byddan nhw’n casglu at ei gilydd y rhai sydd wedi cael eu dewis o’r pedwar gwynt, o un eithaf i’r nefoedd hyd at eu heithaf arall.

32 “Nawr dysgwch y wers hon oddi wrth y goeden ffigys: Cyn gynted ag y bydd ei changen ifanc yn dyner ac yn deilio, rydych chi’n gwybod bod yr haf yn agos. 33 Felly chithau hefyd, pan welwch chi’r holl bethau hyn, fe fyddwch chi’n gwybod ei fod ef yn agos wrth y drysau. 34 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi na fydd y genhedlaeth hon ar unrhyw gyfri yn mynd heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd. 35 Bydd nef a daear yn mynd heibio, ond ni fydd fy ngeiriau i ar unrhyw gyfri yn mynd heibio.

36 “Ynglŷn â’r dydd hwnnw a’r awr honno does neb yn gwybod, nid angylion y nefoedd na’r Mab, dim ond y Tad. 37 Oherwydd yn union fel yr oedd dyddiau Noa, felly y bydd presenoldeb* Mab y dyn. 38 Oherwydd fel yr oedden nhw yn y dyddiau hynny cyn y Dilyw, yn bwyta ac yn yfed, dynion a merched* yn priodi, hyd nes y diwrnod yr aeth Noa i mewn i’r arch, 39 ac ni wnaethon nhw dalu sylw nes i’r Dilyw ddod a’u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd, felly y bydd presenoldeb Mab y dyn. 40 Yna y bydd dau ddyn yn y cae; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei adael ar ôl. 41 Bydd dwy ddynes* yn malu gwenith â melin law; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei gadael ar ôl. 42 Daliwch ati i fod yn wyliadwrus, felly, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pa ddydd y bydd eich Arglwydd yn dod.

43 “Ond meddyliwch am hyn: Petai perchennog y tŷ wedi gwybod pa amser o’r nos* yr oedd y lleidr yn dod, fe fyddai wedi aros yn effro a pheidio â gadael i’r lleidr dorri i mewn i’w dŷ. 44 Oherwydd hyn, dangoswch chithau hefyd eich bod chi’n barod, oherwydd bod Mab y dyn yn dod ar awr nad ydych chi’n ei disgwyl.

45 “Pwy yn wir yw’r gwas* ffyddlon a chall* a benodwyd gan ei feistr i fod yn gyfrifol am weision eraill y tŷ, i roi iddyn nhw eu bwyd ar yr amser iawn? 46 Hapus yw’r gwas hwnnw os yw ei feistr yn dod ac yn ei weld yn gwneud y gwaith hwn! 47 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd yn ei benodi i fod yn gyfrifol am ei holl eiddo.

48 “Ond petai’r gwas hwnnw yn ddrwg ac yn dweud yn ei galon, ‘Mae fy meistr yn oedi,’ 49 ac yn dechrau curo ei gyd-weision ac yn bwyta ac yn yfed gyda’r meddwon, 50 bydd meistr y gwas hwnnw yn dod ar ddiwrnod nad yw’n ei ddisgwyl ac ar awr nad yw’n ei gwybod, 51 a bydd ef yn ei gosbi â’r gosb fwyaf llym ac yn ei osod gyda’r rhagrithwyr. Yno y bydd yn wylo ac yn crensian ei ddannedd.

25 “Y pryd hynny bydd Teyrnas y nefoedd yn debyg i ddeg gwyryf a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod â’r priodfab. 2 Roedd pump ohonyn nhw’n ffôl, a phump yn gall.* 3 Roedd y rhai ffôl wedi cymryd eu lampau ond heb fynd ag olew gyda nhw, 4 ond roedd y rhai call wedi cymryd olew yn eu fflasgiau ynghyd â’u lampau. 5 Tra oedd y priodfab yn oedi, daethon nhw i gyd yn gysglyd a syrthio i gysgu. 6 Yng nghanol y nos dyma rywun yn gweiddi: ‘Dyma’r priodfab! Ewch allan i’w gyfarfod.’ 7 Yna cododd y gwyryfon hynny i gyd a pharatoi eu lampau. 8 Dywedodd y rhai ffôl wrth y rhai call, ‘Rhowch ychydig o’ch olew inni, oherwydd mae ein lampau ni ar fin diffodd.’ 9 Atebodd y rhai call gan ddweud: ‘Efallai na fydd digon i ni ac i chithau. Ewch yn hytrach i’r rhai sy’n ei werthu, a phrynu rhywfaint ohono i chi’ch hunain.’ 10 Tra oedden nhw’n mynd i’w brynu, fe ddaeth y priodfab. Aeth y gwyryfon a oedd yn barod i mewn gydag ef i’r wledd briodas, ac fe gafodd y drws ei gau. 11 Yn ddiweddarach, daeth gweddill y gwyryfon hefyd, gan ddweud, ‘Syr, Syr, agora’r drws inni!’ 12 Atebodd yntau drwy ddweud, ‘Rydw i’n dweud y gwir wrthoch chi, dydw i ddim yn eich adnabod chi.’

13 “Daliwch ati i fod yn wyliadwrus, felly, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod y dydd na’r awr.

14 “Oherwydd y mae fel dyn a oedd ar fin teithio dramor ac a alwodd ei weision ato a rhoi ei eiddo yn eu gofal. 15 Rhoddodd bum talent* i un, dwy i un arall, ac un i un arall eto, i bob un yn ôl ei allu ei hun, ac fe aeth dramor. 16 Ar unwaith fe aeth yr un a dderbyniodd bum talent a gwneud busnes â nhw ac ennill pum ychwanegol. 17 Yn yr un modd, gwnaeth yr un a dderbyniodd ddwy ennill dwy ychwanegol. 18 Ond gwnaeth y gwas* a dderbyniodd un yn unig fynd i ffwrdd a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr.

19 “Ar ôl amser maith, daeth meistr y gweision hynny a setlo’r cyfrifon gyda nhw. 20 Felly daeth yr un a dderbyniodd bum talent ymlaen a chyflwyno pum talent ychwanegol, gan ddweud, ‘Feistr, rhoist ti bum talent yn fy ngofal i; edrycha, rydw i wedi ennill pum talent arall.’ 21 Dywedodd ei feistr wrtho: ‘Da iawn ti, fy ngwas da a ffyddlon! Roeddet ti’n ffyddlon wrth ofalu am ychydig o bethau. Rydw i’n mynd i dy benodi di i ofalu am lawer o bethau. Tyrd i lawenhau gyda dy feistr.’ 22 Wedyn daeth yr un a dderbyniodd ddwy dalent ymlaen a dweud, ‘Feistr, rhoist ti ddwy dalent yn fy ngofal i; edrycha, rydw i wedi ennill dwy dalent arall.’ 23 Dywedodd ei feistr wrtho: ‘Da iawn ti, fy ngwas da a ffyddlon! Roeddet ti’n ffyddlon wrth ofalu am ychydig o bethau. Rydw i’n mynd i dy benodi di i ofalu am lawer o bethau. Tyrd i lawenhau gyda dy feistr.’

24 “Yn olaf daeth y gwas a dderbyniodd un dalent ymlaen a dweud: ‘Feistr, roeddwn i’n gwybod dy fod ti’n ddyn caled, yn medi lle nad oeddet ti wedi hau ac yn casglu lle nad oeddet ti wedi llafurio.* 25 Felly cododd ofn arna i a gwnes i fynd i guddio dy dalent yn y ddaear. Edrycha, rydw i’n ei rhoi yn ôl iti.’ 26 Atebodd ei feistr drwy ddweud wrtho: ‘Y gwas drwg a diog, roeddet ti’n gwybod, oeddet ti, fy mod i wedi medi lle nad oeddwn i wedi hau a chasglu lle nad oeddwn i wedi llafurio?* 27 Wel, dylet ti fod wedi rhoi fy arian yn y banc felly, ac ar ôl imi gyrraedd fe fyddwn i wedi ei dderbyn yn ôl gyda llog.

28 “‘Felly, cymerwch y dalent oddi arno a’i rhoi i’r un sydd â’r deg talent. 29 Oherwydd i bob un sydd ganddo, bydd mwy yn cael ei roi, a bydd ganddo fwy na digon. Ond yr un nad oes ganddo, bydd hyd yn oed yr hyn sydd ganddo yn cael ei gymryd oddi arno. 30 A thaflwch y gwas da i ddim i’r tywyllwch y tu allan. Yno y bydd yn wylo ac yn crensian ei ddannedd.’

31 “Pan fydd Mab y dyn yn dod yn ei ogoniant, a’r holl angylion gydag ef, yna fe fydd yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus. 32 Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu o’i flaen, a bydd ef yn gwahanu pobl, un oddi wrth y llall, yn union fel y mae bugail yn gwahanu’r defaid oddi wrth y geifr. 33 A bydd yn rhoi’r defaid ar ei law dde, ond y geifr ar ei chwith.

34 “Yna bydd y Brenin yn dweud wrth y rhai ar ei dde: ‘Dewch, chi sydd wedi cael eich bendithio gan fy Nhad, etifeddwch y Deyrnas sydd wedi ei pharatoi ar eich cyfer ers seilio’r byd. 35 Oherwydd roeddwn i wedi llwgu a gwnaethoch chi roi bwyd imi; roedd syched arna i a gwnaethoch chi roi diod imi. Roeddwn i’n ddieithr ichi a gwnaethoch chi fy nghroesawu i i’ch cartrefi; 36 yn noeth* a gwnaethoch chi roi dillad amdana i. Es i’n sâl a gwnaethoch chi ofalu amdana i. Roeddwn i yn y carchar a gwnaethoch chi ddod i fy ngweld i.’ 37 Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb â’r geiriau: ‘Arglwydd, pryd gwnaethon ni dy weld di’n llwgu a rhoi bwyd iti, neu’n sychedu a rhoi diod iti? 38 Pryd gwnaethon ni dy weld di’n ddieithr a dy groesawu di i’n cartrefi, neu’n noeth a rhoi dillad amdanat ti? 39 Pryd gwnaethon ni dy weld di’n sâl neu yn y carchar a dod i dy weld di?’ 40 Bydd y Brenin yn ateb drwy ddweud wrthyn nhw, ‘Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, oherwydd eich bod chi wedi helpu un o’r lleiaf o’r rhain fy mrodyr, rydych chi wedi fy helpu i.’

41 “Yna bydd yn dweud wrth y rhai ar ei chwith: ‘Ewch oddi wrtho i, chi sydd wedi cael eich melltithio, i’r tân tragwyddol sydd wedi ei baratoi i’r Diafol a’i angylion. 42 Oherwydd roeddwn i wedi llwgu, ond wnaethoch chi ddim rhoi bwyd imi; roedd syched arna i, ond wnaethoch chi ddim rhoi diod imi. 43 Roeddwn i’n ddieithr ichi, ond wnaethoch chi ddim fy nghroesawu i’ch cartrefi; yn noeth, ond wnaethoch chi ddim rhoi dillad amdana i; yn sâl ac yn y carchar, ond wnaethoch chi ddim gofalu amdana i.’ 44 Yna byddan nhwthau hefyd yn ateb â’r geiriau: ‘Arglwydd, pryd gwnaethon ni dy weld di’n llwgu neu’n sychedu neu’n ddieithr inni neu’n noeth neu’n sâl neu yn y carchar heb weini arnat ti?’ 45 Yna bydd ef yn eu hateb nhw, gan ddweud: ‘Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, oherwydd wnaethoch chi ddim helpu un o’r rhai lleiaf hyn, wnaethoch chi ddim fy helpu innau.’ 46 Bydd y rhain yn dioddef marwolaeth dragwyddol,* ond bydd y rhai cyfiawn yn derbyn bywyd tragwyddol.”

26 Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud yr holl bethau hyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion: 2 “Rydych chi’n gwybod bod y Pasg yn digwydd mewn dau ddiwrnod, a bydd Mab y dyn yn cael ei roi yn nwylo ei elynion i gael ei ddienyddio ar y stanc.”

3 Yna dyma’r prif offeiriaid a henuriaid y bobl yn dod at ei gilydd yng nghwrt yr archoffeiriad, sef Caiaffas, 4 a chynllwynio gyda’i gilydd i ddal* Iesu mewn ffordd gyfrwys ac i’w ladd. 5 Ond roedden nhw’n dweud: “Nid yn ystod yr ŵyl, er mwyn peidio ag achosi cynnwrf ymhlith y bobl.”

6 Tra oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglaf, 7 daeth dynes* ato gyda jar alabastr o olew persawrus drud, a dechreuodd hi ei dywallt* ar ei ben tra oedd yn bwyta. 8 Wrth weld hyn, aeth y disgyblion yn ddig a dweud: “Am wastraff! 9 Oherwydd gallai’r olew fod wedi cael ei werthu am lawer iawn o arian a’i roi i’r tlawd.” 10 Yn ymwybodol o hyn, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n poeni’r ddynes?* Mae hi wedi gwneud rhywbeth da imi. 11 Oherwydd mae’r tlawd gyda chi drwy’r amser, ond fydda innau ddim gyda chi drwy’r amser. 12 Pan roddodd hi’r olew persawrus hwn ar fy nghorff, roedd hi’n fy mharatoi ar gyfer fy nghladdu. 13 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, le bynnag y mae’r newyddion da hyn yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd, bydd yr hyn a wnaeth y ddynes* hon hefyd yn cael ei adrodd er cof amdani.”

14 Yna aeth un o’r Deuddeg, sef Jwdas Iscariot, at y prif offeiriaid 15 a dweud: “Beth rowch chi imi er mwyn ei fradychu ef i chi?” Dyma nhw’n cynnig 30 darn o arian iddo. 16 Felly o hynny ymlaen, roedd yn wastad yn edrych am gyfle da i’w fradychu.

17 Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, daeth y disgyblion at Iesu, gan ddweud: “Ble rwyt ti eisiau inni baratoi iti fwyta swper y Pasg?” 18 Dywedodd ef: “Ewch i mewn i’r ddinas at Hwn-a-hwn a dywedwch wrtho, ‘Mae’r Athro yn dweud: “Mae fy amser penodedig yn agos; bydda i’n dathlu’r Pasg gyda fy nisgyblion yn dy gartref.”’” 19 Felly dilynodd y disgyblion gyfarwyddyd Iesu a pharatoi ar gyfer y Pasg.

20 Ar ôl iddi nosi, roedd ef yn eistedd wrth y bwrdd gyda’r 12 disgybl. 21 Tra oedden nhw’n bwyta, dywedodd ef: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd un ohonoch chi’n fy mradychu i.” 22 Roedden nhw’n ofnadwy o drist oherwydd hyn, a dechreuodd pob un ohonyn nhw ddweud wrtho: “Arglwydd, nid fi yw’r un, nage?” 23 Atebodd yntau drwy ddweud: “Yr un sy’n dipio ei law gyda mi yn y bowlen ydy’r un a fydd yn fy mradychu. 24 Yn wir, mae Mab y dyn yn mynd i ffwrdd, yn union fel y mae’n ysgrifenedig amdano, ond gwae’r dyn hwnnw sy’n bradychu Mab y dyn! Byddai wedi bod yn well i’r dyn hwnnw petai heb gael ei eni.” 25 Dyma Jwdas, a oedd ar fin ei fradychu, yn ateb: “Nid fi yw’r un, nage, Rabbi?” Dywedodd Iesu wrtho: “Ti ddywedodd hynny.”

26 Wrth iddyn nhw barhau i fwyta, cymerodd Iesu dorth, ac ar ôl dweud bendith, torrodd y bara a’i roi i’w ddisgyblion gan ddweud: “Cymerwch, bwytewch. Mae hwn yn cynrychioli fy nghorff.”* 27 Ac yn cymryd cwpan, dyma’n diolch i Dduw ac yn ei roi iddyn nhw, gan ddweud: “Yfwch ohono, bob un ohonoch chi, 28 oherwydd mae hwn yn cynrychioli fy ngwaed, sef ‘gwaed y cyfamod,’ sydd am gael ei dywallt* er lles llawer o bobl er mwyn iddyn nhw gael maddeuant am eu pechodau. 29 Ond rydw i’n dweud wrthoch chi: Fydda i ddim ar unrhyw gyfri yn yfed y gwin hwn eto hyd y dydd hwnnw pan fydda i’n yfed gwin newydd gyda chi yn Nheyrnas fy Nhad.” 30 Wedyn, ar ôl canu mawl,* aethon nhw allan i Fynydd yr Olewydd.

31 Yna dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Byddwch chi i gyd yn cael eich baglu mewn cysylltiad â mi heno, oherwydd mae’n ysgrifenedig: ‘Bydda i’n taro’r bugail, a bydd defaid y praidd yn cael eu gwasgaru.’ 32 Ond ar ôl imi gael fy nghodi, bydda i’n mynd o’ch blaen chi i mewn i Galilea.” 33 Ond atebodd Pedr drwy ddweud wrtho: “Er i’r lleill i gyd gael eu baglu mewn cysylltiad â ti, fydda i byth yn cael fy maglu!” 34 Dywedodd Iesu wrtho: “Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti, ar y noson hon, cyn i geiliog ganu, byddi di’n fy ngwadu i dair gwaith.” 35 Dywedodd Pedr wrtho: “Hyd yn oed os bydd rhaid imi farw gyda ti, fydda i ddim yn dy wadu di ar unrhyw gyfri.” Dywedodd y disgyblion eraill i gyd yr un peth hefyd.

36 Yna daeth Iesu gyda nhw i’r lle o’r enw Gethsemane, a dywedodd wrth y disgyblion: “Eisteddwch yma tra bydda i’n mynd draw acw i weddïo.” 37 Cymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus, a dechreuodd deimlo’n drist iawn ac yn hynod o ofidus. 38 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Rydw i’n* ofnadwy o drist, hyd at farw. Arhoswch yma a chadwch yn effro gyda mi.” 39 Ac aeth ymlaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb, gan weddïo: “Fy Nhad, os yw’n bosib, gad i’r cwpan hwn fynd heibio oddi wrtho i. Fodd bynnag, paid â gadael i beth rydw i eisiau ddigwydd, ond beth rwyt ti eisiau.”

40 Daeth yn ôl at y disgyblion a’u gweld nhw’n cysgu, a dywedodd wrth Pedr: “Oni allech chi gadw’n effro am hyd yn oed un awr gyda mi? 41 Cadwch yn effro a gweddïwch yn barhaol, fel na fyddwch chi’n ildio i demtasiwn. Wrth gwrs, mae’r ysbryd yn awyddus,* ond mae’r cnawd yn wan.” 42 Aeth i ffwrdd am yr eildro a gweddïo: “Fy Nhad, os nad yw’n bosib i’r cwpan hwn fynd heibio oddi wrtho i heb imi yfed ohono, gad i dy ewyllys di ddigwydd.” 43 A daeth yn ôl eto a’u gweld nhw’n cysgu, oherwydd roedd eu llygaid yn drwm. 44 Felly gadawodd nhw, ac aeth i ffwrdd eto a gweddïo am y trydydd tro, gan ddweud yr un peth unwaith eto. 45 Yna daeth yn ôl at y disgyblion a dweud wrthyn nhw: “Ar adeg fel hon, rydych chi’n cysgu ac yn gorffwys! Edrychwch! Mae’r awr wedi dod i Fab y dyn gael ei fradychu a’i roi yn nwylo pechaduriaid. 46 Codwch, dewch inni fynd. Edrychwch! Mae’r un sy’n fy mradychu wedi agosáu.” 47 Tra oedd yn dal i siarad, edrycha! daeth Jwdas, un o’r Deuddeg, gyda thyrfa fawr yn cario cleddyfau a phastynau, a oedd wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl.

48 Roedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddyn nhw, gan ddweud: “Pwy bynnag rydw i’n ei gusanu, hwnnw ydy’r un; arestiwch ef a’i gymryd i ffwrdd.” 49 Ac aeth yn syth at Iesu, a dweud: “Cyfarchion, Rabbi!” a’i gusanu’n dyner. 50 Ond dywedodd Iesu wrtho: “Pam rwyt ti yma?” Yna daethon nhw ymlaen a gafael yn Iesu a’i arestio. 51 Ond edrycha! dyma un o’r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law a thynnu ei gleddyf a tharo caethwas yr archoffeiriad, gan dorri ei glust i ffwrdd. 52 Yna dywedodd Iesu wrtho: “Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy’n defnyddio’r cleddyf yn marw trwy’r cleddyf. 53 Neu wyt ti’n meddwl na alla i erfyn ar fy Nhad i roi imi ar y foment hon filoedd* o angylion? 54 Os felly, sut byddai’r Ysgrythurau yn cael eu cyflawni sy’n dweud bod rhaid iddi ddigwydd fel hyn?” 55 Yn yr awr honno dywedodd Iesu wrth y tyrfaoedd: “A ddaethoch chi allan i fy arestio gyda chleddyfau a phastynau fel yn erbyn lleidr? Ddydd ar ôl dydd roeddwn i’n arfer eistedd yn y deml yn dysgu, ond wnaethoch chi ddim fy arestio. 56 Ond mae hyn i gyd wedi digwydd er mwyn i ysgrythurau’r proffwydi gael eu cyflawni.” Yna gwnaeth y disgyblion i gyd ei adael a ffoi.

57 Gwnaeth y rhai a arestiodd Iesu ei gymryd i ffwrdd at Caiaffas yr archoffeiriad, lle roedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi dod at ei gilydd. 58 Ond gwnaeth Pedr barhau i’w ddilyn o bell, hyd at gwrt yr archoffeiriad, ac ar ôl mynd i mewn, eisteddodd gyda gweision y tŷ i weld beth fyddai’n digwydd.

59 Roedd y prif offeiriaid a’r holl Sanhedrin yn chwilio am gamdystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei roi i farwolaeth. 60 Ond chawson nhw ddim byd, er bod llawer o gau dystion wedi dod ymlaen. Yn ddiweddarach daeth dau ymlaen 61 a dweud: “Dywedodd y dyn hwn, ‘Rydw i’n gallu bwrw teml Duw i lawr a’i hadeiladu mewn tri diwrnod.’” 62 Ar hynny cododd yr archoffeiriad ar ei draed a dweud wrtho: “Onid wyt ti’n mynd i ateb? Beth am dystiolaeth y dynion hyn yn dy erbyn di?” 63 Ond arhosodd Iesu’n ddistaw. Felly dywedodd yr archoffeiriad wrtho: “Rydw i’n dy orchymyn di o dan lw i’r Duw byw i ddweud wrthon ni ai ti yw’r Crist, Mab Duw!” 64 Dywedodd Iesu wrtho: “Ti ddywedodd hynny. Ond rydw i’n dweud wrthot ti: O hyn ymlaen byddwch chi’n gweld Mab y dyn yn eistedd ar law dde yr Un Grymus* ac yn dod ar gymylau’r nef.” 65 Yna dyma’r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad, gan ddweud: “Mae wedi cablu! Pam mae angen mwy o dystion arnon ni? Edrychwch! Rydych chi newydd glywed ei gabledd. 66 Beth yw eich barn?” Atebon nhw: “Mae’n haeddu marw.” 67 Yna gwnaethon nhw boeri yn ei wyneb a’i ddyrnu. Gwnaeth eraill ei slapio yn ei wyneb, 68 gan ddweud: “Proffwyda inni, Grist. Pwy wnaeth dy daro di?”

69 Roedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cwrt, a daeth morwyn ato a dweud: “Roeddet tithau hefyd gyda Iesu’r Galilead!” 70 Ond dyma’n gwadu’r peth o flaen pawb, gan ddweud: “Dydw i ddim yn gwybod am beth rwyt ti’n sôn.” 71 Pan aeth ef allan i fynedfa’r cwrt, gwnaeth merch arall sylwi arno a dweud wrth y rhai oedd yno: “Roedd y dyn yma gyda Iesu’r Nasaread.” 72 Unwaith eto, dyma’n gwadu’r peth â llw: “Dydw i ddim yn adnabod y dyn!” 73 Ychydig wedyn, daeth y rhai a oedd yn sefyllian yno at Pedr a dweud wrtho: “Yn bendant, rwyt tithau hefyd yn un ohonyn nhw, oherwydd mae dy acen* yn dy fradychu di.” 74 Yna dechreuodd felltithio a mynd ar ei lw: “Dydw i ddim yn adnabod y dyn!” Ac ar unwaith dyma geiliog yn canu. 75 A chofiodd Pedr yr hyn a ddywedodd Iesu, sef: “Cyn i geiliog ganu, byddi di’n fy ngwadu i dair gwaith.” Ac fe aeth allan a chrio’n chwerw.

27 Pan ddaeth y bore, gwnaeth yr holl brif offeiriaid a henuriaid y bobl ymgynghori yn erbyn Iesu i’w roi i farwolaeth. 2 Ar ôl ei rwymo, aethon nhw ag ef i ffwrdd a’i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr.

3 Yna pan wnaeth Jwdas, y bradychwr, weld bod Iesu wedi cael ei gondemnio, teimlodd yn euog a daeth â’r 30 darn o arian yn ôl i’r prif offeiriaid a’r henuriaid, 4 gan ddweud: “Fe wnes i bechu trwy fradychu dyn dieuog.”* Dywedon nhw: “Beth yw hynny i ni? Dy broblem di yw hynny!” 5 Felly taflodd ef y darnau o arian i mewn i’r deml a gadael. Yna aeth i ffwrdd a’i grogi ei hun. 6 Ond cymerodd y prif offeiriaid y darnau o arian a dweud: “Dydy hi ddim yn gyfreithlon i’w rhoi nhw yn y drysorfa gysegredig, oherwydd pris gwaed ydyn nhw.” 7 Ar ôl iddyn nhw ymgynghori, defnyddion nhw’r arian i brynu cae’r crochenydd fel lle i gladdu pobl ddieithr. 8 Felly, mae’r cae hwnnw wedi cael ei alw Cae’r Gwaed hyd heddiw. 9 Yna cyflawnwyd yr hyn a gafodd ei ddweud drwy’r proffwyd Jeremeia: “A chymeron nhw’r 30 darn o arian, y pris a roddwyd ar y dyn, yr un y rhoddwyd pris arno gan rai o feibion Israel, 10 a’u rhoi nhw i brynu cae’r crochenydd, yn ôl yr hyn a orchmynnodd Jehofa i mi.”

11 Roedd Iesu’n sefyll nawr gerbron y llywodraethwr, a gofynnodd y llywodraethwr iddo: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu: “Ti sy’n dweud hynny.” 12 Ond tra oedd yn cael ei gyhuddo gan y prif offeiriaid a’r henuriaid, ni wnaeth ateb. 13 Yna dywedodd Peilat wrtho: “Onid wyt ti’n clywed faint o bethau maen nhw’n tystiolaethu yn dy erbyn di?” 14 Ond ni wnaeth roi ateb iddo, nid yr un gair, er syndod mawr i’r llywodraethwr.

15 Ar adeg Gŵyl y Pasg, roedd y llywodraethwr yn arfer rhyddhau carcharor i’r dyrfa, pwy bynnag roedden nhw’n ei ddewis. 16 Ar yr union adeg honno roedden nhw’n dal carcharor drwg-enwog o’r enw Barabbas. 17 Felly pan oedden nhw wedi dod at ei gilydd, dywedodd Peilat wrthyn nhw: “Pa un rydych chi eisiau imi ei ryddhau ichi, Barabbas neu Iesu sy’n cael ei alw Crist?” 18 Roedd Peilat yn ymwybodol eu bod nhw wedi ei drosglwyddo iddo oherwydd cenfigen. 19 Ar ben hynny, tra oedd yn eistedd ar sedd y barnwr, anfonodd ei wraig neges ato, gan ddweud: “Paid â chael dim byd i’w wneud â’r dyn cyfiawn hwnnw, oherwydd fy mod i wedi dioddef yn fawr heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef.” 20 Ond gwnaeth y prif offeiriaid a’r henuriaid berswadio’r tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas, ond i Iesu gael ei roi i farwolaeth. 21 Atebodd y llywodraethwr drwy ofyn iddyn nhw: “Pa un o’r ddau rydych chi eisiau imi ei ryddhau ichi?” Dywedon nhw: “Barabbas.” 22 Dywedodd Peilat wrthyn nhw: “Beth dylwn i ei wneud, felly, â Iesu sy’n cael ei alw Crist?” Dyma nhw i gyd yn dweud: “Lladda ef ar y stanc!” 23 Dywedodd ef: “Pam? Pa beth drwg mae wedi ei wneud?” Ond roedden nhw’n dal i weiddi yn uwch ac yn uwch: “Lladda ef ar y stanc!”

24 Pan welodd Peilat nad oedd yn gallu gwneud unrhyw beth, ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddŵr a golchi ei ddwylo o flaen y dyrfa, gan ddweud: “Rydw i’n ddieuog o waed y dyn hwn. Mae’n rhaid i chithau dderbyn cyfrifoldeb am hyn.” 25 Ar hynny atebodd y bobl i gyd drwy ddweud: “Gad i’w waed ddod arnon ni ac ar ein plant.” 26 Yna fe wnaeth ryddhau Barabbas iddyn nhw, ond gorchmynnodd i Iesu gael ei chwipio a’i roi yn nwylo’r milwyr er mwyn cael ei ddienyddio ar y stanc.

27 Yna gwnaeth milwyr y llywodraethwr gymryd Iesu i balas y llywodraethwr a chasglu ynghyd yr holl lu o filwyr o’i gwmpas. 28 Ac wedi ei ddadwisgo, rhoddon nhw glogyn ysgarlad amdano, 29 a phlethu coron o ddrain a’i rhoi am ei ben a rhoi corsen yn ei law dde. Ac ar ôl penlinio o’i flaen, dyma nhw’n gwneud sbort am ei ben, gan ddweud: “Cyfarchion, Frenin yr Iddewon!” 30 A gwnaethon nhw boeri arno a chymryd y gorsen a dechrau ei daro ar ei ben. 31 Yn olaf, ar ôl iddyn nhw wneud sbort am ei ben, tynnon nhw’r clogyn a rhoi ei ddillad ei hun amdano a mynd ag ef i ffwrdd i gael ei hoelio ar y stanc.

32 Fel yr oedden nhw’n mynd allan, daethon nhw ar draws dyn o Cyrene o’r enw Simon. Gwnaethon nhw orfodi’r dyn hwn i gario ei stanc dienyddio.* 33 A phan ddaethon nhw i le o’r enw Golgotha, hynny yw, Lle’r Benglog, 34 rhoddon nhw win iddo wedi ei gymysgu â rhywbeth chwerw; ond ar ôl ei flasu, gwrthododd ei yfed. 35 Pan oedden nhw wedi ei hoelio ar y stanc, gwnaethon nhw rannu ei ddillad drwy fwrw coelbren, 36 ac eisteddon nhw yno i’w wylio. 37 Gwnaethon nhw hefyd osod uwch ei ben y cyhuddiad yn ei erbyn, mewn ysgrifen: “Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon.”

38 Yna cafodd dau leidr eu rhoi ar stanciau wrth ei ochr, un ar ei dde ac un ar ei chwith. 39 Ac roedd y rhai a oedd yn pasio heibio yn siarad yn gas amdano, gan ysgwyd eu pennau 40 a dweud: “Ti a fyddai’n bwrw’r deml i lawr a’i hadeiladu hi mewn tri diwrnod, achuba dy hun! Os wyt ti’n fab i Dduw, tyrd i lawr oddi ar y stanc dienyddio!”* 41 Yn yr un modd hefyd, dechreuodd y prif offeiriaid gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid wneud sbort am ei ben, gan ddweud: 42 “Fe achubodd bobl eraill; ond nid yw’n gallu ei achub ei hun! Ef yw Brenin Israel; gad iddo nawr ddod i lawr oddi ar y stanc dienyddio,* a byddwn ni’n credu ynddo. 43 Rhoddodd ei hyder yn Nuw; gad iddo Ef nawr ei achub os yw Ef yn dymuno, oherwydd dywedodd, ‘Mab Duw ydw i.’” 44 Yn yr un modd, roedd hyd yn oed y lladron a oedd ar y stanciau wrth ei ochr yn ei sarhau.

45 O’r chweched awr* ymlaen, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd y nawfed awr.* 46 Tua’r nawfed awr, gwaeddodd Iesu â llais uchel, gan ddweud: “Eli, Eli, lama sabachthani?” hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam rwyt ti wedi fy ngadael i?” 47 O glywed hyn, dechreuodd rhai o’r bobl a oedd yn sefyll yno ddweud: “Mae’r dyn hwn yn galw ar Elias.” 48 Ac ar unwaith rhedodd un ohonyn nhw a chymryd sbwng a’i socian mewn gwin sur a’i roi ar gorsen a’i gynnig iddo i’w yfed. 49 Ond dywedodd y gweddill ohonyn nhw: “Gad lonydd iddo! Gadewch inni weld a fydd Elias yn dod i’w achub.” 50 Unwaith eto gwaeddodd Iesu â llais uchel a thynnu ei anadl olaf.*

51 Ac edrycha! rhwygodd llen y cysegr yn ddwy, o’r top i’r gwaelod, a chrynodd y ddaear, a holltodd y creigiau. 52 Ac agorodd y beddrodau,* a chododd llawer o gyrff y rhai sanctaidd a oedd wedi marw* 53 a gwnaeth llawer o bobl eu gweld nhw. (Ac ar ôl iddo gael ei atgyfodi, dyma’r rhai a aeth ymhlith y beddrodau yn dod i mewn i’r ddinas sanctaidd). 54 Ond pan wnaeth y swyddog o’r fyddin a’r rhai gydag ef a oedd yn gwylio Iesu weld y daeargryn a’r pethau a oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnyn nhw a dywedon nhw: “Yn bendant, Mab Duw oedd hwn.”

55 Ac roedd llawer o ferched* yno yn gwylio o bell, merched* a oedd wedi dilyn Iesu o Galilea er mwyn gweini arno; 56 yn eu plith roedd Mair Magdalen a Mair mam Iago a Joses* a mam meibion Sebedeus.

57 Nawr, oherwydd y byddai’r haul yn machlud yn fuan, daeth dyn cyfoethog o Arimathea, o’r enw Joseff, a oedd hefyd wedi dod yn ddisgybl i Iesu. 58 Aeth y dyn hwn at Peilat a gofyn am gorff Iesu. Yna gorchmynnodd Peilat i’r milwyr roi’r corff iddo. 59 Cymerodd Joseff y corff, a’i lapio mewn lliain main, glân, 60 a’i osod yn ei feddrod* newydd roedd ef wedi ei naddu yn y graig. Ac ar ôl rholio carreg fawr at geg y beddrod,* aeth i ffwrdd. 61 Ond gwnaeth Mair Magdalen a’r Fair arall ddal i aros yno, yn eistedd o flaen y bedd.

62 Y diwrnod wedyn, sef ar ôl y Paratoad, daeth y prif offeiriaid a’r Phariseaid at ei gilydd gerbron Peilat, 63 gan ddweud: “Syr, rydyn ni’n cofio beth ddywedodd y twyllwr hwnnw pan oedd yn dal yn fyw, ‘Ar ôl tri diwrnod rydw i am gael fy nghodi.’ 64 Felly, rho orchymyn i’r bedd gael ei warchod gan filwyr hyd y trydydd dydd, fel na all ei ddisgyblion ddod a’i ddwyn a dweud wrth y bobl, ‘Mae wedi cael ei godi o farw’n fyw!’ Yna bydd y twyll olaf yn waeth na’r cyntaf.” 65 Dywedodd Peilat wrthyn nhw: “Fe gewch chi filwyr. Ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch chi.” 66 Felly fe aethon nhw a gwneud y bedd yn ddiogel drwy selio’r garreg a gosod y milwyr yno i fod ar wyliadwriaeth.

28 Ar ôl y Saboth, pan oedd hi’n gwawrio ar ddydd cyntaf yr wythnos, daeth Mair Magdalen a’r Fair arall i edrych ar y bedd.

2 Ac edrycha! roedd daeargryn mawr wedi digwydd, oherwydd roedd angel Jehofa wedi dod i lawr o’r nef ac wedi rholio’r garreg i ffwrdd, ac roedd yn eistedd arni. 3 Roedd ei bryd a’i wedd fel mellten, a’i ddillad mor wyn ag eira. 4 Yn wir, oherwydd eu bod nhw’n ei ofni, crynodd y gwarchodwyr a daethon nhw’n debyg i ddynion marw.

5 Ond dywedodd yr angel wrth y merched:* “Peidiwch ag ofni, oherwydd rydw i’n gwybod eich bod chi’n chwilio am Iesu a gafodd ei ddienyddio ar y stanc. 6 Dydy ef ddim yma, oherwydd ei fod wedi cael ei godi, yn union fel y dywedodd yntau. Dewch, edrychwch ar y fan lle roedd yn gorwedd. 7 Yna ewch ar frys a dweud wrth ei ddisgyblion ei fod wedi cael ei godi o farw’n fyw, oherwydd edrychwch! mae’n mynd o’ch blaenau chi i Galilea. Fe welwch chi ef yno. Edrychwch! Dyma fy neges i chi.”

8 Felly, gan adael y beddrod* ar frys, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedon nhw i adrodd yr hanes wrth ei ddisgyblion. 9 Ac edrycha! gwnaeth Iesu gwrdd â nhw a dweud: “Sut rydych chi heddiw?” Aethon nhw ato a gafael yn ei draed ac ymgrymu* iddo. 10 Yna dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Peidiwch ag ofni! Ewch, rhowch wybod i fy mrodyr fel y gallan nhw fynd i Galilea, ac yno y byddan nhw’n fy ngweld i.”

11 Tra oedden nhw ar eu ffordd, aeth rhai o’r gwarchodlu i mewn i’r ddinas a dweud wrth y prif offeiriaid am bopeth a oedd wedi digwydd. 12 Ac ar ôl iddyn nhw ddod at ei gilydd gyda’r henuriaid ac ymgynghori, rhoddon nhw swm sylweddol o ddarnau arian i’r milwyr 13 a dweud: “Dywedwch, ‘Fe wnaeth ei ddisgyblion ddod yn ystod y nos a’i ddwyn tra oedden ni’n cysgu.’ 14 Ac os bydd y llywodraethwr yn clywed am hyn, fe wnawn ni egluro’r mater iddo* ac ni fydd rhaid i chithau boeni.” 15 Felly cymeron nhw’r darnau o arian a gwneud fel y cawson nhw eu cyfarwyddo, ac mae’r stori hon wedi cael ei lledaenu ymhlith yr Iddewon hyd heddiw.

16 Fodd bynnag, aeth yr 11 disgybl i Galilea i’r mynydd lle roedd Iesu wedi trefnu iddyn nhw gyfarfod. 17 Pan welson nhw ef, dyma nhw’n ymgrymu,* ond roedd rhai yn amau. 18 Aeth Iesu atyn nhw a dweud: “Mae pob awdurdod wedi cael ei roi i mi yn y nef ac ar y ddaear. 19 Ewch, felly, a gwnewch ddisgyblion o bobl o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio nhw yn enw’r Tad a’r Mab a’r ysbryd glân, 20 a’u dysgu nhw i gadw’r holl bethau rydw i wedi eu gorchymyn i chi. Ac edrychwch! rydw i gyda chi bob dydd hyd gyfnod olaf y system hon.”*

Neu “achau.”

Neu “y Meseia; yr Un Eneiniog.”

Neu “grym gweithredol.”

Dyma’r tro cyntaf o’r 237 o weithiau y mae’r enw dwyfol, Jehofa, yn ymddangos ym mhrif destun y fersiwn hwn o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Gweler Geirfa, “Jehofa.”

Yn cyfateb i’r enw Hebraeg Jesua, neu Josua, sy’n golygu “Jehofa Yw Achubiaeth.”

Gweler Geirfa.

Neu “magi.”

Neu “i blygu.”

Neu “y Meseia; yr Un Eneiniog.”

Neu “a phlygu.”

Hynny yw, “dyn o Nasareth.” Yn ôl pob tebyg, o’r ymadrodd Hebraeg “blaguryn.”

Neu “trochi.”

Neu “Epil gwiberod.”

Neu “yr un rydw i wedi ei gymeradwyo.”

Hynny yw, ysbryd Duw.

Neu “Ar ôl iddo ymprydio.”

Neu “bylchfur, parapet; pwynt uchaf.”

Neu “Rhanbarth y Deg Dinas.”

Neu “y rhai sy’n gardotwyr am yr ysbryd.”

Neu “llenwi.”

Neu “sy’n heddychlon.”

Neu “o dan fasged fesur.”

Y lle ar gyfer llosgi sbwriel y tu allan i Jerwsalem. Gweler Geirfa.

Lyth., “y cwadrans olaf.”

Neu “ar fenyw.”

Gweler Geirfa.

Gweler Geirfa.

Groeg, porneia. Gweler Geirfa.

Neu “menyw.”

Hynny yw, benthyca heb log.

Neu “yn gyflawn.”

Neu “rhoi rhoddion sy’n deillio o drugaredd.” Gweler Geirfa.

Neu “ei ystyried yn gysegredig; ei drin yn sanctaidd.”

Neu “yn esgeuluso eu pryd a’u gwedd.”

Neu “yn gweld yn glir.” Llyth., “yn syml.”

Neu “yn llawn goleuni.”

Llyth., “yn ddrwg.”

Neu “cufydd.”

Neu “sarff.”

Neu “a phlygu.”

Neu “Mae gan gadnoaid.”

Neu “y beddrodau coffa.”

Neu “plygu.”

Neu “dyma fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “blingo.”

Neu “yr un selog.”

Neu “dilledyn ychwanegol.”

Neu “seirff.”

Neu “sy’n dyfalbarhau.”

Neu “Beelsebub.” Enw a roddwyd ar Satan, tywysog, neu reolwr, y cythreuliaid.

Neu “bywyd,” hynny yw, y gobaith o fyw eto yn y dyfodol.

Gweler Geirfa.

Llyth., “am asarion.”

Roedd stanc yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dienyddio, ond yma mae’n amlwg yn cyfeirio at galedi a dioddefaint sy’n gysylltiedig â bod yn ddisgybl i Grist. Gweler Geirfa.

Neu “enaid.”

Neu “enaid.”

Neu “dillad o’r ansawdd gorau; dillad cain?”

Llyth., “o flaen dy wyneb.”

Neu “o fenywod.”

Neu “wnaethoch chi ddim curo eich brest wrth alaru.”

Neu “yn cael ei gyfiawnhau.”

Neu “gan ei ganlyniadau.”

Neu “o’i wyrthiau.”

Neu “Hades,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.

Neu “y bara gosod.”

Neu “halogi’r Saboth.”

Neu “wedi ei pharlysu.”

Neu “yr un rydw i wedi ei gymeradwyo!”

Enw a roddwyd ar Satan. Neu “Beelsebub.”

Llyth., “wedi dod arnoch chi.”

Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.

Neu “Epil gwiberod.”

Neu “ac anffyddlon.”

Neu “yng nghalon y ddaear.”

Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.

Neu “y medelwyr.”

Neu “menyw.”

Neu efallai, “ers seilio’r byd.”

Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.

Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.

Neu “yn debyg i dynrwyd; llysgrwyd.”

Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.

Llyth., “y tetrarch.”

Hynny yw, Herod Antipas. Gweler Geirfa.

Neu “porfa.”

Neu “menywod.”

Llyth., “roedd y cwch lawer o stadia o’r tir.” Roedd stadiwm yn gyfartal â 185 m (606.95 tr).

Llyth., “yn y bedwaredd wylfa o’r nos.”

Neu “blygu.”

Hynny yw, glanhau yn seremonïol.

Lluosog y gair Groeg porneia. Gweler Geirfa.

Hynny yw, heb eu glanhau yn seremonïol.

Neu “menyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “plygu.”

Neu “fenyw.”

Neu “menywod.”

Neu “anffyddlon.”

Llyth., “cig a gwaed.”

Neu “Hades,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.

Neu “goriadau.”

Roedd stanc yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dienyddio, ond yma mae’n amlwg yn cyfeirio at galedi a dioddefaint sy’n gysylltiedig â bod yn ddisgybl i Grist. Gweler Geirfa.

Neu “yn gyfnewid am ei fywyd?”

Neu “gweddnewidiwyd Iesu.”

Neu “yn wyn.”

Neu “yr un rydw i wedi ei gymeradwyo.”

Llyth., “y drachma dwbl.”

Llyth., “stater,” ystyrir mai hwn oedd y tetradrachma.

Neu “troi.”

Gweler Geirfa.

Neu efallai, “eich Tad.”

Llyth., “a’i geryddu.”

Llyth., “ceg.”

Roedd 10,000 o dalentau o arian yn gyfartal â 60,000,000 o ddenarii.

Neu “plygu.”

Neu “derfynau.”

Llyth., “ieuo.”

Groeg, porneia. Gweler Geirfa.

Neu “yn gyflawn.”

Hynny yw, tua 9:00 a.m.

Hynny yw, tua hanner dydd.

Hynny yw, tua 3:00 p.m.

Hynny yw, tua 5:00 p.m.

Llyth., “yn ddrwg; yn ddrygionus.”

Neu “hael.”

Neu “plygu.”

Neu “pridwerth.”

Neu “epil anifail gwaith.”

Mae’r gair “nhw” yn cyfeirio at y cotiau.

Llyth., “Hosanna.”

Neu “o darddiad dynol?”

Neu “gwinwryf.”

Llyth., “pen y gornel.”

Neu “ei ddal.”

Neu “iawn.”

Neu “y fenyw.”

Neu “menywod.”

Gweler Geirfa.

Neu “ehangu eu ffylacterau.”

Neu “gorau.”

Neu “Athro.”

Neu “i droi un person yn Iddew.”

Gweler Geirfa.

Neu “degwm.”

Planhigyn sy’n debyg i anis a ddefnyddir i roi blas ar fwyd.

Neu “beddrodau coffa.”

Neu “arllwys.”

Llyth., “llanwch fesur eich cyndadau.”

Neu “Seirff, epil gwiberod.”

Gweler Geirfa.

Neu “arllwys.”

Gweler Geirfa.

Neu “yr oes hon?” Gweler Geirfa.

Llyth., “o boenau geni; o wewyr esgor.”

Llyth., “anghyfraith,” hynny yw, dirmygu cyfreithiau Duw.

Neu “sy’n dyfalbarhau.”

Neu “menywod.”

Neu “yn yr ystafelloedd mewnol.”

Gweler Geirfa.

Gweler Geirfa.

Neu “menywod.”

Neu “dwy fenyw.”

Neu “ym mha wylfa.”

Neu “caethwas.”

Neu “doeth.”

Neu “yn ddoeth.”

Roedd talent Roegaidd yn gyfartal â 20.4 kg (654 oz t).

Neu “caethwas.”

Neu “nithio.”

Neu “nithio.”

Neu “mewn dillad annigonol.”

Neu “yn cael eu torri ymaith am byth.”

Neu “arestio.”

Neu “menyw.”

Neu “arllwys.”

Neu “y fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Llyth., “Hwn yw fy nghorff.”

Neu “arllwys.”

Neu “emynau; salmau.”

Neu “Mae fy enaid yn.”

Neu “yn barod.”

Llyth., “12 lleng.”

Llyth., “ar law dde grym.”

Neu “dy dafodiaeth.”

Llyth., “gwaed dieuog.”

Gweler Geirfa.

Gweler Geirfa.

Gweler Geirfa.

Hynny yw, tua hanner dydd.

Hynny yw, tua 3:00 p.m.

Neu “a bu farw.”

Neu “beddrodau coffa.”

Neu “wedi syrthio i gysgu mewn marwolaeth.”

Neu “o fenywod.”

Neu “menywod.”

Neu efallai, “Joseff.”

Neu “ei feddrod coffa.”

Neu “beddrod coffa.”

Neu “menywod.”

Neu “beddrod coffa.”

Neu “a phlygu.”

Neu “ei berswadio.”

Neu “plygu.”

Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu