LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 11/11 t. 3
  • Rhinwedd Bwysicaf Athro Da

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Rhinwedd Bwysicaf Athro Da
  • Ein Gweinidogaeth—2011
  • Erthyglau Tebyg
  • Cariad—Rhinwedd Werthfawr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Paid â Gadael i Dy Gariad Oeri
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
Ein Gweinidogaeth—2011
km 11/11 t. 3

Rhinwedd Bwysicaf Athro Da

1. Beth yw rhinwedd bwysicaf athro da?

1 Beth sy’n gwneud athro Beiblaidd da? Addysg? Profiad? Gallu cynhenid? Nage. Y rhinwedd bwysicaf yw’r un fwyaf cryf a’r un fwyaf deniadol o brif briodoleddau Jehofah. Mae’r rhinwedd hon yn dangos pwy yw gwir ddisgyblion Iesu ac mae’n crynhoi’r Gyfraith i gyd mewn un gair. (Ioan 13:35; Gal. 5:14; 1 Ioan 4:8) Beth yw’r rhinwedd hon? Cariad! Mae athrawon da yn dangos cariad.

2. Pam mae’n hollbwysig inni ddangos cariad tuag at bobl?

2 Cariad Tuag at Bobl: Roedd yr Athro Da, Iesu, yn dangos cariad ac roedd hyn yn denu pobl i wrando arno. (Luc 5:12, 13; Ioan 13:1; 15:13) Os ydyn ni’n caru pobl, byddwn ni’n bachu ar bob cyfle i dystiolaethu. Fyddwn ni ddim yn gadael i erledigaeth a difaterwch ein digalonni. Wrth bregethu, byddwn ni’n dangos gwir ddiddordeb mewn pobl eraill, ac yn addasu ein dulliau i gwrdd â’u hanghenion. Byddwn ni’n paratoi’n ofalus o flaen llaw ac yn rhoi digon o amser i bob un sy’n astudio’r Beibl.

3. Sut mae caru gwirionedd y Beibl yn ein helpu ni yn y weinidogaeth?

3 Cariad Tuag at Wirionedd y Beibl: Roedd Iesu’n caru gwirionedd y Beibl ac yn ei drysori. (Math. 13:52) Os ydyn ni’n caru’r gwirionedd, byddwn ni’n frwdfrydig, a gall hyn ysbrydoli’r rhai sy’n gwrando arnon ni. Bydd cariad o’r fath yn ein helpu ni i ganolbwyntio ar yr wybodaeth werthfawr sydd gennym yn hytrach na phoeni am ein diffygion, ac mae’n debyg na fyddwn ni mor nerfus yn y weinidogaeth.

4. Sut gallwn ni feithrin cariad?

4 Meithrin Cariad: Sut gallwn ni feithrin cariad tuag at bobl eraill? Trwy feddwl am gariad Jehofah a’i Fab tuag aton ni ac am gyflwr ysbrydol gwael y bobl yn ein tiriogaeth. (Marc 6:34; 1 Ioan 4:10, 11) Bydd astudio a myfyrio yn rheolaidd yn cryfhau ein cariad at wirionedd y Beibl. Ffrwyth yr ysbryd yw cariad. (Gal. 5:22) Felly gallwn ni erfyn ar Jehofah am ei ysbryd glân a gofyn iddo ein helpu ni i ddangos cariad. (Luc 11:13; 1 Ioan 5:14) Does dim ots beth yw ein cefndir o ran addysg, profiad yn y gwirionedd, neu allu cynhenid, rydyn ni’n gallu bod yn athrawon effeithiol os ydyn ni’n dangos cariad.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu