Ydych Chi’n Dysgu Popeth a Allwch gan Jehofah?
1. Sut mae Jehofah yn teimlo ynglŷn ag addysg?
1 Mae Jehofah eisiau inni gael addysg. (Job 36:22) Dechreuodd ddysgu ar ôl iddo greu ei Fab cyntafanedig. (Ioan 8:28) Hyd yn oed ar ôl i Adda wrthryfela, fe wnaeth Jehofah barhau i ddysgu a hyfforddi pobl amherffaith.—Esei. 48:17, 18; 2 Tim. 3:14, 15.
2. Pa raglen addysg sy’n mynd ymlaen heddiw?
2 Heddiw, mae Jehofah yn arwain y rhaglen addysg fwyaf erioed. Fel y proffwydodd Eseia, mae miliynau o bobl trwy’r byd yn dylifo i ‘fynydd tŷ’r ARGLWYDD.’ (Esei. 2:2) Pam rydyn ni’n mynd yno? I gael ein dysgu a’n hyfforddi am ffyrdd Jehofah! (Esei. 2:3) Yn ystod y flwyddyn wasanaeth 2010, treuliodd Tystion Jehofah dros 1.6 biliwn o oriau yn tystiolaethu a dysgu pobl am wirionedd y Beibl. Ar ben hynny, mae addysg ysbrydol ar gael bob wythnos mewn mwy na 105,000 o gynulleidfaoedd trwy’r byd, ac mae’r gwas ffyddlon a chall yn cyhoeddi deunydd addysgol Cristnogol mewn mwy na 500 o ieithoedd.
3. Sut rydych chi wedi manteisio yn bersonol ar yr addysg y mae Jehofah yn ei rhoi?
3 Manteisio i’r Eithaf: Rydyn ni wedi manteisio’n enfawr ar addysg ddwyfol. Rydyn ni wedi dysgu bod gan Dduw enw, a bod ganddo ddiddordeb ynon ni. (Salm 83:18; 1 Ped. 5:6, 7) Rydyn ni wedi dysgu’r ateb i rai o gwestiynau mawr fywyd: Pam mae pobl yn dioddef a marw? Sut gallwn ni fod yn hapus? Beth ydy pwrpas bywyd? Mae Jehofah hefyd wedi rhoi inni ganllawiau moesol er mwyn inni ‘lwyddo yn ein ffyrdd.’—Jos. 1:8.
4. Pa gyfleoedd am addysg sydd ar gael i weision Duw, a pham dylen ni ddysgu popeth a allwn ni gan Jehofah?
4 Mae Jehofah hefyd yn darparu addysg arbenigol i helpu llawer o’i weision i ehangu eu gwasanaeth iddo. Ceir rhestr o’r cyfleoedd sydd ar gael i rai ar dudalennau 4-6. Hyd yn oed os nad yw ein hamgylchiadau yn caniatáu inni dderbyn yr hyfforddiant ar y rhestr honno, a ydyn ni’n manteisio i’r eithaf ar yr addysg ddwyfol sydd ar gael inni? Bydd athrawon ac eraill yn cynghori pobl ifanc i ddilyn addysg uwch y byd. Ydyn ni’n eu hannog nhw i osod amcanion ysbrydol ac i fanteisio ar yr addysg uchaf oll—addysg ddwyfol? Bydd dysgu popeth a allwn ni gan Jehofah yn dod â hapusrwydd nawr a bywyd tragwyddol yn y dyfodol.—Salm 119:105; Ioan 17:3.
Rhai Cyfleoedd am Addysg Sydd ar Gael Drwy Gyfundrefn Jehofah
Gwersi Llythrennedd
• Pwrpas: Dysgu pobl sut i ddarllen ac i ysgrifennu fel eu bod nhw’n gallu astudio’r Beibl a dysgu eraill am y gwirionedd.
• Hyd: Yn ôl yr angen.
• Lleoliad: Neuadd y Deyrnas.
• Pwy Sy’n Cael Mynychu: Cyhoeddwyr a phobl sydd â diddordeb yn y gwirionedd.
• Sut i Wneud Cais: Mae henuriaid y gynulleidfa yn trefnu gwersi llythrennedd yn ôl yr angen lleol, ac yn annog pawb a all gael budd o’r gwersi i fynychu.
Ysgol y Weinidogaeth
• Pwrpas: I hyfforddi cyhoeddwyr i bregethu ac i ddysgu’r newyddion da i eraill mewn modd effeithiol.
• Hyd: Parhaol.
• Lleoliad: Neuadd y Deyrnas.
• Pwy Sy’n Cael Cofrestru: Cyhoeddwyr. Hefyd, eraill sy’n dod i’r cyfarfodydd, ac sy’n cytuno â dysgeidiaeth y Beibl, ac sy’n byw yn unol â safonau Cristnogol.
• Sut i Gofrestru: Siaradwch ag arolygwr Ysgol y Weinidogaeth.
Gwersi Iaith
• Pwrpas: Dysgu cyhoeddwyr i bregethu’r newyddion da mewn iaith arall.
• Hyd: Pedwar neu bum mis. Cynhelir y gwersi, fel arfer, ar fore dydd Sadwrn am awr neu ddwy.
• Lleoliad: Fel arfer, Neuadd y Deyrnas gyfleus.
• Pwy Sy’n Cael Cofrestru: Cyhoeddwyr ag iddyn nhw enw da sy’n dymuno pregethu mewn iaith arall.
• Sut i Wneud Cais: Trefnir dosbarthiadau gan swyddfa’r gangen yn ôl yr angen.
Prosiectau Adeiladu Neuaddau’r Deyrnas
• Pwrpas: Adeiladu ac adnewyddu Neuaddau’r Deyrnas. Nid ysgol yw’r trefniant hwn, ond mae’n rhoi’r cyfle i wirfoddolwyr ddysgu gwahanol sgiliau er mwyn helpu ar brosiectau adeiladu.
• Hyd: Dibynnu ar amgylchiadau’r gwirfoddolwr.
• Lleoliad: Unrhyw le o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Adeiladu Rhanbarthol. Efallai bydd rhai yn cael gwahoddiad i deithio ymhell i wneud gwaith cymorth mewn ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan drychinebau.
• Gofynion: Rhaid i frodyr a chwiorydd fod wedi eu bedyddio a chael eu cymeradwyo gan gorff yr henuriaid. Mae’n agored i rai gyda sgiliau a rhai heb sgiliau.
• Sut i Wneud Cais: Llenwi Kingdom Hall Volunteer Questionnaire (S-82) sydd ar gael gan yr henuriaid lleol.
Ysgol Arloesi
• Pwrpas: Helpu arloeswyr i ‘gyflawni holl ofynion eu gweinidogaeth.’—2 Tim. 4:5.
• Hyd: Pythefnos.
• Lleoliad: Penderfynir gan swyddfa’r gangen; fel arfer mewn Neuadd y Deyrnas gyfagos.
• Gofynion: Arloesi’n barhaol am o leiaf flwyddyn.
• Sut i Gofrestru: Caiff arloeswyr eu cofrestru yn awtomatig ac yn cael gwybod gan arolygwr y gylchdaith.
Ysgol ar Gyfer Aelodau Newydd Bethel
• Pwrpas: Cynhelir yr ysgol hon er mwyn helpu aelodau newydd ym Methel i lwyddo yn eu gwasanaeth yno.
• Hyd: Awr yr wythnos am 16 o wythnosau.
• Lleoliad: Bethel.
• Gofynion: Rhaid bod yn aelod parhaol o deulu Bethel neu’n wirfoddolwr dros dro am flwyddyn neu fwy.
• Sut i Gofrestru: Mae aelodau teuluoedd Bethel yn cael eu cofrestru yn awtomatig.
Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas
• Pwrpas: I hyfforddi henuriaid a gweision gweinidogaethol i ofalu am eu cyfrifoldebau yn y gynulleidfa ac yn y gyfundrefn ehangach. (Act. 20:28) Trefnir yr ysgol hon gan y Corff Llywodraethol bob ychydig o flynyddoedd.
• Hyd: Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cynhaliwyd ysgolion undydd a hanner ar gyfer henuriaid ac ysgolion undydd ar gyfer gweision gweinidogaethol.
• Lleoliad: Fel arfer mewn Neuadd y Deyrnas neu Neuadd Cynulliad gyfagos.
• Gofynion: Rhaid bod yn henuriad neu’n was gweinidogaethol.
• Sut i Gofrestru: Trwy wahoddiad oddi wrth arolygwr y gylchdaith.
Ysgol ar Gyfer Henuriaida
• Pwrpas: Hyfforddi henuriaid i ofalu am eu cyfrifoldebau yn y gynulleidfa.
• Hyd: Pum diwrnod.
• Lleoliad: Penderfynir gan swyddfa’r gangen; cynhelir fel arfer mewn Neuadd y Deyrnas neu Neuadd Cynulliad gyfagos.
• Gofynion: Rhaid bod yn henuriad.
• Sut i Gofrestru: Trwy wahoddiad oddi wrth swyddfa’r gangen.
Ysgol ar Gyfer Arolygwyr Teithiol a’u Gwrageddb
• Pwrpas: I hyfforddi arolygwyr cylch ac arolygwyr rhanbarth i fod yn fwy effeithiol wrth wasanaethu cynulleidfaoedd, i ‘lafurio ym myd pregethu a hyfforddi,’ ac i fugeilio praidd Duw.—1 Tim. 5:17; 1 Ped. 5:2, 3.
• Hyd: Deufis.
• Lleoliad: Penderfynir gan swyddfa’r gangen.
• Gofynion: Rhaid bod yn arolygwr cylch neu’n arolygwr rhanbarth.
• Sut i Gofrestru: Mae arolygwyr teithiol a’u gwragedd yn cael eu gwahodd gan swyddfa’r gangen.
Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Brodyr Senglc
• Pwrpas: I baratoi henuriaid a gweision gweinidogaethol sengl ar gyfer cyfrifoldebau ychwanegol. Bydd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn cael eu hanfon i leoedd yn eu gwledydd eu hunain lle mae angen cymorth. Mae’n bosibl y bydd brodyr sydd ar gael i weithio dramor yn cael eu hanfon i wledydd eraill.
• Hyd: Deufis.
• Lleoliad: Penderfynir gan swyddfa’r gangen; cynhelir fel arfer mewn Neuadd y Deyrnas neu Neuadd Cynulliad.
• Gofynion: Brodyr sengl rhwng 23 a 62 oed sydd ag iechyd da ac sydd eisiau gweithio er lles y brodyr a’r Deyrnas le bynnag bo’r angen. (Marc 10:29, 30) Rhaid eu bod nhw’n ddynion penodedig ers o leiaf ddwy flynedd.
• Sut i Wneud Cais: Os cynhelir yr ysgol hon o fewn tiriogaeth eich cangen, fe drefnir cyfarfod yng nghynulliad y gylchdaith ar gyfer y rhai sy’n ystyried cofrestru. Ceir mwy o wybodaeth yn y cyfarfod hwnnw.
Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Cristnogion Priodd
• Pwrpas: I roi hyfforddiant arbenigol i barau priod er mwyn iddyn nhw ehangu eu gwasanaeth i Jehofah a’i gyfundrefn. Bydd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn cael eu hanfon i leoedd yn eu gwledydd eu hunain lle mae angen cymorth. Mae’n bosibl y bydd y rhai sydd ar gael i weithio dramor yn cael eu hanfon i wledydd eraill.
• Hyd: Deufis.
• Lleoliad: Mae’r dosbarthiadau cyntaf yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Addysg y Watchtower yn Patterson, Efrog Newydd, U.D.A. Yn y dyfodol, bydd swyddfeydd cangen yn penderfynu lle dylid cynnal ysgolion, naill ai mewn Neuaddau’r Deyrnas neu Neuaddau Cynulliad.
• Gofynion: Parau priod rhwng 25 a 50 oed sydd ag iechyd da, sy’n gallu gwasanaethu le bynnag bo’r angen, ac sydd â’r agwedd: “Dyma fi, anfon fi.” (Esei. 6:8) Rhaid bod yn briod ers o leiaf ddwy flynedd ac mewn gwasanaeth llawn amser am ddwy flynedd heb doriad.
• Sut i Wneud Cais: Os cynhelir yr ysgol hon o fewn tiriogaeth eich cangen, fe drefnir cyfarfod yn y dydd cynulliad arbennig ar gyfer y rhai sy’n ystyried cofrestru. Ceir mwy o wybodaeth yn y cyfarfod hwnnw.
Ysgol Gilead
• Pwrpas: I hyfforddi arloeswyr ac eraill sydd mewn gwasanaeth llawn amser i fod yn genhadon.
• Hyd: Pum mis.
• Lleoliad: Canolfan Addysg Watchtower, Patterson, Efrog Newydd, U.D.A.
• Gofynion: Parau priod sydd wedi eu bedyddio am o leiaf dair blynedd ac sydd rhwng 21 a 38 oed wrth roi cais i mewn am y tro cyntaf. Dylai ymgeiswyr fedru siarad Saesneg. Rhaid bod yn briod ers o leiaf ddwy flynedd ac mewn gwasanaeth llawn amser am ddwy flynedd heb doriad. Rhaid meddu ar iechyd da. Eraill a all wneud cais yw arloeswyr sydd eisoes yn gwasanaethu mewn gwlad dramor (gan gynnwys y rhai sydd â statws fel cenhadon); arolygwyr teithiol; aelodau teuluoedd Bethel; a chyn-fyfyrwyr Ysgol Hyfforddi Gweinidogaethol, Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Brodyr Sengl, ac Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Cristnogion Priod, os ydyn nhw’n cwrdd â’r gofynion.
• Sut i Wneud Cais: Mewn rhai canghennau cynhelir cyfarfod yn ystod y gynhadledd rhanbarth ar gyfer y rhai sydd â diddordeb. Ceir mwy o wybodaeth yn y cyfarfod hwnnw. Os hoffech chi wneud cais ond nad oes cyfarfod o’r fath yn y cynadleddau yn eich gwlad chi, gallwch ysgrifennu at eich swyddfa gangen am wybodaeth bellach.
Ysgol ar Gyfer Aelodau Pwyllgorau Cangen a’u Gwragedd
• Pwrpas: Hyfforddi aelodau Pwyllgorau Cangen i oruchwylio cartrefi Bethel, i ofalu am faterion sy’n effeithio ar wasanaeth y cynulleidfaoedd, i oruchwylio’r cylchdeithiau a’r rhanbarthau o dan eu gofal, ynghyd â’r gwaith i gyfieithu, argraffu a chludo llenyddiaeth, a goruchwylio gwahanol adrannau.—Luc 12:48b.
• Hyd: Deufis.
• Lleoliad: Canolfan Addysg Watchtower, Patterson, Efrog Newydd, U.D.A.
• Gofynion: Aelodau neu ddarpar aelodau o Bwyllgorau Cangen neu Bwyllgorau Gwlad.
• Sut i Gofrestru: Gwahoddir brodyr a’u gwragedd gan y Corff Llywodraethol.
[Troednodiadau]
a Ar hyn o bryd nid yw’r ysgol hon ar gael ym mhob gwlad.
b Ar hyn o bryd nid yw’r ysgol hon ar gael ym mhob gwlad.
c Ar hyn o bryd nid yw’r ysgol hon ar gael ym mhob gwlad.
d Ar hyn o bryd nid yw’r ysgol hon ar gael ym mhob gwlad.