YN ÔL MARC
1 Dechrau’r newyddion da am Iesu Grist, Fab Duw: 2 Yn union fel mae’n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia: “(Edrycha! Rydw i’n anfon fy negesydd o dy flaen di, a bydd ef yn paratoi’r ffordd i ti.) 3 Llais un yn galw yn yr anialwch: ‘Paratowch ffordd Jehofa!* Gwnewch ei lwybrau’n syth.’” 4 Roedd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn pregethu am fedydd sy’n symbol o edifeirwch am faddeuant pechodau. 5 Ac roedd pobl o holl diriogaeth Jwdea a holl drigolion Jerwsalem yn mynd allan ato, ac roedden nhw’n cael eu bedyddio* ganddo yn Afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau’n agored. 6 Nawr roedd Ioan yn gwisgo dillad o flew camel a belt lledr am ei ganol, ac roedd yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. 7 Ac roedd yn pregethu: “Mae rhywun cryfach na mi yn dod ar fy ôl i, a dydw i ddim yn deilwng i blygu i lawr a datod carrai* ei sandalau. 8 Gwnes i eich bedyddio chi â dŵr, ond fe fydd ef yn eich bedyddio chi â’r ysbryd glân.”
9 Yn ystod y dyddiau hynny, daeth Iesu o Nasareth yng Ngalilea ac fe gafodd ei fedyddio yn yr Iorddonen gan Ioan. 10 Ac wrth iddo ddod i fyny allan o’r dŵr, ar unwaith fe welodd y nefoedd yn cael eu hagor ac, fel colomen, yr ysbryd yn dod i lawr arno. 11 A daeth llais allan o’r nefoedd: “Ti yw fy Mab annwyl; rwyt ti wedi fy mhlesio i’n fawr iawn.”
12 Ac ar unwaith dyma’r ysbryd yn ei gymell i fynd i mewn i’r anialwch. 13 Felly arhosodd yn yr anialwch am 40 diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd ’na hefyd anifeiliaid gwyllt yn yr anialwch, ond roedd yr angylion yn gweini arno.
14 Nawr ar ôl i Ioan gael ei arestio, aeth Iesu i mewn i Galilea, yn pregethu newyddion da Duw 15 ac yn dweud: “Mae’r amser penodedig wedi cael ei gyflawni, ac mae Teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch, a rhowch ffydd yn y newyddion da.”
16 Wrth iddo gerdded ar lan Môr Galilea, fe welodd ef Simon a brawd Simon, Andreas, yn bwrw eu rhwydi i’r môr, oherwydd pysgotwyr oedden nhw. 17 Felly dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dewch ar fy ôl i, a bydda i’n eich gwneud chi’n bysgotwyr dynion.”* 18 Ac ar unwaith dyma nhw’n gadael eu rhwydi a’i ddilyn. 19 Ar ôl mynd ychydig ymhellach, fe welodd ef Iago fab Sebedeus a’i frawd Ioan, tra oedden nhw yn eu cwch yn trwsio eu rhwydi, 20 a heb oedi dyma’n eu galw nhw. Felly fe wnaethon nhw adael eu tad Sebedeus yn y cwch gyda’i weithwyr ac fe aethon nhw i ffwrdd ar ei ôl. 21 Ac fe aethon nhw i mewn i Gapernaum.
Unwaith i’r Saboth ddechrau, aeth ef i mewn i’r synagog a dechrau dysgu. 22 Ac roedden nhw’n rhyfeddu at ei ffordd o ddysgu, oherwydd ei fod yn eu dysgu nhw fel rhywun ag awdurdod, ac nid fel yr ysgrifenyddion. 23 Yn fwyaf sydyn, dyma ddyn yn eu synagog a oedd o dan rym ysbryd aflan yn gweiddi: 24 “Beth rwyt ti eisiau gynnon ni, Iesu’r Nasaread? Wyt ti wedi dod i’n dinistrio ni? Rydw i’n gwybod yn union pwy wyt ti, Un Sanctaidd Duw!” 25 Ond gwnaeth Iesu ei geryddu, gan ddweud: “Bydda’n ddistaw, tyrd allan ohono!” 26 Ac ar ôl i’r ysbryd aflan weiddi nerth ei ben ac achosi i’r dyn gael ffit, fe ddaeth allan ohono. 27 Wel, roedd y bobl wedi synnu gymaint nes iddyn nhw ddechrau trafod y peth ymhlith ei gilydd, gan ddweud: “Beth ydy hyn? Dysgeidiaeth newydd! Mae’n gorchymyn yn awdurdodol hyd yn oed yr ysbrydion aflan, ac maen nhw’n ufudd iddo.” 28 Felly gwnaeth yr adroddiad amdano ledaenu’n gyflym i bob cyfeiriad trwy holl ardal Galilea.
29 Ar hynny, gadawon nhw’r synagog a mynd i gartref Simon ac Andreas gyda Iago ac Ioan. 30 Nawr roedd mam yng nghyfraith Simon yn gorwedd i lawr yn sâl oherwydd twymyn, a gwnaethon nhw sôn wrtho amdani hi yn syth. 31 Aeth Iesu ati hi, a chymryd ei llaw a’i chodi hi i fyny. Dyma’r dwymyn yn ei gadael hi, a dechreuodd hi weini arnyn nhw.
32 Ar ôl iddi nosi, pan oedd yr haul wedi machlud, dechreuodd y bobl ddod â phawb a oedd yn sâl ac a oedd a chythreuliaid ynddyn nhw ato; 33 ac roedd pobl yr holl ddinas wedi dod at ei gilydd wrth y drws. 34 Felly fe wnaeth iacháu llawer o bobl a oedd yn sâl oherwydd gwahanol afiechydon, a bwrw allan lawer o gythreuliaid, ond nid oedd yn gadael i’r cythreuliaid siarad, oherwydd eu bod nhw’n gwybod mai’r Crist oedd ef.*
35 Yn gynnar yn y bore, tra oedd hi’n dal yn dywyll, cododd Iesu a mynd allan i le unig, a dechreuodd weddïo yno. 36 Fodd bynnag, gwnaeth Simon a’r rhai oedd gydag ef chwilio’n daer amdano 37 a dod o hyd iddo, a dywedon nhw wrtho: “Mae pawb yn chwilio amdanat ti.” 38 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Gadewch inni fynd i rywle arall, i mewn i’r trefi cyfagos, er mwyn imi bregethu yno hefyd, oherwydd dyma pam rydw i wedi dod.” 39 Ac fe aeth, yn pregethu yn eu synagogau drwy hyd a lled Galilea ac yn bwrw cythreuliaid allan.
40 Daeth dyn gwahanglwyfus ato hefyd, ac aeth y dyn ar ei liniau yn ymbil arno, gan ddweud wrtho: “Os wyt ti eisiau, gelli di fy ngwneud i’n lân.” 41 Ar hynny, teimlodd Iesu drueni drosto, ac estynnodd ei law a chyffwrdd â’r dyn, gan ddweud: “Rydw i eisiau! Bydda’n lân.” 42 Ar unwaith diflannodd y gwahanglwyf oddi arno, ac roedd y dyn yn lân. 43 Yna fe wnaeth ei rybuddio’n llym a’i anfon i ffwrdd ar unwaith, 44 gan ddweud wrtho: “Sicrha nad wyt ti’n dweud dim wrth neb, ond dos i ddangos dy hun i’r offeiriad ac offryma’r pethau y gwnaeth Moses eu gorchymyn er mwyn iti gael dy lanhau, fel tystiolaeth iddyn nhw.” 45 Ond ar ôl i’r dyn fynd i ffwrdd, dechreuodd gyhoeddi’r peth yn fawr iawn a lledaenu’r hanes yn eang, fel nad oedd Iesu’n gallu mynd i mewn i unrhyw ddinas bellach heb ddenu sylw, ond fe arhosodd y tu allan mewn llefydd unig. Ond eto roedden nhw’n dal i ddod ato o bob ochr.
2 Fodd bynnag, ar ôl rhai dyddiau aeth unwaith eto i mewn i Gapernaum, ac aeth y gair ar led ei fod gartref. 2 Ac fe wnaeth cymaint o bobl ymgasglu fel nad oedd lle i neb arall, hyd yn oed wrth y drws, a dechreuodd gyhoeddi’r gair iddyn nhw. 3 Ac fe ddaethon nhw â dyn wedi ei barlysu ato a phedwar dyn yn ei gario. 4 Ond doedden nhw ddim yn gallu dod ag ef yn agos at Iesu oherwydd y dyrfa, felly dyma nhw’n gwneud twll yn y to uwchben Iesu, ac yn gollwng y stretsier i lawr gyda’r dyn wedi ei barlysu yn gorwedd arno. 5 Pan welodd Iesu eu ffydd, dywedodd wrth y dyn a oedd wedi ei barlysu: “Fy mhlentyn, mae dy bechodau wedi cael eu maddau.” 6 Nawr, roedd rhai o’r ysgrifenyddion yno, yn eistedd ac yn rhesymu yn eu calonnau: 7 “Pam mae’r dyn hwn yn siarad fel hyn? Mae’n cablu. Onid Duw ydy’r unig un sy’n gallu maddau pechodau?” 8 Ond synhwyrodd Iesu ar unwaith eu bod nhw’n rhesymu fel hyn ymysg ei gilydd, felly dywedodd wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n rhesymu ar y pethau hyn yn eich calonnau? 9 Beth sy’n haws, dweud wrth y dyn sydd wedi ei barlysu, ‘Mae dy bechodau di wedi cael eu maddau,’ neu ddweud, ‘Cod a chymera dy stretsier a cherdda’? 10 Ond er mwyn ichi wybod bod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear—” dywedodd wrth y dyn wedi ei barlysu: 11 “Rydw i’n dweud wrthot ti, Cod, cymera dy stretsier, a dos adref.” 12 Ar hynny, cododd y dyn ac ar unwaith fe gymerodd ei stretsier a cherdded allan o flaen pob un ohonyn nhw. Roedden nhw i gyd yn syfrdan, ac yn gogoneddu Duw, gan ddweud: “Dydyn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn.”
13 Fe aeth allan eto wrth lan y môr, ac roedd yr holl dyrfa yn dal i ddod ato, a dechreuodd eu dysgu nhw. 14 Ac wrth iddo fynd heibio, fe welodd ef Lefi fab Alffeus yn eistedd yn y swyddfa dreth, a dywedodd wrtho: “Dilyna fi.” Ar hynny, cododd a dilynodd ef Iesu. 15 Yn nes ymlaen, roedd yn bwyta pryd o fwyd yn ei dŷ, ac roedd llawer o gasglwyr trethi a phechaduriaid yn bwyta gyda Iesu a’i ddisgyblion, oherwydd roedd llawer ohonyn nhw’n ei ddilyn ef. 16 Pan welodd ysgrifenyddion y Phariseaid ef yn bwyta gyda’r pechaduriaid a’r casglwyr trethi, dechreuon nhw ddweud wrth ei ddisgyblion: “Ydy ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” 17 Ar ôl clywed hyn, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Does dim angen meddyg ar y rhai sy’n gryf, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl. Rydw i wedi dod i alw, nid pobl gyfiawn, ond pechaduriaid.”
18 Nawr roedd disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio’n rheolaidd. Felly fe ddaethon nhw ato a dweud wrtho: “Pam mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio’n rheolaidd, ond dydy dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio’n rheolaidd?” 19 Felly dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Tra bydd y priodfab gyda nhw, does gan ffrindiau’r priodfab ddim rheswm dros ymprydio, nac oes? Cyn belled â bod y priodfab gyda nhw, dydyn nhw ddim yn gallu ymprydio. 20 Ond bydd dyddiau’n dod pan fydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, ac yna, byddan nhw’n ymprydio ar y dydd hwnnw. 21 Does neb yn gwnïo darn o frethyn newydd ar hen gôt. Os oes rhywun yn gwneud hynny, bydd y darn newydd yn tynnu oddi wrth yr hen ddarn, a’r rhwyg yn gwaethygu. 22 Hefyd, does neb yn rhoi gwin newydd mewn hen grwyn. Os oes rhywun yn gwneud hynny, bydd y gwin yn rhwygo’r crwyn, a bydd y gwin a’r crwyn yn cael eu colli. Ond mae gwin newydd yn cael ei roi i mewn i grwyn newydd.”
23 Nawr tra oedd ef yn mynd trwy’r caeau gwenith ar y Saboth, dechreuodd ei ddisgyblion dynnu’r tywysennau gwenith wrth fynd. 24 Felly dywedodd y Phariseaid wrtho: “Edrycha! Pam maen nhw’n gwneud rhywbeth sy’n anghyfreithlon ar y Saboth?” 25 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Onid ydych chi wedi darllen am beth wnaeth Dafydd pan oedd ef mewn angen a phan oedd ef a’r dynion gydag ef wedi llwgu? 26 Am sut, yn yr hanes am Abiathar y prif offeiriad, y gwnaeth fynd i mewn i dŷ Dduw a bwyta’r bara a oedd wedi ei gyflwyno i Dduw,* rhywbeth nad oedd yn gyfreithlon i unrhyw un ei fwyta heblaw am yr offeiriaid, ac fe roddodd hefyd ychydig o’r bara i’r dynion a oedd gydag ef?” 27 Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Daeth y Saboth i fodolaeth er mwyn dyn ac nid dyn er mwyn y Saboth. 28 Felly Mab y dyn ydy Arglwydd y Saboth hyd yn oed.”
3 Unwaith eto, aeth i mewn i’r synagog, ac roedd dyn yno a’i law wedi gwywo.* 2 Felly roedden nhw’n ei wylio’n ofalus i weld a fyddai’n iacháu’r dyn ar y Saboth, er mwyn dwyn cyhuddiad yn ei erbyn. 3 Dywedodd wrth y dyn â’r llaw a oedd wedi gwywo:* “Cod, tyrd i’r canol.” 4 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Ydy hi’n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth neu wneud drwg, achub bywyd* neu ladd?” Ond ni ddywedon nhw yr un gair. 5 Ar ôl edrych arnyn nhw’n ddig ac yn llawn tristwch oherwydd eu bod nhw mor galon-galed, dywedodd wrth y dyn: “Estynna dy law.” A dyma’n ei hestyn hi, ac fe gafodd ei law ei hiacháu. 6 Yna, aeth y Phariseaid allan ar unwaith a chyfarfod gyda chefnogwyr Herod, er mwyn cynllwynio i’w ladd.
7 Ond aeth Iesu gyda’i ddisgyblion i gyfeiriad y môr, a gwnaeth tyrfa fawr o Galilea a Jwdea ei ddilyn. 8 Hyd yn oed o Jerwsalem ac o Idwmea ac o’r ochr arall i’r Iorddonen ac o ardal Tyrus a Sidon, daeth tyrfa fawr ato ar ôl iddyn nhw glywed am yr holl bethau roedd yn eu gwneud. 9 A dywedodd wrth ei ddisgyblion am gael cwch bach yn barod iddo fel na fyddai’r dyrfa yn gwasgu arno. 10 Oherwydd ei fod wedi iacháu llawer, roedd pawb ag afiechydon difrifol yn gwthio ymlaen i gyffwrdd ag ef. 11 Roedd hyd yn oed yr ysbrydion aflan, pan fydden nhw’n ei weld, yn syrthio o’i flaen ac yn gweiddi: “Ti yw Mab Duw.” 12 Ond lawer gwaith gorchmynnodd ef yn llym iddyn nhw beidio â dweud pwy oedd ef.
13 Aeth i fyny mynydd a galw’r rhai roedd ef wedi eu dewis, a daethon nhw ato. 14 A dewisodd* 12 dyn, a galw’r grŵp hwn yn apostolion, y rhai a fyddai’n mynd gydag ef a’r rhai y byddai ef yn eu hanfon allan i bregethu 15 ac i gael yr awdurdod i fwrw cythreuliaid allan.
16 A’r 12 a gafodd eu dewis* gan Iesu oedd Simon, yr un roedd ef hefyd yn ei alw’n Pedr, 17 Iago fab Sebedeus ac Ioan brawd Iago (rhoddodd hefyd yr enw Boanerges arnyn nhw, sy’n golygu “Meibion y Daran”), 18 Andreas, Philip, Bartholomeus, Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Cananead,* 19 a Jwdas Iscariot, a wnaeth ei fradychu yn nes ymlaen.
Yna aeth i mewn i dŷ, 20 ac unwaith eto dyma’r dyrfa yn ymgasglu, fel nad oedden nhw’n gallu bwyta pryd o fwyd hyd yn oed. 21 Ond pan glywodd ei berthnasau am hyn, aethon nhw allan i afael ynddo, oherwydd eu bod nhw’n dweud: “Mae’n wallgof.” 22 Hefyd, roedd yr ysgrifenyddion a ddaeth i lawr o Jerwsalem yn dweud: “Mae Beelsebwl* ynddo, ac mae’n bwrw cythreuliaid allan drwy gyfrwng rheolwr y cythreuliaid.” 23 Felly, ar ôl eu galw nhw ato, siaradodd â nhw drwy ddefnyddio damhegion: “Sut gall Satan fwrw allan Satan? 24 Os bydd teyrnas yn ymrannu yn ei herbyn ei hun, dydy’r deyrnas honno ddim yn gallu sefyll; 25 ac os bydd tŷ yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, dydy’r tŷ hwnnw ddim yn gallu sefyll. 26 Hefyd, os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun, dydy ef ddim yn gallu sefyll ond mae hi ar ben arno. 27 Yn wir, ni all unrhyw un sy’n mynd i mewn i dŷ dyn cryf ddwyn ei eiddo oni bai ei fod yn gyntaf yn rhwymo’r dyn cryf hwnnw. Dim ond wedyn y gallai gymryd popeth o’i dŷ. 28 Yn wir, rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd popeth yn cael ei faddau i feibion dynion, ni waeth pa bechodau maen nhw’n eu cyflawni neu ba gableddau maen nhw’n eu dweud. 29 Ond, pwy bynnag sy’n cablu yn erbyn yr ysbryd glân, ni fydd byth yn cael maddeuant ond mae’n euog o bechod tragwyddol.” 30 Dywedodd hyn oherwydd eu bod nhw’n dweud: “Mae ysbryd aflan ynddo.”
31 Yna daeth ei fam a’i frodyr, ac wrth iddyn nhw sefyll y tu allan, dyma nhw’n anfon rhywun i mewn i’w alw. 32 Gan fod ’na dyrfa yn eistedd o’i amgylch, dywedon nhw wrtho: “Edrycha! Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn gofyn amdanat ti.” 33 Ond atebodd yntau: “Pwy ydy fy mam a fy mrodyr?” 34 Yna edrychodd ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o’i gwmpas a dweud: “Edrychwch, dyma fy mam a fy mrodyr! 35 Pwy bynnag sy’n gwneud ewyllys Duw, hwn ydy fy mrawd a fy chwaer a fy mam.”
4 Dechreuodd ddysgu eto ar lan y môr, a daeth tyrfa fawr iawn at ei gilydd yn agos ato. Felly fe aeth i mewn i gwch ac eistedd ynddo, i ffwrdd o’r lan, ond roedd y dyrfa gyfan wrth ymyl y môr, ar hyd y lan. 2 A dechreuodd ddysgu llawer o bethau iddyn nhw drwy ddefnyddio damhegion, a thra oedd yn dysgu, dywedodd wrthyn nhw: 3 “Gwrandewch. Edrychwch! Aeth y ffermwr allan i hau. 4 Tra oedd yn hau, syrthiodd rhai o’r hadau wrth ochr y ffordd, a daeth yr adar a’u bwyta nhw. 5 Syrthiodd eraill ar dir creigiog lle nad oedd llawer o bridd, a dyma nhw’n tyfu’n gyflym oherwydd nad oedd y pridd yn ddwfn. 6 Ond pan wnaeth yr haul godi, cawson nhw eu llosgi, a dyma nhw’n gwywo oherwydd nad oedd ganddyn nhw wreiddiau. 7 Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a’u tagu nhw, ac ni wnaethon nhw gynhyrchu unrhyw ffrwyth. 8 Ond syrthiodd eraill ar y pridd da, gan dyfu a chynyddu, a dechreuon nhw ddwyn ffrwyth, ac roedden nhw’n dwyn tri deg, chwe deg, a chanwaith cymaint.” 9 Yna fe ychwanegodd: “Gadewch i’r un sydd â chlustiau i wrando, wrando.”
10 Nawr, pan oedd ef ar ei ben ei hun, dyma’r rhai a oedd o’i gwmpas gyda’r Deuddeg yn dechrau ei gwestiynu am y damhegion. 11 Dywedodd ef wrthyn nhw: “I chi mae cyfrinach gysegredig Teyrnas Dduw wedi cael ei rhoi, ond i’r rhai ar y tu allan mae popeth yn cael ei gyflwyno trwy ddamhegion, 12 felly, er eu bod nhw’n edrych, fyddan nhw ddim yn gweld, ac er eu bod nhw’n clywed, fyddan nhw ddim yn deall; ac ni fyddan nhw byth yn troi yn ôl a derbyn maddeuant.” 13 Ar ben hynny, dywedodd wrthyn nhw: “Dydych chi ddim yn gwybod y ddameg hon, felly sut byddwch chi’n deall yr holl ddamhegion eraill?
14 “Mae’r ffermwr yn hau’r gair. 15 Felly dyma ydy’r rhai wrth ochr y ffordd lle mae’r gair yn cael ei hau; ond unwaith iddyn nhw ei glywed, mae Satan yn dod ac yn cipio’r gair a gafodd ei hau ynddyn nhw. 16 Yn yr un modd, dyma’r rhai a gafodd eu hau ar dir creigiog; unwaith iddyn nhw glywed y gair, maen nhw’n ei dderbyn yn llawen. 17 Does ganddyn nhw ddim gwreiddyn ynddyn nhw eu hunain, ond maen nhw’n parhau am ychydig; yna unwaith i dreial neu erledigaeth godi oherwydd y gair, maen nhw’n cael eu baglu. 18 Mae ’na eraill sy’n cael eu hau ymysg y drain. Dyma’r rhai sydd wedi clywed y gair, 19 ond mae pryderon y system hon* a grym twyllodrus cyfoeth a’r chwantau am bopeth arall yn dod i mewn i’w calonnau ac yn tagu’r gair, ac mae’n mynd yn ddiffrwyth. 20 Yn olaf, y rhai a gafodd eu hau ar y pridd da ydy’r rhai sy’n gwrando ar y gair ac yn ei groesawu ac yn dwyn ffrwyth—tri deg, chwe deg, a chanwaith cymaint.”
21 Hefyd, dywedodd wrthyn nhw: “Ydy pobl yn dod â lamp allan i’w rhoi hi o dan fasged neu o dan wely? Onid ydy pobl yn dod â hi allan i’w rhoi ar ei stand? 22 Oherwydd does dim byd sydd wedi ei guddio na fydd yn cael ei ddatgelu; does dim byd sydd wedi cael ei guddio’n ofalus na fydd yn dod i’r golwg. 23 Pwy bynnag sydd â chlustiau i wrando, gadewch iddo wrando.”
24 Aeth yn ei flaen i ddweud wrthyn nhw: “Talwch sylw i beth rydych chi’n ei glywed. Y mesur rydych chi’n ei ddefnyddio i roi i eraill, byddan nhw’n ei ddefnyddio i roi yn ôl i chi, yn wir, byddwch chi’n cael mwy yn ôl. 25 Oherwydd pwy bynnag sydd gan rywbeth, bydd mwy yn cael ei roi iddo, ond pwy bynnag nad oes gan rywbeth, bydd hyd yn oed yr hyn sydd ganddo yn cael ei gymryd oddi arno.”
26 Felly aeth yn ei flaen i ddweud: “Mae Teyrnas Dduw yn debyg i ddyn sy’n taflu hadau ar y llawr. 27 Mae’n cysgu yn y nos ac yn codi yn y bore, ac mae’r hadau’n egino ac yn tyfu’n dal—ond nid yw’n gwybod sut. 28 Ar ei phen ei hun mae’r ddaear yn dwyn ffrwyth yn raddol, yn gyntaf y coesyn, yna’r dywysen, yn olaf y gwenith llawn yn y dywysen. 29 Ond cyn gynted ag y mae’r cnwd yn caniatáu, mae’n bwrw’r cryman iddo, oherwydd bod amser y cynhaeaf wedi dod.”
30 Ac fe aeth ymlaen i ddweud: “Gyda beth y gallwn ni gymharu Teyrnas Dduw, neu gyda pha ddameg y gallwn ni ei hesbonio? 31 Mae’n debyg i hedyn mwstard, a phan gafodd ei hau yn y pridd, hwnnw oedd y lleiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear. 32 Ond ar ôl iddo gael ei hau, mae’n tyfu ac yn dod yn fwy na holl blanhigion eraill yr ardd ac mae’n cynhyrchu canghennau mawr, fel y gall adar y nef ddod o hyd i lety o dan ei gysgod.”
33 Drwy ddefnyddio llawer o’r fath ddamhegion fe ddysgodd gair Duw iddyn nhw, a hynny yn ôl eu gallu i ddeall. 34 Yn wir, ni fyddai’n siarad â nhw heb ddefnyddio damhegion, ond fe fyddai’n esbonio popeth i’w ddisgyblion yn breifat.
35 Ac ar y dydd hwnnw, ar ôl iddi nosi, dywedodd ef wrthyn nhw: “Gadewch inni groesi i ochr arall y môr.” 36 Felly ar ôl iddyn nhw anfon y dyrfa i ffwrdd, aethon nhw ag ef yn y cwch, ac roedd ’na gychod eraill gydag ef. 37 Nawr, cododd storm wyllt fawr o wynt, ac roedd y tonnau yn curo yn erbyn y cwch, nes bod y cwch bron yn llawn o ddŵr. 38 Ond roedd Iesu yn y starn, yn cysgu ar y glustog. Felly dyma nhw’n ei ddeffro a dweud wrtho: “Athro, dwyt ti ddim yn poeni ein bod ni ar fin marw?” 39 Gyda hynny, cododd i fyny a cheryddu’r gwynt a dweud wrth y môr: “Taw! Bydda’n ddistaw!” A dyma’r gwynt yn gostegu, ac roedd ’na dawelwch mawr. 40 Felly dywedodd ef wrthyn nhw: “Pam rydych chi mor ofnus? Oes gynnoch chi unrhyw ffydd o gwbl?” 41 Ond daeth ofn mawr iawn arnyn nhw, a dywedon nhw wrth ei gilydd: “Pwy yn wir ydy hwn? Mae hyd yn oed y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo.”
5 Yna daethon nhw i ochr draw y môr i mewn i ardal y Geraseniaid. 2 Ac yn syth ar ôl i Iesu ddod allan o’r cwch, dyma ddyn a oedd o dan rym ysbryd aflan yn dod ato o blith y beddrodau* i’w gyfarfod. 3 Roedd yn byw ymhlith y beddrodau, a hyd at yr amser hwnnw, doedd neb o gwbl wedi gallu ei rwymo’n sownd, hyd yn oed â chadwyn. 4 Roedd wedi cael ei glymu’n aml â rhwymau a chadwyni, ond fe wnaeth dorri’r cadwyni yn ddarnau a malu’r rhwymau; a doedd gan neb y nerth i’w rwystro. 5 Ac yn ddi-baid, nos a dydd, roedd yn gweiddi yn y beddrodau ac yn y mynyddoedd ac yn ei anafu ei hun â cherrig. 6 Ond pan welodd ef Iesu o bell, dyma’n rhedeg ac yn plygu i lawr o’i flaen. 7 Yna fe waeddodd â llais uchel: “Beth rwyt ti eisiau gen i, Iesu, Fab y Duw Goruchaf? Addo i mi o flaen Duw na fyddi di’n fy mhoenydio i.” 8 Oherwydd roedd Iesu wedi bod yn dweud wrtho: “Ysbryd aflan, tyrd allan o’r dyn.” 9 Ond gofynnodd Iesu iddo: “Beth ydy dy enw di?” Ac fe atebodd: “Fy enw i ydy Lleng, oherwydd bod ’na lawer ohonon ni.” 10 Ac roedd yn parhau i ymbil ar Iesu am iddo beidio ag anfon yr ysbrydion allan o’r wlad.
11 Nawr roedd ’na genfaint fawr o foch yn pori yno ar y mynydd. 12 Felly gwnaeth yr ysbrydion ymbil arno: “Anfona ni i mewn i’r moch, er mwyn inni allu mynd i mewn iddyn nhw.” 13 Ac fe roddodd ganiatâd iddyn nhw. Ar hynny daeth yr ysbrydion aflan allan a mynd i mewn i’r moch, a dyma’r genfaint yn rhuthro dros y dibyn i mewn i’r môr, tua 2,000 ohonyn nhw, a boddi yn y môr. 14 Ond gwnaeth y bugeiliaid ffoi ac adrodd y peth yn y ddinas ac yng nghefn gwlad, a daeth pobl i weld beth oedd wedi digwydd. 15 Felly daethon nhw at Iesu a gweld y dyn, yr un roedd y lleng wedi bod ynddo, yn eistedd â’i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll, a daeth ofn arnyn nhw. 16 Hefyd, gwnaeth y rhai a welodd y peth adrodd wrthyn nhw am sut digwyddodd hyn i’r dyn roedd y cythreuliaid wedi bod ynddo ac i’r moch. 17 Felly dechreuon nhw ymbil ar Iesu i fynd i ffwrdd o’u hardal nhw.
18 Nawr tra oedd Iesu’n mynd i mewn i’r cwch, dyma’r dyn roedd y cythreuliaid wedi bod ynddo yn erfyn arno i gael mynd gydag ef. 19 Fodd bynnag, ni roddodd ganiatâd iddo ond dywedodd wrtho: “Dos adref i dy berthnasau, ac adrodd iddyn nhw am yr holl bethau mae Jehofa wedi eu gwneud i ti a’r trugaredd mae wedi ei ddangos tuag atat ti.” 20 Aeth y dyn hwn i ffwrdd a dechrau cyhoeddi yn y Decapolis* yr holl bethau roedd Iesu wedi eu gwneud iddo, ac roedd yr holl bobl yn rhyfeddu.
21 Ar ôl i Iesu groesi unwaith eto mewn cwch i ochr arall y môr, daeth tyrfa fawr ato, ac roedd ef ar lan y môr. 22 Nawr daeth un o arweinwyr y synagog, o’r enw Jairus, ac wrth iddo weld Iesu, dyma’n syrthio wrth ei draed. 23 Fe wnaeth ymbil arno lawer gwaith, gan ddweud: “Mae fy merch fach yn ddifrifol wael.* Tyrd plîs a rho dy ddwylo arni er mwyn iddi wella a byw.” 24 Ar hynny aeth Iesu gydag ef, ac roedd ’na dyrfa fawr yn ei ddilyn ac yn gwasgu arno.
25 Nawr roedd ’na ddynes* a oedd wedi bod yn dioddef o waedlif am 12 mlynedd. 26 Roedd hi wedi dioddef yn fawr iawn dan ddwylo llawer o feddygon ac wedi gwario ei holl arian, a doedd hi ddim wedi gwella o gwbl ond, yn hytrach, wedi mynd yn waeth. 27 Pan glywodd hi’r adroddiadau am Iesu, daeth hi y tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd ei gôt, 28 oherwydd roedd hi’n dweud o hyd: “Os ydw i ond yn cyffwrdd â’i ddillad, bydda i’n gwella.” 29 Ac ar unwaith fe wnaeth ei gwaedlif sychu, ac roedd hi’n synhwyro yn ei chorff ei bod hi wedi cael ei hiacháu o’r salwch difrifol.
30 Ar unwaith sylweddolodd Iesu ynddo’i hun fod nerth wedi mynd allan ohono, a dyma’n troi yng nghanol y dyrfa a gofyn: “Pwy gyffyrddodd â fy nghôt?” 31 Ond dywedodd ei ddisgyblion wrtho: “Rwyt ti’n gweld y dyrfa yn gwasgu arnat ti, ac rwyt ti’n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’” 32 Fodd bynnag, roedd yn edrych o gwmpas i weld pwy oedd wedi gwneud hyn. 33 Roedd y ddynes* wedi dychryn ac yn crynu, gan wybod beth oedd wedi digwydd iddi, a dyma hi’n syrthio o’i flaen ac yn dweud y cwbl wrtho. 34 Dywedodd ef wrthi: “Fy merch, mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn heddwch, nawr dy fod ti wedi cael dy iacháu o dy salwch difrifol.”
35 Tra oedd ef yn siarad, daeth rhai dynion o gartref arweinydd y synagog a dweud: “Mae dy ferch di wedi marw! Pam rwyt ti’n poeni’r Athro bellach?” 36 Ond clywodd Iesu eu geiriau a dywedodd wrth arweinydd y synagog: “Paid ag ofni,* ond dylet ti ymarfer ffydd.” 37 Nawr ni wnaeth adael i unrhyw un ei ddilyn heblaw am Pedr, Iago, ac Ioan brawd Iago.
38 Felly daethon nhw i dŷ arweinydd y synagog, a gwelodd Iesu’r cynnwrf a’r bobl yn wylo’n uchel ac yn galaru. 39 Ar ôl mynd i mewn, dywedodd ef wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n wylo ac yn achosi’r cynnwrf yma? Dydy’r plentyn ddim wedi marw, cysgu mae hi.” 40 Ar hynny dechreuon nhw chwerthin yn ddirmygus am ei ben. Ond ar ôl eu hanfon nhw i gyd allan, dyma ef yn cymryd tad a mam y plentyn a’r rhai oedd gydag ef, a mynd i mewn i le roedd y plentyn. 41 Yna, gan gymryd llaw’r plentyn, dywedodd ef wrthi hi: “Talitha cwmi,” sy’n golygu o’i gyfieithu: “Fy merch fach, rydw i’n dweud wrthot ti, cod!” 42 Ac yn syth dyma’r ferch yn codi ac yn dechrau cerdded. (Roedd hi’n 12 mlwydd oed.) Ac ar unwaith roedden nhw ar ben eu digon oherwydd eu llawenydd mawr. 43 Ond gwnaeth Iesu eu gorchymyn nhw dro ar ôl tro* i beidio â gadael i neb glywed am hyn, a dywedodd y dylen nhw roi rhywbeth i’w fwyta iddi hi.
6 Gadawodd Iesu y lle hwnnw a mynd i mewn i’r ardal lle cafodd ei fagu, a gwnaeth ei ddisgyblion ei ddilyn. 2 Pan ddaeth y Saboth, dechreuodd ddysgu yn y synagog, ac roedd y rhan fwyaf a glywodd ef wedi rhyfeddu ac yn dweud: “O le cafodd y dyn yma y pethau hyn? Pam cafodd y dyn yma y doethineb hwn, a pham mae’n gallu gwneud gwyrthiau? 3 Onid hwn yw’r saer, mab Mair a brawd Iago, Joseff, Jwdas, a Simon? Ac onid ydy ei chwiorydd yma gyda ni?” Felly dechreuon nhw faglu oherwydd yr hyn roedd ef yn ei ddweud. 4 Ond dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei anrhydeddu ym mhob man heblaw yn ei fro ei hun ac ymhlith ei berthnasau ac yn ei gartref ei hun.” 5 Felly nid oedd yn gallu gwneud unrhyw weithredoedd nerthol yno heblaw am roi ei ddwylo ar ychydig o bobl sâl a’u hiacháu nhw. 6 Yn wir, roedd yn rhyfeddu at eu diffyg ffydd. Ac fe aeth o gwmpas yn y pentrefi cyfagos, yn dysgu.
7 Nawr, dyma’n galw’r Deuddeg ato ac yn dechrau eu hanfon nhw allan bob yn ddau, ac fe roddodd iddyn nhw awdurdod dros yr ysbrydion aflan. 8 Hefyd, gorchmynnodd iddyn nhw beidio â chario dim byd ar gyfer y daith heblaw am ffon—dim bara, dim bag bwyd, dim arian* yn eu beltiau— 9 ond i roi sandalau am eu traed ac nid i wisgo dau grys.* 10 Ar ben hynny, dywedodd wrthyn nhw: “Le bynnag rydych chi’n mynd i mewn i gartref, arhoswch yno nes y byddwch chi’n gadael y lle hwnnw. 11 Ac os na fydd rhywle yn eich derbyn chi nac yn gwrando arnoch chi, wrth ichi fynd allan o’r lle hwnnw, rhaid ichi ysgwyd y pridd oddi ar eich traed fel tystiolaeth iddyn nhw.” 12 Yna aethon nhw allan a phregethu bod rhaid i bobl edifarhau, 13 a gwnaethon nhw fwrw allan lawer o gythreuliaid a rhwbio olew ar lawer o bobl sâl a’u hiacháu nhw.
14 Nawr clywodd y Brenin Herod am hyn, oherwydd daeth enw Iesu’n adnabyddus, ac roedd pobl yn dweud: “Mae Ioan Fedyddiwr wedi cael ei godi o’r meirw, a dyna pam mae’r gweithredoedd nerthol yn gweithredu ynddo.” 15 Ond roedd eraill yn dweud: “Elias ydy ef.” Ac roedd eraill yn dweud: “Mae’n broffwyd fel un o’r proffwydi gynt.” 16 Ond pan glywodd Herod am hyn, dywedodd: “Yr Ioan gwnes i dorri ei ben, mae hwn wedi cael ei godi.” 17 Oherwydd gwnaeth Herod ei hun drefnu i Ioan gael ei arestio a’i rwymo yn y carchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, oherwydd iddo ei phriodi. 18 Oherwydd roedd Ioan wedi bod yn dweud wrth Herod: “Dydy hi ddim yn gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd.” 19 Felly roedd Herodias yn dal dig yn ei erbyn ac eisiau ei ladd, ond doedd hi ddim yn gallu. 20 Oherwydd roedd Herod yn ofni Ioan, gan wybod ei fod yn ddyn cyfiawn a sanctaidd, ac roedd yn ei gadw’n ddiogel. Ar ôl gwrando arno, doedd ganddo ddim clem beth i’w wneud, ond eto roedd yn mwynhau gwrando arno.
21 Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan wnaeth Herod baratoi swper ar ei ben-blwydd ar gyfer ei uwch swyddogion a chadlywyddion y fyddin a’r dynion mwyaf pwysig yng Ngalilea. 22 A daeth merch Herodias i mewn a dawnsio a phlesio Herod a’r rhai oedd yn bwyta* gydag ef. Dywedodd y brenin wrth y ferch: “Gofynna imi am unrhyw beth rwyt ti eisiau, a bydda i’n ei roi iti.” 23 A dyma’n gwneud llw iddi: “Beth bynnag rwyt ti’n gofyn imi amdano, bydda i’n ei roi iti, hyd at hanner fy nheyrnas.” 24 Felly aeth hi allan a dweud wrth ei mam: “Beth dylwn i ofyn amdano?” Dywedodd hithau: “Pen Ioan Fedyddiwr.” 25 Ar unwaith dyma hi’n rhuthro i mewn at y brenin a gofyn iddo: “Rydw i eisiau iti roi imi ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl yn syth.” 26 Er bod hyn wedi achosi iddo deimlo’n hynod o drist, doedd y brenin ddim eisiau diystyru’r hyn roedd hi wedi gofyn amdano, oherwydd ei lwon a’i westeion.* 27 Felly anfonodd y brenin warchodwr ar unwaith a gorchymyn iddo ddod â phen Ioan. Felly fe aeth i ffwrdd a thorri ei ben yn y carchar 28 a dod â’i ben ar ddysgl. Fe roddodd y ddysgl i’r ferch, a dyma’r ferch yn ei rhoi i’w mam. 29 Pan glywodd ei ddisgyblion am hyn, fe ddaethon nhw a chymryd ei gorff a’i roi i orwedd mewn beddrod.*
30 Daeth yr apostolion ac ymgasglu o gwmpas Iesu ac adrodd wrtho am yr holl bethau roedden nhw wedi eu gwneud a’u dysgu i eraill. 31 A dywedodd ef wrthyn nhw: “Dewch chi’ch hunain i le unig ichi gael ychydig o orffwys.” Oherwydd roedd ’na lawer yn mynd ac yn dod, a doedd ganddyn nhw ddim amser i gael pryd o fwyd hyd yn oed. 32 Felly aethon nhw i ffwrdd yn y cwch i le unig er mwyn bod ar eu pennau eu hunain. 33 Ond gwnaeth pobl eu gweld nhw’n mynd a daeth llawer i wybod am y peth, ac o’r holl ddinasoedd rhedon nhw gyda’i gilydd a chyrraedd yno o’u blaenau nhw. 34 Wel, pan ddaeth Iesu allan o’r cwch, fe welodd dyrfa fawr, ac roedd yn teimlo piti drostyn nhw, oherwydd eu bod nhw fel defaid heb fugail. A dechreuodd ddysgu llawer o bethau iddyn nhw.
35 Erbyn hyn roedd hi wedi mynd yn hwyr, a daeth ei ddisgyblion ato a dweud wrtho: “Lle unig ydy hwn, ac mae hi eisoes yn hwyr. 36 Anfona nhw i ffwrdd, er mwyn iddyn nhw fynd i’r wlad a’r pentrefi oddi amgylch a phrynu rhywbeth i’w fwyta iddyn nhw eu hunain.” 37 Atebodd ef: “Rhowch chithau rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” Ar hynny dywedon nhw wrtho: “A ddylen ni fynd i ffwrdd a phrynu gwerth 200 denariws o fara a’i roi i’r bobl i’w fwyta?” 38 Dywedodd wrthyn nhw: “Sawl torth sydd gynnoch chi? Ewch i edrych!” Ar ôl cael gwybod, dywedon nhw: “Pump, a dau bysgodyn hefyd.” 39 A dyma’n gorchymyn i’r holl bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt.* 40 Felly eisteddon nhw mewn grwpiau o 100 ac o 50. 41 Gan gymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, edrychodd i fyny i’r nef a dweud bendith. Yna dyma’n torri’r torthau ac yn dechrau eu rhoi nhw i’r disgyblion er mwyn eu rhoi nhw i’r bobl, a rhannodd y ddau bysgodyn rhwng pawb. 42 Felly gwnaethon nhw i gyd fwyta a chael digon, 43 a chodon nhw 12 basged yn llawn tameidiau, heb gynnwys y pysgod. 44 5,000 o ddynion a wnaeth fwyta’r torthau.
45 Yna, heb oedi, dywedodd wrth ei ddisgyblion am fynd i mewn i’r cwch a mynd o’i flaen i’r lan gyferbyn, tuag at Bethsaida, tra oedd ef ei hun yn anfon y dyrfa i ffwrdd. 46 Ond ar ôl dweud hwyl fawr wrthyn nhw, fe aeth i fyny mynydd i weddïo. 47 Ar ôl iddi nosi, roedd y cwch yng nghanol y môr, ond roedd ef ar ei ben ei hun ar y tir. 48 Felly pan welodd ef eu bod nhw’n cael trafferth rhwyfo, oherwydd bod y gwynt yn eu herbyn, rywbryd rhwng tri a chwech y bore* fe ddaeth atyn nhw, yn cerdded ar y môr; ond roedd yn bwriadu* mynd heibio iddyn nhw. 49 Pan welson nhw Iesu yn cerdded ar y môr, gwnaethon nhw feddwl: “Ysbryd sydd yna!” A dyma nhw’n gweiddi. 50 Oherwydd gwnaethon nhw i gyd ei weld ac roedden nhw wedi dychryn. Ond ar unwaith siaradodd ef â nhw a dweud: “Byddwch yn ddewr! Fi sydd yma; peidiwch ag ofni.” 51 Yna dringodd i mewn i’r cwch gyda nhw, a dyma’r gwynt yn tawelu. Roedden nhw’n rhyfeddu’n fawr at hyn, 52 oherwydd doedden nhw ddim wedi deall ystyr y torthau, ond roedd eu calonnau’n dal i gael trafferth deall.
53 Pan wnaethon nhw groesi at y tir, fe ddaethon nhw i Genesaret ac angori’r cwch wrth y lan. 54 Ond unwaith iddyn nhw ddod allan o’r cwch, roedd pobl yn ei adnabod. 55 Rhedon nhw o gwmpas yr holl ardal honno a dechrau dod â’r rhai oedd yn sâl at Iesu ar stretsieri. 56 Ac i le bynnag y byddai’n mynd i mewn i bentrefi neu i ddinasoedd neu i’r wlad, bydden nhw’n gosod y rhai sâl yn y marchnadoedd, a bydden nhw’n erfyn arno am iddyn nhw gael dim ond cyffwrdd ag ymyl ei gôt. Ac fe gafodd pawb a gyffyrddodd â’r gôt eu hiacháu.
7 Nawr dyma’r Phariseaid a rhai o’r ysgrifenyddion a oedd wedi dod o Jerwsalem yn ymgasglu o’i gwmpas. 2 A gwelson nhw rai o’i ddisgyblion yn bwyta eu pryd o fwyd â dwylo llygredig, hynny yw, doedden nhw ddim wedi eu golchi nhw.* 3 (Oherwydd dydy’r Phariseaid a’r holl Iddewon ddim yn bwyta oni bai eu bod nhw’n golchi eu dwylo hyd at y penelin, gan lynu wrth draddodiad dynion yr amseroedd gynt, 4 a phan fyddan nhw’n dod o’r farchnad, dydyn nhw ddim yn bwyta oni bai eu bod nhw’n ymolchi. Mae ’na lawer o draddodiadau eraill maen nhw wedi eu derbyn ac yn glynu wrthyn nhw, fel bedyddio cwpanau, jygiau, a llestri copr.) 5 Felly gwnaeth y Phariseaid a’r ysgrifenyddion hynny ofyn iddo: “Pam dydy dy ddisgyblion ddim yn cadw traddodiad ein cyndadau, ond maen nhw’n bwyta eu prydau o fwyd â dwylo llygredig?” 6 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Gwnaeth Eseia broffwydo’n iawn amdanoch chi ragrithwyr, fel mae’n ysgrifenedig, ‘Mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, ond mae eu calonnau’n bell oddi wrtho i. 7 Yn ofer maen nhw’n parhau i fy addoli i, oherwydd eu bod nhw’n dysgu gorchmynion dynion fel athrawiaethau.’ 8 Rydych chi’n gollwng eich gafael ar orchymyn Duw ac yn glynu wrth draddodiad dynion.”
9 Ar ben hynny, fe ddywedodd wrthyn nhw: “Rydych chi’n fedrus iawn yn y ffordd rydych chi’n diystyru gorchymyn Duw er mwyn cadw eich traddodiad. 10 Er enghraifft, dywedodd Moses, ‘Anrhydedda dy dad a dy fam,’ a, ‘Gad i’r sawl sy’n sarhau ei dad neu ei fam gael ei roi i farwolaeth.’ 11 Ond rydych chi’n dweud, ‘Os ydy dyn yn dweud wrth ei dad neu ei fam: “Corban (hynny yw, rhodd sydd wedi ei chysegru i Dduw) ydy beth bynnag sydd gen i a allai fod o fudd iti,”’ 12 dydych chi bellach ddim yn gadael iddo wneud unrhyw beth ar gyfer ei dad neu ei fam. 13 Felly rydych chi’n gwneud gair Duw yn ddiwerth drwy eich traddodiad, y traddodiad rydych chi wedi ei drosglwyddo i eraill. Ac rydych chi’n gwneud llawer o bethau fel hyn.” 14 Felly dyma’n galw’r dyrfa ato unwaith eto, a dweud wrthyn nhw: “Gwrandewch arna i, bawb, a deallwch yr ystyr. 15 Does dim byd sy’n dod o’r tu allan i ddyn ac sy’n mynd i mewn iddo yn gallu ei lygru; y pethau sy’n dod allan o ddyn ydy’r pethau sy’n ei lygru.” 16 ——
17 Nawr pan oedd ef wedi mynd i mewn i dŷ i ffwrdd o’r dyrfa, dechreuodd ei ddisgyblion ei gwestiynu am y ddameg. 18 Felly dywedodd wrthyn nhw: “Ydych chithau hefyd heb ddealltwriaeth? Onid ydych chi’n ymwybodol nad oes unrhyw beth sy’n dod o’r tu allan ac sy’n mynd i mewn i ddyn yn gallu ei lygru, 19 gan ei fod yn mynd, nid i mewn i’w galon, ond i mewn i’w stumog, ac yna’n dod allan?” Felly fe wnaeth ddatgan fod pob math o fwyd yn lân. 20 Ar ben hynny, dywedodd ef: “Yr hyn sy’n dod allan o ddyn ydy’r hyn sy’n ei lygru. 21 Oherwydd o’r tu mewn, allan o galon dynion, y daw rhesymu niweidiol: anfoesoldeb rhywiol,* lladrata, llofruddio, 22 gweithredoedd godinebus, bod yn farus, gweithredoedd drwg, twyll, ymddwyn heb gywilydd,* llygad cenfigennus, cabledd, balchder, a bod yn afresymol. 23 Mae’r holl bethau drwg yma yn dod o’r tu mewn i ddyn ac yn ei lygru.”
24 Cododd Iesu oddi yno ac fe aeth i mewn i ardal Tyrus a Sidon. Ac aeth i mewn i dŷ oherwydd doedd ddim eisiau i neb wybod ei fod wedi cyrraedd, ond eto fe ddaeth pobl i wybod. 25 Roedd ’na ddynes* a oedd â merch fach ag ysbryd aflan ynddi. Yn syth, clywodd y ddynes* am Iesu ac fe ddaeth hi a syrthio i lawr wrth ei draed. 26 Groeges oedd y ddynes,* yn dod o Phoenicia yn Syria; ac roedd hi’n dal ati i ofyn am iddo fwrw’r cythraul allan o’i merch. 27 Ond dywedodd ef wrthi hi: “Gad i’r plant fwyta digon yn gyntaf, oherwydd dydy hi ddim yn iawn i gymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn bach.” 28 Ond dyma hi’n ateb: “Ie, syr, ac eto mae hyd yn oed y cŵn bach o dan y bwrdd yn bwyta briwsion y plant bach.” 29 Ar hynny dywedodd ef wrthi hi: “Oherwydd dy fod ti wedi dweud hyn, dos; mae’r cythraul wedi mynd allan o dy ferch.” 30 Felly aeth hi i ffwrdd i’w chartref a dod o hyd i’r plentyn bach yn gorwedd ar y gwely, ac roedd y cythraul wedi mynd.
31 Pan ddaeth Iesu yn ôl o ardal Tyrus, fe aeth drwy Sidon at Fôr Galilea, drwy ardal y Decapolis.* 32 Yno gwnaethon nhw ddod â dyn byddar ato a oedd yn cael trafferth siarad, a gwnaethon nhw ymbil ar Iesu i osod ei law arno. 33 A dyma Iesu’n ei gymryd i’r ochr yn breifat, i ffwrdd o’r dyrfa. Yna fe roddodd ei fysedd i mewn i glustiau’r dyn, ac ar ôl poeri, cyffyrddodd â’i dafod. 34 Ac yn edrych i fyny i’r nef, anadlodd Iesu’n ddwfn a dywedodd wrtho: “Ephphatha,” hynny yw, “Agor.” 35 Ar hynny cafodd ei glustiau eu hagor, roedd yn gallu defnyddio ei dafod, a dechreuodd siarad yn glir. 36 Yna gorchmynnodd Iesu iddyn nhw beidio â dweud wrth neb, ond mwya’n y byd roedd ef yn eu gorchymyn nhw, mwya’n y byd roedden nhw’n cyhoeddi’r peth. 37 Yn wir, roedden nhw’n rhyfeddu’n fawr iawn, a dywedon nhw: “Mae popeth mae’n ei wneud yn arbennig. Mae hyd yn oed yn gwneud i’r bobl fyddar glywed ac i’r bobl sy’n methu siarad ddechrau siarad.”
8 Yn y dyddiau hynny, roedd ’na unwaith eto dyrfa fawr, a doedd ganddyn nhw ddim byd i’w fwyta. Felly galwodd y disgyblion ato a dweud wrthyn nhw: 2 “Rydw i’n teimlo piti dros y dyrfa, oherwydd maen nhw eisoes wedi bod gyda mi am dri diwrnod a does ganddyn nhw ddim byd i’w fwyta. 3 Os ydw i’n eu hanfon nhw adref yn llwgu, fe fyddan nhw’n mynd yn wan ac yn cwympo ar y ffordd, ac mae rhai ohonyn nhw wedi dod o bell i ffwrdd.” 4 Ond atebodd ei ddisgyblion ef: “O le bydd rhywun yn cael digon o fara yn y lle unig hwn i fwydo’r bobl hyn?” 5 Ar hynny, gofynnodd iddyn nhw: “Sawl torth sydd gynnoch chi?” “Saith,” medden nhw. 6 A gofynnodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr. Yna fe gymerodd y saith torth, dweud diolch i Dduw, eu torri nhw, a dechreuodd eu rhoi nhw i’w ddisgyblion eu dosbarthu, ac fe wnaethon nhw eu dosbarthu i’r dyrfa. 7 Roedd ganddyn nhw hefyd ychydig o bysgod bychain, ac ar ôl iddo eu bendithio nhw, fe ddywedodd wrthyn nhw am ddosbarthu’r rhain hefyd. 8 Felly fe wnaethon nhw fwyta a chael digon, a chodon nhw saith basged fawr yn llawn tameidiau a oedd dros ben. 9 Nawr roedd tua 4,000 o ddynion. Yna fe wnaeth eu hanfon nhw i ffwrdd.
10 Ar unwaith, aeth i mewn i’r cwch gyda’i ddisgyblion a dod i ardal Dalmanwtha. 11 Wedyn, daeth y Phariseaid a dechrau dadlau ag ef, yn mynnu ganddo arwydd o’r nef, i roi prawf arno. 12 Roedd Iesu’n teimlo’n drist iawn yn ei galon a dywedodd: “Pam mae’r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir rydw i’n dweud, ni fydd unrhyw arwydd yn cael ei roi i’r genhedlaeth hon.” 13 Ar hynny, fe wnaeth eu gadael nhw, mynd i’r cwch unwaith eto, a mynd i’r lan gyferbyn.
14 Fodd bynnag, fe wnaethon nhw anghofio mynd â bara gyda nhw, a doedd ganddyn nhw ddim byd yn y cwch oni bai am un dorth. 15 Ac fe wnaeth eu rhybuddio nhw yn blwmp ac yn blaen: “Cadwch eich llygaid yn agored; gwyliwch rhag lefain y Phariseaid a lefain Herod.” 16 Felly dechreuon nhw ddadlau â’i gilydd dros y ffaith nad oedd ganddyn nhw fara. 17 Gan sylwi ar hyn, dywedodd wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n ffraeo oherwydd does gynnoch chi ddim bara? Ydych chi eto heb sylweddoli a heb ddeall? Ydych chi’n dal i gael trafferth deall yn eich calonnau? 18 ‘Er bod gynnoch chi lygaid, onid ydych chi’n gweld; ac er bod gynnoch chi glustiau, onid ydych chi’n clywed?’ Onid ydych chi’n cofio 19 pan wnes i dorri’r pum torth ar gyfer y 5,000 o ddynion, faint o fasgedi yn llawn tameidiau y gwnaethoch chi eu casglu?” “Deuddeg,” medden nhw wrtho. 20 “Pan wnes i dorri’r saith torth ar gyfer y 4,000 o ddynion, faint o fasgedi mawr yn llawn o dameidiau y gwnaethoch chi eu codi?” “Saith,” medden nhw wrtho. 21 Gyda hynny, fe ddywedodd wrthyn nhw: “Onid ydych chi eto’n deall?”
22 Nawr fe ddaethon nhw i Bethsaida. Yma daeth pobl â dyn dall ato, ac roedden nhw’n erfyn arno i gyffwrdd ag ef. 23 A gafaelodd yn llaw’r dyn dall a mynd ag ef y tu allan i’r pentref. Ar ôl poeri ar ei lygaid, gosododd ei ddwylo arno a gofynnodd iddo: “Wyt ti’n gweld unrhyw beth?” 24 Edrychodd y dyn i fyny a dweud: “Rydw i’n gweld pobl, ond maen nhw’n edrych fel coed yn cerdded o gwmpas.” 25 Unwaith eto, gosododd ei ddwylo ar lygaid y dyn, ac roedd y dyn yn gweld yn glir. Cafodd ei olwg ei adfer, ac roedd yn gallu gweld popeth yn eglur. 26 Felly anfonodd ef adref, gan ddweud: “Paid â mynd i mewn i’r pentref.”
27 Aeth Iesu a’i ddisgyblion i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd dechreuodd gwestiynu ei ddisgyblion, gan ddweud: “Pwy mae pobl yn dweud ydw i?” 28 Dywedon nhw wrtho: “Ioan Fedyddiwr, ond mae eraill yn dweud Elias, ac eraill wedyn, un o’r proffwydi.” 29 A gofynnodd iddyn nhw: “Ond chithau, pwy ydych chi’n dweud ydw i?” Atebodd Pedr ef: “Ti ydy’r Crist.” 30 Ar hynny gorchmynnodd iddyn nhw beidio â dweud wrth neb amdano ar unrhyw gyfri. 31 Hefyd, dechreuodd eu dysgu nhw fod rhaid i Fab y dyn ddioddef llawer o bethau a chael ei wrthod gan yr henuriaid a’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion a chael ei ladd, a chodi dri diwrnod wedyn. 32 Yn wir, roedd yn gwneud y datganiad hwnnw yn gwbl agored. Ond cymerodd Pedr ef o’r neilltu a dechreuodd ei geryddu. 33 Ar hynny fe drodd Iesu, edrych ar ei ddisgyblion, a cheryddu Pedr, gan ddweud: “Dos y tu ôl imi, Satan! oherwydd dy fod ti’n meddwl, nid meddyliau Duw, ond meddyliau dynion.”
34 Galwodd nawr y dyrfa ato, ynghyd â’i ddisgyblion, a dweud wrthyn nhw: “Os oes unrhyw un eisiau dod ar fy ôl i, gadewch iddo ei wadu ei hun a chodi ei stanc dienyddio* a dal ati i fy nilyn i. 35 Oherwydd bydd pwy bynnag sydd eisiau achub ei fywyd yn ei golli, ond bydd pwy bynnag sy’n colli ei fywyd er fy mwyn i ac er mwyn y newyddion da yn ei achub. 36 Yn wir, os ydy dyn yn ennill yr holl fyd ond yn colli ei fywyd,* sut mae hynny’n fuddiol iddo? 37 Beth, mewn gwirionedd, fyddai dyn yn ei roi i achub ei fywyd?* 38 Oherwydd, pwy bynnag sy’n teimlo cywilydd ohono i a fy ngeiriau yn y genhedlaeth odinebus* a phechadurus hon, bydd Mab y dyn yn teimlo cywilydd o’r person hwnnw pan fydd yn dod yng ngogoniant ei Dad â’r angylion sanctaidd.”
9 Ar ben hynny, dywedodd ef wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi fod ’na rai ohonoch chi sy’n sefyll yma na fydd yn profi blas marwolaeth o gwbl hyd nes iddyn nhw yn gyntaf weld Teyrnas Dduw ar ôl iddi ddod mewn grym.” 2 Chwe diwrnod yn ddiweddarach dyma Iesu’n cymryd Pedr, Iago, ac Ioan a mynd â nhw i fyny mynydd uchel ar eu pennau eu hunain. Ac fe gafodd gwedd Iesu ei thrawsnewid* o’u blaenau nhw; 3 dechreuodd ei ddillad ddisgleirio, gan ddod yn fwy gwyn nag y byddai unrhyw lanhawr dillad ar y ddaear yn gallu eu gwynnu nhw. 4 Hefyd, ymddangosodd Elias ynghyd â Moses iddyn nhw, ac roedden nhw’n sgwrsio â Iesu. 5 Yna dywedodd Pedr wrth Iesu: “Rabbi, peth da yw inni fod yma. Gad inni godi tair pabell, un i ti, un i Moses, ac un i Elias.” 6 Yn wir, doedd ef ddim yn gwybod sut i ymateb, oherwydd eu bod nhw wedi dychryn gymaint. 7 A dyma gwmwl yn ffurfio ac yn eu gorchuddio nhw, a daeth llais allan o’r cwmwl: “Hwn ydy fy Mab annwyl. Gwrandewch arno.” 8 Ac yn sydyn, edrychon nhw o gwmpas a gweld doedd neb gyda nhw mwyach oni bai am Iesu.
9 Wrth iddyn nhw ddod i lawr o’r mynydd, fe orchmynnodd iddyn nhw’n llym i beidio ag adrodd wrth neb am yr hyn roedden nhw wedi ei weld hyd nes y byddai Mab y dyn wedi cael ei atgyfodi o’r meirw. 10 Cymeron nhw’r hyn a ddywedodd o ddifri,* ond roedden nhw’n trafod ymhlith ei gilydd beth roedd yr atgyfodi hwn o’r meirw yn ei olygu. 11 A dechreuon nhw ei holi, gan ddweud: “Pam mae’r ysgrifenyddion yn dweud bod rhaid i Elias ddod yn gyntaf?” 12 Dywedodd wrthyn nhw: “Mae Elias yn dod yn gyntaf ac yn adfer pob peth; ond sut mae’n ysgrifenedig am Fab y dyn, ei fod yn gorfod dioddef llawer o bethau a chael ei drin mewn ffordd ddirmygus? 13 Ond rydw i’n dweud wrthoch chi fod Elias, yn wir, wedi dod ac fe wnaethon nhw iddo beth bynnag roedden nhw eisiau ei wneud, yn union fel mae’n ysgrifenedig amdano.”
14 Pan ddaethon nhw at y disgyblion eraill, fe sylwon nhw ar dyrfa fawr o’u cwmpas nhw, ac roedd ’na ysgrifenyddion yn dadlau â nhw. 15 Ond cyn gynted ag y gwelodd yr holl dyrfa ef, roedden nhw wedi syfrdanu, a rhedon nhw ato i’w gyfarch. 16 Felly gofynnodd iddyn nhw: “Beth rydych chi’n dadlau â nhw amdano?” 17 Ac atebodd un o’r dyrfa ef: “Athro, rydw i wedi dod â fy mab atat ti oherwydd bod ’na ysbryd mud ynddo. 18 Le bynnag y mae hwnnw yn gafael ynddo, mae’n ei daflu ar y llawr, ac mae ewyn yn dod allan o’i geg ac mae’n crensian ei ddannedd ac yn colli ei gryfder. Gofynnais i dy ddisgyblion i’w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu gwneud hynny.” 19 Atebodd drwy ddweud wrthyn nhw: “O genhedlaeth ddi-ffydd, am faint mae’n rhaid imi barhau gyda chi? Am faint mae’n rhaid imi eich goddef chi? Dewch ag ef ata i.” 20 Felly daethon nhw â’r bachgen ato ond, o’i weld, achosodd yr ysbryd i’r plentyn gael ffitiau ar unwaith. Ac ar ôl syrthio ar y llawr, roedd yn dal i rolio o gwmpas, ac ewyn yn dod allan o’i geg. 21 Yna gofynnodd Iesu i’r tad: “Ers faint mae hyn wedi bod yn digwydd iddo?” Dywedodd yntau: “O’i blentyndod, 22 ac yn aml y byddai’n ei daflu i mewn i’r tân a hefyd i mewn i’r dŵr i’w ladd. Ond os wyt ti’n gallu gwneud rhywbeth, bydda’n dosturiol wrthon ni a helpa ni.” 23 Dywedodd Iesu wrtho: “Pam rwyt ti’n dweud, ‘Os wyt ti’n gallu’? Yn wir, mae pob peth yn bosib i’r sawl sydd â ffydd.” 24 Ar unwaith, gwaeddodd tad y plentyn a dweud: “Mae gen i ffydd! Helpa fi i gael mwy o ffydd!”
25 Gan fod Iesu wedi sylwi bod ’na dyrfa yn rhuthro tuag atyn nhw, ceryddodd yr ysbryd aflan, gan ddweud wrtho: “Yr ysbryd mud a byddar, rydw i’n gorchymyn iti, tyrd allan ohono a phaid â mynd i mewn iddo eto!” 26 Ar ôl gweiddi a dioddef llawer o ffitiau, daeth allan, ac roedd y plentyn yn ymddangos fel petai wedi marw, nes i’r rhan fwyaf o’r bobl ddweud: “Mae wedi marw!” 27 Ond gafaelodd Iesu yn ei law a’i godi, a safodd ar ei draed. 28 Felly ar ôl iddo fynd i mewn i dŷ, gofynnodd ei ddisgyblion iddo’n breifat: “Pam nad oedden ni’n gallu ei fwrw allan?” 29 Dywedodd wrthyn nhw: “Dim ond drwy weddi y gall y math hwn ddod allan.”
30 Fe wnaethon nhw adael y lle hwnnw a theithio drwy Galilea, ond doedd ef ddim eisiau i neb wybod am y peth. 31 Oherwydd roedd yn dysgu ei ddisgyblion ac yn dweud wrthyn nhw: “Mae Mab y dyn yn mynd i gael ei fradychu a’i roi yn nwylo dynion, a byddan nhw’n ei ladd, ond er iddo gael ei ladd, bydd ef yn codi dri diwrnod yn ddiweddarach.” 32 Fodd bynnag, doedden nhw ddim yn deall yr hyn a ddywedodd, ac roedden nhw’n ofni ei holi.
33 Ac fe ddaethon nhw i Gapernaum. Pan oedd y tu mewn i’r tŷ, gofynnodd gwestiwn iddyn nhw: “Beth roeddech chi’n ffraeo amdano ar y ffordd?” 34 Arhoson nhw’n dawel, oherwydd ar y ffordd roedden nhw wedi bod yn dadlau ymhlith ei gilydd am bwy oedd y mwyaf pwysig. 35 Felly eisteddodd i lawr a galw’r Deuddeg a dweud wrthyn nhw: “Os ydy rhywun eisiau bod yn gyntaf, mae’n rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn weinidog i bawb.” 36 Yna cymerodd blentyn bach a’i osod yn eu canol nhw; cymerodd y plentyn yn ei freichiau, a dywedodd wrthyn nhw: 37 “Mae pwy bynnag sy’n derbyn y plentyn bach hwn ar sail fy enw i yn fy nerbyn innau hefyd; ac mae pwy bynnag sy’n fy nerbyn i hefyd yn derbyn yr Un a wnaeth fy anfon i.”
38 Dywedodd Ioan wrtho: “Athro, fe welson ni rywun yn bwrw cythreuliaid allan yn defnyddio dy enw, ac fe wnaethon ni geisio ei rwystro, am nad oedd yn ein dilyn ni.” 39 Ond dywedodd Iesu: “Peidiwch â cheisio ei rwystro, oherwydd fydd neb sy’n gwneud gwyrth ar sail fy enw i yn gallu dweud unrhyw beth drwg amdana i yn fuan wedyn. 40 Oherwydd mae pwy bynnag sydd ddim yn ein herbyn ni o’n plaid ni. 41 A phwy bynnag sy’n rhoi cwpanaid o ddŵr i chi i’w yfed oherwydd eich bod chi’n perthyn i Grist, rydw i’n dweud wrthoch chi’n wir, ni fydd hwnnw ar unrhyw gyfri yn colli ei wobr. 42 Ond pwy bynnag sy’n baglu un o’r rhai bychain hyn sydd â ffydd, byddai’n well iddo petai maen melin sy’n cael ei droi gan asyn yn cael ei roi am ei wddf ac yntau’n cael ei fwrw i mewn i’r môr.
43 “Os ydy dy law yn gwneud iti faglu, torra hi i ffwrdd. Mae’n well iti dderbyn bywyd wedi dy anafu na mynd i ffwrdd â dwy law i mewn i Gehenna,* i mewn i’r tân na all gael ei ddiffodd. 44 —— 45 Ac os ydy dy droed yn gwneud iti faglu, torra ef i ffwrdd. Mae’n well iti dderbyn bywyd yn gloff na chael dy daflu â dau droed i mewn i Gehenna.* 46 —— 47 Ac os ydy dy lygad yn gwneud iti faglu, tafla ef i ffwrdd. Mae’n well iti fynd i mewn ag un llygad i Deyrnas Dduw na chael dy daflu â dau lygad i mewn i Gehenna,* 48 lle dydy’r cynrhonyn ddim yn marw na’r tân yn diffodd.
49 “Oherwydd mae’n rhaid i bawb gael ei halltu â thân. 50 Da ydy halen, ond os ydy’r halen yn colli ei flas hallt, sut byddwch chi’n cael ei flas hallt yn ôl? Dylech chi gael halen ynoch chi’ch hunain, a chadwch heddwch gyda’ch gilydd.”
10 Cododd oddi yno a daeth i ffiniau Jwdea yr ochr draw i’r Iorddonen, ac eto daeth y tyrfaoedd ato. Yn ôl ei arfer, dechreuodd eu dysgu nhw unwaith eto. 2 A daeth Phariseaid ato, yn bwriadu ei roi o dan brawf, a gofynnon nhw a oedd hi’n gyfreithlon i ddyn ysgaru ei wraig. 3 Atebodd ef: “Beth gwnaeth Moses ei orchymyn ichi?” 4 Dywedon nhw: “Caniataodd Moses i ysgrifennu tystysgrif ysgariad a’i hysgaru hi.” 5 Ond dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Oherwydd eich bod chi’n galon-galed, ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichi. 6 Ond, o ddechreuad y greadigaeth, ‘Fe wnaeth eu creu nhw’n wryw a benyw. 7 Am y rheswm hwn, bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, 8 a bydd y ddau yn un cnawd,’ fel na fyddan nhw’n ddau bellach, ond yn un cnawd. 9 Felly, yr hyn mae Duw wedi ei uno, ni ddylai’r un dyn ei wahanu.” 10 Pan oedden nhw yn y tŷ unwaith eto, dechreuodd y disgyblion ei gwestiynu am hyn. 11 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae pwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig ac sy’n priodi un arall yn godinebu yn ei herbyn hi, 12 a phetai dynes,* ar ôl iddi ysgaru ei gŵr, yn priodi rhywun arall, mae hi’n godinebu.”
13 Nawr dechreuodd pobl ddod â phlant bach ato er mwyn iddo gyffwrdd â nhw, ond gwnaeth y disgyblion eu ceryddu nhw. 14 O weld hyn, aeth Iesu’n ddig a dywedodd wrthyn nhw: “Gadewch i’r plant bach ddod ata i; peidiwch â cheisio eu stopio nhw, oherwydd mae Teyrnas Dduw yn perthyn i rai o’r fath. 15 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, pwy bynnag sydd ddim yn derbyn Teyrnas Dduw fel plentyn bach, ni fydd ef ar unrhyw gyfri yn mynd i mewn iddi.” 16 A dyma’n cymryd y plant yn ei freichiau ac yn dechrau eu bendithio nhw, gan osod ei ddwylo arnyn nhw.
17 Tra oedd yn mynd ar ei ffordd, dyma ddyn yn rhedeg ato ac yn syrthio ar ei bennau gliniau o’i flaen ac yn gofyn iddo: “Athro da, beth sy’n rhaid imi ei wneud i etifeddu bywyd tragwyddol?” 18 Dywedodd Iesu wrtho: “Pam rwyt ti’n fy ngalw i’n dda? Does neb yn dda heblaw am un, sef Duw. 19 Rwyt ti’n gwybod y gorchmynion: ‘Paid â llofruddio, paid â godinebu, paid â dwyn, paid â rhoi camdystiolaeth, paid â thwyllo, anrhydedda dy dad a dy fam.’” 20 Dywedodd y dyn wrtho: “Athro, rydw i wedi cadw’r rhain i gyd ers imi fod yn ifanc.” 21 Edrychodd Iesu arno a theimlodd gariad tuag ato a dywedodd, “Mae ’na un peth ar goll ynot ti: Dos, gwertha’r pethau sydd gen ti a rho i’r tlawd, a bydd gen ti drysor yn y nef; yna tyrd, dilyna fi.” 22 Ond teimlodd y dyn yn ddigalon oherwydd yr ateb ac fe aeth i ffwrdd yn hynod o drist, oherwydd roedd ganddo lawer o eiddo.
23 Ar ôl edrych o gwmpas, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Mor anodd fydd hi i’r rhai sydd ag arian fynd i mewn i Deyrnas Dduw!” 24 Ond roedd y disgyblion wedi synnu at ei eiriau. Yna atebodd Iesu: “Blant, mor anodd ydy hi i fynd i mewn i Deyrnas Dduw! 25 Mae’n haws i gamel fynd trwy dwll nodwydd nag i ddyn cyfoethog fynd i mewn i Deyrnas Dduw.” 26 Dyma nhw’n synnu’n fwy byth ac yn dweud wrtho:* “Pwy yn wir sy’n gallu cael ei achub?” 27 Gan edrych ym myw eu llygaid, dywedodd Iesu: “Gyda dynion mae’n amhosib, ond nid felly gyda Duw, oherwydd mae pob peth yn bosib gyda Duw.” 28 Dechreuodd Pedr ddweud wrtho: “Edrycha! Rydyn ni wedi gadael pob peth ac wedi dy ddilyn di.” 29 Dywedodd Iesu: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, does neb sydd wedi gadael tŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu gaeau er fy mwyn i ac er mwyn y newyddion da 30 na fydd yn cael canwaith mwy nawr yn ystod y cyfnod presennol—tai, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a chaeau, ynghyd ag erledigaeth—ac yn y system sydd i ddod,* fywyd tragwyddol. 31 Ond bydd llawer sy’n gyntaf yn olaf, a bydd yr olaf yn gyntaf.”
32 Nawr roedden nhw’n teithio ar hyd y ffordd i fyny i Jerwsalem, ac roedd Iesu’n mynd o’u blaenau nhw, ac roedden nhw’n rhyfeddu, ond dechreuodd y rhai a oedd yn dilyn deimlo’n ofnus. Unwaith eto, cymerodd ef y Deuddeg ar un ochr a dechreuodd ddweud wrthyn nhw am y pethau a oedd ar fin digwydd iddo: 33 “Edrychwch! Rydyn ni’n mynd i fyny i Jerwsalem, a bydd Mab y dyn yn cael ei roi yn nwylo’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion. Byddan nhw’n ei gondemnio i farwolaeth a’i drosglwyddo i ddynion y cenhedloedd, 34 a bydd y rheini’n ei wawdio ac yn poeri arno ac yn ei chwipio ac yn ei ladd, ond dri diwrnod wedyn fe fydd yn codi.”
35 Aeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, ato a dweud wrtho: “Athro, rydyn ni eisiau iti wneud beth bynnag rydyn ni’n ei ofyn gen ti.” 36 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Beth rydych chi eisiau imi ei wneud ichi?” 37 Atebon nhw: “Gad inni eistedd i lawr, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith, yn dy ogoniant.” 38 Ond dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi’n gofyn amdano. A allwch chi yfed o’r cwpan rydw i’n yfed ohono neu gael eich bedyddio â’r bedydd rydw i’n cael fy medyddio ag ef?” 39 Dyma nhw’n dweud wrtho: “Gallwn.” Ar hynny, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Fe fyddwch chi’n yfed o’r cwpan rydw i’n yfed ohono, ac fe fyddwch chi’n cael eich bedyddio â’r bedydd rydw i’n cael fy medyddio ag ef. 40 Ond, nid fi sy’n penderfynu pwy sy’n eistedd ar fy llaw dde ac ar fy llaw chwith, ond mae’n perthyn i’r rhai sydd wedi cael eu dewis.”
41 Pan glywodd y deg arall am hyn, aethon nhw’n ddig iawn wrth Iago ac Ioan. 42 Ond dyma Iesu’n eu galw nhw ato ac yn dweud wrthyn nhw: “Rydych chi’n gwybod bod y rhai sy’n ymddangos eu bod nhw’n* rheoli’r cenhedloedd yn ei lordio hi drostyn nhw a bod eu rhai blaengar yn dangos eu hawdurdod drostyn nhw. 43 Nid fel hyn y dylai hi fod yn eich plith chi; ond mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau bod yn fawr yn eich plith fod yn was ichi, 44 ac mae’n rhaid i bwy bynnag sydd eisiau bod yn gyntaf yn eich plith fod yn gaethwas i bawb. 45 Oherwydd fe ddaeth hyd yn oed Mab y dyn, nid i gael ei wasanaethu, ond i wasanaethu ac i roi ei fywyd er mwyn talu’r pris i achub llawer o bobl.”*
46 Yna daethon nhw i mewn i Jericho. Ond wrth iddo ef a’i ddisgyblion a thyrfa sylweddol fynd allan o Jericho, roedd ’na gardotyn dall, Bartimeus (mab Timeus), yn eistedd wrth ymyl y ffordd. 47 Pan glywodd ef mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi a dweud: “Fab Dafydd, Iesu, bydda’n drugarog wrtho i!” 48 Ar hynny, dechreuodd llawer o bobl ei geryddu, a dweud wrtho am fod yn ddistaw, ond parhaodd i weiddi’n uwch byth: “Fab Dafydd, bydda’n drugarog wrtho i!” 49 Felly dyma Iesu’n stopio ac yn dweud: “Galwch ef ata i.” Felly gwnaethon nhw alw’r dyn dall, a dweud wrtho: “Bydda’n ddewr! Cod; mae’n galw arnat ti.” 50 Dyma’n taflu ei gôt i ffwrdd, yn neidio ar ei draed ac yn mynd at Iesu. 51 Yna dywedodd Iesu wrtho: “Beth rwyt ti eisiau imi ei wneud iti?” Dywedodd y dyn dall wrtho: “Rabboni,* gad imi gael fy ngolwg yn ôl.” 52 A dywedodd Iesu wrtho: “Dos. Mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” Ac ar unwaith fe gafodd ei olwg yn ôl, a dechreuodd ef ddilyn Iesu ar y ffordd.
11 Nawr pan ddaethon nhw’n agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania ger Mynydd yr Olewydd, fe anfonodd ddau o’i ddisgyblion 2 a dweud wrthyn nhw: “Ewch i mewn i’r pentref sydd o fewn golwg, a chyn gynted ag yr ewch chi i mewn iddo, fe welwch chi ebol wedi ei rwymo, un nad oes unrhyw ddyn wedi eistedd arno hyd nawr. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. 3 Ac os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Pam rydych chi’n gwneud hyn?’ dywedwch, ‘Yr Arglwydd sydd ei angen a bydd ef yn ei anfon yn ôl yma ar unwaith.’” 4 Felly aethon nhw i ffwrdd a dod o hyd i’r ebol wedi ei rwymo wrth ddrws, y tu allan ar y stryd, a dyma nhw’n ei ollwng yn rhydd. 5 Ond dywedodd rhai o’r bobl a oedd yn sefyll yno: “Pam rydych chi’n gollwng yr ebol yn rhydd?” 6 Atebon nhw yn union fel roedd Iesu wedi dweud, a dyma nhw’n caniatáu iddyn nhw fynd.
7 Ac fe ddaethon nhw â’r ebol at Iesu, a rhoi eu cotiau arno, ac eisteddodd yntau arno. 8 Hefyd, taenodd llawer eu cotiau ar y ffordd, ond torrodd eraill ganghennau deiliog o’r caeau. 9 Ac roedd y rhai a oedd yn mynd ar y blaen a’r rhai a oedd yn dod o’r tu ôl yn parhau i weiddi: “Plîs, achuba ef! Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw Jehofa! 10 Bendigedig ydy’r Deyrnas sy’n dod, Teyrnas ein tad Dafydd! Plîs, achuba ef, ti sydd yn y nefoedd!” 11 Ac aeth i mewn i Jerwsalem ac i’r deml, ac edrychodd o gwmpas ar bopeth, ond gan fod yr awr eisoes yn hwyr, fe aeth allan i Fethania gyda’r Deuddeg.
12 Y diwrnod wedyn, pan oedden nhw’n gadael Bethania, roedd Iesu wedi llwgu. 13 Fe welodd o bell goeden ffigys a dail arni, ac aeth i weld a fyddai’n gallu dod o hyd i rywbeth arni. Ond pan ddaeth ati, fe welodd ddim byd ond dail, oherwydd doedd hi ddim eto’n dymor ffigys. 14 Felly dywedodd wrthi: “Ni fydd neb yn bwyta ffrwyth ohonot ti byth eto.” Ac roedd ei ddisgyblion yn gwrando.
15 Fe ddaethon nhw nawr i Jerwsalem. Yno, aeth i mewn i’r deml a dechrau taflu allan y rhai a oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, a throi drosodd fyrddau’r rhai oedd yn cyfnewid arian a meinciau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod, 16 ac ni fyddai’n gadael i neb gario llestr drwy’r deml. 17 Roedd yn dysgu ac yn dweud wrthyn nhw: “Onid ydy hi’n ysgrifenedig, ‘Bydd fy nhŷ yn cael ei alw’n dŷ gweddi i’r holl genhedloedd’? Ond rydych chi wedi ei wneud yn ogof lladron.” 18 A chlywodd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion am hyn, a dechreuon nhw edrych am ffordd i’w ladd; am eu bod nhw’n ei ofni, oherwydd roedd yr holl dyrfa wedi rhyfeddu at ei ddysgeidiaeth.
19 Pan aeth hi’n hwyr, aethon nhw allan o’r ddinas. 20 Ond pan oedden nhw’n pasio heibio yn gynnar yn y bore, fe welson nhw’r goeden ffigys eisoes wedi crino o’i gwraidd. 21 O gofio am y goeden, dywedodd Pedr wrtho: “Rabbi, edrycha! mae’r goeden ffigys y gwnest ti ei melltithio wedi crino.” 22 Atebodd Iesu nhw: “Rhowch ffydd yn Nuw. 23 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd pwy bynnag sy’n dweud wrth y mynydd hwn, ‘Cod a thafla dy hun i mewn i’r môr,’ heb amau yn ei galon, ond sydd â ffydd y bydd yr hyn mae’n ei ddweud yn digwydd, fe fydd hynny’n digwydd. 24 Dyma pam rydw i’n dweud wrthoch chi, yr holl bethau rydych chi’n gweddïo amdanyn nhw ac yn gofyn amdanyn nhw, gofynnwch mewn ffydd eich bod chi wedi eu derbyn nhw, ac fe fyddwch chi’n eu cael nhw. 25 A phan fyddwch chi’n sefyll yn gweddïo, os bydd gynnoch chi rywbeth yn erbyn rhywun arall, maddeuwch iddyn nhw, er mwyn i’ch Tad sydd yn y nefoedd hefyd faddau i chi eich pechodau.” 26 ——
27 Daethon nhw eto i Jerwsalem. A thra oedd ef yn cerdded yn y deml, daeth y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid ato 28 a dweud wrtho: “Drwy ba awdurdod rwyt ti’n gwneud y pethau hyn? Neu pwy a roddodd yr awdurdod hwn iti i wneud y pethau hyn?” 29 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Fe wna innau ofyn un cwestiwn i chi. Atebwch fi, ac fe wna i ddweud wrthoch chi drwy ba awdurdod rydw i’n gwneud y pethau hyn. 30 A oedd bedydd Ioan yn dod o’r nef neu o ddynion?* Atebwch fi.” 31 Felly dechreuon nhw resymu ymhlith ei gilydd, gan ddweud: “Os ydyn ni’n dweud, ‘O’r nef,’ bydd ef yn dweud, ‘Pam, felly, wnaethoch chi ddim credu ynddo?’ 32 Ond a allwn ni feiddio dweud, ‘O ddynion’?” Roedden nhw’n ofni’r dyrfa, oherwydd eu bod nhw i gyd yn meddwl bod Ioan yn wir wedi bod yn broffwyd. 33 Felly atebon nhw Iesu: “Dydyn ni ddim yn gwybod.” Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dydw innau chwaith ddim yn mynd i ddweud wrthoch chi drwy ba awdurdod rydw i’n gwneud y pethau hyn.”
12 Yna dechreuodd siarad â nhw drwy ddefnyddio damhegion: “Plannodd dyn winllan a chodi ffens o’i hamgylch a chloddio cafn ar gyfer gwasgu grawnwin ac adeiladu tŵr; yna gwnaeth ei gosod hi allan ar rent i ffermwyr a theithio dramor. 2 Pan oedd hi’n amser i gasglu’r ffrwythau, anfonodd ef gaethwas at y ffermwyr i gasglu rhai o ffrwythau’r winllan oddi wrthyn nhw. 3 Ond gwnaethon nhw afael ynddo, ei guro, a’i anfon i ffwrdd heb ddim byd. 4 Unwaith eto fe anfonodd gaethwas arall atyn nhw, a gwnaethon nhw ei daro ar ei ben a dwyn gwarth arno. 5 Ac anfonodd ef un arall, a gwnaethon nhw ladd hwnnw, ac anfonodd ef lawer eraill, a gwnaethon nhw guro rhai ohonyn nhw a lladd rhai ohonyn nhw. 6 Roedd ganddo un arall, mab annwyl. Anfonodd ef atyn nhw yn olaf, gan ddweud, ‘Byddan nhw’n parchu fy mab.’ 7 Ond dywedodd y ffermwyr hynny wrth ei gilydd, ‘Hwn ydy’r etifedd. Dewch, gadewch inni ei ladd, ac fe gawn ni’r etifeddiaeth i ni’n hunain.’ 8 Felly dyma nhw’n gafael ynddo a’i ladd a’i daflu allan o’r winllan. 9 Beth bydd perchennog y winllan yn ei wneud? Fe fydd yn dod ac yn lladd y ffermwyr ac yn rhoi’r winllan i bobl eraill. 10 Onid ydych chi wedi darllen yr ysgrythur hon: ‘Y garreg a gafodd ei gwrthod gan yr adeiladwyr, hon sydd wedi dod yn brif garreg gornel.* 11 Mae hon wedi dod o Jehofa, ac mae hi’n rhyfeddol yn ein golwg ni’?”
12 Ar hynny roedden nhw eisiau ei arestio,* ond roedden nhw’n ofni’r dyrfa, oherwydd eu bod nhw’n gwybod bod ei ddameg yn sôn amdanyn nhw. Felly dyma nhw’n ei adael a mynd i ffwrdd.
13 Nesaf gwnaethon nhw anfon ato rai o’r Phariseaid a rhai o gefnogwyr Herod er mwyn ei dwyllo i ddweud rhywbeth anghywir. 14 Pan gyrhaeddon nhw, dywedodd y rhai hyn wrtho: “Athro, rydyn ni’n gwybod dy fod ti’n dweud y gwir a dwyt ti ddim yn ceisio cymeradwyaeth dynion, oherwydd dwyt ti ddim yn edrych ar bryd a gwedd pobl, ond rwyt ti’n dysgu ffordd Duw yn unol â’r hyn sy’n wir. Ydy hi’n gyfreithlon* i dalu trethi i Gesar neu ddim? 15 A ddylen ni dalu neu beidio?” Gan weld eu rhagrith, dywedodd wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n rhoi prawf arna i? Dewch â denariws yma er mwyn imi edrych arno.” 16 Dyma nhw’n dod ag un, a dywedodd ef wrthyn nhw: “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” Dywedon nhw wrtho: “Cesar.” 17 Yna dywedodd Iesu: “Talwch bethau Cesar yn ôl i Gesar, ond pethau Duw i Dduw.” Ac roedden nhw’n rhyfeddu ato.
18 Nawr daeth y Sadwceaid, sy’n dweud nad oes ’na atgyfodiad, a gofyn iddo: 19 “Athro, ysgrifennodd Moses: Os ydy brawd rhywun yn marw ac yn gadael gwraig ar ôl ond nid yw’n gadael plentyn, dylai ei frawd gymryd y wraig a magu plant ar gyfer ei frawd. 20 Roedd ’na saith brawd. Gwnaeth yr un cyntaf briodi, ond bu farw heb gael plant. 21 A gwnaeth yr ail ei phriodi hi ond bu farw yntau heb gael plant, a’r trydydd hefyd. 22 A bu farw’r saith ohonyn nhw heb gael plant. Yn olaf, bu farw’r ddynes* hefyd. 23 Yn yr atgyfodiad, gwraig pwy fydd hi? Oherwydd roedd hi’n wraig i’r saith ohonyn nhw.” 24 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Onid hwn ydy’r rheswm rydych chi’n anghywir, oherwydd dydych chi ddim yn adnabod yr Ysgrythurau nac yn deall grym Duw? 25 Oherwydd pan fyddan nhw’n codi o’r meirw, dydy dynion na merched* ddim yn priodi, ond maen nhw fel angylion yn y nefoedd. 26 Ond ynglŷn â’r meirw yn cael eu codi, onid ydych chi wedi darllen llyfr Moses, yn yr hanes am y berth ddrain, fod Duw wedi dweud wrtho: ‘Fi ydy Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob’? 27 Nid Duw’r meirw ydy ef, ond y rhai byw. Rydych chi’n hollol anghywir.”
28 Dyma un o’r ysgrifenyddion a oedd wedi dod ato a’u clywed nhw’n dadlau, gan wybod ei fod wedi eu hateb nhw mewn ffordd dda, yn gofyn iddo: “Pa orchymyn ydy’r un pwysicaf?” 29 Atebodd Iesu: “Y cyntaf yw, ‘Gwranda, O Israel, mae Jehofa ein Duw yn un Jehofa, 30 ac mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid* ac â dy holl feddwl ac â dy holl nerth.’ 31 Yr ail yw hwn, ‘Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.’ Does ’na ddim un gorchymyn arall sy’n fwy pwysig na’r rhain.” 32 Dywedodd yr ysgrifennydd wrtho: “Athro, gwnest ti siarad yn dda, yn unol â’r gwir, ‘Un Duw sydd ’na, a does ’na ddim un arall heblaw amdano ef’; 33 ac mae ei garu ef â’n holl galon, â’n holl ddealltwriaeth, ac â’n holl nerth ac i garu ein cymydog fel ni’n hunain yn werth llawer mwy na’r holl offrymau llosg a’r aberthau.” 34 Gan weld ei fod wedi ateb yn ddoeth, dywedodd Iesu wrtho: “Dwyt ti ddim yn bell o Deyrnas Dduw.” Ond doedd neb yn ddigon dewr i’w gwestiynu ymhellach.
35 Fodd bynnag, wrth i Iesu barhau i ddysgu yn y deml, dywedodd: “Pam mae’r ysgrifenyddion yn dweud bod y Crist yn fab i Dafydd? 36 Drwy’r ysbryd glân, dywedodd Dafydd ei hun, ‘Dywedodd Jehofa wrth fy Arglwydd: “Eistedda ar fy llaw dde nes imi roi dy elynion o dan dy draed.”’ 37 Roedd Dafydd ei hun yn ei alw’n Arglwydd, felly sut mae Crist yn fab iddo?”
Ac roedd y dyrfa fawr yn mwynhau gwrando arno. 38 Ac wrth iddo ddysgu, aeth yn ei flaen i ddweud: “Gwyliwch rhag yr ysgrifenyddion sydd eisiau cerdded o gwmpas yn gwisgo mentyll ac sydd eisiau cael cyfarchion yn y marchnadoedd 39 a’r seddi blaen* yn y synagogau a’r llefydd mwyaf pwysig wrth gael swper. 40 Maen nhw’n cymryd mantais o’r gwragedd gweddwon ac yn cymryd eu heiddo, ac yn dweud gweddïau hir er mwyn i bobl gael eu gweld nhw. Bydd y rhain yn cael eu barnu’n fwy llym.”
41 Ac eisteddodd i lawr lle roedd yn gallu gweld y blychau cyfraniadau* a dechreuodd wylio sut roedd y dyrfa yn gollwng arian i mewn i’r blychau cyfraniadau, ac roedd llawer o bobl gyfoethog yn gollwng llawer o geiniogau. 42 Nawr fe ddaeth gwraig weddw dlawd a gollwng dwy geiniog fach o ychydig werth* yn y blwch. 43 Felly galwodd ei ddisgyblion ato a dweud wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi fod y wraig weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall a roddodd arian i mewn i’r blychau cyfraniadau. 44 Oherwydd gwnaeth y rhain i gyd roi o’u cyfoeth, ond fe wnaeth hi roi, o’i thlodi,* bopeth roedd ganddi, bopeth roedd ganddi i fyw arno.”
13 Wrth iddo fynd allan o’r deml, dywedodd un o’i ddisgyblion wrtho: “Athro, edrycha! mae’r cerrig a’r adeiladau mor hyfryd!” 2 Ond, dywedodd Iesu wrtho: “Wyt ti’n gweld yr adeiladau mawr hyn? Ni fydd carreg yn cael ei gadael yma ar garreg ar unrhyw gyfri heb gael ei bwrw i lawr.”
3 Tra oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd yn wynebu’r deml, gofynnodd Pedr, Iago, Ioan, ac Andreas iddo’n breifat: 4 “Dyweda wrthon ni, pryd bydd y pethau hyn yn digwydd, a beth fydd yr arwydd pan fydd yr holl bethau hyn ar fin dod i ben?” 5 Felly dechreuodd Iesu ddweud wrthyn nhw: “Gwyliwch nad oes neb yn eich camarwain chi. 6 Bydd llawer yn dod ar sail fy enw i, yn dweud, ‘Fi ydy’r Crist,’ ac yn camarwain llawer. 7 Ar ben hynny, pan fyddwch chi’n clywed am ryfeloedd ac yn clywed sôn am ryfeloedd, peidiwch â dychryn; mae’n rhaid i’r pethau hyn ddigwydd, ond dydy’r diwedd ddim eto.
8 “Oherwydd bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas; bydd ’na ddaeargrynfeydd yn un lle ar ôl y llall; hefyd bydd ’na brinder bwyd. Dechrau cyfnod o boen* ydy’r pethau hyn.
9 “A chithau, gwyliwch eich hunain. Bydd pobl yn eich rhoi chi yn nwylo’r llysoedd lleol, a byddwch chi’n cael eich curo yn y synagogau a’ch gosod i sefyll o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd er fy mwyn i, fel tystiolaeth iddyn nhw. 10 Hefyd, yn yr holl genhedloedd, mae’n rhaid i’r newyddion da gael eu pregethu’n gyntaf. 11 A phan fyddan nhw’n eich cymryd chi ac yn eich trosglwyddo chi i eraill, peidiwch â phryderu ymlaen llaw am beth i’w ddweud; ond beth bynnag sy’n cael ei roi ichi yn yr awr honno, dywedwch hwnnw, oherwydd nid chi sy’n siarad, ond yr ysbryd glân sy’n siarad. 12 Ymhellach, bydd brawd yn anfon brawd i gael ei ladd, a thad yn anfon ei blentyn i gael ei ladd, a bydd plant yn codi yn erbyn eu rhieni ac yn achosi iddyn nhw gael eu rhoi i farwolaeth. 13 A bydd yr holl bobl yn eich casáu chi o achos fy enw i. Ond bydd yr un sydd wedi dyfalbarhau* hyd y diwedd yn cael ei achub.
14 “Fodd bynnag, pan welwch chi’r peth ffiaidd sy’n achosi dinistr yn sefyll lle na ddylai fod (gad i’r darllenwr ddefnyddio ei ddeall), yna dylai’r rhai sydd yn Jwdea ddechrau ffoi i’r mynyddoedd. 15 Mae’n rhaid i’r dyn sydd ar ben y tŷ beidio â dod i lawr na mynd i mewn i gymryd unrhyw beth allan o’i dŷ; 16 ac mae’n rhaid i’r dyn sydd yn y cae beidio â throi yn ôl i gymryd ei gôt. 17 Gwae’r merched* beichiog a’r rhai sy’n magu plant yn y dyddiau hynny! 18 Daliwch ati i weddïo na fydd hyn yn digwydd yn y gaeaf; 19 oherwydd trychineb fydd y dyddiau hynny o’r fath sydd ddim wedi digwydd o ddechrau creadigaeth Duw hyd yr amser hwnnw, ac na fydd yn digwydd byth eto. 20 Yn wir, oni bai fod Jehofa’n torri’r dyddiau hynny’n fyr, ni fyddai neb yn cael ei achub. Ond o achos y rhai mae ef wedi eu dewis, mae wedi torri’r dyddiau’n fyr.
21 “Yna, os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Edrychwch! Dyma’r Crist,’ neu, ‘Edrychwch! Dacw ef,’ peidiwch â chredu’r peth. 22 Oherwydd bydd gau Gristiau a gau broffwydi yn codi a byddan nhw’n rhoi arwyddion ac yn cyflawni pethau rhyfeddol er mwyn camarwain, os posib, y rhai sydd wedi eu dewis. 23 Felly, gwyliwch chi. Rydw i wedi dweud pob peth wrthoch chi ymlaen llaw.
24 “Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y trychineb, bydd yr haul yn cael ei dywyllu, ac ni fydd y lleuad yn rhoi ei goleuni, 25 a bydd y sêr yn syrthio allan o’r nef, a bydd y grymoedd sydd yn y nefoedd yn cael eu hysgwyd. 26 Ac yna byddan nhw’n gweld Mab y dyn yn dod yn y cymylau gyda grym a gogoniant mawr. 27 Ac yna bydd ef yn anfon allan yr angylion ac yn casglu’r rhai mae ef wedi eu dewis at ei gilydd o’r pedwar gwynt, o ben draw’r ddaear i ben draw’r nef.
28 “Nawr dysgwch y wers hon oddi wrth y goeden ffigys: Cyn gynted ag y bydd ei changen ifanc yn dyner ac yn deilio, rydych chi’n gwybod bod yr haf yn agos. 29 Felly chithau hefyd, pan welwch chi’r pethau hyn yn digwydd, fe fyddwch chi’n gwybod ei fod ef yn agos wrth y drysau. 30 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi na fydd y genhedlaeth hon ar unrhyw gyfri yn mynd heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd. 31 Bydd nef a daear yn mynd heibio, ond ni fydd fy ngeiriau i ar unrhyw gyfri yn mynd heibio.
32 “Ynglŷn â’r dydd hwnnw neu’r awr honno does neb yn gwybod, nid yr angylion yn y nef na’r Mab, dim ond y Tad. 33 Daliwch ati i edrych, arhoswch yn effro, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pryd mae’r amser penodedig. 34 Mae fel dyn sy’n teithio dramor ac sydd wedi gadael ei dŷ a rhoi’r awdurdod i’w gaethweision, a gwaith i bob un ohonyn nhw, ac sydd wedi gorchymyn i geidwad y drws aros yn wyliadwrus. 35 Daliwch ati i fod yn wyliadwrus, felly, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pryd mae meistr y tŷ yn dod, naill ai’n hwyr yn y dydd neu hanner nos neu cyn iddi wawrio* neu’n gynnar yn y bore. 36 Os nad ydych chi’n wyliadwrus, pan fydd ef yn dod yn sydyn, fe fydd yn dod o hyd ichi yn cysgu. 37 Ond yr hyn rydw i’n ei ddweud wrthoch chi, rydw i’n ei ddweud wrth bawb: Arhoswch yn wyliadwrus.”
14 Nawr roedd y Pasg a Gŵyl y Bara Croyw yn dechrau mewn dau ddiwrnod. Ac roedd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion yn edrych am ffordd i’w ddal* yn gyfrwys ac i’w ladd; 2 oherwydd roedden nhw’n dweud: “Nid yn ystod yr ŵyl; efallai bydd ’na gynnwrf ymhlith y bobl.”
3 A thra oedd ef ym Methania yn cael pryd o fwyd* yn nhŷ Simon y gwahanglaf, daeth dynes* â jar alabastr o olew persawrus, nard go iawn, sy’n hynod o ddrud. Agorodd hi’r jar alabastr a dechrau ei dywallt* ar ei ben. 4 Ar hynny dywedodd rhai wrth ei gilydd yn ddig: “Pam mae’r olew persawrus hwn wedi cael ei wastraffu? 5 Oherwydd gallai’r olew persawrus hwn fod wedi cael ei werthu am fwy na 300 denariws a gallai’r arian fod wedi cael ei roi i’r tlawd!” Ac roedden nhw’n ddig iawn wrthi hi.* 6 Ond dywedodd Iesu: “Gadewch lonydd iddi. Pam rydych chi’n ei phoeni hi? Mae hi wedi gwneud rhywbeth da imi. 7 Oherwydd mae’r tlawd gyda chi drwy’r amser, ac rydych chi’n gallu eu helpu nhw bryd bynnag rydych chi eisiau, ond fydda innau ddim gyda chi drwy’r amser. 8 Fe wnaeth hi beth roedd hi’n gallu; gwnaeth hi dywallt* olew persawrus ar fy nghorff o flaen llaw, i baratoi fy nghorff ar gyfer fy nghladdu. 9 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, ble bynnag mae’r newyddion da yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd, bydd yr hyn a wnaeth y ddynes* hon hefyd yn cael ei adrodd er cof amdani.”
10 Ac aeth Jwdas Iscariot, un o’r Deuddeg, i ffwrdd at y prif offeiriaid er mwyn ei fradychu iddyn nhw. 11 Pan glywson nhw hyn, roedden nhw wrth eu boddau a dyma nhw’n addo rhoi arian iddo. Felly dechreuodd ef edrych am gyfle i’w fradychu.
12 Nawr ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, pan oedd hi’n draddodiad iddyn nhw offrymu aberth y Pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho: “Ble rwyt ti eisiau inni fynd i baratoi iti fwyta swper y Pasg?” 13 Ar hynny fe anfonodd ddau o’i ddisgyblion a dweud wrthyn nhw: “Ewch i mewn i’r ddinas, a bydd dyn sy’n cario llestr dŵr yn cyfarfod â chi. Dilynwch ef, 14 a pha bynnag dŷ mae ef yn mynd i mewn iddo, dywedwch wrth feistr y tŷ, ‘Mae’r Athro yn dweud: “Ble mae’r ystafell lle galla i fwyta’r Pasg gyda fy nisgyblion?”’ 15 A bydd ef yn dangos ichi uwch ystafell fawr, sydd wedi ei pharatoi. Gwnewch bopeth yn barod yno.” 16 Felly aeth y disgyblion allan, ac fe aethon nhw i mewn i’r ddinas a dod o hyd i’r lle yn union fel roedd ef wedi dweud wrthyn nhw, a dyma nhw’n paratoi ar gyfer y Pasg.
17 Ar ôl iddi nosi, fe ddaeth gyda’r Deuddeg. 18 A thra oedden nhw’n eistedd wrth y bwrdd ac yn bwyta, dywedodd Iesu: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd un ohonoch chi sy’n bwyta gyda mi yn fy mradychu i.” 19 Dechreuon nhw deimlo’n drist a dweud wrtho, un ar ôl y llall: “Nid fi yw’r un, nage?” 20 Dywedodd wrthyn nhw: “Un o’r Deuddeg ydy ef, yr un sy’n dipio gyda mi yn y bowlen. 21 Oherwydd mae Mab y dyn yn mynd i ffwrdd, yn union fel mae’n ysgrifenedig amdano, ond gwae’r dyn hwnnw sy’n bradychu Mab y dyn! Byddai wedi bod yn well i’r dyn hwnnw petai heb gael ei eni.”
22 Ac wrth iddyn nhw barhau i fwyta, cymerodd Iesu dorth o fara, dweud bendith, torri’r bara, a’i roi iddyn nhw, gan ddweud: “Cymerwch ef; mae hwn yn cynrychioli fy nghorff.”* 23 Ac yn cymryd cwpan, dyma’n diolch i Dduw ac yn ei roi iddyn nhw, a gwnaethon nhw i gyd yfed ohono. 24 A dywedodd wrthyn nhw: “Mae hwn yn cynrychioli fy ngwaed, sef ‘gwaed y cyfamod,’ sydd am gael ei dywallt* er lles llawer o bobl. 25 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, fydda i ddim ar unrhyw gyfri yn yfed mwy o’r gwin hwn hyd y dydd hwnnw pan fydda i’n yfed gwin newydd yn Nheyrnas Dduw.” 26 Wedyn, ar ôl canu mawl,* aethon nhw allan i Fynydd yr Olewydd.
27 A dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Byddwch chi i gyd yn cael eich baglu, oherwydd mae’n ysgrifenedig: ‘Bydda i’n taro’r bugail, a bydd y defaid yn cael eu gwasgaru.’ 28 Ond ar ôl imi gael fy nghodi, bydda i’n mynd o’ch blaen chi i mewn i Galilea.” 29 Ond dywedodd Pedr wrtho: “Hyd yn oed os ydy’r lleill i gyd yn cael eu baglu, fydda i ddim.” 30 Ar hynny dywedodd Iesu wrtho: “Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti, heddiw, ar yr union noson hon, cyn i geiliog ganu ddwywaith, byddi di’n fy ngwadu i dair gwaith.” 31 Ond roedd yn mynnu o hyd: “Os bydd rhaid imi farw gyda ti, fydda i ddim yn dy wadu di ar unrhyw gyfri.” Hefyd, dechreuodd y lleill i gyd ddweud yr un peth.
32 Felly daethon nhw i le o’r enw Gethsemane, a dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Eisteddwch yma tra bydda i’n gweddïo.” 33 Ac fe gymerodd Pedr ac Iago ac Ioan gydag ef, a dechreuodd deimlo’n bryderus iawn ac yn hynod o ofidus. 34 Dywedodd wrthyn nhw: “Rydw i’n* ofnadwy o drist, hyd at farw. Arhoswch yma a chadwch yn effro.” 35 Ac yn mynd ymlaen ychydig, syrthiodd i’r llawr a dechrau gweddïo, os oedd yn bosib, i’r awr fynd heibio oddi wrtho. 36 A dywedodd ef: “Abba,* Dad, mae pob peth yn bosib i ti; cymera’r cwpan hwn oddi wrtho i. Ond eto, gad i beth rwyt ti eisiau ddigwydd, nid beth rydw i eisiau.” 37 Daeth yn ôl a’u gweld nhw’n cysgu, a dywedodd wrth Pedr: “Simon, wyt ti’n cysgu? Onid oedd gen ti’r nerth i gadw’n effro am un awr? 38 Cadwch yn effro a gweddïwch yn barhaol, fel na fyddwch chi’n ildio i demtasiwn. Wrth gwrs, mae’r ysbryd yn awyddus,* ond mae’r cnawd yn wan.” 39 Ac fe aeth i ffwrdd eto a gweddïo, gan ddweud yr un peth. 40 A daeth yn ôl eto a’u gweld nhw’n cysgu, oherwydd roedd eu llygaid yn drwm, felly doedden nhw ddim yn gwybod sut i’w ateb. 41 Ac fe ddaeth yn ôl y drydedd waith a dweud wrthyn nhw: “Ar adeg fel hon, rydych chi’n cysgu ac yn gorffwys! Dyna ddigon! Mae’r awr wedi dod! Edrychwch! Mae Mab y dyn yn cael ei fradychu a’i roi yn nwylo pechaduriaid. 42 Codwch, dewch inni fynd. Edrychwch! Mae’r un sy’n fy mradychu wedi agosáu.”
43 Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, cyrhaeddodd Jwdas, un o’r Deuddeg, gyda thyrfa fawr yn cario cleddyfau a phastynau, a oedd wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r henuriaid. 44 Nawr roedd ei fradychwr wedi cytuno i roi arwydd iddyn nhw, gan ddweud: “Pwy bynnag rydw i’n ei gusanu, hwnnw ydy’r un; arestiwch ef, ac ewch ag ef i ffwrdd o dan warchodaeth.” 45 Ac ar unwaith fe ddaeth ymlaen a mynd yn syth ato a dweud, “Rabbi!” a’i gusanu’n dyner. 46 Felly gafaelon nhw ynddo a’i arestio. 47 Fodd bynnag, dyma un o’r rhai oedd yn sefyll yno yn tynnu ei gleddyf ac yn taro caethwas yr archoffeiriad, gan dorri ei glust i ffwrdd. 48 Ond atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “A ddaethoch chi allan i fy arestio gyda chleddyfau a phastynau fel yn erbyn lleidr? 49 Ddydd ar ôl dydd roeddwn i gyda chi yn y deml yn dysgu, ond wnaethoch chi ddim fy arestio. Er hynny, mae hyn wedi digwydd i gyflawni’r Ysgrythurau.”
50 A gwnaethon nhw i gyd ei adael a ffoi. 51 Fodd bynnag, dyma ddyn ifanc yn gwisgo dim ond dillad o liain main dros ei gorff noeth yn dechrau ei ddilyn yn agos, a gwnaethon nhw geisio gafael ynddo, 52 ond gadawodd ei ddillad o liain a dianc yn noeth.*
53 Nawr fe wnaethon nhw arwain Iesu i ffwrdd at yr archoffeiriad, a daeth yr holl brif offeiriaid a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion at ei gilydd. 54 Ond gwnaeth Pedr ei ddilyn o bell hyd at gwrt yr archoffeiriad; ac roedd yn eistedd gyda gweision y tŷ ac yn ei dwymo ei hun o flaen y tân. 55 Nawr roedd y prif offeiriaid a’r holl Sanhedrin yn chwilio am dystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei roi i farwolaeth, ond doedden nhw ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw beth. 56 Yn wir, roedd llawer yn rhoi camdystiolaeth yn ei erbyn, ond doedd eu tystiolaeth ddim yn gyson. 57 Hefyd, roedd rhai yn sefyll ac yn rhoi camdystiolaeth yn ei erbyn, gan ddweud: 58 “Clywson ni ef yn dweud, ‘Bydda i’n bwrw i lawr y deml hon a gafodd ei gwneud o waith llaw, ac mewn tri diwrnod bydda i’n adeiladu un arall sydd heb gael ei gwneud o waith llaw.’” 59 Ond hyd yn oed ynglŷn â’r mater hwn, doedd eu tystiolaeth ddim yn gyson.
60 Yna cododd yr archoffeiriad yn eu plith a chwestiynu Iesu, gan ddweud: “Onid wyt ti’n mynd i ateb? Beth am dystiolaeth y dynion hyn yn dy erbyn di?” 61 Ond arhosodd ef yn ddistaw ac ni roddodd unrhyw ateb. Unwaith eto dechreuodd yr archoffeiriad ei gwestiynu a dweud wrtho: “Ai ti yw’r Crist, Mab yr Un Bendigedig?” 62 Yna dywedodd Iesu: “Ie; a byddwch chi’n gweld Mab y dyn yn eistedd ar law dde yr Un Grymus* ac yn dod gyda chymylau’r nef.” 63 Ar hynny rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud: “Pam mae angen mwy o dystion arnon ni? 64 Rydych chi wedi clywed ei gabledd. Beth yw eich penderfyniad?”* Gwnaethon nhw i gyd gytuno ei fod yn haeddu marw. 65 A dechreuodd rhai boeri arno a gorchuddio ei wyneb a’i ddyrnu gan ddweud wrtho: “Proffwyda!” Ac yn ei slapio yn ei wyneb, dyma weision y llys yn ei gymryd i ffwrdd.
66 Nawr tra oedd Pedr yn y cwrt isod, daeth un o forynion yr archoffeiriad. 67 O weld Pedr yn ei dwymo ei hun, edrychodd hi ym myw ei lygaid a dweud: “Roeddet tithau hefyd gyda’r Nasaread, yr Iesu yma.” 68 Ond dyma’n gwadu’r peth, gan ddweud: “Dydw i ddim yn ei adnabod nac yn deall beth rwyt ti’n sôn amdano,” ac fe aeth allan at y fynedfa. 69 Yno gwnaeth y forwyn ei weld ac unwaith eto dechreuodd hi ddweud wrth y rhai oedd yn sefyll yno: “Dyma un ohonyn nhw.” 70 Roedd yn gwadu’r peth eto. Ac ychydig wedyn, dyma’r rhai oedd yn sefyll yno yn dechrau dweud wrth Pedr eto: “Yn bendant rwyt ti’n un ohonyn nhw, oherwydd, yn wir, Galilead wyt ti.” 71 Ond dechreuodd felltithio a mynd ar ei lw: “Dydw i ddim yn adnabod y dyn hwn rydych chi’n sôn amdano!” 72 Ar unwaith dyma geiliog yn canu am yr ail waith, a chofiodd Pedr beth roedd Iesu wedi ei ddweud wrtho: “Cyn i geiliog ganu ddwywaith, byddi di’n fy ngwadu i dair gwaith.” A dyma’n torri i lawr a dechrau wylo.
15 Ar doriad y dydd, gwnaeth y prif offeiriaid, yr henuriaid, a’r ysgrifenyddion, yn wir, yr holl Sanhedrin, ymgynghori â’i gilydd, ac fe wnaethon nhw rwymo Iesu a mynd ag ef i ffwrdd a’i drosglwyddo i Peilat. 2 Felly gofynnodd Peilat iddo: “Ai ti ydy Brenin yr Iddewon?” Atebodd yntau: “Ti sy’n dweud hynny.” 3 Ond roedd y prif offeiriaid yn ei gyhuddo o lawer o bethau. 4 Dechreuodd Peilat ei holi eto, gan ddweud: “Does gen ti ddim ateb imi? Edrycha faint o gyhuddiadau maen nhw’n eu dwyn yn dy erbyn di.” 5 Ond ni roddodd Iesu ragor o atebion, er mawr syndod i Peilat.
6 Wel, ar adeg Gŵyl y Pasg, roedd ef yn arfer rhyddhau iddyn nhw un carcharor roedden nhw’n gofyn amdano. 7 Yr adeg honno roedd dyn o’r enw Barabbas yn y carchar gyda’r gwrthryfelwyr, a oedd wedi llofruddio yn eu gwrthryfel yn erbyn y llywodraeth. 8 Felly daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Peilat yn ôl yr hyn roedd ef yn arfer ei wneud iddyn nhw. 9 Atebodd nhw, gan ddweud: “Ydych chi eisiau imi ryddhau ichi Frenin yr Iddewon?” 10 Oherwydd roedd Peilat yn ymwybodol mai cenfigen oedd wedi achosi i’r prif offeiriaid ei drosglwyddo iddo. 11 Ond fe wnaeth y prif offeiriaid gynhyrfu’r dyrfa fel y byddai ef yn hytrach yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. 12 Atebodd Peilat unwaith eto ac meddai wrthyn nhw: “Beth dylwn i ei wneud, felly, â’r un rydych chi’n ei alw’n Frenin yr Iddewon?” 13 Unwaith yn rhagor fe waeddon nhw: “Lladda ef ar y stanc!”* 14 Ond aeth Peilat yn ei flaen i ddweud wrthyn nhw: “Pam? Pa beth drwg mae wedi ei wneud?” Ond fe waeddon nhw’n uwch byth: “Lladda ef ar y stanc!”* 15 Ar hynny, fe wnaeth Peilat, am ei fod yn dymuno bodloni’r dyrfa, ryddhau Barabbas iddyn nhw; ac ar ôl gorchymyn i Iesu gael ei chwipio, dyma’n ei roi yn nwylo’r milwyr er mwyn iddo gael ei ddienyddio ar y stanc.
16 Aeth y milwyr ag ef i ffwrdd ac i mewn i’r cwrt, hynny yw, i mewn i balas y llywodraethwr, a galw at ei gilydd yr holl lu o filwyr. 17 Ac fe wisgon nhw ef â phorffor a phlethu coron o ddrain a’i rhoi am ei ben; 18 a dechreuon nhw weiddi arno: “Cyfarchion,* Frenin yr Iddewon!” 19 Hefyd, roedden nhw’n ei guro ar ei ben â chorsen ac yn poeri arno, ac aethon nhw ar eu pennau gliniau a phlygu o’i flaen.* 20 Yn olaf, ar ôl iddyn nhw wneud sbort am ei ben, tynnon nhw’r porffor oddi amdano a’i wisgo â’i ddillad ei hun. Ac fe aethon nhw ag ef allan i’w hoelio ar y stanc. 21 Hefyd, dyma nhw’n gorfodi dyn a oedd yn pasio heibio, Simon o Cyrene, a oedd yn dod o gefn gwlad, tad Alecsander a Rwffus, i gario ei stanc dienyddio.*
22 Felly fe ddaethon nhw ag ef i le o’r enw Golgotha, sy’n golygu, o’i gyfieithu, “Lle’r Benglog.” 23 Yma fe wnaethon nhw geisio rhoi iddo win wedi ei gymysgu â’r cyffur myrr, ond ni wnaeth ei gymryd. 24 A gwnaethon nhw ei hoelio ar y stanc a rhannu ei ddillad drwy fwrw coelbren arnyn nhw i benderfynu pwy fyddai’n cymryd beth. 25 Y drydedd awr* oedd hi nawr, ac fe hoelion nhw ef ar y stanc. 26 Ac fe gafodd y cyhuddiad yn ei erbyn ei ysgrifennu ar arwydd uwch ei ben, ac roedd yn dweud: “Brenin yr Iddewon.” 27 Ar ben hynny, rhoddon nhw ddau leidr ar stanciau wrth ei ochr, un ar ei dde ac un ar ei chwith. 28 —— 29 Ac roedd y rhai oedd yn pasio heibio yn siarad yn gas ag ef, gan ysgwyd eu pennau a dweud: “Ha! Ti a fyddai’n bwrw’r deml i lawr a’i hadeiladu hi mewn tri diwrnod, 30 achuba dy hun drwy ddod i lawr oddi ar y stanc dienyddio.”* 31 Yn yr un modd hefyd, roedd y prif offeiriaid ynghyd â’r ysgrifenyddion yn ei wawdio ymhlith ei gilydd, gan ddweud: “Fe achubodd bobl eraill; ond nid yw’n gallu ei achub ei hun! 32 Gad i’r Crist, Brenin Israel, ddod i lawr oddi ar y stanc dienyddio* nawr, er mwyn inni fedru gweld a chredu.” Roedd hyd yn oed y rhai a oedd ar y stanciau wrth ei ochr yn ei sarhau.
33 Pan ddaeth y chweched awr,* daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd y nawfed awr.* 34 Ac ar y nawfed awr, gwaeddodd Iesu â llais uchel: “Eli, Eli, lama sabachthani?” sy’n golygu, o’i gyfieithu: “Fy Nuw, fy Nuw, pam rwyt ti wedi fy ngadael i?” 35 O glywed hyn, roedd rhai o’r bobl oedd yn sefyll gerllaw yn dechrau dweud: “Edrychwch! Mae’n galw ar Elias.” 36 Yna rhedodd rhywun, socian sbwng mewn gwin sur, ei roi ar gorsen, a’i gynnig iddo i’w yfed, gan ddweud: “Gadewch lonydd iddo! Gadewch inni weld a fydd Elias yn dod i’w dynnu i lawr.” 37 Ond gwaeddodd Iesu yn uchel, a bu farw.* 38 A rhwygodd llen y cysegr yn ddwy o’r top i’r gwaelod. 39 Nawr pan wnaeth y swyddog o’r fyddin a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef weld yr holl bethau hyn a’i fod wedi marw, dywedodd: “Yn bendant, Mab Duw oedd y dyn hwn.”
40 Roedd ’na ferched* hefyd yn gwylio o bell, yn eu plith roedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome, 41 a oedd yn ei ddilyn ac yn gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a llawer o ferched* eraill oedd wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem.
42 Nawr roedd hi eisoes yn hwyr yn y prynhawn, ac oherwydd ei bod hi’n ddydd y Paratoad, hynny yw, y dydd cyn y Saboth, 43 daeth Joseff o Arimathea, aelod uchel ei barch o’r Cyngor, dyn a oedd hefyd yn disgwyl am Deyrnas Dduw. Gwnaeth fagu plwc a mynd i mewn o flaen Peilat a gofyn am gorff Iesu. 44 Ond roedd Peilat yn awyddus i wybod a oedd eisoes wedi marw, a galwodd y swyddog o’r fyddin ato, a gofyn iddo a oedd Iesu eisoes wedi marw. 45 Felly ar ôl iddo gael gwybod gan y swyddog o’r fyddin, rhoddodd y corff i Joseff. 46 Ar ôl iddo brynu lliain main a thynnu’r corff i lawr, dyma’n ei lapio yn y lliain main a’i osod i orwedd mewn beddrod* a oedd wedi ei naddu o’r graig; yna rholiodd garreg ar draws ceg y beddrod. 47 Ond roedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yn dal i edrych ar y lle y cafodd ei osod i orwedd.
16 Felly pan oedd y Saboth wedi darfod, prynodd Mair Magdalen, Mair mam Iago, a Salome, sbeisys er mwyn dod a’u rhoi nhw ar ei gorff. 2 Ac yn gynnar iawn ar y dydd cyntaf o’r wythnos pan oedd yr haul wedi codi, fe ddaethon nhw at y beddrod.* 3 Roedden nhw’n dweud wrth ei gilydd: “Pwy fydd yn rholio’r garreg i ffwrdd oddi wrth geg y beddrod inni?” 4 Ond pan edrychon nhw i fyny, fe welson nhw fod y garreg wedi cael ei rholio i ffwrdd, er ei bod hi’n fawr iawn. 5 Pan aethon nhw i mewn i’r beddrod, fe welson nhw ddyn ifanc yn eistedd ar yr ochr dde, yn gwisgo mantell wen, ac roedden nhw wedi syfrdanu. 6 Dywedodd wrthyn nhw: “Peidiwch â rhyfeddu. Rydych chi’n chwilio am Iesu o Nasareth a gafodd ei ddienyddio ar y stanc. Fe gafodd ei godi i fyny. Dydy ef ddim yma. Edrychwch, hwn ydy’r lle y gwnaethon nhw ei osod i orwedd. 7 Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr, ‘Mae’n mynd o’ch blaenau chi i mewn i Galilea. Fe fyddwch chi’n ei weld yno, yn union fel y dywedodd wrthoch chi.’” 8 Felly pan ddaethon nhw allan, dyma nhw’n ffoi oddi wrth y beddrod, yn crynu ac wedi eu llethu gan emosiwn. Ac ni ddywedon nhw ddim byd wrth neb, oherwydd eu bod nhw’n llawn ofn.*
Gweler Geirfa, “Jehofa.”
Neu “trochi.”
Neu “lasyn.”
Neu “pobl.”
Neu efallai, “roedden nhw’n gwybod pwy oedd ef.”
Neu “y bara gosod.”
Neu “wedi ei pharlysu.”
Neu “wedi ei pharlysu.”
Neu “enaid.”
Neu “penododd.”
Neu “penodi.”
Neu “yr un selog.”
Enw a roddwyd ar Satan. Neu “Beelsebub.”
Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.
Neu “beddrodau coffa.”
Neu “yn Rhanbarth y Deg Dinas.”
Neu “yn tynnu at ei diwedd.”
Neu “fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “Stopia fod yn ofnus.”
Neu “gorchynnodd Iesu iddyn nhw’n llym.”
Llyth., “pres.”
Neu “nid i wisgo crys ychwanegol.”
Neu “yn eistedd wrth y bwrdd.”
Neu “a’r rhai oedd yn eistedd wrth y bwrdd.”
Neu “beddrod coffa.”
Neu “porfa.”
Llyth., “tua’r bedwaredd wylfa o’r nos.”
Neu “roedd ar fin.”
Hynny yw, heb eu golchi’n seremonïol.
Lluosog y gair Groeg porneia. Gweler Geirfa.
Neu “ymddygiad haerllug.” Groeg, aselgeia. Gweler Geirfa.
Neu “fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “Rhanbarth y Deg Dinas.”
Gweler Geirfa.
Neu “enaid.”
Neu “enaid.”
Neu “anffyddlon.”
Neu “gweddnewidiwyd Iesu.”
Neu efallai, “Cadwon nhw’r mater iddyn nhw eu hunain.”
Gweler Geirfa.
Gweler Geirfa.
Gweler Geirfa.
Neu “menyw.”
Neu efallai, “wrth ei gilydd.”
Neu “yr oes sydd i ddod.” Gweler Geirfa.
Neu “sy’n cael eu hadnabod fel y rhai sy’n.”
Neu “i roi ei fywyd yn bridwerth dros lawer o bobl.”
Sy’n golygu “Athro.”
Neu “o darddiad dynol?”
Llyth., “yn ben y gornel.”
Neu “ei ddal.”
Neu “iawn.”
Neu “y fenyw.”
Neu “menywod.”
Gweler Geirfa.
Neu “gorau.”
Neu “cistiau’r drysorfa.”
Llyth., “dau lepton, hynny yw cwadrans.”
Neu “o’i phrinder.”
Llyth., “o boenau geni; o wewyr esgor.”
Neu “sy’n dyfalbarhau.”
Neu “menywod.”
Llyth., “pan fydd y ceiliog yn canu.”
Neu “arestio.”
Neu “yn eistedd wrth y bwrdd.”
Neu “menyw.”
Neu “arllwys.”
Neu “siaradon nhw’n ddig â hi; gwnaethon nhw ddweud y drefn wrthi.”
Neu “arllwys.”
Neu “y fenyw.”
Llyth., “hwn yw fy nghorff.”
Neu “arllwys.”
Neu “emynau; salmau.”
Neu “Mae fy enaid yn.”
Gair Hebraeg neu Aramaeg sy’n golygu “O Dad!”
Neu “yn barod.”
Neu “yn gwisgo ychydig o ddillad; yn ei ddillad isaf yn unig.”
Llyth., “ar law dde grym.”
Neu “Beth rydych chi’n ei feddwl?”
Neu “Dienyddia ef ar y stanc!”
Neu “Dienyddia ef ar y stanc!”
Neu “Henffych.”
Neu “ymgrymu iddo.”
Gweler Geirfa.
Hynny yw, tua 9:00 a.m.
Gweler Geirfa.
Gweler Geirfa.
Hynny yw, tua hanner dydd.
Hynny yw, tua 3:00 p.m.
Neu “tynnodd ef ei anadl olaf.”
Neu “fenywod.”
Neu “fenywod.”
Neu “beddrod coffa.”
Neu “beddrod coffa.”
Yn ôl llawysgrifau cynnar dibynadwy, mae Efengyl Marc yn gorffen â’r geiriau sydd yn ad. 8.