LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 32
  • Y Deg Pla

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Deg Pla
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Gerbron Pharo
    Storïau o’r Beibl
  • Braslun Exodus
    Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • Croesi’r Môr Coch
    Storïau o’r Beibl
Storïau o’r Beibl
my stori 32
Afon Neil yn troi’n waed, y pla cyntaf

STORI 32

Y Deg Pla

EDRYCHA ar y lluniau. Mae pob llun yn dangos un o’r plâu a ddaeth ar yr Aifft. Yn y llun cyntaf, fe weli di Aaron yn taro afon Neil â’i ffon. Ar unwaith, fe drodd yr afon yn waed. Bu farw’r pysgod a dechreuodd yr afon ddrewi.

Pharo yn ceisio gyrru’r llyffantod oddi ar ei wely yn ystod yr ail bla

Nesaf, achosodd Jehofa i filoedd ar filoedd o lyffantod neidio allan o’r afon. Roedden nhw ym mhob man—yn y poptai, yn y llestri, yn y gwelyau, ym mhob twll a chornel. Pan fu farw’r llyffantod, cafodd eu casglu’n bentyrrau mawr, nes bod yr holl wlad yn drewi’n ofnadwy.

Yna, trawodd Aaron y pridd â’i ffon, a throdd y llwch yn wybed bychain oedd yn brathu pawb. Y trydydd pla oedd hwn.

Dynes yn cael ei brathu gan wybed yn ystod y trydydd pla

Roedd gweddill y plâu’n effeithio ar yr Eifftiaid yn unig. Y pedwerydd pla oedd pryfed mawr oedd yn heidio drwy dai’r Eifftiaid. Yr anifeiliaid a ddioddefodd o ganlyniad i’r pumed pla a bu farw llawer o wartheg, defaid, a geifr yr Eifftiaid.

Nesaf, cymerodd Moses ac Aaron ddyrneidiau o ludw a’i daflu i’r awyr. Achosodd hynny gornwydydd poenus ar y bobl ac ar yr anifeiliaid. Y chweched pla oedd hwn.

Ar ôl hynny, cododd Moses ei law tua’r nefoedd, ac anfonodd Jehofa daranau a chenllysg. Ni fu erioed storm debyg iddi yn holl hanes yr Aifft.

Yr Eifftiaid yn ffoi rhag pryfed yn ystod y pedwerydd pla
Anifeiliaid yr Eifftiaid yn marw yn ystod y pumed pla

Haid anferth o locustiaid oedd yr wythfed pla. Ni welwyd mo’i debyg o’r cyfnod hwnnw hyd heddiw. Fe fwyton nhw bob dim nad oedd wedi ei ddifetha gan y cenllysg.

Tywyllwch oedd y nawfed pla. Am dri diwrnod, bu tywyllwch dudew dros y wlad i gyd, ond roedd goleuni lle roedd yr Israeliaid yn byw.

Yn olaf, dywedodd Duw wrth ei bobl am ladd oen neu fyn gafr a thaenu peth o’r gwaed ar byst y drysau. Yna, aeth angel Duw drwy’r Aifft. Pan welai’r angel y gwaed, ni fyddai’n lladd neb yn y tŷ hwnnw. Ond ym mhob tŷ nad oedd gwaed ar byst y drysau, fe fyddai angel Duw yn lladd y mab cyntaf-anedig a chyntaf-anedig yr anifeiliaid hefyd. Y degfed pla oedd hwnnw.

Ar ôl y pla olaf, dywedodd Pharo wrth yr Israeliaid am fynd ymaith a gadael y wlad. Roedd pobl Dduw yn barod, a’r noson honno fe gychwynnon nhw ar eu ffordd allan o’r Aifft.

Exodus penodau 7 i 12.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu