LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g17 Rhif 1 t. 9
  • “Mae Enw Da yn Well na Chyfoeth Mawr”

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • “Mae Enw Da yn Well na Chyfoeth Mawr”
  • Deffrwch!—2017
  • Erthyglau Tebyg
  • “Sancteiddier Dy Enw”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Dangosa Barch Tuag at Eraill
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Arhosa ym Mhabell Jehofa am Byth!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Deffrwch!—2017
g17 Rhif 1 t. 9
Mecanig gyda enw

Mae enw da yn ennill ymddiriedaeth a pharch

“Mae Enw Da yn Well na Chyfoeth Mawr”

MAE enw da yn rhywbeth mor werthfawr fel ei fod yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith mewn rhai gwledydd. Gall hynny gynnwys diogelu rhag enllib (datganiad difenwol sydd wedi ei fynegi mewn ysgrifen neu mewn darllediad) ac athrod (datganiad difenwol sydd wedi ei fynegi ar lafar). Mae hyn yn ein hatgoffa o’r hen ddywediad: “Mae enw da yn well na chyfoeth mawr, a charedigrwydd yn well nag arian ac aur.” (Diarhebion 22:1) Sut gallwn ni feithrin enw da ac ennill parch pobl eraill? Ceir awgrymiadau ardderchog yn y Beibl.

Er enghraifft, ystyriwch yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud yn Salm 15. Wrth ateb y cwestiwn, “ARGLWYDD, pwy sy’n cael aros yn dy babell di?” ysgrifennodd y salmydd: “Y sawl sy’n . . . gwneud beth sy’n iawn, ac yn dweud y gwir bob amser. Dydy e ddim yn defnyddio’i dafod i wneud drwg, i wneud niwed i neb, na gwneud hwyl ar ben pobl eraill. Mae’n ffieiddio’r rhai mae Duw’n eu gwrthod. . . . Mae’n cadw ei air hyd yn oed pan mae hynny’n gostus iddo. . . . Dydy e ddim yn . . . derbyn breib.” (Salm 15:1-5) Oni fyddech chi’n parchu rhywun sy’n dilyn yr egwyddorion deniadol hynny?

Rhinwedd arall sy’n ein helpu i ennill parch ydy gostyngeiddrwydd. Yn ôl Diarhebion 15:33, mae “gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.” Ystyriwch hyn: Mae pobl ostyngedig yn gweld lle mae angen iddyn nhw wella ac yn gwneud ymdrech i wneud hynny. Hefyd, maen nhw’n barod i ymddiheuro petaen nhw’n pechu rhywun. (Iago 3:2) Ar y llaw arall, mae pobl falch yn digio’n hawdd. “Mae balchder yn dod o flaen dinistr, a brolio cyn baglu,” meddai Diarhebion 16:18.

Ond, beth os ydy rhywun yn baeddu eich enw da? A ddylech chi ymateb yn gyflym, a chithau’n dal yn flin? Gofynnwch, ‘Os ydw i’n ceisio amddiffyn fy enw, a fyddaf i’n denu mwy o sylw at y celwydd?’ Ar adegau, bydd mynd i gyfraith yn briodol, ond mae’r Beibl yn rhoi’r cyngor hwn: “Paid bod ar ormod o frys i fynd i’r llys.” Yn hytrach, “trafod y peth yn breifat gyda’r person hwnnw.” (Diarhebion 25:8, 9)a Hefyd, gall dilyn y cyngor hwn eich amddiffyn rhag gorfod talu ffioedd cyfreithiol mawr.

Mae’r Beibl yn llawer mwy na llyfr am grefydd. Mae’n gyfeirlyfr dibynadwy ar gyfer bywyd. Mae pawb sy’n rhoi doethineb Gair Duw ar waith yn meithrin rhinweddau sy’n ennill parch ac sy’n creu enw da.

a Ceir mwy o egwyddorion ynglŷn â datrys anghytundebau yn Mathew 5:23, 24; 18:15-17.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu