Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth
Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu trafod yn Ysgol y Weinidogaeth yn ystod yr wythnos yn cychwyn Rhagfyr 26, 2011.
1. Os ydyn ni wedi pechu yn erbyn rhywun, sut gall y cyngor yn Diarhebion 30:32 ein helpu ni i beidio â’i gythruddo ymhellach? [w87-E 5/15 t. 30 par. 11]
2. Pa fath o ‘bleser’ sy’n gadael rhywun heb ei fodloni? (Preg. 2:1) [g-E 4/06 t. 6 par. 1-2]
3. Er bod rhai pobl yn meddwl bod geiriau Solomon yn Pregethwr 3:1-9 yn cefnogi credu mewn ffawd, sut mae Pregethwr 9:11 yn dangos yn glir nad yw popeth yn ein bywydau wedi cael ei drefnu gan ffawd? [w09-E 3/1 t. 4 par. 4]
4. Pam mae bod yn “rhy gyfiawn” yn beryglus? (Preg. 7:16) [w10-E 10/15 t. 9 par. 8-9]
5. Sut mae Caniad Solomon 2:7 yn dangos pwysigrwydd peidio â rhuthro wrth ddewis gŵr neu wraig? [w06-E 11/15 t. 19 par. 1; w80-E 4/15 t. 19 par. 7]
6. Beth sy’n arwyddocaol am wefusau’r Sulames yn “diferu diliau mêl,” a bod ‘mêl a llaeth dan ei thafod?’ (Can. 4:11) [w06-E 11/15 t. 19 par. 6]
7. Sut mae’r teitlau “Cynghorwr rhyfeddol,” “Duw cadarn,” a “Tad bythol” yn adlewyrchu priodoleddau Iesu a’r ffordd y bydd yn teyrnasu yn y byd newydd? (Esei. 9:6) [w91-E 4/15 t. 5 par. 7]
8. Pwy heddiw sy’n debyg i ‘genedl annuwiol’ Israel, a phwy fydd fel “gwialen” yn llaw Jehofah i ddinistrio’r genedl honno? (Esei. 10:5, 6) [ip-1-E t. 145 par. 4-5; t. 153 par. 20]
9. Mae Eseia’n proffwydo na fydd neb yn preswylio ym Mabilon byth eto. Pam mae’r broffwydoliaeth hon mor ryfeddol, a pham mae cywirdeb y broffwydoliaeth yn cryfhau ein ffydd? (Esei. 13:19, 20) [g-E 11/07 t. 9 par. 4-5]
10. Pryd derbyniodd Iesu “allwedd tŷ Dafydd,” a sut mae Iesu wedi bod yn defnyddio’r allwedd honno? (Esei. 22:22) [w09-E 1/15 t. 31 par. 2]