LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 65
  • Rhannu’r Deyrnas

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Rhannu’r Deyrnas
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • Byddai Wedi Gallu Cael Ffafr Duw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Braslun 1 Brenhinoedd
    Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Storïau o’r Beibl
my stori 65
Mae’r proffwyd Aheia yn rhwygo’i fantell yn ddarnau tra mae ef yn siarad i Jeroboam

STORI 65

Rhannu’r Deyrnas

A WYT ti’n gwybod pam mae’r dyn yn y llun yn rhwygo’i fantell yn ddarnau? Dywedodd Jehofa wrtho am wneud hynny. Proffwyd Duw yw’r dyn, a’i enw yw Aheia. Wyt ti’n gwybod beth yw proffwyd? Mae proffwyd yn dweud beth mae Duw yn mynd i’w wneud.

Yn y llun fe weli di Aheia yn siarad â Jeroboam. Roedd Solomon wedi penodi Jeroboam yn arolygwr ar ei waith adeiladu. Pan gwrddodd Aheia â Jeroboam ar y ffordd, fe wnaeth rywbeth rhyfedd iawn. Cymerodd ei fantell newydd a’i rhwygo’n ddeuddeg darn. Dywedodd wrth Jeroboam: ‘Cymera di ddeg o’r darnau.’ Wyt ti’n gwybod pam rhoddodd Aheia ddeg o’r darnau i Jeroboam?

Esboniodd Aheia fod Jehofa am gymryd y deyrnas oddi ar Solomon a rhoi deg o’r llwythau i Jeroboam. Felly, byddai Rehoboam, fab Solomon, yn frenin ar ddau lwyth yn unig.

Pan glywodd Solomon am neges Aheia, fe wylltiodd a cheisiodd ladd Jeroboam. Ond fe wnaeth Jeroboam ddianc a ffoi i’r Aifft. Ymhen amser, bu farw Solomon. Bu’n frenin am 40 o flynyddoedd ac fe ddaeth ei fab Rehoboam i’r orsedd. Yn yr Aifft, clywodd Jeroboam fod Solomon wedi marw ac aeth yn ôl i Israel.

Nid oedd Rehoboam yn frenin da. Roedd yn fwy cas na Solomon yn y ffordd roedd yn trin y bobl. Aeth Jeroboam a nifer o ddynion pwysig eraill i weld y brenin a gofyn iddo fod yn fwy caredig. Ond ni wrandawodd Rehoboam. Yn wir, fe aeth yn fwy cas nag erioed. Felly, dewisodd deg o lwythau Israel gael Jeroboam yn frenin arnyn nhw. Dim ond llwythau Benjamin a Jwda oedd yn ffyddlon i’r Brenin Rehoboam.

Nid oedd Jeroboam eisiau i’r bobl fynd yn ôl i Jerwsalem i addoli yn nheml Jehofa. Felly, fe wnaeth ddau lo aur a dweud wrth bobl y deg llwyth am eu haddoli nhw. Yn fuan iawn roedd y bobl yn dechrau gwneud pethau drwg a chreulon.

Cafodd brenin teyrnas y ddau lwyth helyntion hefyd. Lai na phum mlynedd ar ôl i Rehoboam ddod i’r orsedd, ymosododd brenin yr Aifft ar Jerwsalem. Fe gipiodd lawer o’r trysorau yn nheml Jehofa. Felly, dim ond am amser byr roedd y deml yn aros yn ei chyflwr gwreiddiol.

1 Brenhinoedd 11:26-43; 12:1-33; 14:21-31.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu