LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 18
  • Jacob yn Mynd i Haran

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Jacob yn Mynd i Haran
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Teulu Mawr Jacob
    Storïau o’r Beibl
  • Bydd Jehofa yn Dy Helpu Di i Ddelio â Phroblemau Annisgwyl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Storïau o’r Beibl
my stori 18
Jacob yn siarad â dynion Haran am Laban a’i ferch Rachel

STORI 18

Jacob yn Mynd i Haran

A WYT ti’n gwybod pwy yw’r dynion hyn sy’n siarad â Jacob? Ar ôl teithio am ddyddiau, stopiodd Jacob wrth ymyl ffynnon lle roedd y dynion yn gofalu am eu defaid. ‘O le rydych chi’n dod?’ gofynnodd Jacob.

‘O Haran,’ medden nhw.

‘Ydych chi’n adnabod dyn o’r enw Laban?’ holodd Jacob.

‘Ydyn,’ atebon nhw. ‘Dacw ei ferch yn dod â’r defaid.’ Wyt ti’n gallu gweld Rachel yn dod?

Rachel yn bugeilio defaid ei thad

Pan gyrhaeddodd Rachel gyda phraidd Laban, symudodd Jacob y garreg oddi ar geg y ffynnon fel y gallai’r defaid gael dŵr. Yna, cusanodd Jacob Rachel a dweud wrthi ei fod yn gefnder iddi. Rhedodd hithau adref, yn gyffro i gyd, a dweud yr hanes wrth Laban ei thad.

Roedd Laban yn fodlon iawn i Jacob aros gydag ef. Pan ofynnodd Jacob am ganiatâd i briodi Rachel, roedd Laban yn hapus. Ond mynnodd fod Jacob yn gweithio iddo am saith mlynedd cyn cael priodi Rachel. Roedd Jacob yn fodlon gwneud hyn oherwydd ei fod yn caru Rachel yn fawr. Ond pan ddaeth hi’n amser i’r ddau briodi, wyt ti’n gwybod beth ddigwyddodd?

Rhoddodd Laban ei ferch hynaf Lea i Jacob yn lle Rachel. Ar ôl i Jacob gytuno i weithio i Laban am saith mlynedd yn rhagor, rhoddodd Laban Rachel yn wraig iddo. Yn y dyddiau hynny, roedd Duw yn caniatáu i ddyn gael mwy nag un wraig. Ond heddiw, fel mae’r Beibl yn dangos, dylai gŵr gael un wraig yn unig.

Genesis 29:1-30.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu