6 A Yw’n Helpu?
A YW gweddïo’n gwneud unrhyw wahaniaeth? Mae’r Beibl yn dangos bod gweddïau gweision ffyddlon Duw wedi bod o les mawr iddyn nhw. (Luc 22:40; Iago 5:13) Yn wir, mae gweddïo’n gallu gwneud byd o les i ni. Mae’n ein tynnu ni’n nes at Dduw, yn ein helpu ni’n emosiynol, a hyd yn oed yn gwella ein hiechyd. Ym mha ffordd?
Wel, os ydyn ni’n derbyn anrheg, ydy teimlo’n ddiolchgar yn ddigon? Neu ydy hi’n bwysig inni fynegi ein teimladau? Mae rhoi ein teimladau mewn geiriau yn eu diffinio a’u cryfhau. Ydy’r un peth yn wir o ran siarad â Duw? Yn bendant! Ystyriwch rai enghreifftiau.
Gweddïau sy’n diolch i Dduw. Mae diolch i’n Tad am y pethau da sy’n digwydd i ni yn ein helpu ni i gyfri ein bendithion. O ganlyniad, byddwn ni’n teimlo’n fwy diolchgar, yn fwy positif, ac yn hapusach.—Philipiaid 4:6.
Enghraifft: Roedd Iesu yn diolch i’w Dad am wrando ar ei weddïau a’u hateb.—Ioan 11:41.
Gweddïau am faddeuant. Mae gofyn i Dduw am faddeuant yn cryfhau ein synnwyr o dda a drwg, ac yn ein helpu i edifarhau, ac i ddeall pa mor bwysig yw ufuddhau i Dduw. Mae hefyd yn lleihau’r baich sy’n dod o deimlo’n euog.
Enghraifft: Roedd Dafydd yn dangos ei fod yn edifar yn ei weddïau.—Salm 51.
Gweddïau am arweiniad a doethineb. Mae gofyn i Jehofa am arweiniad a doethineb yn ein helpu ni i fod yn ostyngedig. Mae’n ein hatgoffa ni bod angen help Jehofa arnon ni a bod angen inni ymddiried yn ein Tad nefol.—Diarhebion 3:5, 6.
Enghraifft: Roedd Solomon yn gofyn yn ostyngedig am arweiniad a doethineb i reoli Israel.—1 Brenhinoedd 3:5-12.
Gweddïau yn ystod cyfnodau anodd. Pan nad ydyn ni’n gwybod pa ffordd i droi, gallwn dywallt ein calonnau mewn gweddi, ac ymddiried yn Jehofa i’n cysuro a’n cefnogi.—Salm 62:8.
Enghraifft: Gweddïodd y Brenin Asa pan ddaeth byddin enfawr yn ei erbyn.—2 Cronicl 14:11.
Gweddïau dros bobl mewn angen. Mae gweddïo dros eraill yn ein helpu ni i beidio â bod yn hunanol, ac i fod yn fwy trugarog.
Enghraifft: Roedd Iesu yn gweddïo dros ei ddilynwyr.—Ioan 17:9-17.
Gweddïau sy’n moli Duw. Pan fyddwn ni’n moli Jehofa am ei weithredoedd mawr a’i rinweddau rhyfeddol, mae ein parch tuag ato yn tyfu. Mae gweddïau o’r fath hefyd yn ein helpu ni i glosio at ein Tad.
Enghraifft: Roedd Dafydd yn moli Duw am ei greadigaeth.—Salm 8.
Bendith arall sy’n dod o weddïo yw’r “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi.” (Philipiaid 4:7) Yn sicr, mae tawelwch meddwl y dyddiau hyn yn fendith sy’n gallu gwneud gwahaniaeth i’n hiechyd. (Diarhebion 14:30) Ond, a allwn ni gael yr heddwch perffaith hwn drwy ein hymdrechion ein hunain? Neu a oes angen rhywbeth arall?
Mae gweddi yn dod â llawer o fendithion—yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol