Cân 20
Bendithia’n Cyfarfod
Fersiwn Printiedig
1. Gwrando’n gweddi, Iôr Jehofa,
Tyrfa deg o’th flaen nawr sy’.
O’n calonnau d’wedwn, ‘Diolch
Am ein cyfarfodydd ni.’
2. Boed addoliad pur dy weision
Yn dderbyniol ger dy fron;
Rho in ‘dafod un yn dysgu.’
Cariad wna ein trem yn llon.
3. Dy glodfori wnawn yn unfryd;
Rho in hedd hir ei barhad.
Addurn boed i’th Benarglwyddiaeth
Ebyrth moliant ein mawrhad.
(Gweler hefyd Salm 22:22; 34:3; Esei. 50:4.)