LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • nwt Luc 1:1-24:53
  • Luc

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Luc
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Luc

YN ÔL LUC

1 Gan fod llawer wedi mynd ati i gasglu ac ysgrifennu’r ffeithiau rydyn ni’n credu’n llwyr ynddyn nhw, 2 yn union fel y cawson nhw eu trosglwyddo inni gan y rhai a oedd o’r dechrau yn llygad-dystion ac yn weinidogion y neges, 3 penderfynais innau hefyd eu hysgrifennu atat ti mewn trefn resymegol, ardderchocaf Theoffilus, oherwydd fy mod i wedi ymchwilio’n ofalus bob peth o’r dechrau, 4 er mwyn iti allu gwybod yn iawn pa mor sicr ydy’r pethau sydd wedi cael eu dysgu iti ar lafar.

5 Yn nyddiau Herod,* brenin Jwdea, roedd ’na offeiriad o’r enw Sechareia, aelod o’r grŵp o offeiriaid a oedd wedi ei enwi ar ôl Abeia. Roedd ei wraig yn un o ddisgynyddion Aaron,* a’i henw hi oedd Elisabeth. 6 Roedd y ddau ohonyn nhw’n gyfiawn o flaen Duw, yn cerdded yn ddi-fai yn unol â holl orchmynion a gofynion cyfreithiol Jehofa.* 7 Ond doedd ganddyn nhw ddim plant, oherwydd bod Elisabeth yn ddiffrwyth a’r ddau ohonyn nhw’n hen.

8 Nawr roedd Sechareia yn gweithredu o flaen Duw fel offeiriad gan mai tro ei grŵp ef oedd i wasanaethu yn y deml. 9 Yn ôl arfer yr offeiriadaeth, daeth ei dro ef i offrymu arogldarth pan aeth i mewn i gysegr Jehofa. 10 Ac roedd holl dyrfa’r bobl y tu allan yn gweddïo ar awr offrymu’r arogldarth. 11 Ymddangosodd angel Jehofa iddo, yn sefyll ar ochr dde allor yr arogldarth. 12 Ond dyma Sechareia yn cynhyrfu ar ôl gweld hyn, a daeth ofn mawr arno. 13 Fodd bynnag, dywedodd yr angel wrtho: “Paid ag ofni, Sechareia, oherwydd mae Duw wedi clywed dy erfyniad, a bydd dy wraig Elisabeth yn rhoi genedigaeth i fab, ac rwyt ti i roi’r enw Ioan arno. 14 Byddi di’n llawen ac yn falch iawn, a bydd llawer o bobl wrth eu boddau gyda’i enedigaeth, 15 oherwydd bydd ef yn fawr yng ngolwg Jehofa. Ond ni ddylai yfed unrhyw win nac unrhyw ddiod alcoholig o gwbl, ac fe fydd yn cael ei lenwi â’r ysbryd glân cyn iddo hyd yn oed gael ei eni, 16 a bydd ef yn troi llawer o feibion Israel yn ôl at Jehofa eu Duw. 17 Hefyd, bydd ef yn mynd o flaen Duw ag ysbryd a nerth Elias, i droi calonnau tadau yn ôl i fod fel calonnau plant, a’r rhai anufudd yn ôl at ddoethineb ymarferol y rhai cyfiawn, er mwyn paratoi pobl sy’n barod i wasanaethu Jehofa.”

18 Dywedodd Sechareia wrth yr angel: “Sut galla i fod yn sicr o hyn? Oherwydd rydw i’n hen, ac mae fy ngwraig mewn oed.” 19 Atebodd yr angel ef drwy ddweud: “Gabriel ydw i, sy’n sefyll o flaen Duw, a ches i fy anfon i siarad â ti ac i gyhoeddi’r newyddion da hyn iti. 20 Ond edrycha! byddi di’n fud ac yn methu siarad hyd y dydd pan fydd y pethau hyn yn digwydd, oherwydd wnest ti ddim credu fy ngeiriau, geiriau a fydd yn cael eu cyflawni yn eu hamser penodedig.” 21 Yn y cyfamser, roedd y bobl yn dal i aros am Sechareia, ac roedden nhw’n synnu ei fod yn oedi mor hir yn y cysegr. 22 Pan ddaeth allan, roedd yn methu siarad â nhw, ac roedden nhw’n deall ei fod wedi cael gweledigaeth* yn y cysegr. Roedd yn gwneud arwyddion â’i ddwylo iddyn nhw ond arhosodd yn fud. 23 Pan oedd dyddiau ei wasanaeth sanctaidd wedi eu cwblhau, aeth i ffwrdd i’w gartref.

24 Rai dyddiau yn ddiweddarach daeth ei wraig Elisabeth yn feichiog, ac arhosodd hi yn y tŷ am bum mis, gan ddweud: 25 “Dyma sut mae Jehofa wedi delio â mi yn y dyddiau hyn. Mae wedi rhoi sylw imi ac wedi cael gwared ar fy nghywilydd.”

26 Pan oedd hi’n chwe mis yn feichiog, cafodd yr angel Gabriel ei anfon gan Dduw i ddinas o’r enw Nasareth yng Ngalilea, 27 at wyryf a oedd wedi ei haddo yn wraig i ddyn* o’r enw Joseff o dŷ Dafydd, ac enw’r wyryf oedd Mair. 28 Ac wrth ddod i mewn ati hi, dywedodd yr angel wrthi: “Cyfarchion, mae Jehofa gyda ti ac yn dy fendithio di.” 29 Ond cafodd hi ei dychryn gan ei eiriau ac roedd hi’n ceisio deall pa fath o gyfarchiad oedd hwn. 30 Felly dywedodd yr angel wrthi: “Paid ag ofni, Mair, oherwydd rwyt ti wedi derbyn cymeradwyaeth Duw. 31 Ac edrycha! byddi di’n beichiogi ac yn rhoi genedigaeth i fab, ac rwyt ti am ei alw’n Iesu. 32 Fe fydd ef yn fawr ac yn cael ei alw’n Fab y Goruchaf, a bydd Jehofa Dduw yn rhoi iddo orsedd Dafydd ei dad, 33 ac fe fydd yn rheoli fel Brenin dros dŷ Jacob am byth, a fydd ’na ddim terfyn ar ei Deyrnas.”

34 Ond dyma Mair yn dweud wrth yr angel: “Sut gall hynny ddigwydd, oherwydd dydw i ddim yn cael cyfathrach rywiol â dyn?” 35 Atebodd yr angel: “Bydd yr ysbryd glân yn dod arnat ti, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi di. Ac am y rheswm hwnnw bydd yr un sy’n cael ei eni yn cael ei alw’n sanctaidd, Mab Duw. 36 Ac edrycha! mae Elisabeth, sy’n perthyn iti, hefyd yn feichiog ers chwe mis, a hithau mewn oed, y ddynes* roedd pobl yn ei galw’n ddiffrwyth; 37 oherwydd ni fydd unrhyw beth* yn amhosib i Dduw.” 38 Yna dywedodd Mair: “Edrycha! Caethferch Jehofa ydw i! Gad i beth rwyt ti wedi ei ddweud ddigwydd i mi.” Ar hynny, gwnaeth yr angel ei gadael hi.

39 Felly, yn y dyddiau hynny, teithiodd Mair ar frys i’r ardal fynyddig, i ddinas yn Jwda, 40 ac aeth hi i mewn i gartref Sechareia a chyfarch Elisabeth. 41 Wel, wrth i Elisabeth glywed cyfarchiad Mair, dyma’r baban yn y groth yn neidio, a chafodd Elisabeth ei llenwi â’r ysbryd glân 42 a gwaeddodd hi’n uchel: “Rwyt ti wedi cael dy fendithio’n fwy nag unrhyw ddynes* arall, ac mae ffrwyth dy groth wedi ei fendithio hefyd! 43 Felly sut rydw i wedi cael y fraint hon o gael mam fy Arglwydd yn dod ata i? 44 Oherwydd edrycha! wrth i sŵn dy gyfarchiad gyrraedd fy nghlustiau, gwnaeth y baban yn fy nghroth neidio o lawenydd. 45 Hefyd, hapus yw’r ddynes* a wnaeth gredu, oherwydd bydd y pethau a gafodd eu dweud wrthi hi oddi wrth Jehofa yn cael eu cyflawni’n llwyr.”

46 A dywedodd Mair: “Mae fy holl enaid* yn moli Jehofa, 47 ac mae fy ysbryd yn llawn llawenydd oherwydd Duw, fy Achubwr, 48 oherwydd mae ef wedi edrych ar ei gaethferch, er ei bod hi o blith y bobl gyffredin. Edrycha! o hyn ymlaen bydd pob cenhedlaeth yn dweud fy mod i’n hapus, 49 oherwydd bod yr Un nerthol wedi gwneud pethau mawr ar fy nghyfer i, ac mae ei enw yn sanctaidd, 50 ac o genhedlaeth i genhedlaeth mae ei drugaredd ar y rhai sy’n ei ofni. 51 Mae ef wedi gweithredu’n rymus â’i fraich; mae wedi gwasgaru’r rhai sy’n falch ym mwriadau eu calonnau. 52 Mae wedi tynnu dynion pwerus i lawr oddi ar eu gorseddau ac wedi dyrchafu pobl o dras isel; 53 mae wedi bodloni’n llwyr y rhai llwglyd â phethau da ac wedi anfon y rhai cyfoethog i ffwrdd heb ddim byd. 54 Mae wedi helpu Israel ei was, gan gofio ei drugaredd, 55 yn union fel y siaradodd ef â’n cyndadau, ag Abraham ac â’i ddisgynyddion,* am byth.” 56 Arhosodd Mair gyda hi am tua thri mis ac yna aeth hi yn ôl i’w chartref ei hun.

57 Nawr daeth yr amser i Elisabeth eni’r plentyn, a rhoddodd enedigaeth i fab. 58 A gwnaeth y cymdogion a’i pherthnasau glywed bod Jehofa wedi dangos trugaredd mawr tuag ati hi, a dyma nhw’n llawenhau gyda hi. 59 Ar yr wythfed dydd daethon nhw i enwaedu’r plentyn bach, ac roedden nhw am ei enwi ar ôl ei dad, Sechareia. 60 Ond atebodd ei fam: “Na! Ioan fydd ei enw.” 61 Ar hynny dywedon nhw wrthi hi: “Does gan yr un o dy berthnasau yr enw hwnnw.” 62 Yna, drwy wneud arwyddion â’u dwylo, dyma nhw’n gofyn i’w dad beth roedd ef eisiau i’w fab gael ei alw. 63 Felly gofynnodd am dabled bren ac ysgrifennodd: “Ioan ydy ei enw.” Ar hynny roedden nhw i gyd yn syfrdan. 64 Ar unwaith dyma ei geg yn cael ei hagor a’i dafod yn cael ei ryddhau a dechreuodd siarad, gan ogoneddu Duw. 65 A daeth ofn mawr ar bawb a oedd yn byw yn eu hardal, a dechreuodd pobl siarad am yr holl bethau hyn drwy gydol ardal fynyddig Jwdea. 66 A gwnaeth pawb a glywodd hyn nodi’r peth yn eu calonnau, gan ddweud: “Beth fydd y plentyn hwn yn ei wneud pan fydd ef wedi tyfu i fyny?” Oherwydd roedd llaw Jehofa yn bendant gydag ef.

67 Wedyn cafodd Sechareia ei dad ei lenwi â’r ysbryd glân, a gwnaeth ef broffwydo, gan ddweud: 68 “Gadewch i Jehofa gael ei ogoneddu, Duw Israel, oherwydd ei fod wedi rhoi ei sylw i’w bobl a’u rhyddhau nhw. 69 Ac mae ef wedi codi achubwr nerthol* inni yn nhŷ Dafydd ei was, 70 yn union fel mae ef wedi siarad drwy geg ei broffwydi sanctaidd ers amser maith yn ôl, 71 am achubiaeth rhag ein gelynion a rhag llaw yr holl rai sy’n ein casáu ni. 72 Bydd Duw yn drugarog wrthon ni yn unol â’i addewid i’n cyndadau a bydd ef yn cofio ei gyfamod sanctaidd, 73 y llw a wnaeth ef gydag Abraham ein cyndad, 74 i roi inni, ar ôl inni gael ein hachub rhag dwylo ein gelynion, y fraint o’i wasanaethu’n ddi-ofn 75 gyda ffyddlondeb a chyfiawnder o’i flaen, holl ddyddiau ein bywyd. 76 Ond byddi di, blentyn bach, yn cael dy alw’n broffwyd i’r Goruchaf, oherwydd byddi di’n mynd o flaen Jehofa i baratoi ei ffyrdd, 77 i roi gwybodaeth am achubiaeth i’w bobl drwy faddeuant o’u pechodau, 78 oherwydd tosturi tyner ein Duw. Bydd y tosturi hwn o’r nef yn goleuo droston ni fel yr haul yn codi, 79 i roi goleuni i’r rhai sy’n eistedd yn y tywyllwch ac yng nghysgod marwolaeth ac i arwain ein traed ar hyd ffordd heddwch.”

80 A gwnaeth y plentyn bach dyfu i fyny a dod yn gryf yn ei ysbryd, ac roedd yn byw yn yr anialwch nes i’r amser ddod iddo bregethu i bobl Israel.

2 Nawr, yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i’r holl fyd gael ei gofrestru. 2 (Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwn pan oedd Cyrenius yn llywodraethwr ar Syria.) 3 Ac aeth yr holl bobl i gael eu cofrestru, pob un i’w ddinas ei hun. 4 Wrth gwrs, aeth Joseff hefyd i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i mewn i Jwdea, i ddinas Dafydd, sy’n cael ei galw’n Bethlehem, oherwydd ei fod yn aelod o dŷ a theulu Dafydd. 5 Aeth i gael ei gofrestru gyda Mair ei wraig, a oedd ar fin rhoi genedigaeth. 6 Tra oedden nhw yno, daeth yn amser iddi roi genedigaeth. 7 A rhoddodd enedigaeth i’w mab, y cyntaf-anedig, a’i lapio’n dynn mewn cadachau a’i osod mewn preseb,* am nad oedd lle iddyn nhw yn y llety.

8 Yn yr un ardal roedd ’na fugeiliaid yn byw yn yr awyr agored ac yn gwarchod eu praidd liw nos. 9 Yn sydyn safodd angel Jehofa o’u blaenau nhw, a disgleiriodd gogoniant Jehofa o’u hamgylch, a daeth ofn mawr arnyn nhw. 10 Ond dywedodd yr angel wrthyn nhw: “Peidiwch ag ofni, oherwydd edrychwch! rydw i’n cyhoeddi newyddion da ichi a fydd yn dod â llawenydd mawr i’r holl bobl. 11 Oherwydd heddiw cafodd achubwr ei eni ar eich cyfer chi yn ninas Dafydd, sef Crist yr Arglwydd. 12 A dyma arwydd ichi: Byddwch chi’n dod o hyd i faban wedi ei lapio’n dynn mewn cadachau ac yn gorwedd mewn preseb.” 13 Yn sydyn, roedd ’na dyrfa o’r fyddin nefol gyda’r angel, yn moli Duw ac yn dweud: 14 “Gogoniant yn y nefoedd i Dduw, a heddwch ar y ddaear ymhlith dynion sydd â ffafr Duw.”*

15 Felly ar ôl i’r angylion fynd i ffwrdd oddi wrthyn nhw i’r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd: “Gadewch inni fynd nawr i Fethlehem a gweld beth sydd wedi digwydd, beth mae Jehofa wedi ei ddweud wrthon ni.” 16 A dyma nhw’n mynd yn gyflym a dod o hyd i Mair a Joseff, a’r baban yn gorwedd yn y preseb. 17 Pan welson nhw hyn, dechreuon nhw adrodd y neges roedd yr angel wedi ei rhoi iddyn nhw am y plentyn bach hwn. 18 Ac roedd pawb a glywodd yr hyn a ddywedodd y bugeiliaid wrthyn nhw wedi rhyfeddu, 19 ond dechreuodd Mair gadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chof, gan fyfyrio arnyn nhw yn ei chalon. 20 Yna aeth y bugeiliaid yn ôl, gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywson nhw ac a welson nhw, yn union fel roedd Duw wedi achosi iddyn nhw glywed.

21 Ar ôl wyth diwrnod, pan ddaeth yr amser iddo gael ei enwaedu, fe gafodd ei alw yn Iesu, yr enw a roddodd yr angel cyn i Mair feichiogi.

22 Hefyd, pan ddaeth yr amser iddyn nhw gael eu puro yn ôl Cyfraith Moses, daethon nhw ag ef i fyny i Jerwsalem i’w gyflwyno i Jehofa, 23 yn union fel mae’n ysgrifenedig yng Nghyfraith Jehofa: “Mae’n rhaid i bob gwryw cyntaf-anedig gael ei alw’n sanctaidd i Jehofa.” 24 A gwnaethon nhw offrymu aberth yn ôl yr hyn sy’n cael ei ddweud yng Nghyfraith Jehofa: “dwy durtur neu ddwy golomen ifanc.”

25 Ac edrycha! roedd ’na ddyn yn Jerwsalem o’r enw Simeon, ac roedd y dyn hwn yn gyfiawn ac yn ofni Duw, yn aros am gysur Israel, ac roedd yr ysbryd glân arno. 26 Ar ben hynny, roedd Duw wedi datgelu iddo na fyddai ef yn gweld marwolaeth cyn iddo weld y Crist, yr Un a gafodd ei ddewis gan Jehofa. 27 Nawr, o dan rym yr ysbryd, fe ddaeth ef i mewn i’r deml, ac wrth i’r rhieni ddod â’r plentyn ifanc Iesu i mewn i’r deml er mwyn dilyn defod draddodiadol y Gyfraith, 28 dyma ef yn cymryd y plentyn yn ei freichiau ac yn moli Duw a dweud: 29 “Nawr, Sofran Arglwydd, rwyt ti’n gadael i dy gaethwas fynd mewn heddwch oherwydd rwyt ti wedi cyflawni dy addewid, 30 oherwydd mae fy llygaid wedi gweld yr un sy’n dod ag achubiaeth, 31 yr un rwyt ti wedi ei baratoi yng ngolwg yr holl bobloedd. 32 Mae ef yn oleuni ar gyfer tynnu’r gorchudd oddi ar y cenhedloedd ac yn ogoniant yng ngolwg dy bobl Israel.” 33 Ac roedd tad a mam y plentyn yn parhau i ryfeddu at y pethau a oedd yn cael eu dweud amdano. 34 Hefyd, gwnaeth Simeon eu bendithio nhw a dywedodd wrth Mair, mam y plentyn: “Edrycha! Oherwydd y plentyn hwn bydd rhai yn Israel yn syrthio ac eraill yn codi, a bydd llawer yn siarad yn ei erbyn, er bod Duw am ddangos iddyn nhw drwy arwyddion ei fod gydag ef; 35 mae ef wedi cael ei benodi er mwyn datguddio meddyliau a theimladau llawer o galonnau, ac yn dy achos di, byddi di’n cael dy drywanu* gan gleddyf hir.”

36 Nawr roedd ’na broffwydes, Anna merch Phanuel, o lwyth Aser. Roedd y ddynes* hon mewn oed mawr ac wedi byw gyda’i gŵr am saith mlynedd ar ôl iddyn nhw briodi, 37 ac roedd hi nawr yn wraig weddw yn 84 blwydd oed. Roedd hi’n wastad yn mynd i’r deml, yn cyflawni gwasanaeth cysegredig nos a dydd gan ymprydio ac erfyn wrth weddïo. 38 Yn yr awr honno, daeth hi’n agos a dechreuodd hi roi diolch i Dduw a siarad am y plentyn â phawb a oedd yn aros am ryddhad Jerwsalem.

39 Felly pan oedden nhw wedi gwneud popeth yn ôl Cyfraith Jehofa, aethon nhw yn ôl i mewn i Galilea i’w dinas eu hunain, Nasareth. 40 A pharhaodd y plentyn ifanc i dyfu a chryfhau, yn llawn doethineb, a gwnaeth ffafr Duw barhau arno.

41 Nawr roedd ei rieni yn mynd bob blwyddyn i Jerwsalem ar gyfer gŵyl y Pasg. 42 A phan oedd ef yn 12 mlwydd oed, aethon nhw i fyny i’r ŵyl fel roedden nhw bob amser yn gwneud. 43 Pan oedd dyddiau’r ŵyl wedi dod i ben a nhwthau’n mynd yn ôl, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem, heb i’w rieni sylweddoli. 44 Gan gymryd ei fod yn y grŵp a oedd yn teithio gyda’i gilydd, gwnaethon nhw deithio am ddiwrnod ac yna dechrau chwilio amdano ymhlith eu perthnasau a’r bobl roedden nhw’n eu hadnabod. 45 Ond, wedi methu cael hyd iddo, aethon nhw yn ôl i Jerwsalem a chwilio’n ddyfal amdano. 46 Wel, ar ôl tri diwrnod daethon nhw o hyd iddo yn y deml, yn eistedd ymhlith yr athrawon ac yn gwrando arnyn nhw ac yn gofyn cwestiynau iddyn nhw. 47 Ond roedd pawb a oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu at ei ddealltwriaeth a’i atebion. 48 Nawr pan welodd ei rieni ef, roedden nhw’n syfrdan, a dywedodd ei fam wrtho: “Fy mhlentyn, pam wnest ti ein trin ni fel hyn? Mae dy dad a minnau wedi bod yn poeni’n ofnadwy ac wedi bod yn chwilio ym mhobman amdanat ti.” 49 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Pam roeddech chi’n chwilio amdana i? Onid oeddech chi’n gwybod y byddwn i yma yn nhŷ fy Nhad?” 50 Fodd bynnag, doedden nhw ddim yn deall beth roedd yn ei ddweud wrthyn nhw.

51 Yna aeth i lawr gyda nhw a mynd yn ôl i Nasareth, ac arhosodd yn ufudd iddyn nhw. Hefyd, cadwodd ei fam yr holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon. 52 Ac roedd Iesu’n dal i wneud cynnydd mewn doethineb ac i dyfu’n gorfforol. Ac roedd ffafr Duw a dynion arno.

3 Yn y 15fed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Peilat yn llywodraethwr ar Jwdea, Herod* yn rheolwr rhanbarthol* ar Galilea, Philip ei frawd yn rheolwr rhanbarthol ar wlad Itwrea a Trachonitis, a Lysanias yn rheolwr rhanbarthol ar Abilene, 2 yn nyddiau’r prif offeiriaid Annas a Caiaffas, rhoddodd Duw neges i Ioan fab Sechareia yn yr anialwch.

3 Felly aeth ef drwy’r holl ardal o gwmpas yr Iorddonen, gan bregethu am fedydd sy’n symbol o edifeirwch am faddeuant pechodau, 4 yn union fel mae’n ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Eseia: “Llais un yn galw yn yr anialwch: ‘Paratowch ffordd Jehofa! Gwnewch ei lwybrau’n syth. 5 Mae’n rhaid i bob dyffryn gael ei lenwi, a phob mynydd a bryn eu lefelu; mae’n rhaid i’r ffyrdd troellog gael eu gwneud yn syth, a’r ffyrdd garw gael eu gwneud yn esmwyth; 6 a bydd pob cnawd* yn gweld achubiaeth Duw.’”

7 Felly dechreuodd ddweud wrth y tyrfaoedd a oedd yn dod allan i gael eu bedyddio ganddo: “Gwiberod* ydych chi! Pwy sydd wedi eich rhybuddio chi i ffoi rhag y dicter sydd i ddod? 8 Felly, cynhyrchwch ffrwyth sy’n dangos edifeirwch. Peidiwch â dechrau dweud wrthoch chi’ch hunain, ‘Mae gynnon ni Abraham yn dad i ni.’ Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi fod Duw yn gallu codi plant i Abraham o’r cerrig hyn. 9 Yn wir, mae’r fwyell eisoes wrth wraidd y coed. Bydd pob coeden, felly, sydd ddim yn cynhyrchu ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a’i thaflu i’r tân.”

10 Ac roedd y tyrfaoedd yn gofyn iddo: “Beth, felly, y dylen ni ei wneud?” 11 Atebodd yntau: “Dylai’r dyn sydd â dau grys* rannu â’r dyn sydd heb grys, a dylai’r un sydd â rhywbeth i’w fwyta wneud yr un peth.” 12 Daeth hyd yn oed casglwyr trethi i gael eu bedyddio, a dywedon nhw wrtho: “Athro, beth dylen ni ei wneud?” 13 Dywedodd wrthyn nhw: “Peidiwch â mynnu* mwy na’r dreth sydd wedi ei gosod.” 14 Hefyd, roedd milwyr yn gofyn iddo: “Beth dylen ni ei wneud?” Ac meddai wrthyn nhw: “Peidiwch â gorfodi neb i roi arian ichi na chyhuddo rhywun ar gam, ond byddwch yn fodlon ar eich cyflog.”*

15 Nawr roedd y bobl yn disgwyl am y Meseia ac roedd pawb yn rhesymu yn eu calonnau am Ioan, “Tybed ai Ioan ydy’r Crist?” 16 Atebodd Ioan, gan ddweud wrth bawb: “O’m rhan fy hun, rydw i’n eich bedyddio chi â dŵr, ond mae’r un sy’n gryfach na mi yn dod, a dydw i ddim yn deilwng i ddatod carrai* ei sandalau. Bydd ef yn eich bedyddio chi â’r ysbryd glân ac â thân. 17 Mae rhaw nithio yn ei law er mwyn glanhau’n llwyr ei lawr dyrnu ac er mwyn casglu’r gwenith i’w ysgubor, ond bydd ef yn llosgi’r us â thân na ellir ei ddiffodd.”

18 Hefyd, rhoddodd ef lawer o anogaeth a pharhaodd i gyhoeddi newyddion da i’r bobl. 19 Ond gan fod Ioan wedi ceryddu Herod, rheolwr y rhanbarth, ynglŷn â Herodias, gwraig ei frawd, ac ynglŷn â’r holl bethau drwg roedd ef wedi eu gwneud, 20 dyma Herod yn ychwanegu’r canlynol at yr holl weithredoedd hynny: Gwnaeth ef gloi Ioan yn y carchar.

21 Nawr pan oedd yr holl bobl yn cael eu bedyddio, cafodd Iesu hefyd ei fedyddio. Tra oedd yn gweddïo, cafodd y nef ei hagor, 22 a daeth yr ysbryd glân i lawr arno ar ffurf colomen, a daeth lais allan o’r nef: “Ti yw fy Mab annwyl; rwyt ti wedi fy mhlesio i’n fawr iawn.”*

23 Pan ddechreuodd Iesu ei waith, roedd ef tua 30 oed, ac yn ôl y farn gyffredin, roedd ef yn fab

i Joseff,

fab Heli,

24 fab Mathat,

fab Lefi,

fab Melchi,

fab Jannai,

fab Joseff,

25 fab Matathias,

fab Amos,

fab Nahum,

fab Esli,

fab Nagai,

26 fab Maath,

fab Matathias,

fab Semein,

fab Josech,

fab Joda,

27 fab Joanan,

fab Rhesa,

fab Sorobabel,

fab Sealtiel,

fab Neri,

28 fab Melchi,

fab Adi,

fab Cosam,

fab Elmadam,

fab Er,

29 fab Iesu,

fab Elieser,

fab Jorim,

fab Mathat,

fab Lefi,

30 fab Symeon,

fab Jwdas,

fab Joseff,

fab Jonam,

fab Eliacim,

31 fab Melea,

fab Menna,

fab Matatha,

fab Nathan,

fab Dafydd,

32 fab Jesse,

fab Obed,

fab Boas,

fab Salmon,

fab Naason,

33 fab Aminadab,

fab Arni,

fab Hesron,

fab Peres,

fab Jwda,

34 fab Jacob,

fab Isaac,

fab Abraham,

fab Tera,

fab Nachor,

35 fab Serug,

fab Reu,

fab Peleg,

fab Eber,

fab Sela,

36 fab Cainan,

fab Arffacsad,

fab Sem,

fab Noa,

fab Lamech,

37 fab Methwsela,

fab Enoch,

fab Jared,

fab Maleleel,

fab Cainan,

38 fab Enos,

fab Seth,

fab Adda,

fab Duw.

4 Yna aeth Iesu, yn llawn o’r ysbryd glân, i ffwrdd oddi wrth yr Iorddonen, ac fe gafodd ei arwain o un lle i’r llall gan yr ysbryd yn yr anialwch 2 am 40 diwrnod, yn cael ei demtio gan y Diafol. Ac ni wnaeth fwyta dim byd yn ystod y dyddiau hynny, felly pan oedden nhw wedi dod i ben, roedd yn teimlo’n llwglyd. 3 Gyda hynny, dywedodd y Diafol wrtho: “Os wyt ti’n fab i Dduw, dyweda wrth y garreg hon am droi’n dorth o fara.” 4 Ond atebodd Iesu ef: “Mae’n ysgrifenedig, ‘Nid ar fara yn unig y dylai dyn fyw.’”

5 Felly cymerodd y Diafol ef i fyny a dangos iddo mewn chwinciad holl deyrnasoedd y byd. 6 Yna dywedodd y Diafol wrtho: “Fe wna i roi i ti awdurdod dros yr holl deyrnasoedd hyn a’u gogoniant, oherwydd fe gafodd ei roi i mi, ac rydw i’n ei roi i bwy bynnag rydw i’n ei ddymuno. 7 Os gwnei di, felly, fy addoli i un waith, fe gei di’r cwbl.” 8 Atebodd Iesu drwy ddweud wrtho: “Mae’n ysgrifenedig, ‘Jehofa dy Dduw y dylet ti ei addoli, ac ef yn unig y dylet ti ei wasanaethu.’”

9 Yna arweiniodd y Diafol ef i mewn i Jerwsalem a’i osod ar ben wal uchaf* y deml a dweud wrtho: “Os wyt ti’n fab i Dduw, tafla dy hun i lawr oddi yma, 10 oherwydd mae’n ysgrifenedig, ‘Bydd yn rhoi gorchymyn i’w angylion amdanat ti, i dy warchod di,’ 11 a, ‘Byddan nhw’n dy gario di yn eu dwylo, fel na fyddi di’n taro dy droed yn erbyn carreg.’” 12 Atebodd Iesu ef: “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud, ‘Paid â gosod Jehofa dy Dduw ar brawf.’” 13 Felly, ar ôl gorffen yr holl demtio, gadawodd y Diafol ef hyd nes i gyfle arall godi.

14 Nawr aeth Iesu yn nerth yr ysbryd yn ôl i mewn i Galilea. Ac aeth adroddion da amdano ar led drwy’r holl wlad o amgylch. 15 Hefyd, dechreuodd ddysgu yn eu synagogau, ac roedd pawb yn ei glodfori.

16 Yna fe aeth i Nasareth, lle roedd wedi cael ei fagu, ac yn ôl ei arfer ar ddydd y Saboth, aeth i mewn i’r synagog a safodd ar ei draed i ddarllen. 17 Felly cafodd sgrôl y proffwyd Eseia ei rhoi iddo, ac agorodd ef y sgrôl a dod o hyd i’r man lle roedd yn ysgrifenedig: 18 “Mae ysbryd Jehofa arna i, oherwydd fe wnaeth fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i’r rhai tlawd. Fe wnaeth fy anfon i gyhoeddi i’r caethion y bydden nhw’n cael eu rhyddhau ac y byddai’r rhai dall yn cael eu golwg yn ôl, ac i roi rhyddid i’r rhai sydd wedi cael eu sathru, 19 i bregethu am flwyddyn ffafr Jehofa.” 20 Gyda hynny, fe gaeodd y sgrôl, ei rhoi hi yn ôl i’r swyddog, ac eistedd; ac roedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno. 21 Yna dechreuodd ddweud wrthyn nhw: “Heddiw mae’r ysgrythur hon rydych chi newydd ei chlywed wedi cael ei chyflawni.”

22 A dechreuon nhw i gyd ddweud pethau da amdano a rhyfeddu at y geiriau apelgar a oedd yn dod allan o’i geg, ac roedden nhw’n dweud: “Onid mab Joseff ydy hwn?” 23 Ar hynny, dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae’n siŵr y byddwch chi’n dweud bod yr ymadrodd hwn yn cyfeirio ata i, ‘Feddyg, iachâ dy hun. Rydyn ni wedi clywed beth sydd wedi digwydd yng Nghapernaum, felly gwna’r un pethau yma hefyd yn dy fro dy hun.’” 24 Felly dywedodd: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi nad ydy’r un proffwyd yn cael ei dderbyn yn ei fro ei hun. 25 Er enghraifft, credwch chi fi, roedd ’na lawer o wragedd gweddw yn Israel yn nyddiau Elias pan oedd y nef wedi ei chau am dair blynedd a chwe mis, a newyn mawr wedi dod ar yr holl wlad. 26 Ond ni chafodd Elias ei anfon at yr un o’r merched* hynny, dim ond at wraig weddw yn Sareffath yng ngwlad Sidon. 27 Hefyd, roedd ’na lawer o bobl wahanglwyfus yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ond ni chafodd yr un ohonyn nhw ei iacháu, dim ond Naaman y Syriad.” 28 Nawr wrth glywed y pethau hyn, roedd pawb yn y synagog yn llawn dicter, 29 a dyma nhw’n codi a’i ruthro y tu allan i’r ddinas, a’i arwain i gopa’r mynydd roedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, er mwyn ei daflu o’r clogwyn. 30 Ond aeth ef drwy ganol y dyrfa a mynd ymlaen ar ei ffordd.

31 Yna aeth i lawr i Gapernaum, dinas yng Ngalilea. Ac roedd ef yn eu dysgu nhw ar y Saboth, 32 ac roedden nhw’n rhyfeddu at ei ffordd o ddysgu, oherwydd roedd ef yn siarad gydag awdurdod. 33 Nawr yn y synagog roedd ’na ddyn ag ysbryd ynddo, cythraul aflan, a gwaeddodd ef yn uchel: 34 “A! Beth rwyt ti eisiau gynnon ni, Iesu’r Nasaread? Wyt ti wedi dod i’n dinistrio ni? Rydw i’n gwybod yn union pwy wyt ti, Un Sanctaidd Duw.” 35 Ond gwnaeth Iesu ei geryddu, gan ddweud: “Bydda’n ddistaw, tyrd allan ohono.” Felly ar ôl taflu’r dyn i lawr yn eu plith, daeth y cythraul allan ohono heb ei frifo. 36 Ar hynny, roedden nhw i gyd yn syfrdan a dechreuon nhw ddweud wrth ei gilydd: “Sut mae’n gallu siarad fel hyn? Oherwydd mae’n gorchymyn yr ysbrydion aflan gydag awdurdod a grym, ac maen nhw’n dod allan!” 37 Felly aeth y newyddion amdano ar led i bob cornel o’r wlad oddi amgylch.

38 Ar ôl iddo adael y synagog, aeth i mewn i dŷ Simon. Nawr roedd mam yng nghyfraith Simon yn dioddef o dwymyn uchel, a dyma nhw’n gofyn iddo ei helpu hi. 39 Felly safodd ef drosti hi a cheryddu’r dwymyn, a diflannodd y dwymyn. Ar unwaith, cododd hi a dechrau gweini arnyn nhw.

40 Ond pan oedd yr haul yn machlud, dyma bawb a oedd â rhai sâl yn eu tai yn dod â nhw ato, pa bynnag afiechyd oedd ganddyn nhw. Drwy osod ei ddwylo ar bob un ohonyn nhw, gwnaeth ef eu hiacháu nhw. 41 Hefyd, daeth cythreuliaid allan o lawer o bobl, yn gweiddi ac yn dweud: “Ti yw Mab Duw.” Ond gwnaeth Iesu eu ceryddu nhw, a doedd ef ddim yn gadael iddyn nhw siarad, oherwydd roedden nhw’n gwybod mai’r Crist oedd ef.

42 Fodd bynnag, wrth iddi wawrio, gadawodd ef a mynd i le unig. Ond dechreuodd y tyrfaoedd chwilio amdano a daethon nhw o hyd iddo, a dyma nhw’n ceisio ei stopio rhag mynd i ffwrdd oddi wrthyn nhw. 43 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae’n rhaid imi gyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd, oherwydd dyna pam ges i fy anfon gan Dduw.” 44 Felly parhaodd ef i bregethu yn synagogau Jwdea.

5 Ar un achlysur pan oedd y dyrfa yn gwasgu arno ac yn gwrando ar air Duw, roedd yn sefyll wrth ymyl Llyn Genesaret.* 2 Ac fe welodd ddau gwch wedi eu docio ar lan y llyn, ond roedd y pysgotwyr wedi dod allan ohonyn nhw ac roedden nhw’n golchi eu rhwydi. 3 Aeth ef i mewn i un o’r cychod, yr un oedd yn perthyn i Simon, a gofyn iddo wthio allan o’r tir ychydig. Yna eisteddodd, a dechreuodd ddysgu’r tyrfaoedd o’r cwch. 4 Ar ôl iddo orffen siarad, dywedodd wrth Simon: “Dos allan i’r dŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydi er mwyn dal pysgod.” 5 Ond atebodd Simon: “Athro, gwnaethon ni weithio’n galed drwy’r nos heb ddal dim byd, ond ar dy air di fe wna i ollwng y rhwydi.” 6 Wel, pan wnaethon nhw hyn, fe ddalion nhw nifer fawr iawn o bysgod. Yn wir, dechreuodd eu rhwydi rwygo. 7 Felly dyma nhw’n chwifio eu dwylo ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i’w helpu nhw, ac fe ddaethon nhw a llenwi’r ddau gwch, nes iddyn nhw ddechrau suddo. 8 Gan weld hyn, syrthiodd Simon Pedr wrth liniau Iesu, a dweud: “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd, oherwydd fy mod i’n ddyn pechadurus.” 9 Roedd ef a’r rhai oedd gydag ef wedi eu syfrdanu’n llwyr o weld faint o bysgod roedden nhw wedi eu dal, 10 ac roedd yr un peth yn wir am Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn bartneriaid i Simon. Ond dywedodd Iesu wrth Simon: “Stopia fod yn ofnus. O hyn ymlaen byddi di’n dal dynion byw.”* 11 Felly daethon nhw â’r cychod yn ôl i’r lan a gadael popeth a’i ddilyn ef.

12 Ar achlysur arall tra oedd yn un o’r dinasoedd, edrycha! roedd ’na ddyn yn llawn o’r gwahanglwyf! Pan welodd ef Iesu, syrthiodd ar ei wyneb ac ymbil arno: “Arglwydd, os wyt ti eisiau, gelli di fy ngwneud i’n lân.” 13 Felly, gan estyn ei law, dyma’n cyffwrdd â’r dyn, gan ddweud: “Rydw i eisiau! Bydda’n lân.” Ar unwaith diflannodd y gwahanglwyf oddi arno. 14 Yna gorchmynnodd i’r dyn beidio â dweud wrth neb: “Ond dos a dangos dy hun i’r offeiriad, a chyflwyna offrwm er mwyn iti gael dy lanhau, yn union fel y gorchmynnodd Moses, fel tystiolaeth iddyn nhw.” 15 Ond roedd y newyddion amdano yn dal i fynd ar led, a byddai tyrfaoedd mawr yn dod at ei gilydd i wrando ac i gael eu hiacháu oddi wrth eu hafiechydon. 16 Fodd bynnag, byddai ef yn aml yn mynd i lefydd unig i weddïo.

17 Ar un o’r diwrnodau hynny pan oedd yn dysgu, roedd Phariseaid ac athrawon y Gyfraith wedi dod allan o bob pentref yng Ngalilea a Jwdea ac o Jerwsalem ac roedden nhw’n eistedd yno; ac roedd grym Jehofa gydag ef i iacháu. 18 Ac edrycha! roedd dynion yn cario dyn wedi ei barlysu ar stretsier, ac roedden nhw’n ceisio dod ag ef i mewn a’i osod o flaen Iesu. 19 Oherwydd eu bod nhw wedi methu cael ffordd i ddod ag ef i mewn o achos y dyrfa, dyma nhw’n dringo ar y to, tynnu’r teils, a’i ollwng i lawr ar y stretsier i ganol y dyrfa o flaen Iesu. 20 Pan welodd ef eu ffydd, dywedodd: “Ddyn, mae dy bechodau wedi cael eu maddau.” 21 Yna dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid resymu, gan ddweud: “Pwy ydy hwn sy’n cablu? Pwy sy’n gallu maddau pechodau heblaw Duw yn unig?” 22 Ond, yn synhwyro eu meddyliau, dyma Iesu’n eu hateb nhw: “Pam rydych chi’n meddwl fel hyn? 23 Beth sy’n haws, dweud, ‘Mae dy bechodau wedi cael eu maddau,’ neu ddweud, ‘Cod a cherdda’? 24 Ond er mwyn i chi wybod bod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau—” dywedodd wrth y dyn wedi ei barlysu: “Rydw i’n dweud wrthot ti, Cod, cymera dy stretsier, a dos adref.” 25 Ar hynny, safodd i fyny o’u blaenau nhw, cododd yr hyn roedd wedi bod yn gorwedd arno, ac aeth i’w gartref, yn clodfori Duw. 26 Yna roedd pawb yn hollol syfrdan, a dechreuon nhw ogoneddu Duw, ac roedden nhw’n llawn ofn, ac yn dweud: “Rydyn ni wedi gweld pethau rhyfeddol heddiw!”

27 Nawr ar ôl hynny, aeth ef allan a gwelodd gasglwr trethi o’r enw Lefi yn eistedd yn y swyddfa dreth, a dywedodd wrtho: “Dilyna fi.” 28 Ac yn gadael popeth, cododd ef a dechrau ei ddilyn. 29 Yna trefnodd Lefi wledd fawr ar ei gyfer ef yn ei dŷ, ac roedd ’na dyrfa fawr o gasglwyr trethi ac eraill a oedd yn bwyta gyda nhw. 30 Ar hynny, dechreuodd y Phariseaid a’u hysgrifenyddion gwyno wrth ei ddisgyblion, gan ddweud: “Pam rydych chi’n bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” 31 Dyma Iesu’n eu hateb nhw: “Does dim angen meddyg ar y rhai sy’n iach, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl. 32 Rydw i wedi dod i alw, nid pobl gyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.”

33 Dywedon nhw wrtho: “Mae disgyblion Ioan yn ymprydio’n aml ac yn gweddïo’n daer, fel y mae disgyblion y Phariseaid, ond mae dy rai di yn bwyta ac yn yfed.” 34 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dydych chi ddim yn gallu gwneud i ffrindiau’r priodfab ymprydio tra bydd y priodfab gyda nhw, nac ydych? 35 Ond bydd dyddiau’n dod pan fydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw; yna byddan nhw’n ymprydio yn y dyddiau hynny.”

36 Hefyd, adroddodd eglureb wrthyn nhw: “Does neb yn torri darn o frethyn o gôt newydd a’i wnïo ar gôt hen. Os yw’n gwneud hynny, bydd y darn o frethyn newydd yn rhwygo i ffwrdd ac ni fydd y darn o frethyn o’r côt newydd yn debyg i’r hen un. 37 Hefyd, does neb yn rhoi gwin newydd mewn hen grwyn. Os yw’n gwneud hynny, bydd y gwin newydd yn rhwygo’r crwyn a bydd y gwin yn gollwng a’r crwyn yn cael eu difetha. 38 Ond mae’n rhaid rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd. 39 Does neb eisiau gwin newydd ar ôl iddo yfed hen win, oherwydd mae’n dweud, ‘Mae’r hen win yn dda.’”

6 Nawr, un saboth, roedd Iesu yn mynd trwy gaeau gwenith, ac roedd ei ddisgyblion yn tynnu ac yn bwyta tywysennau gwenith, gan eu rhwbio nhw yn eu dwylo. 2 Ar hynny, dywedodd rhai o’r Phariseaid: “Pam rydych chi’n gwneud rhywbeth sy’n anghyfreithlon ar y Saboth?” 3 Ond atebodd Iesu nhw: “Onid ydych chi erioed wedi darllen am beth wnaeth Dafydd pan oedd ef a’r dynion gydag ef wedi llwgu? 4 Am sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw a derbyn y bara a oedd wedi ei gyflwyno i Dduw* a’i fwyta a rhoi ychydig i’r dynion oedd gydag ef, rhywbeth nad oedd yn gyfreithlon i unrhyw un ei fwyta ond i’r offeiriaid yn unig?” 5 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Mab y dyn ydy Arglwydd y Saboth.”

6 Ar saboth arall aeth i mewn i’r synagog a dechrau dysgu. Ac roedd dyn yno a’i law dde wedi gwywo.* 7 Roedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid nawr yn gwylio Iesu yn ofalus i weld a fyddai’n iacháu ar y Saboth, er mwyn dod o hyd i ryw gyhuddiad yn ei erbyn. 8 Roedd ef, fodd bynnag, yn gwybod beth roedd yn eu meddyliau, felly dywedodd wrth y dyn â’r llaw wedi gwywo:* “Cod a saf yn y canol.” Ac fe gododd a sefyll yno. 9 Yna dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Rydw i’n gofyn i chi ddynion, a ydy hi’n gyfreithlon ar y Saboth i wneud da neu i wneud drwg, i achub bywyd neu i’w ddinistrio?” 10 Ar ôl edrych arnyn nhw i gyd, dywedodd wrth y dyn: “Estynna dy law.” Fe wnaeth hynny, ac fe gafodd ei law ei hiacháu. 11 Ond dyma nhw’n mynd yn wyllt gynddeiriog, a dechrau trafod â’i gilydd beth y gallen nhw ei wneud i Iesu.

12 Ar un o’r dyddiau hynny aeth ef allan i’r mynydd i weddïo, a threuliodd y noson gyfan yn gweddïo ar Dduw. 13 Ar ôl iddi droi’n ddydd, galwodd Iesu ei ddisgyblion ato a dewisodd 12 o’u plith nhw, a’u galw nhw’n apostolion: 14 Simon, yr un roedd ef hefyd yn ei alw’n Pedr, Andreas ei frawd, Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus, 15 Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Simon sy’n cael ei alw “yr un selog,” 16 Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot, a drodd yn fradwr.

17 A daeth ef i lawr gyda nhw a sefyll ar le gwastad, ac roedd ’na dyrfa fawr o’i ddisgyblion, ynghyd â nifer mawr o bobl o Jwdea gyfan a Jerwsalem ac arfordir Tyrus a Sidon, a ddaeth i’w glywed ac i gael eu hiacháu o’u hafiechydon. 18 Cafodd hyd yn oed y rhai a oedd yn cael eu cythryblu gan ysbrydion aflan eu hiacháu. 19 Ac roedd yr holl dyrfa yn ceisio ei gyffwrdd, oherwydd roedd nerth yn mynd allan ohono ac yn eu hiacháu nhw i gyd.

20 A chododd ei lygaid ar ei ddisgyblion a dechreuodd ddweud:

“Hapus ydych chi sy’n dlawd, oherwydd mae Teyrnas Dduw yn perthyn ichi.

21 “Hapus ydych chi sy’n llwgu nawr, oherwydd byddwch chi’n cael eich llenwi.

“Hapus ydych chi sy’n wylo nawr, oherwydd byddwch chi’n chwerthin.

22 “Hapus ydych chi bryd bynnag y bydd dynion yn eich casáu chi, a phan fyddan nhw’n eich cau chi allan ac yn eich sarhau chi ac yn lladd ar eich enw* er mwyn Mab y dyn. 23 Ar y diwrnod hwnnw, byddwch yn llawen a neidiwch o lawenydd, oherwydd edrychwch! mae eich gwobr yn fawr yn y nef, oherwydd dyna’r un pethau roedd eu cyndadau yn eu gwneud i’r proffwydi.

24 “Ond gwae chi sy’n gyfoethog, oherwydd rydych chi wedi derbyn yr holl bleserau rydych chi am eu cael.

25 “Gwae chi sy’n llawn nawr, oherwydd byddwch chi’n llwgu.

“Gwae chi sy’n chwerthin nawr, oherwydd byddwch chi’n galaru ac yn wylo.

26 “Gwae chi bryd bynnag y bydd pob dyn yn eich canmol chi, oherwydd dyna beth wnaeth eu cyndadau i’r gau broffwydi.

27 “Ond rydw i’n dweud wrthoch chi sy’n gwrando: Parhewch i garu eich gelynion, i wneud daioni i’r rhai sy’n eich casáu chi, 28 i fendithio’r rhai sy’n eich melltithio, i weddïo dros y rhai sy’n eich sarhau. 29 I’r un sy’n dy daro di ar dy foch, cynigia’r llall hefyd; ac i’r un sy’n cymryd dy gôt, paid â gwrthod rhoi dy grys iddo hefyd. 30 Rho i bawb sy’n gofyn am rywbeth gen ti, ac i’r un sy’n cymryd dy bethau i ffwrdd, paid â gofyn iddo eu rhoi nhw yn ôl iti.

31 “Hefyd, yn union fel rydych chi eisiau i ddynion eich trin chi, gwnewch yr un fath iddyn nhw.

32 “Os ydych chi’n caru’r rhai sy’n eich caru chi, o ba les ydy hynny ichi? Oherwydd mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru’r rhai sy’n eu caru nhw. 33 Ac os ydych chi’n gwneud daioni i’r rhai sy’n gwneud daioni i chi, o ba les ydy hynny ichi? Mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneud yr un peth. 34 Hefyd, os ydych chi’n benthyg* i eraill oherwydd rydych chi’n meddwl y byddan nhw’n eich talu yn ôl, o ba les ydy hynny ichi? Mae hyd yn oed pechaduriaid yn benthyg i bechaduriaid ac yn disgwyl cael eu talu yn ôl yn llawn. 35 I’r gwrthwyneb, parhewch i garu eich gelynion ac i wneud daioni ac i fenthyg heb obeithio am gael unrhyw beth yn ôl; a bydd eich gwobr yn fawr, a byddwch chi’n feibion i’r Goruchaf, oherwydd mae ef yn garedig tuag at y rhai anniolchgar a drwg. 36 Parhewch i fod yn drugarog, yn union fel mae eich Tad yn drugarog.

37 “Ar ben hynny, stopiwch farnu, ac ni fyddwch chithau ar unrhyw gyfri yn cael eich barnu; a stopiwch gondemnio, ac ni fyddwch chithau ar unrhyw gyfri yn cael eich condemnio. Parhewch i faddau, a bydd Duw yn maddau i chi. 38 Parhewch i roi, a bydd pobl yn rhoi i chithau. Byddan nhw’n tywallt* mesur da i mewn i’r plygiad yn eich côt, wedi ei wasgu i lawr, ei ysgwyd ynghyd, ac yn gorlifo. Oherwydd y mesur rydych chi’n ei ddefnyddio i roi i eraill, y byddan nhw’n ei ddefnyddio i roi yn ôl i chi.”

39 Yna, adroddodd hefyd ddameg wrthyn nhw: “Ydy dyn dall yn medru arwain dyn dall? Oni fydd y ddau yn syrthio i mewn i ffos? 40 Dydy myfyriwr* ddim yn uwch na’i athro, ond bydd pob un sy’n cael ei hyfforddi’n berffaith yn debyg i’w athro. 41 Pam felly rwyt ti’n edrych ar y gwelltyn sydd yn llygad dy frawd ond dwyt ti ddim yn sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 42 Sut gelli di ddweud wrth dy frawd, ‘Frawd, gad imi dynnu’r gwelltyn sydd yn dy lygad di,’ pan dwyt ti dy hun ddim yn gweld y trawst yn dy lygad dy hun? Ragrithiwr! Yn gyntaf, tynna’r trawst o dy lygad dy hun, ac yna y byddi di’n gweld yn glir sut i dynnu’r gwelltyn sydd yn llygad dy frawd.

43 “Oherwydd dydy coeden dda ddim yn cynhyrchu ffrwyth drwg, a dydy coeden ddrwg ddim yn cynhyrchu ffrwyth da. 44 Oherwydd wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod. Er enghraifft, dydy pobl ddim yn casglu ffigys oddi ar ddrain, nac yn tynnu grawnwin oddi ar berth ddrain. 45 Mae dyn da yn dod â phethau da allan o’r trysor da sydd yn ei galon, ond mae dyn drwg yn dod â’r hyn sy’n ddrwg allan o’i drysor drwg; oherwydd o lawnder y galon y mae’r geg yn siarad.

46 “Pam, felly, rydych chi’n fy ngalw i’n ‘Arglwydd! Arglwydd!’ a chithau ddim yn gwneud y pethau rydw i’n eu dweud? 47 Pob un sy’n dod ata i ac yn clywed fy ngeiriau ac yn eu gwneud nhw, fe wna i ddangos ichi pwy y mae’n debyg iddo: 48 Mae’n debyg i ddyn a adeiladodd dŷ a chloddio’n ddwfn a gosod sylfaen ar y graig. O ganlyniad, pan ddaeth llifogydd, hyrddiodd yr afon yn erbyn y tŷ ond nid oedd yn ddigon cryf i’w ysgwyd, oherwydd iddo gael ei adeiladu mor gadarn. 49 Ar y llaw arall, mae pwy bynnag sy’n clywed ond yn gwneud dim byd yn debyg i ddyn a adeiladodd dŷ ar y pridd heb sylfaen. Hyrddiodd yr afon yn ei erbyn, a syrthiodd yn syth, ac roedd chwalfa’r tŷ hwnnw’n fawr.”

7 Ar ôl iddo orffen yr hyn roedd ganddo i’w ddweud wrth y bobl, aeth i mewn i Gapernaum. 2 Nawr roedd caethwas i swyddog y fyddin, a oedd yn annwyl iddo, yn ddifrifol wael ac ar fin marw. 3 Pan glywodd am Iesu, anfonodd ato rai o henuriaid yr Iddewon i ofyn iddo ddod ac iacháu ei gaethwas. 4 Daethon nhw at Iesu a dechrau ymbil yn daer arno, gan ddweud: “Mae’n haeddu cael ei helpu gen ti, 5 oherwydd mae’n caru ein cenedl, ac ef ei hun wnaeth adeiladu ein synagog.” 6 Felly aeth Iesu gyda nhw. Ond pan nad oedd yn bell o’r tŷ, roedd swyddog y fyddin eisoes wedi anfon ffrindiau i ddweud: “Syr, paid â thrafferthu, oherwydd dydw i ddim yn deilwng iti ddod o dan fy nho. 7 Dyna pam doeddwn i ddim yn fy ystyried fy hun yn deilwng i ddod atat ti. Ond dyweda’r gair, a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu. 8 Oherwydd rydw innau hefyd yn ddyn sydd wedi cael ei osod o dan awdurdod, sydd â milwyr odana i, ac rydw i’n dweud wrth hwn, ‘Dos!’ ac mae’n mynd, ac wrth un arall, ‘Tyrd!’ ac mae’n dod, ac wrth fy nghaethwas, ‘Gwna hyn!’ ac mae’n ei wneud.” 9 Pan glywodd Iesu’r pethau hyn, roedd wedi rhyfeddu ato, ac fe drodd at y dyrfa a oedd yn ei ddilyn a dweud: “Rydw i’n dweud wrthoch chi, dydw i ddim wedi dod o hyd i ffydd mor fawr, hyd yn oed yn Israel.” 10 A phan wnaeth y rhai a oedd wedi cael eu hanfon fynd yn ôl i’r tŷ, roedd y caethwas yn hollol iach.

11 Yn fuan wedyn teithiodd i ddinas o’r enw Nain, ac roedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr yn teithio gydag ef. 12 Wrth iddo ddod yn agos at borth y ddinas, edrycha! roedd ’na ddyn wedi marw yn cael ei gario allan, unig fab ei fam. Ar ben hynny, roedd hi’n wraig weddw. Roedd tyrfa sylweddol o’r ddinas hefyd gyda hi. 13 Pan welodd yr Arglwydd hi, roedd yn teimlo trueni tuag ati, a dywedodd wrthi: “Stopia wylo.” 14 Ar hynny daeth yn nes at y stretsier angladd* a’i gyffwrdd, a safodd y cludwyr yn stond. Yna dywedodd: “Fy machgen i, rydw i’n dweud wrthot ti, cod!” 15 A dyma’r dyn a oedd wedi marw yn eistedd i fyny a dechrau siarad, a rhoddodd Iesu ef i’w fam. 16 Nawr cydiodd ofn ynddyn nhw i gyd, a dechreuon nhw ogoneddu Duw, gan ddweud: “Mae proffwyd mawr wedi cael ei godi yn ein plith,” ac, “Mae Duw wedi troi ei sylw at ei bobl.” 17 Ac aeth y newyddion hyn amdano ar led drwy Jwdea gyfan a’r holl wlad oddi amgylch.

18 Nawr rhoddodd disgyblion Ioan adroddiad iddo am yr holl bethau hyn. 19 Felly dyma Ioan yn galw dau o’i ddisgyblion ato a’u hanfon at yr Arglwydd i ofyn: “Ai ti yw’r Un sy’n dod, neu a ddylen ni ddisgwyl un arall?” 20 Pan ddaethon nhw ato, dywedodd y dynion: “Ioan Fedyddiwr wnaeth ein hanfon ni atat ti i ofyn, ‘Ai ti yw’r Un sy’n dod, neu a ddylen ni ddisgwyl un arall?’” 21 Yr awr honno, iachaodd ef lawer o bobl o salwch, afiechydon difrifol, ac ysbrydion drwg, ac fe roddodd i lawer o bobl ddall eu golwg yn ôl. 22 Ac meddai wrthyn nhw: “Ewch a dywedwch wrth Ioan am yr hyn rydych chi wedi ei glywed ac wedi ei weld: Mae’r dall nawr yn gweld, mae’r cloff yn cerdded, mae’r rhai gwahanglwyfus yn cael eu glanhau, mae’r byddar yn clywed, mae’r meirw yn cael eu hatgyfodi, a’r tlawd yn cael clywed y newyddion da. 23 Hapus yw’r un sydd ddim yn baglu o fy achos i.”

24 Pan oedd negeswyr Ioan wedi mynd i ffwrdd, dechreuodd Iesu siarad â’r tyrfaoedd am Ioan: “Beth gwnaethoch chi fynd allan i’r anialwch i’w weld? Corsen yn cael ei hysgwyd gan y gwynt? 25 Beth, felly, y gwnaethoch chi fynd allan i’w weld? Dyn wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth?* Yn wir, mae’r rhai sy’n gwisgo dillad crand ac sy’n byw bywyd moethus yn byw mewn tai brenhinol. 26 Felly, beth gwnaethoch chi fynd allan i’w weld? Proffwyd? Ie, medda i wrthoch chi, a llawer mwy na phroffwyd. 27 Dyma’r un mae’n ysgrifenedig amdano: ‘Edrycha! Rydw i’n anfon fy negesydd o dy flaen di,* a fydd yn paratoi dy ffordd o dy flaen di.’ 28 Rydw i’n dweud wrthoch chi, ymhlith y rhai sydd wedi cael eu geni o ferched,* does neb yn fwy na Ioan, ond mae’r un lleiaf yn Nheyrnas Dduw yn fwy nag ef.” 29 (Pan wnaeth yr holl bobl a’r casglwyr trethi glywed hyn, fe gyhoeddon nhw fod Duw yn gyfiawn, oherwydd roedden nhw wedi cael eu bedyddio â bedydd Ioan. 30 Ond fe wnaeth y Phariseaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith ddiystyru cyngor* Duw iddyn nhw, gan nad oedden nhw wedi cael eu bedyddio gan Ioan.)

31 “Felly, â phwy y dylwn i gymharu dynion y genhedlaeth hon, ac i bwy maen nhw’n debyg? 32 Maen nhw’n debyg i blant bach sy’n eistedd yn y farchnad ac yn siarad â’i gilydd, gan ddweud: ‘Gwnaethon ni ganu’r ffliwt ichi, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; gwnaethon ni lefain, ond wnaethoch chi ddim wylo.’ 33 Yn yr un modd, mae Ioan Fedyddiwr wedi dod heb fwyta bara nac yfed gwin, ond rydych chi’n dweud, ‘Mae cythraul ynddo.’ 34 Mae Mab y dyn wedi dod yn bwyta ac yn yfed, ond rydych chi’n dweud, ‘Edrychwch! Dyn barus sy’n yfed gormod o win, ffrind i gasglwyr trethi a phechaduriaid!’ 35 Fodd bynnag, mae doethineb yn cael ei brofi’n gyfiawn* gan ei ganlyniadau.”*

36 Nawr roedd un o’r Phariseaid yn parhau i ofyn iddo fwyta gydag ef. Felly aeth Iesu i mewn i dŷ’r Pharisead ac eistedd wrth y bwrdd. 37 Ac edrycha! dyma ddynes* a oedd yn adnabyddus yn y ddinas am fod yn bechadures yn clywed ei fod yn bwyta yn nhŷ’r Pharisead, a daeth hi â jar alabastr o olew persawrus. 38 Yn cymryd ei lle y tu ôl iddo wrth ei draed, dechreuodd hi wylo a gwlychu ei draed â’i dagrau, a gwnaeth hi eu sychu nhw â gwallt ei phen. Hefyd, gwnaeth hi gusanu ei draed yn dyner a thywallt* yr olew persawrus arnyn nhw. 39 Yn gweld hyn, dyma’r Pharisead a oedd wedi ei wahodd yn dweud wrtho’i hun: “Petai’r dyn hwn yn wir yn broffwyd, fe fyddai’n gwybod pwy ydy hon a pha fath o ddynes* sy’n ei gyffwrdd ef, ei bod hi’n bechadures.” 40 Ond atebodd Iesu ef: “Simon, mae gen i rywbeth i’w ddweud wrthot ti.” Meddai yntau: “Dyweda wrtho i, Athro!”

41 “Roedd dau ddyn mewn dyled i ryw fenthyciwr arian; dyled un oedd 500 denariws, ond dyled y llall oedd 50. 42 Pan nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth i’w dalu yn ôl iddo, ni wnaeth ddal yn ôl rhag maddau i’r ddau ohonyn nhw. Felly, p’run ohonyn nhw fydd yn ei garu fwyaf?” 43 Atebodd Simon: “Mae’n debyg mai’r un a gafodd faddeuant am y ddyled fwyaf.” Dywedodd Iesu wrtho: “Rwyt ti wedi barnu’n gywir.” 44 Ar hynny, trodd ef at y ddynes* a dweud wrth Simon: “Wyt ti’n gweld y ddynes* hon? Des i i mewn i dy dŷ; wnest ti ddim rhoi unrhyw ddŵr imi ar gyfer fy nhraed. Ond fe wnaeth y ddynes* hon wlychu fy nhraed â’i dagrau a’u sychu nhw â’i gwallt. 45 Wnest ti ddim rhoi cusan imi, ond o’r awr y des i i mewn, ni wnaeth y ddynes* hon stopio cusanu fy nhraed yn dyner. 46 Wnest ti ddim tywallt* olew ar fy mhen, ond fe wnaeth y ddynes* hon dywallt* olew persawrus ar fy nhraed. 47 Oherwydd hyn, rydw i’n dweud wrthot ti, mae ei phechodau hi, er bod ’na lawer ohonyn nhw,* wedi cael eu maddau iddi, oherwydd ei bod hi wedi dangos cariad mawr. Ond pan fydd rhywun yn cael maddeuant am ychydig o bechodau, dim ond ychydig o gariad y bydd yn ei ddangos.” 48 Yna dywedodd wrthi hi: “Mae dy bechodau wedi cael eu maddau.” 49 Dechreuodd y rhai a oedd yn eistedd wrth y bwrdd gydag ef ddweud wrth ei gilydd: “Pwy ydy’r dyn hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?” 50 Ond dywedodd ef wrth y ddynes:* “Mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn heddwch.”

8 Yn fuan wedyn, teithiodd o ddinas i ddinas ac o bentref i bentref yn pregethu ac yn cyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw. Ac roedd y Deuddeg gydag ef, 2 a hefyd rai merched* a oedd wedi cael eu hiacháu o ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair a oedd yn cael ei galw Magdalen, yr un y daeth saith cythraul allan ohoni hi; 3 Joanna gwraig Chwsa, y dyn oedd yn gofalu am dŷ Herod; Swsanna; a llawer o ferched* eraill, a oedd yn gweini arnyn nhw o’r pethau oedd ganddyn nhw.

4 Nawr, pan ddaeth tyrfa fawr at ei gilydd, ynghyd â’r bobl a oedd wedi dod ato o ddinasoedd eraill, siaradodd drwy ddefnyddio dameg: 5 “Aeth ffermwr allan i hau. Tra oedd yn hau, syrthiodd rhai o’r hadau wrth ochr y ffordd a gwnaeth pobl sathru arnyn nhw, a daeth adar y nef a’u bwyta nhw. 6 Syrthiodd ychydig ar y graig, ac ar ôl dechrau tyfu, dyma nhw’n gwywo oherwydd doedd ’na ddim digon o ddŵr. 7 Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, ac fe wnaeth y drain a oedd wedi tyfu gyda nhw eu tagu nhw. 8 Ond syrthiodd hadau eraill ar y pridd da, ac ar ôl tyfu, dyma nhw’n cynhyrchu ganwaith cymaint mwy o ffrwyth.” Tra oedd yn dweud y pethau hyn, fe waeddodd ef: “Gadewch i’r un sydd â chlustiau i wrando, wrando.”

9 Ond, gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd ystyr y ddameg hon. 10 Dywedodd ef: “Rydych chi’n cael gwybod cyfrinachau cysegredig Teyrnas Dduw, ond i’r gweddill rydw i’n siarad drwy ddefnyddio damhegion fel na fyddan nhw’n gweld, er eu bod nhw’n edrych, fel na fydden nhw’n deall, er eu bod nhw’n clywed. 11 Nawr, dyma beth ydy ystyr y ddameg: Yr had ydy gair Duw. 12 Y rhai wrth ochr y ffordd ydy’r rhai sydd wedi clywed, ac mae’r Diafol yn dod ac yn cipio’r gair o’u calonnau fel na allan nhw gredu a chael eu hachub. 13 Y rhai ar y graig ydy’r rhai sydd, ar ôl iddyn nhw glywed y gair, yn ei dderbyn yn llawen, ond does gynnon nhw ddim gwreiddyn. Maen nhw’n credu am ychydig, ond pan maen nhw’n cael eu profi, maen nhw’n cefnu ar y ffydd. 14 Y rhai a syrthiodd ymysg y drain, dyma’r rhai sydd wedi clywed, ond oherwydd bod pryderon, cyfoeth, a phleserau’r bywyd hwn wedi denu eu sylw, maen nhw wedi cael eu tagu yn llwyr a dydyn nhw ddim yn dwyn ffrwyth i aeddfedrwydd. 15 A’r hadau ar y pridd da, dyma’r rhai sydd, ar ôl clywed y gair â chalon dda a diffuant, yn ei gadw ac yn dwyn ffrwyth gyda dyfalbarhad.

16 “Does neb yn goleuo lamp ac yn ei chuddio hi â llestr neu’n ei gosod hi o dan y gwely, ond mae’n ei rhoi ar ei stand fel y bydd y rhai sy’n dod i mewn yn gweld y goleuni. 17 Oherwydd does dim byd sydd wedi ei guddio na fydd yn dod yn amlwg, na dim byd sydd wedi ei guddio’n ofalus na fydd byth yn cael ei ddatgelu nac yn dod i’r golwg. 18 Felly rhowch sylw i sut rydych chi’n gwrando, oherwydd pwy bynnag sydd gan rywbeth, bydd mwy yn cael ei roi iddo, ond pwy bynnag nad oes gan rywbeth, bydd hyd yn oed y pethau mae’n dychmygu sydd ganddo yn cael eu cymryd oddi arno.”

19 Nawr, daeth ei fam a’i frodyr ato, ond doedden nhw ddim yn gallu dod yn agos ato oherwydd y dyrfa. 20 Felly dywedodd rhywun wrtho: “Mae dy fam a dy frodyr yn sefyll y tu allan, ac maen nhw eisiau dy weld ti.” 21 Atebodd drwy ddweud wrthyn nhw: “Fy mam a fy mrodyr ydy’r rhai sy’n clywed gair Duw ac yn gwneud beth mae’n ei ddweud.”

22 Un diwrnod aeth ef a’i ddisgyblion i mewn i gwch, a dywedodd ef wrthyn nhw: “Gadewch inni groesi i ochr arall y llyn.” Felly dyma nhw’n dechrau hwylio. 23 Ond tra oedden nhw’n hwylio, syrthiodd i gysgu. A disgynnodd storm wynt wyllt ar y llyn, a dechreuodd eu cwch lenwi â dŵr, ac roedden nhw mewn peryg. 24 Felly aethon nhw ato a’i ddeffro, gan ddweud: “Athro, Athro, rydyn ni ar fin marw!” Gyda hynny, cododd a cheryddu’r gwynt a’r tonnau gwyllt, a stopiodd y storm, ac aeth popeth yn dawel. 25 Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Lle mae eich ffydd?” Ond roedden nhw’n llawn ofn ac wedi rhyfeddu, gan ddweud wrth ei gilydd: “Pwy ydy hwn? Gan ei fod yn gorchymyn hyd yn oed y gwyntoedd a’r dyfroedd, ac maen nhw’n ufuddhau iddo.”

26 A daethon nhw i’r lan yn ardal y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea. 27 Tra oedd Iesu’n dod allan o’r cwch, dyma ddyn o’r ddinas a oedd wedi ei feddiannu gan gythraul yn dod i’w gyfarfod. Ers amser maith, doedd ef ddim wedi gwisgo dillad, ac roedd yn aros, nid mewn tŷ, ond ymhlith y beddrodau.* 28 Ar ôl iddo weld Iesu, gwaeddodd a syrthio o’i flaen, a dywedodd mewn llais uchel: “Beth rwyt ti eisiau gen i, Iesu, Fab y Duw Goruchaf? Rydw i’n erfyn arnat ti, paid â fy mhoenydio i.” 29 (Oherwydd roedd Iesu wedi bod yn gorchymyn yr ysbryd aflan i ddod allan o’r dyn. Roedd y cythraul wedi cydio ynddo lawer o weithiau. A sawl gwaith drosodd, roedd ef yn cael ei glymu â chadwyni a rhwymau a’i gadw o dan warchodaeth, ond fe fyddai’n torri’r rhwymau a chael ei yrru gan y cythraul i ganol llefydd unig.) 30 Gofynnodd Iesu iddo: “Beth ydy dy enw?” Dywedodd yntau: “Lleng,” oherwydd bod llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo. 31 Ac roedden nhw’n dal i ymbil arno i beidio â gorchymyn iddyn nhw fynd i ffwrdd i mewn i’r dyfnder. 32 Nawr, roedd ’na genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd, felly dyma nhw’n ymbil arno i adael iddyn nhw fynd i mewn i’r moch, ac fe roddodd ganiatâd iddyn nhw. 33 Gyda hynny, daeth y cythreuliaid allan o’r dyn a mynd i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i mewn i’r llyn a boddi. 34 Ond pan welodd bugeiliaid y moch yr hyn oedd wedi digwydd, dyma nhw’n ffoi ac adrodd yr hanes yn y ddinas ac yng nghefn gwlad.

35 Yna, aeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethon nhw at Iesu a dod ar draws y dyn roedd y cythreuliaid wedi dod allan ohono, yn gwisgo dillad ac yn ei iawn bwyll, yn eistedd wrth draed Iesu, a daeth ofn arnyn nhw. 36 Gwnaeth y rhai a oedd wedi gweld hyn adrodd yr hanes wrthyn nhw am sut roedd y dyn a chythreuliaid ynddo wedi cael ei iacháu. 37 Yna gwnaeth nifer mawr o bobl o ardal y Geraseniaid ofyn i Iesu fynd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, oherwydd eu bod nhw wedi dychryn am eu bywydau. Yna, aeth i mewn i’r cwch i adael. 38 Fodd bynnag, roedd y dyn roedd y cythreuliaid wedi dod allan ohono yn dal i ymbil ar Iesu i gael aros gydag ef, ond fe anfonodd y dyn i ffwrdd, gan ddweud: 39 “Dos adref, a dal ati i sôn am beth wnaeth Duw i ti.” Felly aeth i ffwrdd, gan gyhoeddi drwy’r holl ddinas yr hyn roedd Iesu wedi ei wneud iddo.

40 Pan ddaeth Iesu yn ei ôl, rhoddodd y dyrfa groeso cynnes iddo, oherwydd roedden nhw i gyd yn disgwyl amdano. 41 Ond edrycha! dyma ddyn o’r enw Jairus yn dod; roedd y dyn hwn yn arweinydd yn y synagog. A syrthiodd wrth draed Iesu a dechrau ymbil arno i ddod i’w dŷ, 42 oherwydd bod ei unig ferch, tua 12 mlwydd oed, yn marw.

Tra oedd Iesu’n mynd, roedd y tyrfaoedd yn gwasgu arno. 43 Nawr roedd ’na ddynes* a oedd wedi bod yn dioddef o waedlif ers 12 mlynedd, a doedd hi ddim yn gallu cael ei hiacháu gan neb. 44 Daeth hi ato o’r tu ôl a chyffwrdd ymyl ei gôt, ac ar unwaith dyma ei gwaedlif hi yn stopio. 45 Felly dywedodd Iesu: “Pwy wnaeth fy nghyffwrdd i?” Pan oedd pawb yn gwadu’r peth, dywedodd Pedr: “Athro, mae’r tyrfaoedd yn dy amgylchynu ac yn gwasgu arnat ti.” 46 Ond meddai Iesu: “Fe wnaeth rhywun gyffwrdd â mi, oherwydd fy mod i’n gwybod bod grym wedi mynd allan ohono i.” 47 Pan welodd y ddynes* nad oedd hi wedi osgoi sylw, daeth hi ato yn crynu a syrthio o’i flaen a chyhoeddi o flaen pawb pam gwnaeth hi gyffwrdd ag ef a sut cafodd hi ei hiacháu ar unwaith. 48 Ond meddai ef wrthi: “Fy merch, mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn heddwch.”

49 Tra oedd ef yn siarad, daeth rhywun a oedd yn cynrychioli arweinydd y synagog, gan ddweud: “Mae dy ferch di wedi marw; paid â phoeni’r Athro bellach.” 50 Pan glywodd Iesu hyn, dywedodd wrtho: “Paid ag ofni, dim ond ffydd sydd ei angen arnat ti, ac fe fydd hi’n cael ei hachub.” 51 Pan gyrhaeddodd y tŷ, ni wnaeth adael i neb fynd i mewn gydag ef heblaw am Pedr, Ioan, Iago, a thad a mam y ferch. 52 Ond roedd pawb yn wylo ac yn eu curo eu hunain mewn galar drosti. Felly dywedodd ef: “Stopiwch wylo, oherwydd dydy hi ddim wedi marw, cysgu mae hi.” 53 Ar hynny dechreuon nhw chwerthin yn ddirmygus am ei ben, oherwydd roedden nhw’n gwybod ei bod hi wedi marw. 54 Ond gafaelodd ef yn ei llaw a dweud yn uchel wrthi: “Fy mhlentyn i, cod!” 55 Ac fe ddaeth hi’n ôl yn fyw,* a chodi ar unwaith, a gorchmynnodd ef iddyn nhw roi rhywbeth iddi hi i’w fwyta. 56 Wel, roedd ei rhieni ar ben eu digon, ond gorchmynnodd ef iddyn nhw i beidio â dweud wrth neb am yr hyn oedd wedi digwydd.

9 Yna galwodd ef y Deuddeg at ei gilydd a rhoddodd iddyn nhw rym ac awdurdod dros yr holl gythreuliaid ac i iacháu afiechydon. 2 Ac fe wnaeth eu hanfon nhw allan i bregethu Teyrnas Dduw ac i iacháu, 3 ac fe ddywedodd wrthyn nhw: “Peidiwch â chario dim byd ar gyfer y daith, dim ffon, dim bag bwyd, dim bara, dim arian; a pheidiwch â chymryd dau ddilledyn.* 4 Ond le bynnag rydych chi’n mynd i mewn i gartref, arhoswch yno nes y byddwch chi’n gadael y ddinas. 5 A le bynnag nad ydy pobl yn eich derbyn chi, wrth ichi fynd allan o’r ddinas honno, mae’n rhaid ichi ysgwyd y llwch oddi ar eich traed yn dystiolaeth yn eu herbyn nhw.” 6 Yna, ar ôl cychwyn ar y daith, aethon nhw drwy’r ardal o bentref i bentref, gan gyhoeddi’r newyddion da ac iacháu pobl ym mhobman.

7 Nawr clywodd Herod,* rheolwr y rhanbarth,* am bopeth a oedd yn digwydd, ac roedd mewn penbleth oherwydd bod rhai yn dweud bod Ioan wedi cael ei godi o’r meirw, 8 ond eraill yn dweud bod Elias wedi ymddangos, ac eraill wedyn yn dweud bod un o’r hen broffwydi wedi cael ei atgyfodi. 9 Dywedodd Herod: “Fe wnes i dorri pen Ioan. Pwy, felly, ydy’r hwn rydw i’n clywed y fath bethau amdano?” Felly roedd yn ceisio ei weld.

10 Pan ddaeth yr apostolion yn eu holau, dyma nhw’n adrodd wrth Iesu am yr holl bethau roedden nhw wedi eu gwneud. Ar hynny, aeth â nhw gydag ef i ffwrdd oddi wrth bobl i mewn i ddinas o’r enw Bethsaida. 11 Ond, ar ôl dod i wybod am hyn, gwnaeth y tyrfaoedd ei ddilyn. Ac fe roddodd groeso cynnes iawn iddyn nhw a dechrau siarad â nhw am Deyrnas Dduw, ac fe iachaodd y rhai a oedd angen cael eu hiacháu. 12 Roedd y diwrnod yn dod i ben. Nawr daeth y Deuddeg ato a dweud wrtho: “Anfona’r dyrfa i ffwrdd, er mwyn iddyn nhw fedru mynd i mewn i’r pentrefi a’r wlad oddi amgylch i ddod o hyd i rywle i aros a chael bwyd, oherwydd allan yn fan hyn rydyn ni mewn lle unig.” 13 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Rhowch chithau rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” Fe ddywedon nhw: “Yr unig beth sydd gynnon ni ydy pum torth a dau bysgodyn, oni bai ein bod ni’n hunain yn mynd i brynu bwyd i’r holl bobl hyn.” 14 Yn wir, roedd ’na tua 5,000 o ddynion. Ond dywedodd ef wrth ei ddisgyblion: “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o ryw 50 yr un.” 15 Ac fe wnaethon nhw hynny, ac eisteddodd pawb. 16 Cymerodd nawr y pum torth a’r ddau bysgodyn, edrychodd i fyny i’r nef a’u bendithio nhw. Yna, dyma’n eu torri nhw ac yn dechrau eu rhoi nhw i’r disgyblion er mwyn iddyn nhw eu rhoi nhw i’r dyrfa. 17 Felly gwnaethon nhw i gyd fwyta a chael digon, a chodon nhw’r tameidiau oedd dros ben, 12 llond basged.

18 Yn hwyrach ymlaen, tra oedd ef yn gweddïo ar ei ben ei hun, daeth y disgyblion ato, a gofynnodd ef iddyn nhw: “Pwy mae’r tyrfaoedd yn dweud ydw i?” 19 Fe atebon nhw: “Ioan Fedyddiwr, ond mae eraill yn dweud Elias, a rhai eraill yn dweud fod un o’r hen broffwydi wedi cael ei atgyfodi.” 20 Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Ond chithau, pwy ydych chi’n dweud ydw i?” Atebodd Pedr: “Y Crist a gafodd ei anfon gan Dduw.” 21 Yna, wrth siarad yn gadarn â nhw, gorchmynnodd iddyn nhw beidio â sôn am hyn wrth neb, 22 ond dywedodd yntau: “Mae’n rhaid i Fab y dyn ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion a chael ei ladd, ac ar y trydydd dydd gael ei atgyfodi.”

23 Yna aeth ymlaen i ddweud wrth bawb: “Os oes unrhyw un eisiau dod ar fy ôl i, gadewch iddo ei wadu ei hun a chodi ei stanc dienyddio* ddydd ar ôl dydd a dal ati i fy nilyn i. 24 Oherwydd bydd pwy bynnag sydd eisiau achub ei fywyd yn ei golli, ond bydd pwy bynnag sy’n colli ei fywyd er fy mwyn i yn ei achub. 25 Mewn gwirionedd, os ydy dyn yn ennill yr holl fyd ond yn colli neu’n niweidio ei fywyd, sut mae hynny’n fuddiol iddo? 26 Oherwydd pwy bynnag sy’n teimlo cywilydd ohono i a fy ngeiriau, bydd Mab y dyn yn teimlo cywilydd o’r person hwnnw pan fydd yn dod yn ei ogoniant ac yng ngogoniant y Tad a’r angylion sanctaidd. 27 Ond yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae ’na rai ohonoch chi sy’n sefyll yma na fydd yn profi blas marwolaeth o gwbl hyd nes iddyn nhw yn gyntaf weld Teyrnas Dduw.”

28 Yn wir, tua wyth diwrnod ar ôl iddo ddweud y geiriau hyn, cymerodd ef Pedr, Ioan, ac Iago gydag ef a dringo i fyny’r mynydd i weddïo. 29 A thra oedd yn gweddïo, newidiodd golwg ei wyneb a disgleiriodd ei ddillad yn llachar wyn. 30 Ac edrycha! roedd ’na ddau ddyn yn sgwrsio ag ef; Moses ac Elias oedden nhw. 31 Ymddangosodd y rhain mewn gogoniant a dechreuon nhw siarad am y ffaith fod Iesu’n gorfod gadael, a bod hyn yn gorfod cael ei gyflawni yn Jerwsalem. 32 Nawr roedd Pedr a’r rhai gydag ef yn cysgu’n drwm, ond ar ôl iddyn nhw ddeffro’n llwyr, fe welson nhw ei ogoniant a’r ddau ddyn yn sefyll gydag ef. 33 Ac wrth i’r rhai hyn fynd i ffwrdd oddi wrtho, dywedodd Pedr wrth Iesu: “Athro, peth da yw inni fod yma. Felly gad inni godi tair pabell, un i ti, un i Moses, ac un i Elias.” Ond doedd ef ddim yn sylweddoli beth roedd yn ei ddweud. 34 Ond tra oedd yn dweud y pethau hyn, dyma gwmwl yn ffurfio ac yn eu gorchuddio nhw. Wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r cwmwl, cododd ofn arnyn nhw. 35 Yna daeth llais allan o’r cwmwl, gan ddweud: “Hwn ydy fy Mab, yr un sydd wedi cael ei ddewis. Gwrandewch arno.” 36 Wrth i’r llais siarad, fe welson nhw fod Iesu ar ei ben ei hun. Ond arhoson nhw’n ddistaw a wnaethon nhw ddim sôn wrth neb yn ystod y dyddiau hynny am unrhyw un o’r pethau roedden nhw wedi eu gweld.

37 Y diwrnod wedyn pan ddaethon nhw i lawr o’r mynydd, daeth tyrfa fawr i’w gyfarfod. 38 Ac edrycha! gwnaeth dyn weiddi o’r dyrfa, gan ddweud: “Athro, rydw i’n erfyn arnat ti i edrych ar fy mab, gan mai ef ydy fy unig fab. 39 Ac edrycha! mae ysbryd yn gafael ynddo, ac yn fwyaf sydyn mae fy mab yn gweiddi, ac mae’n achosi iddo gael ffitiau ac i ewyn ddod o’i geg, a dim ond ar ôl ei adael yn gleisiau i gyd y mae’n gadael llonydd iddo. 40 Fe wnes i erfyn ar dy ddisgyblion i’w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.” 41 Atebodd Iesu drwy ddweud: “O genhedlaeth ddi-ffydd a llwgr, am faint mae’n rhaid imi barhau gyda chi a’ch goddef chi? Tyrd â dy fab yma.” 42 Ond wrth iddo ddod yn nes, taflodd y cythraul ef i’r llawr ac achosi iddo gael ffit yn y ffordd fwyaf ffyrnig. Fodd bynnag, ceryddodd Iesu’r ysbryd aflan ac iacháu’r bachgen a’i roi yn ôl i’w dad. 43 Ac roedden nhw i gyd wedi rhyfeddu at fawredd Duw.

Tra oedden nhw i gyd yn rhyfeddu at yr holl bethau roedd ef yn eu gwneud, dywedodd ef wrth ei ddisgyblion: 44 “Gwrandewch yn astud a chofiwch y geiriau hyn, am fod Mab y dyn yn mynd i gael ei fradychu a’i roi yn nwylo dynion.” 45 Ond doedden nhw ddim yn deall beth roedd ef yn ei ddweud. Yn wir, roedd hyn wedi cael ei guddio rhagddyn nhw fel nad oedden nhw’n gallu ei ddeall, ac roedden nhw’n ofni ei holi am y peth hwn.

46 Yna dechreuon nhw ddadlau ymhlith ei gilydd ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y mwyaf pwysig. 47 Dyma Iesu, oherwydd ei fod yn gwybod beth oedd yn eu calonnau nhw, yn cymryd plentyn bach, a’i osod wrth ei ochr, 48 a dywedodd wrthyn nhw: “Mae pwy bynnag sy’n derbyn y plentyn bach hwn ar sail fy enw i yn fy nerbyn innau hefyd; ac mae pwy bynnag sy’n fy nerbyn i hefyd yn derbyn yr Un a wnaeth fy anfon i. Oherwydd yr un sy’n ymddwyn fel yr un lleiaf pwysig yn eich plith chi ydy’r un sy’n bwysig.”

49 Atebodd Ioan: “Athro, fe welson ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid gan ddefnyddio dy enw di, ac fe wnaethon ni geisio ei rwystro, oherwydd nid yw’n dilyn gyda ni.” 50 Ond meddai Iesu wrtho: “Peidiwch â cheisio ei rwystro, oherwydd mae pwy bynnag sydd ddim yn eich erbyn chi o’ch plaid chi.”

51 Wrth i’r amser i Iesu gael ei gymryd i fyny agosáu, roedd yn hollol benderfynol o fynd i Jerwsalem. 52 Felly, anfonodd negeswyr o’i flaen. Ac fe aethon nhw i mewn i bentref yn Samaria i baratoi ar ei gyfer. 53 Ond wnaethon nhw ddim rhoi croeso iddo, oherwydd ei fod yn benderfynol o fynd i Jerwsalem. 54 Pan welodd y disgyblion Iago ac Ioan hyn, dywedon nhw: “Arglwydd, wyt ti eisiau inni alw tân i lawr o’r nef a’u dinistrio nhw?” 55 Ond fe drodd atyn nhw a’u ceryddu. 56 Felly fe aethon nhw i bentref arall.

57 Nawr, wrth iddyn nhw fynd ar hyd y ffordd, dywedodd rhywun wrtho: “Fe wna i dy ddilyn di le bynnag yr ei di.” 58 Ond dywedodd Iesu wrtho: “Mae gan lwynogod* ffeuau ac mae gan adar y nef nythod, ond does gan Mab y dyn unman i roi ei ben i lawr.” 59 Yna dywedodd wrth un arall: “Dilyna fi.” Dywedodd y dyn: “Arglwydd, gad imi fynd a chladdu fy nhad yn gyntaf.” 60 Ond meddai wrtho: “Gad i’r meirw gladdu eu meirw, ond dos di a chyhoedda ym mhobman Deyrnas Dduw.” 61 Ac meddai un arall: “Fe wna i dy ddilyn di, Arglwydd, ond yn gyntaf gad imi ddweud hwyl fawr wrth y rhai yn fy nhŷ.” 62 Dywedodd Iesu wrtho: “Dydy dyn sydd wedi rhoi ei law ar yr aradr ac yn edrych ar y pethau sydd y tu ôl iddo ddim yn addas i Deyrnas Dduw.”

10 Ar ôl y pethau hyn, penododd yr Arglwydd 70 o rai eraill a’u hanfon nhw allan o’i flaen mewn parau i mewn i bob dinas a phob lle roedd ef ei hun am fynd. 2 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Yn wir, mae’r cynhaeaf yn fawr, ond y gweithwyr yn brin. Felly, erfyniwch ar Feistr y cynhaeaf i anfon gweithwyr i’w gynhaeaf. 3 Ewch! Edrychwch! Rydw i’n eich anfon chi allan fel ŵyn ymhlith bleiddiaid. 4 Peidiwch â chario bag arian na bag bwyd na sandalau, a pheidiwch â chyfarch neb* ar hyd y ffordd. 5 Le bynnag rydych chi’n mynd i mewn i dŷ, dywedwch yn gyntaf: ‘Heddwch i’r tŷ hwn.’ 6 Ac os oes ’na bobl heddychlon yno, bydd eich heddwch yn dod arnyn nhw. Ond os nad oes ’na, fe fydd yn dod yn ôl atoch chi. 7 Felly, arhoswch yn y tŷ hwnnw, yn bwyta ac yn yfed y pethau maen nhw’n eu rhoi, oherwydd mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch â dal i chwilio am rywle arall i aros.

8 “Hefyd, le bynnag rydych chi’n mynd i mewn i ddinas ac maen nhw’n eich croesawu chi, bwytewch yr hyn sy’n cael ei osod o’ch blaen 9 ac iachewch y rhai sâl sydd yno a dywedwch wrthyn nhw: ‘Mae Teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch chi.’ 10 Ond le bynnag rydych chi’n mynd i mewn i ddinas a dydyn nhw ddim yn eich croesawu chi, ewch allan i’r prif strydoedd a dywedwch: 11 ‘Rydyn ni’n ysgwyd hyd yn oed y llwch sy’n glynu wrth ein traed o’ch dinas, fel arwydd yn eich erbyn chi. Er hynny, dylech chi wybod hyn, fod Teyrnas Dduw wedi dod yn agos.’ 12 Rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd hi’n haws i Sodom ar y dydd hwnnw nag i’r ddinas honno.

13 “Gwae di Chorasin! Gwae di Bethsaida! oherwydd petai’r gweithredoedd nerthol sydd wedi digwydd ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, bydden nhw wedi hen edifarhau, yn eistedd mewn sachliain a lludw. 14 O ganlyniad, fe fydd hi’n haws i Tyrus a Sidon yn nydd y Farn nag i chi. 15 A tithau Capernaum, a fyddet ti efallai yn cael dy ddyrchafu i’r nef? I lawr i’r Bedd* y byddi di’n dod!

16 “Mae pwy bynnag sy’n gwrando arnoch chi yn gwrando arna i. Ac mae pwy bynnag sy’n eich diystyru chi yn fy niystyru i hefyd. Ar ben hynny, mae pwy bynnag sy’n fy niystyru i hefyd yn diystyru’r Un a wnaeth fy anfon i.”

17 Yna daeth y 70 yn ôl yn llawen, gan ddweud: “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufudd inni drwy ddefnyddio dy enw.” 18 Ar hynny dywedodd yntau wrthyn nhw: “Rydw i’n gweld bod Satan eisoes wedi syrthio fel mellten o’r nef. 19 Edrychwch! rydw i wedi rhoi awdurdod ichi i sathru nadroedd* a sgorpionau o dan eich traed, ac awdurdod dros holl nerth y gelyn, ac ni fydd unrhyw beth o gwbl yn eich niweidio chi. 20 Er hynny, peidiwch â llawenhau oherwydd bod yr ysbrydion yn ufudd ichi, ond llawenhewch oherwydd bod eich enwau wedi cael eu hysgrifennu yn y nefoedd.” 21 Yr union awr honno, achosodd yr ysbryd glân iddo fod yn llawen iawn, a dywedodd ef: “Rydw i’n dy foli di’n gyhoeddus, Dad, Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, oherwydd dy fod ti wedi cuddio’r pethau hyn yn ofalus rhag y rhai doeth a deallus ac wedi eu datguddio i blant bach. Ie, O Dad, oherwydd dyma’r ffordd y gwnest ti ei chymeradwyo. 22 Mae pob peth wedi cael ei roi i mi gan fy Nhad, a does neb yn gwybod pwy ydy’r Mab heblaw’r Tad, a does neb yn gwybod pwy ydy’r Tad heblaw’r Mab ac unrhyw un mae’r Mab yn fodlon datguddio’r Tad iddo.”

23 Ar hynny trodd at y disgyblion a dweud wrthyn nhw yn breifat: “Hapus ydy’r llygaid sy’n gweld y pethau rydych chi’n eu gweld. 24 Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi, roedd llawer o broffwydi a brenhinoedd yn dymuno gweld y pethau rydych chi’n eu gweld ond wnaethon nhw ddim gweld y pethau hynny, a chlywed y pethau rydych chi’n eu clywed ond wnaethon nhw ddim clywed y pethau hynny.”

25 Nawr edrycha! safodd dyn a oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf arno, gan ddweud: “Athro, beth sy’n rhaid imi ei wneud i etifeddu bywyd tragwyddol?” 26 Dywedodd ef wrtho: “Beth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gyfraith? Sut rwyt ti’n ei ddeall?” 27 Atebodd yntau: “‘Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid* ac â dy holl nerth ac â dy holl feddwl’ a ‘charu dy gymydog fel ti dy hun.’” 28 Dywedodd wrtho: “Fe wnest ti ateb yn gywir; dal ati i wneud hynny ac fe gei di fywyd.”

29 Ond roedd y dyn eisiau ei brofi ei hun yn gyfiawn, felly dywedodd wrth Iesu: “Pwy yn wir ydy fy nghymydog?” 30 Atebodd Iesu drwy ddweud: “Roedd dyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho a dyma ladron yn ymosod arno, yn cymryd ei ddillad oddi arno, ei guro, ac yna ei adael yn hanner marw. 31 Nawr roedd offeiriad yn digwydd mynd i lawr y ffordd honno, ond pan welodd ef y dyn, pasiodd heibio ar yr ochr arall. 32 Yn yr un modd, pan ddaeth Lefiad yno a’i weld, pasiodd heibio ar yr ochr arall. 33 Ond daeth rhyw Samariad a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar ei draws, ac o’i weld roedd yn llawn trueni. 34 Felly aeth ato a rhwymo ei friwiau, gan dywallt olew a gwin arnyn nhw. Yna mae’n gosod y dyn ar ei anifail ei hun ac yn mynd ag ef i lety ac yn gofalu amdano. 35 Y diwrnod wedyn, cymerodd ef ddau ddenariws allan a’u rhoi nhw i berchennog y llety, a dweud: ‘Gofala amdano, a beth bynnag rwyt ti’n ei wario ar ben hyn, fe fydda i’n ei dalu’n ôl iti pan ddo i’n ôl.’ 36 Pa un o’r tri hyn sydd wedi ymddwyn fel cymydog i’r dyn y gwnaeth y lladron ymosod arno?” 37 Dywedodd yntau: “Yr un a oedd yn drugarog wrtho.” Yna dywedodd Iesu wrtho: “Dos a gwna di’r un fath.”

38 Nawr tra oedden nhw’n mynd ar eu ffordd, aeth ef i mewn i ryw bentref. Yno, gwnaeth dynes* o’r enw Martha ei groesawu i’w thŷ. 39 Hefyd roedd ganddi chwaer o’r enw Mair, a oedd yn eistedd wrth draed yr Arglwydd ac yn dal i wrando ar beth roedd ef yn ei ddweud. 40 Ar y llaw arall, roedd sylw Martha ar baratoi llawer o bethau. Felly daeth hi ato a dweud: “Arglwydd, oes dim ots gen ti fod fy chwaer wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun i ofalu am y pethau hyn? Dyweda wrthi am ddod i fy helpu i.” 41 Atebodd yr Arglwydd drwy ddweud wrthi: “Martha, Martha, rwyt ti’n pryderu ac yn cynhyrfu am lawer o bethau. 42 Ond ychydig o bethau sydd ei angen neu ddim ond un. Mae Mair wedi dewis y rhan dda* ac ni fydd yn cael ei chymryd oddi arni hi.”

11 Nawr, roedd Iesu mewn rhyw le penodol yn gweddïo, ac ar ôl iddo stopio, dyma un o’i ddisgyblion yn dweud wrtho: “Arglwydd, dysga inni sut i weddïo, yn union fel dysgodd Ioan hefyd i’w ddisgyblion.”

2 Felly, dywedodd wrthyn nhw: “Bryd bynnag rydych chi’n gweddïo, dywedwch: ‘Dad, gad i dy enw gael ei sancteiddio.* Gad i dy Deyrnas ddod. 3 Rho inni bob dydd y bara sydd ei angen arnon ni. 4 A maddau inni ein pechodau, oherwydd rydyn ninnau hefyd yn maddau i bob un sydd mewn dyled inni; a phaid â gadael inni ildio i demtasiwn.’”

5 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Dychmygwch fod gan un ohonoch chi ffrind ac rydych chi’n mynd ato hanner nos a dweud wrtho, ‘Ffrind, ga i fenthyg tair torth gen ti? 6 Oherwydd mae un o fy ffrindiau newydd ddod ata i o bell i ffwrdd a does gen i ddim byd i’w gynnig iddo.’ 7 Ond mae’r un hwnnw yn ateb o’r tu mewn: ‘Gad lonydd imi. Mae’r drws wedi ei gloi yn barod, ac mae fy mhlant bach yma yn y gwely gyda mi. Dydw i ddim yn gallu codi i roi dim byd iti.’ 8 Rydw i’n dweud wrthoch chi, hyd yn oed os yw’n gwrthod codi i roi unrhyw beth i’w ffrind, fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo beth bynnag mae’n ei angen am iddo ofyn heb stopio. 9 Felly rydw i’n dweud wrthoch chi, daliwch ati i ofyn, a bydd yn cael ei roi ichi; daliwch ati i geisio, a byddwch chi’n darganfod; daliwch ati i gnocio, a bydd y drws yn cael ei agor ichi. 10 Oherwydd mae pawb sy’n gofyn yn derbyn, a phawb sy’n ceisio yn darganfod, ac i bawb sy’n cnocio, bydd y drws yn cael ei agor. 11 Yn wir, pa dad yn eich plith chi, petai ei fab yn gofyn am bysgodyn, fyddai’n rhoi neidr* iddo yn hytrach na physgodyn? 12 Neu, petai’n gofyn am wy, fyddai’n rhoi sgorpion iddo? 13 Felly, os ydych chithau, er eich bod chi’n ddrwg, yn gwybod sut i roi anrhegion da i’ch plant, gymaint yn fwy y bydd y Tad sydd yn y nef yn rhoi’r ysbryd glân i’r rhai sy’n gofyn iddo!”

14 Yn nes ymlaen, dyma’n bwrw allan gythraul a oedd yn fud. Ar ôl i’r cythraul ddod allan, dechreuodd y dyn mud siarad, ac roedd y tyrfaoedd wedi synnu. 15 Ond dywedodd rhai ohonyn nhw: “Mae’n bwrw cythreuliaid allan drwy gyfrwng Beelsebwl,* rheolwr y cythreuliaid.” 16 Ac roedd eraill yn ceisio ei brofi, ac yn mynnu cael arwydd o’r nef ganddo. 17 Roedd ef yn gwybod beth oedd yn eu meddyliau. Felly, dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae pob teyrnas sydd wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun yn dod i ddinistr, a phob tŷ sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun yn syrthio. 18 Yn yr un modd, os ydy Satan hefyd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, sut bydd ei deyrnas yn sefyll? Oherwydd rydych chi’n dweud fy mod i’n bwrw cythreuliaid allan drwy gyfrwng Beelsebwl. 19 Os ydw i’n bwrw cythreuliaid allan drwy gyfrwng Beelsebwl, drwy gyfrwng pwy mae eich meibion chi yn eu bwrw nhw allan? Dyna pam mai nhw fydd yn eich barnu chi. 20 Ond os mai drwy fys Duw rydw i’n bwrw cythreuliaid allan, mae Teyrnas Dduw yn wir wedi mynd heibio ichi. 21 Pan fydd dyn cryf, sydd wedi ei arfogi’n dda, yn gwarchod ei balas, mae ei eiddo yn aros yn ddiogel. 22 Ond pan fydd rhywun sy’n gryfach nag ef yn dod yn ei erbyn ac yn ei orchfygu, bydd y dyn hwnnw yn cymryd yr arfau mae’n ymddiried ynddyn nhw oddi arno, ac mae’n rhannu’r pethau a gymerodd oddi arno. 23 Mae pwy bynnag sydd ddim ar fy ochr i yn fy erbyn i, ac mae pwy bynnag sydd ddim yn casglu gyda mi yn gwasgaru.

24 “Pan fydd ysbryd aflan yn dod allan o ddyn, mae’n pasio drwy lefydd sydd heb ddŵr yn chwilio am rywle i orffwys, ond ar ôl methu dod o hyd i rywle, mae’n dweud, ‘Bydda i’n mynd yn ôl i fy nhŷ o le symudais i.’ 25 Ac ar ôl cyrraedd, mae’n gweld bod y tŷ wedi ei ysgubo’n lân a’i addurno. 26 Yna mae’n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall sy’n fwy drwg nag ef, ac ar ôl mynd i mewn, maen nhw’n ymgartrefu yno. Ac mae cyflwr y dyn hwnnw’n waeth ar y diwedd nag yr oedd ar y cychwyn.”

27 Nawr, tra oedd yn dweud y pethau hyn, dyma ddynes* o’r dyrfa yn gweiddi arno: “Hapus ydy’r groth a wnaeth dy gario di a’r bronnau a roddodd laeth iti!” 28 “Nage,” meddai yntau. “Yn hytrach, hapus ydy’r rhai sy’n clywed gair Duw ac yn ei gadw!”

29 Pan oedd y tyrfaoedd yn cynyddu, dechreuodd Iesu ddweud: “Mae’r genhedlaeth hon yn genhedlaeth ddrwg; mae hi’n chwilio am arwydd, ond ni fydd arwydd yn cael ei rhoi iddi heblaw am arwydd Jona. 30 Oherwydd yn union fel roedd Jona yn arwydd i bobl Ninefe, felly bydd Mab y dyn i’r genhedlaeth hon. 31 Bydd brenhines y de yn cael ei hatgyfodi yn ystod y farn gyda dynion y genhedlaeth hon ac yn eu condemnio nhw, oherwydd fe ddaeth hi o ben draw’r byd i glywed doethineb Solomon. Ond edrychwch! mae rhywbeth mwy na Solomon yma. 32 Bydd dynion Ninefe yn cael eu hatgyfodi yn ystod y farn gyda’r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio hi, oherwydd eu bod nhw wedi edifarhau ar ôl clywed neges Jona. Ond edrychwch! mae rhywbeth mwy na Jona yma. 33 Ar ôl goleuo lamp, mae person yn ei rhoi hi, nid mewn lle cuddiedig nac o dan fasged, ond ar ei stand, fel y gall y rhai sy’n dod i mewn weld y goleuni. 34 Lamp y corff ydy dy lygad. Pan fydd dy lygad wedi ei ffocysu,* bydd dy gorff cyfan hefyd yn ddisglair;* ond pan fydd yn genfigennus,* bydd dy gorff hefyd yn dywyll. 35 Gwylia, felly, nad ydy’r goleuni sydd ynot ti yn dywyllwch. 36 Felly, os ydy dy gorff cyfan yn ddisglair heb unrhyw ran ohono’n dywyll, fe fydd mor ddisglair â lamp sy’n rhoi goleuni iti.”

37 Ar ôl iddo ddweud hyn, gofynnodd Pharisead iddo gael pryd o fwyd gydag ef. Felly aeth i mewn a chymryd ei le wrth y bwrdd. 38 Fodd bynnag, roedd y Pharisead wedi synnu pan welodd nad oedd Iesu wedi ymolchi* cyn bwyta. 39 Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho: “Nawr chi Phariseaid, rydych chi’n glanhau y tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ond y tu mewn rydych chi’n hollol farus ac yn ddrwg. 40 Chi bobl afresymol! Mae’r un sydd wedi gwneud y tu allan wedi gwneud hefyd y tu mewn, ydych chi’n cytuno? 41 Ond pan fyddwch chi’n rhoi i’r tlawd* fe ddylai ddod o’r tu mewn, ac edrychwch! fe fydd popeth amdanoch chi yn lân. 42 Ond gwae chi Phariseaid, oherwydd rydych chi’n rhoi un rhan o ddeg o’r mintys a’r rhuw a phob un o berlysiau eraill yr ardd, ond rydych chi’n diystyru cyfiawnder a chariad Duw! Roeddech chi o dan reidrwydd i wneud y pethau hyn, ond nid i ddiystyru’r pethau eraill. 43 Gwae chi Phariseaid, oherwydd rydych chi’n caru’r seddi blaen* yn y synagogau a’r cyfarchion yn y marchnadoedd! 44 Gwae chi, oherwydd rydych chi’n debyg i’r beddau hynny sy’n anodd eu gweld,* beddau y mae dynion yn cerdded arnyn nhw heb wybod!”

45 Atebodd un o arbenigwyr y Gyfraith: “Athro, wrth ddweud y pethau hyn, rwyt ti’n ein sarhau ninnau hefyd.” 46 Yna dywedodd ef: “Gwae chi hefyd sy’n arbenigwyr yn y Gyfraith, oherwydd rydych chi’n gorlwytho dynion â llwythi sy’n anodd eu cario, ond dydych chi’ch hunain ddim yn cyffwrdd â’r llwythi ag un o’ch bysedd chi!

47 “Gwae chi, oherwydd rydych chi’n adeiladu beddrodau* i’r proffwydi, ond fe wnaeth eich cyndadau eu lladd nhw! 48 Yn wir rydych chi’n dystion i weithredoedd eich cyndadau, ond eto rydych chi’n eu cymeradwyo nhw, oherwydd fe wnaethon nhw ladd y proffwydi ond rydych chithau’n adeiladu eu beddrodau. 49 Dyna pam mae doethineb Duw hefyd yn dweud: ‘Fe wna i anfon proffwydi ac apostolion atyn nhw, a byddan nhw’n lladd ac yn erlid rhai ohonyn nhw, 50 fel y bydd gwaed yr holl broffwydi a gafodd ei dywallt* ers sefydlu’r byd yn gallu cael ei gyfri yn erbyn y genhedlaeth hon, 51 o waed Abel hyd at waed Sechareia, a gafodd ei ladd rhwng yr allor a’r tŷ.’* Ie, rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd hyn yn cael ei gyfri yn erbyn y genhedlaeth hon.

52 “Gwae chi sy’n arbenigwyr yn y Gyfraith, oherwydd fe wnaethoch chi gymryd i ffwrdd allwedd gwybodaeth. Ni wnaethoch chi’ch hunain fynd i mewn, ac rydych chi’n rhwystro’r rhai sy’n mynd i mewn!”

53 Felly ar ôl iddo fynd allan oddi yno, dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid ei roi o dan bwysau enfawr a’i holi drwy daflu llawer iawn mwy o gwestiynau ato, 54 gan aros iddo ddweud rhywbeth y bydden nhw’n gallu ei ddefnyddio yn ei erbyn.

12 Yn y cyfamser, pan oedd tyrfa o filoedd o bobl wedi dod at ei gilydd, cymaint ohonyn nhw nes iddyn nhw sathru ar draed ei gilydd, dechreuodd drwy ddweud hyn yn gyntaf wrth ei ddisgyblion: “Gwyliwch rhag lefain y Phariseaid, sy’n rhagrith. 2 Ond does dim byd sydd wedi ei guddio’n ofalus na fydd yn dod i’r golwg, a dim byd sy’n gyfrinach na fydd yn cael ei ddatgelu. 3 Felly, bydd beth bynnag rydych chi’n ei ddweud yn y tywyllwch yn cael ei glywed yn y goleuni, a bydd yr hyn rydych chi’n ei sibrwd mewn ystafelloedd preifat yn cael ei bregethu o bennau’r tai. 4 Ar ben hynny, rydw i’n dweud wrthoch chi, fy ffrindiau, peidiwch ag ofni’r rhai sy’n lladd y corff ac ar ôl hynny sydd ddim yn gallu gwneud dim mwy. 5 Ond bydda i’n dangos ichi pwy i’w ofni: Ofnwch yr Un sydd â’r awdurdod nid yn unig i ladd ond hefyd i’ch taflu chi i mewn i Gehenna.* Yn wir, rydw i’n dweud wrthoch chi, ofnwch yr Un yma. 6 Mae pump aderyn y to yn gwerthu am ddwy geiniog,* onid ydyn nhw? Ond eto, dydy Duw ddim yn anghofio’r* un ohonyn nhw. 7 Ond mae hyd yn oed pob un blewyn o wallt eich pennau wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni; rydych chithau’n werth mwy na llawer o adar y to.

8 “Rydw i’n dweud wrthoch chi, pwy bynnag sy’n fy nghydnabod i gerbron dynion, bydd Mab y dyn hefyd yn ei gydnabod yntau gerbron angylion Duw. 9 Ond pwy bynnag sy’n fy ngwadu i gerbron dynion, bydd ef yn cael ei wadu gerbron angylion Duw. 10 A phob un sy’n dweud gair yn erbyn Mab y dyn, bydd hynny’n cael ei faddau iddo, ond pwy bynnag sy’n cablu yn erbyn yr ysbryd glân, ni fydd hynny’n cael ei faddau iddo. 11 Pan fyddan nhw’n dod â chi i mewn o flaen cyfarfodydd cyhoeddus,* swyddogion y llywodraeth, ac awdurdodau, peidiwch â phryderu am sut byddwch chi’n siarad mewn amddiffyniad nac am beth byddwch chi’n ei ddweud, 12 oherwydd bydd yr ysbryd glân yn eich dysgu chi yn yr union awr honno y pethau dylech chi eu dweud.”

13 Yna dywedodd rhywun yn y dyrfa wrtho: “Athro, dweud wrth fy mrawd am rannu’r etifeddiaeth â mi.” 14 Dywedodd ef wrtho: “Ddyn, pwy sydd wedi fy mhenodi i’n farnwr neu’n ganolwr rhyngoch chi’ch dau?” 15 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Cadwch eich llygaid ar agor a gwyliwch rhag bod yn farus, oherwydd hyd yn oed os oes gan rywun ddigonedd, dydy’r pethau sydd ganddo ddim yn rhoi bywyd iddo.” 16 Ar hynny, dywedodd ddameg wrthyn nhw, gan ddweud: “Roedd tir dyn cyfoethog yn cynhyrchu cnwd da. 17 Felly dechreuodd ef resymu yn ei galon, ‘Beth ddylwn i ei wneud nawr oherwydd does gen i unlle i gasglu fy nghnydau?’ 18 Yna dywedodd, ‘Dyma beth wna i: Bydda i’n tynnu i lawr fy ysguboriau ac yn adeiladu rhai mwy, ac yno bydda i’n casglu fy holl wenith a fy holl eiddo, 19 a bydda i’n dweud wrtho i fy hun: “Mae gen ti lawer o bethau da i bara am lawer o flynyddoedd; ymlacia, bwyta, yfa, mwynha dy hun.”’ 20 Ond dywedodd Duw wrtho, ‘Y dyn gwirion, heno rwyt ti’n mynd i farw. Pwy felly sy’n mynd i gael y pethau wnest ti eu storio?’ 21 Felly y bydd hi ar y dyn sy’n casglu trysor iddo ef ei hun ond sydd ddim yn gyfoethog yng ngolwg Duw.”

22 Yna dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Dyna pam rydw i’n dweud wrthoch chi, stopiwch fod yn bryderus am eich bywydau o ran beth rydych chi’n mynd i’w fwyta neu am eich cyrff a beth rydych chi’n mynd i’w wisgo. 23 Oherwydd mae bywyd yn werth mwy na bwyd a’r corff yn fwy na dillad. 24 Ystyriwch y cigfrain: Dydyn nhw ddim yn hau hadau nac yn medi; does ganddyn nhw ddim ysgubor na stordy; ac eto mae Duw yn eu bwydo nhw. Onid ydych chithau’n werth llawer iawn mwy nag adar? 25 Pa un ohonoch chi sy’n gallu ychwanegu munud* at ei fywyd drwy fod yn bryderus? 26 Os, felly, dydych chi ddim hyd yn oed yn gallu gwneud hynny, pam rydych chi’n pryderu am y pethau eraill? 27 Ystyriwch sut mae’r lili yn tyfu: Dydyn nhw ddim yn llafurio nac yn gwnïo dillad; ac eto rydw i’n dweud wrthoch chi nad oedd hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant yn edrych mor hardd ag un o’r rhain. 28 Nawr os mai dyma sut mae Duw yn dilladu planhigion y maes sy’n bodoli heddiw ac yfory’n cael eu taflu i’r ffwrn, gymaint yn fwy bydd ef yn eich dilladu chi, chi o ychydig ffydd! 29 Felly stopiwch fod yn bryderus am beth rydych chi’n mynd i’w fwyta a beth rydych chi’n mynd i’w yfed, a stopiwch fod ar bigau’r drain; 30 oherwydd dyma’r pethau mae’r cenhedloedd i gyd yn eu ceisio’n frwd, ond mae eich Tad yn gwybod bod angen y pethau hyn arnoch chi. 31 Yn lle hynny, daliwch ati i geisio ei Deyrnas, a bydd y pethau hyn yn cael eu rhoi ichi.

32 “Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd bod eich Tad yn hapus i roi’r Deyrnas ichi. 33 Gwerthwch eich eiddo a rhowch i’r tlawd.* Gwnewch fagiau arian sydd ddim yn gwisgo allan, sef trysor yn y nefoedd sy’n para am byth, lle nad ydy lleidr yn gallu dod yn agos a lle nad ydy gwyfyn yn difetha. 34 Oherwydd le bynnag mae eich trysor chi, yno bydd eich calonnau chi hefyd.

35 “Rhowch eich dillad amdanoch chi a byddwch yn barod a gwnewch yn siŵr fod eich lampau’n llosgi, 36 a dylech chi fod fel dynion sy’n disgwyl i’w meistr ddod yn ôl o’r briodas, felly pan fydd ef yn dod ac yn cnocio ar y drws, fe fyddan nhw’n gallu agor y drws iddo ar unwaith. 37 Hapus yw’r caethweision hynny sy’n gwylio pan ddaw’r meistr! Yn wir, rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd ef yn gwisgo dillad ar gyfer gwasanaethu ac yn gwneud iddyn nhw gymryd eu lle wrth y bwrdd ac yn dod atyn nhw ac yn gweini arnyn nhw. 38 Ac os yw’n dod yn yr ail wylfa,* hyd yn oed yn y drydedd,* ac mae’n gweld eu bod nhw’n barod, hapus ydyn nhw! 39 Ond meddyliwch am hyn: Petai perchennog y tŷ wedi gwybod ar ba awr roedd y lleidr yn dod, ni fyddai wedi gadael i’r lleidr dorri i mewn i’w dŷ. 40 Chithau hefyd, arhoswch yn barod, oherwydd ar awr nad ydych chi’n ei disgwyl, mae Mab y dyn yn dod.”

41 Yna dywedodd Pedr: “Arglwydd, wyt ti’n dweud y ddameg hon wrthon ni yn unig neu wrth bawb hefyd?” 42 A dywedodd yr Arglwydd: “Pwy yn wir yw’r goruchwyliwr* ffyddlon, yr un call,* a benodwyd gan ei feistr i fod yn gyfrifol am holl weision y tŷ, i barhau i roi iddyn nhw ddigon o fwyd i gwrdd â’u hanghenion ar yr amser iawn? 43 Hapus yw’r caethwas hwnnw os yw ei feistr yn dod ac yn ei weld yn gwneud y gwaith hwn! 44 Yn wir, rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd yn ei benodi i fod yn gyfrifol am ei holl eiddo. 45 Ond petai’r caethwas hwnnw’n dweud yn ei galon, ‘Mae fy meistr yn oedi,’ ac yn dechrau curo ei gyd-weision ac yn bwyta ac yn yfed ac yn meddwi, 46 bydd meistr y caethwas hwnnw yn dod ar ddiwrnod nad yw’n ei ddisgwyl ac ar awr nad yw’n ei gwybod, a bydd ef yn ei gosbi â’r gosb fwyaf llym ac yn ei osod gyda’r rhai anffyddlon. 47 Yna bydd y caethwas hwnnw, a oedd yn deall ewyllys ei feistr ond heb fod yn barod na gwneud beth roedd ef wedi ei ofyn,* yn cael ei guro â llawer o chwipiadau. 48 Ond bydd yr un nad oedd yn deall, ond eto a wnaeth bethau a oedd yn haeddu’r chwip, yn cael ei guro ychydig o weithiau. Yn wir, pob un sydd wedi derbyn llawer, bydd llawer yn cael ei ofyn ganddo, a’r un sy’n gyfrifol am lawer, bydd llawer iawn mwy yn cael ei ofyn ganddo.

49 “Fe ddes i i gynnau tân ar y ddaear, a pha beth arall sydd ’na imi ddymuno os ydy’r tân eisoes wedi ei gynnau? 50 Yn wir, mae gen i fath arall o fedydd y mae’n rhaid imi ei brofi, ac fe fydda i’n dal i ofidio hyd nes imi ei gyflawni! 51 Ydych chi’n meddwl fy mod i wedi dod i roi heddwch ar y ddaear? Nage, rydw i’n dweud wrthoch chi, yn hytrach wnes i ddod i achosi rhaniadau. 52 O hyn ymlaen fe fydd ’na raniadau yn y teulu. Os oes ’na bum person yn y tŷ, bydd tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri. 53 Fe fydd ’na raniadau, tad yn erbyn mab a mab yn erbyn tad, mam yn erbyn merch a merch yn erbyn mam, mam yng nghyfraith yn erbyn merch yng nghyfraith a merch yng nghyfraith yn erbyn mam yng nghyfraith.”

54 Yna dywedodd wrth y tyrfaoedd hefyd: “Pan ydych chi’n gweld cwmwl yn codi yn y gorllewin, rydych chi ar unwaith yn dweud, ‘Mae ’na storm yn dod,’ ac mae hynny’n digwydd. 55 A phan ydych chi’n gweld gwynt y de yn chwythu, rydych chi’n dweud, ‘Fe fydd hi’n ofnadwy o boeth,’ ac mae hynny’n digwydd. 56 Ragrithwyr, rydych chi’n gwybod sut i ddehongli golwg y ddaear a’r awyr, ond pam nad ydych chi’n gwybod sut i ddehongli’r amser penodol hwn? 57 Pam nad ydych chi hefyd yn barnu drostoch chi’ch hunain beth sy’n gyfiawn? 58 Er enghraifft, pan wyt ti’n mynd at reolwr gyda dy wrthwynebwr cyfreithiol, tra eich bod chi ar y ffordd, dos ati i dorri’r ddadl gydag ef fel nad yw’n gallu dy alw di o flaen y barnwr, a’r barnwr yn dy roi di i swyddog y llys, a swyddog y llys yn dy daflu di i’r carchar. 59 Rydw i’n dweud wrthot ti, fyddi di ddim ar unrhyw gyfri yn dod allan o fanna nes iti dalu dy geiniog olaf.”*

13 Yr adeg honno, roedd rhai yn bresennol a wnaeth adrodd wrtho fod Peilat wedi lladd y Galileaid a oedd yn offrymu aberthau. 2 Atebodd yntau: “Ydych chi’n meddwl bod y Galileaid hynny yn waeth pechaduriaid na’r holl Galileaid eraill oherwydd eu bod nhw wedi dioddef y pethau hyn? 3 Nac ydyn, medda i wrthoch chi; ond os nad ydych chi’n edifarhau, fe fyddwch chi i gyd yn cael eich dinistrio yn yr un modd. 4 Neu’r 18 hynny y syrthiodd tŵr Siloam arnyn nhw a’u lladd nhw—ydych chi’n meddwl roedden nhw’n fwy euog na’r holl ddynion eraill sy’n byw yn Jerwsalem? 5 Nac oedden, medda i wrthoch chi; ond os nad ydych chi’n edifarhau, fe fyddwch chi i gyd yn cael eich dinistrio, fel y cawson nhw eu dinistrio.”

6 Yna dechreuodd adrodd y ddameg hon: “Roedd gan ddyn goeden ffigys wedi ei phlannu yn ei winllan, a daeth i chwilio am ffrwyth arni ond ni ddaeth o hyd i unrhyw beth. 7 Yna dywedodd wrth y gweithiwr yn y winllan, ‘Ers tair blynedd rydw i wedi bod yn chwilio am ffrwyth ar y goeden ffigys hon, ond heb gael dim. Torra hi i lawr! Pam dylai hi wastraffu tir da?’ 8 Atebodd drwy ddweud wrtho, ‘Feistr, gad iddi fod am un flwyddyn arall hyd nes imi balu o’i chwmpas hi a’i gwrteithio hi. 9 Os ydy hi’n cynhyrchu ffrwyth yn y dyfodol, popeth yn iawn; ond os ddim, torra hi i lawr.’”

10 Nawr, roedd yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Saboth. 11 Ac edrycha! roedd ’na ddynes* ag ysbryd ynddi a oedd wedi ei gwneud hi’n anabl* am 18 mlynedd; ac roedd ei chefn hi wedi crymu a doedd hi ddim yn gallu sythu o gwbl. 12 Pan welodd Iesu hi, dyma’n ei chyfarch hi a dweud: “Ddynes,* rwyt ti wedi cael dy ryddhau oddi wrth dy anabledd.” 13 A rhoddodd ei ddwylo arni, ac ar unwaith fe sythodd hi a dechrau gogoneddu Duw. 14 Ond roedd arweinydd y synagog yn ddig iawn oherwydd bod Iesu wedi iacháu ar y Saboth, a dywedodd wrth y dyrfa: “Mae ’na chwe diwrnod ar gyfer gweithio; felly dewch i gael eich iacháu ar un o’r dyddiau hynny, ond nid ar ddydd y Saboth.” 15 Fodd bynnag, atebodd yr Arglwydd ef: “Ragrithwyr, onid ydy pob un ohonoch chi ar y Saboth yn gollwng ei darw neu ei asyn o’r stâl ac yn ei arwain i ffwrdd er mwyn rhoi dŵr iddo? 16 Oni ddylai’r ddynes* hon, sy’n ferch i Abraham ac sydd wedi cael ei rhwymo gan Satan am 18 mlynedd, gael ei rhyddhau o’r rhwymyn hwn ar ddydd y Saboth?” 17 Wel, pan ddywedodd y pethau hyn, dechreuodd ei holl wrthwynebwyr deimlo cywilydd, ond dechreuodd y dyrfa gyfan lawenhau oherwydd yr holl bethau gogoneddus yr oedd ef wedi eu gwneud.

18 Felly aeth yn ei flaen i ddweud: “I beth mae Teyrnas Dduw yn debyg, ac â beth y galla i ei chymharu hi? 19 Mae’n debyg i hedyn mwstard y gwnaeth dyn ei gymryd a’i blannu yn ei ardd, ac fe dyfodd a dod yn goeden, a dyma adar y nef yn nythu yn ei changhennau.”

20 A dywedodd eto: “Â beth y galla i gymharu Teyrnas Dduw? 21 Mae’n debyg i lefain y gwnaeth dynes* ei gymryd a’i gymysgu â thri mesur mawr* o flawd nes i’r toes cyfan godi.”

22 Ac fe deithiodd o ddinas i ddinas ac o bentref i bentref, yn dysgu ac yn parhau ar ei daith i Jerwsalem. 23 Nawr dywedodd dyn wrtho: “Arglwydd, ai ychydig ydy’r rhai sy’n cael eu hachub?” Dywedodd ef wrthyn nhw: 24 “Gwnewch ymdrech lew i fynd i mewn drwy’r drws cul, oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ond fyddan nhw ddim yn gallu. 25 Pan fydd perchennog y tŷ yn codi ac yn cloi’r drws, fe fyddwch chi’n sefyll y tu allan ac yn cnocio ar y drws, gan ddweud, ‘Arglwydd, agora inni.’ Ond bydd ef yn eich ateb chi: ‘Dydw i ddim yn gwybod o le rydych chi’n dod.’ 26 Yna byddwch yn dechrau dweud, ‘Roedden ni’n bwyta ac yn yfed yn dy bresenoldeb, ac roeddet ti’n dysgu yn ein prif strydoedd.’ 27 Ond bydd ef yn dweud wrthoch chi, ‘Dydw i ddim yn gwybod o le rydych chi’n dod. Ewch o ’ma, chi holl weithwyr anghyfiawnder!’ 28 Yno y byddwch chi’n wylo ac yn crensian eich dannedd, pan fyddwch chi’n gweld Abraham, Isaac, Jacob, a’r holl broffwydi yn Nheyrnas Dduw, ond chithau yn cael eich taflu y tu allan. 29 Ar ben hynny, bydd pobl yn dod o’r dwyrain a’r gorllewin ac o’r gogledd a’r de, a byddan nhw’n cymryd eu lle wrth y bwrdd yn Nheyrnas Dduw. 30 Ac edrychwch! bydd rhai sy’n olaf yn gyntaf, a rhai sy’n gyntaf yn olaf.”

31 Yr union awr honno, daeth rhai o’r Phariseaid ato a dweud wrtho: “Dos i ffwrdd o fan hyn, oherwydd mae Herod eisiau dy ladd di.” 32 Ac meddai wrthyn nhw: “Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, ‘Edrycha! Rydw i’n bwrw cythreuliaid allan ac yn iacháu pobl heddiw ac yfory, ac ar y trydydd dydd fe fydda i wedi gorffen.’ 33 Er hynny, mae’n rhaid imi barhau i deithio heddiw, yfory, a’r diwrnod canlynol, oherwydd mae’n amhosib meddwl y byddai proffwyd yn cael ei roi i farwolaeth y tu allan i Jerwsalem. 34 Jerwsalem, Jerwsalem, yr un sy’n lladd y proffwydi ac yn llabyddio’r rhai a anfonwyd ati hi—mor aml roeddwn i eisiau casglu dy blant at ei gilydd fel mae iâr yn casglu ei chywion o dan ei hadenydd! Ond doeddech chi bobl ddim eisiau hynny. 35 Edrychwch! Mae eich tŷ yn cael ei adael yn adfail. Rydw i’n dweud wrthoch chi, fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ar unrhyw gyfri nes ichi ddweud: ‘Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw Jehofa!’”

14 Ar achlysur arall, aeth ef i fwyta pryd o fwyd yn nhŷ un o arweinwyr y Phariseaid ar y Saboth, ac roedden nhw’n ei wylio’n ofalus. 2 Ac edrycha! roedd ’na ddyn o’i flaen a’r dropsi* arno. 3 Felly ymatebodd Iesu drwy ofyn i’r arbenigwyr yn y Gyfraith a’r Phariseaid: “Ydy hi’n gyfreithlon i iacháu ar y Saboth neu ddim?” 4 Ond arhoson nhw’n ddistaw. Ar hynny, dyma’n cyffwrdd y dyn, ei iacháu, a’i anfon i ffwrdd. 5 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Pwy ohonoch chi, os ydy ei fab neu ei darw yn syrthio i mewn i ffynnon, na fydd yn ei dynnu allan ohoni ar unwaith ar ddydd y Saboth?” 6 A doedden nhw ddim yn gallu ateb hyn.

7 Yna dywedodd ddameg wrth y gwesteion ar ôl iddo sylwi eu bod nhw’n dewis y llefydd mwyaf pwysig iddyn nhw eu hunain. Dywedodd wrthyn nhw: 8 “Pan gei di dy wahodd gan rywun i wledd briodas, paid ag eistedd yn y lle mwyaf pwysig. Efallai bydd rhywun mwy adnabyddus na ti wedi cael ei wahodd hefyd. 9 Yna bydd yr un a wnaeth wahodd y ddau ohonoch chi yn dod atat ti ac yn dweud, ‘Gad i’r dyn yma gael dy le di.’ Yna byddi di’n mynd mewn cywilydd i eistedd yn y lle isaf. 10 Ond pan gei di wahoddiad, dos i eistedd yn y lle isaf, wedyn pan fydd y dyn a wnaeth dy wahodd di yn dod, fe fydd yn dweud wrthot ti, ‘Ffrind, dos yn uwch.’ Yna bydd gen ti anrhydedd o flaen dy holl gyd-westeion. 11 Oherwydd bydd pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun yn cael ei fychanu, a bydd pwy bynnag sy’n ostyngedig yn cael ei ddyrchafu.”

12 Nesaf, dywedodd hefyd wrth y dyn a oedd wedi ei wahodd: “Pan wyt ti’n paratoi cinio neu swper, paid â galw dy ffrindiau na dy frodyr na dy berthnasau na dy gymdogion cyfoethog. Neu fel arall byddan nhw’n dy wahodd di, er mwyn dy dalu di’n ôl. 13 Ond pan fyddi di’n paratoi gwledd, gwahodda’r tlawd, yr anabl, y cloff, y dall; 14 a byddi di’n hapus, oherwydd does ganddyn nhw ddim byd i’w dalu yn ôl iti. Oherwydd byddi di’n cael dy dalu yn ôl yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.”

15 Wrth iddo glywed y pethau hyn, dywedodd un o’r cyd-westeion wrtho: “Hapus ydy’r un sy’n bwyta* yn Nheyrnas Dduw.”

16 Dywedodd Iesu wrtho: “Roedd dyn yn paratoi swper crand, ac roedd ef wedi gwahodd llawer o bobl. 17 Anfonodd ei gaethwas allan ar awr y swper i ddweud wrth y rhai a oedd wedi cael eu gwahodd, ‘Dewch, oherwydd mae popeth yn barod nawr.’ 18 Ond dechreuon nhw i gyd hel esgusodion. Dywedodd yr un cyntaf wrtho, ‘Rydw i wedi prynu cae ac mae angen imi fynd i’w weld; a wnei di fy esgusodi i?’ 19 A dywedodd un arall, ‘Rydw i wedi prynu pum pâr* o wartheg ac rydw i am fynd i brofi pa mor dda maen nhw’n gweithio; a wnei di fy esgusodi i?’ 20 Ac meddai un arall, ‘Rydw i newydd briodi, ac oherwydd hynny dydw i ddim yn gallu dod.’ 21 Felly daeth y caethwas ac adrodd y pethau hyn wrth ei feistr. Yna gwylltiodd meistr y tŷ a dywedodd wrth ei gaethwas, ‘Dos allan yn gyflym i brif strydoedd a strydoedd cefn y ddinas, a thyrd â’r tlawd a’r anabl a’r dall a’r cloff i mewn yma.’ 22 Mewn amser dywedodd y caethwas, ‘Feistr, mae’r hyn wnest ti ei orchymyn wedi cael ei wneud, ac mae ’na le i fwy eto.’ 23 Felly dywedodd y meistr wrth y caethwas, ‘Dos allan i’r ffyrdd a’r lonydd cefn gwlad a mynna eu bod nhw’n dod i mewn, er mwyn i fy nhŷ gael ei lenwi. 24 Oherwydd rydw i’n dweud wrthot ti, ni fydd yr un o’r dynion hynny a gafodd ei wahodd yn blasu fy swper i.’”

25 Nawr roedd tyrfaoedd mawr yn teithio gydag ef, a dyma’n troi ac yn dweud wrthyn nhw: 26 “Os oes unrhyw un yn dod ata i sydd ddim yn casáu* ei dad a’i fam a’i wraig a’i blant a’i frodyr a’i chwiorydd, ie, hyd yn oed ei fywyd ei hun, dydy hwnnw ddim yn gallu bod yn ddisgybl imi. 27 Dydy pwy bynnag sydd ddim yn cario ei stanc dienyddio* ac yn dod ar fy ôl i ddim yn gallu bod yn ddisgybl imi. 28 Er enghraifft, os ydych chi eisiau adeiladu tŵr, pwy ohonoch chi na fyddai’n eistedd i lawr a chyfri’r gost i weld a oes ganddo ddigon i gwblhau’r gwaith? 29 Fel arall, efallai byddai’n gosod y sylfaen heb allu ei orffen, a byddai pawb sy’n gwylio yn dechrau chwerthin am ei ben, 30 gan ddweud: ‘Dechreuodd y dyn yma adeiladu, ond doedd ddim yn gallu gorffen.’ 31 Neu pa frenin sy’n mynd i ryfel yn erbyn brenin arall na fyddai’n eistedd i lawr yn gyntaf i drafod a fyddai ef a’i 10,000 o filwyr yn gallu gwrthsefyll yr un sy’n dod yn ei erbyn â 20,000? 32 Yn wir, os nad yw’n gallu, yna tra bod y llall yn dal yn bell i ffwrdd, mae’n anfon llysgenhadon allan i geisio heddwch. 33 Yn yr un modd, gallwch chi fod yn sicr nad ydy’r un ohonoch chi sydd ddim yn cefnu ar* ei holl eiddo yn gallu bod yn ddisgybl imi.

34 “Yn wir, mae halen yn dda. Ond os ydy’r halen yn colli ei flas, sut bydd yn cael ei flas hallt yn ôl? 35 Nid yw’n addas ar gyfer pridd na gwrtaith. Mae pobl yn ei daflu allan. Gadewch i’r un sydd â chlustiau i wrando, wrando.”

15 Nawr roedd yr holl gasglwyr trethi a’r pechaduriaid yn parhau i gasglu o’i gwmpas i’w glywed. 2 Ac roedd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion yn dal i gwyno: “Mae’r dyn yma yn croesawu pechaduriaid ac yn bwyta gyda nhw.” 3 Yna dywedodd y ddameg hon wrthyn nhw: 4 “Os oes gan ddyn yn eich plith 100 o ddefaid, ac mae’n colli un ohonyn nhw, oni fydd ef yn gadael y 99 ar ôl yn yr anialwch ac yn chwilio am yr un sydd ar goll nes iddo ddod o hyd iddi? 5 Ac ar ôl iddo ddod o hyd iddi, mae’n ei rhoi ar ei ysgwyddau ac yn llawenhau. 6 A phan mae’n dod adref, mae’n galw ei ffrindiau a’i gymdogion at ei gilydd, gan ddweud wrthyn nhw, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd fy mod i wedi dod o hyd i fy nafad a oedd ar goll.’ 7 Rydw i’n dweud wrthoch chi, yn yr un modd bydd ’na fwy o lawenydd yn y nef oherwydd un pechadur sy’n edifarhau nag oherwydd 99 o rai cyfiawn sydd ddim angen edifarhau.

8 “Neu os oes gan ddynes* ddeg drachma, ac mae hi’n colli un ohonyn nhw, oni fyddai hi’n goleuo lamp ac yn ysgubo ei thŷ ac yn chwilio’n ofalus amdano nes iddi ddod o hyd iddo? 9 Ac ar ôl iddi ddod o hyd iddo, mae hi’n galw ei ffrindiau* a’i chymdogion at ei gilydd, gan ddweud, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd fy mod i wedi dod o hyd i’r drachma gwnes i ei golli.’ 10 Yn yr un modd, rydw i’n dweud wrthoch chi, mae ’na lawenydd ymhlith angylion Duw oherwydd un pechadur sy’n edifarhau.”

11 Yna dywedodd ef: “Roedd gan ddyn ddau fab. 12 A dywedodd y mab ifanc wrth ei dad, ‘Dad, rho fy rhan i o’r etifeddiaeth imi.’ Felly dyma’n rhannu ei eiddo rhyngddyn nhw. 13 Ychydig o ddyddiau wedyn, casglodd y mab ifanc ei holl bethau at ei gilydd a theithiodd i wlad bell ac yno dyma’n gwastraffu ei eiddo trwy fyw bywyd gwyllt.* 14 Ar ôl iddo wario popeth, roedd ’na newyn ofnadwy drwy gydol y wlad honno, a doedd ganddo ddim byd ar ôl. 15 Fe lwyddodd hyd yn oed i gael ei gyflogi gan un o ddinasyddion y wlad honno, a wnaeth ei anfon i mewn i’w gaeau i ofalu am y moch. 16 Ac roedd yn dyheu am gael ei lenwi â’r bwyd* roedd y moch yn ei fwyta, ond doedd neb yn rhoi unrhyw beth iddo.

17 “Pan ddaeth ato’i hun, dywedodd, ‘Mae gan fy nhad lawer o weithwyr ac mae ganddyn nhw fwy na digon o fara, tra fy mod i yma yn marw o newyn! 18 Fe wna i godi a theithio i dŷ fy nhad a dweud wrtho: “Dad, rydw i wedi pechu yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. 19 Dydw i ddim yn haeddu cael fy ngalw’n fab iti bellach. Ystyria fi fel un o dy weithwyr.’” 20 Felly cododd ac aeth at ei dad. Tra oedd ef yn dal yn bell i ffwrdd, gwnaeth ei dad ei weld ac roedd yn llawn trueni, a dyma’n rhedeg ato ac yn ei gofleidio ac yn ei gusanu’n dyner. 21 Yna dywedodd y mab wrtho, ‘Dad, rydw i wedi pechu yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Dydw i ddim yn haeddu cael fy ngalw’n fab iti bellach.’ 22 Ond dywedodd y tad wrth ei gaethweision, ‘Brysiwch! dewch â mantell allan, yr un orau, a’i rhoi amdano, rhowch fodrwy ar ei law a sandalau am ei draed. 23 Hefyd, dewch â’r llo mwyaf tew, lladdwch ef, a gadewch inni fwyta a dathlu, 24 oherwydd roedd fy mab wedi marw ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd ar goll ac mae wedi cael ei ddarganfod.’ A dechreuon nhw fwynhau eu hunain.

25 “Nawr roedd ei fab hynaf yn y cae, ac wrth iddo ddod yn ôl ac agosáu at y tŷ, fe glywodd gerddoriaeth a dawnsio. 26 Felly galwodd un o’r gweision ato a gofyn beth oedd yn digwydd. 27 Dywedodd ef wrtho, ‘Mae dy frawd wedi dod yn ôl, ac mae dy dad wedi lladd y llo tewaf oherwydd bod dy frawd wedi dod yn ôl mewn iechyd da.’* 28 Ond fe aeth yn ddig a gwrthod mynd i mewn. Yna daeth ei dad allan a dechrau erfyn arno. 29 Atebodd drwy ddweud wrth ei dad, ‘Edrycha! Am lawer o flynyddoedd rydw i wedi llafurio i ti a dydw i erioed wedi bod yn anufudd i dy orchmynion, ac eto wnest ti erioed roi gafr ifanc i mi i’w fwynhau gyda fy ffrindiau. 30 Ond unwaith i hwn gyrraedd, dy fab a wnaeth wastraffu* dy eiddo ar buteiniaid, fe wnest ti ladd y llo mwyaf tew iddo.’ 31 Yna dywedodd ef wrtho, ‘Fy mab, rwyt ti wastad wedi bod gyda mi, ac mae popeth sy’n perthyn i mi yn perthyn i tithau hefyd. 32 Ond roedd rhaid inni ddathlu a llawenhau, oherwydd roedd dy frawd wedi marw ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd ar goll ac mae wedi cael ei ddarganfod.’”

16 Yna dywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion: “Roedd gan ddyn cyfoethog reolwr tŷ* a gafodd ei gyhuddo o wastraffu ei eiddo. 2 Felly galwodd ef ato a dweud, ‘Beth rydw i’n ei glywed amdanat ti? Dos i ysgrifennu adroddiad am sut rwyt ti wedi defnyddio fy arian, oherwydd dwyt ti ddim yn cael rheoli’r tŷ bellach.’ 3 Yna dywedodd rheolwr y tŷ wrtho’i hun, ‘Beth ddylwn i ei wneud, gan fod fy meistr yn cymryd y gwaith o reoli’r tŷ oddi arna i? Dydw i ddim yn ddigon cryf i gloddio, a byddwn i’n teimlo cywilydd yn begian. 4 A! Rydw i’n gwybod beth wna i, fel y bydd pobl yn fy nghroesawu i’w cartrefi pan fydd y gwaith o reoli’r tŷ yn cael ei gymryd oddi arna i.’ 5 A galwodd ato bawb a oedd mewn dyled i’w feistr, a dywedodd wrth yr un cyntaf, ‘Faint sydd ei angen iti dalu yn ôl i fy meistr?’ 6 Atebodd ef, ‘Can mesur* o olew olewydd.’ Dywedodd ef wrtho, ‘Cymera dy gytundeb yn ôl ac eistedda ac ysgrifenna 50 yn gyflym.’ 7 Nesaf, dywedodd wrth un arall, ‘Tithau, faint sydd angen iti ei dalu?’ Dywedodd ef, ‘Can mesur mawr* o wenith.’ Dywedodd wrtho, ‘Cymera dy gytundeb yn ôl ac ysgrifenna 80.’ 8 A dyma ei feistr yn canmol rheolwr y tŷ, er ei fod yn anghyfiawn, oherwydd iddo ddefnyddio doethineb ymarferol;* oherwydd mae meibion y system hon* yn fwy doeth mewn ffordd ymarferol tuag at eu cenhedlaeth eu hunain nag y mae meibion y goleuni.

9 “Hefyd, rydw i’n dweud wrthoch chi: Gwnewch ffrindiau drwy ddefnyddio cyfoeth anghyfiawn, yna pan fydd y cyfoeth hwnnw’n darfod, byddan nhw’n eich croesawu chi i’r cartrefi tragwyddol. 10 Mae’r person sy’n ffyddlon yn y pethau lleiaf yn ffyddlon yn y pethau mawr hefyd, ac mae’r person sy’n anghyfiawn yn y pethau lleiaf yn anghyfiawn yn y pethau mawr hefyd. 11 Felly, os nad ydych chi wedi profi eich bod chi’n ffyddlon ynglŷn â chyfoeth anghyfiawn, pwy fydd yn eich trystio chi â’r hyn sy’n wir? 12 Ac os nad ydych chi wedi eich profi eich hunain yn ffyddlon ynglŷn â’r hyn sy’n perthyn i rywun arall, pwy fydd yn rhoi ichi yr hyn sydd wedi cael ei neilltuo ar eich cyfer? 13 Does yr un gwas yn gallu bod yn gaethwas i ddau feistr, oherwydd bydd naill ai’n casáu un ac yn caru’r llall, neu’n ffyddlon i un ac yn dirmygu’r llall. Ni allwch chi fod yn gaethweision i Dduw ac i Gyfoeth.”

14 Nawr roedd y Phariseaid, a oedd yn caru arian, yn gwrando ar hyn i gyd, a dechreuon nhw wneud hwyl am ei ben. 15 Felly dywedodd wrthyn nhw: “Chi ydy’r rhai sy’n cyhoeddi eich bod chi’n gyfiawn o flaen dynion, ond mae Duw yn adnabod eich calonnau. Oherwydd mae’r hyn mae dynion yn ei ystyried yn bwysig yn afiach yng ngolwg Duw.

16 “Roedd y Gyfraith a’r Proffwydi’n cael eu cyhoeddi nes i Ioan gyrraedd. O hynny ymlaen, mae Teyrnas Dduw yn cael ei chyhoeddi fel newyddion da, ac mae pob math o bobl yn anelu’n ddyfal tuag ati hi. 17 Yn wir, mae’n haws i nefoedd a daear ddiflannu nag i un rhan fechan o lythyren o’r Gyfraith fynd heb gael ei chyflawni.

18 “Mae pob un sy’n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall yn godinebu, ac mae pwy bynnag sy’n priodi dynes* sydd wedi cael ei hysgaru gan ei gŵr yn godinebu.

19 “Roedd ’na ddyn cyfoethog, a oedd yn arfer gwisgo porffor a lliain main, yn ei fwynhau ei hun ddydd ar ôl dydd mewn ysblander. 20 Ond roedd ’na gardotyn o’r enw Lasarus a oedd yn cael ei osod wrth ei giât, ac wlserau dros ei gorff i gyd, 21 ac roedd eisiau bwyta pethau a oedd yn disgyn o fwrdd y dyn cyfoethog. Yn wir, byddai hyd yn oed y cŵn yn dod ac yn llyfu ei wlserau. 22 Yn y diwedd, bu farw’r cardotyn a chafodd ei gario i ffwrdd gan yr angylion i fod wrth ochr Abraham.

“Hefyd, bu farw’r dyn cyfoethog a chafodd ei gladdu. 23 Ac yn y Bedd* dyma’n codi ei lygaid, ac yntau mewn poen enbyd, a gwelodd ef Abraham o bell a Lasarus wrth ei ochr. 24 Felly galwodd a dweud, ‘Fy nhad Abraham, bydda’n drugarog wrtho i, ac anfona Lasarus i roi blaen ei fys mewn dŵr ac oeri fy nhafod, oherwydd rydw i mewn poen ofnadwy yn y tân fflamllyd yma.’ 25 Ond dywedodd Abraham, ‘Fy mhlentyn, cofia dy fod ti wedi cael digonedd o bethau da yn ystod dy fywyd, ond fe gafodd Lasarus bethau drwg. Ond nawr, mae ef yn cael ei gysuro yma, ond rwyt ti mewn poen ofnadwy. 26 Ac ar ben hyn i gyd, mae bwlch anferth wedi cael ei osod rhyngoch chi a ni, fel nad ydy’r rhai sydd eisiau mynd drosodd o fan hyn atoch chi yn gallu, a dydy pobl ddim yn gallu croesi oddi yno aton ni.’ 27 Yna dywedodd ef, ‘Os felly, rydw i’n gofyn wrthot ti, dad, i’w anfon at dŷ fy nhad, 28 oherwydd mae gen i bum brawd, er mwyn iddo allu rhoi tystiolaeth drylwyr iddyn nhw fel na fyddan nhwthau hefyd yn dod i mewn i’r lle hwn o boen enbyd.’ 29 Ond dywedodd Abraham, ‘Mae ganddyn nhw Moses a’r Proffwydi; gad iddyn nhw wrando arnyn nhw.’ 30 Yna dywedodd ef, ‘Nage, yn wir, fy nhad Abraham, ond petai rhywun o’r meirw yn mynd atyn nhw, byddan nhw’n edifarhau.’ 31 Ond dywedodd ef wrtho, ‘Os nad ydyn nhw’n gwrando ar Moses a’r Proffwydi, fyddan nhw ddim yn cael eu perswadio petai rhywun yn codi o’r meirw chwaith.’”

17 Yna dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Mae’r pethau sy’n achosi i bobl faglu yn bendant yn mynd i ddigwydd. Serch hynny, gwae’r sawl sy’n gyfrifol am wneud y pethau hynny! 2 Byddai’n well iddo petai maen melin yn cael ei roi o amgylch ei wddf ac yntau’n cael ei daflu i mewn i’r môr nag iddo achosi i un o’r rhai bychain hyn gael eu baglu. 3 Gwyliwch eich hunain. Os yw dy frawd yn pechu, cerydda ef, ac os yw’n edifarhau, maddau iddo. 4 Hyd yn oed os yw’n pechu saith gwaith y diwrnod yn dy erbyn di ac mae’n dod yn ôl atat ti saith gwaith, gan ddweud, ‘Rydw i’n edifarhau,’ mae’n rhaid iti faddau iddo.”

5 Nawr, dywedodd y disgyblion wrth yr Arglwydd: “Rho fwy o ffydd inni.” 6 Yna dywedodd yr Arglwydd: “Petai gynnoch chi ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe fyddech chi’n dweud wrth y forwydden hon, ‘Cod dy wreiddiau a phlanna dy hun yn y môr!’ ac fe fyddai hi’n ufuddhau ichi.

7 “Pa un ohonoch chi sydd â chaethwas yn aredig neu’n bugeilio a fydd yn dweud wrtho pan fydd yn dod i mewn o’r cae, ‘Tyrd yma ar unwaith a bwyta wrth y bwrdd’? 8 Yn hytrach, oni fydd yn dweud wrtho, ‘Dos i baratoi rhywbeth ar gyfer fy swper, a gwisga ffedog a gweina arna i nes imi orffen bwyta ac yfed, ac wedyn fe gei di fwyta ac yfed’? 9 A fydd ef yn diolch i’r caethwas am wneud yr hyn a aseiniwyd iddo? 10 Yn yr un modd, ar ôl ichi wneud yr holl bethau a aseiniwyd ichi, dywedwch: ‘Caethweision da i ddim ydyn ni. Yr hyn a wnaethon ni ydy’r hyn a ddylen ni fod wedi ei wneud.’”

11 Tra oedd ef ar ei ffordd i Jerwsalem, roedd yn pasio rhwng Samaria a Galilea. 12 Ac wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, daeth deg o ddynion gwahanglwyfus i gyfarfod ag ef, ond roedden nhw’n sefyll yn bell i ffwrdd oddi wrtho. 13 A chodon nhw eu lleisiau arno: “Iesu, Athro, bydda’n drugarog wrthon ni!” 14 Pan welodd ef nhw, dywedodd wrthyn nhw: “Ewch i’ch dangos eich hunain i’r offeiriaid.” Yna tra oedden nhw ar eu ffordd, fe gawson nhw eu glanhau. 15 Dyma un ohonyn nhw, pan welodd ei fod wedi cael ei iacháu, yn troi yn ei ôl, gan ogoneddu Duw â llais uchel. 16 Ac fe syrthiodd ar ei wyneb wrth draed Iesu, gan ddiolch iddo. Ar ben hynny, Samariad oedd y dyn. 17 Atebodd Iesu: “Oni chafodd y deg i gyd eu glanhau? Ble, felly, mae’r naw arall? 18 Ai’r dyn hwn o genedl arall oedd yr unig un i droi yn ôl i roi gogoniant i Dduw?” 19 Yna dywedodd ef wrtho: “Cod a dos ar dy ffordd; mae dy ffydd wedi dy iacháu di.”

20 Ond pan ofynnodd y Phariseaid wrtho pa bryd roedd Teyrnas Dduw yn dod, atebodd yntau: “Dydy Teyrnas Dduw ddim yn dod mewn ffordd sy’n amlwg i bawb; 21 ni fydd pobl yn dweud chwaith, ‘Edrychwch fan yma!’ neu, ‘Edrychwch fan acw!’ Oherwydd edrychwch! mae Teyrnas Dduw yn eich plith chi.”

22 Yna dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Mae dyddiau’n dod pan fyddwch chi’n dymuno gweld un o ddyddiau Mab y dyn, ond fyddwch chi ddim yn ei weld. 23 A bydd pobl yn dweud wrthoch chi, ‘Edrychwch fan acw!’ neu, ‘Edrychwch fan hyn!’ Peidiwch â mynd allan na rhedeg ar eu holau nhw. 24 Oherwydd yn union fel mae mellt yn fflachio o un rhan o’r nef i’r llall, felly y bydd Mab y dyn yn ei ddydd ef. 25 Yn gyntaf, fodd bynnag, mae’n rhaid iddo ddioddef llawer a chael ei wrthod gan y genhedlaeth hon. 26 Ar ben hynny, yn union fel yr oedd hi yn nyddiau Noa, felly y bydd hi yn nyddiau Mab y dyn: 27 roedden nhw’n bwyta, roedden nhw’n yfed, roedd dynion a merched* yn priodi hyd nes y diwrnod hwnnw pan aeth Noa i mewn i’r arch, ac fe ddaeth y Dilyw a’u dinistrio nhw i gyd. 28 Yn yr un modd, yn union fel roedd hi yn nyddiau Lot: roedden nhw’n bwyta, roedden nhw’n yfed, roedden nhw’n prynu, roedden nhw’n gwerthu, roedden nhw’n plannu, roedden nhw’n adeiladu. 29 Ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, glawiodd tân a sylffwr o’r nef a’u dinistrio nhw i gyd. 30 Dyna’n union sut y bydd hi y diwrnod pan fydd Mab y dyn yn cael ei ddatgelu.

31 “Y dydd hwnnw mae’n rhaid i’r person sydd ar ben y tŷ, ond sydd ag eiddo yn y tŷ, beidio â mynd i lawr i nôl y pethau hyn, ac yn yr un modd, ni ddylai’r person yn y cae droi yn ei ôl. 32 Cofiwch wraig Lot. 33 Bydd pwy bynnag sy’n ceisio achub ei fywyd yn ei golli, ond bydd pwy bynnag sy’n colli ei fywyd yn ei achub. 34 Rydw i’n dweud wrthoch chi, y nos honno bydd dau mewn un gwely; bydd un yn cael ei gymryd, ond bydd y llall yn cael ei adael. 35 Bydd dwy ddynes* yn malu gwenith wrth yr un felin; bydd un yn cael ei chymryd, ond bydd y llall yn cael ei gadael.” 36 —— 37 Felly, dyma nhw’n ei ateb drwy ddweud wrtho: “Ble, Arglwydd?” Meddai ef wrthyn nhw: “Lle bydd y corff, yno hefyd y bydd yr eryrod yn heidio at ei gilydd.”

18 Yna aeth yn ei flaen i ddweud dameg wrthyn nhw am yr angen iddyn nhw weddïo trwy’r amser a pheidio â rhoi’r gorau iddi, 2 gan ddweud: “Mewn rhyw ddinas roedd ’na farnwr, a doedd ef ddim yn ofni Duw nac yn parchu dynion. 3 Hefyd roedd ’na wraig weddw yn y ddinas honno a oedd yn dal i fynd ato ac yn dweud, ‘Gwna’n siŵr fy mod i’n cael cyfiawnder oddi wrth fy ngwrthwynebwr cyfreithiol.’ 4 Wel, am ychydig, doedd ef ddim yn fodlon ei helpu hi, ond wedyn dywedodd ef wrtho’i hun, ‘Er nad ydw i’n ofni Duw nac yn parchu unrhyw ddyn, 5 oherwydd mae’r wraig weddw hon yn parhau i achosi trwbwl imi, fe wna i’n siŵr ei bod hi’n cael cyfiawnder fel na fydd hi’n dal i ddod a fy mlino i â’r holl bethau mae hi’n eu mynnu.’” 6 Yna dywedodd yr Arglwydd: “Gwrandewch ar beth ddywedodd y barnwr, er ei fod yn anghyfiawn! 7 Yn bendant, felly, oni fydd Duw yn rhoi cyfiawnder i’r rhai mae ef wedi eu dewis, sy’n galw arno ddydd a nos, tra bydd ef yn amyneddgar tuag atyn nhw? 8 Rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd ef yn rhoi cyfiawnder iddyn nhw yn gyflym. Er hynny, pan fydd Mab y dyn yn cyrraedd, a fydd ef yn wir yn dod o hyd i’r ffydd hon* ar y ddaear?”

9 Hefyd dywedodd y ddameg hon wrth y rhai a oedd yn rhoi hyder yn eu cyfiawnder eu hunain ac yn ystyried pobl eraill yn ddim byd: 10 “Aeth dau ddyn i fyny i’r deml i weddïo, roedd un ohonyn nhw’n Pharisead a’r llall yn gasglwr trethi. 11 Safodd y Pharisead a dechrau gweddïo yn ddistaw bach, ‘O Dduw, rydw i’n diolch i ti am nad ydw i yr un fath â phawb arall—y lladron, yr anghyfiawn, y godinebwyr—neu hyd yn oed fel y casglwr trethi hwn. 12 Rydw i’n ymprydio ddwywaith yr wythnos; rydw i’n rhoi un rhan o ddeg o’r holl bethau rydw i’n eu cael.’ 13 Ond roedd y casglwr trethi yn sefyll yn bell i ffwrdd, a doedd ef ddim yn fodlon hyd yn oed codi ei lygaid at y nef, ond roedd yn parhau i guro ei frest, gan ddweud, ‘O Dduw, bydda’n drugarog* wrtho i, a minnau’n bechadur.’ 14 Rydw i’n dweud wrthoch chi, aeth y dyn hwn i lawr at ei gartref a chafodd ei brofi’n fwy cyfiawn na’r Pharisead. Oherwydd bydd pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun yn cael ei fychanu, ond bydd pwy bynnag sy’n ostyngedig yn cael ei ddyrchafu.”

15 Nawr roedd pobl hefyd yn dod â’u babanod er mwyn iddo gyffwrdd â nhw, ond wrth weld hyn, dechreuodd y disgyblion eu ceryddu nhw. 16 Fodd bynnag, galwodd Iesu’r babanod ato, gan ddweud: “Gadewch i’r plant bach ddod ata i, a pheidiwch â cheisio eu stopio nhw, oherwydd mae Teyrnas Dduw yn perthyn i rai o’r fath. 17 Yn wir, rydw i’n dweud wrthoch chi, pwy bynnag sydd ddim yn derbyn Teyrnas Dduw fel plentyn bach, ni fydd ef ar unrhyw gyfri yn mynd i mewn iddi.”

18 A gwnaeth un o’r rheolwyr ei gwestiynu, gan ddweud: “Athro da, beth sy’n rhaid imi ei wneud i etifeddu bywyd tragwyddol?” 19 Dywedodd Iesu wrtho: “Pam rwyt ti’n fy ngalw i’n dda? Does neb yn dda heblaw am un, sef Duw. 20 Rwyt ti’n gwybod y gorchmynion: ‘Paid â godinebu, paid â llofruddio, paid â dwyn, paid â rhoi camdystiolaeth, ac anrhydedda dy dad a dy fam.’” 21 Yna dywedodd ef: “Rydw i wedi cadw’r rhain i gyd ers imi fod yn ifanc.” 22 Ar ôl clywed hynny, dywedodd Iesu wrtho, “Mae ’na un peth ar ôl sydd angen i ti ei wneud: Gwertha bopeth sydd gen ti a rho dy arian i’r tlawd, ac fe fydd gen ti drysor yn y nefoedd; yna tyrd, dilyna fi.” 23 Pan glywodd hyn, daeth yn ofnadwy o drist, oherwydd roedd ef yn gyfoethog iawn.

24 Edrychodd Iesu arno a dweud: “Mor anodd fydd hi i’r rhai sydd ag arian fynd i mewn i Deyrnas Dduw! 25 Yn wir, mae’n haws i gamel fynd trwy dwll nodwydd wnïo nag i ddyn cyfoethog fynd i mewn i Deyrnas Dduw.” 26 Dywedodd y rhai a glywodd hyn: “Ydy hi’n bosib i unrhyw un gael ei achub?” 27 Dywedodd ef: “Mae’r pethau sy’n amhosib i ddynion yn bosib i Dduw.” 28 Ond dywedodd Pedr: “Edrycha! Rydyn ni wedi gadael popeth oedd gynnon ni a dy ddilyn di.” 29 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, does ’na neb sydd wedi gadael tŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn Teyrnas Dduw 30 na fydd yn cael llawer iawn mwy yn ystod y cyfnod presennol, ac yn y system sydd i ddod,* fywyd tragwyddol.”

31 Yna cymerodd ef y Deuddeg ar wahân a dywedodd wrthyn nhw: “Edrychwch! Rydyn ni’n mynd i fyny i Jerwsalem, a bydd yr holl bethau sydd wedi cael eu hysgrifennu gan y proffwydi am Fab y dyn yn cael eu cyflawni. 32 Er enghraifft, bydd ef yn cael ei roi yn nwylo dynion y cenhedloedd a byddan nhw’n ei wawdio ac yn ei drin yn ddigywilydd ac yn poeri arno. 33 Ac ar ôl ei chwipio, byddan nhw’n ei ladd, ond ar y trydydd dydd bydd ef yn codi.” 34 Fodd bynnag, doedden nhw ddim yn deall ystyr unrhyw un o’r pethau hyn, oherwydd roedd y geiriau hyn wedi cael eu cuddio rhagddyn nhw, a doedden nhw ddim yn deall y pethau roedd ef yn eu dweud.

35 Nawr wrth i Iesu agosáu at Jericho, roedd ’na ddyn dall yn eistedd wrth ochr y ffordd yn begian. 36 Oherwydd iddo glywed tyrfa yn pasio heibio, dechreuodd ofyn beth oedd yn digwydd. 37 Dyma nhw’n dweud wrtho: “Mae Iesu o Nasareth yn pasio heibio!” 38 Ar hynny fe waeddodd yn uchel: “Iesu, Fab Dafydd, bydda’n drugarog wrtho i!” 39 A dechreuodd y rhai yn y blaen ei geryddu, gan ddweud wrtho am gadw’n ddistaw, ond parhaodd i weiddi’n uwch byth: “Fab Dafydd, bydda’n drugarog wrtho i!” 40 Yna stopiodd Iesu a gorchymyn iddyn nhw ddod â’r dyn ato. Ar ôl iddo ddod yn agos, dyma Iesu’n gofyn iddo: 41 “Beth rwyt ti eisiau imi ei wneud iti?” Dywedodd ef: “Arglwydd, gad imi gael fy ngolwg yn ôl.” 42 Felly dywedodd Iesu wrtho: “Fe gei di dy olwg yn ôl; mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” 43 Ac ar unwaith fe ddaeth ei olwg yn ôl, a dechreuodd y dyn ei ddilyn, gan ogoneddu Duw. Hefyd, pan welodd yr holl bobl hyn, dyma nhw’n moli Duw.

19 Yna aeth i mewn i Jericho ac roedd yn pasio drwy’r ddinas. 2 Nawr roedd ’na ddyn o’r enw Sacheus yno; roedd yn un o’r prif gasglwyr trethi, ac roedd yn gyfoethog. 3 Wel, roedd ef yn ceisio gweld pwy oedd yr Iesu hwn, ond doedd ddim yn gallu gweld oherwydd y dyrfa, gan ei fod yn ddyn byr. 4 Felly rhedodd ymlaen a dringodd goeden ffigys* er mwyn gweld Iesu, oherwydd ei fod ar fin pasio trwy’r ffordd yna. 5 Nawr pan gyrhaeddodd Iesu yno, edrychodd i fyny a dywedodd wrtho: “Sacheus, brysia a thyrd i lawr, oherwydd heddiw mae’n rhaid imi aros yn dy dŷ.” 6 Ar hynny dyma’n brysio i lawr ac yn ei groesawu’n llawen. 7 Pan welson nhw hyn, roedden nhw i gyd yn cwyno: “Mae wedi mynd i aros yn nhŷ dyn sy’n bechadur.” 8 Ond safodd Sacheus ar ei draed a dywedodd wrth yr Arglwydd: “Edrycha! Rydw i’n rhoi hanner fy eiddo i’r tlawd, Arglwydd, a beth bynnag rydw i wedi ei ddwyn drwy dwyllo, rydw i’n talu’n ôl bedair gwaith.” 9 Ar hynny dywedodd Iesu wrtho: “Heddiw mae achubiaeth wedi dod i’r tŷ hwn, oherwydd ei fod ef hefyd yn fab i Abraham. 10 Oherwydd daeth Mab y dyn i geisio ac i achub yr hyn a gafodd ei golli.”

11 Tra oedden nhw’n gwrando ar y pethau hyn, fe ddywedodd ddameg arall, oherwydd ei fod yn agos i Jerwsalem ac roedden nhw’n meddwl bod Teyrnas Dduw yn mynd i ymddangos ar unwaith. 12 Felly dywedodd ef: “Teithiodd dyn o dras uchel i wlad bell er mwyn cael ei wneud yn frenin a dychwelyd. 13 Galwodd ato ddeg o’i gaethweision, a rhoddodd ddeg mina* iddyn nhw a dywedodd wrthyn nhw, ‘Defnyddiwch y rhain i wneud busnes nes imi ddod yn ôl.’ 14 Ond roedd ei ddinasyddion yn ei gasáu ac anfonon nhw lysgenhadon ar ei ôl i ddweud, ‘Dydyn ni ddim eisiau i’r dyn hwn fod yn frenin arnon ni.’

15 “Pan ddaeth yn ôl, wedi iddo lwyddo i gael ei wneud yn frenin,* galwodd ato y caethweision a oedd wedi derbyn yr arian, er mwyn gwybod faint o arian roedden nhw wedi ei ennill drwy wneud busnes. 16 Felly daeth yr un cyntaf ymlaen a dweud, ‘Arglwydd, mae’r mina gwnest ti ei roi imi wedi ennill deg mina.’ 17 Dywedodd wrtho, ‘Da iawn, fy nghaethwas da! Oherwydd dy fod ti wedi dy brofi dy hun yn gyfiawn mewn mater bach iawn, fe gei di awdurdod dros ddeg dinas.’ 18 Nawr daeth yr ail un, gan ddweud, ‘Arglwydd, mae’r mina gwnest ti ei roi imi wedi ennill pum mina.’ 19 Dywedodd wrth hwn hefyd, ‘Fe gei dithau hefyd reoli dros bum dinas.’ 20 Ond daeth un arall, gan ddweud, ‘Arglwydd, dyma’r mina gwnest ti ei roi imi. Fe wnes i ei guddio mewn cadach. 21 Roeddwn i’n dy ofni di, oherwydd dy fod ti’n ddyn caled; rwyt ti eisiau gwneud elw o waith pobl eraill, ac rwyt ti’n medi’r hyn wnest ti ddim ei hau.’ 22 Dywedodd wrtho, ‘Ar sail dy eiriau dy hun rydw i’n dy farnu di, y caethwas drwg. Roeddet ti’n gwybod, onid oeddet ti, fy mod i’n ddyn caled, yn gwneud elw o waith pobl eraill ac yn medi’r hyn wnes i ddim ei hau? 23 Felly pam na wnest ti roi fy arian yn y banc? Yna, wrth imi ddod yn ôl, byddwn i wedi ei gasglu gyda llog.’

24 “Ar hynny dywedodd wrth y rhai a oedd yn sefyll yno, ‘Cymerwch y mina oddi wrtho a’i roi i’r un sydd â deg mina.’ 25 Ond dywedon nhw wrtho, ‘Arglwydd, mae ganddo ddeg mina!’— 26 ‘Rydw i’n dweud wrthoch chi, i bob un sydd ganddo, bydd mwy yn cael ei roi, ond yr un nad oes ganddo, bydd hyd yn oed yr hyn sydd ganddo yn cael ei gymryd oddi arno. 27 Ar ben hynny, dewch â fy ngelynion yma, y rhai nad oedd eisiau imi fod yn frenin arnyn nhw, a’u dienyddio nhw o fy mlaen i.’”

28 Ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, aeth yn ei flaen, ar ei ffordd i fyny i Jerwsalem. 29 A phan ddaeth ef yn agos at Bethffage a Bethania ar y mynydd sy’n cael ei alw Mynydd yr Olewydd, anfonodd ef ddau o’i ddisgyblion, 30 gan ddweud: “Ewch i mewn i’r pentref sydd o fewn golwg, ac ar ôl ichi fynd i mewn iddo, byddwch chi’n gweld ebol* wedi ei rwymo, un nad oes unrhyw ddyn wedi eistedd arno. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. 31 Ond os ydy rhywun yn gofyn ichi, ‘Pam rydych chi’n ei ollwng?’ dywedwch, ‘Yr Arglwydd sydd ei angen.’” 32 Felly dyma’r rhai a oedd wedi cael eu hanfon yn mynd i ffwrdd ac yn dod o hyd iddo yn union fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw. 33 Ond tra oedden nhw’n ei ollwng, dywedodd y rhai oedd biau’r ebol wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n gollwng yr ebol?” 34 Dywedon nhw: “Yr Arglwydd sydd ei angen.” 35 A dyma nhw’n ei arwain at Iesu, a gwnaethon nhw daflu eu cotiau ar yr ebol a rhoi Iesu i eistedd arno.

36 Tra oedd yn mynd yn ei flaen, roedden nhw’n gosod eu cotiau ar y ffordd. 37 Unwaith iddo agosáu at y ffordd sy’n mynd i lawr Mynydd yr Olewydd, dechreuodd holl dyrfa’r disgyblion lawenhau a chlodfori Duw â llais uchel oherwydd yr holl weithredoedd nerthol roedden nhw wedi eu gweld, 38 gan ddweud: “Bendigedig yw’r Brenin sy’n dod yn enw Jehofa! Heddwch a gogoniant yn y nefoedd!” 39 Ond, dywedodd rhai o’r Phariseaid yn y dyrfa wrtho: “Athro, cerydda dy ddisgyblion.” 40 Ond atebodd yntau: “Rydw i’n dweud wrthoch chi, petai’r rhain yn aros yn ddistaw, byddai’r cerrig yn gweiddi.”

41 A phan ddaeth ef yn agos i Jerwsalem, edrychodd ar y ddinas a dechreuodd wylo drosti, 42 gan ddweud: “Petaset ti, hyd yn oed ti, wedi deall ar y diwrnod hwn y pethau sy’n ymwneud â heddwch—ond nawr maen nhw wedi cael eu cuddio rhag dy lygaid. 43 Oherwydd bydd y dyddiau’n dod arnat ti pan fydd dy elynion yn dy amgylchynu â stanciau miniog ac yn gwasgu* arnat ti o bob ochr. 44 Byddan nhw’n dy luchio di a dy blant sydd ynot ti i’r llawr, a fyddan nhw ddim yn gadael carreg ar garreg ynot ti, oherwydd doeddet ti ddim yn adnabod yr amser y cest ti dy farnu.”

45 Yna aeth i mewn i’r deml a dechreuodd daflu allan y rhai oedd yn gwerthu, 46 gan ddweud wrthyn nhw, “Mae’n ysgrifenedig, ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw’n dŷ gweddi,’ ond rydych chi wedi ei wneud yn ogof lladron.”

47 Parhaodd Iesu i ddysgu pobl yn y deml bob dydd. Ond roedd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion ac arweinwyr y bobl yn ceisio ei ladd; 48 ond ni ddaethon nhw o hyd i unrhyw ffordd o wneud hyn, oherwydd bod yr holl bobl yn dal i lynu wrtho i wrando arno.

20 Ar un o’r dyddiau pan oedd ef yn dysgu’r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi’r newyddion da, daeth y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion gyda’r henuriaid 2 a dywedon nhw wrtho: “Dyweda wrthon ni, trwy ba awdurdod rwyt ti’n gwneud y pethau hyn? Neu pwy roddodd yr awdurdod hwn iti?” 3 Atebodd Iesu: “Fe wna innau hefyd ofyn cwestiwn i chi, a dywedwch chi wrtho i: 4 A oedd awdurdod Ioan i fedyddio yn dod o’r nef neu o ddynion?”* 5 Yna gwnaethon nhw resymu ymhlith ei gilydd, gan ddweud: “Os ydyn ni’n dweud, ‘O’r nef,’ bydd ef yn dweud, ‘Pam wnaethoch chi ddim ei gredu?’ 6 Ond os gwnawn ni ddweud, ‘O ddynion,’ bydd yr holl bobl yn ein llabyddio ni, oherwydd eu bod nhw’n hollol grediniol fod Ioan yn broffwyd.” 7 Felly atebon nhw drwy ddweud nad oedden nhw’n gwybod o ble cafodd Ioan ei awdurdod. 8 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dydw innau chwaith ddim yn mynd i ddweud wrthoch chi trwy ba awdurdod rydw i’n gwneud y pethau hyn.”

9 Yna dechreuodd ddweud y ddameg hon wrth y bobl: “Plannodd dyn winllan a’i gosod hi allan ar rent i ffermwyr, a theithiodd dramor am gryn dipyn o amser. 10 Pan oedd hi’n amser i gasglu’r ffrwythau, anfonodd ef gaethwas at y ffermwyr er mwyn iddyn nhw roi rhai o ffrwythau’r winllan iddo. Fodd bynnag, gwnaeth y ffermwyr ei anfon i ffwrdd heb ddim byd, ar ôl ei guro. 11 Ond eto anfonodd ef gaethwas arall. Gwnaethon nhw guro hwnnw hefyd a chodi cywilydd arno a’i anfon i ffwrdd heb ddim byd. 12 Unwaith eto, anfonodd drydydd caethwas; gwnaethon nhw anafu hwnnw hefyd a’i daflu allan. 13 Ar hynny, dywedodd perchennog y winllan, ‘Beth ddylwn i ei wneud? Fe wna i anfon fy mab annwyl. Byddan nhw’n debyg o barchu’r un yma.’ 14 Pan welodd y ffermwyr ef, gwnaethon nhw resymu â’i gilydd, gan ddweud, ‘Hwn yw’r etifedd. Gadewch inni ei ladd er mwyn inni gael ei etifeddiaeth.’ 15 Felly gwnaethon nhw ei daflu allan o’r winllan a’i ladd. Beth, felly, bydd perchennog y winllan yn ei wneud iddyn nhw? 16 Fe fydd yn dod ac yn lladd y ffermwyr hynny ac yn rhoi’r winllan i bobl eraill.”

Pan glywson nhw hyn, dywedon nhw: “Fyddai hynny byth yn digwydd!” 17 Ond edrychodd ym myw eu llygaid a dweud: “Beth, felly, mae’r ysgrythur hon yn ei olygu: ‘Y garreg a gafodd ei gwrthod gan yr adeiladwyr, hon sydd wedi dod yn brif garreg gornel’?* 18 Bydd pob un sy’n syrthio ar y garreg hon yn cael ei falu’n deilchion. A phwy bynnag mae’r garreg yn syrthio arno, bydd yn ei fathru ef.”

19 Yna ceisiodd yr ysgrifenyddion a’r prif offeiriaid gael gafael arno ar yr union awr honno, ond roedden nhw’n ofni’r bobl, oherwydd eu bod nhw’n sylweddoli bod ei ddameg yn sôn amdanyn nhw. 20 Ac ar ôl ei wylio’n ofalus, dyma nhw’n anfon dynion roedden nhw wedi eu cyflogi’n gyfrinachol i ffugio eu bod nhw’n gyfiawn er mwyn ei dwyllo i ddweud rhywbeth anghywir, fel y byddan nhw’n gallu ei drosglwyddo i’r llywodraeth ac i awdurdod y llywodraethwr. 21 A gwnaethon nhw ei gwestiynu, gan ddweud: “Athro, rydyn ni’n gwybod dy fod ti’n siarad ac yn dysgu yn gywir a dwyt ti ddim yn dangos ffafriaeth, ond rwyt ti’n dysgu ffordd Duw yn unol â’r hyn sy’n wir: 22 Ydy hi’n gyfreithlon* i dalu trethi i Gesar neu ddim?” 23 Ond roedd Iesu’n gweld eu bod nhw’n ceisio ei dwyllo a dywedodd wrthyn nhw: 24 “Dangoswch ddenariws imi. Llun ac arysgrif pwy sydd arno?” Dywedon nhw: “Cesar.” 25 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Ar bob cyfri, felly, talwch bethau Cesar yn ôl i Gesar ond pethau Duw i Dduw.” 26 Wel, doedden nhw ddim yn gallu ei dwyllo i ddweud rhywbeth anghywir o flaen y bobl, ond yn rhyfeddu at ei ateb, aethon nhw’n dawel.

27 Fodd bynnag, gwnaeth rhai o’r Sadwceaid, y rhai sy’n dweud nad oes atgyfodiad, ddod a gofyn iddo: 28 “Athro, ysgrifennodd Moses, ‘Os yw brawd dyn yn marw, ac yn gadael gwraig ar ôl, ond roedd ef heb blant, dylai ei frawd gymryd y wraig a magu plant ar gyfer ei frawd.’ 29 Nawr roedd ’na saith brawd. Gwnaeth yr un cyntaf briodi ond bu farw heb gael plant. 30 Felly dyma’r ail frawd 31 a’r trydydd brawd yn ei phriodi hi. Digwyddodd yr un peth i’r saith brawd; gwnaethon nhw farw heb gael plant. 32 Yn olaf bu farw’r ddynes* hefyd. 33 Felly, yn yr atgyfodiad, gwraig pwy fydd hi? Oherwydd roedd hi’n wraig i’r saith ohonyn nhw.”

34 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Mae plant y system hon* yn priodi, 35 ond dydy’r rhai sy’n deilwng o fyw yn y system sydd i ddod ac o gael eu hatgyfodi o’r meirw ddim yn priodi. 36 Mewn gwirionedd, dydyn nhw ddim yn gallu marw mwyach, oherwydd eu bod nhw fel yr angylion, ac maen nhw’n blant i Dduw drwy fod yn blant yr atgyfodiad. 37 Ond gwnaeth hyd yn oed Moses ddatgelu yn yr hanes am y berth ddrain fod y meirw yn cael eu codi, pan wnaeth Moses alw Jehofa ‘yn Dduw Abraham ac yn Dduw Isaac ac yn Dduw Jacob.’ 38 Nid Duw’r meirw ydy ef, ond y rhai byw, oherwydd eu bod nhw i gyd yn fyw iddo ef.”* 39 Atebodd rhai o’r ysgrifenyddion trwy ddweud: “Athro, mae beth ddywedaist ti yn dda.” 40 Oherwydd doedden nhw ddim yn ddigon hyderus bellach i ofyn hyd yn oed un cwestiwn iddo.

41 Yna gofynnodd Iesu iddyn nhw: “Pam mae pobl yn dweud bod y Crist yn fab i Dafydd? 42 Oherwydd mae Dafydd ei hun yn dweud yn llyfr y Salmau, ‘Dywedodd Jehofa wrth fy Arglwydd: “Eistedda ar fy llaw dde 43 nes imi osod dy elynion yn stôl i dy draed.”’ 44 Mae Dafydd yn ei alw’n Arglwydd; sut felly mae’r Crist yn fab iddo?”

45 Yna, tra oedd yr holl bobl yn gwrando, dywedodd wrth ei ddisgyblion: 46 “Gwyliwch rhag yr ysgrifenyddion sy’n hoffi cerdded o gwmpas yn gwisgo mentyll ac sy’n hoff iawn o’r cyfarchion yn y marchnadoedd a’r seddi blaen* yn y synagogau a’r llefydd mwyaf pwysig wrth gael swper, 47 ac sy’n cymryd mantais o’r gwragedd gweddwon ac yn cymryd eu heiddo ac yn dweud gweddïau hir er mwyn i bobl gael eu gweld nhw. Bydd y rhain yn cael eu barnu’n fwy llym.”

21 Nawr tra oedd yn edrych i fyny, gwelodd y cyfoethog yn rhoi eu rhoddion yn y blychau cyfraniadau.* 2 Yna fe welodd ef wraig weddw mewn angen yn rhoi dwy geiniog fach o ychydig werth* yn y blwch, 3 a dywedodd ef: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi fod y wraig weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb arall. 4 Oherwydd gwnaeth y rhain i gyd roi o’u cyfoeth, ond fe wnaeth hi roi, o’i thlodi,* bopeth roedd ganddi i fyw arno.”

5 Yn hwyrach ymlaen, pan oedd rhai yn siarad am y deml, a sut roedd hi wedi cael ei haddurno â cherrig hardd a rhoddion cysegredig, 6 dywedodd ef: “Y pethau rydych chi’n eu gweld nawr, bydd dyddiau’n dod pan na fydd carreg yn cael ei gadael ar garreg heb gael ei bwrw i lawr.” 7 Yna dechreuon nhw ei gwestiynu, gan ddweud: “Athro, pryd bydd y pethau yma’n digwydd, a pha arwydd fydd yn dangos pryd bydd y pethau yma’n digwydd?” 8 Dywedodd ef: “Gwyliwch nad ydych chi’n cael eich camarwain, oherwydd bydd llawer yn dod ar sail fy enw i, yn dweud, ‘Fi ydy’r Crist,’ ac ‘Mae’r diwedd yn agos.’ Peidiwch â’u dilyn nhw. 9 Ar ben hynny, pan fyddwch chi’n clywed am ryfeloedd a chynnwrf,* peidiwch â dychryn. Oherwydd mae’n rhaid i’r pethau yma ddigwydd yn gyntaf, ond fydd y diwedd ddim yn digwydd yn syth.”

10 Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. 11 Bydd ’na ddaeargrynfeydd mawr, a phrinder bwyd a heintiau mewn un lle ar ôl y llall; a bydd pobl yn gweld pethau dychrynllyd yn digwydd ac arwyddion mawr o’r nef.

12 “Ond cyn i’r holl bethau yma ddigwydd, bydd pobl yn gafael ynoch chi ac yn eich erlid chi, ac yn eich trosglwyddo chi i’r synagogau a’r carcharau. Byddwch chi’n cael eich llusgo o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i. 13 O ganlyniad, byddwch chi’n gallu rhoi tystiolaeth. 14 Felly, byddwch yn benderfynol o beidio ag ymarfer o flaen llaw sut byddwch chi’n ymateb, 15 oherwydd bydda i’n rhoi geiriau a doethineb ichi na fydd eich holl wrthwynebwyr yn gallu eu gwrthsefyll na’u gwrth-ddweud. 16 Hefyd, byddwch chi’n cael eich bradychu* hyd yn oed gan rieni a brodyr a pherthnasau a ffrindiau, a byddan nhw’n rhoi rhai ohonoch chi i farwolaeth, 17 a byddwch chi’n cael eich casáu gan bawb oherwydd fy enw i. 18 Ond ni fydd hyd yn oed un blewyn o’ch pennau yn cael ei golli. 19 Trwy eich dyfalbarhad byddwch chi’n achub eich bywydau.

20 “Fodd bynnag, pan fyddwch chi’n gweld byddinoedd yn amgylchynu Jerwsalem, byddwch chi’n gwybod bod ei dinistr wedi dod yn agos. 21 Yna mae’n rhaid i’r rhai yn Jwdea ddechrau ffoi i’r mynyddoedd, a’r rhai sydd ynddi hi ei gadael hi, ac mae’n rhaid i’r rhai sydd yng nghefn gwlad beidio â mynd i mewn iddi hi, 22 oherwydd dyddiau dial* ydy’r rhain er mwyn i’r holl bethau a gafodd eu hysgrifennu gael eu cyflawni. 23 Gwae’r merched* beichiog a’r rhai sy’n magu plant yn y dyddiau hynny! Oherwydd bydd ’na ddioddefaint mawr yn y tir a dicter yn erbyn y bobl yma. 24 A byddan nhw’n cael eu lladd â’r cleddyf ac yn cael eu cymryd yn gaethion a’u harwain i mewn i’r holl genhedloedd; a bydd Jerwsalem yn cael ei sathru gan y cenhedloedd* nes i amseroedd penodedig y cenhedloedd* gael eu cyflawni.

25 “Hefyd, bydd ’na arwyddion yn yr haul a’r lleuad a’r sêr, a bydd cenhedloedd y ddaear yn cynhyrfu’n fawr iawn heb wybod y ffordd allan oherwydd bod y môr yn corddi ac yn rhuo. 26 Bydd pobl yn gwegian oherwydd ofn ac oherwydd eu bod nhw’n disgwyl y pethau a fydd yn dod ar y ddaear, oherwydd bydd grymoedd y nefoedd yn cael eu hysgwyd. 27 Ac yna byddan nhw’n gweld Mab y dyn yn dod mewn cwmwl gyda grym a gogoniant mawr. 28 Ond wrth i’r pethau yma ddechrau digwydd, safwch yn syth a chodwch eich pennau, oherwydd mae eich rhyddhad yn agosáu.”

29 Gyda hynny dywedodd ddameg wrthyn nhw: “Sylwch ar y goeden ffigys a’r holl goed eraill. 30 Pan maen nhw’n deilio, rydych chi’n gweld hyn drostoch chi’ch hunain ac yn gwybod bod yr haf yn agos. 31 Felly chithau hefyd, pan welwch chi’r pethau yma’n digwydd, fe fyddwch chi’n gwybod bod Teyrnas Dduw yn agos. 32 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi na fydd y genhedlaeth hon ar unrhyw gyfri yn mynd heibio nes i bopeth ddigwydd. 33 Bydd nef a daear yn mynd heibio, ond ni fydd fy ngeiriau i ar unrhyw gyfri yn mynd heibio.

34 “Ond gwyliwch eich hunain fel na fydd eich calonnau byth o dan faich oherwydd gorfwyta a goryfed a phryderon bywyd, a’r diwrnod hwnnw’n dod arnoch chi yn sydyn ac yn annisgwyl 35 fel magl. Oherwydd fe fydd yn dod ar bawb sy’n byw ar wyneb yr holl ddaear. 36 Arhoswch yn effro, felly, gan erfyn ar Dduw drwy’r amser er mwyn ichi lwyddo i osgoi’r holl bethau hyn sy’n gorfod digwydd ac i sefyll o flaen Mab y dyn.”

37 Felly yn ystod y dydd byddai Iesu’n dysgu yn y deml, ond fe fyddai’n treulio’r nos ar y mynydd sy’n cael ei alw Mynydd yr Olewydd. 38 A byddai’r holl bobl yn dod ato yn gynnar yn y bore i wrando arno yn y deml.

22 Nawr roedd Gŵyl y Bara Croyw, sy’n cael ei alw’r Pasg, yn agosáu. 2 Ac roedd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion yn chwilio am ffordd effeithiol o gael gwared arno, oherwydd roedden nhw’n ofni’r bobl. 3 Yna aeth Satan i mewn i Jwdas, yr un a oedd yn cael ei alw’n Iscariot, a oedd yn cael ei gyfri ymhlith y Deuddeg, 4 ac aeth ef i ffwrdd a siarad â’r prif offeiriaid a chapteiniaid y deml ynglŷn â sut i’w fradychu ef iddyn nhw. 5 Roedden nhw wrth eu boddau a chytunon nhw i roi arian iddo. 6 Felly cytunodd yntau a dechreuodd edrych am gyfle da i’w fradychu ef iddyn nhw pan nad oedd y dyrfa o gwmpas.

7 Roedd Gŵyl y Bara Croyw* wedi cyrraedd, pan oedd aberth y Pasg yn gorfod cael ei offrymu; 8 felly anfonodd Iesu Pedr ac Ioan, gan ddweud: “Ewch a gwnewch yn siŵr fod y Pasg yn barod inni ei fwyta.” 9 Dywedon nhw wrtho: “Lle rwyt ti eisiau inni ei baratoi?” 10 Dywedodd wrthyn nhw: “Edrychwch! Pan fyddwch chi’n mynd i mewn i’r ddinas, bydd dyn sy’n cario llestr dŵr yn cyfarfod â chi. Dilynwch ef i mewn i’r tŷ y mae ef yn mynd i mewn iddo. 11 A dywedwch wrth berchennog y tŷ, ‘Mae’r Athro yn dweud wrthot ti: “Lle mae’r ystafell lle galla i fwyta’r Pasg gyda fy nisgyblion?”’ 12 A bydd y dyn hwnnw yn dangos ichi uwch ystafell fawr sydd wedi ei pharatoi. Gwnewch bopeth yn barod yno.” 13 Felly i ffwrdd â nhw a daethon nhw o hyd i’r lle yn union fel roedd ef wedi dweud wrthyn nhw, a dyma nhw’n paratoi’r Pasg.

14 Felly pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd gyda’r apostolion. 15 Ac meddai wrthyn nhw: “Rydw i wedi dymuno’n fawr iawn gael bwyta’r Pasg hwn gyda chi cyn imi ddioddef; 16 oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi na fydda i’n ei fwyta eto hyd nes i bopeth gael ei gyflawni yn Nheyrnas Dduw.” 17 Ac yn derbyn cwpan, rhoddodd ddiolch i Dduw a dweud: “Cymerwch hwn a’i basio o un i’r llall ymhlith eich gilydd, 18 oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi, o hyn ymlaen ni fydda i’n yfed gwin eto hyd nes y bydd Teyrnas Dduw yn dod.”

19 Hefyd, cymerodd dorth, rhoi diolch i Dduw, ei thorri, a’i rhoi iddyn nhw, gan ddweud: “Mae’r bara hwn yn cynrychioli fy nghorff,* sy’n mynd i gael ei roi er eich mwyn chi. Parhewch i wneud hyn er cof amdana i.” 20 Hefyd, yn yr un modd, cymerodd y cwpan ar ôl iddyn nhw gael y swper, gan ddweud: “Mae’r cwpan hwn yn cynrychioli’r cyfamod newydd ar sail fy ngwaed i, sy’n mynd i gael ei dywallt er eich mwyn chi.

21 “Ond edrychwch! mae fy mradychwr gyda mi wrth y bwrdd. 22 Oherwydd, yn wir, bydd popeth sydd wedi cael ei ysgrifennu am Fab y dyn yn digwydd iddo; er hynny, gwae’r dyn hwnnw sy’n ei fradychu!” 23 Felly dechreuon nhw drafod ymhlith ei gilydd pa un ohonyn nhw oedd ar fin gwneud hyn.

24 Fodd bynnag, cododd dadl danbaid yn eu plith ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y mwyaf pwysig. 25 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi drostyn nhw, ac mae’r rhai sydd ag awdurdod drostyn nhw yn cael eu galw’n Gymwynaswyr.* 26 Ond dydych chi, fodd bynnag, ddim i fod fel ’na. Gad i’r un mwyaf pwysig yn eich plith fod fel yr ieuengaf, a’r un sy’n arwain fod fel yr un sy’n gweini. 27 Oherwydd pa un sy’n fwyaf pwysig, yr un sy’n bwyta* wrth y bwrdd neu’r un sy’n gweini?* Onid yr un sy’n bwyta* wrth y bwrdd? Ond rydw i yn eich plith chi fel un sy’n gweini.*

28 “Fodd bynnag, chi ydy’r rhai sydd wedi glynu wrtho i drwy gydol fy nhreialon; 29 ac rydw i’n gwneud cyfamod â chi i reoli mewn teyrnas, yn union fel y gwnaeth fy Nhad gyfamod â mi i reoli mewn teyrnas, 30 fel y gallwch chi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i yn fy Nheyrnas, ac eistedd ar orseddau i farnu 12 llwyth Israel.

31 “Simon, Simon, edrycha! mae Satan yn mynnu eich ysgwyd chi i gyd fel us sy’n cael ei wahanu oddi wrth y gwenith. 32 Ond rydw i wedi erfyn drostot ti er mwyn i dy ffydd di beidio â gwanhau; a tithau, unwaith iti ddod yn ôl, cryfha dy frodyr.” 33 Yna dywedodd wrtho: “Arglwydd, rydw i’n barod i fynd gyda ti i’r carchar ac i farwolaeth.” 34 Ond dywedodd yntau: “Rydw i’n dweud wrthot ti, Pedr, ni fydd ceiliog yn canu heddiw hyd nes y byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod ti’n fy adnabod i.”

35 Dywedodd wrthyn nhw hefyd: “Pan wnes i eich anfon chi allan heb fag arian na bag bwyd na sandalau, oeddech chi’n brin o unrhyw beth?” “Nac oedden ni,” medden nhw. 36 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Ond nawr os oes gynnoch chi fag arian, ewch ag ef gyda chi, a bag bwyd yn yr un modd, ac os nad oes gynnoch chi gleddyf, gwerthwch eich cotiau a phrynwch un. 37 Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi fod yr hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu yn gorfod cael ei gyflawni yno i, hynny yw, ‘Roedd ef yn cael ei gyfri gyda’r rhai digyfraith.’ Oherwydd mae hyn yn cael ei gyflawni yno i.” 38 Yna dywedon nhw: “Arglwydd, edrycha! mae gynnon ni ddau gleddyf.” Dywedodd yntau wrthyn nhw: “Mae hynny’n ddigon.”

39 Wrth iddo adael, yn ôl ei arfer fe aeth i Fynydd yr Olewydd, ac fe wnaeth y disgyblion hefyd ei ddilyn. 40 Pan gyrhaeddodd y lle, dywedodd wrthyn nhw: “Parhewch i weddïo fel na fyddwch chi’n ildio i demtasiwn.” 41 Ac aeth i ffwrdd ryw dafliad carreg oddi wrthyn nhw, a mynd ar ei liniau a dechrau gweddïo, 42 gan ddweud: “Dad, os wyt ti eisiau, cymera’r cwpan hwn oddi wrtho i. Er hynny, gad i dy ewyllys di ddigwydd, nid fy ewyllys i.” 43 Yna ymddangosodd angel o’r nef iddo a’i gryfhau. 44 Ond gan ei fod mewn cymaint o boen meddwl, roedd yn parhau i weddïo yn fwy taer; ac roedd ei chwys fel diferion o waed yn disgyn i’r ddaear. 45 Pan gododd ar ei draed ar ôl gweddïo a mynd at y disgyblion, fe welodd eu bod nhw’n cysgu, wedi ymlâdd o achos eu galar. 46 Meddai wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n cysgu? Codwch a daliwch ati i weddïo, fel na fyddwch chi’n ildio i demtasiwn.”

47 Tra oedd yn dal i siarad, edrycha! daeth tyrfa ato, ac roedd y dyn a oedd yn cael ei alw’n Jwdas, un o’r Deuddeg, yn eu harwain nhw, a dyma’n mynd at Iesu ac yn ei gusanu. 48 Ond dywedodd Iesu wrtho: “Jwdas, wyt ti’n bradychu Mab y dyn â chusan?” 49 Pan welodd y rhai o’i gwmpas yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd, dywedon nhw: “Arglwydd, a ddylen ni daro â’r cleddyf?” 50 Gwnaeth un ohonyn nhw hyd yn oed daro caethwas yr archoffeiriad, gan dorri ei glust dde i ffwrdd. 51 Ond atebodd Iesu: “Dyna ddigon.” A dyma’n cyffwrdd â’r glust ac yn iacháu’r dyn. 52 Yna meddai Iesu wrth y prif offeiriaid a chapteiniaid y deml a henuriaid a oedd wedi dod yno i’w nôl: “A ddaethoch chi allan â chleddyfau a phastynau fel yn erbyn lleidr? 53 Tra oeddwn i gyda chi yn y deml bob dydd, wnaethoch chi ddim ceisio fy arestio i. Ond hon ydy eich awr chi ac awdurdod y tywyllwch.”

54 Yna fe wnaethon nhw ei arestio a mynd ag ef i ffwrdd, a daethon nhw ag ef i mewn i dŷ’r archoffeiriad; ond roedd Pedr yn dilyn o bell. 55 Pan wnaethon nhw gynnau tân yng nghanol y cwrt ac eistedd gyda’i gilydd, roedd Pedr yn eistedd yn eu plith. 56 Ond fe wnaeth morwyn, o’i weld yn eistedd yng ngoleuni’r tân, edrych yn ofalus arno a dweud: “Roedd y dyn hwn hefyd gydag ef.” 57 Ond fe wadodd y peth, gan ddweud: “Dydw i ddim yn ei adnabod ef, ddynes.”* 58 Ychydig wedyn, fe welodd rhywun arall ef a dweud: “Rwyt tithau hefyd yn un ohonyn nhw.” Ond dywedodd Pedr: “Ddyn, dydw i ddim.” 59 Ac ar ôl tua awr, dechreuodd dyn arall fynnu: “Yn bendant, roedd y dyn hwn hefyd gydag ef, mae’n dod o Galilea!” 60 Ond dywedodd Pedr: “Ddyn, dydw i ddim yn gwybod beth rwyt ti’n sôn amdano.” Ac yn fwyaf sydyn, tra oedd yn dal i siarad, dyma geiliog yn canu. 61 Gyda hynny, trodd yr Arglwydd ac edrych yn syth ar Pedr, a chofiodd Pedr eiriau’r Arglwydd pan oedd ef wedi dweud wrtho: “Cyn i geiliog ganu heddiw, byddi di’n fy ngwadu i dair gwaith.” 62 Ac fe aeth allan a chrio’n chwerw.

63 Nawr dechreuodd y milwyr a oedd yn gwarchod Iesu ei wawdio a’i guro; 64 ac ar ôl rhoi gorchudd ar ei wyneb, roedden nhw’n gofyn o hyd: “Proffwyda! Pwy wnaeth dy daro di?” 65 Ac fe ddywedon nhw lawer o bethau cableddus eraill yn ei erbyn.

66 A phan ddaeth hi’n ddydd, daeth cyngor henuriaid y bobl, y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion, at ei gilydd, a dyma nhw’n ei arwain ef i mewn i neuadd y Sanhedrin a dweud: 67 “Os mai ti ydy’r Crist, dyweda wrthon ni.” Ond dywedodd yntau wrthyn nhw: “Hyd yn oed petaswn i’n dweud wrthoch chi, fyddech chi ddim yn credu’r peth o gwbl. 68 Ar ben hynny, petaswn i yn eich cwestiynu chi, fyddech chi ddim yn ateb. 69 Fodd bynnag, o hyn ymlaen bydd Mab y dyn yn eistedd ar law dde rymus Duw.” 70 Ar hynny dyma nhw i gyd yn dweud: “Ai ti felly ydy Mab Duw?” Dywedodd yntau wrthyn nhw: “Chi’ch hunain sy’n dweud fy mod i.” 71 Dywedon nhw: “Pam mae angen tystiolaeth bellach arnon ni? Oherwydd rydyn ni’n hunain wedi clywed y peth o’i geg ei hun.”

23 Felly cododd y dyrfa gyfan, a’i arwain at Peilat. 2 Yna dechreuon nhw ei gyhuddo, gan ddweud: “Rydyn ni wedi dal y dyn hwn yn camarwain ein cenedl, yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn dweud mai ef ei hun ydy’r Crist, y brenin.” 3 Nawr gofynnodd Peilat iddo: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd drwy ddweud: “Ti sy’n dweud hynny.” 4 Yna dywedodd Peilat wrth y prif offeiriaid a’r tyrfaoedd: “Dydw i ddim yn meddwl bod y dyn hwn yn droseddwr.” 5 Ond dyma nhw’n mynnu, drwy ddweud: “Mae’n cynhyrfu’r bobl drwy ddysgu trwy gydol Jwdea. Dechreuodd yng Ngalilea ac mae hyd yn oed wedi cyrraedd fan hyn.” 6 Ar ôl clywed hynny, gofynnodd Peilat a oedd y dyn yn dod o Galilea. 7 Ar ôl cael gwybod ei fod o dan awdurdod Herod, fe anfonodd ef ymlaen at Herod, a oedd hefyd yn Jerwsalem yn y dyddiau hynny.

8 Pan welodd Herod Iesu, dyma’n llawenhau’n fawr iawn. Am gryn dipyn o amser roedd wedi bod eisiau gweld Iesu oherwydd ei fod wedi clywed llawer amdano, ac roedd yn gobeithio gweld rhyw arwydd ganddo. 9 Felly dechreuodd ef ofyn llawer o gwestiynau iddo, ond ni roddodd Iesu unrhyw ateb. 10 Ond parhaodd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion i sefyll a’i gyhuddo’n chwyrn. 11 Yna gwnaeth Herod ynghyd â’i filwyr ei drin yn ddirmygus, a gwnaeth hwyl am ei ben drwy roi gwisg grand amdano ac yna ei anfon yn ôl at Peilat. 12 Daeth Herod a Peilat yn ffrindiau i’w gilydd ar yr union ddiwrnod hwnnw, oherwydd cyn hynny roedden nhw wedi bod yn elynion.

13 Yna galwodd Peilat y prif offeiriaid, y rheolwyr, a’r bobl at ei gilydd 14 a dywedodd wrthyn nhw: “Daethoch chi â’r dyn yma ata i fel un a oedd yn annog y bobl i wrthryfela. Nawr edrychwch! rydw i wedi ei gwestiynu o’ch blaen chi a dydw i ddim wedi cael hyd i unrhyw sail dros y cyhuddiadau rydych chi wedi eu gwneud yn ei erbyn. 15 Yn wir, dydy Herod ddim chwaith, oherwydd mae wedi ei anfon yn ôl aton ni, ac edrychwch! dydy ef ddim wedi gwneud unrhyw beth sy’n haeddu marwolaeth. 16 Felly fe wna i ei gosbi a’i ryddhau.” 17 —— 18 Ond dyma’r holl dyrfa yn gweiddi: “Lladda’r dyn yma, a rhyddha Barabbas inni!” 19 (Roedd y dyn hwn wedi cael ei luchio i’r carchar am y gwrthryfel a oedd wedi digwydd yn y ddinas ac am lofruddio.) 20 Unwaith eto dyma Peilat yn eu hannerch nhw, oherwydd roedd ef eisiau rhyddhau Iesu. 21 Yna dechreuon nhw weiddi, gan ddweud: “Lladda ef ar y stanc! Lladda ef ar y stanc!”* 22 Y trydydd tro dywedodd ef wrthyn nhw: “Pam? Pa beth drwg wnaeth y dyn yma? Dydw i ddim wedi gweld unrhyw beth ynddo sy’n haeddu marwolaeth; felly fe wna i ei gosbi a’i ryddhau.” 23 Ar hynny roedden nhw’n benderfynol, yn mynnu â lleisiau uchel ei fod yn cael ei ddienyddio,* nes i’w lleisiau ennill y dydd. 24 Felly dyma Peilat yn penderfynu rhoi iddyn nhw beth roedden nhw eisiau. 25 Fe ryddhaodd y dyn roedden nhw’n gofyn amdano, a oedd wedi cael ei luchio i’r carchar am annog gwrthryfel ac am lofruddio, ond fe roddodd ef Iesu iddyn nhw i wneud beth roedden nhw’n ei ddymuno.

26 Nawr tra oedden nhw’n ei arwain i ffwrdd, dyma nhw’n gafael yn Simon o Cyrene, a oedd yn dod o gefn gwlad, a gosodon nhw’r stanc dienyddio* arno i’w gario y tu ôl i Iesu. 27 Roedd nifer mawr o bobl yn ei ddilyn, gan gynnwys merched* a oedd yn eu curo eu hunain mewn galar ac yn wylo drosto. 28 Trodd Iesu at y merched* a dweud: “Ferched Jerwsalem, stopiwch wylo drosto i. Wylwch yn hytrach drostoch chi’ch hunain a thros eich plant; 29 oherwydd edrychwch! mae dyddiau’n dod pan fydd pobl yn dweud, ‘Hapus ydy’r merched* diffrwyth, y groth sydd heb roi genedigaeth a’r bronnau sydd heb roi llaeth!’ 30 Yna byddan nhw’n dechrau dweud wrth y mynyddoedd, ‘Syrthiwch arnon ni!’ ac wrth y bryniau, ‘Cuddiwch ni!’ 31 Os ydyn nhw’n gwneud y pethau yma pan fydd y goeden yn llawn dail, beth fydd yn digwydd pan fydd hi wedi crino?”

32 Roedd dau ddyn arall, troseddwyr, hefyd yn cael eu harwain i ffwrdd i gael eu dienyddio gydag ef. 33 A phan ddaethon nhw i’r lle o’r enw Penglog, dyma nhw’n ei hoelio ar y stanc wrth ymyl y troseddwyr, un ar ei ochr dde ac un ar ei ochr chwith. 34 Ond roedd Iesu’n dweud: “Dad, maddau iddyn nhw, oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” Ar ben hynny, roedden nhw’n bwrw coelbren er mwyn rhannu ei ddillad. 35 Ac roedd y bobl yn sefyll ac yn gwylio. Ond roedd y rheolwyr yn gwneud hwyl am ei ben gan ddweud: “Fe achubodd bobl eraill; gadewch iddo ei achub ei hun os mai ef ydy’r Crist, yr Un mae Duw wedi ei ddewis.” 36 Roedd hyd yn oed y milwyr yn ei wawdio, yn dod ato ac yn cynnig gwin sur iddo 37 ac yn dweud wrtho: “Os mai ti ydy Brenin yr Iddewon, achuba dy hun.” 38 Hefyd roedd ’na arwydd uwch ei ben: “Hwn ydy Brenin yr Iddewon.”

39 Yna dyma un o’r troseddwyr a oedd yn hongian yno yn dechrau siarad yn gas wrtho, gan ddweud: “Ai ti ydy’r Crist? Achuba dy hun a ninnau hefyd!” 40 Atebodd y llall drwy ei geryddu, gan ddweud: “Onid wyt ti’n ofni Duw o gwbl, nawr dy fod ti wedi derbyn yr un farnedigaeth? 41 Ac mae hynny’n gyfiawn, oherwydd rydyn ni’n derbyn yr hyn rydyn ni’n ei haeddu am y pethau a wnaethon ni; ond dydy’r dyn yma ddim wedi gwneud unrhyw beth o’i le.” 42 Yna dywedodd ef: “Iesu, cofia fi pan fyddi di’n mynd i mewn i dy Deyrnas.” 43 A dywedodd yntau wrtho: “Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti heddiw, byddi di gyda mi ym Mharadwys.”

44 Wel, erbyn hyn roedd hi tua’r chweched awr,* ac eto daeth tywyllwch dros y wlad i gyd hyd y nawfed awr,* 45 oherwydd doedd yr haul ddim yn disgleirio; yna cafodd llen y cysegr ei rhwygo ar hyd ei chanol. 46 A gwaeddodd Iesu â llais uchel, gan ddweud: “Dad, rydw i’n rhoi fy ysbryd yng ngofal dy ddwylo di.” Ar ôl iddo ddweud hyn, bu farw.* 47 Oherwydd iddo weld beth ddigwyddodd, dechreuodd y swyddog o’r fyddin ogoneddu Duw, gan ddweud: “Yn wir, roedd y dyn yma’n gyfiawn.” 48 Ac ar ôl i’r holl dyrfaoedd a oedd wedi dod at ei gilydd i wylio ei ddienyddio weld y pethau a ddigwyddodd, aethon nhw yn ôl adref, yn curo eu bronnau. 49 Ac roedd pawb a oedd yn ei adnabod ef yn sefyll yn bell i ffwrdd. Hefyd, roedd ’na ferched* yno a oedd wedi dod gydag ef o Galilea ac fe welson nhw’r pethau hyn.

50 Ac edrycha! roedd ’na ddyn o’r enw Joseff, aelod o’r Cyngor, a oedd yn ddyn da a chyfiawn. 51 (Doedd y dyn hwn ddim wedi pleidleisio o blaid eu cynllwyn a’u gweithredoedd.) Roedd yn dod o Arimathea, un o ddinasoedd y Jwdeaid, ac roedd yn aros am Deyrnas Dduw. 52 Aeth y dyn hwn i mewn gerbron Peilat a gofynnodd am gorff Iesu. 53 A dyma ef yn ei gymryd i lawr a’i lapio mewn lliain main, a’i osod mewn beddrod* oedd wedi ei naddu yn y graig, lle nad oedd unrhyw ddyn arall wedi cael ei osod. 54 Nawr dydd y Paratoad oedd hi, ac roedd y Saboth ar fin dechrau. 55 Ond dyma’r merched* a oedd wedi dod gydag ef o Galilea yn dilyn ac yn edrych ar y beddrod* a gweld sut roedd ei gorff wedi cael ei osod, 56 ac aethon nhw yn ôl i baratoi sbeisys ac olew persawrus. Ond wrth gwrs gwnaethon nhw orffwys ar y Saboth yn ôl y gorchymyn.

24 Ond ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos, daethon nhw at y beddrod* yn gynnar iawn, gan ddod â’r sbeisys roedden nhw wedi eu paratoi. 2 Ond fe welson nhw fod y garreg wedi cael ei rholio i ffwrdd oddi wrth y beddrod,* 3 a phan aethon nhw i mewn, doedd corff yr Arglwydd Iesu ddim yno. 4 Tra oedden nhw mewn penbleth ynglŷn â hyn, edrycha! roedd dau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hochr. 5 Daeth y merched* yn ofnus ac roedden nhw’n edrych ar y llawr, felly dywedodd y dynion wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n edrych am yr un sy’n fyw ymhlith y meirw? 6 Dydy ef ddim yma, ond mae wedi cael ei atgyfodi. Cofiwch beth ddywedodd ef wrthoch chi tra oedd ef yn dal yng Ngalilea, 7 gan ddweud bod rhaid i Fab y dyn gael ei roi yn nwylo dynion pechadurus a chael ei ddienyddio ar y stanc ac, ar y trydydd dydd, gael ei atgyfodi.” 8 Yna dyma nhw’n cofio ei eiriau, 9 a daethon nhw yn ôl o’r beddrod* ac adrodd yr holl bethau hyn wrth yr un ar ddeg ac wrth y gweddill i gyd. 10 Mair Magdalen, Joanna, a Mair mam Iago oedden nhw. Hefyd, roedd gweddill y merched* a oedd gyda nhw yn sôn am y pethau hyn wrth yr apostolion. 11 Fodd bynnag, roedd y pethau hyn yn swnio fel nonsens iddyn nhw, ac roedden nhw’n gwrthod credu’r merched.*

12 Ond cododd Pedr a rhedodd at y beddrod,* ac yn plygu i edrych i mewn iddo, ni welodd ddim byd ond y cadachau o liain. Felly aeth ef i ffwrdd yn ceisio deall beth oedd wedi digwydd.

13 Ond edrycha! ar yr un diwrnod, roedd dau ohonyn nhw’n teithio i bentref o’r enw Emaus, tua saith milltir* o Jerwsalem, 14 ac roedden nhw’n sgwrsio â’i gilydd am yr holl bethau oedd wedi digwydd.

15 Nawr tra oedden nhw’n sgwrsio ac yn trafod y pethau hyn, daeth Iesu ei hun atyn nhw a dechreuodd gerdded gyda nhw, 16 ond doedden nhw ddim yn gallu ei adnabod ef. 17 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Beth yw’r pethau hyn rydych chi’n dadlau amdanyn nhw ymhlith eich gilydd wrth ichi gerdded?” A dyma nhw’n sefyll yn stond, yn edrych yn drist. 18 Atebodd yr un o’r enw Cleopas drwy ddweud: “A wyt ti’n ddyn dieithr yn byw ar dy ben dy hun yn Jerwsalem heb wybod* am y pethau sydd wedi digwydd yma yn ystod y dyddiau hyn?” 19 Gofynnodd iddyn nhw: “Pa bethau?” Dywedon nhw wrtho: “Y pethau a ddigwyddodd i Iesu o Nasareth, a oedd yn broffwyd nerthol mewn gair a gweithred o flaen Duw a’r holl bobl; 20 a sut gwnaeth ein prif offeiriaid a’n rheolwyr ei roi yn nwylo’r rhai a wnaeth ei ddedfrydu i farwolaeth, a gwnaethon nhw ei hoelio ar y stanc. 21 Ond roedden ni’n gobeithio mai’r dyn hwn oedd yr un oedd yn mynd i ryddhau Israel. Ac yn ogystal â’r holl bethau hyn, heddiw ydy’r trydydd dydd ers i’r pethau hyn ddigwydd. 22 Roedden ni hefyd wedi ein syfrdanu ar ôl clywed yr adroddiad gan rai merched* sy’n ddisgyblion, oherwydd eu bod nhw wedi mynd yn gynnar i’r beddrod* 23 a phan na ddaethon nhw o hyd i’w gorff, dyma nhw’n dod ac yn dweud eu bod nhw wedi gweld angylion yn ymddangos, a dywedodd yr angylion ei fod yn fyw. 24 Yna aeth rhai o’r bobl oedd gyda ni i ffwrdd i’r beddrod,* a’i gael yn union fel dywedodd y merched,* ond ni wnaethon nhw ei weld ef.”

25 Felly dywedodd ef wrthyn nhw: “Chi rai disynnwyr, rydych chi mor araf yn eich calonnau i gredu’r holl bethau mae’r proffwydi wedi eu dweud! 26 Onid oedd yn rhaid i’r Crist ddioddef y pethau hyn a mynd i mewn i’w ogoniant?” 27 Ac yn cychwyn gyda Moses a’r holl Broffwydi, esboniodd iddyn nhw bopeth roedd yr Ysgrythurau yn ei ddweud amdano.

28 O’r diwedd, dyma nhw’n agosáu at y pentref roedden nhw’n teithio iddo, a dywedodd yntau ei fod yn mynd yn ei flaen. 29 Ond dyma nhw’n ei annog i aros, gan ddweud: “Arhosa gyda ni, oherwydd mae hi’n nosi ac mae’r dydd bron â gorffen.” Gyda hynny, aeth i mewn i aros gyda nhw. 30 A thra oedd yn bwyta gyda nhw, cymerodd y bara, ei fendithio, ei dorri, a’i roi iddyn nhw. 31 Ar hynny, cafodd eu llygaid eu hagor yn llwyr ac roedden nhw’n ei adnabod; ond diflannodd ef oddi wrthyn nhw. 32 A dywedon nhw wrth ei gilydd: “Onid oedd ein calonnau ar dân ynon ni tra oedd ef yn siarad â ni ar y ffordd, tra oedd ef yn esbonio’n eglur yr Ysgrythurau inni?”* 33 Ac fe godon nhw yr union awr honno a mynd yn ôl i Jerwsalem, a daethon nhw o hyd i’r un ar ddeg a’r rhai oedd wedi ymgynnull gyda nhw, 34 a nhwthau’n dweud: “Mae’n ffaith fod yr Arglwydd wedi cael ei atgyfodi, ac wedi ymddangos i Simon!” 35 Yna gwnaethon nhw sôn am beth ddigwyddodd ar y ffordd a sut gwnaethon nhw ei adnabod ar ôl iddo dorri’r bara.

36 Tra oedden nhw’n siarad am y pethau hyn, dyma Iesu ei hun yn sefyll yn eu plith a dweud wrthyn nhw: “Heddwch ichi.” 37 Ond oherwydd eu bod nhw wedi dychryn am eu bywydau ac yn ofnus, roedden nhw’n meddwl eu bod nhw’n gweld ysbryd. 38 Felly dywedodd ef wrthyn nhw: “Pam rydych chi wedi cynhyrfu, a pham mae amheuon wedi codi yn eich calonnau? 39 Edrychwch ar fy nwylo a fy nhraed, fi sydd yma; cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd does gan ysbryd ddim cnawd ac esgyrn fel sydd gen i.” 40 Ac wrth iddo ddweud hyn, dangosodd iddyn nhw ei ddwylo a’i draed. 41 Ond tra oedden nhw’n dal i wrthod credu oherwydd eu syndod a’u llawenydd pur, dywedodd ef wrthyn nhw: “A oes gynnoch chi rywbeth i’w fwyta yno?” 42 Felly dyma nhw’n rhoi darn o bysgodyn wedi ei rostio iddo, 43 ac fe wnaeth ei gymryd a’i fwyta o flaen eu llygaid.

44 Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Dyma beth ddywedais i wrthoch chi tra oeddwn i’n dal gyda chi, fod rhaid i’r holl bethau a gafodd eu hysgrifennu amdana i yng Nghyfraith Moses ac yn y Proffwydi a’r Salmau gael eu cyflawni.” 45 Yna agorodd ef eu meddyliau’n llawn er mwyn iddyn nhw ddeall ystyr yr Ysgrythurau, 46 a dywedodd ef wrthyn nhw, “Dyma beth sydd wedi cael ei ysgrifennu: Byddai’r Crist yn dioddef ac yn codi o blith y meirw ar y trydydd dydd, 47 ac ar sail ei enw, byddai edifeirwch am faddeuant pechodau yn cael ei bregethu yn y cenhedloedd i gyd—gan ddechrau yn Jerwsalem. 48 Rydych chi am fod yn dystion i’r pethau hyn. 49 Ac edrychwch! rydw i’n anfon atoch chi beth mae fy Nhad wedi ei addo. Ond chithau, arhoswch yn y ddinas nes ichi dderbyn nerth o’r nef.”

50 Yna dyma’n eu harwain nhw allan mor bell â Bethania, a chododd ei ddwylo a’u bendithio nhw. 51 Tra oedd ef yn eu bendithio nhw, gwnaeth ef eu gadael nhw ac fe gafodd ei gymryd i fyny i’r nef. 52 Ac fe wnaethon nhw ymgrymu* o’i flaen a mynd yn ôl i Jerwsalem gyda llawenydd mawr. 53 Ac roedden nhw yn y deml bob dydd, yn moli Duw.

Gweler Geirfa.

Llyth., “Roedd ei wraig o ferched Aaron.”

Gweler Geirfa, “Jehofa.”

Neu “gweledigaeth oruwchnaturiol.”

Neu “wedi ei dyweddïo â dyn.”

Neu “y fenyw.”

Neu “unrhyw ddatganiad.”

Neu “unrhyw fenyw.”

Neu “fenyw.”

Gweler Geirfa.

Llyth., “had.”

Neu “corn achubiaeth.” Gweler Geirfa, “Corn.”

Hynny yw, cafn neu stâl ar gyfer bwydo anifeiliaid.

Neu “pobl y mae ef yn eu cymeradwyo.”

Neu “bydd dy enaid dy hun yn cael ei drywanu.”

Neu “y fenyw.”

Hynny yw, Herod Antipas. Gweler Geirfa.

Llyth., “y tetrarch.”

Neu “yr holl fodau dynol.”

Neu “Epil gwiberod.”

Neu “sydd â chrys ychwanegol.”

Neu “Peidiwch â chasglu.”

Neu “ar yr hyn sy’n cael ei ddarparu ichi.”

Neu “lasyn.”

Neu “rydw i wedi dy gymeradwyo.”

Neu “bylchfur, parapet; pwynt uchaf.”

Neu “menywod.”

Hynny yw, Môr Galilea.

Neu “pobl fyw.”

Neu “y bara gosod.”

Neu “wedi ei pharlysu.”

Neu “wedi ei pharlysu.”

Llyth., “yn gwrthod eich enw fel rhywbeth drwg.”

Hynny yw, heb log.

Neu “arllwys.”

Neu “disgybl.”

Neu “yr elor.”

Neu “dillad o’r ansawdd gorau; dillad cain?”

Llyth., “o flaen dy wyneb.”

Neu “o fenywod.”

Neu “cyfarwyddyd.”

Neu “yn cael ei gyfiawnhau.”

Neu “gan ei holl blant.”

Neu “dyma fenyw.”

Neu “ac arllwys.”

Neu “o fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “arllwys.”

Neu “y fenyw.”

Neu “arllwys.”

Neu “er eu bod nhw’n fawr.”

Neu “y fenyw.”

Neu “menywod.”

Neu “o fenywod.”

Neu “y beddrodau coffa.”

Neu “fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “fe ddaeth ei hysbryd yn ôl; ei grym bywyd.”

Neu “dilledyn ychwanegol.”

Hynny yw, Herod Antipas. Gweler Geirfa.

Llyth., “y tetrarch.”

Gweler Geirfa.

Neu “Mae gan gadnoaid.”

Neu “peidiwch â chofleidio neb wrth ei gyfarch.”

Neu “Hades,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.

Neu “seirff.”

Gweler Geirfa.

Neu “menyw.”

Neu “y rhan orau.”

Neu “ei ystyried yn gysegredig; ei drin yn sanctaidd.”

Neu “sarff.”

Neu “Beelsebub.” Enw a roddwyd ar Satan.

Neu “dyma fenyw.”

Neu “yn gweld yn glir.” Llyth., “yn syml.”

Neu “yn llawn goleuni.”

Llyth., “yn ddrwg.”

Hynny yw, ei lanhau ei hun yn seremonïol.

Neu “rhoi rhoddion sy’n deillio o drugaredd.” Gweler Geirfa.

Neu “gorau.”

Neu “y beddau dienw hynny.”

Neu “beddrodau coffa.”

Neu “arllwys.”

Neu “a’r deml.”

Gweler Geirfa.

Llyth., “am ddwy asarion.”

Neu “anwybyddu.”

Neu efallai, “o flaen synagogau.”

Neu “cufydd.”

Neu “rhowch roddion sy’n deillio o drugaredd.” Gweler Geirfa.

O tua 9:00 p.m. tan hanner nos.

O hanner nos tan tua 3:00 a.m.

Neu “rheolwr tŷ; stiward.”

Neu “un doeth.”

Neu “gwneud yn ôl ei ewyllys.”

Llyth., “y lepton olaf.”

Neu “roedd ’na fenyw.”

Neu “ysbryd gwendid.”

Neu “Fenyw.”

Neu “y fenyw.”

Neu “menyw.”

Llyth., “mesur sea.” Roedd sea yn gyfartal â 7.33 L.

Neu “oedema,” sef gormodedd o hylif yn casglu yn y corff.

Neu “bwyta bara.”

Neu “iau.”

Neu “caru i raddau llai.”

Gweler Geirfa.

Neu “ildio.”

Neu “gan fenyw.”

Neu “ei chyfeillesau.”

Neu “gwastraffus; anfoesol.”

Neu “codau carob; plisg carob.”

Neu “yn saff.”

Llyth., “wnaeth ddifa.”

Neu “stiward.”

Neu “mesur bath.” Roedd un bath yn gyfartal â 22 L (4.84 gal).

Neu “can mesur corus.” Roedd un corus yn gyfartal â 220 L.

Neu “weithredu’n graff; gweithredu’n gall.”

Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.

Neu “menyw.”

Neu “Hades,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.

Neu “menywod.”

Neu “dwy fenyw.”

Neu “y math hwn o ffydd.” Llyth., “y ffydd.”

Neu “yn raslon.”

Neu “yr oes sydd i ddod.” Gweler Geirfa.

Neu “sycamorwydden-ffigys; morwydden-ffigys.”

Roedd mina Groegaidd yn pwyso 340 g (10.9 oz t) ac roedd yn cael ei ystyried yn werth 100 drachma.

Neu “i gael y deyrnas.”

Hynny yw, ebol asen.

Neu “yn gwarchae.”

Neu “o darddiad dynol.”

Llyth., “yn ben y gornel.”

Neu “iawn.”

Neu “y fenyw.”

Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.

Neu “o’i safbwynt ef.”

Neu “gorau.”

Neu “yng nghistiau’r drysorfa.”

Llyth., “dau lepton.”

Neu “o’i phrinder.”

Neu “gwrthryfeloedd.”

Neu “trosglwyddo.”

Neu “gweinyddu cyfiawnder.”

Neu “y menywod.”

Neu “Cenedl-ddynion.”

Neu “Cenedl-ddynion.”

Llyth., “dydd y Bara Croyw.”

Llyth., “Hwn yw fy nghorff.”

Teitl o barch ar gyfer pobl sy’n helpu eraill.

Neu “cymryd ei le.”

Neu “gwasanaethu.”

Neu “cymryd ei le.”

Neu “gwasanaethu.”

Neu “fenyw.”

Neu “Dienyddia ef ar y stanc! Dienyddia ef ar y stanc!”

Neu “ei ddienyddio ar y stanc.”

Gweler Geirfa.

Neu “menywod.”

Neu “menywod.”

Neu “menywod.”

Hynny yw, tua hanner dydd.

Hynny yw, tua 3:00 p.m.

Neu “tynnodd ef ei anadl olaf.”

Neu “roedd ’na fenywod.”

Neu “beddrod coffa.”

Neu “menywod.”

Neu “y beddrod coffa.”

Neu “y beddrod coffa.”

Neu “y beddrod coffa.”

Neu “menywod.”

Neu “beddrod coffa.”

Neu “menywod.”

Neu “menywod.”

Neu “beddrod coffa.”

Tua 11 km. Llyth., “60 stadiwm.” Roedd stadiwm yn gyfartal â 185 m (606.95 tr).

Neu efallai, “Ai ti ydy’r unig ymwelydd i Jerwsalem sydd ddim yn gwybod?”

Neu “menywod.”

Neu “beddrod coffa.”

Neu “beddrod coffa.”

Neu “menywod.”

Neu “agor yr Ysgrythurau’n llawn inni?”

Neu “fe wnaethon nhw blygu.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu