LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • fg gwers 15 cwes. 1-4
  • Pam Dylech Chi Ddal Ati i Ddysgu am Jehofah?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Dylech Chi Ddal Ati i Ddysgu am Jehofah?
  • Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut Gallwch Chi Nesáu at Dduw?
    Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • “Cadw’n Agos at Dduw Sydd Orau” Inni!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Cadwch yn Agos at Jehofa
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Beth Fydd yn Eich Helpu Chi i Ddal Ati i Astudio’r Beibl?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Gweld Mwy
Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
fg gwers 15 cwes. 1-4

GWERS 15

Pam Dylech Chi Ddal Ati i Ddysgu am Jehofah?

1. Sut bydd parhau i astudio’r Beibl yn dod â bendithion ichi?

Dwy ddynes yn astudio’r Beibl yn ystod egwyl o’u gwaith

Mae’n siŵr fod bwrw golwg yn fras ar ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl wedi cryfhau eich cariad tuag at Jehofah. Mae angen meithrin y cariad hwnnw. (1 Pedr 2:2) Mae eich bywyd tragwyddol yn dibynnu ar eich ymdrechion i nesáu at Dduw drwy astudio ei Air.​—Darllenwch Ioan 17:3; Jwdas 21.

Wrth i’ch gwybodaeth am Dduw gynyddu, bydd eich ffydd yn cryfhau. Bydd eich ffydd yn eich helpu chi i blesio Duw. (Hebreaid 11:1, 6) Byddwch chi’n cael eich ysgogi i edifarhau ac i newid eich ffordd o fyw er gwell.​—Darllenwch Actau 3:19.

2. Sut gall eich gwybodaeth am Dduw helpu pobl eraill?

Dynes yn gweddïo ar Dduw

Mae modd ichi gael perthynas arbennig â Jehofah

Wrth reswm, byddwch chi’n dymuno sôn wrth bobl eraill am yr hyn rydych chi wedi ei ddysgu. Mae pawb yn hoffi rhannu newyddion da. Wrth ichi barhau i astudio, byddwch chi’n dysgu defnyddio’r Beibl er mwyn esbonio eich ffydd yn Jehofah ac yn y newyddion da.​—Darllenwch Rhufeiniaid 10:13-15.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dechrau sôn am y newyddion da drwy siarad â’u ffrindiau â’u perthnasau. Byddwch yn garedig ac yn ystyriol. Yn hytrach na dweud wrth eraill fod eu daliadau’n anghywir, soniwch wrthyn nhw am addewidion Duw. Cofiwch hefyd fod eich caredigrwydd yn medru gwneud mwy o argraff arnyn nhw na’ch geiriau.​—Darllenwch 2 Timotheus 2:24, 25.

3. Pa fath o berthynas y gallwch chi ei chael â Duw?

Trwy astudio Gair Duw, byddwch chi’n tyfu’n ysbrydol. Fe all hynny arwain at berthynas arbennig iawn â Jehofah. Fe allwch chi ddod yn aelod o’i deulu ef.​—Darllenwch 2 Corinthiaid 6:18.

4. Sut gallwch chi barhau i dyfu’n ysbrydol?

Gallwch chi dyfu’n ysbrydol drwy barhau i astudio Gair Duw. (Hebreaid 5:13, 14) Gofynnwch i un o Dystion Jehofah astudio’r Beibl gyda chi, gan ddefnyddio’r llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? Mwyaf yn y byd rydych chi’n dysgu drwy ddarllen gair Duw, mwyaf yn y byd y byddwch chi’n llwyddo yn eich bywyd.​—Darllenwch Salm 1:1-3; 73:27, 28.

Tystion Jehofa yn cynnig astudio’r Beibl

Mae’r newyddion da yn dod oddi wrth Jehofah, y Duw hapus. Fe allwch chi nesáu at Dduw drwy nesáu at ei bobl. (Hebreaid 10:24, 25) Drwy ddal ati i blesio Jehofah, rydych chi’n ymestyn tuag at y gwir fywyd​—bywyd tragwyddol. Yn wir, nesáu at Dduw yw’r peth gorau y gallwch chi ei wneud.​—Darllenwch 1 Timotheus 1:11; 6:19.

Am fwy o wybodaeth, gweler pennod 18 yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu