A Fyddech Chi’n Gweld y Fersiwn Syml yn Ddefnyddiol?
Mae’r rhifyn astudio o’r Watchtower ar gael bellach mewn fersiwn Saesneg syml. Mae’r fersiwn hwn ar gyfer (1) siaradwyr Saesneg y byddai iaith symlach yn help iddyn nhw, efallai oherwydd diffyg addysg; (2) cyhoeddwyr sy’n siarad Saesneg fel ail iaith; (3) pobl ifanc, gan gynnwys plant ysgol; a (4) myfyrwyr y Beibl sydd angen iaith fwy syml a chlir er mwyn deall pethau ysbrydol.
Mae’r penawdau, cwestiynau, a rhifau’r paragraffau yn cyfateb i’r rhifyn safonol. Mae’r deunydd yn union yr un fath, ond mae’r geiriau’n symlach. Oni bai bod y rhan fwyaf yn y gynulleidfa’n defnyddio’r fersiwn syml, bydd arweinydd a darllenwr Astudiaeth y Watchtower yn defnyddio’r rhifyn safonol. Bydd y rhai sy’n defnyddio’r fersiwn syml yn gweld yr un adnodau a’r un lluniau a byddan nhw’n gallu dilyn y darllen a rhoi sylwadau.
Os hoffech chi ddefnyddio’r rhifyn syml, gofynnwch i was y cylchgronau archebu un bob mis i chi.