Ar Ddyletswydd Bob Amser
1. Sut rydyn ni’n gwybod bod efengylwyr y ganrif gyntaf yn teimlo eu bod nhw ar ddyletswydd drwy’r amser?
1 Doedd efengylwyr selog y ganrif gyntaf byth “yn peidio â dysgu a chyhoeddi’r newydd da” ym mha le bynnag yr oedd pobl i’w cael. (Act. 5:42) Felly, ni allwn ddychmygu y bydden nhw, wrth fynd o dŷ i dŷ, yn cerdded heibio pobl ar y stryd heb bregethu iddyn nhw. Ni fydden nhw chwaith wedi gwrthod y cyfle i dystiolaethu’n anffurfiol wrth siopa yn y farchnad ar ôl bod ar y weinidogaeth. Fel Iesu, roedden nhw ar ddyletswydd drwy’r amser.—Marc 6:31-34.
2. Beth mae cael ein galw’n Dystion Jehofah yn ei olygu?
2 Bob Amser yn Barod: Dydy’r enw Tystion Jehofah ddim yn unig yn disgrifio beth rydyn ni yn ei wneud; ond pwy ydyn ni. (Esei. 43:10-12) Felly, rydyn ni bob amser yn barod i esbonio ein ffydd, hyd yn oed pan nad ydyn ni’n mynd o dŷ i dŷ. (1 Ped. 3:15) A ydych chi’n meddwl o flaen llaw am sut y gallech dystiolaethu’n anffurfiol mewn gwahanol sefyllfaoedd? A ydych chi’n cadw cyhoeddiadau gyda chi i’w cynnig i’r rhai sy’n dangos diddordeb? (Diar. 21:5) A ydych chi’n pregethu o ddrws i ddrws yn unig, neu, os bydd amgylchiadau’n caniatáu, a ydych chi hefyd yn pregethu am y newyddion da i bobl mewn sefyllfaoedd gwahanol?
3. Pam mae “Tystiolaethu Cyhoeddus” yn derm addas i ddisgrifio pregethu ar y stryd, mewn meysydd parcio, mannau busnes, parciau, ac yn y blaen?
3 Tystiolaethu “Cyhoeddus”: Pa derm y gallwn ni ei ddefnyddio i ddisgrifio’r pregethu rydyn ni’n ei wneud ar y stryd, mewn meysydd parcio, mannau busnes, parciau, ac yn y blaen? Dywedodd yr apostol Paul ei fod yn pregethu “yn gyhoeddus” ac o dŷ i dŷ. (Act. 20:20) Felly, byddai tystiolaethu ‘cyhoeddus’ yn derm priodol ar gyfer y math hwn o bregethu. Wrth gwrs, pregethu o dŷ i dŷ yw’r brif ffordd o gyrraedd pobl gyda neges y Deyrnas, a’r ffordd fwyaf effeithiol hefyd. Er hynny, canolbwyntio ar bobl a wnaeth efengylwyr y ganrif gyntaf ac nid ar dai. Roedden nhw’n dal ar bob cyfle i siarad am y gwirionedd—yn gyhoeddus, yn anffurfiol, ac o dŷ i dŷ. Gadewch inni ddilyn eu hesiampl er mwyn cyflawni holl ofynion ein gweinidogaeth.—2 Tim. 4:5.