LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g20 Rhif 1 t. 4
  • Beth Sy’n Achosi Straen?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Sy’n Achosi Straen?
  • Deffrwch!—2020
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Ydy Straen?
    Deffrwch!—2020
  • Ydych Chi o dan Straen?
    Deffrwch!—2020
  • Cynnwys
    Deffrwch!—2020
  • Sut i Ddelio â Straen
    Deffrwch!—2020
Deffrwch!—2020
g20 Rhif 1 t. 4

GALLWCH LEDDFU STRAEN

Beth Sy’n Achosi Straen?

Dywed y Mayo Clinic: “Mae’r mwyafrif o oedolion yn dweud eu bod nhw o dan fwy a mwy o straen. Mae bywyd heddiw yn llawn newidiadau ac ansicrwydd.” Ystyriwch ychydig o’r pethau felly sy’n achosi straen:

  • ysgariad

  • colli anwylyn mewn marwolaeth

  • salwch difrifol

  • damweiniau difrifol

  • trosedd

  • bywyd hectig

  • trychinebau naturiol neu rai a achosir gan ddyn

  • pwysau yn yr ysgol neu yn y gwaith

  • pryderon am waith ac ennill digon o arian i fyw

COLLI SWYDD

“Gall colli swydd fod yn ddinistriol, a bod heb waith arwain at salwch, problemau priodasol, pryder, iselder, a hyd yn oed at deimladau o hunanladdiad. Mae colli swydd yn effeithio ar bob rhan o fywyd,” meddai’r American Psychological Association.

STRAEN YN YSTOD Y BLYNYDDOEDD CYNNAR

Dydy hi ddim yn anghyffredin i blant ddioddef o straen. Caiff rhai eu bwlio yn yr ysgol, eu hesgeuluso yn y cartref, neu eu cam-drin yn gorfforol, yn emosiynol, neu’n rhywiol. Mae llawer yn pryderu am waith ysgol. Mae teuluoedd eraill wedi eu rhwygo’n ddarnau oherwydd ysgariad. Gall plant sydd o dan straen ddioddef o iselder, hunllefau, ac anawsterau dysgu, neu’n tueddu i fod yn dawedog. Mae eraill yn methu rheoli eu teimladau. Mae yna angen brys i helpu unrhyw blentyn sydd o dan straen.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu