RHAN 1
O Adeg y Creu hyd at y Dilyw
O ble daeth y nefoedd a’r ddaear? Sut dechreuodd yr haul, y lleuad, y sêr, a phopeth sydd ar y ddaear? Mae’r Beibl yn rhoi’r ateb. Mae’n dweud eu bod nhw i gyd wedi eu creu gan Dduw. Felly, mae’r llyfr hwn yn dechrau gyda hanes y creu.
Yn gyntaf, creodd Duw yr angylion yn y nef. Ysbryd yw Duw ac mae’r angylion yn debyg iddo ef. Ond fe greodd y ddaear ar gyfer pobl fel tithau a minnau. Gwnaeth Duw ddyn a dynes, Adda ac Efa, a rhoddodd ardd brydferth iddyn nhw fyw ynddi. Ond roedden nhw’n anufudd i Dduw ac fe gollon nhw’r hawl i fyw am byth.
O adeg creu Adda hyd at y Dilyw, roedd 1,656 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd llawer o rai drwg yn byw. Yn y nef, roedd Satan a’i angylion drwg. Ac ar y ddaear, roedd Cain a llawer o bobl ddrwg. Roedd rhai o’r bobl hynny yn gryf ofnadwy. Ond roedd pobl dda yn byw ar y ddaear hefyd—Abel, Enoch, a Noa. Yn RHAN 1 byddwn ni’n darllen am y bobl a’r digwyddiadau hynny i gyd.