Cyhoeddiadau
◼ Y cynnig ar gyfer mis Chwefror: Is There a Creator Who Cares About You? Mawrth: Beth Mae’r Beibl yn Ei Wir Ddysgu? Ebrill a Mai: Y Watchtower a’r Awake!
◼ Bydd yr anerchiad arbennig yn cael ei draddodi ar y penwythnos sy’n dilyn y Goffadwriaeth, a’r teitl yw “A Ydy Hi’n Hwyrach Nag yr Ydych Chi yn ei Feddwl?”
◼ Os ydych chi’n bwriadu teithio i wlad sydd heb ei rhestru yn yr adroddiad gwasanaeth blynyddol, neu sydd heb ei rhestru ar dudalen olaf yr Yearbook diweddaraf, cysylltwch â swyddfa’r gangen i gael arweiniad arbennig. Efallai fod cyfyngiadau ar y gwaith pregethu yn y wlad honno. (Math. 10:16) Mewn rhai gwledydd, gwell fyddai peidio â chysylltu â’r brodyr lleol. Efallai y byddwch yn derbyn arweiniad pellach ynglŷn â thystiolaethu’n anffurfiol neu ynglŷn â chario llenyddiaeth. Bydd cyd-weithredu â’r cyngor hwn yn arbed problemau diangen ichi a’r rhai sy’n gwneud ewyllys Jehofah yn y wlad honno.—1 Cor. 14:33, 40.