Cynnwys
WYTHNOS 29 MAI, 2017–4 MEHEFIN, 2017
3 “Gwna Beth Rwyt Ti Wedi Addo’ i Wneud”
Faint o lwon rwyt ti wedi eu gwneud i Jehofa? Un neu ddau, neu fwy? Wyt ti’n teimlo dy fod ti’n byw yn unol â’r llwon hyn orau ag y medri di? Beth am dy ymgysegriad a dy lw priodas? Mae’r erthygl hon yn ein hatgoffa o’r esiamplau gwych a osododd Jefftha a Hanna i ni, wrth inni geisio cadw at ein gair i Dduw.
WYTHNOS 5-11 MEHEFIN, 2017
9 Beth Fydd yn Mynd Pan Fydd y Deyrnas yn Dod?
Yn aml rydyn ni’n meddwl am yr hyn y bydd Jehofa yn ei roi inni ym Mharadwys, ond, yn yr erthygl hon, byddwn ni’n canolbwyntio ar yr hyn y bydd ef yn cael gwared ohono. Beth bydd Jehofa yn cael gwared ohono er mwyn creu byd heddychlon a hapus? Bydd ystyried yr ateb yn cryfhau ein ffydd ac yn ein helpu i ddyfalbarhau.
14 Hanes Bywyd—Yn Benderfynol o Fod yn Filwr Da i Iesu
WYTHNOS 12-18 MEHEFIN, 2017
18 Mae “Barnwr y Byd” Bob Amser yn Gwneud Beth Sy’n Iawn
WYTHNOS 19-25 MEHEFIN, 2017
23 Wyt Ti’n Cytuno â Jehofa Ynglŷn â Chyfiawnder?
Pan ydyn ni’n meddwl ein bod ni wedi dioddef neu wedi gweld anghyfiawnder, gall hynny roi prawf ar ein ffydd, ein gostyngeiddrwydd, a’n ffyddlondeb. Bydd yr erthyglau hyn yn trafod tair esiampl Feiblaidd a fydd yn ein helpu i weld cyfiawnder yn yr un ffordd ag y mae Jehofa.
WYTHNOS 26 MEHEFIN, 2017–2 GORFFENNAF, 2017
28 Gwirfoddola’n Frwd er Mwyn Moli Jehofa!
Mae Jehofa yn gyflawn; ond, mae’n hapus i weld ein bod ni’n awyddus i gefnogi ei sofraniaeth. Mae Barnwyr penodau 4 a 5 yn dangos bod Jehofa yn gwerthfawrogi ein parodrwydd i weithio’n galed a dilyn ei gyfarwyddyd.